Datganiad i’r Cyfryngau Gorffennaf 2019 I’w ryddhau ar unwaith

Darganfod eich Sinema Leol yn 2019 wrth i Flwyddyn Darganfod gyrraedd Sgriniau ledled Cymru

Mae 2019 yn Flwyddyn Darganfod dan arweiniad Croeso Cymru. Meddyliwch am antur, diwylliant, tirwedd a phrofiadau cofiadwy. Meddylich am sinema.

Mae Canolfan Ffilm Cymru, a Chapter fel y Coff Arweiniol i Ganolfannau, yn gweithio gyda lleoliadau yng Nghymru i ddathlu’r hyn sydd yn gwneud Cymru yn unigryw ac i dywys cynulleifaoedd ar daith sinematig o ddarganfod.

Drwy gydol 2019, gall cynulleifaoedd gysyltu gyda diwylliant a thirwedd Cymru, o fryniau Eryri yn yr 19eg Ganrif yn y ffilm newydd ‘Gwen’ i e-lyfr ar hanes Cymru ar sgrin. Fe fydd cyfle hefyd i weld rhai o hoff ffilmiau ar thema darganfod drwy becyn rhaglen wedi’i guradu yn arbenig gan Ganolfan Ffilm Cymru. Dywedodd Hana Lewis, Rheolwraig Strategol Canolfan Ffilm Cymru:

“Mae themâu Croeso Cymru o ddarganfod, o deithiau i antur, diwylliant a thirwedd yn ddelfrydol i bŵer gweledol a dychymyg ffilm. Mae yna bosibiliadau diddiwedd i gynulleidfoaedd i brofi rhywbeth newydd, boed yn ddarganfod eu sinema leol am y tro cyntaf neu i ailgysylltu. O ddangosiadau ffilm yng nghynhadledd Astudiaethau Celtaidd, i daith o’r ffilm newydd Gwen, sydd yn orlawn o dirweddau byw Cymru, fe fyddwn yn dathlu nifer o bethau sydd yn gwneud Cymru yn unigryw ar y sgrin.”

Ychwanegodd Philip Hoile, Pennaeth Dosbarthu, Bulldog Film Distribution:

“Rydym yn falch bod Gwen yn gynwysiedig yn y Flwyddyn Darganfod. Mae’n ffilm sydd yn dangos tirwedd trawiadol Eryri gyda’i awyrgylch gothig cyfoethog yn ogystal â chyflwyno stori merch ifanc yn ystpd cyfnod cymhleth yn hanes Cymru sydd yn destun parod i drafodaeth. Rydym yn gobeithio y bydd nifer o bobl yn darganfod y ffilm ardderchog yma mewn sinemau yng Nghymru yn ystod gweddill y flwyddyn.”

Cefnogir y prosiectau gan Ganolfan Ffilm Cymru, rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI (RCFf) ga n ddefnyddio cyllid oddi wrth y Loteri Cenedlaethol i sicrhau bod y dewis mwyaf o sinema ar gael i bawb ar draws y DU.

Prosiectau 2019

De Cymru

Wales One World (WOW) (Medi 2019 – Ebrill 2020)

Drwy gyfrwng y prosiect Byd-eang-Gwledig, mae WOW yn archwilio effaith globaleiddio ar gymdeithasau gwledig ochr yn ochr gyda Ffordd yr Arfordir1. Fe fyddan nhw’n cyflwyno ffilmiau byr, animeiddiadau a ffilmiau archif Cymreig i gynulleidfaoedd yng ngorllewin Cymru.

Fe fydd ei rhaglen sinema Byd ac Annibynnol i gynulleidfoaedd sydd yn byw yng ngorllewin Cymru wledig yn cefnogi oedolion lleol a phobl ifanc gydag anableddau dysgu, yn ogystal â theuluoedd ffoaduriaid, pobl sydd yn byw mewn cymunedau amaethyddol/gwledig a chymunedau Cymraeg eu hiaith. Fe fydd WOW yn gweithio gydag amrediad amrywiol o grwpiau cymunedol fel rhan o strategaeth i gyrraedd cynulleidfaoedd gwledig a chynnig man cyfarfod i wahanol grwpiau i brofi a thrafod amrywiaeth o sinema byd. Nod y prosiect ydy annog trafodaeth ac ysbrydoli cymunedau drwy ddod â chynulleidfoaedd gwledig at ei gilyddd i ddelio gydag ynysigrwydd, meithrin dealltwriaeth cyffredin a chydlyniant cymdeithasol. https://www.wowfilmfestival.com/en/events https://twitter.com/wowfilm https://www.facebook.com/WOWfilmfest/

