Dogfen ir Cyhoedd Mr Richard Parry Jones, BA, MA. Prif Weithredwr – Chief Executive
CYNGOR SIR YNYS MÔN ISLE OF ANGLESEY COUNTY COUNCIL Swyddfeydd y Cyngor - Council Offices LLANGEFNI Ynys Môn - Anglesey LL77 7TW
Ffôn / tel (01248) 752500 Ffacs / fax (01248) 750839
RHYBUDD O GYFARFOD NOTICE OF MEETING PWYLLGOR GWAITH THE EXECUTIVE
DYDD LLUN, 14 IONAWR 2013 MONDAY, 14 JANUARY, 2013 10.00 o'r gloch 10.00a.m
COUNCIL CHAMBER COUNCIL CHAMBER - COUNCIL COUNCIL OFFICES OFFICES, LLANGEFNI LLANGEFNI Mr John Gould Rheolwr Gwasanaethau Committee Services (01248) 752 515 Pwyllgor Manager
Annibynnol Gwreiddiol/ Original Independent R Ll Hughes, K P Hughes, O Glyn Jones, B Owen a G O Parry MBE
Plaid Cymru/ The Party of Wales T Ll Hughes a R G Parry OBE
Plaid Lafur/ Labour Party W J Chorlton
COPI ER GWYBODAETH / COPY FOR INFORMATION
I Aelodau'r Cyngor Sir / To the Members of the County Council
Bydd aelod sydd ddim ar y Pwyllgor Gwaith yn cael gwahoddiad i’r cyfarfod i siarad (ond nid i bleidleisio) os ydy o/hi wedi gofyn am gael rhoddi eitem ar y rhaglen dan Reolau Gweithdrefn y Pwyllgor Gwaith. Efallai bydd Bwrdd y Comisiynwyr yn ystyried ceisiadau gan aelodau sydd ddim ar y Pwyllgor Gwaith i siarad ar faterion eraill.
A non-Executive member will be invited to the meeting and may speak (but not vote) during the meeting, if he/she has requested the item to be placed on the agenda under the Executive Procedure Rules. Requests by non-Executive members to speak on other matters may be considered at the discretion of the Board of Commissioners.
R H A G L E N
1 DATGANIAD O DDIDDORDEB Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem i’w thrafod yn y cyfarfod.
2 MATERION BRYS ARDYSTIWYD GAN Y PRIF WEITHREDWR NEU EI SWYDDOG APWYNTIEDIG Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.
3 COFNODION (Tudalennau 1 - 4) Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2012.
4 BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR GWAITH (Tudalennau 5 - 18) Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth(Polisi).
5 CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL AR GYFER YNNI GWYNT AR Y TIR (CCA) (Tudalennau 19 - 28) Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth(Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd).
6 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL - Y STRATEGAETH A FFEFRIR (Tudalennau 29 - 36) Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth(Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd).
[Gofynnir yn garedig i’r Aelodau gadw eu copi o’r adroddiad a fydd yn cael sylw mewn cyfarfod arbennig o’r Cyngor Sir ar 24 Ionawr 2013]
7 CYNLLUN TRAWSNEWID (To Follow) Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr.
8 MABWYSIADU CYNLLUN CYMORTH TUAG AT Y DRETH GYNGOR (To Follow) Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth Dros Dro(Adnoddau).
9 MODERNEIDDIO YSGOLION CYNRADD MÔN - LLANDDONA; BIWMARES; LLANGOED (Tudalennau 37 - 78) Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes.
10 GOSTWNG OED MYNEDIAD I YSGOL DWYRAN (Tudalennau 79 - 82) Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes.
11 GWAHANU SWYDDOGAETHAU STATUDOL AC ANSTATUDOL (DATBLYGIADAU MAWR ERAILL) (Tudalennau 83 - 90) Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Datblygu Cynaliadwy.
12 CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Ystyried mabwysiadu’r isod:-
"Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".
13 RHESYMOLI PARTNERIAETHAU (Tudalennau 91 - 106) Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth(Polisi).
14 CYMUNEDAU'N GYNTAF YM MÔN (Tudalennau 107 - 114) Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth(Tai).
15 CYTUNDEB GWASANAETH RHANBARTHOL CAPITA SIMS (Tudalennau 115 - 118) Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes.
This page is intentionally left blank Eitem 3 ar y Rhaglen
PWYLLGOR GWAITH
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2012
PRESENNOL: Y Cynghorydd Bryan Owen (Arweinydd)(Cadeirydd) Y Cynghorydd K.P.Hughes (Is-gadeirydd)
Y Cynghorwyr W.J.Chorlton, R.Ll.Hughes, T.Lloyd Hughes, O.Glyn Jones, G.O.Parry,MBE, R.G.Parry,OBE.
