Yr Eglwys Anglicanaidd

Yr Eglwys Anglicanaidd

Yr Eglwys Anglicanaidd Adroddiad yr Ymchwiliad Hydref 2020 2020 Yr Eglwys Anglicanaidd Diogelu yn Eglwys Loegr a'r Eglwys yng Nghymru Adroddiad yr Ymchwiliad Hydref 2020 Adroddiad y Panel Ymchwilio Yr Athro Alexis Jay OBE Yr Athro Syr Malcolm Evans KCMG OBE Ivor Frank Drusilla Sharpling CBE © Hawlfraint y Goron 2020 Gall testun y ddogfen hon (mae hyn yn eithrio, lle bo'n bresennol, yr Arfbais Frenhinol a phob logo adrannol neu asiantaeth) gael ei ailgynhyrchu am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng ar yr amod ei fod yn cael ei ailgynhyrchu'n gywir a heb fod mewn cyd-destun camarweiniol. Mae'n rhaid i'r deunydd gael ei gydnabod fel hawlfraint y Goron a rhaid cyfeirio'n benodol at deitl y ddogfen. Lle nodwyd deunydd trydydd parti, rhaid ceisio caniatâd gan ddeiliad yr hawlfraint. Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r cyhoeddiad hwn i [email protected] neu Freepost IICSA INDEPENDENT INQUIRY. Mae'r cyhoeddiad hwn ar gael yn https://www.iicsa.org.uk/publications CCS0620778888 10/20 Argraffwyd ar bapur â lleiafswm cynnwys 75% o ffibr wedi ei ailgylchu. Argraffwyd yn y DU gan APS Group ar ran Rheolwr Swyddfa Llyfrfa Ei Mawrhydi. Cynnwys Crynodeb Gweithredol v Portreadau pen ix Rhan A: Cyflwyniad 1 A.1: Cefndir yr ymchwiliad 2 A.2: Eglwys Loegr 2 A.3: Yr Eglwys yng Nghymru 6 A.4: Methodoleg 8 A.5: Terminoleg 10 A.6: Cyfeiriadau 11 Rhan B: Eglwys Loegr 13 B.1: Diogelu yn Eglwys Loegr 14 B.1.1: Cyflwyniad 14 B.1.2: Strwythurau diogelu 15 B.1.3: Polisïau diogelu 25 B.1.4: Diogelu wrth recriwtio a hyfforddi 27 B.1.5: Adolygiadau o arfer diogelu 36 B.2: Adrodd am gamdriniaeth yn Eglwys Loegr 48 B.2.1: Cyflwyniad 48 B.2.2: Adrodd ac ymchwilio mewnol 48 B.2.3: Adrodd allanol 52 B.2.4: Darpariaeth cwnsela a chymorth bugeiliol 53 B.3: Disgyblaeth clerigwyr 57 B.3.1: Cyflwyniad 57 B.3.2: Gweithdrefn o dan y Mesur Disgyblaeth Clerigwyr 57 B.3.3: Effeithiolrwydd disgyblaeth clerigwyr 61 B.4: Hawliadau sifil ac iawndal yn Eglwys Loegr 64 B.4.1: Cyflwyniad 64 B.4.2: Hawliadau sifil yn Eglwys Loegr 64 B.4.3: Materion allweddol mewn hawliadau sifil yn erbyn Eglwys Loegr 66 B.4.4: AN-A4 ac adolygiad Elliott 68 B.4.5: Honiadau yn erbyn unigolion sydd wedi marw 70 B.5: Sêl y gyffes 72 B.5.1: Cyflwyniad 72 B.5.2: Robert Waddington 72 B.5.3: Sêl y gyffes yn Eglwys Loegr 74 B.5.4: Adrodd gorfodol 78 B.6: Diwylliant Eglwys Loegr 80 B.6.1: Cyflwyniad 80 B.6.2: Pryderon ynghylch diwylliant Eglwys Loegr 80 B.6.3: Mentrau diweddar i wella diwylliant Eglwys Loegr 82 B.6.4: Camau pellach i'w cymryd 86 Rhan C: Yr Eglwys yng Nghymru 89 1 Cyflwyniad 90 C.2: Strwythur yr Eglwys yng Nghymru 91 C.3: Diogelu yn yr Eglwys yng Nghymru 92 C.4: Recriwtio a hyfforddi clerigwyr yn yr Eglwys yng Nghymru 96 C.5: Ymateb i gamdriniaeth yn yr Eglwys yng Nghymru 99 C.6: Adolygiadau o achosion y gorffennol 101 C.7: Samplau o waith achos diogelu yn yr Eglwys yng Nghymru 104 Rhan D: Casgliadau ac argymhellion 107 Ch.1: Casgliadau mewn perthynas ag Eglwys Loegr 108 Ch.2: Casgliadau mewn perthynas â'r Eglwys yng Nghymru 114 Ch.3: Materion i'w harchwilio ymhellach gan yr Ymchwiliad 115 Ch.4: Argymhellion 116 Atodiadau 119 Annex 1: Trosolwg o’r broses a’r dystiolaeth a gafwyd gan yr Ymchwiliad 120 Annex 2: Geirfa 136 Annex 3: Dadansoddiad arbenigol