12.12.2019

Tomos Hughes Cyswllt Contact Ffôn Phone 01286 674622

Erthygl i’r Wasg Press Release Nadolig ar : Digon o chwerthin ac ambell i ddeigryn

Bydd digon o chwerthin ac ambell i ddeigryn i’w gael wrth wylio S4C dros y Nadolig eleni.

Bydd Shane Williams, Maggi Noggi a Trystan ac Emma ymysg sawl wyneb cyfarwydd fydd i’w weld dros yr Ŵyl gan gynnig gwledd amrywiol o raglenni Nadoligaidd i’r teulu cyfan.

Ar nos Fercher 18 Rhagfyr, bydd amserlen y Nadolig yn cychwyn gyda cyfle i fwynhau comedi gan oreuon y sîn stand yp Gymraeg heb adael y soffa y gaeaf yma, wrth i’r gyfres Stand Yp (9.30) ddychwelyd i S4C dros gyfnod y Nadolig. Tudur Owen, un o ddigrifwyr mwya’ adnabyddus Cymru fydd y cyntaf i'r llwyfan, gyda’i sioe, Parablu.

Wythnos yn ddiweddarach (am 10.00) bydd rhaglen gomedi stand yp arbennig ar noson y Nadolig yng nghwmni un o ddigrifwyr mwyaf profiadol a llwyddiannus Prydain, Elis James. Cafodd y sioe, Haleliw, ei ffilmio yn y Lyric, Caerfyrddin, tref enedigol Elis.

Yn olaf, bydd gwledd o ddeg digrifwr yn ffurfio Gala’r Goreuon (10.00) gan gynnwys Dan Thomas, Beth Jones, Esyllt Sears, Daniel Griffith, Steffan Evans, Priya Hall, Eleri Morgan, a mwy. Cafodd y Gala ei ffilmio nôl ym mis Hydref o flaen cynulleidfa lawn yn Theatr Fach, Dolgellau.

Mae bwyd yn rhan annatod o’r Ŵyl ac ar Nos Iau 19 Rhagfyr (9.30), cawn wledd arbennig o helgig tymhorol, lleol, mewn pennod Nadoligaidd o Bwyd Epic Chris. Ar y fwydlen yn y bennod hon bydd cig carw blasus, hwyaid wedi ei rhostio ac empanadas wiwer.

Yna ar nos Sadwrn 21 Rhagfyr, Ifan Pritchard o'r grŵp Gwilym sy’n dathlu'r Nadolig ar lwyfan y Noson Lawen yng nghwmni talentau ifanc gorau Cymru. Ar Noson Lawen: Nadolig yr Ifanc (8.00) bydd cyfle i rai o gantorion a cherddorion mwyaf addawol y genedl i serennu, gan gynnwys Elan Catrin Parry, Manw Lili Robin, Lewys, Côr Ysgol Gerdd Ceredigion, Parti Bechgyn Iau Ysgol Plasmawr, Owain Siôn, Jada a Casey Lane, Mared Jeffery a Leusa, Rhyddid a Brython Trystan.

Ar yr un noson, byddwn yn eich gwahodd i ymuno â ni ym Mharti ‘Dolig Maggi Noggi (9.00). Os oes rhywun yn siŵr o ddod â thipyn o glits a glam i’r Ŵyl, y foneddiges liwgar a doniol Maggi Noggi yw honno! Gyda’i hiwmor di-flewyn-ar-dafod, bydd rhai o’i ffrindiau a llond dwrn o sêr adnabyddus Cymru yn ymuno â Maggi mewn parti mawr yn ei ffermdy ar Sir Fôn. Ymysg ei gwesteion bydd y gantores Elin Fflur, y cyflwynwyr Alun Williams ac Ifan Jones Evans a’r Prifardd Gruffydd Owen. Bydd criw o Ferched y Wawr y Fali, a Chlwb Rygbi Llangefni hefyd yn ymuno yn yr hwyl.

