COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

ADRODDIAD A CHYNIGION YR AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL

CYNGOR DINAS A SIR CAERDYDD

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL AR GYFER DINAS a SIR CAERDYDD

ADRODDIAD A CHYNIGION

1. CYFLWYNIAD

2. CRYNODEB O’R CYNIGION

3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

4. CYNIGION DRAFFT

5. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

6. ASESIAD

7. CYNIGION

8. DIOLCHIADAU

9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

ATODIAD 1 GEIRFA O DERMAU ATODIAD 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR ATODIAD 3 AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR ATODIAD 4 CYFARWYDDYD Y GWEINIDOG A LLYTHYR YCHWANEGOL ATODIAD 5 CRYNODEB O’R CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I GYNIGION DRAFFT

Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru Tŷ Caradog 1-6 Plas Sant Andreas CAERDYDD CF10 3BE Rhif Ffôn: (029) 2039 5031 Rhif Ffacs: (029) 2039 5250 E-bost: [email protected] www.cflll-cymru.gov.uk

RHAGAIR

Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys ein Cynigion Terfynol ar gyfer Cyngor Dinas a Sir Caerdydd.

Ym mis Ionawr 2009, gofynnodd y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Dr Brian Gibbons i’r Comisiwn adolygu’r trefniadau etholiadol ym mhob prif awdurdod lleol yng Nghymru. Dywedodd Dr Gibbons: “Mae cynnal arolygon o’r trefniadau etholiadol ym mhob un o Gynghorau Cymru yn rhan o gylch gwaith y Comisiwn. Y nod yw ceisio sicrhau cysondeb o ran nifer y cynghorwyr o’i gymharu â maint y boblogaeth. Nid yw’n ymwneud â llywodraeth leol yn cael ei had- drefnu. Ers cynnal yr arolygon diwethaf, mae cymunedau newydd wedi cael eu creu mewn rhai ardaloedd ac mae’r boblogaeth wedi symud mewn mannau eraill. O ganlyniad mae anghydbwysedd erbyn hyn mewn rhai ardaloedd o ran nifer yr etholwyr y mae cynghorwyr yn eu cynrychioli. Bydd y Comisiwn yn adolygu cyfanswm y cynghorwyr ym mhob cyngor; nifer y cynghorwyr sy’n cynrychioli pob adran etholiadol ac enw a ffin pob adran. Hyd y gellir, rwyf am wneud y drefn yn decach, er mwyn i gynghorwyr, at ei gilydd, gynrychioli’r un faint o bobl.” [13 Ionawr 2009].

Nodir y mater o degwch yn glir yn y ddeddfwriaeth ac mae wedi bod yn brif egwyddor ar gyfer ein gwaith. Nid yw’r sefyllfa sy’n bodoli d lle mae cynghorydd o un rhan o’r Fwrdeistref Sirol yn cynrychioli nifer fechan o etholwyr, tra gall cynghorydd arall gynrychioli llawer, llawer mwy, yn deg i etholwyr. Yn ymarferol, mae’n golygu bod gan rai ardaloedd fantais annheg dros eraill o ran penderfyniadau a wneir yn siambr y cyngor.

Nid hawdd yw unioni hyn o ystyried y cyfyngiadau y mae’n rhaid i'r Comisiwn gadw atynt wrth weithredu. Ni allwn symud llinellau ar y map yn unig; mae’n rhaid i ni gadw at y “sylfeini” presennol, sef Ardaloedd Cymunedol a Wardiau Cymunedol sy’n cwmpasu Cymru gyfan. Ambell waith, nid yw’r rhain yn adlewyrchu patrymau cyfredol bywyd cymunedol yng Nghymru ond, pan ddigwydd hyn, ni allwn dderbyn awgrymiadau sy’n torri ar draws y ffiniau hyn. Mae hyn yn rhwystredig i’r ymatebwyr a’r Comisiwn fel ei gilydd.

Mae'n ofynnol i ni edrych at y dyfodol hefyd ac rydym wedi gofyn i’r cyngor rhoi amcangyfrif i ni o nifer yr etholwyr ymhen 5 mlynedd. Ar y gorau, byddai hyn yn heriol ond, yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae’n arbennig o anodd.

Pan gyhoeddwyd rhai o’n hadroddiadau cynigion drafft cyntaf, bu rhywfaint o bryder ein bod yn symud i ffwrdd o’r egwyddor o gael un cynghorydd ar gyfer un adran etholiadol i awgrymu gwneud mwy o ddefnydd o adrannau aml-aelod. Mae’r Rheolau rydym yn gweithredu ynddynt yn rhagweld y bydd pob adran etholiadol yn cael ei chynrychioli gan un cynghorydd; gellir galw hwn y “safle rhagosodedig”. Fodd bynnag, gallwn symud o’r safle hwn am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys ein bod wedi gweld mai dyma’r ffordd orau i sicrhau bod etholwyr yn cael eu cynrychioli’n i’r un graddau.

Wrth baratoi’n cynigion, rydym wedi ceisio ystyried cysylltiadau lleol a’r rhai sydd am gadw’r ffiniau presennol. Rydym wedi ystyried yn ofalus bob cynrychiolaeth a dderbyniwyd gennym. Fodd bynnag, bu’n rhaid pwyso a mesur y materion a’r cynrychiolaethau hyn yn

- 1 -

erbyn yr holl ffactorau eraill y mae’n rhaid i ni eu hystyried a’r cyfyngiadau a nodir uchod. Yn benodol, y gofyniad am gydraddoldeb etholiadol, hynny yw tegwch democrataidd i bob etholwr, yw’r prif ffactor cyfreithiol a dyma’r hyn rydym wedi ceisio ei wneud. Credwn y bydd mwy o degwch, ynghyd â chynigion eraill yn ein hadroddiad, yn arwain at lywodraeth leol sy’n effeithiol a chyfleus.

Wrth gloi, hoffwn ddiolch i Aelodau a swyddogion y Prif awdurdod am eu cymorth gyda’n gwaith, y cynghorau cymuned a thref am eu cyfraniad, ac yn olaf ond yn bwysicaf oll, y dinasyddion a gymerodd yr amser ac a aeth i’r drafferth i wneud sylwadau ac awgrymiadau.

Paul Wood Cadeirydd

- 2 -

Mr Carl Sargeant Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru

AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL DINAS A SIR CAERDYDD

ADRODDIAD A CHYNIGION

1. CYFLWYNIAD

1.1 Yn unol â chyfarwyddyd y Gweinidog a gyhoeddwyd ar 13 Ionawr 2009, yr ydym ni, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau'r arolwg o drefniadau etholiadol Dinas a Sir Caerdydd ac yn cyflwyno’n Cynigion Terfynol ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol. Ceir rhestr termau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn yn Atodiad 1. Yn 2009 roedd gan Ddinas a Sir Caerdydd etholaeth o 247,149. Ar hyn o bryd mae wedi’i rhannu’n 29 adran sy’n ethol 75 o gynghorwyr. Ar gyfartaledd, 1:3,295 yw’r gymhareb bresennol o aelodau i etholwyr yn y Ddinas a’r Sir. Nodir y trefniadau etholiadol presennol yn Atodiad 2.

2. CRYNODEB O’R CYNIGION

2.1 Mae ardal Dinas a Sir Caerdydd yn gymharol fechan ond mae ganddi boblogaeth niferus. Mae pob cynghorydd yn cynrychioli nifer uchel o etholwyr a disgwylir twf a datblygiad sylweddol yn yr ardal dros y blynyddoedd nesaf. Bydd y datblygiad a’r twf hwn yn nifer yr etholwyr yn effeithio’n sylweddol ar gynrychiolaeth ac mae’r cynnydd yr ydym yn ei argymell ym maint y cyngor yn adlewyrchu hynny.

2.2 Rydym yn cynnig cynnydd ym maint y cyngor o 75 i 76 aelod etholedig yn ogystal â newid i drefniant yr adrannau etholiadol fydd yn gwella’r cydbwysedd etholiadol ledled Dinas a Sir Caerdydd yn sylweddol. Cynigir y dylai pob cynghorydd yn y Ddinas a’r Sir gynrychioli 3,252 o etholwyr ar gyfartaledd a bydd pob un o’r adrannau etholiadol a gynigir o fewn 25% i’r cyfartaledd hwn a gynigir i’r sir. Mae hyn o gymharu â’r trefniadau cyfredol lle mae pob cynghorydd yn cynrychioli 3,295 o etholwyr ar gyfartaledd ac mae lefelau cynrychiolaeth adrannau etholiadol yn amrywio o fod 22% yn is na chyfartaledd cyfredol y cyngor, i fod 102% yn uwch na’r cyfartaledd sirol.

3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

3.1 Yn unol ag Adran 57 Deddf Llywodraeth Leol 1972 (Deddf 1972) mae’n ddyletswydd ar y Comisiwn, ar gyfnodau nad ydynt yn llai na deng mlynedd a heb fod yn fwy na phymtheg mlynedd, i adolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer yr holl brif ardaloedd yng Nghymru at ddibenion ystyried a ddylid gwneud argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru i newid y trefniadau etholiadol hynny ai peidio.

3.2 Derbyniodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno adroddiad am yr arolwg o drefniadau etholiadol Dinas a Sir Caerdydd erbyn 30 Mehefin 2011.

- 3 -

Trefniadau Etholiadol

3.3 Diffinnir “trefniadau etholiadol” prif ardal yn adran 78 o Ddeddf 1972 fel:

i) cyfanswm y cynghorwyr i’w hethol i’r cyngor;

ii) nifer yr adrannau etholiadol a’u ffiniau;

iii) nifer y cynghorwyr i’w hethol ar gyfer pob adran etholiadol; ac

iv) enw unrhyw adran etholiadol.

Rheolau i gydymffurfio â hwy wrth ystyried trefniadau etholiadol

3.4 Yn unol ag adran 78, cyn belled ag y bo’n ymarferol rhesymol gwneud hynny, mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â’r rheolau a nodir yn Atodlen 11 i’r Ddeddf. Mae’n ofynnol, yn unol â’r rhain, i’r Comisiwn drefnu bod un aelod ar gyfer pob adran etholiadol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gall y Gweinidog roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn ystyried dymunoldeb darparu ar gyfer adrannau etholiadol aml-aelod ar gyfer yr holl brif ardal neu rannau ohoni.

3.5 Yn ôl y rheolau, mae’n ofynnol hefyd:

Ystyried unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn ystod y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl ystyried y trefniadau etholiadol:

i) yn ddarostyngedig i baragraff (ii), bydd nifer yr etholwyr llywodraeth leol yr un fath, neu mor agos â phosibl, ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal;

ii) lle bo un neu fwy o adrannau aml-aelod, bydd cymhareb etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr yr un fath, neu mor agos â phosibl, ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal (gan gynnwys unrhyw adran nad yw’n un aml-aelod);

iii) bydd pob ward gymunedol sydd â chyngor cymunedol (naill ai ar wahân neu’n gyffredin) yn gyfan gwbl y tu mewn i un adran etholiadol yn unig; a

iv) bydd unrhyw gymuned na rennir yn wardiau cymunedol yn gyfan gwbl y tu mewn i un adran etholiadol.

Wrth ystyried y trefniadau etholiadol, rhaid i ni ystyried (a) dymunoldeb pennu ffiniau sydd ac a fydd yn hawdd eu hadnabod; a (b) unrhyw gysylltiadau lleol a dorrir wrth lunio unrhyw ffin benodol.

Cyfarwyddiadau’r Gweinidog

3.6 Derbyniodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan y Gweinidog y dylai ystyried dymunoldeb adrannau etholiadol aml-aelod ym mhob cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

- 4 -

3.7 Derbyniodd y Comisiwn y cyfarwyddiadau canlynol gan y Gweinidog hefyd o ran cynnal yr arolwg:

(a) ystyrir bod angen lleiafswm o 30 cynghorydd er mwyn rheoli materion cyngor sir neu gyngor fwrdeistref sirol yn briodol;

(b) er mwyn lleihau’r risg o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn mynd yn afrosgo ac yn anodd ei reoli, fel arfer mae angen uchafswm o 75 cynghorydd i reoli materion cyngor sir neu gyngor fwrdeistref sirol yn briodol;

(c) ystyrir y dylid ceisio cael adrannau etholiadol lle nad yw’r gymhareb rhwng cynghorydd ac etholwyr yn is nag 1:1,750;

(ch) ystyrir na ddylid gwneud penderfyniadau i newid y drefn bresennol o adrannau etholiadol un aelod ac aml-aelod ond lle bo cynigion o’r fath ar gyfer newid yn cael eu cefnogi’n gyffredinol gan yr etholaeth cyn belled ag y gellir cael eu barn o ran cyflawni’r gofynion ymgynghori a nodir yn Adran 60 y Ddeddf; ac

(d) ystyrir bod y Comisiwn wrth gynnal arolygon yn unol â Rhan 4 o’r Ddeddf yn cydymffurfio â pharagraff 1A o Atodlen 11 o’r Ddeddf, hynny yw, y rheolau.

