1

Cynnwys

Lle i Gael Gwybodaeth 3-5

Mwynhau Eryri‟n Ddiogel 6-8

Darganfod Eryri 9-19

Gofalu am Fywyd Gwyllt 20-22

Manylion Cyswllt 23-27

Cipolwg - Ffestiniog 28-30

Gofalu am Eryri 31-39

Croesair 40-42

Cornel y Plant 43

Canolfan Astudio 44-47

Holiadur 48-50

Amcanion Gwella APCE 51

„Ap‟ Newydd 51

Am CD sain o‟r cyhoeddiad hwn cysylltwch â‟r Adran Gyfathrebu ym Mhencadlys yr Awdurdod ym Mhenrhyndeudraeth neu un o‟n Canolfannau Croeso. Mae‟r cyhoeddiad ar gael ar ffurf print bras ar ein gwefan hefyd www.eryri-npa.gov.uk .

2

Croeso

Eleni bydd Parc Cenedlaethol Eryri yn dathlu ei benblwydd yn 60 oed. Dynodwyd Eryri yn Barc Cenedlaethol oherwydd ei brydferthwch naturiol. Awdurdod y Parc sydd yn gyfrifol am ddiogelu a hybu mwynhad a dealltwriaeth o rinweddau arbennig y Parc. Heddiw mae pwysau cynyddol ar y Parc. Bob blwyddyn oherwydd ei enwogrwydd daw miliynau o bobl i fwynhau arfordir, bryniau, afonydd, llynnoedd, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol arbennig Eryri.

Cofiwch pan ddowch i Eryri cefnogwch y busnesau lleol, ail gylchwch eich sbwriel a defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus lle bo hynny‟n bosib.

Yn y rhifyn yma o Eryri mae gennym wybodaeth am sut i fwynhau Eryri‟n iach ac yn ddiogel. Mae gennym wybodaeth am gylchdaith yn ardal y Bala ac yn Ardudwy, yn ogystal â llwybr hygyrch ym Metws y Coed. Mi gewch hefyd gipolwg ar ardal Ffestiniog a darllen am gyfoeth hanes a threftadaeth tref . Yn y rhifyn yma cewch wybodaeth am sut i ofalu am fywyd gwyllt a dod i adnabod Eryri yn well trwy fynychu cyrsiau ym Mhlas Tan y Bwlch. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan yr Awdurdod www.eryri- npa.gov.uk

Aneurin Phillips Prif Weithredwr APCE

3

Lle i gael gwybodaeth

Wedi cyrraedd Eryri heb wneud unrhyw gynlluniau ymlaen llaw? Dim llawer o syniad beth i‟w wneud, lle i fynd na sut i fynd yno? Peidiwch â phoeni – ewch ar eich union i un o‟n Canolfannau Croeso...

Mae gan ein staff cyfeillgar wybodaeth leol ragorol - gallant eich helpu i ddod o hyd i lety, eich cynghori ynghylch pethau i‟w gwneud, lleoedd i‟w gweld, a‟r lleoedd gorau i fwyta a siopa. Yr hyn sy‟n arbennig am staff ein Canolfannau Croeso yw eu bod yn ymfalchïo yn Eryri, ac maent yn awyddus i sicrhau eich bod yn cael y cyfle i brofi‟r hyn sy‟n gwneud Eryri mor arbennig.

Lle i ddod o hyd i ni?

Betws y Coed

Yn hen stablau‟r Royal Oak – i lawr y rhodfa gyferbyn â Gwesty‟r Royal Oak. Neu o‟r ochr arall – i lawr y rhodfa gyferbyn â‟r Caban Coed ar Stryd yr Orsaf.

Ffôn: 01690 710 426

E-bost [email protected]

Beddgelert

Yn yr hen gapel ar ochr y ffordd ychydig islaw gwesty‟r Royal Goat.

Ffôn: 01766 890 615

E-bost: [email protected]

4

Dolgellau

Adeilad Tŷ Meirion, yng nghanol tref Dolgellau ar Sgwâr Eldon.

Ffôn: 01341 422 888

E-bost: [email protected]

Harlech

Ar ben gogleddol stryd fawr Harlech ar y groesffordd, ychydig yn uwch na‟r castell.

Ffôn: 01766 780 658

E-bost: [email protected]

Aberdyfi

Ar y cei yng nghanol y pentref, drws nesaf i‟r lawnt.

Ffôn: 01654 767 321

E-bost: [email protected]

Mynediad i‟r we

Angen gwneud ymchwil ar y we? Edrych ar y tywydd neu ddal i fyny hefo‟ch e-bostiau neu newyddion y byd? Am bris rhesymol cewch fynediad i‟r we yn ein Canolfannau Croeso yn Nolgellau, Aberdyfi a Beddgelert, ac mae cynlluniau ar y gweill i ymestyn y gwasanaeth i‟n canolfan ym Metws y Coed.

5

Crefftau lleol

Beth am brynu anrhegion a chofroddion gwahanol i fynd adref efo chi? Ewch i‟n Canolfannau Croeso ym Metws y Coed, Beddgelert neu Ddolgellau a chewch ddewis eang o grefftau lleol o bob lliw a llun.

Copa‟r Wyddfa ym Metws y Coed?

Yn ein Canolfan Groeso ym Metws y Coed, gallwch fynd i gopa‟r Wyddfa, a hynny heb yr ymdrech o gerdded i fyny! Edrychwch draw dros Eryri yn ein hystafell gron gyda golygfa banoramig 360º o gopa‟r Wyddfa, neu fwynhewch dirwedd dramatig yr Wyddfa trwy lygad hebog trwy wylio ffilm „Ehediad Dros Eryri‟ yn ein theatr.

6

Mwynhau Eryri‟n Ddiogel

Diogelwch Mynydd

Ydych chi‟n bwriadu dringo rhai o gopaon uchaf Eryri? Cofiwch fod dringo mynydd yn gallu bod yn beryg os nad ydych wedi paratoi‟n fanwl. Dilynwch y cyngor isod fel eich bod chi‟n gallu mwynhau mynyddoedd Eryri‟n ddiogel...

Cynlluniwch eich taith yn ofalus cyn cychwyn, a chofiwch ddewis taith sy‟n gweddu â lefel ffitrwydd pawb yn eich grŵp. Cofiwch mai dim ond hanner y gamp yw cyrraedd y copa, ac y gall dod i lawr fod yn anoddach na mynd i fyny gan y byddwch yn blino ac yn fwy tebygol o lithro neu faglu.

Cadwch at y daith yr ydych chi wedi ei chynllunio a pheidiwch â dilyn y rhai o‟ch blaenau – sut ydych chi‟n gwybod nad ydyn nhw‟n cerdded taith llawer mwy heriol a pheryglus na chi?

Gwisgwch esgidiau cerdded cyfforddus sy‟n cynnal y ffêr a dillad cyfforddus a chynnes. Byddwch angen côt a throwsus sy‟n eich cadw‟n sych ac yn eich gwarchod rhag y gwynt. Yn y gaeaf, fe fyddwch angen gwisgo haen waelodol thermal, menig a het.

Cariwch sach gefn gyda digon o fwyd a diod – mae dringo mynydd yn waith caled felly mae‟n bwysig cadw eich egni. Ar ddiwrnod braf ewch â digon o ddŵr a defnyddiwch ddigonedd o eli haul.

Ewch â map a chwmpawd efo chi gan wybod sut i‟w defnyddio, a haen ychwanegol o ddillad. Rhag ofn bydd argyfwng, ewch â thortsh, chwiban, pecyn cymorth cyntaf bychan a ffôn symudol gyda batri llawn, ond peidiwch â dibynnu ar ffôn symudol i‟ch cael chi allan o drafferthion - nid oes sicrwydd o signal ar y mynydd.

7

Edrychwch beth yw rhagolygon y tywydd mynyddig lleol cyn cychwyn, a throwch yn ôl os bydd y tywydd yn gwaethygu. Gall gwynt ar y mynydd fod mor gryf â chorwynt, gall cymylau isel ei gwneud hi‟n amhosib gweld, a gall y tymheredd ostwng o dan bwynt rhewi mewn dim o dro.

Dywedwch wrth berson cyfrifol beth yw eich cynlluniau, pa ffordd yr ydych am fynd, a phryd y disgwyliwch fod yn ôl, fel y gallant alw am help os na fyddwch wedi dychwelyd erbyn yr amser hynny. Cofiwch roi gwybod iddyn nhw unwaith y byddwch chi wedi cyrraedd yn ôl yn ddiogel, neu os bydd eich cynlluniau‟n newid.

