<<

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Arolwg o Drefniadau Etholiadol Sir

Adroddiad Argymhellion Terfynol

Mai 2019

© Hawlfraint CFfDLC 2019

Gallwch ailddefnyddio’r wybodaeth hon (ac eithrio’r logos) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored. I weld y drwydded hon, ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open- government-licence neu anfonwch neges e-bost at: [email protected]

Os ydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti bydd angen i chi gael caniatâd y deiliaid hawlfraint dan sylw.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn at y Comisiwn yn [email protected]

Mae’r ddogfen hon ar gael o’n gwefan hefyd yn www.cffdl.llyw.cymru

RHAGAIR

Mae’r Comisiwn yn falch o gyflwyno’r Adroddiad hwn i’r Gweinidog, sy’n cynnwys ei argymhellion ynglŷn â threfniadau etholiadol diwygiedig ar gyfer Sir Ceredigion. Mae’r arolwg hwn yn rhan o’r rhaglen o arolygon sy’n cael ei chynnal o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac mae’n dilyn yr egwyddorion a geir yn nogfen Polisi ac Ymarfer y Comisiwn. Mae tegwch wrth wraidd cyfrifoldebau statudol y Comisiwn. Amcan y Comisiwn fu gwneud argymhellion sy’n darparu ar gyfer llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac sy’n parchu cysylltiadau cymunedol lleol cyn belled ag y bo’n bosibl. Nod yr argymhellion yw gwella cydraddoldeb etholiadol, fel bod pleidlais etholwr unigol o’r un gwerth â rhai etholwyr eraill ledled y Sir, i’r graddau y bo’n bosibl cyflawni hynny. Mae’r Comisiwn yn ddiolchgar i Aelodau a Swyddogion Cyngor Sir Ceredigion am ei gynorthwyo â’i waith, i’r Cynghorau Cymuned a Thref am eu cyfraniadau gwerthfawr, ac i bawb a wnaeth gynrychiolaethau drwy gydol y broses. Owen Watkin OBE DL Cadeirydd

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL SIR CEREDIGION ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL Cynnwys Tudalen Pennod 1 Cyflwyniad 1 Pennod 2 Y Cynigion Drafft 2 Pennod 3 Crynodeb o’r Argymhellion Terfynol 3 Pennod 4 Asesiad 7 Pennod 5 Yr Argymhellion Terfynol 9 Pennod 6 Crynodeb o’r Trefniadau a Argymhellir 51 Pennod 7 Ymatebion i’r Adroddiad hwn 52 Pennod 8 Cydnabyddiaethau 53

ATODIAD 1 RHESTR TERMAU ATODIAD 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR ATODIAD 3 AELODAETH ARGYMELLEDIG Y CYNGOR ATODIAD 4 RHEOLAU A GWEITHDREFNAU ATODIAD 5 CRYNODEB O’R CYNRYCHIOLAETHAU DRAFFT ATODIAD 6 DATGANIAD YSGRIFENEDIG YSGRIFENNYDD Y CABINET DROS GYLLID A LLYWODRAETH LEOL 23 MEHEFIN 2016

Argraffiad 1af a argraffwyd ym mis Mai 2019

Mae’r Comisiwn yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn Gymraeg neu Saesneg. This document is available in English. Mae’r dogfen hyn wedi cael eu cyfiethu gan Trosol

Comisiwn Ffiniau a Llywodraeth Leol Cymru Tŷ Hastings Llys Fitzalan CAERDYDD CF24 0BL

Rhif Ffôn: (029) 2046 4819 Rhif Ffacs: (029) 2046 4823

E-bost: [email protected] www.cffdl.llyw.cymru COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Julie James, AC Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru

Pennod 1. CYFLWYNIAD 1. Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y Comisiwn) wedi cynnal arolwg o drefniadau etholiadol Sir Ceredigion. Cynhaliwyd yr arolwg hwn yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (y Ddeddf), Adrannau 29, 30 a 34-36 yn benodol. 2. Yn unol â’r Ddeddf, mae’r Comisiwn wedi cwblhau’r arolwg o drefniadau etholiadol Sir Ceredigion ac mae’n cyflwyno ei argymhellion terfynol ar gyfer trefniadau etholiadol yn y dyfodol. 3. Mae’r rhaglen hon o arolygon wedi dod yn sgil Datganiad Ysgrifenedig cyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, dyddiedig 23 Mehefin 2016, pan ofynnwyd i’r Comisiwn ailddechrau ei raglen o arolygon, gyda’r disgwyliad i bob un o’r 22 arolwg etholiadol gael ei gwblhau mewn pryd i roi’r trefniadau newydd ar waith ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2022. Gellir gweld y Datganiad Ysgrifenedig yn Atodiad 6. 4. Mae’r rheolau a’r gweithdrefnau y mae’r Comisiwn yn eu dilyn i’w gweld yn nogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer [2016] y Comisiwn, a chânt eu hamlinellu yn Atodiad 4. Mae Rhestr Termau i’w gweld yn Atodiad 1, sy’n rhoi disgrifiad byr o rywfaint o’r derminoleg gyffredin a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn. 5. Mae Adran 35 y Ddeddf yn gosod y canllawiau gweithdrefnol y mae’n rhaid eu dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol ag Adran 35, ysgrifennodd y Comisiwn at Gyngor Sir Ceredigion, yr holl gynghorau cymuned a thref yn yr ardal, yr ymgyngoreion gorfodol a phartïon eraill â buddiant ar 17 Ionawr 2017 i roi gwybod iddynt ein bod yn bwriadu cynnal yr arolwg ac i ofyn am eu safbwyntiau rhagarweiniol. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn o 26 Ionawr 2017 tan 19 Ebrill 2017. Sicrhaodd y Comisiwn fod copïau o’i ddogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer [2016] ar gael hefyd. 6. Cyhoeddodd y Comisiwn ei Adroddiad Cynigion Drafft ar 16 Ionawr 2018, a gofynnodd am safbwyntiau ar y cynigion. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn o 23 Ionawr 2018 tan 16 Ebrill 2018. 7. Rhoddodd y Comisiwn gyhoeddusrwydd i’r arolwg ar ei wefan a’i sianeli cyfryngau cymdeithasol. Gofynnodd i Gyngor Sir Ceredigion roi cyhoeddusrwydd i’r arolwg hefyd a rhoddodd nifer o hysbysiadau cyhoeddus iddo i’w harddangos. Rhoddwyd y rhain i’r cynghorau cymuned a thref yn yr ardal hefyd. Yn ogystal, rhoddodd y Comisiwn gyflwyniad i gynghorwyr sir a chynghorwyr tref a chymuned i esbonio proses yr arolwg a pholisïau’r Comisiwn. Gwahoddwyd y Cyngor Sir i gyflwyno cynllun awgrymedig ar gyfer trefniadau etholiadol newydd.

Tudalen 1 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

Pennod 2. Y CYNIGION DRAFFT 1. Cyn llunio’r cynigion drafft, cafodd y Comisiwn gynrychiolaethau gan Gyngor Sir Ceredigion, pum cyngor tref a chymuned, dau gynghorydd sir a 44 o breswylwyr a chyrff eraill â buddiant. 2. Cynigiodd Cyngor Sir Ceredigion gynllun llawn o drefniadau (y gellir ei weld yn llawn yn Adroddiad Cynigion Drafft y Comisiwn, Ionawr 2018), a arweiniodd at gynllun o 39 aelod. Yn ogystal, cynigiodd newidiadau i’r ffiniau rhwng Tref Aberteifi a Chymuned , rhwng Tref a Chymuned Faenor, rhwng Tref Ceinewydd a Chymuned , ac ailstrwythuro’r wardiau o fewn Cymunedau a Throedyraur. Amlygodd nifer o gynrychiolaethau a dderbyniwyd y gwahaniaethau rhwng anghenion cymunedau gwledig a threfol yn y Sir, a chyflwynodd sawl cynrychiolaeth a dderbyniwyd gan gynghorau cymuned a thref awgrymiadau amgen i’r rhai a gyflwynwyd gan y Cyngor Sir. 3. Ystyriwyd y cynrychiolaethau hyn ac fe’u crynhowyd yn yr Adroddiad Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 16 Ionawr 2018, a oedd yn rhoi gwybod i’r ymgyngoreion gorfodol a restrwyd a phartïon eraill â buddiant am yr ymgynghoriad ar y cynigion drafft a ddechreuodd ar 23 Ionawr 2018 ac a ddaeth i ben ar 16 Ebrill 2018. Gofynnodd y Comisiwn i Gyngor Sir Ceredigion arddangos copïau o’r adroddiad ochr yn ochr â hysbysiadau cyhoeddus yn yr ardal. Roedd cynigion drafft y Comisiwn yn cynnig newid i drefniant y wardiau etholiadol a fyddai wedi gwella’r cydraddoldeb etholiadol yn sylweddol ledled Sir Ceredigion. 4. Cynigiodd y Comisiwn gyngor o 38 aelod. Arweiniodd hyn at gyfartaledd sirol arfaethedig o 1,384 o etholwyr fesul aelod. Cynigiodd y Comisiwn 33 ward etholiadol, sy’n ostyngiad o’r 40 ward etholiadol bresennol. 5. Cynigiwyd i’r dangynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiant etholiadol) fod yng Ngogledd Llandysul a Throedyraur (23% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig). Ar hyn o bryd, mae’r dangynrychiolaeth fwyaf yn Llansanffraid (34% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig). 6. Cynigiwyd i’r orgynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiant etholiadol) fod yn Aberystwyth (25% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig). Ar hyn o bryd, mae’r orgynrychiolaeth fwyaf yn Llanbadarn Fawr Sulien (46% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig). 7. Cynigiodd y Comisiwn bum ward etholiadol â dau aelod yn y Sir. 8. Ni chynigiodd y Comisiwn unrhyw newidiadau i 16 ward etholiadol. 9. Cynigiodd y Comisiwn gael wyth ward etholiadol yn y sir sy’n cyfuno rhan o gymuned neu dref sy’n rhan o ward, ynghyd â’i chymuned gyfagos. Roedd y rhaniadau cymunedol hyn yn bresennol yn Nhref Aberystwyth a Chymunedau Dyffryn Arth, Llandysul, a . 10. Ni chynigiodd y Comisiwn unrhyw newidiadau i ffiniau.

Tudalen 2 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pennod 3. CRYNODEB O’R ARGYMHELLION TERFYNOL • Derbyniodd y Comisiwn gynrychiolaethau gan Gyngor Sir Ceredigion, 17 cyngor tref a chymuned, pum cynghorydd sir, un pwyllgor cymunedol a 34 aelod o’r cyhoedd mewn ymateb i’r Cynigion Drafft. Ystyriodd y Comisiwn yr holl gynrychiolaethau hyn yn ofalus cyn llunio ei argymhellion. Crynhoir y cynrychiolaethau hynny yn Atodiad 5. • Mae’r Comisiwn yn argymell newid i drefniant y wardiau etholiadol a fydd yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol yn sylweddol ledled Sir Ceredigion. • Mae’r Comisiwn yn argymell cyngor o 38 aelod, sy’n ostyngiad o’r 42 aelod presennol. Mae hyn yn arwain at gyfartaledd sirol argymelledig o 1,384 o etholwyr fesul aelod. • Mae’r Comisiwn yn argymell 34 ward etholiadol, sy’n ostyngiad o’r 40 ward bresennol. • Argymhellir bod y dangynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiant o’r cyfartaledd sirol argymelledig) 23% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig (Gogledd Llandysul a Throedyraur). Ar hyn y bryd, mae’r amrywiant mwyaf 34% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig (Llansanffraid). • Argymhellir bod yr orgynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiant o’r cyfartaledd sirol argymelledig) 25% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig (Aberystwyth Penparcau). Ar hyn y bryd, mae’r amrywiant mwyaf 46% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig (Llanbadarn Fawr Sulien). • Mae’r Comisiwn yn argymell pedair ward etholiadol â dau aelod yn y Sir; a’r Ferwig, Aberystwyth Morfa a Glais, Aberystwyth Penparcau a Beulah a . • Nid yw’r Comisiwn yn argymell unrhyw newidiadau i 19 ward etholiadol. • Mae’r Comisiwn yn argymell pum ward etholiadol o fewn y sir sy’n cyfuno rhan o gymuned sy’n rhan o ward, ynghyd â’i chymuned gyfagos. Mae’r rhaniadau cymunedol hyn yn bresennol yng Nghymunedau Dyffryn Arth, Llandysul, a Nantcwnlle. • Nid yw’r Comisiwn yn argymell unrhyw newidiadau i ffiniau.

Tudalen 3 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

Mapiau Cryno 1. Ar y tudalennau dilynol, ceir mapiau thematig sy’n dangos y trefniadau presennol ac argymelledig a'u hamrywiannau oddi wrth y cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae’r ardaloedd hynny sy’n wyrdd o fewn +10% o’r cyfartaledd sirol; mae’r rhai sy’n felyn ac wedi’u llinellu’n felyn rhwng +10% a +25% o’r cyfartaledd sirol; ac mae’r rhai sy’n oren ac wedi’u llinellu’n oren rhwng +25% a +50% o’r cyfartaledd sirol. 2. Fel y gellir ei weld o'r mapiau hyn, mae'r trefniadau newydd yn darparu gwelliant sylweddol o ran cydraddoldeb etholiadol ar draws y sir.

Tudalen 4 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert existing thematic

Tudalen 5 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

Insert recommended thematic map

Tudalen 6 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pennod 4. ASESIAD 1. Mae’n ddyletswydd ar y Comisiwn i gyflawni cydraddoldeb etholiadol ar draws y cyngor. Er mwyn gwneud hyn, cymhwyswn y Polisi a’r Arfer yn y ffordd ganlynol.

Maint y Cyngor 2. Pennwyd maint y cyngor ar gyfer Sir Ceredigion gan ein polisi a’n methodoleg ar gyfer maint cynghorau. Mae'r polisi hwn i'w weld yn ein dogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer [2016]. Mae’r fethodoleg yn pennu maint cyngor o 38 ar gyfer Sir Ceredigion. Ar hyn o bryd, mae maint y cyngor, sef 42 o aelodau, bedwar aelod uwchlaw nod y fethodoleg. 3. Arolygodd y Comisiwn y trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ceredigion yng ngoleuni ein methodoleg, ac ystyriodd y cynrychiolaethau a wnaed. Am y rhesymau a roddir isod, credwn, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, y byddai maint cyngor o 38 yn briodol i gynrychioli Sir Ceredigion.

Nifer yr etholwyr 4. Y niferoedd a ddangosir fel yr etholwyr ar gyfer 2017 a’r amcangyfrifon ar gyfer nifer yr etholwyr yn 2022 yw’r rhai hynny a gyflwynwyd i ni gan Gyngor Sir Ceredigion. Mae’r ffigurau rhagamcanol a gyflenwyd gan Gyngor Sir Ceredigion yn dangos cynnydd rhagamcanol o 2,892 yn nifer yr etholwyr o 52,598 i 55,490. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) hefyd wedi darparu nifer amcangyfrifedig yr unigolion sy’n gymwys i bleidleisio o fewn Sir Ceredigion. Dangosodd hyn amcangyfrif o 9,547 yn fwy o bobl sy’n gymwys i bleidleisio na nifer yr etholwyr yn 2017. 5. Mae’r Comisiwn yn ymwybodol bod cynigion gan Lywodraeth Cymru i ddeddfu i ymestyn yr etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed a gwladolion tramor, nad ydynt yn gymwys i bleidleisio ar hyn o bryd, yn etholiadau llywodraeth leol 2022. Mae Polisi’r Comisiwn ar Faint Cynghorau yn defnyddio’r boblogaeth gyfan i bennu maint cynghorau, a chynhwyswyd y ddau grŵp hyn yn yr ystyriaethau ynglŷn â Maint Cynghorau. 6. Er nad yw pobl ifanc 16 ac 17 oed yn y ffigurau etholiadol presennol a ddarparwyd gan Gyngor Sir Ceredigion, byddant wedi’u cynnwys yn y ffigurau rhagamcanol a ddarparwyd gan y Cyngor. Mae ystyriaeth o’r ffigurau hyn wedi’i chynnwys yn ystyriaethau’r Comisiwn o’i argymhellion. 7. Mae gwladolion tramor wedi’u cynnwys yn nata’r cyfrifiad a ddarparwyd gan yr ONS. Mae ystyriaeth o’r data hwn wedi’i chynnwys yn rhan o ystyriaethau’r Comisiwn o’i argymhellion.

Cymhareb cynghorwyr i etholwyr 8. O ran nifer yr etholwyr fesul cynghorydd ym mhob ward etholiadol, ceir amrywiant eang oddi wrth y cyfartaledd sirol presennol, sef 1,252 o etholwyr fesul cynghorydd, sy’n amrywio o 41% yn is (742 o etholwyr) i 48% yn uwch (1,848 o etholwyr). Mae pennu maint y cyngor uchod yn arwain at gyfartaledd o 1,384 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan bob cynghorydd. 9. Ystyriodd y Comisiwn gymhareb yr etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr i'w hethol, gyda'r nod o gynnig newidiadau er mwyn sicrhau y bydd nifer yr etholwyr llywodraeth leol yr un fath, neu mor agos ag y bo modd, ym mhob ward yn y brif ardal. Ystyriodd y Comisiwn faint a chymeriad y cyngor ac ystod eang o ffactorau eraill, gan gynnwys topograffeg leol, cysylltiadau ffyrdd, a chysylltiadau lleol.

Tudalen 7 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

Barn a Chydbwysedd 10. Wrth lunio cynllun o drefniadau etholiadol, rhaid i'r Comisiwn ystyried nifer o faterion a gynhwysir yn y ddeddfwriaeth. Nid yw'n bosibl datrys pob un o'r materion hyn, sydd weithiau'n gwrthdaro, bob tro. Mae’r cynllun a argymhellir gan y Comisiwn wedi rhoi pwyslais ar gyflawni gwelliannau o ran cydraddoldeb etholiadol, ar yr un pryd â chynnal cysylltiadau cymunedol, lle bynnag y bo'n bosibl. Mae'r Comisiwn wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wardiau etholiadol diwygiedig, ym marn y Comisiwn, yn gyfuniadau priodol o gymunedau a wardiau cymunedol presennol. 11. Mae’r Comisiwn wedi edrych ar bob ardal ac mae’n fodlon y byddai’n anodd cyflawni trefniadau etholiadol sy’n cadw’r cyfuniad presennol o gymunedau a wardiau cymunedol heb gael effaith niweidiol ar un neu fwy o’r materion eraill y mae’n rhaid i ni eu hystyried.

Enwau Wardiau Etholiadol 12. Wrth greu’r argymhellion terfynol hyn, mae’r Comisiwn wedi ystyried enwau’r holl wardiau etholiadol a gynigiwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg, lle bo’n briodol. Ar gyfer yr argymhellion terfynol hyn, mae’r Comisiwn wedi ystyried enwau naill ai wardiau etholiadol neu gymunedau sy’n ymddangos mewn Gorchmynion, lle maent yn bodoli; y rhai hynny a argymhellwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg; ac, yn y cynrychiolaethau a dderbyniodd. 13. Ymgynghorodd y Comisiwn â Chomisiynydd y Gymraeg ynglŷn ag addasrwydd yr enwau ar eu ffurf ddrafft cyn cyhoeddi’r argymhellion terfynol hyn, gyda phwyslais arbennig ar yr enwau Cymraeg. Mae hyn yn cydnabod cyfrifoldeb Comisiynydd y Gymraeg i gynghori ar ffurfiau safonol enwau lleoedd Cymraeg, a gwybodaeth arbenigol yn y maes. Mae’n rhaid nodi’n glir nad yw’r argymhellion hyn yn gynigion ar gyfer gwneud newidiadau i unrhyw enwau lleoedd. Ar gyfer pob argymhelliad, dynodir beth yw’r dewis amgen a argymhellwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg a, lle maent yn gwahaniaethu, yr argymhelliad penodol a pham y cynigiodd y Comisiynydd enw amgen i’r enw a argymhellwyd gan y Comisiwn.

Trefniadau Cynghorau Cymuned a Thref 14. Derbyniodd y Comisiwn nifer o gynrychiolaethau yn ystod y cyfnod ymgynghori ar y cynigion drafft a oedd yn cynnwys camddealltwriaeth ynglŷn â chwmpas yr arolwg. Felly, hoffai’r Comisiwn bwysleisio bod yr arolwg hwn o drefniadau etholiadol yn ceisio gwella cynrychiolaeth etholiadol o fewn Cyngor Sir Ceredigion. Mae’r broses hon yn annibynnol ar unrhyw newidiadau i drefniadau sy’n ymwneud â chynghorau cymuned neu dref. Lle y defnyddir cyfuniadau o gymunedau i greu un ward etholiadol, bydd y cymunedau unigol dan sylw yn cadw eu trefniant cyngor cymuned presennol. Bydd y cynghorau hyn yn aros yn annibynnol yn dilyn canlyniad yr arolwg hwn, a bydd unrhyw braeseptau a gynhyrchir neu asedau a geir o fewn cyngor cymuned yn aros yn rhan o’r cyngor cymuned hwnnw. 15. Ymdrinnir â newidiadau i drefniadau cymunedol mewn rhan ar wahân o’r ddeddfwriaeth, yn rhan o arolwg cymunedol a arweinir gan y Cyngor.