Ceir holl destun y cyfarwyddiadau yn Atodiad 4. Cadarnhawyd y Cyfarwyddiadau ymhellach mewn llythyr gan y Gweinidog ar 12 Mai 2009. Mae copi o’r llythyr hwn yn dilyn y Cyfarwyddiadau yn Atodiad 4.

Newidiadau llywodraeth leol

3.8 Ers yr arolwg diwethaf o drefniadau etholiadol, bu tri newid i ffiniau llywodraeth leol yng Nghaerdydd:

• Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd a Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg 2002. • Gorchymyn Caerdydd (Gogledd Llandaf, yr Eglwys Newydd, Llanisien, Llys- faen, Trelái a Sain Ffagan) 2003. • Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Cymunedau Hen Laneirwg, Rhymni a Trowbridge) 2009

Fe achosodd y gorchmynion hyn fân newidiadau i’r adrannau etholiadol perthnasol.

3.9 Yn unol â Gorchymyn yn 2009, newidiodd Cyngor Dinas a Sir Caerdydd enw Cymuned y Rhath i Benylan yn ogystal â newid enw Cymuned i’r Rhath.

Gweithdrefn

3.10 Mae Adran 60 Deddf 1972 yn nodi canllawiau gweithdrefnol i’w dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol ag Adran 60 Deddf 1972, ar 30 Tachwedd 2009, fe wnaethom ysgrifennu at Gyngor Dinas a Sir Caerdydd, yr holl gynghorau cymuned yn yr ardal, aelodau seneddol yr etholaethau lleol, a phartïon eraill â buddiant i roi gwybod

- 5 -

iddynt am ein bwriad i gynnal yr arolwg ac i ofyn am eu barn gychwynnol a rhoi copi o gyfarwyddiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r Comisiwn. Gwahoddwyd Cyngor y Ddinas a’r Sir i gyflwyno cynllun neu gynlluniau awgrymedig ar gyfer y trefniadau etholiadol newydd. Rhoddwyd cyhoeddusrwydd hefyd i’n bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau newydd lleol a gofynnwyd i Gyngor Dinas a Sir Caerdydd arddangos nifer o hysbysiadau cyhoeddus yn eu hardal. Trefnwyd hefyd fod copïau o’n llyfryn arweiniad ar arolygon etholiadol ar gael. Yn ogystal, gwnaethom gyflwyniad i gynghorwyr Dinas a chynghorwyr Cymuned gan esbonio proses yr arolwg.

4. CYNIGION DRAFFT

4.1 Cyn llunio ein cynigion drafft, cawsom gynrychiolaethau gan Gyngor Dinas a Sir Caerdydd; un cyngor cymuned; Jenny Willott AS a Jenny Randerson AC; chwe chynghorydd; a phum corff a phreswylydd â buddiant. Ystyriwyd y cynrychiolaethau hyn a chrynhowyd hwy yn ein Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 8 Mawrth 2010. Mae’r canlynol yn grynodeb o’n Cynigion Drafft.

Butetown

4.2 Mae adran etholiadol Butetown yn cynnwys Cymuned Butetown lle cynrychiolir 6,673 o etholwyr (rhagamcenir 6,971) gan un cynghorydd. Mae hyn 102% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol.

4.3 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft rydym yn cynnig cynnal adran etholiadol Butetown ond rydym am gynyddu lefel ei chynrychiolaeth i ddau gynghorydd. Drwy wneud hynny, byddai’r 6,673 (6,971) o etholwyr yn yr adran yn cael eu cynrychioli ar lefel o 3,337 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae hyn 1% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a gynigir. Rydym yn cyflwyno hwn fel cynnig. Butetown yw’r enw rydym yn ei roi i’r adran etholiadol am y tro.

Llandaf, Gogledd Llandaf

4.4 Mae adran etholiadol Llandaf yn cynnwys Cymuned Llandaf lle cynrychiolir 7,154 o etholwyr (rhagamcenir 7,473) gan ddau gynghorydd. Mae’r lefel hon o gynrychiolaeth yn gyfystyr â 3,577 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 9% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol Gogledd Llandaf yn cynnwys Cymuned Gogledd Llandaf lle cynrychiolir 5,572 o etholwyr (rhagamcenir 5,821) gan ddau gynghorydd yn ôl cymhareb o 1:2,786, sydd 15% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol.

4.5 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, rydym yn cynnig uno cymunedau Llandaf a Gogledd Llandaf i greu un adran etholiadol gyda 12,726 (rhagamcenir 13,294) o etholwyr. Pe byddai pedwar cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai’r lefel hon o gynrychiolaeth yn gyfystyr â 3,182 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 3% yn is na’r cyfartaledd sirol a gynigir. Amlygwyd bod yr adrannau drws nesaf i’w gilydd a bod rhwydwaith o ffyrdd yn eu cysylltu yn yr ardal sydd wedi’i datblygu. Rydym yn cyflwyno hwn fel cynnig. Llandaf yw’r enw rydym yn ei roi i’r adran etholiadol am y tro.

- 6 -

Llanrhymni, Tredelerch

4.6 Mae adran etholiadol Llanrhymni yn cynnwys Cymuned Llanrhymni lle cynrychiolir cyfanswm o 7,976 o etholwyr (rhagamcenir 8,332) gan dri chynghorydd. Mae’r lefel hon o gynrychiolaeth yn gyfystyr â 2,659 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 19% yn is na’r cyfartaledd sirol ar hyn o bryd. Mae adran etholiadol Rhymni yn cynnwys Cymuned Rhymni lle cynrychiolir cyfanswm o 6,444 o etholwyr (rhagamcenir 6,731) gan ddau gynghorydd. Mae’r lefel hon o gynrychiolaeth yn gyfystyr â 3,222 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 2% yn is na’r gymhareb sirol bresennol ar gyfartaledd.

4.7 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, rydym yn cynnig uno’r ddwy adran etholiadol bresennol i greu adran etholiadol newydd gyda 14,420 (rhagamcenir 15,063) o etholwyr. Pe byddai pedwar cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai lefel y gynrychiolaeth yn gyfystyr â 3,605 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 9% yn uwch na’r gymhareb sirol a gynigir. Amlygwyd bod y ddwy ardal yn rhannu llawer o gysylltiadau, cyfleusterau ac amwynderau yn yr un ardal sydd wedi’i datblygu. Rydym yn cyflwyno hwn fel cynnig. Llanrhymni yw’r enw rydym yn ei roi i’r adran etholiadol am y tro.

Pentyrch, , Creigiau/Sain Ffagan

4.8 Mae adran etholiadol Radyr yn cynnwys Cymuned Radyr lle cynrychiolir 4,625 o etholwyr (rhagamcenir 4,829) gan un cynghorydd yn ôl cymhareb o 1:4,625, sydd 40% yn uwch na’r cyfartaledd sirol . Mae adran etholiadol yn cynnwys wardiau Gwaelod-y-Garth 887 (rhagamcenir 926) a Phentyrch 1,847 (1,929) yng Nghymuned Pentyrch. Mae un cynghorydd yn cynrychioli cyfanswm o 1,707 o etholwyr, sydd 34% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol Creigiau/Sain Ffagan yn cynnwys ward Creigiau 2,119 (rhagamcenir 2,213) yng Nghymuned Pentyrch, a Chymuned Sain Ffagan 1,816 (rhagamcenir 1,896) lle cynrychiolir cyfanswm o 3,935 o etholwyr i gyd gan un cynghorydd, sydd 19% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol.

4.9 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, rydym yn cynnig uno Cymuned Pentyrch (gan gynnwys ward Creigiau) a Chymuned Radyr i greu adran etholiadol newydd gyda 9,478 o etholwyr (rhagamcenir 9,897). Pe byddai tri chynghorydd yn eu cynrychioli, byddai lefel y gynrychiolaeth yn gyfystyr â 3,159 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 4% yn is na’r cyfartaledd sirol a gynigir. Rydym yn cyflwyno hwn fel cynnig. Pentyrch yw’r enw rydym yn ei roi i’r adran etholiadol am y tro.

Y Tyllgoed, Creigiau a Sain Ffagan

4.10 Mae adran etholiadol Y Tyllgoed yn cynnwys Cymuned y Tyllgoed lle cynrychiolir 9,216 o etholwyr (rhagamcenir 9,627) gan dri chynghorydd yn ôl cymhareb o 1:3,072, sydd 7% yn is na’r cyfartaledd sirol. Mae adran etholiadol gyfredol Creigiau a Sain Ffagan yn cynnwys Cymuned Sain Ffagan sydd â 1,816 o etholwyr (rhagamcenir 1,896) a ward Creigiau sydd â 2,119 o etholwyr (rhagamcenir 2,213) yng Nghymuned Pentyrch. Mae’r lefel hon o gynrychiolaeth yn gyfystyr 3,935 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 19% yn uwch na’r cyfartaledd sirol.

- 7 -

4.11 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft rydym yn cynnig uno cymunedau’r Tyllgoed a Sain Ffagan i greu adran etholiadol newydd gyda 11,032 o etholwyr (rhagamcenir 11,523). Pe byddai tri chynghorydd yn eu cynrychioli, byddai lefel y gynrychiolaeth yn gyfystyr â 3,677 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 14% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a gynigir. Amlygwyd bod y cymunedau hyn drws nesaf i’w gilydd a bod cyfathrebu da yn bosibl rhyngddynt ar hyd St Fagan’s Road a Road yn ogystal â ffyrdd eraill sy’n gysylltiedig â’r rhain. Byddai’r cyfuniad hwn yn golygu y byddai un cynghorydd yn llai yn cynrychioli’r ardal ond byddai hyn yn gwella’r cydbwysedd etholiadol. Rydym yn cyflwyno hwn fel cynnig. Gorllewin Caerdydd yw’r enw rydym yn ei roi i’r adran etholiadol am y tro.

Pentwyn

4.12 Mae adran etholiadol yn cynnwys Cymuned Pentwyn lle cynrychiolir 10,294 o etholwyr (rhagamcenir 10,754) gan bedwar cynghorydd. Mae’r lefel hon o gynrychiolaeth yn gyfystyr â 2,574 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 22% yn is na’r cyfartaledd sirol.

4.13 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, rydym yn cynnig gostwng lefel y gynrychiolaeth ym Mhentwyn o bedwar cynghorydd i dri. Byddai hynny’n creu adran etholiadol gyda 10,294 o etholwyr (rhagamcenir 10,754). Pe byddai tri chynghorydd yn eu cynrychioli, byddai’r lefel hon o gynrychiolaeth yn gyfystyr â 3,432 o etholwyr fesul pob cynghorydd, sydd 4% yn is na’r cyfartaledd sirol a gynigir.

Y Rhath

4.14 Mae Dinas a Sir Caerdydd wedi paratoi gorchymyn i newid enw Cymuned y Rhath i Benylan. Er nad ydym yn cyflwyno unrhyw gynigion i newid y ffiniau na nifer y cynghorwyr sy’n cynrychioli adran etholiadol bresennol y Rhath, rydym yn cynnig newid enw’r adran etholiadol o’r Rhath i Benylan er mwyn osgoi dryswch.

Plasnewydd

4.15 Mae Dinas a Sir Caerdydd wedi paratoi gorchymyn i newid enw Cymuned Plasnewydd i’r Rhath. Er nad ydym yn cyflwyno unrhyw gynigion i newid y ffiniau na nifer y cynghorwyr sy’n cynrychioli adran etholiadol bresennol y Rhath, rydym yn cynnig newid enw’r adran etholiadol o Blasnewydd i’r Rhath er mwyn osgoi dryswch.

Crynodeb o’r cynigion

4.16 Mae ein Cynigion Drafft yn argymell cyngor sydd â 75 aelod a 25 adran etholiadol. Rydym o’r farn, ar ôl ystyried y cynrychiolaethau, bod y trefniadau hyn yn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus a’u bod yn bodloni mewn egwyddor y cyfarwyddiadau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

4.17 Anfonwyd copïau o’r Cynigion Drafft i’r holl gynghorau, sefydliadau ac unigolion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 4.1 i geisio eu barn. Anfonwyd copi hefyd at unrhyw un oedd wedi cyflwyno sylwadau cychwynnol. Trwy gyfrwng hysbysiad cyhoeddus, gwahoddwyd hefyd unrhyw sefydliad neu unigolyn â buddiant yn yr arolwg i

- 8 -

gyflwyno’u syniadau. Roedd copïau o’r Cynigion Drafft ar gael i’w harchwilio yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Caerdydd a swyddfeydd y Comisiwn.

5. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

5.1 Mewn ymateb i’n hadroddiad Cynigion Drafft, cawsom gynrychiolaethau gan y cynghorau tref a chymuned ganlynol: Cyngor Cymuned Llys-faen; Cyngor Cymuned Pentyrch; Cyngor Cymuned Radyr a Treforgan; Cyngor Cymuned Sain Ffagan.

5.2 Cawsom gynrychiolaethau hefyd gan y cynghorwyr sir canlynol: y Cynghorydd Gareth Aubrey - Llandaf; y Cynghorydd Rodney Berman – y Rhath; y Cynghorydd Delme Bowen - Creigiau a Sain Ffagan; y Cynghorydd Paul Chaundy - Pentwyn; y Cynghorydd Ralph Cook - Treganna; y Cynghorydd Kirsty Davies - Llandaf; y Cynghorydd Richard Jerrett - Plasnewydd; y Cynghorydd Heather Joyce - Llanrhymni; y Cynghorydd Rod McKerlich - Radyr; y Cynghorydd Derrick Morgan - Llanrhymni; y Cynghorydd Jacqueline Parry - Llanrhymni; y Cynghorydd Judith Woodman - Pentwyn.

5.3 Cawsom gynrychiolaethau hefyd gan y sefydliadau a’r unigolion canlynol: Cangen Butetown y Blaid Lafur; Democratiaid Rhyddfrydol Gorllewin Caerdydd; Cangen Etholaeth Gorllewin Caerdydd y Blaid Lafur; Cangen Gogledd Caerdydd y Blaid Lafur; Grŵp y Ceidwadwyr, Cyngor Sir Caerdydd; Cymdeithas Trigolion Danescourt; Cymdeithas Llandaf; Cymdeithas Trigolion Gogledd Llandaf; Cymdeithas Hanes Tredelerch a’r Cylch; a 10 o breswylwyr.

5.4 Ceir crynodeb o’r holl gynrychiolaethau hyn yn Atodiad 5.

6. ASESIAD

Maint y Cyngor

6.1 Ar hyn o bryd, mae’r cyngor sydd â 75 aelod o fewn y terfynau rhifiadol yng nghyfarwyddiadau’r Gweinidog. Y gymhareb bresennol rhwng cynghorwyr ac etholwyr ar gyfer y cyngor yw 1:1,395, sydd 88% yn uwch na’r gymhareb o 1,750 o etholwyr fesul cynghorydd (gweler y Gymhareb o ran cynghorwyr i etholwyr isod). Ar hyn o bryd, mae 24 o’r 29 adran etholiadol yn adrannau aml-aelod.

6.2 Rydym wedi adolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer Dinas a Sir Caerdydd yn sgil cyfarwyddiadau’r Gweinidog i’n harwain, ac rydym wedi ystyried y cynrychiolaethau a gyflwynwyd i ni. Yn ein trafodaethau, ystyriwyd y gymhareb o ran nifer yr etholwyr llywodraeth leol a nifer y cynghorwyr i’w hethol gyda’r nod o gynnig newidiadau er mwyn sicrhau bod nifer yr etholwyr llywodraeth leol yr un peth neu mor agos ag y bo modd, ym mhob adran yn y brif ardal. Edrychwyd ar yr adrannau aml-aelod presennol i weld a ddylem ni argymell creu adrannau un aelod. Rydym wedi ystyried maint a chymeriad yr awdurdod ac ystod eang o ffactorau eraill, gan gynnwys dwysedd y boblogaeth, y dopograffeg leol, cysylltiadau ffyrdd a chysylltiadau lleol.

6.3 Am y rhesymau a nodir isod, credwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus y byddai cael cyngor o 76 aelod i gynrychioli Cyngor Dinas a Sir Caerdydd yn briodol.

- 9 -

Golyga’r penderfyniad hwn ynghylch maint y cyngor y caiff 3,252 o etholwyr eu cynrychioli gan bob cynghorydd ar gyfartaledd. Rydym wedi ystyried cyfarwyddiadau’r Gweinidog sy’n ystyried ‘er mwyn lleihau’r risg o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn mynd yn afrosgo ac yn anodd ei reoli, fel arfer mae angen uchafswm o 75 cynghorydd i reoli materion cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn briodol’. Yn ein Cynigion Drafft, ystyriwyd cynllun o drefniadau etholiadol oedd yn parhau gyda 75 o gynghorwyr ac yn gwella cydbwysedd etholiadol yn sylweddol ledled yr ardal. Ar ôl ystyried y gwrthwynebiadau a gawsom i rai o’n cynigion, aethom ati i ystyried trefniadau etholiadol eraill. Daeth i’r amlwg i ni y byddai cael un cynghorydd yn ychwanegol yn rhoi trefniant o adrannau etholiadol a allai wella cydbwysedd etholiadol yn ogystal â mynd i’r afael â sawl un o’r pryderon a fynegwyd yn y cynrychiolaethau. Rydym o’r farn fod symud i ffwrdd o gyfarwyddyd y Gweinidog o ran uchafswm nifer y cynghorwyr yn briodol i Ddinas a Sir Caerdydd oherwydd y nifer uchel o etholwyr (34% yn uwch na’r ail uchaf, sef Abertawe), yr amrywiaeth eang mewn cydbwysedd etholiadol, a’r anhyblygrwydd cynhenid ym mhatrwm y cymunedau a’r wardiau cymunedol.

Cymhareb cynghorwyr i etholwyr

6.4 Mae cyfarwyddiadau’r Gweinidog yn cynnwys y canlynol yn 3.7 (a): "Ystyrir mai cyflawni adrannau etholiadol lle nad yw’r gymhareb rhwng cynghorwyr ac etholwyr yn is nag 1:1,750 y dylai’r nod fod." Mae’r Gweinidog wedi dynodi i’r Comisiwn fod hyn yn golygu na ddylai nifer yr etholwyr fesul cynghorydd ddisgyn yn is na 1,750 fel arfer, a dyma sut y mae’r Comisiwn wedi dehongli a defnyddio’r Cyfarwyddyd. Rydym yn cydnabod y darperir y cyfarwyddiadau fel arweiniad ac ni ddylid eu defnyddio heb ystyried amgylchiadau arbennig yr ardal benodol: mae’n bosibl y bydd amgylchiadau yn ymwneud â thopograffeg neu boblogaeth ac ati yn yr ardal, lle ystyrir bod adran etholiadol â llai na 1,750 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan un cynghorydd yn briodol. Esboniwyd hyn yn y llythyr gan y Gweinidog (Atodiad 4) a ddywedodd: “Golyga hyn fod y gymhareb yn parhau fel y nod i geisio ei chyflawni ac nid fel y nod i’w chyflawni ym mhob achos. Wrth wneud hynny, dylid talu sylw i gymunedau lleol yn cael eu cynrychiolaeth adnabyddadwy hyd yn oed pan na ellir cyflawni’r ffigur dangosol o 1,750 etholwyr/cynghorydd bob tro”. Yn absenoldeb amgylchiadau arbennig, byddwn yn ceisio cynnig trefniadau etholiadol lle na fydd lefel y gynrychiolaeth yn disgyn yn is na 1,750 o etholwyr fesul cynghorydd. Ni chawn ein cyfyngu yn yr un modd gan y cyfarwyddyd hwn rhag cynnig trefn etholiadol lle mae nifer yr etholwyr sydd i’w cynrychioli gan bob cynghorydd, mewn achosion priodol, yn uwch na 1,750. Drwy gydol yr arolwg hwn, byddwn yn cadw’r gymhareb o 1:1,750 mewn cof ac ni fyddwn fel arfer yn cyfeirio ati’n benodol ym mhob achos.

Nifer yr Etholwyr

6.5 Cyngor Dinas a Sir Caerdydd a roddodd i ni’r ffigurau sy’n nodi’r etholwyr yn 2009 a welir yn Atodiad 2. Nid oedd Cyngor y Ddinas a’r Sir yn gallu rhoi amcangyfrifon o’r etholaethau fesul ardal gymunedol. Felly, rydym wedi paratoi amcangyfrifon o’r etholaethau ar gyfer 2014 gan ddefnyddio rhagamcanion Llywodraeth Cynulliad Cymru a’u dosbarthu ar gyfer cymunedau gyda chytundeb Cyngor Dinas a Sir Caerdydd.

- 10 -

Adrannau Etholiadol

6.6 Rydym wedi ystyried ffiniau, cymhareb a nifer yr etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr i’w hethol yn adrannau etholiadol presennol Adamsdown, Butetown, Caerau, Treganna, , , Trelái, , Grangetown, y Mynydd Bychan, Llys-faen, Llandaf, Gogledd Llandaf, , Rhiwbina, Riverside, y Rhath, Tredelerch, y Sblot, Trowbridge a’r Eglwys Newydd a chynigiwn y dylai’r trefniadau presennol barhau. Ystyriwyd newidiadau i’r adrannau etholiadol sy’n weddill. Ceir manylion o’r trefniadau etholiadol cyfredol ar gyfer yr ardal yn Atodiad 2.

6.7 Yn yr adran ganlynol, nodir y cynnig ar gyfer yr Adrannau Etholiadol newydd yn yr un modd. Mae rhan gyntaf y paragraff agoriadol yn nodi’r cyd-destun hanesyddol trwy restru’r holl Adrannau Etholiadol neu’r rhannau cydrannol ohonynt a ddefnyddiwyd i ffurfio pob Adran Etholiadol arfaethedig. Disgrifir y cydrannau hyn - y Cymunedau a’r Wardiau Cymunedol - fel Cymuned gyflawn ynghyd â nifer yr etholwyr cyfredol ac arfaethedig pe câi ei ddefnyddio felly. Os rhan yn unig a ddefnyddir mewn Cymuned - h.y. Ward Gymunedol - yna enw’r Ward Gymunedol, nifer ei hetholwyr ac enw ei Chymuned a nodir. Yna bydd rhan olaf y paragraff hwnnw yn rhestru rhannau cydrannol yr Adran Etholiadol arfaethedig yn yr un modd - naill ai fel Cymunedau cyfan gyda nifer yr etholwyr cyfredol a’r nifer a ragamcenir, neu os yw’n Ward Gymunedol a enwir, nifer yr etholwyr ac enw ei Chymuned - fel o’r blaen. Defnyddir y dull hwn o ddisgrifio cyfansoddiad Adrannau Etholiadol hefyd yn y tablau a geir yn Atodiad 2 ac Atodiad 3.

Butetown

6.8 Mae adran etholiadol Butetown yn cynnwys Cymuned Butetown lle cynrychiolir 6,673 o etholwyr (rhagamcenir 6,971) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Ym mharagraffau 4.2 i 4.3 yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, rydym yn cynnig parhau ag adran etholiadol Butetown fel y disgrifir uchod ond rydym yn cynnig cynyddu ei chynrychiolaeth i ddau gynghorydd.

6.9 Ystyriwyd gennym gynrychiolaethau gan y Cynghorydd Joyce (Llanrhymni) a’r Cynghorydd Jerrett (Plasnewydd) oedd yn cymeradwyo’r angen am gynghorydd ychwanegol yn Butetown. Roedd Cangen Butetown y Blaid Lafur hefyd o blaid cynyddu’r gynrychiolaeth.

6.10 Drwy gynyddu lefel y gynrychiolaeth i ddau gynghorydd yn Butetown, byddai’r 6,673 (6,971) o etholwyr yn yr adran yn cael eu cynrychioli ar lefel o 3,337 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae hyn 3% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a gynigir, sef 3,252 fesul cynghorydd. Rydym yn cyflwyno hwn fel cynnig. Butetown yw’r enw rydym yn ei roi i’r adran etholiadol am y tro.

