COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Arolwg o Drefniadau Etholiadol Bwrdeistref Sirol Castell-nedd

Adroddiad Argymhellion Terfynol

Awst 2020 © Hawlfraint CFfDLC 2020

Gallwch ailddefnyddio’r wybodaeth hon (ac eithrio’r logos) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored. I weld y drwydded hon, ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence neu anfonwch e-bost at: [email protected]

Lle’r ydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti, bydd angen i chi gael caniatâd oddi wrth ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn at y Comisiwn yn [email protected]

Mae’r ddogfen hon ar gael ar ein gwefan hefyd yn www.cffdl.llyw.cymru

RHAGAIR

Mae’r Comisiwn yn falch o gyflwyno’r Adroddiad hwn i’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, sy’n cynnwys ei argymhellion am drefniadau etholiadol diwygiedig ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae’r arolwg hwn yn rhan o raglen o arolygon sy’n cael eu cynnal o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac mae’n dilyn yr egwyddorion a gynhwysir yn nogfen Polisi ac Arfer y Comisiwn. Mae tegwch wrth wraidd cyfrifoldebau statudol y Comisiwn. Amcan y Comisiwn fu gwneud argymhellion sy’n darparu ar gyfer llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac sy’n parchu cysylltiadau cymunedol lleol, cyn belled ag y bo modd gwneud hynny. Nod yr argymhellion yw gwella cydraddoldeb etholiadol, fel bod yr un gwerth i bleidlais etholwr unigol â phleidlais etholwyr eraill ledled y Sir, i’r graddau y gellir cyflawni hynny. Mae’r Comisiwn yn ddiolchgar i Aelodau a Swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot am eu cymorth gyda’i waith, i’r cynghorau cymuned a thref am eu cyfraniadau gwerthfawr, ac i bawb a wnaeth gynrychiolaethau trwy gydol y broses.

Dr Debra Williams Cadeirydd COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL BWRDEISTREF SIROL CASTELL-NEDD PORT TALBOT ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL Cynnwys Tudalen Pennod 1 Cyflwyniad 2 Pennod 2 Y Cynigion Drafft 3 Pennod 3 Crynodeb o’r Argymhellion Terfynol 4 Pennod 4 Asesiad 8 Pennod 5 Yr Argymhellion Terfynol 10 Pennod 6 Crynodeb o’r Trefniadau Argymelledig 56 Pennod 7 Trefniadau Ôl-ddilynol 57 Pennod 8 Ymatebion i’r Adroddiad hwn 60 Pennod 9 Cydnabyddiaethau 61

ATODIAD 1 RHESTR TERMAU ATODIAD 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR ATODIAD 3 AELODAETH ARGYMELLEDIG Y CYNGOR ATODIAD 4 RHEOLAU A GWEITHDREFNAU ATODIAD 5 CRYNODEB O’R CYNRYCHIOLAETHAU DRAFFT ATODIAD 6 YSGRIFENNYDD Y CABINET DROS GYLLID A LLYWODRAETH LEOL 23 MEHEFIN 2016 – DATGANIAD YSGRIFENEDIG

Argraffiad 1af wedi’i argraffu Awst 2020

Mae’r Comisiwn yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn Gymraeg neu Saesneg. This document is available in English. Cyfieithwyd y ddogfen hon i’r Gymraeg gan Trosol.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru Tŷ Hastings Llys Fitzalan CAERDYDD CF24 0BL

Rhif ffôn: (029) 2046 4819 Rhif ffacs: (029) 2046 4823

E-bost: [email protected] www.cffdl.llyw.cymru COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Julie James, AS Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru Pennod 1. CYFLWYNIAD 1. Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y Comisiwn) wedi cynnal arolwg o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Cynhaliwyd yr arolwg hwn yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (y Ddeddf), ac yn benodol Adrannau 29, 30 a 34-36. 2. Yn unol â’r Ddeddf, mae’r Comisiwn wedi cwblhau’r arolwg o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac yn cyflwyno ei argymhellion terfynol ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol. 3. Daeth y rhaglen arolygon hon yn sgil Datganiad Ysgrifenedig cyn Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Cyllid a Llywodraeth Leol ar 23 Mehefin 2016, pan ofynnwyd i’r Comisiwn ailddechrau ei raglen arolygon, gyda disgwyliad y byddai pob un o’r 22 arolwg etholiadol wedi’u cwblhau mewn pryd i’r trefniadau newydd gael eu rhoi ar waith ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2022. Mae’r Datganiad Ysgrifenedig i’w weld yn Atodiad 6. Gellir gweld y rheolau a’r gweithdrefnau y mae’r Comisiwn yn eu dilyn yn nogfen y Comisiwn Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer [2016] a amlinellir yn Atodiad 4. Ceir Rhestr Termau yn Atodiad 1, sy’n rhoi disgrifiad byr o rywfaint o’r derminoleg gyffredin a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn. 4. Mae adran 35 y Ddeddf yn pennu’r canllawiau gweithdrefnol sydd i’w dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol ag Adran 35, ysgrifennodd y Comisiwn at Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, yr holl gynghorau cymuned a thref yn yr ardal, yr ymgyngoreion gorfodol a phartïon eraill â buddiant ar 26 Mehefin 2018 i’w hysbysu o fwriad y Comisiwn i gynnal yr arolwg ac i ofyn am eu barnau cychwynnol. Roedd yr ymgynghoriad hwn wedi’i drefnu i’w gynnal o 3 Gorffennaf 2018 hyd 24 Medi 2018. Cafodd y cyfnod ymgynghori ei ymestyn yn dilyn cais gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac fe ddaeth i ben ar 9 Tachwedd 2018. Hefyd, trefnodd y Comisiwn fod copïau o’i ddogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer [2016] ar gael. 5. Cyhoeddodd y Comisiwn ei Adroddiad Cynigion Drafft ar 21 Tachwedd 2019, a gofynnodd am farnau ar y cynigion. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn o 28 Tachwedd 2019 hyd 19 Chwefror 2020. 6. Cyhoeddodd y Comisiwn yr arolwg ar ei wefan a’i sianelau cyfryngau cymdeithasol, a gofynnodd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot roi cyhoeddusrwydd i’r arolwg, a rhoddodd nifer o hysbysiadau cyhoeddus i’r Cyngor eu harddangos. Darparwyd y rhain i’r cynghorau cymuned a thref yn yr ardal hefyd. Yn ogystal, rhoddodd y Comisiwn gyflwyniad i gynghorwyr sir a chynghorwyr tref a chymuned i esbonio proses yr arolwg a pholisïau’r Comisiwn. Gwahoddwyd y Cyngor Bwrdeistref Sirol i gyflwyno cynllun awgrymedig ar gyfer trefniadau etholiadol newydd.

Tudalen 2 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Pennod 2. Y CYNIGION DRAFFT 1. Cyn llunio’r cynigion drafft, derbyniodd y Comisiwn gynrychiolaethau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, chwe Chyngor Tref a Chymuned, deg Cynghorydd Bwrdeistref Sirol, Democratiaid Rhyddfrydol Aberafan a Chastell-nedd, Arweinydd y Grŵp Annibynnol a Democrataidd a dau aelod o’r cyhoedd. 2. Ystyriwyd y cynrychiolaethau hyn ac fe’u crynhowyd yn yr Adroddiad Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 21 Tachwedd 2019. Hysbyswyd yr ymgyngoreion gorfodol a restrir, ynghyd â phartïon eraill â buddiant, am gyfnod ymgynghori ar y cynigion drafft, a ddechreuodd ar 28 Tachwedd 2019 ac a ddaeth i ben ar 19 Chwefror 2020. Gofynnodd y Comisiwn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot arddangos copïau o’r adroddiad ochr yn ochr â hysbysiadau cyhoeddus yn yr ardal. Roedd cynigion drafft y Comisiwn yn cynnig newid i drefniant y wardiau etholiadol a fyddai wedi cyflawni gwelliant nodedig o ran lefel y cydraddoldeb etholiadol ar draws Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. 3. Roedd y Comisiwn yn cynnig cyngor â 60 o aelodau, sef gostyngiad o’r 64 aelod presennol. Roedd hyn yn arwain at gyfartaledd sirol arfaethedig o 1,767 o etholwyr fesul aelod. Roedd y Comisiwn yn cynnig 32 ward etholiadol, sef gostyngiad o’r 42 o wardiau etholiadol presennol. 4. Cynigiwyd i’r dangynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiant etholiadol) fod yn Resolfen a Thonna (21% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig). Ar hyn o bryd, mae’r dangynrychiolaeth fwyaf yng Ngorllewin Coed-ffranc (83% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig). 5. Cynigiwyd i’r orgynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiant etholiadol) fod yn Llangatwg a Gorllewin Coed-ffranc (24% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig). Ar hyn o bryd, mae’r orgynrychiolaeth fwyaf yng Nglyncorrwg (56% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig). 6. Cynigiodd y Comisiwn 21 ward aml-aelod yn y fwrdeistref sirol, gan gynnwys 14 ward etholiadol â dau aelod a saith ward etholiadol â thri aelod. 7. Ni chynigiodd y Comisiwn unrhyw newid i 15 ward etholiadol.

Tudalen 3

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pennod 3. CRYNODEB O’R ARGYMHELLION TERFYNOL • Derbyniodd y Comisiwn 151 o gynrychiolaethau gan: Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, chwe chyngor tref neu gymuned, Dr Dai Lloyd AS Gorllewin De Cymru, Bethan Sayed AS Gorllewin De Cymru, naw cynghorydd sir, tri chynghorydd cymuned, Grŵp Gweithredu Cymunedol Blaen-gwrach, Democratiaid Rhyddfrydol Aberafan a Chastell -nedd, y Grŵp Annibynnol a Democrataidd, Grŵp Plaid Cymru ac 127 aelod o’r cyhoedd (yn cynrychioli 152 o breswylwyr). • Ystyriodd y Comisiwn yr holl gynrychiolaethau hyn yn ofalus cyn iddo lunio ei argymhellion. Ceir crynodeb o’r cynrychiolaethau hynny yn Atodiad 5. • Mae’r Comisiwn yn argymell newid i drefniant y wardiau etholiadol a fydd yn cyflawni gwelliant nodedig o ran lefel y cydraddoldeb etholiadol ar draws Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. • Mae’r Comisiwn yn argymell cyngor â 60 aelod, sef gostyngiad o’r 64 aelod presennol. Byddai hyn yn arwain at gyfartaledd sirol argymelledig o 1,767 o etholwyr fesul aelod. • Mae’r Comisiwn yn cynnig 34 ward etholiadol, sef gostyngiad o’r 42 ward bresennol. • Bydd y dangynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiant etholiadol) yn ward etholiadol Blaen-gwrach a Gorllewin Glyn-nedd (25% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Ar hyn o bryd, mae’r dangynrychiolaeth fwyaf yng Ngorllewin Coed-ffranc (83% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig). • Bydd yr orgynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiant etholiadol) yn wardiau etholiadol Llangatwg a Gorllewin Coed-ffranc (24% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig). Ar hyn o bryd, mae’r orgynrychiolaeth fwyaf yng Nglyncorrwg (56% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig). • Mae’r Comisiwn yn argymell 20 ward aml-aelod yn y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys 14 ward etholiadol â dau aelod a chwe ward etholiadol â thri aelod. • Nid yw’r Comisiwn yn argymell unrhyw newid i 16 ward etholiadol. • Mae’r Comisiwn yn argymell gwneud newidiadau i’r ffiniau yng Nghymunedau , Coed- ffranc, a Phontardawe. Mae’r Comisiwn yn argymell gwneud newidiadau i’r ffiniau yn Ardal Cymuned . Mae’r Comisiwn wedi argymell newidiadau ôl-ddilynol i Gynghorau Cymuned Blaenhonddan, Coed-ffranc, Dyffryn Clydach a Phontardawe ac Ardal Cymuned Glyncorrwg o ganlyniad i’r newidiadau hyn i’r ffiniau.

Tudalen 4 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Mapiau Cryno 1. Ar y tudalennau dilynol, ceir mapiau thematig i ddangos y trefniadau presennol ac argymelledig a’u hamrywiannau oddi wrth y cyfartaledd sirol argymelledig. Mae’r ardaloedd hynny sy’n wyrdd o fewn ±10% o’r cyfartaledd sirol; y rhai sy’n felyn ac wedi’u llinellu’n felyn rhwng ±10% a ±25% o’r cyfartaledd sirol; y rhai sy’n oren ac wedi’u llinellu’n oren rhwng ±25% a ±50% o’r cyfartaledd sirol; a’r rhai sy’n goch dros ±50% o’r cyfartaledd sirol. 2. Fel y gellir gweld o’r mapiau hyn, mae’r trefniadau newydd yn darparu gwelliant nodedig o ran cydraddoldeb etholiadol ar draws y Fwrdeistref Sirol.

Tudalen 5 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 6

ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Tudalen 7

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pennod 4. ASESIAD Maint y Cyngor 1. Pennwyd maint y Cyngor ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot gan ein polisi a’n methodoleg ar feintiau cynghorau. Mae’r polisi hwn i’w weld yn ein dogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer [2016]. Mae’r fethodoleg yn pennu maint cyngor o 58 ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Ar hyn o bryd, mae maint y Cyngor, sef 64 o aelodau, chwe aelod uwchlaw nod y fethodoleg. 2. Arolygodd y Comisiwn y trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yng ngoleuni ein methodoleg, ac fe ystyriodd y cynrychiolaethau a wnaed. Am y rhesymau a roddir isod, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, rydym o’r farn y byddai Cyngor â 60 aelod yn briodol i gynrychioli Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Nifer yr etholwyr 3. Y niferoedd a ddangosir fel yr etholwyr ar gyfer 2018 a’r amcangyfrifon ar gyfer nifer yr etholwyr yn y flwyddyn 2023 yw’r rhai a gyflwynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae’r ffigurau rhagamcanol a gyflenwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn dangos cynnydd rhagamcanol yn nifer yr etholwyr yng Nghastell-nedd Port Talbot o 106,043 i 111,208. 4. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi darparu nifer amcangyfrifedig yr unigolion sy’n gymwys i bleidleisio ond nad ydynt ar y gofrestr etholwyr hefyd. Roedd hyn yn dangos amcangyfrif o 7,588 yn fwy o bobl sy’n gymwys i bleidleisio na nifer yr etholwyr yn 2018. 5. Mae’r Comisiwn yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru yn deddfu i ymestyn yr etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed a dinasyddion tramor, nad ydynt yn gymwys i bleidleisio ar hyn o bryd, yn etholiadau llywodraeth leol 2022. Mae Polisi’r Comisiwn ar Feintiau Cynghorau yn defnyddio’r boblogaeth gyfan i bennu maint cynghorau, a chynhwyswyd y ddau grŵp hyn yn yr ystyriaethau ynglŷn â Meintiau’r Cynghorau. 6. Er nad yw pobl ifanc 16 a 17 oed yn y ffigurau etholiadol presennol a ddarparwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, bydd yr unigolion hynny wedi’u cynnwys yn y ffigurau rhagamcanol a ddarparwyd gan y Cyngor. Ystyriwyd y ffigurau hyn yn ystyriaethau’r Comisiwn o’i argymhellion. 7. Mae dinasyddion tramor wedi’u cynnwys yn nata’r cyfrifiad a ddarparwyd gan ONS. Ystyriwyd y data hwn fel rhan o ystyriaethau’r Comisiwn o’i argymhellion. Cymhareb cynghorwyr i etholwyr 8. O ran nifer yr etholwyr fesul cynghorydd ym mhob ward etholiadol, ceir amrywiant eang oddi wrth y cyfartaledd sirol presennol, sef 1,657 o etholwyr fesul cynghorydd, yn amrywio o 53% yn is (782 o etholwyr) i 95% yn uwch (3,235 o etholwyr). Mae pennu maint y cyngor uchod yn arwain at gyfartaledd o 1,767 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan bob cynghorydd. 9. Yn ei ystyriaethau, ystyriodd y Comisiwn gymhareb yr etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr i’w hethol, gyda’r nod o gynnig newidiadau er mwyn sicrhau y bydd nifer yr etholwyr llywodraeth leol yr un fath, neu mor agos ag y bo modd, ym mhob ward yn y brif ardal. Ystyriodd y Comisiwn faint a chymeriad y Cyngor ac ystod eang o ffactorau eraill, gan gynnwys topograffeg leol, cysylltiadau ffordd a chysylltiadau lleol. Barn a chydbwysedd 10. Wrth lunio cynllun o drefniadau etholiadol, rhaid i’r Comisiwn ystyried nifer o faterion sydd wedi’u cynnwys yn y ddeddfwriaeth. Mae cynllun argymelledig y Comisiwn wedi rhoi pwyslais ar gyflawni Tudalen 8 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

gwelliannau o ran cydraddoldeb etholiadol, wrth gynnal cysylltiadau cymunedol, lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Mae’r Comisiwn wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wardiau etholiadol diwygiedig yn gyfuniad priodol o gymunedau a wardiau cymunedol presennol, ym marn y Comisiwn. 11. Mewn rhai ardaloedd, oherwydd nifer yr etholwyr mewn cymuned neu ward gymunedol, mae’r Comisiwn wedi ystyried cadw neu greu wardiau aml-aelod er mwyn cyflawni lefelau priodol o gydraddoldeb etholiadol. Mae’r mater hwn yn codi’n aml mewn ardaloedd trefol, lle mae nifer yr etholwyr yn rhy uchel i ffurfio ward ag un aelod. Gall godi mewn wardiau mwy gwledig hefyd, lle byddai creu wardiau ag un aelod yn arwain at amrywiannau sylweddol o ran cydraddoldeb etholiadol. Mae’r Comisiwn yn cydnabod yr arfer sefydledig o gael wardiau aml-aelod ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, ac adlewyrchir hyn yn argymhellion y Comisiwn. 12. Mae’r Comisiwn wedi edrych ar bob ardal ac mae’n fodlon y byddai’n anodd cyflawni trefniadau etholiadol sy’n cadw’r cyfuniad presennol o gymunedau a wardiau cymunedol heb gael effaith niweidiol ar un neu fwy o’r materion eraill y mae’n rhaid i’r Comisiwn eu hystyried. Enwau Wardiau Etholiadol 13. Mae’r Comisiwn yn enwi wardiau etholiadol yn hytrach na’r lleoedd o fewn y wardiau etholiadol arfaethedig. Wrth greu’r argymhellion terfynol hyn, mae’r Comisiwn wedi ystyried enwau’r holl wardiau etholiadol yn Gymraeg a Saesneg, lle bo hynny’n briodol. Ar gyfer yr argymhellion terfynol hyn, mae’r Comisiwn wedi ystyried enwau naill ai wardiau etholiadol neu gymunedau sy’n ymddangos mewn Gorchmynion, lle maent yn bodoli; y rhai a argymhellir gan Gomisiynydd y Gymraeg; ac yn y cynrychiolaethau a dderbyniodd. 14. Ymgynghorodd y Comisiwn â Chomisiynydd y Gymraeg ynghylch addasrwydd yr enwau ar eu ffurf ddrafft cyn cyhoeddi’r argymhellion terfynol hyn, gyda ffocws penodol ar yr enwau Cymraeg. Mae hyn yn cydnabod cyfrifoldeb Comisiynydd y Gymraeg i gynghori ar ffurfiau safonol enwau lleoedd Cymraeg a gwybodaeth arbenigol yn y maes. Rhaid nodi’n glir nad yw’r argymhellion hyn yn gynigion i newid unrhyw enwau lleoedd. Ym mhob argymhelliad, dynodir enw amgen argymelledig Comisiynydd y Gymraeg a, lle maent yn wahanol, yr argymhelliad penodol a pham y mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cynnig enw gwahanol i enw argymelledig y Comisiwn. Trefniadau Cynghorau Cymuned a Thref 15. Derbyniodd y Comisiwn nifer o gynrychiolaethau yn ystod cyfnod ymgynghori’r cynigion drafft, a oedd yn cynnwys camddealltwriaeth ynghylch cwmpas yr arolwg. Felly, hoffai’r Comisiwn amlygu bod yr arolwg hwn o’r trefniadau etholiadol yn ceisio gwneud gwelliannau i gynrychiolaeth etholiadol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae’r broses hon, oni bai lle y disgrifir yn benodol ym Mhennod 7, yn annibynnol ar unrhyw newidiadau i’r trefniadau yn ymwneud â chynghorau cymuned neu dref. Lle caiff cyfuniadau o gymunedau eu defnyddio i greu wardiau etholiadol unigol, bydd y cymunedau unigol dan sylw yn cadw trefniant presennol eu cyngor cymuned. Bydd y cynghorau hyn yn parhau’n annibynnol ar ôl canlyniad yr arolwg hwn, a bydd unrhyw braesept a gynhyrchir neu ased a gynhwysir mewn cyngor cymuned, yn parhau’n rhan o’r cyngor cymuned hwnnw. 16. Eir i’r afael â newidiadau i drefniadau cymunedol dan ran ar wahân o’r ddeddfwriaeth, fel rhan o arolwg cymunedol dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Tudalen 9

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pennod 5. YR ARGYMHELLION TERFYNOL 1. Caiff argymhellion y Comisiwn eu disgrifio’n fanwl yn y bennod hon. Ar gyfer pob cynnig newydd, mae’r adroddiad yn amlinellu: • Enw(au)’r wardiau etholiadol presennol sy’n ffurfio’r ward argymelledig yn gyfan gwbl neu’n rhannol; • Disgrifiad byr o’r wardiau etholiadol presennol o ran nifer yr etholwyr nawr a’r nifer ragamcanol, a chanran eu hamrywiant o’r cyfartaledd sirol argymelledig; • Y prif ddadleuon a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad drafft (os oedd rhai). Er nad yw’r holl gynrychiolaethau’n cael eu crybwyll yn yr adran hon, ystyriwyd pob argymhelliad a cheir crynodeb ohonynt yn Atodiad 5; • Barnau’r Comisiwn; • Cyfansoddiad y ward etholiadol argymelledig a’r enw argymelledig; • Map o’r ward etholiadol argymelledig (gweler yr allwedd ar dudalen 13).