Tudalen 8 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pennod 5. YR ARGYMHELLION TERFYNOL 1. Disgrifir argymhellion y Comisiwn yn fanwl yn y bennod hon. Ar gyfer pob cynnig newydd, mae’r adroddiad yn amlinellu: • Enw(au)’r wardiau etholiadol presennol sy'n ffurfio'r ward arfaethedig yn gyfan gwbl neu'n rhannol; • Disgrifiad cryno o'r wardiau etholiadol presennol o ran nifer yr etholwyr presennol a rhagamcanol, a'u hamrywiant canrannol oddi wrth y cyfartaledd sirol arfaethedig; • Y dadleuon allweddol a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad drafft (os o gwbl). Er na chrybwyllir yr holl gynrychiolaethau yn yr adran hon, ystyriwyd yr holl gynrychiolaethau a cheir crynodeb ohonynt yn Atodiad 5; • Barn y Comisiwn; • Cyfansoddiad y ward etholiadol argymelledig a'r enw argymelledig; • Map o’r ward etholiadol argymelledig (gweler yr allwedd isod).

Wardiau Etholiadol a Gedwir 2. Mae’r Comisiwn wedi ystyried trefniadau etholiadol y wardiau etholiadol presennol a chymhareb yr etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr i’w hethol. Argymhellir y dylai’r trefniadau presennol gael eu cadw yn y wardiau etholiadol canlynol. Mae’r enwau mewn teip trwm yn y rhestr isod yn dynodi’r wardiau etholiadol lle mae’r ddaearyddiaeth a’r enwau wardiau etholiadol presennol wedi cael eu rhagnodi o fewn Gorchmynion, ac y mae’r Comisiwn yn argymell eu cadw.

• Aberteifi/Cardigan-Mwldan • • Aberystwyth Penparcau • • Aberystwyth Rheidol • Llangybi • • Llanrhystyd • • Melindwr • Faenor • • Llanarth • • Ystwyth •

Tudalen 9 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

3. Er bod y Comisiwn yn argymell cadw’r trefniadau daearyddol yn y wardiau etholiadol a restrir uchod, mae’n cynnig cyflwyno enwau wardiau etholiadol newydd ar gyfer y canlynol (mae enwau mewn teip trwm yng ngweddill yr adroddiad hwn yn dynodi’r enwau wardiau etholiadol a argymhellir gan y Comisiwn): i) Argymhellir y dylai Aberteifi/Cardigan-Mwldan gael yr enw unigol Mwldan. Cytunodd Comisiynydd y Gymraeg â’r enw arfaethedig. Derbyniodd y Comisiwn un gynrychiolaeth gan Gyngor Tref Aberteifi yn cynnig i’r ward hon gael ei hailenwi’n Fwldan. ii) Argymhellir y dylai Ceulanamaesmawr gael yr enw unigol Ceulanamaesmawr. Yn y Cynigion Drafft, cynigiodd y Comisiwn y dylai’r ward etholiadol hon gael yr enw unigol Ceulanamaesmawr. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw cyn i Gynigion Drafft y Comisiwn gael eu cyhoeddi ac argymhellodd fabwysiadu’r enw unigol Ceulan a Maesmawr. Derbyniodd y Comisiwn un gynrychiolaeth gan Gyngor Cymuned Ceulanamaesmawr o blaid cynnig y Comisiwn i ddefnyddio’r enw unigol Ceulanamaesmawr. iii) Argymhellir y dylai Llanarth gael yr enw unigol Llanarth. Yn y Cynigion Drafft, cynigiodd y Comisiwn newid yr enw Cymraeg Llannarth i Lanarth, a defnyddio’r enw unigol hwn yn y ddwy iaith. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw cyn i Gynigion Drafft y Comisiwn gael eu cyhoeddi ac argymhellodd fabwysiadu’r enw unigol Llannarth. Derbyniodd y Comisiwn un gynrychiolaeth gan Gyngor Sir Ceredigion o blaid cynnig y Comisiwn i ddefnyddio’r enw unigol Llanarth, yn hytrach na’r argymhelliad gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Wardiau Etholiadol Arfaethedig 4. Ystyriodd y Comisiwn newidiadau i’r 21 ward etholiadol bresennol sy’n weddill. Ceir manylion am y trefniadau etholiadol presennol yn Atodiad 2. Mae trefniadau argymelledig y Comisiwn i’w gweld yn Atodiad 3.

Tudalen 10 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Aberteifi/Cardigan-Rhyd-y-Fuwch ac Aberteifi/Cardigan-Teifi 5. Mae ward etholiadol bresennol Aberteifi/Cardigan-Rhyd-y-Fuwch yn cynnwys ward Rhyd y Fuwch yn Nhref Aberteifi. Mae ganddi 884 o etholwyr (911 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 36% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 957 o bleidleiswyr cymwys. 6. Mae ward etholiadol bresennol Aberteifi/Cardigan-Teifi yn cynnwys ward Teifi yn Nhref Aberteifi. Mae ganddi 762 o etholwyr (806 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 45% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 848 o bleidleiswyr cymwys. 7. Yn ei Gynigion Drafft, cynigiodd y Comisiwn y dylai Tref Aberteifi ffurfio ward etholiadol â dau aelod. 8. Cafodd y Comisiwn bum cynrychiolaeth mewn ymateb i’r Cynigion Drafft ynglŷn â’r ardal hon gan: Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Tref Aberteifi, dau Gynghorydd Sir ac un o breswylwyr . 9. Roedd Cyngor Sir Ceredigion yn gwrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn i greu ward dau aelod ar gyfer Tref Aberteifi, a chynigiodd y dylid cadw dwy ward un aelod ar gyfer y Dref, trwy gadw ward etholiadol bresennol Aberteifi Mwldan a chyfuno wardiau trefol Rhyd-y-Fuwch a Theifi i ffurfio ward etholiadol newydd ag un aelod. Cynigiodd y Cyngor y dylai’r ward newydd ag un aelod gael ei galw’n Aberteifi – Teifi yn Gymraeg a Cardigan – Teifi yn Saesneg. 10. Roedd Cyngor Tref Aberteifi yn gwrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn i greu ward dau aelod ar gyfer Aberteifi hefyd. Mae’r Cyngor Tref yn cefnogi gweithredu dwy ward un aelod yn y dref; un ward un aelod wedi’i ffurfio o ward Mwldan, a ward un aelod wedi’i ffurfio trwy gyfuno wardiau Rhyd-y-Fuwch a Theifi yn y dref. Mae’r Cyngor Tref yn cynnig y dylai’r wardiau etholiadol hyn gael eu henwi’n Fwldan, a Theifi, yn ôl eu trefn. 11. Roedd y Cynghorydd John Adams-Lewis (Aberteifi/Cardigan-Mwldan) a’r Cynghorydd Catrin Miles (Aberteifi/Cardigan-Teifi) yn cefnogi safbwyntiau Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Aberteifi, ac yn cefnogi dwy ward un aelod o fewn Tref Aberteifi. Cynigiodd y Cynghorydd Adams-Lewis yr enw Teifi ar gyfer y ward newydd ag un aelod. 12. Roedd preswyliwr Llanon hefyd wedi cynnig yr un trefniadau un aelod a gynigiwyd gan Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Aberteifi, a chynigiodd y dylai’r ward newydd ag un aelod gael ei henwi’n Gastell Aberteifi. 13. Mae’r Comisiwn yn argymell y dylai wardiau Rhyd-y-Fuwch a Theifi yn Nhref Aberteifi gael eu cyfuno i ffurfio ward etholiadol o 1,646 o etholwyr (1,717 o etholwyr rhagamcanol), a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 19% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 14. Mae’r Comisiwn o’r farn bod cysylltiadau cyfathrebu a chysylltiadau cymdeithasol da rhwng wardiau Aberteifi a bod y cynnig hwn yn gwella lefel yr amrywiant etholiadol ar yr un pryd â chefnogi’r flaenoriaeth dros drefniadau un aelod ar gyfer y Dref. 15. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Teifi i’r ward etholiadol argymelledig. Mae’r Comisiwn yn argymell yr enw oherwydd mynegwyd cefnogaeth iddo o fewn cynrychiolaethau. Cytunodd Comisiynydd y Gymraeg â’r enw arfaethedig. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

Tudalen 11 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

16. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhelliad hwn yn ddymunol er mwyn llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. 17. Mae’r argymhelliad hwn yn caniatáu cadw ward etholiadol bresennol Aberteifi/Cardigan Mwldan, fel y disgrifir ym mharagraffau 2 a 3.

Tudalen 12 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert Map of Teifi

Tudalen 13 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

Aberporth a Phenparc 18. Mae ward etholiadol bresennol Aberporth yn cynnwys Cymuned Aberporth. Mae ganddi 1,756 o etholwyr (1,871 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 27% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,975 o bleidleiswyr cymwys. 19. Mae ward etholiadol bresennol yn cynnwys Cymunedau Llangoedmor a’r Ferwig. Mae ganddi 1,838 o etholwyr (1,872 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 33% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,878 o bleidleiswyr cymwys. 20. Yn ei Gynigion Drafft, cynigiodd y Comisiwn greu ward dau aelod ar gyfer Cymunedau Aberporth a’r Ferwig. 21. Cafodd y Comisiwn dair cynrychiolaeth mewn ymateb i’r Cynigion Drafft ynglŷn â’r ardal hon gan: Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Cymuned y Ferwig, ac aelod o’r cyhoedd. 22. Roedd Cyngor Sir Ceredigion yn gwrthwynebu cynigion drafft y Comisiwn ac yn argymell cadw’r trefniadau presennol ar gyfer wardiau Aberporth a Phenparc. Tynnodd y Cyngor sylw at annymunoldeb creu ward aml-aelod mewn ardal wledig. 23. Roedd Cyngor Cymuned y Ferwig yn cefnogi cynigion drafft y Comisiwn i greu ward dau aelod ar gyfer Cymunedau Aberporth a’r Ferwig. 24. Roedd un o breswylwyr Llanon yn cynnig cadw ffiniau’r ward etholiadol ar gyfer Aberporth a Phenparc. 25. Mae’r Comisiwn yn argymell cyfuno Cymunedau Aberporth a’r Ferwig i ffurfio ward etholiadol o 2,683 o etholwyr (2,812 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 3% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 26. Er mwyn gwella’r lefelau amrywiant etholiadol yn wardiau etholiadol Aberporth a Phenparc, nododd y Comisiwn y byddai angen cyfuno Cymuned Aberporth ag ardal gymuned arall i ffurfio ward etholiadol. Roedd y Comisiwn o’r farn bod y cynnig hwn yn darparu trefniant gwell o ran amrywiannau etholiadol yn y cymunedau hyn ac yn parchu’r gwahaniaethau rhwng y cymunedau gwledig hyn a wardiau trefol Tref Aberteifi. Mae’r ward etholiadol dau aelod arfaethedig hon yn cyfuno Cymunedau Aberporth a’r Ferwig, y mae’r ddwy ohonynt wedi’u lleoli ar hyd yr arfordir ac yn rhannu cysylltiadau cyfathrebu ar hyd cefnffordd yr A487. 27. Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Aberporth a’r Ferwig a’r enw Saesneg Aberporth and Y Ferwig yn y Cynigion Drafft. Cytunodd Comisiynydd y Gymraeg â’r enw arfaethedig. Ni chafodd y Comisiwn unrhyw gynrychiolaethau ynglŷn â’r enw. 28. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Aberporth a’r Ferwig i’r ward etholiadol argymelledig; a’r enw Saesneg Aberporth and Y Ferwig. Argymhellodd y Comisiwn yr enw hwn gan ei fod wedi’i ffurfio o enwau’r wardiau cymunedol presennol y bydd y ward etholiadol yn cydffinio â nhw. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn credu y dylai’r enw fod yn Aber-porth a’r Ferwig yn Gymraeg ac Aber-porth and Y Ferwig yn Saesneg, fel yr argymhellir yn y Rhestr o Enwau Lleoedd, gyda chysylltnod i helpu i ynganu’r enw Cymraeg. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enwau argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

Tudalen 14 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

29. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhelliad hwn yn ddymunol er mwyn llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 15 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

Insert map of Aberporth and Penparc

Tudalen 16 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Beulah a Phenparc 30. Mae ward etholiadol bresennol Beulah yn cynnwys Cymuned Beulah. Mae ganddi 1,333 o etholwyr (1,373 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 4% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,362 o bleidleiswyr cymwys. 31. Mae ward etholiadol bresennol Penparc yn cynnwys Cymunedau Llangoedmor a’r Ferwig. Mae ganddi 1,838 o etholwyr (1,872 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 33% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,878 o bleidleiswyr cymwys. 32. Yn ei Gynigion Drafft, cynigiodd y Comisiwn greu ward dau aelod trwy gyfuno Cymunedau Beulah a Llangoedmor. 33. Cafodd y Comisiwn bedair cynrychiolaeth mewn ymateb i’r Cynigion Drafft ynglŷn â’r ardal hon gan: Gyngor Sir Ceredigion, Cynghorau Cymuned Beulah a Llangoedmor ac aelod o’r cyhoedd. 34. Roedd Cyngor Sir Ceredigion yn gwrthwynebu cynigion drafft y Comisiwn ac yn argymell cadw’r trefniadau presennol ar gyfer wardiau etholiadol Beulah a Phenparc. Tynnodd y Cyngor sylw at annymunoldeb creu ward aml-aelod mewn ardal wledig. 35. Roedd Cyngor Cymuned Beulah a Chyngor Cymuned Llangoedmor yn gwrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn ac yn argymell cadw’r trefniadau presennol ar gyfer wardiau etholiadol Beulah a Phenparc. Amlygodd Cyngor Cymuned Beulah y gwahaniaethau rhwng ardaloedd Beulah a Llangoedmor a dywedodd na fu unrhyw gydweithredu rhwng y ddwy gymuned hyn; bod Llangoedmor wedi’i chysylltu’n draddodiadol ag Aberteifi tua’r gorllewin, a bod Beulah wedi’i chysylltu â Chastellnewydd Emlyn (Sir Gaerfyrddin) tua’r de-orllewin. 36. Roedd un o breswylwyr Llanon yn cynnig cadw’r ffiniau ward etholiadol ar gyfer Beulah a Phenparc. 37. Mae’r Comisiwn yn argymell cyfuno Cymunedau Beulah a Llangoedmor i ffurfio ward etholiadol o 2,244 o etholwyr (2,304 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 19% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 38. Er mwyn gwella’r amrywiant etholiadol yn ward etholiadol Penparc, nododd y Comisiwn fod angen i Gymunedau Llangoedmor a’r Ferwig gael eu cynnwys gydag ardaloedd cymuned amgen wrth ffurfio wardiau etholiadol. Ystyriodd y Comisiwn y dewisiadau amgen a oedd ar gael a daeth i’r casgliad mai’r ardal fwyaf priodol i’w chyfuno â Llangoedmor yw Cymuned Beulah. Mae’r ward etholiadol dau aelod arfaethedig hon yn parchu’r rhaniad gwledig/trefol rhwng y cymunedau hyn a Thref Aberteifi, ac yn cyfuno ardaloedd sydd wedi’u cysylltu trwy ffyrdd yr A484 a’r B4570. 39. Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Beulah a Llangoedmor a’r enw Saesneg Beulah and Llangoedmor yn y Cynigion Drafft. Cytunodd Comisiynydd y Gymraeg â’r enw arfaethedig. Ni chafodd y Comisiwn unrhyw gynrychiolaethau ynglŷn â’r enw. 40. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Beulah a Llangoedmor i’r ward etholiadol argymelledig; a’r enw Saesneg Beulah and Llangoedmor. Cytunodd Comisiynydd y Gymraeg â’r enwau argymelledig. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enwau argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

Tudalen 17 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

41. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhelliad hwn yn ddymunol er mwyn llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 18 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert Map of Beulah and Llangoedmor

Tudalen 19 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

TUDALEN WAG

Tudalen 20 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Capel Dewi a Thref Llandysul 42. Mae ward etholiadol bresennol Capel Dewi yn cynnwys wardiau Capel Dewi, Pont-siân a Thre- groes yng Nghymuned Llandysul. Mae ganddi 1,025 o etholwyr (1,056 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 26% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,090 o bleidleiswyr cymwys. 43. Mae ward etholiadol bresennol Tref Llandysul yn cynnwys ward Trefol yng Nghymuned Llandysul. Mae ganddi 1,022 o etholwyr (1,101 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 26% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,081 o bleidleiswyr cymwys. 44. Yn ei Gynigion Drafft, cynigiodd y Comisiwn gyfuno wardiau Capel Dewi a Threfol yng Nghymuned Llandysul i ffurfio ward etholiadol un aelod. 45. Cafodd y Comisiwn ddwy gynrychiolaeth mewn ymateb i’r Cynigion Drafft ynglŷn â’r ardal hon gan Gyngor Sir Ceredigion ac aelod o’r cyhoedd. 46. Roedd Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi cynnig drafft y Comisiwn. 47. Cynigiodd un o breswylwyr Llanon gadw ward etholiadol bresennol Tref Llandysul a chyfuno wardiau Capel Dewi, Pont-siân a Thre-groes yng Nghymuned Llandysul â ward Llangynllo yng Nghymuned i ffurfio ward etholiadol un aelod newydd. 48. Mae’r Comisiwn yn argymell cyfuno wardiau Capel Dewi a Threfol yng Nghymuned Llandysul i ffurfio ward etholiadol o 1,396 o etholwyr (1,488 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 1% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 49. Mae’r Comisiwn yn nodi’r lefel uchel o orgynrychiolaeth yn wardiau etholiadol presennol Capel Dewi a Thref Llandysul, o gymharu â’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Er mwyn gwella’r amrywiant etholiadol yn y wardiau hyn a’r ardal amgylchynol, mae’r Comisiwn wedi cynnig cyfuno wardiau cymunedol deheuol cyfagos Cymuned Llandysul, sy’n rhannu cysylltiadau cyfathrebu a ffin gyffredin ar hyd ffordd y B4476. 50. Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg De Llandysul a’r enw Saesneg Llandysul South yn y Cynigion Drafft. Cytunodd Comisiynydd y Gymraeg â’r enw arfaethedig. Ni chafodd y Comisiwn unrhyw gynrychiolaethau ynglŷn â’r enw. 51. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg De Llandysul i’r ward etholiadol argymelledig; a’r enw Saesneg Llandysul South. Cytunodd Comisiynydd y Gymraeg â’r enw argymelledig. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 52. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhelliad hwn yn ddymunol er mwyn llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 21 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

Insert map of Llandysul South

Tudalen 22 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Capel Dewi a Throedyraur 53. Mae ward etholiadol bresennol Capel Dewi yn cynnwys wardiau Capel Dewi, Pont-siân a Thre- groes yng Nghymuned Llandysul. Mae ganddi 1,025 o etholwyr (1,056 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 26% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,090 o bleidleiswyr cymwys. 54. Mae ward etholiadol bresennol Troed-yr-aur yn cynnwys Cymuned Troed-yr-aur. Mae ganddi 1,047 o etholwyr (1,065 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 24% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,101 o bleidleiswyr cymwys. 55. Yn ei Gynigion Drafft, cynigiodd y Comisiwn gyfuno wardiau Pont-siân a Thre-groes yng Nghymuned Llandysul â Chymuned Troedyraur i ffurfio ward etholiadol un aelod. 56. Cafodd y Comisiwn dair cynrychiolaeth mewn ymateb i’r Cynigion Drafft ynglŷn â’r ardal hon gan: Gyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Sir Maldwyn Lewis (Troedyraur) ac aelod o’r cyhoedd. 57. Roedd Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi cynnig drafft y Comisiwn. 58. Roedd y Cynghorydd Maldwyn Lewis (Troedyraur) yn cefnogi cynnig drafft y Comisiwn hefyd, gan gadarnhau bod gan yr ardaloedd y cynigir eu cyfuno lawer yn gyffredin a’u bod yn rhannu neuaddau pentref, capeli ac eglwysi, a bod natur y boblogaeth a thai yn debyg. 59. Cynigiodd un o breswylwyr Llanon gyfuno wardiau Capel Dewi, Pont-siân a Thre-groes yng Nghymuned Llandysul â ward Llangynllo yng Nghymuned Troedyraur i ffurfio ward etholiadol; ac i ffurfio ward etholiadol arall trwy gyfuno ward Troedyraur yng Nghymuned Troedyraur â Chymuned . 60. Mae’r Comisiwn yn argymell cyfuno Cymuned Troedyraur â wardiau Pont-siân a Thre-groes yng Nghymuned Llandysul i ffurfio ward etholiadol o 1,698 o etholwyr (1,734 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 23% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 61. Mae’r Comisiwn yn nodi’r lefel uchel o orgynrychiolaeth yn wardiau etholiadol presennol Capel Dewi, o gymharu â’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Er mwyn gwella’r amrywiant etholiadol yn y wardiau hyn a’r ardal amgylchynol, mae’r Comisiwn wedi cynnig cyfuno wardiau cymunedol gogleddol Cymuned Llandysul â Chymuned Troedyraur, sy’n rhannu nodweddion gwledig tebyg a chysylltiadau cymunedol adnabyddadwy ar bob ochr i gefnffordd yr A486. 62. Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Gogledd Llandysul a Throedyraur a’r enw Saesneg Llandysul North and Troedyraur yn y Cynigion Drafft. Cytunodd Comisiynydd y Gymraeg â’r enw arfaethedig. Ni chafodd y Comisiwn unrhyw gynrychiolaethau ynglŷn â’r enw. 63. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Gogledd Llandysul a Throedyraur i’r ward etholiadol argymelledig; a’r enw Saesneg Llandysul North and Troedyraur. Argymhellodd y Comisiwn yr enw hwn gan ei fod yn defnyddio’r enwau Cymuned presennol ar gyfer yr ardaloedd sy’n ffurfio’r ward etholiadol. Roedd Comisiynydd y Gymraeg o’r farn y dylai’r enw fod yn Gogledd Llandysul a Throed-yr-aur yn Gymraeg a Llandysul North and Troed-yr-aur yn Saesneg, fel yr argymhellir yn y Rhestr Enwau Lleoedd, gyda chysylltnod i helpu i’w ynganu.

