COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL ADRODDIAD A CHYNIGION

SIR DDINBYCH

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL AR GYFER SIR DDINBYCH

ADRODDIAD A CHYNIGION

1. CYFLWYNIAD

2. CRYNODEB O’R CYNIGION

3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

4. CYNIGION DRAFFT

5. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

6. ASESIAD

7. CYNIGION

8. CYDNABYDDIAETHAU

9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

ATODIAD 1 RHESTR TERMAU ATODIAD 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR ATODIAD 3 AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR ATODIAD 4 CYFARWYDDIADAU’R GWEINIDOG A LLYTHYR YCHWANEGOL ATODIAD 5 CRYNODEB O GYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru Tŷ Caradog 1-6 Plas Sant Andreas CAERDYDD CF10 3BE Rhif Ffôn: (029) 2039 5031 Rhif Ffacs: (029) 2039 5250 E-bost: [email protected] www.lgbc-wales.gov.uk

RHAGAIR

Dyma’n hadroddiad yn cynnwys ein Cynigion Terfynol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Yn Ionawr 2009, fe ofynnodd y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Dr Brian Gibbons, i’r Comisiwn hwn arolygu’r trefniadau etholiadol ym mhob prif awdurdod yng Nghymru. Meddai Dr Gibbons:

“Mae cynnal adolygiadau o’r trefniadau etholiadol ym mhob un o Gynghorau Cymru yn rhan o gylch gwaith y Comisiwn. Y nod yw ceisio sicrhau cysondeb o ran nifer y cynghorwyr o’i gymharu â maint y boblogaeth. Nid bod llywodraeth leol yn cael ei had- drefnu.

Ers cynnal yr adolygiadau diwethaf, mae cymunedau newydd wedi cael eu creu mewn rhai ardaloedd ac mae’r boblogaeth wedi symud mewn mannau eraill. O ganlyniad mae anghydbwysedd erbyn hyn mewn rhai ardaloedd o ran nifer yr etholwyr y mae cynghorwyr yn eu cynrychioli.

Bydd y Comisiwn yn adolygu cyfanswm y cynghorwyr ym mhob cyngor; nifer y cynghorwyr sy’n cynrychioli pob adran etholiadol ac enw a ffin pob adran.

Hyd y gellir, rwyf am wneud y drefn yn decach, er mwyn i gynghorwyr, at ei gilydd, gynrychioli’r un faint o bobl.” [13 Ionawr 2009].

Mae’r mater o degwch wedi ei sefydlu’n bendant yn y ddeddfwriaeth ac mae wedi bod yn egwyddor allweddol i’r gwaith hwn. Nid yw’r system fel y mae ar hyn o bryd, ble mae cynghorydd o un rhan o’r Fwrdeistref Sirol yn cynrychioli nifer fechan o bleidleiswyr tra bod Cynghorydd arall yn gallu cynrychioli llaw, llawer mwy yn deg ar yr etholwyr. Yn ymarferol, golyga fod gan rai ardaloedd fantais annheg dros eraill yn y penderfyniadau a wneir yn siambr y cyngor.

Mae’n bell o fod yn hawdd unioni hyn, o ystyried y cyfyngiadau y mae’n rhaid i’r Comisiwn weithredu yn eu herbyn. Ni allwn fynd at i symud llinellau ar y map; rhaid i ni gadw at y “sylfaeni” presennol yr Ardaloedd Cymuned a Wardiau Cymunedol sydd i’w cael ledled Cymru. Ar adegau, nid yw’r rhain yn adlewyrchu patrymau bywyd cymunedol presennol yng Nghymru, ond hyd yn oed ble fo hyn yn wir, nid ydym wedi gallu derbyn awgrymiadau sy’n torri ar draws y ffiniau hyn. Mae hyn yn rhwystredig i’r ymatebwyr ac i’r Comisiwn.

Rhaid i ni hefyd edrych tua’r dyfodol ac fe ofynnwyd i’r cyngor rhoi rhagolygon o’r nifer o etholwyr ymhen 5 mlynedd i ni. Ar y gorau bydd hyn yn dasg heriol, ond gyda’r hinsawdd economaidd bresennol, mae’n arbennig o anodd.

Denodd cyhoeddiad ein hadroddiadau cynigion drafft cyntaf rhywfaint o bryder ein bod yn symud i ffwrdd o’r egwyddor o gael un cynghorydd ar gyfer adran etholiadol gan awgrymu llawer mwy o ddefnydd o adrannau aml-aelod. Mae’r rheolau yr ydym yn gweithredu ynddynt yn rhagweld y bydd pob adran etholiadol wedi ei chynrychioli gan un cynghorydd; gellid galw hyn y “sefyllfa ddiofyn”. Fodd bynnag, gallwn symud oddi wrth hyn am nifer o resymau, yn cynnwys ble rydym wedi canfod mai dyma’r ffordd orau o sicrhau cynrychiolaeth fwy cyfartal i etholwyr.

- 1 - 

Wrth baratoi ein cynigion, rydym wedi ceisio darparu ar gyfer yr holl gysylltiadau lleol a’r rhai sy’n dymuno cadw ffiniau presennol. Rydym wedi edrych yn ofalus ar yr holl gynrychiolaethau a wnaed i ni. Fodd bynnag, rydym wedi gorfod cydbwyso’r materion a chynrychiolaethau hyn yn erbyn y ffactorau eraill y bu’n rhaid i ni eu hystyried a’r cyfyngiadau a gyflwynwyd uchod. Yn benodol, y gofyniad am gydraddoldeb etholiadol, tegwch democrataidd i’r holl etholwyr, yw’r ffactor drechaf yn y gyfraith a dyma’r hyn yr ydym wedi ceisio ei weithredu. Credwn y bydd tegwch pellach, ynghyd â chynigion eraill yn ein hadroddiad, yn arwain at lywodraeth leol sy’n effeithiol a chyfleus.

Yn derfynol, hoffwn ddiolch i Aelodau a swyddogion y Prif awdurdod am eu cymorth yn ein gwaith, y cynghorau cymuned a thref am eu cyfraniad, ac yn olaf ond pwysicaf, y dinasyddion cyffredin sydd wedi rhoi o’u hamser gan fynd i drafferth i wneud sylwadau ac awgrymiadau.

Paul Wood Cadeirydd

- 2 - 

Mr. Carl Sargeant Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru

AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL AR GYFER SIR DDINBYCH

ADRODDIAD A CHYNIGION

1. CYFLWYNIAD

1.1 Yn unol â chyfarwyddyd y Gweinidog a gyhoeddwyd ar 13 Ionawr 2009, yr ydym ni, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau'r arolwg o drefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ddinbych ac yn cyflwyno’n Cynigion Terfynol ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol. Ceir rhestr termau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn yn Atodiad 1. Yn 2009 roedd gan Sir Ddinbych etholaeth o 74239. Ar hyn o bryd, mae wedi’i rhannu’n 30 adran sy’n ethol 47 o gynghorwyr. Y gymhareb gyffredinol bresennol o aelodau i etholwyr yn Sir Ddinbych yw 1:1,580. Nodir y trefniadau etholiadol presennol yn Atodiad 2.

2. CRYNODEB O’R CYNIGION

2.1 Rydym yn cynnig gostyngiad ym maint y cyngor, sef o 47 i 42 o aelodau etholedig, gostyngiad yn nifer yr adrannau etholiadol o 30 i 25 a newid i drefn yr adrannau etholiadol a fydd yn cyflawni gwelliant sylweddol yn lefel cydraddoldeb etholiadol ar draws Sir Ddinbych a fydd yn golygu ar gyfartaledd drwy’r sir bod un cynghorydd ar gyfer pob 1,768 o etholwyr.

3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

3.1 Yn unol ag Adran 57 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (Deddf 1972) mae’n ddyletswydd ar y Comisiwn, ar gyfnodau nad ydynt yn llai na deng mlynedd a dim yn fwy na phymtheg mlynedd, i adolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer yr holl brif ardaloedd yng Nghymru at ddibenion ystyried a ddylid gwneud argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn newid y trefniadau etholiadol hynny ai peidio.

3.2 Derbyniodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno adroddiad ar yr arolwg o drefniadau etholiadol Sir Ddinbych erbyn 30 Mehefin 2011.

Trefniadau etholiadol

3.3 Diffinnir “trefniadau etholiadol” prif ardal yn adran 78 o Ddeddf 1972 fel:

i) cyfanswm y cynghorwyr i’w hethol i’r cyngor;

ii) nifer yr adrannau etholiadol a’u ffiniau;

- 3 - 

iii) nifer y cynghorwyr i’w hethol ar gyfer pob adran etholiadol; ac

iv) enw unrhyw adran etholiadol.

Rheolau i gydymffurfio â hwy wrth ystyried trefniadau etholiadol

3.4 Yn unol ag Adran 78, cyn belled ag y bo’n ymarferol resymol gwneud hynny, mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â’r rheolau a nodir yn Atodlen 11 i’r Ddeddf. Mae’n ofynnol, yn unol â’r rhain, fod y Comisiwn yn trefnu bod un aelod ar gyfer pob adran etholiadol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gall y Gweinidog roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn ystyried dymunoldeb darparu ar gyfer adrannau etholiadol aml-aelod ar gyfer yr holl brif ardal neu rannau ohoni.

3.5 Yn ôl y rheolau, mae’n ofynnol hefyd:

Ystyried unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn ystod y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl ystyried y trefniadau etholiadol:

i) Ystyried unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn ystod y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl ystyried y trefniadau etholiadol:

i) yn ddarostyngedig i baragraff (ii), bydd nifer yr etholwyr llywodraeth leol yr un neu mor agos â phosibl, ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal;

ii) lle bo un neu fwy o adrannau aml-aelod, bydd cymhareb etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr yr un neu mor agos â phosibl ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal (gan gynnwys unrhyw adran nad yw’n un aml- aelod);

iii) bydd pob ward gymunedol sydd â chyngor cymunedol (naill ai ar wahân neu’n gyffredin) yn gyfan gwbl y tu mewn i adran etholiadol yn unig; a

iv) bydd unrhyw gymuned na rennir yn wardiau cymunedol yn gyfan gwbl y tu mewn i adran etholiadol unigol.

Yn ddarostyngedig i’r rheolau hyn, ac i’r rheolau hynny y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 3.4, rhaid i ni ystyried (a) dymunoldeb pennu ffiniau sydd ac a fydd yn hawdd eu hadnabod; a (b) unrhyw gysylltiadau lleol a dorrir wrth lunio unrhyw ffin benodol.

Cyfarwyddiadau’r Gweinidog

3.6 Derbyniodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan y Gweinidog y dylai ystyried dymunoldeb adrannau etholiadol aml-aelod ym mhob cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

3.7 Derbyniodd y Comisiwn y cyfarwyddiadau canlynol gan y Gweinidog hefyd o ran cynnal yr arolwg:

- 4 - 

(a) ystyrir bod angen lleiafswm o 30 cynghorydd er mwyn rheoli materion cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn briodol;

(b) er mwyn lleihau’r risg o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn mynd yn afrosgo ac yn anodd ei reoli, fel arfer mae angen uchafswm o 75 cynghorydd i reoli materion cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn briodol;

(c) ystyrir mai cael adrannau etholiadol lle nad yw’r gymhareb rhwng cynghorydd ac etholwyr yn is nag 1:1,750 y dylai’r nod fod;

(ch) ystyrir na ddylid gwneud penderfyniadau i newid y drefn bresennol o adrannau etholiadol un aelod ac aml-aelod ond lle bo cynigion o’r fath ar gyfer newid yn cael eu cefnogi’n gyffredinol gan yr etholaeth cyn belled ag y gellir cael eu barn o ran cyflawni’r gofynion ymgynghori a nodir yn Adran 60 o’r Ddeddf; ac

(d) ystyrir bod y Comisiwn wrth gynnal arolygon yn unol â Rhan 4 o’r Ddeddf yn cydymffurfio â pharagraff 1A o Atodiad 11 o’r Ddeddf, hynny yw, y Rheolau.

Ceir holl destun y Cyfarwyddiadau yn Atodiad 4. Cadarnhawyd y Cyfarwyddiadau ymhellach mewn llythyr gan y Gweinidog ar 12 Mai 2009. Mae copi o’r llythyr hwn yn dilyn y Cyfarwyddiadau yn Atodiad 4.

Newidiadau Llywodraeth Leol

3.8 Ers yr arolwg diwethaf bu dau newid i ffiniau llywodraeth leol yn Sir Ddinbych:

 2003 Rhif 3134 (W.300) Gorchymyn Sir Ddinbych (, y , Diserth a Phrestatyn) 2003; a  Gorchymyn Cymuned y Rhyl 2006, a wnaed gan Gyngor Sir Ddinbych.

3.9 Gwnaeth Gorchymyn 2003 Rhif 3134 (W.300) newidiadau i’r ffin rhwng cymunedau Rhuddlan a’r Rhyl, y ffin rhwng cymunedau Rhuddlan a Phrestatyn, a’r ffin rhwng cymunedau Diserth a Phrestatyn, a gwnaeth newidiadau canlyniadol i’r adrannau etholiadol yn yr ardal.

3.10 Gwnaeth Gorchymyn Cymuned y Rhyl 2006 rannu Ward De-ddwyrain y Rhyl yn ddwy ward newydd, a’u henwi yn Tŷ Newydd a Threllewellyn. Cafodd gweddill wardiau’r Rhyl eu hailenwi fel a ganlyn:

 Ailenwyd ward y De yn ward  Ailenwyd ward y De Canolog yn ward Pendyffryn  Ailenwyd ward y De-orllewin yn ward Cefndy  Ailenwyd ward y Dwyrain yn ward Brynhedydd  Ailenwyd ward y Dwyrain Canolog yn ward Plastirion  Ailenwyd ward y Gorllewin yn ward Foryd  Ailenwyd ward y Gorllewin Canolog yn ward Bodfor.

- 5 - 

Gweithdrefn

3.11 Mae Adran 60 o Ddeddf 1972 yn nodi canllawiau gweithdrefnol i’w dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol ag Adran 60 o Ddeddf 1972, ar 26 Chwefror 2009, ysgrifenasom at Gyngor Sir Ddinbych, yr holl gynghorau cymuned yn yr ardal, Aelodau Seneddol yr etholaethau lleol, Aelodau Cynulliad yn yr ardal a phartïon eraill â diddordeb i roi gwybod iddynt am ein bwriad i gynnal yr arolwg ac i ofyn am eu barn gychwynnol. Gwahoddasom y Cyngor Sir i gyflwyno cynllun neu gynlluniau awgrymedig ar gyfer y trefniadau etholiadol newydd. Gwnaethom roi cyhoeddusrwydd hefyd i’n bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau newydd â chylchrediad yn y Sir a gofynasom i Gyngor Sir Ddinbych arddangos nifer o hysbysiadau cyhoeddus yn eu hardal. Trefnasom hefyd fod copïau o’n llyfryn arweiniad ar arolygon etholiadol ar gael. Yn ogystal, gwnaethom gyflwyniad i gynghorwyr Sir a chynghorwyr Cymuned gan esbonio’r broses adolygu.

4. CYNIGION DRAFFT

4.1 Cyn llunio’n cynigion drafft derbyniasom gynrychiolaethau gan Gyngor Sir Ddinbych, Cyngor Cymuned , Cyngor Cymuned Cynwyd, Cyngor Tref y Rhyl, y Grŵp Ceidwadol ar Gyngor Sir Ddinbych, Ysgol Gynradd Llandrillo, a 5 o sefydliadau a phreswylwyr eraill â buddiant. Ystyriwyd y cynrychiolaethau hyn a chrynhowyd hwy yn ein Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 19 Hydref 2009. Roedd y Cynigion Drafft hyn yn cynnig gostyngiad yn nifer y cynghorwyr o 47 i 40, a chymhareb ar gyfer y sir ar gyfartaledd o un cynghorydd ar gyfer pob 1,856 o etholwyr o gymharu â’r gymhareb bresennol o 1:1,580. Mae’r canlynol yn grynodeb o’n Cynigion Drafft.

Diserth

4.2 Mae adran etholiadol bresennol Diserth yn cynnwys Cymuned Diserth ac mae ganddi 1,861 o etholwyr (rhagamcenir 1,948) a gynrychiolir gan un cynghorydd sy’n gyfystyr â 1,861 o etholwyr fesul cynghorydd a oedd 18% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol. Yn ein hadroddiad drafft, ystyriasom fod lefel y gynrychiolaeth yn foddhaol ac felly cynigiasom gadw’r trefniadau presennol.

Llandrillo a Chorwen

4.3 Mae adran etholiadol bresennol Llandrillo yn cynnwys Cymuned Cynwyd (462 o etholwyr, rhagamcenir 471) a Chymuned Llandrillo (490 o etholwyr, rhagamcenir 500) ac mae’n ethol un aelod sy’n gyfystyr â 952 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 40% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol yn cynnwys Cymuned Corwen sydd wedi’i rhannu’n ddwy ward, sef Ward Isaf (645 o etholwyr, rhagamcenir 658) a Ward Uchaf (1,244 o etholwyr, rhagamcenir 1,269), cyfanswm o 1,889 o etholwyr (rhagamcenir 1,927) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,889 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 20% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol.

4.4 Yn ein Cynigion Drafft, ystyriasom y cynrychiolaethau a gyflwynwyd o blaid cadw adran etholiadol bresennol Llandrillo, ond ystyriasom fod gwahaniaeth mor

- 6 - 

sylweddol rhwng y gymhareb o gynghorydd i etholwyr yn Llandrillo o gymharu ag ardaloedd eraill yn Sir Ddinbych, ni ellir cadw’r trefniadau presennol hyd yn oed ar ôl ystyried y cynrychiolaethau.

4.5 Yn ein Cynigion Drafft, ystyriasom uno adran etholiadol Llandrillo â ward Uchaf Cymuned Corwen i ffurfio adran etholiadol â chyfanswm o 2,196 o etholwyr (rhagamcenir 2,240) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd sy’n gyfystyr â un cynghorydd i bob 2,196 o etholwyr a oedd 18% yn uwch na chyfartaledd sirol y cynigion drafft. Ni wnaeth yr uno ynddo’i hun ostwng nifer gyffredinol y cynghorwyr ond darparodd gydraddoldeb etholiadol gwell yn yr ardal. Afon Dyfrdwy oedd yr enw gwaith a roddasom i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Llangollen a Chorwen

4.6 Mae adran etholiadol bresennol yn cynnwys Cymuned Llangollen (3,018 o etholwyr, rhagamcenir 3,159) a Chymuned Llandysilio (329 o etholwyr, rhagamcenir 336) ac mae’n ethol 2 aelod sy’n gyfystyr â 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 6% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol Corwen yn cynnwys Cymuned Corwen sydd wedi’i rhannu’n ddwy ward, sef Isaf (645 o etholwyr, rhagamcenir 658) ac Uchaf (1,244 o etholwyr, rhagamcenir 1,269), cyfanswm o 1,889 o etholwyr (rhagamcenir 1,927) a gynrychiolir gan un aelod â lefel y gynrychiolaeth sydd 20% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol. Fel gyda’r cynnig blaenorol (4.5) roedd uno Ward Uchaf Corwen ag adran etholiadol Llandrillo yn golygu bod Ward Isaf Corwen y tu allan i adran etholiadol.

