Polisi Trwydded Deledu Ar Sail Oed Ymchwil Ymgynghori

Polisi Trwydded Deledu Ar Sail Oed Ymchwil Ymgynghori

Polisi Trwydded Deledu ar Sail Oed Ymchwil ymgynghori Ipsos MORI Mai 2019 18-096921-01 | Fersiwn 1 | Cyhoeddus | Cyflawnwyd y gwaith hwn yn unol â gofynion y safon ansawdd ryngwladol ar gyfer Ymchwil i’r Farchnad, ISO 20252, a hefyd â Thelerau ac Amodau Ipsos MORI y gellir eu gweld yn http://www.ipsos-mori.com/terms. © BBC 2019 Ipsos MORI | Polisi trwydded deledu ar sail oed: ymchwil ymgynghori 18-096921-01 | Fersiwn 1 | Cyhoeddus | Cyflawnwyd y gwaith hwn yn unol â gofynion y safon ansawdd ryngwladol ar gyfer Ymchwil i’r Farchnad, ISO 20252, a hefyd â Thelerau ac Amodau Ipsos MORI y gellir eu gweld yn http://www.ipsos-mori.com/terms. © BBC 2019 18-096921-01 | Fersiwn 1 | Cyhoeddus | Cyflawnwyd y gwaith hwn yn unol â gofynion y safon ansawdd ryngwladol ar gyfer Ymchwil i’r Farchnad, ISO 20252, a hefyd â Thelerau ac Amodau Ipsos MORI y gellir eu gweld yn http://www.ipsos-mori.com/terms. © BBC 2019 Ipsos MORI | Polisi trwydded deledu ar sail oed: ymchwil ymgynghori Cynnwys 1 Crynodeb gweithredol ............................................................................................................... 1 2 Cyflwyniad ................................................................................................................................... 5 Y dull ymchwilio ............................................................................................................................................................ 5 Strwythur y sampl ......................................................................................................................................................... 5 Ynghylch ymchwil ymgynghori .................................................................................................................................. 6 3 Barn gychwynnol am y consesiwn ............................................................................................ 8 Defnydd o’r BBC ........................................................................................................................................................... 8 Deall ffi’r drwydded ..................................................................................................................................................... 8 Y penderfyniad y mae Bwrdd y BBC yn gyfrifol am ei wneud ............................................................................... 9 4 Meini prawf ar gyfer asesu opsiynau polisi at y dyfodol ..................................................... 11 Tegwch ......................................................................................................................................................................... 12 Effaith ariannol ............................................................................................................................................................ 13 Dichonoldeb ................................................................................................................................................................ 15 5 Barn am opsiynau polisi at y dyfodol .................................................................................... 