PORTREADAU DROS F'YSGWYDD Bobi Jones (Diolchaf i'm cyfaill, Dafydd Ifans, am gymwynas fawr drwy weithredu'n ddarllenydd i mi. Gwnaeth oriau o waith trwm i'm helpu, gan f'arbed rhag cannoedd o gambrintiadau, neu o eiriau coll, neu o gamosod ymadroddion. Yr wyf yn ddyledus dros ben iddo, megis troeon o'r blaen, am gynhorthwy caredig. Arnaf i y mae'r bai am bob amryfusedd a erys. Bu hefyd yn gymorth mawr wrth hysbysebu.) 2016 1 RHAGAIR Wrth fynd am dro bob dydd, bydd fy meddyliau i'n crwydro yn y gorffennol. Rwy'n rhyfeddol o ddyledus i rywrai am eu cymwynasgarwch tuag ataf yn ystod fy mywyd. Yn y gyfrol hon fe bortreadir nifer o'r bobl hynny, a fu'n garedig ac yn pwyso dros f'ysgwydd, ar ffurf ysgrifau coffa. Dyma rai o'r bobl yn y cyfnod diweddar sydd wedi dal i'm dilyn yn feunyddiol. Pobl a fu'n bwysig i fi ar un adeg fu'r rhain, ac eto, pobl sy'n dod heibio o hyd i sibrwd yn fy nghlust. Mae'r atgof amdanyn nhw'n aros yn gysur i fi yr oedran yma. Bob amser maen nhw'n gerydd ac yn rhybudd i fi ynghylch y pethau y methais i â'u gwneud. Ac eto, maen nhw hefyd wrth bwyso dros f'ysgwydd i'n llawenydd cynnes ac annwyl. Wrth sôn amdanyn nhw fel hyn, maen nhw wedi'u sgrifennu'u hunain bron iawn, a dangos mor braf a breintiedig fu bywyd. Pan gaf i heulwen achlysurol yn naturiol yn gwmnïaeth ar fy nhro, rwy'n ymwybodol o gysgod bach gerllaw. Estyniad yw pob cysgod yn ymestyn o'r traed tuag yn ôl; os bydd yr haul tu ôl i chi, yna bydd y cysgod yr ochr arall. Mae bob amser ynghlwm wrth y traed, fel her neu atgof. Ac felly y bydd hi, ambell waith, gyda ffrind neu gydwybod. 2 MYNEGAI PENNAR DAVIES 4 JOHN ROWLANDS 40 SAUNDERS LEWIS 57 GERAINT GRUFFYDD 107 GUSTAVE GUILLAUME 122 W. F. MACKEY 132 DEWI Z. PHILLIPS 140 GWENALLT 193 HYWEL TEIFI EDWARDS 219 IORWERTH PEATE 250 EUROS BOWEN 259 PAUL 271 YR HUNAN DU 291 3 DROS F'YSGWYDD (1) PENNAR Cafwyd dadl annisgwyl yn 1953. A chefais fy nghyflwyno i 'wrthwynebydd' dieithr. Ni allwn fod wedi derbyn rhodd hyfrytach. Mae yna wrthwynebwyr caredig, sydd heb fod yn elynion. Fe all profi gelyniaeth mewn gwrthwynebiad fod yn gyflwr a ddylai adael briw neu siom, mae'n siŵr. Ond fe ellir cael rhai gwrthwynebwyr, a'r rheini'n llesol, sy'n helpfawr, ac yn sicr yn llawn dop o garedigrwydd. Drwy drugaredd, fe ges i nifer go lew o wrthwynebwyr felly i finiogi'r meddwl ar hyd y blynyddoedd. Fe ges i hefyd yn wrthddadleuydd cyntaf i mi un o'r dynion mwyaf cariadus ymhlith llenorion Cymru. Pa le y gellid dod o hyd i botensial trafodaeth fwy pleserus? Mae'n wir imi gael fy siâr o ddadleuon drwy gydol y blynyddoedd. Hen arfer ym myd crefydd neu wleidyddiaeth yw dadlau. A gŵyr pawb sy o ddifri, yn y naill faes neu'r llall, fod croesi cleddyfau yn brofiad anochel ynddynt, ac y gall fod yn fuddiol. Ond ni ddisgwyliais y byddwn i'n cael, a hynny ar hyd fy oes, ddadleuon a fyddai'n fy ngorfodi i bendroni ynghylch y gwaith o lenydda. Yn y byd llenyddol, erbyn 1953 roedd 'Moderniaeth' wedi siglo'r cwch dipyn ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a