Adroddiad Argymhellion Terfynol

Adroddiad Argymhellion Terfynol

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU Arolwg o Drefniadau Etholiadol Sir Ceredigion Adroddiad Argymhellion Terfynol Mai 2019 © Hawlfraint CFfDLC 2019 Gallwch ailddefnyddio’r wybodaeth hon (ac eithrio’r logos) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored. I weld y drwydded hon, ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open- government-licence neu anfonwch neges e-bost at: [email protected] Os ydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti bydd angen i chi gael caniatâd y deiliaid hawlfraint dan sylw. Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn at y Comisiwn yn [email protected] Mae’r ddogfen hon ar gael o’n gwefan hefyd yn www.cffdl.llyw.cymru RHAGAIR Mae’r Comisiwn yn falch o gyflwyno’r Adroddiad hwn i’r Gweinidog, sy’n cynnwys ei argymhellion ynglŷn â threfniadau etholiadol diwygiedig ar gyfer Sir Ceredigion. Mae’r arolwg hwn yn rhan o’r rhaglen o arolygon sy’n cael ei chynnal o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac mae’n dilyn yr egwyddorion a geir yn nogfen Polisi ac Ymarfer y Comisiwn. Mae tegwch wrth wraidd cyfrifoldebau statudol y Comisiwn. Amcan y Comisiwn fu gwneud argymhellion sy’n darparu ar gyfer llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac sy’n parchu cysylltiadau cymunedol lleol cyn belled ag y bo’n bosibl. Nod yr argymhellion yw gwella cydraddoldeb etholiadol, fel bod pleidlais etholwr unigol o’r un gwerth â rhai etholwyr eraill ledled y Sir, i’r graddau y bo’n bosibl cyflawni hynny. Mae’r Comisiwn yn ddiolchgar i Aelodau a Swyddogion Cyngor Sir Ceredigion am ei gynorthwyo â’i waith, i’r Cynghorau Cymuned a Thref am eu cyfraniadau gwerthfawr, ac i bawb a wnaeth gynrychiolaethau drwy gydol y broses. Owen Watkin OBE DL Cadeirydd COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL SIR CEREDIGION ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL Cynnwys Tudalen Pennod 1 Cyflwyniad 1 Pennod 2 Y Cynigion Drafft 2 Pennod 3 Crynodeb o’r Argymhellion Terfynol 3 Pennod 4 Asesiad 7 Pennod 5 Yr Argymhellion Terfynol 9 Pennod 6 Crynodeb o’r Trefniadau a Argymhellir 51 Pennod 7 Ymatebion i’r Adroddiad hwn 52 Pennod 8 Cydnabyddiaethau 53 ATODIAD 1 RHESTR TERMAU ATODIAD 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR ATODIAD 3 AELODAETH ARGYMELLEDIG Y CYNGOR ATODIAD 4 RHEOLAU A GWEITHDREFNAU ATODIAD 5 CRYNODEB O’R CYNRYCHIOLAETHAU DRAFFT ATODIAD 6 DATGANIAD YSGRIFENEDIG YSGRIFENNYDD Y CABINET DROS GYLLID A LLYWODRAETH LEOL 23 MEHEFIN 2016 Argraffiad 1af a argraffwyd ym mis Mai 2019 Mae’r Comisiwn yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn Gymraeg neu Saesneg. This document is available in English. Mae’r dogfen hyn wedi cael eu cyfiethu gan Trosol Comisiwn Ffiniau a Llywodraeth Leol Cymru Tŷ Hastings Llys Fitzalan CAERDYDD CF24 0BL Rhif Ffôn: (029) 2046 4819 Rhif Ffacs: (029) 2046 4823 E-bost: [email protected] www.cffdl.llyw.cymru COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU Julie James, AC Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru Pennod 1. CYFLWYNIAD 1. Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y Comisiwn) wedi cynnal arolwg o drefniadau etholiadol Sir Ceredigion. Cynhaliwyd yr arolwg hwn yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (y Ddeddf), Adrannau 29, 30 a 34-36 yn benodol. 2. Yn unol â’r Ddeddf, mae’r Comisiwn wedi cwblhau’r arolwg o drefniadau etholiadol Sir Ceredigion ac mae’n cyflwyno ei argymhellion terfynol ar gyfer trefniadau etholiadol yn y dyfodol. 