24.09.2020 Lleucu Lynch Cyswllt Contact Ffôn Phone 01286 674622 Erthygl i’r Wasg Press Article Tips, trics a thomen o Bêl-droed! Gyda’r tymor pêl-droed newydd wedi dechrau, mae’r gyfres chwaraeon CIC yn dychwelyd i S4C. Yng ngwmni’r cyn bêl-droediwr ryngwladol Owain Tudur Jones a’r cyflwynydd Heledd Anna wrth y llyw, mi fydd y gyfres newydd ymlaen bob prynhawn Gwener am 5.30 ar wasanaeth S4C i blant a phobl ifanc, Stwnsh. Mae’r gyfres eleni’n llawn sêr, gydag Angharad James, Ethan Ampadu, Daniel James, Natasha Harding, Kieffer Moore, Owain Fôn Williams, Helen Ward ac amddiffynnwr Abertawe Ben Cabango, aelod diweddara’ carfan ryngwladol Ryan Giggs, i gyd yn ymddangos. Ar ben hynny, mi fydd Rabbi Matondo, Danny Ward, Rhiannon Roberts, Andy King, Josie Green ac Elise Hughes hefyd yn y gyfres, tra bod Ben Davies, Harry Wilson a Connor Roberts yn wynebu cwestiynau caled y gwylwyr. Yn ogystal â holi’r chwaraewyr, bydd Heledd ac Owain yn cael tro ar ddyfarnu, ac ar ôl hyfforddi gyda dyfarnwyr proffesiynol Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Bryn Markham-Jones a Lewis Edwards, mae’r cyflwynwyr yn wynebu’r her o reoli gêm ddarbi leol rhwng dau dîm dan 14 oed. Mae’r ddau hefyd yn cael blas ar gampau fel pêl-droed Cadair Olwyn, Foot Pool a Phêl-droed Tair Ochr, lle mae’r chwaraewr rygbi a chyflwynydd cyfres rygbi CIC, Billy McBryde yn ymuno i gynnig help llaw. "Da ni ‘di cael tipyn o hwyl yn ffilmio’r gyfres efo chwaraewyr Cymru. Dwi ‘di rhoi gwers Gymraeg i Ethan Ampadu, ma’ Heledd ‘di herio Ben Davies mewn cystadleuaeth penio, Angharad James wedi rhoi gwers ffitrwydd poenus i ni a ‘da ni hyd yn oed yn trio dyfarnu – do, dwi ‘di mentro i’r ochr dywyll," meddai Owain Tudur Jones, enillodd saith cap dros Gymru ac sydd bellach yn wyneb a llais adnabyddus ar Heno a Sgorio. Bydd y pêl-droedwyr 'freestyle' Ash Randall a Lia Lewis yn cynnig cyngor i chwaraewyr ifanc wrth edrych ar sgil gwahanol bob wythnos. "Fedrwch chi drio sgiliau a thriciau Ash a Lia cam wrth gam adref,” eglura Owain. “Dwi hyd yn oed wedi cael tro eleni, wnaeth Ash osod her i fi gystadlu mewn Cystadleuaeth Freestyle Cenedlaethol yn erbyn freestylers o bedwar ban byd. Dwi ddim eisiau sbwylio’r canlyniad ond gewch chi dipyn o syrpries o weld fy sgiliau slic i!" Cawn ddysgu am ddeiet carfan Cymru gyda chogydd y tîm cenedlaethol Jody Palmer, a chipolwg ar esgidiau’r sêr a’r gajets gorau sy’ ar gael ar y farchnad. Bydd CIC hefyd yn rhoi llwyfan i glybiau ieuenctid ar draws Cymru ac yn eu herio nhw mewn sialens ciciau cosb arbennig. Gwyliwch yr holl gyfres ar S4C Clic. Am fwy o dips, triciau a fideos pêl-droed, ewch i wefan Cic ar s4c.cymru/cic. CIC Bob dydd Gwener am 5.30yp Ac eto bob bore Sadwrn am 9.40yb Ar gael ar alw ar S4C Clic, BBC iPlayer a llwyfannau eraill Cynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer S4C 24.09.2020 Lleucu Lynch Cyswllt Contact Ffôn Phone 01286 674622 Erthygl i’r Wasg Press Article Tips, tricks and a field full of footy! Football’s back and CIC is back with a brand-new series! Presenter Heledd Anna and ex Wales international footballer Owain Tudur Jones return to front the series, which is on every Friday afternoon at 5.30pm on S4C’s Stwnsh service for children and young people. This year’s series is full of stars, with Angharad James, Ethan Ampadu, Daniel James, Natasha Harding, Kieffer Moore, Owain Fôn Williams, Helen Ward and Swansea City defender Ben Cabango, the latest player to win his first senior cap under manager Ryan Giggs, all appearing. International players Rabbi Matondo, Danny Ward, Rhiannon Roberts, Andy King, Josie Green and Elise Hughes also feature on CIC, and Ben Davies, Harry Wilson and Connor Roberts each face the viewers’ challenging questions. It’s not just about the players in the series. The presenters will try officiating too. After training with the Football Association of Wales’s elite referees Bryn Markham-Jones and Lewis Edwards, Owain and Heledd will face the challenge of refereeing an under 14s local derby match. They’ll also explore other football-based activities such as Powerchair Football, Foot Pool and Three-Sided Football, where Billy McBryde, Doncaster Knights rugby player and presenter of the CIC rugby series, returns to compete. "We’ve had a lot of fun filming the series with the Wales players. I’ve taught Ethan Ampadu a few handy Welsh phrases to use on the pitch, Heledd challenged Ben Davies to a headers competition, Angharad James put us through our paces in a gruelling fitness test and we’ve even tried refereeing – yes, I’ve turned to the dark side," explains Owain Tudur Jones, who won seven caps for Wales as is now a familiar face and voice on Heno and Sgorio. Football Freestylers Ash Randall and Lia Lewis will offer step-by-step guides to improving different skills and tricks each week. “Viewers can try out Ash and Lia’s tricks at home,” adds Owain. “I’ve even had a go this year. Ash challenged me to compete at the Ultimate Football Freestyle event against some of the best freestylers from all over the world. No spoilers but I think you’ll be surprised by the skills that I had in my locker!” We’ll also meet Wales squad team chef Jody Palmer to learn about the squad’s diet, look at footballers’ boots and the best gadgets available to buy. And, each week CIC will profile youth football teams from all over the country and challenge their skills in a special penalty competition. Catch up on all episodes on S4C Clic. For more football tips, tricks and videos, visit the CIC website: s4c.cymru/cic. CIC Every Friday 5.30pm Repeat Saturday morning 9.40am Available on demand on S4C Clic, BBC iPlayer and other platforms A Boom Cymru production for S4C .
Details
-
File Typepdf
-
Upload Time-
-
Content LanguagesEnglish
-
Upload UserAnonymous/Not logged-in
-
File Pages3 Page
-
File Size-