4.7 Yn ein Cynigion Drafft, ystyriasom uno adran etholiadol Llangollen â Ward Isaf Corwen i ffurfio adran etholiadol â chyfanswm o 3,992 o etholwyr (rhagamcenir 4,153) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,996 o etholwyr fesul cynghorydd a oedd 8% yn uwch na chyfartaledd sirol y cynigion drafft. Ni wnaeth yr uno ynddo’i hun ostwng nifer cyffredinol y cynghorwyr ond darparodd gydraddoldeb etholiadol ychydig gwell yn ardal Corwen. Glyn Dyfrdwy oedd yr enw gwaith a roddasom i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Llanarmon-yn-Iâl / , Llanbedr Dyffryn / a /

4.8 Mae adran etholiadol bresennol Llanarmon-yn-Iâl / Llandegla yn cynnwys Cymuned Llanarmon-yn-Iâl (903 o etholwyr, rhagamcenir 921), Cymuned Llandegla (424 o etholwyr, rhagamcenir 432) a Chymuned (600 o etholwyr, rhagamcenir 612) ac mae’n ethol un aelod sy’n gyfystyr â 1,927 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 22% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol / Llangynhafal yn cynnwys Cymuned Llanbedr Dyffryn Clwyd (700 o etholwyr, rhagamcenir 714) a Chymuned Llangynhafal (516 o etholwyr, rhagamcenir 526) ac mae’n ethol un aelod sy’n gyfystyr â 1,216 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 23% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol Llanfair Dyffryn Clwyd / Gwyddelwern yn cynnwys Cymuned (289 o etholwyr, rhagamcenir 295), Cymuned Gwyddelwern (425 o etholwyr, rhagamcenir 434), Cymuned (251 o etholwyr, rhagamcenir 256) a Chymuned Llanfair Dyffryn Clwyd (891 o etholwyr, rhagamcenir 909) ac mae’n ethol un aelod sy’n gyfystyr â 1,856 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 18% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol.

- 7 - 

4.9 Yn ein Cynigion Drafft ystyriasom y byddai’n ddymunol ad-drefnu’r cyfuniad yng Nghymunedau sy’n ffurfio’r adrannau etholiadol yn yr ardal hon er mwyn cyflawni gwelliannau o ran cydraddoldeb etholiadol. Nodasom y sylwadau a wnaed gan Gyngor Sir Ddinbych o ran maint rhai adrannau etholiadol gwledig presennol a’r pryderon a fynegwyd ynghylch creu adrannau etholiadol mwy fyth ac adrannau gwledig aml-aelod. Ystyriasom fod gwelliant o ran cydraddoldeb etholiadol yn gorbwyso’r anawsterau canfyddedig a allai ddeillio o drefn aml-aelod o faint daearyddol mwy.

4.10 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno adrannau etholiadol Llanarmon- yn-Iâl / Llandegla a Llanbedr Dyffryn Clwyd / Llangynhafal â Chymuned Bryneglwys (o adran etholiadol Llanfair Dyffryn Clwyd/Gwyddelwern) i ffurfio adran etholiadol o 3,432 o etholwyr (rhagamcenir 3,500) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,716 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 8% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Byddai’r uniad hwn yn golygu 1 cynghorydd yn llai yn cynrychioli’r ardal ond byddai’n darparu gwelliant o ran cydraddoldeb etholiadol. Llan oedd yr enw gwaith a roddasom i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Rhuddlan a Thremeirchion

4.11 Mae adran etholiadol bresennol Rhuddlan yn cynnwys Cymuned Rhuddlan, 2,960 o etholwyr (rhagamcenir 3,099) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,480 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 6% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol gydffiniol yn cynnwys Cymuned (279 o etholwyr, rhagamcenir 285), Cymuned Cwm (260 o etholwyr, rhagamcenir 265), Cymuned Tremeirchion (581 o etholwyr, rhagamcenir 593) a Chymuned y Waun (185 o etholwyr, rhagamcenir 189) â chyfanswm o 1,305 o etholwyr (rhagamcenir 1,332) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,305 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 17% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Ystyriasom y byddai’n ddymunol ad-drefnu’r cyfuniad yng Nghymunedau sy’n ffurfio’r adrannau etholiadol yn yr ardal hon er mwyn cyflawni gwelliannau mewn cydraddoldeb etholiadol.

4.12 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno adran etholiadol Rhuddlan â chymunedau Cwm a’r Waun o adran etholiadol Tremeirchion i ffurfio adran etholiadol o 3,405 o etholwyr (rhagamcenir 3,553) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,703 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 8% yn is na chyfartaledd sirol y cynigion drafft. Byddai’r uniad hwn yn golygu 1 cynghorydd yn llai yn cynrychioli’r ardal ond byddai’n darparu gwelliant o ran cydraddoldeb etholiadol. Twt Hill oedd yr enw gwaith a roddasom i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Tremeirchion a Threfnant

4.13 Fel yr ystyriwyd yn 4.11 uchod, mae adran etholiadol bresennol Tremeirchion yn cynnwys Cymuned Bodfari (279 o etholwyr, rhagamcenir 285), Cymuned Cwm (260 o etholwyr, rhagamcenir 265), Cymuned Tremeirchion (581 o etholwyr, rhagamcenir 593) a Chymuned y Waun (185 o etholwyr, rhagamcenir 189) â chyfanswm o 1,305 o etholwyr (rhagamcenir 1,332) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,305 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 17% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol yn cynnwys Cymunedau Trefnant (1,229 o etholwyr, rhagamcenir 1,287) a Chefn Meiriadog (337 o etholwyr,

- 8 - 

rhagamcenir 344) â chyfanswm o 1,566 o etholwyr a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,566 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 1% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Ystyriasom y byddai’n ddymunol ad-drefnu’r cyfuniad yng Nghymunedau sy’n ffurfio’r adrannau etholiadol yn yr ardal hon er mwyn cyflawni gwelliannau mewn cydraddoldeb etholiadol.

4.14 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno adran etholiadol Trefnant â Chymuned Tremeirchion (o adran etholiadol Tremeirchion) i ffurfio adran etholiadol o 2,147 o etholwyr (rhagamcenir 2,225) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 2,147 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 15% yn uwch na chyfartaledd sirol y cynigion drafft. Darparodd yr uniad hwn welliant yng nghydraddoldeb etholiadol yn yr ardal. Bach y Graig oedd yr enw gwaith a roddasom i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Tremeirchion a

4.15 Fel yr ystyriwyd yn 4.11 a 4.13 uchod mae adran etholiadol bresennol Tremeirchion yn cynnwys Cymuned Bodfari (279 o etholwyr, rhagamcenir 285), Cymuned Cwm (260 o etholwyr, rhagamcenir 265), Cymuned Tremeirchion (581 o etholwyr, rhagamcenir 593) a Chymuned y Waun (185 o etholwyr, rhagamcenir 189) â chyfanswm o 1,305 o etholwyr (rhagamcenir 1,332) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,305 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 17% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol Llandyrnog yn cynnwys Cymunedau Aberchwiler (273 o etholwyr, rhagamcenir 278), Llandyrnog (847 o etholwyr, rhagamcenir 864) a (565 o etholwyr, rhagamcenir 576) â chyfanswm o 1,685 o etholwyr a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,685 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 7% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol.

4.16 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno adran etholiadol Llandyrnog â Chymuned Bodfari (o adran etholiadol Tremeirchion) i ffurfio adran etholiadol o 1,964 o etholwyr (rhagamcenir 2,003) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,964 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 6% yn uwch na chyfartaledd sirol y cynigion drafft. Llandyrnog oedd yr enw gwaith a roddasom i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

4.17 Yn gyffredinol, cynhyrchodd yr uniadau a gynigiwyd ym mharagraffau 4.11 i 4.16 leihad o 1 cynghorydd, sef o 5 i 4, yn yr ardal yn cynnwys adrannau etholiadol presennol Rhuddlan, Tremeirchion, Trefnant a Llandyrnog. Er bod lleihad arfaethedig cyffredinol o ran nifer cynghorwyr, roedd yn darparu gwelliant o ran cydraddoldeb etholiadol.

Bodelwyddan a Llanelwy

4.18 Rhennir Cymuned Llanelwy yn ddwy adran etholiadol, sef Dwyrain Llanelwy a Gorllewin Llanelwy. Mae 1,337 o etholwyr (rhagamcenir 1,438) yn adran etholiadol bresennol Dwyrain Llanelwy a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,337 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 15% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae 1,339 o etholwyr (rhagamcenir 1,402) yn adran etholiadol bresennol Dwyrain Llanelwy a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,339 o etholwyr fesul cynghorydd sydd hefyd 15% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol yn cynnwys Cymuned Bodelwyddan, 1,651 o

- 9 - 

etholwyr (rhagamcenir 1,728) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,651 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 5% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol.

4.19 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno dwy adran etholiadol Llanelwy ac adran etholiadol Bodelwyddan i ffurfio adran etholiadol o 4,327 o etholwyr (rhagamcenir 4,568) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 2,164 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 17% yn uwch na chyfartaledd sirol y cynigion drafft. Llanelwy oedd yr enw gwaith a roddasom i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Dinbych Canolog a Dinbych Uchaf a

4.20 Mae adran etholiadol bresennol Dinbych Canolog yn cynnwys ward Canolog Cymuned Dinbych,1,443 o etholwyr (rhagamcenir 1,511) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,443 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 9% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol gydffiniol Dinbych Uchaf a Henllan yn cynnwys ward Uchaf Cymuned Dinbych (1,837 o etholwyr, rhagamcenir 2,113) a Chymuned Henllan (678 o etholwyr, rhagamcenir 710), cyfanswm o 2,515 o etholwyr (rhagamcenir 2,823) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,258 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 20% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol.

4.21 Nodasom yr awgrymiadau a gyflwynwyd gan Gyngor Sir Ddinbych a Grŵp Ceidwadwyr Cyngor Sir Ddinbych i ad-drefnu cymunedau Dinbych a Henllan mewn cyfuniadau gwahanol. Ystyriasom fod awgrym y Grŵp Ceidwadwyr yn fwy teilwng gan ei fod yn darparu lefel well o gydraddoldeb etholiadol ac fe’i hamlinellir isod.

4.22 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno adrannau etholiadol Dinbych Canolog a Dinbych Uchaf a Henllan i ffurfio adran etholiadol o 3,958 (rhagamcenir 4,334) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,979 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 7% yn uwch na chyfartaledd sirol y cynigion drafft. Byddai’r uniad hwn yn golygu 1 cynghorydd yn llai yn cynrychioli’r ardal ond byddai’n darparu gwelliant o ran cydraddoldeb etholiadol. Gorllewin Dinbych a Henllan oedd yr enw gwaith a roddasom i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Dinbych Isaf

4.23 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom beidio â newid y trefniadau etholiadol ar gyfer adran etholiadol bresennol Dinbych Isaf. Fodd bynnag, awgrymwyd newid yr enw i Dwyrain Dinbych i gyd-fynd ag enw Gorllewin Dinbych a Henllan a awgrymwyd ar gyfer yr adran etholiadol gydffiniol (fel y cynigiwyd yn 4.22 uchod).

Rhuthun a Llanfair Dyffryn Clwyd / Gwyddelwern

4.24 Mae adran etholiadol bresennol Rhuthun yn cynnwys Cymuned Rhuthun, 4,202 o etholwyr (rhagamcenir 4,614) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 1,401 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 11% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol Llanfair Dyffryn Clwyd/Gwyddelwern yn cynnwys Cymunedau Bryneglwys (289 o etholwyr, rhagamcenir 295), Gwyddelwern (425 o etholwyr, rhagamcenir, 434), Llanelidan (251 o etholwyr, rhagamcenir 256) a Llanfair Dyffryn Clwyd (891 o etholwyr, rhagamcenir 909), cyfanswm o 1,856 o etholwyr (rhagamcenir 1,894) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,894 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 18% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol.

- 10 - 

4.25 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft er mwyn lleihau lefel y gwahaniaeth ystyriasom naill ai i newid lefel y gynrychiolaeth yn Rhuthun neu uno adran etholiadol Rhuthun a chymuned gydffiniol sydd â chymhareb uwch na’r gymhareb sirol. Nodasom awgrym gan y Grŵp Ceidwadwyr i leihau lefel y gynrychiolaeth yn Rhuthun i 2 gynghorydd ond ystyriasom y byddai'n fwy niweidiol i gydraddoldeb etholiadol na phe unid Rhuthun â chymuned neu adran etholiadol arall.

4.26 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno adran etholiadol Rhuthun â Chymuned Llanfair Dyffryn Clwyd (o adran etholiadol Llanfair Dyffryn Clwyd/Gwyddelwern) i ffurfio adran etholiadol o 5,093 o etholwyr (rhagamcenir 5,523) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 1,698 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 9% yn is na chyfartaledd sirol y cynigion drafft. Rhuthun Dyffryn Clwyd oedd yr enw gwaith a roddasom i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Efenechdyd, Llanfair Dyffryn Clwyd / Gwyddelwern a Llanrhaedr-yng-Nghinmeirch

4.27 Mae adran etholiadol bresennol Efenechdyd yn cynnwys Cymunedau Efenechdyd (491 o etholwyr, rhagamcenir 501), (251 o etholwyr, rhagamcenir 256), (196 o etholwyr, rhagamcenir 200) a Derwen (352 o etholwyr, rhagamcenir 359), cyfanswm o 1,290 o etholwyr (rhagamcenir 1,316) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd sydd 18% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol Llanfair Dyffryn Clwyd/Gwyddelwern yn cynnwys Cymunedau Bryneglwys (289 o etholwyr, rhagamcenir 295), Gwyddelwern (425 o etholwyr, rhagamcenir 434), Llanelidan (251 o etholwyr, rhagamcenir 256) a Llanfair Dyffryn Clwyd (891 o etholwyr, rhagamcenir 909), cyfanswm o 1,856 o etholwyr (rhagamcenir 1,894) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,894 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 18% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol Llanrhaedr-yng-Nghinmeirch yn cynnwys Cymunedau (407 o etholwyr, rhagamcenir 415), Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch (855 o etholwyr, rhagamcenir 872) a (272 o etholwyr, rhagamcenir 277), cyfanswm o 1,534 o etholwyr (rhagamcenir 1,564) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,534 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 3% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol.

4.28 Nodasom y cynnig gan Grŵp Ceidwadwyr Cyngor Sir Ddinbych i uno adran etholiadol bresennol Efenechdyd â Chymuned Gwyddelwern o adran etholiadol bresennol Llanbedr Dyffryn Clwyd / Gwyddelwern a’r ffaith i’r grŵp ystyried bod cysylltiadau cymunedol a chymdeithasol rhwng y ddwy gymuned hyn. Gwellodd y cynnig gydraddoldeb etholiadol yr ardal ond ystyriasom fod modd gwella mwy ar gydraddoldeb etholiadol drwy uno ardaloedd gwahanol.

4.29 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom i gychwyn uno rhannau adran etholiadol Llanfair Dyffryn Clwyd / Gwyddelwern a oedd yn weddill (cynigiasom yn barod, ym mharagraff 4.26 uchod, gynnwys Cymuned Llanfair Dyffryn Clwyd yn adran etholiadol Rhuthun Dyffryn Clwyd a chynigiasom ym mharagraff 4.10 uchod, y dylid cynnwys Cymuned Bryneglwys yn adran etholiadol Llan) sef Cymunedau Llanelidan (251 o etholwyr, rhagamcenir 256) a Gwyddelwern (425 o etholwyr, rhagamcenir 434) ag adran etholiadol Efenechdyd i ffurfio un adran etholiadol o 1,966 o etholwyr (rhagamcenir 2,006) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,966 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 24% yn uwch na’r cyfartaledd sirol

- 11 - 

presennol. Er mwyn gwella’r cydraddoldeb etholiadol, ystyriasom uno’r ardal hon ag adran etholiadol Llanrhaedr-yng-Nghinmeirch fel y nodir isod.

4.30 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom yn y pen draw ffurfio adran etholiadol a oedd yn uno Cymunedau Efenechdyd, Betws Gwerfil Goch, Clocaenog, Derwen, Llanelidan, Gwyddelwern, Cyffylliog, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch a Nantglyn, cyfanswm o 3,500 o etholwyr (rhagamcenir 3,570) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,750 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 6% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Byddai’r uniad hwn yn golygu un cynghorydd yn llai yn cynrychioli’r ardal ond yn darparu gwelliant o ran cydraddoldeb etholiadol. Gorllewin Clwyd oedd yr enw gwaith a roddasom i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Prestatyn Canolog, Dwyrain ac Allt Melyd

4.31 Mae adran etholiadol bresennol Prestatyn Canolog yn cynnwys ward Canolog Cymuned Prestatyn, 2,778 o etholwyr (rhagamcenir 2,908) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,389 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 12% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol Dwyrain Prestatyn yn cynnwys ward Dwyrain Prestatyn yng Nghymuned Prestatyn, 3,117 o etholwyr (rhagamcenir 3,263) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,599 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 1% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae’r adran etholiadol bresennol gydffiniol Prestatyn Allt Melyd yn cynnwys ward Allt Melyd yng Nghymuned Prestatyn, 1,560 o etholwyr (rhagamcenir 1,633) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,560 etholwyr fesul cynghorydd sydd 1% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Ystyriasom y byddai’n ddymunol ad-drefnu’r cyfuniad o wardiau cymunedol sy’n ffurfio’r adrannau etholiadol yn yr ardal hon er mwyn cyflawni gwelliannau mewn cydraddoldeb etholiadol.

4.32 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno’r tair adran etholiadol bresennol, sef Prestatyn Canolog, Dwyrain Prestatyn ag Allt Melyd i ffurfio adran etholiadol o 7,455 o etholwyr (rhagamcenir 7,804) a gynrychiolir gan 4 cynghorydd, sy’n gyfystyr â 1,864 sydd bron yn cyfateb i gyfartaledd sirol y cynigion drafft. Byddai’r uniad yn golygu lleihad o 1 cynghorydd yn cynrychioli’r ardal ond byddai’n gwella’r cydraddoldeb etholiadol. Dwyrain Prestatyn oedd yr enw gwaith a roddasom i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Gogledd Prestatyn a De-orllewin Prestatyn

4.33 Mae adran etholiadol bresennol Gogledd Prestatyn yn cynnwys wardiau’r Gogledd (3,269 o etholwyr, rhagamcenir 3,422) a’r Gogledd-orllewin (1,398 o etholwyr, rhagamcenir 1,463) yng Nghymuned Prestatyn, cyfanswm o 4,667 o etholwyr (rhagamcenir 4,885) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 1,556 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 2% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol De-orllewin Prestatyn yn cynnwys ward De-orllewin yng Nghymuned Prestatyn, 2,833 o etholwyr (rhagamcenir 2,966) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,417 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 10% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Ystyriasom y byddai’n ddymunol ad-drefnu’r cyfuniad o wardiau cymunedol sy’n ffurfio’r adrannau etholiadol yn yr ardal hon er mwyn cyflawni gwelliannau mewn cydraddoldeb etholiadol.

- 12 - 

4.34 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno adrannau etholiadol presennol Gogledd Prestatyn a De-orllewin Prestatyn i ffurfio adran etholiadol o 7,500 o etholwyr (rhagamcenir 7,851) a gynrychiolir gan 4 cynghorydd sy’n gyfystyr â 1,875 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 1% yn uwch na chyfartaledd sirol y cynnig drafft. Byddai’r uniad yn golygu lleihad o 1 cynghorydd yn cynrychioli’r ardal ond byddai’n gwella’r cydraddoldeb etholiadol. Gorllewin Prestatyn oedd yr enw gwaith a roddasom i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Adrannau Etholiadol y Rhyl (Dwyrain y Rhyl, De y Rhyl, De-ddwyrain y Rhyl, De- orllewin y Rhyl a Gorllewin y Rhyl)

4.35 Ar hyn o bryd, rhennir Cymuned y Rhyl yn bump adran etholiadol. Mae adran etholiadol bresennol Dwyrain y Rhyl yn cynnwys wardiau Brynhedydd (1,634 o etholwyr, rhagamcenir 1,710) a Phlastirion (2,125 o etholwyr, rhagamcenir 2,224) yng Nghymuned y Rhyl, cyfanswm o 3,759 o etholwyr (rhagamcenir 3,934) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,880 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 19% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol De y Rhyl yn cynnwys ward Derwen yng Nghymuned y Rhyl, 3,084 o etholwyr (rhagamcenir 3,228) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,542 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 2% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol De-ddwyrain y Rhyl yn cynnwys wardiau Trellewellyn (2,587 o etholwyr, rhagamcenir, 2,936) a Thŷ Newydd (3,384 o etholwyr, rhagamcenir, 3,546) yng Nghymuned y Rhyl, cyfanswm o 5,974 o etholwyr (rhagamcenir 6,482) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 1,991 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 26% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol De-orllewin y Rhyl yn cynnwys wardiau’r Cefndy (2,303 o etholwyr, rhagamcenir 2,411) a Phendyffryn (1,280 o etholwyr, rhagamcenir 1,340) yng Nghymuned y Rhyl, cyfanswm o 3,583 o etholwyr (rhagamcenir 3,751) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,792 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 13% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol Gorllewin y Rhyl yn cynnwys wardiau Bodfor (1,679 o etholwyr, rhagamcenir 1,758) a’r Foryd (1,827 o etholwyr, rhagamcenir 2,101) yng Nghymuned y Rhyl, cyfanswm o 3,506 o etholwyr (rhagamcenir 3,859) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,753 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 11% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol. Ystyriasom y byddai’n ddymunol ad-drefnu’r cyfuniad o wardiau cymunedol sy’n ffurfio’r adrannau etholiadol yn y Rhyl er mwyn cyflawni gwelliannau mewn cydraddoldeb etholiadol ar draws yr ardal.