Pontardawe 12 Medi Fe gaiff Ray and Liz, y ffilm newydd gan y ffotograffydd arobryn o Abertawe, Richard Billingham, a’r cynhyrchydd Cymreig Jacqui Davies,ei dangos yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontardawe, ynghyd â sgwrs gyda gwneudthurwyr y ffilm. Yn fywgraffiadol o ran anian, mae Billingham yn dychwelyd at ffotograffau trawiadol ei deulu yn ystod Prydain yng nghyfnod Thatcher a’i fagwraeth ar gyrion Birmingham. https://npttheatres.co.uk/pontardawe/ https://twitter.com/npttheatres https://www.facebook.com/PontardaweArtsCentre/

Gogledd Cymru

Off Y Grid (Mai 2019 – Ebrilll 2020) Gan groesawu cynulleidfaoedd ynysig i leoiadau ar draws Ffordd Gogledd Cymru drwy gydol 2019, fe fydd sinemau ‘Off y Grid’ yn dathlu iaith a thirwedd hynafol Cymru.

1 Gweler y nodiadau ar y diwedd am ddiffiniad o Ffordd Cymru, Croeso Cymru. Fe fydd y chwedl Gymraeg,newydd, Gwen, a gafodd ei dangos gyntaf yn Pontio ar 10 Gorffennaf mewn partneriaeth gyda Bafta Cymru, yn cael ei dangos ochr yn ochr gyda chyfres o ffilmiau byr Cymraeg yng Nghynhadledd Ryngwladol Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r gynhadledd yn cynrychioli ymgasgliad rhyngwladol o ysgolheigion sydd yn ymchwilio i ieithoedd, llenyddiaeth a thraddodiadau diwylliannol y bobl sydd yn siarad ieithoedd Celtaiddd, ac fe’i cynhelir unwaith bob pedair blynedd. Mae’r ffilm gyfnod newydd Last Summer yn cael ei dangos hefyd ar hyn o bryd mewn nifer o leoliadau.

O fryniau llechi Blaenau Ffestiniog i draethau’r Rhyl, fe fydd CellB a Wicked Wales yn ailgysylltu cynulleidfaoedd teulu gyda rhaglenni Cymraeg adnabyddus fel Superted a Gelert, yn cynnwys digwyddiad cydweithredol ‘Films in the Forest’ ym mis Hydrf. Fe fydd cynulleidfaoedd newydd hefyd yn darganfod sinema wrth i Off y Grid ymddangos mewn gofodau a lleoedd annarferol .

Wedi’i sefydlu yn 2016, mae Off Y Grid (OYG) yn bartneriaeth rhwng saith o sinemau yng ngogledd Cymru sydd yn cydweithio i hyrwyddo ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol annibynnol, yn cynnwys ffilmiau Cymreig. Diben y prosiect ydy lleihau ynysigrwydd gwledig drwy ddigwyddiadau cysylltiedig, fforddiadwy, gan greu disgwylgarwch o amgylch rhyddhau ffilmiau yng ngogledd Cymru. Mae lleoliadau Off Y Grid yn cynnwys Galeri, Caernarfon; Pontio, Bangor; Theatr Ardudwy, Harlech; CELLB, Blaenau Ffestiniog, Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli, Dragon Theatre yn y Bermo, TAPE yn Hen Golwyn a Neuadd Ogwen, Bethesda. twitter.com/offygrid facebook.com/offygrid Promotional trailer: https://vimeo.com/223606421

