Hughes LM Phd 2019

Hughes LM Phd 2019

Bangor University DOETHUR MEWN ATHRONIAETH Rhwng Gwrthryfel a Gwacter:Agweddau ar y theatr Gymraeg, 1945-79 Hughes, Llio Award date: 2019 Awarding institution: Prifysgol Bangor Link to publication General rights Copyright and moral rights for the publications made accessible in the public portal are retained by the authors and/or other copyright owners and it is a condition of accessing publications that users recognise and abide by the legal requirements associated with these rights. • Users may download and print one copy of any publication from the public portal for the purpose of private study or research. • You may not further distribute the material or use it for any profit-making activity or commercial gain • You may freely distribute the URL identifying the publication in the public portal ? Take down policy If you believe that this document breaches copyright please contact us providing details, and we will remove access to the work immediately and investigate your claim. Download date: 25. Sep. 2021 Rhwng Gwrthryfel a Gwacter: Agweddau ar y theatr Gymraeg, 1945-79 Traethawd Ph.D. Llio Mai Hughes Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor Mai 2019 CRYNODEB Cyfraniad yw'r traethawd hwn at yr ymchwil i gyflwr a datblygiad y ddrama a’r theatr Gymraeg yn ystod yr ugeinfed ganrif, yn benodol yn y cyfnod rhwng diwedd yr Ail Ryfel Byd a diwedd y 1970au. Ymhlith y prif weithiau beirniadol diweddar yn y maes, gellir lleoli'r astudiaeth hon yn y canol rhwng cyfrol Ioan Williams, Y Mudiad Drama yng Nghymru, 1880- 1940, sy'n ymdrin â'r cyfnod hyd at 1940, a chyfrol Roger Owen, Ar wasgar: theatr a chenedligrwydd yn y Gymru Gymraeg 1979-1997, sy'n ymdrin â'r cyfnod o 1979 ymlaen. Canolbwyntir ar gasgliad dethol o ddramâu llwyfan gan rai o brif ddramodwyr y cyfnod, yn bennaf, sydd oll yn trin a thrafod y themâu o wacter ystyr neu wrthryfel. Bydd yr astudiaeth yn dilyn trefn gronolegol, ac yn canolbwyntio ar y dramâu fesul degawd, cyn cloi trwy edrych ar waith Cwmni Theatr Bara Caws a sefyllfa’r theatr Gymraeg wrth arwain at y 1980au. Rhai o’r cwestiynau ymchwil y ceisir eu hateb fydd; sut mae’r dramodwyr yn cyflwyno’r thema o wacter ystyr neu wrthryfel yn eu gwaith; a yw digwyddiadau hanesyddol, cymdeithasol a gwleidyddol y cyfnod yn effeithio ar weithiau’r dramodwyr; sut y datblygodd y theatr a’r ddrama Gymraeg yn ystod y cyfnod dan sylw ac a oes modd gweld dylanwad gweithiau dramodwyr o Ewrop a thu hwnt ar waith y dramodwyr Cymraeg. Erbyn diwedd yr astudiaeth, sylwir y bu’r cyfnod hwn o 35 mlynedd yn hollbwysig yn hanes y theatr a’r ddrama Gymraeg fodern, ac mai yn ystod y cyfnod hwn y gwelwyd rhai o’r datblygiadau pwysicaf, megis sefydlu’r cwmni theatr cenedlaethol proffesiynol Cymraeg cyntaf ac adeiladu theatrau pwrpasol. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd y daeth prif ddramodwyr y theatr Gymraeg i’r amlwg, gan gynnwys nifer o’r dramâu sydd bellach yn cael eu hystyried yn rhan o’r canon. Ar drothwy’r 1980au sylwir bod dychweliad at theatr a wreiddiwyd fwy yn ei chymuned. CYDNABYDDIAETHAU Hoffwn ddiolch yn gyntaf i’m goruchwylwyr, Yr Athro Gerwyn Wiliams a’r Dr Manon Wyn Williams am eu cefnogaeth, eu cyngor a’u harweiniad gwerthfawr. Diolch hefyd i’r Athro Tudur Hallam am ei gyngor a’i sylwadau yntau, ac i’r AHRC