Llandaf a Gogledd Llandaf

6.11 Mae adran etholiadol Llandaf yn cynnwys Cymuned Llandaf a gynrychiolir gan ddau gynghorydd. Mae’r lefel hon o gynrychiolaeth yn gyfystyr â 3,577 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 9% yn uwch na’r cyfartaledd sirol. Mae adran etholiadol Gogledd Llandaf yn cynnwys Cymuned Gogledd Llandaf a gynrychiolir gan ddau gynghorydd. Mae’r lefel hon o gynrychiolaeth yn gyfystyr â 2,786 o etholwyr fesul

- 11 -

cynghorydd, sydd 15% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 3,295 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae ein Cynigion Drafft ar gyfer yr ardal (fel y nodir ym mharagraffau 4.4 i 4.5 uchod) yn cynnig uno Cymunedau Llandaf a Gogledd Llandaf i greu un adran etholiadol newydd gydag etholaeth o 12,726 (rhagamcenir 13,294) a gynrychiolir gan bedwar cynghorydd. Byddai’r lefel hon o gynrychiolaeth yn gyfystyr â 3,182 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 3% yn is na’r cyfartaledd sirol a gynigir.

6.12 Rydym wedi derbyn sawl cynrychiolaeth yn gwrthwynebu’r cynnig hwn. Dadleuodd y cynrychiolaethau nad oedd unrhyw ryngweithio diwylliannol, cymdeithasol neu wleidyddol rhwng y ddwy gymuned ac mai prin yw’r ffyrdd sy’n eu cysylltu. Rydym o’r farn bod y dystiolaeth yn y cynrychiolaethau hyn yn awgrymu nad oes cysylltiadau cymunedol rhwng Cymunedau Llandaf a Gogledd Llandaf. Felly, ni fyddai dod â’r ddwy ardal ynghyd mewn adran etholiadol yn ddymunol er mwyn darparu llywodraeth leol effeithiol a hwylus.

6.13 Rydym wedi archwilio nifer o drefniadau eraill posibl ar gyfer y ddwy ardal hyn ond nid oeddem yn gallu cynnig trefniadau a fyddai’n gwella lefel cydbwysedd etholiadol y trefniadau presennol yn sylweddol. Nodwyd y byddai cadw adran etholiadol bresennol Llandaf, lle cynrychiolir cyfanswm o 7,154 etholwyr (rhagamcenir 7,473) gan ddau gynghorydd, yn rhoi lefel o gynrychiolaeth a fyddai’n gyfystyr â 3,577 fesul cynghorydd, sydd 10% yn uwch na’r cyfartaledd sirol o a gynigir sef 3,252 fesul cynghorydd. Byddai cadw adran etholiadol bresennol Gogledd Llandaf, lle cynrychiolir cyfanswm o 5,572 o etholwyr (rhagamcenir 5,821) yn rhoi lefel o gynrychiolaeth a fyddai’n gyfystyr â 2,786 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 14% yn is na’r cyfartaledd sirol o a gynigir sef 3,252 fesul cynghorydd. Rydym felly yn cynnig y dylid cadw adrannau etholiadol presennol Llandaf a Gogledd Llandaf.

Llanrhymni, Tredelerch and Pontprennau and Hen Laneirwg

6.14 Mae adran etholiadol Llanrhymni yn cynnwys Cymuned Llanrhymni a gynrychiolir gan dri chynghorydd. Mae’r lefel hon o gynrychiolaeth yn gyfystyr â 2,659 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 19% yn is na’r cyfartaledd sirol sef 3,295 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol Tredelerch yn cynnwys Cymuned Tredelerch a gynrychiolir gan ddau gynghorydd. Mae’r lefel hon o gynrychiolaeth yn gyfystyr â 3,222 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 2% yn is na’r cyfartaledd sirol sef 3,295 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae ein Cynigion Drafft ar gyfer yr ardal hon (fel y nodir ym mharagraffau 4.6 to 4.7 above) yn cynnig uno’r ddwy adran etholiadol hyn i greu adran etholiadol newydd. Byddai ganddi 14,420 o etholwyr (rhagamcenir 15,063) a gynrychiolir gan bedwar cynghorydd. Byddai’r lefel hon o gynrychiolaeth yn gyfystyr â 3,605 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 9% yn uwch na chyfartaledd sirol y cynigion drafft.

6.15 Rydym wedi derbyn sawl cynrychiolaeth yn gwrthwynebu’r cynnig hwn. Yn ei gynrychiolaeth, roedd y Cynghorydd Joyce (Llanrhymni) o’r farn na fyddai uno Tredelerch a Llanrhymni i greu adran etholiadol fawr o fantais. Roedd y Cynghorydd Walker (Llys-faen) o’r farn bod Tredelerch a Llanrhymni yn gymunedau gwahanol na ddylai gael eu huno. Roedd Grŵp y Ceidwadwyr yng Nghyngor Dinas a Sir Caerdydd o’r un farn. Nodwyd hefyd y cynrychiolaethau ynghylch yr enw arfaethedig a’r ffafriaeth tuag at ddefnyddio ‘Tredelerch a Llanrhymni’. Ar ôl darllen

- 12 -

y cynrychiolaethau, aethom ati i ailedrych ar drefniadau etholiadol yr ardal ac ystyrIed cadw’r trefniadau presennol fel yr awgrymwyd.

6.16 Byddai cadw adran etholiadol bresennol Tredelerch lle cynrychiolir 6,444 o etholwyr (rhagamcenir 6,731) gan ddau gynghorydd yn rhoi lefel o gynrychiolaeth a fyddai’n gyfystyr â 3,222 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan bob cynghorydd, sydd 1% o dan y cyfartaledd sirol a gynigir sef 3,252 o etholwyr fesul cynghorydd. Byddai cadw adran etholiadol bresennol Llanrhymni lle cynrychiolir 7,976 o etholwyr (rhagamcenir 8,332) gan dri chynghorydd yn rhoi lefel o gynrychiolaeth a fyddai’n gyfystyr â 2,659 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan bob cynghorydd, sydd 18% o dan y cyfartaledd sirol a gynigir sef 3,252 o etholwyr fesul cynghorydd. Er bod lefel y gynrychiolaeth yn adran etholiadol bresennol Tredelerch yn briodol yn ein barn ni, rydym o’r farn nad yw lefel sylweddol uchel y gynrychiolaeth yn adran etholiadol Llanrhymni yn briodol i’r ardal. Felly, rydym wedi ystyried trefniadau amgen ar gyfer Cymuned Llanrhymni.

6.17 Nodwyd cynrychiolaeth y Cynghorydd Jerrett (Plasnewydd) a awgrymodd uno Llanrhymni a Hen Laneirwg mewn adran etholiadol gan ei fod yn teimlo bod cysylltiad agosach rhyngddynt a’u bod yn rhannu cymuned o fuddiant a chysylltiadau lleol. Mae Cymuned Hen Laneirwg ar hyn o bryd yn adran etholiadol Pontprennau a Hen Laneirwg. Mae adran etholiadol Pontprennau a Hen Laneirwg yn cynnwys Cymuned Pontprennau 5,061 o etholwyr (5,286) a Chymuned Hen Laneirwg 1,790 o etholwyr (rhagamcenir 1,869) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd. Mae’r lefel hon o gynrychiolaeth yn gyfystyr â 3,426 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan bob cynghorydd, sydd 4% yn is na’r cyfartaledd sirol sef 3,295 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.18 Drwy gyfuno Cymuned Llanrhymni a Chymuned Hen Laneirwg, byddai adran etholiadol yn cael ei chreu gyda chyfanswm o 9,766 o etholwyr (rhagamcenir 10,201). Pe byddai ganddi dri chynghorydd, byddai lefel ei chynrychiolaeth yn gyfystyr â 3,255 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd lai nag 1% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a gynigir sef 3,252 o etholwyr fesul cynghorydd. Rydym o’r farn fod hon yn lefel briodol o gynrychiolaeth i’r ardal ac rydym yn cyflwyno hwn fel cynnig. Rydym yn cynnig Llanrhymni a Hen Laneirwg fel enw i’r adran etholiadol a gynigir. Rydym hefyd yn cynnig cadw adran etholiadol Tredelerch fel yr ystyriwyd yn 6.16 uchod. Mae hyn yn gadael Cymuned Pontprennau y tu allan i adran etholiadol ac rydym yn mynd i’r afael â hyn yn 6.30 isod.

Creigiau a Sain Ffagan, Pentyrch a Radyr

6.19 Mae adran etholiadol Pentyrch yn cynnwys wardiau Gwaelod-y-Garth a Phentyrch yng Nghymuned Pentyrch lle cynrychiolir cyfanswm o 2,734 o etholwyr (rhagamcenir 2,855) gan un cynghorydd. Mae’r lefel hon o gynrychiolaeth yn gyfystyr â 2,734 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 17% yn is na’r cyfartaledd sirol sef 3,295 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol Radyr yn cynnwys Cymuned Radyr lle cynrychiolir 4,625 o etholwyr (rhagamcenir 4,829) gan un Cynghorydd. Mae’r lefel hon o gynrychiolaeth 40% yn uwch na’r cyfartaledd sirol sef 3,295 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft (fel y nodir ym mharagraffau 4.8 i 4.10), rydym yn cynnig uno Cymuned Pentyrch a Chymuned Radyr i greu adran etholiadol newydd lle cynrychiolir cyfanswm o 9,478 o etholwyr (rhagamcenir 9,897) gan dri chynghorydd.

- 13 -

6.20 Nodwyd y gwrthwynebiad i’r cynigion ar gyfer yr ardaloedd hyn gan y Cynghorydd Bowen (Creigiau a Sain Ffagan) a oedd o’r farn eu bod yn torri ar draws cymunedau naturiol. Gwrthwynebodd Cyngor Cymuned Pentyrch y cynigion ac awgrymodd drefniant amgen o greu adran etholiadol a fyddai’n cynnwys Cymunedau Pentyrch a Sain Ffagan. Gwrthwynebodd Cyngor Cymuned Sain Ffagan y cynigion hefyd gan fynegi y byddai’n well ganddynt barhau gyda’r drefn bresennol. Fodd bynnag, cafwyd awgrym ganddynt y byddai’n well ganddynt uno gyda Phentyrch a Radyr, neu Radyr ar ei ben ei hun, o gymharu â’r cynnig i’w huno â’r Tyllgoed. Roedd y Cynghorydd McKerlich (Radyr) hefyd yn erbyn y cynnig i greu adran etholiadol Pentyrch a Radyr a gofynnodd i ni ystyried y tai fydd yn cael eu hadeiladu yn Radyr yn y dyfodol. Nodwyd y gynrychiolaeth gan Gyngor Cymuned Radyr a Treforgan a oedd o blaid ein cynnig i greu adran etholiadol Pentyrch a Radyr. Ar ôl darllen y cynrychiolaethau, aethom ati i ailystyried trefniadau etholiadol yr ardal.

6.21 Drwy gyfuno Cymuned Pentyrch 4,853 o etholwyr (rhagamcenir 5,068) a Chymuned Sain Ffagan 1,816 o etholwyr (rhagamcenir 1,896) byddai adran etholiadol yn cael ei chreu gyda chyfanswm o 6,669 o etholwyr (rhagamcenir 6,964). Pe byddai dau gynghorydd yn eu cynrychioli, byddai’r lefel hon o gynrychiolaeth yn gyfystyr â 3,335 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 3% o dan y cyfartaledd sirol a gynigir sef 3,252 o etholwyr fesul cynghorydd. Rydym o’r farn y byddai’r trefniant hwn yn gwella cydbwysedd etholiadol yr ardal ac yn uno dwy ardal sydd â chysylltiadau cymunedol. Rydym felly’n cyflwyno’r trefniant hwn fel cynnig. Pentyrch a Sain Ffagan yw’r enw rydym yn ei roi i’r adran etholiadol arfaethedig hon. Mae’r cynnig hwn yn gadael Cymuned y Tyllgoed a Chymuned Radyr y tu allan i adrannau etholiadol. Rydym wedi ystyried Cymuned y Tyllgoed yn 6.22 isod a Chymuned Radyr yn 6.24 isod.

Y Tyllgoed

6.22 Mae adran etholiadol y Tyllgoed yn cynnwys Cymuned y Tyllgoed lle cynrychiolir 9,216 o etholwyr gan 3 chynghorydd. Mae’r lefel hon o gynrychiolaeth yn gyfystyr â 3,072 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 7% yn is na’r cyfartaledd sirol sef 3,295 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft (fel y nodir ym mharagraffau 4.11 i 4.12) rydym yn cynnig uno cymunedau’r Tyllgoed a Sain Ffagan to greu adran etholiadol lle cynrychiolir cyfanswm o 11,032 o etholwyr (rhagamcenir 11,523) gan dri chynghorydd.