Mewn argyfwng – galwch am help trwy ffonio 999 a gofyn am Heddlu Gogledd Cymru – Achub ar y Mynydd.

Diogelwch ar yr Arfordir

Fawr o awydd dringo mynyddoedd? Ond am fwynhau traethau, aberoedd, llynnoedd ac afonydd bendigedig Eryri? Dilynwch y cyngor isod er mwyn gwneud hynny‟n ddiogel...

Cadwch blant dan oruchwyliaeth glos pan fyddant yn agos i ddŵr, a chlymwch unrhyw gychod neu deganau gwynt i‟r lan.

Edrychwch beth yw amseroedd y llanw lleol er mwyn gwneud yn siŵr na fyddwch yn cael eich ynysu oddi ar y tir mawr gan y llanw - cofiwch fod y llanw‟n dod i mewn yn gyflym iawn. Mae amserlenni ar gael mewn siopau papur newydd lleol neu ar-lein ar wefan y BBC neu Easy Tide.

Darllenwch unrhyw arwyddion diogelwch gan ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau.

Byddwch yn ofalus iawn o sugndraethau.

8

Cadwch o fewn eich dyfnder yn y dŵr, a pheidiwch â mynd i mewn i‟r dŵr ar ôl yfed alcohol.

Peidiwch â thyllu twneli mewn twyni tywod – gallant gwympo ar eich pen a‟ch mygu.

Mewn argyfwng – galwch am help trwy ffonio 999 a gofyn am Wylwyr y Glannau.

9

Darganfod Eryri

Llwybrau‟r Wyddfa

Yn sefyll 1085 metr uwch lefel y môr, yr Wyddfa yw mynydd uchaf Cymru (a Lloegr). Daw miloedd o bobl i Eryri bob blwyddyn er mwyn dringo‟r mynydd eiconig hwn – ac un o‟r cwestiynau a ofynnir amlaf ganddynt yw “Pa ffordd yw‟r ffordd orau i fyny‟r Wyddfa?”

Dyma ychydig o wybodaeth ynghylch y chwe llwybr…

Llwybr Llanberis

Pellter: 9 milltir/14.5 cilometr (yna ac yn ôl)

Esgyniad: 3199 troedfedd/975 metr

Amser: Tua 6 awr (yna ac yn ôl)

Dechrau: Pen draw Rhes Victoria, Llanberis

Disgrifiad: Dyma‟r llwybr hiraf a‟r mwyaf graddol, sy‟n dilyn lein Rheilffordd yr Wyddfa‟n bennaf. Mae‟r llwybr yn cael ei ystyried yr hawddaf i‟w gerdded mewn tywydd mwyn, ond gall y llethrau uchaf fod yn beryglus iawn pan fo eira a rhew ar y ddaear.

Llwybr Cwellyn

Pellter: 8 milltir/13 cilometr (yna ac yn ôl)

Esgyniad: 3071 troedfedd/936 metr

Amser: Tua 6 awr (yna ac yn ôl)

Dechrau: Ger Llyn Cwellyn, Betws Garmon

10

Disgrifiad: Dyma un o‟r llwybrau tawelaf sy‟n dringo‟n raddol at odre Moel Cynghorion, cyn dringo‟n serth ac yn rhydd dan draed i fyny‟r ysgwydd uwchben Clogwyn Du‟r Arddu.

Llwybr Rhyd Ddu

Pellter: 7.5 milltir/12 cilometr (yna ac yn ôl)

Esgyniad: 2936 troedfedd/895 metr

Amser: Tua 6 awr (yna ac yn ôl)

Dechrau: Maes Parcio Rhyd Ddu

Disgrifiad: Dyma‟r llwybr tawelaf i fyny i‟r copa. Mae‟r filltir cyntaf yn dringo‟n hamddenol ar hyd hen drac chwarel, ond yna‟n troi‟n greigiog ac eithaf serth i fyny at Grib Llechog. Mae rhan olaf y llwybr yn gul iawn gyda llethrau serth ar y naill ochr.

Llwybr Pyg

Pellter: 7 milltir/11 cilometr (yna ac yn ôl)

Esgyniad: 2372 troedfedd/723 metr

Amser: Tua 6 awr (yna ac yn ôl)

Dechrau: Pen y Pass

Disgrifiad: Er mai hwn yw un o‟r ddau lwybr sydd â‟r esgyniad lleiaf, fe‟i ystyrir y llwybr mwyaf garw a heriol o‟r chwe llwybr. Mae‟r tri chwarter cyntaf y llwybr yn dringo‟n eithaf serth dros dir creigiog, a‟r chwarter olaf yn ddringfa hynod o serth a garw i fyny ochr mewnol Pedol yr Wyddfa.

11

Llwybr y Mwynwyr

Pellter: 8 milltir/13 cilometr (yna ac yn ôl)

Esgyniad: 2372 troedfedd/723 metr

Amser: Tua 6 awr (yna ac yn ôl)

Dechrau: Pen y Pass

Disgrifiad: Mae hanner cyntaf y llwybr hwn yn dringo‟n raddol ac yn wastad yr holl ffordd i Lyn Llydaw, ac yna‟n serth a llai gwastad at Lyn Glaslyn. O Lyn Glaslyn mae‟n dringo‟n hynod o serth dros sgri i gwrdd â Llwybr Pyg, ac yna‟n serth i fyny ochr mewnol Pedol yr Wyddfa.

Llwybr Watkin

Pellter: 8 milltir/13 cilometr (yna ac yn ôl)

Esgyniad: 3330 troedfedd/1015 metr

Amser: Tua 6 awr (yna ac yn ôl)

Dechrau: Pont Bethania, Nant Gwynant

Disgrifiad: Dyma‟r llwybr caletaf yn gorfforol gan ei fod yn cychwyn ond ychydig yn uwch na lefel y môr. Mae‟r llwybr yn cychwyn yn eithaf gwastad, ond yn troi‟n greigiog tua‟r ail hanner, ac yna‟n croesi sgri rhydd a serth iawn.

Sherpa‟r Wyddfa

Beth am wneud y mwyaf o‟ch diwrnod ar yr Wyddfa? Cerddwch i fyny un llwybr ac i lawr un arall, gan ddefnyddio gwasanaeth bws Sherpa i fynd â chi‟n ôl at eich car. Am fwy o wybodaeth ewch i www.goriadgwyrdderyri.co.uk . 12

Gwybodaeth bellach

Mae gwybodaeth fanwl ynghylch pob un o‟r chwe llwybr i gopa‟r Wyddfa ar gael yn yr adran Ymweld ar wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol www.eryri- npa.gov.uk neu gellir prynu llyfryn gwybodaeth o Ganolfannau Croeso lleol.

Byddwch yn ddiogel!

Cofiwch, er bod rhai llwybrau‟n cael eu hystyried yn „haws‟ na‟i gilydd – mae‟n bwysig cofio mai mynydd ydyw, ac nad yw cerdded yr un ohonynt yn gamp hawdd. Dilynwch y cyngor ar dudalennau 6 i 8 er mwyn sicrhau eich bod yn mwynhau‟r Wyddfa‟n ddiogel!

13

Cylchdaith Llyn Tegid, Y Bala

Taith gerdded arbennig o gwmpas llyn naturiol mwyaf Cymru! Mwynhewch olygfeydd trawiadol o fynydd yr Arenig oddi ar ochr ogleddol y daith, a golygfeydd bendigedig o‟r llyn ei hun oddi ar yr ochr ddeheuol…

Y llwybr

Dechrau a diwedd: Maes Parcio APCE ar flaendraeth Llyn Tegid

Map OS perthnasol: OS Explorer OL23

Cyfeirnod grid: SH 921 354

Hyd y daith: Tua 14 milltir/22.5 cilometr

Amser: Tua 8 awr wrth gerdded yn hamddenol

Cyfleusterau: Maes parcio talu ac arddangos, toiledau cyhoeddus, byrddau picnic.

Disgrifiad o‟r daith: Taith gylch sy‟n arwain trwy gefn gwlad o gwmpas Llyn Tegid. Mae‟r daith yn arwain dros lwybrau cyhoeddus garw, ffyrdd tarmac, traciau a glaswellt, sy‟n gallu bod yn eithaf gwlyb. Mae llawer o ddarnau serth ar hyd y daith, a nifer o gamfeydd i‟w croesi.

Byddwch angen: Esgidiau cerdded cyfforddus, ac ewch â chôt law efo chi os bydd peryg iddi lawio. Byddwch angen y map OS perthnasol a chwmpawd, a digon o fwyd a diod.