Wardiau Etholiadol Cadwedig 2. Mae’r Comisiwn wedi ystyried trefniadau etholiadol y wardiau etholiadol presennol a chymhareb yr etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr i’w hethol. Argymhellir y dylid cadw’r trefniadau presennol yn y wardiau etholiadol canlynol. Mae’r enwau mewn teip trwm yn y rhestr isod yn dynodi’r wardiau etholiadol y mae eu daearyddiaeth ac enwau’r wardiau etholiadol wedi’u rhagnodi mewn Gorchmynion, ac y mae’r Comisiwn yn argymell eu cadw.

• Gogledd Coed-ffranc • Allt-wen • Godre'r Graig • Baglan • Dwyrain Castell-nedd • Dwyrain Llansawel • Gogledd Castell-nedd • Gorllewin Llansawel • De Castell-nedd • Bryn a Chwmafan • Rhos • Gogledd Bryn-coch • Dwyrain Sandfields • Llangatwg • Gorllewin Sandfields

3. Er bod y Comisiwn yn argymell cadw’r trefniadau daearyddol yn y wardiau etholiadol a restrir uchod, mae’n argymell cyflwyno enwau ward etholiadol newydd ar gyfer y canlynol (mae enwau a ddangosir mewn teip trwm trwy weddill yr adroddiad hwn yn dynodi enwau argymelledig y Comisiwn ar gyfer wardiau etholiadol): i) Argymhellir rhoi’r enw unigol Aberdulais i Aberdulais, ar sail yr enw a ddefnyddiwyd yn Etholiadau’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn 2017. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw ac ni chynigiodd unrhyw newid i enw argymelledig y Comisiwn. ii) Argymhellir rhoi’r enw unigol Allt-wen i Allt-wen, ar sail yr enw a ddefnyddiwyd yn Etholiadau’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn 2017. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw ac ni chynigiodd unrhyw newid i enw argymelledig y Comisiwn.

Tudalen 10

ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

iii) Argymhellir i East gadw’r enw Saesneg Briton Ferry East, ar sail Gorchymyn Castell- nedd Port Talbot (Cymunedau) 2016, ac y dylid rhoi iddi’r enw Cymraeg Dwyrain Llansawel, ar sail Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot (Cymunedau) 2016. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw ac ni chynigiodd unrhyw newid i enw argymelledig y Comisiwn. iv) Argymhellir y dylid rhoi’r enw Saesneg Briton Ferry West i Briton Ferry West, ar sail Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot (Cymunedau) 2016, ac y dylid rhoi iddi’r enw Cymraeg Gorllewin Llansawel, ar sail Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot (Cymunedau) 2016. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw ac ni chynigiodd unrhyw newid i enw argymelledig y Comisiwn. v) Argymhellir y dylid rhoi’r enw Saesneg Bryn and Cwmavon i Bryn and Cwmavon, ar sail Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot (Cymunedau) 2016, ac y dylid rhoi iddi’r enw Cymraeg Bryn a Chwmafan, ar sail Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot (Cymunedau) 2016. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw a chynigiodd newid i enw Saesneg argymelledig y Comisiwn (gweler paragraff 4 am ragor o fanylion). vi) Argymhellir y dylid rhoi’r enw Saesneg Bryn-coch North i Bryncoch North, ar sail Gorchymyn Castell-nedd (Cymunedau) 1982, ac y dylid rhoi iddi’r enw Cymraeg Gogledd Bryn-coch. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw ac ni chynigiodd unrhyw newid i enw argymelledig y Comisiwn. vii) Argymhellir y dylid rhoi’r enw Saesneg Cadoxton i Cadoxton, ar sail yr enw a ddefnyddiwyd yn Etholiadau’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn 2017, ac y dylid rhoi iddi’r enw Cymraeg Llangatwg. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw ac ni chynigiodd unrhyw newid i enw argymelledig y Comisiwn. viii) Argymhellir y dylid rhoi’r enw Saesneg North i Coedffranc North, ar sail yr enw a ddefnyddiwyd yn Etholiadau’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn 2017, ac y dylid rhoi iddi’r enw Cymraeg Gogledd Coed-ffranc. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw a chynigiodd newid i enw Saesneg argymelledig y Comisiwn (gweler paragraff 4 am ragor o fanylion). ix) Argymhellir y dylid rhoi’r enw Cymraeg Godre'r-graig a’r enw Saesneg Godre'r Graig i Godre’r Graig. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw a chynigiodd newid i enw argymelledig y Comisiwn (gweler paragraff 4 am ragor o fanylion). x) Argymhellir y dylid rhoi’r Saesneg East i Neath East, ar sail yr enw a ddefnyddiwyd yn Etholiadau’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn 2017, ac y dylid rhoi iddi’r enw Cymraeg Dwyrain Castell-nedd. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw ac ni chynigiodd unrhyw newid i enw argymelledig y Comisiwn. xi) Argymhellir y dylid rhoi’r enw Saesneg Neath North i Neath North, ar sail yr enw a ddefnyddiwyd yn Etholiadau’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn 2017, ac y dylid rhoi iddi’r enw Cymraeg Gogledd Castell-nedd. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw ac ni chynigiodd unrhyw newid i enw argymelledig y Comisiwn. xii) Argymhellir y dylid rhoi’r enw Saesneg Neath South i Neath South, ar sail yr enw a ddefnyddiwyd yn Etholiadau’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn 2017, ac y dylid rhoi iddi’r enw Cymraeg De Castell-nedd. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw ac ni chynigiodd unrhyw newid i enw argymelledig y Comisiwn. xiii) Argymhellir rhoi’r enw unigol Rhos i’r Rhos, ar sail yr enw a ddefnyddiwyd yn Etholiadau’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn 2017. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw ac ni chynigiodd unrhyw newid i enw argymelledig y Comisiwn.

Tudalen 11

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

xiv) Argymhellir y dylid rhoi’r enw Saesneg i Sandfields West, ac y dylid rhoi iddi’r enw Cymraeg Gorllewin Sandfields. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw ac ni chynigiodd unrhyw newid i enw argymelledig y Comisiwn. 4. Mae’r Comisiwn wedi ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ynghylch enwau’r wardiau etholiadol cadwedig, ac mae Comisiynydd y Gymraeg wedi argymell y newidiadau canlynol: i) Dylid rhoi’r enw Cymraeg Bryn and i Bryn and Cwmavon. Cwmafan yw’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, sef Rhestr o Enwau Lleoedd – A Gazetteer of Welsh Place-names (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Ni ddylid gwyro oddi wrth ei argymhellion heb reswm da. Os yw’r gwahaniaeth rhwng y ffurf Gymraeg a’r ffurf ‘Saesneg’ yn cynnwys un neu ddwy lythyren yn unig, argymhellir defnyddio ffurf unigol, gan roi blaenoriaeth i’r ffurf Gymraeg. ii) Dylid rhoi’r enw Saesneg Coed-ffranc North i Coedffranc North. Coed-ffranc yw’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, sef Rhestr o Enwau Lleoedd – A Gazetteer of Welsh Place-names (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Defnyddir y cysylltnod mewn enwau lleoedd Cymraeg er mwyn cynorthwyo’r ynganu drwy ddangos nad yw’r acen ar y sill olaf ond un. Mae’r acen ar y sill olaf yn yr enw hwn, felly caiff ei rhagflaenu gan gysylltnod. Os yw’r gwahaniaeth rhwng y ffurf Gymraeg a’r ffurf ‘Saesneg’ yn cynnwys un neu ddwy lythyren yn unig, argymhellir defnyddio ffurf unigol, gan roi blaenoriaeth i’r ffurf Gymraeg. iii) Dylid rhoi’r enw unigol Godre'r-graig i Godre’r Graig. Godre'r-graig yw’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, sef Rhestr o Enwau Lleoedd – A Gazetteer of Welsh Place-names (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Fel arfer, caiff enw anheddiad ei ysgrifennu fel un gair, er mwyn gwahaniaethu rhwng aneddiadau a nodweddion topograffig. Caiff y cysylltnod ei ddefnyddio mewn enwau lleoedd Cymraeg er mwyn helpu â’r ynganiad, trwy ddangos nad yw’r pwyslais yn disgyn ar y sill olaf ond un. Mae’r pwyslais yn disgyn ar y sill olaf yn yr enw hwn, felly caiff ei rhagflaenu gan gysylltnod ac nid oes angen defnyddio priflythyren yn y gair ‘graig’ yma. 5. Yn ei adroddiad Cynigion Drafft, roedd y Comisiwn yn cynnig y dylid cyfuno Cymunedau Bryn, Cwmafan a Phelenna i greu ward etholiadol â thri aelod. Yng ngoleuni’r cynrychiolaethau a dderbyniwyd, mae’r Comisiwn wedi argymell y dylid cadw’r trefniadau presennol ar gyfer ward etholiadol Bryn a Chwmafan. 6. Yn ei adroddiad Cynigion Drafft, roedd y Comisiwn yn cynnig newid i’r ffin, gan drosglwyddo 194 o etholwyr o Ogledd Coed-ffranc i Ddyffryn. Yng ngoleuni’r cynrychiolaethau a dderbyniwyd, mae’r Comisiwn wedi argymell y dylid cadw’r trefniadau presennol ar gyfer ward etholiadol Gogledd Coed-ffranc.

Tudalen 12 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Wardiau Etholiadol Argymelliedig 7. Ystyriodd y Comisiwn newidiadau i’r wardiau etholiadol sy’n weddill. Ceir manylion am y trefniadau etholiadol presennol yn Atodiad 2. Mae trefniadau argymelledig y Comisiwn i’w gweld yn Atodiad 3.

Tudalen 13

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Gwauncaegurwen a Brynaman Isaf 8. Mae ward etholiadol bresennol Gwaun-Cae-Gurwen yn cynnwys wardiau a Gwaun-Cae- Gurwen yng Nghymuned Gwaun-Cae-Gurwen. Mae ganddi 2,235 o etholwyr (rhagamcenir 2,235 o etholwyr) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 26% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 2,348 o bleidleiswyr cymwys. 9. Mae ward etholiadol bresennol Brynaman Isaf yn cynnwys wardiau Brynaman Isaf a Thai’r Gwaith yng Nghymuned Gwaun-Cae-Gurwen. Mae ganddi 1,031 o etholwyr (rhagamcenir 1,031 o etholwyr) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 42% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,063 o bleidleiswyr cymwys. 10. Yn ei gynigion drafft, roedd y Comisiwn yn cynnig y dylai Cymuned Gwaun-Cae-Gurwen ffurfio ward etholiadol. 11. Derbyniodd y Comisiwn un gynrychiolaeth yn ymateb i’r cynigion drafft gan Grŵp Plaid Cymru. 12. Roedd Grŵp Plaid Cymru yn cefnogi’r cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon oherwydd hunaniaeth gyffredin Dyffryn Aman. 13. Mae’r Comisiwn yn argymell y dylai Cymuned Gwaun-Cae-Gurwen ffurfio ward etholiadol â 3,266 o etholwyr (rhagamcenir 3,266 o etholwyr) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 8% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. 14. Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Gwauncaegurwen a Brynaman Isaf; a’r enw Saesneg Gwaun-Cae-Gurwen and . Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw Cymraeg arfaethedig ac yn argymell yr enw Saesneg Gwauncaegurwen and Lower Brynaman. Gwauncaegurwen yw’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, sef Rhestr o Enwau Lleoedd – A Gazetteer of Welsh Place-names (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Nid oes angen defnyddio cysylltnodau i helpu â’r ynganiad yn yr achos hwn. Yn yr un modd, Brynaman yw’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, sef Rhestr o Enwau Lleoedd – A Gazetteer of Welsh Place-names. Mae Brynaman yn enw Cymraeg ac nid yw’r llythyren -m- yn cael ei ddyblu mewn Cymraeg fodern. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw gynrychiolaethau yn ymwneud â’r enw. 15. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Gwauncaegurwen a Brynaman Isaf a’r enw Saesneg Gwaun-Cae-Gurwen and Lower Brynamman i’r ward etholiadol argymelledig. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw Cymraeg argymelledig ac yn argymell yr enw Saesneg Gwauncaegurwen and Lower Brynaman. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 16. Mae’r Comisiwn yn cytuno â’r argymhellion a wnaed gan y Cynghorydd Woolcock yn ystod y cyfnod ymgynghori cychwynnol, a’r gwelliant canlyniadol o ran cydraddoldeb etholiadol. Wrth ystyried yr ardal, nid yw’n ymddangos bod gan Gwauncaegurwen unrhyw gysylltiadau cyfathrebu â Chwmllynfell heb adael y fwrdeistref sirol. Mae’r Comisiwn o’r farn mai’r trefniadau hyn yw’r ffordd orau i fynd i’r afael â’r lefelau amhriodol presennol o amrywiant etholiadol. 17. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhelliad hwn yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 14 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Tudalen 15

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Cwmllynfell ac 18. Mae ward etholiadol bresennol yn cynnwys Cymuned Cwmllynfell. Mae ganddi 936 o etholwyr (rhagamcenir 997 o etholwyr) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 47% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 978 o bleidleiswyr cymwys. 19. Mae ward etholiadol bresennol Ystalyfera yn cynnwys ward Ystalyfera yng Nghymuned Ystalyfera. Mae ganddi 2,134 o etholwyr (rhagamcenir 2,314 o etholwyr) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 21% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 2,369 o bleidleiswyr cymwys. 20. Yn ei gynigion drafft, roedd y Comisiwn yn cynnig y dylid cyfuno Cymuned Cwmllynfell a ward Ystalyfera yng Nghymuned Ystalyfera i ffurfio ward etholiadol. 21. Derbyniodd y Comisiwn ddwy gynrychiolaeth yn ymateb i’r cynigion drafft mewn perthynas â’r ardal hon gan Grŵp Plaid Cymru a phreswylydd lleol. 22. Crybwyllodd Grŵp Plaid Cymru y byddai’n well ganddo pe byddai’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Ystalyfera yn cael eu cadw ond, pe na fyddai hynny’n bosibl, ei fod yn cefnogi’r cynigion drafft. 23. Roedd preswylydd lleol yn gwrthwynebu’r cynnig drafft ar gyfer yr ardal ac yn crybwyll bod gan Ystalyfera gysylltiadau lleol a chymunedol cryfach ag Ystradgynlais neu Ynysmeudwy. 24. Mae’r Comisiwn yn argymell y dylid cyfuno Cymuned Cwmllynfell â ward Ystalyfera yng Nghymuned Ystalyfera i ffurfio ward etholiadol â 3,070 o etholwyr (rhagamcenir 3,311 o etholwyr) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 13% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. 25. Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Cwmllynfell ac Ystalyfera a’r enw Saesneg Cwmllynfell and Ystalyfera. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw arfaethedig. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw gynrychiolaethau yn ymwneud â’r enw. 26. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Cwmllynfell ac Ystalyfera a’r enw Saesneg Cwmllynfell and Ystalyfera i’r ward etholiadol argymelledig. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw argymelledig. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 27. Ystyriodd y Comisiwn y cynrychiolaethau a dderbyniwyd. Fodd bynnag, nid oedd yn gallu ystyried cyfuno Cymuned Cwmllynfell ag Ystradgynlais gan nad yw’r newid hwn yn disgyn o fewn cwmpas yr arolwg hwn o drefniadau etholiadol Castell-nedd Port Talbot, gan fod Cymuned Ystradgynlais yn Sir Powys. Ystyriodd y Comisiwn gyfuno Cymuned Ystalyfera ag Ynysmeudwy hefyd; fodd bynnag, mae Ynysmeudwy yn ward yn Nhref Pontardawe, a byddai cyfuno’r ardal hon ag Ystalyfera yn rhannu Tref Pontardawe. Mae’r Comisiwn o’r farn, gan nad oes unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus ar ei Argymhellion Terfynol, y byddai’n amhriodol cynnig newid tebyg, a fyddai’n cynnwys ffiniau allanol cymunedau. Roedd y Comisiwn o’r farn y byddai’n well mynd i’r afael â’r newid hwn yn rhan o arolwg cymunedol dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. 28. Mae’r Comisiwn yn cytuno â’r argymhellion a wnaed gan y Cynghorydd Jones a’r Cynghorydd Woolcock yn ystod y cyfnod ymgynghori cychwynnol, a’r gwelliant canlyniadol o ran cydraddoldeb etholiadol. Mae’r Comisiwn yn cydnabod bod y ward etholiadol argymelledig hon yn cyfuno rhan o gymuned â wardiau â’i chymuned gyfagos. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn o’r farn mai’r trefniadau hyn yw’r ffordd orau i fynd i’r afael â’r lefelau amhriodol o amrywiant etholiadol, wrth gynnal ffiniau sy’n hawdd eu hadnabod.

Tudalen 16 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

29. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhelliad hwn yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 17

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 18

ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Mae’r dudalen hon yn wag yn fwriadol

Tudalen 19

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pontardawe a Threbannws 30. Mae ward etholiadol bresennol Pontardawe yn cynnwys wardiau Pontardawe a Rhyd-y-fro yn Nhref Pontardawe. Mae ganddi 4,155 o etholwyr (rhagamcenir 4,498 o etholwyr) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd, sydd 18% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 4,426 o bleidleiswyr cymwys. 31. Mae ward etholiadol bresennol Trebanos yn cynnwys ward Trebanos yn Nhref Pontardawe. Mae ganddi 1,101 o etholwyr (rhagamcenir 1,101 o etholwyr) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 38% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,147 o bleidleiswyr cymwys. 32. Yn ei gynigion drafft, roedd y Comisiwn yn cynnig y dylai Tref Pontardawe ffurfio ward etholiadol. 33. Derbyniodd y Comisiwn 13 o gynrychiolaethau yn ymateb i’r cynigion drafft mewn perthynas â’r ardal hon, gan: Gyngor Tref Pontardawe, Dr Dai Lloyd AS Gorllewin De Cymru, Bethan Sayed AS Gorllewin De Cymru, y Cynghorydd L Purcell (Pontardawe), y Cynghorydd R Phillips (Trebanos) a’r Cynghorydd Tref C Ford (Cyngor Tref Pontardawe), Grŵp Plaid Cymru a chwe aelod o’r cyhoedd. 34. Roedd Cyngor Tref Pontardawe, y Cynghorydd L Purcell (Pontardawe) a Grŵp Plaid Cymru yn awgrymu newid i’r ffin, gan drosglwyddo 282 o etholwyr o ward Pontardawe yn Nhref Pontardawe i ward Trebanos yn Nhref Pontardawe. 35. Roedd Bethan Sayed AS Gorllewin De Cymru a’r Cynghorydd R Phillips (Trebanos) yn awgrymu dau opsiwn, sef: i) yr hyn a ddisgrifir ym mharagraff 34. ii) newid amgen i’r ffin, gan drosglwyddo 555 o etholwyr o ward Pontardawe yn Nhref Pontardawe i ward Trebanos yn Nhref Pontardawe.