6.23 Gwrthwynebwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd Bowen (Creigiau a Sain Ffagan), Cyngor Cymuned Pentyrch, Cyngor Cymuned Sain Ffagan, a Changen Gorllewin Caerdydd y Blaid Lafur. Ar ôl ystyried y cynrychiolaethau hyn, rydym wedi cynnig creu adran etholiadol Pentyrch a Sain Ffagan ym mharagraff 6.21. Mae hynny’n gadael Cymuned y Tyllgoed y tu allan i adran etholiadol. Pe byddai Cymuned y Tyllgoed yn creu adran etholiadol (fel ar hyn o bryd), byddai ganddi 9,216 o etholwyr. Pe byddai 3 chynghorydd yn eu cynrychioli, byddai lefel y gynrychiolaeth yn 3,072 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 6% o dan y cyfartaledd sirol a gynigir sef 3,252 o etholwyr fesul cynghorydd. Rydym o’r farn fod y lefel hon o gynrychiolaeth yn briodol i’r ardal ac rydym yn cynnig cadw adran etholiadol bresennol y Tyllgoed.

- 14 -

Radyr a’r Eglwys Newydd

6.24 Mae adran etholiadol yr Eglwys Newydd yn cynnwys Cymuned yr Eglwys Newydd a Chymuned Tongwynlais lle cynrychiolir cyfanswm o 12,707 o etholwyr (rhagamcenir 14,721) gan bedwar cynghorydd. Mae’r lefel hon o gynrychiolaeth yn gyfystyr â 3,177 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 4% yn is na’r cyfartaledd sirol sef 3,295 o etholwyr fesul cynghorydd. Nid oedd ein hadroddiad Cynigion Drafft yn cynnig unrhyw argymhellion i newid adran etholiadol yr Eglwys Newydd.

6.25 Mae ein cynnig i greu adran etholiadol Pentyrch a Sain Ffagan yn 6.21 uchod yn gadael Cymuned Radyr heb adran etholiadol. O dan y trefniadau presennol, mae Cymuned Radyr yn rhan o adran etholiadol lle cynrychiolir 4,625 o etholwyr (rhagamcenir 4,829) gan un cynghorydd. Mae’r lefel hon o gynrychiolaeth 40% yn uwch na’r cyfartaledd sirol sef 3,295 o etholwyr fesul cynghorydd. Rydym wedi nodi cynrychiolaeth gan y Cynghorydd McKerlich (Radyr) a ofynnodd i ni ystyried y tai fydd yn cael eu hadeiladu yn Radyr yn y dyfodol. Rydym wedi gwneud hyn drwy ystyried y ffigurau etholaethol a ragamcenir. Fodd bynnag, rydym o’r farn nad yw adran etholiadol Radyr yn haeddu cynghorydd ychwanegol, hyd yn oed ar sail y ffigurau a ragamcenir, oherwydd byddai lefel y gynrychiolaeth yn parhau i fod yn wahanol iawn i’r cyfartaledd sirol. Felly, rydym wedi ystyried trefniadau etholiadol amgen ar gyfer yr ardal.

6.26 Drwy gyfuno Cymuned Radyr a Chymuned Tongwynlais, byddai adran etholiadol yn cael ei chreu gyda chyfanswm o 6,011 o etholwyr (rhagamcenir 6,276). Pe byddai dau gynghorydd yn eu cynrychioli, byddai’r lefel hon o gynrychiolaeth yn gyfystyr â 3,006 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 8% o dan y cyfartaledd sirol a gynigir sef 3,252 o etholwyr fesul cynghorydd. Rydym o’r farn fod y trefniant hwn yn gwella cydbwysedd etholiadol yr ardal ac yn uno dwy ardal sydd â chysylltiadau cymunedol. Rydym felly’n cyflwyno hyn fel cynnig. Radyr a Thongwynlais yw’r enw rydym yn ei roi i’r adran etholiadol arfaethedig hon. Mae’r cynnig hwn yn gadael Cymuned yr Eglwys Newydd y tu allan i adran etholiadol.

6.27 Mae gan Gymuned yr Eglwys Newydd 11,321 o etholwyr (rhagamcenir 13,274). Pe byddai’r Eglwys Newydd yn adran etholiadol a gynrychiolir gan 4 cynghorydd, byddai’r lefel hon o gynrychiolaeth yn gyfystyr â 2,830 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 13% o dan y cyfartaledd sirol a gynigir sef 3,252 o etholwyr fesul cynghorydd. Os yw’r ffigurau a ragamcenir ar gyfer yr ardal yn cael eu hystyried, disgwylir i lefel y gynrychiolaeth wella i fod 3% yn is na’r cyfartaledd sirol erbyn 2014. Rydym o’r farn y byddai hon yn lefel briodol o gynrychiolaeth i’r ardal ac rydym felly’n cynnig adran etholiadol yr Eglwys Newydd.

Pentwyn a Phontprennau

6.28 Mae adran etholiadol Pentwyn yn cynnwys Cymuned Pentwyn lle cynrychiolir 10,295 o etholwyr (rhagamcenir 10,754) gan bedwar cynghorydd. Mae’r lefel hon o gynrychiolaeth yn gyfystyr â 2,574 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 22% yn is na’r cyfartaledd sirol sef 3,295 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft rydym yn cynnig gostwng y gynrychiolaeth ym Mhentwyn o bedwar cynghorydd i dri. Byddai hyn yn creu adran etholiadol gyda 10,294 o etholwyr (rhagamcenir 10,754) a gynrychiolir gan dri chynghorydd. Mae’r lefel hon o

- 15 -

gynrychiolaeth yn gyfystyr â 3,432 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 4% yn is na’r cyfartaledd sirol a gynigir.

6.29 Yn eu cynrychiolaethau, gwrthwynebodd y Cynghorydd Chaundy (Pentwyn) a’r Cynghorydd Woodman (Pentwyn) unrhyw ostyngiad mewn cynrychiolaeth yn yr ardal ar sail y posibilrwydd o gynnydd yn nifer yr etholwyr yn sgîl cynlluniau i adeiladu rhagor o dai. Rydym wedi ystyried y cynnydd yn nifer yr etholwyr sydd wedi’i ddarogan ar gyfer Pentwyn ac rydym wedi nodi mai 2,689 o etholwyr fesul cynghorydd fyddai lefel y gynrychiolaeth pe byddai’r pedwar cynghorydd yn cael eu cadw a bod hynny 18% yn is na’r cyfartaledd sirol sef 3,295 o etholwyr fesul cynghorydd. Er bod hyn yn well na lefel y gynrychiolaeth etholiadol ar hyn o bryd, nid yw’n welliant sylweddol ac ni fyddai’n rhoi lefel o gynrychiolaeth mor agos â’r cyfartaledd sirol ag y byddai’n cael ei gyflawni drwy ostwng nifer y cynghorwyr o 4 i 3. Fodd bynnag, rydym wedi nodi’r cynrychiolaethau ac wedi ystyried trefniant etholiadol amgen sy’n creu adran etholiadol sy’n cynnwys Cymuned Pentwyn ac ardal gyfagos. Mae ein cynigion ar gyfer adran etholiadol Llanrhymni a Hen Laneirwg yn 6.18 uchod yn gadael Cymuned Pontprennau y tu allan i ardal etholiadol. Gan fod Cymuned Pontprennau y drws nesaf a bod ffyrdd da yn ei chysylltu â Chymuned Pentwyn. Rydym wedi ystyried uno’r ddwy ardal hon i greu adran etholiadol.

6.30 Mae Pontprennau a Hen Laneirwg yn cynnwys Cymuned Pontprennau (5,061 o etholwyr, rhagamcenir 5,286) a Chymuned Hen Laneirwg (1,790 o etholwyr, rhagamcenir 1,869) a chynrychiolir cyfanswm o 6,851 o etholwyr (rhagamcenir 7,155) gan ddau gynghorydd. Mae’r lefel hon o gynrychiolaeth yn gyfystyr â 3,426 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 4% yn is na’r cyfartaledd sirol sef 3,295 o etholwyr fesul cynghorydd. Drwy gyfuno Cymuned Pentwyn a Chymuned Pontprennau byddai adran etholiadol yn cael ei chreu gyda chyfanswm o 15,356 o etholwyr (rhagamcenir 16,040). Pe byddai pedwar cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai’r lefel hon o gynrychiolaeth yn gyfystyr â 3,839 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 18% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a gynigir sef 3,252 o etholwyr fesul cynghorydd. Rydym yn cyflwyno hwn fel cynnig. Pentwyn a Phontprennau yw’r enw rydym yn ei roi i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Y Rhath

6.31 Mae Dinas a Sir Caerdydd wedi cyflwyno gorchymyn i newid enw Cymuned y Rhath i Benylan. Er nad ydym yn cyflwyno unrhyw gynigion i newid y ffiniau na nifer y cynghorwyr sy’n cynrychioli adran etholiadol bresennol y Rhath, rydym yn cynnig newid enw’r adran etholiadol o’r Rhath i Benylan er mwyn osgoi dryswch.

Plasnewydd

6.32 Mae Dinas a Sir Caerdydd wedi paratoi gorchymyn i newid enw Cymuned Plasnewydd i’r Rhath. Er nad ydym yn cyflwyno unrhyw gynigion i newid y ffiniau na nifer y cynghorwyr sy’n cynrychioli adran etholiadol bresennol y Rhath, rydym yn cynnig newid enw’r adran etholiadol o Blasnewydd i’r Rhath er mwyn osgoi dryswch.

- 16 -

Crynodeb o’r Trefniadau Arfaethedig

6.33 Mae’r trefniadau etholiadol arfaethedig (fel y dangosir yn Atodiad 3) yn rhoi lefel o gydraddoldeb sy’n amrywio o fod 14% yn is i fod 19% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 3,252 o etholwyr fesul cynghorydd (yn seiliedig ar y ffigurau etholiadol cyfredol). Mae’r lefelau cynrychiolaeth mewn saith o’r adrannau etholiadol dros 10% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 3,252 o etholwyr fesul cynghorydd. Drwy gymharu hynny â’r trefniadau etholiadol presennol (a ddangosir yn Atodiad 2) lle mae lefel y cydraddoldeb yn amrywio o fod 22% yn is i fod 102% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,252 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae’r lefelau cynrychiolaeth mewn dau ddeg wyth o adrannau etholiadol (97%) dros 25% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol cyfredol, sef 1,252 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae’r lefelau cynrychiolaeth mewn 1 (9%) o adrannau etholiadol rhwng 10% a 25% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol cyfredol, sef 1,252 o etholwyr fesul cynghorydd ac mae lefelau cynrychiolaeth y 7 (64%) adran etholiadol sy’n weddill yn llai na 10% yn uwch neu’n is cyfartaledd sirol cyfredol, sef 1,252 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.34 Wrth baratoi cynllun o drefniadau etholiadol, mae angen ystyried sawl mater yn y ddeddfwriaeth ac yng nghyfarwyddyd y Gweinidog. Yn aml, nid yw’n bosibl datrys pob un o’r materion hyn sydd weithiau’n gwrthdaro oherwydd bod angen defnyddio cymunedau a wardiau cymunedol cyfredol fel sylfeini adrannau etholiadol a’r lefel amrywiol o gynrychiolaeth yn yr ardaloedd hyn ar hyn o bryd. Yn ein cynllun arfaethedig, rydym wedi rhoi pwyslais ar wella cydbwysedd etholiadol, symud tuag at 1,750 o etholwyr fesul cynghorydd yn ogystal â chadw adrannau etholiadol un aelod lle bo’n bosibl. Rydym yn cydnabod ei bod yn anochel y byddai creu adrannau etholiadol sy’n symud i ffwrdd o’r patrwm presennol yn amharu rhywfaint ar ‘gysylltiadau’ rhwng cymunedau ac y gallent wahanu ardaloedd cyngor cymuned mewn ffyrdd gwahanol. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr adrannau etholiadol newydd yn adlewyrchu cyfuniadau rhesymegol o gymunedau a wardiau cymunedol cyfredol. Rydym wedi edrych ar yr ardaloedd hyn ac rydym o’r farn mai anodd fyddai cyflwyno trefniadau etholiadol sy’n cadw’r cyfuniadau presennol o gymunedau a wardiau cymunedol mewn adrannau etholiadol unigol heb i hynny gael effaith niweidiol ar un neu ragor o’r materion y mae rhaid eu hystyried.

7. CYNIGION

7.1 Cynigiwn gyngor yn cynnwys 32 o aelodau ac 11 o adrannau etholiadol fel y nodir yn Atodiad 3. At ddibenion cymharu, nodir y trefniadau etholiadol presennol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol yn Atodiad 2. Dangosir ffiniau’r adrannau etholiadol arfaethedig gan y llinellau melyn parhaus ar y map sy’n cyd-fynd â’r adroddiad hwn a gellir ei weld yn Swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Caerdydd ac yn Swyddfa’r Comisiwn yng Nghaerdydd.

