CYNGOR CYMUNED BUAN

Cofnodion cyfarfod y Cyngor dyddiedig 8 Tachwedd 2018 gafodd ei gynnal yn: Tafarn Twnti, Rhydyclafdy

Presennol:

Cynghorwyr: Hughie Williams – Cadeirydd Rhys Jones - Is-Gadeirydd Dafydd Ll Williams Catherine Hughes Einir Lewis Wyn Davies Gareth Roberts Tesni Wyn Jones Philip Roberts Rhian Holt - clerc

1. Ymddiheuriadau – Cynghorydd Nia Jones

2. Cofnodion y cyfarfod diwethaf Cadarnhawyd cofnodion mis diwethaf yn gywir gan y Cynghorydd Einir Lewis ac eilwyd gan y Cynghorydd Wyn Davies.

3. Ymatebion i ohebiaeth Cwynion Ffyrdd Derbyniwyd cwynion yng nghyfarfod fis Hydref fel a ganlyn: 1. Mae modur yn parcio yn aml iawn ger Glanrafon yn Rhydyclafdy. Mae hyn yn achosi perygl gwelededd i fodurwyr - Cafodd y Cadeirydd air gyda Alun Roberts o'r Adran Drafnidiaeth oedd yn datgan y dylai un Cynghorydd gael gair gyda perchennog y tŷ yn egluro pryderon y Cyngor. 2. Mae angen ail osod llinellau melyn dwbl o'r bont i gyfeiriad yr hen ysgol yn Rhydyclafdy - mae y llinellau melyn eisoes wedi eu gosod. 3. Mae brigyn mawr angen ei dynnu lawr o dop Rhiw Goch ar y chwith o bentref Rhydyclafdy - Aeth y clarc i gael golwg ar y safle ac yn y cyfamser datganodd y Cadeirydd bod y brigyn wedi ei glirio o'r safle.

4. Materion Ariannol

Derbyniwyd cysoniad y banc am y cyfnod 4 Hydref i 3 Tachwedd 2018 yn y swm o £9,423.52.

Arwyddwyd y sieciau isod gan y Cynghorwyr Rhys Jones a Philip Roberts.

Rhian Holt a costau teithio £92.29 Siec rhif 200187 Cyllid a Thollau ein Mawrhydi £21.80 Siec rhif 200188 Cyngor - rhent cae chwarae a maes parcio £1.00 Siec rhif 200189 Bacstal - gwasanaeth cyflogau £111.00 Siec rhif 200190 Cyngor Gwynedd - Gwasanaeth Archwilio Mewnol £96.00 Siec rhif 200191

Derbyniwyd anfonebau gan Cyngor Gwynedd a chwmni Bacstal a penderfynwyd talu yn y cyfarfod hwn.

Derbyniwyd derbyneb gan Ashley Hughes ac Arfon Parry a hefyd gan Glwb Ffermwyr Ifanc .

5. Materion Cynllunio Doedd dim ceisiadau cynllunio yn y cyfarfod.

6. Datgan Diddordeb Doedd neb yn datgan diddordeb.

7. Materion er Gwybodaeth

Llyfryn gan y Comisiwn Ffiniau a Democatiaeth Leol Cymru E bost gan Alex Jones o'r Cambrian News yn holi am straeon Cynhadledd Flynyddol Cyngor Pobl Hŷn Gwynedd Ymateb Unllais Cymru - Cydgrynhoi ac Adolygu Is-ddeddfwriaeth Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd - Ymgynghoriad Cyhoeddus: Canllawiau Cynllunio Atodol Zurich - LCAS Risk Topic Update - Tree Liabilities and Cemetery/Memorial Management Clwb Moduro - Rali Goffa James Trenholme Tachwedd 17/18. Cylch yr Iaith - Twristiaeth yng Ngwynedd Sefydliad Materion Cymreig - Deall Llefydd Cymru Grŵp te bach Cyngor Gwynedd - Cyfarfod AHNE 20 Tachwedd 2018

8. Unrhyw fater arall

Materion Trafnidiaeth Derbyniwyd cwynion ffyrdd yn y cyfarfod fel a ganlyn:

Mae dŵr yn hel ar y lôn ger Pensarn ym Moduan,mae'n ymddangos bod y ffosydd wedi cau a'r gwteri angen eu glanhau.

Mae pobl sydd yn ymweld â Glandwr yn Rhydyclafdy yn parcio eu moduron o flaen tai preifat cyfagos sydd yn achosi pryder i'r perchnogion. Nid yw hyn yn dderbyniol, mae maes parcio ar gael iddynt yn ymyl yr Hen Ysgol.

Mae coed angen eu tocio ar y darn tir rhwng y fynedfa i lôn Rhosfawr a mynedfa i lôn , (Tan y Graig), mae loriau a pheiriannau trwm yn bachu'r canghennau, yn enwedig pan yn troi o lôn Rhosfawr i gyfeiriad lôn Pwllheli.

Gofynwyd i'r clarc ysgrifennu at adran drafnidiaeth o Gyngor Gwynedd.

Tŷ gwag: Dolafon, Rhydyclafdy, Pwllheli LL53 7YP Derbyniwyd cwyn am yr adeilad uchod. Mae Dolafon wedi ei leoli yng nghanol rhes dai yn Rhydyclafdy ac mae yn dŷ gwag. Derbyniwyd gwybodaeth bod y trigolion cyfagos wedi gweld llygod mawr yn yr ardd a bod dŵr yn dod i mewn i'r tŷ allai achosi difrod i'r tai cyfochrog. Mae'r trigolion cyfagos yn bryderus iawn. Gofynwyd i'r clarc yrru llythyr i'r Swyddog Tai Gwag o Gyngor Gwynedd.

Cymdeithas Calon Cymru Derbyniwyd e bost yn gofyn am fanylion y defibrillator sydd yn Rhydyclafdy, dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes y byddai yn ymateb dros y Cyngor Cymuned.

Prosiect Plas Carmel ger Anelog Penderfynwyd na fydd y Cyngor Cymuned yn cyfrannu at yr uchod.

Eglwys Llanfihangel Cafwyd wybodaeth gan y Cadeirydd bod darn o wal y fynwent uchod wedi dod i lawr. Penderfynwyd holi adeiladwyr lleol am bris i wneud y gwaith.

Daeth y cyfarfod i ben am 08.45 y.h.

Cynhelir cyfarfod nesaf Cyngor Buan ar nos Iau, 13 Rhagfyr 2018 yn Nhafarn Twnti, Rhydyclafdy am 7.30 y.h.