Cymdeithas yr Iaith Mudiad protest sy'n ymgyrchu dros y Gymraeg ers 1962 Cymdeithas yr Iaith yw Cymdeithas yr Iaith. Y cadeirydd presennol yw Bethan Ruth. Ers ei sefydlu mae’r Gymdeithas wedi cynnal ei hymgyrchoedd, ei phrotestiadau a'i gweithgareddau er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ym mywydau bob dydd pobl Cymru ac ennill statws swyddogol iddi. Yn ystod y 1960au a’r 1970au canolbwyntiodd ar gael dogfennaeth fel trwyddedau, tystysgrifau a biliau wedi eu darparu yn y Gymraeg, bod y Gymraeg yn cael ei rhoi ar arwyddion ffyrdd a bod gwasanaeth radio a theledu yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg. Defnyddiwyd dulliau di-drais fel cynnal ralïau, gwrthod derbyn gwasanaethau os nad oeddent yn y Math mudiad Gymraeg, a gwrthod talu am drwyddedau teledu. Sefydlwyd 4 Awst 1962 Cynhaliwyd protestiadau 'eistedd' torfol ar Bont Sefydlydd Owain Owain, John Davies, Trefechan, Aberystwyth, pan eisteddodd protestwyr ar Geraint Jones (Trefor) draws y bont er mwyn rhwystro’r traffig rhag mynd drosti. Am gyfnod peintiwyd neu difrodwyd arwyddion Pencadlys Aberystwyth ffyrdd uniaith Saesneg, dringwyd mastiau darlledu a bu rhai protestwyr yn ymyrryd â stiwdios teledu. Wedi i http://cymdeithas.cymru/hafan Gwynfor Evans fygwth y byddai’n ymprydio oni byddai’r Gwefan Llywodraeth Geidwadol yn cadw at ei haddewid i sefydlu sianel deledu ar gyfer rhaglenni Cymraeg, gorfodwyd y Adnoddau Dysgu Llywodraeth i gadw at ei gair a sefydlwyd S4C yn 1982. Cafodd aelodau oedd yn torri’r gyfraith eu dirwyo a chafodd Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y eraill eu dedfrydu a’u carcharu wrth iddynt ymgyrchu gyda’r pwnc yma Gymdeithas dros yr iaith. CBAC Mae gweithgareddau ac ymgyrchoedd y Gymdeithas wedi Caledi, Cyfoeth ac Anniddigrwydd, gwneud cyfraniad pwysig at basio deddfau iaith - er enghraifft, 1951-1979 (http://resource.download. yn 1967 a 1993, ac ar ddiwedd yr 20fed ganrif bu’n hollbwysig wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/20 wrth sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chynnig gan 16-17/16-17_2-12/cym/pdf/cymdeitha wasanaethau cyhoeddus Cymru. s-war.pdf) Ers dechrau’r 21ain ganrif mae ei hymgyrchoedd wedi Llyfrgell Genedlaethol Cymru pwysleisio pwysigrwydd polisïau ym maes tai a chynllunio ar Tynged yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith gyfer dyfodol y Gymraeg mewn cymunedau lleol ar draws Gymraeg, S4C, Deddf Iaith (https://w Cymru, dyfodol darlledu a'r cyfryngau newydd yn Gymraeg fel eb.archive.org/web/20130510230203/ y we a’r chwyldro digidol, a sut gellir sicrhau lle blaenllaw i'r http://www.llgc.org.uk/ymgyrchu/Iait Gymraeg yn y datblygiadau hynny. Mae hefyd wedi protestio yn erbyn penderfyniad y Llywodraeth i drosglwyddo cyllid h/TyngedIaith/index.htm) S4C i’r BBC ac yn galw am ddeddf iaith newydd. Roedd hefyd Adolygwyd testun yr erthygl hon gan yn ddylanwad pwysig wrth basio Mesur y Gymraeg yn 2011 a oedd yn rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg. Llwyddodd hefyd arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w i helpu i sefydlu swydd newydd, sef Comisiynydd y Gymraeg. ddefnyddio mewn addysg Ers ei sefydlu, mae enghreifftiau yn hanes y Gymdeithas lle mae wedi defnyddio cyfrifiadau fel un o ffyn mesur cyflwr y Gymraeg, fel y gwnaeth yn 1962 wrth sefydlu’r Gymdeithas ar ôl canlyniadau Cyfrifiad 1961 am gyflwr y Gymraeg. Dyma a wnaeth hefyd wedi Cyfrifiad 2011. Mae Maniffesto Byw y Gymdeithas, a lansiwyd mewn ymateb i ganlyniadau ieithyddol Cyfrifiad 2011, yn ddogfen sy’n amlinellu beth yw amcanion y Gymdeithas er mwyn diogelu dyfodol a lles y Gymraeg yn yr 21ain ganrif.