36. Roedd Dr Dai Lloyd AS Gorllewin De Cymru, y Cynghorydd Tref C Ford (Cyngor Tref Pontardawe) a chwe phreswylydd lleol yn gwrthwynebu’r cynnig drafft ar gyfer yr ardal, gan grybwyll y byddai’n well ganddynt gadw’r trefniadau presennol. Roeddent yn amlygu hunaniaeth unigryw Trebanos a’r ffaith y byddai cynrychiolaeth yr ardal honno’n cael ei lleihau. 37. Mae’r Comisiwn yn argymell cymhwyso’r ffiniau a ddisgrifir ym mharagraff 34, sy’n trosglwyddo 282 o etholwyr o ward drefol Pontardawe i ward drefol Trebanos yn Nhref Pontardawe i ffurfio ward etholiadol â 1,383 o etholwyr a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 22% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. 38. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Trebannws a’r enw Saesneg Trebanos i’r ward etholiadol argymelledig. Mae Panel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg wedi penderfynu gwrthwynebu’r ffurf argymelledig gyntaf yn y Rhestr o Enwau Lleoedd, sef Trebannws, ac wedi cytuno i ddilyn y ffurf argymelledig arall, sef Trebanos, ar sail tystiolaeth hanesyddol. Mae’r argymhelliad hwn yn galluogi defnyddio ffurf unigol yn y ddwy iaith. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 39. O ganlyniad, mae’r Comisiwn yn argymell y dylai gweddill ward drefol Pontardawe yn Nhref Pontardawe a ward drefol Rhyd-y-fro yn Nhref Pontardawe ffurfio ward etholiadol â 3,873 o etholwyr a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 10% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig.

Tudalen 20 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

40. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Pontardawe i’r ward etholiadol argymelledig. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw argymelledig. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 41. Mae’r Comisiwn yn cytuno â’r newid i’r ffin a awgrymwyd yn y cynrychiolaethau a dderbyniwyd gan Gyngor Tref Pontardawe, Bethan Sayed AS Gorllewin De Cymru, y Cynghorydd L Purcell (Pontardawe), y Cynghorydd R Phillips (Trebanos) a Grŵp Plaid Cymru. Ystyriodd y Comisiwn y newid amgen i’r ffin a awgrymwyd gan Bethan Sayed AS Gorllewin De Cymru a’r Cynghorydd R Phillips (Trebanos). Fodd bynnag, mae’r Comisiwn o’r farn mai’r trefniant a ddisgrifir ym mharagraff 34 yw’r ffordd orau i fynd i’r afael â’r lefelau amhriodol presennol o amrywiant etholiadol yn yr ardal, wrth gynnal ffiniau sy’n hawdd eu hadnabod. 42. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhelliad hwn yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. 43. Mae’r Comisiwn wedi cynnig newidiadau ôl-ddilynol i Dref Pontardawe hefyd, sydd i’w gweld ym Mhennod 7.

Tudalen 21 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 22 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Tudalen 23

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Y Creunant, a Blaendulais 44. Mae ward etholiadol bresennol Y Creunant yn cynnwys Cymuned y Creunant. Mae ganddi 1,508 o etholwyr (rhagamcenir 1,545 o etholwyr) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 15% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,548 o bleidleiswyr cymwys. 45. Mae ward etholiadol bresennol Onllwyn yn cynnwys Cymuned Onllwyn. Mae ganddi 886 o etholwyr (rhagamcenir 886 o etholwyr) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 50% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 934 o bleidleiswyr cymwys. 46. Mae ward etholiadol bresennol Blaendulais yn cynnwys Cymuned Blaendulais. Mae ganddi 1,567 o etholwyr (rhagamcenir 1,597 o etholwyr) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 11% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,663 o bleidleiswyr cymwys. 47. Yn ei gynigion drafft, roedd y Comisiwn yn cynnig y dylid cyfuno Cymunedau y Creunant, Onllwyn a Blaendulais i ffurfio ward etholiadol. 48. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw gynrychiolaethau yn ymateb i’r cynigion drafft mewn perthynas â’r ardal hon. 49. Mae’r Comisiwn yn argymell y dylid cyfuno Cymunedau y Creunant, Onllwyn a Blaendulais i ffurfio ward etholiadol â 3,961 o etholwyr (rhagamcenir 4,028 o etholwyr) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 12% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. 50. Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Y Creunant, Onllwyn a Blaendulais; a’r enw Saesneg , Onllwyn and Seven Sisters. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw arfaethedig. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw gynrychiolaethau yn ymwneud â’r enw. 51. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Y Creunant, Onllwyn a Blaendulais a’r enw Saesneg Crynant, Onllwyn and Seven Sisters i’r ward etholiadol argymelledig. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw argymelledig. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 52. Mae’r Comisiwn yn cytuno â’r argymhellion a wnaed gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Democratiaid Rhyddfrydol Aberafan a Chastell-nedd yn ystod y cyfnod ymgynghori cychwynnol, a’r gwelliant canlyniadol o ran cydraddoldeb etholiadol. Mae’r Comisiwn yn cydnabod bod gan Y Creunant a Blaendulais lefelau priodol o gydraddoldeb etholiadol; fodd bynnag, nid yw’n briodol i Onllwyn gadw lefel mor sylweddol o orgynrychiolaeth. Mae’r Comisiwn o’r farn mai’r trefniant hwn yw’r ffordd orau i fynd i’r afael â’r lefelau amhriodol presennol o amrywiant etholiadol yn yr ardal, wrth gadw ffiniau sy’n hawdd eu hadnabod. 53. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhelliad hwn yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 24 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Tudalen 25

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Blaen-gwrach a Glyn-nedd 54. Mae ward etholiadol bresennol Blaen-gwrach yn cynnwys Cymuned Blaen-gwrach a ward West Central yng Nghymuned Glyn-nedd. Mae ganddi 1,468 o etholwyr (rhagamcenir 1,501 o etholwyr) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 17% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,614 o bleidleiswyr cymwys. 55. Mae ward etholiadol bresennol Glyn-nedd yn cynnwys wardiau Central, East a West yn Nhref Glyn-nedd. Mae ganddi 2,572 o etholwyr (rhagamcenir 2,639 o etholwyr) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd, sydd 27% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 2,742 o bleidleiswyr cymwys. 56. Yn ei gynigion drafft, roedd y Comisiwn yn argymell y dylid cyfuno Cymunedau Blaen-gwrach a Glyn-nedd i ffurfio ward etholiadol. 57. Derbyniodd y Comisiwn 123 o gynrychiolaethau yn ymateb i’r cynigion drafft mewn perthynas â’r ardal hon, gan: Dr Dai Lloyd AS Gorllewin De Cymru, Bethan Sayed AS Gorllewin De Cymru, y Cynghorydd C Edwards (Blaen-gwrach), y Cynghorydd D Morgan (Glyn-nedd), y Cynghorydd Cymuned A Doherty (Cyngor Cymuned Blaen-gwrach), y Cynghorydd Cymuned M Mortimore (Cyngor Cymuned Blaen-gwrach), Grŵp Gweithredu Cymuned Blaen-gwrach, Grŵp Plaid Cymru a 115 o aelodau’r cyhoedd (yn cynrychioli 140 o breswylwyr), a oedd yn gwrthwynebu’r cynigion drafft. 58. Roedd un aelod o’r cyhoedd yn cefnogi’r cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon. 59. Roedd Bethan Sayed AS Gorllewin De Cymru, y Cynghorydd C Edwards (Blaen-gwrach) fel y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol a Chadeirydd Cyngor Cymuned Blaen-gwrach, y Cynghorydd D Morgan (Glyn-nedd), y Cynghorydd Cymuned A Doherty (Cyngor Cymuned Blaen-gwrach), y Cynghorydd Cymuned M Mortimore (Cyngor Cymuned Blaen-gwrach) a Grŵp Plaid Cymru yn gwrthwynebu’r Cynnig Drafft ac yn crybwyll eu bod yn credu y byddai datblygiadau tai yn cael eu hargymell yn yr ardal yn y dyfodol. Gwnaethant amlygu fod Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo i fuddsoddi yng nghymunedau’r Cymoedd, a chrybwyll y dylid gwella cynrychiolaeth etholiadol yng nghymunedau’r cymoedd felly. Gwnaethant amlygu’r gwelliant i gysylltiadau cyfathrebu yn yr ardal hefyd (ffordd Blaenau’r Cymoedd yr A465 a’r trac profi rheilffyrdd yn Onllwyn). Roeddent yn cydnabod bod ward etholiadol bresennol Blaen-gwrach yn cynnwys ward gymunedol West Central Glyn-nedd, ond yn mynegi’r farn y byddai cyfuno wardiau etholiadol presennol Blaen-gwrach a Glyn-nedd yn arwain at golli hunaniaeth gymunedol. 60. Roedd Dr Dai Lloyd AS Gorllewin De Cymru yn annog y Comisiwn i ailystyried y cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon. Crybwyllodd yr AS, yn ei farn ef, y byddai cyfuno wardiau etholiadol presennol Blaen-gwrach a Glyn-nedd yn arwain at golli hunaniaeth gymunedol Blaen-gwrach ac yn colli cynrychiolaeth i’r preswylwyr. 61. Mae’r Comisiwn yn argymell y dylid cyfuno Cymuned Blaen-gwrach â wardiau West a West Central yn Nhref Glyn-nedd i ffurfio ward etholiadol â 2,206 o etholwyr (rhagamcenir 2,239 o etholwyr) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 25% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. 62. Derbyniodd y Comisiwn 110 o gynrychiolaethau gan Dr Dai Lloyd AS Gorllewin De Cymru, y Cynghorydd C Edwards (Blaen-gwrach) a 108 o aelodau’r cyhoedd (yn cynrychioli 128 o breswylwyr) yn ymwneud â’r enw. Roedd y cynrychiolaethau hyn yn gwrthwynebu’r cysylltnod yn yr enw Cymraeg arfaethedig, sef Blaen-gwrach. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

Tudalen 26

ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

63. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg a Gorllewin Glyn-nedd a’r enw Saesneg Blaengwrach and West i’r ward etholiadol argymelledig. Gwnaeth Comisiynydd y Gymraeg y sylwadau canlynol: Blaen-gwrach yw’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, sef Rhestr o Enwau Lleoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Ni ddylid gwyro oddi wrth ei argymhellion heb reswm da. Caiff y cysylltnod ei ddefnyddio mewn enwau lleoedd Cymraeg er mwyn helpu â’r ynganiad, trwy ddangos nad yw’r pwyslais yn disgyn ar y sill olaf ond un. Mae’r pwyslais yn disgyn ar y sill olaf yn yr enw hwn, felly caiff ei rhagflaenu gan gysylltnod. 64. O ganlyniad, mae’r Comisiwn yn argymell y dylid cyfuno wardiau Central ac East yng Nghymuned Glyn-nedd i ffurfio ward etholiadol â 1,834 o etholwyr (rhagamcenir 1,901 o etholwyr) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 4% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. 65. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Canol a Dwyrain Glyn-nedd a’r enw Saesneg Glynneath Central and East i’r ward etholiadol argymelledig. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw argymelledig. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 66. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y lefel uchel o amrywiant oddi wrth y cyfartaledd sirol argymelledig yn ward etholiadol argymelledig Blaengwrach a Gorllewin Glyn-nedd; fodd bynnag, mae’r Comisiwn o’r farn mai’r trefniant argymelledig yw’r ffordd orau i fynd i’r afael â’r gwrthwynebiad cryf i ward etholiadol arfaethedig Blaengwrach a Glyn-nedd a dderbyniwyd yn y cynrychiolaethau, wrth gynnal y lefelau presennol o amrywiant etholiadol yn ward etholiadol Glyn-nedd. 67. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhelliad hwn yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 27

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 28 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Tudalen 29 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Resol fen a Thonna 68. Mae ward etholiadol bresennol Resolfen y cynnwys Cymunedau Clyne a Melincourt, a Resolfen. Mae ganddi 2,351 o etholwyr (rhagamcenir 2,351 o etholwyr) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 33% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 2,489 o bleidleiswyr cymwys. 69. Mae ward etholiadol bresennol Tonna yn cynnwys Cymuned Tonna. Mae ganddi 1,913 o etholwyr (rhagamcenir 2,121 o etholwyr) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 8% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 2,059 o bleidleiswyr cymwys. 70. Yn ei gynigion drafft, roedd y Comisiwn yn argymell y dylai Cymunedau Clyne a Melincourt, a Resolfen a Thonna ffurfio ward etholiadol. 71. Derbyniodd y Comisiwn bedair cynrychiolaeth yn ymateb i’r cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon, gan: Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Cymuned Tonna, Democratiaid Rhyddfrydol Aberafan a Chastell-nedd, a’r Grŵp Annibynnol a Democrataidd. 72. Gofynnodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot pe byddai modd rhoi ystyriaeth bellach i gadw’r trefniadau presennol ar gyfer Resolfen a Thonna. Crybwyllodd fod y ddwy gymuned hyn yn gymunedau gwahanol, ac y dylai hunaniaeth cymunedau gael blaenoriaeth dros greu wardiau etholiadol er mwyn sicrhau bod cydraddoldeb etholiadol 25% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 73. Amlygodd Democratiaid Rhyddfrydol Aberafan a Chastell-nedd eu cynrychiolaeth wreiddiol, a oedd yn mynegi eu barn y dylai’r trefniadau presennol barhau fel y maent. Roeddent yn awgrymu pe byddai’r cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon yn cael eu hargymell, y dylai’r ward etholiadol arfaethedig gael ei chynrychioli gan dri aelod. 74. Roedd y Grŵp Annibynnol a Democrataidd yn cefnogi’r cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon. 75. Roedd Cyngor Cymuned Tonna yn gwrthwynebu’r cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon, gan grybwyll y dylai’r trefniadau presennol barhau fel y maent. Crybwyllasant fod yr amrywiant etholiadol yn ward etholiadol bresennol Tonna 8% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig, a’u bod yn cefnogi’r gynrychiolaeth a wnaed gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. 76. Mae’r Comisiwn yn argymell y dylai Cymunedau Clyne a Melincourt, Resolfen a Thonna ffurfio ward etholiadol â 4,264 o etholwyr (rhagamcenir 4,472 o etholwyr) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 21% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. 77. Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Resolfen a Thonna, a’r enw Saesneg and Tonna. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw Cymraeg a gynigiwyd gan y Comisiwn ac yn argymell yr enw Saesneg Resolfen and Tonna. Cafodd y Comisiwn un gynrychiolaeth yn ymwneud â’r enw gan Gyngor Cymuned Tonna, a oedd yn crybwyll mai’r Tonnau yw’r enw Cymraeg ar gyfer Tonna. 78. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Resolfen a Thonnau a’r enw Saesneg Resolven and Tonna i’r ward etholiadol argymelledig. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn argymell yr enw Cymraeg Resolfen a Thonna, a’r enw Saesneg Resolfen and Tonna. Resolfen yw’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, sef Rhestr o Enwau Lleoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Ni ddylid gwyro oddi wrth ei argymhellion heb reswm da. Os yw’r gwahaniaeth rhwng y ffurf Gymraeg a’r ffurf ‘Saesneg’ yn cynnwys un neu ddwy lythyren yn unig, argymhellir defnyddio ffurf unigol, gan roi blaenoriaeth i’r ffurf Gymraeg. Tonna yw’r ffurf a roddir yn yr un cyfeirlyfr. Mae’r ffurf hon yn Tudalen 30 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

cynrychioli’r ynganiad lleol ac yn galluogi defnyddio ffurf unigol yn y ddwy iaith. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 79. Mae’r Comisiwn o’r farn mai’r trefniant hwn yw’r ffordd orau i fynd i’r afael â’r lefel amhriodol o amrywiant etholiadol yn ward etholiadol Resolfen. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r ward etholiadol argymelledig yn darparu ward etholiadol effeithiol a fyddai’n adeiladu ar y cysylltiadau cyfathrebu sefydledig yn yr ardal. 80. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhelliad hwn yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 31 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 32 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Mae’r dudalen hon yn wag yn fwriadol

Tudalen 33 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Cymer, Glyncorrwg a Gwynfi 81. Mae ward etholiadol bresennol Cymer yn cynnwys rhan o Ardal Gymunedol Glyncorrwg. Mae ganddi 1,999 o etholwyr (rhagamcenir 1,999 o etholwyr) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 13% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 2,219 o bleidleiswyr cymwys. 82. Mae ward etholiadol bresennol Glyncorrwg yn cynnwys rhan o Ardal Gymunedol Glyncorrwg. Mae ganddi 782 o etholwyr (rhagamcenir 782 o etholwyr) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 56% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 834 o bleidleiswyr cymwys. 83. Mae ward etholiadol bresennol Gwynfi yn cynnwys rhan o Ardal Gymunedol Glyncorrwg. Mae ganddi 906 o etholwyr (rhagamcenir 906 o etholwyr) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 49% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,032 o bleidleiswyr cymwys. 84. Yn ei gynigion drafft, roedd y Comisiwn yn cynnig y dylid cyfuno ardal Croeserw yn ward etholiadol Cymer â ward etholiadol Gwynfi i ffurfio ward etholiadol. O ganlyniad, roedd y Comisiwn yn cynnig y dylid cyfuno gweddill ward Cymer â ward etholiadol Glyncorrwg i ffurfio ward etholiadol 85. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw gynrychiolaethau yn ymateb i’r cynigion drafft. 86. Mae’r Comisiwn yn argymell y dylid cyfuno ardal Croeserw (fel y dangosir ar dudalen 36) â ward etholiadol Gwynfi i ffurfio ward etholiadol â 1,895 o etholwyr a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 7% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 87. Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Gwynfi a Chroeserw; a’r enw Saesneg Gwynfi and Croeserw. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enwau arfaethedig. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw gynrychiolaethau yn ymwneud â’r enw. 88. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Gwynfi a Chroeserw a’r enw Saesneg Gwynfi and Croeserw i’r ward etholiadol argymelledig. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw argymelledig. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 89. O ganlyniad, mae’r Comisiwn yn argymell y dylid cyfuno’r hyn sy’n weddill o ward Cymer â ward etholiadol Glyncorrwg i ffurfio ward etholiadol â 1,792 o etholwyr a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 1% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. 90. Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Cymer a Glyncorrwg; a’r enw Saesneg Cymer and Glyncorrwg. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enwau arfaethedig. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw gynrychiolaethau yn ymwneud â’r enw. 91. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Cymer a Glyncorrwg a’r enw Saesneg Cymer and Glyncorrwg i’r ward etholiadol argymelledig. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw argymelledig. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 92. Mae’r Comisiwn yn cytuno â’r argymhellion a wnaed gan un o breswylwyr Blaengwynfi yn ystod y cyfnod ymgynghori cychwynnol, a’r gwelliant canlyniadol o ran cydraddoldeb etholiadol. Wrth ystyried yr ardal, mae’r Comisiwn o’r farn mai’r trefniadau hyn yw’r ffordd orau i fynd i’r afael â’r lefelau amhriodol o amrywiant etholiadol a’u bod yn cadw wardiau ag un aelod.