4.36 Nodasom y gynrychiolaeth gan Gyngor Sir Ddinbych yn awgrymu bod gan adran bresennol De-ddwyrain y Rhyl nifer fawr iawn o etholwyr, sef 5,974 a gynrychiolir gan 3 chynghorydd gan ofyn i’r Comisiwn fod yn gyson o ran cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr. Nodasom hefyd yr awgrym gan Gyngor Tref y Rhyl o ran rhannu adran etholiadol De-ddwyrain y Rhyl yn ddwy adran etholiadol (Rhyl Trellewellyn a Rhyl Tŷ Newydd) a’r ddwy yn cael eu cynrychioli gan 2 gynghorydd. Awgrymasant hefyd y dylid ystyried cynyddu nifer y cynghorwyr yn adran etholiadol De-orllewin y Rhyl o 1 i 3 ac yn yr un modd cynyddu nifer y cynghorwyr yn adran etholiadol De- orllewin y Rhyl o 1 i 3. Awgrymodd Grŵp Ceidwadwyr Cyngor Sir Ddinbych hefyd i rannu adran etholiadol De-ddwyrain y Rhyl yn ddwy adran etholiadol (Rhyl Trellewellyn a Rhyl Tŷ Newydd) a’r ddwy yn cael eu cynrychioli gan 2 gynghorydd. Nodasom o ganlyniad i’r newidiadau awgrymedig i gydraddoldeb etholiadol â lefel y

- 13 - 

gynrychiolaeth ni fyddai’n darparu gwelliannau sylweddol i gydraddoldeb etholiadol adrannau etholiadol y Rhyl.

4.37 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft cynigiasom drefniadau eraill i uno wardiau Cymuned y Rhyl i ffurfio 4 adran etholiadol, gan gadw 11 cynghorydd yn gyffredinol ond i wella’r cydraddoldeb etholiadol. Cynigiasom uno wardiau Brynhedydd (1,634 o etholwyr, rhagamcenir 1,710), Plastirion (2,125 o etholwyr, rhagamcenir 2,224) a Thŷ Newydd (3,384 o etholwyr, rhagamcenir 3,546) yng Nghymuned y Rhyl i ffurfio adran etholiadol o 7,146 o etholwyr (rhagamcenir 7,480), a gynrychiolir gan 4 cynghorydd, sy’n gyfystyr â 1,787 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 4% yn is na chyfartaledd sirol y cynnig drafft. Gogledd Ddwyrain y Rhyl oedd yr enw gwaith a roddasom i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

4.38 Cynigiasom uno wardiau Pendyffryn (1,280 o etholwyr, rhagamcenir 1,340) a Threllewellyn (2,587 o etholwyr, rhagamcenir 2,936) yng Nghymuned y Rhyl i ffurfio adran etholiadol o 3,867 o etholwyr (rhagamcenir 4,276) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,934 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 4% yn uwch na chyfartaledd sirol y cynnig drafft. De-ddwyrain y Rhyl oedd yr enw gwaith a roddasom i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

4.39 Cynigiasom uno wardiau’r Cefndy (2,303 o etholwyr, rhagamcenir, 2,411) a Derwen (3,084 o etholwyr, rhagamcenir, 3,228) yng Nghymuned y Rhyl i ffurfio adran etholiadol o 5,387 o etholwyr (rhagamcenir 5,639) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 1,796 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 3% yn is na chyfartaledd sirol y cynnig drafft. De-orllewin y Rhyl oedd yr enw gwaith a roddasom i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

4.40 Cynigiasom beidio â newid y trefniadau etholiadol ar gyfer Gorllewin y Rhyl er i ni gynnig newid enw, sef Gogledd-orllewin y Rhyl fel ei fod yn cyfateb â’r enwau arfaethedig i adrannau etholiadol eraill y Rhyl.

Crynodeb o’r Cynigion Drafft

4.41 Yn ein Cynigion Drafft argymhellwyd lleihau maint y cyngor o 47 o aelodau etholedig i 40 a newid i’r adrannau etholiadol a fyddai’n cyflawni gwelliant sylweddol yn lefel cydraddoldeb etholiadol ar draws Sir Ddinbych. Ystyriasom fod y trefniadau hyn yn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus a’i bod yn bodloni o ran egwyddor y cyfarwyddiadau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

4.42 Anfonwyd copïau o’r Cynigion Drafft i’r holl gynghorau, sefydliadau ac unigolion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2.8 i geisio eu barn. Anfonwyd copi hefyd at unrhyw un a oedd wedi cyflwyno sylwadau cychwynnol. Trwy gyfrwng hysbysiad cyhoeddus, gwahoddasom hefyd unrhyw sefydliad neu unigolyn a buddiant yn yr arolwg i gyflwyno’u syniadau. Roedd copïau o’r Cynigion Drafft ar gael i’w harchwilio yn swyddfeydd Cyngor Sir Ddinbych a swyddfeydd y Comisiwn.

- 14 - 

5. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB i’R CYNIGION DRAFFT

5.1 Mewn ymateb i’n hadroddiad Cynigion Drafft, derbyniasom gynrychiolaethau gan Gyngor Sir Ddinbych, 21 o Gynghorau Tref a Chymuned, Eleanor Burnham AC, 6 Chynghorydd ac 11 o sefydliadau a phreswylwyr eraill â buddiant. Ceir crynodeb o’r cynrychiolaethau hyn yn Atodiad 5.

6. ASESIAD

Cais am Newid y Ffiniau

6.1 Cyn ystyried y trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ddinbych, hoffem ymateb i’r cynrychiolaethau a ofynnodd i’r Comisiwn gynnal arolwg o ffiniau cymunedol neu’n ffiniau wardiau cymunedol. Mae’n amlwg o’r ceisiadau hyn bod rhywfaint o ansicrwydd yn bodoli o hyd ynghylch sut i fynd ati i gynnal yr arolygon hyn. Dymunwn esbonio’r sefyllfa statudol.

6.2 Cwblhaodd y Comisiwn ei raglen o Arolygon Cymunedol Arbennig ar gyfer Cymru gyfan ym 1983 ac, er hynny, cyfrifoldeb y prif gynghorau yw cadw’r strwythur cymunedol o dan arolwg. O dan Adran 55(2) y Ddeddf, mae’n ofynnol bod pob prif gyngor yng Nghymru yn cadw ei holl ardal o dan arolwg er mwyn ystyried p’un ai cyflwyno argymhellion i’r Comisiwn i sefydlu cymunedau newydd, neu ddileu cymunedau neu newid cymunedau yn eu hardal. Mae’r Comisiwn yn ystyried cynigion y prif gyngor ac yna’n adrodd i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer sefydlu cymunedau newydd, dileu cymunedau neu newid cymunedau yn eu hardal. Mae’r Comisiwn yn ystyried cynigion y prif gyngor ac yn adrodd i Lywodraeth Cynulliad Cymru a all, os gwêl yn dda, drwy orchymyn, weithredu unrhyw un o’r cynigion.

6.3 O dan Adran 57(4) o’r Ddeddf, mae dyletswydd ar y prif gynghorau hefyd i gadw dan arolwg y trefniadau etholiadol ar gyfer y cymunedau yn eu hardaloedd, er mwyn ystyried pa un a ddylid gwneud newidiadau sylweddol. Rhaid i’r prif gynghorau hefyd ystyried ceisiadau ar gyfer newidiadau gan gyngor cymuned neu gan nid llai na deg ar hugain o etholwyr llywodraeth leol cymuned ac, os gwelant yn dda, gwneud gorchymyn sy’n gweithredu’r newidiadau hynny. Mae newidiadau i ffiniau cymunedau a wardiau cymunedol yn fater i’r prif gyngor ei ystyried yn y lle cyntaf

Cymhareb cynghorwyr i etholwyr

6.4 Mae cyfarwyddiadau’r Gweinidog yn cynnwys y canlynol yn 3.7 (a): "Ystyrir mai cyflawni adrannau etholiadol lle mae’r gymhareb rhwng cynghorwyr ac etholwyr ddim is nag 1:1,750 y dylai’r nod fod." Mae’r Gweinidog wedi dynodi i’r Comisiwn fod hyn yn golygu na ddylai nifer yr etholwyr fesul cynghorydd ddisgyn yn is na 1,750 fel arfer, a dyma sut y mae’r Comisiwn wedi dehongli a defnyddio’r Cyfarwyddyd. Rydym yn cydnabod y darperir y cyfarwyddiadau fel arweiniad ac ni ddylid eu defnyddio heb ystyried amgylchiadau arbennig yr ardal benodol: mae’n bosibl y bydd amgylchiadau yn ymwneud â thopograffeg neu boblogaeth ac ati o

- 15 - 

ardal, lle ystyrir bod adran etholiadol â llai na 1,750 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan un cynghorydd yn briodol. Esboniwyd hyn yn y llythyr gan y Gweinidog (Atodiad 4) a ddywedodd: “Golyga hyn fod y gymhareb yn parhau fel y nod i geisio ei chyflawni ac nid fel y nod i’w chyflawni ym mhob achos. Wrth wneud hynny, dylid talu sylw i gymunedau lleol gael eu cynrychiolaeth adnabyddadwy hyd yn oed pan na ellir cyflawni’r ffigur dangosol o 1,750 etholwyr/cynghorydd bob tro”. Yn absenoldeb amgylchiadau arbennig, byddwn yn ceisio cynnig trefniadau etholiadol lle na fydd y lefel gynrychiolaeth yn disgyn yn is na 1,750 o etholwyr fesul cynghorydd. Ni chawn ein cyfyngu yn yr un modd gan y cyfarwyddyd hwn rhag cynnig trefn etholiadol lle mae nifer yr etholwyr sydd i’w cynrychioli gan bob cynghorydd, mewn achosion priodol, yn uwch nag 1,750. Trwy'r arolwg hwn byddwn yn cadw’r gymhareb o 1:1,750 mewn cof, ac ni fyddwn fel arfer yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ei defnyddio yn benodol ym mhob achos.

Maint y cyngor

6.5 Ar hyn o bryd, mae’r cyngor 47 aelod o fewn y terfynau yng nghyfarwyddiadau’r Gweinidog o ran nifer. Y gymhareb bresennol rhwng cynghorwyr ac etholwyr ar gyfer y cyngor yw 1:1,580 sydd 10% yn is na’r gymhareb o 1,750 o etholwyr fesul cynghorydd (gweler Cymhareb cynghorwyr i etholwyr uchod). Ar hyn o bryd mae 14 adran aml-aelod o gyfanswm o 30 o adrannau etholiadol.

6.6 Adolygasom y trefniadau etholiadol ar gyfer Ddinbych yn sgil cyfarwyddiadau’r Gweinidog i’n harwain, ac ystyriasom y cynrychiolaethau a gyflwynwyd i ni. Yn ein trafodaethau, ystyriasom y gymhareb rhwng nifer yr etholwyr llywodraeth leol a nifer y cynghorwyr i’w hethol gyda’r nod o gynnig newidiadau er mwyn sicrhau bod nifer yr etholwyr llywodraeth leol yr un peth neu mor agos ag y bo modd, ym mhob adran yn y brif ardal. Ystyriasom faint a chymeriad yr awdurdod ac ystod eang o ffactorau eraill, gan gynnwys dwysedd y boblogaeth, y dopograffeg leol, cysylltiadau ffyrdd a chysylltiadau lleol.

6.7 Am y rhesymau a nodir isod, credwn o safbwynt budd i lywodraeth leol effeithiol a chyfleus y byddai cael cyngor o 42 aelod i gynrychioli Sir Ddinbych yn briodol. Golyga’r penderfyniad hwn ynghylch maint y cyngor y cynrychiolir 1,768 o etholwyr ar gyfartaledd gan bob cynghorydd.

Nifer yr Etholwyr

6.8 Cyngor Sir Ddinbych a roddodd i ni’r ffigurau sy’n nodi’r etholwyr yn 2009 a’r amcangyfrifon ar gyfer yr etholaeth yn 2014.

Adrannau Etholiadol

6.9 Ystyriasom y trefniadau etholiadol o ran yr adrannau etholiadol presennol, sef Bodelwyddan, , Llandyrnog, Llangollen, Llanrhaedr-yng-Nghinmeirch, Prestatyn Allt Melyd, Rhuddlan, Dwyrain Llanelwy a Gorllewin Llanelwy a chymhareb etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr i’w hethol a chynigiwn y dylai’r trefniadau presennol barhau. Mae’r rhestr a nodir yn y paragraff hwn o ardaloedd rydym yn bwriadu peidio â’u newid bellach yn dipyn mwy na’r rhestr (yn cynnwys un adran etholiadol) a grybwyllwyd ym mharagraff 5.7 o’n hadroddiad cynigion drafft. Mae hyn am ein bod wedi newid ein cynigion drafft ar ystyriaethau

- 16 - 

pellach ac yn sgil y cynrychiolaethau a dderbyniwyd. Ymdriniwn yn fanylach â phob un o’r adrannau ychwanegol hyn lle rydym bellach yn argymell peidio â’u newid yn y paragraffau isod. Ystyriasom newidiadau i’r adrannau etholiadol sy’n weddill gan amlinellu’n cynigion yn y paragraffau isod. Ceir manylion o’r trefniadau etholiadol presennol yn Atodiad 2.

6.10 Yn yr adran ganlynol, nodir y cynigion ar gyfer pob un o’r Adrannau Etholiadol newydd yn yr un modd. Mae rhan gyntaf y paragraff agoriadol ar gyfer pob un o’r rhain yn nodi’r cyd-destun hanesyddol gan restru’r holl Adrannau Etholiadol neu’r rhannau cydrannol ohonynt a ddefnyddiwyd i ffurfio pob Adran Etholiadol arfaethedig. Disgrifir y cydrannau hyn - y Cymunedau a’r Wardiau Cymunedol - fel Cymuned gyflawn ynghyd â nifer yr etholwyr cyfredol ac arfaethedig pe’i defnyddir felly. Os mai rhan yng Nghymuned yn unig a ddefnyddir - h.y. Ward Gymunedol - yna enw’r Ward Gymunedol, nifer ei hetholwyr ac enw ei Chymuned a nodir. Yna bydd rhan olaf y paragraff hwnnw ym mhob adran yn rhestru rhannau cydrannol yr Adran Etholiadol arfaethedig yn yr un modd - naill ai fel Cymunedau cyfan gyda nifer yr etholwyr cyfredol a’r nifer a ragamcenir, neu os yw’n Ward Gymunedol a enwir, nifer yr etholwyr ac enw ei Chymuned - fel o’r blaen. Defnyddir y dull hwn o ddisgrifio cyfansoddiad Adrannau Etholiadol hefyd yn y tablau a geir yn Atodiad 2 ac Atodiad 3.

Llandrillo a Chorwen

6.11 Mae adran etholiadol bresennol Llandrillo yn cynnwys Cymuned Cynwyd (462 o etholwyr, rhagamcenir 471) a Chymuned Llandrillo (490 o etholwyr, rhagamcenir 500) ac mae’n ethol un aelod sy’n gyfystyr â 952 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 40% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Corwen yn cynnwys Cymuned Corwen sydd wedi’i rhannu’n ddwy ward, sef Ward Isaf (645 o etholwyr, rhagamcenir 658) a Ward Uchaf (1,244 o etholwyr, rhagamcenir 1,269), cyfanswm o 1,889 o etholwyr (rhagamcenir 1,927) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr ag 1,889 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 20% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiasom uno adran etholiadol Llandrillo â ward Uchaf Corwen i ffurfio adran etholiadol â 2,196 o etholwyr (rhagamcenir 2,240) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd sy’n gyfystyr â 2,196 o etholwyr fesul cynghorydd a oedd 18% yn uwch na chyfartaledd sirol y cynigion drafft, sef 1,856 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.12 Derbyniasom wrthwynebiadau i’r Cynnig hwn gan Gyngor Cymuned Corwen, Cyngor Cymuned Llandrillo a thri phreswylydd lleol. Y prif wrthwynebiad oedd ar sail y ffaith y byddai’n golygu rhannu cymuned Corwen, a bod Llandrillo am gadw’r drefn bresennol pe byddai modd. Roedd tair o’r cynrychiolaethau, gan gynnwys rhai Cynghorau Cymuned Corwen a Llandrillo, yn awgrymu ehangu ar y cynnig drafft gan gynnwys cymunedau eraill i ffurfio adran etholiadol fwy a gynrychiolir gan 2 aelod i gynrychioli’r ardal a oedd gynt yn Ddosbarth Gwledig Edeyrnion. Y rhesymu y tu ôl yr awgrym hwn oedd bod synergedd eisoes yn bodoli rhwng y cymunedau ar sail hanes, diwylliant, daearyddiaeth a bod hen berthynas rhyngddynt ar sail hanes.

6.13 Nodasom y pryder ynghylch rhannu Cymuned Corwen a’r awgrym gan Gynghorau Cymuned Corwen a Llandrillo a fynegwyd hefyd gan 2 breswylydd i uno Corwen,

- 17 - 

Cynwyd, Llandrillo, , Betws Gwerfil Goch a Gwyddelwern i ffurfio adran 2 aelod. Rydym o’r farn oherwydd y gefnogaeth a gafwyd i’r awgrym hwn a’r ffaith y byddai’n datrys hefyd y pryder a fynegwyd ynghylch rhannu Cymuned Corwen a byddai’n fwy buddiol o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus i uno’r cymunedau hynny i ffurfio adran etholiadol newydd. Felly, cynigiwn uno cymunedau Llandrillo, Cynwyd, Corwen, Gwyddelwern a Betws Gwerfil Goch i ffurfio adran etholiadol o 3,517 o etholwyr (rhagamcenir 3,588) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,759 o etholwyr fesul cynghorydd a fyddai 1% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,768. Gan fod yr adran etholiadol newydd hon yn seiliedig ar hen Ddosbarth Gwledig Edeyrnion, cynigiwn Edeyrnion yn enw ar yr adran.

Llangollen a Chorwen

6.14 Mae adran etholiadol bresennol Llangollen yn cynnwys Cymuned Llangollen (3,018 o etholwyr, rhagamcenir 3,159) a Chymuned Llandysilio (329 o etholwyr, rhagamcenir 336) ac mae’n ethol 2 aelod sy’n gyfystyr â 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 6% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol Corwen yn cynnwys Cymuned Corwen sydd wedi’i rhannu’n ddwy ward, sef Isaf (645 o etholwyr, rhagamcenir 658) ac Uchaf (1,244 o etholwyr, rhagamcenir 1,269), cyfanswm o 1,889 o etholwyr (rhagamcenir 1,927) a gynrychiolir gan un aelod â lefel y gynrychiolaeth sydd 20% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Yn ein Cynigion Drafft, ystyriasom uno adran etholiadol Llangollen â Ward Isaf Corwen i ffurfio adran etholiadol â chyfanswm o 3,992 o etholwyr (rhagamcenir 4,153) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,996 o etholwyr fesul cynghorydd a oedd 8% yn uwch na chyfartaledd sirol y cynigion drafft, sef 1,856.

