PDF Aberffraw

PDF Aberffraw

Aberffraw Mae Aberffraw ("y Berffro" ar lafar yn lleol) yn bentref ar Aberffraw arfordir gorllewinol Ynys Môn, rhwng Rhosneigr a Llangadwaladr, yng ngogledd Cymru. Mae'n cymryd ei enw o Afon Ffraw. Yn Oes y Tywysogion Aberffraw oedd maenor cwmwd Malltraeth, yng nghantref Aberffraw. Ers cyfnod cynnar iawn roedd yn gartref i brif lys teyrnas Gwynedd, cartref traddodiadol brenhinoedd a thywysogion Gwynedd. Cynnwys Hanes a thraddodiad Eglwys Beuno Math pentref, cymuned Y pentref heddiw Ardal weinyddol Cymuned Aberffraw, Ynys Daearyddiaeth Môn Enwogion Daearyddiaeth Atyniadau eraill Sir Ynys Môn Cyfeiriadau Gwlad Cymru Gweler hefyd Gerllaw Afon Ffraw Cyfesurynnau 53.195447°N 4.463519°W Hanes a thraddodiad Cod SYG W04000001 Cod OS SH3568 Erbyn heddiw, mae Aberffraw yn gymuned gymharol fach yn ne-orllewin Ynys Môn. Ond adeg yr Oesoedd Canol Gwleidyddiaeth roedd yn brif lys i reolwyr teyrnas Gwynedd rhwng c.860 AC/au Rhun ap Iorwerth (Plaid OC hyd c.1170. Hwn oedd canolbwynt eu pŵer. Cymru) Mae archaeoleg yn dangos bod Aberffraw wedi bod yn AS/au Virginia Crosbie lleoliad pwysig hefyd mewn cyfnod cyn-hanesyddol. (Ceidwadwyr) Canfuwyd fflintiau Mesolithig, Tomen Gladdu o’r Oes Efydd a chaer Rufeinig yma. Mae hefyd yn cael ei enwi yn Y Mabinogion fel y man lle priodwyd Branwen ferch Llŷr a Matholwch, Brenin Iwerddon.[1][2] Mae tystiolaeth yn dangos ei bod hi’n ddigon posib bod maerdref (lle byddai’r taeogion yn byw), eglwys, llys a chaer wedi bod yn Aberffraw ers cyfnod Maelgwn Gwynedd, a oedd yn teyrnasu dros Wynedd yn y 6ed ganrif OC.[3] O tua 860OC ymlaen datblygodd Aberffraw i fod yn lleoliad llys Brenhinoedd Gwynedd. Roedd hwn yn Ffeiliau perthnasol ar Comin dynodi dechrau llinach frenhinol a ddaeth i gael ei hadnabod fel Aberffraw, a barhaodd hyd Concwest [golygwch ar Wicidata] Edward I o Gymru yn 1282/3. Roedd Aberffraw yn borthladd pwysig ar gyfer masnachu a physgota, ac amddiffynwyd ef gan Rhodri Mawr a Brenhinoedd Gwynedd rhag ymosodiadau oddi wrth y Llychlynwyr, y Gwyddelod a’r Normaniaid.[4] Y llys yn Aberffraw oedd canolbwynt pŵer Teyrnas Gwynedd. Oddi yma roedd swyddogion yn casglu trethi ac yn gweinyddu’r gyfraith. Oherwydd ei statws fel llys brenhinol byddai hefyd wedi diddanu'r Brenin, ei deulu a’i wahoddedigion. Wedi ymosodiadau'r Normaniaid yng ngogledd Cymru yn 1086 dechreuodd cyflwr y llys ddirywio, ond cafodd ei atgyweirio a’i adnewyddu fel canolfan pŵer Owain Gwynedd wedi iddo ymsefydlu fel Brenin Gwynedd yn 1137.[5] Yn dilyn marwolaeth Llywelyn ap Gruffydd yng Nghilmeri yn 1282, dinistriwyd llawer o’r llys canoloesol yn Aberffraw gan y Saeson, a chymerwyd cerrig oddi ar y safle er mwyn adeiladu cestyll Edward yng Nghaernarfon a Biwmares.[6] Mae cloddiadau yn yr ardal wedi dangos olion caer ganoloesol sy’n dangos nodweddion Rhufeinig neu ôl-Rufeinig, a allai fod yn safle posibl i’r llys.[7] Tybir mai lleoliad Eglwys Sant Beuno heddiw oedd safle’r llys brenhinol.[8] Eglwys Beuno Mae tŵr yr eglwys hynafol hon yn nodwedd amlwg yn y pentref. Cysegrwyd yr eglwys i Beuno Sant. Mae ei chynllun corff dwbl yn fwy cyffredin yn Nyffryn Clwyd nag ar yr ynys. Mae'r rhan ddeheuol yn Normanaidd ei phensaernïaeth ac yn dyddio o'r 12g. Mae'r porth deheuol yn dyddio o'r 14g. Ailadeiladwyd y corff gogleddol yn y 19g ar seiliau o'r 16g. Y pentref heddiw Heddiw, mae'n un o'r pentrefi ar Lwybr Arfordirol Ynys Môn. Yn ôl Cyfrifiad 2001, poblogaeth y pentref oedd 599, gyda 79.8% yn siarad Cymraeg. Mae Traeth Aberffraw, gerllaw, yn draeth llydan, tywodlyd a deniadol, gyda golygfa dda dros Eryri. Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a Hen bont Aberffraw ganlyn:[9][10][11] Cyfrifiad 2011 Poblogaeth cymuned Aberffraw (pob oed) (620) 100% Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberffraw) (409) 67.5% :Y ganran drwy Gymru 19% Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberffraw) (438) 70.6% :Y ganran drwy Gymru 73% Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Aberffraw) (132) 44.3% :Y ganran drwy Gymru 67.1% Daearyddiaeth Tarddiad Afon Ffraw yw Llyn Coron, tua milltir a hanner i'r gogledd-ddwyrain, ac sy'n rhedeg heibio'r pentref, lle ceir pont fwaog a godwyd yn 1731 yn ei chroesi. Bellach mae pont ddiweddarach yn cludo'r A4080 dros yr afon. Mae'r pentref wedi ei leoli ar dir