16 Copïo ........................................................................................................................................................................16 Adfer ........................................................................................................................................................................19 Diwygio ........................................................................................................................................................................ 21 Atodiad A ....................................................................................................................................... 29 Atodiad B ....................................................................................................................................... 33 Atodiad C ....................................................................................................................................... 59 18-096921-01 | Fersiwn 1 | Cyhoeddus | Cyflawnwyd y gwaith hwn yn unol â gofynion y safon ansawdd ryngwladol ar gyfer Ymchwil i’r Farchnad, ISO 20252, a hefyd â Thelerau ac Amodau Ipsos MORI y gellir eu gweld yn http://www.ipsos-mori.com/terms. © BBC 2019 Ipsos MORI | Polisi trwydded deledu ar sail oed: ymchwil ymgynghori 1 1 Crynodeb gweithredol Cyflwyniad Comisiynwyd Ipsos MORI gan y BBC i gynnal ymchwil ymysg oedolion yn y DU yn rhan o raglen y BBC ar gyfer gwrando ar farn, sylwadau ac awgrymiadau mewn perthynas â’r polisi trwydded deledu ar sail oed. Cyhoeddwyd dogfen ymgynghori’r BBC mewn cysylltiad â’r polisi hwn ar 20 Tachwedd 2018. Mae themâu’r ymchwil yn cwmpasu’r themâu sydd yn y ddogfen ymgynghori, yn cynnwys: Barn am y tri opsiwn cyffredinol ar gyfer y consesiwn: ▪ Copïo’r consesiwn presennol, a fyddai’n darparu trwydded am ddim i’r holl aelwydydd lle mae o leiaf un preswylydd yn hŷn na 75 oed, y telir amdani gan y BBC; ▪ Adfer ffi’r drwydded gynhwysol, fel na fyddai consesiwn ar sail oed o gwbl; ▪ Diwygio’r consesiwn mewn rhyw ffordd. Barn am dri opsiwn penodol ar gyfer diwygio: ▪ Gostyngiad, lle bydd aelwydydd lle mae rhywun sy’n 75 oed neu’n hŷn yn talu hanner cost trwydded deledu; ▪ Newid yr oed, lle bydd aelwydydd y rheini sy’n 80 oed neu’n hŷn yn cael trwydded deledu am ddim; ▪ Prawf modd, lle bydd aelwydydd y rheini sy’n 75 oed neu’n hŷn sydd yn yr angen ariannol mwyaf, yn gysylltiedig â’r Credyd Pensiwn, yn cael trwydded deledu am ddim. Barn am ffyrdd i gymhwyso’r opsiynau ar gyfer Diwygio. Methodoleg Ar ôl ystyried natur y materion sy’n ymwneud â pholisi trwydded deledu ar sail oed, roedd Ipsos MORI wedi argymell cynnal ymchwil ymgynghori ar raddfa fawr gyda sampl o boblogaeth oedolion y DU a oedd yn adlewyrchu’r boblogaeth genedlaethol. Roedd yr ymchwil wedi cynnwys cyfanswm o 286 o gyfranogwyr. Cynhaliwyd wyth gweithdy ledled y DU yn Chwefror a Mawrth 2019 ac roedd pob gweithdy yn cynnwys tua 34 o gyfranogwyr 18-86 oed (cyfanswm o 271). Hefyd cynhaliwyd 15 o gyfweliadau ychwanegol ag unigolion yn eu cartrefi ym Mawrth a dechrau Ebrill 2019 gyda chyfranogwyr 79-91 oed a fyddai wedi’i chael yn anodd dod i weithdai mewn lleoliadau hygyrch. Pwrpas yr ymchwil oedd cofnodi barn ystyriol cyfranogwyr am y polisi trwydded deledu ar sail oed, a’r rhesymau dros eu barn. Cafodd cyfranogwyr amser i ystyried tystiolaeth fanwl o’r broses ymgynghori yn ystod y sesiynau. Roedd hyn yn caniatáu iddynt werthuso – i’r graddau roeddent yn teimlo ei bod yn berthnasol – yr effaith o unrhyw benderfyniad am bolisi at y dyfodol ar yr holl ddeiliaid trwydded, yn cynnwys grwpiau oedran hŷn, a goblygiadau’r costau i’r BBC. 18-096921-01 | Fersiwn 1 | Cyhoeddus | Cyflawnwyd y gwaith hwn yn unol â gofynion y safon ansawdd ryngwladol ar