Ymddiriedolaeth Y BBC Adolygiad Gwasanaeth: Gwasanaethau Newyddion a Radio’R BBC I’R Cenhedloedd
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Ymddiriedolaeth y BBC Adolygiad gwasanaeth: gwasanaethau newyddion a radio’r BBC i’r cenhedloedd Awst 2016 Cyflwyniad Pwrpas a chwmpas yr adolygiad hwn Pwrpas y BBC yw gwasanaethu er budd y cyhoedd a’i brif amcan yw hyrwyddo’r dibenion cyhoeddus. Mae’r BBC yn cael ei ariannu gan y cyhoedd drwy ffi’r drwydded ac mae o dan rwymedigaeth unigryw i wasanaethu’r holl gynulleidfaoedd. Yr Ymddiriedolaeth yw corff llywodraethu’r BBC a’n cyfrifoldeb ni yw cael y gorau gan y BBC i dalwyr ffi’r drwydded. Un o’r ffyrdd rydym yn gwneud hynny yw drwy gynnal adolygiadau o bob un o wasanaethau’r BBC. Ym mhob adolygiad gwasanaeth byddwn yn ystyried pa mor dda yw perfformiad y gwasanaeth ar sail y telerau yn ei drwydded gwasanaeth, ac a ddylid gwneud newidiadau yn y gwasanaeth neu yn ei drwydded gwasanaeth er mwyn rhoi mwy o werth i’r cyhoedd yn y dyfodol. Mae’r adolygiad hwn yn ymdrin â gorsafoedd radio’r BBC i’r cenhedloedd, yn ogystal â’r arlwy newyddion a materion cyfoes a geir ym mhob cenedl ac ar ei chyfer ar y teledu ac ar- lein. Mae’n cwmpasu’r gwasanaethau radio a theledu canlynol: Radio Wales, Radio Cymru, Radio Scotland, Radio nan Gàidheal, Radio Ulster/Foyle a BBC ALBA. Dyma’r ail dro i’r Ymddiriedolaeth adolygu gorsafoedd radio’r BBC i’r cenhedloedd, ond y tro cyntaf i ni edrych ar y cyfan o arlwy newyddion a materion cyfoes y BBC i’r cenhedloedd gyda’i gilydd. Dyma’r tro cyntaf hefyd i ni gynnal adolygiad llawn o BBC ALBA. Nid yw’r adolygiad hwn yn ymdrin â holl gynnwys y BBC a wnaed yn y cenhedloedd ac ar eu cyfer: nid yw’n trafod rhaglenni optio allan heblaw newyddion a materion cyfoes ar BBC One a BBC Two a wnaed yn benodol ar gyfer pob cenedl, na darpariaeth newyddion rhwydwaith y BBC, sy’n eistedd ochr yn ochr â’i newyddion i’r cenhedloedd. Nid yw’n ymdrin ychwaith ag allbwn S4C. Methodoleg Mae’r adolygiad wedi defnyddio fframwaith safonol y BBC ar gyfer mesur perfformiad er mwyn asesu’r gwahanol wasanaethau. Cyrhaeddiad: y graddau y mae’r gwasanaethau’n cael eu defnyddio gan gynulleidfaoedd Ansawdd: barn cynulleidfaoedd am ansawdd y gwasanaethau Effaith: y graddau y mae’r gwasanaethau’n cyflawni’r dibenion cyhoeddus Gwerth am arian: lefel y gwariant ar y gwasanaethau ac ystyried perfformiad ochr yn ochr â chost Cyhoeddwyd y cylch gorchwyl ar HYPERLINK "http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/our_work/nations_radio_news/tor.pdf" wefan Ymddiriedolaeth y BBC Wrth gynnal yr adolygiad hwn, rydym wedi gwneud defnydd o ystod eang o dystiolaeth: adborth i ymgynghoriad cyhoeddus ac oddi wrth sefydliadau rhanddeiliaid; ymchwil ansoddol a meintiol i gynulleidfaoedd a gomisiynwyd yn arbennig; cyflwyniadau gan Gynghorau Cynulleidfa’r Ymddiriedolaeth yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon; a gwahanol fathau o ddata’r BBC am berfformiad a chyllid. Mae’r holl dystiolaeth ategol ar gyfer yr adroddiad hwn wedi’i chyhoeddi ar HYPERLINK "http://www.bbc.co.uk/bbctrust" wefan