gwastad, tywodlyd braidd, ar lan ogleddol Afon Ffraw. I'r de o'r afon ceir Tywyn Aberffraw. Yr unig adeilad o ddiddordeb heddiw, ar wahân i'r hen bont, yw Eglwys Beuno. Enwogion Am y tywysogion a gysylltir ag Aberffraw, gweler Teyrnas Gwynedd. William John Griffith (1875 - 1931), awdur straeon byrion am ardal y Berffro. Atyniadau eraill Tyddyn "Tyn Towyn" ger Porth Nobla; 18fed ganrif. Nid nepell o Aberffraw mae Barclodiad y Gawres, carnedd gellog (neu garnedd siambr) gyn-hanesyddol hynod bwysig, ac Eglwys Sant Cwyfan ar Ynys Cribinau sydd wedi ei lleoli mewn llecyn anghyffredin iawn. Cyfeiriadau 1. "Aberffraw Anglesey Wales" (https://www.aberffraw.wales/historyabout.html). www.aberffraw.wales. Cyrchwyd 2020-09-25. 2. "The Story of Branwen, the Second Tale of the Mabinogi" (https://www.sjsu.edu/faculty/watkins/ mabinogi2.htm). www.sjsu.edu. Cyrchwyd 2020-09-25. 3. Davies, John. (2007). Hanes cymru (https://www.worldcat.org/oclc/153576256). [Place of publication not identified]: Penguin Books Ltd. tt. 7, 50. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256 (https://www.worldcat.org/oclc/153576256). 4. "Aberffraw Anglesey Wales" (https://www.aberffraw.wales/historyabout.html). www.aberffraw.wales. Cyrchwyd 2020-09-25. 5. "Aberffraw: The Royal Court" (http://www.red-dragon-wales.com/PlacesofIntrest/Aberffraw.htm). www.red-dragon-wales.com. Cyrchwyd 2020-09-25. 6. "Aberffraw llys and motte (The Gatehouse Record)" (http://www.gatehouse-gazetteer.info/Welsh sites/966.html). www.gatehouse-gazetteer.info. Cyrchwyd 2020-09-25. 7. "ABERFFRAW, EXCAVATED FEATURES, REJECTED ROMAN FORT AND SUGGESTED LLYS SITE | Coflein" (https://coflein.gov.uk/en/site/401126/details/aberffraw-excavated-features -rejected-roman-fort-and-suggested-llys-site). coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2020-09-25. 8. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (https://www.worldcat.org/oclc/213108835). Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. t. 7. ISBN 978-0- 7083-1954-3. OCLC 213108835 (https://www.worldcat.org/oclc/213108835). 9. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru" (http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/yst adegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales- --welsh.html). Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013. 10. Canran y diwaith drwy Gymru (http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/94179-cyfrifiad-nifer oedd-y-siaradwyr-cymraeg-wedi-disgyn); Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013 11. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol (http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/94179-cyfrif iad-niferoedd-y-siaradwyr-cymraeg-wedi-disgyn); Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013. Gweler hefyd Teisen 'Berffro Teyrnas Gwynedd Trefi a phentrefi Ynys Môn Aberffraw · Amlwch · Benllech · Bethel · Biwmares · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Caergybi · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangefni · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marianglas · Moelfre · Nebo · Niwbwrch · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthaethwy · Porth Llechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Aberffraw&oldid=10780579" Newidiwyd y dudalen hon ddiwethaf ar 4 Hydref 2020, am 08:39. Mae testun y dudalen ar gael dan drwydded Creative Commons Attribution-ShareAlike; gall fod telerau ychwanegol perthnasol. Gweler Telerau Defnyddio'r Drwydded am fanylion pellach..

View Full Text

Details

  • File Type
    pdf
  • Upload Time
    -
  • Content Languages
    English
  • Upload User
    Anonymous/Not logged-in
  • File Pages
    4 Page
  • File Size
    -

Download

Channel Download Status
Express Download Enable

Copyright

We respect the copyrights and intellectual property rights of all users. All uploaded documents are either original works of the uploader or authorized works of the rightful owners.

  • Not to be reproduced or distributed without explicit permission.
  • Not used for commercial purposes outside of approved use cases.
  • Not used to infringe on the rights of the original creators.
  • If you believe any content infringes your copyright, please contact us immediately.

Support

For help with questions, suggestions, or problems, please contact us