Gwybodaeth bellach: Mae gwybodaeth fanylach ynghylch y daith hon ar gael yn yr adran Ymweld ar wefan Parc Cenedlaethol Eryri www.eryri-npa.gov.uk

14

Cludiant cyhoeddus: Mae gwasanaeth bws yn cysylltu‟r Bala a phentref Llanuwchllyn. Am fwy o wybodaeth ynghylch lle i gael gafael ar amseroedd bysus ewch i dudalennau 34 a 35. Mae trên bach Llyn Tegid yn rhedeg rhwng y Bala a Llanuwchllyn, gan stopio yn Llangower a gorsafoedd eraill ar hyd y ffordd – ewch i www.bala-lake- railway.co.uk am fwy o fanylion.

Opsiynau: Nid oes rhaid i chi gerdded y daith gyfan – cerddwch yr ochr ogleddol neu‟r ochr ddeheuol yn unig, neu hyd yn oed dorri‟r rheiny yn llai, gan ddefnyddio cludiant cyhoeddus neu drên bach Llyn Tegid i fynd â chi‟n ôl i‟r cychwyn.

Chwedl Tegid Foel

Yn ôl chwedloniaeth leol – crëwyd Llyn Tegid gan bwerau goruwchnaturiol! Amser maith yn ôl, yn y man lle gorwedda Llyn Tegid heddiw, roedd dyffryn llydan hardd gyda hen dref y Bala ar ei gwaelod. Yn y dref roedd palas mawr crand Tegid Foel, tywysog cas a oedd yn greulon iawn wrth ei denantiaid. Er iddo gael ei rybuddio sawl gwaith y byddai dial arno am ei greulondeb, anwybyddu‟r rhybuddion a wnaeth.

Pan aned ŵyr cyntaf Tegid Foel, gwahoddwyd holl gyfeillion y tywysog, a oedd yr un mor greulon ag ef, i wledd fawr yn y palas i ddathlu‟r achlysur. Roedd yno ddigonedd o fwyd a diod, a thelynor gorau‟r wlad yn darparu adloniant. Yn ystod y wledd, clywodd y telynor lais yn dweud “Daeth dial!”. Wrth droi i weld o le daeth y llais gwelodd aderyn bychan wrth ei ochr, ac fe hudodd yr aderyn bach y telynor allan o‟r palas ac i fyny i‟r bryniau, lle

15 cysgodd tan y bore. Drannoeth, deffrodd y telynor i weld bod hen dref y Bala wedi ei boddi, ac wrth gerdded at lan y llyn gwelodd ei delyn yn arnofio ar y dŵr. Enwyd y llyn ar ôl y tywysog creulon ac yn ôl y sôn, weithiau, mae adeiladau‟r hen dref i‟w gweld o dan y dŵr hyd heddiw…

16

Taith Ardudwy

Hoffech chi weld safleoedd cynhanesyddol? Hoffech chi fwynhau golygfeydd syfrdanol o dir a môr? Hoffech chi gerdded ar draws Ardudwy?!

Taith 24 milltir yn arwain ar hyd ucheldiroedd Ardudwy rhwng Abermaw a Llandecwyn yw Taith Ardudwy. Byddai‟n dipyn o her cerdded y daith gyfan mewn un diwrnod, felly mae‟r daith wedi ei thorri i dair rhan cyfleus y gallwch eu cwblhau ar eich liwt eich hunan.

Rhan Ogleddol (12 milltir)

Arweinia‟r rhan ogleddol rhwng tref Harlech a phentref bychan Llandecwyn, trwy ardal sy‟n frith o olion cynhanesyddol. Fe welwch hen gaer o Oes yr Haearn ar Foel Goedog, a hen gladdfa Oes yr Efydd, Bryn Cader Faner. Cadwch eich „sbienddrych wrth law wrth fynd rownd Llyn Tecwyn Isaf – yma ceir rhai o Weision y Neidr a Mursennod prinnaf Cymru, a gwelir Dyfrgwn yma o bryd i‟w gilydd.

Rhan Ganolog (13 milltir)

Mae rhan ganolog y daith yn arwain o bentref Tal y Bont i Harlech ar hyd ochr arfordirol y Rhinogydd. Mae‟n mynd trwy gynefinoedd pwysig i adar fel y Barcud Coch a‟r Bwncath, felly dewch â‟ch „sbienddrych gyda chi! Mae digon o dirnodau diddorol i‟w gweld hefyd - cadwch olwg am gaer cynhanesyddol Craig y Ddinas, a choeliwch neu beidio, mae yna hen bont coets fawr yn y lleoliad anghysbell hwn hefyd - Pont „Sgethin.

17

Rhan Ddeheuol (8 milltir)

Arweinia rhan ddeheuol y daith rhwng tref Abermaw a phentref Tal y Bont, gyda golygfeydd ysblennydd o aber yr afon Mawddach, arfordir Bae Abermaw a Bae Tremadog y tu hwnt. Bydd y daith yn mynd â chi heibio hen waith manganîs o‟r bedwaredd ganrif ar bymtheg, cylch cerrig Cerrig Arthur, a thrwy Fwlch y Rhiwgyr. Mae hefyd yn ardal wych i weld bywyd gwyllt – cadwch olwg am y Frân Goesgoch ac Ehedydd y Waun, neu Loÿnnod Byw prin.

Gwybodaeth bellach

Mae Partneriaeth Ardudwy wedi cynhyrchu taflenni defnyddiol ar gyfer y daith hon – un ar gyfer pob rhan, ac maent ar gael mewn Canolfannau Croeso lleol, neu i‟w hargraffu oddi ar wefan Taith Ardudwy www.taithardudwyway.com

Taith hyblyg

Yr hyn sy‟n dda am y daith hon yw ei bod yn gwbl hyblyg. Gallwch ei cherdded fesul rhan, boed hynny mewn tri diwrnod yn olynol, neu un bob wythnos, mis neu flwyddyn! Gallwch ddefnyddio Rheilffordd y Cambrian neu‟r gwasanaeth bws lleol i fynd â chi i‟r trefi/pentrefi ar ddechrau pob rhan, ac i fynd â chi‟n ôl ar ddiwedd y dydd. Am fwy o wybodaeth ynghylch lle i gael gafael ar amseroedd bysus a threnau ewch i dudalennau 34 a 35.

18

Llwybr Hygyrch Coed Tan Dinas, Betws y Coed

Beth am dro bach hamddenol ar hyd y llwybr pob gallu hwn trwy goedwig tal bytholwyrdd ar hyd glan yr afon Llugwy? Mae‟n le perffaith i fynd am ychydig o awyr iach, neu am bicnic ar lan yr afon…

Y llwybr

Dechrau: Pont y Pair, Betws y Coed

Cyfeirnod grid: SH 792 568

Cyfleusterau: Maes parcio talu ac arddangos, toiledau cyhoeddus, byrddau picnic.

Safon y llwybr: Tua 900 metr o lwybr 1.5 metr o lydan yn arwain ar hyd arwyneb gwastad o gerrig mân a llwybr pren. Mae rhan 6 metr o‟r llwybr gyda graddiant o fwy na 1 mewn 10.

Betws y Coed

Dyma un o‟r pentrefi mwyaf o fewn ffin Parc Cenedlaethol Eryri, a‟r pentref mewndirol mwyaf poblogaidd ymysg ymwelwyr. Saif y pentref mewn llecyn coediog ar lan dwy afon - Afon Llugwy, sy‟n llifo o‟r gorllewin, ac Afon Conwy sy‟n llifo o‟r de ar hyd ymyl ddwyreiniol y pentref.

Twf y pentref

Sefydlwyd y pentref gwreiddiol o amgylch mynachdy tua diwedd y chweched ganrif. Ond, wrth i ddiwydiant mwyngloddio plwm ddatblygu yn yr ardal o‟r ail ganrif ar bymtheg ymlaen, tyfodd y pentref yn ara‟ deg. Wedi agor Pont Waterloo Thomas Telford dros Afon Conwy ym 1815 daeth Betws y Coed yn fan aros pwysig ar hyd Lôn Bost yr A5 rhwng Llundain a Chaergybi. 19

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn enwedig ar ôl dyfodiad y trên o Landudno ym 1868, daeth Betws y Coed yn gyrchfan poblogaidd ymysg teithwyr enwog, ymwelwyr ac artistiaid a ddeuai yma i fwynhau harddwch arbennig yr ardal – a „does fawr wedi newid ers hynny!

Canolfan hamddena o‟r radd flaenaf!