8. CYDNABYDDIAETHAU

8.1 Dymunwn ddatgan ein diolch i’r prif gyngor a’r holl gynghorau cymuned am eu cymorth yn ystod yr arolwg hwn ac i bob sefydliad ac unigolyn a gyflwynodd gynrychiolaethau i ni.

- 17 -

9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

9.1 Ar ôl cwblhau ein harolwg o Ddinas a Sir Caerdydd a chyflwyno’n hargymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch trefniadau etholiadol y prif awdurdod ar gyfer y dyfodol, rydym wedi cyflawni’n rhwymedigaeth statudol yn unol â’r cyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

9.2 Gwaith Llywodraeth Cynulliad Cymru, os gwêl yn dda, yw eu derbyn naill ai fel y’u cyflwynwyd gan y Comisiwn neu eu newid ac os bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn penderfynu gweithredu’r cynigion hyn â newidiadau, gall gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal arolwg pellach.

9.3 Dylid cyfeirio unrhyw gynrychiolaethau pellach ynghylch materion a gynhwysir yn yr adroddiad at Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dylid cyflwyno unrhyw gynrychiolaethau cyn gynted ag y bo modd a beth bynnag nid hwyrach na chwe wythnos o ddyddiad cyflwyno argymhellion y Comisiwn i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dylid cyfeirio cynrychiolaethau at:

Y Tîm Democratiaeth Yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ

MR P J WOOD (Cadeirydd)

Y PARCH. HYWEL MEREDYDD DAVIES BD (Dirprwy Gadeirydd)

Mr D J BADER (Aelod)

E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd) Tachwedd 2010

- 18 - Atodiad 1

Rhestr o Dermau a Ddefnyddir yn y cyfarwyddyd

Arolwg lle mae’r Comisiwn yn adolygu ffiniau ardal Arolwg o Ffiniau llywodraeth leol

Gan fod gofyn bod cymunedau a (lle maent yn bodoli) wardiau Blociau adeiladu cymunedol sefyll mewn un adran etholiadol, cânt eu defnyddio fel blociau adeiladu ar gyfer yr adrannau etholiadol

Comisiwn Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru

Maint y cyngor Nifer y cynghorwyr a etholir i’r cyngor

Cyfarwyddiadau a roddwyd i’r Comisiwn gan y Llywodraeth o Cyfarwyddiadau dan Adran 59 Deddf 1972

Faint o gynghorwyr y dylid eu cael ar gyngor ardal llywodraeth Trefniadau leol, y rhannau y dylid rhannu’r ardal iddynt at bwrpas ethol etholiadol cynghorwyr, nifer y cynghorwyr ar gyfer pob adran etholiadol, ac enw’r ardal etholiadol

Adrannau Yr adrannau y caiff prif adrannau eu rhannu iddynt at bwrpas etholiadol ethol cynghorwyr, a elwir weithiau’n wardiau ar lafar

Arolwg lle mae’r Comisiwn yn ystyried trefniadau etholiadol ar Arolwg etholiadol gyfer ardal llywodraeth leol

Nifer y bobl sydd â’r hawl i bleidleisio mewn ardal llywodraeth Yr etholwyr leol

Llywodraeth Llywodraeth Cynulliad Cymru

Unigolyn neu gorff sydd â diddordeb yng nghanlyniadau adolygiad etholiadol fel y prif gyngor dan sylw, Aelodau Y rhai â diddordeb Seneddol lleol a phleidiau gwleidyddol, a chynghorau cymuned a thref

Adran etholiadol mewn prif ardal a gynrychiolir gan fwy nag un Adran aml-aelod cynghorydd

Gorchymyn a wneir gan y Llywodraeth sy’n gweithredu Gorchymyn cynigion y Comisiwn, naill fel y’u cyflwynwyd neu wedi’u haddasu

Prif ardal Ardal a lywodraethir gan brif gyngor: yng Nghymru, Sir neu Fwrdeistref Sirol

Prif gyngor Yng Nghymru, un o’r awdurdodau unedol: Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol

- 1 - Atodiad 1

Ymatebydd Corff neu unigolyn sy’n ymateb i ymgynghoriad y Comisiwn drwy wneud cynrychiolaethau neu gynnig cynigion amgen

Rheolau Rheolau y bydd y Comisiwn yn eu dilyn wrth ystyried trefniadau etholiadol, a osodir allan yn Atodlen 11 Deddf 1972

Adran un aelod Adran etholiadol prif awdurdod a gynrychiolir gan un cynghorydd

Deddf 1972 Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1994

Deddf 1994 Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994

Prif gyngor - un haen o lywodraeth leol, sy’n gyfrifol am yr holl swyddogaethau llywodraethol (neu bron pob un ohonynt) yn ei Awdurdod Unedol ardal; a gymerodd le system dwy haen cynghorau sir a chynghorau dosbarth yng Nghymru: Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol

- 2 - DINAS A SIR CAERDYDD Atodiad 2 AELODAETH GYFREDOL Y CYNGOR

% yr amrywiad % yr amrywiad NIFER Y ETHOLWYR CYMHAREB o gymharu â'r ETHOLWYR CYMHAREB o gymharu â'r Rhif ENW DISGRIFIAD CYNGHORWYR 2009 2009 cyfartaledd 2014 2014 cyfartaledd sirol sirol

1 Adamsdown Cymuned Adamsdown 2 6,212 3,106 -6% 6,489 3,245 -2% 2 Butetown Cymuned Butetown 1 6,673 6,673 102% 6,971 6,971 112% 3 Caerau Cymuned Caerau 2 7,303 3,652 11% 7,629 3,815 16% 4 Treganna Cymuned Treganna 3 10,472 3,491 6% 10,939 3,646 11% 5 Cathays Cymuned y Castell a Chymuned Cathays 4 15,506 3,877 18% 16,196 4,049 23% 6 Creigiau a Sain Ffagan Ward Creigiau yng Nghymuned Pentyrch a Chymuned Sain Ffagan 1 3,935 3,935 19% 4,109 4,109 25% 7 Cyncoed Cymuned Cyncoed 3 8,668 2,889 -12% 9,055 3,018 -8% 8 Trelái Cymuned Trelái 3 9,197 3,066 -7% 9,607 3,202 -3% 9 Y Tyllgoed Cymuned y Tyllgoed 3 9,216 3,072 -7% 9,627 3,209 -3% 10 Gabalfa Cymuned Gabalfa 2 6,805 3,403 3% 7,109 3,555 8% 11 Grangetown Cymuned Grangetown 3 12,052 4,017 22% 12,590 4,197 27% 12 Y Mynydd Bychan Cymuned y Mynydd Bychan 3 9,708 3,236 -2% 10,141 3,380 3% 13 Llys-faen Cymuned Llys-faen 1 2,827 2,827 -14% 2,953 2,953 -10% 14 Llandaf Cymuned Llandaf 2 7,154 3,577 9% 7,473 3,737 13% 15 Gogledd Llandaf Cymuned Gogledd Llandaf 2 5,572 2,786 -15% 5,821 2,911 -12% 16 Llanisien Cymuned Llanisien 4 12,637 3,159 -4% 13,201 3,300 0% 17 Llanrhymni Cymuned Llanrhymni 3 7,976 2,659 -19% 8,332 2,777 -16% 18 Pentwyn Cymuned Pentwyn 4 10,295 2,574 -22% 10,754 2,689 -18% 19 Pentyrch Wardiau Gwaelod-y-garth a Phentyrch yng Nghymuned Pentyrch 1 2,734 2,734 -17% 2,855 2,855 -13% 20 Penylan Cymuned Penylan 3 9,703 3,234 -2% 10,136 3,379 3% 21 Plasnewydd Cymuned y Rhath 4 13,684 3,421 4% 14,294 3,574 8% 22 Pontprennau a Hen Laneirwg Cymuned Pontprennau a Chymuned Hen Laneirwg 2 6,851 3,426 4% 7,155 3,578 9% 23 Radyr Cymuned Radyr 1 4,625 4,625 40% 4,829 4,829 47% 24 Rhiwbeina Cymuned Rhiwbeina 3 9,108 3,036 -8% 9,514 3,171 -4% 25 Riverside Cymuned Riverside 3 9,263 3,088 -6% 9,676 3,225 -2% 26 Tredelerch Cymuned Tredelerch 2 6,444 3,222 -2% 6,731 3,366 2% 27 Y Sblot Cymuned y Sblot 3 9,283 3,094 -6% 9,697 3,232 -2% 28 Trowbridge Cymuned Trowbridge 3 10,539 3,513 7% 11,009 3,670 11% 29 Yr Eglwys Newydd Cymuned yr Eglwys Newydd a Chymuned Tongwynlais 4 12,707 3,177 -4% 14,721 3,680 12% CYFANSWM: 75 247,149 3,295 259,613 3,462

Nifer yr etholwyr fesul cynghorydd yw'r gymhareb Darparwyd y ffigurau etholiadol gan Gyngor Dinas a Sir Caerdydd Atodiad 2

2009 2014 Dros ± 50% y cyfartaledd sirol 1 3% 1 3% Rhwng ± 25% a ± 50% y cyfartaledd sirol 1 3% 2 7% Rhwng ± 10% a ± 25% y cyfartaledd sirol 10 34% 11 38% Rhwng 0% a ± 10% y cyfartaledd sirol 17 59% 15 52% DINAS A SIR CAERDYDD Atodiad 3 AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR % yr % yr amrywiad o amrywiad o NIFER Y ETHOLWYR CYMHAREB ETHOLWYR CYMHAREB Rhif ENW DISGRIFIAD gymharu â'r gymharu â'r CYNGHORWYR 2009 2009 2014 2014 cyfartaledd cyfartaledd sirol sirol 1 Adamsdown Cymuned Adamsdown 2 6,212 3,106 -4% 6,489 3,245 -5% 2 Butetown Cymuned Butetown 2 6,673 3,337 3% 6,971 3,486 2% 3 Caerau Cymuned Caerau 2 7,303 3,652 12% 7,629 3,815 12% 4 Treganna Cymuned Treganna 3 10,472 3,491 7% 10,939 3,646 7% 5 Cathays Cymuned y Castell 1,070 (1,117) a Chymuned Cathays 14,436 (15,079) 4 15,506 3,877 19% 16,196 4,049 19% 6 Cyncoed Cymuned Cyncoed 3 8,668 2,889 -11% 9,055 3,018 -12% 7 Trelái Cymuned Trelái 3 9,197 3,066 -6% 9,607 3,202 -6% 8 Y Tyllgoed Cymuned y Tyllgoed 3 9,216 3,072 -6% 9,627 3,209 -6% 9 Gabalfa Cymuned Gabalfa 2 6,805 3,403 5% 7,109 3,555 4% 10 Grangetown Cymuned Grangetown 4 12,052 3,013 -7% 12,590 3,148 -8% 11 Y Mynydd Bychan Cymuned y Mynydd Bychan 3 9,708 3,236 0% 10,141 3,380 -1% 12 Llys-faen Cymuned Llys-faen 1 2,827 2,827 -13% 2,953 2,953 -14% 13 Llandaf Cymuned Llandaf 2 7,154 3,577 10% 7,473 3,737 9% 14 Gogledd Llandaf Cymuned Gogledd Llandaf 2 5,572 2,786 -14% 5,821 2,911 -15% 15 Llanisien Cymuned Llanisien 4 12,637 3,159 -3% 13,201 3,300 -3% 16 Llanrhymni a Hen Laneirwg Cymuned Llanrhymni 7,976 (8,332) a Chymuned Hen Laneirwg 1,790 (1,869) 3 9,766 3,255 0% 10,201 3,400 0% 17 Pentyrch a Sain Ffagan Cymuned Pentyrch 4,853 (5,068) a Chymuned Sain Ffagan 1,816 (1,896) 2 6,669 3,335 3% 6,964 3,482 2% 18 Penylan Cymuned Penylan 3 9,703 3,234 -1% 10,136 3,379 -1% 19 Pontprennau a Phentwyn Cymuned Pontprennau 5,061 (5,286) a Chymuned Pentwyn 10,295 (10,754) 4 15,356 3,839 18% 16,040 4,010 17% 20 Radyr a Thongwynlais Cymuned Radyr 4,625 (4,829) a Chymuned Tongwynlais 1,386 (1,447) 2 6,011 3,006 -8% 6,276 3,138 -8% 21 Rhiwbeina Cymuned Rhiwbeina 3 9,108 3,036 -7% 9,514 3,171 -7% 22 Riverside Cymuned Riverside 3 9,263 3,088 -5% 9,676 3,225 -6% 23 Y Rhath Cymuned y Rhath 4 13,684 3,421 5% 14,294 3,574 5% 24 Tredelerch Cymuned Tredelerch 2 6,444 3,222 -1% 6,731 3,366 -1% 25 Y Sblot Cymuned y Sblot 3 9,283 3,094 -5% 9,697 3,232 -5% 26 Trowbridge Cymuned Trowbridge 3 10,539 3,513 8% 11,009 3,670 7% 27 Yr Eglwys Newydd Cymuned yr Eglwys Newydd 4 11,321 2,830 -13% 13,274 3,319 -3% Cyfanswm: 76 247,149 3,252 259,613 3,416