Tudalen 23 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enwau argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 64. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhelliad hwn yn ddymunol er mwyn llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 24 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert map of Llandysul North and Troedyraur

Tudalen 25 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

Llandysiliogogo a Cheinewydd 65. Mae ward etholiadol bresennol yn cynnwys Cymunedau Llandysiliogogo a Llanllwchaearn. Mae ganddi 1,511 o etholwyr (1,565 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 9% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,607 o bleidleiswyr cymwys. 66. Mae ward etholiadol bresennol Ceinewydd yn cynnwys Tref Ceinewydd. Mae ganddi 841 o etholwyr (880 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 39% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 864 o bleidleiswyr cymwys. 67. Yn ei Gynigion Drafft, cynigiodd y Comisiwn gyfuno Tref Ceinewydd â Chymuned Llanllwchaearn. 68. Cafodd y Comisiwn dair cynrychiolaeth ynglŷn â’r ardal hon mewn ymateb i’w Gynigion Drafft gan: Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Cymuned Llanllwchaearn ac aelod o’r cyhoedd. 69. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn datgan ei fod yn cytuno â chynnig drafft y Comisiwn, er nad oes cysylltiadau mawr na hanesyddol rhwng Ceinewydd a Llanllwchaearn. Mae’r Cyngor yn awgrymu y dylid rhoi’r enw Cymraeg Cei Newydd a Llanllwchaearn i’r ward etholiadol newydd; a’r enw Saesneg and Llanllwchaearn. 70. Mae Cyngor Cymuned Llanllwchaearn yn gwrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn a mynegodd ei siom bod cynnig y Comisiwn yn anwybyddu safbwyntiau’r aelodau etholedig a gyflwynwyd yn ystod cam ymgynghori cychwynnol yr arolwg hwn. Roedd un o breswylwyr Llanon yn cefnogi cynnig drafft y Comisiwn ar gyfer yr ardal hon. 71. Mae’r Comisiwn yn argymell cyfuno Tref Ceinewydd â Chymuned Llanllwchaearn i ffurfio ward etholiadol o 1,527 o etholwyr (1,599 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at gynrychiolaeth sydd 10% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 72. Er mwyn gwella’r amrywiant etholiadol yng Ngheinewydd, mae’r Comisiwn yn nodi y byddai’r unig drefniant ymarferol yn seiliedig ar strwythur presennol y cymunedau yn gofyn am gyfuno’r ddwy ardal hyn. Amlygodd y Comisiwn gysylltiadau cyfathrebu rhwng ardaloedd Ceinewydd a Llanllwchaearn trwy ffyrdd yr A486 a’r B4342, ac mae’n cydnabod yr effaith dymhorol y mae twristiaeth yn ei chael ar y ddwy ardal. 73. Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Ceinewydd gyda Llanllwchaiarn a’r enw Saesneg New Quay with Llanllwchaiarn yn y Cynigion Drafft. Roedd Comisiynydd y Gymraeg o’r farn y dylai’r enw fod yn Ceinewydd gyda Llanllwchaearn yn Gymraeg a New Quay with Llanllwchaearn yn Saesneg, fel yr argymhellir yn y Rhestr Enwau Lleoedd, gan fod hyn yn dilyn y sillafiad safonol cenedlaethol ar gyfer yr ardal hon. Cafodd y Comisiwn ddwy gynrychiolaeth ynglŷn â’r enw gan Gyngor Cymuned Llanllwchaearn ac un o breswylwyr Llanon. Mae Cyngor Cymuned Llanllwchaearn yn gwrthwynebu defnyddio’r enw cymuned presennol “Llanllwchaiarn” yn enw ei ward etholiadol. Argymhellodd un o breswylwyr Llanon y dylai’r ward gael ei henwi’n New Quay and Llanllwchaiarn. 74. Mae’r Comisiwn yn argymell rhoi’r enw Cymraeg Ceinewydd a Llanllwchaearn i’r ward etholiadol; a’r enw Saesneg New Quay and Llanllwchaearn. Mae’r Comisiwn yn argymell yr enwau hyn fel y’u cynigiwyd gan Gyngor Sir Ceredigion yn ei gynrychiolaeth ac i gefnogi

Tudalen 26 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

argymhelliad Comisiynydd y Gymraeg i ddefnyddio’r ffurf Ceinewydd yn y Gymraeg. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enwau argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 75. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhelliad hwn yn ddymunol er mwyn llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 27 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

Insert map of New Quay and Llanllwchaearn

Tudalen 28 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Llandysiliogogo a Phenbryn 76. Mae ward etholiadol bresennol Llandysiliogogo yn cynnwys Cymunedau Llandysiliogogo a Llanllwchaearn. Mae ganddi 1,511 o etholwyr (1,565 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 9% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,607 o bleidleiswyr cymwys. 77. Mae ward etholiadol bresennol Penbryn yn cynnwys Cymunedau a Phenbryn. Mae ganddi 1,695 o etholwyr (1,755 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 22% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,668 o bleidleiswyr cymwys. 78. Yn ei Gynigion Drafft, cynigiodd y Comisiwn gyfuno Cymunedau Llandysiliogogo a Llangrannog i ffurfio ward etholiadol un aelod. 79. Cafodd y Comisiwn ddwy gynrychiolaeth mewn ymateb i’r Cynigion Drafft ynglŷn â’r ardaloedd hyn gan Gyngor Sir Ceredigion ac aelod o’r cyhoedd. 80. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn dweud ei fod yn cytuno â chynnig drafft y Comisiwn, er yr oedd yn pryderu y byddai cysylltiadau cymunedol yn cael eu colli rhwng ardaloedd Llandysiliogogo a Llanllwchaearn. Mae’r Cyngor yn awgrymu y dylid rhoi’r enw Cymraeg Llandysilio a Llangrannog i’r ward etholiadol newydd; a’r enw Saesneg Llandysilio and Llangrannog, gan fod yr enwau hyn yn adlewyrchu’r rhai a ddefnyddir gan y cynghorau cymuned yn well. 81. Mae’r Comisiwn yn argymell cyfuno Cymunedau Llandysiliogogo a Llangrannog i ffurfio ward etholiadol o 1,456 o etholwyr (1,495 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 5% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 82. Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Llandysiliogogo a Llangrannog a’r enw Saesneg Llandysiliogogo and Llangrannog yn y Cynigion Drafft. Cytunodd Comisiynydd y Gymraeg â’r enw arfaethedig. Ni chafodd y Comisiwn unrhyw gynrychiolaethau ynglŷn â’r enw. 83. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Llandysilio a Llangrannog i’r ward etholiadol argymelledig; a’r enw Saesneg Llandysilio and Llangrannog. Mae’r Comisiwn yn argymell yr enwau hyn fel y’u cynigiwyd gan Gyngor Sir Ceredigion yn ei gynrychiolaeth. Cytunodd Comisiynydd y Gymraeg â’r enwau hyn. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enwau argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 84. O ganlyniad i’r cysylltiadau cyfathrebu cryf ar hyd ffordd yr A487 rhwng Cymunedau Llandysiliogogo a Llangrannog, a’r ffaith eu bod ill dwy’n ardaloedd gwledig, mae’r Comisiwn yn cynnig ward etholiadol un aelod, gyda lefel briodol o amrywiant etholiadol i’w ffurfio o Gymuned Penbryn. 85. Mae’r Comisiwn, felly, yn argymell bod Cymuned Penbryn yn ffurfio ward etholiadol o 1,064 o etholwyr (1,106 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 23% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 86. Cynigiodd y Comisiwn yr enw unigol Penbryn yn y Cynigion Drafft. Cytunodd Comisiynydd y Gymraeg â’r enw arfaethedig. Ni chafodd y Comisiwn unrhyw gynrychiolaethau ynglŷn â’r enw.

Tudalen 29 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

87. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Penbryn i’r ward etholiadol argymelledig. Cytunodd Comisiynydd y Gymraeg â’r enw hwn. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 88. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhellion hyn yn ddymunol er mwyn llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 30 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert map of Llandysilio and Llangrannog

Tudalen 31 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

Insert map of Penbryn

Tudalen 32 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Aberaeron a Llansantffraed 89. Mae ward etholiadol bresennol yn cynnwys Tref Aberaeron. Mae ganddi 1,070 o etholwyr (1,105 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 23% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth arfaethedig o 1,147 o bleidleiswyr cymwys. 90. Mae ward etholiadol bresennol Llansanffraid yn cynnwys Cymunedau Dyffryn Arth a Llansanffraid. Mae ganddi 1,848 o etholwyr (1,922 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 34% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,970 o etholwyr cymwys. 91. Yn ei Gynigion Drafft, cynigiodd y Comisiwn gyfuno Tref Aberaeron a ward Llanddewi yng Nghymuned Dyffryn Arth i ffurfio ward etholiadol un aelod; ac i ffurfio ward etholiadol un aelod arall trwy gyfuno Cymuned Llansanffraid â ward Llandbadarn Trefeglwys yng Nghymuned Dyffryn Arth. 92. Cafodd y Comisiwn bedair cynrychiolaeth mewn ymateb i’r Cynigion Drafft ynglŷn â’r ardaloedd hyn gan: Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Tref Aberaeron, Cyngor Cymuned Llansanffraid ac aelod o’r cyhoedd. 93. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi cynigion y Comisiwn ar gyfer wardiau etholiadol arfaethedig Aberaeron a Llansanffraid. 94. Cyflwynodd Cyngor Tref Aberaeron gynrychiolaeth yn datgan nad oedd yn gwrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn ar gyfer Aberaeron. Cyflwynodd Cyngor Cymuned Llansanffraid gynrychiolaeth yn datgan nad oedd yn gwrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn ar gyfer Llansanffraid. 95. Cynigiodd un o breswylwyr Llanon gyfuno Tref Aberaeron a Chymuned Dyffryn Arth i ffurfio ward etholiadol. Argymhellodd y preswyliwr hefyd ffurfio ward etholiadol arall trwy gyfuno Cymuned Llansanffraid â ward Haminiog yng Nghymuned Llanrhystyd. 96. Mae’r Comisiwn yn argymell cyfuno Tref Aberaeron â ward Llanddewi Aberarth yng Nghymuned Dyffryn Arth i ffurfio ward etholiadol o 1,408 o etholwyr (1,452 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 2% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 97. Cynigiodd y Comisiwn yr enw unigol Aberaeron yn y Cynigion Drafft. Cytunodd Comisiynydd y Gymraeg â’r enw arfaethedig. Cafodd y Comisiwn gynrychiolaeth gan Gyngor Sir Ceredigion ynglŷn â’r enw. Argymhellodd y Cyngor y dylai cynnig drafft y Comisiwn ar gyfer Aberaeron gael ei enwi’n Aberaeron ac Aberarth yn Gymraeg; ac Aberaeron and Aberarth yn Saesneg. 98. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Aberaeron ac Aber-arth i’r ward etholiadol argymelledig; a’r enw Saesneg Aberaeron and Aberarth. Argymhellodd y Comisiwn yr enwau hyn fel y’u cynigiwyd gan Gyngor Sir Ceredigion yn ei gynrychiolaeth. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn argymell defnyddio’r ffurf Aber-arth gyda chysylltnod yn y Saesneg, fel yr argymhellir yn y Rhestr Enwau Lleoedd, i helpu i’w ynganu. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enwau argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 99. O ganlyniad, mae’r Comisiwn yn argymell cyfuno Cymuned Llansanffraid â ward Llanbadarn Trefeglwys yng Nghymuned Dyffryn Arth i ffurfio ward etholiadol o 1,510 o etholwyr (1,575 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 9% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

Tudalen 33 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

100. Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Llansanffraid a’r enw Saesneg Llansantffraed yn y Cynigion Drafft. Roedd Comisiynydd y Gymraeg o’r farn y dylai’r enw fod yn Llansanffraid, fel yr argymhellir yn y Rhestr Enwau Lleoedd ac er mwyn defnyddio un ffurf yn y ddwy iaith. Amlygodd Comisiynydd y Gymraeg hefyd mai dyna yw’r sillafiad argymelledig ar gyfer yr enw, a bod sawl man arall yng Nghymru yn rhannu’r un enw. Cafodd y Comisiwn un gynrychiolaeth ynglŷn â’r enw gan Gyngor Cymuned Llansanffraid. Dywedodd y Cyngor Cymuned ei fod yn credu y byddai’r enw unigol Llansanffraid yn dderbyniol yn y ddwy iaith. 101. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Llansanffraid i’r ward etholiadol argymelledig. Argymhellodd y Comisiwn yr enw hwn fel y’i hargymhellwyd gan Gyngor Cymuned Llansanffraid. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw hwn. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enwau argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 102. Mae’r Comisiwn yn cydnabod bod yr argymhelliad hwn, a fabwysiadwyd o gynigion cychwynnol Cyngor Sir Ceredigion, yn cynnwys ardal sydd ar hyn o bryd yn ffurfio rhan o ward etholiadol bresennol Llansanffraid, a Chymuned Dyffryn Arth, gyda Thref Aberaeron. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn yn cydnabod bod y cynnig hwn yn gwella’r amrywiannau etholiadol ar gyfer y ddwy ward etholiadol. Mae’r Comisiwn o’r farn y bydd y cynnig yn cynnal yr hunaniaeth gymunedol a rennir rhwng ward gymunedol Llanbadarn Trefeglwys a Chymuned Llansanffraid. 103. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhellion hyn yn ddymunol er mwyn llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 34 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert map of Aberaeron and Aberarth

Tudalen 35 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

Insert map of Llansanffraid

Tudalen 36 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Llanbedr Pont Steffan 104. Mae ward etholiadol bresennol Llanbedr Pont Steffan yn cynnwys Tref Llanbedr Pont Steffan. Mae ganddi 1,657 o etholwyr (1,790 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd, sydd 40% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 2,448 o bleidleiswyr cymwys. 105. Yn y Cynigion Drafft, cynigiodd y Comisiwn ffurfio ward etholiadol un aelod o Dref Llanbedr Pont Steffan. 106. Cafodd y Comisiwn ddwy gynrychiolaeth mewn ymateb i’r Cynigion Drafft ynglŷn â’r ardal hon gan Gyngor Sir Ceredigion ac aelod o’r cyhoedd. Roedd y ddwy gynrychiolaeth yn cefnogi cynnig drafft y Comisiwn i leihau nifer yr aelodau etholedig i un, gan ffurfio ward etholiadol un aelod ar gyfer y dref. 107. Mae’r Comisiwn yn argymell bod Tref Llanbedr Pont Steffan yn ffurfio ward etholiadol o 1,657 o etholwyr (1,790 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 20% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 108. Mae’r argymhelliad hwn yn cynnal ffin y ward etholiadol bresennol ar gyfer Tref Llanbedr Pont Steffan ar yr un pryd â lleihau nifer yr aelodau etholedig ar gyfer y ward i un, ac mae’n gwella’r amrywiant etholiadol i ganiatáu ar gyfer lefel briodol o amrywiant yn y dref. 109. Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Llanbedr Pont Steffan a’r enw Saesneg yn y Cynigion Drafft. Cytunodd Comisiynydd y Gymraeg â’r enw arfaethedig. Ni chafodd y Comisiwn unrhyw gynrychiolaethau ynglŷn â’r enw. 110. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Llanbedr Pont Steffan i’r ward etholiadol argymelledig; a’r enw Saesneg Lampeter. Cytunodd Comisiynydd y Gymraeg â’r enw argymelledig. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enwau argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 111. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhelliad hwn yn ddymunol er mwyn llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 37 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

Insert Map of Lampeter

Tudalen 38 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Lledrod a Thregaron 113. Mae ward etholiadol bresennol yn cynnwys Cymunedau Lledrod, , ac . Mae ganddi 1,744 o etholwyr (1,784 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 26% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,715 o bleidleiswyr cymwys. 114. Mae ward etholiadol bresennol yn cynnwys Tref Tregaron. Mae ganddi 899 o etholwyr (944 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 35% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 955 o bleidleiswyr cymwys. 115. Yn ei Gynigion Drafft, cynigiodd y Comisiwn gyfuno Tref Tregaron â Chymuned Llangeitho i ffurfio ward etholiadol a fyddai’n datrys y lefel amhriodol o orgynrychiolaeth yn y Dref. Yn ogystal, cynigiodd y Comisiwn ddatrys y lefel dangynrychiolaeth yng Nghymuned Lledrod trwy ffurfio un ward etholiadol o Gymunedau Lledrod, Ystrad Fflur ac Ystrad Meurig a thrwy gyfuno Cymuned Ysbyty Ystwyth â Chymunedau , Pontarfynach a wardiau a Phenllwyn yng Nghymuned Melindwr i ffurfio ward etholiadol. Roedd y Comisiwn o’r farn mai’r cynnig hwn oedd y ffordd orau o fynd i’r afael â’r lefelau amhriodol o amrywiant etholiadol yn yr ardal hon, gan hefyd ystyried y gwrthwynebiad cryf, o fewn cynrychiolaethau, i gyfuno Tref Tregaron â ward Blaenpennal yng Nghymuned Lledrod. 116. Cafodd y Comisiwn 31 o gynrychiolaethau mewn ymateb i’r Cynigion Drafft ynglŷn â’r ardal hon gan: Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Tref Tregaron, Cynghorau Cymuned Llangeitho, Lledrod, Tregaron ac Ystwyth, y Cynghorydd Sir Ifan Davies (Lledrod), y Cynghorydd Sir Rhodri Evans (Llangeitho), Pwyllgor Grŵp Cymunedol Blaenpennal a Bontnewydd (CBBCG), 26 aelod o’r cyhoedd a 260 o lythyrau llofnodedig a gyflwynwyd gan Gyngor Cymuned Llangeitho. 117. Roedd Cyngor Sir Ceredigion yn gwrthwynebu cynigion drafft y Comisiwn ac argymhellodd gadw’r trefniadau presennol ar gyfer Lledrod a Thregaron. 118. Roedd Cyngor Cymuned Llangeitho yn gwrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn a mynegodd ei wrthwynebiad unfrydol i’r gynrychiolaeth gychwynnol gan CBBCG a oedd yn argymell cyfuno Cymuned Llangeitho â Thref Tregaron. Amlygodd y Cyngor Cymuned y tebygrwydd rhwng Cymunedau a Llangeitho, ac argymhellodd gadw’r trefniant presennol. Awgrymodd y byddai’n gwneud mwy o synnwyr cyfuno ward Blaenpennal yng Nghymuned Lledrod â Thref Tregaron. 119. Cyflwynodd Cyngor Cymuned Llangeitho gasgliad o 260 o lythyrau llofnodedig a oedd yn gwrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn i gyfuno Llangeitho a Thregaron, ac yn argymell cadw ward etholiadol bresennol Llangeitho. Mae’r llythyrau hyn yn amlygu’r gwahaniaethau mewn gwledigrwydd sy’n bodoli rhwng Cymuned Llangeitho a Thref Tregaron. 120. Roedd Cyngor Cymuned Lledrod yn cytuno â chynnig drafft y Comisiwn a chyflwynodd sawl rheswm pam y mae’n parhau i wrthwynebu cynrychiolaeth gychwynnol Cyngor Sir Ceredigion i gyfuno Tref Tregaron â ward Blaenpennal yng Nghymuned Lledrod. 121. Roedd Cyngor Tref Tregaron yn gwrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn ac argymhellodd ffurfio ward etholiadol â lefelau priodol o amrywiant etholiadol trwy gyfuno Tref Tregaron â ward Blaenpennal yng Nghymuned Lledrod. 122. Roedd Cyngor Cymuned Ystwyth yn gwrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn i gynnwys Cymuned Ysbyty Ystwyth yn ward etholiadol arfaethedig Melindwr. Roedd cynrychiolaeth y