Mae ei thirwedd wyrdd a ffrwythlon, ei hafonydd a‟i cheunentydd arallfydol, a‟i rhaeadrau ewynnol yn gwneud yr ardal hon yn ganolfan perffaith ar gyfer mwynhau Eryri ar ei orau. Mae hefyd yn gyrchfan cyfleus ar gyfer ymweliad heb gar - gyda gwasanaeth trên rheolaidd i ddod â chi yma, a rhwydwaith dda o gludiant cyhoeddus i‟ch cludo at dirnodau arbennig yr ardal fel yr Wyddfa, Rhaeadr Ewynnol, a Chwm Idwal i enwi dim ond rhai. Mae‟r pentref ei hun yn gyfleus hefyd, gyda‟i llu o siopau awyr agored a chrefftau, bwytai, tafarndai a lletyau. Am ragor o wybodaeth ynghylch Betws y Coed a‟r ardal, cysylltwch â‟n Canolfan Groeso yn y pentref (manylion cyswllt ar dudalen 3).

20

Gofalu am Fywyd Gwyllt

Atlas Adar Gogledd Cymru

Ydych chi wedi gweld un o‟r adar hyn?

Aderyn y To Gwybedog Mannog

Cnocell Werdd Gylfinir

Y Gog Trochwr

Cudyll Coch Tylluan Frech

Ehedydd Tylluan Wen

Mae Ymddiriedolaeth Adareg Prydain wrthi‟n mapio dosbarthiad adar Prydain dros gyfnod o 4 mlynedd, fydd yn dod i ben yn 2011. Ar yr un pryd, gobeithir y gellir cynhyrchu mapiau cydran uwch ar gyfer Gogledd Cymru. Bydd yr Atlas sy‟n deillio o hynny‟n ddefnyddiol iawn ar gyfer diweddaru ein cynlluniau Bioamrywiaeth rhywogaethau ar gyfer y Parc a llunio gwaith cadwraeth y dyfodol.

Fedrwch chi ein helpu trwy gadw llygad am y rhywogaethau uchod rhwng mis Ebrill a Gorffennaf 2011? Os byddwch chi‟n gweld unrhyw un ohonynt, ysgrifennwch y manylion ar y slip isod a‟i anfon atom i‟r cyfeiriad rhadbost.

Os ydych chi‟n meddwl eu bod yn nythu (efallai y gwelwch aderyn yn hedfan at flwch nythu yn cario bwyd, neu glywed galwadau pryder), byddwch cystal â nodi hynny hefyd.

Diolch am eich cymorth!

21

Gweilch y Glaslyn yn ôl unwaith eto!

Mae prosiect „Amser i fyd Natur - Gweilch y Pysgod y Glaslyn‟ sy‟n cael ei redeg gan RSPB Cymru ger bellach yn denu dros 35,000 o ymwelwyr ac mae ganddo 133 o bobl yn ei ddilyn ar Facebook - a chyda‟r prosiect yn ei seithfed flwyddyn mae‟n denu ymwelwyr o bell a phobl leol.

Mae‟r prosiect yn agor ddiwedd mis Mawrth pan ddaw‟r pâr o Weilch y Pysgod yn ôl o‟u hymfudiad i dde Affrica, a phan fyddant yn brysur yn paratoi eu nyth ar gyfer eu teulu bach sydd ar y ffordd - yn 2010 roedd y pâr yn rhieni balch i dri chyw - dwy fenyw ac un gwryw.

Llwyddodd y tri chyw i hedfan o‟r nyth ym mis Gorffennaf ac roeddent i‟w gweld yn cryfhau eu hadenydd, fel yr eglura Swyddog Prosiect y Gweilch, Geraint Williams, “Roedd y rhai ifanc yn hedfan o gwmpas y nyth am ychydig o wythnosau, yn cryfhau‟r cyhyrau yn eu hadenydd ac yn dysgu sut i lanio a chodi yn iawn".

Ychwanegodd, “roedd y tad yn parhau i ddod â bwyd i‟r nyth nes yr oedd y cywion yn barod i ddysgu sgiliau hela a physgota eu hunain”.

Roedd camera wedi ei leoli ar safle‟r nyth yn galluogi pobl i weld yr adar ar- lein trwy wefan y BBC http://www.bbc.co.uk/wales/northwest/sites/webcams/pages/ospreys.shtml . Roedd teimlad mwy rhyngweithiol trwy‟r blog a thudalen Facebook hefyd, gan alluogi ymwelwyr i ryngweithio â staff a gwirfoddolwyr ar y safle, a dysgu mwy am yr adar â‟u gweithgarwch.

22

Mae pâr y Glaslyn bellach wedi llwyddo i fagu 15 o gywion ers iddynt nythu am y tro cyntaf yng ngogledd Cymru yn 2004. Rhoddwyd modrwy am goes y tri chyw y llynedd ac felly mewn dwy neu dair blynedd gobeithio y gwelwn ni nhw‟n dychwelyd. Fe wnaeth cyw o‟r Glaslyn yn 2006 fridio yn llwyddiannus yn yr Alban y llynedd!

Y llynedd, gweithiodd y prosiect yn agos â 10 ysgol leol ac fe ymwelodd dros 350 o blant ysgol â‟r safle er mwyn dysgu mwy am yr adar ysblennydd hyn. Cynhaliodd y prosiect ddau ddigwyddiad cymunedol hefyd, gan godi hyd at £800 i‟r elusen gadwraethol a‟i waith ledled y DU.

Bydd y prosiect yn agor ddiwedd Mawrth 2011, ac mae wedi ei leoli ger Pont Croesor ar y B4410 rhwng Prenteg a Llanfrothen. I‟r teithwyr „gwyrdd‟ mae gwasanaeth bws rheolaidd yn rhedeg rhwng Porthmadog a Beddgelert bob dwy awr – nid yw‟n pasio‟r safle felly bydd angen cerdded ychydig. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y prosiect ar gael ar wefan yr RSPB www.rspb.org.uk/datewithnature.

23

Manylion Cyswllt APCE

Pencadlys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Penrhyndeudraeth

Gwynedd

Ll48 6LF

01766 770 274

01766 771 211 e-bost: [email protected] gwefan: www.eryri-npa.gov.uk

Plas Tan y Bwlch

Canolfan Parc Cenedlaethol Eryri

Maentwrog

Blaenau Ffestiniog

Gwynedd

LL41 3YU

01766 772 600

01766 772 609 e-bost: [email protected] gwefan: www.plastanybwlch.com 24

Canolfannau Croeso APCE

Aberdyfi

 01654 767 321

 01654 767 321 e-bost: [email protected]

Harlech

 01766 780 658

 01766 780 658 e-bost: [email protected]

Betws y Coed

 01690 710 426

 01690 710 665 e-bost: [email protected]

Dolgellau

 01341 422 888

 01341 422 576 e-bost: [email protected] 25

Beddgelert

 01766 890 615

 01766 890 615 e-bost: [email protected]

Canolfannau Croeso Eraill

Abermaw 01341 280 787

Aberystwyth 01970 612 125 01970 612 125

Borth 01970 871 174 01970 871 365

Caergybi 01407 762 622

Caernarfon 01286 672232 01286 678 209

Conwy 01492 592 248

Llanberis 01286 870 765 01286 872 141

Llandudno 01492 876413 01492 872 722

Llanfairpwll 01248 713177 01248 715 711

Llanidloes 01686 412 605 01686 413 884

Porthmadog 01766 512 981 01766 515 312

Pwllheli 01758 613 000

Y Bala 01678 521 021 01678 521 021

26

Wardeiniaid y Parc

Aled Taylor

Warden Ardal

Pen y Pass 01286 872 555

Brian Jones

Warden Ardal

Betws y Coed 01690 710 022

Ioan Davies

Warden Ardal

Betws y Coed 01690 710 022

Alan Pritchard

Warden Ardal

Ogwen 01248 602 080

Ifan Eryl Jones

Warden Ardal

Penrhyndeudraeth 01766 770 965

27

Dave Williams

Uwch Warden – De

Dolgellau 01341 422 878

Gethin Corps

Warden Ardal

Dolgellau 01341 422 878

Rhys Gwynn

Warden Ardal

Dolgellau 01341 422 878

Joseph Jones

Warden Ardal

Dolgellau 01341 422 878

Arwel Morris

Warden Ardal

Y Bala 01678 520 626

28

Cipolwg

Ffestiniog

Gyda mynyddoedd mawreddog y Moelwynion yn llenwi‟r tirlun, a thomenni llwydlas y chwareli yn gyferbyniad llwyr rhwng natur a diwydiant – mae gan y gongl hon o Eryri gymeriad arbennig ei hun...

Blaenau Ffestiniog – dinas y llechi!