6.15 Derbyniasom wrthwynebiadau i’r cynnig hwn gan Gyngor Cymuned Llandysilio a Chyngor Tref Llangollen yn gwrthwynebu’r enw Glyn Dyfrdwy yn gryf. Gofynnodd Cyngor Tref Llangollen i gadw enw’r adran etholiadol yn Llangollen waeth pa newidiadau a fyddai’n digwydd, ond roedd yn gwrthwynebu cynnwys ward Isaf Corwen gan fod cysylltiadau mwy naturiol rhyngddi â Thref Corwen a Chymuned Llandrillo. Nid oedd gan Gyngor Cymuned Llandysilio wrthwynebiad i Gorwen uno ag adran Llangollen gan iddynt fynegi bod cysylltiadau cryf rhyngddynt, ond nid oeddynt yn gweld doethineb newid o’r fath. Gwrthwynebodd Cyngor Cymuned Corwen gael ei rannu rhwng dwy adran etholiadol.

6.16 Nodasom bryderon y cymunedau cyngor ac ystyriasom o ran y gwrthwynebiad i’r cynnig hwn a’r ffaith y cynigir cynnwys ward Isaf Cymuned Corwen yn adran newydd Edeyrnion fel yr amlinellir ym mharagraff 6.12 uchod y dylai adran etholiadol bresennol Llangollen aros fel y mae. Felly, cynigiwn, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, gadw’r drefn bresennol a chaniatáu i Gymunedau Llangollen a Llandysilio barhau i fod yn adran etholiadol o 3,347 o etholwyr (rhagamcenir 3,495) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd a fydd 5% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,768. Fel y cynhigiwyd gan Gyngor Tref Llangollen, cynigiwn gadw’r enw Llangollen ar gyfer yr adran hon.

- 18 - 

Llanarmon-yn-Iâl / Llandegla, Llanbedr Dyffryn Clwyd / Llangynhafal and Llanfair Dyffryn Clwyd / Gwyddelwern

6.17 Mae adran etholiadol bresennol Llanarmon-yn-Iâl / Llandegla yn cynnwys Cymuned Llanarmon-yn-Iâl (903 o etholwyr, rhagamcenir 921), Cymuned Llandegla (424 o etholwyr, rhagamcenir 432) a Chymuned Llanferres (600 o etholwyr, rhagamcenir 612) ac mae’n ethol un aelod sy’n gyfystyr â 1,927 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 22% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Mae adran etholiadol Llanbedr Dyffryn Clwyd / Llangynhafal yn cynnwys Cymuned Llanbedr Dyffryn Clwyd (700 o etholwyr, rhagamcenir 714) a Chymuned Llangynhafal (516 o etholwyr, rhagamcenir 526) ac mae’n ethol un aelod sy’n gyfystyr â 1,216 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 23% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol sef 1,580. Mae adran etholiadol Llanfair Dyffryn Clwyd / Gwyddelwern yn cynnwys Cymuned Bryneglwys (289 o etholwyr, rhagamcenir 295), Cymuned Gwyddelwern (425 o etholwyr, rhagamcenir 434), Cymuned Llanelidan (251 o etholwyr, rhagamcenir 256) a Chymuned Llanfair Dyffryn Clwyd (891 o etholwyr, rhagamcenir 909) ac mae’n ethol un aelod sy’n gyfystyr â 1,856 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 18% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno adrannau etholiadol Llanarmon-yn-Iâl / Llandegla a Llanbedr Dyffryn Clwyd / Llangynhafal â Chymuned Bryneglwys (o adran etholiadol Llanfair Dyffryn Clwyd / Gwyddelwern) i ffurfio adran etholiadol o 3,432 o etholwyr (rhagamcenir 3,500) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,716 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 8% yn is na chyfartaledd sirol y cynigion drafft, sef 1,856.

6.18 Derbyniasom wrthwynebiadau gan Gyngor Cymuned Bryneglwys a oedd o’r farn pe unir hwy a ffurfio adran etholiadol fawr, byddent yn colli eu llais a chynrychiolaeth ystyrlon ac yn cael eu hanghofio. Derbyniwyd gwrthwynebiad gan Gyngor Cymuned Llangynhafal a oedd o blaid cynrychiolaeth un aelod gan ei bod yn ardal mor wledig. Awgrymodd gael ei huno â chymunedau yn Nyffryn Clwyd yn unig sef rhai cyfagos fel Llanbedr a Llanynys.

6.19 Nodasom y gwrthwynebiad i’r cynigion a’r awgrymiadau a wnaed ac ystyriasom, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, na ddylid parhau â’r cynnig drafft. Ystyriasom y byddai’n well pe byddai dwy adran un aelod yn llai o ran maint daearyddol yn well mewn ardal o’r fath, ac y byddai’n bodloni’r gynrychiolaeth a gyflwynwyd i gadw adrannau un aelod mewn ardaloedd gwledig. Felly, cynigiwn uno Cymunedau Bryneglwys, Llandegla a Llanarmon-yn-Iâl i ffurfio adran etholiadol o 1,616 o etholwyr (rhagamcenir 1,648) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,616 o etholwyr fesul cynghorydd a fyddai 9% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,768. Mae hyn yn golygu creu adran etholiadol un aelod sy’n ymddangos i ni fel cynnig sy’n debygol o ennill cefnogaeth yn sgil y cynrychiolaethau a dderbyniasom i’r perwyl bod cynrychiolaeth un aelod yn addas ar gyfer ardaloedd gwledig fel hyn. Ystyriasom y cysylltiadau cymunedol yn yr ardal yn ofalus a chan fod Llandegla a Llanarmon-yn-Iâl yn ffurfio adran etholiadol ar hyn o bryd, rydym yn teimlo bod cysylltiadau cymunedol rhwng yr ardaloedd yn bodoli eisoes. Wrth ychwanegu Bryneglwys sy’n ardal ddaearyddol debyg a gysylltir gan ffordd, ystyriasom y dylai’r uniad fod yn gynaliadwy. Gan fod yr adran hon yn ffurfio rhan isaf Dyffryn Clwyd rydym yn cynnig Dyffryn Clwyd Isaf yn enw i’r adran etholiadol. Yn ogystal i hyn, cynigiwn uno cymunedau Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llanferres a Llangynhafal i ffurfio adran etholiadol arall o 1,816 o etholwyr

- 19 - 

(rhagamcenir 1,852) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd sy’n gyfystyr â 1,816 sydd 3% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,768. Fel yn achos Dyffryn Clwyd Isaf uchod, ystyriasom y cysylltiadau rhwng y cymunedau ac y dylai cysylltiadau cymunedol fod yn bodoli eisoes rhwng Llangynhafal a Llanbedr Dyffryn Clwyd gan ei bod yn ffurfio adran etholiadol gyda’i gilydd ar hyn o bryd, a byddai ychwanegu cymuned debyg fel Llanferres atynt i ffurfio adran newydd yn gynaliadwy. Unwaith eto mae’n creu adran etholiadol un aelod a chan ei fod yn ddaearyddol yn rhan ogleddol Dyffryn Clwyd cynigiwn felly y dylai’r enw fod yn debyg i’r un a gynigiwyd uchod a dylid ei enwi yn Dyffryn Clwyd Uchaf.

Rhuddlan a Thremeirchion

6.20 Mae adran etholiadol bresennol Rhuddlan yn cynnwys Cymuned Rhuddlan, 2,960 o etholwyr (rhagamcenir 3,099) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,480 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 6% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Mae adran etholiadol gydffiniol Tremeirchion yn cynnwys Cymuned Bodfari (279 o etholwyr, rhagamcenir 285), Cymuned Cwm (260 o etholwyr, rhagamcenir 265), Cymuned Tremeirchion (581 o etholwyr, rhagamcenir 593) a Chymuned y Waun (185 o etholwyr, rhagamcenir 189) â chyfanswm o 1,305 o etholwyr (rhagamcenir 1,332) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,305 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 17% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno adran etholiadol Rhuddlan â chymunedau Cwm a’r Waun o adran etholiadol Tremeirchion i ffurfio adran etholiadol o 3,405 o etholwyr (rhagamcenir 3,553) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,703 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 8% yn is na chyfartaledd sirol y cynigion drafft sef 1,856.

6.21 Derbyniasom wrthwynebiadau gan Gyngor Cymuned Tremeirchion, Cwm a’r Waun, Cynghorydd Rhuddlan a 4 preswylydd. Roedd y gwrthwynebiadau yn canolbwyntio’n bennaf ar y rhannu rhwng gwledig a threfol a’r gwahaniaethau rhwng y mathau yng Nghymunedau. Datganwyd bod anghenion cymuned wledig yn dra gwahanol i un drefol a dylai’r Comisiwn roi mwy o flaenoriaeth i hynny wrth ystyried uno cymunedau i ffurfio adrannau etholiadol. Awgrymwyd mai adrannau gwledig yn unig a ddylid eu huno â’i gilydd ac y dylai Rhuddlan aros yn adran etholiadol yn ei rhinwedd ei hun a chael ei chynrychioli gan 2 gynghorydd er mwyn darparu ar gyfer anghenion poblogaeth gynyddol Rhuddlan.

6.22 Nodasom ac ystyriasom y gwrthwynebiadau amlwg i’r uniad arfaethedig rhwng adran etholiadol Rhuddlan a’r cymunedau gwledig cyfagos. O ystyried y gwrthwynebiadau hynny, cynigiwn, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, gadw’r drefn bresennol a chadw Rhuddlan yn adran etholiadol unigol o 2,960 o etholwyr (rhagamcenir 3,099) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,480 o etholwyr fesul cynghorydd a fyddai 16% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,768, a nodi ei bod yn anffodus ein bod wedi methu â dyfeisio llunio cynllun priodol a fyddai’n gallu mynd i’r afael â’r gwahaniaeth etholiadol hwn. Cynigiwn fod yr enw Rhuddlan yn cael ei gadw ar gyfer yr adran etholiadol hon. Amlinellir cynigion eraill ar gyfer cymunedau’r Cwm a’r Waun yn y paragraffau dilynol.

- 20 - 

Tremeirchion a Threfnant

6.23 Mae adran etholiadol bresennol Tremeirchion yn cynnwys Cymuned Bodfari (279 o etholwyr, rhagamcenir 285), Cymuned Cwm (260 o etholwyr, rhagamcenir 265), Cymuned Tremeirchion (581 o etholwyr, rhagamcenir 593) a Chymuned y Waun (185 o etholwyr, rhagamcenir 189) â chyfanswm o 1,305 o etholwyr (rhagamcenir 1,332) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,305 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 17% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Mae adran etholiadol bresennol Trefnant yn cynnwys Cymunedau Trefnant (1,229 o etholwyr, rhagamcenir 1,287) a Chefn Meiriadog (337 o etholwyr, rhagamcenir 344) â chyfanswm o 1,566 o etholwyr a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,566 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 1% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno adran etholiadol Trefnant â Chymuned Tremeirchion (o adran etholiadol Tremeirchion) i ffurfio adran etholiadol o 2,147 o etholwyr (rhagamcenir 2,225) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 2,147 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 15% yn uwch na chyfartaledd sirol y cynigion drafft, sef 1,856.

6.24 Derbyniasom wrthwynebiadau gan Gynghorau Cymuned Cefn Meiriadog a Threfnant. Canolbwyntiodd y gwrthwynebiadau ar yr angen am fwy o gynghorwyr mewn ardaloedd gwledig, nid llai, gan y byddai llai o gynghorwyr yn gwanhau llais ardaloedd gwledig. Fodd bynnag, ni wrthododd y naill Gyngor Cymuned y syniad o uno ag eraill i ffurfio adran fwy, er y datganodd Cefn Meiriadog ei fod am aros yn ddigyfnewid. Derbyniasom wrthwynebiad gan Gyngor Cymuned Bodfari yn datgan ei fod am aros gyda’r cymunedau roedd eisoes yn unedig â hwy gan fod mwy yn gyffredin rhyngddynt. Ychwanegodd Cymuned Henllan y byddai’n well ganddi gael ei huno ag adran etholiadol arfaethedig Bach y Graig yn lle Dinbych ar sail bod mwy yn gyffredin rhyngddynt gan eu bod yn gymunedau pentrefol.

6.25 O ystyried y gwrthwynebiadau gan sawl cymuned yn yr ardal hon fel Cwm a’r Waun yn gwneud cynrychiolaethau yn erbyn cael eu huno â Rhuddlan (paragraff 6.20 uchod), Henllan ddim am barhau yn rhan o Ddinbych ond yn well ganddi uno â chymunedau mwy gwledig a Bodfari am aros yn ddigyfnewid. Ystyriasom greu adran etholiadol newydd yn cynnwys y wardiau gwledig hyn sydd â buddiannau cyffredin a’u bod wedi’u cysylltu gan rwydwaith o ffyrdd A a B. Er budd llywodraeth leol effeithiol a hwylus, cynigiwn felly, uno cymunedau Cwm, y Waun, Tremeirchion, Cefn Meiriadog, Trefnant, Henllan a Bodfari i ffurfio adran etholiadol o 3,549 o etholwyr (rhagamcenir 3,673) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,775 o etholwyr fesul cynghorydd sy’n llai nag 1% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,768. Cynigiwn gadw enw Bach y Graig gan na fu unrhyw wrthwynebiadau iddo yn y lle cyntaf o’r cynigion drafft a’i fod yn enw mwy cyffredinol sy’n cynnwys 7 cymuned, heb fod o blaid un ohonynt o ran yr enw.

Tremeirchion a Llandyrnog

6.26 Fel y datganwyd eisoes, mae adran etholiadol bresennol Tremeirchion yn cynnwys Cymuned Bodfari (279 o etholwyr, rhagamcenir 285), Cymuned Cwm (260 o etholwyr, rhagamcenir 265), Cymuned Tremeirchion (581 o etholwyr, rhagamcenir 593) a Chymuned y Waun (185 o etholwyr, rhagamcenir 189) â chyfanswm o 1,305 o etholwyr (rhagamcenir 1,332) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,305 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 17% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef

- 21 - 

1,580. Mae adran etholiadol bresennol Llandyrnog yn cynnwys Cymunedau Aberchwiler (273 o etholwyr, rhagamcenir 278), Llandyrnog (847 o etholwyr, rhagamcenir 864) a Llanynys (565 o etholwyr, rhagamcenir 576) â chyfanswm o 1,685 o etholwyr a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,685 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 7% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno adran etholiadol Llandyrnog â Chymuned Bodfari (o adran etholiadol Tremeirchion) i ffurfio adran etholiadol o 1,964 o etholwyr (rhagamcenir 2,003) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,964 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 6% yn uwch na chyfartaledd sirol y cynigion drafft, sef 1,856.

6.27 Derbyniasom wrthwynebiad gan Gyngor Cymuned Bodfari yn datgan y byddai’n well ganddi aros gyda’r cymunedau y mae gyda hwy ar hyn o bryd gan fod mwy yn gyffredin rhyngddynt. Ystyriwyd y cais hwn ym mharagraff 6.25 uchod. Cyflwynodd Bodfari bryderon hefyd ynghylch aelod etholedig yr adran etholiadol arfaethedig gan y byddai ganddo/ganddi lwyth gwaith mwy gan y byddai’n rhaid iddo/iddi ymdrin â mwy o etholwyr a allai ddarbwyllo rhywun proffesiynol rhag sefyll am swydd cynghorydd gan y gallent gael eu tynnu i gyfeiriadau gwahanol ac nid ar gael nac yn weladwy’n lleol.

6.28 Ystyriasom y gynrychiolaeth a gyflwynwyd gan Fodfari yn ofalus, a chynigiasom gynnwys y gymuned yn adran etholiadol arfaethedig Bach y Graig fel yr amlinellwyd ym mharagraff 6.25. O ganlyniad i’r newid hwn bydd adran etholiadol bresennol Llandyrnog yn aros ar ei phen ei hun a chan fod nifer yr etholwyr yn foddhaol o ran cydraddoldeb etholiadol, ystyriwn fod cadw Llandyrnog fel adran yn ei rhinwedd ei hun yn dderbyniol. Felly, cynigiwn, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, gadw’r drefn bresennol, a bydd gan yr adran etholiadol 1,685 o etholwyr a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,685 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 5% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,768. Cynigiwn gadw’r enw presennol, sef Llandyrnog.

Bodelwyddan a Llanelwy

6.29 Mae 1,337 o etholwyr (rhagamcenir 1,438) yn adran etholiadol bresennol Dwyrain Llanelwy a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,337 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 15% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Mae 1,339 o etholwyr (rhagamcenir 1,402) yn adran etholiadol bresennol Dwyrain Llanelwy a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,339 o etholwyr fesul cynghorydd sydd hefyd 15% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Mae adran etholiadol bresennol Bodelwyddan yn cynnwys Cymuned Bodelwyddan, 1,651 o etholwyr (rhagamcenir 1,728) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,651 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 5% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno dwy adran etholiadol Llanelwy ac adran etholiadol Bodelwyddan i ffurfio adran etholiadol o 4,327 o etholwyr (rhagamcenir 4,568) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 2,164 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 17% yn uwch na chyfartaledd sirol y cynigion drafft, sef 1,856.

6.30 Derbyniasom wrthwynebiadau gan Gynghorau Tref Bodelwyddan a Llanelwy a Chynghorydd Gorllewin Llanelwy. Roedd Cyngor Tref Bodelwyddan am gadw’r drefn bresennol, i barhau fel adran yn ei rhinwedd ei hun, a thynnodd sylw at y

- 22 - 

ffaith ei fod ond 22 o etholwyr yn llai na’r ffigurau a argymhellwyd ar gyfer nifer yr etholwyr fesul cynghorydd. Dadleusant ei fod yn rhesymol felly i Fodelwyddan gael aelod etholedig yn ei rhinwedd ei hun. Tynnodd sylw hefyd fod y ffordd A55 yn gwahanu Bodelwyddan oddi wrth Lanelwy ac nid yn eu cysylltu. Roedd Cyngor Tref Llanelwy yn deall sut y penderfynodd y Comisiwn ynghylch ei gynigion ond roedd o’r farn na ystyriwyd ysbryd cymunedol y ddwy gymuned, gan eu bod yn sylweddol o ran maint gyda’u hanghenion a’u cynrychiolaeth briodol eu hunain. Roedd Llanelwy am gadw’r drefn bresennol a pharhau fel dwy adran etholiadol yn eu rhinwedd eu hunain. Ysgrifennodd preswylydd o Lanelwy i gefnogi’r cynigion gan ddatgan eu bod yn gwneud synnwyr gwell a’i fod ef am weld mwy o drefi a phentrefi yn cydweithio. Roedd yn cytuno y dylid lleihau nifer y cynghorwyr.

6.31 Ystyriasom y cynrychiolaethau a chanfuwyd bod y gwrthwynebiad cryf yn gorbwyso’r gefnogaeth dros y cynnig ac, o ganlyniad i’r gwrthwynebiadau hyn, penderfynasom y byddai cadw’r adrannau etholiadol presennol heb unrhyw newid yn gyffredinol yn ganlyniad mwy boddhaol na pharhau â’r cynigion drafft. Felly, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, cynigiwn fod Bodelwyddan yn parhau fel adran etholiadol yn ei rhinwedd ei hunan ynghyd â’r enw Bodelwyddan a 1,651 o etholwyr (rhagamcenir 1,728) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,651 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 7% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,768. Cynigiwn hefyd fod dwy adran etholiadol Llanelwy yn parhau yn adrannau etholiadol un aelod ar wahân, heb newid i’r trefniadau presennol. Mae gan Ddwyrain Llanelwy 1,337 o etholwyr (rhagamcenir 1,438) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,337 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 24% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,768. Mae gan Orllewin Llanelwy 1,339 o etholwyr (rhagamcenir 1,402) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,339 o etholwyr fesul cynghorydd sydd hefyd 24% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,768. Cyflwynwn y cynigion hyn gan nodi ei bod yn anffodus na allwn lunio cynllun priodol a fyddai’n mynd i’r afael â chydraddoldeb etholiadol.

