COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Arolwg o’r Trefniadau Cymunedol yn Sir Fynwy

Adroddiad ac Argymhellion

CYFROL 2 Ionawr 2019 © Hawlfraint CFfDLC 2019

Gallwch ailddefnyddio’r wybodaeth hon (ac eithrio’r logos) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored. I weld y drwydded hon, ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open- government-licence neu anfonwch neges e-bost at: [email protected]

Lle’r ydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti, bydd angen i chi gael caniatâd oddi wrth ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn at y Comisiwn yn [email protected]

Mae’r ddogfen hon ar gael ar ein gwefan hefyd yn www.cffdl.llyw.cymru COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

AROLWG O’R TREFNIADAU CYMUNEDOL YN SIR FYNWY

ADRODDIAD AC ARGYMHELLION

Cynnwys Tudalen Cyfrol 1 Pennod 1 Cyflwyniad 1 Pennod 2 Cynigion Cyngor Sir Fynwy 2 Pennod 3 Ystyriaeth y Comisiwn 4 Pennod 4 Y Weithdrefn 4 Pennod 5 Cynigion 5 Y Fenni 6 Caer-went 38 Caldicot 60 Cas-gwent 92 Crucornau 124 136 Goetre Fawr 148 Y Grysmwnt 162 Fawr 170 Llan-arth 176 Llanbadog 192 Llanelli 196

Cyfrol 2 Pennod 5 Cynigion (parhad) 1 Llan-ffwyst Fawr 2 Llangatwg Feibion Afel 12 Llan-gwm 13 Llangybi 14 Llanhenwg 18 Llanofer 20 Llandeilo Gresynni 26 Llandeilo Bertholau 28 Llantrisant Fawr 44 Magwyr gyda Gwndy 48 Matharn 66 Llanfihangel Troddi 74 Trefynwy 82 Porth Sgiwed 100 Rhaglan 108 116 Drenewydd Gelli-farch 120 St Arvans 132 Tyndyrn 138 Tryleg Unedig 148 Ynysgynwraidd (arfaethedig) 158 Castell-gwyn (arfaethedig) 170 Pennod 6 Ymatebion i’r adroddiad hwn 192 Pennod 7 Cydnabyddiaethau 193

ATODIAD 1 RHESTR TERMAU ATODIAD 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGHORAU CYMUNED ATODIAD 3 AELODAETH ÔL-DDILYNOL ARFAETHEDIG Y CYNGHORAU CYMUNED ATODIAD 4 TREFNIADAU PRESENNOL WARDIAU ETHOLIADOL ATODIAD 5 TREFNIADAU ÔL-DDILYNOL ARFAETHEDIG WARDIAU ETHOLIADOL

Argraffiad 1af a argraffwyd yn Ionawr 2019 Mae’r Comisiwn yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. This document is available in English.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru Tŷ Hastings Llys Fitzalan CAERDYDD CF24 0BL Rhif ffôn: (029) 2046 4819 Rhif ffacs: (029) 2046 4823 E-bost: [email protected] www.cffdl.llyw.cymru ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Pennod 5. CYNIGION (parhad) Disgrifir cynigion y Comisiwn yn fanwl yn y bennod hon. Ar gyfer pob cynnig newydd, mae’r adroddiad yn nodi: • Enw(au) yr ardaloedd cymunedol presennol sydd yn ffurfio’r cymunedau newydd diwygiedig arfaethedig yn gyfan gwbl neu’n rhannol; • disgrifiad byr o’r trefniadau cymunedol presennol o ran nifer yr etholwr a’r trefniadau wardio (os yw’n berthnasol); • prif ddadleuon a wnaed yn ystod ystyriaethau’r Cyngor; • barnau’r Comisiwn; • cyfansoddiad y trefniadau cymunedol arfaethedig; a, • map o’r gymuned a/neu’r ward gymunedol arfaethedig.

Ffiniau Cymunedol Ffiniau Wardiau Ffin Argymelledig Presennol Cymunedol Presennol CFfDLC

Ffin Arfaethedig Ardal Arfaethedig i’w Ardal Arfaethedig i’w Cyngor Sir Fynwy throsglwyddo (i mewn) throsglwyddo (allan) (os yw’n berthnasol)

Tudalen 1 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

LLAN-FFWYST FAWR

395. Mae’r trefniadau cymunedol presennol yn Llan-ffwyst Fawr yn cynnwys pedair ward: Llanelen, Llan-ffwyst, Citra a Llanwenarth Tu Draw. Mae gan y gymuned gyfanswm o 2,716 o etholwyr ac fe’i cynrychiolir gan 12 o gynghorwyr cymuned. Mae nifer yr etholwyr fesul ward a nifer y cynghorwyr fel a ganlyn:

Ward Gymunedol Nifer Etholwyr Nifer Cynghorwyr Llanelen 411 2 Llan-ffwyst 1026 3 Llanwenarth Citra 139 1 Llanwenarth Tu Draw 1140 6

396. O ganlyniad i’r cynigion hyn, bydd nifer yr etholwyr yng Nghymuned Llan-ffwyst Fawr yn gostwng i 2,584.

Cynrychiolaethau 397. Derbyniodd y Cyngor nifer o gynrychiolaethau mewn perthynas â Chymuned Llan-ffwyst Fawr ac maent wedi’u crynhoi a’u cynnwys yn ei adroddiad cynigion terfynol. Mae’r crynodeb hwn wedi’i gynnwys isod.

Cynrychiolaethau Cychwynnol 398. Derbyniwyd cynrychiolaeth gan Gyngor Cymuned Llan-ffwyst mewn perthynas â’i drefniadau cymunedol. Ar y cyfan, mae’r Cyngor Cymuned yn dymuno i’r trefniadau presennol aros, gyda chynnydd yn nifer y cynghorwyr sy’n cynrychioli ward Llan-ffwyst o 3 i 6.

399. Cyflwynodd Cyngor Tref y Fenni gynrychiolaeth yn cynnig bod wardiau Llan-ffwyst a Llanwenarth Citra yn cael eu cyfuno yng nghymuned y Fenni oherwydd yr angen i gymunedau fod yn addas i’r diben ac yn ddigon mawr i fanteisio ar arbedion maint.

400. Cyflwynodd Cyngor Cymuned Llan-ffwyst ail gynrychiolaeth mewn ymateb i’r cynnig a roddwyd gerbron gan Gyngor Tref y Fenni ac, yn gryno, amlygodd y rhesymau canlynol o ran pam na ddylid cyfuno’r ardaloedd: Bod Llan-ffwyst ar wahân yn ddaearyddol oddi wrth y Fenni gydag Afon Wysg yn ffurfio ffin amlwg; y bydd y cynnydd arfaethedig yn y boblogaeth yn sicrhau bod cymuned Llan-ffwyst yn parhau’n gymuned hyfyw ac effeithiol eithriadol gydag aelodau sydd wedi datblygu perthynas dda gyda’r etholwyr, a, byddai’n niweidiol i hunaniaeth Llan-ffwyst i uno â’r Fenni gan fod anghenion Llan-ffwyst fel cymuned wledig yn wahanol iawn i anghenion y dref.

401. Mynychodd gweithgor y Cyngor gyfarfod o Gyngor Cymuned Llan-ffwyst hefyd er mwyn cael dealltwriaeth well o bryderon a natur y gymuned er mwyn eu cynorthwyo ym mhroses yr arolwg.

Tudalen 2 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Cynrychiolaethau Drafft 402. Rhoddodd Cyngor Cymuned Llan-ffwyst drosolwg o’r trefniadau presennol a’r cyfrifoldebau y mae’r gymuned yn ymgymryd â nhw ar gyfer pob ward, gan gynnwys perchenogaeth a chynhaliaeth asedau yng Ngofilon sy’n gyfrifoldeb Cyngor Cymuned Llan-ffwyst Fawr ar hyn o bryd.

403. Roedd y gynrychiolaeth a gyflwynwyd yn gwrthwynebu’r cynigion i wahanu Gofilon a Llan- ffwyst yn gymunedau ar wahân oherwydd y costau sy’n gysylltiedig â chynnal cynghorau ar wahân a chynnydd posibl yn y praesept i drigolion, ac, yn cynnig cynllun newydd o drefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned. Hefyd, gwrthwynebodd y Cyngor Cymuned y cynnig ar gyfer cynnwys Llanwenarth Citra yn Nhref y Fenni.

Cynigion ar gyfer ffiniau cymunedol 404. Argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso tri newid i’r ffin gymunedol bresennol, sy’n cynnwys cynigion i drosglwyddo ardaloedd rhwng Cymuned Llan-ffwyst Fawr a’r cymunedau canlynol: • Y Fenni • Llanelli • Llanofer (cynigir ei henwi yn Gobion Fawr)

405. Gweler paragraff 28 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo ward Llanwenarth Citra o Gymuned Llan-ffwyst Fawr i Dref y Fenni. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 10 Cyfrol 1.

406. Gweler paragraff 379 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Llan-ffwyst Fawr (Ward Llanwenarth Tu Draw) i Gymuned Llanelli (ward ). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 198 Cyfrol 1.

407. Mae’r Cyngor yn cynnig trosglwyddo’r ardal rhwng Ffordd Blaenau’r Cymoedd (gogledd) a Llanelen (De) o Gymuned Llanofer (ward Llangatwg Dyffryn Wysg) i Gymuned Llan-ffwyst Fawr (ward Llanelen). Mae’r cynnig hwn yn cynnwys yr holl dir i’r gorllewin o’r rheilffordd sy’n rhedeg yn gyfochrog â’r A40 ac yn eistedd rhwng Cylchfan Hardwick a’r ffin gymunedol bresennol i’r gogledd o Lanelen, gan effeithio ar saith o etholwyr. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 5.

408. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 3 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – Community of Fawr (overview)

Tudalen 4 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Tudalen 5 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Cynigion ar gyfer ffiniau wardiau cymunedol 409. Ochr yn ochr â’r newidiadau sy’n cael eu cynnig i’r ffin gymunedol a amlinellwyd yn yr adran flaenorol, argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso un newid i ffiniau wardiau mewnol presennol Cymuned Llan-ffwyst Fawr a newid enw un ward gymunedol bresennol. Mae’r cynnig hwn yn cynnwys newid i ffiniau presennol y wardiau canlynol: • Llan-ffwyst • Llanwenarth Tu Draw (cynigir ei henwi yn Gofilon)

Llan-ffwyst 410. Mae’r Cyngor yn cynnig trosglwyddo’r ardal i’r gorllewin o Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog o ward Llan-ffwyst i ward arfaethedig Gofilon yn y Gymuned. Mae’r Cyngor yn argymell hyn er mwyn darparu ffin amlwg gan ddilyn nodweddion naturiol rhwng y ddwy ardal hon. Mae’r cynnig yn gweld y ffin yn cael ei hymestyn tua’r de ar hyd y gamlas hyd at safle llogi cychod Brecon Park a Wharfingers Cottage, cyn mynd tua’r de i fyny ar hyd y tarddiad naturiol a chan amgáu’r holl dir âr i’r gorllewin ohono. Ymddengys bod y cynnig hwn yn effeithio ar un eiddo. 411. Mae map yn dangos ward arfaethedig Llan-ffwyst yng Nghymuned Llan-ffwyst Fawr i’w weld ar dudalen 7.

Llanwenarth Tu Draw 412. Mae’r Cyngor yn cynnig newid enw ward bresennol Llanwenarth Tu Draw yng Nghymuned Llan-ffwyst Fawr. Cynigir mai enw newydd y ward yw Gofilon. 413. Gweler paragraff 410 am fanylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o ward Llan-ffwyst i ward arfaethedig Gofilon yn y gymuned. 414. Mae map yn dangos ward arfaethedig Gofilon yng Nghymuned Llan-ffwyst Fawr i’w weld ar dudalen 9.

415. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 6 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Tudalen 7 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – 16.10 Llanfoist

Tudalen 8 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Tudalen 9 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

NEWIDIADAU ÔL-DDILYNOL

Trefniadau etholiadol Cyngor Cymuned

416. Mae’r trefniadau etholiadol cymunedol a argymhellir yn dilyn y newidiadau i’r gymuned a’r wardiau cymunedol yn Llan-ffwyst Fawr yn cynnwys tair ward: Gofilon, Llanelen a Llan-ffwyst. Cynigir bod gan y gymuned gyfanswm o 2,584 o etholwyr a’i bod yn cael ei chynrychioli gan 13 o gynghorwyr cymuned.

417. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i’r trefniadau etholiadol cymunedol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Gellir gweld trefniadau etholiadol argymelledig y Cyngor ar gyfer y cyngor Cymuned isod:

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned Llan-ffwyst Fawr Presennol Gynigiwyd gan Cyngor Sir Fynwy Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Wardiau Cymuned Cymuned Cynghorydd Cynghorydd Llanelen 411 2 206 -9% 418 2 209 5% Llan-ffwyst 1026 3 342 51% 1026 6 171 -14% Llanwenarth 139 1 139 -39% - - - - Citra Llanwenarth 1140 6 190 -16% - - - - Tu Draw Gofilon - - - - 1140 5 228 15% 2716 12 226 2584 13 199

418. Ystyriodd y Comisiwn y trefniadau etholiadol cyngor cymuned a gynigiwyd gan y Cyngor a chydnabu fod y rhain wedi’u seilio ar gynnydd rhagamcanol mewn rhan o’r gymuned. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn wedi ystyried y diwygiadau canlynol i gynnig y Comisiwn ar sail y lefelau etholwyr presennol:

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned Llan-ffwyst Fawr Presennol Gynigiwyd gan CFFDL Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Wardiau Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Cymuned Cymuned Cynghorydd Cynghorydd Llanelen 411 2 206 -9% 418 2 209 5% Llan-ffwyst 1026 3 342 51% 1026 5 205 3% Llanwenarth 139 1 139 -39% - - - - Citra Llanwenarth 1140 6 190 -16% - - - - Tu Draw Gofilon - - - - 1140 6 190 -4% 2716 12 226 2584 13 199

419. Mae’r cynnig hwn yn lleihau’r amrediad mewn cynrychiolaeth etholiadol o fewn y gymuned.

Tudalen 10 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

420. Mae’r Comisiwn yn fodlon fod newidiadau arfaethedig y Comisiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Trefniadau wardiau etholiadol

421. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Nid yw’r Cyngor wedi ystyried newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol yn ei gynigion terfynol.