Blaenau Ffestiniog (neu „Blaenau‟ yn lleol) yw prif dref ardal Ffestiniog. Tref weddol ifanc ydyw, a ddatblygodd o ganlyniad i ffyniant diwydiant llechi‟r ardal o ganol y ddeunawfed ganrif ymlaen. Ar un adeg roedd Blaenau Ffestiniog yn un o ganolfannau llechi mwya‟r byd, ac yn darparu llechi toi i‟r pedwar ban.

Pan aethpwyd ati i lunio ffin y Parc Cenedlaethol yn ôl ym 1950, gadawyd Blaenau Ffestiniog ei hun allan o‟r Parc gan nad oedd y chwareli a‟r tomenni llechi yn bodloni‟r maen prawf o harddwch golygfaol eithriadol. Erbyn heddiw, rydym â balchder mawr ym Mlaenau Ffestiniog a‟i diwydiant, ac rydym am sicrhau bod diwylliant arbennig y dref a‟r ardal yn cael ei ddathlu a‟i werthfawrogi, ac yn cael ei weld yn rhan annatod o gymeriad arbennig Eryri.

Gweithgareddau awyr agored

Cerdded

Mae ardal Ffestiniog („Stiniog yn lleol) yn le gwych os ydych am dreulio‟ch amser yn crwydro cefn gwlad - mae yma gymysgedd dda o lwybrau o bob math sy‟n cynnig golygfeydd arbennig o‟r ardal. Gallwch fentro i fyny i gopaon y Moelwynion neu‟r Manod, trwy geunant arallfydol Cynfal a‟i rhaeadrau hardd, neu trwy goedlannau derw hynafol Dyffryn Maentwrog. Ewch i‟n

29 gwefan am fanylion detholiad bychan o deithiau cerdded yn ardal Ffestiniog, neu ewch i wefan Dyffryn Ffestiniog ar www.dyff.co.uk am ragor o syniadau.

Dringo

Ystyrir bod creigiau deheuol y Moelwynion ymysg y creigiau gorau i‟w dringo ym Mhrydain. Gan fod y creigiau‟n fras maent yn ddelfrydol pan fydd hi‟n llaith, a chan eu bod yn wynebu‟r de, maen nhw‟n sychu‟n sydyn.

Pysgota

Os ydych yn mwynhau pysgota, ni fyddwch yn brin o ddewis yn Ffestiniog! Mae digonedd o lynnoedd ac afonydd arbennig am frithyll brown yn yr ardal. Mae Llyn Tanygrisiau yn le da i bysgota am frithyll seithliw a brithyll brown, ac yn addas i bobl o bob gallu. Am fwy o wybodaeth ynghylch cyfleoedd pysgota yn ardal Ffestiniog ewch i www.cambrianangling.com

Sut i gyrraedd yma?

Mae bysus rheolaidd yn rhedeg rhwng Blaenau Ffestiniog a Phorthmadog, Llandudno a Dolgellau, a gwasanaeth bws CLIPA Blaenau yn mynd o gwmpas y dref. Mae trenau yn rhedeg yn rheolaidd rhwng Blaenau a Llandudno (trwy Gyffordd Llandudno sy‟n cysylltu â‟r rhwydwaith reilffordd genedlaethol). Am fwy o wybodaeth ynghylch lle i gael gafael ar amseroedd bysus a threnau ewch i dudalennau 34 a 35.

30

Ardal hanesyddol

Er mai tref weddol ifanc yw Blaenau Ffestiniog, mae rhan arall o‟r plwyf sef yn dyddio‟n ôl rai canrifoedd. Yr oedd Llan Ffestiniog yn fan aros i‟r porthmyn ar eu taith tua‟r dwyrain i farchnadoedd Lloegr, a byddent yn torri syched yn nhafarn y pentref cyn cario ymlaen ar eu taith dros y gweunydd.

Mae yna safleoedd cynhanesyddol yn yr ardal hefyd – mae bryngaer Bryn y Castell sy‟n dyddio o Oes yr Haearn tua 1½ milltir i‟r gogledd ddwyrain o Lan Ffestiniog, a Thomen y Mur – hen gaer Rufeinig gyda llu o nodweddion milwrol tua 2 filltir i‟r de. Yn rhedeg heibio‟r ddau safle mae‟r ffordd Rufeinig – Sarn Helen, sy‟n arwain rhwng Aberconwy yng Ngogledd Cymru, a Chaerfyrddin yn y de. Mae manylion teithiau cerdded i‟r ddau safle yma ar gael ar ein gwefan – ewch i Ymweld, Cerdded ac yna Ffestiniog am Fryn y Castell, a Trawsfynydd ar gyfer Tomen y Mur.

31

Gofalu am Eryri

Beicio yn Eryri

Pa ffordd well o fwynhau tirlun arbennig Eryri nag ar ddwy olwyn? Nid yn unig y byddwch yn gwneud eich rhan i leihau allyriadau carbon, ond yn cadw‟n heini ar yr un pryd!

Rhwydwaith Beicio

Mae rhan o‟r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn mynd trwy ganol y Parc Cenedlaethol, a rhan arall yn cadw‟n agosach at yr arfordir. Mae‟r rhwydwaith yn dilyn amryw o wahanol fathau o ffyrdd gan gynnwys llwybrau di-draffig, ffyrdd gwledig, a phriffyrdd. Mae mwy o wybodaeth ynghylch y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar gael ar wefan Sustrans ar www.sustrans.org.uk

Llwybr Mawddach

Mae‟r llwybr hwn yn arwain ar hyd hen wely rheilffordd y Great Western rhwng Dolgellau a Morfa Mawddach, ac yna‟n cysylltu â phont reilffordd y Bermo. Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy‟n berchen ar y llwybr ac yn ei reoli, ac mae‟n boblogaidd iawn ymysg beicwyr, cerddwyr a defnyddwyr cadair olwyn. Ewch i‟r Ganolfan Groeso lleol neu ymwelwch â‟n gwefan am fwy o fanylion.

32

Ewch i‟r Parciau Cenedlaethol

75 mlynedd yn ôl, fe ddechreuodd grŵp ymroddgar o unigolion brwd am yr awyr agored ymgyrchu i sicrhau bod tirweddau gorau Prydain yn cael eu gwarchod am byth fel bod pawb yn gallu eu mwynhau. Mae etifeddiaeth yr unigolion hynny‟n fyw hyd heddiw, trwy waith Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol (YPC), sydd yr unig sefydliad sydd wedi ymrwymo i ddiogelu pob un o 13 Parc Cenedlaethol Cymru a Lloegr.

I ddathlu ei benblwydd yn 75, mae YPC eisiau annog mwy o bobl i fynd i Barciau Cenedlaethol – er mwyn profi eu hardaloedd agored eang, gwylltineb a harddwch naturiol, i fwynhau eu diwylliant a‟u croeso cynnes ac i ddeall y bygythiadau maent yn eu hwynebu a‟r hyn y gallwn ei wneud i‟w gwarchod.

Rwy‟n teithio ar draws y byd ac yn gweld tirluniau rhyfeddol, ond mae‟r harddwch sy‟n bodoli yma yn dal i gael effaith arnaf. Mae ein Parciau Cenedlaethol yn ased hanfodol, ein trysorau cenedlaethol „gwyrdd‟, ac mae‟n rhaid iddynt aros felly.

Gallwch ddysgu mwy am ein dathliadau 75 mlynedd, darllen am ein hymgyrchoedd diweddaraf, gwneud cyfraniad ariannol neu archebu siaradwr trwy ymweld â‟n gwefan www.cnp.org.uk neu trwy ein ffonio heddiw ar 020 7924 4077. Fe fyddem wrth ein boddau‟n clywed gennych chi.

Ben Fogle Llywydd YPC

33

Cymdeithas Eryri

Mae Cymdeithas Eryri (Rhif elusen 253231) yn ymdrechu i warchod, gwella a dathlu Eryri. Ein gweledigaeth yw Parc Cenedlaethol sydd â‟i rhinweddau unigryw a digyfnewid y mae‟r economi yn ddibynol arnynt yn cael eu gwarchod â balchder gan gymunedau ffyniannus a chydlynol, sydd wedi addasu i‟r newid yn yr hinsawdd.

Trwy welliannau ymarferol, ymgyrchoedd a monitro gwaith cyrff statudol, rydym yn cynnig modd i bobl leol ac ymwelwyr gyfrannu i warchodaeth y dirwedd ysblennydd hon, gan helpu i sicrhau ei hyfywedd yn y dyfodol.