Tudalen 34 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

93. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhelliad hwn yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 35 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 36 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Tudalen 37 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Cimla a Phelenna 94. Mae ward etholiadol bresennol Cimla yn cynnwys wardiau Cefn Saeson a Chrynallt yn Nhref Castell-nedd. Mae ganddi 3,108 o etholwyr (rhagamcenir 3,117 o etholwyr) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd, sydd 12% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 3,153 o bleidleiswyr cymwys. 95. Mae ward etholiadol bresennol yn cynnwys Cymuned Pelenna. Mae ganddi 879 o etholwyr (rhagamcenir 904 o etholwyr) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 50% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 944 o bleidleiswyr cymwys. 96. Yn ei gynigion drafft, roedd y Comisiwn yn cynnig y dylid cyfuno Cymunedau Bryn, Cwmafan a Phelenna i ffurfio ward etholiadol. 97. Derbyniodd y Comisiwn chwe chynrychiolaeth yn ymateb i’r cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon, gan: Gyngor Cymuned Pelenna, y Cynghorydd J Hurley (Pelenna), y Cynghorydd J Warman (Cimla), Democratiaid Rhyddfrydol Aberafan a Chastell-nedd, y Grŵp Annibynnol a Democrataidd, a Grŵp Plaid Cymru. 98. Roedd y Cynghorydd J Warman (Cimla) yn cefnogi cynrychiolaeth gychwynnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, sef y dylai’r trefniadau presennol ar gyfer ward etholiadol Cimla barhau fel y maent. Roedd y cynghorydd yn gwrthwynebu’r cynnig y dylid cyfuno ward etholiadol bresennol Cimla â ward etholiadol bresennol Pelenna. Crybwyllodd y cynghorydd ei fod o’r farn y byddai hyn yn peri dryswch i etholwyr, a bod gan Cimla gysylltiadau agos â Thref Castell-nedd yn hytrach na Phelenna. 99. Roedd Democratiaid Rhyddfrydol Aberafan a Chastell-nedd a’r Cynghorydd J Hurley (Pelenna) yn gwrthwynebu’r cynigion drafft, ac yn awgrymu y dylid cyfuno ward etholiadol bresennol Cimla â ward etholiadol bresennol Pelenna. Gwnaethant amlygu’r diffyg cysylltiadau cymunedol presennol rhwng Pelenna a Bryn a Chwmafan. 100. Roedd Cyngor Cymuned Pelenna yn gwrthwynebu’r cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon ac yn awgrymu y gellid newid y ffin rhwng Cymunedau Pelenna a Chwmafan. Ystyriodd y Comisiwn newid y ffin; fodd bynnag, ni fyddai nifer yr etholwyr a fyddai’n cael eu trosglwyddo o Gymuned Bryn i Belenna yn gwella’r amrywiant etholiadol yn ddigon sylweddol i alluogi Pelenna i barhau’n ward un-aelod. 101. Crybwyllodd y Grŵp Annibynnol a Democrataidd a Grŵp Plaid Cymru y byddai’n well ganddynt pe byddai Pelenna yn parhau’n ward unigol. Gwnaethant fynegi pe na fyddai hynny’n bosibl, y byddant yn cefnogi cyfuno wardiau etholiadol presennol Pelenna a Chimla, gan y byddai’r gymuned leol yn rhoi mân flaenoriaeth i hynny, fel y crybwyllwyd yng nghynrychiolaeth gychwynnol y cyngor cymuned. 102. Mae’r Comisiwn yn argymell y dylid cyfuno Cymuned Pelenna â wardiau Cefn Saeson a Chrynallt yn Nhref Castell-nedd i ffurfio ward etholiadol â 3,987 o etholwyr (rhagamcenir 4,021 o etholwyr) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 13% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. 103. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Cimla a Phelenna a’r enw Saesneg Cimla and Pelenna i’r ward etholiadol argymelledig. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw argymelledig. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 104. Mae’r Comisiwn o’r farn mai’r trefniadau hyn yw’r ffordd orau i fynd i’r afael â’r lefel amhriodol o amrywiant etholiadol yn ward etholiadol Pelenna, wrth fodloni mwyafrif y cynrychiolaethau a dderbyniwyd. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y cysylltiadau cymunedol sy’n bodoli rhwng Pelenna, Tudalen 38 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Cimla a Thref Castell-nedd, ac mae o’r farn y byddai’r ward etholiadol argymelledig yn darparu ward etholiadol effeithiol a fyddai’n adeiladu ar y cysylltiadau cyfathrebu sefydledig yn yr ardal. 105. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhelliad hwn yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 39 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 40 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Mae’r dudalen hon yn wag yn fwriadol

Tudalen 41 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Aberafan 106. Mae ward etholiadol bresennol Aberafan yn cynnwys Cymunedau Aberafan a Baglan Moors. Mae ganddi 4,072 o etholwyr (rhagamcenir 4,133 o etholwyr) a gynrychiolir gan dri chynghorydd, sydd 23% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 4,542 o bleidleiswyr cymwys. 107. Yn ei gynigion drafft, roedd y Comisiwn yn cynnig y dylai Cymunedau Aberafan a Baglan Moors ffurfio ward etholiadol a gynrychiolir gan ddau gynghorydd (sef un cynghorydd yn llai). 108. Derbyniodd y Comisiwn un gynrychiolaeth yn ymateb i’r cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon gan Grŵp Plaid Cymru. 109. Mynegodd Grŵp Plaid Cymru ei wrthwynebiad i’r gostyngiad arfaethedig yn nifer yr aelodau a fydd yn cynrychioli’r ardal hon. Amlygodd y lefelau amddifadedd a natur drefol yr ardal, a gofynnodd i’r Comisiwn ailystyried y cynnig i leihau cynrychiolaeth ar gyfer y ward hon. 110. Mae’r Comisiwn yn argymell y dylai Cymunedau Aberafan a Baglan Moors ffurfio ward etholiadol â 4,072 o etholwyr (rhagamcenir 4,133 o etholwyr) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 15% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. 111. Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Aberafan; a’r enw Saesneg . Mae Comisiynydd y Gymraeg yn argymell yr enw unigol Aberafan. Aberafan yw’r ffurf a argymhellir yn y gwaith cyfeiriol safonol cenedlaethol, sef Rhestr o Enwau Lleoedd – A Gazetteer of Welsh Place-names (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Os yw’r gwahaniaeth rhwng y ffurf Gymraeg a’r ffurf Saesneg yn cynnwys un neu ddwy lythyren yn unig, argymhellir defnyddio ffurf unigol, gan roi blaenoriaeth i’r ffurf Gymraeg. 112. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Aberafan a’r enw Saesneg Aberavon i’r ward etholiadol argymelledig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn argymell yr enw unigol Aberafan. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 113. Mae’r Comisiwn yn cytuno â’r gynrychiolaeth a wnaed gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Aberafan a Chastell-nedd yn ystod y cyfnod ymgynghori cychwynnol. Mae’r Comisiwn o’r farn bod y trefniant hwn yn gwella lefel yr amrywiant etholiadol. 114. Ystyriodd y Comisiwn y gynrychiolaeth a wnaed gan Grŵp Plaid Cymru yn ystod y cyfnod ymgynghori drafft i gadw’r trefniadau presennol. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn o’r farn bod y trefniant argymelledig yn gwella lefel yr amrywiant etholiadol. 115. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhelliad hwn yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 42 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Tudalen 43 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Port Talbot 116. Mae ward etholiadol bresennol Port Talbot yn cynnwys Cymuned Port Talbot. Mae ganddi 4,177 o etholwyr (rhagamcenir 4,296 o etholwyr) a gynrychiolir gan dri chynghorydd, sydd 21% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 4,597 o bleidleiswyr cymwys. 117. Yn ei gynigion drafft, roedd y Comisiwn yn cynnig y dylai Cymuned Port Talbot ffurfio ward etholiadol a gynrychiolir gan ddau gynghorydd (sef un cynghorydd yn llai). 118. Derbyniodd y Comisiwn un gynrychiolaeth yn ymateb i’r cynnig drafft ar gyfer yr ardal hon gan un o breswylwyr Port Talbot. 119. Roedd y preswylydd o Bort Talbot yn gwrthwynebu’r gostyngiad arfaethedig yn nifer yr aelodau sy’n cynrychioli ward etholiadol Port Talbot. 120. Mae’r Comisiwn yn argymell y dylai Cymuned Port Talbot ffurfio ward etholiadol â 4,177 o etholwyr (rhagamcenir 4,296 o etholwyr) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 18% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. 121. Cynigiodd y Comisiwn yr enw unigol Port Talbot. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw arfaethedig. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw gynrychiolaethau yn ymwneud â’r enw. 122. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Port Talbot i’r ward etholiadol argymelledig. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw argymelledig. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 123. Mae’r Comisiwn yn cytuno â’r argymhellion a wnaed gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Aberafan a Chastell-nedd yn ystod y cyfnod ymgynghori cychwynnol, a’r gwelliant canlyniadol o ran cydraddoldeb etholiadol. Ystyriodd y Comisiwn y gynrychiolaeth a wnaed gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ystod y cyfnod ymgynghori cychwynnol, a’r gynrychiolaeth gan un o breswylwyr Port Talbot yn ystod y cyfnod ymgynghori drafft i gadw’r trefniadau presennol. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn o’r farn bod y trefniant argymelledig yn gwella lefelau’r amrywiant etholiadol. 124. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhelliad hwn yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 44 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Tudalen 45

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Margam a Thai-bach 125. Mae ward etholiadol bresennol yn cynnwys Cymunedau Margam a Gweunydd Margam. Mae ganddi 2,275 o etholwyr (rhagamcenir 2,598 o etholwyr) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 29% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 2,419 o bleidleiswyr cymwys. 126. Mae ward etholiadol bresennol Tai-bach yn cynnwys Cymuned Tai-bach. Mae ganddi 3,613 o etholwyr (rhagamcenir 3,613 o etholwyr) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd, sydd 2% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 3,943 o bleidleiswyr cymwys. 127. Yn ei gynigion drafft, roedd y Comisiwn yn cynnig y dylid cyfuno Cymunedau Margam, Gweunydd Margam a Thai-bach i ffurfio ward etholiadol. 128. Derbyniodd y Comisiwn un gynrychiolaeth yn ymateb i’r cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. 129. Gofynnodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot pe gellid rhoi ystyriaeth bellach i gadw’r trefniadau presennol ar gyfer Margam a Thai-bach. Crybwyllodd fod y rhain yn ddwy gymuned ar wahân, ac y dylai hunaniaethau’r cymunedau gael blaenoriaeth dros greu wardiau etholiadol er mwyn sicrhau nad yw’r amrywiant etholiadol 25% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol argymelledig. 130. Mae’r Comisiwn yn argymell y dylid cyfuno Cymunedau Margam, Gweunydd Margam a Thai-bach i ffurfio ward etholiadol â 5,888 o etholwyr (rhagamcenir 6,211 o etholwyr) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan dri chynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 11% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. 131. Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Margam a Thai-bach; a’r enw Saesneg Margam and Tai-bach. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw arfaethedig. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw gynrychiolaethau yn ymwneud â’r enw. 132. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Margam a Thai-bach a’r enw Saesneg Margam and Tai-bach i’r ward etholiadol argymelledig. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw argymelledig. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 133. Ystyriodd y Comisiwn y gynrychiolaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn o’r farn mai’r trefniant argymelledig yw’r ffordd orau i fynd i’r afael â’r lefel amhriodol o amrywiant etholiadol yn ward etholiadol Margam. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r ward etholiadol argymelledig yn darparu ward etholiadol effeithiol a fyddai’n adeiladu ar y cysylltiadau cyfathrebu a chymdeithasol sefydledig yn yr ardal. 134. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhelliad hwn yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 46

ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Tudalen 47

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Canol Coed-ffranc a Gorllewin Coed-ffranc 135. Mae ward etholiadol bresennol Coed-ffranc Ganol yn cynnwys wardiau Canol a Dwyrain Canol yn Nhref Coed-ffranc. Mae ganddi 2,812 o etholwyr (rhagamcenir 2,837 o etholwyr) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd, sydd 20% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 3,212 o bleidleiswyr cymwys. 136. Mae ward etholiadol bresennol Gorllewin Coed-ffranc yn cynnwys wardiau Gorllewin a Gorllewin Canol yn Nhref Coed-ffranc. Mae ganddi 3,235 o etholwyr (rhagamcenir 4,918 o etholwyr) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 83% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 2,755 o bleidleiswyr cymwys. 137. Yn ei gynigion drafft, roedd y Comisiwn yn cynnig y dylid cyfuno ardal o Sgiwen â wardiau Canol a Dwyrain Canol yn Nhref Coed-ffranc i ffurfio ward etholiadol â 3,358 o etholwyr. 138. Derbyniodd y Comisiwn un gynrychiolaeth yn ymateb i’r cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon gan Gyngor Tref Coed-ffranc. 139. Roedd Cyngor Tref Coed-ffranc yn cefnogi’r newid arfaethedig i’r ffin rhwng Coed-ffranc Ganol a Gorllewin Coed-ffranc. 140. Mae’r Comisiwn yn argymell y dylid cyfuno ardal o Sgiwen (fel y dangosir ar dudalen 50) â wardiau Canol a Dwyrain Canol yn Nhref Coed-ffranc i ffurfio ward etholiadol â 3,358 o etholwyr a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 5% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. 141. Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Canol Coed-ffranc a’r enw Saesneg Coedffranc Central. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw Cymraeg arfaethedig ac yn argymell yr enw Saesneg Coed-ffranc Central. Coed-ffranc yw’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, sef Rhestr o Enwau Lleoedd – A Gazetteer of Welsh Place-names (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Caiff y cysylltnod ei ddefnyddio mewn enwau lleoedd Cymraeg er mwyn helpu â’r ynganiad, trwy ddangos nad yw’r pwyslais yn disgyn ar y sill olaf ond un. Mae’r pwyslais yn disgyn ar y sill olaf yn yr enw hwn, felly caiff ei rhagflaenu gan gysylltnod. Os yw’r gwahaniaeth rhwng y ffurf Gymraeg a’r ffurf Saesneg yn cynnwys un neu ddwy lythyren yn unig, argymhellir ffurf unigol, gan roi blaenoriaeth i’r ffurf Gymraeg. 142. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Canol Coed-ffranc a’r enw Saesneg Coedffranc Central i’r ward etholiadol argymelledig. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw Cymraeg arfaethedig ac yn argymell yr enw Saesneg Coed-ffranc Central. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 143. O ganlyniad, mae’r Comisiwn yn cynnig y dylai’r hyn sy’n weddill o ward Gorllewin Canol a ward Gorllewin yn Nhref Coed-ffranc ffurfio ward etholiadol â 2,689 o etholwyr a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 24% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. 144. Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Gorllewin Coed-ffranc a’r enw Saesneg Coedffranc West. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw Cymraeg arfaethedig ac yn argymell yr enw Saesneg Coed-ffranc West. Coed-ffranc yw’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, sef Rhestr o Enwau Lleoedd – A Gazetteer of Welsh Place-names (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Caiff y cysylltnod ei ddefnyddio mewn enwau lleoedd Cymraeg er mwyn helpu â’r ynganiad, trwy ddangos nad yw’r pwyslais yn disgyn ar y sill olaf ond un. Mae’r pwyslais yn disgyn ar y sill olaf yn yr enw hwn, felly caiff ei rhagflaenu gan gysylltnod. Os yw’r gwahaniaeth rhwng y ffurf Gymraeg a’r ffurf Saesneg

Tudalen 48

ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

yn cynnwys un neu ddwy lythyren yn unig, argymhellir ffurf unigol, gan roi blaenoriaeth i’r ffurf Gymraeg. 145. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Gorllewin Coed-ffranc a’r enw Saesneg Coedffranc West i’r ward etholiadol argymelledig. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw Cymraeg arfaethedig ac yn argymell yr enw Saesneg Coed-ffranc West. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 146. Mae’r Comisiwn yn cytuno â’r newid a awgrymwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Democratiaid Rhyddfrydol Aberafan a Chastell-nedd a Chyngor Tref Coed-ffranc yn eu cynrychiolaethau cychwynnol, a’r gwelliant canlyniadol o ran cydraddoldeb etholiadol nawr ac yn y dyfodol. Mae’r Comisiwn o’r farn bod y newid argymelledig i’r ffin yn defnyddio’r M4 i ddarparu ffin glir sy’n hawdd ei hadnabod. Mae’r Comisiwn hefyd o’r farn bod y ward etholiadol argymelledig yn rhannu hunaniaeth gyffredin ac y byddai’n darparu ward etholiadol effeithiol yn yr ardal. 147. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhelliad hwn yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. 148. Mae’r Comisiwn wedi cynnig newidiadau ôl-ddilynol i Dref Coed-ffranc hefyd, sydd i’w gweld ym Mhennod 7.

Tudalen 49

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 50

ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Tudalen 51

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

De Bryn-coch a Dyffryn 149. Mae ward etholiadol bresennol De Bryn-côch yn cynnwys ward Bryn-côch South yng Nghymuned Blaenhonddan. Mae ganddi 4,486 o etholwyr (rhagamcenir 4,491 o etholwyr) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd, sydd 27% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 4,643 o bleidleiswyr cymwys. 150. Mae ward etholiadol bresennol Dyffryn yn cynnwys Cymuned Dyffryn Clydach. Mae ganddi 2,383 o etholwyr (rhagamcenir 2,547 o etholwyr) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 35% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 2,475 o bleidleiswyr cymwys. 151. Yn ei gynigion drafft, roedd y Comisiwn yn argymell y newidiadau canlynol i’r ffin: i) Trosglwyddo ardal sy’n cynnwys Brookfields, Mill Race a Taillwyd Road o Dde Bryn-côch i Ddyffryn; a ii) Throsglwyddo ardal sy’n cynnwys Drymau Park a Goshen Park o Ogledd Coed-ffranc i Ddyffryn. Gyda’r newidiadau hyn, y dylai Cymuned Dyffryn Clydach ffurfio ward etholiadol. 152. Roedd y Comisiwn yn cynnig y dylai’r hyn sy’n weddill o ward De Bryn-côch yng Nghymuned Blaenhonddan ffurfio ward etholiadol, ac y dylai’r hyn sy’n weddill o ward North yn Nhref Coed-ffranc ffurfio ward etholiadol. 153. Derbyniodd y Comisiwn ddeg cynrychiolaeth yn ymateb i’r cynigion drafft ar gyfer yr ardalg hoan:n, Gyngor Cymuned Blaenhonddan, Cyngor Tref Coed-ffranc, Cyngor Cymuned Dyffryn Clydach a’r Cynghorydd D M Peters (Dyffryn), y Cynghorydd C Williams a’r Cynghorydd J Hale (De Bryn-côch), Democratiaid Rhyddfrydol Aberafan a Chastell-nedd, Grŵp Plaid Cymru a thri phreswylydd o Dde Bryn- côch. 154. Roedd Cyngor Tref Coed-ffranc a Democratiaid Rhyddfrydol Aberafan a Chastell-nedd yn cefnogi’r newid arfaethedig i’r ffin a ddisgrifir ym mharagraff 151 i. Roeddent yn gwrthwynebu’r newid arfaethedig i’r ffin a ddisgrifir ym mharagraff 151 ii. Gwnaethant grybwyll bod y ffin bresennol rhwng De Bryn-côch a Dyffryn wedi’i diffinio’n glir ac yn ddealledig, ac roeddent yn argymell y dylid gweithredu’r newid i’r ffin a ddisgrifir ym mharagraff 151 i, yn hytrach na’r newid i’r ffin a ddisgrifir ym mharagraff 151 ii. 155. Roedd Grŵp Plaid Cymru yn gwrthwynebu’r newid arfaethedig i’r ffin a ddisgrifir ym mharagraff 151 i. Awgrymodd newid amgen i’r ffin i drosglwyddo 486 o etholwyr o Ddyffryn i Dde Bryn-côch. Awgrymodd fod y newid amgen hwn i’r ffin yn darparu cymuned a ffin ddaearyddol naturiol, ac y byddai angen aelod ychwanegol ar gyfer ward De Bryn-côch ar gyfer y newid hwn. 156. Roedd Cyngor Cymuned Blaenhonddan yn gwrthwynebu’r newid arfaethedig i’r ffin a ddisgrifir ym mharagraff 151 i. Amlygodd fod ardal goediog Cwm Clydach yn ffin naturiol a hanesyddol rhwng Cymuned Blaenhonddan a ward Bryn-côch. Crybwyllodd fod gan yr ardal gysylltiadau cyfathrebu gwell â Bryn-coch na Dyffryn, a chrybwyllodd y byddai’n well ganddo pe gellid cadw’r sefyllfa bresennol neu drefniant arall i gyflawni amcanion ystadegol y Comisiwn. 157. Roedd Cyngor Cymuned Dyffryn Clydach a’r Cynghorydd D M Peters (Dyffryn) yn cefnogi’r newidiadau arfaethedig i’r ffin a ddisgrifir ym mharagraff 151. Fodd bynnag, awgrymasant fân ddiwygiad i’r newid i’r ffin rhwng Gogledd Coed-ffranc a Dyffryn. Gwnaethant grybwyll y byddant yn gwrthwynebu newid arfaethedig i’r ffin a fyddai’n trosglwyddo’r ardaloedd a adwaenir fel Cwrt Herbert ac Abaty Nedd o ward Dyffryn i Dde Bryn-côch, oherwydd y cysylltiadau cymunedol yn yr ardal.