Tudalen 39 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

Cyngor Cymuned hefyd yn cynnwys dwy gynrychiolaeth gan breswylwyr y Gymuned a oedd yn gwrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn. Dywedodd y Cyngor Cymuned fod cysylltiadau cryf rhwng y cymunedau yn ward etholiadol bresennol Lledrod, ond amlygodd y gwelliant mewn cynrychiolaeth etholiadol a fyddai’n digwydd trwy gyfuno ward Blaenpennal yng Nghymuned Lledrod â Thref Tregaron. 123. Roedd y Cynghorydd Rhodri Evans (Llangeitho) yn gwrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn ar gyfer wardiau etholiadol Tregaron gyda Llangeitho, a, Llangybi a Llanddewi Brefi. Amlygodd y Cynghorydd yr anghydnawsedd rhwng Llangybi (sydd â chysylltiadau cryfach â Thref Llanbedr Pont Steffan) a Llanddewi Brefi, gan awgrymu y byddai’n well cadw ward etholiadol bresennol Llangeitho. 124. Roedd y Cynghorydd Ifan Davies (Lledrod) yn gwrthwynebu cynigion drafft y Comisiwn ar gyfer wardiau etholiadol Lledrod a Melindwr, ac argymhellodd gadw ward etholiadol Lledrod. Mae’r Cynghorydd yn amlygu’r ffin naturiol sy’n bodoli rhwng Ysbyty Ystwyth a gweddill ward etholiadol arfaethedig Melindwr, a sut mae gan y gymuned gysylltiadau cryfach tuag at ei chanolfan wasanaethau ym Mhontrhydfendigaid, yn ward etholiadol bresennol Lledrod. 125. Roedd CBBCG yn cefnogi cynnig drafft y Comisiwn ar gyfer Lledrod. 126. Roedd 19 o breswylwyr ward Blaenpennal yng Nghymuned Lledrod yn cefnogi cynigion drafft y Comisiwn ar gyfer Lledrod. 127. Roedd pum preswyliwr o Gymuned Llangeitho yn gwrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn i gyfuno Cymuned Llangeitho â Thref Tregaron, gan fynegi gwahaniaethau mewn gwledigrwydd rhwng y ddwy ardal. Roeddent o blaid cadw ward etholiadol bresennol Llangeitho. 128. Roedd dau o breswylwyr Ysbyty Ystwyth yn gwrthwynebu cynigion drafft y Comisiwn ar gyfer Lledrod a Melindwr, gan eu bod yn teimlo y byddai’r cynnig drafft ar gyfer Melindwr yn gadael preswylwyr Cymuned Ysbyty Ystwyth wedi’u gwahanu. Amlygodd y preswylwyr fod eu cymuned wedi’i chysylltu â Phontrhydfendigaid. 129. Roedd un o breswylwyr Llanon yn cefnogi cynnig drafft y Comisiwn ar gyfer ward etholiadol Lledrod ac yn cynnig ffurfio ward etholiadol trwy gyfuno Cymunedau Pontarfynach, ac Ysbyty Ystwyth. 130. Mae’r Comisiwn yn argymell cyfuno Tref Tregaron â Chymuned Ystrad Fflur i ffurfio ward etholiadol o 1,469 o etholwyr (1,548 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 6% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 131. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Tregaron ac Ystrad-fflur i’r ward etholiadol argymelledig; a’r enw Saesneg Tregaron and Ystrad Fflur. Mae’r Comisiwn yn argymell yr enw hwn gan ei fod yn adlewyrchu enwau’r cymunedau yn yr ardal. Roedd Comisiynydd y Gymraeg o’r farn y dylai’r enw fod yn Tregaron and Ystrad-fflur yn Saesneg, fel yr argymhellir yn y Rhestr Enwau Lleoedd. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enwau argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 132. O ganlyniad, mae’r Comisiwn yn argymell cyfuno Cymunedau Lledrod, Ystrad Meurig ac Ysbyty Ystwyth i ffurfio ward etholiadol o 1,174 o etholwyr (1,180 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 15% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

Tudalen 40 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

133. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Lledrod i’r ward etholiadol argymelledig. Mae’r Comisiwn yn argymell yr enw hwn gan fod pob un o’r tair cymuned wedi’u cynnwys yn ward etholiadol bresennol Lledrod. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw hwn. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enwau argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 134. Mae’r Comisiwn wedi ystyried yr holl gynrychiolaethau a gafodd ynglŷn â’r ardal hon. Mae’r Comisiwn o’r farn bod dwy ward argymelledig Lledrod a Thregaron yn darparu amrywiant etholiadol priodol; eu bod wedi’u ffurfio o ardaloedd cymunedol cyfan; eu bod yn cynnig trefniadau a fyddai’n darparu’r cymorth mwyaf yn yr ardal ehangach; ac y byddent yn aflonyddu cyn lleied â phosibl ar y trefniadau presennol yn yr ardal. 135. O ystyried wardiau etholiadol argymelledig Lledrod a Thregaron, a ddisgrifiwyd uchod, ac o gydnabod y nifer fawr o gynrychiolaethau a gafwyd yn erbyn cynigion drafft y Comisiwn ar gyfer wardiau etholiadol cyfagos, mae’r Comisiwn yn argymell cadw trefniadau’r ward etholiadol bresennol ar gyfer Llanfarian, Llangeitho, Llangybi a Melindwr. Mae hyn yn cefnogi’r safbwyntiau a gyflwynwyd yn y cynrychiolaethau a gawsom ac yn cadw’r trefniadau presennol sydd â lefelau priodol o amrywiant etholiadol. 136. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhellion hyn yn ddymunol er mwyn llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 41 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

Insert map of Tregaron and Ystrad Fflur

Tudalen 42 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert Map of Lledrod

Tudalen 43 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

Llanbadarn Fawr Padarn a Llanbadarn Fawr Sulien 137. Mae ward etholiadol bresennol Llanbadarn Fawr Padarn yn cynnwys ward Padarn yng Nghymuned Llanbadarn Fawr. Mae ganddi 771 o etholwyr (815 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 44% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 776 o bleidleiswyr cymwys. 138. Mae ward etholiadol bresennol Llanbadarn Fawr Sulien yn cynnwys ward Sulien yng Nghymuned Llanbadarn Fawr. Mae ganddi 742 o etholwyr (846 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 46% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 2,090 o bleidleiswyr cymwys. 139. Yn ei Gynigion Drafft, cynigiodd y Comisiwn gyfuno Cymuned Llanbadarn Fawr â ward Bronglais yn Nhref Aberystwyth i ffurfio ward etholiadol dau aelod. 140. Cafodd y Comisiwn chwe chynrychiolaeth mewn ymateb i’r Cynigion Drafft ynglŷn â’r ardal hon gan: Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Tref Aberystwyth, Cyngor Cymuned Llanbadarn Fawr a thri aelod o’r cyhoedd. 141. Roedd Cyngor Sir Ceredigion yn cytuno â chynnig drafft y Comisiwn. 142. Roedd Cyngor Tref Aberystwyth yn gwrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn ac yn erbyn gwneud unrhyw newidiadau i ffiniau’r ward etholiadol tan i arolwg o ffiniau cymunedau gael ei gynnal. Teimlai’r Cyngor Tref na fyddai ward Bronglais y Dref yn gweithredu’n dda yng Nghymuned Llanbadarn Fawr ac amlygodd wahaniaethau rhwng y ddwy ardal. Yn dilyn ei ymateb cychwynnol i’r ymgynghoriad, cyflwynodd y Cyngor Tref awgrymiadau ar gyfer newid ffiniau’r wardiau o fewn Tref Aberystwyth i fynd i’r afael â’r anghydbwysedd etholwyr yn y Dref, a oedd yn cefnogi’r syniad o gadw wardiau Aberystwyth ar wahân i Gymuned Llanbadarn Fawr. 143. Roedd Llanbadarn Fawr yn gwrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn ac yn argymell ward etholiadol un aelod ar gyfer Cymuned gyfan Llanbadarn Fawr. 144. Roedd un o breswylwyr Ceredigion yn gwrthwynebu cynigion drafft y Comisiwn, gan fynegi pryder ynglŷn ag atebolrwydd mewn wardiau aml-aelod, o ystyried y byddai aelodau yn y cynnig drafft yn gyfrifol am ward Tref Aberystwyth a Chymuned Llanbadarn Fawr. Cynigiodd y preswyliwr ddiwygiad i’r ffin o fewn Tref Aberystwyth hefyd. 145. Roedd un o breswylwyr Ceredigion yn gwrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn ac yn argymell cadw wardiau etholiadol Aberystwyth Bronglais a Llanbadarn Fawr Padarn. Mae’r preswyliwr yn esbonio bod cynnig drafft y Comisiwn yn golygu y gallai aelodau etholedig orfod ymdrin â materion sy’n groes i’w gilydd. 146. Roedd un o breswylwyr Llanon yn gwrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn ac yn argymell ffurfio ward etholiadol o Gymuned gyfan Llanbadarn Fawr. 147. Mae’r Comisiwn yn argymell bod Cymuned Llanbadarn Fawr yn ffurfio ward etholiadol o 1,513 o etholwyr (1,661 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 9% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 148. Mae’r Comisiwn o’r farn bod y ward etholiadol argymelledig yn darparu ffordd briodol o ddatrys y lefelau amrywiant etholiadol presennol yng Nghymuned Llanbadarn Fawr trwy greu trefniant un aelod ac osgoi unrhyw gyfuniad â wardiau Tref Aberystwyth.

Tudalen 44 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

149. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Llanbadarn Fawr i’r ward etholiadol argymelledig. Mae’r Comisiwn yn argymell yr enw hwn oherwydd dyna enw’r Gymuned y mae’n cydffinio â hi. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw arfaethedig. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enwau argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 150. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhelliad hwn yn ddymunol er mwyn llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 45 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

Insert Map of Llanbadarn Fawr

Tudalen 46 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Aberystwyth Bronglais, Aberystwyth Canol/Central ac Aberystwyth Gogledd/North 151. Mae ward etholiadol bresennol Aberystwyth Bronglais yn cynnwys ward Bronglais yn Nhref Aberystwyth. Mae ganddi 909 o etholwyr (1,025 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 34% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,803 o bleidleiswyr cymwys. 152. Mae ward etholiadol bresennol Aberystwyth Canol/Central yn cynnwys ward Canol/Central Tref Aberystwyth. Mae ganddi 1,165 o etholwyr (1,422 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 16% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 2,326 o bleidleiswyr cymwys. 153. Mae ward etholiadol bresennol Aberystwyth Gogledd/North yn cynnwys ward Gogledd/North Tref Aberystwyth. Mae ganddi 1,115 o etholwyr (1,206 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 19% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 2,477 o etholwyr cymwys. 154. Yn ei Gynigion Drafft, cynigiodd y Comisiwn gyfuno ward Bronglais yn Nhref Aberystwyth â Chymuned Llanbadarn Fawr i ffurfio ward etholiadol dau aelod. Ni chynigiwyd unrhyw newidiadau ar gyfer wardiau etholiadol Aberystwyth Central/Gogledd ac Aberystwyth Gogledd/North. 155. Cafodd y Comisiwn chwe chynrychiolaeth mewn ymateb i’r Cynigion Drafft ynglŷn â’r ardal hon gan: Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Tref Aberystwyth, Cyngor Cymuned Llanbadarn Fawr a thri aelod o’r cyhoedd. 156. Roedd Cyngor Sir Ceredigion yn cytuno â chynnig drafft y Comisiwn. 157. Roedd Cyngor Tref Aberystwyth yn gwrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn ac yn erbyn gwneud unrhyw newidiadau i ffiniau’r ward etholiadol tan i arolwg o ffiniau cymunedau gael ei gynnal. Teimlai’r Cyngor Tref na fyddai ward Bronglais y Dref yn gweithredu’n dda yng Nghymuned Llanbadarn Fawr ac amlygodd wahaniaethau rhwng y ddwy ardal. Yn dilyn ei ymateb cychwynnol i’r ymgynghoriad, cyflwynodd y Cyngor Tref awgrymiadau ar gyfer newid ffiniau’r wardiau o fewn Tref Aberystwyth i fynd i’r afael â’r anghydbwysedd etholwyr yn y Dref, a oedd yn cynnwys trosglwyddo ardaloedd o wardiau Canol/Central a Rheidol i ward Bronglais. 158. Roedd Llanbadarn Fawr yn gwrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn ar gyfer Bronglais a Llanbadarn Fawr. 159. Roedd un o breswylwyr Ceredigion yn gwrthwynebu cynigion drafft y Comisiwn, gan fynegi pryder ynglŷn ag atebolrwydd mewn wardiau aml-aelod, o ystyried y byddai aelodau yn y cynnig drafft yn gyfrifol am ward Tref Aberystwyth a Chymuned Llanbadarn Fawr. Cynigiodd y preswyliwr ddiwygiad i’r ffin o fewn Tref Aberystwyth hefyd. Fodd bynnag, byddai nifer yr etholwyr a gynigiwyd yn y trosglwyddiad yn arwain at lefel amhriodol o amrywiant etholiadol o hyd i gadw ward un aelod Bronglais. 160. Roedd un o breswylwyr Ceredigion yn gwrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn ac yn argymell cadw wardiau etholiadol Aberystwyth Bronglais a Llanbadarn Fawr Padarn. Esboniodd y preswyliwr fod cynnig drafft y Comisiwn yn golygu y gallai aelodau etholedig orfod ymdrin â materion sy’n groes i’w gilydd. 161. Roedd un o breswylwyr Llanon yn gwrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn ac yn argymell ffurfio ward etholiadol trwy gyfuno wardiau Aberystwyth Bronglais ac Aberystwyth

Tudalen 47 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

Canol/Central y Dref. At hynny, cynigiodd y preswyliwr ffurfio ward etholiadol trwy gyfuno ward Aberystwyth Gogledd/North y Dref â ward Waunfawr yng Nghymuned Faenor. 162. Mae’r Comisiwn yn argymell cyfuno wardiau Aberystwyth Bronglais, Aberystwyth Canol/Central ac Aberystwyth Gogledd/North Tref Aberystwyth i ffurfio ward etholiadol o 3,189 o etholwyr (3,653 o etholwyr rhagamcanol), a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 15% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 163. Mae’r Comisiwn o’r farn bod yr argymhelliad hwn yn adlewyrchu mwyafrif y safbwyntiau a gyflwynwyd mewn cynrychiolaethau yn well, sy’n cynnig cadw Cymuned Llanbadarn Fawr a Thref Aberystwyth ar wahân. 164. Roedd y Comisiwn hefyd wedi ystyried yr argymhellion ar gyfer newidiadau i ffiniau wardiau a gynigiwyd yn y cynrychiolaethau, a nododd y byddai angen diwygio’r newidiadau arfaethedig i ffiniau ymhellach i gynhyrchu trefniadau sy’n creu wardiau â lefelau priodol o amrywiant etholiadol. Wrth gynhyrchu argymhellion terfynol ar gyfer wardiau etholiadol Ceredigion, teimlai’r Comisiwn na allai gefnogi argymhellion newydd ynglŷn â chynigion i newid ffiniau na fuont ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. 165. Mae’r argymhelliad hwn yn lleihau cyfanswm nifer yr aelodau etholedig sy’n gwasanaethu Tref Aberystwyth i bump. Ystyriodd y Comisiwn amrywiaeth o opsiynau o fewn y Dref, a’r ardal ehangach, a daeth i’r casgliad y byddai cadw chwe aelod ar gyfer y Dref, heb gyfuno ag ardaloedd cyfagos, yn cael effaith niweidiol ar yr amrywiant etholiadol o fewn wardiau etholiadol argymelledig eraill mewn rhannau eraill o’r Sir. Felly, mae’r Comisiwn yn argymell bod y Dref yn cael ei gwasanaethu gan bum cynghorydd; i gynhyrchu trefniadau effeithiol sy’n cynnal a chefnogi lefelau priodol o amrywiant etholiadol ar draws yr ardal. 166. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Aberystwyth Morfa a Glais i’r ward etholiadol arfaethedig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw arfaethedig hwn. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enwau argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 167. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhelliad hwn yn ddymunol er mwyn llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 48 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert Map of Aberystwyth Morfa a Glais

Tudalen 49 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

Pennod 6. CRYNODEB O’R TREFNIADAU ARGYMELLEDIG 1. Mae’r trefniadau etholiadol presennol (fel y’u dangosir yn Atodiad 2) yn darparu’r lefelau canlynol o gynrychiolaeth etholiadol yn Sir Ceredigion: • Mae’r amrywiant etholiadol yn amrywio o 41% islaw’r cyfartaledd sirol presennol (Llanbadarn Fawr Sulien) i 48% uwchlaw’r cyfartaledd sirol presennol (Llansanffraid), sef 1,252 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan 16 ward etholiadol lefel gynrychiolaeth sy’n fwy na 25% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,252 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan 16 ward etholiadol lefel gynrychiolaeth sydd rhwng 10% a 25% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,252 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan 8 ward etholiadol lefel gynrychiolaeth sy’n llai na 10% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,252 o etholwyr fesul cynghorydd. 2. O gymharu â’r trefniadau etholiadol presennol sydd i’w gweld uchod, mae’r trefniadau etholiadol argymelledig (sydd i’w gweld yn Atodiad 3) yn dangos y gwelliannau canlynol i gynrychiolaeth etholiadol ar draws y Sir: • Mae’r amrywiant etholiadol yn amrywio o 25% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig (Aberystwyth Penparcau) i 23% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig (Gogledd Llandysul a Throedyraur), sef 1,384 o etholwyr fesul cynghorydd. • Nid oes gan yr un o’r wardiau etholiadol lefel gynrychiolaeth sy’n fwy na 25% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,384 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan 19 ward etholiadol lefel gynrychiolaeth sydd rhwng 10% a 25% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,384 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan 15 ward etholiadol lefel gynrychiolaeth sy’n llai na 10% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,384 o etholwyr fesul cynghorydd. 3. Fel y disgrifir ym Mhennod 4 ac Atodiad 4, wrth lunio cynllun o drefniadau etholiadol, mae’n rhaid i ni ystyried nifer o faterion sydd wedi’u cynnwys yn y ddeddfwriaeth. Nid yw’n bosibl datrys pob un o’r materion hyn, sy’n aml yn gwrthdaro â’i gilydd, bob tro. Yng nghynllun argymelledig y Comisiwn, rydym wedi rhoi pwyslais ar wella cydraddoldeb etholiadol, gan gynnal cysylltiadau cymunedol lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y byddai creu wardiau etholiadol sy’n gwyro oddi wrth y patrwm presennol yn effeithio ar y cysylltiadau presennol rhwng cymunedau ac efallai’n pontio ardaloedd cyngor cymuned. Mae’r Comisiwn wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wardiau etholiadol diwygiedig yn gyfuniadau rhesymegol o gymunedau a wardiau cymunedol presennol. 4. Mae’r Comisiwn wedi edrych ar bob ardal, ac mae’n fodlon y byddai’n anodd cyflawni trefniadau etholiadol sy’n cadw’r cyfuniad presennol o gymunedau a wardiau cymunedol heb gael effaith niweidiol ar un neu fwy o’r materion eraill y mae’n rhaid iddo eu hystyried.

Tudalen 50 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pennod 7. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN 1. Ar ôl cwblhau’r arolwg o Sir Ceredigion a chyflwyno ei argymhellion i Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r trefniadau etholiadol ar gyfer y prif awdurdod yn y dyfodol, mae’r Comisiwn wedi cyflawni ei rwymedigaethau statudol o dan y Ddeddf. 2. Llywodraeth Cymru sydd bellach yn gyfrifol, os gwêl yn dda, am weithredu’r argymhellion hyn naill ai fel y’u cyflwynwyd neu gydag addasiadau. Gallai Llywodraeth Cymru ein cyfarwyddo i gynnal arolwg arall hefyd. 3. Dylai unrhyw gynrychiolaethau ychwanegol ynglŷn â’r materion yn yr adroddiad hwn gael eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru. Dylid gwneud hyn cyn gynted â phosibl a, sut bynnag, heb fod yn hwyrach na chwe wythnos o’r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Lywodraeth Cymru. Dylid cyfeirio cynrychiolaethau at:

Y Tîm Democratiaeth Llywodraeth Leol Yr Is-adran Democratiaeth, Amrywiaeth a Chydnabyddiaeth Ariannol Llywodraeth Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ

Neu drwy anfon neges e-bost at:

lgdtmailbox@gov.

Tudalen 51 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CEREDIGION

Pennod 8. CYDNABYDDIAETHAU 4. Hoffai’r Comisiwn ddiolch i’r prif gyngor, yr holl gynghorau cymuned a’r cyrff a’r unigolion eraill â buddiant a wnaeth gynrychiolaethau am eu cymorth wrth i ni ddatblygu’r argymhellion terfynol hyn. Rydym ni, sydd wedi arwyddo isod, yn cymeradwyo’r adroddiad argymhellion hwn.

