Draft Policy
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016 National Assembly for Wales Elections 2016 Tŵlcit ymgyrchu Campaigning Toolkit Amserlen yr Ymgyrchu The campaign timetable Haf 2015: Trafodaethau o gwmpas y bwrdd Summer 2015: Roundtable discussions Hydref 2015: Cyfarfodydd gyda phleidiau gwleidyddol Autumn 2015: Meetings with political parties Tachwedd 2015: Fforymau Rhanbarthol WEA YMCA CC November 2015: WEA YMCA CC Cymru Regional Forums: Cymru: . cyflwyniadau ar bwerau . presentations on the Cynulliad Cenedlaethol powers of the National Cymru a’i system Assembly for Wales and its bleidleisio voting system . penderfyniad i symud yr . decision on taking the ymgyrch ymlaen campaign forward Rhagfyr 2015: Canghennau’n ystyried camau lleol December 2015: Branches consider actions to take locally Ionawr 2016: Aelodau yn cysylltu gydag ymgeiswyr eu January 2016: Members contact candidates for their hetholaethau a seddau rhanbarthol (gw. constituency and regional seats (see Section 5 adran 5 isod) below) Chwefror 2016: Fforymau Rhanbarthol i gwblhau paratoadau February 2016: Regional Forums to finalise preparations Mawrth/Ebrill 2016: Digwyddiadau a gweithgareddau ymhob March/April 2016: Events and activities in every region rhanbarth Mai 5 2016: Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru May 5 2016: National Assembly for Wales Election Fersiwn Saesneg yn dilyn y Gymraeg English version follows the Welsh Pwrpas Lluniwyd y ddogfen hon gan aelodau’r Pwyllgor Mudiad Gwirfoddol ac eraill. Ei phwrpas yw helpu Canghennau, Fforymau’r Dysgwyr, Fforymau Rhanbarthol, Sefydliadau cysylltiedig, aelodau unigol, partneriaid a chefnogwyr WEA Coleg Cymunedol YMCA Cymru i: . godi proffil y Gymdeithas a’r achos dros addysg oedolion yn y cyfnod cyn Etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai 2016 . cyflwyno’r achos ar lefel lleol a rhanbarthol . lobïo ymgeiswyr ar lefel Etholaeth a Rhanbarthol . trefnu digwyddiadau megis dadleuon neu lwyfannau etholiad . annog ymgeiswyr i gydnabod y gwaith da mae’r Gymdeithas yn ei wneud 1. Cyflwyniad Ym mis Mai 2016 cynhelir etholiadau ar gyfer 60 o seddau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Am fwy o wybodaeth am y Cynulliad ewch i: http://www.assembly.wales/en/abthome/Pages/abthome.aspx Mae WEA YMCA CC Cymru yn dibynnu’n helaeth ar gyllid gan Lywodraeth Cymru i’w galluogi i gynnig addysg oedolion ar draws Cymru. Mae’r cyllid hwn yn dod o ddyraniad y Llywodraeth ar gyfer Addysg Bellach (FE). Mae AB wedi bod ar y newyddion dros yr haf oherwydd cyhoeddwyd toriadau cyllid sylweddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2015-16. Nid ydym wedi cael ein heffeithio cyn waethed â’r Colegau AB yng Nghymru. Er hynny, me’r Gymdeithas wedi cael toriad cyllid o 2.6% yn ystod 2015-16 sef cyfanswm o £160,000. Y flwyddyn nesaf rydym yn wynebu toriad o 5% a amcangyfrifir i fod yn £300,000, gyda thoriadau o 2.5% i ddilyn yn 2017/18 a 2018/19 sef £150,000 y flwyddyn. Mae’r ffigurau hyn yn ddamcaniaethol a gallant newid yn hawdd, er yn ôl pob tebyg nid er gwell. Mae’r ymgyrchu wedi dechrau gyda’r pleidiau gwleidyddol i bwysleisio cyfraniad addysg oedolion i greu economi fywiog a chymunedau cynaliadwy yng Nghymru. Yn ystod yr haf, mae grŵp o weithwyr gwirfoddol wedi bod yn gweithio gyda staff i lunio cyfres o ‘geisiadau’ i’w rhoi gerbron y pleidiau yn y misoedd i ddod. Mae’r rhain ar ffurf ymrwymiadau y basem yn dymuno iddynt wneud yn eu maniffestos etholiadol. Hefyd maent yn ffurfio sail ein hymgyrch ar lefel etholaethol a rhanbarthol. (Gw. Adran 2 isod os gwelwch yn dda) Tŵlcit Ymgyrchu / Campaining Toolkit Page 2of24 13/04/2016 Ar yr un pryd, mewn cydweithrediad gyda sefydliadau eraill yng Nghymru gyda diddordeb mewn polisi addysg oedolion cyfranogodd WEA Cymru mewn trafodaethau o gwmpas y bwrdd gyda’r prif bleidiau y disgwylir iddynt roi ymgeiswyr ar y maes ym mis Mai. (Gw. Adran 3.1 isod os gwelwch yn dda) Mae cynlluniau ar droed i gynrychiolwyr o WEA YMCA CC Cymru gyfarfod gyda’r prif bleidiau gwleidyddol er mwyn codi’r ymrwymiadau y basem yn dymuno eu gweld yn eu maniffestos. (Gw. Adran 3.2 isod os gwelwch yn dda) Mae’r pecyn cymorth yn gosod yr amserlen ar gyfer ein hymgyrch fel cyfanwaith ac yn awgrymu sut y gall aelodau weithio ar lefel lleol a rhanbarthol i ddatblygu’r ymgyrch. 2. Beth rydym yn ei ofyn i Lywodraeth Cymru ei wneud Argymhellion Polisi (Detholiad o Ddatganiad Polisi) Yn y dyfodol dylai unrhyw lywodraeth yng Nghymru: 1. weithredu strategaeth ariannu newydd ar gyfer dysgu oedolion. Mae Dysgu Oedolion yn gwneud cyfraniad sylweddol i ystod o amcanion polisi trawsadrannol. Pan gaiff ei ategu gan gynnig cwricwlwm eang, mae dysgu oedolion yn: • mynd i’r afael ag anwybodaeth a rhagfarn • cefnogi Cymru ddwyieithog • datblygu dealltwriaeth a goddefgarwch • annog iechyd a lles • ysbrydoli dinasyddiaeth weithgar • hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a lleihau tlodi • cefnogi adfywio economaidd 2. gymeradwyo corff sengl Cymru gyfan i gyflenwi Dysgu Oedolion cydgysylltiedig ar draws Cymru gyfan: • i ddarparu cyfeiriad strategol ar gyfer Dysgu Oedolion ar lefel cenedlaethol • i flaenoriaethu model cyflwyno sy’n seiliedig ar anghenion –gwybodaeth a ddaw o gyd-drafod gyda dysgwyr i ddiwallu eu hanghenion hwy ac anghenion eu cymunedau, cyflogwyr ac undebau llafur • i gefnogi cyflwyno Dysgu Oedolion yn seiliedig ar bartneriaethau allweddol i hyrwyddo cyflwyno ar lefel lleol a rhanbarthol • i hyrwyddo arfer gorau drwy ddarparu sicrwydd ansawdd ar gyfer addysgu a dysgu ar draws Cymru 3. ailgydbwyso dosbarthiad adnoddau‘n fwy teg ar draws gwahanol gamau bywyd: Tŵlcit Ymgyrchu / Campaining Toolkit Page 3of24 13/04/2016 • osgoi rhoi mwy o bwyslais ar y system addysg er mwyn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu pryd a lle bo’u hangen • ymateb i boblogaeth sy’n heneiddio a phatrymau newidiol gwaith am dâl a heb dâl • arfogi oedolion gyda’r dygsu a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn amgylchedd economaidd heriol 3. Yr Ymgyrch hyd yma 3.1 Trafodaethau o gwmpas y Bwrdd Mae’r grŵp canlynol o sefydliadau sydd yn rhannu didordeb mewn polisi Dysgu Oedolion wedi cytuno i gydweithio i sicrhau bod anghenion oedolion sy’n dysgu a phawb o’r rhai hynny sy’n elwa o addysg oedolion a chymunedol yn cael eu hadlewyrchu mewn maniffestos pleidiau gwleidyddol: Y Brifysgol Agored yng Nghymru NIACE Cymru Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru WEA Cymru Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru Hyd yma cynhaliwyd cyfarfodydd o gwmpas y bwrdd rhwng cynrychiolwyr o’r sefydliadau hyn gyda gwleidyddion ac ymchwilwyr/llunwyr polisïau o Blaid Cymru, Y Blaid Werdd, UKIP, Y Ceidwadwyr Cymreig a Llafur Cymru. Roedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys parch cydradd i astudio rhan amser ac amser llawn, parch cydradd i ddysgu ar draws cwrs bywyd, fframwaith ar gyfer dysgu integredig i oedolion, a gwybodaeth a chyngor ac arweiniad ar gyfer dysgu hyblyg. 