WRTH LAW : Prif Weithredwr Dirprwy Brif Weithredwr Cyfarwyddwr Cymuned Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) (Eitemau 4 a 5 yn unig) Pennaeth Gwasanaeth (Tai) (Eitem 7 yn unig) Rheolwr Gwasanaethau Technegol (Eitem 7 yn unig) Rheolwr Rhaglen – Moderneiddio Ysgolion (EB) (Eitem 6 yn unig) Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor
HEFYD YN Y Cynghorydd Selwyn Williams BRESENNOL:
1 DATGANIADAU O DDIDDORDEB Dim i’w datgan .
2 MATERION BRYS A ARDYSTIWYD GAN Y PRIF WEITHREDWR NEU SWYDDOG A BENODWYD GANDDO Dim i’w datgan.
3 COFNODION PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2012 fel rhai cywir.
4 BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR GWAITH Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) yn gofyn am gymeradwyo diweddariad o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith. Cyfeiriodd y swyddog at newidiadau ac ychwanegiadau i’r rhaglen waith yn y cyfarfod.
Tudalen 1 PENDERFYNWYD:-
Cadarnhau’r rhaglen waith ynghyd â’r newidiadau a’r ychwanegiadau y cyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod gan y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi);
Cadarnhau’r angen i’r Pwyllgorau Sgriwtini ddatblygu eu rhaglenni gwaith ymhellach er mwyn cefnogi rhaglen waith y Pwyllgor Gwaith;
Nodi y bydd Blaenraglen Waith ddiweddaredig yn cael ei chyflwyno i’r cyfarfod arferol nesaf o’r Pwyllgor Gwaith. .
5 STRATEGAETH CYFATHREBU CORFFORAETHOL 2012-15 Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Gwasanaet h (Polisi) yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r Strategaeth Gyfathrebu ddrafft ar gyfer 2012 -15 gan gymryd i ystyriaeth hefyd sylwadau’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol arni. PENDERFYNWYD:-
Nodi sylwadau’r Pwyllgor Sgriwtini Corf foraethol a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2012;
Cymeradwyo cynnwys y Strategaeth Gyfathrebu.
6 MODERNEIDDIO YSGOLION CYNRADD YN YNYS MÔN – CAERGYBI A CHANOLBARTH YNYS MÔN
Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gym eradwyo’r egwyddorion a fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer y ddogfen ymgynghori a fydd yn sail i Raglen Moderneiddio Ysgolion Môn.
Yn yr adroddiad hefyd, cyfeiriwyd at y broses ymgynghori a gynhaliwyd yn y 5 ysgol gynradd yn nalgylch Caergybi a’r 3 ysgo l gynradd yn nalgylch Llangefni o ran opsiynau posibl ar gyfer ysgol gynradd/ysgolion cynradd newydd. Cafodd sylwadau’r Pwyllgor Sgriwtini Addysg a Hamdden a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2012 eu cynnwys fel rhan o’r adroddiad. Yn ystod y drafodaeth, gofynnodd yr aelodau gwestiynau ynghylch fforddiadwyedd opsiwn Caergybi, perchenogaeth tir yn y tri safle, materion rheoli traffig a diogelwch ffyrdd, statws yr ysgol newydd (gan fod Ysgol y Parch.Thomas Ellis yn Ysgol Wirfoddol a Reolir Yr Eglwys yng Nghymru) a gorchymyn cadwraeth CADW ar hen safle Ysgol Cybi.
PENDERFYNWYD:-
Cymeradwyo’r egwyddorion a fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer y ddogfen ymgynghori a fydd yn sail i raglen moderneiddio ysgolion Môn.
Adolygiad Ysgolion Cynradd Caergybi
Argymell Opsiwn 10 (cyfuno 3 ysgol sef Ysgol y Parc, Ysgol Llaingoch ac Ysgol Parch Thomas Ellis mewn ysgol newydd) fel yr opsiwn a ffafrir gan y Pwyllgor Gwaith ar gyfer ymgynghori ffurfiol;
Y dylid lleoli’r ysgol gynradd newydd yng Nghaergybi ar safle Cybi;
Tudalen 2 Cyn mynd allan i ymgynghori, bod adroddiad yn cael ei gyflwyno’n ôl i aelodau’r Pwyllgor Gwaith ar y materion canlynol: -
pwy sydd biau’r tir yn y 3 safle; fforddiadwyedd, rheoli traffig a diogelwch ffyrdd, statws yr ysgol newydd a materion yn ymwneud â’ r gorchymyn cadwraeth yn safle hen Ysgol Cybi yng Nghaergybi;
Nodi’r ymatebion a gafwyd i’r ddogfen ymgynghori gan y 5 ysgol gynradd yng Nghaergybi.