TAPE: (Mehefin 2019- Rhagfyr 2019) Fe fydd TAPE yn lansio eu gŵyl ffilm gynhwysiad gyntaf yn Hen Golwyn yn ystod 2019, yn cyfuno harddwch Ffordd Gogledd Cymru gyda diwylliant gwneud ffilmiau lleol, i ymwelwyr. Fe fydd y digwyddiad yn cefnogi lleisiau newydd ar draws cymunedau ac yn cynnwys cyfeiriad tuag at hyfforddiant a chyflogaeth ar draws gogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys premiere Paul & the Undersea Critters, a ffilm animeiddio fer gan yr animeiddiwr Cymreig Shane Howard. Fe fydd TAPE hefyd yn dathlu ychydig o bensaernïaeth hanesyddol gogledd Cymru gyda dangosiadau pop-yp arbennig yn cynnwys penwythnos Capel Arswyd yng Nghapel Conwy a chyfres o ddangosiadau yn eu Sinema Cell Carchar yn Rhuthun, mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Archif Sir Ddinbych. Mae TAPE yn elusen gelfyddydau gymunedol sydd yn arbenigo mewn cefnogaeth benodol, gynhwysol wedi'i arwain gan bobl ar gyfer pobl o bob oedran. Ers 2008, mae gwaith TAPE wedi helpu nifer sylweddol o bobl i symud o amgylchiadau unig, darganfod ffrindiau, adeiladu hyder a sgiliau, symud oddi ar fudd-daliadau , mynd i addysg bellach ac uwch a hyfforddiant, a darganfod gwaith cyflogedig. tapemusicandfilm.co.uk/ twitter.com/tapeartscentre www.facebook.com/TAPECommunityMusicandFilm

Gorllewin

Abertoir International Horror Festival (19 – 24 Tachwedd 2019) Fel yr unig gynrychiolydd yn y DU o European Fantastic Film Festivals Federation a ffefryn ffilm ar galendr diwylliannol Cymru, mae Abertoir yn denu twristiaid ledled y DU i arfordir gorllewin Cymru bob mis Tachwedd. Gall cynulleidfaoedd ymgysylltu gyda sgyrsiau, gwesteion, ffilmiau gyda sylwebaeth byw, cyflwyniadau addysgol, sesiynau Holi ac Ateb gyda gwneuthurwyr ffilm, erthyglau wedi’u hysgrifennu’n arbennig, trafodaethau, dangosiadau clasurol a detholiad o’r ffilmiau diweddaraf o wyliau ffilm mawr ledled y byd – yr holl ddangosiadau yng Nghymru am y tro cyntaf, yn erbyn tirwedd arfordirol hardd Aberystwyth.

Mae uchafbwyntiau yn cynnwys dosbarth meistr mewn effeithiau arbennig ymarferol, cyfweliadau gyrfa gyda’r cyfarwyddwyr Norman J Warren a Gary Sherman, a dathliad o’r actor Prydeinig Donald Pleasence ar flwyddyn ei ganmlwyddiant. http://www.abertoir.co.uk/ http://www.facebook.com/abertoir https://twitter.com/AbertoirFest

Ar draws Cymru

Gwen (Gorffennaf – Medi 2019) I ddathlu rhyddhau’r chwedl Gymreig, Gwen, sydd yn llawn tirweddau Cymreig yn ystod y chwyldro diwydiannol, fe fyddwn yn cynnig nodiadau rhaglen y bardd a’r beirniad diwylliannol Ben Gwalchmai a gomisiynwyd yn arbennig. Fe fydd 14 o leoliadau ar draws Cymru yn dangos y ffilm o fis Gorffennaf ymlaen. Fe fydd pynciau yn cynnws diwylliant hynafol a newydd Cymru, Cymbrig a’r Gymraeg, ffermwyr tenant cyfoes, ailwylltio a lliwiau newidiol y chwareli a’r mynyddoedd. Mae’r dangosiadau yng Nghymru yn cynnwys:

8 Gorffennnaf Caerdydd, Canolfan Gelfyddydau Chapter +Holi ac Ateb, 19-25 Gorffennaf 10 Gorffennaf Bangor, Pontio + Holi ac Ateb a CBSW i'w gadarnhau, 19th Gorffennnaf, Showcase Nantgarw 11 Gorffennaf Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth + Holi ac Ateb, a Gorffennaf, 19, 20, 22 a 24 Gorffennaf Canolfan Gelfyddydau Abertystwyth, 19 - 24 Gorffennaf, Neuadd Dwyfor, Pwllhelli 19 Gorffennaf Bethesda, Neuadd Ogwen 19 - 24 Gorffennaf, Odeon Caerdydd 19 - 24 Gorffennaf, Odeon Abertawe 19 - 24 Gorffennaf, Odeon Pen-y-bont

23 Gorffennaf Odeon, Wrecsam, 23 Gorffennaf Odeon, Llanelli, 4 Awst Y Barri, Canolfan Gelfyddydau Memo 30 Awst a 2 Medi Aberteifi, Theatr Mwldan 2 Medi Bae Colwyn, Theatr Colwyn 18 Medi Taliesin – Canolfan Gelfyddydau Abertawe 2 Hydref Caerfyrddin, Canolfan , Yr Egin 25 Hydref Llansadwrn, Sinema Sadwrn gyda ffilm fer Neckface Magig Lantern dyddiadua i’w cadarnhau