Does yr un Nadolig yn gyflawn heb berfformiad o ddrama’r geni, a bydd fersiwn go wahanol i’w gweld yn y rhaglen, gyda help llaw y cantorion Steffan Lloyd Owen, Catrin Angharad Jones, Hogia Bodwrog a’r Dwbi Dŵs!

Ar nos Sul 22 Rhagfyr, bydd cyfle i hel atgofion melys o ‘Ddolig eich plentyndod gyda’r rhaglen Cofio Dolig Teulu Ni (8.00). Cawn daith drwy amser i weld sut byddai dau deulu wedi dathlu’r Ŵyl mewn dau gyfnod gwahanol. O'r anrhegion i'r addurniadau - o'r sgrin deledu i'r bwyd, dros y can mlynedd diwethaf, mae'r ffordd rydyn ni dathlu'r Nadolig yng Nghymru wedi ei drawsnewid yn llwyr. Dyma gyfle i deuluoedd ail-ymweld ag un diwrnod Dolig yn hanes eu teulu nhw. Yn y rhaglen hon, fydd dau deulu yn ail-greu Nadolig arbennig o'i hanes teuluol - un teulu yn mynd nôl i 1961 a'r llall i 1984.

Eleni, bydd cyngerdd mawreddog Carolau Llandudno (9.30) yn dathlu 25 mlynedd ers iddo gael ei sefydlu, ac unwaith eto, bydd camerâu S4C yn Venue Cymru i ddangos yr holl berfformiadau i’r gwylwyr gartref. Mae’r noson hon, sy’n llawn cân ac adloniant yn un o brif atyniadau’r sianel dros gyfnod y Nadolig, ac eleni bydd Carolau Llandudno yn cael ei ddangos ar nos Lun 23 Rhagfyr. Ymysg y perfformwyr eleni mae: Casi Wyn; Aled Hall; Erin Mai Grove, cynrychiolydd Cymru yng nghystadleuaeth Junior Eurovision eleni; Y Minis, grŵp mae Lloyd Macey wedi gymryd dan ei adain ers iddynt ymddangos yn y gyfres Chwilio am Seren Junior Eurovision; Côr Ieuenctid a Chôr Plant Môn; a Lili Mair, cantores ifanc sydd wedi serennu ar gyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar gyda’i pherfformiad o’r gân ‘Annwyl Santa Clôs’.

Mewn rhifyn arbennig Nadoligaidd o’r gyfres Adre (8.25), sy’n cael ei dangos ar nos Lun 23 Rhagfyr, Nia Parry sy’n cael y pleser o fusnesa yn nhai tri o bobl sy’n mynd dros ben llestri wrth addurno ar gyfer yr ŵyl. Yn wahanol i’r arfer, nid tai enwogion fydd yn cael sylw Nia, ond tri person sy’n dwlu ar y Nadolig. Bydd Nia yn ymweld â David Easton o Dremeirchion sydd gyda 60 coeden Nadolig yn ei dŷ. Yna, cawn weld tŷ yn Llangefni sydd wedi ei addurno gyda dros 1,000 o baubles, 7,000 o fylbiau a golygfa’r geni, sy’n cynnwys Mair, Joseff a’r tri gŵr doeth yn y sied. I orffen, bydd Nia yn cael ei gwahodd i gartref Tesni Walker ym Mhorthmadog. Bob blwyddyn, mae hi a’i phlant yn addurno’r tŷ gyda llwyth o oleuadau ac yn cynnal seremoni arbennig bob blwyddyn i droi’r goleuadau ymlaen er cof am ei thad.

Yng nghanol holl gyffro noswyl Nadolig bydd gystadleuaeth gerddorol gyfarwydd. Bydd y ciwt ffactor yn amlwg wrth i blant ysgolion cynradd ganu carolau gwreiddiol gan obeithio ennill teitl - Carol yr Ŵyl (9.00).

