
Dogfen ir Cyhoedd GŴYS A RHAGLEN SUMMONS AND AGENDA ar gyfer for a CYFARFOD RHITHWIR VIRTUAL MEETING OF THE O GYNGOR SIR ISLE OF ANGLESEY YNYS MÔN COUNTY COUNCIL ar on DYDD MAWRTH TUESDAY 9 MAWRTH 2021 9 MARCH 2021 am 2.00 o’r gloch at 2.00 pm Ar hyn o bryd nid yw’r Pwyllgor hwn yn cael ei wȇ-ddarlledu’n fyw. Bydd recordiad o’r cyfarfod ar wefan y Cyngor cyn gynted â phosibl. R H A G L E N 1. COFNODION Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft o’r cyfarfodydd Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:- • 8 Rhagfyr 2020 • 2 Chwefror 2021 (Arbennig) 2. DATGANIADAU O DDIDDORDEB I dderbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. 3. I DDERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, ARWEINYDD Y CYNGOR NEU’R PRIF WEITHREDWR. 4. CWESTIYNAU A DDERBYNIWYD YN UNOL Â RHEOL 4.1.12.4 O’R CYFANSODDIAD. I gyflwyno rhybudd o’r cwestiwn canlynol gan y Cynghorydd Robert Ll Jones i Arweinydd y Cyngor:- “Rydym bellach yn gweld gostyngiad sylweddol yn y traffig nwyddau sy’n mynd a dod i Ddulyn drwy Borthladd Caergybi. Mae nifer o wahanol resymau yn cael eu rhoi am hyn ac mae’n rhaid i ni fel Cyngor Sir fod yn bryderus a chael ein gweld i fod yn gwneud popeth y gallwn er mwyn cefnogi’r ddau gwmni llongau a’u gweithlu. Allwch chi hysbysu’r Llongwyr lleol a thrigolion Caergybi ac Ynys Môn beth yn union yr ydym ni fel Cyngor wedi ei wneud er mwyn ymgysylltu â’n Haelod Cynulliad a’n Aelod Seneddol er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud popeth posibl er mwyn helpu ein porthladd i gynyddu’r llif traffig drwy Gaergybi. Mae hon yn sefyllfa ddifrifol iawn a does dim amheuaeth bod Gweithredwyr Porthladdoedd eraill yn y DU a Ffrainc yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod ein traffig yn mynd trwy eu porthladdoedd nhw a bydd eu hawdurdodau lleol nhw yn gwneud popeth o fewn eu gallu i’w hannog nhw i wneud hynny.” 5. CYFLWYNO DEISEBAU Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad. 6. RHYBUDD O GYNNIG YN UNOL Â RHEOL 4.1.13 .1 Y CYFANSODDIAD I dderbyn y Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd Robert Ll Jones:- “Mae dyletswydd ar ein Cyngor i gadw at Ddatganiad Dulyn ar Ddinasoedd a Chymunedau Oedran Gyfeillgar yn Ewrop 2013 er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd o bobl hŷn yn y gymuned ac i sicrhau bod eu pryderon yn cael eu gweithredu arnynt a’u bod yn cael cyfle i rywun wrando arnynt. Mae gan Ynys Môn un o’r poblogaethau hŷn mwyaf yng Nghymru ac mae eu cyfraniad i economi Ynys Môn yn bwysig iawn. Mae gennym Fforwm Pobl Hŷn ar Ynys Môn ac nid ydynt erioed wedi derbyn cyflwyniad gan yr Adran Economaidd na’r Adran Gynllunio ar ddatblygiadau mawr megis Wylfa, Coedwig Penrhos, y datblygiad mawr ym Marina Caergybi na datblygiad Tŷ Mawr yn Llanfair PG. Rwy’n gofyn bod hyn yn cael ei wneud yn rhywbeth gorfodol a bod cyflwyniad yn cael ei roi ar bob datblygiad mawr er mwyn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed pan ddaw hi at benderfyniadau am fannau agored a’r posibilrwydd o ddinistr amgylcheddol. Mae mannau agored a mannau cerdded yn ein trefi a chefn gwlad mor bwysig i ni gyd ond yn enwedig i’n trigolion oedrannus ac anabl”. 7. RHEOLI TRYSORLYS - ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN 2020/21 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 14 Rhagfyr 2020. 8. DATGANIAD AR STRATEGAETH RHEOLI TRYSORLYS 2021/22 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 1 Mawrth 2021. 9. STRATEGAETH GYFALAF A RHAGLEN GYFALAF 2021/22 I 2023/24 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 1 Mawrth 2021. 10. CYLLIDEB 2021/22 (a) Y Strategaeth Ariannol Tymor Canol a Chyllideb 2021/22 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 1 Mawrth 2021. (b) Cyllideb Gyfalaf 2021/22 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 1 Mawrth 2021. (c) Gosod y Dreth Gyngor 2021/22 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 1 Mawrth 2021. (d) Diwygio’r Gyllideb Derbyn y diwygiadau canlynol i'r Gyllideb, y mae rhybudd ohonynt wedi ei dderbyn o dan Baragraff 4.3.2.2.11 o'r Cyfansoddiad. Y Cynghorydd Bryan Owen, ar ran Plaid Annibynwyr Ynys Môn, i gynnig bod y cynnydd yn y Dreth Gyngor yn cael ei bennu ar 2% gyda'r diwygiadau a ganlyn i'r Gyllideb: £150,000 i ddod allan o'r Parc Eco (Parc Adfer) sydd ag oddeutu £911,000 yn y cyfrif ar hyn o bryd. £75,000 o'r cyllid ar gyfer Wylfa, sydd yn oddeutu £675,000 rhwng 3 chyfrif. £75,000 o'r gronfa wrth gefn sydd ag oddeutu £365,000 yn y cyfrif. Byddai hyn, gyda'r Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, yn darparu'r £308,000 y byddai ei angen fel y gellir pennu’r cynnydd yn y Dreth Gyngor ar 2% am y flwyddyn 2021/22. (Nodyn: Mae angen ystyried yr holl bapurau uchod fel un pecyn). 