Mae aelodaeth yn agored i bawb; ymunwch â ni i fwynhau ystod o ddigwyddiadau addysgiadol a chyfleoedd gwirfoddoli cyffrous, heb anghofio‟r gostyngiadau y mae aelodau‟n eu derbyn gan fusnesau lleol. Trwy wneud hyn, fe fyddwch yn helpu i wella‟r ardal, cael hwyl, dysgu sgiliau newydd a chwrdd â phobl eraill sy‟n frwdfrydig dros y parc a‟i bywyd gwyllt. Yn bwysicaf oll, mae cefnogaeth ein haelodau‟n ein galluogi i barhau â‟n gwaith hanfodol.

Am ragor o wybodaeth ewch i www.cymdeithas-eryri.org.uk neu ein swyddfa yn y Caban ym Mrynrefail. Fel arall, ebostiwch info@snowdonia- society.org.uk neu ffoniwch 01286 685 498 i siarad ag unrhyw un o‟n staff.

34

Gwyliau Gwyrdd

Y dyddiau yma hyn pobl yn llawer mwy ymwybodol o‟r effaith mae eu gwyliau tramor yn ei gael ar yr amgylchedd, ac felly bydd rhai yn penderfynu treulio‟u gwyliau‟n agosach i adref - ym Mharciau Cenedlaethol hardd Prydain.

Efallai bod hynny‟n golygu cydwybod clir o filltiroedd awyr, ond sawl un sy‟n sylweddoli bod eu harferion wrth fynd ar wyliau yn y wlad hon yn gallu bod yn niweidiol i‟r amgylchedd hefyd?

Dyma ychydig o gyngor ar sut i gael gwyliau gwyrdd ym Mharc Cenedlaethol Eryri...

Ewch heb gar

Eisteddwch yn ôl ac ymlacio. Gadewch y car adref a defnyddiwch y rhwydwaith trenau neu wasanaethau bws i gyrraedd yma, ac i fynd â chi o un lle i‟r llall tra byddwch yma. Am fwy o wybodaeth ac amseroedd trenau a bysus ewch i www.traveline-cymru.org.uk neu ffoniwch 0871 200 22 33 (galwadau‟n costio 10c y funud ac unrhyw gostau ychwanegol gan eich darparwr gwasanaeth). Gellir cael copi o amserlenni bysus a threnau o unrhyw Ganolfan Groeso lleol neu Bwyntiau Gwybodaeth penodol hefyd.

„Lleol‟ „piau hi!

Cefnogwch fusnesau lleol a lleihau eich ôl troed carbon ar yr un pryd! Prynwch fwyd sydd wedi eu cynhyrchu‟n lleol – maent yn llawer mwy blasus, a hynny heb gostio gormod! Bwytwch mewn bwytai a chaffis sy‟n hyrwyddo cynnyrch lleol a mwynhewch wir flas Eryri.

35

Cofroddion unigryw

Ewch â rhywbeth arbennig adref efo chi i gofio eich amser yn Eryri. Prynwch anrhegion a chofroddion wedi eu gwneud yn lleol o ddeunydd cynaladwy. Byddwch yn cefnogi busnesau lleol, ac yn lleihau eich ôl troed carbon. Pa ffordd well o gofio eich ymweliad na mynd ag eitem adref wedi ei wneud o lechen, gwlân neu ledr – yn syth oddi ar fryniau Eryri!

Ailgylchwch eich „sbwriel

Helpwch ni i leihau‟r gwastraff sy‟n mynd ar ein tomennydd sbwriel lleol, arbedwch ynni trwy ailgylchu eich gwastraff tra‟r ydych ar eich gwyliau, a phrynwch nwyddau gyda chyn lleied â phosib o ddeunydd pacio. Mae digonedd o safleoedd ailgylchu wedi eu lleoli ledled y Parc - ewch i www.wasteawarenesswales.org.uk i ddod o hyd i‟r un agosaf i chi.

Wrth gadw at yr egwyddorion syml hyn fe fyddwch nid yn unig yn gwneud eich rhan i arbed yr amgylchedd, ond hefyd yn helpu i sicrhau bod rhinweddau arbennig Eryri‟n cael eu gwarchod i genedlaethau‟r dyfodol eu mwynhau.

36

Eryri‟n dathlu 60 mlynedd!

Bydd Hydref y 18fed 2011 yn ddiwrnod arbennig i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gan y byddwn yn dathlu 60 mlynedd o fodolaeth Parc Cenedlaethol Eryri.

Dynodwyd yr ardal arbennig hon yn Barc Cenedlaethol er mwyn gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal, a hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau ei nodweddion arbennig. Mae gennym hefyd ddyletswydd i feithrin lles economaidd a chymdeithasol y cymunedau yn y Parc.

Dros y degawdau, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gweithio‟n galed i sicrhau bod y pwrpasau a‟r dyletswydd hyn yn cael eu hateb trwy amryw o wahanol gynlluniau, prosiectau a gwasanaethau, a „does raid i chi ond edrych o‟ch cwmpas i weld eu llwyddiant. Mae‟r ffaith bod Eryri yn dal i fod yr un mor hardd ac unigryw ag erioed yn dweud y cyfan...

Ewch i‟n gwefan i ddysgu mwy am waith Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri www.eryri-npa.gov.uk ac am wybodaeth ynghylch sut y byddwn ni‟n dathlu Eryri yn 60 oed!

37

Newyddion diweddaraf – degawd o ohebu ar fywyd gwyllt Eryri.

Erthygl gan James Roberston

“Feather-footed through the plashy fen passes the questing vole”. Llinell ddychanol gofiadwy Evelyn Waugh a ysbrydolodd y teitl ar y cylchgrawn amgylcheddol Vole, ac mae‟n cyfleu‟n eithaf da y darlun gwladaidd sydd gennym o Ratty‟r llygoden ddŵr. Maen nhw‟n byw mewn corsydd toreithiog isel, gan osgoi cynefinoedd garwaf Eryri, dydyn?

Na, dydyn nhw ddim: i‟r gwrthwyneb, canfu gwaith ymchwil a gynhaliwyd gan gwpwl o unigolion brwd am famaliaid, ac a adroddwyd yn ei gylch yng nghylchgrawn Natur Cymru, bod heidiau llewyrchus o lygod dŵr yn ffynnu yn uchel yn yr ucheldir. Yn wir, mae‟r gallu i symud rhwng cynefinoedd ucheldir ac iseldir yn egluro pam bod llygod dŵr wedi llwyddo i gytrefu ardaloedd newydd, fel Corsydd Glaslyn a grëwyd ar ôl cwblhau cob Porthmadog ddwy ganrif yn ôl.

Lle ydych chi‟n debygol o ddod o hyd i‟r dwysedd uchaf a gofnodwyd o‟r Ffwlbart gwibiog ym Mhrydain? Fel mae‟n digwydd, yr ateb yw twyni Morfa Dyffryn sy‟n berwi o gwningod, lle'r oedd rhwng 10 ac 16 ffwlbart yn meddiannu un cilometr sgwâr, ac 8 anifail yn cael ei ddal mewn un noson. Dyma esiampl arall o stori ddiddorol a gefais gan griw ymroddgar o wylwyr mamaliaid Eryri. Mae rhai eraill wedi cynnwys straeon am ddyfrgwn, gyda thiriogaethau‟n rhedeg o‟r mynyddoedd i‟r môr; geifr, y mae eu presenoldeb yn y Parc angen bod yn gytbwys; ystlumod a bele‟r coed; mae‟r rhestr yn ddi ben draw. A dim ond y mamaliaid yw‟r rheiny.

38

Yn y cylchgrawn rydym wedi adrodd ar adar, fel Gweilch y Glaslyn sy‟n dychwelyd; blodau, fel Heboglys Eryri a ail-ganfuwyd yng Nghwm Idwal; a phryfaid, fel glöyn byw Britheg y Gors yn Harlech.

Pam cymaint o straeon o Eryri? Yr ateb amlwg yw bod y Parc yn ymestyn dros ardal anferth o gynefin sydd â chyfoeth dirfawr o fywyd gwyllt. Yr un mor bwysig, fodd bynnag, yw‟r sylw y mae statws Parc Cenedlaethol a‟r nifer fawr o ymwelwyr chwilfrydig yn ei dynnu at nifer o ffasedau amgylcheddol yr ardal. Mae‟r Wyddfa‟n rhan o rwydwaith monitro amgylcheddol, sy‟n casglu gwybodaeth fydd, pan fydd wedi ei osod ochr yn ochr â gwybodaeth o bob cwr o Ewrop, yn llunio darlun o‟r hyn sy‟n digwydd i‟r hinsawdd a sut mae hyn effeithio bywyd gwyllt.