Hefyd, bydd cyfle i blant eistedd i lawr ac ymgolli mewn i fyd hudolus, gyda’r ffilm Nadolig Deian a Loli (6.05). Gydag un diwrnod ar ôl tan y diwrnod mawr, mae’r brawd a chwaer yn rhedeg o gwmpas fel pethau gwyllt gan achosi llanast llwyr! Ond mae 'na lygaid bach craff yn eu gwylio o'r grisiau - Celyn a Thelyn, coblynnod Sîon Corn! Rhaid mynd ar wib i Begwn y Gogledd i geisio atal y coblynnod rhag dweud y cyfan wrth Mr. Corn - dyma ffilm i’r teulu oll!

Hefyd ar Noswyl y Nadolig byddwn ni’n cael cwmni Emma Walford a Trystan Ellis-Morris ar gyfer rhifyn Nadoligaidd o’r gyfres boblogaidd Prosiect Pum Mil (8.00). Y tro yma, criw o Gaernarfon sydd yn gofyn am help i drawsnewid hen siop yn hwb cymunedol i oedolion gydag anawsterau dysgu gael lle i arddangos y crefftau maen nhw’n creu ac i gymdeithasu hefo pobl y dref. Ond, a fydd y siop yn barod erbyn y Nadolig? Ac a fydd Trystan ac Emma yn gallu cadw cost yr holl brosiect o dan bum mil o bunnoedd?

Ar y diwrnod mawr, byddwn ni’n croesawu un o ŵyr doethaf S4C i’r sgrin wrth i ni ddarlledu rhaglen Nadolig Cefn Gwlad (9.00). Ar ôl blynyddoedd o ddilyn corau meibion, mae Dai Llanilar eleni yn cael ei ddenu gan sŵn cynnes offerynnau pres Seindorf Arian Crwbin, band sy’n clymu’r cenedlaethau ac sy’n galon cymuned y pentref bach rhwng Llangyndeyrn a Bancffosfelen, ers ei sefydlu nôl ym 1891. Cawn ddilyn y cymeriadau wrth iddynt baratoi at eu Cyngerdd Nadolig blynyddol yn Neuadd y Gwendraeth, Drefach.

Bydd un o sêr disgleiriaf rygbi Cymru yn ôl i ddiddanu’r teulu cyfan ar noson Nadolig hefyd - ond nid drwy sgorio ceisiau. Ddwy flynedd yn ôl, fe dderbyniodd Shane Williams un o’i sialensau mwyaf, sef camu o’r cae i lwyfan y theatr a chymryd rhan mewn sioe panto. I brofi ei hun unwaith eto, mae’n camu i’r llwyfan am yr ail dro i gymryd rhan yn Shane a’r Bont Hud (6.30), panto sydd wedi ei sgwennu gan Tudur Owen. Yn ymuno â Shane mae cast o gymeriadau lliwgar gan gynnwys Tara Bethan, Scott Quinnell, Ieuan Rhys, Rhianna Loren, Rhys ap Wiliam ac ambell i syrpreis ychwanegol. Bydd sawl wyneb cyfarwydd o’r byd rygbi yn ymddangos ar y llwyfan yn ogystal, felly cadwch lygaid allan am ymddangosiadau cameo gan chwaraewyr Cymru, James Hook, Scott Williams, Gareth Davies, Wyn Jones a Dan Lydiate.

Ar noson San Steffan, a gyda’r tân yn dal i ruo, cewch fwynhau pennod gyntaf y gyfres boblogaidd Gwesty Aduniad (8.00). Mae pob unigolyn sy’n dod i’r gwesty hwn yng nghefn gwlad Cymru gydag un amcan penodol: i gyfarfod rhywun o’u gorffennol. Trwy’r dagrau a’r chwerthin, dilynwn bob aduniad gam wrth gam wrth i westeion Gwesty Aduniad wneud cysylltiadau o’r newydd, gofyn cwestiynau, a chael atebion. Mae Neil Pearson o’r Rhyl yn chwilio am wybodaeth am y fam roddodd o i’w fabwysiadu yn fabi. Fydd gan Gwesty Aduniad atebion iddo?