Dinbych Canolog a Dinbych Uchaf a Henllan

6.32 Mae adran etholiadol bresennol Dinbych Canolog yn cynnwys ward Canolog Cymuned Dinbych, 1,443 o etholwyr (rhagamcenir 1,511) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,443 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 9% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Mae adran etholiadol gydffiniol Dinbych Uchaf a Henllan yn cynnwys ward Uchaf Cymuned Dinbych (1,837 o etholwyr, rhagamcenir 2,113) a Chymuned Henllan (678 o etholwyr, rhagamcenir 710), cyfanswm o 2,515 o etholwyr (rhagamcenir 2,823) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,258 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 20% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno adrannau etholiadol Dinbych Canolog a Dinbych Uchaf a Henllan i ffurfio adran etholiadol o 3,958 (rhagamcenir 4,334) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,979 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 7% yn uwch na chyfartaledd sirol y cynigion drafft, sef 1,856.

6.33 Derbyniasom wrthwynebiadau gan Gyngor Tref Dinbych a Chyngor Cymuned Henllan. Byddai’n well gan Henllan gael ei uno ag adran etholiadol arfaethedig Bach y Graig ar sail bod ganddynt fwy yn gyffredin gan eu bod yn bentrefi. Roedd Dinbych yn gwrthwynebu’r uniad am y byddai’n dasg rhy anodd i aelodau ymdopi â

- 23 - 

hi, a byddai cynnwys Henllan â Dinbych yn effeithio ar gyfleoedd ariannu ac roeddent o’r farn y byddai’n fwy addas i Henllan pe bai’n uno ag adran fwy gwledig.

6.34 O ystyried y ceisiadau gan Ddinbych a Henllan i Henllan gael ei wahanu oddi wrth Ddinbych, ystyriwn fod rhinwedd i’r awgrym a chynigiasom fod Henllan yn uno ag adran Bach y Graig (gweler paragraff 6.25). Cynigiwn, felly, fod Dinbych Canolog yn parhau yn adran un aelod o 1,443 o etholwyr (rhagamcenir 1,511) sy’n gyfystyr â 1,443 o etholwyr fesul cynghorydd a fyddai’n 18% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,768. Dinbych Canolog fydd enw'r adran hon. Yn ogystal â hyn, cynigiwn fod Dinbych Uchaf yn adran un aelod o 1,837 o etholwyr (rhagamcenir 2,113) sy’n gyfystyr â 1,837 o etholwyr fesul cynghorydd a fyddai’n 4% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,768. Gorllewin Dinbych fydd yr enw ar yr adran hon.

Dinbych Isaf

6.35 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft cynigiasom beidio â newid y trefniadau etholiadol ar gyfer adran etholiadol bresennol Dinbych Isaf. Fodd bynnag, awgrymwyd newid yr enw i Dwyrain Dinbych i gyd-fynd â’r enw ar gyfer adran arall Dinbych. Ni dderbyniwyd cynrychiolaethau’n naill ai’n cefnogi neu’n gwrthwynebu’r cynigion.

6.36 Yn sgil y ffaith ni dderbyniwyd unrhyw gynrychiolaeth yn gwrthwynebu’r mân newid hwn, cynigiwn, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus y dylid parhau â’r cynnig drafft. Byddai’r adran etholiadol yn cynnwys ward Isaf Cymuned Dinbych, 3,503 o etholwyr (rhagamcenir 3,667) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,752 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 1% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,768. Dwyrain Dinbych bydd enw’r adran etholiadol hon.

Rhuthun a Llanfair Dyffryn Clwyd / Gwyddelwern

6.37 Mae adran etholiadol bresennol Rhuthun yn cynnwys Cymuned Rhuthun, 4,202 o etholwyr (rhagamcenir 4,614) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 1,401 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 11% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Mae adran etholiadol Llanfair Dyffryn Clwyd / Gwyddelwern yn cynnwys Cymunedau Bryneglwys (289 o etholwyr, rhagamcenir 295), Gwyddelwern (425 o etholwyr, rhagamcenir, 434), Llanelidan (251 o etholwyr, rhagamcenir 256) a Llanfair Dyffryn Clwyd (891 o etholwyr, rhagamcenir 909), cyfanswm o 1,856 o etholwyr (rhagamcenir 1,894) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,894 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 18% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno adran etholiadol Rhuthun â Chymuned Llanfair Dyffryn Clwyd (o adran etholiadol Llanfair Dyffryn Clwyd/Gwyddelwern) i ffurfio adran etholiadol o 5,093 o etholwyr (rhagamcenir 5,523) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 1,698 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 9% yn is na chyfartaledd sirol y cynigion drafft, sef 1,856.

6.38 Derbyniasom wrthwynebiad gan Gyngor Cymuned Llanfair Dyffryn Clwyd yn tynnu sylw at bryder o ran cydweddoldeb y ddwy ardal gan mai cynrychiolaeth drefol sydd bennaf dros gynrychiolaeth ardaloedd gwledig ac yn gwneud cais am gadw’r drefn bresennol er mwyn sicrhau bod yr ardal wledig yn parhau â’i chynrychiolaeth ei hun. Cymeradwywyd yr uniad gan y Cynghorydd Feeley (Rhuthun) gan ddatgan ei

- 24 - 

bod hi fel aelod o adran aml-aelod o’r farn bod adrannau aml-aelod yn gweithio’n dda.

6.39 Ystyriasom yn ofalus y cynrychiolaethau yn erbyn yr uniad arfaethedig, a oedd yn dibynnu’n bennaf ar anghenion gwahanol a chydweddoldeb amheus ardaloedd trefol ac ardaloedd gwledig. Ar ôl pwyso a mesur, fe’n darbwyllwyd i gytuno â’r cynrychiolaethau hyn, ac felly cynigiwn fod Rhuthun sy’n ardal fwy trefol, yn parhau i fod yn adran etholiadol ar wahân o 4,202 o etholwyr (rhagamcenir 4,614). Fodd bynnag, cynigiwn fod 2 gynghorydd, yn hytrach na 3 yn cynrychioli Rhuthun, sy’n gyfystyr â 2,101 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 19% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,768. Pe bai’r adran yn cadw at 3 chynghorydd byddai hyn yn golygu cynrychiolaeth o 1,401 o etholwyr fesul cynghorydd a fyddai 21% yn is cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,768. Gwnawn y cynnig hwn, er nodi ei bod yn anffodus na allwn gynnig cynllun priodol a allai fynd i’r afael â chydraddoldeb etholiadol yn well. Bydd enw’r adran hon yn parhau yn Rhuthun. Amlinellir trefniadau ar gyfer Llanfair Dyffryn Clwyd ym mharagraff 6.43.

Efenechdyd, Llanfair Dyffryn Clwyd / Gwyddelwern a Llanrhaedr-yng-Nghinmeirch

6.40 Mae adran etholiadol bresennol Efenechdyd yn cynnwys Cymunedau Efenechdyd (491 o etholwyr, rhagamcenir 501), Betws Gwerfil Goch (251 o etholwyr, rhagamcenir 256), Clocaenog (196 o etholwyr, rhagamcenir 200) a Derwen (352 o etholwyr, rhagamcenir 359), cyfanswm o 1,290 o etholwyr (rhagamcenir 1,316) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd sydd 18% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Mae adran etholiadol bresennol Llanfair Dyffryn Clwyd/Gwyddelwern yn cynnwys Cymunedau Bryneglwys (289 o etholwyr, rhagamcenir 295), Gwyddelwern (425 o etholwyr, rhagamcenir 434), Llanelidan (251 o etholwyr, rhagamcenir 256) a Llanfair Dyffryn Clwyd (891 o etholwyr, rhagamcenir 909), cyfanswm o 1,856 o etholwyr (rhagamcenir 1,894) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,894 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 18% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Mae adran etholiadol bresennol Llanrhaedr-yng-Nghinmeirch yn cynnwys Cymunedau Cyffylliog (407 o etholwyr, rhagamcenir 415), Llanrhaeadr-yng- Nghinmeirch (855 o etholwyr, rhagamcenir 872) a Nantglyn (272 o etholwyr, rhagamcenir 277), cyfanswm o 1,534 o etholwyr (rhagamcenir 1,564) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,534 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 3% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom ffurfio adran etholiadol a oedd yn uno Cymunedau Efenechdyd, Betws Gwerfil Goch, Clocaenog, Derwen, Llanelidan, Gwyddelwern, Cyffylliog, Llanrhaeadr-yng- Nghinmeirch a Nantglyn, cyfanswm o 3,500 o etholwyr (rhagamcenir 3,570) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,750 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 6% yn is na chyfartaledd sirol y cynnig drafft, sef 1,856.

6.41 Derbyniasom wrthwynebiadau gan Gynghorau Cymuned Clocaenog, Derwen, Efenechdyd, Llanelidan, Cyffylliog a Llanrhaedr-yng-Nghinmeirch ac ysgrifennodd aelod Llanrhaedr-yng-Nghinmeirch hefyd i ddatgan ei wrthwynebiad. Y farn gyffredinol oedd bod yr adran wledig arfaethedig yn rhy fawr yn ddaearyddol i 2 gynghorydd ei chynrychioli. Awgrymodd Cynghorau Cymuned Clocaenog ac Efenechdyd rannu’r adran yn ddwy a chael un aelod ar gyfer bob un. Awgrymodd Cyngor Cymuned Efenechdyd hefyd na roddwyd digon o ystyriaeth i gysylltiadau daearyddol, cymunedol a chymdeithasol gan fod cysylltiadau gwell gan Nantglyn a Llanrhaeadr â chymunedau eraill nis cynhwysid yn y cynnig. Awgrymwyd hefyd y

- 25 - 

gallai Gorllewin Clwyd gynnwys Betws Gwerfil Goch, Clocaenog, Cyffylliog, Derwen, Efenechdyd, Gwyddelwern, Llanelidan a Llanfair Dyffryn Clwyd gan fod cysylltiadau daearyddol, cymunedol a chymdeithasol cryf rhyngddynt. Roedd aelod presennol Llanrhaedr-yng-Nghinmeirch yn pryderu ynghylch diffyg cysylltiadau cymunedol a chysylltiadau ffyrdd yn yr adran arfaethedig ac ni fyddai’n ymarferol i ddau aelod gynrychioli ardal mor fawr. Gallai dyblygu gwaith ddigwydd a gallai’r etholwyr gael eu drysu ynghylch pwy oedd yn eu cynrychioli.

6.42 Ystyriasom y cynrychiolaethau, gwrthwynebiadau ac awgrymiadau hynny a chydnabyddwn nad adran etholiadol ddaearyddol fawr yw’r ffordd ymlaen mewn ardal mor wledig. Felly, er budd lywodraeth leol effeithiol a chyfleus, cynigiwn gadw adran etholiadol bresennol Llanrhaedr-yng-Nghinmeirch fel y mae hi â 1,534 o etholwyr (rhagamcenir 1,564) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,534 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 13% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,768. Cynigiwn fod Llanrhaedr-yng-Nghinmeirch yn aros fel enw’r adran.

6.43 O ystyried gweddill yr adran a nodir yn y cynnig drafft, mae Betws Gwerfil Goch a Gwyddelwern eisoes wedi’u symud i adran newydd Edeyrnion (gweler paragraff 6.13). O ystyried hyn, cynigiwn fod cymunedau Clocaenog, Derwen, Llanelidan ac Efenechdyd sy’n weddill, yn uno â Llanfair Dyffryn Clwyd (gweler paragraff 6.39) i ffurfio adran newydd o 2,181 o etholwyr (rhagamcenir 2,225) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 2,181 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 23% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,768. Cynigiwn gadw’r enw Gorllewin Clwyd gan nad oedd unrhyw wrthwynebiad i’r enw gan y cymunedau a oedd yn rhan o’r adran.

Prestatyn Canolog, Dwyrain Prestatyn ac Allt Melyd

6.44 Mae adran etholiadol bresennol Prestatyn Canolog yn cynnwys ward Canolog Cymuned Prestatyn, 2,778 o etholwyr (rhagamcenir 2,908) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,389 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 12% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Mae adran etholiadol bresennol Dwyrain Prestatyn yn cynnwys ward Dwyrain Prestatyn yng Nghymuned Prestatyn, 3,117 o etholwyr (rhagamcenir 3,263) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,599 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 1% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Mae’r adran etholiadol bresennol gydffiniol Prestatyn Allt Melyd yn cynnwys ward Allt Melyd yng Nghymuned Prestatyn, 1,560 o etholwyr (rhagamcenir 1,633) a gynrychiolir gan un aelod sy’n gyfystyr â 1,560 etholwyr fesul cynghorydd sydd 1% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno’r tair adran etholiadol bresennol, sef Prestatyn Canolog, Dwyrain Prestatyn ag Allt Melyd i ffurfio adran etholiadol o 7,455 o etholwyr (rhagamcenir 7,804) a gynrychiolir gan 4 cynghorydd, sy’n gyfystyr â 1,864 sydd bron yn cyfateb i gyfartaledd sirol y cynnig drafft, sef 1,856.

6.45 Derbyniasom wrthwynebiad cryf gan Grŵp Gweithredu Preswylwyr Allt Melyd yn datgan bod Allt Melyd wedi’i leoli i ffwrdd o Brestatyn ac roeddent o’r farn na chawsent eu cynrychioli’n briodol pe’i hunir â wardiau Prestatyn Canolog a Dwyrain Prestatyn gan na fyddai ganddynt gynghorydd penodol yn cynrychioli ardal y pentref. Roedd Cyngor Tref Prestatyn hefyd yn gwrthwynebu’r cynnig gan ddatgan y byddai Allt Melyd yn colli ei unigoliaeth a’i lais. Ysgrifennodd y Cynghorwyr Mike ac Isobel German (Cyngor Tref Prestatyn) yn gwrthwynebu’r uniad gan ddadlau y byddai ymgeiswyr annibynnol yn cael eu darbwyllo rhag ymgyrchu mewn ‘uwch

- 26 - 

ward’ oherwydd maint yr ardal a chostau ymgyrchu. Roedd preswylydd o Brestatyn yn atsain barn Cynghorwyr Tref Prestatyn, yn gwrthwynebu’r uniad.

6.46 Ystyriasom y gwrthwynebiad cryf i’r cynnig hwn a chydnabyddwn fod Allt Melyd yn fath gwahanol o ardal i dref Prestatyn o safbwynt daearyddol a chymdeithasol. Yn sgil y gwrthwynebiad ac, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, cynigiwn fod Allt Melyd yn aros ar ei phen ei hun fel adran etholiadol o 1,560 o etholwyr (rhagamcenir 1,633) yn ethol un aelod sy’n gyfystyr â 1,560 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 12% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig gan roi’r enw Prestatyn Allt Melyd iddi. Ynghylch y cynnig hwnnw, cynigiwn uno adrannau Prestatyn Canolog a Dwyrain Prestatyn â 5,895 o etholwyr (rhagamcenir 6,171) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 1,965 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 11% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Cynigiwn enwi’r adran hon yn Dwyrain Prestatyn. Bydd y cynnig hwn yn lleihau nifer y cynghorwyr o 5 i 4 ond mae’n golygu gwelliant o ran cydraddoldeb etholiadol.

Gogledd Prestatyn a De-orllewin Prestatyn

6.47 Mae adran etholiadol bresennol Gogledd Prestatyn yn cynnwys wardiau’r Gogledd (3,269 o etholwyr, rhagamcenir 3,422) a’r Gogledd-orllewin (1,398 o etholwyr, rhagamcenir 1,463) yng Nghymuned Prestatyn, cyfanswm o 4,667 o etholwyr (rhagamcenir 4,885) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 1,556 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 2% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Mae adran etholiadol bresennol De-orllewin Prestatyn yn cynnwys ward De-orllewin yng Nghymuned Prestatyn, 2,833 o etholwyr (rhagamcenir 2,966) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,417 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 10% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno adrannau etholiadol presennol Gogledd Prestatyn a De-orllewin Prestatyn i ffurfio adran etholiadol o 7,500 o etholwyr (rhagamcenir 7,851) a gynrychiolir gan 4 cynghorydd sy’n gyfystyr â 1,875 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 1% yn uwch na chyfartaledd sirol y cynnig drafft, sef 1,856.

6.48 Ni dderbyniwyd unrhyw gynrychiolaethau naill ai’n cefnogi neu’n gwrthwynebu’r cynigion. Felly, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, cynigiwn fod y cynnig drafft yn mynd yn ei flaen a bod adrannau etholiadol presennol Gogledd Prestatyn a De-orllewin Prestatyn yn uno i ffurfio adran etholiadol o 7,500 o etholwyr (rhagamcenir 7,851) a gynrychiolir gan 4 cynghorydd sy’n gyfystyr â 1,875 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 6% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,768 o etholwyr fesul cynghorydd. Cynigiwn yr enw Gorllewin Prestatyn ar gyfer yr adran hon. Bydd y cynnig hwn yn lleihau nifer y cynghorwyr o 5 i 4 ond mae’n golygu gwelliant o ran cydraddoldeb etholiadol.

Adrannau Etholiadol y Rhyl (Dwyrain y Rhyl, De y Rhyl, De-ddwyrain y Rhyl, De- orllewin y Rhyl a Gorllewin y Rhyl)

6.49 Mae adran etholiadol bresennol Dwyrain y Rhyl yn cynnwys wardiau Brynhedydd (1,634 o etholwyr, rhagamcenir 1,710) a Phlastirion (2,125 o etholwyr, rhagamcenir 2,224) yng Nghymuned y Rhyl, cyfanswm o 3,759 o etholwyr (rhagamcenir 3,934) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,880 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 19% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Mae adran etholiadol bresennol De y Rhyl yn cynnwys ward Derwen yng Nghymuned y Rhyl, 3,084 o

- 27 - 

etholwyr (rhagamcenir 3,228) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,542 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 2% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Mae adran etholiadol bresennol De-ddwyrain y Rhyl yn cynnwys wardiau Trellewellyn (2,587 o etholwyr, rhagamcenir, 2,936) a Thŷ Newydd (3,384 o etholwyr, rhagamcenir, 3,546) yng Nghymuned y Rhyl, cyfanswm o 5,974 o etholwyr (rhagamcenir 6,482) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 1,991 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 26% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Mae adran etholiadol bresennol De-orllewin y Rhyl yn cynnwys wardiau’r Cefndy (2,303 o etholwyr, rhagamcenir 2,411) a Phendyffryn (1,280 o etholwyr, rhagamcenir 1,340) yng Nghymuned y Rhyl, cyfanswm o 3,583 o etholwyr (rhagamcenir 3,751) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,792 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 13% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580. Mae adran etholiadol bresennol Gorllewin y Rhyl yn cynnwys wardiau Bodfor (1,679 o etholwyr, rhagamcenir 1,758) a’r Foryd (1,827 o etholwyr, rhagamcenir 2,101) yng Nghymuned y Rhyl, cyfanswm o 3,506 o etholwyr (rhagamcenir 3,859) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,753 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 11% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,580.

6.50 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft cynigiasom uno wardiau Brynhedydd (1,634 o etholwyr, rhagamcenir 1,710), Plastirion (2,125 o etholwyr, rhagamcenir 2,224) a Thŷ Newydd (3,384 o etholwyr, rhagamcenir 3,546) yng Nghymuned y Rhyl i ffurfio adran etholiadol o 7,146 o etholwyr (rhagamcenir 7,480), a gynrychiolir gan 4 cynghorydd, sy’n gyfystyr â 1,787 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 4% yn is na chyfartaledd sirol y cynnig drafft, sef 1,856. Cynigiasom uno wardiau Pendyffryn (1,280 o etholwyr, rhagamcenir 1,340) a Threllewellyn (2,587 o etholwyr, rhagamcenir 2,936) yng Nghymuned y Rhyl i ffurfio adran etholiadol o 3,867 o etholwyr (rhagamcenir 4,276) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,934 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 4% yn uwch na chyfartaledd sirol y cynnig drafft, sef 1,856. Cynigiasom uno wardiau’r Cefndy (2,303 o etholwyr, rhagamcenir, 2,411) a Derwen (3,084 o etholwyr, rhagamcenir, 3,228) yng Nghymuned y Rhyl i ffurfio adran etholiadol o 5,387 o etholwyr (rhagamcenir 5,639) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 1,796 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 3% yn is na chyfartaledd sirol y cynnig drafft, sef 1,856. Cynigiasom beidio â newid y trefniadau etholiadol ar gyfer Gorllewin y Rhyl er i ni gynnig newid enw fel ei fod yn cyfateb i’r enwau arfaethedig ar gyfer adrannau etholiadol eraill y Rhyl.

