BOPLICITY / CYNLLUN MARCIO MAES ASTUDIO D /

1.

Byddwch yn clywed dau ddarn o gerddoriaeth sy’n cael eu perfformio gan ensembles jazz. Efallai yr hoffech roi tic yn y blwch bob tro y byddwch yn clywed y darn.

Darn Darn Darn Darn 5 Darn Darn 1 1 2 2 munud 1 2

Atebwch gwestiynau (a-d) mewn perthynas â darn 1 yn unig. Mae cwestiwn (dd) yn cymharu darn 1 â darn 2.

Bydd pob darn yn cael ei chwarae 3 gwaith gyda saib o 30 eiliad rhyngddynt bob tro, saib o 5 munud ar ôl chwarae darn 2 am yr eilwaith a 7 munud o dawelwch ar ôl chwarae’r darnau am y tro olaf er mwyn i chi orffen eich ateb.

Mae gennych 30 eiliad nawr i ddarllen y cwestiynau. 20

BOPLICITY TN. 1 BOPLICITY / CYNLLUN MARCIO MAES ASTUDIO D / JAZZ

Yn gyntaf, byddwch yn clywed darn o ‘Boplicity’ a gafodd ei recordio gan a grŵp o gerddorion yn 1949.

Mae amlinelliad o adeiledd y darn i’w weld isod.

Pen Unawdau

rhan (yn seiliedig ar Rhan A Rhan A Rhan B Rhan A ffurf ‘AABA’)

a. Mae’r darn hwn yn cael ei berfformio gan ensemble sy’n cynnwys [ 3 ] MA 3 trwmped, sacsoffon alto, trombôn, piano, bas dwbl a set ddrymiau. Ticiwch √ y blychau isod i ddangos pa dri offeryn arall y gallwch eu clywed yn y darn.

Offeryn Ticiwch - √

Ffliwt

Obo

Clarinet Sacsoffon Bariton √ Corn Ffrengig √ Tiwba √

BOPLICITY TN. 2 BOPLICITY / CYNLLUN MARCIO MAES ASTUDIO D / JAZZ

b. Tanlinellwch yr enw sy’n cael ei roi i’r math hwn o ensemble o’r [ 1 ] MA 3 rhestr isod.

Chwechawd | Wythawd | Noned | Band mawr

c. Disgrifiwch wead rhan y ‘Pen’ yn y darn hwn a’r defnydd sy’n cael [ 3 ] MA 4 ei wneud o offerynnau. • offerynnau ‘llinell flaen’ yn chwarae’n homoffonig yn rhan ‘A’ • offerynnau ‘llinell flaen’ yn harmoneiddio, sacsoffon alto a’r trwmped yn chwarae’r alaw yn rhan A • mae gan ran ‘A’ ddynameg gymharol tawel ar gyfer yr offerynnau llinell flaen • Mae’r darnau canu glân a llithriadau yr un peth ymhlith yr offerynnau llinell flaen • Nid yw’r piano yn chwarae yn rhan y pen • Mae’r bas dwbl yn chwarae patrwm araf (crosietau), (bas yn cerdded), crosietau parhaus • Set ddrymiau yn cadw amser 4/4 ‘chwarae amser’ • Yn rhan ‘B’, mae’r gwead yn newid o effaith antiffonïaidd/effaith galw ac ateb rhwng yr offerynnau pres a chwyth

ch. Disgrifiwch y defnydd o rythm yn y darn. [ 2 ] MA4

• Llawer o drawsacennu • Tripledi • Rhythm swing

d. Nodwch gyweiredd cyffredinol y darn. [ 1 ] MA3

Mwyaf

BOPLICITY TN. 3 BOPLICITY / CYNLLUN MARCIO MAES ASTUDIO D / JAZZ

dd. Nesaf, byddwch yn clywed darn o ‘Dig’ a gafodd ei recordio [ 10 ] MA 4 gan Miles Davis a cherddorion eraill yn 1951. Cymharwch a gwrthgyferbynnwch nodweddion arddulliadol y darn hwn â nodweddion arddulliadol darn 1. Efallai yr hoffech drafod trefn deunydd cerddorol, y defnydd o offerynnau/adnoddau neu unrhyw nodweddion eraill o ddiddordeb sy’n ymwneud â’r arddull.

Mae amlinelliad o adeiledd y darn i’w weld isod.

