Llifogydd yng Nghymru ym mis Chwefror 2020: Adolygiad Rheoli Digwyddiadau Llifogydd Cyhoeddwyd 22 Hydref 2020 Cyhoeddwyd gan: Cyfoeth Naturiol Cymru Tŷ Cambria 29 Heol Casnewydd Caerdydd CF24 0TP 0300 065 3000 (Llun – Gwener, 8am – 6pm) [email protected] www.cyfoethnaturiol.cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru Cedwir pob hawl. Gall y ddogfen hon gael ei hatgynhyrchu â chaniatâd ymlaen llaw gan Cyfoeth Naturiol Cymru Cynnwys Crynodeb gweithredol ........................................................................................................................1 Cyflwyniad ..........................................................................................................................................9 Cwmpas a methodoleg ....................................................................................................................10 Rolau a chyfrifoldebau sefydliadol ...................................................................................................12 Amddiffynfeydd rhag llifogydd ..........................................................................................................13 Effeithiau yr arsylwyd arnynt ........................................................................................................13 Storm Ciara ..............................................................................................................................13 Storm Dennis ...........................................................................................................................14 Storm Jorge ..............................................................................................................................16 Crynodeb ..................................................................................................................................16 Amddiffyn rhag llifogydd – pwyntiau i’w hystyried ........................................................................17 Darogan llifogydd a rhybuddio am lifogydd ......................................................................................19 Hydrometreg a thelemetreg – Canfod ..........................................................................................19 Modelu a darogan .......................................................................................................................21 Cywirdeb ..................................................................................................................................24 Gweithrediad y gwasanaeth .........................................................................................................28 Cywirdeb ac amseroldeb .............................................................................................................35 Trosolwg o Adolygiad y Gwasanaeth Rhybuddio am Lifogydd ....................................................38 Pwyntiau rhybuddio am lifogydd i’w hystyried ..............................................................................39 Ymateb gweithredol .........................................................................................................................41 Rheoli digwyddiadau ........................................................................................................................45 Gweithio gydag eraill ....................................................................................................................45 Gweithdrefnau digwyddiadau .......................................................................................................47 Pwyntiau rheoli digwyddiadau i’w hystyried .................................................................................49 Gallu gweithredol .............................................................................................................................51 Staffio ...........................................................................................................................................51 Gwydnwch a chapasiti’r rota dyletswydd .................................................................................51 Iechyd a diogelwch ...................................................................................................................55 Paratoi a chynllunio’r rota .........................................................................................................56 Cyfarpar .......................................................................................................................................56 Cyfarpar maes gan gynnwys cerbydau ....................................................................................56 TGCh ........................................................................................................................................57 Ystafelloedd digwyddiadau ......................................................................................................59 