OWEN WATKIN OBE DL (Cadeirydd)

CERI STRADLING (Dirprwy Gadeirydd)

DAVID POWELL (Aelod)

JULIE MAY (Aelod)

THEODORE JOLOZA (Aelod)

SHEREEN WILLIAMS (Prif Weithredwr)

Mai 2019

Tudalen 52 ATODIAD 1

ATODIAD 1 – RHESTR TERMAU

Amrywiant I ba raddau mae nifer yr etholwyr fesul cynghorydd mewn ward yn etholiadol amrywio o’r cyfartaledd sirol; wedi’i fynegi ar ffurf canran.

Arolwg etholiadol Arolwg lle mae’r Comisiwn yn ystyried y trefniadau etholiadol ar gyfer Prif Gyngor.

Comisiwn Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

Cyfarwyddiadau Cyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan Adran 48 y Ddeddf.

Cymuned (ardal) Yr uned llywodraeth leol sydd islaw lefel y Prif Gyngor.

Cymuned Ranedig Cymuned sydd wedi’i rhannu rhwng dwy neu fwy o wardiau etholiadol.

Cyngor Cymuned Cyngor etholedig sy’n darparu gwasanaethau i’w ardal gymunedol benodol. At ddibenion etholiadol cymunedol, gellir rhannu Cyngor Cymuned yn wardiau cymunedol.

Cyngor Tref Mae Cyngor Cymuned sydd â statws tref yn cael ei adnabod fel Cyngor Tref. At ddibenion etholiadol cymunedol, gellir rhannu Cyngor Tref yn wardiau.

Etholaeth Nifer y bobl sydd wedi’u cofrestru i bleidleisio mewn ardal llywodraeth leol.

Etholaeth Y rhagolygon pum mlynedd ar gyfer yr etholaeth. ragamcanol

Gorchymyn Gorchymyn a wneir gan gorff gweithredu sy’n rhoi cynigion a wneir gan y Prif Gyngor neu’r Comisiwn ar waith.

Gorgynrychiolaeth Lle mae llai o etholwyr fesul cynghorydd mewn ward o gymharu â’r cyfartaledd sirol.

Parti â buddiant Unigolyn neu gorff sydd â buddiant yng nghanlyniad arolwg etholiadol, fel cyngor cymuned, AS neu AC lleol neu blaid wleidyddol. Poblogaeth Nifer amcangyfrifedig y bobl gymwys (18+) mewn ardal llywodraeth amcangyfrifedig y leol sy’n gymwys i bleidleisio. Cafwyd y ffigurau hyn o pleidleiswyr cymwys amcangyfrifon poblogaeth wardiau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cymru yn 2015, canol 2015 (ystadegau arbrofol).

1 ATODIAD 1

Prif ardal Yr ardal a lywodraethir gan Brif Gyngor: sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru.

Prif Gyngor Corff llywodraeth leol un haen sy’n gyfrifol am bob un, neu bron bob un, o’r swyddogaethau llywodraeth leol yn ei ardal. Cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.

Tangynrychiolaeth Lle mae mwy o etholwyr fesul cynghorydd mewn ward o gymharu â’r cyfartaledd sirol.

Ward Cymuned / Ardal mewn Cyngor Cymunedol a grëwyd at ddibenion etholiadol Tref cymunedol.

Wardiau etholiadol Yr ardaloedd y caiff Prif Gynghorau eu rhannu iddynt at ddiben ethol cynghorwyr sir, y cyfeiriwyd atynt gynt fel adrannau etholiadol. Y Ddeddf Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013

2 CYNGOR SIR CEREDIGION ATODIAD 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR

% % NIFER CYMHA amrywiaeth NIFER CYMHA amrywia Poblogaeth NIFER Rhif ENW DISGRIFIFIAD ETHOLWYR REB o'r ETHOLWYR REB eth o'r sy'n cymwys i CYNGHORWYR 2017 2017 cyfartaledd 2022 2022 cyfartale pleidleisio Sirol dd Sirol

1 Aberaeron Tref Aberaeron 1 1,070 1,070 -15% 1,105 1,105 -16% 1,147

2 Aberporth Cymuned Aber-porth 1 1,756 1,756 40% 1,871 1,871 42% 1,975

3 Aberteifi/Cardigan-Mwldan Ward Mwldan yn Nhref Aberteifi 1 1,485 1,485 19% 1,529 1,529 16% 1,476

Aberteifi/Cardigan-Rhyd-y- 4 Ward Rhyd y Fuwch yn Nhref Aberteifi 1 884 884 -29% 911 911 -31% 957 fuwch

5 Aberteifi/Cardigan-Teifi Ward Teifi yn Nhref Aberteifi 1 762 762 -39% 806 806 -39% 848

6 Aberystwyth Bronglais Ward Bronglais yn Nhref Aberystwyth 1 909 909 -27% 1,025 1,025 -22% 1,803

7 Aberystwyth Canol/Central Ward y Canol yn Nhref Aberystwyth 1 1,165 1,165 -7% 1,422 1,422 8% 2,326

8 Aberystwyth Gogledd/North Ward y Gogledd yn Nhref Aberystwyth 1 1,115 1,115 -11% 1,206 1,206 -9% 2,477

9 Aberystwyth Penparcau Ward Penparcau yn Nhref Aberystwyth 2 2,078 1,039 -17% 2,190 1,095 -17% 2,317

10 Aberystwyth Rheidol Ward Rheidol yn Nhref Aberystwyth 1 1,573 1,573 26% 1,745 1,745 32% 2,415

11 Beulah Cymuned Beulah 1 1,333 1,333 6% 1,373 1,373 4% 1,362

12 Y Borth Cymunedau Borth a Genau'r Glyn 1 1,576 1,576 26% 1,631 1,631 23% 1,706

13 Capel Dewi Wardiau Capel Dewi, Pont-siân a Thre-groes yng Nghymuned Llandysul 1 1,025 1,025 -18% 1,056 1,056 -20% 1,090

14 Ceulan-a-Maesmor Cymunedau Ceulan a Maesmor, ac Ysgubor-y-coed 1 1,474 1,474 18% 1,531 1,531 16% 1,499

15 Ciliau Aeron Cymunedau Ciliau Aeron a 1 1,524 1,524 22% 1,568 1,568 19% 1,600

16 Faenor Cymuned Faenor 1 1,353 1,353 8% 1,640 1,640 24% 2,312

17 Llanbedr Pont Steffan Tref Llanbedr Pont Steffan 2 1,657 829 -34% 1,790 895 -32% 2,448

18 Llannarth Cymuned Llannarth 1 1,135 1,135 -9% 1,172 1,172 -11% 1,268

19 Llanbadarn Fawr Padarn Ward Padarn yng Nghymuned Llanbadarn Fawr 1 771 771 -38% 815 815 -38% 776

20 Llanbadarn Fawr Sulien Ward Sulien yng Nghymuned Llanbadarn Fawr 1 742 742 -41% 846 846 -36% 2,090

21 Llandyfrïog Cymuned Llandyfrïog 1 1,415 1,415 13% 1,455 1,455 10% 1,467

22 Llandysiliogogo Cymunedau Llandysiliogogo a Llanllwchaearn 1 1,511 1,511 21% 1,565 1,565 18% 1,607

23 Tref Llandysul Ward Trefol yng Nghymuned Llandysul 1 1,022 1,022 -18% 1,101 1,101 -17% 1,081 CYNGOR SIR CEREDIGION ATODIAD 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR

% % NIFER CYMHA amrywiaeth NIFER CYMHA amrywia Poblogaeth NIFER Rhif ENW DISGRIFIFIAD ETHOLWYR REB o'r ETHOLWYR REB eth o'r sy'n cymwys i CYNGHORWYR 2017 2017 cyfartaledd 2022 2022 cyfartale pleidleisio Sirol dd Sirol

24 Llanfarian Cymuned Llanfarian 1 1,147 1,147 -8% 1,185 1,185 -10% 1,183

25 Llanfihangel Ystrad Cymuned Llanfihangel Ystrad a wardiau Nantcwnlle a Threfilan yng Nghymuned Nantcwnlle 1 1,616 1,616 29% 1,680 1,680 27% 1,664

26 Llangeitho Cymunedau Llanddewibrefi a Llangeitho 1 1,082 1,082 -14% 1,115 1,115 -16% 1,192

27 Llangybi Cymunedau a Llangybi a ward Gartheli yng Nghymuned Nantcwnlle 1 1,114 1,114 -11% 1,167 1,167 -12% 1,182

28 Cymunedau a Llanrhystud 1 1,242 1,242 -1% 1,303 1,303 -1% 1,272

29 Llansanffraid Cymunedau Dyffryn Arth a Llansanffraid 1 1,848 1,848 48% 1,922 1,922 45% 1,970

30 Llanwenog Cymunedau Llanwenog a Llanwnnen 1 1,407 1,407 12% 1,439 1,439 9% 1,471

31 Lledrod Cymunedau Lledrod, Ysbyty Ystwyth, Ystrad Fflur ac Ystrad Meurig 1 1,744 1,744 39% 1,784 1,784 35% 1,715

32 Melindwr Cymunedau Blaenrheidol, Melindwr a Phontarfynach 1 1,519 1,519 21% 1,596 1,596 21% 1,589

33 Ceinewydd Tref Ceinewydd 1 841 841 -33% 880 880 -33% 864

34 Penbryn Cymunedau Llangrannog a Phenbryn 1 1,695 1,695 35% 1,755 1,755 33% 1,668

35 Pen-parc Cymunedau Llangoedmor a'r Ferwig 1 1,838 1,838 47% 1,872 1,872 42% 1,878

36 Tirymynach Cymuned Tirymynach 1 1,356 1,356 8% 1,414 1,414 7% 1,442

37 Trefeurig Cymuned Trefeurig 1 1,327 1,327 6% 1,393 1,393 5% 1,364

38 Tregaron Tref Tregaron 1 899 899 -28% 944 944 -29% 955

39 Troed-yr-aur Cymuned Troed-yr-aur 1 1,047 1,047 -16% 1,065 1,065 -19% 1,101

40 Ystwyth Cymunedau a Thrawsgoed 1 1,541 1,541 23% 1,623 1,623 23% 1,588

CYFANSYMIAU 42 52,598 1,252 55,490 1,321 62,145 Cymhareb yw nifer yr etholwyr I bob cynghorydd Derbyniwyd y ffgyrau etholiadol gan Gyngor Sir Ceredigion Derbyniwyd y ffgyrau poblogaeth gan Swyddfa Ystadegau Gwladol

2017 2022 Mwy na + neu - 25% o'r cyfartaledd Sirol 16 40% 14 35% Rhwng + neu - 10% a + neu - 25% o'r cyfartaledd Sirol 16 40% 19 48% Rhwng 0% a + neu - 10% o'r cyfartaledd Sirol 8 20% 7 18% CYNGOR SIR CEREDIGION ATODIAD 3 AELODAETH ARGYMHELLIEDIG Y CYNGOR

NIFER CYMHA % amrywiaeth NIFER % amrywiaeth NIFER CYMHAR Rhif ENW DISGRIFIFIAD ETHOLWYR REB o'r cyfartaledd ETHOLWYR o'r cyfartaledd CYNGHORWYR EB 2022 2017 2017 Sirol 2022 Sirol 1 Aberaeron ac Aber-arth Tref Aberaeron a ward Llanddewi Aberarth yng Nghymuned Dyffryn Arth 1 1,408 1,408 2% 1,452 1,452 -1%

2 Aberporth a'r Ferwig Cymunedau Aber-porth a Y Ferwig 2 2,683 1,342 -3% 2,812 1,406 -4%

3 Aberystwyth Morfa a Glais Wardiau Bronglais, Canol/Central a Gogledd/North yn Nhref Aberystwyth 2 3,189 1,595 15% 3,653 1,827 25%

4 Aberystwyth Penparcau Ward Penparcau yn Nhref Aberystwyth 2 2,078 1,039 -25% 2,190 1,095 -25%

5 Aberystwyth Rheidol Ward Rheidol yn Nhref Aberystwyth 1 1,573 1,573 14% 1,745 1,745 19%

6 Beulah a Llangoedmor Cymunedau Beulah a Llangoedmor 2 2,244 1,122 -19% 2,304 1,152 -21%

7 Y Borth Cymunedau Borth a Genau'r Glyn 1 1,576 1,576 14% 1,631 1,631 12%

8 Ceulanamaesmawr Cymunedau Ceulan a Maesmor, Llangynfelyn ac Ysgubor-y-coed 1 1,474 1,474 6% 1,531 1,531 5%

9 Ciliau Aeron Cymunedau Ciliau Aeron a Henfynyw 1 1,524 1,524 10% 1,568 1,568 7%

10 Faenor Cymuned Faenor 1 1,353 1,353 -2% 1,640 1,640 12%

11 Llanbedr Pont Steffan Tref Llanbedr Pont Steffan 1 1,657 1,657 20% 1,790 1,790 23%

12 Llanarth Cymuned Llannarth 1 1,135 1,135 -18% 1,172 1,172 -20%

13 Llanbadarn Fawr Cymuned Llanbadarn Fawr 1 1,513 1,513 9% 1,661 1,661 14%

14 Llandyfrïog Cymuned Llandyfrïog 1 1,415 1,415 2% 1,455 1,455 0%

15 Llandysilio a Llangrannog Cymunedau Llandysiliogogo a Llangrannog 1 1,456 1,456 5% 1,495 1,495 2%

Gogledd Llandysul a 16 Cymuned Troed-yr-aur a wardiau Pont-siân a Thre-groes yng Nghymuned Llandysul 1 1,698 1,698 23% 1,734 1,734 19% Throedyraur

17 De Llandysul Wardiau Capel Dewi a Trefol yng Nghymuned Llandysul 1 1,396 1,396 1% 1,488 1,488 2%

18 Llanfarian Cymuned Llanfarian 1 1,147 1,147 -17% 1,185 1,185 -19%

19 Llanfihangel Ystrad Cymuned Llanfihangel Ystrad a wardiau Nantcwnlle a Threfilan yng Nghymuned Nantcwnlle 1 1,616 1,616 17% 1,680 1,680 15%

20 Llangeitho Cymunedau Llanddewi Brefii a Llangeitho 1 1,082 1,082 -22% 1,115 1,115 -24%

21 Llangybi Cymunedau Llanfair Clydogau a Llangybi a ward Gartheli yng Nghymuned Nantcwnlle 1 1,114 1,114 -20% 1,167 1,167 -20%

22 Llanrhystud Cymunedau Llangwyryfon a Llanrhystud 1 1,242 1,242 -10% 1,303 1,303 -11%

23 Llansanffraid CymunedLlansantffraed a ward Llanbadarn Trefeglwys yng Nghymuned Dyffryn Arth 1 1,510 1,510 9% 1,575 1,575 8% CYNGOR SIR CEREDIGION ATODIAD 3 AELODAETH ARGYMHELLIEDIG Y CYNGOR

NIFER CYMHA % amrywiaeth NIFER % amrywiaeth NIFER CYMHAR Rhif ENW DISGRIFIFIAD ETHOLWYR REB o'r cyfartaledd ETHOLWYR o'r cyfartaledd CYNGHORWYR EB 2022 2017 2017 Sirol 2022 Sirol

24 Llanwenog Cymunedau Llanwenog a Llanwnnen 1 1,407 1,407 2% 1,439 1,439 -1%

25 Lledrod Cymunedau Lledrod, Ystrad Meurig ac Ysbyty Ystwyth 1 1,174 1,174 -15% 1,180 1,180 -19%

26 Melindwr Cymunedau Blaenrheidol, Pontarfynach a Melindwr 1 1,519 1,519 10% 1,596 1,596 9%

27 Mwldan Ward Mwldan yn Nhref Aberteifi 1 1,485 1,485 7% 1,529 1,529 5%

28 Ceinewydd a Llanllwchaiarn Tref Ceinewydd a Nghymuned Llanllwchaiarn 1 1,527 1,527 10% 1,599 1,599 10%

29 Penbryn Cymuned Penbryn 1 1,064 1,064 -23% 1,106 1,106 -24%

30 Teifi Wardiau Rhyd-y-Fuwch a Teifi yn Nhref Aberteifi 1 1,646 1,646 19% 1,717 1,717 18%

31 Tirymynach Cymuned Tirymynach 1 1,356 1,356 -2% 1,414 1,414 -3%

32 Trefeurig Cymuned Trefeurig 1 1,327 1,327 -4% 1,393 1,393 -5%

33 Tregaron ac Ystrad-fflur Tref Tregaron a Nghymuned Llangeitho 1 1,469 1,469 6% 1,548 1,548 6%

34 Ystwyth The Communities of Llanilar and Trawsgoed 1 1,541 1,541 11% 1,623 1,623 11%

CYFANSWM: 38 52,598 1,384 55,490 1,460 Cymhareb yw nifer yr etholwyr i bob cynghorydd Derbyniwyd y ffigyrau etholiadol gan Gyngor Sir Ceredigion

2017 2022 Mwy na + neu - 25% o'r cyfartaledd Sirol 0 0% 0 0% Rhwng + neu - 10% a + neu - 25% o'r cyfartaledd Sirol 18 53% 19 56% Rhwng 0% a + neu - 10% o'r cyfartaledd Sirol 16 47% 15 44% ATODIAD 4

RHEOLAU A GWEITHDREFNAU

Cwmpas ac Amcan yr Arolwg

1. Mae Adran 29 (1) Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (y Ddeddf) yn rhoi dyletswydd ar y Comisiwn i arolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer pob prif ardal yng Nghymru, o leiaf unwaith ym mhob cyfnod arolygu o ddeng mlynedd, at ddiben ystyried p’un a ddylai gwneud cynigion i Lywodraeth Cymru i newid y trefniadau etholiadol hynny ai peidio. Wrth gynnal arolwg, rhaid i’r Comisiwn geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus (Adran 21 (3) y Ddeddf).

2. Gofynnodd cyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru i’r Comisiwn gyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r arolwg o drefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ceredigion cyn etholiadau llywodraeth leol 2022.

Trefniadau Etholiadol

3. Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag arolwg etholiadol yw:

(a) y newidiadau hynny i drefniadau’r brif ardal dan sylw y mae o’r farn eu bod yn briodol; ac

(b) o ganlyniad i’r newidiadau hynny:

(i) y newidiadau hynny i ffiniau cymuned y mae o’r farn eu bod yn briodol mewn perthynas ag unrhyw gymuned yn y brif ardal;

(ii) y newidiadau hynny i gyngor cymuned a newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned o’r fath y mae o’r farn eu bod yn briodol; ac

(iii) y newidiadau hynny i sir wedi ei chadw y mae o’r farn eu bod yn briodol.

4. Caiff “trefniadau etholiadol” prif ardal eu diffinio yn adran 29 (9) Deddf 2013 fel a ganlyn:

(a) nifer aelodau’r cyngor ar gyfer y brif ardal;

(b) nifer, math a ffiniau’r wardiau etholiadol;

(c) nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer unrhyw ward etholiadol yn y brif ardal; ac

(d) enw unrhyw ward etholiadol.

1 ATODIAD 4

Ystyriaethau ar gyfer arolwg o drefniadau etholiadol prif ardal

5. Wrth ystyried p’un a ddylai gwneud argymhellion ar gyfer newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal, mae adran 30 y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn:

(a) geisio sicrhau bod yr un gymhareb o etholwyr llywodraeth leol i nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol ym mhob ward etholiadol o’r brif ardal, neu mor agos a phosib;

(b) rhoi sylw i’r canlynol:

(i) dymunoldeb pennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol sydd yn hawdd eu hadnabod ac a fyddant yn parhau felly;

(ii) dymunoldeb peidio â thorri’r cwlwm lleol wrth bennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol.

6. Wrth ystyried cymhareb yr etholwyr llywodraeth leol i nifer yr aelodau, rhaid ystyried:

(a) unrhyw anghysondeb rhwng nifer etholwyr llywodraeth leol a nifer y bobl sydd yn gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel y gwelir mewn ystadegau swyddogol perthnasol); ac

(b) unrhyw newid yn nifer neu yn nosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn syth ar ôl gwneud unrhyw argymhelliad.

Newidiadau llywodraeth leol

7. Ers yr arolwg diwethaf o’r trefniadau etholiadol, ni fu unrhyw newidiadau i’r ffiniau llywodraeth leol yng Ngheredigion.

Gweithdrefn

8. Mae Pennod 4 y Ddeddf yn pennu canllawiau gweithdrefnol sydd i’w dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol â’r rhan hon o’r Ddeddf, ar 18 Ionawr 2017 ysgrifennodd y Comisiwn at Gyngor Sir Ceredigion, yr holl Gynghorau Cymuned yn yr ardal, yr Aelodau Seneddol ar gyfer yr etholaethau lleol, yr Aelodau Cynulliad ar gyfer yr ardal, a phartïon eraill â buddiant i roi gwybod iddynt am ein bwriad i gynnal yr arolwg ac i ofyn am eu safbwyntiau rhagarweiniol. Gwahoddodd y Comisiwn y Cyngor Sir i gyflwyno cynllun neu gynlluniau awgrymedig ar gyfer trefniadau etholiadol newydd, a gofynnodd i Gyngor Sir Ceredigion arddangos nifer o hysbysiadau cyhoeddus yn yr ardal. Trefnodd y Comisiwn fod copïau o’r ddogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer ar gael hefyd. Yn ychwanegol, cyflwynwyd y Comisiwn i Gynghorwyr Sirol a Chymunedol i esbonio ein gweithdrefnau wrth gynnal arolygion. Caewyd y cyfnod ymgynghori Cychwynnol ar y 19 Ebrill 2017.