Rhagor o sinemâu i’w cadarnhau www.gwenfilm.com

Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru (NSSAW) (Ionawr - Mawrth 2020) Mewn partneriaeth gyda Chyngor Llyfrau Cymru a Thud Media, fe fydd NSSAW yn creu ‘Picturing Our Past / Fframio’n Gorffennol’, e-lyfr a fydd yn galluogi cynulleidfoaedd i ddarganfod hanes Cymru ar sgrin. Gan ddathlu diwylliant a thirwedd, caiff ei lansio ochr yn ochr gyda chyfres o ddangosiadau arbennig, yn dathlu treftadaeth Cymru ledled Cymru, gan gysylltu ffilmiau newydd Cymreig gyda ffilmiau Cymreig pwysig y gorffennnol. Fe fydd ffilmiau fel 'Y Chwarelwr' ac 'Un Bore Mercher' yn archwilio iaith a chymuned hynafol Cymru ar sgrin, ochr yn ochr gyda thrysorau ffilm archif a ddadorchuddiwyd yn ddiweddar drwy brosiect Datgloi Treftadaeth Ffilm BFI. https://www.library.wales/ https://twitter.com/NSSAW

Banc Ffilmiau Byr (Mehefin 2019 – Mawrth 2020) Gan weithio gyda phartneriaid ar draws y diwydiant Sgrin Cymreig, fe fydd Canolfan Ffilm Cymru yn datblygu catalog o ffilmiau byr Gwnaethpwyd yng Nghymru a fydd yn ategu’r catalog cyfredol o dros 130 o ffilmiau. Gan mai hwn fydd y catalog cyntaf o’i fath, fe fydd y prosiect yn gwella mynediad i arddangoswyr i dalent Cymreig ac yn ei gwneud yn haws i ddathlu gwneud ffilmiau byr Gwnaethpwyd yng Ngymru. Fe fydd modd chwilio am y prosiect pan gaiff gwefan newydd y Ganolfan ei lansio yn 2019. https://www.filmhubwales.org/films/made-wales

Phoenix Ton Pentre (Gorffennaf - Tachwedd 2019) “Ailymweld â’r gorffennol i ddeall y presennol a chyfrannu at ymwybyddiaeth lleol yn y dyfodol “ Mae Phoenix Ton Pentre yn datblygu cynulleidfaoedd lleol ar gyfer straeon Cymreig ar sgrin, yn archwilio tirwedd haf trawiadol Sir Benfro drwy ffilm newydd Jon Jones, Last Summer ac edrych eto ar strydoedd trefol Abertawe yn y clasur cwlt, Twin Town. Caiff ffilmiau eu dangos gan gysylltu’r tirwedd gydag atgofion o dreftadaeth Cymru drwy’r oesoedd. https://www.facebook.com/The-Phoenix-Ton-Pentre

Cyhoeddir prosiectau pellach yn ystod 2019. Noder os gwelwch yn dda y gall ffilmiau newid.

Diwedd Copïwch/pastiwch y ddolen i mewn i borwr eich gwe: https://drive.google.com/drive/folders/1YvOGdfNhcgy_6NTbccQC9mfD0B1WseJd Am ragor o wybodaeth, neu am docynnau i ddigwyddiadau, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda:

Megan David, Swyddog Marchnata ar 02920 311 067 / [email protected] (rhan amser Mawrth - Iau), Lisa Nesbitt, Swyddog Datblygu ar 02920 311 067 / [email protected], Hana Lewis, Rheolwraig Strategol ar 02920 353 740 [email protected],

NODIADAU I OLYGYDDION:

CANOLFAN FFILM CYMRU: Nod Canolfan Ffilm Cymru ydy cyflwyno rhagor o ffilmiau, i ragor o bobl, mewn rhagor o leoedd o a mgylch Cymru. Gyda’i leoliadau aelodau annibynnol, mae Canolfan Ffilm Cymru yn rheolaidd yn dat blygu ffyrdd arloesol ar gyfer pobl yng Nghymru i fynd i’r sinema. Mae Canolfan Ffilm Cymru yn un o wyth ‘canolfan’ DU gyfan, rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI ac fe’i cefnogir gyda chyllid y Loteri Cenedlaethol gyda Chapter wedi’i benodi yn Gorff Arweiniol Can olfannau Film (FHLO) yng Nghymru. Ein nod ydy cyrraedd cynulleidfaoedd trwy ddatblygu’r sector arddangos, cynnig cefnogaeth prosiect ym chwil, hyfforddiant a datblygu cynulleidfaoedd. Ers sefydlu Canolfan Ffilm Cymru yn 2013 rydym wed i cefnogi dros 195 o brosiectau sinema a chyrraedd dros 420,000 o aelodau cynulleidfa