gyfer Ymchwil i’r Farchnad, ISO 20252, a hefyd â Thelerau ac Amodau Ipsos MORI y gellir eu gweld yn http://www.ipsos-mori.com/terms. ©BBC 2019 Ipsos MORI | Polisi trwydded deledu ar sail oed: ymchwil ymgynghori 2 Mae’r ymchwil yn cynnig dealltwriaeth o ystod ac amrywiaeth debygol y farn ymysg poblogaeth oedolion y DU. Fodd bynnag, mae’n bwysig pwysleisio mai ymchwil ansoddol yw hon – yn yr un modd ag ymchwil ymgynghori arall – ac felly nad yw’n ceisio pennu’r union nifer yn y boblogaeth sy’n dal barn benodol. Y prif ganfyddiadau Mae’r canfyddiadau yn yr adroddiad hwn yn disgrifio’r nifer mawr o farnau gwahanol am ddyfodol y consesiwn a drafodwyd gan gyfranogwyr. Ceir crynodeb o’r trafodaethau hyn drwy’r adroddiad, yn cynnwys yr heriau roedd cyfranogwyr yn eu gweld wrth ystyried y penderfyniad sy’n wynebu’r BBC, a’r gwahanol feini prawf roeddent wedi’u hystyried wrth edrych ar y materion dan sylw. Yn yr adran hon, rydym yn ceisio tynnu ynghyd y casgliadau mwy cyffredinol y gallwn ddod iddynt ar sail trafodaethau’r cyfranogwyr a’r hyn roeddent yn ei ffafrio ar gyfer y consesiwn yn y dyfodol. Mae crynodeb o’r rhain isod: ▪ Roedd trafod y polisi trwydded deledu ar sail oed yn anodd i gyfranogwyr, ac roeddent wedi pwysleisio bob amser fod y penderfyniad hwn yn un anodd i Fwrdd y BBC. Roeddent wedi trafod ffyrdd i gydbwyso’r effaith ar bobl hŷn, yn enwedig yr effaith ddichonol o gymryd yn ôl rywbeth y maent yn ei gael yn barod, a’r effaith ar raglenni a gwasanaethau’r BBC. Roedd nifer mawr yn teimlo bod her fawr i’w hwynebu wrth geisio cydbwyso’r effeithiau hyn gan y byddai rhai ar eu hennill a rhai ar eu colled beth bynnag fydd y penderfyniad. ▪ O ganlyniad i hyn, teimlai rhai y dylai’r BBC fynd yn ôl at y llywodraeth i ofyn am gyllid i barhau â rhyw fath o gonsesiwn, neu am fwy o hyblygrwydd o ran lefel ffi’r drwydded. Roedd nifer mawr o gyfranogwyr hefyd am weld y BBC yn ceisio dilyn llwybrau eraill i sicrhau arian, fel hysbysebu neu danysgrifio fel ffyrdd eraill i godi refeniw. ▪ Beth bynnag oedd eu barn gyffredinol am ddyfodol y consesiwn, roedd cyfranogwyr wedi pwysleisio ei bod yn bwysig i’r BBC barhau i wneud arbedion effeithlonrwydd, yn cynnwys lleihau cyflogau staff a rhoi blaenoriaeth i raglenni a gwasanaethau penodol, cyn gwneud unrhyw newidiadau yng nghonsesiwn ffi’r drwydded ar sail oed. Roedd hyn yn adlewyrchu canfyddiad ymysg y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr fod rôl i’r BBC, pobl hŷn, a thalwyr ffi’r drwydded mewn talu am unrhyw gonsesiwn. ▪ Roedd nifer mawr o gyfranogwyr yn ei chael yn anodd cynnig argymhelliad am ddyfodol y consesiwn ac roedd yn golygu pwyso a mesur gwahanol flaenoriaethau, a oedd weithiau’n cystadlu

View Full Text

Details

  • File Type
    pdf
  • Upload Time
    -
  • Content Languages
    English
  • Upload User
    Anonymous/Not logged-in
  • File Pages
    109 Page
  • File Size
    -

Download

Channel Download Status
Express Download Enable

Copyright

We respect the copyrights and intellectual property rights of all users. All uploaded documents are either original works of the uploader or authorized works of the rightful owners.

  • Not to be reproduced or distributed without explicit permission.
  • Not used for commercial purposes outside of approved use cases.
  • Not used to infringe on the rights of the original creators.
  • If you believe any content infringes your copyright, please contact us immediately.

Support

For help with questions, suggestions, or problems, please contact us