Ysgol Gyfun Cwm Rhymni Prosbectws 2020-21 Prospectus

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni Prosbectws 2020-21 Prospectus

Prosbectws Ysgol Gyfun 2020-21 Cwm Rhymni Prospectus Cynnwys / Content Croeso gan y Prifathro / A welcome from the Head Teacher 4 - 5 Gweledigaeth yr ysgol / School Vision 6 - 7 Yr iaith Gymraeg / The Welsh language 8 - 9 Uwch Dîm Arwain yr Ysgol / School Leadership Team 10 - 11 Gwisg Ysgol / School Uniform 12 - 15 Y Flwyddyn Bontio / The Transition Year 16 - 17 Y Cwricwlwm / The Curriculum 18 - 19 Cyfnod Allweddol 5 (Y Chweched Dosbarth) / Key Stage 5 (The Sixth Form) 20 - 21 Y Fagloriaeth Gymreig / The Welsh Baccalaureate 22 - 23 Cysylltu gyda ni / Contact us 24 - 25 Bwlio / Bullying 26 - 27 Gofal Bugeiliol / Pastoral Care 28 - 29 Monitro Cynnydd / Monitoring Progress 30 - 31 Presenoldeb / Attendance 32 - 33 Anghenion Dysgu Ychwanegol / Additional Learning Needs 34 - 35 Agwedd ac Ymddygiad / Attitude and Behaviour 36 - 37 Cytundeb Ysgol a Chartref / School and Home Agreement 38 - 39 Gweithdrefnau / Procedures 40 - 45 2 3 Croeso gan y Prifathro Annwyl Ddarpar Riant Blwyddyn 7 / Dear Prospective Year 7 Parent, Hoffwn estyn croeso cynnes i chi fel rhieni newydd Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Bydd eich plentyn yn mynychu ysgol hapus A welcome from the Head Teacher a llwyddiannus sy’n ymfalchio yn ei balchder at y Gymraeg a Chymreictod ein disgyblion. Yn amlwg yr ydym yn profi amgylchiadau heriol ar hyn o bryd ac felly wrth i mi ysgrifennu’r croeso yma atoch yn ein prosbectws ysgol, nid oes sicrwydd ynghylch trefniadau pontio hollbwysig eich plentyn. Hoffwn eich darbwyllo y byddwn ni fel ysgol yn ceisio rhannu gymaint o wybodaeth gyda chi unwaith y byddwn mewn sefyllfa i wneud hynny. Yr wyf hefyd am eich argyhoeddi y byddwn ni fel ysgol yn gweithio’n ddiwyd er mwyn sicrhau bod eich plentyn yn derbyn pob cyfle a chefnogaeth wrth bontio i’r ysgol uwchradd a thrwy hynny derbyn anwythiad gynhwysfawr wrth wneud y cam holl bwysig i’r ysgol uwchradd. Yr wyf newydd dderbyn y fraint i gael fy mhenodi yn Bennaeth newydd yr ysgol. Yr wyf wedi mwynhau yn fawr fy holl gyfnod yn dysgu fel athro dros yr un mlynedd ar bymtheg ddiwethaf fel athro. Yn awr cofleidiaf y cyfle yn frwd i arwain dyfodol yr ysgol gyda’ch cymorth chi. Ar y dudalen nesaf, fe fyddwch yn cael cyfle i ymgyfarwyddo gyda gweledigaeth newydd yr ysgol. Yn sgîl yr amgylchiadau presennol yn deillio o’r argyfwng coronafeirws, nid ydym fel ysgol wedi cael cyfle i greu gweledigaeth ac ethos gytun ar gyfer yr ysgol yn seiliedig ar fewnbwn rhanddeiliaid hollbwysig yr ysgol sef plant, rhieni, staff a llywodraethwyr yr ysgol. Hoffwn rannu gyda chi fy mwriad diffuant i gynnwys eich barn, syniadau a’ch awgrymiadau chi fel bod modd i ni greu sylfaen o egwyddorion a gweledigaeth yr ydym oll fel partneriaid yn gallu cytuno arnynt ar gyfer dyfodol yr ysgol. Gobeithiaf yn fawr y byddwn mewn sefyllfa i ddod ynghyd a thrafod ethos newydd yr ysgol dros baned a sgwrs pan fydd yr amgylchiadau iechyd yn caniatáu hynny i ddigwydd. Hyderaf mi fydd y Prosbectws yn eich cynorthwyo chi a’ch plentyn i ddysgu mwy am ein hysgol. Dymuniadau da i chi a’ch teulu dros y misoedd nesaf gan obeithio y byddwch yn cadw’n iach ac yn ddiogel. May I extend a warm welcome to you as new parents of Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Your child will be attending a happy and successful school that prides itself in the Welsh language and the Cymreictod of our pupils. Currently we are all obviously experiencing very challenging times and therefore as I write