Geiriadur Cymraeg a Saesneg Byr By Edwards, Owen M. Welsh A Doctrine Publishing Corporation Digital Book This book is indexed by ISYS Web Indexing system to allow the reader find any word or number within the document. Transcribed from the 1905 Ab Owen edition by David Price, email [email protected] GEIRIADUR CYMRAEG A SAESNEG BYR. YN BENNAF AR SAIL DICTIONARIUM BRITANNICO-LATINUM DR. JOHN DAVIES o Fallwyd. AC AR “Y GYMRAEG YN EI DISGLEIRDEB” THOMAS JONES o’r Amwythig. Llanuwchllyn, AB OWEN Conwy, R. E. JONES A’I FRODYR. 1905. Rhagymadrodd. Amcan y Geiriadur hyr bwn yw rhoddi ychydig gymorth i efrydwyr Cymraeg y canol oesoedd. Denwyd fi at y gwaith, oherwydd nad oes Eiriadur hawdd ei gael i lenyddiaeth Cymreig y cyfnod rhwng Gruffydd ab Cynan a Beibl 1588. Fy amcan cyntaf oedd cywiro a thalfyrru cyfieithiad Thomas Jones o Dictionarium Britannico-Latinum Dr. Davies. Y Geiriadur Cymreig a Lladin a Lladin a Chymraeg hwn yw’r goreu eto; ond y mae yn anghyflawn, ac nid yw yn hawdd i’w gael. Ysgrifennodd y Dr. Davies ei ragymadrodd i’w Eiriadur y dydd olaf o Fai, 1632. Cyhoeddodd Thomas Jones ei gyfieithiad ohono yn 1688. Drwy annog yr Athraw J. Morris Jones, penderfynais wneyd ychwaneg na chywiro a chrynhoi; gwnes y Geiriadur mor gyflawn ag y gallwn drwy fy narllen fy hun, a chymorth Geiriaduron diweddarach. Defnyddiais, yn enwedig, Archæologia Edward Lluyd, 1707; Geiriadur Dr. W. Owen Pughe, 1803, rhyfeddod o wybodaeth a llafur, er ei ddamcaniaethau ofer a’i ddychmygion gwyllt; a Geiriadur anghyflawn fy hen athraw D. Silvan Evans, gyda’r hwn y bu farw yn 1903 gymaint o gof o bethau Cymreig. Mor bell ac y gallwn farnu,—oddiwrth lenyddiaeth, enwau lleoedd, a’r defnydd wneir ar lafar o eiriau’n awr,—yr oedd pob gair sydd yn y Geiriadur hwn ar arfer yn 1588. Felly nid yw’r llyfr bychan hwn yn rhoddi cymorth i ddangos fel y tyfodd yr iaith er cyfnod cyfieithu’r Beibl. Edrychodd yr Athraw J. Morris Jones drwy y rhan fwyaf o’r proflenni. Achubodd fi o amryw byllau, ychwanegodd rai geiriau, a bu ei gyngor yn dra gwerthfawr. Ond na ddalier ef yn gydgyfrifol am un gwall; gallai fod yn y llyfr wallau na welodd ef, a hwyrach na ddilynwyd ei gyngor bob amser. Doctrine Publishing Corporation Digital Book Page 1 Gwnes fy ngoreu, ond gwn fod y llyfr yn amherffaith. A gaf fi ofyn i efrydwyr hanes a llenyddiaeth Cymru yn y canol oesoedd roddi prawf arno, a gwneyd rhestrau o eiriau a dyfyniadau, fel y gallaf ei wella? OWEN M. EDWARDS. Coleg Lincoln, Rhydychen. Ionawr 30, 1905. Y Wyddor Gymraeg. A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R S T Th U W Y Enwau. Adda, Adam. Awstin, Augustine. Buddug, Boudicca. Caradog, Caratacus. Dafydd, David. Dewi, David. Du, black. Efa, Eve. Emrys, Ambrose. Ercwlf, Hercules. Fychan (“small”), Vaughan. Fferyll, Vergil, magician, chemist. Ffraid, Bridget, Bride. Ffwg, Foulk. Gwilym, William. Iago, James. Ieuan, Ifan, John. Io, Job. Ioan, John. Iwl, Julius. Llwyd, brown. Mair, Mary. Mihangel, Michael. Moesen, Moses. Doctrine Publishing Corporation Digital Book Page 2 No, Noe, Noah. Pedr, Peter. Rhosser, Roger. Selyf, Solomon. Siarlymaen, Charlemagne. Siaspar, Jasper. Sion, John. Sior, George. Suddas, Judas. Tewdws, Pleiades. Wynn, white. Ystas, Statius, Tacitus. Enwau