Nifer yr etholwyr fesul cynghorydd yw'r gymhareb Mae nifer yr etholwyr yn 2009 a 2014 (mewn cromfachau) wedi'u cynnwys yn nisgrifiad yr adrannau etholiadol hynny sy'n cynnwys mwy nag un gymuned / ward cymunedol. Darparwyd y ffigurau etholiadol gan Gyngor Dinas a Sir Caerdydd Atodiad 3

2009 2014 Dros ± 50% y cyfartaledd sirol 0 0% 0 0% Rhwng ± 25% a ± 50% y cyfartaledd sirol 0 0% 0 0% Rhwng ± 10% a ± 25% y cyfartaledd sirol 7 26% 6 22% Rhwng 0% a ± 10% y cyfartaledd sirol 20 74% 21 78% Atodiad 4 Atodiad 4

Atodiad 4 Atodiad 4

Atodiad 4

12 Mai 2009

Cyfarwyddiadau ynglŷn ag Arolygon o Drefniadau Etholiadol

Rwy’n ymwybodol eich bod chi wedi cychwyn gwaith rhagarweiniol yn y cylch o arolygon o drefniadau etholiadol ym mhob un o’r prif gynghorau. Mae cyflwyniadau a dderbyniais gan lywodraeth leol yn awgrymu i mi eich bod chi efallai wedi dehongli fy nghyfarwyddiadau i fod yn fwy cyfarwyddol na’r rhai a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym 1995 cyn y cylch adolygu diwethaf. Rwyf eisiau ei gwneud hi’n eglur mai nid felly y mae.

Cyhoeddwyd y cyfarwyddiadau er arweiniad i chi ac ni ddylid eu hystyried yn orchmynion. Ar lawer cyfrif - yn neilltuol, mewn perthynas â’r ardaloedd sy’n addas ar gyfer adrannau ag aelodau lluosog a’r amserlen - roedd y cyfarwyddiadau diwethaf yn fwy cyfarwyddol ond mewn perthynas â mater canolog y gymhareb rhwng cynghorwyr ac etholwyr, mae’r geiriad yn union debyg. Mae hyn yn golygu bod y gymhareb yn parhau fel nod i weithio tuag ato ac nid fel nod i’w gyflawni ym mhob achos. Wrth wneud hyn, dylid rhoi sylw i gymunedau lleol yn cael eu cynrychiolwyr canfyddadwy eu hun, hyd yn oed ble nad yw’r ffigwr dangosol o 1,750 o etholwyr/cynghorydd bob amser yn gyraeddadwy.

Wrth gwrs, rwy’n cydnabod er 1995 rydym wedi gweld cyflwyno trefniadau gweithredol neu amgen ymhlith prif gynghorau, ac efallai byddant yn arwyddocaol o ran nifer y cynghorwyr sydd eu hangen i wneud cyngor yn hollol ymarferol. Hefyd cafodd cyfarwyddiadau 1995 eu cyflwyno ar adeg pan oedd ad-drefnu’n digwydd, mewn awyrgylch gwleidyddol gwahanol i’r hyn sy’n bodoli nawr.

Yn olaf, hoffwn dynnu sylw at yr amodiad yn Atodlen 11 Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid ystyried yr angen i sefydlogi ffiniau sy’n hawdd eu hadnabod ac sy’n cydnabod cysylltiadau’r gymuned leol.

Rwy’n dymuno’n dda i chi yn y broses adolygu.

Yn gywir

______

Cyfieithiad Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yw hwn o lythyr gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. Atodiad 5

CRYNODEB O’R CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

1. Cyngor Cymuned Llys-faen. Mae’r Cyngor yn cymeradwyo cynnig i'r Comisiwn y dylai’r trefniadau ar gyfer Llys-faen barhau’r un fath.

2. Cyngor Cymuned Pentyrch. Mae’r Cyngor o’r farn na fydd yr ystyriaethau cyfyng a ddefnyddir i lunio cynigion yn gallu ystyried datblygiadau’r dyfodol. • Mae’r Cyngor yn gwrthwynebu ymgais y Comisiwn i ddefnyddio’r un dull ar gyfer pawb sy’n anwybyddu gwahaniaethau rhwng cymunedau yn hytrach na’u dathlu. • Er enghraifft, mae cymuned Sain Ffagan yn dra gwahanol i Gymuned y Tyllgoed – yn yr un modd â’r gwahaniaeth sylfaenol rhwng Radyr a Threforgan.

Aeth y Cyngor ati wedyn i awgrymu y gellir uno cymunedau gwledig Pentyrch, Gwaelod y Garth, Creigiau, Capel Llanilltern a Sain Ffagan a chael dau gynghorydd i’w cynrychioli. Pe byddai hyn yn digwydd, 6,964 fyddai nifer yr etholwyr a chyda dau gynghorydd yn eu cynrychioli, byddai’n rhoi cymhareb o 1:3,482 ac yn amrywio 0.5% o gyfartaledd Caerdydd.

3. Cyngor Cymuned Radyr a Chyngor Cymuned Treforgan. Mae’r Cyngor o blaid uno Radyr a Phentyrch i greu adran newydd ac fe gynigiwyd yr enw ‘Gogledd-orllewin Caerdydd’ ganddynt nad yw’n ffafrio’r naill gymuned na’r llall.

4. Cyngor Cymuned Sain Ffagan. Mae’r Cyngor yn gwrthwynebu’r cynnig i uno gyda’r Tyllgoed oherwydd: • Nid oedd yr aelodau yn teimlo bod unrhyw gysylltiad naturiol rhwng y ddwy gymuned. Roeddent hefyd o’r farn fod Sain Ffagan, gan fod ganddo ei gyngor cymuned ei hun, mewn gwell sefyllfa i ymuno ag ardaloedd mwy gwledig i’r gogledd. • Byddai’n well gan y Cyngor barhau â’r un drefn a chael ei gynrychioli gan un cynghorydd. Os nad yw hynny’n bosibl, byddai’n well gan Gyngor Sain Ffagan pe byddai’r ardal gymunedol yn uno â Phentyrch a Radyr neu Bentyrch ar ei ben ei hun. Aeth y Cyngor ati wedyn i gynnig dau awgrym manwl: • Byddai uno Radyr, Pentyrch a Chreigiau/ Sain Ffagan yn rhoi 11,793 o etholwyr, a gynrychiolir gan 3 chynghorydd gan roi cymhareb o 1:3,931 – 13.5% yn uwch na’r cyfartaledd. Mae hyn yn amrywiad is na’r un yn Grangetown neu Lys-faen. • Byddai gan ward unedig Pentyrch/Creigiau/Sain Ffagan (heb Radyr) 6,964 o etholwyr. Pe byddai 2 gynghorydd yn eu cynrychioli, byddai’n rhoi cymhareb o 1:3,482 - sy’n amrywio 0.5% yn unig oddi wrth y cyfartaledd sirol.

5. Y Cynghorydd G Aubrey - Llandaf. Mewn cynrychiolaeth a gyflwynodd gyda’r Cynghorydd Davies, roedd y Cynghorydd Aubrey yn bryderus: • Nad yw’r cynigion yn adlewyrchu daearyddiaeth yr ardal yn gywir. Mae afon Taf yn gwahanu ardaloedd Llandaf a Gogledd Llandaf yn glir. • Mae gan Landaf hanes hir ar wahân i Gaerdydd fel dinas gadeiriol ar ei phen ei hun a dylai’r cynigion adlewyrchu hyn.

6. Y Cynghorydd R Berman – Y Rhath. Mynegodd y Cynghorydd Berman ei gefnogaeth o blaid cynnig y Comisiwn i newid enw adran etholiadol Plasnewydd i’r

- 1 - Atodiad 5

Rhath. Roedd y gynrychiolaeth hon yn cynnwys canlyniad pôl opiniwn oedd yn dangos bod 85% o ymatebwyr yr ardal o blaid y newid hefyd.

7. Y Cynghorydd D Bowen - Creigiau a Sain Ffagan Mynegodd y Cynghorydd Bowen bryder ynghylch y canlynol: • Mae’r newidiadau a gynigir ar gyfer Sain Ffagan, Creigiau, Pentyrch a Radyr yn torri ar draws cymunedau naturiol. • Gallai uno Creigiau a Phentyrch fod yn fwy rhesymegol. • Yn ôl pob golwg, nid oes unrhyw gysylltiadau rhwng y Tyllgoed a Sain Ffagan ar wahân i gysylltiadau daearyddol.

8. Y Cynghorydd P Chaundy - Pentwyn Mynegodd y Cynghorydd Chaundy bryder ynghylch y canlynol: • Dylid ailystyried y cynnig i leihau ward Pentwyn o bedwar cynghorydd i dri oherwydd y cynnydd sylweddol mewn tai cymdeithasol ym Mhentwyn. Mae hyn wedi cynyddu llwyth gwaith y cynghorwyr.

9. Y Cynghorydd R Cook - Treganna. Mewn cynrychiolaeth fanwl, rhestrodd y Cynghorydd Cook ei arsylwadau am y cynnydd mewn etholaethau ledled Caerdydd. Yn benodol, fe nododd: • Bod ardaloedd mwy cefnog Caerdydd yn tueddu i fod â lefelau is o gynrychiolaeth na’r rhai sydd â phocedi o amddifadedd, Bydd y lefelau hyn yn gwaethygu erbyn 2014. • Bydd ardaloedd helaeth o Gaerdydd yn cael eu datblygu ar ôl y dirwasgiad, fel y digwyddodd ar ôl y dirwasgiad diwethaf. Bydd hyn hefyd yn effeithio’n andwyol ar y gymhareb cynghorydd o etholwyr. • Mae gan Gaerdydd nifer sylweddol o gartrefi di-rym lle nad yw’r preswylwyr wedi’u cofrestru fel etholwyr. Mae’r preswylwyr hyn a’u plant yn ychwanegu’n sylweddol at y niferoedd dan sylw ac yn gwaethygu’r gymhareb cynghorydd i etholwyr, heb sôn am ychwanegu at y llwyth gwaith. • Mae gan y Comisiwn Ffiniau y cyfle i fynd i’r afael â rhai o’r anghydraddoldebau cynhenid sy’n ffafrio’r cymunedau mwy cefnog.

10. Y Cynghorydd K Davies - Llandaf. Roedd y Cynghorydd Davies yn gyd-lofnodydd llythyr y Cyng. Aubrey fel y nodwyd ym mharagraff 5 uchod.

11. Y Cynghorydd R Jerrett - Plasnewydd Cynigiodd y Cynghorydd Jerrett yr arsylwadau canlynol: • Butetown – cynyddu i ddau gynghorydd yn dderbyniol. • Pentyrch, Creigiau, a Sain Ffagan – nid yw’r enw yn cynrychioli’r holl ardal. Dylid ei galw’n Creigiau Pentyrch a Radyr neu’n Ogledd-orllewin Caerdydd. • Y Tyllgoed a Sain Ffagan – dylid galw’r ardal yn y Tyllgoed Sain Ffagan, nid Gorllewin Caerdydd. • Y Rhath/Penylan – mae’r ward eisoes yn cael ei alw’n Penylan – Y Rhath oedd yr enw ar y gymuned. • Plasnewydd – mae newid yr enw i’r Rhath yn syniad da iawn ac yn gwneud synnwyr. Tynnodd y Cynghorydd Jerrett sylw at y ffaith nad oedd yn gweld unrhyw reswm dros uno Tredelerch a Llanrhymni, ac y dylid uno Hen Laneirwg gyda Llanrhymni yn lle

- 2 - Atodiad 5

hynny gan fod Heol Casnewydd yn ffin i’r ddwy ardal. Byddai’n cynnwys tri aelod ac yn rhoi cymhareb o 1:3,255 (rhagamcenir 3,400). Er y byddai hyn yn creu problem ym Mhontprennau, gellir ei ddatrys drwy uno â Phentwyn a dyrannu pum cynghorydd yn ôl cymhareb o 1:3,031 (rhagamcenir 3,208.) Mewn ail gynrychiolaeth, gofynnodd y Cynghorydd Jerrett a yw’r amserlen bresennol yn galluogi’r arolwg etholiadol i ystyried y newidiadau a fyddai eu hangen i ffiniau cymunedol.