[1][2][3] Cynnwys Hanes ac ymgyrchoedd y Gymdeithas 'Tynged yr Iaith’ a sefydlu Cymdeithas yr Iaith Dulliau protestio’r Gymdeithas Ymgyrchoedd y 1960au a’r 1970au Newidiadau o ganlyniad i ymgyrchu ‘Gwnewch bopeth yn Gymraeg’ Yr 21ain ganrif Deddf Eiddo Hawliau i'r Gymraeg Ymateb i ganlyniadau Cyfrifiad 2011 Ymgyrch NA i 8000 o dai yng Ngwynedd a Môn Aelodau nodedig, cyd-aelodau a chefnogwyr Gweler hefyd Dolenni allanol Cyfeiriadau Hanes ac ymgyrchoedd y Gymdeithas 'Tynged yr Iaith’ a sefydlu Cymdeithas yr Iaith Prif erthygl: Tynged yr Iaith Sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1962 gan grŵp o bobl ifanc a oedd wedi mynd i ysgol haf Plaid Cymru ym Mhontarddulais. Ei nod oedd gwella statws yr iaith Gymraeg a’i hatal rhag diflannu drwy roi’r hawl i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith yn eu bywyd o ddydd i ddydd. Cafodd y bwriad hwn ei ysbrydoli gan ddarlith Saunders Lewis, sef un o sefydlwyr Plaid Cymru, ar Radio’r BBC. Tynged yr Iaith oedd ei theitl. Galwodd Saunders Lewis ar bobl Cymru i weithredu’n uniongyrchol er mwyn “ei gwneud hi’n amhosibl dwyn ymlaen fusnes llywodraeth leol na busnes llywodraeth ganol heb y Gymraeg”. Roedd wedi gobeithio y byddai Plaid Cymru’n gwneud hyn ond dywedodd Gwynfor Evans, arweinydd y Blaid, nad oedd yn bosibl “cyfuno brwydr effeithiol dros yr iaith Gymraeg a bod yn blaid wleidyddol”.[4] 'Nid dim llai na chwyldro yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo'.[5] Dyna oedd byrdwn datganiad herfeiddiol Saunders Lewis mewn un o'r darllediadau pwysicaf yn hanes Cymru, sef Darlith Radio flynyddol y BBC a draddodwyd ar 13 Chwefror 1962. Galwodd Saunders Lewis ar Gymry i wrthod llenwi ffurflenni, talu trethi na thalu am drwyddedau os nad oedd yn bosibl gwneud hynny drwy'r Gymraeg. Yn ei farn ef, byddai angen i ymgyrchwyr fod yn barod i dalu dirwyon a wynebu carchar am eu daliadau. Er bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn gostwng, datganodd: 'Fe ellir achub y Gymraeg'.[5] Dulliau protestio’r Gymdeithas Roedd y Gymdeithas yn annog ei haelodau i weithredu’n ddi-drais ac yn uniongyrchol er mwyn cyflawni eu hamcanion. Cawsant eu hysbrydoli gan lwyddiant Gandhi yn India a Martin Luther King yn Unol Daleithiau America gan iddynt hwythau ddefnyddio’r dulliau hyn. Gwelwyd dulliau tebyg yn cael eu defnyddio mewn protestiadau yn erbyn boddi Cwm Tryweryn hefyd, ond ni chawsant lawer o effaith. Roedd Saunders Lewis wedi amlinellu sut gallai hyn weithio drwy ddefnyddio achos Trefor ac Eileen Beasley o Langennech, a wrthododd dalu eu trethi lleol rhwng 1952 ac 1960 oni fyddai’r gorchmynion treth yn y Gymraeg. Ar y cyfan, Cymraeg oedd iaith Dosbarth Gwledig Llanelli yn 1951. Ar ddiwedd yr achos llys hir, anfonwyd gorchymyn treth dwyieithog yn y pen draw, ar ôl i feilïaid (pobl sy’n casglu eiddo er mwyn talu dyledion) gymryd Y brotest gyntaf, ar Bont Trefechan. dodrefn y Beasleys oddi arnynt deirgwaith.