422. O ganlyniad i’r newidiadau argymelledig i’r ffiniau cymunedol a wardiau cymunedol, mae’r Comisiwn yn argymell hefyd fod yr un newidiadau’n cael eu cymhwyso i’r wardiau etholiadol presennol a restrir isod (gweler Atodiad 4 ac Atodiad 5 i gael mwy o fanylion): • Cantref (gweler paragraff 67 (Cyfrol 1) uchod) • Bryn Llanelli (cynigir ei henwi yn Llanelli) • Llan-ffwyst Fawr • Llanofer (cynigir ei henwi yn Gobion Fawr) • Llanwenarth Tu Draw (cynigir ei henwi yn Gofilon)

Tudalen 11 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

LLANGATWG FEIBION AFEL

423. Mae’r trefniadau cymunedol presennol yn Llangatwg Feibion Afel yn cynnwys tair ward: Llangatwg Feibion Afel, Llanoronwy a Llanfocha, ac Ynysgynwraidd. Mae gan y gymuned gyfanswm o 850 o etholwyr ac fe’i cynrychiolir gan 10 o gynghorwyr cymuned. Mae nifer yr etholwyr fesul ward a nifer y cynghorwyr fel a ganlyn:

Ward Gymunedol Nifer Etholwyr Nifer Cynghorwyr Llangatwg Feibion Afel 296 3 Ynysgynwraidd 314 4 Llanoronwy a Llanfocha 240 3

424. O ganlyniad i’r cynigion hyn, cynigir bod Cymuned Llangatwg Feibion Avel, ochr yn ochr â Chymuned Llandeilo Gresynni, yn ffurfio rhannau o Gymunedau arfaethedig Ynysgynwraidd a Chastell Gwyn. Mae Cymuned bresennol Llangatwg Feibion Avel yn cael ei diddymu felly.

425. I gael rhagor o wybodaeth am yr ardaloedd sy’n cael eu trosglwyddo o Gymuned Llangatwg Feibion Afel i Gymuned arfaethedig Ynysgynwraidd, gweler tudalennau 158 i 169 isod.

426. I gael rhagor o wybodaeth am yr ardaloedd sy’n cael eu trosglwyddo o Gymuned Llangatwg Feibion Afel i Gymuned arfaethedig Castell-gwyn, gweler tudalennau 170 i 190 isod.

Tudalen 12 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

LLAN-GWM

427. Mae’r trefniadau cymunedol presennol yn Llan-gwm yn cynnwys dwy ward: Llan-gwm a Llan- soe. Mae gan y gymuned gyfanswm o 355 o etholwyr ac fe’i cynrychiolir gan saith o gynghorwyr cymuned. Mae nifer yr etholwyr fesul ward a nifer y cynghorwyr fel a ganlyn:

Ward Gymunedol Nifer Etholwyr Nifer Cynghorwyr Llan-gwm 224 5 Llan-soe 131 2

428. O ganlyniad i’r cynigion hyn, cynigir cyfuno Cymuned Llan-gwm gyda Chymuned Llantrisant Fawr.

Cynrychiolaethau 429. Ni dderbyniodd y Cyngor unrhyw gynrychiolaethau mewn perthynas â Chymuned Llan-gwm.

Cynigion ar gyfer ffiniau cymunedol 430. I gael rhagor o wybodaeth am gynnig y Cyngor i gyfuno Cymunedau Llan-gwm a Llantrisant Fawr, gweler paragraff 539 isod.

Cynigion ar gyfer ffiniau wardiau cymunedol

431. Ni chynigiodd y Cyngor newidiadau i ffiniau rhwng wardiau cymunedol mewnol Cymuned Llan-gwm.

NEWIDIADAU ÔL-DDILYNOL

Trefniadau etholiadol Cynghorau Cymuned

432. I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r newidiadau ôl-ddilynol i drefnidau etholiadol cymunedol, yn dilyn cynnig y Cyngor i gyfuno Cymunedau Llan-gwm a Llantrisant Fawr, gweler paragraff 543 isod.

Trefniadau wardiau etholiadol

433. I gael rhagor wybodaeth ynglŷn â’r newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol, yn dilyn cynnig y Cyngor i gyfuno Cymunedau Llan-gwm a Llantrisant Fawr, gweler paragraff 546 isod.

Tudalen 13 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

LLANGYBI

434. Mae’r trefniadau cymunedol presennol yn Llangybi yn cynnwys tair ward: Coed-Y-Paen, Llandegfedd a Llangybi. Mae gan y gymuned gyfanswm o 740 o etholwyr ac fe’i cynrychiolir gan naw o gynghorwyr cymuned. Mae nifer yr etholwyr fesul ward a nifer y cynghorwyr fel a ganlyn:

Ward Gymunedol Nifer Etholwyr Nifer Cynghorwyr Coed-y-Paen 116 2 Llandegfedd 153 2 Llangybi 471 5

435. O ganlyniad i’r cynigion hyn, bydd nifer yr etholwyr yng Nghymuned Llangybi yn cynyddu i 1,153.

Cynrychiolaethau 436. Derbyniodd y Cyngor nifer o gynrychiolaethau mewn perthynas â Chymuned Llangybi ac maent wedi’u crynhoi a’u cynnwys yn ei adroddiad cynigion terfynol. Mae’r crynodeb hwn wedi’i gynnwys isod.

Cynrychiolaethau Cychwynnol 437. Cyflwynodd Cyngor Cymuned Llangybi gynrychiolaeth yn dweud bod y trefniadau presennol yn dderbyniol, yn hydrin ac wedi’u deall yn dda gan y tair cymuned. Dymuna’r cyngor i ystyriaeth gael ei rhoi i ledaeniad daearyddol y wardiau o fewn ei gymunedau, a’r pellter sydd angen ei deithio ar gyfer cyfarfodydd ac ymweliadau â safleoedd. Mae’r Cyngor yn dymuno cadw’r trefniadau presennol o ran ffiniau ac aelodau etholedig a theimla y byddai unrhyw leihad mewn cynrychiolaeth yn effeithio ar effeithiolrwydd y cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau.

Cynrychiolaethau Drafft 438. Derbyniwyd cynrychiolaeth oddi wrth Gyngor Cymuned Llanhenwg yn gwrthwynebu uno â Chymuned Llangybi. Mae’n cydnabod bod lefel gynrychiolaeth is nag mewn ardaloedd eraill o fewn ei gymuned ond cred bod y trefniadau presennol a phrofiad yr aelodau yn cynrychioli’r gymuned yn effeithiol, tra’i fod o’r farn y byddai uno yn cael effaith niweidiol ar y gynrychiolaeth sydd gan ei drigolion o dan y trefniadau presennol.

439. Cyflwynodd un o’r trigolion gynrychiolaeth hefyd yn dweud y dylai cylch gwaith ehangach a dyfodol Cynghorau Cymuned fod yn glir a dealledig, felly hefyd pryderon ynglŷn â’r gostyngiad mewn niferoedd cynghorwyr.

440. Cyflwynodd un o’r trigolion gynrychiolaeth yn cwestiynu’r sail resymegol a’r rhesymeg dros uno cymunedau, yn ogystal â holi ynghylch y cynigion a’r cyfrifoldebau ar gyfer cynghorau cymuned yn y dyfodol.

441. Cyflwynodd Cyngor Cymuned Llangybi gynrychiolaethau hefyd yn gwrthwynebu’r cynnig i uno ar sail y pwyntiau canlynol: Roedd yn cwestiynu amseriad yr arolwg o ystyried dyfodol ansicr

Tudalen 14 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

cyfrifoldeb cymunedol a gwasanaethau datganoledig; yn teimlo bod lefel y gynrychiolaeth o fewn y gymuned yn annheg ac nad yw’n addas i’r ardal; yn nodi cynnig ar gyfer deg o anheddau ychwanegol yn ward Llangybi, ac, yn darparu enghraifft o saith o gyfarfodydd y tu allan i’r cyngor y mae aelodau yn eu mynychu i gynrychioli’r gymuned, a rhaglenni gwaith yr ymgymerir â nhw gan y gymuned.

442. Derbyniwyd cynrychiolaethau hefyd gan Gymdeithas Trigolion Coed Y Paen yn gofyn am gadw dau aelod ar gyfer y ward a bod cydbwysedd cynrychiolaeth gwryw/benyw a’i fod yn cynnig opsiynau i drigolion wrth godi materion. Mae hefyd yn codi pryderon ynghylch diffyg cynrychiolaeth yn sgil gwyliau ac uno â Llanhenwg.

Cynigion ar gyfer ffiniau cymunedol 443. Argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso un newid i’r ffin gymunedol bresennol, sy’n cynnwys cynnig i gyfuno’r cymunedau canlynol: • Llangybi • Llanhenwg

444. Mae’r Cyngor yn cynnig cyfuno cymuned Llangybi gyda Chymuned bresennol Llanhenwg, ar y sail bod mynediad i’r brif ffordd ar gyfer, a rhwng, llawer o’r wardiau yn y ddwy gymuned yn canolbwyntio ar yr ardal ger Gwesty Cwrt Bleddyn. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 16.

445. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 15 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 16 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Cynigion ar gyfer ffiniau wardiau cymunedol

446. Ni chynigiodd y Cyngor newidiadau i ffiniau rhwng wardiau cymunedol mewnol Cymuned Llangybi.

NEWIDIADAU ÔL-DDILYNOL

Trefniadau etholiadol Cynghorau Cymuned

447. Mae’r trefniadau etholiadol cymunedol a argymhellir yn dilyn y newidiadau i gymuned Llangybi yn cynnwys chwe ward: Coed-Y-Paen, Llandegfedd, Llangattock Nigh , Llangybi, Llanhenwg a Thredynog. Cynigir bod gan y gymuned gyfanswm o 1,153 o etholwyr a’i bod yn cael ei chynrychioli gan wyth o gynghorwyr cymuned.

448. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i’r trefniadau etholiadol cymunedol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Gellir gweld trefniadau etholiadol argymelledig y Cyngor ar gyfer y cyngor cymuned isod:

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned Llangybi Presennol Arfaethedig Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Wardiau Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Cymuned Cymuned Cynghorydd Cynghorydd Coed-Y-Paen 116 2 58 -29% 116 1 116 -20% Llandegfedd 153 2 77 -7% 153 1 153 6% Llangybi 471 5 94 15% 471 3 157 9% Llangattock Nigh - - - - 96 1 96 -33% Caerleon Llanhenwg - - - - 162 1 162 12% Tredynog - - - - 155 1 155 8% 740 9 82 1153 8 144

449. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Trefniadau wardiau etholiadol

450. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Nid yw’r Cyngor wedi ystyried newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol yn ei gynigion terfynol.

451. Nid yw’r newidiadau arfaethedig i Gymuned Llangybi yn cael unrhyw effaith ôl-ddilynol ar drefniadau wardiau etholiadol.

Tudalen 17 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

LLANHENWG

452. Mae’r trefniadau cymunedol presennol yn Llanhenwg yn cynnwys tair ward: Llangattock Nigh Caerleon, Llanhenwg a Thredynog. Mae gan y gymuned gyfanswm o 413 o etholwyr ac fe’i cynrychiolir gan wyth o gynghorwyr cymuned. Mae nifer yr etholwyr fesul ward a nifer y cynghorwyr fel a ganlyn:

Ward Gymunedol Nifer Etholwyr Nifer Cynghorwyr Llangattock Nigh Caerleon 96 2 Llanhenwg 162 3 Tredynog 155 3

453. O ganlyniad i’r cynigion hyn, cynigir cyfuno Cymuned Llanhenwg gyda Chymuned Llangybi.

Cynrychiolaethau 454. Derbyniodd y Cyngor nifer o gynrychiolaethau mewn perthynas â Chymuned Llanhenwg, ac maent wedi’u crynhoi a’u cynnwys yn ei adroddiad cynigion terfynol. Mae’r crynodeb hwn wedi’i gynnwys isod.

Cynrychiolaethau Cychwynnol 455. Ni dderbyniodd y Cyngor unrhyw gynrychiolaethau mewn perthynas â Chymuned Llanhenwg yn y cyfnod cychwynnol.

Cynrychiolaethau Drafft 456. Derbyniwyd cynrychiolaeth oddi wrth Gyngor Cymuned Llanhenwg yn gwrthwynebu uno â Chymuned Llangybi. Mae’n cydnabod bod lefel gynrychiolaeth is nag mewn ardaloedd eraill o fewn ei gymuned ond cred bod y trefniadau presennol a phrofiad yr aelodau yn cynrychioli’r gymuned yn effeithiol, tra’i fod o’r farn y byddai uno yn cael effaith niweidiol ar y gynrychiolaeth sydd gan ei drigolion o dan y trefniadau presennol.

457. Cyflwynodd un o’r trigolion gynrychiolaeth hefyd yn dweud y dylai cylch gwaith ehangach a dyfodol Cynghorau Cymuned fod yn glir a dealledig, felly hefyd pryderon ynglŷn â’r gostyngiad mewn niferoedd cynghorwyr.

458. Cyflwynodd un o’r trigolion gynrychiolaeth yn cwestiynu’r sail resymegol a’r rhesymeg dros uno cymunedau, yn ogystal â holi ynghylch y cynigion a’r cyfrifoldebau ar gyfer cynghorau cymuned yn y dyfodol.

459. Cyflwynodd Cyngor Cymuned Llangybi gynrychiolaethau hefyd yn gwrthwynebu’r cynnig i uno ar sail y pwyntiau canlynol: Roedd yn cwestiynu amseriad yr arolwg o ystyried dyfodol ansicr cyfrifoldeb cymunedol a gwasanaethau datganoledig; yn teimlo bod lefel y gynrychiolaeth o fewn y gymuned yn annheg ac nad yw’n addas i’r ardal; yn nodi cynnig ar gyfer deg o anheddau ychwanegol yn ward Llangybi, ac, yn darparu enghraifft o saith o gyfarfodydd y tu allan i’r cyngor y mae aelodau yn eu mynychu i gynrychioli’r gymuned, a rhaglenni gwaith yr ymgymerir â nhw gan y gymuned.

Tudalen 18 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

460. Derbyniwyd cynrychiolaethau hefyd gan Gymdeithas Trigolion Coed Y Paen yn gofyn am gadw dau aelod ar gyfer y ward a bod cydbwysedd cynrychiolaeth gwryw/benyw a’i fod yn cynnig opsiynau i drigolion wrth godi materion. Mae hefyd yn codi pryderon ynghylch diffyg cynrychiolaeth yn sgil gwyliau ac uno â Llanhenwg.

Cynigion ar gyfer ffiniau cymunedol 461. I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â chynnig y Cyngor i gyfuno Cymunedau Llangybi a Llanhenwg, gweler paragraff 444 uchod.

Cynigion ar gyfer ffiniau wardiau cymunedol

462. Ni chynigiodd y Cyngor newidiadau i ffiniau rhwng wardiau cymunedol mewnol Cymuned Llanhenwg.

NEWIDIADAU ÔL-DDILYNOL

Trefniadau etholiadol Cynghorau Cymuned

463. I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r newidiadau ôl-ddilynol i drefniadau etholiadol cymunedol, yn dilyn cynnig Y Cyngor i gyfuno Cymunedau Llangybi a Llanhenwg, gweler paragraff 447 uchod.