Lleoedd. Aberhonddu, Aberhodni, Brecon. Abermaw, Barmouth. Aber Mynwy, Monmouth. Abertawe, Swansea. Aberteifi, Cardigan. Aifft, Egypt. Almaen, Germany. Amwythig, Shrewsbury. Baddon, Bath. Bannau Brycheiniog, Brecknock Beacons. Bêm, Bohemia. Bristo, Bridstone. Brosil, Brussels. Broŵyr, Gower. Brycheiniog, Breconshire. Bryn Buga, Usk. Bryneich, Bernicia. Bryste, Bristol. Doctrine Publishing Corporation Digital Book Page 3 Bwrdios, Bordeaux. Caer, Chester. Caer Aranrod, Northern Crown. Caercystenyn, Constantinople. Caer Dulyn, Dublin. Caerdydd, Caerdyf, Cardiff. Caerefrog, York. Caerfyrddin, Carmarthen. Caergaint, Canterbury. Caergrawnt, Cambridge. Caer Gwydion, The Milky Way. Caergybi, Holyhead. Caer Lil, Carlisle. Caerloew, Glosedr, Gloucester. Caerludd, London. Caer Lyr, Leicester. Caerlleon ar Wysg, Caerleon. Caersalem, Jerusalem. Caerwrangon, Worcester. Caerŵyr, Swansea. Caint, Kent. Casllwchwr, Loughor. Casnewydd, Newport (Mon). Castell Gwys, Wiston Castle. Castell Moel, Green Castle. Castell Nedd, Neath. Ceintun, Kineton, Kington. Ceredigion, Cardiganshire. Cernyw, Cornwall. Cilgwri, Wirral. Clas ar Wy, Glasbury. Doctrine Publishing Corporation Digital Book Page 4 Coedllai, Leeswood. Colunwy, Clun. Conach, Connaught. Croesoswallt, Oswestry. Crughywel, Crickhowel. Cwlen, Cologne. Deifr, Deira. Dinas y Garrai, Castor. Dinbych, Denbigh. Dinbych y Pysgod, Tenby. Dulyn, Dublin. Dyfrdwy, Dee. Dyffryn Aur, Golden Vale. Dyffryn Clwyd, Vale of Clwyd. Dyffryn Tefeiddiog, Vale of Teme. Efelfre, Velfrey. Eglwys Wen, Whitchurch. Eidal, Italy. Enlli, Bardsey. Ergin, Archenfield. Eryri, the Snowdon Range. Estyn, Holt. Ewsam, Evesham. Ffrainc, France. Gien, Guienne. Glyn Teyrnon, Llantarnam. Grwyn, Gaveren. Gwasgwyn, Gascony. Gwebl, Weobly. Gwyndud, Gwynedd, North Wales, north west Wales. Gwynfryn, Whitney. Doctrine Publishing Corporation Digital Book Page 5 Gwyr, Gower. Hafren, Severn. Hendy Gwyn, Whitland. Henffordd, Hereford. Hwlffordd, Haverfordwest. Hymyr, Humber, (parish). Iorddonen, Jordan. Iwerddon, Ireland. Lerpwl, Liverpool. Lesedr, Leicester. Llanbedr, Pont Stephan, Lampeter. Llandudoch, St. Dogmels. Llanelwy, St. Asaph. Llaneurgain, Northop. Llanfair ym Muallt, Builth. Llanllieni, Leominster. Llanymddyfri, Llandovery. Llinwent, Leintwardine. Lloegr, England. Llundain, London. Llychlyn, the Baltic. Llydaw, Brittany. Llynlleifiad, Liverpool. Llyn Tegid, Bala Lake. Maelor Gymraeg, Bromfield. Maesalegr, Bassaleg. Maes Glas, Greenfield. Maesyfed, Radnorshire. Manaw, Man. Moel Rhon, Skerries. Môn, Anglesea. Doctrine Publishing Corporation Digital Book Page 6 Morgannwg, Glamorgan. Mor Nudd, English Channel. Mynwy, Monmouth. Mynydd Du, Carmarthen Vans. Mynyw, St. David’s. Nanhyfer, Nevern. Nant y Nordd, Humber. Niwbwrch, Newborough. Penarlâg, Hawarden. Penbrys, Pembridge. Penfro, Pembroke. Penybont, Bridgend. Pont ar Fynach, Devil’s Bridge. Pont Faen, Cowbridge. Porthaethwy, Menai Bridge. Powis, St. Paul’s. Prydain Britain. Prydyn, Scotland, Britain. Rhosiel, La Rochelle. Rhosyr, Newborough. Rhuthyn, Ruthin. Rhydychen, Oxford. Siep, Cheapside. Sisedr, Chichester. Tafwys, Thames. Talacharn, Laugharne. Tegeingl, Englefield. Trallwm, Trallwng, Welshpool. Trefaldwyn, Montgomery. Trefdraeth, Newport (Pemb.) Trefhedyn, Adpar. Doctrine Publishing Corporation Digital Book Page 7 Tref Ludd, Ludlow. Treffynon, Holywell. Tre’r Delyn, Harpton Court. Twr Alaher, Alhambra. Twr Gwyn, Tower of London. Tyddewi, St. David’s. Wy, Wye. Wysg, Usk. Y Drefnewydd, Newtown. Y Ddena, Forest of Dean. Y Fan, The Sugar Loaf. Y Felallt, Beeston. Y Fenni, Abergavenny. Y Feri, Ferryside. Y Gelli, Hay. Y Waen, Chirk. Y Werydd, the Atlantic. Y Wyddfa, Snowdon. Y Wyddgrug, Mold. Ynys Lawd, South Stack. Ynys yr Ia, Iceland. Ystog, Churchstoke, Erbistock. Ystrad Fflur, Strata Florida. Ystrad Marchell, Strata Marcella. Geiriadur. A. A, and, with, whether. Ab, a son; âb, an ape. Abad, an abbot; abades, an abbess; abadaeth, an abbotship; abaty, an abbey. Aball, defect, infirmity; aballu, to perish, fail. Aban, war, battle. Doctrine Publishing Corporation Digital Book Page 8 Abar, a carcase; filthiness. Abediw, heriot. Aber, a brook of running-water. Aberth, an offering, sacrifice; aberthu, to offer, to sacrifice; aberthawr, a sacrificer, a priest. Abl, sufficient, able; abledd, ability. Abo, abwy, a dead carcase, carrion. Abred, Hades, Chaos. Abrwysgl, very large, big, thick. Absen, absence, slandering, or back-biting; absennwr, a back-biter, slanderer. Abwyd, food, bait. Ac, and. Acen, accent. Actwn, a coat of mail, breast-work, battlement. Acw, there. Ach, achau, a genealogy, pedigree; achwr, a writer of pedigrees. Achadw, to keep. Achar, he will love. Achen, kind, generation, need; achenog, poor, needy. Achenu, to sing; achenedd, a sonnet, song. Aches, a river. Achlân, all. Achles, a place of refuge, sanctuary; achlesu, to comfort, shelter. Achludd, to hide secretly, conceal. Achor, encircled; thin, little. Achos, achaws, cause, reason. Achre, achwre, apparel, dress. Achrê, yea, rather. Achreth, a trembling; achrethu, to tremble. Achretawr, a creditor, or one that gives credit. Achrwm, crooked, ill shaped. Achrwym, a tie, bondage. Doctrine Publishing Corporation Digital Book Page 9 Achub, defend, protect. Achul, lean, thin. Achwedd, kindred; evening. Achwyn, to complain, accuse. Achwys, a cause, reason. Adaf, hand. Adafael, a pawning, pledge, attachment. Adail, a building; adeilad, to build; adeiladwr, a builder. Adain, a wing, spoke of a wheel; adeiniog, winged; adanedd, adenydd, adeinydd, wings, the spokes of a wheel. Adameg = dameg, parable; a riddle. Adar, birds; adar llwch gwin, vultures, griffins; adar y bwnn, bitterns; adar y drudwy, starlings; adar y tô, sparrows; adardy, a bird cage; adarwr, a fowler; aderyn, a bird. Adaw, to leave. Adblygu, to unfold. Adefyn, thread, yarn. Adeg, time, opportunity; adeg troad y lleuad, neu rhwng y llawn lleuad a’r newid, the decrease of the moon. Adfail, a ruin, the fall of a building; adfeilio, to languish, fail, decay. Adfain, adfan, a stranger. Adfant, vain, despicable. Adfeddylied, to recollect. Adferu, to restore, return. Adflas, an ill taste, unsavoury. Adfwl, atarw, a bull half gelt. Adfyd, adversity; adfydig, wretched, miserable, poor. Adfydd, perhaps. Adiad, a duck, or drake. Adian, progeny, posterity. Adill, vile, abject. Adladd, adlodd,
Details
-
File Typepdf
-
Upload Time-
-
Content LanguagesEnglish
-
Upload UserAnonymous/Not logged-in
-
File Pages239 Page
-
File Size-