Ac wrth gwrs, bydd digon o chwaraeon i’w fwynhau drwy gydol cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, gyda gemau rygbi darbi Cymru yn y Guinness PRO14 ac Uwch Gynghrair Indigo Group ar Clwb Rygbi (2.45), tra bod criw Sgorio (5.00) yn darlledu gemau pêl droed byw o’r JD Cymru Premier.

Ymysg uchafbwyntiau'r cyfnod bydd y gêm rygbi fyw rhwng y Dreigiau a’r ar ddydd Sadwrn 21 Rhagfyr, Dreigiau v Gleision Caerdydd ar Ddiwrnod San Steffan, a’r gêm bêl droed rhwng Caernarfon a’r Bala yr un diwrnod. Yn ogystal â hynny, bydd rhaglenni arbennig yn edrych dros lwyddiannau helaeth timoedd Cymru yn y byd rygbi a phêl droed dros 2019, yn y rhaglenni Rygbi Cymru 2019 (8.00), ar nos Sul 29 Rhagfyr, a Cymru a’r Wal Goch (10.25), gaiff ei ddarlledu ar nos Wener 3 Ionawr.

Ac os nad ydych chi wedi gor-stwffio ar ddanteithion yr Ŵyl, cofiwch hefyd bod llond hosan o Focs Sets ar gael i’w wylio unrhyw bryd ar S4C Clic, ar unrhyw ddyfais. Ymysg yr uchafbwyntiau Nadoligaidd bydd cyfle i fwynhau’r clasur o ffilm Y Dyn Wnaeth Ddwyn y Dolig, rhifyn arbennig o Nadolig Hoffwn i o 1993, sy’n cynnwys Mici Plwm, a’r gyfres Hapus Dyrfa, yn ogystal a bocs sets o gyfresi mwy diweddar, gan gynnwys Pili Pala, Amdani, Gwaith/Cartref, Teulu, ac o Rhagfyr 22 ymlaen, yr ail gyfres o Craith.

Gan bawb o S4C – Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi.

12.12.2019

Tomos Hughes Cyswllt Contact Ffôn Phone 01286 674622

Erthygl i’r Wasg Press Release Christmas on S4C: Plenty of laughter and a tear or two

There will be plenty of laughter and a tug of the emotional heartstrings in store for S4C viewers this Christmas.

Shane Williams, Maggi Noggi, and Trystan and Emma will be among a host of familiar faces starring in the channel’s festive schedule, which features a feast of Christmas treats for the whole family.

On Wednesday 18 December, comedy lovers will be able to enjoy the best from the Welsh stand-up scene without leaving the sofa this winter, as the Stand Yp (9.30) series returns to S4C. Tudur Owen, one of 's best-known comedians, kicks off the series with his show, Parablu.

A week later, one of the country’s most experienced and popular comedians Elis James, will light up Christmas Day with a special screening of his stand-up show, Haleliw (10.00), which was filmed in the Lyric, in his home town of .

The final episode, which will be aired on New Year’s Day, sees 10 of Wales’s best comedians feature in Gala’r Goreuon (10.00), was filmed back in October in front of a packed audience at Theatr Fach, Dolgellau. Among the comedians on show in the gala are Dan Thomas, Beth Jones, Esyllt Sears, Daniel Griffith Steffan Evans, Eleri Morgan, and more.

Food is such an important part of Christmas and on Thursday 19 December (9.30), we’ll enjoy a feast of seasonal game meat in a special Christmas episode of Bwyd Epic Chris. On the menu, there will be whole venison, crispy mallards and squirrel empanadas.