6.51 Ni dderbyniasom unrhyw gynrychiolaethau naill ai’n cefnogi neu’n gwrthwynebu’r cynigion. Fodd bynnag, ailystyriasom y trefniadau etholiadol ar gyfer yr ardal hon ac rydym o’r farn y gellid cael cydraddoldeb etholiadol gwell ac adrannau etholiadol llai drwy rannu adran Gogledd-ddwyrain y Rhyl a nodir yn y cynnig drafft yn ddwy ran. Cynigiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus uno wardiau Brynhedydd a Phlastirion yng Nghymuned y Rhyl i ffurfio adran etholiadol o 3,759 o etholwyr (rhagamcenir 3,934) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,880 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 6% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,768. Cynigiwn yr enw Gogledd-ddwyrain y Rhyl ar gyfer yr adran etholiadol hon. Yn ogystal, cynigiwn hefyd fod ward Tŷ Newydd yng Nghymuned y Rhyl yn adran etholiadol yn ei rhinwedd ei hun â 3,387 o etholwyr (rhagamcenir 3,546) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd councillors sy’n gyfystyr â 1,694 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 4% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,768. Cynigiwn yr enw Rhyl Tŷ Newydd ar gyfer yr adran etholiadol hon.

- 28 - 

Crynodeb o’r Trefniadau Arfaethedig

6.52 Mae’r trefniadau etholiadol arfaethedig (fel y dangosir yn Atodiad 3) yn darparu lefel o gydraddoldeb sydd yn amrywio o fod 24% yn is i fod 23% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,768 o etholwyr fesul cynghorydd (yn seiliedig ar y ffigurau etholiadol cyfredol). Mae’r lefelau cynrychiolaeth mewn 8 o’r adrannau etholiadol dros 10% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol cyfredol, sef 1,768 o etholwyr fesul cynghorydd ac mae’r lefelau cynrychiolaeth yn y 16 (67%) adran etholiadol sy’n weddill o dan 10% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol cyfredol, sef 1,768 o etholwyr fesul cynghorydd. Drwy gymharu hynny â’r trefniadau etholiadol presennol (a ddangosir yn Atodiad 2) mae’r lefel cydraddoldeb yn amrywio o fod 40% yn is i fod 26% yn uwch na’r cyfartaledd presennol ar gyfer y sir, sef 1,580 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae’r lefelau cynrychiolaeth mewn dwy adran etholiadol (7%) dros 25% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol cyfredol, sef 1,580 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae’r lefelau cynrychiolaeth mewn 17 (57%) o adrannau etholiadol rhwng 10% a 25% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol cyfredol, sef 1,580 o etholwyr fesul cynghorydd ac mae lefelau cynrychiolaeth yr 11 (36%) adran etholiadol sy’n weddill yn llai na 10% yn uwch neu’n is cyfartaledd sirol cyfredol, sef 1,580 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.53 Wrth baratoi cynllun o drefniadau etholiadol, mae angen ystyried sawl mater yn y ddeddfwriaeth, yn ogystal â Chyfarwyddyd y Gweinidog. Yn aml, nid oes modd datrys pob un o’r materion hyn sy’n gwrthdaro weithiau, oherwydd y gofyniad i ddefnyddio’r cymunedau a’r wardiau cymunedol cyfredol fel sylfeini adeiladu’r adrannau etholiadol, yn ogystal ag ystyried lefel amrywiol y gynrychiolaeth yn yr ardaloedd hyn ar hyn o bryd. Yn ein cynllun arfaethedig, rydym wedi rhoi pwyslais ar wella cydraddoldeb etholiadol, gan symud tuag at gael pob cynghorydd i gynrychioli 1,750 o etholwyr yn ogystal â chadw adrannau etholiadol un aelod lle bo’n bosibl. Rydym yn sylweddoli y byddai creu adrannau etholiadol sy’n wahanol i’r patrwm a geir ar hyn o bryd yn amharu’n anochel ar y ‘cysylltiadau’ sefydledig rhwng cymunedau, ac y gallai wahanu ardaloedd cynghorau cymuned. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr adrannau etholiadol newydd yn cyd-fynd â chyfuniadau synhwyrol yng Nghymunedau a wardiau cymunedol cyfredol. Rydym wedi edrych ar bob un o’r ardaloedd hyn, ac rydym yn derbyn y byddai’n anodd cyflawni’r trefniadau etholiadol sy’n cadw at y cyfuniad cyfredol yng Nghymunedau a wardiau cymunedol mewn adrannau etholiadol unigol, heb amharu ar un o leiaf o’r materion eraill y mae’n rhaid i ni eu hystyried.

7. CYNIGION

7.1 Cynigiwn gyngor yn cynnwys 42 o aelodau a 25 o adrannau etholiadol fel y nodir yn Atodiad 3. At ddibenion cymharu, nodir y trefniadau etholiadol presennol ar gyfer y Sir yn Atodiad 2. Mae llinellau melyn parhaus ar y map yn dangos ffiniau’r adrannau etholiadol arfaethedig ac mae’r map wedi’i gynnwys yn yr adroddiad hwn a gedwir yn Swyddfeydd Cyngor Sir Ddinbych ac yn swyddfa’r Comisiwn yng Nghaerdydd.

- 29 - 

8. CYDNABYDDIAETHAU

8.1 Dymunwn ddatgan ein diolchgarwch i’r prif gyngor ac i’r holl gynghorau cymuned am eu cymorth yn ystod yr arolwg hwn ac i bob sefydliad ac unigolyn a gyflwynodd gynrychiolaethau i ni.

9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

9.1 Wedi cwblhau ein harolwg o Sir Ddinbych a chyflwyno’r argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch trefniadau etholiadol y prif awdurdod ar gyfer y dyfodol, rydym wedi cyflawni’n rhwymedigaeth statudol yn unol â’r cyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

9.2 Gwaith Llywodraeth Cynulliad Cymru, os gwêl yn dda, yw eu derbyn naill ai fel y’u cyflwynwyd gan y Comisiwn neu eu newid ac os bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn penderfynu gweithredu’r cynigion hyn â newidiadau, gall gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal arolwg pellach.

9.3 Dylid cyfeirio unrhyw gynrychiolaethau pellach ynghylch materion a gynhwysir yn yr adroddiad at Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dylid cyflwyno unrhyw gynrychiolaethau cyn gynted ag y bo modd a beth bynnag nid hwyrach na chwe wythnos o ddyddiad cyflwyno argymhellion y Comisiwn i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dylid cyfeirio cynrychiolaethau at:

Y Tîm Democratiaeth Yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ

MR P J WOOD (Cadeirydd)

Y PARCH. HYWEL MEREDYDD DAVIES BD (Dirprwy Gadeirydd)

Mr D J BADER (Aelod)

E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd) Awst 2010

- 30 - Atodiad 1

Rhestr o Dermau a Ddefnyddir yn y cyfarwyddyd

Arolwg lle mae’r Comisiwn yn adolygu ffiniau ardal Arolwg o Ffiniau llywodraeth leol

Gan fod gofyn bod cymunedau a (lle maent yn bodoli) wardiau Blociau adeiladu cymunedol sefyll mewn un adran etholiadol, cânt eu defnyddio fel blociau adeiladu ar gyfer yr adrannau etholiadol

Comisiwn Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru

Maint y cyngor Nifer y cynghorwyr a etholir i’r cyngor

Cyfarwyddiadau a roddwyd i’r Comisiwn gan y Llywodraeth o Cyfarwyddiadau dan Adran 59 Deddf 1972

Faint o gynghorwyr y dylid eu cael ar gyngor ardal llywodraeth Trefniadau leol, y rhannau y dylid rhannu’r ardal iddynt at bwrpas ethol etholiadol cynghorwyr, nifer y cynghorwyr ar gyfer pob adran etholiadol, ac enw’r ardal etholiadol

Adrannau Yr adrannau y caiff prif adrannau eu rhannu iddynt at bwrpas etholiadol ethol cynghorwyr, a elwir weithiau’n wardiau ar lafar

Arolwg lle mae’r Comisiwn yn ystyried trefniadau etholiadol ar Arolwg etholiadol gyfer ardal llywodraeth leol

Nifer y bobl sydd â’r hawl i bleidleisio mewn ardal llywodraeth Yr etholwyr leol

Llywodraeth Llywodraeth Cynulliad Cymru

Unigolyn neu gorff sydd â diddordeb yng nghanlyniadau adolygiad etholiadol fel y prif gyngor dan sylw, Aelodau Y rhai â diddordeb Seneddol lleol a phleidiau gwleidyddol, a chynghorau cymuned a thref

Adran etholiadol mewn prif ardal a gynrychiolir gan fwy nag un Adran aml-aelod cynghorydd

Gorchymyn a wneir gan y Llywodraeth sy’n gweithredu Gorchymyn cynigion y Comisiwn, naill fel y’u cyflwynwyd neu wedi’u haddasu Atodiad 1

Prif ardal Ardal a lywodraethir gan brif gyngor: yng Nghymru, Sir neu Fwrdeistref Sirol

Prif gyngor Yng Nghymru, un o’r awdurdodau unedol: Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol

Ymatebydd Corff neu unigolyn sy’n ymateb i ymgynghoriad y Comisiwn drwy wneud cynrychiolaethau neu gynnig cynigion amgen

Rheolau Rheolau y bydd y Comisiwn yn eu dilyn wrth ystyried trefniadau etholiadol, a osodir allan yn Atodlen 11 Deddf 1972

Adran un aelod Adran etholiadol prif awdurdod a gynrychiolir gan un cynghorydd

Deddf 1972 Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1994

Deddf 1994 Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994

Prif gyngor - un haen o lywodraeth leol, sy’n gyfrifol am yr holl swyddogaethau llywodraethol (neu bron pob un ohonynt) yn ei Awdurdod Unedol ardal; a gymerodd le system dwy haen cynghorau sir a chynghorau dosbarth yng Nghymru: Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol

SIR DDINBYCH Atodiad 2 AELODAETH BRESENNOL O'R CYNGOR Tudalen 1

% % NIFER O'R ETHOLWYR CYMHARE amrywiaeth ETHOLWYR CYMHARE amrywiaeth Rhif ENW DISGRIFIAD GYNGHORWYR 2009 B 2009 o gymharu 2014 B 2014 o gymharu â chyfartaledd y â chyfartaledd Sir y Sir 1 Bodelwyddan Cymuned Bodelwyddan 1 1,651 1,651 5% 1,728 1,728 4% 2 Corwen Cymuned Corwen 1 1,889 1,889 20% 1,927 1,927 16% Ward Ganolog o Gymuned 3 1 1,443 1,443 -9% 1,511 1,511 -9% Canol Dinbych Dinbych 4 Dinbych Isaf Ward Isaf o Gymuned Dinbych 2 3,503 1,752 11% 3,667 1,834 10% Dinbych Uchaf/ Ward Uchaf o Gymuned Dinbych 5 2 2,515 1,258 -20% 2,823 1,412 -15% Henllan a Chymuned Henllan 6 Diserth Cymuned Diserth 1 1,861 1,861 18% 1,948 1,948 17% Cymunedau Betws Gwerful Goch, 7 Clocaenog, Derwen ac 1 1,290 1,290 -18% 1,316 1,316 -21% Efenechdyd Efenechdyd Llanarmon-yn- Cymunedau Llanarmon-yn-Iâl, 8 1 1,927 1,927 22% 1,965 1,965 18% Iâl/Llandegla Llandegla and Llanferres Llanbedr Dyffryn Cymunedau Llanbedr Dyffryn 9 Clwyd/ 1 1,216 1,216 -23% 1,240 1,240 -25% Clwyd a Llangynhafal Llangynhafal 10 Llandrillo Cymunedau Cynwyd a Llandrillo 1 952 952 -40% 971 971 -42% Cymunedau Aberchwiler, 11 1 1,685 1,685 7% 1,718 1,718 3% Llandyrnog Llandyrnog a Llanynys Cymunedau Bryneglwys, Llanfair Dyffryn 12 Gwyddelwern, Llanelidan a 1 1,856 1,856 18% 1,894 1,894 14% Clwyd/ Llanfair Dyffryn Clwyd Gwyddelwern Cymunedau Llangollen a 13 2 3,347 1,674 6% 3,495 1,748 5% Llangollen Llandysilio Cymunedau Cyffylliog, Atodiad 2 14 Llanrhaeadr-yng- Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch a 1 1,534 1,534 -3% 1,564 1,564 -6% Nghinmeirch Nantglyn Prestatyn Allt Ward Allt Melyd o Gymuned 15 1 1,560 1,560 -1% 1,633 1,633 -2% Melyd Prestatyn Ward Ganolog o Gymuned 16 2 2,778 1,389 -12% 2,908 1,454 -13% Canol Prestatyn Prestatyn Dwyrain Ward Dwyrain o Gymuned 17 2 3,117 1,559 -1% 3,263 1,632 -2% Prestatyn Prestatyn Gogledd Wardiau'r Gogledd a'r Gogledd 18 3 4,667 1,556 -2% 4,885 1,628 -2% Prestatyn Orllewin o Gymuned Prestatyn SIR DDINBYCH Atodiad 2 AELODAETH BRESENNOL O'R CYNGOR Tudalen 2

% % NIFER O'R ETHOLWYR CYMHARE amrywiaeth ETHOLWYR CYMHARE amrywiaeth Rhif ENW DISGRIFIAD GYNGHORWYR 2009 B 2009 o gymharu 2014 B 2014 o gymharu â chyfartaledd y â chyfartaledd Sir y Sir De Orllewin Ward y De Orllewin o Gymuned 19 2 2,833 1,417 -10% 2,966 1,483 -11% Prestatyn Prestatyn 20 Rhuddlan Cymuned Rhuddlan 2 2,960 1,480 -6% 3,099 1,550 -7% Wardiau'r Brynhedydd a Plastirion 21 2 3,759 1,880 19% 3,934 1,967 18% Dwyrain Y Rhyl o Gymuned Y Rhyl 22 De Y Rhyl Ward Derwen o Gymuned Y Rhyl 2 3,084 1,542 -2% 3,228 1,614 -3% De Ddwyrain Y Wardiau'r Ty Newydd a 23 3 5,974 1,991 26% 6,482 2,161 30% Rhyl Trellewelyn o Gymuned Y Rhyl De Orllewin Y Wardiau Pendyffryn a'r Cefndy o 24 2 3,583 1,792 13% 3,751 1,876 13% Rhyl Gymuned Y Rhyl Wardiau'r Foryd a'r Bodfor o 25 2 3,506 1,753 11% 3,859 1,930 16% Gorllewin Y Rhyl Gymuned Y Rhyl 26 Ruthun Cymuned Ruthun 3 4,202 1,401 -11% 4,614 1,538 -8% Ward y Dwyrain o Gymuned 27 1 1,337 1,337 -15% 1,438 1,438 -14% Dwyrain Llanelwy Llanelwy Gorllewin Ward y Gorllewin o Gymuned 28 1 1,339 1,339 -15% 1,402 1,402 -16% Llanelwy Llanelwy Cymunedau Cefnmeiriadog a 29 1 1,566 1,566 -1% 1,631 1,631 -2% Trefnant Threfnant Cymunedau Bodfari, Y Cwm, 30 Tremeirchion Tremeirchion a'r Waun 1 1,305 1,305 -17% 1,332 1,332 -20% CYFANSYMIAU: 47 74,239 1,580 78192 1,664 Y gymhareb yw nifer yr etholwyr i bob cynghorydd Cyflwynwyd y ffigurau ar gyfer nifer yr etholwyr gan Gyngor Sir Ddinbych

2009 2014 Mwy na + neu - 50% o gyfartaledd y Sir 0 0% 0 0% 2 Atodiad Rhwng + neu - 25% a + neu - 50% o gyfartaledd y Sir 2 7% 3 10% Rhwng + neu- 10% a + neu- 25% o gyfartaledd y Sir 17 57% 15 50% Rhwng 0% a + neu - 10% o gyfartaledd y Sir 11 37% 12 40% AELODAETH ARFAETHEDIG CYNGOR SIR DDINBYCH Atodiad 3

% amrywiaeth o % amrywiaeth o Nifer Nifer NIFER CYMHAREB gymharu â NIFER CYMHAREB gymharu â Rhif ENW DISGRIFIAD Cynghorwyr Cynghorwyr ETHOLWYR 2009 2009 chyfartaledd y ETHOLWYR 2014 2014 chyfartaledd y 2009 2014 sir sir

1 Cymunedau Cefn Meiriadog 337 (344), Cwm 260 (265), Henllan 678 (710), Trefnant 2 3,549 1,775 0% 2 3,673 1,837 -1% Bach y Graig 1,229 (1,227), Waun 185 (189), Tremeirchion 581 (593) a Bodfari 279 (285) 2 Bodelwyddan Cymuned Bodelwyddan 1 1,651 1,651 -7% 1 1,728 1,728 -7% 3 Dinbych Canolog Ward Ganolog Cymuned Dinbych 1 1,443 1,443 -18% 1 1,511 1,511 -19% 4 Dwyrain Dinbych Ward Isaf Cymuned Dinbych 2 3,503 1,752 -1% 2 3,667 1,834 -2% 5 Gorllewin Dinbych Ward Uchaf Cymuned Dinbych 1 1,837 1,837 4% 1 2,113 2,113 13%

6 Cymunedau Llandegla 424 (432), Llanarmon-yn-Iâl 903 (921) a Bryneglwys 289 1 1,616 1,616 -9% 1 1,648 1,648 -11% Dyffryn Clwyd Isaf (295)

7 Dyffryn Clwyd Cymunedau Llanbedr Dyffryn Clwyd 700 (714), Llanferres 600 (612) a Llangynhafal 1 1,816 1,816 3% 1 1,852 1,852 -1% Uchaf 516 (526) 8 Diserth Cymuned Diserth 1 1,861 1,861 5% 1 1,948 1,948 5%

9 Cymunedau Llandrillo 490 (500), Cynwyd 462 (471), Corwen 1,889 (1,927), Betws 2 3,517 1,759 -1% 2 3,588 1,794 -4% Edeyrnion Gwerfil Goch 251 (256) a Gwyddelwern 425 (434)

10 Cymunedau Clocaenog 196 (200), Derwen 352 (359), Efenechdyd 490 (501), 1 2,181 2,181 23% 1 2,225 2,225 20% Gorllewin Clwyd Llanfair Dyffryn Clwyd 891 (909) a Llanelidan 251 (256)

11 Llandyrnog Cymunedau Aberchwiler 273 (278), Llandyrnog 847 (864) a Llanynys 565 (576) 1 1,685 1,685 -5% 1 1,718 1,718 -8% 12 Llangollen Cymunedau Llangollen 3,018 (3,159) a Llandysilio 329 (336) 2 3,347 1,674 -5% 2 3,495 1,748 -6%

13 Llanrhaedr-yng- Cymunedau Nantglyn 272 (277), Llanrhaedr-yng-Nghinmeirch 855 (872) a Chyfylliog 1 1,534 1,534 -13% 1 1,564 1,564 -16% Nghinmeirch 407 (415)

14 Wardiau Canolog (2,778 (2,908) a'r Dwyrain 3,117 (3,263) yng Nghymuned 3 5,895 1,965 11% 3 6,171 2,057 10% Dwyrain Prestatyn Prestatyn Prestatyn Allt 15 1 1,560 1,560 -12% 1 1,633 1,633 -12% Melyd Ward Allt Melyd yng Nghymuned Prestatyn