Pen Unawdau

A B A C Defnyddio ffurf ABAC 8 o fariau 8 o fariau 8 o fariau 8 o fariau Unawd gyntaf (dwywaith)

Ail unawd (unwaith)

Trydedd unawd (darn yn graddoli)

BOPLICITY TN. 4 BOPLICITY / CYNLLUN MARCIO MAES ASTUDIO D / JAZZ

Bydd atebion yn cyflwyno unrhyw nodweddion cerddorol ac arddulliadol cywir a phriodol sy’n gysylltiedig â darn 2, gan gynnwys cyfeiriadau at unrhyw gymhariaeth bosibl â darn 1

Y ddau ddarn:

• Mae rhan y pen yn para am 32 o fariau • Cyweirnod mwyaf • Harmonïau diatonig yn bennaf • byrfyfyrio • y ddau yn ensembles bach (nid cerddorfa jazz/band mawr) • amsernod 4/4 • Trawsacennu • nodau’r felan • dylanwad be-bop • Mae’r ddau ddarn yn cynnwys piano, bas a drymiau yn yr adran rythm • Mae mwy nag un offeryn yn chwarae rhan y ‘pen’ yn y ddau ddarn

Gwahaniaethau yn Narn 2:

• Offeryniaeth wahanol: Trwmped, Sacsoffon Alto, Sacsoffon Tenor, Piano, bas a drymiau • Arddull nid jazz cŵl • Ensemble llai Chwechawd nid noned • Mae rhan y pen ar ffurf ABAC nid AABA • tempo cyflymach • newidiadau cordiau cyflym • Toriad offerynnol yn cynnwys rhan ‘A’ a ‘B’, felly mae’n torri’r fformat ‘AABA’ • Harmonïau yn seiliedig ar gordiau seithfed • Cyfwng y pedwerydd estynedig yn cael ei ddefnyddio yn alaw rhan y pen • Yn rhan ‘A’, mae syniad 8 cwafer yn cael ei ailadrodd ym mar 3 ac ym mar 7 ar draw gwahanol, ond mae’n seiliedig ar drydyddau lleiaf yn bennaf • Rhediadau graddfa yn rhan ‘B’ • Mae rhan ‘B’ yn rhan y ‘pen’ yn cynnwys pedwar bar byrfyfyr • Cyfwng y trydydd lleiaf (motiff rhythm trawiadol) yn cael ei ddefnyddio yn rhan ‘A’ • Mae’r adeiledd cordiau yr un peth â ‘Sweet Georgia Brown’ • Mae rhan ‘C’ yn rhan y ‘pen’ yn defnyddio tripledi • Mae rhan ‘C’ yn drawsacennog iawn • Mae cylch pumedau yn cael ei ddefnyddio mewn rhai dilyniannau cordiau • Mae’r unawdau yn dilyn yr un ffurf â rhan y ‘pen’ • Mae’r unawd gyntaf gan y sacsoffon tenor yn cael ei chwarae ddwywaith drwy gydol y ffurf • Mae’r sacsoffon alto a’r trwmped yn chwarae unwaith drwy gydol y ffurf • Dim ond y piano, y bas a’r drymiau sy’n cyfeilio yn ystod yr unawdau • Mae’r piano yn ‘compio’ yn ystod yr unawdau • Mae gan rannau’r drymiau rhythm swing, a’r symbal ‘ride’ sydd fwyaf amlwg

BOPLICITY TN. 5 BOPLICITY / CYNLLUN MARCIO MAES ASTUDIO D / JAZZ

AA4

Defnyddio sgiliau dadansoddi a gwerthuso i lunio barn werthusol a beirniadol am gerddoriaeth

Band Meini Prawf

5 9-10 o farciau • Ateb craff iawn sy’n cyflwyno cymhariaeth argyhoeddiadol iawn o’r darnau. • Mae’r deunydd wedi’i strwythuro’n effeithiol, gan gynnwys defnydd cywir o eirfa gerddorol briodol

4 7-8 o farciau • Ateb argyhoeddiadol sy’n cyflwyno cymhariaeth o’r darnau. • Mae’r deunydd wedi’i strwythuro’n effeithiol, gan gynnwys defnydd cywir o eirfa gerddorol briodol

3 5-6 o farciau • Ateb sicr yn gyffredinol, sy’n cyflwyno rhyw gymhariaeth o’r darnau. • Nid yw’r deunydd wedi’i strwythuro’n effeithiol bob amser, ac ni wneir defnydd digonol o eirfa gerddorol briodol

2 3-4 o farciau • Ateb anghyson, sy’n cyflwyno ychydig iawn o gymariaethau o’r darnau. • Nid yw’r deunydd wedi’i strwythuro’n effeithiol bob amser, ac ni wneir defnydd digonol o eirfa gerddorol briodol

1 1-2 o farciau • Ateb cyfyngedig, sy’n cyflwyno fawr ddim cymariaethau cywir o’r darnau, os o gwbl. • Nid yw’r deunydd wedi’i strwythuro’n effeithiol bob amser, ac ni wneir fawr ddim defnydd o eirfa gerddorol briodol, os o gwbl

0 0 marc • Ateb ddim yn haeddu marc

BOPLICITY TN. 4