am ariannu’r prosiect. Diolch yn arbennig i Dafydd Glyn Jones, Gaynor Morgan Rees, John Ogwen, Maureen Rhys, Eleri Llwyd, Mair Parry a Cefin Roberts am eu caredigrwydd a’u parodrwydd i gynnal cyfweliadau a diolch iddynt, ynghyd â Myrddin ap Dafydd a Sharon Morgan, am rannu eu gwybodaeth â mi. Hoffwn ddiolch hefyd i weddill staff Ysgol y Gymraeg a fy nghyd-fyfyrwyr, staff Llyfrgell ac Archifdy Prifysgol Bangor, staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifdy Caernafon am fod mor barod i helpu ac i Taid a Nain Llangefni am gael benthyg o’u llyfrgell hwy unwaith eto. Yn olaf, diolch i fy nheulu, i Morgan a’m ffrindiau am eu cefnogaeth barhaus dros y blynyddoedd diwethaf. Llio Mai Hughes, Mai 2019 CYNNWYS TUDALEN RHAGAIR 1 PENNOD 1 Cefndir: Dylanwadau a Datblygiadau 4 PENNOD 2 Y 1940au: Ailgynnau diddordeb a gosod uchelgais 20 1. Lle Mynno’r Gwynt 20 2. Blodeuwedd 29 PENNOD 3 Y 1950au: Ehangu gorwelion 41 1. Gymerwch Chi Sigarét? 42 2. Ar Ddu a Gwyn 48 3. Brad 56 4. Cyfyng-gyngor 67 5. Y Tad a’r Mab 75 6. Esther 84 PENNOD 4 Y 1960au (i): ‘Ymladd i drio gwella stad ein Cymreictod ni’ 94 1. Y Cymro Cyffredin 95 2. Hanes Rhyw Gymro 104 3. Dau Frawd 116 4. Mae Rhywbeth Bach... 125 PENNOD 5 Y 1960au (ii): ‘Cyfnod cythryblus, byrlymus, creadigol...’ 132 1. Yn y Trên 132 2. Cymru Fydd 142 3. Pros Kairon 152 4. Dinas Barhaus 162 5. Saer Doliau, Tŷ ar y Tywod, Y Ffin 172 PENNOD 6 Y 1970au: Herio’r confensiwn a herio’r Cymry 186 1. Y Llyffantod 186 2. Geraint Llywelyn 201 3. Y Cadfridog 218 4. Y Tŵr 232 5. Ac Eto Nid Myfi 245 PENNOD 7 Clo: Theatr Bara Caws a sefyllfa’r theatr Gymraeg erbyn diwedd y 1970au 259 ATODIADAU 1. Llyfryddiaeth Gyffredinol 270 2. Llyfryddiaeth: Pennod 1 272 3. Llyfryddiaeth: Pennod 2 275 4. Llyfryddiaeth: Pennod 3 279 5. Llyfryddiaeth: Pennod 4 288 6. Llyfryddiaeth: Pennod 5 298 7. Llyfryddiaeth: Pennod 6 314 8. Llyfryddiaeth: Pennod 7 328 9. Rhestr o’r cyfweliadau 333 RHAGAIR Bwriad y gwaith hwn yw ymchwilio i agweddau ar y theatr Gymraeg mewn cyfnod o ddatblygiad a thrawsnewid, sef 1945-79, gan roi sylw manwl i rai o brif ddramâu’r cyfnod a’r prif ddramodwyr. Bydd yr astudiaeth hon yn cynnig trawsolwg o’r modd y datblygodd ac y trawsnewidiodd y theatr Gymraeg yn ystod cyfnod o 35 mlynedd, y tensiynau a’r pynciau a’i nodweddai, a hynny gan gadw mewn cof ddwy o’r themâu sydd fel petai’n codi amlaf mewn amryw ddramâu sef gwrthryfel a gwacter a’r ymrafael yn aml rhyngddynt. Yn ogystal, edrychir ac asesir a fu i ddigwyddiadau hanesyddol, cymdeithasol neu wleidyddol effeithio ar gynnyrch y dramodwyr mewn unrhyw ffordd. Ar gyfer y gwaith, tynnwyd ar ystod eang o ffynonellau printiedig ac ysgrifenedig, rhai cynradd ac eilaidd, yn ogystal â chyfres o gyfweliadau estynedig gydag ymarferwyr yn y maes, boed ddramodwyr, actorion neu feirniaid. Nid addewir ymdriniaeth ddihysbyddol a chynhwysfawr, ond yn hytrach, un sy’n canolbwyntio ar rai awduron a thestunau arwyddocaol. Gellir edrych ar y rhestr a gadwodd Cynan ar gyfer ei waith fel y sensor Cymraeg i weld yr holl ddramâu Cymraeg a berfformiwyd yn ystod y cyfnod hwn hyd at 1968 pan ddaeth sensoriaeth lwyfan i ben.1 Dewiswyd astudio’r cyfnod hwn am ei fod yn gyfnod hollbwysig yn hanes sefydlu’r theatr Gymraeg fodern ac yn gyfnod lle y gwelwyd y datblygiad mwyaf arwyddocaol yn hanes y theatr Gymraeg. Y mae hefyd yn