16 Gorllewin Wardiau'r Gogledd-orllewin 1,398 (1,463), Gogledd 3,269 (3,422) a'r De-orllewin 4 7,500 1,875 6% 4 7,851 1,963 5% Prestatyn 2,833 (2,966) yng Nghymuned Prestatyn 17 Rhuddlan Cymuned Rhuddlan 2 2,960 1,480 -16% 2 3,099 1,550 -17% Gogledd-ddwyrain Wardiau Plastirion 2,125 (2,224) a Brynhedydd 1,634 (1,710) yng Nghymuned y 18 2 3,759 1,880 6% 2 3,934 1,967 6% y Rhyl Rhyl Gogledd-orllewin y 19 2 3,506 1,753 -1% 2 3,859 1,930 4% Rhyl Wardiau Bodfor 1,679 (1,758) a'r Foryd 1,827 (2,101) yng Nghymuned y Rhyl

20 De-ddwyrain y Wardiau Trellewellyn 2,587 (2,936) a Phendyffryn 1,280 (1,340) yng Nghymuned y 2 3,867 1,934 9% 2 4,276 2,138 15% Rhyl Rhyl

21 3 5,387 1,796 2% 3 5,639 1,880 1% De-orllewin y Rhyl Wardiau'r Cefndy 2,303 (2,411) a Derwen 3,084 (3,228) yng Nghymuned y Rhyl 22 Rhyl Tŷ Newydd Ward Tŷ Newydd yng Nghymuned y Rhyl 2 3,387 1,694 -4% 2 3,546 1,773 -5% 23 Rhuthun Cymuned Rhuthun 2 4,202 2,101 19% 2 4,614 2,307 24% 24 Dwyrain Llanelwy Ward y Dwyrain yng Nghymuned Llanelwy 1 1,337 1,337 -24% 1 1,438 1,438 -23%

25 Gorllewin Llanelwy Ward y Gorllewin yng Nghymuned Llanelwy 1 1,339 1,339 -24% 1 1,402 1,402 -25% CYFANSYMIAU: 42 74,239 1,768 42 78,192 1,862

Y gymhareb yw nifer yr etholwyr i bob cynghorydd Cynhwysir nifer yr etholwyr ar gyfer 2009 a 2014 (mewn cromfachau) yn nisgrifiad yr adrannau etholiadol hynny sy'n cynnwys mwy nag un gymuned / ward gymunedol. Cyflwynwyd y ffigurau ar gyfer nifer yr etholwyr gan Gyngor Sir Ddinbych Atodiad 3

2009 2014 Mwy na + neu - 50% o gyfartaledd y Sir 00% 00% Rhwng + neu - 25% a + neu - 50% o gyfartaledd y Sir 00% 00% Rhwng + neu- 10% a + neu- 25% o gyfartaledd y Sir 9 36% 12 48% Rhwng 0% a + neu - 10% o gyfartaledd y Sir 16 64% 13 52%

Atodiad 4

12 Mai 2009

Cyfarwyddiadau ynglŷn ag Arolygon o Drefniadau Etholiadol

Rwy’n ymwybodol eich bod chi wedi cychwyn gwaith rhagarweiniol yn y cy lch o arolygon o drefniadau etholiadol ym mhob un o’r prif gynghorau. Mae cyflwyniadau a dderbyniais gan lywodraeth leol yn awgr ymu i mi eich bod chi efallai wedi dehongli fy nghyfarwyddiadau i fod yn fwy cyfarwyddol na’r rhai a gyhoeddwyd gan Ysgr ifennydd Gwladol Cy mru ym 1995 cyn y cylch adoly gu diwethaf. Rwyf eisiau ei gwneud hi’n eglur mai nid felly y mae.

Cyhoeddwyd y cyfarwyddiadau er arweiniad i chi ac ni ddylid eu hystyried yn orchmynion. Ar lawer cyfrif - yn neill tuol, mewn perthynas â’r ardaloedd s y’n addas ar gyfer adrannau ag aelodau lluosog a’r amserlen - roedd y cyfarwyddiadau diwethaf yn fwy cyfar wyddol ond mewn perthynas â mater canolog y gymhareb rhwng cynghorwyr ac etholwyr, mae’r ge iriad yn union debyg. Mae hyn yn golygu bod y gym hareb yn parhau fel nod i weithio tuag ato ac nid fel nod i’w gyflawni y m m hob achos. Wrth wneud hy n, dylid rhoi sylw i gymunedau lleol yn cael eu cynr ychiolwyr canfyddadwy eu hun, hy d yn oed ble nad yw’r ffigwr dangosol o 1,750 o etholwyr/cynghorydd bob amser yn gyraeddadwy.

Wrth gwrs, rwy’n cydnabod er 1995 rydy m wedi gweld cyflwy no trefniadau gweithredol neu amgen ymhlit h prif gynghorau, ac efallai byddant y n arwyddocaol o ran nifer y cynghorwyr sydd eu hangen i wneud cyngor y n hollol ymarferol. Hefyd cafodd c yfarwyddiadau 1995 eu cyf lwyno ar adeg pan oedd ad-drefnu’n digwydd, mewn awyrgylch gwleidyddol gwahanol i’r hyn sy’n bodoli nawr.

Yn olaf, hoffwn dynnu sylw at yr amodi ad yn Atodlen 11 Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid y styried yr angen i s efydlogi ffiniau sy ’n hawdd eu hadnabod ac sy’n cydnabod cysylltiadau’r gymuned leol.

Rwy’n dymuno’n dda i chi yn y broses adolygu.

Yn gywir

______

Cyfieithiad Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yw hwn o lythyr gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. Atodiad 5 CRYNODEB O’R CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

Cyflwynodd Cyngor Sir Ddinbych ymateb cyffredinol tra’n rhoi cyfle i aelodau unigol ymateb â’u cynrychiolaethau eu hunain. Mae’r Cyngor o’r farn nad yw’r cynigion yn bodloni’r amcan o sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.  Canolbwyntiodd y Cyngor ar yr hyn a feddyliwyd yn ymagwedd fathemategol yn unig heb ystyried cymunedau, cysylltiadau lleol, topograffeg a ffiniau hawdd eu hadnabod. Datganant fod gorddibyniaeth ar greu adrannau sy’n cyd-fynd â ffiniau seneddol presennol.  Maent yn pryderu ynghylch maint daearyddol yr adrannau arfaethedig.  Maent yn ymwybodol o’r dadleuon i uno ardaloedd gwledig anghysbell â rhai trefi sy’n fwy er mwyn cyflawni cydraddoldeb etholiadol, ond dylid ystyried cysylltiadau lleol.  Mae pryder ynghylch atal ystod ehangach o ymgeiswyr ac y byddai’n rhwystro ymgeiswyr ifanc sy’n gweithio a’r rhai hynny sydd ag ymrwymiadau teuluol rhag sefyll.

Mae Cyngor Tref Bodelwyddan yn gwrthwynebu’r cynigion am y rhesymau canlynol:  Mae nifer arfaethedig yr etholwyr ond 22 o etholwyr yn llai na’r lefel a argymhellir ac felly mae’n rhesymol i Fodelwyddan gael ei Gynghorydd Sir ei hun ar gyfer ei hardal ar sail rhagamcanion y Comisiwn Ffiniau.  O gymharu â hyn, mae’r Comisiwn Ffiniau wedi cydnabod hunaniaeth annibynnol ward Allt Melyd Prestatyn ac wedi argymell un cynghorydd. Mae nifer yr etholwyr arfaethedig yr ardal hon yn debyg i’r nifer ar gyfer Bodelwyddan ac, fel Bodelwyddan, mae’n ardal arbennig ond yn gyfagos i dref a’i chysylltu gan rwydwaith ffyrdd.  Mae gan ardal Bodelwyddan hunaniaeth ei hun sy’n wahanol i Lanelwy ac fe’u rhennir gan yr A55 nid eu cysylltu ganddi.  Mae’r Comisiwn Ffiniau wedi methu ystyried hefyd effaith bosibl y Cynllun Datblygu Lleol arfaethedig ar Fodelwyddan o ran cynyddu’r boblogaeth etholiadol. Gallai’r cynnydd yn y boblogaeth fod tua 3,540 o bobl ac mae cynnig bod Bodelwyddan yn safle allweddol ar gyfer datblygiad tai. Byddai hyn yn cynyddu nifer yr etholwyr a amcangyfrifir i 5286 a byddai angen 3 Chynghorydd Sir i gynrychioli’r ardal ar sail argymhellion y Comisiwn Ffiniau. Byddai Cymuned Bodelwyddan yn dod yn un o’r ardaloedd mwyaf poblog yn Sir Ddinbych.  Mae Cyngor Tref Bodelwyddan hefyd yn cefnogi barn Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Tref Llanelwy sy’n gwrthwynebu’r lleihad yn nifer y cynghorwyr.

Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Bodfari ynghylch y materion canlynol:  Bod y Cynghorydd yn cael ei dynnu o un man i’r llall ac nid yw ar gael/ nid yw’n weladwy yn lleol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.  Gallai’r llwyth gwaith ychwanegol, oherwydd ymdrin â mwy o etholwyr, atal gweithwyr proffesiynol rhag sefyll i gael eu hethol ar y cyngor.  Yn arbennig, mae mwy yn gyffredin rhwng Bodfari a’r cymunedau sydd yn yr un grŵp ar hyn o bryd.  Mae’n amheus a yw’r rhagamcanion ynghylch y boblogaeth yn gywir ar sail datblygiadau tai parhaus yn yr ardal.

Roedd Cyngor Cymuned Bryneglwys yn anfodlon iawn â’r cynigion ac mae am i’r adrannau etholiadol barhau fel y maent ar hyn o bryd. Roeddent yn teimlo, gan fod eu cynghorydd sir yn byw ac yn gweithio yn yr ardal, eu bod yn cael eu cynrychioli’n dda a’i fod yn ymwybodol o’r holl faterion lleol. Teimlant pe baent yn cael eu cynnwys mewn

- 1 - Atodiad 5 adran etholiadol fwy y byddent yn colli’r holl gynrychiolaeth ystyrlon. Teimlant y byddai Bryneglwys yn bentref anghofiedig pe bai’r cynigion yn mynd yn eu blaen.

Datganodd Cyngor Cymuned Cefn Meiriadog yr hoffent aros fel y maent gan y byddai’n golygu mwy o deithio i’r cynghorydd lleol a cholli’r gwasanaethau mwy personol. Ni fyddai nifer ddigonol o gynghorwyr ar gyfer cynrychioli ardaloedd gwledig.

Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Clocaenog i wrthwynebu’r cynigion drafft yn ymwneud â ward Gorllewin Clwyd gan fod aelodau’n teimlo ei bod yn ardal ormod o faint i’w chynrychioli a byddai’n anymarferol gan na fyddai gan yr aelodau'r amser na’r gallu i weithio dros bob un o’r naw ardal cyngor cymuned. Teimlai’r aelodau y dylid rhannu’r ward yn ddwy a chael un aelod ar gyfer bob rhan.

Roedd Corwen yn cefnogi’r bwriad o gael nifer debyg o etholwyr ym mhob adran etholiadol ar draws prif ardal. Fodd bynnag, awgrymant mewn ardaloedd gwledig iawn y dylid cael rhywfaint o benrhyddid. Maent yn mynnu bod y rheol yn datgan y dylai pob ward yng Nghymuned sydd â chyngor fod yn gyfan gwbl mewn un adran etholiadol, yn achos rhannu wardiau Corwen i uno â Llangollen a Llandrillo yn y drefn honno. Mae’n cyflwyno cynnig amgen, sef uno Corwen, Cynwyd, Llandrillo, , a Glyndyfrdwy â Betws Gwerfil Goch a Gwyddelwern i ffurfio adran 2 aelod. Datganant fod synergedd eisoes yn bodoli rhwng y cymunedau hyn yn seiliedig ar ddiwylliant a hanes. Cyn 1974 rheolwyd y gymuned gan gyngor dosbarth gwledig Edeyrnion.

Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Cyffylliog i wrthwynebu’r cynigion drafft yn ymwneud â ward Gorllewin Clwyd. Mae aelodau’r cyngor cymuned yn cytuno’n gryf â barn y Cynghorydd Paul Marfleet fel y’i nodir yn ei lythyr cynrychiolaeth ac yn ei chefnogi.

Penderfynodd Cyngor Tref Dinbych wrthwynebu’r cynigion ar gyfer wardiau Canolog ac Uchaf Dinbych am y rhesymau canlynol:  Roedd y cynnig i leihau nifer y cynghorwyr sir i 40 yn anymarferol ac nid yn ddichonadwy.  Ni fyddai’r cynigion yn gwneud dim o ran annog pobl ifanc i sefyll fel ymgeiswyr.  Mae’r amserlen waith frysur sy’n bodoli ar gyfer aelodau etholedig yn atal pobl ifanc rhag sefyll mewn etholiad.  Byddai ychwanegu Dinbych Canolog at Ddinbych Uchaf a Henllan yn cynyddu’r llwyth gwaith i 2 aelod a byddai’r gwahaniaethau sy’n bodoli yn y ddwy ward yn ormod i 2 aelod ymdopi â hwy.  Byddai cynrychioli’r ward Canolog yn ogystal â’r ward Uchaf a Henllan yn dasg rhy anodd o ystyried y cyfuniad o brif ardal manwerthu ac ardal breswyl fawr yn y dref a chymuned Henllan.  Teimlai aelodau nad ystyriwyd nifer o ffactorau.  Mae’r drefn bresennol o gynnwys Henllan â Dinbych Uchaf yn effeithio ar Ddinbych Uchaf o ran colli nifer o gyfleoedd ariannu.  Byddai Henllan yn cael ei gynrychioli’n well drwy gael ei uno â ward wledig arall fel Cefn Meiriadog.

Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Derwen i wrthwynebu’r cynigion drafft yn ymwneud â ward Gorllewin Clwyd. Teimlai aelodau’r cyngor fod yr ardal yn ormod o faint i ddau gynghorydd ward ei chynrychioli. Awgrymant os byddai’r newid yn digwydd, yna dylai’r ymgeiswyr ar gyfer y ward breswylio yn ardal y ward, sef yr un rheol ar gyfer aelod yn dod yn gynghorydd cymuned.

- 2 - Atodiad 5 Nid yw Cyngor Cymuned Efenechdyd yn teimlo yr ystyriwyd y cysylltiadau daearyddol, cymunedol a chymdeithasol rhwng cymunedau yn ddigonol. Oherwydd y cysylltiadau rhwng Efenechdyd a Llanfair Dyffryn Clwyd cynigiant fod Llanfair Dyffryn Clwyd yn ymuno ag adran arfaethedig Gorllewin Clwyd. Nid oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad i Lanelidan, Gwyddelwern a Chyffylliog ymuno i ffurfio Gorllewin Clwyd. Fodd bynnag, awgrymant y byddai gan Nantglyn a Llanrhaeadr gysylltiadau gwell â chymunedau eraill fel Gorllewin Dinbych a Henllan a Llandyrnog. Awgrymasant hefyd y gallai Gorllewin Clwyd gynnwys Betws Gwerfil Goch, Clocaenog, Cyffylliog, Derwen, Efenechdyd, Gwyddelwern, Llanelidan a Llanfair Dyffryn Clwyd gan fod cysylltiadau daearyddol, cymunedol a chymdeithasol cryf rhyngddynt.

Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Henllan i wrthwynebu’r cynnig drafft o gael ei uno â Thref Dinbych a theimlai y byddai’n fwy derbyniol i fod yn ward Bach y Graig gyda chymunedau pentrefol eraill.

Anfonodd Cyngor Cymuned Llandrillo y sylwadau canlynol:  Nid oes angen newid y ffiniau o gwbl gan adael Cyngor Cymuned Llandrillo a Chyngor Cymuned Cynwyd fel y maent, sef Ward Llandrillo.  Os oes newidiadau, gofynnwn i chi adael y ffiniau fel yr oeddent yn y gorffennol - sef cyn-ffiniau Edeyrnion.  Carrog a Glyndyfrdwy i aros gydag Edeyrnion yn lle cael eu symud i Ward Llangollen. Nid oes unrhyw reswm pam y dylid trosglwyddo Carrog a Glyndyfrdwy i Langollen - yn hanesyddol ac yn ddaearyddol mae’r ddau yn rhan o Edeyrnion - rhan o’r hen Sir Feirionnydd.  Mae angen cadw Cynghorau Gwyddelwern a Melin y Wig gydag Edeyrnion.  Cael dau gynghorydd i gynrychioli Edeyrnion.  Gadael popeth fel y mae ar hyn o bryd.

Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llanelidan i wrthwynebu’r cynnig drafft o gael Llanelidan yn ward Gorllewin Clwyd gan y byddai’r ward wledig yn rhy fawr ac anymarferol a theimlent yn gryf y dylai’r drefn bresennol barhau.

Syfrdanwyd Cyngor Cymuned Llanfair Dyffryn Clwyd wrth ddarllen cynigion y Comisiwn a’u prif bryder oedd y byddai cynrychiolaeth drefol yn goresgyn cymunedau gwledig. Mae rhan fwyaf o ardal y Cyngor Cymuned yn amaethyddol ac nid oes unrhyw gydweddoldeb rhyngddi â’i chymdogion trefol. Pe bai’r cynigion yn cael eu gorfodi, hoffai’r cyngor gael ei sicrhau y byddai uno’r seddau gwag yn cael eu dyrannu i’w hardal hwy er eu bod yn sylweddoli y byddai hyn yn annhebygol o ddigwydd. Mae’r cyngor cymunedol yn gwrthwynebu’r cynigion ac mae am gadw’r drefn bresennol er mwyn i gynrychiolaeth wledig barhau.

Cyfyngodd Cyngor Tref Llangollen ei sylwadau i’r cynigion yn ymwneud â Chorwen a Llangollen. Nid yw’r cyngor yn cytuno â’r cynnig i gynnwys ward Isaf Cymuned Corwen â Llangollen. Mae’n datgan bod gan Garrog a Glyndyfrdwy gysylltiadau mwy naturiol a diwylliannol â Chorwen yn hytrach na gyda Llangollen a theimla’r cyngor y dylid cael ateb yn ardaloedd Corwen a Llandrillo. Mae’r cyngor hefyd yn gwrthwynebu’n gryf yr enw arfaethedig, sef Glyn Dyfrdwy gan awgrymu y dylid cadw enw Llangollen waeth beth fo’r newidiadau a wnaed yn yr ardal.

Datganodd Cyngor Cymuned Llangynhafal na allai gefnogi’r cynigion yn ymwneud â’i gymuned a’u bod yn teimlo bod cynrychiolaeth un aelod yn bwysig i adrannau gwledig i sicrhau bod y berthynas ac atebolrwydd rhwng y cyhoedd a’r cynghorydd yn cael eu

- 3 - Atodiad 5 cynnal. Maent yn gwrthwynebu’r cynnig aml-aelod. Datganant fod gan eu cymuned gysylltiadau cryf â Rhuthun a Dinbych a bod gan gymunedau eraill sydd i’w cynnwys yn yr adran etholiadol newydd fwy yn gyffredin â’r Wyddgrug yn Sir y Fflint a Wrecsam. Awgrymant y dylid uno Llangynhafal â chymunedau yn Nyffryn Clwyd yn unig fel Llanbedr a Llanynys.

Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llanrhaeadr YC i wrthwynebu’r cynigion drafft yn ymwneud â ward Gorllewin Clwyd. Teimlai aelodau’r cyngor y dylid rhoi’r enw Gorllewin Dinbych ar y ward gan nad yw Sir Clwyd yn bodoli bellach ond mae Sir Ddinbych yn bodoli ac mae gan gymuned Llanrhaeadr YC fwy o gysylltiadau â ward Llandyrnog.