Ymddiriedolaeth y BBC. Crynodeb gweithredol Cyflwyniad Mae gwasanaethau newyddion a radio’r BBC i’r cenhedloedd yn rhan bwysig iawn o arlwy’r BBC ym mhob un o’r cenhedloedd datganoledig. Maent yn neilltuol iawn, yn rhoi pwys mawr ar gyflawni dibenion cyhoeddus y BBC ac yn cael eu gweld yn rhai o ansawdd uchel gan eu cynulleidfaoedd. Mae’r gwasanaethau hyn yn cyflawni rôl bwysig iawn am fod nifer o feysydd polisi pwysig wedi’u datganoli i Gymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban o fewn y DU ac am fod ymdeimlad cryf a neilltuol o hunaniaeth genedlaethol gan bob un ohonynt. Drwy’r gwasanaethau hyn, gall y BBC hysbysu dinasyddion yn briodol ym mhob un o’r cenhedloedd am newyddion sy’n berthnasol iddynt gan gynnwys meysydd polisi llywodraeth lle gwelir effaith datganoli fel addysg, amaethyddiaeth, yr amgylchedd, iechyd a thai. Roedd ein hymchwil yn dangos bod galw clir gan gynulleidfaoedd am yr allbwn hwn. Er bod gwasanaethau radio a theledu’r cenhedloedd yn darparu cynnwys sy’n berthnasol i’r holl gynulleidfaoedd, maent yn tueddu i gyrraedd oedolion hŷn yn fwy effeithiol nag oedolion iau. Mae’r her o gyrraedd cynulleidfa eang yn cynyddu, gan fod oedolion iau’n benodol (ond yr holl oedolion i ryw raddau) yn gwneud llai o ddefnydd o wasanaethau darlledu ac yn defnyddio mwy o gynnwys ar-lein. Mae hyn yn effeithio ar y defnydd o newyddion yn benodol. Mae technoleg newydd yn darparu ffyrdd mwy arloesol a hyblyg i’r BBC gynnig ei gynnwys, ond mae hefyd yn rhoi mwy o ddewis i gynulleidfaoedd ac yn creu risg na fydd y BBC yn gallu cyflawni ei ddibenion cyhoeddus ar gyfer cynulleidfa eang os na fydd yn cadw’n wastad â newid. Rhaid i’r gwasanaethau ddod o hyd i ffordd o aros yn berthnasol a moderneiddio eu harlwy i oedolion iau, ond rhaid iddynt wneud hynny mewn cyfnod pan yw cyllid ar draws y BBC o dan bwysau, a gall hyn alw am gyfaddawdu anodd. Gwasanaethau radio’r BBC i’r cenhedloedd Mae gwasanaethau radio’r BBC i’r cenhedloedd yn gweithredu ochr yn ochr â 10 o orsafoedd radio rhwydwaith. Mae cyrhaeddiad wythnosol holl bortffolio radio’r BBC yn amrywio’n fawr, o 59% yn yr Alban a 60% yng Ngogledd Iwerddon i 73% o oedolion yng Nghymru. Yn achos gorsafoedd radio’r cenhedloedd, roedd y cyrhaeddiad wythnosol yn amrywio o 35% ar gyfer Radio Ulster/Foyle i 21% ar gyfer Radio Scotland a 16% ar gyfer Radio Wales yn 2015. Deg gorsaf radio rhwydwaith y BBC yw: BBC Radio 1, BBC Radio 1 Xtra, BBC Radio 2, Radio 3, BBC Radio 4, Radio 4Extra, BBC Radio 5 Live, BBC Radio 5 live sports extra, BBC 6 Music, a BBC Asian Network Mae’r ddwy orsaf ar gyfer ieithoedd brodorol yn uchel eu cyrhaeddiad ymysg eu cynulleidfaoedd targed: mae Radio Cymru yn cyrraedd 30% o siaradwyr Cymraeg rhugl ac mae Radio nan Gàidheal wedi honni ei bod yn cyrraedd 69% o siaradwyr Gaeleg. Mae pob un o orsafoedd radio’r cenhedloedd yn canolbwyntio ar gyflawni’r dibenion cyhoeddus ar gyfer dinasyddiaeth a chymdeithas sifil, gan adlewyrchu rhanbarthau a chymunedau’r cenhedloedd a’u diwylliant a chreadigedd. Mae’r gorsafoedd wedi canolbwyntio’n fwy ar y dibenion cyhoeddus ers ein