bydd llawer o ffyddloniaid uniongred yn dweud mai drwg pur oedd hynny i gyd. Ond i mi, doedd y Mudiad hwnnw fel y cyfryw ddim wedi pwyso dros f'ysgwydd i ar y pryd, fel 'Mudiad', am ryw reswm. Pobl oedd yno; ac roedd pobl, nid syniadau, yn ysgogi tyfiant. Roedd yr Ôl-foderniaeth o'm hamgylch erbyn ail hanner yr ugeinfed ganrif ychydig yn llai hydwyth. Hanner ffordd drwy'r ugeinfed ganrif, hynny yw, yn fuan ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ceid rhaniad eglur yng Nghymru ymhlith y prydyddion, rhwng y Ceidwadwyr Modern a'r Ôl-fodernwyr. Dyma raniad nad oedd mor eglur yn yr un ffordd mewn gwledydd eraill. At ei gilydd, yn Saesneg, y mae'r Ceidwadwyr bellach wedi diflannu, neu wedi cilio i gornel ar odre tudalen mewn ambell gylchgrawn i ferched. Ond yng Nghymru wledig Gymraeg, sef yn ein cefn gwlad – ac ar y pryd yr oedd diwylliant llenyddol mewn mannau felly yn dal yn ystyrlon – nid y gynghanedd oedd yr unig gaer amddiffynnol amlwg, eithr yr hyn a elwid yn 'delynegion'. Araf fu'r rhain yn darfod yn Ne Ceredigion. A gwnaent lawer o ddrwg i chwaeth ac ymwybod byw o iaith ac arddull. O ran y gynghanedd, sut bynnag, drwy gydol yr ugeinfed ganrif, yr oedd llunio'r gynghanedd, yn enwedig y gwaith gan englynwyr, rywsut, wedi cynnal y gelfyddyd yn effro, ac yn fwyfwy wrth i'r blynyddoedd fynd rhagddynt. O ran hwyl ac egni'r arddull, a hyd yn oed o ran 4 testunau cyfoes, rhagorai gwaith cynganeddol ambell waith. Rhyw fath o arwyneb ar y pryd oedd Ôl-foderniaeth ddiddiben a disylwedd i rai o'n beirdd. Ceid ymgais achlysurol i ddiwydiannu a dinaseiddio barddoniaeth. Sylwyd ar yr hyn a elwid yn 'arbrofi' ar ieithwedd a ffurf mewn gwledydd eraill. Ond daliai hyn oll i fod yn fwganog ddigon i drwch y byd darllengar Cymraeg. Lloegr ar y pryd oedd yr hyn oedd America i rai o'n beirdd Seisnig. I fardd Cymraeg a fwriai'i brentisiaeth ym mhumdegau'r ugeinfed ganrif, ceid o hyd ddau hen berygl, felly. Ar y naill law, ceid y ceidwadwyr telynegol a bynciai'n felys odlog am adar a blodau a charu Cymru. Fel yn hanes yr emyn, roedd yna ddynwared alaethus o gyweiriau a sentimentau'r can mlynedd cynt, felly yn hanes y 'delyneg' ni allai beirdd diog eu teimlad a'u myfyrdod lai na dilyn hen rigolau gwledig eu teimlad a'u myfyrdod. At ei gilydd, anodd oedd cymryd y rhain o ddifri. Roedd un broblem arall yn ddyfnach. Ceid y pryd hwnnw, a cheir o hyd, feirdd 'academaidd', beirdd a ystyriai mai 'arbrofwyr' oeddent. Roedd rhai o'r rheini wrth gwrs yn 'ffasiynol'. Dymunent fod à la mode. Ac ystyr hynny yng ngwareiddiad y gorllewin oedd dilyn rhai o ffasiynau'r ugain mlynedd cyntaf yn yr ugeinfed ganrif – avant-garde, dada, a swrealaeth. Ond roedd rhywrai ymhlith y rhain a fyfyriai am ddiffyg ystyr bywyd; ac weithiau haeddai rhai o'r rheini barch ac ystyriaeth ddwys. Nid jôc oedd yr hyn a ddigwyddasai i ddiben bywyd a gwerthoedd ysbrydol yn ystod y ganrif ôl-fodernaidd honno. Ymddangosai fod yna ddwy broblem. Cymreig iawn oedd y