o ffeiliau achosion diogelu 143 Crynodeb Gweithredol Mae'r ymchwiliad hwn yn ymwneud â'r graddau y gwnaeth Eglwys Loegr a'r Eglwys yng Nghymru amddiffyn plant rhag cam-drin rhywiol yn y gorffennol. Mae hefyd yn archwilio effeithiolrwydd y trefniadau diogelu cyfredol. Cynhaliwyd gwrandawiad cyhoeddus yn y meysydd penodol hyn yn 2019. Mae'r adroddiad hwn hefyd yn tynnu gwybodaeth o'r ddwy astudiaeth achos flaenorol ar yr Eglwys Anglicanaidd, a oedd yn ymwneud ag Esgobaeth Chichester a Peter Ball. Yn ogystal ag argymhellion a wnaed yn yr astudiaethau achos, rydym yn gwneud wyth argymhelliad yn yr adroddiad hwn, sy'n ymdrin â meysydd megis disgyblaeth clerigwyr, rhannu gwybodaeth a chefnogaeth i ddioddefwyr a goroeswyr. Byddwn yn dychwelyd at faterion eraill a godwyd yn yr ymchwiliad hwn, megis adrodd gorfodol, yn adroddiad terfynol yr Ymchwiliad. Eglwys Loegr Eglwys Loegr yw'r enwad Cristnogol mwyaf yn y wlad, gyda dros filiwn o addolwyr rheolaidd. Mae euogfarnau o gam-drin plant yn rhywiol gan bobl a oedd yn glerigwyr neu mewn swyddi o ymddiriedaeth sy'n gysylltiedig â'r Eglwys yn dyddio'n ôl i'r 1940au. Cyfanswm nifer y troseddwyr a gafwyd yn euog sy'n gysylltiedig â'r Eglwys o'r 1940au hyd at 2018 yw 390. Yn 2018, adroddwyd i'r Eglwys am 449 o bryderon ynghylch cam- drin plant yn rhywiol yn y gorffennol agos, yr oedd mwy na hanner ohonynt yn ymwneud â swyddogion yr eglwys. Ers tro, roedd cryn dipyn o droseddu yn cynnwys lawrlwytho neu feddu ar ddelweddau anweddus o blant. Archwiliodd yr Ymchwiliad nifer o achosion yn ymwneud â thramgwyddwyr a gafwyd yn euog a thramgwyddwyr honedig, gyda llawer ohonynt yn dangos methiant yr Eglwys i gymryd datgeliadau gan blant neu amdanynt o ddifrif neu i gyfeirio honiadau at yr awdurdodau statudol. Roedd y rhain yn cynnwys: • Timothy Storey, a oedd yn arweinydd ieuenctid yn Esgobaeth Llundain rhwng 2002 a 2007. Defnyddiodd ei rôl i feithrin perthynas â merched yn eu harddegau. Ar hyn o bryd, mae Storey yn gwneud tymor o 15 mlynedd yn y carchar am sawl trosedd yn erbyn plant, gan gynnwys treisio. Roedd wedi cyfaddef gweithgarwch rhywiol gyda merch yn ei harddegau i staff esgobaethol flynyddoedd cyn ei euogfarn, ond gwadodd orfodaeth. • Victor Whitsey, a oedd yn Esgob Caer rhwng 1974 a 1982. Cwynodd tri ar ddeg o bobl i Heddlu Swydd Gaer am gam-drin rhywiol gan Whitsey ac mae Eglwys Loegr yn ymwybodol o chwe achwynydd arall. Roedd yr honiadau’n cynnwys ymosodiad rhywiol ar fechgyn a merched yn eu harddegau wrth ddarparu cefnogaeth fugeiliol iddynt. Bu farw ym 1987. • Y Parchedig Trevor Devamanikkam, a oedd yn offeiriad tan 1996. Ym 1984 a 1985, honnir iddo dreisio ac ymosod yn anweddus ar fachgen yn ei arddegau, Matthew Ineson, ar sawl achlysur pan oedd y bachgen yn byw yn ei dŷ. O 2012 ymlaen, cyflwynodd y Parchedig Matthew Ineson nifer o ddatgeliadau i’r Eglwys ac mae wedi cwyno am ymateb yr Eglwys. Cafodd Devamanikkam ei gyhuddo yn 2017 a lladdodd ei hun y diwrnod cyn ei ymddangosiad yn y llys. v Yr Eglwys Anglicanaidd: Adroddiad Ymchwiliad Rhwng 2003 a 2018, rheolodd prif yswiriwr Eglwys Loegr (y Swyddfa Yswiriant Eglwysig) 217 o hawliadau yn ymwneud â cham-drin plant yn rhywiol yn yr Eglwys. Fe wnaeth diwylliant Eglwys Loegr ei hwyluso i ddod yn lle y gallai camdrinwyr guddio. Roedd ufuddhau i awdurdod yr Eglwys ac offeiriaid