2 ATODIAD 4

9. Yn unol ag Adran 35 Pennod 4 y Ddeddf, cyhoeddodd y Comisiwn ei Adroddiad Cynigion Drafft ar 16 Ionawr 2018, yn hysbysu’r ymgyngoreion gorfodol rhestredig a phartïon eraill â buddiant y byddai cyfnod ymgynghori ar y cynigion drafft yn dechrau ar 23 Ionawr 2018 ac yn cau ar 16 Ebrill 2018. Cyfarfu’r Comisiwn ag Arweinwyr Grŵp a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Gwynedd i drafod y Cynigion Drafft a’r broses o ddatblygu’r Argymhellion Terfynol. Gwahoddodd y Comisiwn y Cyngor Sir a phartïon eraill â buddiant i gyflwyno sylwadau ar y Cynigion Drafft a’r modd y gellid eu gwella. Hefyd, gofynnodd y Comisiwn i Gyngor Sir Ceredigion arddangos copïau o’r adroddiad ochr yn ochr â hysbysiadau cyhoeddus yn yr ardal

10. Caiff ffiniau’r wardiau etholiadol arfaethedig eu dangos gan linellau glas di-dor ar y map a roddir ar adnau gyda’r Adroddiad hwn yn Swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion a Swyddfa’r Comisiwn yng Nghaerdydd, yn ogystal ag ar wefan y Comisiwn (http://cffdl.llyw.cymru).

Polisi ar Arfer

11. Cyhoeddodd y Comisiwn y ddogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer ym mis Tachwedd 2016. Mae’r ddogfen hon yn manylu ar ddull y Comisiwn o ddatrys yr her o gydbwyso cydraddoldeb etholiadol â chysylltiadau cymunedol; mae’n amlinellu’r materion i’w hystyried ac yn rhoi rhywfaint o ddealltwriaeth o’r ymagwedd gyffredinol tuag at bob un o’r ystyriaethau statudol wrth fynd i’r afael ag amgylchiadau penodol arolwg. Fodd bynnag, oherwydd nad yw’r amgylchiadau hynny’n debygol o ddarparu’r patrwm etholiadol delfrydol, yn y rhan fwyaf o arolygon, gwneir cyfaddawiadau wrth gymhwyso’r polisïau er mwyn taro’r cydbwysedd priodol rhwng pob un o’r materion y mae’n rhaid i’r Comisiwn eu hystyried.

12. Mae’r ddogfen hefyd yn darparu’r amserlen gyffredinol ar gyfer y rhaglen, a sut y cafodd ei nodi, a Pholisi’r Comisiwn ar Faint Cynghorau. Mae’r ddogfen i’w gweld ar wefan y Comisiwn neu mae ar gael ar gais.

Hawlfraint y Goron

13. Lluniwyd y mapiau a gynhwysir yn yr adroddiad hwn, ac a gyhoeddir ar wefan y Comisiwn, gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru dan drwydded gan yr Arolwg Ordnans. Mae’r mapiau hyn yn destun © Hawlfraint y Goron. Bydd eu hatgynhyrchu heb awdurdod yn torri Hawlfraint y Goron a gall arwain at erlyniad neu achos sifil. Dylai golygydd unrhyw bapur newydd sy’n dymuno defnyddio’r mapiau yn rhan o erthygl am y cynigion drafft gysylltu â swyddfa hawlfraint yr Arolwg Ordnans yn gyntaf.

3 ATODIAD 5

CRYNODEB O GYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD WRTH YMATEB I’R YMGYNGHORIAD AR GYNIGION DRAFFT Y COMISIWN AR GYFER YR AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL YN SIR CEREDIGION

1. Ysgrifennodd Cyngor Sir Ceredigion ar 16 Ebrill 2018 yn amlinellu ei ymateb i Gynigion Drafft y Comisiwn ynglŷn â Threfniadau Etholiadol yng Ngheredigion.

Roedd Cyngor Sir Ceredigion yn cytuno â 25 (76%) o gynigion drafft y Comisiwn, fel y’u rhestrir isod: • Aberaeron • Llandysul Gogledd a • Aberystwyth Canol Throedyraur • Aberystwyth Gogledd • Llandysul De • Aberystwyth Penparcau • Llanfihangel Ystrad • Aberystwyth Rheidol • Llanrhystud • Bronglais a Llanbadarn Fawr • Llansanffraid • Ceulanamaesmawr • Llanwenog • Ciliau Aeron • Ceinewydd gyda • Faenor Llanllwchaearn • Llanbedr Pont Steffan • Penbryn • Llanarth • Tirymynach • Llandyfrïog • Trefeurig • Llandysiliogogo a Llangrannog • Y Borth • Ystwyth

Roedd Cyngor Sir Ceredigion yn gwrthwynebu wyth (24%) o gynigion drafft y Comisiwn, fel y’u rhestrir isod: • Aberporth a’r Ferwig • Llangybi a Llanddewi Brefi • Beulah a Llangoedmor • Lledrod • Aberteifi • Melindwr • Llanfarian • Tregaron gyda Llangeitho

Cynigiodd y Cyngor Sir drefniadau amgen ar gyfer wyth o gynigion y Comisiwn (a restrir yn union uchod), a oedd yn cynnwys cadw trefniadau etholiadol presennol Aberporth, Beulah, Aberteifi-Mwldan, Pen-parc, Llanfarian, Llangeitho, Llangybi, Lledrod, Melindwr a Thregaron; a chynnig ffurfio ward etholiadol un aelod trwy gyfuno wardiau Rhyd-y- Fuwch a Theifi yn Nhref Aberteifi.

Yn ogystal, gwnaeth y Cyngor sylwadau ar enwau’r wardiau etholiadol arfaethedig a/neu safbwyntiau Comisiynydd y Gymraeg ar enwau’r wardiau canlynol: • Aberaeron • Llanarth • Aberteifi - Teifi (a gynigiwyd gan • Llandyfrïog Gyngor Sir Ceredigion) • Llandysiliogogo a Llangrannog • Ceulanamaesmawr

- 1 - ATODIAD 5

• Ceinewydd gyda • Y Borth Llanllwchaearn Gellir gweld rhagor o fanylion am yr ymatebion a roddwyd gan Gyngor Sir Ceredigion, wrth ymateb i Gynigion Drafft y Comisiwn, yn y tabl canlynol.

Nifer y Cymhareb Cymhareb Nifer y Wardiau % 2017 % 2022 Cyngh. Ceulanamaesmawr

Cadw’r trefniadau presennol – mae’r Cyngor yn 1 cytuno â’r cynnig hwn. 7% 5% 1

Cynigiwyd y dylai enw’r ward aros fel y mae ar hyn o bryd, yn hytrach na Ceulan a Maesmawr.

Borth

Cadw’r trefniadau presennol – mae’r Cyngor yn 1 cytuno â’r cynnig hwn. 14% 12% 1

Cytunwyd â chynnig y Comisiwn Ffiniau i enwi’r Ward Y Borth.

Tirymynach

1 Cadw’r trefniadau presennol – mae’r Cyngor yn -2% -3% 1 cytuno â’r cynnig hwn.

Trefeurig

1 Cadw’r trefniadau presennol – mae’r Cyngor yn -4% -5% 1 cytuno â’r cynnig hwn.

Melindwr

Mae’r Cyngor yn gwrthwynebu cynnig y Comisiwn ym Mhara. 141. Gwrthwynebir y cynnig i symud Llanbadarn y Creuddyn Uchaf o Felindwr i Lanfarian hefyd (Para. 150).

Felly, mae’r Cyngor yn cynnig y dylai Melindwr aros heb ei newid h.y. peidio â symud Ysbyty Ystwyth o 1 ward Lledrod; ac i Lanbadarn y Creuddyn Uchaf aros 10% 9% 1 yn ward Melindwr.

Gwrthwynebir y cynigion (Para. 141 a 150) oherwydd y cysylltiadau cryf o fewn ffiniau ward bresennol Lledrod h.y. y cysylltiadau ysgol yn yr ardal gan fod plant yng nghymuned Ysbyty Ystwyth yn mynd i Ysgol

- 2 - ATODIAD 5 Gynradd Gymunedol yn ward gyfagos Lledrod ac Ysgol Henry Richard yn Nhregaron.

Llanfarian

Mae’r Cyngor yn gwrthwynebu cynnig y Comisiwn i symud Llanbadarn y Creuddyn Uchaf o Felindwr a’i chynnwys yng nghymuned Llanfarian (Para. 150). Mae’n gwrthwynebu hyn oherwydd y cysylltiadau cryf o fewn ffiniau ward bresennol Melindwr h.y. y 1 cysylltiadau ysgol yn yr ardal gan fod plant yng -17% -19% 1 nghymuned Ysbyty Ystwyth yn mynd i Ysgol Gynradd Gymunedol Pontrhydfendigaid yn ward gyfagos Lledrod ac Ysgol Henry Richard yn Nhregaron.

Felly, mae’r Cyngor yn cynnig y dylai Llanfarian aros heb ei newid.

Faenor

1 Cadw’r trefniadau presennol – mae’r Cyngor yn -2% 12% 1 cytuno â’r cynnig hwn.

Aberystwyth Bronglais, Llanbadarn Fawr Padarn a Llanbadarn Fawr Sulien 1 -13% -8% 2 Mae’r Cyngor yn cytuno â’r cynnig hwn.

Aberystwyth Canol

1 Cadw’r trefniadau presennol – mae’r Cyngor yn -16% -3% 1 cytuno â’r cynnig hwn.

Aberystwyth Gogledd

1 Cadw’r trefniadau presennol – mae’r Cyngor yn -19% -17% 1 cytuno â’r cynnig hwn.

Aberystwyth Penparcau

1 Cadw’r trefniadau presennol – mae’r Cyngor yn -25% -25% 2 cytuno â’r cynnig hwn.

Aberystwyth Rheidol

1 Cadw’r trefniadau presennol – mae’r Cyngor yn 14% 20% 1 cytuno â’r cynnig hwn.

Ystwyth

1 Cadw’r trefniadau presennol – mae’r Cyngor yn 11% 11% 1 cytuno â’r cynnig hwn.

- 3 - ATODIAD 5

Lledrod

Mae’r Cyngor yn cynnig y dylai Ysbyty Ystwyth aros yn rhan o Ledrod ac na ddylai gael ei symud i Felindwr o ganlyniad i’r cysylltiadau cryf sydd gan y gymuned â Ward Lledrod h.y. y cysylltiadau ysgol yn 1 yr ardal gan fod plant yng nghymuned Ysbyty Ystwyth 26% 22% 1 yn mynd i Ysgol Gynradd Gymunedol Pontrhydfendigaid yn ward gyfagos Lledrod ac Ysgol Henry Richard yn Nhregaron.

Felly, mae’r Cyngor yn cynnig y dylai trefniadau presennol Lledrod gael eu cadw.

Llanrhystud

1 Cadw’r trefniadau presennol – mae’r Cyngor yn -10% -11% 1 cytuno â’r cynnig hwn.

Tregaron

1 Mae’r Cyngor yn cynnig y dylai trefniadau presennol -35% -35% 1 Tregaron gael eu cadw.

Llangeitho

Mae’r Cyngor yn cynnig y dylai Llanddewi Brefi aros yn rhan o Langeitho; ac y dylai Ward Llangybi aros heb ei newid hefyd. 1 -22% -24% 1 Nid yw Llangybi a Llanddewi Brefi yn cyd-fynd yn naturiol. Mae gan gymunedau Llangeitho a Llanddewi Brefi gysylltiadau cryf â thref Tregaron ac mae’r ddwy gymuned o fewn canolfan wasanaeth Tregaron yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).

Llanfihangel Ystrad

1 Cadw’r trefniadau presennol – mae’r Cyngor yn 17% 15% 1 cytuno â’r cynnig hwn.

1 Llangybi

Mae’r Cyngor yn cynnig y dylai Llanddewi Brefi aros yn rhan o Langeitho, ac y dylai Llangybi aros heb ei newid hefyd.

Nid yw Llangybi a Llanddewi Brefi yn cyd-fynd yn -20% -20% 1 naturiol gan fod cysylltiadau cymunedol Llangybi â thref Llanbedr Pont Steffan ac nid Tregaron h.y. mae Ysgol y Dderi yn Llangybi yn bwydo Ysgol Bro Pedr yn

- 4 - ATODIAD 5 Llanbedr Pont Steffan, ac mae plant 11+ oed o Langybi yn mynd i Ysgol Bro Pedr.

1 Llansanffraid

Mae’r Cyngor yn cytuno y dylai Llanddewi Aberarth 9% 8% 1 gael ei symud o ward Llansanffraid a’i hychwanegu at ward Aberaeron, yn unol â chynnig y Comisiwn.

1 Aberaeron

Mae’r Cyngor yn cytuno y dylai Llanddewi Aberarth gael ei symud o ward Llansanffraid a’i hychwanegu at ward Aberaeron, yn unol â chynnig y Comisiwn. 2% -1% 1 Mae’r Cyngor yn cynnig y dylai’r ward gael ei henwi’n Aberaeron ac Aberarth yn Gymraeg ac Aberaeron and Aberarth yn Saesneg.

Ciliau Aeron

1 Cadw’r trefniadau presennol – mae’r Cyngor yn 10% 7% 1 cytuno â’r cynnig hwn.

Ceinewydd

Cydnabyddir bod rhaid i Geinewydd newid oherwydd y gymhareb Cynghorydd i Etholwyr fach; fodd bynnag, mae’n rhaid cydnabod nad oes cysylltiadau mawr na hanesyddol rhwng Ceinewydd a Llanllwchaearn. Hefyd, oherwydd cysylltiadau ag Ysgol Bro Sion Cwilt a Neuadd yn 1 Llandysiliogogo, mae pryderon y byddai cysylltiadau 10% 10% 1 cymunedol yn cael eu colli pe byddai Llanllwchaearn gyfan yn cael ei symud i Ward Ceinewydd. Felly, mae’r Cyngor yn cytuno â chynigion y Comisiwn.

Mae’r Cyngor yn cynnig y dylai’r Ward gael ei henwi’n Geinewydd a Llanllwchaearn yn Gymraeg a New Quay and Llanllwchaearn yn Saesneg, yn hytrach na Cheinewydd gyda Llanllwchaearn a New Quay with Llanllwchaearn.

Llandysiliogogo

Cydnabyddir bod rhaid i Geinewydd newid oherwydd y gymhareb Cynghorydd i Etholwyr fach; fodd bynnag, mae’n rhaid cydnabod nad oes cysylltiadau mawr na hanesyddol rhwng Ceinewydd a Llanllwchaearn. Mae cysylltiadau cryf rhwng cymunedau Llanllwchaearn a Llandysiliogogo h.y. y cysylltiadau ag Ysgol Bro Sion Cwilt a Neuadd

- 5 - ATODIAD 5 Caerwedros yn Llandysiliogogo. Hefyd, mae cysylltiadau busnes hanesyddol rhwng y ddwy gymuned gan fod busnesau yn Llanllwchaearn yn gwasanaethu poblogaeth Llandysiliogogo. Roedd pryderon y byddai cysylltiadau cymunedol yn cael eu colli pe byddai Llanllwchaearn gyfan yn cael ei symud i Ward Ceinewydd. Felly, mae’r Cyngor yn cytuno â chynigion y Comisiwn. 1 5% 2% 1 Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau penodol i’r cynnig i gynnwys Llangrannog yn ward Llandysiliogogo.

Mae’r Cyngor yn cynnig y dylai’r Ward gael ei henwi’n Llandysilio a Llangrannog yn Gymraeg a Llandysilio and Llangrannog yn Saesneg, yn hytrach na Llandysiliogogo a Llangrannog yn Gymraeg a Llandysiliogogo and Llangrannog yn Saesneg, oherwydd cyfeirir at y cyngor cymuned fel Llandysilio yn hytrach na Llandysiliogogo.

Llanarth

Cadw’r trefniadau presennol – mae’r Cyngor yn cytuno â’r cynnig hwn. 1 -18% -20% 1 Mae’r Cyngor yn cynnig y dylai enw’r Ward aros fel y mae ar hyn o bryd, yn hytrach na Llannarth, oherwydd enw’r afon yw ‘Arth’ ac nid ‘Narth’.

Llanbedr Pont Steffan

1 Mae’r Cyngor yn cytuno â chynnig y Comisiwn i leihau 20% 23% 1 nifer y cynghorwyr o 2 i 1.

Llanwenog

1 Cadw’r trefniadau presennol – mae’r Cyngor yn 2% -1% 1 cytuno â’r cynnig hwn.

Gogledd Llandysul a Throedyraur

1 Mae’r Cyngor yn cytuno â’r cynnig hwn. 23% 19% 1

De Llandysul

1 Mae’r Cyngor yn cytuno â’r cynnig hwn. 1% 2% 1

Llandyfriog

Cadw’r trefniadau presennol – mae’r Cyngor yn cytuno â’r cynnig hwn. 1 2% 0% 1

- 6 - ATODIAD 5 Cytunwyd â chynnig y Comisiwn Ffiniau i newid enw’r ward i Landyfrïog.

Penbryn

1 Mae’r Cyngor yn cytuno â’r cynnig hwn. -23% -24% 1 Beulah a Llangoedmor

Roedd y Cyngor yn gwrthwynebu cynnig y Comisiwn i gyfuno ward Beulah â chymuned Llangoedmor i ffurfio ward 2 aelod.

Mae’r Cyngor yn cynnig y dylai trefniadau presennol Beulah gael eu cadw ac y dylai cymunedau 1 Llangoedmor a’r Ferwig aros gyda’i gilydd, gan ffurfio -4% -6% 1 ward Penparc.

Mae’n rhaid cydnabod mai’r arweiniad gan y Comisiwn yn 2016 oedd osgoi creu wardiau aml- aelod mewn ardaloedd gwledig; fodd bynnag, dyma’r hyn a gynigiwyd gan y Comisiwn ar gyfer Beulah a Llangoedmor.

Aberporth a’r Ferwig

Roedd y Cyngor yn gwrthwynebu cynnig y Comisiwn i gyfuno ward Aberporth â chymuned y Ferwig i ffurfio ward 2 aelod.

Mae’r Cyngor yn cynnig y dylai trefniadau presennol Aberporth gael eu cadw ac y dylai cymunedau y 1 Ferwig a Llangoedmor aros gyda’i gilydd, gan ffurfio 27% 28% 1 ward Penparc.

Mae’n rhaid cydnabod mai’r arweiniad gan y Comisiwn yn 2016 oedd osgoi creu wardiau aml- aelod mewn ardaloedd gwledig; fodd bynnag, dyma’r hyn a gynigiwyd gan y Comisiwn ar gyfer Aberporth a’r Ferwig.

Penparc

1 Mae’r Cyngor yn cynnig y dylai trefniadau presennol 33% 28% 1 Penparc gael eu cadw.

Aberteifi Mwldan

Mae’r Cyngor yn gwrthwynebu cynnig y Comisiwn i 1 gyfuno 3 Ward Aberteifi i ffurfio Ward 2 aelod. Yn 7% 5% 1 hytrach, mae’r Cyngor yn cynnig y dylai Aberteifi Mwldan aros yn Ward unigol ag un aelod.

- 7 - ATODIAD 5

Aberteifi Rhydyfuwch ac Aberteifi – Teifi

Mae’r Cyngor yn gwrthwynebu cynnig y Comisiwn i gyfuno 3 Ward Aberteifi i ffurfio Ward 2 aelod. Yn hytrach, mae’r Cyngor yn cynnig y dylai Aberteifi 1 Rhydyfuwch ac Aberteifi – Teifi gael eu cyfuno i 19% 18% 1 ffurfio ward unigol ag un aelod.

Mae’r Cyngor yn cynnig y dylai’r Ward hon gael ei henwi’n Aberteifi – Teifi yn Gymraeg a Cardigan Teifi yn Saesneg.

CYFANSYMIAU 36 38

2. Ysgrifennodd Cyngor Tref Aberaeron ar 16 Mawrth 2018 i roi gwybod i’r Comisiwn nad oedd yn gwrthwynebu’r cynnig ar gyfer ward etholiadol Aberaeron.

3. Ysgrifennodd Cyngor Tref Aberystwyth ar 8 Mawrth 2018 i wrthwynebu unrhyw newidiadau i ffiniau wardiau etholiadol yn nhref Aberystwyth, gan ddweud y byddai’n well ganddo aros tan yr arolwg nesaf o ffiniau cymunedol pryd y gellid edrych yn ofalus ar ailgydbwyso ffiniau o fewn Aberystwyth.

