Tim Parkinson - bywgraffiad

Un sy’n torri ei gwys ei hun erioed fu Tim Parkinson (g.1973), yn mynd ati i ymgysylltu â beth bynnag sydd ynghlwm heddiw â bod yn gyfansoddwr sy’n gweithio yn y byd. Galwyd ei gerddoriaeth yn arbrofol, "reconstructing music from the ground up", "sounding like nothing else", a’r gwaith yn dod yn ei ôl yn ddi-ffael at gwestiynau hanfodol ynghylch ystyr sain. Fe’i cysylltwyd â lleisiau annibynnol eraill o Brydain o’r un genhedlaeth, megis Bailie, Crane, Harrison, Newland, Saunders, Whitty.

Gan mwyaf cymuned ymroddedig o ffrindiau a cherddorion sy’n perfformio ei gerddoriaeth, ond sgrifennodd hefyd i amryfal grwpiau ac ensembles yn cynnwys Apartment House, [rout], Incidental Music, Dedalus, Edges, Basel Sinfonietta, London Sinfonietta; ac i amryfal offerynwyr yn cynnwys Stephen Altoft, Angharad Davies, , Julia Eckhardt, Tanja Masanti, Andrew Sparling, Craig Shepard, Silvia Tarozzi, Stefan Thut, Deborah Walker. Perfformiwyd ei gerddoriaeth yng ngwledydd Prydain, Ewrop, yr Unol Daleithiau, Armenia, Awstralia, Seland Newydd a Japan. Bu darllediadau ei gerddoriaeth ar BBC Radio 3, Resonance FM, WDR Köln, a Schweizer Radio SRF2. Rhyddhawyd dau albwm o gerddoriaeth ar Edition Wandelweiser (2006, 2010), ac yn 2019 rhyddhawyd Pleasure Island ar Slip.

Perfformiwyd Time With People, opera, (2012-13) yn Llundain a Huddersfield (gan Edges), Los Angeles (gan Southland Ensemble); Chicago, Oberlin, Ohio a Beloit (gan a.pe.ri.od.ic, gyda chynllun set gan Parsons & Charlesworth); yng Nghaerdydd (gan Good News From The Future); yn Efrog Newydd (gan Object Collection); Ghent (gan G.A.M.E.); La Chaux-de-Fonds (gwedd yn y Ffrangeg, a droswyd gan Louis d'Heudieres, a berfformiwyd gan Nouvel Ensemble Contemporain); Helsinki (gwedd amlieithog, yn Tulkinnanvaraista). Mae gwedd Almaeneg ar y gweill i’w pherfformio yn 2019.

Yn 2018 fe’i penodwyd yn Gymrawd Creadigol yng Nghanolfan Ymchwil Samuel Beckett.

Mae hefyd yn bianydd ac yn berfformiwr gweithgar, yn annibynnol a hefyd drwy wahoddiad, wedi perfformio o bryd i’w gilydd gydag Apartment House, a Plus-Minus, ac wedi perfformio mewn oedfannau megis Tate Modern, Barbican, Cafe Oto, Union Chapel, ac mewn gwyliau megis Gŵyl Cerdd Gyfoes Huddersfield, Tectonics, Borealis, Frontiers, Roadburn, Donaufestival, All Tomorrows Parties, Audiograft, Gŵyl Ymylon Caeredin, Musica Nova, Cut & Splice, Sonorités, RDV de l'Erdre. Yn unawdydd perfformiodd gydag Object Collection, Skögen, Apartment House, Set Ensemble, Incidental Music, Q-02, J.G. Thirlwell, Phill Niblock, Matteo Fargion, Lee Patterson, Angharad Davies, Rhodri Davies, Jürg Frey, Michael Pisaro, Michael Parsons, Gavin Bryars, Joshua Rifkin, Tom Johnson, a Christian Wolff, ymhlith eraill. Ers 2003 mae’n perfformio’n rheolaidd gyda’r cyfansoddwr James Saunders yn y deuawd “lo-fi electronics, auxiliary instrument and any-sound-producing-means” Parkinson Saunders.

Trefnodd gyngherddau cyhoeddus fyrdd i hyrwyddo presenoldeb, cyfoeth ac amrywiaeth chwilio cerddoriaeth yn yr oes sydd ohoni, ac yn un gainc o hyn y gyfres cyngherddau, Music We'd Like to Hear (www.musicwedliketohear.com), a guradir ar y cyd â John Lely a Markus Trunk bob blwyddyn yn Llundain ers 2005.

Yn 2011 roedd yn Athro Cyfansoddi gwadd yn Academi Brno. Rhoes ddarlithoedd hefyd yn Guildhall School of Music and Drama, Oxford Brookes, Ostrava New Music Days, Prifysgol Huddersfield, Prifysgol Bath Spa a Snape Maltings, yn ogystal â dysgu yn Ashmole Academy ac Ysgol Gynradd Christchurch.

Astudiodd yng Ngholeg Caerwrangon, Rhydychen, wedyn astudio gyda Kevin Volans yn Nulyn, a chymryd rhan yn Ostrava New Music Days 2001, yn mynd i seminarau gyda Petr Kotik, Alvin Lucier, Zsolt Nagy a Christian Wolff.

Soundcloud - https://soundcloud.com/tim-parkinson-1

YouTube - https://www.youtube.com/user/untitledparkinson

Vimeo - https://vimeo.com/timparkinson

Twitter - @untitledprknsn

Instagram - https://www.instagram.com/untitledparkinson/