On Saturday 21 December, Ifan Pritchard, the lead singer of the group Gwilym, celebrates Christmas on the Noson Lawen stage with some of Wales's best young talents. Noson Lawen: Nadolig yr Ifanc (8.00) will showcase some of the nation’s most talented singers and musicians, including Elan Catrin Parry, Manw Lili Robin, Lewys, Ysgol Gerdd Ceredigion Choir, Ysgol Plasmawr Boys Choir, Owain Siôn, Jada and Casey Lane, Mared Jeffery and Leusa, Rhyddid and Brython Trystan.

Later on the same evening, you are also cordially invited to attend the most sought-after Christmas bash of the year - Parti ‘Dolig Maggi Noggi (9.00). If someone’s guaranteed to add a touch of glitz and glam to the Christmas festivities, you can count on the larger than life, risque Maggi Noggi. In this special programme, Maggi is joined by some of her friends and a handful of celebs in the fun-filled party at her farmhouse in Anglesey. Among her guests are singer Elin Fflur, presenters Alun Williams and Ifan Jones Evans and poet Gruffydd Owen. She’ll

also be joined by members of Valley branch of Merched y Wawr and Llangefni Rugby Club players.

No Christmas is complete without a performance of the Nativity, and an alternative version will be performed during the show, featuring singers Steffan Lloyd Owen, Catrin Angharad Jones, Hogia Bodwrog and Y Dwbi Dŵs.

On Sunday, 22 December, there will be an opportunity to reminisce about Christmas past in the programme, Cofio Dolig Teulu Ni (8.00). Over the course of an hour, two families will travel back in time to see how the big day was celebrated during two different eras of our past. From the gifts to the decorations, and from the television screen to the food on the dinner table, over the last hundred years the way we celebrate Christmas in Wales has been completely transformed. This is an opportunity for families to re-visit one Christmas day in the history of their family. In this programme, two families re-create a Christmas Day from their family history - one family go back to 1961 and the other go back to 1984.

This year, the evergreen Carolau Llandudno (9.30) concert will be held for the 25th year, and yet again, the S4C cameras will be at Venue Cymru to bring all of the performances to the viewers at home. This night of festive music and entertainment is one of the true highlights of the channel’s Christmas Schedule and this year Carolau Llandudno will be shown on Monday night 23 December. Among the performers will be: Casi Wyn; Aled Hall; Erin Mai Grove, who represented Wales at this year’s Junior Eurovision competition; Y Minis, a group formed during the Chwilio am Seren Junior Eurovision series, who have been taken under the wing of Lloyd Macey; Môn Junior Choir and Môn Children’s Choir; and Lili Mair, a young singer who has made waves on social media with her beautiful rendition of the song ‘Annwyl Santa Clôs’.

On Monday 23 December, there will be a special edition of Adre (8.25), with a Christmas twist. Usually in the series, Nia Parry visits the homes of some well-known Welsh faces. But instead of celebs, in this Christmas special, Nia visits three people who have one thing in common – they absolutely love Christmas.

First of all, Nia visits David Easton in Tremeirchion, who has 60 Christmas trees in his house. Then, we’ll get to see a house in Llangefni which has been lovingly decorated with more than a thousand baubles, 7,000 bulbs and a Nativity scene, including Mary, Joseph and the three wise men, in the shed. Lastly, Nia is invited to the home of Tesni Walker, in Porthmadog. Every year, she and her children decorate the house with countless Christmas lights, and hold a ‘switching on ceremony’ in memory of her father.

On Christmas Eve, viewers can enjoy an unique festive-themed musical competition. The cute factor will be turned up to the maximum as primary school children sing their own original carols in the hope of clinching the title - Carol yr Ŵyl (9.00).