Datganodd Cyngor Cymuned Llandysilio ei fod o ran egwyddor yn cefnogi’r cynnig i leihau nifer yr aelodau etholedig ond bod ganddo bryderon ynghylch y newidiadau arfaethedig i’r adrannau etholiadol. Mae gan Landysilio gysylltiadau cryf â Glyndyfrdwy a Chorwen ac nid oes ganddo unrhyw wrthwynebiad i gael ei uno â Chorwen er nad yw’n gweld y doethineb o uno ward Isaf Corwen â Llangollen. Mae gan y cyngor wrthwynebiadau cryf i gael ei enwi yn Glyn Dyfrdwy ac awgryma Cwm Dyfrdwy yn lle hynny. Fel un o’r ardaloedd gwledig mwyaf yn y sir, mae’r gymuned yn pryderu am golli ei hunaniaeth â Ffin Llangollen. Er nad oes unrhyw wrthwynebiad ganddynt barhau i fod yn adran etholiadol Llangollen, gobeithir y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried hynny pan gyflwynir y Cynigion terfynol.

Datganodd Cyngor Tref Prestatyn ei fod wedi ystyried y cynigion ac wedi gwrthwynebu’r cynigion ynghylch Prestatyn ac Allt Melyd yn unfrydol fel a ganlyn:  Byddai’r cynigion yn arwain at gynnydd o ran llwyth gwaith ac yn atal unigolion rhag sefyll mewn etholiad. Gallai wardiau etholiadol mawr eu maint achosi anhawster i gynghorwyr unigol nad ydynt yn perthyn i blaid.  Byddai cymuned Allt Melyd yn colli ei hunigolrwydd a’i llais ei hun.  Dylai unrhyw gynnig i wella blaenoriaeth gynrychiolaethol gael ei wneud ar y cyd ag arolwg o ffiniau etholiadol y Sir.

Ysgrifennodd Cyngor Tref Llanelwy i ddatgan er bod aelodau yn deall sut y penderfynodd y Comisiwn ynghylch ei gynigion, teimlant nid ystyriwyd:-  Yr 'ysbryd cymuned' sy’n berthnasol i’r ddwy adran yr effeithir arnynt, h.y. Llanelwy a Bodelwyddan - y ddwy yn gymunedau gweddol fawr yn eu rhinwedd eu hunain, gyda’u hanghenion eu hunain a chynrychiolaeth briodol ac  Effaith Cynllun Datblygu Lleol y Cyngor Sir yn ystod y 15 blynedd nesaf, sydd, yn rhannol, yn cynnig cynyddu’r stoc dai ar gyfer Bodelwyddan tua 2,000 o anheddau, [ynghyd â chynnydd cymedrol ar gyfer Llanelwy] a fyddai yn ôl cyfrifiad y Comisiwn ei hun yn golygu dau gynrychiolydd ar gyfer Bodelwyddan, yn ogystal â’r ddau ar gyfer Llanelwy.  Mae’n awgrymu felly cadw’r drefn bresennol ar gyfer Cymuned Llanelwy.

Ystyriodd Cyngor Cymuned Trefnant y byddai’r cynigion i leihau nifer y cynghorwyr mewn ardaloedd gwledig yn gwanhau llais mewn cymunedau gwledig. Byddai cymunedau gwledig yn cael eu tangynrychioli ar y Cyngor Sir gan fod ardaloedd trefi arfordirol yn cadw eu nifer uchel o seddau.

Tynnodd Cyngor Cymuned Tremeirchion, Cwm a’r Waun sylw at y canlynol:  Pe cysylltir Cwm a’r Waun â chyngor trefol fel Rhuddlan yna’r canlyniad byddai statws a hunaniaeth wledig y cymunedau hynny yn cael eu colli am byth. Mae anghenion

- 4 - Atodiad 5

 Mae cynghorwyr yn ystyriol bod y cyngor cymuned yn unigryw o ran ei fod yn cynnwys mwy nag un ward a byddai'n cael ei ddifreinio yn y dyfodol os byddant yn penderfynu uno yn 1 ward.  Gofynnant am ystyried uno’r wardiau gwledig yn unig fel Tremeirchion, Cwm, y Waun, Bodfari ac Aberchwiler neu fel arall Cwm, y Waun Tremeirchion a Threfnant er mwyn i’r gymuned gadw eu statws gwledig.

Ysgrifennodd Eleanor Burnham AC dros Ogledd Cymru i leisio pryderon a gyflwynwyd iddi gan ei hetholwyr a chynghorwyr yn Sir Ddinbych fel a ganlyn:  Mae’n rhagosodiad ffug i ad-drefnu ffiniau gan ei fod yn gelyniaethu etholwyr.  Mae’n drysu’r etholwyr os oes mwy nag un cynghorydd yn cynrychioli ward.  Lol yw rhannu wardiau presennol heb asesu’r cysylltiadau diwylliannol, e.e. rhwng Llangollen a Chorwen.  Nid yw cynyddu pellter teithio i gynghorwyr yn effeithlon gan ei fod yn ychwanegu at eu llwyth gwaith ac yn lleihau cyswllt priodol ystyrlon.

Ysgrifennodd y Cynghorydd W. L. Cowie (Gorllewin Llanelwy) ynghylch y cynnig i uno Bodelwyddan a Llanelwy. Tynnodd sylw at y ffaith fod y Cynllun Datblygu Lleol a oedd yn cael ei lunio ar hyn o bryd yn cynnig y byddai hyd at 2,000 o dai ychwanegol ym Modelwyddan a chynnydd mewn cyflogaeth tir. Anghytunai â’r awgrym y gallai 2 gynghorydd gynrychioli beth fyddai mewn gwirionedd yn ddwy dref wahanol a gofynnodd i’r Comisiwn ailystyried y cynnig.

Nid yw’r Cynghorydd Janet Ann Davies (Rhuddlan) yn cefnogi’r cynnig i uno Rhuddlan â’r Waun, , Tremeirchion a Chwm gan ei bod yn teimlo nad oedd hyn yn fuddiol i ardaloedd gwledig. Roedd o’r farn na fyddai uno Rhuddlan â’r Waun yn dderbyniol. Gwrthwynebai’r enw arfaethedig Twt Hill gan gynnig yr enw Bro Rhuddlan yn ei le.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Bobby Feeley (Rhuthun) i fynegi nad oedd yn gwrthwynebu’r egwyddor o leihau’r gynrychiolaeth o 47 i 40. Fel cynghorydd yn ward aml- aelod o 3, mae’n fodlon cynnwys Llanfair Dyffryn Clwyd yn yr adran etholiadol. Dywed ei bod yn fodlon â ward aml-aelod gan fod wedi erioed wedi bod yn Rhuthun a’i fod yn gweithio’n iawn. Mae’n cloi drwy ddatgan bod angen ad-drefnu rhai ardaloedd gwledig a bod angen newid rhai o’r enwau arfaethedig.

Datganodd y Cynghorydd Paul Marfleet (Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch) ei bryderon ynghylch y cynigion a’i fod yn cefnogi o ran egwyddor, mentrau sy’n golygu mwy o effeithlonrwydd ac sy’n datblygu ymgysylltu cymunedol. Nid yw’n gwrthwynebu newid ffiniau etholiadol er mwyn dileu dyblygu. Fodd bynnag, mae’n pryderu nad yw’n cynigion yn ymddangos eu bod yn mynd i’r afael â’r amcanion hyn mewn dull digonol. Dadleua y dylai’r ffigwr o etholwyr a ragamcenir olygu 45 aelod etholedig fel isafswm pe rhennir y ffigwr hwnnw a’r gymhareb a gynigir, sef 1,750. Mae’n crybwyll y cynnydd mewn wardiau aml-aelod gan ddyfynnu ei ardal ef ei hun fel enghraifft, a’r ffaith na fyddai’n ddichonadwy i ddau aelod gynrychioli ardal mor fawr. Mae’n crybwyll hefyd y diffygion cysylltiadau cymunedol a chysylltiadau ffyrdd mewn rhai ardaloedd.

Dywed ymhellach gall y logisteg o ganfasio adeg etholiad fod yn anodd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac yn anos fyth os ehangir yr ardal honno. Mae’n pryderu y gallai dau aelod gyflwyno ceisiadau gwahanol i swyddogion Awdurdod Lleol a gallai etholwyr gael eu drysu o ran pwy yw eu haelod etholedig ac y gallai rhywfaint o ddyblygu ddigwydd. Ar ben

- 5 - Atodiad 5 hyn, tynna sylw at y ffaith fod cyfleoedd wedi’u colli fel rhannu Henllan gyfoethog o Ddinbych Uchaf a gategoreiddir fel un o ardaloedd o amddifadedd mwyaf Cymru. Mae’n cydnabod yr enwau a awgrymir ar gyfer adrannau etholiadol, ond meddyliai ei bod yn bwysig iawn rhoi blaenoriaeth i wybodaeth leol wrth enwi ardaloedd.

Gwnaeth y Cynghorwyr Mike ac Isobel German, (ward Gogledd Prestatyn o Gyngor Tref Prestatyn) sylwadau ynghylch y cynnig arfaethedig i leihau cynrychiolaeth i Brestatyn ac ailstrwythuro ac uno Gogledd Prestatyn a De-orllewin Prestatyn i ffurfio ‘Uwch Ward Gorllewin Prestatyn’ ac Allt Melyd, Prestatyn Canolog a Dwyrain Prestatyn i ffurfio ‘Uwch Ward Dwyrain Prestatyn’. Roeddent o’r farn, tra bod hyn yn bodloni arbediad maint o ran lleihau i 2 aelod etholedig taledig, byddai’n atal ymgeisydd uchelgeisiol annibynnol rhag paratoi her lwyddiannus. Credent na fyddai unrhyw ymgeisydd annibynnol yn gallu paratoi ymgyrch gredadwy oherwydd y costau cynyddol a’r anhawster i ddosbarthu nifer gynyddol o daflenni ar gyfer y ddwy ‘Uwch Ward’ newydd.

Roeddent hefyd o’r farn y byddai unrhyw ymgeisydd yn cael ei ddigalonni neu ceir gwared arnynt gan unrhyw grŵp mawr yn rhoi ‘peiriant’ y blaid ar waith ar gyfer eu hymgyrch gan y byddai’n golygu gallu dosbarthu deunydd etholiadol yn hawdd a rhannu costau ar gyfer yr etholiad hwnnw gyda’r blocbleidlais anferth anochel. Anogasant y Comisiwn i ailystyried y cynigion ar gyfer Prestatyn / Allt Melyd a’u bod yn sylweddoli’r dasg hynod o anodd a’r anawsterau a fyddai’n wynebu unrhyw ddarpar ymgeisydd mewn ‘Arch Ward’.

Yn dilyn cyfarfod, trafodaeth a phleidlais, datganodd Grŵp Gweithredu Preswylwyr Allt Melyd ei fod yn gwrthod y cynnig i uno Prestatyn Canolog, Dwyrain Prestatyn ac Allt Melyd i ffurfio un adran etholiadol a lleihau nifer y cynghorwyr o 5 i 4. Roeddent o’r farn bod y gostyngiad yn nifer y cynghorwyr a’r uniad yn niweidiol i breswylwyr Allt Melyd a fyddai’n colli cynghorydd yn benodol ar gyfer y pentref, gan y byddai gan y 4 cynghorydd arfaethedig ardal mwy o faint i’w chynrychioli. Dywedasant hefyd y gallai atal ymgeiswyr annibynnol rhag sefyll fel cynghorwyr yn y dyfodol oherwydd maint yr ardal, a nifer y teuluoedd i ddosbarthu taflenni ac ymweld â hwy. Byddai’n ffafrio pleidiau gwleidyddol mawr gan fod ganddynt fwy o arian a gweithwyr ar gael. Gan fod Allt Melyd wedi’i leoli i ffwrdd o Brestatyn mae’n debygol y byddai’r 4 cynghorydd arfaethedig yn llai tueddol o ymweld mor aml ag y bo angen iddynt. Fodd bynnag, pe cyflwynir y cynigion roeddent o blaid enwi’r adran etholiadol newydd yn Dwyrain Prestatyn ac Allt Melyd.

Ysgrifennodd dau breswylydd o Gwm, yn datgan eu bod hwy ers tro o’r farn y dylai Cyngor Cymuned Cwm uno â Diserth gan fod diddordebau cyffredin gan y cymunedau. Mae eu plant yn mynd i’r ysgol yno ac maent yn rhannu ficer. Gofynasant a ellir ystyried eu hawgrym.

Ysgrifennodd preswylydd o Brestatyn i ddweud ei fod ef o’r farn ein bod yn cael ein gorlwytho â biwrocratiaeth ond gofynnodd y cwestiwn am gael ateb teg ac ymarferol i’r broblem o gynyddu maint adrannau etholiadol gan roi ymgeiswyr annibynnol heb berthyn i blaid o dan anfantais, a’r ymarferoldeb o ddosbarthu taflenni i beth fyddai’n dair gwaith gymaint o etholwyr neu efallai hyd at 10,000 o etholwyr a maint yr adran etholiadol.

Ysgrifennodd preswylydd o Ruddlan i wrthwynebu’r cynigion ar gyfer Rhuddlan gan ei bod yn dref sy’n ehangu a bod angen dau aelod etholedig arni gan na fyddai un yn ddigon i wasanaethu ar gyfer anghenion poblogaeth Rhuddlan. Gwrthwynebai’n gryf enwi’r ward yn Twt Hill gan gynnig Bro Rhuddlan yn lle hynny.

Gwnaeth preswylydd o Landrillo y sylwadau canlynol:

- 6 - Atodiad 5  Ei bod bron yn amhosibl dod o hyd i rywun â gair da i’w ddweud o’u plaid.  Bod eich amcangyfrif o nifer yr etholwyr yn y dyfodol yn wardiau Llandrillo a Chorwen yn anghredadwy ac ni ellir eu profi.  Mae llawer o sefydliadau statudol ac unigolion wedi cyflwyno rhesymau da i chi eu hystyried. Ni chymerwyd unrhyw sylw ohonynt. Unbennaeth yw hyn, nid democratiaeth.  Mae eich enwau ar gyfer y wardiau arfaethedig newydd yn chwerthinllyd.  Mae Cynulliad Cymru a Chyngor Sir Ddinbych yn credu mewn parchu arwahanrwydd rhwng cymunedau. Mae’n amlwg nad yw’ch Comisiwn chi yn credu hynny.  Dynoda’r adroddiad drafft safon elfennol iawn. Fel cyn-bennaeth ysgol wedi ymddeol, byddwn wedi bod yn siomedig â’r safon pe bai’n waith disgyblion cymedrol blynyddoedd cynnar.  Tybed a oes agenda gudd a benderfynwyd ymlaen llaw a fyddai yn erbyn democratiaeth.

Ysgrifennodd preswylydd o Ruddlan i ddatgan ei bod yn deall gwerth economaidd lleihau nifer y cynghorwyr, ond bod y lleihad mewn adrannau yn anghyfartal. Roedd o’r farn hefyd fod y cynnig i ailenwi ward estynedig Rhuddlan yn Twt Hill yn sarhaus.

Ysgrifennodd preswylydd o Preston ei fod ef fel rhywun o’r tu allan yn credu bod cyflwyniadau o’r tu allan i’r ardaloedd dan sylw yn darparu ‘barn wahanol’ nad yw’n cynnwys tueddiadau cynhenid daearyddol neu wleidyddol y rhai sy’n byw o fewn ffiniau Sir Ddinbych. Mae ei gyflwyniad yn ymdrin ag enwau adrannau etholiadol yn unig. Mae’n deall y gallai’r gwahaniaeth rhwng adrannau 1 aelod a rhai 4 neu 5 aelod yn yr un ardal gyngor arwain at rywfaint o draed moch yng ngweinyddiaeth etholiadol yn y dyfodol. Mantais cyflwyniadau “enw yn unig” yw nid yw un yn dibynnu ar y llall, felly gellir ymdrin â phob awgrym ar wahân.

Dywedodd y byddai’n anfon awgrymiadau ar gyfer cyfuniadau gwahanol o wardiau pe bai’n hyderus y byddai’r wybodaeth sydd ar gael yn rhoi’r cyfle iddo wneud hynny. Ymddengys fod penderfyniad y Comisiwn i ddefnyddio maint a ffurf adrannau, wardiau ac isadrannau Cymunedau presennol yn sicrhau bod rhai o’r tu allan bron yn cael eu hatal yn gyfan gwbl rhag cyflwyno cynigion mewn ymateb i’r ddogfen ddrafft. Yn ei brofiad ef o anfon cyflwyniadau at Gomisiynau a Phwyllgorau Ffiniau gwahanol, yn aml ystyrir enwi wardiau fel y peth lleiaf pwysig, gan fod y “gêm rhifau” yn golygu mwy na labelu yn unig. Dylid cadw mewn cof y gall enwau dryslyd neu wallus arwain yn aml at gymaint o ddiffyg democrataidd a llinellau a dynnir yn wael ar fap.

Mae’r Comisiwn yn gwahodd cynigion ar y pwnc o enwau, “Pan awgrymir enwau Saesneg byddem am ystyried hefyd a oes enw Cymraeg cyfatebol.” Ar gyfer ei holl gyflwyniadau yn y ddogfen hon, mae wedi defnyddio enwau mae ef yn meddwl sy’n addas o’r wybodaeth sydd ar gael. Nid oes ganddo unrhyw broblem neu wrthwynebiad o gwbl i’r Comisiwn gyfieithu ei gynigion i’r Gymraeg (neu o’r Gymraeg) lle y bo’n briodol, mae ei gynigion fel a ganlyn:

Cynnig CFfLlL Cynigion eraill Afon Dyfrdwy Llandrillo/Clawdd Poncen Bach y Graig Trefnant / Tremeirchion Dwyrain Dinbych Dwyrain Dinbych Gorllewin Dinbych a Henllan Gorllewin Dinbych a Henllan Glyn Dyfrdwy Llangollen / Glyn Dyfrdwy Gorllewin Clwyd Llanelidan / Clocaenog/ Llanrhaeadr

- 7 - Atodiad 5 Llan Llanarmon-yn-Iâl / Llangynhafal / Bryneglwys Llandyrnog Llandyrnog â Bodfari Llanelwy Bodelwyddan / Llanelwy Dwyrain Prestatyn Tref Prestatyn ac Allt Melyd Gorllewin Prestatyn Glannau Prestatyn Gogledd-ddwyrain y Rhyl Gogledd-ddwyrain y Rhyl Gogledd-orllewin y Rhyl Gogledd-orllewin y Rhyl De-ddwyrain y Rhyl Rhyl Belle Vue De-orllewin y Rhyl De y Rhyl a Derwen Rhuthun Dyffryn Clwyd Rhuthun Dyffryn Clwyd Twt Hill Rhuddlan / Cwm

Ysgrifennodd preswylydd o Lanelwy yn datgan ei fod ef, fel cyn-gynghorydd Sir Ddinbych, o’r farn bod y cynigion yn gwneud synnwyr gwell o lawer. Roedd am weld mwy o drefi a phentrefi yn cydweithio, a llai o gynghorwyr a fyddai’n arbed ar bwrs y wlad. Roedd yn cytuno’n llwyr i uno Bodelwyddan a Llanelwy a hefyd i gwtogi nifer yr aelodau gan fod rhai yn gweithio ac eraill ddim yn gweithio.

Brawychwyd dau breswylydd o Gorwen wrth iddynt ddarllen y cynigion drafft a gyflwynwyd. Datganant fod ardal Edeyrnion yn cynnwys pentrefi Glyndyfrdwy, Carrog, Gwyddelwern, Cynwyd, a Betws Gwerfil Goch. Melin y Wig. Bryn Saith Marchog, Llandrillo yn Edeyrnion â Chorwen yn y canol. Cyn 1974 roedd Edeyrnion yn rhan o Sir Feirionnydd gyda’i Gyngor Dosbarth Gwledig ei hun yn ystod y 80 blynedd flaenorol. Ar ôl hynny daeth yn rhan o Sir newydd Clwyd hyd 1996 pan grëwyd Sir Ddinbych yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol. Er mawr ddiflastod y bobl leol, rhannwyd Edeyrnion yn 4 rhan gan rannu’r berthynas hirsefydlog rhwng y cymunedau. Gobeithiant mai dyma’r amser i unioni’r rhwyg drwyddo ag Edeyrnion hanesyddol i fod yn ward ar ei phen ei hun a gynrychiolir gan ddau gynghorydd yn unol â nifer y boblogaeth.

- 8 -