hadolygiad cyntaf yn 2011, ac mae pob un ohonynt wedi dod yn fwy neilltuol ym mhortffolio radio’r BBC o ganlyniad i hyn. Mae rhaglenni’r oriau brig ar y gorsafoedd yn canolbwyntio ar newyddiaduraeth o ansawdd uchel ac allbwn arall seiliedig ar y gair llafar. Mae rhaglenni am fywyd, diwylliant a materion y cenhedloedd datganoledig yn cwrdd â’r galw gan gynulleidfaoedd am newyddion ynghylch eu cenhedloedd penodol mewn modd nad yw gorsafoedd i’r DU gyfan yn gallu ei gyflawni fel arfer. Mae gwerth cyhoeddus y gwasanaethau hyn wedi’i seilio ar nifer bach o ymrwymiadau meintiol a nodwyd yn y drwydded gwasanaeth i bob gorsaf. Rydym wedi canfod bod maint yr arlwy newyddion a materion cyfoes a ddarperir nawr gan bob gorsaf yn uwch o lawer na lefel yr ymrwymiad. Felly byddwn yn ailosod yr ymrwymiadau ar lefel sy’n agosach i’r allbwn gwirioneddol, gan roi lwfans o tua 20% i ganiatáu amrywiadau arferol mewn rhaglenni a newidiadau bach mewn strategaeth olygyddol. Mae pob gorsaf yn ceisio gwasanaethu ei holl wrandawyr – nid ydynt yn targedu gwrandawyr hŷn, a hynny’n briodol, gan fod eu cynnwys yn berthnasol i’r holl oedolion. Er hynny, ni ellir gwadu nad ydynt yn denu cynulleidfa hŷn, ag oedrannau cymedrig o 53 ar gyfer Radio Scotland, 55 ar gyfer Radio Ulster/Foyle a 56 ar gyfer Radio Wales. Un o’r rhesymau am hyn yw bod pobl hŷn at ei gilydd yn ymddiddori’n fwy mewn newyddion am eu cenedl a hefyd bod gwrandawyr iau’n debygol iawn o wneud defnydd o orsafoedd cerddoriaeth y BBC a darlledwyr masnachol a gwasanaethau cerddoriaeth digidol mwy newydd. Mae hyn wedi cyfrannu at y pwysau ar gyrhaeddiad ac oriau gwrando’r gorsafoedd, yn ogystal â’u proffil oedran nodweddiadol. Yr her i’r gorsafoedd yw canfod ffordd o barhau i gyrraedd cynulleidfa eang heb wanhau eu harlwy neilltuol sy’n seiliedig ar y gair llafar. Mae’r BBC yn cydnabod hyn ac yng Nghymru a’r Alban, lle mae’r her ar ei mwyaf, mae’r BBC yn ystyried a allai’r gorsafoedd amrywio’r cymysgedd o gerddoriaeth a’r gair llafar, un ai ar y gwasanaeth craidd neu drwy lansio ail arlwy sy’n rhoi mwy o bwyslais ar gerddoriaeth (tra bydd y prif wasanaeth yn parhau i ganolbwyntio ar newyddion a’r gair llafar). Rydym yn annog y BBC i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithredu a fydd yn caniatáu iddo barhau i gyflawni’r dibenion cyhoeddus hyn ar gyfer cynulleidfaoedd yn y cenhedloedd. Rydym yn ymwybodol, er hynny, fod portffolio radio’r BBC eisoes yn cynnwys nifer o orsafoedd cerddoriaeth ac y dylid ystyried neilltuolrwydd yn y cyd-destun hwn wrth wneud cynlluniau. Ffynonellau: Radio Cymru - RAJAR (2015) a Radio nan Gàidheal, cyrhaeddiad honedig o arolwg Leirsinn RAJAR (2015) Ofcom (2015) News Consumption in the UK Mae’n bosibl y bydd trefnu i rywfaint o gynnwys gorsafoedd radio’r cenhedloedd fod ar gael ar alw, drwy apiau a chyfryngau cymdeithasol, yn helpu i gynnal eu cyrhaeddiad ymysg oedolion iau. Gallai fod o gymorth hefyd i hybu ymwybyddiaeth o rannau o amserlenni pob gorsaf y tu allan i’r oriau brig. Rydym yn annog y BBC i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithredu yn y maes hwn.