Cyfathrebu .......................................................................................................................................60 Cyfnod adfer ....................................................................................................................................63 Casgliadau .......................................................................................................................................68 Argymhellion cyfunol a chynllun gweithredu arfaethedig .................................................................73 Rhestr termau ..................................................................................................................................89 Ynglŷn â Cyfoeth Naturiol Cymru Diben Cyfoeth Naturiol Cymru yw ceisio rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae hyn yn golygu gofalu am yr aer, tir, dŵr, bywyd gwyllt, planhigion a phridd i wella llesiant Cymru a chynnig dyfodol gwell i bawb. Crynodeb gweithredol Gwelodd Cymru’r pumed mis gwlypaf a gofnodwyd erioed yn ystod mis Chwefror 2020 yn ogystal â'r mis Chwefror gwlypaf a gofnodwyd erioed. Gwnaeth hyn arwain at lifogydd eang yn ystod Storm Ciara (8–9 Chwefror 2020), Storm Dennis (15–17 Chwefror 2020) a Storm Jorge (28 Chwefror i 1 Mawrth 2020). Gwnaeth y stormydd hyn arwain at lifogydd mewn 3,130 eiddo ledled Cymru, sy'n golygu mai hwn yw’r cyfnod a welodd y gyfres fwyaf sylweddol o lifogydd yng Nghymru ers y llifogydd ym mis Rhagfyr 1979, a wnaeth gael effaith ar nifer fawr o'r un cymunedau. Gwnaeth 22% o fesuryddion afonydd Cyfoeth Naturiol Cymru gofnodi eu lefelau dŵr uchaf erioed yn ystod Storm Dennis. Mae'n sicr bod stormydd mis Chwefror 2020 yn ddigwyddiadau eithriadol a roddodd straen fawr ar yr holl ymatebwyr brys. Bu staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio'n galed trwy gydol y cyfnod, gan ddefnyddio'u sgiliau a'u profiad i ymateb yn broffesiynol i'r digwyddiadau a oedd yn datblygu. Bu i’n staff weithio ar olrhain rhagolygon, rhoi rhybuddion, sicrhau bod asedau llifogydd a hydrometreg yn gweithredu'n briodol, trwsio atgyweiriadau, postio'r wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan, ymdrin â chyfweliadau â’r cyfryngau ac ymholiadau ganddynt, a chefnogi sefydliadau eraill sy’n ymateb i ddigwyddiadau. Buon nhw'n gweithio yn ystod y dyddiau, wythnosau a misoedd ar ôl y digwyddiadau i archwilio asedau, gwneud atgyweiriadau a gwneud gwelliannau uniongyrchol i'n gwasanaeth. Ceir nifer o enghreifftiau o arfer da yn yr adborth i’r adolygiad; gwnaeth penderfyniadau a chamau a gymerwyd gan staff Cyfoeth Naturiol Cymru chwarae rôl allweddol wrth reoli'r sefyllfa a lleihau effaith y stormydd. Serch hynny, cafodd gwasanaethau Cyfoeth Naturiol Cymru a'r rolau y mae'n ymgymryd â nhw yn ystod digwyddiad llifogydd sylweddol eu profi'n ddifrifol yn ystod y cyfnod hwn ac, mewn rhai achosion, cafodd ein gwasanaethau eu hymestyn y tu hwnt i'w galluoedd. Mae hwn yn adroddiad a adolygwyd yn annibynnol ar yr ymateb i’r llifogydd a ddarperir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r adroddiad adolygu hwn yn canolbwyntio ar y materion a gwersi mewnol a nodwyd o ran adnoddau, systemau, offer, ffyrdd o weithio, gweithdrefnau a chanllawiau, ond nid yw'n ystyried perfformiad unrhyw unigolion. Nid yw'n ystyried perfformiad sefydliadau eraill, na sut y gwnaeth Cymru ymateb yn ei chyfanrwydd i'r digwyddiadau. Mae adolygiadau ymchwilio i lifogydd parhaus ac ar wahân yn cael eu cynnal gan bob awdurdod lleol a gafodd ei effeithio gyda chymorth Cyfoeth Naturiol Cymru lle bo'n briodol. Cynhaliwyd adolygiad ar wahân hefyd mewn perthynas â sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru mewn ymateb i effaith stormydd mis Chwefror. Cynhyrchwyd adroddiad ffeithiol ar wahân hefyd sy'n cofnodi ffeithiau ac ystadegau ynglŷn â’r llifogydd i gyd-fynd â'r adroddiad adolygu hwn. Yn ogystal â chydnabod yr elfennau cadarnhaol niferus yn yr ymateb gweithredol, mae'r adolygiad hwn yn nodi deg maes allweddol gyda chamau ar gyfer eu gwella. Mae'r rhain yn cael eu cydgrynhoi mewn cynllun gweithredu, sydd wedi'i gynnwys fel rhan o'r ddogfen adolygu hon. Mae'r cynllun hwn yn cynnig arweinwyr busnes tebygol, costau dangosol ac amserlenni er mwyn cyflawni'r argymhellion hyn. Amddiffynfeydd rhag llifogydd Mae perfformiad amddiffynfeydd rhag llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael ei ystyried. Mae rhwydwaith helaeth o amddiffynfeydd yng Nghymru; mae'r amddiffynfeydd hyn yn hanfodol i allu'r genedl i ymdopi â llifogydd, ac maen nhw'n rhan o seilwaith cenedlaethol hanfodol Cymru. Diogelwyd oddeutu 19,000 eiddo yn ystod Storm Dennis yn unig, ond cafodd 3,130 eiddo lifogydd yn ystod mis Chwefror 2020.
Details
-
File Typepdf
-
Upload Time-
-
Content LanguagesEnglish
-
Upload UserAnonymous/Not logged-in
-
File Pages92 Page
-
File Size-