01.07.21

Sara Maredudd Jones Cyswllt Contact Ffôn Phone 0330 5880 369

Erthygl i’r Wasg Press Release Sgwrs Dan Y Lloer a ger y lli gyda neb llai ‘na Max Boyce

Yn cychwyn Wythnos Traethau Cymru S4C, bydd pennod arbennig awr o hyd o Sgwrs Dan y Lloer i’w gweld ar nos Lun 12 Gorffennaf.

Ar draeth hynod yn ardal y Gŵyr, gyda thanllwyth o dân a’r sêr yn gwmni, fe fydd Elin yn cael hanes gyrfa a bywyd lliwgar y digrifwr a’r canwr o Glyn Nedd, Max Boyce.

Daeth Max Boyce yn enw cyfarwydd iawn yng Nghymru ac ar draws y byd ar ôl dod i amlygrwydd yn y 1970au gyda’i act a oedd yn cyfuno comedi cerddorol, ei angerdd at rygbi a’i wreiddiau yng nghymunedau glofaol De Cymru.

Ei drydydd albwm (a’r cyntaf ar label enfawr EMI Records), Live at , a roddodd lwyddiant enfawr iddo gan droi’n record aur a gwneud Max Boyce yn enw cyfarwydd. Yn y rhaglen hon, mae’n hel atgofion am yr albwm yma a’i yrfa sydd wedi para deugain mlynedd gan gynnwys gwerthu dros ddwy filiwn o albymau ar draws y byd.

Ond dyw bywyd ddim wedi bod yn fel i gyd iddo. Mis yn union cyn ei eni, bu farw ei dad mewn ffrwydrad yn y pwll glo. Ac yn un ar bymtheg oed, mi aeth Max ei hun i weithio dan ddaear am ddeg mlynedd.

“Sai’n credu alle ni fod wedi ysgrifennu caneuon fel Duw it’s Hard a Grey heb mod i wedi gweithio dan ddaear,” meddai. “Mi oedd o’n le danjerus iawn. Fi wastad yn cofio’r diwrnod cyntaf a daeth ryw foi draw ac fe ofynnodd os oni’n nerfus, ‘odw’ medde fi, ‘reit’ medde fe, ‘fi moyn dysgu gweddi’r glöwr i ti’ -

‘I am a little collier boy, Gweithio underground. I hope the rhaff don’t torri When I go up and down. Bara when I’m hungry, Cwrw when I’m dry, Gwely when I’m blino, Nefoedd when I die.’”

Ac nid dim ond Sgwrs dan y Lloer yw hon, ond cawn gân hefyd wrth i Elin a Max gydganu trefniant newydd sbon gan Geraint Cynan o’r hen glasur Ar Lan y Môr.

Sgwrs Dan Y Lloer ar y Traeth Nos Lun, 12 Gorffennaf, 9.00

Isdeitlau Saesneg Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill Cynhyrchiad Tinopolis ar gyfer S4C

01.07.21

Sara Maredudd Jones Cyswllt Contact Ffôn Phone 0330 5880 369

Erthygl i’r Wasg Press Release

A chat under the stars and by the seaside with none other than Max Boyce

Starting S4C's week celebrating Welsh beaches, there will be an hour-long special edition of Sgwrs Dan Y Lloer (A Chat Under the Stars) on Monday 12 July.

On a beautiful Gower beach, under the stars and around a bonfire, Elin Fflur will hear about the career and colourful life of the comedian and singer from , Max Boyce.

Max Boyce became a well-known name in Wales and around the world after coming to prominence in the 1970s with an act that combined musical comedy, his passion for rugby and his roots in the mining communities of .

His third album (and his first on the label EMI Records), Live at Treorchy, gave him huge success and was awarded a gold disc, making Max Boyce a familiar name. In this programme, he reminisces about this album and his 40-year career including selling more than two million albums worldwide.

But life hasn't always been easy. A month before he was born, his father died in an explosion in the coal mine. At the age of 16, Max found himself working underground for 10 years.

"I don't think we could have written songs like Duw it’s Hard and Rhondda Grey without having worked underground," he said. “It was a really dangerous place. I’ll always remember the first day and some guy came over and asked if I was nervous, 'yes’ I said, ‘right’ he said, ‘I want to teach you the miner's prayer’ -

‘I am a little collier boy, Gweithio underground. I hope the rhaff don’t torri When I go up and down. Bara when I’m hungry, Cwrw when I’m dry, Gwely when I’m blino, Nefoedd when I die.’”

And this isn’t just a A Chat Under the Stars, but a song too, as Elin and Max sing a brand-new arrangement by Geraint Cynan of the classic Welsh song, Ar Lan y Môr.

Sgwrs dan y Lloer ar y Traeth Monday, 12 July, 9.00pm English Subtitles On Demand: S4C Clic, iPlayer and other platforms A Tinopolis Production for S4C