3.2 Cyfarfodydd WEA YMCA CC Cymru gyda phleidiau gwleidyddol Mae gan bleidiau gwleidyddol amserlenni gwahanol ar gyfer llunio a chytuno ar gynnwys eu maniffestos. Byddwn yn mynd at y pleidiau yn ystod yr hydref i drefnu cyfarfodydd i drafod ein cynigion ac i geisio eu cynnwys yn eu maniffestos. 4. Sut y gall aelodau wneud gwahaniaeth Rydym eisiau i’n hymgyrch estyn ar draws Cymru ac i’n hachos am ariannu ar gyfer addysg oedolion gael gwrandawiad ymhob etholaeth. Dyma lle y gall ein haelodau a’n dysgwyr wneud gwahaniaeth. Mae gennym ddysgwyr ar draws y wlad. Pwy well na’r dysgwyr eu hunain i ddweud am bwysigrwydd addysg oedolion ym mywydau ein dysgwyr. Mae gan eich llais y grym i wneud gwahaniaeth. Tŵlcit Ymgyrchu / Campaining Toolkit Page 4of24 13/04/2016 Os gwelwch yn dda, cofiwch bod WEA YMCA CC Cymru yn sefydliad gwirfoddol annibynnol ac elusen addysgol sydd yn ddi-blaid mewn gwleidyddiaeth ac ni ddylid ymddangos i fod yn gefnogol i neu’n ffafrio unrhyw blaid benodol. Mae amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau y gellid eu cynllunio ar lefel lleol neu ranbarthol: Ysgrifennu llythyron Cysylltwch gyda’ch ymgeisydd drwy lythyr, ebost neu twitter – esboniwch beth mae cyfranogi mewn addysg oedolion gyda WEA YMCA CC Cymru yn ei olygu i chi, pa wahaniaeth mae’n ei wneud i’ch bywyd, y ffyrdd y mae’n bwysig i chi ac anogwch eich ymgeiswyr i addo cefnogi ariannu parhaus i addysg oedolion. Gallwch ddyfynnu o’r pwyntiau maniffesto (Gw. Adran 2) Ymgyrch electronig: Y ffordd hwylusaf i gysylltu â’ch holl ymgeiswyr yw i ymuno â’n ymgyrch electronig. Cliciwch yma a dilyn y cyfarwyddiadau: http://weaymcacccymru.takeaction.org.uk/lobby/7 Drafft llythyr i ymgeiswyr Mae croeso i chi ei ddrafftio yn eich geiriau eich hun gan y bydd hynny’n cael llawer mwy o effaith. Awgrymwn eich bod yn cychwyn eich llythyr drwy egluro eich bod yn aelod o WEA YMCA CC Cymru (neu yn ddysgwr neu gefnogwr) gan egluro pam fod hynny’n bwysig i chi a sut yr ydych wedi cael budd o’r profiad. Eglurwch hefyd os yw toriadau diweddar wedi effeithio ar y ddarpariaeth yn eich ardal. Gellir parhau wedyn ar hyd y llinellau hyn: Byddwn a diddordeb gwybod eich barn ar addysg oedolion ac yn enwedig, os y cytunwch a mi, ei fod nid yn unig yn cefnogi adfywiad economaidd drwy feithrin sgiliau oedolion ond hefyd yn cyfrannu at sicrhau amrediad o amcanion polisi gan gynnwys iechyd a lles, datblygu cymunedau cynaliadwy, hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a lleihau tlodi. Os cewch eich ethol, a fedrwch fy sicrhau y byddwch yn ymgyrchu dros addysg oedolion ac yn benodol yn dadlau dros rannu’r gyllideb addysg yn decach dros y gwahanol gyfnodau bywyd. Rwyf yn bryderus fod Addysg Oedolion yn y Gymuned wedi dioddef toriadau difrifol. Mae hyn yn hanfodol i ddarparu cyfleoedd dysgu pryd a lle y maent eu hangen, fel bo anghenion poblogaeth sy’n heneiddio yn cael eu diwallu ac fod gan oedolion yr addysg a’r sgiliau y maent eu hangen i ffynnu mewn amgylchedd economaidd heriol.