Yr haf diwethaf fe gyhoeddais yr ail erthygl ar y gwaith monitro hanfodol hwn. Mae casglu data hir dymor ynghylch llyffantod, ystlumod a chwilod, a‟r cofnodi gofalus o dymheredd yr aer, glawiad a gorchudd eira o bwysigrwydd parhaus. Bioamrywiaeth yw conglfaen cynaladwyedd. Mae deall ein hamgylchedd, sut mae‟n gweithio a‟r hyn sy‟n digwydd iddo yn fenter ddifrifol; mae adrodd amdano yn gyfrifoldeb pleserus.

Daw llawer o‟r pleser gan y bobl sy‟n casglu gwybodaeth ac yn rhannu eu brwdfrydedd tuag at natur. Rwy‟n ddigon ffodus o gael Eryri ar garreg y drws, ac rwy‟n cyfaddef fy mod yn troi at nifer o unigolion brwd am fywyd gwyllt sy‟n byw yn Eryri oherwydd fy mod yn eu hadnabod a fy mod yn gwybod y byddant yn ysgrifennu erthyglau wedi‟u hymchwilio‟n dda, ond gyda sblash ychwanegol o liw personol sy‟n deillio o ymrwymiad ac ymglymiad. Boed yn Rob Collister yn ysgrifennu am ei atgasedd tuag at y ffensys sydd wedi eu

39 codi yn uchelderau Eryri, Twm Elias yn ysgrifennu am y dreftadaeth anweladwy, neu Rod Gritten yn darganfod tirlun wedi troi‟n aur gyda blodau daffodiliau gwyllt, gallaf ddisgwyl elfen bersonol i godi‟r testun o fod yn deilwng i fod yn gymhellol.

Os darllenwch chi‟r holl erthyglau ynghylch Eryri sydd wedi eu cyhoeddi yn Natur Cymru, credaf y byddech ar y cyfan yn galonogol. Mae‟r Gweilch yn ôl, mae‟r Ystlum Bedol Leiaf yn gwneud yn dda, (mae hyd yn oed yr Ystlum Pedol Mwyaf wedi dechrau ymddangos) ac mae dyfrgwn yn ffynnu. Ond mae yna golledion hefyd. Mae niferoedd y Gwibedog Brith wedi gostwng, ac mae‟r Gragen Las Berlog dŵr croyw sy‟n dirywio yn methu criwtio rhai ieuainc i‟w poblogaethau sy‟n dirywio, ac mae lleoliad planhigion arctig-alpaidd ar y copaon uchel i‟w gweld yn ansicr wrth wynebu hinsawdd sy‟n cynhesu. Gall y materion mwy, fel llygredd tryledol yn cael effaith ar afonydd a nentydd, neu rywogaethau estron fel Jac y Neidiwr, neu newid hinsawdd, ymddangos yn afreolus.

Fel mae‟r Parc Cenedlaethol yn paratoi i ddathlu ei ben-blwydd yn drigain oed, mae gan Natur Cymru ei ddathliad ei hun; yn ystod yr haf 2011 fe fyddwn wedi bod yn cyhoeddi ein llais annibynnol dros natur yng Nghymru ers deng mlynedd, ac fe fyddwn wedi cyhoeddi 39 rhifyn. Efallai bod ein fformat yn fach (ychydig llai nag A5), ond mae ein huchelgeisiau‟n fawr: cyhoeddiad o ansawdd newyddiadur (mae‟r rhai ar ffurf rhwymwyr yn gwerthu‟n sydyn), ond mor ddarllenadwy â chylchgrawn.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Natur Cymru ewch i www.naturcymru.org.uk

James Roberston, Golygydd Natur Cymru ers 2001 hyd heddiw.

40

Croesair

Beth am roi cynnig ar gwblhau‟r croesair? Os darllenwch chi‟r cylchgrawn hwn yn ofalus, efallai y dewch o hyd i rai o‟r atebion…

Pwysig: Nid yw‟r cwestiynau Cymraeg a‟r cwestiynau Saesneg yn union yr un fath – penderfynwch pa iaith yr ydych am ei defnyddio a chadwch at yr iaith honno.

Mae‟r llythrennau ch, dd, ff, ll, ng, ph a rh yn cyfrif fel dwy lythyren

41

Ar draws

1. Llyn naturiol mwyaf Cymru. (4,5)

3. Ffynhonell o fwyd a geir o anifeiliaid. (3)

6. ------Ffestiniog, dinas y llechi. (7)

8. Sylwedd sy‟n cael ei daflu allan o losgfynyddoedd. (4)

10. Blodyn gwyn sy‟n tyfu ar ddŵr, neu ar yr Wyddfa! (4)

11. Plu gwyn sy‟n syrthio o‟r awyr . (4)

12. Diwrnod neu gyfnod o ddathlu. (4)

14. Taith ------, taith gerdded 24 milltir rhwng y Bermo a Llandecwyn. (7)

17. Elusen sy‟n gwarchod adar. (1,1,1,1)

19. Lliw pur. (4)

21. Cartref mynachod. (5)

22. Addoldy. (6)

25. Math o bren caled, sy‟n frodorol i Eryri. (4)

27. Pentref bychan ar waelod Bwlch Llanberis, lle gellir dal y bws „Parcio a Theithio‟. (4,5)

I lawr

2. Llinyn telyn. (4)

4. Aber yr afon ------, lle mae‟r Gweilch y Pysgod yn nythu. (7)

5. Afon sy‟n llifo trwy bentref Betws y Coed. (6)

42

6. Tref ar lan Llyn Tegid. (4)

7. Llyfr o fapiau. (5)

9. Coed ------, llwybr aml-allu ym Metws y Coed. (3,5)

13. Cerddoriaeth gyda geiriau. (3)

15. Cyfres o symudiadau i gerddoriaeth. (5)

16. Nid llai. (3)

18. Y gwasanaeth bws sy‟n mynd o amgylch yr Wyddfa. (6)

20. -----Idris, mynydd yn ne‟r Parc Cenedlaethol. (5)

23. “Mynd ar ---- eich hun”, yn eich amser eich hunan. (4)

24. Rhif sanctaidd. (3)

26. Strwythur carreg sy‟n cael ei godi i gau anifeiliaid o fewn darn o dir. (3)

Am gyfle i ennill pecyn nwyddau Parc Cenedlaethol Eryri cwblhewch y croesair a‟i anfon atom i‟r cyfeiriad uchod erbyn 29 Hydref 2010. Bydd pob croesair cywir yn cael ei roi mewn het a bydd y tri enw cyntaf allan ohoni yn derbyn gwobr. Pob Lwc!

43

Cystadleuaeth Lliwio

Ydych chi eisiau‟r cyfle i ennill pecyn nwyddau Parc Cenedlaethol Eryri?

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw lliwio‟r llun a‟i anfon atom i Cystadleuaeth, Swyddfa Parc Cenedlaethol Eryri, Penrhyndeudraeth, Gwynedd, LL48 6LF gyda‟ch Enw, eich Cyfeiriad a‟ch Oed.

Dyddiad cau‟r gystadleuaeth: 28 Hydref 2011.

Mae tri chategori oedran: O dan 6 oed, 7-9 oed, 10-12 oed

Enillwyr cystadleuaeth lliwio 2010 oedd: Yann ac Alice Eon, Rebecca Louise Haxby, Hariett Carmen Lockley

Enw: ______

Cyfeiriad: ______

Oed: ______44

Canolfan Astudio

Cyrsiau Plas Tan y Bwlch 2011-12

Plas Tan y Bwlch yw Canolfan Astudiaethau Amgylcheddol Parc Cenedlaethol Eryri a saif ar lecyn bendigedig yn edrych dros ddyffryn Afon Dwyryd yng nghanol y Parc Cenedlaethol. Mae‟r Ganolfan yn darparu cyrsiau proffesiynol a chyhoeddus sydd o ddiddordeb i bawb sydd yn caru cefn gwlad ac a hoffai wybod mwy am yr ardal hudol hon o Gymru.

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol i ymuno â'n cyrsiau cyhoeddus, dim ond diddordeb yn y pwnc a pharodrwydd i ddysgu gan diwtoriaid profiadol a brwdfrydig. Rydym yn ffodus iawn fod gennym nifer o arbenigwyr lleol sydd yn medru cyfrannu i‟n rhaglen. Cymerwch olwg ar y cyrsiau cyhoeddus a restrir isod ac ewch i‟n gwefan i gael gwybod mwy.