unigol, tabŵs ynghylch trafod rhywioldeb ac amgylchedd lle'r oedd tramgwyddwyr honedig yn cael eu trin yn fwy cefnogol na dioddefwyr yn cyflwyno rhwystrau rhag datgelu na allai llawer o ddioddefwyr eu goresgyn. Agwedd arall ar ddiwylliant yr Eglwys oedd clercyddiaeth, a olygai fod awdurdod moesol clerigwyr yn cael ei ystyried yn eang fel rhywbeth y tu hwnt i waradwydd. Fel rydym wedi dweud mewn adroddiadau eraill, mae sefydliadau ffydd megis yr Eglwys Anglicanaidd yn cael eu nodi gan eu pwrpas moesol penodol, wrth addysgu da a drwg. Yng nghyd- destun cam-drin plant yn rhywiol, roedd esgeulustod yr Eglwys o les corfforol, emosiynol ac ysbrydol plant a phobl ifanc o blaid amddiffyn ei henw da yn gwrthdaro â'i chenhadaeth o gariad a gofal am y diniwed a'r bregus. Mae newid diwylliant yn cael ei gynorthwyo gan uwch arweinwyr yr Eglwys sydd bellach yn dweud y pethau iawn, ond bydd angen mwy nag ystrydebau i newid yn barhaus. Bydd angen parhau i bwysleisio natur ffiaidd cam-drin plant yn rhywiol a phwysigrwydd diogelu yn holl leoliadau'r Eglwys. Gwnaethom archwilio pa mor dda yr oedd yr arferion diogelu cyfredol yn yr Eglwys yn ymateb i fater cam-drin plant yn rhywiol. Tan yn ddiweddar, o leiaf 2015, ni ddyrannodd Eglwys Loegr ddigon o adnoddau i ddiogelu. Mae cyllid wedi cynyddu'n sylweddol, yn enwedig ar gyfer staff diogelu. Mae newid diweddar arall yn golygu na ddylai uwch glerigwyr anwybyddu cyngor staff diogelu os nad ydyn nhw'n hoffi'r cyngor a roddir iddyn nhw. Serch hynny, darganfuwyd enghreifftiau o hyn yn parhau i ddigwydd yn y samplu ffeiliau a gynhaliwyd ar ran yr Ymchwiliad. Esgobion esgobaethol sydd â'r cyfrifoldeb eithaf am ddiogelu o fewn esgobaeth, ac nid yw cynghorwyr diogelu esgobaethol (DSAs) yn darparu “gwrth-bwysau digonol i awdurdod esgobol” yn ôl Mr Colin Perkins (DSA ar gyfer Esgobaeth Chichester).1 Daethom i'r casgliad mai swyddogion diogelu esgobaethol – nid clerigwyr – sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu pa achosion i'w cyfeirio at yr awdurdodau statudol, a pha gamau y dylai'r Eglwys eu cymryd i gadw plant yn ddiogel. Mae gan esgobion esgobaethol ran bwysig i'w chwarae, ond ni ddylent fod â chyfrifoldeb gweithredol am ddiogelu. O ran eglwysi cadeiriol, mae'r Eglwys wedi cynnig nifer o newidiadau a ddylai integreiddio diogelu mewn eglwysi cadeiriol i brif ffrwd strwythurau diogelu'r Eglwys, er bod llawer i'w wneud o hyd i sicrhau bod plant yn cael eu diogelu'n well mewn eglwysi cadeiriol a'u hysgolion côr cysylltiedig.

View Full Text

Details

  • File Type
    pdf
  • Upload Time
    -
  • Content Languages
    English
  • Upload User
    Anonymous/Not logged-in
  • File Pages
    170 Page
  • File Size
    -

Download

Channel Download Status
Express Download Enable

Copyright

We respect the copyrights and intellectual property rights of all users. All uploaded documents are either original works of the uploader or authorized works of the rightful owners.

  • Not to be reproduced or distributed without explicit permission.
  • Not used for commercial purposes outside of approved use cases.
  • Not used to infringe on the rights of the original creators.
  • If you believe any content infringes your copyright, please contact us immediately.

Support

For help with questions, suggestions, or problems, please contact us