Trefniadau wardiau etholiadol

464. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Nid yw’r Cyngor wedi ystyried newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol yn ei gynigion terfynol.

465. Nid yw’r newidiadau arfaethedig i Gymuned Llanhenwg yn cael unrhyw effaith ôl-ddilynol ar drefniadau wardiau etholiadol.

Tudalen 19 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

LLANOFER

466. Mae’r trefniadau cymunedol presennol yn Llanofer yn cynnwys pedair ward: Llanddewi Rhydderch, Llanfair Cilgedin, Llangatwg Dyffryn Wysg a Llanofer. Mae gan y gymuned gyfanswm o 1,128 o etholwyr ac fe’i cynrychiolir gan 12 o gynghorwyr cymuned. Mae nifer yr etholwyr fesul ward a nifer y cynghorwyr fel a ganlyn:

Ward Gymunedol Nifer Etholwyr Nifer Cynghorwyr Llanddewi Rhydderch 321 3 Llanfair Cilgedin 179 2 Llangatwg Dyffryn Wysg 387 4 Llanofer 241 3

467. O ganlyniad i’r cynigion hyn, bydd nifer yr etholwyr yn y Gymuned yn gostwng i 997.

Cynrychiolaethau 468. Derbyniodd y Cyngor nifer o gynrychiolaethau mewn perthynas â Chymuned Llanofer ac maent wedi’u crynhoi a’u cynnwys yn ei adroddiad cynigion terfynol. Mae’r crynodeb hwn wedi’i gynnwys isod.

Cynrychiolaethau Cychwynnol 469. Derbyniwyd cynrychiolaeth gan gymuned Llanofer, yn datgan ei gwrthwynebiad i’r arolwg fel ‘gwastraff amser ac arian’ ac y byddai ‘unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud er mwyn newid’. Dywedont fod ‘y sefyllfa bresennol yn gweithio’n dda’ a chynghorodd y gweithgor i ‘adael llonydd i bethau’.

Cynrychiolaethau Drafft 470. Derbyniwyd cynrychiolaethau gan Gyngor Cymuned Llanofer yn cefnogi’r cynigion ar gyfer ei gymuned. Mae’r cyngor cymuned yn cynnig yr enw Gobion Fawr ar gyfer y gymuned.

Cynigion ar gyfer ffiniau cymunedol 471. Argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso naw o newidiadau i’r ffin gymunedol bresennol, newid i enw’r gymuned a chynigion sy’n cynnwys trosglwyddo ardaloedd rhwng Cymuned Llanofer a’r cymunedau canlynol: • Y Fenni • Goetre Fawr • Llan-arth • Llan-ffwyst Fawr

472. Gweler paragraff 31 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Dref y Fenni (ward Castell) i gymuned arfaethedig Gobion Fawr (ward Llanddewi Rhydderch). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 13 Cyfrol 1.

473. Gweler paragraff 32 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo dwy ardal o Gymuned Llanofer (wardiau Llangatwg Dyffryn Wysg a Llanddewi Rhydderch, yn y drefn

Tudalen 20 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

honno) i Dref y Fenni (ward arfaethedig Pen-y-Fâl). Dangosir y cynnig hwn ar y mapiau ar dudalennau 14 a 15 Cyfrol 1.

474. Gweler paragraff 263 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo ward Llanofer yng Nghymuned Llanofer, i Gymuned Goetre Fawr. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 151 Cyfrol 1.

475. Gweler paragraff 264 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Llanofer (ward Llanfair Cilgedin) i Gymuned Goetre Fawr (ward arfaethedig Nant- Y-Deri). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 152 Cyfrol 1.

476. Gweler paragraff 335 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo ward Llanfable yng Nghymuned Llan-arth i Gymuned arfaethedig Gobion Fawr. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 180 Cyfrol 1.

477. Ochr yn ochr â’r cynnig y cyfeirir ato ym mharagraff 335 (gweler Cyfrol 1) uchod, mae’r Cyngor yn cynnig trosglwyddo’r tir sy’n gysylltiedig â Vinery Cottage o Gymuned Llan-arth (ward Llanfable) i Gymuned arfaethedig Gobion Fawr (ward Llanddewi Rhydderch). Nid yw’r cynnig hwn yn effeithio ar unrhyw etholwyr. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 23.

478. Gweler paragraff 336 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal y Gymuned Llan-arth (ward Llan-arth) i Gymuned arfaethedig Gobion Fawr (ward Llanddewi Rhydderch). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 181 Cyfrol 1.

479. Gweler paragraff 337 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Llanofer (ward Llangatwg Dyffryn Wysg) i Gymuned Llan-arth (ward Llan-arth). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 182 Cyfrol 1.

480. Gweler paragraff 407 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Llanofer (ward Llangatwg Dyffryn Wysg) i Gymuned Llan-ffwyst Fawr (ward Llanelen). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 5.

481. Cynigiodd y Cyngor newid enw Cymuned bresennol Llanofer oherwydd y newid arfaethedig i’r ffin gymunedol, yr amlinellir ym mharagraff 263 (gweler Cyfrol 1), sy’n gweld ward Llanofer yn cael ei throsglwyddo allan o’r gymuned hon. Mae’r Cyngor yn cynnig yr enw Gobion Fawr ar gyfer y Gymuned hon, fel yr awgrymwyd iddynt gan y Cyngor Cymuned.

482. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 21 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 22 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Tudalen 23 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Cynigion ar gyfer ffiniau wardiau cymunedol

483. Ni chynigiodd y Cyngor newidiadau i ffiniau rhwng wardiau cymunedol mewnol Cymuned arfaethedig Gobion Fawr.

NEWIDIADAU ÔL-DDILYNOL

Trefniadau etholiadol Cynghorau Cymuned

484. Mae’r trefniadau etholiadol cymunedol a argymhellir yn dilyn y newidiadau i’r gymuned a’r wardiau cymunedol yn Llanofer yn cynnwys pedair ward: Llanddewi Rhydderch, Llanfair Cilgedin, Llangatwg Dyffryn Wysg a Llanfable. Cynigir bod gan y gymuned gyfanswm o 997 o etholwyr a’i bod yn cael ei chynrychioli gan saith o gynghorwyr cymuned.

485. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i’r trefniadau etholiadol cymunedol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Gellir gweld trefniadau etholiadol argymelledig y Cyngor ar gyfer y cyngor cymuned isod:

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned Llanofer Presennol Arfaethedig Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Wardiau Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Cymuned Cymuned Cynghorydd Cynghorydd Llanddewi 321 3 107 14% 331 2 166 16% Rhydderch Llanfair 179 2 90 -5% 176 1 176 24% Cilgedin Llangatwg 387 4 97 3% 380 3 127 -11% Dyffryn Wysg Llanofer 241 3 80 -15% - - - - Llanfable - - - - 110 1 110 -23% 1128 12 94 997 7 142

486. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Trefniadau wardiau etholiadol

487. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Nid yw’r Cyngor wedi ystyried newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol yn ei gynigion terfynol.

488. O ganlyniad i’r newidiadau a argymhellir i enw Cymuned bresennol Llanofer, mae’r Comisiwn yn argymell bod yr un newid enw’n cael ei gymhwyso i enw’r ward etholiadol bresennol. Argymhellir felly bod y ward etholiadol yn cael ei henwi yn Gobion Fawr.

Tudalen 24 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

489. O ganlyniad i’r newidiadau a argymellir i’r ffin gymunedol, mae’r Comisiwn yn argymell hefyd fod yr un newidiadau’n cael eu cymhwyso i’r wardiau etholiadol presennol a restrir isod (gweler Atodiad 4 ac Atodiad 5 i gael rhagor o fanylion): • Goetre Fawr • Llan-ffwyst Fawr • Llanofer (cynigir ei henwi yn Gobion Fawr)

Tudalen 25 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

LLANDEILO GRESYNNI

490. Mae’r trefniadau cymunedol presennol yn Llandeilo Gresynni yn cynnwys tair ward: Llandeilo Gresynni, Llanfihangel Ystum Llewern a Phenrhos. Mae gan y gymuned gyfanswm o 580 o etholwyr ac fe’i cynrychiolir gan naw o gynghorwyr cymuned. Mae nifer yr etholwyr fesul ward a nifer y cynghorwyr fel a ganlyn:

Ward Gymunedol Nifer Etholwyr Nifer Cynghorwyr Llandeilo Gresynni 362 6 Llanfihangel Ystum Llewern 71 1 Pen-rhos 147 2

491. O ganlyniad i’r cynigion hyn, cynigir bod Cymuned Llandeilo Gresynni, ochr yn ochr â Chymuned Llangatwg Feibion Afel, yn ffurfio rhannau o Gymunedau arfaethedig Ynysgynwraidd a Chastell Gwyn. Mae Cymuned bresennol Llandeilo Gresynni yn cael ei diddymu felly.

492. I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r ardaloedd sy’n cael eu trosglwyddo o Gymuned Llandeilo Gresynni i Gymuned arfaethedig Ynysgynwraidd, gweler tudalennau 158 i 169 isod.

493. I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r ardaloedd sy’n cael eu trosglwyddo o Gymuned Llandeilo Gresynni i Gymuned arfaethedig Castell-gwyn, gweler tudalennau 170 i 190 isod.

Tudalen 26 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

TUDALEN WAG

Tudalen 27 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

LLANDEILO BERTHOLAU

494. Mae’r trefniadau cymunedol presennol yn Llandeilo Bertholau yn cynnwys chwe ward: Dwyrain Croesonnen, Gorllewin Croesonnen, y Maerdy, Pantygelli, Dwyrain Ysgyryd a Gorllewin Ysgyryd. Mae gan y gymuned gyfanswm o 3,098 o etholwyr ac fe’i cynrychiolir gan 13 o gynghorwyr cymuned. Mae nifer yr etholwyr fesul ward a nifer y cynghorwyr fel a ganlyn:

Ward Gymunedol Nifer Etholwyr Nifer Cynghorwyr Dwyrain Croesonnen 556 2 Gorllewin Croesonnen 1131 5 Y Maerdy 874 3 Pantygelli 85 1 Dwyrain Ysgyryd 180 1 Gorllewin Ysgyryd 272 1

495. O ganlyniad i’r cynigion hyn, bydd nifer yr etholwyr yng Nghymuned Llandeilo Bertholau yn gostwng i 2,806.

Cynrychiolaethau 496. Derbyniodd y Cyngor nifer o gynrychiolaethau mewn perthynas â Chymuned Llandeilo Bertholau ac maent wedi’u crynhoi a’u cynnwys yn ei adroddiad cynigion terfynol. Mae’r crynodeb hwn wedi’i gynnwys isod.

Cynrychiolaethau Cychwynnol 497. Derbyniwyd cynrychiolaeth fanwl gan Gyngor Tref y Fenni mewn perthynas â’r trefniadau ar gyfer ei gymuned ei hun yn ogystal â chymuned Llandeilo Bertholau. Yn gryno, roedd y gynrychiolaeth yn cynnig uno’r Maerdy a Dwyrain a Gorllewin Croesonnen i ffurfio cymuned gyda’r Fenni a rhan o Llan-ffwyst.

498. Cyflwynodd Llandeilo Bertholau gynrychiolaeth gychwynnol yn argymell diwygiadau i anomaleddau i’r ffiniau yn eu hardal yn ogystal â chynnwys y cynnig i uno Dwyrain a Gorllewin Croesonnen, a Dwyrain a Gorllewin Ysgyryd, i’w wardiau ei hun sef Croesonnen, ac, Ysgyryd.

498. Cyflwynodd Llandeilo Bertholau ail gynrychiolaeth fanwl yn gwrthwynebu awgrym Cyngor Tref y Fenni nad yw’r trefniadau cymunedol presennol yn addas i’r diben i ddelio â newidiadau yn y dyfodol. Rhoesant enghreifftiau lle mae cymunedau’n gweithio gyda’i gilydd ar hyn o bryd ac yn gallu delio ag unrhyw newidiadau yn y dyfodol, a thynnodd sylw at sut mae’r trefniadau presennol yn caniatáu ar gyfer gwybodaeth leol, perthnasoedd a chydlyniad cymunedol sydd o fudd i’r trigolion. Yn ogystal, amlinellwyd yr effeithiau negyddol ganddynt, ynghyd â’r gwasanaethau a gollir o bosibl ar sail y cynigion a roddwyd gerbron gan Gyngor Tref y Fenni.

Cynrychiolaethau Drafft 499. Roedd aelodau Cyngor Cymuned Llandeilo Bertholau yn bresennol yn seminar yr ymgynghoriad cyhoeddus a nodwyd y pwyntiau canlynol ganddynt: Maent yn croesawu’r cyfle i adolygu’r trefniadau presennol ac roeddent yn falch fod y pwyntiau a gynhwyswyd yn y Tudalen 28 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

gynrychiolaeth gychwynnol wedi’u hystyried. Fodd bynnag, codwyd pryder ganddynt mewn perthynas â chynigion y ffin newydd rhwng y Fenni a Chroesonen wrth y ffin ger Llwynu Lane. Maent o’r farn fod y ffin yn anodd ei hadnabod o ystyried ei bod yn dilyn ffiniau eiddo, ac maent yn ystyried y dylai’r holl eiddo ar Llwynu Lane gael eu lleoli yn ward Croesonnen.

Cynigion ar gyfer ffiniau cymunedol 501. Argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso dau newid i’r ffin gymunedol bresennol, sy’n cynnwys cynigion i drosglwyddo ardaloedd rhwng Cymuned Llandeilo Bertholau a’r gymuned ganlynol: • Y Fenni

502. Gweler paragraff 29 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Llandeilo Bertholau (ward Gorllewin Croesonnen) i Dref y Fenni (ward Lansdown). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 11 Cyfrol 1.

503. Gweler paragraff 30 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Llandeilo Bertholau (ward Dwyrain Croesonnen) i Dref y Fenni (ward arfaethedig Park). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 12 o Gyfrol 1.

504. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 29 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 30 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Cynigion ar gyfer ffiniau wardiau cymunedol 505. Ochr yn ochr â’r newidiadau sy’n cael eu cynnig i’r ffin gymunedol a amlinellwyd yn yr adran flaenorol, argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso wyth o newidiadau i ffiniau wardiau mewnol presennol Cymuned Llandeilo Bertholau. Mae’r cynnig hwn yn cynnwys newid i ffiniau presennol y wardiau canlynol: • Dwyrain Croesonnen • Gorllewin Croesonnen • Y Maerdy • Dwyrain Ysgyryd • Gorllewin Ysgyryd

Dwyrain Croesonnen 506. Yn ychwanegol at y newid i’r ffin gymunedol allanol a amlinellwyd ym mharagraff 503 uchod, roedd y Cyngor yn cynnig trosglwyddo llain o dir i’r dwyrain o’r A465 o ward Dwyrain Croesonnen i ward arfaethedig Ysgyryd yn y gymuned. Mae hwn yn barhad o’r un llinell ffin a gymhwyswyd rhwng Cymuned arfaethedig Gobion Fawr a Thref y Fenni (i’r de). Nid yw’r cynnig hwn yn effeithio ar unrhyw etholwyr. 507. Ymhellach i’r cynnig uchod (paragraff 506) mae’r Cyngor yn cynnig hefyd trosglwyddo rhan fach o dir i’r gorllewin o’r A465 o ward Gorllewin Ysgyryd i ward arfaethedig Croesonnen. Mae hyn yn ymestyn ffin yr A465 rhwng y ddwy ward ymhellach i’r gogledd, y tu hwnt i gyffordd yr A465/B4521, hyd ei haliniad â phwynt mwyaf gogleddol ward bresennol Dwyrain Croesonnen. Nid yw’r cynnig hwn yn effeithio ar unrhyw etholwyr.