this welcome in our school prospectus there are no certainties regarding the transition arrangements for your child. May I assure you that we, as a school, will attempt to share with you all information as soon as we are in a position to do so. Rest assured we will work tirelessly to ensure your child receives every opportunity and comprehensive transition support whilst making the important step to secondary school. I have recently accepted the privilege of becoming the new Head teacher of the school. I have thoroughly enjoyed my whole teaching career at Cwm Rhymni over the past sixteen years. I embrace the opportunity to lead the future of the school with your help. Overleaf you will have an opportunity to familiarize yourselves with the new school vision. Due to the coronavirus crisis, we, as a school, have not had an opportunity to form this vision and ethos collectively with the all-important voice of pupils, parents, staff and school governors. May I share with you my sincere intention to include your voice, ideas and suggestions enabling us to create a foundation of principles and a shared vision we all can agree upon for the future of the school. I sincerely hope we will be in a situation whereby we can come together to discuss the new ethos and vision for the school over a cup of tea or coffee and a chat when circumstances allow us to do so safely. I hope the prospectus enables you and your child to learn more about our school. Best wishes to you and your family over the coming months. Please keep well and safe. Cofion cynnes / Kind regards, Matthew Webb Prifathro / Head teacher 4 5 Gweledigaeth yr ysgol / Ein gweledigaeth yw darparu’r addysg orau ar gyfer holl aelodau’r ysgol trwy: • Hyrwyddo ethos Gymraeg a diwylliant Cymreig gan flaenoriaethu defnydd cyson o’r iaith gyda ffocws parhaus ar ddatblygiad llythrennedd School Vision • Blaenoriaethu hapusrwydd, iechyd a lles • Cefnogi uchelgais iach a hybu disgwyliadau clir gan bawb i lwyddo yn yr ysgol a thrwy gydol ein hoes. • Annog pawb i gyfrannu a chymryd cyfrifoldeb dros ein haddysg a’n datblygiad personol. • Datblygu holl aelodau’r ysgol fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus am Gymru, Ewrop a’r byd. • Hybu pawb i ofalu am ein gilydd, ein teuluoedd a’n bod hefyd yn llysgenhadon dros yr ysgol. • Cefnogi creadigrwydd o fewn diwylliant yr ysgol gan wobrwyo’r awydd i fentro a’r gallu i ddysgu o’n profiadau. • Cyfathrebu gyda’n gilydd â pharch gan ddefnyddio ieithwedd gadarnhaol i ddylanwadu’n bositif ar holl gymuned yr ysgol yn feunyddiol. • Dathlu ein llwyddiannau yn rheolaidd a chynllunio i wella wrth anelu am RAGORIAETH. Our vision is to provide the best education for all members of the school by: • Promoting Welsh ethos and culture along with consistent use of the Welsh language whilst placing continued focus on the development of literacy. • Prioritising happiness, health and welfare. • Supporting healthy ambition and encouraging clear expectations for all to succeed within the school and also during lifelong learning. • Encouraging us all to contribute to, and take responsibility for, our own learning and personal development along with others. • Developing all members of the school as ethically informed citizens in relation to Wales, Europe and the World. • Supporting everyone to care for each other and our families, whilst encouraging us all to become ambassadors for the school. • Embracing creativity within the school community whilst rewarding venture and the ability to learn from experiences. • Communicating respectfully with each other, using positive