Tudalen 52 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

158. Roedd y Cynghorydd C Williams a’r Councillor J Hale (De Bryn-côch) a thri phreswylydd o Dde Bryn-côch yn gwrthwynebu’r newidiadau arfaethedig i Dde Bryn-côch, a chrybwyllasant y byddai’n well ganddynt pe byddai’r trefniadau presennol yn parhau fel y maent. 159. Mae’r Comisiwn yn argymell y dylid trosglwyddo ardal sy’n cynnwys Brookfields, Mill Race a Taillwyd Road (fel y dangosir ar dudalen 54) o Dde Bryn-côch i Ddyffryn i ffurfio ward etholiadol â 2,875 o etholwyr a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 19% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. 160. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Dyffryn i’r ward etholiadol argymelledig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw argymelledig. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 161. O ganlyniad, mae’r Comisiwn yn argymell y dylai’r hyn sy’n weddill o ward De Bryn-côch yng Nghymuned Blaenhonddan ffurfio ward etholiadol â 3,994 o etholwyr a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 13% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. 162. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg De Bryn-coch a’r enw Saesneg Bryn-coch South i’r ward etholiadol argymelledig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw argymelledig. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 163. Mae’r Comisiwn yn cytuno â’r newid i’r ffin a awgrymwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn yr ymgynghoriad cychwynnol, a’r gwelliant canlyniadol o ran cydraddoldeb etholiadol nawr ac yn y dyfodol. Mae’r Comisiwn o’r farn bod y ward etholiadol argymelledig yn rhannu hunaniaeth gyffredin, ac y byddai’n darparu ward etholiadol effeithiol a fyddai’n adeiladu ar y cysylltiadau cymunedol, cyfathrebu a chymdeithasol sefydledig yn yr ardal. 164. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhelliad hwn yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. 165. Mae’r Comisiwn wedi cynnig newidiadau ôl-ddilynol i Gymuned Blaenhonddan hefyd, sydd i’w gweld ym Mhennod 7.

Tudalen 53 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 54

ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Tudalen 55

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pennod 6. CRYNODEB O’R TREFNIADAU ARGYMELLEDIG 1. Mae’r trefniadau etholiadol presennol (fel y dangosir yn Atodiad 2) yn darparu’r lefelau canlynol o gynrychiolaeth etholiadol ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot: • Mae amrywiant etholiadol yn amrywio o 53% islaw’r cyfartaledd sirol presennol (Glyncorrwg) i 95% uwchlaw’r cyfartaledd sirol presennol (Gorllewin Coed-ffranc), sef 1,657 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan ddwy ward etholiadol lefel gynrychiolaeth sy’n fwy na 50% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,657 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan 13 ward etholiadol lefel gynrychiolaeth sy’n fwy na 25% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,657 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan 15 ward etholiadol lefel gynrychiolaeth sydd rhwng 10% a 25% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,657 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan 12 ward etholiadol lefel gynrychiolaeth sy’n llai na 10% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,657 o etholwyr fesul cynghorydd. 2. O gymharu â’r trefniadau etholiadol presennol sydd i’w gweld uchod, mae’r trefniadau etholiadol argymelledig (sydd i’w gweld yn Atodiad 3) yn dangos y gwelliannau canlynol i gynrychiolaeth etholiadol ar draws Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot: • Mae amrywiant etholiadol yn amrywio o 24% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig (Llangatwg a Gorllewin Coed-ffranc) i 25% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig (Blaen-gwrach a Gorllewin Glyn-nedd) sef 1,767 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan 20 ward etholiadol lefel gynrychiolaeth sydd rhwng 10% a 25% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol argymelledig, sef 1,767 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan 14 ward etholiadol lefel gynrychiolaeth sy’n llai na 10% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol argymelledig, sef 1,767 o etholwyr fesul cynghorydd. 3. Fel y disgrifir ym Mhennod 4 ac Atodiad 4, wrth lunio cynllun o drefniadau etholiadol, rhaid i’r Comisiwn ystyried nifer o faterion sydd wedi’u cynnwys yn y ddeddfwriaeth. Nid yw’n bosibl datrys pob un o’r materion hyn bob tro, sy’n aml yn gwrthdaro â’i gilydd. Yng nghynllun argymelledig y Comisiwn, mae’r Comisiwn wedi rhoi pwyslais ar gyflawni gwelliannau o ran cydraddoldeb etholiadol wrth gynnal cysylltiadau cymunedol, lle bynnag y bo hynny’n bosibl. 4. Mae’r Comisiwn yn cydnabod ei bod yn anochel y bydd creu wardiau etholiadol, sy’n gwyro oddi wrth y patrwm presennol, yn effeithio ar y cysylltiadau presennol rhwng cymunedau ac y gallant bontio ardaloedd cynghorau cymuned. Mae’r Comisiwn wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wardiau etholiadol diwygiedig yn adlewyrchu cyfuniadau rhesymegol o gymunedau a wardiau cymunedol presennol. 5. Mae’r Comisiwn wedi edrych ar bob ardal, ac mae’n fodlon y byddai’n anodd cyflawni trefniadau etholiadol sy’n cadw’r cyfuniad presennol o gymunedau a wardiau cymunedol heb gael effaith niweidiol ar un neu fwy o’r materion eraill y mae’n rhaid iddo eu hystyried.

Tudalen 56

ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Pennod 7. TREFNIADAU ÔL-DDILYNOL 1. Wrth ystyried y newidiadau i wardiau etholiadol lle mae’r Comisiwn wedi argymell newidiadau i’r ffiniau, bu hefyd rhaid ystyried canlyniad y newidiadau hyn ar ffiniau a threfniadau etholiadol y cynghorau cymuned a thref. Mae’r rhan hon o’r adroddiad yn manylu ar ein hargymhellion ar gyfer y newidiadau ôl-ddilynol hyn. Darparwyd yr ystadegau etholiadol a ddefnyddir yn yr adran hon gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot hefyd. Ffiniau Cymunedau a Wardiau Cymunedol 2. Ceir nifer o newidiadau i wardiau etholiadol ac, o ganlyniad, rhaid i’r Comisiwn ystyried y trefniadau sylfaenol ar gyfer cymunedau a wardiau cymunedol. Mae’r newidiadau argymelledig i ffiniau cymunedau a wardiau cymunedol fel a ganlyn: Cyngor Cymuned Blaenhonddan 3. Argymhellir i ward etholiadol argymelledig De Bryn-coch gael yr un newidiadau ôl-ddilynol i drefniadau’r gymuned a’r wardiau yn Ne Bryn-coch, fel y dangosir ar y map ar dudalen 55. Cyngor Tref Coed-ffranc 4. Argymhellir i wardiau etholiadol argymelledig Canol Coed-ffranc a Gorllewin Coed-ffranc gael yr un newidiadau ôl-ddilynol i ffiniau’r gymuned a’r wardiau yn Dwyrain Canol a Gorllewin Canol, fel y dangosir ar y mapiau ar dudalennau 50 a 51, yn ôl eu trefn. Cyngor Cymuned Dyffryn Clydach 5. Argymhellir i ward etholiadol argymelledig Dyffryn gael yr un newid ôl-ddilynol i drefniadau cymunedol Cyngor Cymuned Dyffryn Clydach, fel y dangosir ar y map ar dudalen 54. Ardal Cymuned Glyncorrwg 6. Argymhellir i wardiau etholiadol argymelledig Gwynfi a Chroeserw a Cymer a Glyncorrwg gael yr un newidiadau ôl-ddilynol i Ardal Cymuned Glyncorrwg. Caiff Ardal Cymuned Glyncorrwg ei rhannu i greu dwy Ardal Gymunedol newydd, sef Gwynfi a Chroeserw, a Cymer a Glyncorrwg, fel y dangosir ar y mapiau ar dudalennau 36 a 37, yn ôl eu trefn. Cyngor Tref Pontardawe 7. Argymhellir i wardiau etholiadol argymelledig Pontardawe a Threbannws gael yr un newidiadau ôl-ddilynol i drefniadau cymunedol Cyngor Tref Pontardawe, fel y dangosir ar y mapiau ar dudalennau 22 a 23, yn ôl eu trefn.

Tudalen 57

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Trefniadau Etholiadol Cynghorau Tref a Chymuned 8. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i drefniadau etholiadol cymunedau a fyddai’n digwydd o ganlyniad i’r argymhellion y manylir arnynt uchod. Mae’r trefniadau etholiadol presennol a’r newidiadau arfaethedig i’r newidiadau hynny i’w gweld isod:

Cyngor Cymuned Blaenhonddan

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned Blaenhonddan Presennol Argymelledig Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Ward Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Cymuned Cymuned Cynghorydd Cynghorydd

Aberdulais 753 2 377 -30% 753 2 377 -21% Gogledd 1,794 3 598 12% 1,794 4 449 -6% Bryn-coch De Bryn-coch 4,486 7 641 20% 3,994 7 571 19% Llangatwg 1,346 3 449 -16% 1,346 3 449 -6% Cilfrew 731 2 366 -32% 731 2 366 -24% Cyfanswm 9,110 17 536 8,618 18 479

9. Mae’r Comisiwn yn fodlon bod y newidiadau argymelledig hyn yn briodol a’u bod er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Cyngor Tref Coed-ffranc

Trefniadau Etholiadol Cyngor Tref Coed-ffranc Presennol Argymelledig Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Ward Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Cymuned Cymuned Cynghorydd Cynghorydd Canol 1,639 4 410 -11% 1,639 4 410 -6% Dwyrain Canol 1,173 3 391 -15% 1,719 4 430 -1% Gogledd 1,798 5 360 -22% 1,798 4 450 3% Gorllewin 1,522 2 761 65% 1,522 3 507 16% Gorllewin 1,167 3 389 Canol 1,713 3 571 24% -11% Cyfanswm 7,845 17 461 7,845 18 436

10. Mae’r Comisiwn yn fodlon bod y newidiadau argymelledig hyn yn briodol a’u bod er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 58

ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Cyngor Cymuned Dyffryn Clydach

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned Dyffryn Clydach Presennol Argymelledig Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Ward Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Cymuned Cymuned Cynghorydd Cynghorydd Dyffryn 2,383 13 183 0% 2,875 13 221 0% Clydach Cyfanswm 2,383 13 183 2,875 13 221

11. Mae’r Comisiwn yn fodlon bod y newidiadau argymelledig hyn yn briodol a’u bod er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Cyngor Tref Pontardawe

Trefniadau Etholiadol Cyngor Tref Pontardawe Presennol Argymelledig Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Ward Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Cymuned Cymuned Cynghorydd Cynghorydd Pontardawe 4,155 10 416 11% 3,873 10 387 3% Trebannws 1,101 4 275 -27% 1,383 4 346 -8% Cyfanswm 5,256 14 375 5,256 14 375

12. Mae’r Comisiwn yn fodlon bod y newidiadau argymelledig hyn yn briodol a’u bod er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 59

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pennod 8. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN 1. Ar ôl cwblhau’r arolwg o Fwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a chyflwyno argymhellion y Comisiwn i Lywodraeth Cymru ar drefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer y prif awdurdod, mae’r Comisiwn wedi cyflawni ei rwymedigaethau statudol o dan y Ddeddf. 2. Gwaith Llywodraeth Cymru yn awr, os gwêl yn dda, yw gweithredu’r argymhellion hyn, naill ai fel y’u cyflwynwyd neu gydag addasiadau. Gall Llywodraeth Cymru roi cyfarwyddyd i ni gynnal arolwg pellach hefyd. 3. Dylid cyfeirio unrhyw gynrychiolaethau pellach yn ymwneud â’r materion yn yr adroddiad hwn at Lywodraeth Cymru. Dylid gwneud hyn cyn gynted ag y bo modd a, beth bynnag, heb fod yn hwyrach na chwe wythnos o’r dyddiad y caiff argymhellion y Comisiwn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Dylid anfon cynrychiolaethau at:

Tîm Democratiaeth Llywodraeth Leol Yr Is-adran Democratiaeth, Amrywiaeth a Chydnabyddiaeth Ariannol Llywodraeth Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ

Neu drwy’r e-bost i:

lgdtmailbox@gov.

Tudalen 60

ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Pennod 9. CYDNABYDDIAETHAU 1. Hoffai’r Comisiwn ddiolch i’r prif Gyngor, yr holl gynghorau tref a chymuned, a’r cyrff a’r unigolion eraill â buddiant a gyflwynodd gynrychiolaethau i ni wrth i ni ddatblygu’r cynigion terfynol hyn. Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn cymeradwyo’r adroddiad argymhellion hwn.

Dr. DEBRA WILLIAMS (Cadeirydd)

CERI STRADLING (Dirprwy Gadeirydd)

DAVID POWELL (Aelod)

JULIE MAY (Aelod)

THEODORE JOLOZA (Aelod)

SHEREEN WILLIAMS MBE OStJ (Prif Weithredwr)

[Awst 2020]

Tudalen 61

ATODIAD 1

ATODIAD 1 – RHESTR TERMAU

Amrywiant I ba raddau mae nifer yr etholwyr fesul cynghorydd mewn ward yn etholiadol amrywio o’r cyfartaledd sirol; wedi’i fynegi ar ffurf canran.

Arolwg etholiadol Arolwg lle mae’r Comisiwn yn ystyried y trefniadauetholiadol ar gyfer Prif Gyngor.

Comisiwn Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

Cyfartaledd Sir Y cyfartaledd cynghorwyr i etholwyr am ardal y prif gyngor

Cyfarwyddiadau Cyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan Adran 48 y Ddeddf.

Cymuned (ardal) Yr uned llywodraeth leol sydd islaw lefel y Prif Gyngor.

Cymuned Ranedig Cymuned sydd wedi’i rhannu rhwng dwy neu fwy o wardiau etholiadol.

Cyngor Cymuned Cyngor etholedig sy’n darparu gwasanaethau i’w ardal gymunedol benodol. At ddibenion etholiadol cymunedol, gellir rhannu Cyngor Cymuned yn wardiau cymunedol.

Cyngor Tref Mae Cyngor Cymuned sydd â statws tref yn cael ei adnabod fel Cyngor Tref. At ddibenion etholiadol cymunedol, gellir rhannu Cyngor Tref yn wardiau.

Etholaeth Nifer y bobl sydd wedi’u cofrestru i bleidleisio mewn ardal llywodraeth leol.

Etholaeth Y rhagolygon pum mlynedd ar gyfer yr etholaeth. ragamcanol

Gorchymyn Gorchymyn a wneir gan gorff gweithredu sy’n rhoi cynigion a wneir gan y Prif Gyngor neu’r Comisiwn ar waith.

Gorgynrychiolaeth Lle mae llai o etholwyr fesul cynghorydd mewn ward o gymharu â’r cyfartaledd sirol.

Parti â buddiant Unigolyn neu gorff sydd â buddiant yng nghanlyniad arolwg etholiadol, fel cyngor cymuned, AS neu AC lleol neu blaid wleidyddol. ATODIAD 1

Poblogaeth Nifer amcangyfrifedig y bobl gymwys (18+) mewn ardal llywodraeth amcangyfrifedig y leol sy’n gymwys i bleidleisio. Cafwyd y ffigurau hyn o pleidleiswyr cymwys amcangyfrifon poblogaeth wardiau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cymru yn 2015, canol 2015 (ystadegau arbrofol).

Prif ardal Yr ardal a lywodraethir gan Brif Gyngor: sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru.

Prif Gyngor Corff llywodraeth leol un haen sy’n gyfrifol am bob un, neu bron bob un, o’r swyddogaethau llywodraeth leol yn ei ardal. Cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.

Tangynrychiolaeth Lle mae mwy o etholwyr fesul cynghorydd mewn ward o gymharu â’r cyfartaledd sirol.

Ward Cymuned / Ardal mewn Cyngor Cymunedol a grëwyd at ddibenion etholiadol Tref cymunedol.

Wardiau etholiadol Yr ardaloedd y caiff PrifGynghorau eu rhannu iddynt at ddiben ethol cynghorwyr sir, y cyfeiriwyd atynt gynt fel adrannau etholiadol. Y Ddeddf Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CASTELL-NEDD PORT TALBOT ATODIAD 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR

% % NIFER CYMHA amrywiaeth NIFER CYMHA amrywiae Poblogaeth NIFER Rhif ENW DISGRIFIFIAD ETHOLWYR REB o'r ETHOLWYR REB th o'r sy'n cymwys CYNGHORWYR 2018 2018 cyfartaledd 2023 2023 cyfartale i pleidleisio Sirol dd Sirol 1 Aberafan Cymunedau Aberafan a Rhos Baglan 3 4,072 1,357 -18% 4,133 1,378 -21% 4,542 2 Aberdulais Wardiau Aberdulais a Cilfrew yng Nghymuned Blaenhonddan 1 1,683 1,683 2% 1,683 1,683 -3% 1,780 3 Allt-wen Ward Allt-wen yng Nghymuned 1 2,011 2,011 21% 2,137 2,137 23% 2,007 4 Baglan Cymunedau Baglan a 3 5,291 1,764 6% 5,625 1,875 8% 5,597 5 Blaengwrach Cymuned Blaengwrach a Ward West Central yn Nhref Glynneath 1 1,468 1,468 -11% 1,501 1,501 -14% 1,614 6 Briton Ferry East Wardiau Craig-y-darren a Cwrt Sart yn Nhref Llansawel 1 2,124 2,124 28% 2,124 2,124 22% 2,350 7 Briton Ferry West Wardiau Brynhyfryd a Shelone Wood yn Nhref Llansawel 1 2,028 2,028 22% 2,028 2,028 17% 2,302 8 Bryn and Cwmavon Cymunedau Bryn a Cwmavon 3 5,130 1,710 3% 5,316 1,772 2% 5,372 9 Bryncoch North Ward Bryn-côch North yng Nghymuned Blaenhonddan 1 1,794 1,794 8% 1,947 1,947 12% 1,863 10 Bryncoch South Ward Bryn-côch South yng Nghymuned Blaenhonddan 2 4,486 2,243 35% 4,491 2,246 29% 4,643 11 Cadoxton Ward Cadoxton yng Nghymuned Blaenhonddan 1 1,346 1,346 -19% 1,436 1,436 -17% 1,408 12 Cimla Wardiau Cefn Saeson a Crynallt Wards yn Nhref Neath 2 3,108 1,554 -6% 3,117 1,559 -10% 3,153 13 Coedffranc Central Wardiau Central a East Central yng Nghymuned Coedffranc 2 2,812 1,406 -15% 2,837 1,419 -18% 3,212 14 Coedffranc North Ward North yng Nghymuned Coedffranc 1 1,798 1,798 9% 1,798 1,798 3% 1,930 15 Coedffranc West Wardiau West a West Central yng Nghymuned Coedffranc 1 3,235 3,235 95% 4,918 4,918 183% 2,755 16 Crynant Cymuned Crynant 1 1,508 1,508 -9% 1,545 1,545 -11% 1,548 17 Cwmllynfell Cymuned Cwmllynfell 1 936 936 -44% 997 997 -43% 978 Ward etholiadol hanesyddol Cymer sydd wedi’i chynnwys yng 18 Cymmer 1 1,999 1,999 21% 1,999 1,999 15% 2,219 Nghymuned Glyncorrwg 19 Dyffryn Cymuned Dyffryn Clydach 1 2,383 2,383 44% 2,547 2,547 47% 2,475 Ward etholiadol hanesyddol Glyncorrwg sydd wedi’i chynnwys yng 20 Glyncorrwg 1 782 782 -53% 782 782 -55% 834 Nghymuned Glyncorrwg 21 Glynneath Wardiau Central East a West yn Nhref Glynneath 2 2,572 1,286 -22% 2,639 1,320 -24% 2,742 22 Godre'rgraig Ward Godre'r graig yng Nghymuned Ystalyfera 1 1,493 1,493 -10% 1,493 1,493 -14% 1,557 Wardiau Cwmgors a Gwaun-Cae-Gurwen yng Nghymuned 23 Gwaun-Cae-Gurwen 1 2,235 2,235 35% 2,235 2,235 29% 2,348 Gwaun-Cae-Gurwen Ward etholiadol hanesyddol Gwynfi sydd wedi’i chynnwys yng 24 Gwynfi 1 906 906 -45% 906 906 -48% 1,032 Nghymuned Glyncorrwg Wardiau Lower Brynamman a Tai'r Gwaith yng Nghymuned 25 Lower Brynamman 1 1,031 1,031 -38% 1,031 1,031 -41% 1,063 Gwaun-Cae-Gurwen 26 Margam Cymunedau Margam a Gweunydd Margam 1 2,275 2,275 37% 2,598 2,598 50% 2,419 27 Neath East Wardiau Melyncrythan a Penrhiwtyn yn Nhref Neath 3 4,419 1,473 -11% 4,468 1,489 -14% 5,273 28 Neath North Wardiau Castle a Llantwit yn Nhref Neath 2 2,861 1,431 -14% 2,954 1,477 -15% 3,282 CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CASTELL-NEDD PORT TALBOT ATODIAD 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR

% % NIFER CYMHA amrywiaeth NIFER CYMHA amrywiae Poblogaeth NIFER Rhif ENW DISGRIFIFIAD ETHOLWYR REB o'r ETHOLWYR REB th o'r sy'n cymwys CYNGHORWYR 2018 2018 cyfartaledd 2023 2023 cyfartale i pleidleisio Sirol dd Sirol 29 Neath South Wardiau Gnoll a Mount Pleasant yn Nhref Neath 2 3,614 1,807 9% 3,660 1,830 5% 3,870 30 Onllwyn Cymuned Onllwyn 1 886 886 -47% 886 886 -49% 934 31 Pelenna Cymuned Pelenna 1 879 879 -47% 904 904 -48% 944 32 Pontardawe Wardiau Pontardawe a Rhyd-y-fro yn Nhref Pontardawe 2 4,155 2,078 25% 4,498 2,249 29% 4,426 33 Port Talbot Cymuned Port Talbot 3 4,177 1,392 -16% 4,296 1,432 -18% 4,597 34 Resolven Cymunedau Clyne a Melincourt a Resolven 1 2,351 2,351 42% 2,351 2,351 35% 2,489 35 Rhos Wardiau Gellinudd a Rhos yng Nghymuned Cilybebyll 1 1,955 1,955 18% 2,181 2,181 26% 2,015 36 Cymuned Dwyrain Sandfields 3 4,992 1,664 0% 5,248 1,749 1% 5,644 37 Sandfields West Cymuned Sandfields West 3 4,920 1,640 -1% 5,153 1,718 -1% 5,233 38 Seven Sisters Cymuned Blaendulais 1 1,567 1,567 -5% 1,597 1,597 -8% 1,663 39 Tai-bach Cymuned Tai-bach 2 3,613 1,807 9% 3,613 1,807 4% 3,943 40 Tonna Cymuned Tonna 1 1,913 1,913 15% 2,121 2,121 22% 2,059 41 Trebanos Ward Trebannws yn Nhref Pontardawe 1 1,101 1,101 -34% 1,101 1,101 -37% 1,147 42 Ystalyfera Ward Ystalyfera yng Nghymuned Ystalyfera 1 2,134 2,134 29% 2,314 2,314 33% 2,369 CYFANSYMIAU 64 106,043 1,657 111,208 1,738 113,631 Cymhareb yw nifer yr etholwyr i bob cynghorydd Derbyniwyd y ffgyrau etholiadol gan Gyngor Bwrdeistef Sirol Castell-nedd Port Talbot Derbyniwyd y ffgyrau poblogaeth gan Swyddfa Ystadegau Gwladol

2018 2023 Mwy na + neu - 50% o'r cyfartaledd Sirol 2 5% 2 5% Rhwng + neu - 25% a + neu - 50% o'r cyfartaledd Sirol 14 33% 14 33% Rhwng + neu - 10% a + neu - 25% o'r cyfartaledd Sirol 13 31% 17 40% Rhwng 0% a + neu - 10% o'r cyfartaledd Sirol 13 31% 9 21% CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CASTELL-NEDD PORT TALBOT ATODIAD 3 AELODAETH ARGYMHELLIEDIG Y CYNGOR

% NIFER CYMH % amrywiaeth NIFER CYMHA amrywiae NIFER Rhif ENW DISGRIFIFIAD ETHOLWYR AREB o'r cyfartaledd ETHOLWYR REB th o'r CYNGHORWYR 2018 2018 Sirol 2023 2023 cyfartale dd Sirol

1 Aberafan Cymunedau Aberafan a Rhos Baglan 2 4,072 2,036 15% 4,133 2,067 11% Wardiau Aberdulais a Cilfrew yng Nghymuned 2 Aberdulais 1 1,683 1,683 -5% 1,683 1,683 -9% Blaenhonddan 3 Allt-wen Ward Allt-wen yng Nghymuned Cilybebyll 1 2,011 2,011 14% 2,137 2,137 15%

4 Baglan Cymunedau Baglan a Baglan Bay 3 5,291 1,764 0% 5,625 1,875 1% Cymuned Blaengwrach a Wardiau West a West Central yn 5 Blaengwrach a Gorllewin Glyn-nedd 1 2,206 2,206 25% 2,239 2,239 21% Nhref Glynneath 6 Bryn a Cwmafan Cymunedau Bryn a Cwmavon, 3 5,130 1,710 -3% 5,316 1,772 -4%

7 Canol a Dwyrain Glyn-nedd Wardiau Central a East yn Nhref Glynneath 1 1,834 1,834 4% 1,901 1,901 3%

8 Canol Coed-ffranc Wardiau Central a East Central yn Nhref Coedffranc 2 3,358 1,679 -5% n/a n/a n/a Cymuned Cimla Wardiau Cefn Saeson a Crynallt yn Nhref 9 Cimla a Phelenna 2 3,987 1,994 13% 4,021 2,011 8% Neath Cymuned Cwmllynfell a Ward Ystalyfera yng Nghymuned 10 Cwmllynfell ac Ystalyfera 2 3,070 1,535 -13% 3,311 1,656 -11% Ystalyfera 11 Cymer a Glyncorrwg Ardal Cymunedol Arfaethedig Cymer a Glyncorrwg 1 1,792 1,792 1% n/a n/a n/a

12 De Bryn-coch Ward Bryn-côch South yng Nghymuned Blaenhonddan 2 3,994 1,997 13% n/a n/a n/a

13 De Castell-nedd Wardiau Gnoll a Mount Pleasant yn Nhref Castell-nedd 2 3,614 1,807 2% 3,660 1,830 -1%

14 Dwyrain Castell-nedd Wardiau Melyncrythan a Penrhiwtyn yn Nhref Castell-nedd 3 4,419 1,473 -17% 4,468 1,489 -20%

15 Dwyrain Llansawel Wardiau Craig-y-darren a Cwrt Sart yn Nhref Llamsawel 1 2,124 2,124 20% 2,124 2,124 15%

16 Dwyrain Sandfields Cymuned Dwyrain Sandfields 3 4,992 1,664 -6% 5,248 1,749 -6%

17 Dyffryn Cymuned Dyffryn Clydach 2 2,875 1,438 -19% n/a n/a n/a

18 Godre'r-graig Ward Godre'r graig yng Nghymuned Ystalyfera 1 1,493 1,493 -16% 1,493 1,493 -19%

19 Gogledd Bryn-coch Ward Bryn-côch North yng Nghymuned Blaenhonddan 1 1,794 1,794 2% 1,947 1,947 5%

20 Gogledd Castell-nedd Wardiau Castle a Llantwit yn Nhref Castell-nedd 2 2,861 1,431 -19% 2,954 1,477 -20%

21 Gogledd Coed-ffranc Ward North yn Nhref Coedffranc 1 1,798 1,798 2% 1,798 1,798 -3%

22 Gorllewin Coed-ffranc Wardiau West a West Central yn Nhref Coedffranc 2 2,689 1,345 -24% n/a n/a n/a

23 Gorllewin Llansawel Wardiau Brynhyfryd a Shelone Wood yn Nhref Llansawel 1 2,028 2,028 15% 2,028 2,028 9% CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CASTELL-NEDD PORT TALBOT ATODIAD 3 AELODAETH ARGYMHELLIEDIG Y CYNGOR

% NIFER CYMH % amrywiaeth NIFER CYMHA amrywiae NIFER Rhif ENW DISGRIFIFIAD ETHOLWYR AREB o'r cyfartaledd ETHOLWYR REB th o'r CYNGHORWYR 2018 2018 Sirol 2023 2023 cyfartale dd Sirol

24 Gorllewin Sandfields Cymuned Sandfields West 3 4,920 1,640 -7% 5,153 1,718 -7%

25 Gwauncaegurwen a Brynaman Isaf Gymuned Gwaun-Cae-Gurwen 2 3,266 1,633 -8% 3,266 1,633 -12%

26 Gwynfi a Chroeserw Ardal Cymunedol Arfaethedi Gwynfi a Croeserw 1 1,895 1,895 7% n/a n/a n/a

27 Llangatwg Ward Cadoxton yng Nghymuned Blaenhonddan 1 1,346 1,346 -24% 1,436 1,436 -23%

28 Margam a Thai-bach Cymuned Margam, a Thai-bach 3 5,888 1,963 11% 6,211 2,070 12%

29 Pontardawe Wardiau Pontardawe a Rhyd-y-fro yn Nhref Pontardawe 2 3,873 1,937 10% n/a n/a n/a

30 Port Talbot Cymuned Port Talbot 2 4,177 2,089 18% 4,296 2,148 16%

31 Resolfen a Thonnau Cymunedau Clyne a Melincourt, Resolven a, Tonna 2 4,264 2,132 21% 4,472 2,236 21%

32 Rhos Wardiau Gellinudd a Rhos yng Nghymuned Cilybebyll 1 1,955 1,955 11% 2,181 2,181 18%

33 Trebannws Ward Trebanos yn Nhref Pontardawe 1 1,383 1,383 -22% n/a n/a n/a

34 Y Creunant, Onllywn a Blaendulais Cymunedau Crynant, Onllwyn a Blaendulais 2 3,961 1,981 12% 4,028 2,014 9% CYFANSYMIAU 60 106,043 1,767 111,208 1,853 Cymhareb yw nifer yr etholwyr i bob cynghorydd Derbyniwyd y ffgyrau etholiadol gan Gyngor Bwrdeistef Sirol Castell-nedd Port Talbot Derbyniwyd y ffgyrau poblogaeth gan Swyddfa Ystadegau Gwladol

2018 2023 Mwy na + neu - 50% o'r cyfartaledd Sirol 0 0% 0 0% Rhwng + neu - 25% a + neu - 50% o'r cyfartaledd Sirol 0 0% 0 0% Rhwng + neu - 10% a + neu - 25% o'r cyfartaledd Sirol 20 59% 14 41% Rhwng 0% a + neu - 10% o'r cyfartaledd Sirol 14 41% 12 35% n/a 0 0% 8 24% ATODIAD 4

RHEOLAU A GWEITHDREFNAU

Cwmpas ac Amcan yr Arolwg

1. Mae Adran 29 (1) Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (y Ddeddf) yn rhoi dyletswydd ar y Comisiwn i arolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer pob prif ardal yng Nghymru, o leiaf unwaith ym mhob cyfnod arolygu o ddeng mlynedd, at ddiben ystyried p’un a ddylai gwneud cynigion i Lywodraeth Cymru i newid y trefniadau etholiadol hynny ai peidio. Wrth gynnal arolwg, rhaid i’r Comisiwn geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus (Adran 21 (3) y Ddeddf).

2. Gofynnodd cyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru i’r Comisiwn gyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r arolwg o drefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot cyn etholiadau llywodraeth leol 2022.

Trefniadau Etholiadol

3. Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag arolwg etholiadol yw: (a) y newidiadau hynny i drefniadau’r brif ardal dan sylw y mae o’r farn eu bod yn briodol; ac

(b) o ganlyniad i’r newidiadau hynny:

(i) y newidiadau hynny i ffiniau cymuned y mae o’r farn eu bod yn briodol mewn perthynas ag unrhyw gymuned yn y brif ardal;

(ii) y newidiadau hynny i gyngor cymuned a newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned o’r fath y mae o’r farn eu bod yn briodol; ac

(iii) y newidiadau hynny i sir wedi ei chadw y mae o’r farn eu bod yn briodol.

4. Caiff “trefniadau etholiadol” prif ardal eu diffinio yn adran 29 (9) Deddf 2013 fel a ganlyn:

i) nifer aelodau’r cyngor ar gyfer y brif ardal;

ii) nifer, math a ffiniau’r wardiau etholiadol;

iii) nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer unrhyw ward etholiadol yn y brif ardal; ac

iv) enw unrhyw ward etholiadol.

Ystyriaethau ar gyfer arolwg o drefniadau etholiadol prif ardal

5. Wrth ystyried p’un a ddylai gwneud argymhellion ar gyfer newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal, mae adran 30 y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn:

Tudalen 1 ATODIAD 4

(a) geisio sicrhau bod yr un gymhareb o etholwyr llywodraeth leol i nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol ym mhob ward etholiadol o’r brif ardal, neu’n agos at fod felly;

(b) rhoi sylw i’r canlynol:

(i) dymunoldeb pennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol sydd yn hawdd eu hadnabod ac a fyddant yn parhau felly;

(ii) dymunoldeb peidio â thorri’r cwlwm lleol wrth bennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol.

6. Wrth ystyried cymhareb yr etholwyr llywodraeth leol i nifer yr aelodau, rhaid ystyried:

(a) unrhyw anghysondeb rhwng nifer etholwyr llywodraeth leol a nifer y bobl sydd yn gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel y gwelir mewn ystadegau swyddogol perthnasol); ac

(b) unrhyw newid yn nifer neu yn nosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl gwneud unrhyw argymhelliad.

Newidiadau llywodraeth leol

7. Ni wnaed Gorchymyn ar yr adolygiad o'r trefniadau etholiadol yn Castell-nedd Port Talbot ers iddo gael ei greu ym 1996. Bu sawl newid i ffiniau llywodraeth leol yng Nghastell-nedd Port Talbot:

• Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe (Trebannws a Chlydach) 2002 • Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot a Phowys (Cwm-twrch) 2004 • Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot (Cymunedau) 2016

Gweithdrefn

8. Mae Pennod 4 y Ddeddf yn pennu canllawiau gweithdrefnol sydd i’w dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol â’r rhan hon o’r Ddeddf, ar 26 Mehefin 2018 ysgrifennodd y Comisiwn at Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, yr holl Gynghorau Cymuned yn yr ardal, yr Aelodau Seneddol ar gyfer yr etholaethau lleol, yr Aelodau Cynulliad ar gyfer yr ardal, a phartïon eraill â buddiant i roi gwybod iddynt am fwriad y Comisiwn i gynnal yr arolwg ac i ofyn am eu safbwyntiau rhagarweiniol. Gwahoddodd y Comisiwn y Cyngor i gyflwyno cynllun neu gynlluniau awgrymedig ar gyfer trefniadau etholiadol newydd. Gofynnodd y Comisiwn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, hefyd i arddangos nifer o hysbysiadau cyhoeddus yn eu hardal. Trefnodd y Comisiwn fod copïau o’r ddogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer ar gael hefyd. Hefyd gwnaeth y Comisiwn gyflwyniadau i’r Gynghorwyr Sir a Chymuned i esbonio proses yr arolwg. Daeth y cyfnod ymgynghori cychwynnol i ben ar 9 Tachwedd 2018.

Page 2 ATODIAD 4

9. Yn unol ag Adran 35 Pennod 4 y Ddeddf, cyhoeddodd y Comisiwn ei Adroddiad Cynigion Drafft ar 21 Tachwedd 2019, gan roi gwybod i’r ymgyngoreion gorfodol rhestredig a phartïon eraill â buddiant y byddai cyfnod ymgynghori ar y cynigion drafft yn dechrau ar 28 Tachwedd 2019 ac yn dod i ben ar 19 Chwefror 2020. Cynigiodd y Comisiwn gyfarfod ag Arweinwyr Grŵp a Phrif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i drafod y Cynigion Drafft a’r broses o ddatblygu’r Argymhellion Terfynol. Gwrthodwyd y cynnig hwn. Gwahoddodd y Comisiwn y Cyngor Sir a phartïon eraill â buddiant i gyflwyno sylwadau ar y Cynigion Drafft a sut y gellid eu gwella. Gofynnodd y Comisiwn hefyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot arddangos copïau o’r adroddiad ochr yn ochr â hysbysiadau cyhoeddus yn yr ardal.

Dangosir ffiniau’r wardiau etholiadol arfaethedig gan linellau glas di-dor ar y map a osodwyd ar adnau gyda’r Adroddiad hwn yn Swyddfeydd y Cyngor a Swyddfa’r Comisiwn yng Nghaerdydd, yn ogystal ag ar wefan y Comisiwn (http://cffdl.llyw.cymru).

Polisi ar Arfer

11. Cyhoeddodd y Comisiwn y ddogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer ym mis Tachwedd 2016. Mae’r ddogfen hon yn manylu ar ddull y Comisiwn o ddatrys yr her o gydbwyso cydraddoldeb etholiadol â chysylltiadau cymunedol; mae’n amlinellu’r materion i’w hystyried ac yn rhoi rhywfaint o ddealltwriaeth o’r ymagwedd gyffredinol tuag at bob un o’r ystyriaethau statudol wrth fynd i’r afael ag amgylchiadau penodol arolwg. Fodd bynnag, oherwydd nad yw’r amgylchiadau hynny’n debygol o ddarparu’r patrwm etholiadol delfrydol, yn y rhan fwyaf o arolygon, gwneir cyfaddawdau wrth gymhwyso’r polisïau er mwyn taro’r cydbwysedd priodol rhwng pob un o’r materion y mae’n rhaid i’r Comisiwn eu hystyried.

12. Mae’r ddogfen hefyd yn darparu’r amserlen gyffredinol ar gyfer y rhaglen, a sut y cafodd ei nodi, a Pholisi’r Comisiwn ar Faint Cynghorau. Mae’r ddogfen i’w gweld ar wefan y Comisiwn neu mae ar gael ar gais.

Hawlfraint y Goron

13. Lluniwyd y mapiau a gynhwysir yn yr adroddiad hwn, ac a gyhoeddir ar wefan y Comisiwn, gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru dan drwydded gan yr Arolwg Ordnans. Mae’r mapiau hyn yn destun Ⓗ Hawlfraint y Goron. Bydd eu hatgynhyrchu heb awdurdod yn torri Hawlfraint y Goron a gall arwain at erlyniad neu achos sifil. Dylai golygydd unrhyw bapur newydd sy’n dymuno defnyddio’r mapiau yn rhan o erthygl am y cynigion drafft gysylltu â swyddfa hawlfraint yr Arolwg Ordnans yn gyntaf.

Tudalen 3 ATODIAD 5 CRYNODEB O GYNRYCHIOLAETHAU A GAFWYD YNGLŶN AG YMGYNGHORIAD DRAFFT Y COMISIWN AR YR AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL YM MWRDEISTREF SIROL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

1. Anfonodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot neges e-bost ar 17 Chwefror 2020 yn amlinellu argymhellion y Cyngor i’r Comisiwn. Nodir isod yr ymateb a’r argymhellion a anfonwyd at y Comisiwn.