gyfnod pwysig yn hanes Cymru a’r iaith Gymraeg. Dechreuir yr astudiaeth ym 1945 gan mai dyma’r flwyddyn y daeth diwedd i’r Ail Ryfel Byd, ond hefyd oherwydd mai tua’r adeg hon y daw cyfnod yr hen ddramâu cegin traddodiadol i ben, ac y rhoddir cychwyn ar oes aur newydd yn hanes y theatr Gymraeg. Y mae hyn yn bennaf oherwydd dylanwad Moderniaeth, y grym syniadol a gyflwynodd y newid a welir yn y cyfnod hwn. Mudiad celfyddydol yw Moderniaeth, sy’n gwrthryfela’n fwriadol yn erbyn hen ddulliau a ffurfiau. Dywedwyd i Foderniaeth gychwyn ym myd y theatr oddeutu 1887 pan fu i André Antoine gyflwyno fersiwn ddramataidd o nofel Naturiolaidd Emile Zola a sefydlu’r Théâtre Libre ym Mharis, a oedd yn annog arbrofi ac yn awyddus i gyflwyno gweithiau newydd. Dywedir hefyd fod Henrik Ibsen yn un o sylfaenwyr Moderniaeth ym myd y theatr, a chaiff ei chysylltu hefyd ag Oscar Wilde, Tennessee Williams, Bertolt Brecht a Samuel Beckett, i enwi rhai yn unig. Yng Nghymru, gwelwyd dramodwyr yn dechrau gwrthryfela yn erbyn y drefn yn negawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif, megis Saunders Lewis gyda Gwaed yr 1 ‘Rhestr o Ddramodau Cymraeg’, mân adnau, 1129B, LlGC [Llyfrgell Genedlaethol Cymru]. 1 Uchelwyr (1922). Dyma hefyd ddechrau’r cyfnod lle y gwelir rhai o’n prif ddramodwyr yn blodeuo gan ddod i amlygrwydd cenedlaethol ym maes y theatr. Gorffennir yr astudiaeth ym 1979 gan mai dyma pryd y cychwynnodd cyfnod newydd yn hanes y theatr Gymraeg gyda thwf cwmnïau theatr bychain. Ceir astudiaeth fanwl o’r cyfnod hwn gan Roger Owen yn y gyfrol Ar Wasgar: theatr a chenedligrwydd yn y Gymru Gymraeg 1979-1999.2 Dyma hefyd ddiwedd cyfnod rhai o brif ddramodwyr y theatr Gymraeg, megis Huw Lloyd Edwards a fu farw ym 1975, John Gwilym Jones a gyflwynodd ei ddrama lwyfan olaf, Yr Adduned ym 1979, a Saunders Lewis a gyhoeddodd Excelsior ym 1980, er iddo ysgrifennu’r fersiwn wreiddiol flynyddoedd cyn hynny. Erbyn 1979, roedd dramodwyr ifanc newydd megis William R. Lewis a Meic Povey yn ysgrifennu ar gyfer y llwyfan ac yn derbyn sylw cenedlaethol fel rhai o brif ddramodwyr Cymraeg y dyfodol. Ceir astudiaeth ar brif ddramodwyr y cyfnod dilynol hwn o’r 1980au ymlaen gan Manon Wyn Williams yn ei thraethawd ymchwil ‘Tri Dramaydd Cyfoes: Meic Povey, Siôn Eirian ac Aled Jones Williams’.3 Canolbwyntir yn benodol ar y themâu o wrthryfel a gwacter ystyr am mai’r themâu hyn a godai amlycaf ym mhrif weithiau’r cyfnod, ac am mai dyma’r themâu a oedd hefyd yn amlwg iawn yng ngweithiau dramodwyr Ewrop ac America.

View Full Text

Details

  • File Type
    pdf
  • Upload Time
    -
  • Content Languages
    English
  • Upload User
    Anonymous/Not logged-in
  • File Pages
    339 Page
  • File Size
    -

Download

Channel Download Status
Express Download Enable

Copyright

We respect the copyrights and intellectual property rights of all users. All uploaded documents are either original works of the uploader or authorized works of the rightful owners.

  • Not to be reproduced or distributed without explicit permission.
  • Not used for commercial purposes outside of approved use cases.
  • Not used to infringe on the rights of the original creators.
  • If you believe any content infringes your copyright, please contact us immediately.

Support

For help with questions, suggestions, or problems, please contact us