Nid yw’r cyngor tref yn credu y bydd Aberystwyth a Llanbadarn yn gweithio’n dda gyda’i gilydd (Bronglais a Llanbadarn Fawr) ac mae’n amlygu’r cyferbyniad rhwng cynrychiolaeth ar gyfer ardaloedd trefol a gwledig yn y cyngor sir, gan ddweud ei fod yn credu y byddai ffurfio ward etholiadol trwy gyfuno Bronglais â Llanbadarn Fawr yn peryglu llais preswylwyr Aberystwyth fwy fyth. Mae’r Cyngor o’r farn y byddai cynnig y Comisiwn yn tanseilio democratiaeth mewn ardaloedd trefol poblog iawn sy’n datblygu’n barhaus.

Ysgrifennodd Cyngor Tref Aberystwyth ar 12 Ebrill 2018 hefyd, a chyflwynodd yr awgrymiadau canlynol ar gyfer newid ffiniau wardiau yn nhref Aberystwyth er mwyn mynd i’r afael â’r anghydbwysedd o ran niferoedd pleidleiswyr yn y dref: • Symud y ffin rhwng wardiau Bronglais a Chanol y Dref o Stanley Road, i Plas Crug Avenue. Byddai hyn yn trosglwyddo 43 eiddo (a 78 o etholwyr) o ward Canol i ward Bronglais, a fyddai’n mynd i’r afael â’r orgynrychiolaeth sy’n bodoli yn ward etholiadol bresennol Bronglais. • Trosglwyddo’r ardal a ddiffinnir gan Mill Street, Park Avenue, y Clwb Pêl-droed a’r Afon o ward Rheidol i ward Bronglais. Byddai hyn yn trosglwyddo 171 o etholwyr ychwanegol i ward Bronglais, ac yn lleihau ward Rheidol o’r un nifer.

4. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Beulah ar 7 Chwefror 2018 i wrthwynebu’r cynnig ar gyfer ward etholiadol Beulah a Llangoedmor, ac i argymell cadw’r trefniadau presennol ar gyfer Beulah. Amlygodd y Cyngor y gwahaniaethau rhwng ardaloedd Beulah a Llangoedmor, gan ddweud na fu unrhyw gydweithredu rhwng y ddwy gymuned.

- 8 - ATODIAD 5

Mae’r cyngor cymuned hefyd yn argymell y dylai cymuned Llangoedmor gyfuno â’r Ferwig i ffurfio ward etholiadol, gan amlygu bod lleoliad gweithgareddau a chysylltiadau Llangoedmor yn gysylltiedig â Thref Aberteifi yn draddodiadol, o gymharu â’r cysylltiadau sy’n bodoli rhwng ardal Beulah a Chastellnewydd Emlyn.

5. Ysgrifennodd Cyngor Tref Aberteifi ar 11 Ebrill 2018 i wrthwynebu cynnig y Comisiwn i greu ward dau aelod ar gyfer Aberteifi. Mae’r cyngor tref yn cefnogi gweithredu dwy ward un aelod yn y dref; un ward un aelod wedi’i ffurfio o ward Mwldan, a ward un aelod wedi’i ffurfio trwy gyfuno wardiau Rhyd-y-Fuwch a Theifi yn y dref.

Mae’r cyngor tref yn cynnig y dylai’r wardiau etholiadol hyn gael eu henwi’n Fwldan, a Theifi, yn ôl eu trefn.

6. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Ceulanamaesmawr ar 28 Mawrth 2018 i gefnogi cynnig y Comisiwn ar gyfer enw’r ward etholiadol. Mae’r Cyngor yn dweud mai’r enw Ceulanamaesmawr yw’r ffurf a ddefnyddir gan y Cyngor Cymuned yn y ddwy iaith, ac y byddai’n beth da sicrhau cysondeb.

7. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Ferwig ar 12 Ebrill 2018 i gefnogi cynnig y Comisiwn i greu ward etholiadol dau aelod trwy gyfuno Cymunedau Aberporth a’r Ferwig.

8. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llanbadarn Fawr ar 4 Ebrill 2018 i wrthwynebu’r cynnig i greu ward etholiadol Bronglais a Llanbadarn Fawr ac i argymell ffurfio ward etholiadol un aelod o Gymuned Llanbadarn Fawr.

9. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi ar 11 Ebrill 2018 i wrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn i gyfuno Cymunedau Llangybi a Llanddewi Brefi, oherwydd y diffyg cysylltiadau cymunedol rhwng ardaloedd Llanddewi Brefi a Llangybi.

Amlygodd y cyngor cymuned fod Cymunedau Llanddewi Brefi a Llangeitho ill dwy’n aneddiadau sydd wedi’u cysylltu â Thref Tregaron, tra bod gan yr ardaloedd sy’n ffurfio ward etholiadol bresennol Llangybi gysylltiadau cryfach â Thref Llanbedr Pont Steffan.

Mae’r cyngor cymuned o’r farn bod cysylltiadau cymunedol, economi a daearyddiaeth Llanddewi Brefi yn cyd-fynd yn well â Thregaron. Fodd bynnag, mae’r cyngor hefyd yn argymell, pe byddai cyfuno Llanddewi Brefi â Thregaron yn golygu bod angen adolygu’r wardiau amgylchynol ymhellach, y byddent yn cael eu gwasanaethu a’u cynrychioli orau gan y trefniadau presennol, sy’n cyfuno Cymunedau Llanddewi Brefi a Llangeitho.

10. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llangeitho ar 8 Ebrill 2018 i ddatgan ei wrthwynebiad unfrydol i’r cynnig a wnaed gan Grŵp Cymunedol Blaenpennal a Bontnewydd i gyfuno Cymuned Llangeitho â Thref Tregaron i ffurfio ward etholiadol un aelod.

- 9 - ATODIAD 5 Mae’r cyngor cymuned yn esbonio’r tebygrwydd rhwng Cymunedau Llanddewi Brefi a Llangeitho o ran gwledigrwydd, ac yn awgrymu bod cysylltiad ffordd yr A485 rhwng ardaloedd Tregaron a Blaenpennal yn darparu llwybr cyfathrebu gwell na’r rhai hynny rhwng Llangeitho a Thregaron, ac felly y byddai’n gwneud mwy o synnwyr cyfuno Blaenpennal a Thregaron o fewn ward etholiadol.

Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llangeitho drachefn ar 12 Ebrill 2018, a rhoddodd 260 o lythyrau i’r Comisiwn oddi wrth breswylwyr yr ardal yn mynegi eu gwrthwynebiad i gynnig y Comisiwn i gyfuno Cymuned Llangeitho â Thref Tregaron.

Mae’r llythyrau hyn yn amlygu’r gwahaniaethau mewn gwledigrwydd sy’n bodoli rhwng y ddwy ardal ac yn cefnogi cadw trefniadau ward etholiadol bresennol Llangeitho.

11. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llangoedmor ar 12 Mawrth 2018 i wrthwynebu’r cynnig i greu ward etholiadol Beulah a Llangoedmor ac i argymell cadw’r sefyllfa bresennol.

12. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llangybi ar 4 Ebrill 2018 i wrthwynebu cynnig y Comisiwn ar gyfer Llangybi a Llanddewi Brefi, gan nodi gwahaniaethau mewn gwledigrwydd rhwng y ddwy ardal a chynnig cadw’r trefniadau presennol ar gyfer Llangybi.

13. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llanllwchaearn ar 4 Ebrill 2018 i wrthwynebu cynigion y Comisiwn ynglŷn â Chymuned Llanllwchaearn, ac amlygodd ei sylwadau a wnaed wrth ymateb i arolwg blaenorol y Comisiwn yn 2010, ac yn ystod cyfnod ymgynghori cychwynnol yr arolwg hwn.

Mynegodd y cyngor cymuned ei siom bod cynnig y Comisiwn yn anwybyddu safbwyntiau aelodau etholedig yr ardal, ac argymhelliad y Cyngor Sir. Mae’r cyngor cymuned yn erfyn ar y Comisiwn i ailystyried ei argymhelliad ynglŷn â’r trefniadau etholiadol ar gyfer Cymuned Llanllwchaearn, yn seiliedig ar ei ddadleuon blaenorol.

Mae’r cyngor cymuned hefyd yn gwrthwynebu defnyddio enw presennol y gymuned, sef “Llanllwchaiarn”, o fewn enw ei ward etholiadol. Er mai “Llanllwchaiarn” yw’r enw Cymraeg a Saesneg cyfreithiol ar gyfer y Gymuned yng Ngorchymyn 2002 (Gorchymyn Sir Ceredigion (Newidiadau Etholiadol) 2002), mae’r cyngor cymuned yn cefnogi cynnig Comisiynydd y Gymraeg i ddefnyddio’r ffurf “Llanllwchaearn” yn y ddwy iaith.

Mae’r cyngor cymuned yn awgrymu y dylai unrhyw enw cyfun a ddefnyddir gan y Comisiwn yn y dyfodol gydnabod y cyd-destun hanesyddol a rhoi Llanllwchaearn yn gyntaf: e.e. “Llanllwchaearn gan gynnwys Ceinewydd”.

14. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llansanffraid ar 16 Mawrth 2018 i roi gwybod i’r Comisiwn nad oedd yn gwrthwynebu’r cynnig ar gyfer ward etholiadol Llansanffraid.

- 10 - ATODIAD 5 Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn datgan nad yw’n credu bod angen rhoi enw Saesneg i’r ward, gan y byddai’r enw Cymraeg (Llansanffraid) yn ddigonol.

15. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Lledrod ar 14 Ebrill 2018 i gefnogi cynigion y Comisiwn ar gyfer ward etholiadol Lledrod.

Yn ogystal, cyflwynodd y cyngor cymuned sawl rheswm pam ei fod yn parhau i wrthwynebu cynnig cychwynnol y Cyngor Sir, a oedd yn argymell ffurfio ward etholiadol un aelod trwy gyfuno ward Blaenpennal yng Nghymuned Lledrod â Thref Tregaron, gan gyfeirio at yr effaith negyddol y byddai’n ei chael ar y cysylltiadau ffisegol, gwleidyddol, hanesyddol a diwylliannol sydd gan ardal Blaenpennal â gweddill Lledrod.

16. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Pontarfynach ar 12 Ebrill 2018 heb wrthwynebu cynigion y Comisiwn. Fodd bynnag, heriodd p’un a fyddai ward bresennol Melindwr yn bartneriaeth ymarferol ag Ysbyty Ystwyth gan y byddai’r ward awgrymedig yn ardal denau ei phoblogaeth.

Amlygodd y cyngor cymuned fod pentref Pontarfynach yn ganolfan wledig a bod yr anghenion yn wahanol i’r ardal amgylchynol.

17. Ysgrifennodd Cyngor Tref Tregaron ar 23 Mawrth 2018 i wrthwynebu cynigion drafft y Comisiwn ac i argymell cyfuno ward Blaenpennal yng Nghymuned Lledrod â Thref Tregaron i ffurfio ward etholiadol un aelod, yn seiliedig ar ymateb Cyngor Sir Ceredigion i ymgynghoriad cychwynnol y Comisiwn.

18. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Ystwyth ar 15 Ebrill 2018 i wrthwynebu cynigion drafft y Comisiwn i argymell cyfuno Cymuned Ysbyty Ystwyth o fewn ward etholiadol Melindwr.

Mae’r cyngor cymuned yn datgan bod cysylltiadau cryf rhwng y cymunedau o fewn ward etholiadol bresennol Lledrod a bod anghenion y cymunedau hyn yn debyg.

Amlygodd y cyngor cymuned y gwelliant mewn cynrychiolaeth etholiadol yn ward etholiadol Lledrod a fyddai’n deillio o gynnig y Cyngor Sir i gyfuno ward Blaenpennal yng Nghymuned Lledrod â Thref Tregaron.

Atododd y cyngor cymuned ddau wrthwynebiad gan breswylwyr Cymuned Ysbyty Ystwyth hefyd.

19. Ysgrifennodd y Cynghorydd John Adams-Lewis (Aberteifi-Mwldan) ar 15 Ebrill 2018 i wrthwynebu cynnig y Comisiwn i greu ward dau aelod ar gyfer Aberteifi. Mae’r Cynghorydd Adams yn cefnogi cynnig Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Aberteifi i greu dwy ward etholiadol yn y Dref; gyda Mwldan yn cadw ei threfniant un aelod presennol a Rhyd-y-Fuwch a Theifi’n cael eu cyfuno i ffurfio ward un aelod, o’r enw Teifi.

- 11 - ATODIAD 5

20. Ysgrifennodd y Cynghorydd Ifan Davies (Lledrod) ar 16 Ebrill 2018 i wrthwynebu cynigion y Comisiwn ar gyfer Lledrod a Melindwr, ac i argymell cadw’r trefniadau presennol ar gyfer Lledrod.

Mae’r Cynghorydd Davies yn amlygu’r ffin naturiol rhwng Cymunedau Ysbyty Ystwyth (Lledrod) a Phontarfynach (Melindwr), a adwaenir fel ardal Rhos y Gell (neu Siberia Fach yn lleol).

Nododd y Cynghorydd pan ailstrwythurwyd Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) y Cyngor 8-9 mlynedd yn ôl, fod preswylwyr Cymuned Ysbyty Ystwyth yn chwyrn yn erbyn lleoli eu canolfan wasanaethau ym mhentref Pontarfynach, a’u bod wedi ymladd dros leoli eu canolfan wasanaethau yn nalgylch naturiol Pontrhydfendigaid yng Nghymuned Ystrad Fflur (Lledrod).

O ran cynnig cychwynnol y Cyngor Sir i gyfuno ward Blaenpennal yng Nghymuned Lledrod â Thref Tregaron, mae’r Cynghorydd Davies yn cydnabod y safbwyntiau a fynegwyd gan Gyngor Cymuned Lledrod a Grŵp Cymunedol Blaenpennal a Bontnewydd ac, fel eu cynghorydd, mae’n cadarnhau ei fod yn llwyr barchu, deall a chytuno â’u rhesymeg, ac nad oes ganddo sylwadau eraill i’w hychwanegu.

21. Ysgrifennodd y Cynghorydd Rhodri Evans (Llangeitho) [46] ar 15 Ebrill 2018 i wrthwynebu’r cynnig i gyfuno Cymuned Llangeitho â Thref Tregaron i ffurfio ward etholiadol un aelod.

Mae’r Cynghorydd Evans yn datgan nad yw Llanddewi Brefi a Llangybi yn cyd-fynd yn naturiol, a bod gan gysylltiadau cymunedol, daearyddol ac economaidd Llanddewi Brefi fwy yn gyffredin â Llangeitho, yn unol â’r trefniant presennol. Amlygodd y Cynghorydd fod Cymunedau Llanddewi Brefi a Llangeitho ill dwy’n aneddiadau sydd wedi’u cysylltu â Thref Tregaron, tra bod gan yr ardaloedd sy’n ffurfio ward etholiadol bresennol Llangybi gysylltiadau cryfach â Thref Llanbedr Pont Steffan.

Esboniodd y Cynghorydd Evans fod nifer fawr o’i etholwyr wedi ei ffonio ac wedi cysylltu ag ef ynglŷn â chynigion drafft y Comisiwn, a’u bod oll yn erbyn y cynigion ac o blaid cadw’r trefniant presennol ar gyfer Llangeitho.

22. Ysgrifennodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis (Troedyraur) ar 17 Chwefror 2018 i gefnogi’r cynnig i gyfuno ardal ogleddol Llandysul â Chymuned Troedyraur i ffurfio ward etholiadol un aelod, er mwyn cydbwyso’r gymhareb cynghorwyr i etholwyr.

Mae’r Cynghorydd Lewis yn cadarnhau bod gan ardaloedd gogledd Llandysul a Throedyraur lawer yn gyffredin a’u bod hefyd yn rhannu neuaddau pentref, capeli ac eglwysi, a bod natur y boblogaeth a’r tai yn debyg.

- 12 - ATODIAD 5 Mae’r Cynghorydd Lewis yn derbyn enw’r ward a gynigiwyd gan y Comisiwn, ond mae’n herio’r angen i gynnwys treiglad yn y fersiwn Gymraeg “Gogledd Llandysul a Throed-yr- aur”.

23. Ysgrifennodd y Cynghorydd Catrin Miles (Aberteifi/Cardigan-Teifi) ar 13 Ebrill 2018 i wrthwynebu cynnig y Comisiwn ar gyfer ward dau aelod Aberteifi.

Mae’r Cynghorydd Miles yn ffafrio creu dwy ward un aelod yn y dref, trwy gyfuno wardiau Rhyd-y-Fuwch a Theifi, a chadw’r trefniadau presennol ar gyfer Aberteifi/Cardigan- Mwldan.

Mae’r Cynghorydd Miles o’r farn nad yw’r ffigurau yn yr Adroddiad Cynigion Drafft yn adlewyrchu lefel yr effaith ar ward Teifi, gan amlinellu’r amrywiol gyfrifoldebau y byddai’n ofynnol i’r aelod etholedig eu cyflawni pe byddai Rhyd-y-Fuwch a Theifi’n cael eu cyfuno’n ward un aelod.

24. Ysgrifennodd Grŵp Cymunedol Blaenpennal a Bontnewydd ar 14 Ebrill 2018, yn dilyn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ym mhentref Blaenpennal ar 21 Chwefror 2018, a chadarnhaodd ei gefnogaeth unfrydol i gynnig drafft y Comisiwn ar gyfer Lledrod.

25. Ysgrifennodd un o breswylwyr Llanon ar 03 Mawrth 2018 i ddarparu cynllun o drefniadau ar gyfer Sir Ceredigion, sy’n arwain at 30 ward etholiadol un aelod a phedair ward etholiadol dau aelod.

Rhoddir manylion cynllun trefniadau etholiadol arfaethedig y preswyliwr yn y tabl isod, wrth ochr yr enw a argymhellir ar gyfer y ward etholiadol.

Cynghorydd/ Enw’r ward arfaethedig Wardiau cymunedol Cynghorwyr Aberaeron Aberaeron a Ciliau Aeron 1 Llanddewi Aberarth Aberporth Aberporth 1 Aberystwyth Bronglais Prifysgol Aberystwyth 2 Aberystwyth Canol / Central Aberystwyth Gogledd / North Aberystwyth, Penglais 2 Waunfawr Aberystwyth, Penparcau Aberystwyth Penparcau 2 Aberystwyth, Rheidol Aberystwyth Rheidol 2 Cilcennin Llanbadarn Trefeglwys Dyffryn Aeron Nantcwnlle 1 Trefilan

- 13 - ATODIAD 5

Bettws Evan Beulah Beulah a Rhaeadr Cenarth 1

Deiniol Llanbadarn y Creuddyn Blaenplwyf, Capel Seion a Llanrhystud 1 Llanychaiarn Mefenydd Borth Borth a Thaliesin 1 Llangynfelyn Capel Dewi Llangynllo Capel Dewi a Thre-groes 1 Pont-siân Tre-groes Rhyd y Fuwch Castell Aberteifi 1 Teifi Llangoedmor Aberteifi Wledig 1 Y Ferwig Aberteifi, Mwldan Mwldan 1 Ceulanamaesmawr Ceulanamaesmawr Geneu'r Glyn 1 Ysgubor-y-Coed Clarach a Bow Street 1 Tirymynach Llangwyryfon Hafod Ithel 1 Llanilar Llanbedr Pont Steffan Llanbedr Pont Steffan 1 Henfynyw Llanarth a Henfynyw 1 Llanarth Padarn Llanbadarn Fawr 1 Sulien Llandyfrïog Llandyfrïog ac Aber-banc 1 Orllwyn Teifi Tref Llandysul Trefol 1 Dihewid Llanfihangel Ystrad Llanfihangel Ystrad 1 Mydroilyn Cellan Gartheli Llangeitho a Llangybi Gwynfil 1 Llanfair Clydogau Llangybi Llandysiliogogo Llangrannog a Thalgarreg 1 Llangrannog

- 14 - ATODIAD 5

Llanwenog Llanwenog Llanwnnen 1 Silian Llanllwchaearn Ceinewydd a Llanllwchaearn 1 Ceinewydd Penbryn Penbryn a Throedyraur 1 Troedyraur Blaenrheidol Faenor Cwm Rheidol a Faenor Goginan 1 Llanbadarn y Creuddyn Uchaf Penllwyn Haminiog Sant Non, Sant Ffraed a Rhyd Rosser 1 Llansanffraid

Blaenpennal Caron-Uwch-Clawdd Gwnnws Isaf Strata Florida 1 Gwnnws Uchaf Lledrod Isaf Lledrod Uchaf Trefeurig Trefeurig 1 Llanbadarn Odwyn Tregaron a Llanddewi Brefi Llanddewi Brefi 1 Tregaron Llanafan Dyffryn Ystwyth 1 Pontarfynach Ysbyty Ystwyth

Mae’r preswyliwr hefyd yn awgrymu pe byddai cynnig ward Sant Non yn cael ei dderbyn, yr enw a gyflwynwyd yw enw Cymraeg ffurfiol y ward etholiadol, i gydnabod y seintiau y mae eu heglwysi yn y ward.