1 ATODIAD 5

2 ATODIAD 5 2. Anfonodd Cyngor Cymuned Blaenhonddan neges e-bost ar 11 Rhagfyr 2019 i ddatgan ei wrthwynebiad i’r newid arfaethedig i’r ffin a fyddai’n trosglwyddo 492 o etholwyr o ward De Bryncoch i ward Dyffryn Clydach. Amlygodd mai Cwm Clydach coediog yw ffin naturiol a hanesyddol Cymuned Blaenhonddan a ward Bryncoch. Dywedodd fod gan yr ardal hon gysylltiadau cyfathrebu gwell â Bryncoch na Dyffryn, a mynegodd flaenoriaeth dros gadw’r sefyllfa bresennol neu ddefnyddio trefniant gwahanol i gyflawni amcanion ystadegol y Comisiwn.

3. Ysgrifennodd Cyngor Tref Coedffranc ar 8 Ionawr 2020 i wneud sylwadau ar y wardiau etholiadol canlynol: • Canol Coedffranc a Gorllewin Coedffranc – Roedd yn cefnogi’r newid arfaethedig i’r ffin a fyddai’n trosglwyddo 546 o etholwyr o Orllewin Coedffranc i Ganol Coedffranc a defnyddio’r M4 fel y ffin newydd. • Gogledd Coedffranc a Dyffryn – Roedd yn gryf yn erbyn newid y ffin i drosglwyddo 194 o etholwyr o Ogledd Coedffranc i Ddyffryn. Dywedodd ei fod yn credu bod yr ardal hon o fewn Sgiwen a bod y preswylwyr felly’n breswylwyr Coedffranc.

4. Anfonodd Cyngor Cymuned Dyffryn Clydach neges e-bost ar 17 Chwefror 2020 i ddatgan ei gefnogaeth i’r newidiadau arfaethedig i ffiniau wardiau etholiadol De Bryncoch, Gogledd Coedffranc a Dyffryn. Awgrymodd fân ddiwygiad i’r newid i’r ffin rhwng Gogledd Coedffranc a Dyffryn. Dywedodd y byddai’n gwrthwynebu newid arfaethedig i’r ffin a fyddai’n trosglwyddo’r ardaloedd a adwaenir fel Cwrt Herbert a Mynachlog Nedd o ward Dyffryn i Dde Bryncoch, o ganlyniad i’r cysylltiadau cymunedol yn yr ardal.

5. Anfonodd Cyngor Cymuned Pelenna neges e-bost ar 12 Chwefror 2020 i ddatgan ei wrthwynebiad i ward etholiadol arfaethedig Bryn, Cwmafan a Phelenna. Dywedodd mai’r dewis a ffefrir ganddo yw newid y ffin rhwng cymunedau Pelenna a Chwmafan, a fyddai’n trosglwyddo rhan o Oakwood a Chwm Evan Bach o Gwmafan i Belenna. Dywedodd ei fod yn credu bod cymuned Pelenna yn ardal wledig unigryw ac y byddai ei chyfuno â chymunedau Cwmafan a Bryn yn gwanhau gwasanaethau a hunaniaeth.

6. Ysgrifennodd Cyngor Tref Pontardawe drwy borth CFfDLC ar 30 Ionawr 2020. Mynegodd ei wrthwynebiad i ward etholiadol arfaethedig Pontardawe a Threbannws. Dywedodd ei fod yn credu y byddai cyfuno wardiau etholiadol presennol Pontardawe a Threbannws yn achosi i bentref Trebannws golli ei hunaniaeth gymunedol. Awgrymodd newid y ffin i drosglwyddo’r ardaloedd canlynol o Bontardawe i Drebannws: Derw Road, Glanrhyd Road, Primrose Row, Swansea Road, Uplands Road, Western Road ac Ynysderw House.

7. Anfonodd Cyngor Cymuned Tonna neges e-bost ar 18 Chwefror 2020 i ddatgan ei wrthwynebiad i ward etholiadol arfaethedig Resolfen a Thonna. Dywedodd y dylai’r trefniadau presennol ar gyfer Tonna aros heb eu newid, gan gytuno â’r gynrychiolaeth gan 3 ATODIAD 5 Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, a bod ward etholiadol Tonna 8% uwchlaw’r cyfartaledd arfaethedig. Dywedodd hefyd mai Tonnau yw’r enw Cymraeg priodol.

8. Anfonodd Dr Dai Lloyd AS (Rhanbarth Gorllewin De Cymru) neges e-bost ar 19 Chwefror 2020 i wneud sylwadau ar y wardiau etholiadol canlynol: • Pontardawe a Threbannws – Mynegodd ei wrthwynebiad i ward etholiadol arfaethedig Pontardawe a Threbannws. Dywedodd ei fod yn credu y byddai cyfuno wardiau etholiadol presennol Pontardawe a Threbannws yn achosi i bentref Trebannws golli ei hunaniaeth gymunedol. Dywedodd hefyd mai’r enw Cymraeg yw Trebannws ac y dylid ei ddefnyddio mewn enwau sy’n cynnwys yr ardal hon. • Blaengwrach a Glyn-nedd – Mynegodd ei wrthwynebiad i ward etholiadol arfaethedig Blaengwrach a Glyn-nedd, gan ddweud ei fod yn credu bod Blaengwrach yn ardal gwbl wahanol a bod ganddi hunaniaeth unigryw. Dywedodd hefyd y byddai cyfuno wardiau etholiadol presennol Blaengwrach a Glyn-nedd yn achosi i bentref Blaengwrach golli ei hunaniaeth gymunedol ac yn arwain at golli cynrychiolaeth i’r preswylwyr.

9. Anfonodd Bethan Sayed AS (Rhanbarth Gorllewin De Cymru) neges e-bost ar 17 a 19 Chwefror 2020 i wneud sylwadau ar y wardiau etholiadol canlynol: • Pontardawe a Threbannws – Mynegodd ei gwrthwynebiad i ward etholiadol arfaethedig Pontardawe a Threbannws. Dywedodd ei bod yn credu y byddai cyfuno wardiau etholiadol presennol Pontardawe a Threbannws yn achosi i bentref Trebannws golli ei hunaniaeth gymunedol. Dywedodd hefyd mai’r enw Cymraeg yw Trebannws ac y dylid ei ddefnyddio mewn enwau sy’n cynnwys yr ardal hon. Awgrymodd ddau newid i ffiniau: i. Trosglwyddo’r ardaloedd canlynol o Bontardawe i Drebannws: Derw Road, Glanrhyd Road, Primrose Row, Swansea Road, Uplands Road, Western Road ac Ynysderw House, sef cyfanswm o 282 o etholwyr.

ii. Trosglwyddo’r ardaloedd canlynol o Bontardawe i Drebannws: Derw Road, Francis St, Fuller St, Glanrhyd Rd, Herbert St, Holly St, Llwynderw, Orchard St, Primrose Row, Riverside Court, Swansea Rd, Tawe Terrace, Ty'n-Y-Pant Rd, Uplands Rd, Wesley Terrace, Western Rd, Ynysderw House a Thŷ Mawr - Ynysderw Rd, cyfanswm o 600 o etholwyr.

• Blaengwrach a Glyn-nedd - Mynegodd ei gwrthwynebiad i ward etholiadol arfaethedig Blaengwrach a Glyn-nedd, gan ddweud ei bod yn credu bod Blaengwrach yn ardal gwbl wahanol a bod ganddi hunaniaeth unigryw. Dywedodd hefyd y byddai cyfuno wardiau etholiadol presennol Blaengwrach a Glyn-nedd yn achosi i bentref Blaengwrach golli ei hunaniaeth gymunedol.

Amlygodd fod Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo i fuddsoddi yng nghymunedau’r Cymoedd, a dywedodd felly y dylai cynrychiolaeth etholiadol gael ei gwella yng nghymunedau’r cymoedd. Cyfeiriodd hefyd 4 ATODIAD 5 at y gwelliannau i gysylltiadau cyfathrebu yn yr ardal (ffordd yr A465 Blaenau’r Cymoedd a’r Trac Profi Rheilffordd yn Onllwyn), a dywedodd ei bod yn credu ei bod yn debygol y byddai datblygiadau tai yn cael eu hargymell yn yr ardal yn y dyfodol. 10. Ysgrifennodd y Cynghorydd C Edwards (Blaengwrach) ar 24 Ionawr, ac ar 5 ac 16 Chwefror 2020, ac anfonodd neges e-bost ar 19 Chwefror 2020 fel y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol ar gyfer Blaengwrach a Chadeirydd y Cyngor Cymuned, i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Blaengwrach a Glyn-nedd. Dywedodd hefyd ei fod yn credu ei bod yn debygol y byddai datblygiadau tai yn cael eu hargymell yn yr ardal yn y dyfodol. Amlygodd fod Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo i fuddsoddi yng nghymunedau’r Cymoedd, a dywedodd felly y dylai cynrychiolaeth etholiadol gael ei gwella yng nghymunedau’r cymoedd. Cyfeiriodd hefyd at y gwelliannau i gysylltiadau cyfathrebu yn yr ardal (ffordd yr A465 Blaenau’r Cymoedd a’r Trac Profi Rheilffordd yn Onllwyn). Cydnabu fod ward etholiadol bresennol Blaengwrach yn cynnwys ward gymunedol Canol Gorllewin Glyn-nedd, ond byddai cyfuno wardiau etholiadol presennol Blaengwrach a Glyn- nedd yn arwain at golli hunaniaeth gymunedol. Dywedodd ei fod yn credu bod yr enwau’n hanesyddol ac y dylent aros heb eu newid: “Mae safle “Enwau Cymru” Prifysgol Bangor yn datgan ei fod yn adnodd ar gyfer gwirio p’un a oes gan enwau lleoedd Saesneg ffurf gyfatebol yn Gymraeg. Mae hefyd yn trafod y cysylltnod a’r defnydd ohono, lle a phan fo’n briodol. Yn achos Blaengwrach, mae’r cysylltnod yn ddiangen gan fod y pwyslais ar y sillaf olaf ond un, ac felly nid oes angen ei newid. Hefyd, mae safle Enwau Cymru yn dadlau bod enwau aneddiadau yn un gair fel arfer. Amlygodd hefyd fod y wardiau etholiadol arfaethedig yn cael eu cynrychioli gan fenywod ar hyn o bryd.

11. Anfonodd y Cynghorydd C Williams a’r Cynghorydd J Hale (De Bryncoch) neges e-bost ar 19 Chwefror 2020 i wrthwynebu’r newid arfaethedig i’r ffin a fyddai’n trosglwyddo 492 o etholwyr o ward De Bryncoch i ward Dyffryn Clydach. Dywedasant eu bod yn credu bod y newid hwn i’r ffin yn torri ar draws ffin naturiol a daearyddol a fyddai’n cael effaith negyddol ar y preswylwyr.

12. Anfonodd y Cynghorydd J Warman (Cimla) neges e-bost ar 19 Chwefror 2020 i ddatgan ei gefnogaeth i’r gynrychiolaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a’i flaenoriaeth dros gadw’r trefniadau presennol ar gyfer Cimla heb eu newid. Mynegodd ei bryderon pe byddai ward etholiadol Cimla yn cael ei chyfuno â ward etholiadol Pelenna, y byddai hyn yn achosi dryswch i’r etholwyr. Amlygodd hefyd y cysylltiadau sydd gan Gimla â Thref Castell-nedd.

13. Anfonodd y Cynghorydd D M Peters (Dyffryn) neges e-bost ar 17 Chwefror 2020 i ddatgan ei gefnogaeth i’r newidiadau arfaethedig i ffiniau wardiau etholiadol De Bryncoch, Gogledd Coedffranc a Dyffryn. Awgrymodd fân ddiwygiad i’r newid i’r ffin rhwng Gogledd Coedffranc a Dyffryn. Tynnodd sylw hefyd at y gwelliant i gysylltiadau cyfathrebu a ddarperir gan y ffin arfaethedig. 5 ATODIAD 5 14. Anfonodd y Cynghorydd D Morgan (Glyn-nedd) neges e-bost ar 16 Chwefror 2020 i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Blaengwrach a Glyn-nedd. Amlygodd fod Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo i fuddsoddi yng nghymunedau’r Cymoedd, a dywedodd felly y dylai cynrychiolaeth etholiadol gael ei gwella yng nghymunedau’r cymoedd. Dywedodd hefyd ei fod yn credu ei bod yn debygol y byddai datblygiadau tai yn cael eu hargymell yn yr ardal yn y dyfodol. Cyfeiriodd hefyd at y gwelliannau i gysylltiadau cyfathrebu yn yr ardal (ffordd yr A465 Blaenau’r Cymoedd a’r Trac Profi Rheilffordd yn Onllwyn). Cydnabu fod ward etholiadol bresennol Blaengwrach yn cynnwys ward gymunedol Canol Gorllewin Glyn-nedd, ond dywedodd ei fod yn credu bod y rhan hon o’r gymuned wastad wedi bod ar wahân o weddill Glyn-nedd. Dywedodd y byddai cyfuno wardiau etholiadol presennol Blaengwrach a Glyn-nedd yn arwain at golli hunaniaeth gymunedol a gwasanaethau. Tynnodd sylw hefyd at hunaniaeth unigryw Blaengwrach/Cwmgwrach a Glyn-nedd, a dywedodd y byddai’n well ganddo petaent yn aros ar wahân.

15. Anfonodd y Cynghorydd J J Hurley (Pelenna) neges e-bost ar 14 ac 16 Chwefror 2020 i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Bryn, Cwmafan a Phelenna. Dywedodd y byddai’n well ganddo petai Pelenna yn cael ei chyfuno â ward etholiadol bresennol Cimla. Dywedodd ei fod yn credu bod cymuned Pelenna yn ardal wledig unigryw ac y byddai ei chyfuno â chymunedau Cwmafan a Bryn yn gwanhau gwasanaethau a hunaniaeth. Dywedodd fod gan gymuned Pelenna gysylltiadau cymunedol a chyfathrebu da â Chimla gan fod preswylwyr yn teithio yno’n rheolaidd ar gyfer gweithgareddau dyddiol fel yr ysgol, gwaith, siopa ac ati. Tynnodd sylw at y cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da â Chastell-nedd yn yr ardal hefyd. Amlygodd yr opsiwn o gyfuno Cimla a Phelenna fel ward etholiadol, ac i Fryn a Chwmafan gadw eu trefniadau presennol, gan ddarparu gwell cydraddoldeb etholiadol na’r wardiau etholiadol arfaethedig.

16. Anfonodd y Cynghorydd L Purcell (Pontardawe) neges e-bost ar 17 Chwefror 2020 i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Pontardawe a Threbannws. Mynegodd ei wrthwynebiad i ward etholiadol arfaethedig Pontardawe a Threbannws. Dywedodd ei fod yn credu y byddai cyfuno wardiau etholiadol presennol Pontardawe a Threbannws yn achosi i bentref Trebannws golli ei hunaniaeth gymunedol. Awgrymodd newid i’r ffin i drosglwyddo’r ardaloedd canlynol o Bontardawe i Drebannws: Derw Road, Glanrhyd Road, Primrose Row, Swansea Road, Uplands Road, Western Road ac Ynysderw House.

17. Anfonodd y Cynghorydd R Phillips (Trebannws) neges e-bost ar 17 Chwefror 2020 i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Pontardawe a Threbannws. Dywedodd ei fod yn credu y byddai cyfuno wardiau etholiadol presennol Pontardawe a Threbannws yn achosi i bentref Trebannws golli ei hunaniaeth gymunedol. Dywedodd hefyd mai’r enw Cymraeg yw Trebannws ac y dylid ei ddefnyddio mewn enwau sy’n cynnwys yr ardal hon.

6 ATODIAD 5 Awgrymodd ddau newid i ffiniau: i. Trosglwyddo’r ardaloedd canlynol o Bontardawe i Drebannws: Derw Road, Glanrhyd Road, Primrose Row, Swansea Road, Uplands Road, Western Road ac Ynysderw House, sef cyfanswm o 282 o etholwyr.

ii. Trosglwyddo’r ardaloedd canlynol o Bontardawe i Drebannws: Derw Road, Francis St, Fuller St, Glanrhyd Rd, Herbert St, Holly St, Llwynderw, Orchard St, Primrose Row, Riverside Court, Swansea Rd, Tawe Terrace, Ty'n-Y-Pant Rd, Uplands Rd, Wesley Terrace, Western Rd, Ynysderw House a Thŷ Mawr - Ynysderw Rd, cyfanswm o 600 o etholwyr.

18. Ysgrifennodd y Cynghorydd A Doherty (Cyngor Cymuned Blaengwrach) ar 21 Ionawr 2020 i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Blaengwrach a Glyn-nedd. Dywedodd hefyd ei fod yn credu ei bod yn debygol y byddai datblygiadau tai yn cael eu hargymell yn yr ardal yn y dyfodol. Amlygodd fod Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo i fuddsoddi yng nghymunedau’r Cymoedd, a dywedodd felly y dylai cynrychiolaeth etholiadol gael ei gwella yng nghymunedau’r cymoedd. Cyfeiriodd hefyd at y gwelliannau i gysylltiadau cyfathrebu yn yr ardal (ffordd yr A465 Blaenau’r Cymoedd a’r Trac Profi Rheilffordd yn Onllwyn). Tynnodd sylw hefyd at hunaniaeth unigryw Blaengwrach/Cwmgwrach a Glyn-nedd, a dywedodd y byddai’n well ganddo petaent yn aros ar wahân.

19. Ysgrifennodd y Cynghorydd M Mortimore (Cyngor Cymuned Blaengwrach) ar 21 Ionawr 2020 i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Blaengwrach a Glyn-nedd. Dywedodd hefyd ei fod yn credu ei bod yn debygol y byddai datblygiadau tai yn cael eu hargymell yn yr ardal yn y dyfodol. Amlygodd fod Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo i fuddsoddi yng nghymunedau’r Cymoedd, a dywedodd felly y dylai cynrychiolaeth etholiadol gael ei gwella yng nghymunedau’r cymoedd. Cyfeiriodd hefyd at y gwelliannau i gysylltiadau cyfathrebu yn yr ardal (ffordd yr A465 Blaenau’r Cymoedd a’r Trac Profi Rheilffordd yn Onllwyn). Cydnabu fod ward etholiadol bresennol Blaengwrach yn cynnwys ward gymunedol Canol Gorllewin Glyn-nedd, ond dywedodd y byddai cyfuno wardiau etholiadol presennol Blaengwrach a Glyn-nedd yn arwain at golli hunaniaeth gymunedol.

20. Anfonodd y Cynghorydd C Ford (Cyngor Tref Pontardawe) neges e-bost ar 19 Chwefror 2020 i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Pontardawe a Threbannws. Dywedodd ei fod yn credu y byddai cyfuno wardiau etholiadol presennol Pontardawe a Threbannws yn achosi i bentref Trebannws golli ei hunaniaeth gymunedol. Tynnodd sylw at y gwaith y mae’r aelod sy’n cynrychioli Trebannws yn ei wneud a dywedodd y byddai’r ward etholiadol arfaethedig yn achosi i Drebannws fod yn ‘bentref angof’. Amlygodd hefyd mai’r enw Cymraeg yw Trebannws ac nid Trebanos.

7 ATODIAD 5 21. Anfonodd Grŵp Gweithredu Cymunedol Blaengwrach neges e-bost a llythyr ar 17 Chwefror 2020 i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Blaengwrach a Glyn-nedd. Dywedodd hefyd ei fod yn credu ei bod yn debygol y byddai datblygiadau tai yn cael eu hargymell yn yr ardal yn y dyfodol. Amlygodd fod Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo i fuddsoddi yng nghymunedau’r Cymoedd, a mynegodd ei bryderon ynglŷn â’r effaith y byddai hynny’n ei chael ar yr ardal leol a’r newid i hunaniaeth y cymunedau. Dywedodd y byddai cyfuno wardiau etholiadol presennol Blaengwrach a Glyn-nedd yn arwain at golli hunaniaeth gymunedol ac yn ei gwneud yn fwyfwy anodd gwarchod diwylliant a threftadaeth yr ardal. 22. Ysgrifennodd Democratiaid Rhyddfrydol Aberafan a Chastell-nedd ar 17 Chwefror 2020 gan amlinellu eu hargymhellion i’r Comisiwn. Rhoddir isod yr ymateb a’r argymhellion a anfonwyd at y Comisiwn.