language to influence the whole school community • Celebrate our successes regularly while planning for improvement in order to attain EXCELLENCE 66 77 Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yw’r unig ysgol uwchradd Gymraeg ei chyfrwng ym mwrdeistref Sir Caerffili. Caiff y disgyblion Yr iaith Gymraeg / eu hannog yn gryf i siarad â’i gilydd yn Gymraeg ac i fwynhau digwyddiadau allgyrsiol lle caiff yr iaith ei defnyddio. Rydym yn hyderus y cawn gefnogaeth lwyr y rhieni yn hybu Cymreictod eu plant, yn yr ysgol ac oddi allan. The Welsh language Gall hyn gwmpasu amryw byd o weithgareddau megis • Cefnogi’r Urdd. • Menter Iaith Caerffili. • Gwylio teledu a gwrando ar radio. • Darllen llyfrau, cylchgronau ac erthyglau Cymraeg. We are a unique school, as we are the only Welsh medium secondary school in Caerphilly County Borough. All pupils will be encouraged strongly to communicate with each other in Welsh, and to enjoy extracurricular events that celebrate the use of the language. Parental involvement and encouragement for their children to speak Welsh as often as possible is essential. There are several ways students can be supported:- • Through involvement in the Urdd. • Via Menter Iaith Caerffili (the Caerphilly Welsh Language Initiative). • By watching Welsh television and listening to radio programmes. • Using Welsh language books, articles and magazines. 88 99 Prifathro / Head Teacher Uwch Dîm Arwain yr Ysgol / Mr. Matthew Webb Dirprwy Bennaeth Gweithredol / Acting Deputy Head Teacher School Leadership Team Mr. Rhys Thomas Uwch Benaeth Cynorthwyol / Senior Assistant Head Teacher Mr. Lloyd Mahoney Penaethiaid Cynorthwyol / Assistant Head Teachers Mr. Scott Conway Mr. Adam Gravell Mr. Ryan Jenkins Cadeirydd y Corff Llywodraethol / Chair of the Governing Body Y Cynghorydd Mr. Phil Bevan (75, Ffordd Pontygwindy, Caerffili) 1010 1111 Gwisg Ysgol / Prynu Gwisg Ysgol / Purchase of School Uniform. • TSS, Caerphilly. • CC Sports, Bargoed. School Uniform • Jansan Wear, Aberbargoed. Grant Cynhaliaeth Dillad / Maintenance and Clothing Grant Mae’r awdurdod addysg leol yn cysylltu gyda rhieni sydd yn gymwys (disgyblion prydau ysgol am ddim) ar gyfer grant cynhaliaeth dillad ar gyfer disgyblion newydd blwyddyn 7 a hefyd blwyddyn 10. A Maintenance and Clothing Grant is available for pupils beginning their education in Year 7 and for pupils in Year 10 eligible for free school meals. Eligible parents are usually contacted directly by the local authority. Blwyddyn 7-11 • Sgert bletiog neu syth llwyd hyd at y cluniau neu drowsus / llodrau llwyd clerigol wedi’u teilwra. • Siwmper ddu gwddf ‘v’ gyda bathodyn yr ysgol arni - ni chaniateir cardigan ddu. • Crys gwyn. Caniateir llewys hir neu fyr. • Tei swyddogol yr ysgol. Lliw du/coch/llwyd.

View Full Text

Details

  • File Type
    pdf
  • Upload Time
    -
  • Content Languages
    English
  • Upload User
    Anonymous/Not logged-in
  • File Pages
    25 Page
  • File Size
    -

Download

Channel Download Status
Express Download Enable

Copyright

We respect the copyrights and intellectual property rights of all users. All uploaded documents are either original works of the uploader or authorized works of the rightful owners.

  • Not to be reproduced or distributed without explicit permission.
  • Not used for commercial purposes outside of approved use cases.
  • Not used to infringe on the rights of the original creators.
  • If you believe any content infringes your copyright, please contact us immediately.

Support

For help with questions, suggestions, or problems, please contact us