26. Ysgrifennodd un o breswylwyr Ysbyty Ystwyth ar 16 Mawrth 2018 i wrthwynebu cynigion drafft y Comisiwn ar gyfer Lledrod a Melindwr, gan ddweud bod gan Gymuned Ysbyty Ystwyth gysylltiadau agosach o lawer â Phontrhydfendigaid, ac y bydd y cynnig ar gyfer ward etholiadol Lledrod yn parhau i arwain at ward etholiadol sy’n rhy fawr.

Mae’r preswyliwr yn credu y byddai’r cynnig drafft ar gyfer Melindwr yn gadael preswylwyr Cymuned Ysbyty Ystwyth yn teimlo fel petaent wedi’u gwahanu a’u hanghofio, o bosibl, gan eu cynrychiolydd.

27. Ysgrifennodd un o breswylwyr Ceredigion ar 02 Ebrill 2018 i wrthwynebu cynigion drafft y Comisiwn ar gyfer Bronglais a Llanbadarn Fawr, gan fynegi ei bryder ynglŷn ag atebolrwydd cynghorwyr mewn wardiau aml-aelod, o ystyried y byddai aelodau yn y

- 15 - ATODIAD 5

cynnig hwn yn atebol i Gyngor Tref Aberystwyth (Bronglais) a Chyngor Cymuned Llanbadarn Fawr.

Dywedodd y preswyliwr nad yw wardiau bob amser yn adlewyrchu nifer yr etholwyr sy’n pleidleisio, ac amlygodd, yn 2017, fod mwy o etholwyr wedi pleidleisio yn ward Bronglais nag yn ward Canol y Dref.

Dywedodd y preswyliwr hefyd nad yw cofrestrau etholiadol bob amser yn adlewyrchu poblogaethau.

Argymhellodd y preswyliwr y byddai’n well symud Stanley Road ac Elm Tree Avenue i ward Bronglais, o ward Canol y dref.

28. Ysgrifennodd un o breswylwyr Ceredigion ar 02 Ebrill 2018 i fynegi ei farn nad yw cynnig y Comisiwn ar gyfer Llanfarian yn adlewyrchu natur ddaearyddol y gymuned.

Mae’r preswyliwr yn awgrymu bod gan yr ardaloedd gwledig i’r de o ward etholiadol bresennol Ystwyth gysylltiad agos â phentrefi Llanfarian a Blaenplwyf, ac mae’n argymell creu ward etholiadol trwy gyfuno cymunedau Llanfarian a Llanilar.

At hynny, mae’r preswyliwr yn credu y byddai’r cynnig uchod yn caniatáu i ward Llanbadarn y Creuddyn Uchaf yng Nghymuned Melindwr gyfuno â chymuned Trawsgoed i ffurfio ward etholiadol, gan ddweud bod cysylltiad agos rhwng yr ardaloedd hyn.

29. Ysgrifennodd un o breswylwyr Llangeitho ar 05 Ebrill 2018 yn mynegi ei wrthwynebiad i gynnig y Comisiwn i gyfuno Cymuned Llangeitho â Thref Tregaron.

Amlygodd y preswyliwr y gwahaniaethau mewn gwledigrwydd rhwng y ddwy ardal, a chefnogodd gadw trefniadau ward etholiadol bresennol Llangeitho.

30. Ysgrifennodd un o breswylwyr Llangeitho ar 05 Ebrill 2018 yn mynegi ei wrthwynebiad i gynnig y Comisiwn i gyfuno Cymuned Llangeitho â Thref Tregaron.

Amlygodd y preswyliwr y gwahaniaethau mewn gwledigrwydd rhwng y ddwy ardal, a chefnogodd gadw trefniadau ward etholiadol bresennol Llangeitho.

31. Ysgrifennodd un o breswylwyr Llangeitho ar 05 Ebrill 2018 yn mynegi ei wrthwynebiad i gynnig y Comisiwn i gyfuno Cymuned Llangeitho â Thref Tregaron.

Amlygodd y preswyliwr y gwahaniaethau mewn gwledigrwydd rhwng y ddwy ardal, a chefnogodd gadw trefniadau ward etholiadol bresennol Llangeitho.

32. Ysgrifennodd un o breswylwyr Llangeitho ar 05 Ebrill 2018 yn mynegi ei wrthwynebiad i gynnig y Comisiwn i gyfuno Cymuned Llangeitho â Thref Tregaron.

- 16 - ATODIAD 5

Amlygodd y preswyliwr y gwahaniaethau mewn gwledigrwydd rhwng y ddwy ardal, a chefnogodd gadw trefniadau ward etholiadol bresennol Llangeitho.

33. Ysgrifennodd un o breswylwyr Blaenpennal ar 11 Ebrill 2018 i gefnogi cynnig drafft y Comisiwn ar gyfer Lledrod.

Roedd y preswyliwr hefyd wedi awdurdodi Pwyllgor Grŵp Cymunedol Blaenpennal a Bontnewydd i gyflwyno llythyr ar ei ran, i ategu’r farn hon.

34. Ysgrifennodd dau o breswylwyr Blaenpennal ar 11 Ebrill 2018 i gefnogi cynnig drafft y Comisiwn ar gyfer Lledrod.

Roedd y preswylwyr hefyd wedi awdurdodi Pwyllgor Grŵp Cymunedol Blaenpennal a Bontnewydd i gyflwyno llythyr ar ei ran, i ategu’r farn hon.

35. Ysgrifennodd dau o breswylwyr Blaenpennal ar 12 Ebrill 2018 i gefnogi cynnig drafft y Comisiwn ar gyfer Lledrod.

Roedd y preswylwyr hefyd wedi awdurdodi Pwyllgor Grŵp Cymunedol Blaenpennal a Bontnewydd i gyflwyno llythyr ar ei ran, i ategu’r farn hon.

36. Ysgrifennodd un o breswylwyr Blaenpennal ar 12 Ebrill 2018 i gefnogi cynnig drafft y Comisiwn ar gyfer Lledrod.

37. Ysgrifennodd tri o breswylwyr Blaenpennal ar 13 Ebrill 2018 i gefnogi cynnig drafft y Comisiwn ar gyfer Lledrod.

Roedd y preswylwyr hefyd wedi awdurdodi Pwyllgor Grŵp Cymunedol Blaenpennal a Bontnewydd i gyflwyno llythyr ar ei ran, i ategu’r farn hon.

38. Ysgrifennodd un o breswylwyr Blaenpennal ar 13 Ebrill 2018 i roi gwybod i’r Comisiwn am ganlyniad cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ym Mlaenpennal ar 21 Chwefror 2018.

Dywedodd y preswyliwr fod y rhai a oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn cefnogi cynnig drafft y Comisiwn ar gyfer Lledrod yn unfrydol, a bod safbwyntiau cryf wedi’u lleisio yn yr ardal yn erbyn argymhellion y Cyngor Sir.

39. Ysgrifennodd un o breswylwyr Blaenpennal ar 13 Ebrill 2018 i gefnogi cynnig drafft y Comisiwn ar gyfer Lledrod.

40. Ysgrifennodd un o breswylwyr Blaenpennal ar 13 Ebrill 2018 i gefnogi cynnig drafft y Comisiwn ar gyfer Lledrod.

- 17 - ATODIAD 5

Roedd y preswyliwr hefyd wedi awdurdodi Pwyllgor Grŵp Cymunedol Blaenpennal a Bontnewydd i gyflwyno llythyr ar ei ran, i ategu’r farn hon.

41. Ysgrifennodd un o breswylwyr Blaenpennal ar 13 Ebrill 2018 i gefnogi cynnig drafft y Comisiwn ar gyfer Lledrod.

Roedd y preswyliwr hefyd wedi awdurdodi Pwyllgor Grŵp Cymunedol Blaenpennal a Bontnewydd i gyflwyno llythyr ar ei ran, i ategu’r farn hon.

42. Ysgrifennodd un o breswylwyr Blaenpennal ar 14 Ebrill 2018 i gefnogi cynnig drafft y Comisiwn ar gyfer Lledrod.

Roedd y preswyliwr hefyd wedi awdurdodi Pwyllgor Grŵp Cymunedol Blaenpennal a Bontnewydd i gyflwyno llythyr ar ei ran, i ategu’r farn hon.

43. Ysgrifennodd un o breswylwyr Blaenpennal ar 14 Ebrill 2018 i gefnogi cynnig drafft y Comisiwn ar gyfer Lledrod.

Roedd y preswyliwr hefyd wedi awdurdodi Pwyllgor Grŵp Cymunedol Blaenpennal a Bontnewydd i gyflwyno llythyr ar ei ran, i ategu’r farn hon.

44. Ysgrifennodd un o breswylwyr Llanddewi Brefi ar 14 Ebrill 2018 i wrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn ynglŷn â Chymuned Llanddewi Brefi.

Mae’r preswyliwr yn credu, yn bennaf oll, y dylai’r trefniadau presennol ar gyfer Llangeitho gael eu cadw, ac mae’n cytuno â’r farn bod gan Gymuned Llanddewi Brefi gysylltiad â Llangeitho.

Fodd bynnag, os oes rhaid newid, mae’r preswyliwr yn cefnogi barn Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi fod gan Gymuned Llanddewi Brefi fwy yn gyffredin â Thregaron na Llangybi.

Mae’r preswyliwr hefyd yn mynd ymlaen i gynnwys Lledrod, Llanddewi Brefi a Llangeitho yn rhan o Dregaron.

45. Ysgrifennodd un o breswylwyr Llanddewi Brefi ar 14 Ebrill 2018 i wrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn ynglŷn â Chymuned Llanddewi Brefi.

Byddai’n well gan y preswyliwr petai’r trefniadau presennol ar gyfer Llangeitho yn cael eu cadw.

Fodd bynnag, os oes rhaid newid, byddai’r preswyliwr yn dewis ymuno â Thregaron am yr un rhesymau a gyflwynodd Gyngor Cymuned Llanddewi Brefi i’r Comisiwn.

- 18 - ATODIAD 5 46. Ysgrifennodd dau o breswylwyr Blaenpennal ar 15 Ebrill 2018 i gefnogi cynnig drafft y Comisiwn ar gyfer Lledrod.

Mae’r preswylwyr yn credu bod cynnig y Comisiwn yn well na’r trefniadau presennol ar gyfer y ward oherwydd ei fod yn darparu cydbwysedd gwell rhwng y dwyrain a’r gorllewin, a chynrychiolaeth well gan y cynghorydd sir.

47. Ysgrifennodd un o breswylwyr Llanddewi Brefi ar 15 Ebrill 2018 i wrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn ar gyfer Llangybi a Llanddewi Brefi oherwydd yr effaith negyddol y byddai’n ei chael, ym marn y preswyliwr, ar gydlyniant cymdeithasol a chyfalaf cymdeithasol.

Mae’r preswyliwr yn credu bod y Comisiwn wedi rhoi gormod o bwyslais ar yr awydd i gyflawni cydraddoldeb etholiadol yn yr ardal hon, ac nad yw wedi llwyddo i ystyried yr effaith y byddai’r cynnig yn ei chael ar gydlyniant cymdeithasol a seilweithiau gwledig yng Nghymuned Llanddewi Brefi, a’r sgil-effeithiau y byddai hyn yn eu cael ar yr ardal a’i phoblogaeth.

Mae’r preswyliwr yn cyfeirio at ganfyddiadau dogfen astudiaeth achos, sef “Yr Her Wledig: Grymuso Cymunedau Gwledig i Gyflawni Twf a Chynaliadwyedd”, ac yn credu bod llawer o’r un materion a ganfuwyd yn Swydd Kerry wledig (Gweriniaeth Iwerddon) yn berthnasol i Ganolbarth Cymru, gan amlygu sawl mater nad yw cynnig y Comisiwn yn rhoi ystyriaeth iddynt, yn ei farn ef, yn Llanddewi Brefi.

Mae’r preswyliwr hefyd yn awgrymu nad oes llawer yn gyffredin rhwng Cymunedau Llanddewi Brefi a Llangybi, ac mae’n honni felly y byddai gan gynghorydd y cyngor ar gyfer yr ardal fuddiannau rhanedig; mae’r preswyliwr yn awgrymu y byddai hyn yn lleihau cyfranogiad a rhyngweithiad cymdeithasol pobl yn yr ardal yn sylweddol.

Mae’r preswyliwr o’r farn bod gan Gymuned Llanddewi Brefi gysylltiadau eisoes â Thref Tregaron ac, ynghyd â Chymuned Llangeitho, ei bod yn anheddiad sy’n gysylltiedig â’r Ganolfan Gwasanaethau Gwledig yn Nhregaron, tra bod Cymuned Llangybi yn gysylltiedig â Chanolfan Gwasanaethau Trefol Llanbedr Pont Steffan.

Mae’r preswyliwr yn dod i’r casgliad mai’r unig ffordd o gadw’r cyfalaf cymdeithasol sy’n weddill yng Nghymuned Llanddewi Brefi yw trwy warchod ei chydlyniant cymdeithasol, ac na fydd y problemau presennol yng Ngheredigion yn cael eu datrys trwy chwarae ‘gemau rhif’ â ffiniau etholiadol.

48. Ysgrifennodd un o breswylwyr Ysbyty Ystwyth ar 15 Ebrill 2018 i wrthwynebu cynigion drafft y Comisiwn ynglŷn â Chymuned Ysbyty Ystwyth.

Mae’r preswyliwr yn esbonio, yn hanesyddol ac ar hyn o bryd, fod gan Gymuned Ysbyty Ystwyth gysylltiad agosach yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn ieithyddol â phobl Pontrhydfendigaid (Cymuned Ystrad Fflur).

- 19 - ATODIAD 5

Mae’r preswyliwr o’r farn bod y Cymunedau yn ward etholiadol bresennol Melindwr yn cael eu denu’n naturiol i brif ganolfan wasanaethau Aberystwyth, a’u bod yn llai gwledig o lawer nag Ysbyty Ystwyth.

Mae’r preswyliwr yn gofyn i Gymuned Ysbyty Ystwyth aros yn rhan o ward etholiadol Lledrod, yn unol â’r trefniant presennol.

49. Ysgrifennodd un o breswylwyr Ceredigion ar 15 Ebrill 2018 i wrthwynebu cynigion drafft y Comisiwn ar gyfer Bronglais a Llanbadarn Fawr.

Esboniodd y preswyliwr y byddai cyfuno’r rhan o Dref Aberystwyth â Chymuned Llanbadarn Fawr yn golygu y gallai fod angen i’r aelodau etholedig ymdrin â materion sy’n groes i’w gilydd.

Mae’r preswyliwr hefyd yn dweud y bydd poblogaeth Bronglais yn cynyddu cyn 2022 pan fydd prifysgol Aberystwyth yn ailagor neuadd breswyl Pantycelyn, gan awgrymu y bydd nifer sylweddol uwch o bleidleiswyr yn ward Bronglais erbyn y rownd nesaf o etholiadau.

Mae’r preswyliwr yn erfyn ar y Comisiwn i gadw wardiau Aberystwyth Bronglais a Llanbadarn Fawr Padarn fel y maent ar hyn o bryd.

50. Ysgrifennodd un o breswylwyr Llanddewi Brefi ar 15 Ebrill 2018 i wrthwynebu cynnig drafft y Comisiwn i gyfuno Cymunedau Llangybi a Llanddewi Brefi, ac i gefnogi’r safbwyntiau a gyflwynwyd gan Gyngor Cymuned Llanddewi Brefi.

Mae’r preswyliwr o’r farn y byddai eu cynrychiolaeth ym mhob mater yn symud o safbwynt gwledig i drefol, ac y byddai hyn yn drychinebus i’w micro-economi a’u strwythur cymunedol.

51. Ysgrifennodd dau o breswylwyr Blaenpennal ar 17 Ebrill 2018 i gefnogi cynnig drafft y Comisiwn ar gyfer Lledrod.

52. Ysgrifennodd un o breswylwyr Llangeitho ar 18 Ebrill 2018 yn mynegi gwrthwynebiad i gynnig y Comisiwn i gyfuno Cymuned Llangeitho â Thref Tregaron.

Amlygodd y preswyliwr y gwahaniaethau mewn gwledigrwydd rhwng y ddwy ardal ac roedd yn cefnogi cadw trefniadau ward etholiadol bresennol Llangeitho.

- 20 - ATODIAD 5

DATGANIAD YSGRIFENEDIG GAN LYWODRAETH CYMRU

TEITL ETHOLIADAU LLEOL A THREFNIADAU ETHOLIADOL DYDDIAD DYDD IAU, 23 MEHEFIN 2016

MARK DRAKEFORD, YSGRIFENNYDD Y CABINET DROS GYLLID GAN A LLYWODRAETH LEOL

Gwnaeth Gorchymyn Etholiadau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2014 ddarpariaeth i ohirio etholiadau lleol yng Nghymru am flwyddyn, o fis Mai 2016 tan fis Mai 2017. Caniataodd hyn i wahanu’r etholiadau oddi wrth etholiadau’r Cynulliad.

Ar hyn o bryd, mae Deddf Llywodraeth Leol 1972 yn darparu bod etholiadau cyffredin i lywodraeth leol yng Nghymru yn digwydd ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai bob pedair blynedd. Felly byddai etholiadau nesaf llywodraeth leol yn digwydd fel arfer ym mis Mai 2021. Ers gweithredu’r ddarpariaeth yn Neddf Cymru 2014, mae etholiadau i’r Cynulliad Cenedlaethol yn digwydd ar gylch pum mlynedd. Polisi Llywodraeth Cymru yw y dylai etholiadau lleol hefyd ddigwydd ar gylch pum mlynedd. Bwriedir felly y bydd cynghorwyr a etholir fis Mai nesa yn dal eu swyddi tan fis Mai 2022.

Mae’r Bil Cymru, sydd o flaen San Steffan ar hyn o bryd, yn cynnwys darpariaeth a fyddai’n galluogi’r Cynulliad i ddeddfu i bennu cyfnod swydd llywodraeth leol. Gan fod y Bil ar ffurf drafft ar hyn o bryd a phe bai’r ddarpariaeth hon yn peidio dod i rym am unrhyw reswm, gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r un pwerau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 a ddefnyddiwyd gennym yn 2014 i ohirio’r etholiadau am flwyddyn. Mae’r datganiad

1 ATODIAD 5

hwn felly yn rhoi eglurder i lywodraeth leol ynghylch hyd swydd y rhai a etholir flwyddyn nesa.

Yng ngolau hyn, rwyf wedi ystyried y penderfyniad a wnaethpwyd y llynedd ynglŷn â threfniadau etholiadol rhai prif gynghorau. Penderfynwyd bryd hynny na ddylid gweithredu adolygiadau a gynhaliwyd gan y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru mewn perthynas â naw prif ardal, a derbyn mai’r bwriad oedd y byddai cynghorau a etholwyd yn 2017 dim ond yn gwasanaethu cyfnod byr cyn eu huno.

Fodd bynnag, er mai canlyniad yr etholiadau fis Mai y flwyddyn nesa fydd cyfnod llawn, oherwydd eu hagosrwydd, y trefniadau y byddai eu hangen a’r aflonyddu ar ymgeiswyr posib, nid wyf yn bwriadu gweithredu unrhyw newidiadau i’r trefniadau etholiadol presennol yn deillio o’r adolygiadau hynny cyn etholiadau 2017. Y cynghorau sir a effeithir yw Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Dinbych, Gwynedd, Mynwy, Penfro, Powys a Thorfaen.

Mae’r penderfyniad y bydd cynghorau yn cael eu hethol am gyfnod llawn hefyd yn golygu y bydd y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol (y Comisiwn) yn dychwelyd i’w cylch arferol o adolygu trefniadau etholiadol bob deng mlynedd. Rwy’n disgwyl i’r Comisiwn gyhoeddi cyn gynted â phosib raglen newydd wedi’i blaenoriaethu sy’n cymryd i ystyriaeth oed y trefniadau presennol mewn rhai ardaloedd a maint y newid ers pan gynhaliwyd yr adolygiad diwethaf. Byddaf yn gofyn i’r Comisiwn, wrth gynllunio eu gwaith, i ddechrau drwy ddychwelyd at y naw adolygiad sydd heb eu gweithredu, gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiadau o’r newydd ar y rhain ar gychwyn cyntaf eu rhaglen.

Fy mwriad yw y bydd adolygiadau o drefniadau etholiadol y prif gynghorau yn cael eu cynnal yn erbyn set o feini prawf cyffredin i’w cytuno drwy’r Comisiwn. Rwyf hefyd yn disgwyl y bydd adolygiadau etholiadol ar gyfer y 22 awdurdod wedi’u cwblhau o fewn y tymor llywodraeth leol nesaf.

Mae’r trefniadau hyn yn rhoi eglurder i’r rhai sy’n ystyried sefyll yn etholiad 2017. Maent hefyd yn gosod gorwel cynllunio tymor hir i awdurdodau lleol a’u partneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Fodd bynnag, hoffwn ddweud yn ddiamheuol bod trafodaethau ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill ar yr agenda diwygio yn parhau. Byddaf yn cynnig ffordd ymlaen ar ddiwygio llywodraeth leol yn yr hydref. 2 © Hawlfraint CFfDLC 2019