11. AELOD LLEYG NEWYDD AR Y PWYLLGOR ARCHWILIO A LLYWODRAETHU Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Archwilio a Risg, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 9 Chwefror 2021. 12. DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. 13. DATGANIAD POLISI TÂL 2021 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid. 14. CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Eitem 1. ar y Rhaglen CYNGOR SIR YNYS MÔN Cofnodion y cyfarfod Rhithwir a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2020 PRESENNOL: Y Cynghorydd Margaret Murley Roberts (Cadeirydd) Y Cynghorydd Glyn Haynes (Is-Gadeirydd) Y Cynghorwyr R Dew, John Griffith, Richard Griffiths, K P Hughes, T Ll Hughes MBE, Vaughan Hughes, Llinos Medi Huws, A M Jones, Carwyn Jones, Eric Wyn Jones, Richard Owain Jones, G O Jones, R Ll Jones, R Meirion Jones, Alun W Mummery, Bryan Owen, R G Parry OBE FRAgS, Dylan Rees, Alun Roberts, Dafydd Roberts, J A Roberts, Nicola Roberts, P S Rogers, Dafydd Rhys Thomas a Robin Williams. WRTH LAW: Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr, Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro, Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc, Cyfarwyddwr Dros Dro - Gwasanaethau Cymdeithasol, Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid, Pennaeth Gwasanaethau Tai, Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro, Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol a Chontractau) (MY), Rheolwr Sgriwtini (AD), Swyddog Pwyllgor (MEH). HEFYD YN Neb BRESENNOL: YMDDIHEURIAD: Y Cynghorydd Ieuan Williams 1. COFNODION Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfodydd canlynol y Cyngor Sir yn gywir: - 8 Medi 2020 (Cyfarfod Cyffredin) 8 Medi 2020 (Cyfarfod Blynyddol) 27 Hydref 2020 (Arbennig) 2. DATGANIADAU O DDIDDORDEB Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. 3. DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, ARWEINYDD Y CYNGOR NEU'R PRIF WEITHREDWR 1 Tudalen 1 Gwnaed y cyhoeddiadau isod gan y Cadeirydd:- Roedd y Cadeirydd yn dymuno diolch i'r staff am y gwaith diflino mewn blwyddyn anodd sydd wedi gweld sawl her a gobeithir yn ddiffuant y bydd pethau'n gwella yn ystod y misoedd i ddod. Llongyfarchiadau i Ffermwyr Ifanc Ynys Môn sydd wedi derbyn gwobr yn ddiweddar am eu gwaith ieuenctid yng Nghymru yn y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid o ganlyniad i drefnu Eisteddfod Môn 2019. * * * * * Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod o'r Cyngor neu staff a oedd wedi cael profedigaeth. 4. RHYBUDD O GYNIGIAD Cyflwynwyd - y Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorydd Bryan Owen ac a gymeradwywyd gan y Cynghorydd Aled Morris Jones: - ‘Rydym ni, Grŵp Annibynwyr Môn, yn gwneud cais bod Ynys Môn yn cymryd yr holl fesurau i sicrhau llesiant economaidd Ynys Môn yn yr hinsawdd economaidd yn dilyn Brexit ar ôl 1 Ionawr 2021. Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen fod Ynys Môn, fel llawer o awdurdodau lleol eraill, wedi elwa o arian gan yr UE dros y blynyddoedd. Holodd pa gamau y mae'r Awdurdod yn eu cymryd i sicrhau'r cyllid ffyniant y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ei ragweld yn dilyn Brexit. Dywedodd y Cynghorydd Owen fod angen i Ynys Môn sicrhau cefnogaeth ariannol fel yr oedd yn ei dderbyn cyn gadael yr UE yn y cyfnod ar ôl Brexit. Eiliodd y Cynghorydd Aled M Jones y Cynigiad a rhoddodd drosolwg o brosiectau sydd wedi cael cefnogaeth ar yr Ynys. Dywedodd ymhellach: - Bod angen cynnal adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd, a hynny ar fyrder, gan nad yw'r Cynllun yn gynaliadwy i ddatblygu cymunedau lleol Ynys Môn; Rhagwelir canlyniad y Gorchymyn Caniatâd Datblygu ar gyfer Wylfa Newydd erbyn diwedd eleni; Mae statws Porthladd Rhydd o'r pwys mwyaf i ddyfodol Caergybi; Mae angen cryfhau'r cysylltiadau rhwng yr Awdurdod hwn a Sir Benfro a Dun Laoghaire. Dywedodd yr Arweinydd y byddai'n ymateb i'r Cynigiad sydd wedi'i gyflwyno gerbron y Cyngor. Ychwanegodd fod yn rhaid cydnabod bod yr Awdurdod wedi dangos gwytnwch wrth wynebu pandemig Covid-19 sydd hefyd wedi bod yn digwydd ar yr un pryd â Brexit.
Details
-
File Typepdf
-
Upload Time-
-
Content LanguagesEnglish
-
Upload UserAnonymous/Not logged-in
-
File Pages180 Page
-
File Size-