508. Mae’r Cyngor yn argymell trosglwyddo hanner ogleddol ystâd tai The Newlands o ward Gorllewin Ysgyryd i ward arfaethedig Croesonnen. Mae hyn yn sicrhau nad oes ward yn cael ei rhannu ar draws yr ystâd tai. Mae’r Cyngor yn argymell nad yw’r ffin hon yn cynnwys Mardy Park Lodge yn y trosglwyddiad am fod yr eiddo hwn yn gysylltiedig â Pharc y Maerdy a fydd o fewn ward y Maerdy. Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar ryw 30 eiddo.

509. Mae’r Cyngor yn cynnig cyfuno wardiau Dwyrain Croesonnen a Gorllewin Croesonnen i ffurfio ward arfaethedig Croesonnen yng Nghymuned Llandeilo Bertholau. Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar 1,614 o etholwyr.

510. Mae map yn dangos ward arfaethedig Croesonnen yng Nghymuned Llandeilo Bertholau i’w weld ar dudalen 33.

Gorllewin Croesonnen 511. Yn ychwanegol at y newid i’r ffin gymunedol allanol a amlinellwyd ym mharagraff 502 uchod, gweler paragraff 509 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i gyfuno wardiau Dwyrain Croesonnen a Gorllewin Croesonnen i ffurfio ward arfaethedig Croesonnen yng Nghymuned Llandeilo Bertholau. 512. Mae’r Cyngor yn cynnig hefyd trosglwyddo Ysgol Gymraeg Y Fenni a’r Neuadd Hamdden a’r Tir, gan gynnwys yr eiddo preswyl rhwng yr ardal honno a Hereford Road, o ward y Maerdy i ward arfaethedig Croesonnen. Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar ryw 35 o anheddau preswyl, gan gynnwys tua 10 o flociau fflatiau bach.

Tudalen 31 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

513. Mae map yn dangos ward arfaethedig Croesonnen yng Nghymuned Llandeilo Bertholau i’w weld ar dudalen 33.

Y Maerdy 514. Yn ychwanegol at y newid i’r ffin ward gymunedol a amlinellwyd ym mharagraff 512 uchod, mae’r Cyngor yn cynnig trosglwyddo’r tir rhwng Hereford Road ac Afon Gafenni o ward Gorllewin Ysgyryd i ward y Maerdy. Mae hyn yn sicrhau bod eiddo ar hyd Hereford Road yn dod o fewn un ward. Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar ryw 19 o etholwyr. 515. Mae map yn dangos ward arfaethedig y Maerdy yng Nghymuned Llandeilo Bertholau i’w weld ar dudalen 38.

Dwyrain Ysgyryd 516. Mae’r Cyngor yn cynnig cyfuno wardiau Dwyrain Ysgyryd a Gorllewin Ysgyryd i ffurfio ward arfaethedig Ysgyryd yng Nghymuned Llandeilo Bertholau. Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar 328 o etholwyr. 517. Mae map yn dangos ward arfaethedig Ysgyryd yng Nghymuned Llandeilo Bertholau i’w weld ar dudalen 40.

Gorllewin Ysgyryd 518. Gweler paragraff 506 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o ward Dwyrain Croesonnen i ward arfaethedig Ysgyryd

519. Gweler paragraffau 507 a 508 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo dwy ardal o ward Gorllewin Ysgyryd i ward arfaethedig Croesonnen.

520. Gweler paragraff 514 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o ward Gorllewin Ysgyryd i ward y Maerdy.

521. Gweler paragraff 516 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i gyfuno wardiau Dwyrain Ysgyryd a Gorllewin Ysgyryd i ffurfio ward arfaethedig Ysgyryd yng Nghymuned Llandeilo Bertholau.

522. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 32 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Tudalen 33 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – 23.9 along the A465

Tudalen 34 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Tudalen 35 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – 23.11 Newlands estate (north)

Tudalen 36 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Insert proposal map – 23.14 Ysgol Gymraeg Y Fenni

Tudalen 37 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 38 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Tudalen 39 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – (overview) proposed Sgyridd ward

Tudalen 40 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

NEWIDIADAU ÔL-DDILYNOL

Trefniadau etholiadol Cynghorau Cymuned

523. Mae’r trefniadau etholiadol cymunedol a argymhellir yn dilyn y newidiadau i’r gymuned a’r wardiau cymunedol yn Llandeilo Bertholau yn cynnwys pedair ward: Croesonnen, y Maerdy, Pantygelli ac Ysgyryd. Cynigir bod gan y gymuned gyfanswm o 2,806 o etholwyr a’i bod yn cael ei chynrychioli gan 15 o gynghorwyr cymuned.

524. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i’r trefniadau etholiadol cymunedol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Gellir gweld trefniadau etholiadol argymelledig y Cyngor ar gyfer y cyngor cymuned isod:

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned Llandeilo Bertholau Presennol Gynigiwyd gan Cyngor Sir Fynwy Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Wardiau Cymuned Cymuned Cynghorydd Cynghorydd Dwyrain 556 2 278 17% - - - - Croesonnen Gorllewin 1131 5 226 -5% - - - - Croesonnen Y Maerdy 874 3 291 22% 779 6 130 -31% Pantygelli 85 1 85 -64% 85 1 85 -55% Dwyrain 180 1 180 -24% - - - - Ysgyryd Gorllewin 272 1 272 14% - - - - Ysgyryd Croesonnen - - - - 1614 6 269 44% Ysgyryd - - - - 328 2 164 -12% 3098 13 238 2806 15 187

525. Ystyriodd y Comisiwn drefniadau etholiadol y cyngor cymuned a gynigiwyd gan y Cyngor a chydnabu bod y rhain wedi’u seilio ar gynnydd rhagamcanol mewn rhan o’r gymuned. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn wedi cynnig y diwygiadau canlynol i gynnig y Cyngor ar sail y lefelau etholwyr presennol:

Tudalen 41 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned Llandeilo Bertholau Presennol Gynigiwyd gan CFFDL Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Wardiau Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Cymuned Cymuned Cynghorydd Cynghorydd Dwyrain 556 2 278 17% - - - - Croesonnen Gorllewin 1131 5 226 -5% - - - - Croesonnen Y Maerdy 874 3 291 22% 779 3 260 11% Pantygelli 85 1 85 -64% 85 1 85 -64% Dwyrain 180 1 180 -24% - - - - Ysgyryd Gorllewin 272 1 272 14% - - - - Ysgyryd Croesonnen - - - - 1614 6 269 15% Ysgyryd - - - - 328 2 164 -30% 3098 13 238 2806 12 234

526. Mae’r cynnig hwn yn lleihau’r amrediad mewn cynrychiolaeth etholiadol o fewn y gymuned ac yn creu trefniant sy’n cydweddu â nod y cyngor ar gyfer cymhareb ddelfrydol o 250 o etholwyr fesul cynghorydd yn yr ardal hon, gan ddarparu mwy o gydraddoldeb cynrychiolaeth o fewn y gymuned.

527. Mae’r Comisiwn yn fodlon fod newidiadau arfaethedig y Comisiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

528. Mae’r Comisiwn yn nodi fod maint yr etholaeth yn ward arfaethedig Pantygelli, o gymharu â wardiau eraill yng Nghymuned Llandeilo Bertholau, yn creu lefel amrywiant fawr. Fodd bynnag, nid oedd y Comisiwn yn teimlo ei bod yn briodol argymell trefniadau amgen ar gyfer yr ardal heb ymgynghori, ac mae’n argymell y gall fod angen rhoi ystyriaeth i adolygu hyn mewn arolwg o drefniadau etholiadol yn y dyfodol.

Trefniadau wardiau etholiadol

529. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Nid yw’r Cyngor wedi ystyried newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol yn ei gynigion terfynol.

530. O ganlyniad i’r newidiadau a argymhellir i’r ffiniau cymunedau a wardiau cymunedol, mae’r Comisiwn yn argymell hefyd fod yr un newidiadau’n cael eu cymhwyso i’r wardiau etholiadol presennol a restrwyd isod (gweler Atodiad 4 ac Atodiad 5 i gael rhagor o fanylion): • Croesonnen • Lansdown • Y Maerdy • Y Priordy (cynigir ei henwi yn Park)

Tudalen 42 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

TUDALEN WAG

Tudalen 43 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

LLANTRISANT FAWR

531. Mae’r trefniadau cymunedol presennol yn Llantrisant Fawr yn cynnwys dwy ward: Gwernesni a Llantrisant. Mae gan y gymuned gyfanswm o 329 o etholwyr ac fe’i cynrychiolir gan saith o gynghorwyr cymuned. Mae nifer yr etholwyr fesul ward a nifer y cynghorwyr fel a ganlyn:

Ward Gymunedol Nifer Etholwyr Nifer Cynghorwyr Gwernesni 116 3 Llantrisant 213 4

532. O ganlyniad i’r cynigion hyn bydd nifer yr etholwyr yng Nghymuned Llantrisant Fawr yn cynyddu i 684.

Cynrychiolaethau 533. Derbyniodd y Cyngor nifer o gynrychiolaethau mewn perthynas â Chymuned Llantrisant Fawr ac maent wedi’u crynhoi a’u cynnwys yn ei adroddiad cynigion terfynol. Mae’r crynodeb hwn wedi’i gynnwys isod.

Cynrychiolaethau Cychwynnol 534. Cyflwynodd Cyngor Cymuned Llantrisant Fawr gynrychiolaeth mewn perthynas â’i gymuned, yn datgan, er bod y Cyngor Cymuned yn derbyn bod amrywio eang rhwng lefelau cynrychiolaeth yn Sir Fynwy, bod lefelau cynrychiolaeth caeth yn llai pwysig na chydnabod ffactorau daearyddol a ffiniau naturiol cymunedau yn seiliedig ar aneddiadau. Teimla’r Cyngor Cymuned y byddai unrhyw ehangu yn y gymuned bresennol yn arwain at golli ffocws cymunedol, a byddai ceisio creu cymuned gydag isafswm o 1,000 o etholwyr yn creu cymuned gyda nifer fawr o bentrefi gwasgaredig gyda blaenoriaethau a buddiannau gwahanol. Mae’r Cyngor Cymuned yn tynnu sylw at ei gred mai prif swyddogaeth cymuned yw cynrychioli barnau, buddiannau a gweithredu ar ran cymuned sydd wedi’i diffinio’n glir ar sail patrymau anheddu pobl, ac nid ar gymhareb cynghorydd i etholwyr rhagddiffiniedig. Cred y Cyngor Cymuned Cymuned bod y trefniadau presennol wedi bod yn effeithiol am ei fod yn glwstwr bach o aneddiadau gydag ymdeimlad o leoliad a hunaniaeth leol a rennir; i’r perwyl hwnnw, maent yn cynnig dim newid i’r trefniadau presennol.

Cynrychiolaethau Drafft 535. Yn dilyn y cynnig drafft i gyfuno Cymunedau Llan-gwm a Llantrisant Fawr, derbyniwyd cynrychiolaeth gan Gyngor Cymuned Llantrisant Fawr yn nodi’r pwyntiau canlynol: Pryderon ynghylch cynrychiolaeth lai ar draws y cymunedau; bydd cyngor mwy yn arwain at golli ffocws ac ni fydd yn arbed unrhyw arian; pryderon y bydd Gwernesni yn ward ag un aelod, ac argymhelliad i aros hyd nes bod cynigion Adroddiad Williams yn dod yn glir.

536. Cyflwynodd Cyngor Cymuned Llan-gwm gynrychiolaeth yn gwrthwynebu’r cynigion a nododd y pwyntiau canlynol i gefnogi’r gynrychiolaeth a wnaed gan Gyngor Cymuned Llantrisant Fawr: Credant fod y trefniadau presennol yn effeithiol ac mai ychydig sy’n gyffredin rhwng cymunedau Llan-gwm a Llantrisant; maent yn gwrthwynebu wardiau ag un aelod, ac, yn codi pryder ynglŷn â lleihau’r gynrychiolaeth fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Tudalen 44 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

537. Cyflwynwyd cynrychiolaeth hefyd gan un o’r trigolion yn gwrthwynebu’r cynigion, gan ddweud nad oes gan Llan-soe unrhyw berthynas â Llantrisant a datgan eu cred na ddylai fod unrhyw wardiau ag un aelod mewn cyngor.

538. Cyflwynwyd cynrychiolaeth gan un o’r trigolion yn cefnogi’r newidiadau arfaethedig, gan ddweud nad oes unrhyw etholiadau wedi’u cynnal i gyngor Llan-soe a Llan-gwm ers blynyddoedd lawer a bod y rhan fwyaf o’r aelodau wedi’u cyfethol, a theimla nad yw eu buddiannau hi wedi’u cynrychioli, ond teimla ei bod yn fwriad gan y cynghorwyr cymuned i wasanaethu’r gymuned.

Cynigion ar gyfer ffiniau cymunedol 539. Argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso un newid i’r ffin gymunedol bresennol, sy’n cynnwys cynnig i gyfuno’r cymunedau canlynol: • Llan-gwm • Llantrisant Fawr

540. Mae’r Cyngor yn cynnig cyfuno cymuned Llantrisant Fawr gyda chymuned bresennol Llan- gwm, ar sail cysylltiadau cyfathrebu clir sy’n bodoli rhwng y ddwy gymuned (yn enwedig rhwng ward Gwernesni (Cymuned Llantrisant Fawr) a Chymuned Llan-gwm) a nodweddion tebyg o ran natur wledig, arwynebedd a maint yr etholaeth. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 46.

541. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 45 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – Community of Llantrisant Fawr (overview)

Tudalen 46 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Cynigion ar gyfer ffiniau wardiau cymunedol

542. Ni chynigiodd y Cyngor newidiadau i ffiniau rhwng wardiau cymunedol mewnol Cymuned Llantrisant Fawr.

NEWIDIADAU ÔL-DDILYNOL

Trefniadau etholiadol Cynghorau Cymuned

543. Mae’r trefniadau etholiadol cymunedol a argymhellir yn dilyn y newidiadau i gymuned Llantrisant Fawr yn cynnwys pedair ward: Gwernesni, Llan-gwm, Llan-soe a Llantrisant. Cynigir bod gan y gymuned gyfanswm o 684 o etholwyr a’i bod yn cael ei chynrychioli gan wyth o gynghorwyr cymuned.

544. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i’r trefniadau etholiadol cymunedol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Gellir gweld trefniadau etholiadol argymelledig y Cyngor ar gyfer y cyngor cymuned isod:

Llantrisant Fawr Community Council Electoral Arrangements Presennol Arfaethedig Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Wardiau Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Cymuned Cymuned Cynghorydd Cynghorydd Gwernesni 116 3 39 -18% 116 1 116 36% Llantrisant 213 4 53 13% 213 3 71 -17% Llan-gwm - - - - 224 3 75 -13% Llan-soe - - - - 131 1 131 53% 329 7 47 684 8 86

545. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Trefniadau wardiau etholiadol

546. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Nid yw’r Cyngor wedi ystyried newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol yn ei gynigion terfynol.

547. Gan ystyried y newid arfaethedig i’r ffin gymunedol, mae’r Comisiwn yn argymell bod wardiau Gwernesni a Llantrisant yn aros yn Ward Etholiadol Llangybi.

548. Gan ystyried y newid arfaethedig i’r ffin gymunedol, mae’r Comisiwn yn argymell bod wardiau Llan-gwm a Llan-soe yn aros yn Ward Etholiadol Devauden.

Tudalen 47 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

MAGWYR GYDA GWNDY

549. Mae’r trefniadau cymunedol presennol ym Magwyr gyda Gwndy yn cynnwys pedair ward: Denny, Mill, Salisbury a The Elms. Mae gan y gymuned gyfanswm o 4,676 o etholwyr ac fe’i cynrychiolir gan 13 o gynghorwyr cymuned. Mae nifer yr etholwyr fesul ward a nifer y cynghorwyr fel a ganlyn:

Ward Gymunedol Nifer Etholwyr Nifer Cynghorwyr Denny 143 1 Mill 1331 4 Salisbury 734 2 The Elms 2468 6

550. O ganlyniad i’r cynigion hyn, bydd nifer yr etholwyr yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy yn gostwng i 4,598.

Cynrychiolaethau 551. Derbyniodd y Cyngor nifer o gynrychiolaethau mewn perthynas â Chymuned Magwyr gyda Gwndy ac maent wedi’u crynhoi a’u cynnwys yn ei adroddiad cynigion terfynol. Mae’r crynodeb hwn wedi’i gynnwys isod.

Cynrychiolaethau Cychwynnol 552. Ni dderbyniwyd unrhyw gynrychiolaethau mewn perthynas â Chymuned Magwyr gyda Gwndy yn y cyfnod cychwynnol.

Cynrychiolaethau Drafft 553. Derbyniwyd cynrychiolaethau gan Gyngor Cymuned Magwyr gyda Gwndy a nodwyd y pwyntiau canlynol: Cynnydd yn nifer yr etholwyr yn safleoedd datblygu Rockfield Farm a Vinegar Hill; herio’r defnydd o’r M4 fel ffin ogleddol y gymuned ac yn cwestiynu’r eithriadau o gynnwys gwasanaethau Magwyr a Knollbury yn y gymuned ar y sail hon; darparu rhesymau hanesyddol ynglŷn ag enwau’r wardiau cymunedol presennol a gofyn am i enwau’r wardiau aros, a, gofyn am i’r ffin allanol aros yr un peth ac eithrio Nanny Goat Cottage sydd wedi’i gynnwys ym Magwyr gyda Gwndy, yn hytrach na Chaer-went. Cynigiodd y Cyngor gwrthgynigion ar gyfer trefniadau etholiadol a threfniadau wardio.

554. Mae’r cyngor cymuned yn derbyn o’i anfodd y rhesymeg y tu ôl i gynnig y Cyngor i newid i statws Cyngor Tref, a’r gymhareb drefol etholwyr/cynghorydd, ond mae’n cwestiynu effaith gwasanaethau datganoledig a llwythi gwaith ychwanegol ar niferoedd llai o gynghorwyr.

Cynigion ar gyfer ffiniau cymunedol 555. Argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso chwech o newidiadau i’r ffin gymunedol bresennol, sy’n cynnwys cynigion i drosglwyddo ardaloedd rhwng Cymuned Magwyr gyda Gwndy a’r cymunedau canlynol: • Caer-went • Rogiet Tudalen 48 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

556. Gweler paragraff 74 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo dwy ardal o Gymuned Magwyr gyda Gwndy (ward Mill) i Gymuned Caer-went (ward Saint-y- brid). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 41 Cyfrol 1.

557. Gweler paragraff 74 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Magwyr gyda Gwndy (ward Salisbury) i Gymuned Caer-went (ward Saint-y- brid). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 41 Cyfrol 1.

558. Cynigiodd y Cyngor drosglwyddo Grange Wood o Gymuned Magwyr gyda Gwndy (ward Salisbury) i Gymuned Rogiet. Mae hyn yn sicrhau bod ffiniau’n hawdd eu hadnabod trwy osod yr ardal coetir gyfan o fewn un gymuned. Nid yw’r cynnig hwn yn effeithio ar unrhyw etholwyr. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 51.

559. Mae’r Cyngor yn argymell trosglwyddo’r eiddo o’r enw Woodcroft a rhai eraill sydd wedi’u lleoli i’r gogledd o Bencroft Lane o Gymuned Magwyr gyda Gwndy (ward The Elms) i Gymuned Rogiet. Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar ryw deuddeg eiddo. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 52.

560. Yn ychwanegol at y cynnig a amlinellwyd ym mharagraff 559 uchod, mae’r Cyngor yn cynnig hefyd trosglwyddo rhan o gae ar bwynt mwyaf gogleddol ward bresennol Mill (Cymuned Magwyr gyda Gwndy) i Gymuned Rogiet. Nid yw’r cynnig hwn yn effeithio ar unrhyw etholwyr ond mae’n cael gwared ar yr anomaledd sy’n rhannu’r cae. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 53.

561. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 49 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – Magor with (overview)

Tudalen 50 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Tudalen 51 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – 25.7 Bencroft Wood

Tudalen 52 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Insert proposal map – 25.8 A field

Tudalen 53 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Cynigion ar gyfer ffiniau wardiau cymunedol 562. Ochr yn ochr â’r newidiadau sy’n cael eu cynnig i’r ffin gymunedol a amlinellwyd yn yr adran flaenorol, argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso saith o newidiadau i ffiniau wardiau mewnol presennol Cymuned Magwyr gyda Gwndy. Mae’r cynigion hyn yn cynnwys cyflwyno tair ward arfaethedig (Dwyrain Magwyr, Gorllewin Magwyr a Gwndy) ac yn cynnwys diddymu’r wardiau presennol canlynol: • Denny • Mill • Salisbury • The Elms

Denny 563. Mae’r Cyngor yn cynnig bod yr ardal i’r gorllewin o Mill Reen yn ffurfio rhan o ward arfaethedig Gorllewin Magwyr yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy. Mae’r cynnig hwn yn cynnwys yr holl eiddo ar hyd Whitehall a phentrefi bach eraill yn hanner gorllewinol ward bresennol Denny, yn ogystal â’r unedau diwydiannol yn Llandyfenni. 564. Yn dilyn y cynnig a amlinellwyd ym mharagraff 563 uchod, mae’r Cyngor yn cynnig bod gweddill ward Denny yn ffurfio rhan o ward arfaethedig Dwyrain Magwyr yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy. Mae ward bresennol Denny yn cael ei diddymu drwy hynny.

Mill 565. Mae’r Cyngor yn cynnig bod yr ardal i’r gorllewin o Mill Reen yn ffurfio rhan o ward arfaethedig Gorllewin Magwyr yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy. Mae’r cynnig hwn yn cynnwys rhan fawr o bentref Magwyr, i’r gogledd o’r rheilffordd, ac yn cynnwys Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru a Sgwâr y Pentref. 566. Yn dilyn y cynigion a amlinellwyd ym mharagraffau 74 (Cyfrol 1), 560 a 565 uchod, mae’r Cyngor yn cynnig bod gweddill ward Mill yn ffurfio rhan o ward arfaethedig Dwyrain Magwyr yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy. Mae ward bresennol Mill yn cael ei diddymu drwy hynny.

Salisbury 567. Yn dilyn y cynigion a amlinellwyd ym mharagraffau 74 (Cyfrol 1) a 558 uchod, mae’r Cyngor yn cynnig bod gweddill ward Salisbury yn ffurfio rhan o ward arfaethedig Gorllewin Magwyr yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy. Mae ward bresennol Salisbury yn cael ei diddymu drwy hynny.

The Elms 568. Ochr yn ochr â’r cynnig a amlinellwyd ym mharagraff 559 uchod, mae’r Cyngor yn cynnig bod yr ardal i’r gogledd o’r rheilffordd, a strydoedd preswyl sydd â mynediad at Manor Chase/Rockfield Road (eiddo i’r dwyrain o Vinegar Hill) yn cael eu trosglwyddo o ward The Elms i ward arfaethedig Gwndy yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy. Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar 1,670 o etholwyr. 569. Yn dilyn y cynigion a amlinellwyd ym mharagraffau 559 a 568 uchod, mae’r Cyngor yn cynnig trosglwyddo gweddill ward The Elms, i ward arfaethedig Dwyrain Magwyr yng Nghymuned

Tudalen 54 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Magwyr gyda Gwndy. Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar 798 o etholwyr. Mae ward bresennol The Elms yn cael ei diddymu drwy hynny.

Dwyrain Magwyr (arfaethedig) 570. Mae ward arfaethedig Dwyrain Magwyr yn cynnwys ardaloedd y cynigir eu trosglwyddo o wardiau presennol Denny, Mill a The Elms. Amlinellir y rhain ym mharagraffau 564, 566 a 569 uchod. 571. Mae map yn dangos ward arfaethedig Dwyrain Magwyr yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy i’w weld ar dudalen 56.

Gorllewin Magwyr (arfaethedig) 572. Mae ward arfaethedig Gorllewin Magwyr yn cynnwys ardaloedd y cynigir eu trosglwyddo o wardiau presennol Denny, Mill a Salisbury. Amlinellir y rhain ym mharagraffau 563, 565 a 567 uchod. 573. Mae map yn dangos ward arfaethedig Gorllewin Magwyr yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy i’w weld ar dudalen 59.

Gwndy (arfaethedig) 574. Mae ward arfaethedig Gwndy yn cynnwys ardal y cynigir ei bod yn cael ei throsglwyddo o ward bresennol The Elms, fel yr amlinellwyd ym mharagraff 568 uchod. 575. Mae map yn dangos ward arfaethedig Gwndy, yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy i’w weld ar dudalen 62.

576. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 55 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – (overview) proposed Magor East ward

Tudalen 56 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Insert proposal map – 25.15 mill east

Tudalen 57 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – 25.18 The Elms west

Tudalen 58 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Tudalen 59 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – 25.14 Mill west

Tudalen 60 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Tudalen 61 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – (overview) proposed Undy ward

Tudalen 62 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

NEWIDIADAU ÔL-DDILYNOL

Trefniadau etholiadol Cynghorau Cymuned

577. Mae’r trefniadau etholiadol cymunedol a argymhellir yn dilyn y newidiadau i’r gymuned a’r wardiau cymunedol ym Magwyr gyda Gwndy yn cynnwys tair ward: Dwyrain Magwyr, Gorllewin Magwyr a Gwndy. Cynigir bod gan y gymuned gyfanswm o 4,598 o etholwyr a’i bod yn cael ei chynrychioli gan 10 o gynghorwyr cymuned.

578. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i’r trefniadau etholiadol cymunedol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Gellir gweld trefniadau etholiadol argymelledig y Cyngor ar gyfer y cyngor cymuned isod:

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned Magwyr gyda Gwndy Presennol Arfaethedig Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Wardiau Cymuned Cymuned Cynghorydd Cynghorydd Denny 143 1 143 -60% - - - - Mill 1331 4 333 -7% - - - - Salisbury 734 2 367 2% - - - - The Elms 2468 6 411 14% - - - - Dwyrain - - - - 1802 4 451 -2% Magwyr Gorllewin - - - - 1526 3 509 11% Magwyr Gwndy - - - - 1270 3 423 -8% 4676 13 360 4598 10 460

579. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Trefniadau wardiau etholiadol

580. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Nid yw’r Cyngor wedi ystyried newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol yn ei gynigion terfynol.

581. O ganlyniad i’r newidiadau a argymhellir i’r ffiniau cymunedau a wardiau cymunedol, mae’r Comisiwn yn argymell hefyd fod yr un newidiadau’n cael eu cymhwyso i’r wardiau etholiadol presennol a restrwyd isod (gweler Atodiad 4 ac Atodiad 5 i gael rhagor o fanylion): • Caer-went • Mill (cynigir ei henwi yn Gorllewin Magwyr) • Rogiet • The Elms (cynigir ei henwi yn Dwyrain Magwyr)

582. Am fod y cynigion ar gyfer Cymuned Magwyr gyda Gwndy yn cynnwys diddymu’r wardiau presennol o fewn y gymuned, caiff hyn effeithiau ôl-ddilynol ar y trefniadau ar gyfer wardiau Tudalen 63 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

etholiadol Mill a The Elms. Mae’r Comisiwn felly yn argymell bod ward etholiadol ag un aelod yn cael ei ffurfio o ward arfaethedig Gorllewin Magwyr yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy; i’w henwi yn Gorllewin Magwyr. Mae’r argymhelliad hwn yn creu trefniadau wardiau etholiadol â lefelau priodol o gynrychiolaeth etholiadol.

583. Yn ychwanegol at yr argymhelliad a amlinellwyd ym mharagraff 582 uchod, mae’r Comisiwn hefyd yn argymell bod ward etholiadol â dau aelod yn cael ei ffurfio o wardiau arfaethedig Dwyrain Magwyr a Gwndy yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy; i’w henwi yn Dwyrain Magwyr. Mae’r argymhelliad hwn yn creu trefniadau wardiau etholiadol â lefelau priodol o gynrychiolaeth etholiadol ac yn cynyddu cyfanswm yr aelodau yn y Cyngor Sir o un; gan ddod â nifer aelodau’r cyngor ar gyfer Cyngor Sir Fynwy yn agosach at fodel Maint Cynghorau’r Comisiwn.