[4] Roedd y brotest gyntaf yn 1963 ym Mhont Trefechan, Aberystwyth i orfodi Swyddfa'r Post i gynnig ffurflenni yn y Gymraeg yn ogystal â Saesneg. Cafodd adeiladau eu gorchuddio â phosteri a daeth y traffig i stop gan fod y bont wedi cael ei 'meddiannu' gan y protestwyr am hanner awr. Yn yr un flwyddyn, sefydlodd Owain Owain unig gyhoeddiad y Gymdeithas, sef Tafod y Ddraig - ef hefyd oedd y golygydd a’r un a ddyluniodd y logo. Ymgyrchoedd y 1960au a’r 1970au Canolbwyntiodd Cymdeithas yr Iaith ar dair prif ymgyrch yn y 1960au a’r 1970au: Sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chydnabod ar ddogfennau swyddogol. Golygai hyn bod protestwyr yn gwrthod llenwi ffurflenni, talu biliau na phrynu trwyddedau oni bai eu bod yn medru gwneud hynny yn y Gymraeg Rhoi’r Gymraeg ar arwyddion ffyrdd. Yn y 1970au cynnar, roedd protestwyr yn peintio arwyddion yn wyrdd fel nad Un o brotestiadau'r Gymdeithas yn oedd pobl yn gallu darllen yr enwau Saesneg fel Newtown galw am arwyddion ffyrdd neu Lampeter, neu roedden nhw’n tynnu’r arwyddion i lawr dwyieithog, 1972 ac yn eu gadael y tu allan i adeiladau’r llywodraeth Cael gwasanaeth radio a theledu yn yr iaith Gymraeg. Er mwyn gwireddu’r amcan hwn, dechreuodd protestwyr yn ddiweddarach yn y 1970au wrthod talu eu trwyddedau teledu, ac yn hytrach brotestio drwy ddringo mastiau radio a theledu, torri i mewn i stiwdios teledu i darfu ar ddarllediadau, ac aeth rhai ar streic newyn. Gwelwyd ffyrdd eraill o brotestio hefyd, wedi’u creu er mwyn denu cymaint o gyhoeddusrwydd â phosib - meddiannu eiddo, torri i mewn, streiciau newyn, tarfu ar weithrediadau yn y llys, taflu awyrennau papur i mewn i Dŷ’r Cyffredin o’r oriel gyhoeddus. Roedden nhw’n peintio sloganau Cymraeg ar adeiladau busnesau, siopau a swyddfeydd nad oeddent yn darparu eu gwasanaethau yn y Gymraeg. Roedd y protestwyr yn fodlon mynd i’r carchar pe bai angen. Erbyn 1976, roedd 697 o brotestwyr wedi ymddangos yn y llys i wynebu cyhuddiadau o ddifrod troseddol - cafodd 143 ohonynt eu hanfon i’r carchar a bu’n rhaid i lawer mwy ohonynt dalu dirwyon. Golygai hyn mai’r Gymdeithas oedd y grŵp protest mwyaf ers y swffragetiaid.[4] Yn ystod y 1960au a'r 1970au bu nifer o brotestiadau di-drais tebyg, a charcharwyd neu dirwywyd ymgyrchwyr. Ymhlith y rhain roedd y canwr poblogaidd Dafydd Iwan. Enillwyd rhai consesiynau gan y Llywodraeth, gan gynnwys Deddf Iaith 1967, a chynhyrchwyd ffurflenni dwyieithog gan rai cyrff cyhoeddus. Arweiniodd y cyfnod peintio a difrodi arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg ar hyd a lled Cymru gan gefnogwyr y Gymdeithas at sefydlu'r egwyddor o arwyddion dwyieithog yng Nghymru.[5] Er nad oedd gan y Gymdeithas erioed fwy na 2,000 o gefnogwyr swyddogol, roedd llawer yn cydymdeimlo ag achos yr iaith Gymraeg, er nad oedden nhw o reidrwydd yn cytuno â’r ffordd roedden nhw’n mynd o’i chwmpas hi.[4] Newidiadau o ganlyniad i ymgyrchu Llwyddodd y Gymdeithas i ennill a sicrhau newidiadau yn sgil eu Rhifyn cyntaf Tafod y Ddraig protestiadau. ('Dalengyswllt Dinas Bangor'); Hydref 1963. Yr ymgyrchoedd: Yn 1964, sefydlwyd Swyddfa Gymreig gydag Ysgrifennydd ffurflenni treth, gweinyddiaeth Gwladol â chyfrifoldeb dros Gymru, yn rhannol er mwyn Llyfrgell y Ddinas a chodi dwy ysgol ymdrin â’r materion a godwyd gan y Gymdeithas a Phlaid Gymraeg newydd.
Details
-
File Typepdf
-
Upload Time-
-
Content LanguagesEnglish
-
Upload UserAnonymous/Not logged-in
-
File Pages10 Page
-
File Size-