3. Mae’r rhaglen hon o arolygon wedi dod yn sgil Datganiad Ysgrifenedig cyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, dyddiedig 23 Mehefin 2016, pan ofynnwyd i’r Comisiwn ailddechrau ei raglen o arolygon, gyda’r disgwyliad i bob un o’r 22 arolwg etholiadol gael ei gwblhau mewn pryd i roi’r trefniadau newydd ar waith ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2022. Gellir gweld y Datganiad Ysgrifenedig yn Atodiad 6. 4. Mae’r rheolau a’r gweithdrefnau y mae’r Comisiwn yn eu dilyn i’w gweld yn nogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer [2016] y Comisiwn, a chânt eu hamlinellu yn Atodiad 4. Mae Rhestr Termau i’w gweld yn Atodiad 1, sy’n rhoi disgrifiad byr o rywfaint o’r derminoleg gyffredin a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn. 5. Mae Adran 35 y Ddeddf yn gosod y canllawiau gweithdrefnol y mae’n rhaid eu dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol ag Adran 35, ysgrifennodd y Comisiwn at Gyngor Sir Ceredigion, yr holl gynghorau cymuned a thref yn yr ardal, yr ymgyngoreion gorfodol a phartïon eraill â buddiant ar 17 Ionawr 2017 i roi gwybod iddynt ein bod yn bwriadu cynnal yr arolwg ac i ofyn am eu safbwyntiau rhagarweiniol. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn o 26 Ionawr 2017 tan 19 Ebrill 2017. Sicrhaodd y Comisiwn fod copïau o’i ddogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer [2016] ar gael hefyd. 6. Cyhoeddodd y Comisiwn ei Adroddiad Cynigion Drafft ar 16 Ionawr 2018, a gofynnodd am safbwyntiau ar y cynigion. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn o 23 Ionawr 2018 tan 16 Ebrill 2018. 7. Rhoddodd y Comisiwn gyhoeddusrwydd i’r arolwg ar ei wefan a’i sianeli cyfryngau cymdeithasol. Gofynnodd i Gyngor Sir Ceredigion roi cyhoeddusrwydd i’r arolwg hefyd a rhoddodd nifer o hysbysiadau cyhoeddus iddo i’w harddangos. Rhoddwyd y rhain i’r cynghorau cymuned a thref yn yr ardal hefyd. Yn ogystal, rhoddodd y Comisiwn gyflwyniad i gynghorwyr sir a chynghorwyr tref a chymuned i esbonio proses yr arolwg a pholisïau’r Comisiwn. Gwahoddwyd y Cyngor Sir i gyflwyno cynllun awgrymedig ar gyfer trefniadau etholiadol newydd. Tudalen 1 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION Pennod 2. Y CYNIGION DRAFFT 1. Cyn llunio’r cynigion drafft, cafodd y Comisiwn gynrychiolaethau gan Gyngor Sir Ceredigion, pum cyngor tref a chymuned, dau gynghorydd sir a 44 o breswylwyr a chyrff eraill â buddiant. 2. Cynigiodd Cyngor Sir Ceredigion gynllun llawn o drefniadau (y gellir ei weld yn llawn yn Adroddiad Cynigion Drafft y Comisiwn, Ionawr 2018), a arweiniodd at gynllun o 39 aelod. Yn ogystal, cynigiodd newidiadau i’r ffiniau rhwng Tref Aberteifi a Chymuned Y Ferwig, rhwng Tref Aberystwyth a Chymuned Faenor, rhwng Tref Ceinewydd a Chymuned Llanllwchaiarn, ac ailstrwythuro’r wardiau o fewn Cymunedau Llandysul a Throedyraur. Amlygodd nifer o gynrychiolaethau a dderbyniwyd y gwahaniaethau rhwng anghenion cymunedau gwledig a threfol yn y Sir, a chyflwynodd sawl cynrychiolaeth a dderbyniwyd gan gynghorau cymuned a thref awgrymiadau amgen i’r rhai a gyflwynwyd gan y Cyngor Sir. 3. Ystyriwyd y cynrychiolaethau hyn ac fe’u crynhowyd yn yr Adroddiad Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 16 Ionawr 2018, a oedd yn rhoi gwybod i’r ymgyngoreion gorfodol a restrwyd a phartïon eraill â buddiant am yr ymgynghoriad ar y cynigion drafft a ddechreuodd ar 23 Ionawr 2018 ac a ddaeth i ben ar 16 Ebrill 2018. Gofynnodd y Comisiwn i Gyngor Sir Ceredigion arddangos copïau o’r adroddiad ochr yn ochr â hysbysiadau cyhoeddus yn yr ardal. Roedd cynigion drafft y Comisiwn yn cynnig newid i drefniant y wardiau etholiadol a fyddai wedi gwella’r cydraddoldeb etholiadol yn sylweddol ledled Sir Ceredigion. 4. Cynigiodd y Comisiwn gyngor o 38 aelod. Arweiniodd hyn at gyfartaledd sirol arfaethedig o 1,384 o etholwyr fesul aelod. Cynigiodd y Comisiwn 33 ward etholiadol, sy’n ostyngiad o’r 40 ward etholiadol bresennol. 