Ebrill 1-3 Penwythnos Caligraffi 8-10 Urdd y Brodwyr (Crefft) 10-15 Ymateb i‟r Dirwedd (Arlunio a Darlunio) 11-15 Ffotograffiaeth Tirwedd 15-17 Cyflwyniad i Bermaddiwylliant 17-22 Cerdded Mynyddoedd Eryri dros y Pasg 26 – 2 (Mai) Rheilffyrdd Treftadaeth (Hanes) 29 – 2 (Mai) Crwydro ym Mynyddoedd Eryri

Mai 3 – 6 Natur drwy eich llyfr Brasluniau 6 – 8 Creu Gemwaith 6 – 8 Tynnu lluniau Blodau Gwyllt a Gardd 6 – 8 Gwanwyn i‟r Haf (Bywyd Gwyllt) 13-15 Smyglwyr – yr unig ladron gonest (Hanes) 45

13 – 15 Darlunio a Braslunio 16 – 20 Paentio‟r Bryniau 20 – 22 Cerddoriaeth Siambr 29 – 3 (Mehefin) Llwybrau Hynafol Eryri (Cerdded) 30 – 3 (Mehefin) Bywyd Gwyllt ym Mehefin

Mehefin 10 – 13 Tu draw i Luniau (Arlunio a Darlunio) 10 – 12 Pilates yn y Plas ar gyfer y rhai mwy profiadol 24 – 26 Glöynnod Byw a Gwyfynod 24 – 26 Deucanmlwyddiant y Cob (Hanes)

Gorffennaf 1 -3 Dosbarth Meistrioli Canu Unawd 8 – 10 Cerdded Nordig 8 – 10 Llawnder yr Haf (Arlunio a Darlunio) 8 - 10 Leiniau Bach Cul Prydain – y dirywiad (Hanes) 10 – 16 Cerdded Arfordir Pen Llŷn 18 – 22 Glöynnod Byw a Gwyfynod 27 – 31 Paentio gyda Chymdeithas Arlunio Clwyd 31 – 7 (Awst) Archaeoleg Ddiwydiannol Ymarferol

Awst 1 – 6 Paentio i Thema mewn Olew ac Acrylig 10 – 14 Paentio Olew yn yr Awyr Agored 14 – 19 Pysgota Plu 15 – 19 Natur Mewn Pwythau (Crefft) 19 – 21 Rheilffordd Ucheldir Eryri (Hanes) 21 – 26 Paentio Botanegol

46

26 – 28 Cymru Forol (Hanes) Medi 4 – 9 Bryngaerau Eryri a Phen Llŷn (Hanes ac Archaeoleg) 12 – 16 Porthmyn a Ffyrdd y Porthmyn (Cerdded) 16 – 18 Penwythnos Tecstiliau 18 – 23 Paentio Botanegol 26 – 30 Lens a Goleuni (Ffotograffiaeth) 30 – 2 (Hydref) Casgliad yr Hydref – Celf Fotanegol 30 – 2 (Hydref) Penwythnos Cyfrwng Cymysg i bob gallu (Arlunio a Darlunio)

Hydref 1 – 7 Darganfod Mynyddoedd Eryri (Cerdded) 21 – 23 Madarch a Chaws Llyffant 21 – 23 Byw Hanfodol yn y Gwyllt 21 – 23 Blackbeard, Henry Morgan a Captain Pugwash (Hanes) 23 – 28 Lliwio‟r Mynyddoedd (Arlunio a Darlunio) 23 – 28 Gweithdy Ffotograffiaeth 28 – 30 Cerddoriaeth Siambr 30 – 4 (Tach) Torlun Pren a Phrintiau Cerfweddol

Tachwedd 11 – 13 Cynhadledd Fforwm Hanes Cymru 18 – 20 Crefft Memrwn 18 – 20 Pilates yn y Plas i Ddechreuwyr 18 – 29 Creu Gemwaith

Ionawr 12 – 16 Cerdded Eryri yn y Flwyddyn Newydd

47

13 – 15 Sampleri a Brodwaith

Chwefror 3 – 5 Llên Gwerin 10 – 12 Cerddoriaeth Siambr 12 – 17 Teithiau Cerdded Llynnoedd a Rhaeadrau Eryri 12 – 17 Llechi: Lle aeth o o‟i le (ailymweld)? 13 – 17 Adar y Gaeaf 17 – 19 Penwythnos Crefftau

Mawrth 2 – 4 Penwythnos Byd Natur Cymru 9 – 11 Penwythnos Caligraffi 9 – 11 “Y Pla a‟r Frech” – Clefydau mewn Hanes 16 – 18 Ffotograffiaeth Tirlun Creadigol 16 – 19 Penwythnos Map a Chwmpawd Eryri 23 – 25 Chwedlau‟r Mabinogion 23 – 27 Ffotograffiaeth Creadigol gyda‟ch Camera Digidol

48

Cyfle i ennill pecyn nwyddau Parc Cenedlaethol Eryri

Rydym eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn cael y wybodaeth sydd ei heisiau a‟i hangen arnoch yn Eryri/Snowdonia. Er mwyn ein helpu i wneud hyn, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech chi dreulio ychydig funudau‟n llenwi‟r holiadur byr hwn. Bydd pob holiadur a ddychwelir i‟r cyfeiriad RHADBOST isod yn cael ei roi mewn het, a bydd y tri enw cyntaf allan ohoni yn derbyn pecyn nwyddau‟r Parc Cenedlaethol.

Dyddiad cau: 25 Tachwedd 2011

Diolch yn fawr am eich amser. Anfonwch eich holiadur i:

AWDURDOD PARC CENEDLAETHOL ERYRI

RHADBOST NWW3814A

PENRHYNDEUDRAETH

GWYNEDD

LL48 6ZZ

Enw: ______

Cyfeiriad: ______

Beth yw eich oedran?

15 neu iau  16-30  31-45 

46-59  60+  49

Ydych chi…

Yn byw yn y Parc Cenedlaethol 

Yn ymweld â‟r Parc Cenedlaethol am y dydd 

Ar eich gwyliau yn y Parc Cenedlaethol 

Beth yw pwrpas eich ymweliad â‟r Parc Cenedlaethol?

Ymlacio 

Gweithgareddau awyr agored 

Hanes a diwylliant yr ardal 

Mwynhau‟r tirwedd a‟r golygfeydd 

Arall (beth?) 

Pa wybodaeth ydych chi‟n teimlo oedd fwyaf defnyddiol yn y cylchgrawn hwn?

______

Ydych chi‟n teimlo bod rhywbeth ar goll yn y cylchgrawn hwn a fyddai wedi bod o gymorth i chi yn ystod eich ymweliad? Os felly, beth?

______

Ydych chi wedi ymweld, neu‟n bwriadu ymweld ag unrhyw un o‟r lleoedd sy‟n ymddangos yn yr adrannau Darganfod Eryri a Pethau i’w Gwneud yn y cylchgrawn hwn? Os felly, lle?

______

50

Lle cawsoch chi eich copi o Eryri/Snowdonia 2011-2012?

______

Pa mor fodlon ydych chi ag Eryri 2011-2012?

Bodlon iawn 

Bodlon 

Anfodlon 

Unrhyw sylwadau eraill?

______

51

Amcanion Gwella

Mae‟r Awdurdod yn gyfrifol am warchod rhinweddau arbennig Eryri a gwella dealltwriaeth a mwynhad pobl o‟r Parc. Fel corff cyhoeddus mae disgwyl i‟r Awdurdod wella‟r gwasanaethau y mae‟n eu darparu yn barhaus. Yn dilyn cyfnod o ymgynghori ym mis Chwefror 2011 fe fabwysiadodd yr Awdurdod chwe amcan gwella a chwe blaenoriaeth gwasanaeth. Gallwch ddarllen mwy trwy ymweld â‟n gwefan www.eryri-npa.gov.uk/park- authority/publications/corporate

Os hoffech gynnig sylwadau ynghylch y blaenoriaethau a‟r amcanion, neu hyd yn oed awgrymu meysydd y teimlwch y dylem ganolbwyntio ein hymdrechion â‟n hadnoddau yn y dyfodol, gadewch i ni wybod trwy ddefnyddio ein safle ar Twitter a Facebook neu anfonwch lythyr neu e-bost at [email protected]

Hoffem glywed gennych hefyd os ydych yn meddwl ein bod wedi gwneud gwaith da ac os teimlwch y gallwn fod wedi gwneud yn well. Rydym bob amser yn croesawu eich sylwadau.

Byddwch yn “Ap”-us!

Eisiau gwybodaeth am bethau i‟w gwneud yn Eryri ar flaen eich bysedd?

Cadwch olwg am ein „Ap‟ iPhone newydd fydd yn cael ei lansio yn ystod tymor yr haf 2011. Mae‟n cynnwys ystod eang o wybodaeth i‟ch helpu i fwynhau Eryri i‟r eithaf!

52