UNED 40 (Pedwar deg / Deugain)
ADRAN A
Dw i’n poeni am Ann Dw i’n poeni amdani hi hefyd am John amdano fo am yr anifeiliaid amdanyn nhw
Dw i’n mynd rwan Be’ amdana i? Be’ amdanat ti? Be’ amdanon ni? Be’ amdanoch chi? Be’ am y gwaith? Be’ amdano fo?
Ella bydda i’n hwyr Paid â phoeni. Mi wna i aros amdanat ti Ella bydd y plant yn hwyr amdanyn nhw Ella bydd y bws yn hwyr amdano fo
------
Edrycha arna i Edrychwch arnon ni Gwranda arni hi Gwrandewch ar hyn
Wnest ti edrych ar y rhaglen? Do, mi wnes i edrych arni hi ddoe ar y nodiadau arnyn nhw Wnest ti wrando ar y tâp? Do, mi wnes i wrando arno fo ar y neges? arni hi
Mi fydda i yno mewn pryd Gobeithio wir. Dw i’n dibynnu arnat ti Mi fyddwn ni yno arnoch chi Mi fydd Sam Tân yno arno fo
------
Am be’ dach chi’n siarad? Am y newyddion Am be’ dach chi’n meddwl? Am y dyfodol Am bwy dach chi’n aros? Am y cariad
Ar be’ dach chi’n licio edrych? Ar S4C, wrth gwrs Ar be’ dach chi’n licio gwrando? Ar Radio Cymru, wrth gwrs
Geirfa cerddoriaeth - music ffyrdd - roads clasurol - classical gwastraffu - to waste cwsmer (-iaid) - customer(s) nodiadau - notes cymaint - so much, so many peryglus (peryg) - dangerous chwaith - either ucha - highest, loudest dyfodol - future wrth - while
Patrymau
1. Arddodiaid - Prepositions
a) Cyfuniadau - Combinations
meddwl am - to think about edrych ar - to look at poeni am - to worry about gwrando ar - to listen to siarad am - to talk about dibynnu ar - to depend on anghofio am - to forget about aros am - to wait for
b) Trefn geiriau - Word order
Am be’ dach chi’n siarad? - What are you talking about? Ar be’ dach chi’n gwrando? - What do you listen to?
c) Rhediadau - Conjugations
am ar
amdana i arna i amdanat ti arnat ti amdano fo arno fo amdani hi arni hi amdanon ni arnon ni amdanoch chi arnoch chi amdanyn nhw arnyn nhw
2. Amser dyfodol - Future Tense
mi wna i aros - I will wait (contr. mi fydda i’n aros - I will be waiting)
3. Gorchmynion - Commands
gwrando > gwrandewch (chi) gwrandawa > gwranda (ti)
ADRAN B
1. Dach chi’n berson poenus iawn, ond does dim ots gan eich partner am ddim byd. Pan fyddwch chi’n deud: Ond be’ am y plant? mi fydd eich partner yn deud: Be’ amdanyn nhw?
You’re a worrier, but your partner couldn’t care less!
fo: y smwddio, y car, y pres, y cwrs, y ci, y dyfodol hi: yr ardd
2. Mi wnaethoch chi edrych ar dri peth ac mi wnaethoch chi wrando ar dri peth neithiwr. Ticiwch nhw. Yna gofynnwch i’ch partner, e.e.
. Wnest ti edrych ar y rhaglen neithiwr? Do, mi wnes i edrych arni hi / Naddo, wnes i ddim edrych arni hi
Dach chi’n ateb wedyn, e.e. O? Mi wnes i edrych arni hi (hefyd) O? Wnes i ddim edrych arni hi (chwaith)
EDRYCH GWRANDO
rhaglen (hi) tâp (fo)
papur (fo) neges (hi)
nodiadau (nhw) recordiau (nhw)
manylion (nhw) stori (hi)
llyfr (fo) sgwrs (hi)
gêm (hi) tiwtor (hi/fo)