Newidiadau Ôl-ddilynol i Drefniadau Wardiau Etholiadol Presennol Arfaethedig * † Wardiau Etholwyr Wardiau Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Amrywiant Etholwyr Cynghorwyr Amrywiant Etholiadol fesul Etholiadol fesul Cynghorydd Cynghorydd Gorllewin Mill 2208 1 2208 32% 1526 1 1526 -4% Magwyr Dwyrain The Elms 2468 1 2468 48% 3072 2 1536 -4% Magwyr 4676 2 1673 4598 3

* (1673 Etholwyr fesul Cynghorydd) Yn seiliedig ar drefniant presennol y Cyngor Sir â 43 o aelodau. † (1593 Etholwyr fesul Cynghorydd) Yn seiliedig ar drefniant arfaethedig y Cyngor Sir â 45 o aelodau. Gweler paragraff 3 (Cyfrol 1) am ragor o wybodaeth. Tudalen 64 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

TUDALEN WAG

Tudalen 65 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

MATHARN

584. Mae’r trefniadau cymunedol presennol ym Matharn yn cynnwys tair ward: Matharn, a Phwllmeurig. Mae gan y gymuned gyfanswm o 874 o etholwyr ac fe’i cynrychiolir gan naw o gynghorwyr cymuned. Mae nifer yr etholwyr fesul ward a nifer y cynghorwyr fel a ganlyn:

Ward Gymunedol Nifer Etholwyr Nifer Cynghorwyr Matharn 471 5 Mounton 77 1 Pwllmeurig 326 3

585. O ganlyniad i’r cynigion hyn, bydd nifer yr etholwyr yng Nghymuned Matharn yn gostwng i 859.

Cynrychiolaethau 586. Derbyniodd y Cyngor nifer o gynrychiolaethau mewn perthynas â Chymuned Matharn ac maent wedi’u crynhoi a’u cynnwys yn ei adroddiad cynigion terfynol. Mae’r crynodeb hwn wedi’i gynnwys isod.

Cynrychiolaethau Cychwynnol 587. Cyflwynwyd cynrychiolaethau gan y Cynghorydd Cymuned dros Ward Mounton, Carolyn Ovenden, mewn perthynas â ward Mounton yn dweud bod gan ardal Mounton ei hanes unigryw ei hun ond bod ganddi gysylltiad agos â’r wardiau eraill yn y gymuned. Dywedodd hefyd y dylai’r eiddo ar ben pellaf Mounton Road gael eu cynnwys yn Ward Mounton, a dylid symud Wellhead Lodge i Gymuned St Arvans. 588. Cyflwynodd y Cynghorydd Ovenden ymateb ar ran y cyngor hefyd yn rhinwedd ei swydd fel is-gadeirydd, gan ddweud y canlynol: Mae’r tair ward ym Matharn yn wardiau nodedig ond wedi’u cysylltu’n hanesyddol, a cheir cymuned ffyniannus sy’n cynnwys pob un o’r tri phentref; mae’r tri phentref yn wledig neu’n lled-wledig ac maent ar wahân yn ddaearyddol o ardaloedd tebyg gerllaw; mae’r gymuned yn rhan o AHNE ac ardal gadwraeth Dyffryn Gwy, gan adlewyrchu cymeriad unigol yr ardal; ceir cydbwysedd da yn y gymuned gyda'r holl wardiau yn gweithio gyda’i gilydd yn fynych i gyflawni nod cyffredin, gan ddarparu ar gyfer cyhoeddi deunyddiau am deithiau cerdded lleol ac amodau mwy diogel ar yr A48, fel enghreifftiau, ac mae’r gymuned a’i thrigolion i lunio cynllun yn cael ei arwain gan y gymuned mewn cydweithrediad ag Adventa. Cyflwynodd y Cyngor Sir argymhellion ar gyfer diwygiadau i’r ffiniau mewnol, a oedd yn cynnwys Hayesgate a Broadwell Farm o Fatharn i Mounton, Mounton House o Mounton i Bwllmeurig, a, High Beech Lane i mewn i Bwllmeurig. 589. Cyflwynodd y Cynghorydd Ovenden ail ymateb i wrthwynebu’r cynnig a roddwyd gerbron gan Gyngor Tref Cas-gwent i gynnwys gweddill ystâd ddiwydiannol New House Farm yng nghymuned Cas-gwent. 590. Cyflwynodd y Cynghorydd Sir Graham Down gynrychiolaeth mewn perthynas â’r trefniadau cymunedol ar gyfer Matharn, gan gytuno’n gyffredinol â’r gynrychiolaeth a gyflwynwyd gan Gyngor Cymuned Matharn. Tudalen 66 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Cynrychiolaethau Drafft 591. Derbyniwyd cynrychiolaethau gan Gyngor Cymuned Matharn yn datgan eu cred y dylai Ystâd Ddiwydiannol New House Farm yn ei chyfanrwydd fod o fewn Cyngor Cymuned Matharn oherwydd yr effaith uniongyrchol ar y pentref o ran llygredd sŵn a golau. Byddai’n well gan y Cyngor i beidio â cholli eiddo ger High Beech Lane i Gas-gwent, gan awgrymu y byddai ffin yn dilyn y ffordd gyswllt a’r A48 yn well. Hefyd, rhoddodd y Cyngor enghreifftiau o eiddo y gellid eu cynnwys ym Matharn hefyd neu eu newid rhwng wardiau, a chododd bryderon o ran y gostyngiad arfaethedig yn nifer y cynghorwyr.

592. Derbyniwyd cynrychiolaethau hefyd gan y Cynghorydd Sir ar gyfer Matharn ar y pryd, i awgrymu y dylai’r ffin rhwng Cas-gwent a Matharn ddilyn yr A466 gydag eiddo High Beech Lane yn dod o fewn Matharn, a’r M48 yn gweithredu fel y ffin i’r de. Hefyd, cynigiodd y Cyngor i’r ffin ddwyreiniol ddilyn Mounton Road, a nododd eiddo ar Road sy’n dod o fewn Matharn ond nad oes ganddo unrhyw gysylltiad â Chymuned Matharn.

Cynigion ar gyfer ffiniau cymunedol 593. Argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso pum newid i’r ffin gymunedol bresennol, sy’n cynnwys cynigion i drosglwyddo ardaloedd rhwng Cymuned Matharn a’r cymunedau canlynol: • Caer-went • Cas-gwent

594. Gweler paragraff 77 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Matharn (ward Matharn) i Gymuned Caer-went (ward Crug). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 44 Cyfrol 1.

595. Gweler paragraff 77 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Matharn (ward Mounton) i Gymuned Caer-went (ward Crug). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 44 Cyfrol 1.

596. Gweler paragraffiau 159 a 160 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo dwy ardal o Gymuned Matharn (ward Matharn) i Dref Cas-gwent (wardiau Larkfield a Thornwell). Dangosir y cynnigion hwn ar y mapiau ar dudalennau 95 a 96 o Gyfrol 1.

597. Gweler paragraff 162 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Matharn (ward Mounton) i Dref Cas-gwent (ward St Kingsmark). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 98 Cyfrol 1.

598. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 67 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – (overview)

Tudalen 68 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Cynigion ar gyfer ffiniau wardiau cymunedol 599. Ochr yn ochr â’r newidiadau sy’n cael eu cynnig i’r ffin gymunedol a amlinellwyd yn yr adran flaenorol, argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso un newid i ffiniau wardiau mewnol presennol Cymuned Matharn. Mae’r cynnig hwn yn cynnwys newidiadau i ffiniau presennol y wardiau canlynol: • Mounton • Pwllmeurig

Mounton 600. Yn ychwanegol at y newidiau i’r ffin gymunedol allanol a amlinellwyd ym mharagraffiau 77 a 162 (gweler Cyfrol 1) uchod, mae’r Cyngor yn cynnig bod ardal Mounton House yn cael ei throsglwyddo o ward Mounton i ward Pwllmeurig yn y Gymuned. Mae’r cynnig hwn yn trosglwyddo eiddo, a thir cysylltiedig, Bigs Woods, Mounton House Park ac Ysgol Arbennig Mounton House, rhwng Mounton Brook (gorllewin) a St Lawrence Lane (dwyrain). Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar 50 o etholwyr. 601. Mae map yn dangos ward arfaethedig Mounton yng Nghymuned Matharn i’w weld ar dudalen 70.

Pwllmeurig 602. Yn ychwanegol at y newid i’r ffin gymunedol allanol a amlinellwyd ym mharagraff 77 (gweler Cyfrol 1) uchod, gweler paragraff 600 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o ward Mounton i ward Pwllmeurig yn y gymuned. 603. Mae map yn dangos ward arfaethedig Pwllmeurig yng Nghymuned Matharn i’w weld ar dudalen 72.

604. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 69 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – (overview) proposed Mounton ward

Tudalen 70 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Insert proposal map – 26.12 Mounton House

Tudalen 71 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – (overview) proposed Pwllmeyric ward

Tudalen 72 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

NEWIDIADAU ÔL-DDILYNOL

Trefniadau etholiadol Cynghorau Cymuned

605. Mae’r trefniadau etholiadol cymunedol a argymhellir yn dilyn y newidiadau i’r gymuned a’r wardiau cymunedol ym Matharn yn cynnwys tair ward: Matharn, Mounton a Phwllmeurig. Cynigir bod gan y gymuned gyfanswm o 859 o etholwyr a’i bod yn cael ei chynrychioli gan saith o gynghorwyr cymuned.

606. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i’r trefniadau etholiadol cymunedol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Gellir gweld trefniadau etholiadol argymelledig y Cyngor ar gyfer y cyngor cymuned isod:

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned Matharn Presennol Arfaethedig Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Wardiau Cymuned Cymuned Cynghorydd Cynghorydd Matharn 471 5 94 -3% 456 3 152 24% Mounton 77 1 77 -21% 77 1 77 -37% Pwllmeurig 326 3 109 12% 326 3 109 -11% 874 9 97 859 7 123

607. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Trefniadau wardiau etholiadol

608. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Nid yw’r Cyngor wedi ystyried newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol yn ei gynigion terfynol.

609. O ganlyniad i’r newidiadau a argymhellir i’r ffin gymunedol, mae’r Comisiwn yn argymell hefyd fod yr un newidiadau’n cael eu cymhwyso i’r wardiau etholiadol presennol a restrwyd isod (gweler Atodiad 4 ac Atodiad 5 i gael rhagor o fanylion): • Caer-went • Larkfield (cynigir ei henwi yn Larkfield a St Kingsmark) • Drenewydd Gelli-farch • Thornwell

610. Nid yw’r newidiadau arfaethedig i’r trefniadau wardio mewnol yng Nghymuned Matharn yn cael unrhyw effaith ôl-ddilynol ar drefniadau wardiau etholiadol.

Tudalen 73 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

LLANFIHANGEL TRODDI

611. Mae’r trefniadau cymunedol presennol yn Llanfihangel Troddi yn cynnwys pum ward: Cwmcarfan, Llanddingad, Llanfihangel Troddi, Tre’r-gaer a Llanwarw. Mae gan y gymuned gyfanswm o 993 o etholwyr ac fe’i cynrychiolir gan 10 o gynghorwyr cymuned. Mae nifer yr etholwyr fesul ward a nifer y cynghorwyr fel a ganlyn:

Ward Gymunedol Nifer Etholwyr Nifer Cynghorwyr Cwmcarfan 162 2 Llanddingad 234 2 Llanfihangel Troddi 341 3 Tre’r-gaer 179 2 Llanwarw 77 1

612. O ganlyniad i’r cynigion hyn, bydd nifer yr etholwyr yng Nghymuned Llanfihangel Troddi yn cynyddu i 1,131.

Cynrychiolaethau 613. Derbyniodd y Cyngor nifer o gynrychiolaethau mewn perthynas â Chymuned Llanfihangel Troddi ac maent wedi’u crynhoi a’u cynnwys yn ei adroddiad cynigion terfynol. Mae’r crynodeb hwn wedi’i gynnwys isod.

Cynrychiolaethau Cychwynnol 614. Cyflwynodd cyngor cymuned Llanfihangel Troddi gynrychiolaeth yn dweud nad oedd unrhyw ddymuniad gan y cyngor i gynyddu, lleihau na newid y ffiniau yn y gymuned. Dywedont hefyd er bod y gymhareb cynghorwyr/etholwyr yn gymharol isel, y teimlwyd bod y cysyniad o or-gynrychiolaeth yn amherthnasol am fod y cynghorwyr cymuned yn wirfoddolwyr ac yn ddi-gost felly. Yn ogystal, mae’r cynghorwyr yn cynrychioli ardal fawr brin ei phoblogaeth. Cynrychiolaethau Drafft 615. Derbyniwyd cynrychiolaeth gan y Cynghorydd Sir ar gyfer Llanfihangel Troddi ar y pryd, yn nodi anomaledd, sef bod un cynghorydd gan Llanddingad â 234 o etholwyr, ond bod dau gynghorydd gan Dre’r Gaer â 223 o etholwyr.

616. Derbyniwyd cynrychiolaeth hefyd gan Gyngor Cymuned Rhaglan yn nodi manylion cynrychiolaethau yr oeddent wedi’u derbyn yn gwrthwynebu’r cynnig i symud Cuckoos Row a The Warrage o Gymuned Rhaglan.

Cynigion ar gyfer ffiniau cymunedol 617. Argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso pedwar newid i’r ffin gymunedol bresennol, sy’n cynnwys cynigion i drosglwyddo ardaloedd rhwng Cymuned Llanfihangel Troddi a’r cymunedau canlynol: • Trefynwy • Rhaglan

Tudalen 74 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

• Castell-gwyn (arfaethedig)

618. Mae’r Cyngor yn cynnig trosglwyddo ward Pen-y-clawdd o Gymuned Rhaglan i Gymuned Llanfihangel Troddi. Awgryma’r Cyngor fod gan y ward hon gysylltiadau gwell gyda Chymuned Llanfihangel Troddi, o gymharu â gweddill Cymuned Rhaglan. Mae’r cynnig hwn yn cynnwys trosglwyddo’r ward gymunedol gyfan ac mae’n effeithio ar 99 o etholwyr. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 77.

619. Mae’r Cyngor yn bwriadu defnyddio’r gyffordd ar gyfer yr A40/A449 fel y ffin glir ac adnabyddadwy rhwng Cymunedau Rhaglan a Llanfihangel Troddi (ward Tre’r-gaer). Mae’r Cyngor felly yn cynnig trosglwyddo eiddo Cuckoo’s Row a Groesenon Road gerllaw (i’r gogledd o gyffordd yr A40/A449) o Gymuned Rhaglan (ward Rhaglan) i Gymuned Llanfihangel Troddi (ward Tre’r-gaer). Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar ryw 30 eiddo. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 78.

620. Mae’r Cyngor yn cynnig trosglwyddo eiddo Troy House, a’r tir sy’n gysylltiedig ag ef, o Gymuned Llanfihangel Troddi (ward Llanfihangel Troddi) i Dref Trefynwy (ward Overmonnow). Mae hyn yn trosglwyddo’r ardal rhwng eiddo Canolfan Arddio Millbrook/Borrowdale (gorllewin) ac ymyl ddwyreiniol tir sy’n gysylltiedig â Troy Farm (dwyrain), ac mae’n effeithio ar bump o etholwyr. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 79.