5. Cynigiwyd i’r dangynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiant etholiadol) fod yng Ngogledd Llandysul a Throedyraur (23% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig). Ar hyn o bryd, mae’r dangynrychiolaeth fwyaf yn Llansanffraid (34% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig). 6. Cynigiwyd i’r orgynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiant etholiadol) fod yn Aberystwyth Penparcau (25% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig). Ar hyn o bryd, mae’r orgynrychiolaeth fwyaf yn Llanbadarn Fawr Sulien (46% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig). 7. Cynigiodd y Comisiwn bum ward etholiadol â dau aelod yn y Sir. 8. Ni chynigiodd y Comisiwn unrhyw newidiadau i 16 ward etholiadol. 9. Cynigiodd y Comisiwn gael wyth ward etholiadol yn y sir sy’n cyfuno rhan o gymuned neu dref sy’n rhan o ward, ynghyd â’i chymuned gyfagos. Roedd y rhaniadau cymunedol hyn yn bresennol yn Nhref Aberystwyth a Chymunedau Dyffryn Arth, Llandysul, Melindwr a Nantcwnlle. 10. Ni chynigiodd y Comisiwn unrhyw newidiadau i ffiniau. Tudalen 2 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU Pennod 3. CRYNODEB O’R ARGYMHELLION TERFYNOL • Derbyniodd y Comisiwn gynrychiolaethau gan Gyngor Sir Ceredigion, 17 cyngor tref a chymuned, pum cynghorydd sir, un pwyllgor cymunedol a 34 aelod o’r cyhoedd mewn ymateb i’r Cynigion Drafft. Ystyriodd y Comisiwn yr holl gynrychiolaethau hyn yn ofalus cyn llunio ei argymhellion. Crynhoir y cynrychiolaethau hynny yn Atodiad 5. • Mae’r Comisiwn yn argymell newid i drefniant y wardiau etholiadol a fydd yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol yn sylweddol ledled Sir Ceredigion. • Mae’r Comisiwn yn argymell cyngor o 38 aelod, sy’n ostyngiad o’r 42 aelod presennol. Mae hyn yn arwain at gyfartaledd sirol argymelledig o 1,384 o etholwyr fesul aelod. • Mae’r Comisiwn yn argymell 34 ward etholiadol, sy’n ostyngiad o’r 40 ward bresennol. • Argymhellir bod y dangynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiant o’r cyfartaledd sirol argymelledig) 23% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig (Gogledd Llandysul a Throedyraur). Ar hyn y bryd, mae’r amrywiant mwyaf 34% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig (Llansanffraid). • Argymhellir bod yr orgynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiant o’r cyfartaledd sirol argymelledig) 25% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig (Aberystwyth Penparcau). Ar hyn y bryd, mae’r amrywiant mwyaf 46% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig (Llanbadarn Fawr Sulien). • Mae’r Comisiwn yn argymell pedair ward etholiadol â dau aelod yn y Sir; Aberporth a’r Ferwig, Aberystwyth Morfa a Glais, Aberystwyth Penparcau a Beulah a Llangoedmor.

View Full Text

Details

  • File Type
    pdf
  • Upload Time
    -
  • Content Languages
    English
  • Upload User
    Anonymous/Not logged-in
  • File Pages
    89 Page
  • File Size
    -

Download

Channel Download Status
Express Download Enable

Copyright

We respect the copyrights and intellectual property rights of all users. All uploaded documents are either original works of the uploader or authorized works of the rightful owners.

  • Not to be reproduced or distributed without explicit permission.
  • Not used for commercial purposes outside of approved use cases.
  • Not used to infringe on the rights of the original creators.
  • If you believe any content infringes your copyright, please contact us immediately.

Support

For help with questions, suggestions, or problems, please contact us