ADRAN C: Deialog
A. Dach chi’n mwynhau eich gwaith?
B. Ydw a nac ydw
A. Be’ dach chi’n licio fwya am y swydd?
B. Cyfarfod pobl
A. A be’ dach chi’n licio leia amdani hi?
B. Y teithio. Dw i’n gyrru tua mil o filltiroedd bob wythnos
A. Ar be’ dach chi’n gwrando yn y car?
B. Fel arfer, dw i’n gwrando ar gerddoriaeth glasurol, ond os ydy hi’n braf, dw i’n licio gwrando ar grwpiau roc trwm, agor y ffenestri a chodi lefel y sŵn i’r lefel ucha posib
A. Am be’ dach chi’n meddwl wrth yrru?
B. Dw i ddim yn cael amser i feddwl! Dw i’n rhy brysur yn siarad efo cwsmeriaid ar y ffôn, bwyta brechdanau, siafio, ac ati. Dw i ddim yn licio gwastraffu amser!
A. Dach chi’n poeni am gael damwain?
B. Ydw, trwy’r amser. Mae ’na gymaint o bobl yn gyrru’n beryglus ar y ffyrdd y dyddiau yma.
ADRAN CH: Opera sebon
1. a) Pwy ydy Gwen Evans? ______
b) Lle mae hi’n byw? ______
2. Gwrandewch am:
prif - chief, main agos - close canol - middle, centre unig - only chwilio am - to look for buan - soon dwad draw - to come over
3. Llenwch y bylchau: Fill the gaps:
Gobeithio ______chi’n hapus iawn efo ni yma.
Mae hi’n ______yma ar hyn o bryd.
Mi faswn i’n licio gwybod tipyn bach mwy ______chi.
Dw i wedi cael fflat mawr braf yng ______y dre.
Dw i isio symud allan ______.
______am swper hefyd.
4. Lle mae Siôn yn mynd am swper heno? ______
ADRAN D: Taflen waith
1. Dilynwch y patrwm Follow the pattern
Dw i’n poeni am y gwaith > Dw i’n poeni amdano fo hefyd Wnes i ddim edrych ar y rhaglen > Wnes i ddim edrych arni hi chwaith
Dw i’n dibynnu ar Ann ______
Dw i ddim yn gwrando ar Terry Wogan ______
Dan ni’n aros am y bws (fo) ______
Dw i’n poeni am yr anifeiliaid ______
Mi wnes i anghofio am y bil (fo) ______
Dw i ddim isio siarad am fy mhroblemau ______
Wnes i ddim gwrando ar y rhaglen (hi) ______
Dôn i ddim yn edrych ar Andy Pandy ______
Dw i’n poeni am y tiwtor ______
2. Gofynnwch gwestiwn addas Ask an appropriate question
______Am y bws
______Am y bos
______Ar S4C
______Ar Dr. Who
______Am y bobl drws nesa
______Am y dyfodol
______Ar Radio Caroline
______Am y bil
3. SIANEL PEDWAR CYMRU
RHAGLENNI S4C:
Pobl y Cwm opera sebon, pump diwrnod yr wythnos (ac omnibws)
Superted, Wil Cwac Cwac, Gogs cartwnau sy wedi ennill llawer o wobrau
C’mon Midffild y rhaglen gomedi orau erioed
Tair Chwaer, Iechyd Da, Pengelli cyfresi drama poblogaidd
Sgorio, Gôl, Y Clwb Rygbi rhaglenni chwaraeon cyffrous
Noson Lawen, i-dot, Gwahoddiad cerddoriaeth i siwtio pob oed
Planed Plant, Rownd a Rownd rhaglenni bywiog i blant
Slot Meithrin, WCW rhaglenni i blant dan bump oed
Siôn a Siân, Jacpot, Gair am Aur rhaglenni cwis ysgafn
Newyddion, Taro Naw, Y Byd ar Bedwar rhaglenni da am faterion cyfoes
Ffermio, Garddio, Coginio ...... a llawer mwy
cyfoes - current goreuon - highlights cyfres - series ysgafn - light cyffrous - exciting
a) Ar ba raglenni dach chi / fasech chi ‘n licio edrych?
______b) Ar ba raglenni fasech chi byth yn edrych?
______