Mewn partneriaeth gyda’n sinemau aelodau, canolfannau celfyddydol, lleoliadau cymunedol, cymdei thasau, gwyliau ac ymarferwyr ffilm ehangach, nod Canolfan Ffilm Cymru ydy dathlu a chefnogi’r sector ffilm diwylliannol bywiog yma yng Nghymru, gan weithio gyda’n gilydd i ehangu a chynyddu dewis i gynulleidfaoedd, waeth lle maen nhw’n byw. filmhubwales.org twitter.com/FilmHubWales facebook.com/filmhubwales

Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI

Gyda chefnogaeth cyllid y Loteri Cenedlaethol. Mae Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI yn ganolog i nod BFI o sicrhau bod y dewis mwyaf o ffilmiau ar gael i bawb. Fe’i sefydlwyd yn 2012 i adeiladu cynulleidfaoedd ffilm DU e hangach a mwy amrywiol i ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol. Mae FAN yn gydweithrediad DU gyfan, unigryw sydd yn cynnwys wyth canolfan a reolir gan gyrff a lleolia dau ffilm wedi’u lleoli’n strategol ar draws y DU. Mae FAN hefyd yn cefnogi datblygiadau talent gyda Swyddogion Gweithredol Talent RHWYDWAITH BFI ym mhob un o’r canolfannau yn Lloegr, gyda’r genhadaeth o ddarganfod a chefnogi awduron, c yfarwyddwyr a chynhyrchwyr talentog ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Canolfannau Ffilm FAN BFI ydy:  Film Hub Midlands dan arweiniad Broadway, Nottingham mewn partneriaeth gyda Flatpack o Brimingham  Film Hub North dan gyd arweinyddiaeth Showroom Workstation, Sheffield, HOME Manchester a Tyneside Cinema, Newcastle  Film Hub South East dan arwieniad y Swyddfa Sinema Annibynnol mewn cydweithrediad gyda Saffron Screen yn Saffron Walden a The Depot yn Lewes  Film Hub South West dan arweiniad Watershed ym Mryste  Film Hub Scotland dan arweiniad Glasgow Film Theatre  Film Hub Northern Ireland dan arweiniad Queen’s University Belfast  Canolfan Ffilm Cymru dan arweiniad Chapter yng Nghaerdydd  Film Hub London dan arweiniad Film London  BFI ydy corff arweiniol y DU ar gyfer ffilm, teledu a’r delwedd symudol. Mae’n elusen diwylliannol sydd yn:  Curadu ac yn cyflwyno’r rhaglen gyhoeddus ryngwladol fwyaf o sinema byd i gynulleidfaoedd , mewn sinemau, gwyliau ac ar-lein  Yn gofalu am Archif Cenedlaethol BFI – yr archif ffilm a theledu mwyaf arwyddocaol yn y byd  Yn chwilio am y genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilm ac yn eu cefnogi  Yn gweithio gyda’r llywodraeth a’r diwydiant i wneud y DU yn lle mwyaf creadigol gyffrous a ffyniannus i wneud ffilm yn rhyngwladol

Wedi’i sefydlu ym 1933, mae BFI yn elusen gofrestredig wedi’i llywodraethu gan Siarter Brenhinol

Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr BFI ydy Josh Berger CBE.

Ffordd Cymru Teulu newydd o dri llwybr cenedlaethol yw Ffordd Cymru sy’n eich arwain ar hyd yr arfordir, ar draws gwlad o gestyll a thrwy ganol ein gwlad fynyddig.  Ffordd yr Arfordir yr arfordir gorllewinol o amgylch Bae Ceredigion, taith ffordd 180 milltir (290km) rhwng y môr a'r mynyddoedd,  Ffordd Cambria 185 milltir (300km) rhwng Llandudno a Caerdydd.  Ffordd y Gogledd 75 milltir (120km) heibio cestyll i Ynys Môn.