BREUDDWYDION MAXINE NOFEL BOBI JONES 1 I BETI 2 Dychmygol yw holl gymeriadau’r nofel hon. Dychmygol yw hyd yn oed yr awdur. 3 RHAN I 4 1 Roedd Maxine Pearse yn weddol argyhoeddedig ei bod wedi syrthio mewn cariad. Ond un o’r menywod hynny oedd hi, ar ôl amau’i bod yn meddu ar y fath gyflwr anghyfforddus, a ffwdanai’n od o gydwybodol ynghylch pa un o’r cerrig ar draws wyneb ei llyn y dylai’i chydnabod yn awdur i’r crych y tro hwn. Digon i rywrai yw bod mewn cariad. Myn eraill blymio’n drafferthus i ddod o hyd i wrthrych yr anesmwythyd. ‘Fyset ti byth yn credu,’ meddai hi yn ei Chymraeg safonol gyda gwyriad deuseiniaid Awstralia yn damsang arno, a chan rolio diffyg ystyr ei llygaid yr un pryd. ‘Na. Fyset ti ddim.’ ‘O! byswn,’ meddai Mair yn araul o hyderus. ‘Dyw hynny ddim yn astrus chwaith. Un pen moel. Beth arall?...O! a smicyn o freuddwyd.’ Hedai gwên fach ddistaw wybodus ychydig uwch wyneb y lawnt gan eu cylchu. Ni laniai ar yr un o’u hwynebau. Troliai Maxine ei llygaid drachefn yng nghasino’i phenglog. Roedd arni gywilydd fod tudalennau’i hymennydd yn chwythu’n bur agored ar y cwthwm lleiaf o anadl wrywaidd. Ac eto ... ‘Merchetaidd,’ bu bron i Mair feddwl amdani’n garedig. ‘Iâr-fach-yr-haf,’ meddyliai Maxine hithau amdani’i hun yn fwy na charedig. ‘Glas, melyn, coch, fflip-fflop, o ardd i ardd.’ Ymhinoni a wnâi’r ddwy gyfeilles hyn ym mwynder eu canol-oed diweddar ac yng nghysur eu cadeiriau brwyn ar y lawnt ddi-don a oedd heddiw yn fath o estyniad mwyn i lolfa Mair. Yn wir, cludasai Mair beth broc o’r lolfa honno — bord fechan addurniedig, basgedaid o lyfrau ac albymau, powlen a’i llond o afalau gwlanog a grawnwin. A rhwyd fechan i ddal ieir-bach-yr-haf. Arfaethai sefydlu ymerodraeth wâr lolfaog ar lannau’r glesni y tu allan. Cyfeillesau cynganeddus oedd y ddwy. Mair yn afon dangnefeddus, Maxine yn ffrwd gymedrol drochionog. Dwy fwyn. Ond cuddiai Mair rywbeth mwy na mwynderau o dan 5 ddiogelwch ei chroen. ‘Sinema’r dyn tlawd yw breuddwydion,’ sylwai Mair yn bryfoclyd. ‘Wyt ti eisiau clywed neu ...?’ holai’r fwyaf breuddwydiol o’r ddwy wedyn yn obeithiol ac yn heriol … ‘neu ...’ er mwyn i’r llall gael cyfle i golli gemau pe gallai fforddio hynny. ‘Neu ...?’ ‘Neu! Ie, neu!’ atebai Mair yn bendant. 'Mae 'na reswm ym mhopeth.' ‘Ond Mair.’ ‘Bob yn ail fore, iawn. Bob bore ambell waith, wel … Ond bore a phrynhawn, prin.’ Pwdai Maxine gyda pheth arddeliad; a suddai hi’n ôl i’w phensyndod. ‘Aros funud,’ meddai Mair ymhellach, a’r ffeminydd hunanfeirniadol ganddi fel pe bai’n brigo i’r goleuni. ‘Oes... oes ’na gelanedd gwrywaidd ynddi te?’ ‘Oes,’ petrusai Maxine er mwyn swnio’n atyniadol. ‘Efallai,’ lond y lle. ‘Menywod hardd yn eu hatynnu-nhw fel fflamau?’ ‘Oes.’ ‘Dim dianc, a’r dynion ymhobman yn mynd i’w hateb?’ Wrth i Mair gynhesu ychydig yn goeg, dechreuai Maxine swnio’n bryderus. ‘Aros funud,’ meddai mewn ffug fraw sydyn wedi mynd yn rhy bell efallai.. ‘Pwylla.’ Cafwyd pum eiliad o bwyll. Bron. ‘Yn dy flaen, ’te,’ meddai Mair, ‘Mae pwyll yn swnio’n addawol.’ ‘Wel, fel hyn roedd hi …’ meddai Maxine gan eistedd yn ôl... ac yn ôl. ‘Cerddetian rown i tu fa’s i brif orsaf rheilffordd Sydney. Dyma ŵr tal, Indiaidd ei olwg, eithaf hawddgar, hawddgar iawn ddwedwn i, yn gwthio llythyr i’n llaw-i.’ Swniai'n rhesymol. ‘Rown i’n pendroni pryd roedd India am ddod i’r golwg.’ ‘Agorais i’r amlen, a’r cwbl oedd ar y nodyn tlawd y tu mewn oedd …’; a gostyngai’i llais: ‘Tu fa’s i Swyddfa’r Post.’ Symudai Maxine drigain mlwydd ei dwylo wrth siarad. Rholiai’i dychymyg yn y gwair fel merch bymtheg oed. Codai Mair ei haeliau’n ofalus fel clwydi croesfa reilffordd. Chwibanai’r trên heibio. ‘Dyna’r cwbl?’ ‘Dim sill arall.’ ‘Yr IRA! Maxine.’ ‘Sut?’ ‘Dy gyfenw Pearse, dyna sy’n gwneud hi iti o hyd.’ 6 ‘A Swyddfa’r Post y tro hwn?’ ‘Beth arall? Prif euogfan Iwerddon. Beth wnest ti?’ Gwenu a wnâi Mair. Roedd ganddi ffordd o wenu’n amwys fel pe dwedai na wnâi’r tro i neb edrych ar ei hwyneb os nad oedd yn barod i’w ddehongli. ‘Dim ond edrych.’ ‘Fel llo?’ ‘Fel llygaid.’ ‘Beth oet ti’n feddwl?’ ‘Fel rwyt ti’n gweld, doedd ei eiriau ddim yn anodd.’ ‘Ond yr IRA? Un o’u celloedd Asiaidd efallai?’ holai Mair yn amheus gyffrous o hyd. ‘Roedd y ffilm yn dadrolio’n lliwgar o ’mhen ar y pryd. A’r cwbl heb dâl mynedfa.’ Byddai cryn gywilydd ar Mair gyfaddef wrth neb byw bedyddiol beth oedd ei hoff freuddwyd. Roedd hi bron bob amser — wyth waith allan o naw — yn golchi llestri. Mynydd didrugaredd o lestri yn byrlymu i mewn drwy ffenest y gegin, yn treiglo’n ymwasgedig drwy gil y drws, yn llamu fel lloi wrth gyrraedd y golchwr, llestri tragwyddol tra chywilyddus. ‘Wedyn,’ meddai Maxine yn gryptig gan hogi’i llygaid ar y gorwel, ‘y digwyddodd y trychineb … ’ Canodd cloch drws y ffrynt. Dyrchafodd clustiau Maxine fel goleudai. Curwyd eto ar y drws o ran cerydd. Ymsythodd Maxine a sgwaro. Roedd ganddi hawl i balu breuddwyd. Ac os oedd y freuddwyd honno (yng ngolwg annychymyg Mair) yn ei harwain allan yn rhy bell drwy ddrws y gegin ambell dro i gapswl gofod — a bant â hi i Ynys Afallon, — ei busnes hi a neb arall oedd hynny. ‘Wedyn,’ meddai’r freuddwydreg hirfelyn, ‘digwyddodd rhywbeth mor faldodus …’ a dyma’r gloch yn codi’i llais eilwaith drwy’r gymdogaeth. ‘Rhywbeth mor anfeidrol o drychinebus …’ Yna, heb ddisgwyl am nac ateb na chwestiwn, sgrechodd cloch y ffrynt atalfa drachefn yn llai hirfelyn … Suddai gweddillion Maxine. ‘Oet ti’n dis- …?’ ‘Neb,’ meddai Mair. Ond roedd hi bob amser yn disgwyl rhyw gyflafan. ‘Menna sy ’na te. Dwi’n nabod ei hamseru hi. Dwi’n ei heglu hi. Galwa-i ’to.’ Protestiai Mair. ‘Neb.’ Gwrthbrotestiai Maxine. Codai. 7 Cyd-brotestiasant. Symudai Maxine. Roedd Maxine bob amser yn byw fel pe bai’n darllen nofel ramantaidd. Ac yr oedd cyffro ysgafn fel gwyfyn bob amser yn rhan o gyfrodedd felly. Ymlwybrai Mair o flaen Maxine, serch hynny, allan i’r cyntedd yn anfoddog. Gwisgai Maxine ei siaced fraith, ‘Cei’r hanes ’to.’ Glaswenai Mair yn garedig tuag at y bygythiad. A daeth Menna Wilfall i’r tŷ. Roedd gwên feicrosgopig drosti fel clecs echdoe. ‘O, paid â sgrialu o ’ma,’ erfyniai’n braf. ‘Mae’n rhaid. Rown i ar fynd, ta beth. Sut wyt ti, Menna fach?’ ‘Oes gen ti hanner awr?’ meddai honno. Cilwenai. Pan agorai Menna’i gwefusau a dangos ei dannedd, roedd fel pe bai’n tynnu’i bra. ‘Ond yn gyffredinol?’ holai Maxine ymhellach. ‘Yn gyffredinol … cyffredin.’ ‘A! addawol te.’ ‘Mae’n achub rhywun rhag clywed y breuddwydion o leiaf,’ brathai Menna gan godi’i llais. ‘Os oes ar rywun eisiau cael ei hachub?’ Gwenai Menna yn surfelys. ‘Ddoi di byth i fod yn freuddwydreg o ddifri, Maxine. Rwyt ti’n darllen gormod o lyfrau.’ Roedd ar Menna newyn am realiti. Ceisiai Maxine beidio â’i llofruddio wrth fynd heibio. Ymwthiai Menna ymlaen drwy’r cyntedd. Datblygasai’i gwên bellach nes ei bod fel pe bai’n hysbysebu persawr. Dôi i mewn yn stiletos i gyd fel pe baen nhw’n yn chwilio am fys bawd Maxine i lanio arno. Troes am y tro olaf at Maxine a’i hysgithrau’n fflachio. Poerodd: ‘Ddoi di byth yn ferch fawr ti’n gwbod Maxine nes dy fod di’n taflu’r broc breuddwydiol yna’n ôl i’r môr.’ Crinodd Maxine yn fewnol. Parhaodd Menna gan geisio ymddangos yn ysgafn: ‘Does gen i ond dirmyg llwyr tuag at …’ Ac oedai ei barcud fel llais yn yr awyr gan chwilio am y gair islaw yn llechu yn y borfa. Gwelai mai ‘dychymyg’ oedd y gair hwnnw, ond math o ysglyfaeth waharddedig oedd hwnnw hefyd i’w thrachwant beirniadol. Chwiliai mewn mannau eraill am enw llai canmoliaethus. ‘Fywyd?’ mentrodd Maxine. Rhodiai’i mwynder heibio i Menna tuag at y drws. Yna, stopiodd. Cilsyllodd Maxine ar gornel wyneb Menna heb edrych arni. Syllodd, tan brotestio’r tu mewn gywilydd. Yna, trodd Maxine tuag yn ôl i ffarwelio â’r tŷ. Yr eiliad yna cafodd saeth freuddwyd. Llygoden Ffrengig wedi ymrithio’n 8 sydyn oedd Menna. Dymunodd Maxine frysio rhagddi. Troes fel pe bai wedi anghofio’i hymennydd. Ac eto, gwnaeth gam neu ddau yn eu hôl. Yna’n ddisymwth, heb iddi’i hun ei sylweddoli, estynnodd o berfedd ei mwynder glatsien fechan at foch Menna, yn chwareus, bron. A throes drachefn i ailgydio yn yr ymadael. Châi'r anhunwraig sarhau'i breuddwyd hi. Roedd Menna a Mair yn ddistaw syfrdan. Parlyswyd cymaint o lygaid ag a oedd ganddynt. Safai’r lipstig ar eu gwefusau’n stond. A gwibiodd Maxine rhagddi i’r gofod. 2 Ymadawsai Maxine â’r tŷ gan deimlo gollyngdod fel awyr drwy dwll mewn teiar a oedd wedi gyrru y ffordd honno lawer tro o’r blaen. Wrth y drws, cyd-ffarweliodd y ddwy, Mair a Maxine, â’i gilydd, eithr nid cyn i Maxine grybwyll yn gynnil ei hoed hirhoedlog gyda Pascolini. Wedi’r ymadawiad enfawr, ymsefydlodd Mair a Menna yn anochel uwch- Facsinaidd ar gyfer eu post-mortem coffïaidd. Ond mewn sioc wedi'r glatsien. ‘Own i wedi dweud rhywbeth?’ gofynnai Menna. Nid oedd Mair yn gwybod ble’r oedd hi.
Details
-
File Typepdf
-
Upload Time-
-
Content LanguagesEnglish
-
Upload UserAnonymous/Not logged-in
-
File Pages484 Page
-
File Size-