During the excitement of Christmas Eve, there will be a chance for children to sit down and lose themselves in a world full of magic and Christmas cheer, in the film Nadolig Deian a Loli (6.05). It's the day before the big day and Deian and Loli are running riot around the house. Little do they know that they're being watched by Celyn and Telyn, the elves! They must dash to the North Pole to stop the little elves from telling Father Christmas and ruining their Christmas. This certainly is a film for all the family.

Also on Christmas Eve, Emma Walford and Trystan Ellis-Morris will come together once again for a festive edition of the popular series, Prosiect Pum Mil (8.00). This time, the pair are helping to transform an old shop in Caernarfon into a community hub where adults with learning difficulties can gain work experience, socialise and sell products that they make in workshops. But will the shop open in time for Christmas? And can they keep within the five grand budget?

On Christmas Day, we will be welcoming one of S4C’s wisest men onto the screen for a Cefn Gwlad Christmas special (9.00). After featuring male voice choirs on the programme for many years, this time Dai Llanilar is drawn by the warm sound of the Crwbin Silver Band. A band that unites several generations and is the beating heart of the small village nestled between Llangyndeyrn and Bancffosfelen ever since it was established back in 1891. We’ll meet the characters as they prepare for their annual Christmas Concert at the Gwendraeth Hall, Drefach.

One of Welsh rugby’s brightest stars will be back to entertain the whole family on Christmas Day too – but not by scoring tries. Two years ago, Shane took on the challenge of stepping from the rugby pitch and onto the theatre stage, to take part in a pantomime show. To prove himself once again, he returns for a second time to star in the brand-new panto, Shane a’r Bont Hud (6.30) (Shane and the Magic Bridge), written by Tudur Owen.

The panto brings the old gang back together with Tara Bethan, Scott Quinnell, Ieuan Rhys, Rhianna Loren and Rhys ap William among an all-star cast. There will be the odd surprise guest appearance during the show, and a host of Shane’s fellow international rugby stars will also be taking to the stage, including James Hook, Scott Williams, Gareth Davies, Wyn Jones and Dan Lydiate.

With the fire still roaring on Boxing Day, the warm fuzzy feeling will continue with the first episode of feel-good series Gwesty Aduniad (8.00) (Reunion Hotel). In this hotel, one thing is certain: life’s about to change forever. Nestled in the heart of the Welsh countryside, the guests are here with only one thing in mind: to meet someone from their past. From adoptees desperate to find birth family after years apart, to friends who’ve lost touch, or those who want to say thank you, their reunion is often the end result of an emotional journey. Neil Pearson from Rhyl was adopted as a baby and now wants to know more about the birth mother he never knew. Will the Hotel have any answers?

And of course, there will be plenty of sport to enjoy over Christmas and New Year, with Welsh rugby derbies in the Guinness PRO14 and the Indigo Group Welsh Premiership on Clwb Rygbi (2.45), while the Sgorio (5.00) team show live football action from the JD Cymru Premier.

Among the highlights will be the live rugby match between Dragons and Scarlets on Saturday 21 December, Dragons v Cardiff Blues on Boxing Day, and on the same day, the football match between Gwynedd rivals Caernarfon Town and Bala Town. On top of that, you can enjoy two special programmes looking back at the major rugby and football success of 2019, with Rygbi Cymru 2019 (8.00), on Sunday 29 December, and Cymru a’r Wal Goch (10.25), which will be shown on Friday 3 January.

And if you haven’t overindulged on turkey and chocolate, remember that there are a whole host of Christmassy box sets available to watch On Demand, any time, on S4C Clic. Among the season’s highlights will be the classic film Y Dyn Wnaeth Ddwyn y Dolig, a special edition of

Nadolig Hoffwn i from 1993, starring Mici Plwm, and the series Hapus Dyrfa, as well as more recent box sets, including Pili Pala, Amdani, Gwaith/Cartref, Teulu, and from December 22, the second series of Craith.

A Merry Christmas and a Happy New Year from everyone at S4C.