12. Y Cynghorydd H Joyce - Llanrhymni Mewn cyd-gynrychiolaeth gyda’r Cynghorwyr Morgan a Parry sydd hefyd o Lanrhymni, mynegodd y Cynghorydd Joyce bryder ynghylch y canlynol: • Nid yw canllawiau’r Blaid Lafur ynghylch “… uchafswm o dri chynghorydd fesul adran …” ac “… y byddai hyn yn cynnwys rhannu rhai adrannau etholiadol ac y dylai adrannau gadw at ffiniau cymunedol cyfredoly boundaries…” yn cael eu dilyn. • Ni fyddai uno Tredelerch a Llanrhymni i greu ‘ward wych’ o fantais ac y gallai ddinistrio’r cymunedau dan sylw. Aeth y gynrychiolaeth yn ei blaen i roi ystadegau am lefelau amddifadedd yn yr ardal ac awgrymu y dylid cadw’r adran fel y mae oherwydd “…nid yw nifer y preswylwyr mewn adran yr un faint â nifer yr etholwyr a bod hyn yn effeithio ar lwyth gwaith y cynghorydd…” • Cymeradwywyd y cynnig i gael cynghorydd ychwanegol yn Butetown yn ogystal â’r awgrym i gadw’r enw “Butetown” ar gyfer yr adran.

13. Y Cynghorydd R McKerlich - Radyr Mynegodd y Cynghorydd McKerlich bryder am y canlynol: • Mae Radyr a Threforgan yn debygol o fod yr adran etholiadol fwyaf yng Nghaerdydd ond mae ymdeimlad cryf o gymuned yn perthyn iddynt. Mae’n fwy na phosibl y bydd Radyr yn ehangu ac y bydd angen cynghorydd ychwanegol arno ei hun os bydd datblygiadau ar gyfer y dyfodol yn mynd rhagddynt yn ôl y disgwyl. • Bydd safon y gynrychiolaeth yn dirywio os bydd yn cael ei uno â Chreigiau a Phentyrch. Pe byddai Radyr a Chreigiau yn dod ynghyd, awgrymodd y Cynghorydd McKerlich ati i awgrymu y dylid galw’r ardal yn ‘Radyr’.

14. Y Cynghorydd J Woodman - Pentwyn Mynegodd y Cynghorydd Woodman bryder am y canlynol: • Nid yw’r cynigion ar gyfer Pentwyn wedi’u hamlygu yn yr adroddiad. • Nid oedd digon o amser wedi mynd heibio ers yr argymhellion diwethaf i allu dod i’r arfer â nhw. • Nid yw’r cynnig i ostwng nifer y cynghorwyr yn briodol o ystyried y bwriad i gynyddu nifer yr etholwyr yn sgil y datblygiad tai sylweddol arfaethedig ar hen safle’r ffatri Panasonic.

15. Cangen Butetown y Blaid Lafur. Mae Cangen Butetown y Blaid Lafur o blaid cynyddu’r gynrychiolaeth yn Butetown i ddau gynghorydd ac mae’n dymuno cadw enw Butetown.

- 3 - Atodiad 5

16. Y Cynghorydd D Walker - Llys-faen – Grŵp y Ceidwadwyr, Cyngor Dinas Caerdydd. Mynegodd y Cynghorydd Walker bryder am y canlynol: • Mae Llandaf a Gogledd Llandaf yn ddwy gymuned benodol a wahenir gan afon a’u bod yn gallu sefyll ar eu traed eu hunain a chael eu cynrychioli ar wahân. • Yn yr un modd, mae Tredelerch a Llanrhymni yn gymunedau gwahanol a dylent barhau ar wahân. Os ydynt am gael eu huno, ni ddylai’r adran gael ei galw’n ‘Llanrhymni’.

17. Cangen Etholaeth Gogledd Caerdydd y Blaid Lafur. Roedd y Blaid yn bryderus ynghylch y pwyslais gormodol ar gydraddoldeb ar draul yr ymdeimlad o gymuned. • Gwrthwynebodd y Blaid y newidiadau arfaethedig i Landaf a Gogledd Llandaf gan fod yr ardaloedd yn croesi ffiniau adran etholiadol ac etholaethol. • Nid oes gan yr ardaloedd unrhyw gymuned gyffredin o fuddiant nac unrhyw ryngweithio cymdeithasol neu wleidyddol. Nid oes rhwydwaith o ffyrdd yn eu cysylltu ychwaith, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Mae’r Blaid yn credu bod Gogledd Llandaf o fewn 15% i’r cyfartaledd sirol ac nid oes angen gwanhau ei chynrychiolaeth.

18. Cynghorydd G Aubrey - Llandaf – Cadeirydd Democratiaid Rhyddfrydol Gorllewin Caerdydd. Mynegodd y Cynghorydd Aubrey bryder am y canlynol: • Nid yw’r cynigion yn adlewyrchu daearyddiaeth yr ardal yn gywir. Mae afon Taf yn gwahanu Llandaf a Gogledd Llandaf yn glir. • Mae gan Landaf hanes hir ar wahân i Gaerdydd fel dinas gadeiriol ar ei phen ei hun a dylai’r cynigion adlewyrchu hyn. • Croesawodd y Blaid y Cynigion Drafft i uno’r Tyllgoed a Sain Ffagan ond ni welai unrhyw reswm dros beidio â’i alw’n ‘Y Tyllgoed a Sain Ffagan’ gan y byddai’n osgoi dryswch gydag etholaethau presennol San Steffan a’r Cynulliad. • Cytunodd y Blaid hefyd gyda’r protocolau ar gyfer Pentyrch gan gydnabod na fyddai canfod enw addas yn dasg rwydd.

19. Cangen Etholaeth Gorllewin Caerdydd y Blaid Lafur. Roedd y Blaid yn bryderus ynghylch y pwyslais gormodol ar gydraddoldeb ar draul yr ymdeimlad o gymuned. • Gwrthwynebodd y Blaid y newidiadau arfaethedig i Landaf a Gogledd Llandaf gan fod yr ardaloedd yn croesi ffiniau adran etholaethol. Nid oes unrhyw gysylltiad rhwng yr ardaloedd nac ychwaith unrhyw ryngweithio diwylliannol, cymdeithadol neu wleidyddol. • Yr un yw’r gwrthwynebiadau i’r cynigion ar gyfer Radyr a Phentyrch. Tan yn ddiweddar, roedd y cymunedau mewn gwahanol etholaethau ac mae ganddynt eu cynghorau cymuned eu hunain yn ogystal â chyfleusterau a rhwydweithiau o weithgareddau cymdeithasol ar wahân. • Yn yr un modd, mae’r cynigion ar gyfer Sain Ffagan a’r Tyllgoed yn ymestyn unrhyw gysylltiad lleol i’r eithaf, gan nodi nad oes bron unrhyw gyfeiriad at y Tyllgoed yng nghofnodion swyddogol Cyngor Cymuned Sain Ffagan. Nododd y Blaid hefyd sut y gallai’r cynigion beri dryswch ymysg pleidleiswyr pe byddai’r cynigion i enwi yn mynd rhagddynt.

20. Cymdeithas Trigolion Danescourt. Gwrthododd y Gymdeithas y newidiadau arfaethedig i Landaf a Gogledd Llandaf gan nad oes unrhyw gysylltiad rhwng yr ardaloedd ac am nad oes unrhyw resymau cymunedol dros eu huno yn ôl pob golwg.

- 4 - Atodiad 5

21. Cymdeithas Llandaf. Roedd y Gymdeithas hefyd yn gwrthwynebu’r newidiadau arfaethedig i Landaf a Gogledd Llandaf am resymau tebyg i’r rhai uchod. Aeth y Gymdeithas yn ei blaen i ddweud fod y ddwy gymuned mewn dwy adran wahanol ar gyfer etholiadau San Steffan a’r Cynulliad a’u bod wedi datblygu ar wahân ers dros ganrif heb rannu unrhyw gyfleusterau dinesig. Mae hanes a natur gymdeithasol Llandaf yn golygu ei fod yn haeddu i barhau i fod ar wahân.

22. Cymdeithas Trigolion Gogledd Llandaf. Gwrthwynebodd Cyngor y Gymdeithas y newidiadau arfaethedig oherwydd: • Byddai’r enw ‘Llandaf’ yn golygu y byddai Gogledd Llandaf yn colli ei hadnabyddiaeth ac yn peri dryswch i ymwelwyr. • Nid oes cysylltiadau traffig rhwng y ddwy ardal ac maent ar wahân i’w gilydd. Mae gan Ogledd Llandaf fwy o gysylltiadau gyda’r Eglwys Newydd. • Mae’r ward newydd a gynigir yn croesi etholaethau ac, er y byddai pedwar cynghorydd yn hytrach na dau, byddai ar ei cholled oherwydd hwyrach na fyddai gan y cynghorwyr hyn wybodaeth leol briodol.

23. Cymdeithas Hanes Tredelerch a’r Cylch. Ni chyflwynodd y Gymdeithas unrhyw sylw am y trefniadau arfaethedig ond fe awgrymodd y dylid defnyddio’r enw ‘Tredelerch a Llanrhymni’.

24. Dau o drigolion Llanrhymni. Gwrthwynebodd y trigolion y cynigion i enwi’r ward newydd yn ‘Llanrhymni’ oherwydd ei bod yn ymddangos yn rhesymol cynnwys y ddau enw h.y. ‘Tredelerch a Llanrhymni’.

25. Dau o drigolion Llanrhymni. Gwrthwynebodd y trigolion y cynigion i enwi’r ward newydd yn ‘Llanrhymni’ oherwydd ei bod yn ymddangos yn annheg i Dredelerch – colli hunaniaeth leol. Awgrymwyd y dylai’r enw newydd gynnwys y ddwy gymuned h.y. ‘Tredelerch a Llanrhymni’.

26. Un o drigolion Llanrhymni. Roedd y trigolyn hwn o’r farn y byddai’n well gan drigolion yr ardal weld y trefniadau’n parhau fel ag y maent. Os yw’r cynigion yn mynd rhagddynt, nid oes unrhyw wrthwynebiad i ddefnyddio’r enw ‘Llanrhymni’. Ategwyd y farn hon gan bentwr o wybodaeth hanesyddol oedd yn rhoi tystiolaeth fod (enw) Llanrhymni wedi bodoli ers cyfnod y Normaniaid.

27. Un o drigolion Pentyrch. Roedd y trigolyn hwn yn erbyn enw’r adran newydd yn ‘Pentyrch’ gan ei fod yn amharchus ac am nad yw’n cynnwys mannau eraill. Cynigiodd ‘Gogledd-orllewin Caerdydd’ fel cynnig amgen.

28. Un o drigolion Llandaf. Roedd y trigolyn hwn yn gwrthod y newidiadau arfaethedig oherwydd: • Bod Llandaf a Gogledd Llandaf yn wahanol gan fod eu safbwyntiau a’u hanghenion yn perthyn i genedlaethau gwahanol. • Mae Llandaf yn gymuned sefydledig ac nid oes angen ei newid.

29. Un o drigolion Llandaf. Gwrthwynebodd y trigolyn hwn y newidiadau arfaethedig i Landaf a Gogledd Llandaf oherwydd: • Nid oes unrhyw gyfiawnhad cymdeithasol, economaidd neu wleidyddol dros eu huno yn ôl pob golwg.

- 5 - Atodiad 5

• Nid oes unrhyw gysylltiadau rhwng yr ardaloedd hyn fel y disgrifiwyd ac maent yn gwbl wahanol eu natur.

30. Un o drigolion Llandaf. Anfonodd y trigolyn hwn lythyr manwl yn gwrthwynebu’r newidiadau arfaethedig i Landaf a Gogledd Llandaf oherwydd: • Mae’r ward a gynigir wedi’i rhannu rhwng dwy etholaeth San Steffan a’r Cynulliad yn ogystal â dwy brif ardal côd post. • Byddai ward pedwar aelod yn peri dryswch i bleidleiswyr a chynrychiolaeth anwastad pe byddai cynghorwyr yn cael eu hethol o wahanol ardaloedd. • Nid oes unrhyw gyfiawnhad cymdeithasol, economaidd neu wleidyddol dros eu huno yn ôl pob golwg. • Nid oes unrhyw gysylltiadau rhwng yr ardaloedd hyn fel y disgrifiwyd ac maent yn gwbl wahanol eu natur.

- 6 -