Dalgylch Llangefni
Yn wyneb y sefyllfa gyfredol o ran niferoedd disgyblion yn y tair ysgol yng nghanol Môn, cadw pethau fel y maent ar hyn o bryd;
Yn amodol ar gyflwyno a gweithredu’r ddeddfwriaeth berthnasol, rhoi awdurdod i’r Swyddogion Addysg adolygu dalgylch Llangefni a;
Ailystyried y ddarpariaeth o addysg gynradd yng nghanol Môn yn nes ymlaen yn y rhaglen moderneiddio ysgolion hyd oni cheir eglurhad ar y sefyllfa o aran argaeledd adnoddau, adolygu’r dalgylchoedd, cyflwr adeiladau’r ysgolion a chanlyniad y rhaglen foderneiddio mewn rhannau eraill o’r Ynys;
Nodi’r ymatebion a gafwyd i’r ddogfen ymgyngh ori gan y 3 ysgol gynradd yn Llangefni.
7 CAFFAEL GWAITH CYFALAF MEWN PERTHYNAS Â STOC DAI’R CYNGOR
Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Tai) ar y sefyllfa gyfredol mewn perthynas â chaffael Gwaith Cyfalaf mewn perthynas â Stoc Dai’r Cyngor. Llongyfarchodd yr Aelod Portffolio y Gwasanaeth am eu gwaith yn hyn o beth ac roedd yn dymuno cofnodi mai’r Gwasanaeth oedd yr ail yng Nghymru a’r cyntaf yng Ngogledd Cymru i gwblhau SATC.
PENDERFYNWYD:-
Bod y Tîm Gwasanaethau Tai yn caffael contractau cynnal a chadw adeiladu drwy ddulliau traddodiadol e.e. rhybuddion ynghylch contractau unigol ar byrth gwefannau caffael cydnabyddedig megis Sell2Wales yn ystod y cyfnod interim hyd at Ebrill 2014;
Bod y Gwasanaethau Tai yn cyflogi gwasanaeth ymgynghorwyr allanol gyda phrofiad addas i gefnogi’r broses drosiannol hon, gan ddefnyddio cytundeb(au) fframwaith cyfredol sy’n cydymffurfio gydag OJEU i benodi gwasanaeth ymgynghori a fydd yn destun ymgynghori pellach gyda’r Penna eth Cyllid a’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol;
Cymeradwyo datblygu Strategaeth Gaffael ar gyfer y dyfodol a fydd yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ei chymeradwyo’n derfynol yn ystod 2013/14.
Tudalen 3 8 FFRAMWAITH AR GYFER CADW A GWELLA ARDALOEDD CADWRAETH Cyflwynwyd – adroddiad y Cyfarwyddwr Datblygiad Cynaliadwy yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gyhoeddi cynigion ar gyfer cadw a gwella Ardaloedd Cadwraeth Ynys Môn.
PENDERFYNWYD cefnogi cyhoeddi cynigion ar gyfer cadw a gwella Ardaloedd Cadwraeth Ynys Môn.
Daeth y cyfarfod i ben am 11:00a.m.
Y CYNGHORYDD BRYAN OWEN CADEIRYDD
Tudalen 4 Eitem 4 ar y Rhaglen
CYNGOR SIR YNYS MÔN Adroddiad i Pwyllgor Gwaith
Dyddiad 14 Ionawr 2013 Pwnc Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith Deilydd(ion) Portffolio Cyng Bryan Owen Swyddog(ion) Dirprwy Brif Weithredwr Arweiniol Swyddog Cyswllt Huw Jones Pennaeth Gwasanaeth – Polisi (Ffôn 01248 752108) Natur a rheswm am adrodd:
Gofyn am gymeradwyaeth i ddiweddariad o Flaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith, yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor.
A – Cyflwyniad / Cefndir / Materion sydd angen sylw Gweler CH – Crynodeb
B – Ystyriaethau Gweler CH – Crynodeb
C – Goblygiadau ac Effeithiau 1 Cyllid / Adran 151 -
2 Swyddog Cyfreithiol / Monitro -
3 Adnoddau Dynol -
4 Gwasanaethau Eiddo -
5 Technoleg Gwybodaeth a - Chyfathrebu(TGCh)
6 Cydraddoldeb Dylid cwblhau asesiad effaith ar bob polisi newydd neu ddiwygiedig sy’n cael eu cyflwyno i gyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith. CC 015195 RMJ/119742 Page 1 of 3