8 ATODIAD 5

23. Anfonodd y Cynghorydd S Hunt, Arweinydd y Grŵp Annibynnol a Democrataidd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot neges e-bost ar 18 Chwefror 2020 i wneud sylwadau ar y wardiau etholiadol canlynol: • Pelenna – Mynegodd ei wrthwynebiad i ward etholiadol arfaethedig Bryn, Cwmafan a Phelenna o ganlyniad i’r gwahaniaeth yn yr ardaloedd. Tynnodd sylw at y gwahaniaeth yn y Dreth Gyngor a dywedodd y byddai gwahaniaeth yn y taliad praesept gan nad oes Cyngor Cymuned ym Mryn nac yng Nghwmafan. Dywedodd ei fod yn ymwybodol nad oedd Cyngor Cymuned Pelenna eisiau i’r sefyllfa newid, ond pe byddai newid am gael ei weithredu, byddai’n ffafrio cyfuno cymuned gyfan Pelenna â ward etholiadol bresennol Cimla. • Resolfen a Thonna – Mynegodd ei gefnogaeth i ward etholiadol arfaethedig Resolfen a Thonna. 24. Anfonodd y Cynghorydd A Llewelyn, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot neges e-bost ar 18 Chwefror 2020 i wneud sylwadau ar y wardiau etholiadol canlynol: • Cwmllynfell ac Ystalyfera – Dywedodd ei fod eisiau i Gwmllynfell aros yn ward unigol. Os nad oedd hyn yn bosibl, dywedodd y byddai’n cefnogi ward etholiadol arfaethedig Cwmllynfell ac Ystalyfera gan fod yr ardal yn rhannu hunaniaeth gyffredin Cwm Tawe. 9 ATODIAD 5 • Gwauncaegurwen a Brynaman Isaf – Mynegodd ei gefnogaeth i ward etholiadol arfaethedig Gwauncaegurwen a Brynaman Isaf gan fod yr ardal yn rhannu hunaniaeth gyffredin Cwm Aman. • Pelenna - Dywedodd ei fod eisiau i Belenna aros yn ward unigol. Os nad oedd hyn yn bosibl, dywedodd y byddai’n cefnogi cyfuno wardiau etholiadol presennol Pelenna a Chimla, oherwydd dyna sydd orau gan y gymuned leol. • De Bryncoch a Dyffryn – Mynegodd ei wrthwynebiad i’r newidiadau arfaethedig i ffiniau wardiau etholiadol De Bryncoch a Dyffryn. Awgrymodd newid i’r ffin i drosglwyddo’r ardaloedd canlynol o Ddyffryn i Dde Bryncoch: Stratton Way, The Sinnatts, Trahearne Court, Abbotts Walk, Adam Walk, Carey Walk, Court Walk, Gronow Close, Road, The Hannants, Monk Close, Ryan Close, Pilgrims Close, Nidum Close, Parry Close, Friars Close, Benedict Close a Tailwyd Road. Awgrymodd fod y newid uchod i’r ffin yn darparu ffin gymunedol a daearyddol naturiol, ac awgrymodd y byddai angen aelod ychwanegol ar gyfer ward De Bryncoch yn sgil y newid hwn. • Aberafan – Mynegodd ei wrthwynebiad i’r bwriad o leihau nifer yr aelodau sy’n cynrychioli ward etholiadol Aberafan o ganlyniad i’r llwyth gwaith presennol y mae’r aelodau yn yr ardal hon yn gyfrifol amdano. Amlygodd y lefelau amddifadedd a natur drefol y ward, gan gynnwys y parciau diwydiannol, yr ysbyty a’r Ganolfan Ddinesig. Gofynnodd i’r Comisiwn ailystyried leihau’r gynrychiolaeth ar gyfer y ward hon o dri i ddau aelod. • Blaengwrach a Glyn-nedd – Mynegodd ei wrthwynebiad i ward etholiadol arfaethedig Blaengwrach a Glyn-nedd. Dywedodd ei fod yn credu ei bod yn debygol y byddai datblygiadau tai yn cael eu hargymell yn yr ardal yn y dyfodol. Amlygodd fod Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo i fuddsoddi yng nghymunedau’r Cymoedd, a dywedodd felly y dylai cynrychiolaeth etholiadol gael ei gwella yng nghymunedau’r cymoedd. Cyfeiriodd hefyd at y gwelliannau i gysylltiadau cyfathrebu yn yr ardal (ffordd yr A465 Blaenau’r Cymoedd a’r Trac Profi Rheilffordd yn Onllwyn). Cydnabu fod ward etholiadol bresennol Blaengwrach yn cynnwys ward gymunedol Canol Gorllewin Glyn-nedd, ond dywedodd y byddai cyfuno wardiau etholiadol presennol Blaengwrach a Glyn-nedd yn arwain at golli hunaniaeth gymunedol. • Pontardawe a Threbannws – Mynegodd ei wrthwynebiad i ward etholiadol arfaethedig Pontardawe a Threbannws. Dywedodd ei fod yn credu y byddai cyfuno wardiau etholiadol presennol Pontardawe a Threbannws yn achosi i bentref Trebannws golli ei hunaniaeth gymunedol. Awgrymodd newid i’r ffin i drosglwyddo’r ardaloedd canlynol o Bontardawe i Drebannws: Derw Road, Glanrhyd Road, Primrose Row, Swansea Road, Uplands Road, Western Road ac Ynysderw House.

25. Anfonwyd 93 cynrychiolaeth gan 118 o breswylwyr Cwmgwrach ar ffurf llythyr profforma yn ystod y cyfnod ymgynghori i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Blaengwrach a Glyn- nedd, gan ddweud eu bod yn credu ei bod yn debygol y byddai datblygiadau tai yn cael eu hargymell yn yr ardal yn y dyfodol. Dywedasant eu bod yn credu y byddai cyfuno wardiau 10 ATODIAD 5 etholiadol presennol Blaengwrach a Glyn-nedd yn arwain at golli hunaniaeth gymunedol Blaengwrach ac yn colli cynrychiolaeth i’r preswylwyr. Roeddent yn gwrthwynebu’r cysylltnod yn yr enw Cymraeg arfaethedig Blaen-gwrach.

26. Anfonwyd 10 cynrychiolaeth gan 10 o breswylwyr Glyn-nedd ar ffurf llythyr profforma yn ystod y cyfnod ymgynghori i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Blaengwrach a Glyn- nedd, gan ddweud eu bod yn credu ei bod yn debygol y byddai datblygiadau tai yn cael eu hargymell yn yr ardal yn y dyfodol. Dywedasant eu bod yn credu y byddai cyfuno wardiau etholiadol presennol Blaengwrach a Glyn-nedd yn arwain at golli hunaniaeth gymunedol Blaengwrach ac yn colli cynrychiolaeth i’r preswylwyr. Roeddent yn gwrthwynebu’r cysylltnod yn yr enw Cymraeg arfaethedig Blaen-gwrach.

27. Anfonwyd tri cynrychiolaeth gan tri o breswylwyr Castell-nedd Port Talbot ar ffurf llythyr profforma yn ystod y cyfnod ymgynghori i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Blaengwrach a Glyn-nedd, gan ddweud eu bod yn credu ei bod yn debygol y byddai datblygiadau tai yn cael eu hargymell yn yr ardal yn y dyfodol. Dywedasant eu bod yn credu y byddai cyfuno wardiau etholiadol presennol Blaengwrach a Glyn-nedd yn arwain at golli hunaniaeth gymunedol Blaengwrach ac yn colli cynrychiolaeth i’r preswylwyr. Roeddent yn gwrthwynebu’r cysylltnod yn yr enw Cymraeg arfaethedig Blaen-gwrach.

28. Anfonodd un o breswylwyr Castell-nedd Port Talbot neges e-bost ar 28 Tachwedd 2019 i gefnogi ward etholiadol arfaethedig Blaengwrach a Glyn-nedd gan y byddai’n haws, yn rhatach ac yn darparu mwy o atebolrwydd.

29. Ysgrifennodd un o breswylwyr Castell-nedd Port Talbot drwy borth CFfDLC ar 2 Chwefror 2020 i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Blaengwrach a Glyn-nedd. Dywedodd ei fod yn credu y byddai Blaengwrach yn colli ei hunaniaeth. Amlygodd fod Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo i fuddsoddi yng nghymunedau’r Cymoedd, a dywedodd felly y dylai cynrychiolaeth etholiadol gael ei gwella yng nghymunedau’r cymoedd. Cyfeiriodd hefyd at y gwelliannau i gysylltiadau cyfathrebu yn yr ardal (ffordd yr A465 Blaenau’r Cymoedd).

30. Ysgrifennodd un o breswylwyr Castell-nedd Port Talbot drwy borth CFfDLC ar 2 Chwefror 2020 i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Blaengwrach a Glyn-nedd. Amlygodd ei bryderon y byddai canlyniadau’r arolwg hwn yn effeithio ar ddarpariaeth addysg yn yr ardal.

31. Ysgrifennodd un o breswylwyr Castell-nedd Port Talbot drwy borth CFfDLC ar 2 Chwefror 2020 i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Blaengwrach a Glyn-nedd.

32. Ysgrifennodd un o breswylwyr Castell-nedd Port Talbot drwy borth CFfDLC ar 2 Chwefror 2020 i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Blaengwrach a Glyn-nedd.

33. Ysgrifennodd un o breswylwyr Castell-nedd Port Talbot drwy borth CFfDLC ar 3 Chwefror 2020 i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Blaengwrach a Glyn-nedd.

34. Ysgrifennodd un o breswylwyr Castell-nedd Port Talbot drwy borth CFfDLC ar 3 Chwefror 2020 i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Blaengwrach a Glyn-nedd.

11 ATODIAD 5 35. Anfonodd un o breswylwyr Cwmgwrach neges e-bost ar 9 Chwefror 2020 i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Blaengwrach a Glyn-nedd. Amlygodd ei bryderon y byddai lleihau nifer yr aelodau mewn wardiau etholiadol gwledig a lled-wledig yn cael effaith niweidiol ar ffurf tuedd wleidyddol. Mynegodd ei wrthwynebiad i newid i’r enw Blaengwrach a dywedodd y dylai’r enw aros yr un fath heb y cysylltnod. Dywedodd ei fod yn credu y byddai newid yr enw yn arwain at gost ddiangen o ganlyniad i newid arwyddion ac ati.

36. Anfonodd un o breswylwyr Castell-nedd Port Talbot neges e-bost ar 17 Chwefror 2020 i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Blaengwrach a Glyn-nedd. Amlygodd y gwaith y mae ei Gynghorydd Bwrdeistref Sirol yn ei wneud a’i bryderon y byddai’r gynrychiolaeth yn lleihau. Mynegodd ei wrthwynebiad i newid i’r enw Blaengwrach a dywedodd y dylai’r enw aros yr un fath heb y cysylltnod.

37. Anfonodd un o breswylwyr Blaengwrach neges e-bost ar 18 Chwefror 2020 i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Blaengwrach a Glyn-nedd. Dywedodd fod gan Flaengwrach hunaniaeth unigryw a’i fod yn pryderu y byddai’r gynrychiolaeth ar gyfer ei ardal yn lleihau.

38. Ysgrifennodd un o breswylwyr Castell-nedd Port Talbot drwy borth CFfDLC ar 6 Chwefror 2020 i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Pontardawe a Threbannws.

39. Anfonodd un o breswylwyr Trebannws neges e-bost ar 6 Chwefror 2020 i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Pontardawe a Threbannws. Dywedodd fod gan Drebannws hunaniaeth unigryw. Dywedodd hefyd fod hyn yn gamgymeriad ac fe’i cymharodd â’r newidiadau a wnaed yn y gorffennol (Gorllewin Morgannwg).

40. Anfonodd un o breswylwyr Trebannws neges e-bost ar 17 Chwefror 2020 i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Pontardawe a Threbannws. Dywedodd fod gan Drebannws hunaniaeth unigryw a bod y preswylwyr yn teimlo eu bod yn ‘angof’. Tynnodd sylw at y gwaith y mae ei Gynghorydd Bwrdeistref Sirol yn ei wneud a’i bryderon y byddai’r gynrychiolaeth yn lleihau.

41. Ysgrifennodd un o breswylwyr Castell-nedd Port Talbot drwy borth CFfDLC ar 18 Chwefror 2020 i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Pontardawe a Threbannws. Dywedodd fod gan Drebannws hunaniaeth gymunedol unigryw a’i fod yn pryderu y byddai’r gynrychiolaeth yn lleihau.

42. Anfonodd un o breswylwyr Trebannws neges e-bost ar 19 Chwefror 2020 i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Pontardawe a Threbannws. Dywedodd fod gan Drebannws hunaniaeth gymunedol unigryw a’i fod yn llwyr gefnogi’r gwrthwynebiadau a fynegwyd gan y Cynghorydd R Phillips a holl gynghorwyr lleol Pontardawe.

43. Anfonodd un o breswylwyr Trebannws neges e-bost ar 19 Chwefror 2020 i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Pontardawe a Threbannws. Dywedodd fod gan Drebannws hunaniaeth gymunedol unigryw a’i fod yn pryderu y byddai’r gynrychiolaeth yn lleihau.

44. Anfonodd un o breswylwyr De Bryncoch neges e-bost ar 18 Chwefror 2020 i wrthwynebu’r newid arfaethedig i’r ffin a fyddai’n trosglwyddo 492 o etholwyr o ward De Bryncoch i ward Dyffryn Clydach.

12 ATODIAD 5 45. Anfonodd un o breswylwyr De Bryncoch neges e-bost ar 18 Chwefror 2020 i wrthwynebu’r newid arfaethedig i’r ffin a fyddai’n trosglwyddo 492 o etholwyr o ward De Bryncoch i ward Dyffryn Clydach.

46. Anfonodd un o breswylwyr De Bryncoch neges e-bost ar 19 Chwefror 2020 i wrthwynebu’r newid arfaethedig i’r ffin a fyddai’n trosglwyddo 492 o etholwyr o ward De Bryncoch i ward Dyffryn Clydach.

47. Ysgrifennodd un o breswylwyr Castell-nedd Port Talbot drwy borth CFfDLC ar 6 Chwefror 2020 i wrthwynebu ward etholiadol arfaethedig Cwmllynfell ac Ystalyfera. Dywedodd y byddai Ystalyfera yn cyd-fynd yn well ag Ystradgynlais neu Ynysmeudwy.

48. Anfonodd un o breswylwyr Port Talbot neges e-bost ar 10 Chwefror 2020 i wrthwynebu’r gostyngiad arfaethedig yn nifer yr aelodau sy’n cynrychioli ward etholiadol Port Talbot o ganlyniad i’r llwyth gwaith y mae’r aelodau yn yr ardal hon yn gyfrifol amdano ar hyn o bryd. Amlygodd y lefelau amddifadedd a natur drefol y ward, gan gynnwys y datblygiad tai newydd. Gofynnodd i’r Comisiwn ailystyried lleihau’r gynrychiolaeth ar gyfer y ward hon o dri i ddau aelod.

13 ATODIAD 6

DATGANIAD YSGRIFENEDIG GAN LYWODRAETH CYMRU

TEITL ETHOLIADAU LLEOL A THREFNIADAU ETHOLIADOL DYDDIAD DYDD IAU, 23 MEHEFIN 2016

MARK DRAKEFORD, YSGRIFENNYDD Y CABINET DROS GYLLID GAN A LLYWODRAETH LEOL

Gwnaeth Gorchymyn Etholiadau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2014 ddarpariaeth i ohirio etholiadau lleol yng Nghymru am flwyddyn, o fis Mai 2016 tan fis Mai 2017. Caniataodd hyn i wahanu’r etholiadau oddi wrth etholiadau’r Cynulliad.

Ar hyn o bryd, mae Deddf Llywodraeth Leol 1972 yn darparu bod etholiadau cyffredin i lywodraeth leol yng Nghymru yn digwydd ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai bob pedair blynedd. Felly byddai etholiadau nesaf llywodraeth leol yn digwydd fel arfer ym mis Mai 2021. Ers gweithredu’r ddarpariaeth yn Neddf Cymru 2014, mae etholiadau i’r Cynulliad Cenedlaethol yn digwydd ar gylch pum mlynedd. Polisi Llywodraeth Cymru yw y dylai etholiadau lleol hefyd ddigwydd ar gylch pum mlynedd. Bwriedir felly y bydd cynghorwyr a etholir fis Mai nesa yn dal eu swyddi tan fis Mai 2022.

Mae’r Bil Cymru, sydd o flaen Senedd San Steffan ar hyn o bryd, yn cynnwys darpariaeth a fyddai’n galluogi’r Cynulliad i ddeddfu i bennu cyfnod swydd llywodraeth leol. Gan fod y Bil ar ffurf drafft ar hyn o bryd a phe bai’r ddarpariaeth hon yn peidio dod i rym am unrhyw reswm, gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r un pwerau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 a ddefnyddiwyd gennym yn 2014 i ohirio’r etholiadau am flwyddyn. Mae’r datganiad

1 ATODIAD 6

hwn felly yn rhoi eglurder i lywodraeth leol ynghylch hyd swydd y rhai a etholir flwyddyn nesa.

Yng ngolau hyn, rwyf wedi ystyried y penderfyniad a wnaethpwyd y llynedd ynglŷn â threfniadau etholiadol rhai prif gynghorau. Penderfynwyd bryd hynny na ddylid gweithredu adolygiadau a gynhaliwyd gan y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru mewn perthynas â naw prif ardal, a derbyn mai’r bwriad oedd y byddai cynghorau a etholwyd yn 2017 dim ond yn gwasanaethu cyfnod byr cyn eu huno.

Fodd bynnag, er mai canlyniad yr etholiadau fis Mai y flwyddyn nesa fydd cyfnod llawn, oherwydd eu hagosrwydd, y trefniadau y byddai eu hangen a’r aflonyddu ar ymgeiswyr posib, nid wyf yn bwriadu gweithredu unrhyw newidiadau i’r trefniadau etholiadol presennol yn deillio o’r adolygiadau hynny cyn etholiadau 2017. Y cynghorau sir a effeithir yw Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Dinbych, Gwynedd, Mynwy, Penfro, Powys a Thorfaen.

Mae’r penderfyniad y bydd cynghorau yn cael eu hethol am gyfnod llawn hefyd yn golygu y bydd y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol (y Comisiwn) yn dychwelyd i’w cylch arferol o adolygu trefniadau etholiadol bob deng mlynedd. Rwy’n disgwyl i’r Comisiwn gyhoeddi cyn gynted â phosib raglen newydd wedi’i blaenoriaethu sy’n cymryd i ystyriaeth oed y trefniadau presennol mewn rhai ardaloedd a maint y newid ers pan gynhaliwyd yr adolygiad diwethaf. Byddaf yn gofyn i’r Comisiwn, wrth gynllunio eu gwaith, i ddechrau drwy ddychwelyd at y naw adolygiad sydd heb eu gweithredu, gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiadau o’r newydd ar y rhain ar gychwyn cyntaf eu rhaglen.

Fy mwriad yw y bydd adolygiadau o drefniadau etholiadol y prif gynghorau yn cael eu cynnal yn erbyn set o feini prawf cyffredin i’w cytuno drwy’r Comisiwn. Rwyf hefyd yn disgwyl y bydd adolygiadau etholiadol ar gyfer y 22 awdurdod wedi’u cwblhau o fewn y tymor llywodraeth leol nesaf.

Mae’r trefniadau hyn yn rhoi eglurder i’r rhai sy’n ystyried sefyll yn etholiad 2017. Maent hefyd yn gosod gorwel cynllunio tymor hir i awdurdodau lleol a’u partneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Fodd bynnag, hoffwn ddweud yn ddiamheuol bod trafodaethau ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill ar yr agenda diwygio yn parhau. Byddaf yn cynnig ffordd ymlaen ar ddiwygio llywodraeth leol yn yr hydref.

© Hawlfraint CFfDLC 2020