taeogrwydd dynwaredol a'r awydd i sgrifennu barddoniaeth Saesneg yn y Gymraeg. Ond ceid, ymhlith beirdd blaenaf canol y ganrif, duedd anochel frodorol. Yr oedd y meddwl Cymreig 'annibynnol' a geid gan Waldo, Saunders, a Gwenallt yn amheuthun iawn. Ond daliai'r darllenwyr 'cyffredin' – y math o bobl a ymhoffai yng ngwaith Cynan – i ddewis 'Cofio' Waldo, a 'Cymru' Gwenallt, a 'Blodeuwedd' Saunders Lewis. Pe bai Waldo wedi aros gyda'i gerddi gorau megis 'Mewn Dau Gae', 'Wedi'r Canrifoedd Mudan', ac 'O bridd', ni fyddai wedi datblygu'n gwlt. Yn y pen draw, mater o amser fuasai setlo'r broblem honno. Yr oedd yr ail broblem yn fwy dyrys o lawer. Yr oedd a wnelo â hanfod llenyddiaeth. Beth a ddiffiniai 'lenyddiaeth'? Sylweddolid bod yna wahaniaeth rhwng iaith ddieneiniad, a'r iaith a geid yn 'Wedi'r Canrifoedd Mudan'; ac awgrymid mai yn y gwahaniaeth hwnnw y ceid naws a rhuddin y profiad llenyddol gorau. Ond beth yn union oedd hyn? Profodd hyn yn gryn bwnc pendroniad. Ateb y cwestiwn ar y pryd oedd yr her i feirniadaeth lenydol yn adrannau'r Gymraeg yn y Brifysgol. Byddai rhai'n hoffi dweud mai ei heglu hi fuasai orau. Daeth her gyntaf Ôl-foderniaeth ar flaenau traed i bwyso dros f'ysgwydd i'n benodol ar ffurf Prifathro Coleg Diwinyddol. Ond nid Diwinyddiaeth oedd ffurf ei her. Daeth yno yn hytrach ym 5 maes beirniadaeth ar ffurf deall barddoniaeth. Wrth edrych yn ôl ar y ddadl honno drigain mlynedd ar ôl iddi ddigwydd, bues i'n ffodus iawn mai diwinydd-fardd anwylaf ei ddydd a ddaeth i'r afael â fi. Dadl oedd rhwng gŵr aeddfed a llanc. Roeddwn innau ar y pryd yn 24 oed go las, a chywair go ymhongar gennyf. Roedd Pennar yn 41 oed, a stamp ei aeddfedrwydd a'i ddoethineb gostyngedig ar ei lythyrau. Does dim angen esbonio mai glaslanc oeddwn i, sut bynnag, gan fod hynny yn bur amlwg ymhob brawddeg. Gohebiaeth oedd hon a ddechreuodd gyda llythyr Pennar. Y gyfrol Cerddi Cadwgan a gyhoeddwyd gan Wasg Cadwgan a ysgogodd y drafodaeth. Fe gynhwysai waith gan bump o feirdd o gylch enwog Cadwgan. Dechreuodd yn ohebiaeth breifat gennym, felly; ond ar ôl y chweched llythyr, awgrymodd Pennar, os iawn y cofiaf, y gallai fod yn ddiddorol i ddarllenwyr Cymraeg pe baem yn ei chyhoeddi yn y Faner; a hynny a wnaethpwyd. Hen, hen Frwydr yw hon, felly. Yr ail beth a ddatblygodd ein cyfeillgarwch ni'n dau oedd drama hynod sâl a baratois ar gyfer cwmni drama'r ysgol. Digwyddodd i mi grybwyll fod hyn yn digwydd, ac yn wir dyma fe'n cynnig yn gartrefol fod yn gadeirydd imi i'r noson. Ef oedd Prifathro Coleg Aberhonddu ar y pryd. Ei anerchiad cryno ef, wrth gyflwyno'r ddrama, oedd y peth gorau, ar yr achlysur hwnnw. Arhosodd y berthynas fyth wedyn. A chyfarfûm ag ef droeon, ymhellach ymlaen yn f'oes, yn fwyaf arbennig mewn cyfarfodydd o'r Academi, pryd y byddem ni'n chwilio am le gyda'n gilydd amser cinio er mwyn holi a stilio a chwerthin.
Details
-
File Typepdf
-
Upload Time-
-
Content LanguagesEnglish
-
Upload UserAnonymous/Not logged-in
-
File Pages300 Page
-
File Size-