621. Mae’r Cyngor yn cynnig trosglwyddo eiddo Cefn Garw Farm o Gymuned Llanfihangel Troddi (ward Tre’r-gaer) i Gymuned arfaethedig Castell-gwyn (ward Llanfihangel Ystum Llewern). Mae hyn yn cynnwys yr ardal i’r gogledd o Nant Wachan, o amgylch Cefn Garw Farm. Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar ryw un eiddo. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 80.

622. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 75 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – (overview)

Tudalen 76 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Insert proposal map – 27.5 Pen-y-clawdd

Tudalen 77 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – 27.6 Cuckoos Row

Tudalen 78 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Insert proposal map – 27.7 Troy House

Tudalen 79 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – 22.9 Cefn Garw Farm

Tudalen 80 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Cynigion ar gyfer ffiniau wardiau cymunedol 623. Ni chynigiodd y Cyngor newidiadau i ffiniau rhwng wardiau cymunedol mewnol Cymuned Llanfihangel Troddi.

NEWIDIADAU ÔL-DDILYNOL

Trefniadau etholiadol Cynghorau Cymuned

624. Mae’r trefniadau etholiadol cymunedol a argymhellir yn dilyn y newidiadau i gymuned Llanfihangel Troddi yn cynnwys chwe ward: Cwmcarfan, Llanddingad, Llanfihangel Troddi, Pen-y-clawdd, Tre’r-gaer a Llanwarw. Cynigir bod gan y gymuned gyfanswm o 1,131 o etholwyr a’i bod yn cael ei chynrychioli gan naw o gynghorwyr cymuned.

625. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i’r trefniadau etholiadol cymunedol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Gellir gweld trefniadau etholiadol argymelledig y Cyngor ar gyfer y cyngor cymuned isod:

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned Llanfihangel Troddi Presennol Arfaethedig Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Wardiau Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Cymuned Cymuned Cynghorydd Cynghorydd Cwmcarfan 162 2 81 -18% 162 1 162 29% Llanddingad 234 2 117 18% 234 2 117 -7% Llanfihangel 341 3 114 14% 336 2 168 34% Troddi Tre’r-gaer 179 2 90 -10% 223 2 112 -11% Llanwarw 77 1 77 -22% 77 1 77 -39% Pen-y-clawdd - - - - 99 1 99 -21% 993 10 99 1131 9 126

626. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Trefniadau wardiau etholiadol

627. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Nid yw’r Cyngor wedi ystyried newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol yn ei gynigion terfynol.

628. O ganlyniad i’r newidiadau a argymhellir i’r ffin gymunedol, mae’r Comisiwn yn argymell hefyd fod yr un newidiadau’n cael eu cymhwyso i’r wardiau etholiadol presennol a restrwyd isod (gweler Atodiad 4 ac Atodiad 5 i gael rhagor o fanylion): • Llandeilo Gresynni • Llanfihangel Troddi • Overmonnow • Rhaglan

Tudalen 81 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

TREFYNWY

629. Mae trefniadau presennol y dref yn Nhrefynwy yn cynnwys pum ward: gydag Osbaston, Drybridge, Overmonnow, Y Dref a . Mae gan y dref gyfanswm o 7,994 o etholwyr ac fe’i cynrychiolir gan 16 o gynghorwyr tref. Mae nifer yr etholwyr fesul ward a nifer y cynghorwyr fel a ganlyn:

Ward Gymunedol Nifer Etholwyr Nifer Cynghorwyr Dixton gydag Osbaston 1902 4 Drybridge 2051 3 Overmonnow 1774 4 Y Dref 588 1 Wyesham 1679 4

630. O ganlyniad i’r cynigion hyn, bydd nifer yr etholwyr yn Nhref Trefynwy yn gostwng i 7,822.

Cynrychiolaethau 631. Derbyniodd y Cyngor nifer o gynrychiolaethau mewn perthynas â Thref Trefynwy ac maent wedi’u crynhoi a’u cynnwys yn ei adroddiad cynigion terfynol. Mae’r crynodeb hwn wedi’i gynnwys isod.

Cynrychiolaethau Cychwynnol 632. Cyflwynodd Cyngor Tref Trefynwy gynrychiolaeth yn cynnig bod ffin Dixton gydag Osbaston yn cael ei newid i ddilyn Afon Mynwy yn hytrach nag Osbaston Road, yn ogystal ag argymell cynghorydd cymuned arall ar gyfer ward Drybridge. Maent hefyd yn argymell adolygu ward etholiadol Drybridge a’r Dref, gan y gallai Overmonnow a’r Dref fod yn gyfuniad mwy addas.

Cynrychiolaethau Drafft 633. Derbyniwyd cynrychiolaethau gan y Cynghorydd Sir ar gyfer ward Overmonnow yn gwrthwynebu unrhyw newidiadau i ffiniau ward Overmonnow ac eithrio unrhyw ddatblygiadau newydd sydd i’w cynnwys yn ward Overmonnow neu’r datblygiadau newydd sy’n dod yn ward ar eu hunain.

634. Derbyniwyd cynrychiolaethau gan y Cynghorydd Sir ar y pryd, Susan White, yn gwrthwynebu’r cynigion, gan ddweud bod Overmonnow yn anheddiad hynafol a thref ynddi’i hun, a bydd yn colli calon y gymuned drwy’r eglwys, neuadd yr eglwys a busnesau lleol. Cynigiodd y Cynghorydd bod datblygiad Wonastow Road yn cael ei gynnwys yn ward Drybridge gyda chynghorydd ychwanegol ar gyfer y ward honno.

635. Cyflwynodd y Cynghorydd Jeana Hall gynrychiolaeth mewn perthynas â ward Dixton gydag Osbaston gan awgrymu y byddai’r ffin arfaethedig yn well i’r chwith o Dixton Road, The Parade a Monk Street.

636. Cyflwynodd un o drigolion Overmonnow gynrychiolaeth i’r grŵp yn gwrthwynebu’r newidiadau ar gyfer Overmonnow oherwydd y cysylltiadau hanesyddol a hynafol o fewn y ward.

Tudalen 82 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

637. Cyflwynwyd cynrychiolaeth gan un o’r trigolion eraill yn gwrthwynebu’r cynigion ar gyfer Overmonnow oherwydd y cysylltiadau hanesyddol a hynafol o fewn y ward.

638. Cyflwynodd y Cynghorydd S. Chivers gynrychiolaeth hefyd yn gwrthwynebu’r cynigion ar gyfer ward Overmonnow oherwydd cysylltiadau hanesyddol ward Overmonnow.

639. Cyflwynwyd cynrychiolaeth ar ran Plaid Annibynnol Cymru yn awgrymu lleihad o ran Cynghorwyr Sir ar gyfer yr ardal a ledled Sir Fynwy.

640. Derbyniwyd cynrychiolaeth gan y Cynghorydd Graham Pritchard yn ymwneud â’r gymhareb cynghorydd:etholwyr a deimlai y byddai cymhareb o 1:600 yn fwy ymarferol i’r gymuned, ac y dylid seilio cynrychiolaeth ar boblogaeth yn hytrach na nifer etholwyr.

641. Cyflwynodd Cyngor Tref Trefynwy gopi o’r cofnodion yn ymwneud â’r drafodaeth am y mater mewn cyfarfod o Gyngor y Dref. O’r cofnodion, ymddengys ei fod yn cefnogi’r cynigion ar gyfer Trefynwy yn fras, a’r prif fater yw nifer y cynghorwyr ar y Cyngor na ddylai gael ei chynyddu i 19, ond nid oeddent yn gallu cytuno ar gynllun mwy addas.

Cynigion ar gyfer ffiniau trefol 642. Argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso dau newid i ffin bresennol y dref, sy’n cynnwys cynigion i drosglwyddo ardaloedd rhwng Tref Trefynwy a’r cymunedau canlynol: • Llanfihangel Troddi • Castell-gwyn (arfaethedig)

643. Gweler paragraff 620 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Llanfihangel Troddi (ward Llanfihangel Troddi) i Gymuned Trefynwy (ward Overmonnow). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 79.

644. Mae’r Cyngor yn cynnig trosglwyddo ardal Stiwdios Rockfield o Gymuned Trefynwy (ward Drybridge) i Gymuned arfaethedig Castell-gwyn (ward arfaethedig Rockfield a Llanfocha). Mae hyn yn cynnwys eiddo Amberley Court, Deepholme Farm, Little Ancrehill Farmhouse a Little Ancrehill Wood, a’r tir sy’n gysylltiedig â nhw, y cyfan wedi’u lleoli ar hyd y B4233 Rockfield Road. Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar ryw dri eiddo. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 85.

645. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 83 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – Town of (overview)

Tudalen 84 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Insert proposal map – 22.10 Rockfield Studios

Tudalen 85 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Cynigion ar gyfer ffiniau wardiau trefol 646. Ochr yn ochr â’r newidiadau sy’n cael eu cynnig i ffin y dref a amlinellwyd yn yr adran flaenorol, argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso chwe newid i ffiniau wardiau mewnol Tref Trefynwy. Mae’r cynigion hyn yn cynnwys newid i ffiniau presennol y wardiau canlynol: • Dixton gydag Osbaston • Drybridge • Overmonnow • Y Dref

Dixton gydag Osbaston 647. Mae’r Cyngor yn cynnig y dylai’r eiddo ar hyd, ac i’r gogledd o Forge Road gael eu trosglwyddo o ward y Dref i ward arfaethedig Osbaston yn Nhref Trefynwy. Mae hyn yn cynnwys yr holl ardaloedd i’r gogledd o Afon Mynwy, gan ei bod yn rhedeg yn gyfochgor â Forge Road, cyn belled i’r de â’r bont dros yr afon (rhwng Canolfan y TA ac Osbaston Road). Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar ryw deuddeg o eiddo preswyl. 648. Mae’r Cyngor yn cynnig trosglwyddo’r eiddo sydd wedi’u lleoli ar The Parade a’r A466 Dixton Road o ward Dixton gydag Osbaston i ward y Dref. Mae’r cynnig hwn yn sicrhau bod eiddo bob ochr i’r un ffordd yn dod o fewn yr un gymuned, ac mae’n hyrwyddo ffiniau clir ac adnabyddadwy, gan effeithio ar ryw 35-40 eiddo. 649. Cynigiodd y Cyngor newid enw ward bresennol Dixton gydag Osbaston yn Nhref Trefynwy o ganlyniad i drosglwyddo llawer o ardal Dixton yn ward gyfagos y Dref. Cynigir mai enw newydd y ward yw Osbaston. 650. Mae map yn dangos ward arfaethedig Osbaston yn Nhref Trefynwy i’w weld ar dudalen 88.

Drybridge 651. Yn ychwanegol at y cynnig ar gyfer y ffin gymunedol allanol a amlinellwyd ym mharagraff 644 uchod, cynigiodd y Cyngor fod yr ardal i’r gorllewin i Afon Mynwy, o amgylch Canolfan y TA, yn cael ei throsglwyddo o ward y Dref i ward Drybridge. 652. Mae’r Cyngor yn argymell fod ardal o dir i’r gorllewin o Barc Busnes Singleton Court/Ystad Ddiwydiannol Wonastow Road yn cael ei throsglwyddo o ward Drybridge i ward Overmonnow. Mae’r ardal hon wedi’i chlustnodi ar gyfer datblygu yn y dyfodol a byddai’n cael ei rhannu ar draws dwy ward pe bai’r ffiniau wardiau presennol yn parhau. Nid yw’r cynnig hwn yn effeithio ar unrhyw etholwyr, ar hyn o bryd, ond cynllunnir iddo gynnwys ardal â 350 eiddo. 653. Mae’r Cyngor yn cynnig bod yr eiddo rhwng Parc Busnes Singleton Court ac Afon Mynwy, yn cynnwys Canolfan Gymunedol Bridges, Parc Drybridge a’r eiddo ar hyd St Thomas Road, yn cael eu trosglwyddo o ward Drybridge i ward y Dref. Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar nifer o strydoedd preswyl. 654. Mae map yn dangos ward arfaethedig Drybridge yn Nhref Trefynwy i’w weld ar dudalen 91.

Overmonnow 655. Yn ychwanegol at gynnig y ffin gymunedol allanol a amlinellwyd ym mharagraff 620, gweler paragraff 652 uchod, am fanylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o ward Drybridge i ward Overmonnow. Tudalen 86 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

656. Cynigiodd y Cyngor fod yr ardal i’r gorllewin o Afon Mynwy, gan gynnwys yr eiddo y gellir mynd iddynt ar hyd Goldwire Lane/ Somerset Road ac eiddo i’r gogledd o Wonastow Road (i’r dwyrain o Barc Busnes Singleton Court), yn cael eu trosglwyddo o ward Overmonnow i ward y Dref. Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar nifer fawr o strydoedd preswyl. 657. Mae map yn dangos ward arfaethedig Overmonnow yn Nhref Trefynwy i’w weld ar dudalen 95.

Y Dref 658. Gweler paragraff 647 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o ward y Dref i ward arfaethedig Osbaston. 659. Gweler paragraff 648 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o ward Dixton gydag Osbaston i ward y Dref. 660. Gweler paragraff 651 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o ward y Dref i ward Drybridge ward. 661. Gweler paragraff 653 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o ward Drybridge i ward y Dref. 662. Gweler paragraff 656 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o ward Overmonnow i ward y Dref. 663. Mae map yn dangos ward arfaethedig y Dref yn Nhref Trefynwy i’w weld ar dudalen 97.

664. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 87 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – (overview) proposed Osbaston ward

Tudalen 88 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Insert proposal map – 28.9 along Forge Road

Tudalen 89 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – 28.10 The Parade and A466

Tudalen 90 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Tudalen 91 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – 28.11 West of River Monnow

Tudalen 92 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Tudalen 93 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – 28.13 Bridges Community Centre

Tudalen 94 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Insert proposal map – (overview) Overmonnow ward

Tudalen 95 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – 28.14 West of River Monnow

Tudalen 96 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Insert proposal map – (overview) Town ward

Tudalen 97 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

NEWIDIADAU ÔL-DDILYNOL

Trefniadau etholiadol Cynghorau Tref

665. Mae’r trefniadau etholiadol trefol a argymhellir yn dilyn y newidiadau i’r dref a’r wardiau trefol yn Nhrefynwy yn cynnwys pum ward: Drybridge, Osbaston, Overmonnow, y Dref a Wyesham. Cynigir bod gan y dref gyfanswm o of 7,822 o etholwyr a’i bod yn cael ei chynrychioli gan 19 o gynghorwyr tref.

666. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i’r trefniadau etholiadol trefol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Gellir gweld trefniadau etholiadol argymelledig y Cyngor ar gyfer y cyngor y dref isod:

Trefniadau Etholiadol Cyngor Tref Trefynwy Presennol Gynigiwyd gan Cyngor Sir Fynwy Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Wardiau Tref Tref Cynghorydd Cynghorydd Dixton gydag 1902 4 476 -5% - - - - Osbaston Drybridge 2051 3 684 37% 1721 4 430 5% Overmonnow 1774 4 444 -11% 1062 4 266 -36% Y Dref 588 1 588 18% 1676 3 559 36% Wyesham 1679 4 420 -16% 1679 4 420 2% Osbaston - - - - 1684 4 421 2% 7994 16 500 7822 19 412

667. Ystyriodd y Comisiwn drefniadau etholiadol cyngor y dref a gynigiwyd gan y Cyngor a chydnabu bod y rhain wedi’u seilio ar gynnydd rhagamcanol mewn rhannau o’r dref. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn wedi cynnig y diwygiadau canlynol i gynnig y Cyngor ar sail lefelau presennol yr etholwyr:

Trefniadau Etholiadol Cyngor Tref Trefynwy Presennol Gynigiwyd gan CFFDL Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Wardiau Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Tref Tref Cynghorydd Cynghorydd Dixton gydag 1902 4 476 -5% - - - - Osbaston Drybridge 2051 3 684 37% 1721 4 430 5% Overmonnow 1774 4 444 -11% 1062 3 354 -14% Y Dref 588 1 588 18% 1676 4 419 2% Wyesham 1679 4 420 -16% 1679 4 420 2% Osbaston - - - - 1684 4 421 2% 7994 16 500 7822 19 412

668. Mae’r cynnig hwn yn creu trefniant sy’n lleihau’r amrediad mewn cynrychiolaeth etholiadol yn y dref ac mae’n darparu cynrychiolaeth fwy cyfartal ar gyfer wardiau arfaethedig gyda’r un faint o etholwyr fwy neu lai. Tudalen 98 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

669. Mae’r Comisiwn yn fodlon fod newidiadau arfaethedig y Comisiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Trefniadau wardiau etholiadol

670. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Nid yw’r Cyngor wedi ystyried newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol yn ei gynigion terfynol.

671. O ganlyniad i’r newidiadau argymelledig i ffin y dref a’r trefniadau wardio yn Nhrefynwy, mae’r Comisiwn yn argymell hefyd fod yr un newidiadau’n cael eu cymhwyso i’r wardiau etholiadol presennol a restrir isod (gweler Atodiad 4 ac Atodiad 5 i gael mwy o fanylion): • Dixton gydag Osbaston (cynigir ei henwi yn Osbaston) • Drybridge • Llandeilo Gresynni • Llanfihangel Troddi • Overmonnow

672. Mae’r Comisiwn yn argymell bod aelod ychwanegol yn cael ei ychwanegu at ward etholiadol Drybridge. Mae creu ward aml-aelod yn y ward etholiadol hon yn cynhyrchu trefniadau etholiadol â lefelau priodol o gynrychiolaeth etholiadol ac yn cynyddu cyfanswm yr aelodau yn y Cyngor Sir o un; mae’n dod â nifer aelodau’r cyngor ar gyfer Cyngor Sir Fynwy yn agosach at fodel Maint Cynghorau’r Comisiwn.

Newidiadau Ôl-ddilynol i Drefniadau Wardiau Etholiadol Presennol Arfaethedig * † Wardiau Etholwyr Wardiau Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Amrywiant Etholwyr Cynghorwyr Amrywiant Etholiadol fesul Etholiadol fesul Cynghorydd Cynghorydd Dixton gydag 1902 1 1902 14% Osbaston 1684 1 1684 6% Osbaston Drybridge 2639 1 2639 58% Drybridge 3397 2 1699 7% Overmonnow 1774 1 1774 6% Overmonnow 1062 1 1062 -33% Wyesham 1679 1 1679 0% Wyesham 1679 1 1679 5% 7994 4 7822 5

* (1673 Etholwyr fesul Cynghorydd) Yn seiliedig ar drefniant presennol y Cyngor Sir â 43 o aelodau. † (1593 Etholwyr fesul Cynghorydd) Yn seiliedig ar drefniant arfaethedig y Cyngor Sir â 45 o aelodau. Gweler paragraff 3 (Cyfrol 1) am ragor o wybodaeth. Tudalen 99 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

PORTH SGIWED

673. Mae’r trefniadau cymunedol presennol ym Mhorth Sgiwed yn cynnwys tair ward: Leechpool, Pentref Porth Sgiwed a Sudbrook. Mae gan y gymuned gyfanswm o 1,765 o etholwyr ac fe’i cynrychiolir gan 10 o gynghorwyr cymuned. Mae nifer yr etholwyr fesul ward a nifer y cynghorwyr fel a ganlyn:

Ward Gymunedol Nifer Etholwyr Nifer Cynghorwyr Leechpool 168 1 Pentref Porth Sgiwed 1308 7 Sudbrook 289 2

674. O ganlyniad i’r cynigion hyn, bydd nifer yr etholwyr yng Nghymuned Porth Sgiwed yn gostwng i 1,760.

Cynrychiolaethau 675. Derbyniodd y Cyngor nifer o gynrychiolaethau mewn perthynas â Chymuned Porth Sgiwed ac maent wedi’u crynhoi a’u cynnwys yn ei adroddiad cynigion terfynol. Mae’r crynodeb hwn wedi’i gynnwys isod.

Cynrychiolaethau Cychwynnol 676. Ni dderbyniwyd unrhyw gynrychiolaethau mewn perthynas â Chymuned Porth Sgiwed yn y cyfnod cychwynnol.

Cynrychiolaethau Drafft 677. Derbyniwyd cynrychiolaethau gan Gyngor Cymuned Porth Sgiwed yn cefnogi symud Ystâd Ddiwydiannol Pont Hafren i gymuned Caldicot. Roedd y Cyngor yn pryderu fod ffin Leechpool yn ffin igam-ogam yn hytrach na’n floc taclus, a chred fod angen dau gynghorydd ar Sudbrook oherwydd y datblygiad ychwanegol yn y ward.

678. Derbyniwyd cynrychiolaeth hefyd gan y Cynghorydd Sir ar gyfer Porth Sgiwed yn cefnogi’r pwyntiau a wnaed gan y cyngor cymuned.

Ffiniau wardiau cymunedol 679. Argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso dau newid i’r ffin gymunedol bresennol, sy’n cynnwys cynigion i drosglwyddo ardaloedd rhwng Cymuned Porth Sgiwed a’r cymunedau canlynol: • Caer-went • Caldicot

680. Gweler paragraff 76 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Porth Sgiwed (ward Leechpool) i Gymuned Caer-went (ward Crug). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 43 Cyfrol 1.

Tudalen 100 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

681. Gweler paragraff 111 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Porth Sgiwed (ward Pentref Porth Sgiwed) i Dref Caldicot (ward Hafren). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 63 Cyfrol 1.

682. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 101 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – (overview)

Tudalen 102 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Cynigion ar gyfer ffiniau wardiau cymunedol 683. Ochr yn ochr â’r newidiadau sy’n cael eu cynnig i’r ffin gymunedol a amlinellwyd yn yr adran flaenorol, argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso un newid i ffiniau wardiau mewnol presennol Cymuned Porth Sgiwed. Mae’r cynnig hwn yn cynnwys newidiadau i ffiniau’r wardiau canlynol: • Leechpool • Pentref Porth Sgiwed

Leechpool 684. Yn ychwanegol at y newid i’r ffin gymunedol allanol a amlinellwyd ym mharagraff 76 (gweler Cyfrol 1) uchod, cynigiodd y Cyngor drosglwyddo hanner ogleddol Ystâd Dai Treetops o ward Leechpool i ward Pentref Porth Sgiwed yn y Gymuned. Mae’r Cyngor yn bwriadu i’r ystâd dai gyfan ddod o fewn un ward gymunedol, ac mae hefyd yn bwriadu cynnwys y tir rhwng Ystad Dai Treetops a’r B4245 i’r gogledd ohoni yn y trosglwyddiad oherwydd bod datblygiad preswyl wedi’i gynllunio i’r dyfodol. Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar ryw 48 eiddo. 685. Mae map yn dangos ward arfaethedig Leechpool yng Nghymuned Porth Sgiwed i’w weld ar dudalen 104.

Pentref Porth Sgiwed 686. Yn ychwanegol at y newid i’r ffin gymunedol allanol a amlinellwyd ym mharagraff 111 (gweler Cyfrol 1), gweler paragraff 684 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o ward Leechpool i wad Pentref Porth Sgiwed.

687. Mae map yn dangos ward arfaethedig Pentref Porth Sgiwed yng Nghymuned Porth Sgiwed i’w weld ar dudalen 106.

688. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 103 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – (overview) Leechpool ward

Tudalen 104 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Insert proposal map – 29.9 Treetops Housing Estate

Tudalen 105 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – (overview) Portskewett Village ward

Tudalen 106 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

TREFNIADAU ÔL-DDILYNOL

Trefniadau etholiadol Cynghorau Cymuned

689. Mae’r trefniadau etholiadol cymunedol a argymhellir yn dilyn y newidiadau i’r cymunedau a’r wardiau cymunedol ym Mhorth Sgiwed yn cynnwys tair ward: Leechpool, Pentref Porth Sgiwed a Sudbrook. Cynigir bod gan y gymuned gyfanswm o 1,760 o etholwyr a’i bod yn cael ei chynrychioli gan 10 o gynghorwyr cymuned.

690. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i’r trefniadau etholiadol cymunedol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Gellir gweld trefniadau etholiadol argymelledig y Cyngor ar gyfer y cyngor cymuned isod:

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned Porth Sgiwed Presennol Arfaethedig Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Wardiau Cymuned Cymuned Cynghorydd Cynghorydd Leechpool 168 1 168 -5% 163 1 163 -7% Pentref 1308 7 187 6% 1308 7 187 6% Porth Sgiwed Sudbrook 289 2 145 -18% 289 2 145 -18% 1765 10 177 1760 10 176

691. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Trefniadau wardiau etholiadol

692. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Nid yw’r Cyngor wedi ystyried newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol yn ei gynigion terfynol.

693. O ganlyniad i’r newidiadau argymelledig i’r ffiniau cymunedol, mae’r Comisiwn yn argymell hefyd fod yr un newidiadau’n cael eu cymhwyso i’r wardiau etholiadol presennol a restrir isod (gweler Atodiad 4 ac Atodiad 5 i gael mwy o fanylion): • Caer-went • Porth Sgiwed • Hafren

694. Nid yw’r newidiadau arfaethedig i’r trefniadau wardio mewnol yng Nghymuned Porth Sgiwed yn cael unrhyw effaith ôl-ddilynol ar drefniadau wardiau etholiadol.

Tudalen 107 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

RHAGLAN

695. Mae’r trefniadau cymunedol presennol yn Rhaglan yn cynnwys tair ward: Llandenni, Pen-y- clawdd a Rhaglan. Mae gan y gymuned gyfanswm o 1,585 o etholwyr ac fe’i cynrychiolir gan 11 o gynghorwyr cymuned. Mae nifer yr etholwyr fesul ward a nifer y cynghorwyr fel a ganlyn:

Ward Gymunedol Nifer Etholwyr Nifer Cynghorwyr Llandenni 366 2 Pen-y-clawdd 99 1 Raglan 1120 8

696. O ganlyniad i’r cynigion hyn, bydd nifer yr etholwyr yng Nghymuned Rhaglen yn cynyddu i 1,659.

Cynrychiolaethau 697. Derbyniodd y Cyngor un gynrychiolaeth mewn perthynas â Chymuned Rhaglan ac mae wedi’i chrynhoi a’i chynnwys yn ei adroddiad cynigion terfynol. Mae’r crynodeb hwn wedi’i gynnwys isod.

Cynrychiolaethau Cychwynnol 698. Ni dderbyniwyd unrhyw gynrychiolaethau mewn perthynas â Chymuned Rhaglan yn y cyfnod cychwynnol.

Cynrychiolaethau Drafft 699. Derbyniwyd cynrychiolaethau gan Gyngor Cymuned Rhaglan a ddarparodd ddadansoddiad manwl o’r gwaith y mae’r cyngor a’i gynghorwyr yn ei wneud. Cododd y Cyngor bryderon ynghylch lleihau nifer y cynghorwyr, ac ynghylch trosglwyddo Cuckoos Row a The Warrage i Lanfihangel Troddi. Mae’r Cyngor o’r farn hefyd y byddai trigolion Gwehelog yn derbyn cynnydd mewn praesept i ymdrin â materion yn Rhaglan pan allent fod yn fwy cysylltiedig â Brynbuga.

Cynigion ar gyfer ffiniau cymunedol 700. Argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso chwe newid i’r ffin gymunedol bresennol, sy’n cynnwys cynigion i drosglwyddo ardaloedd rhwng Cymuned Rhaglan a’r cymunedau canlynol: • Gwehelog Fawr • Llan-arth • Llanfihangel Troddi

701. Gweler paragraff 318 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Gwehelog Fawr (ward Gwehelog) i Gymuned Rhaglan (ward arfaethedig Gwehelog). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 174 Cyfrol 1.

702. Gweler paragraff 318 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Gwehelog Fawr (ward Gwehelog) i Gymuned Rhaglan (ward Llandenni). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 174 Cyfrol 1. Tudalen 108 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

703. Gweler paragraff 339 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Llan-arth (ward ) i Gymuned Rhaglan (ward Rhaglan). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 184 Cyfrol 1.

704. Gweler paragraff 340 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Llan-arth (ward Cleidda) i Gymuned Rhaglan (ward Rhaglan). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 185 Cyfrol 1.

705. Gweler paragraff 618 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Rhaglan (ward Pen-y-clawdd) i Gymuned Llanfihangel Troddi (ward arfaethedig Pen-y-clawdd). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 77.

706. Gweler paragraff 619 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Rhaglan (ward Rhaglan) i Gymuned Llanfihangel Troddi (ward Tre’r-gaer). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 78.

707. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 109 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – Raglan (overview)

Tudalen 110 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Cynigion ar gyfer ffiniau wardiau cymunedol 708. Ochr yn ochr â’r newidiadau sy’n cael eu cynnig i’r ffin gymunedol a amlinellwyd yn yr adran flaenorol, argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso un newid i ffiniau wardiau mewnol presennol Cymuned Rhaglan. Mae’r cynnig hwn yn cynnwys newidiadau i ffiniau’r ward ganlynol: • Llandenni

Llandenni 709. Yn ychwanegol at y newid i’r ffin gymunedol allanol a amlinellwyd ym mharagraff 318 (gweler Cyfrol 1) uchod, cynigiodd y Cyngor drosglwyddo’r ardal i’r dwyrain o’r A449 o ward Llandenni i ward arfaethedig Cyncoed yng Nghymuned Rhaglan. Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar 146 eiddo. 710. Mae map yn dangos ward arfaethedig Llandenni yng Nghymuned Rhaglan i’w weld ar dudalen 112.

Cyncoed (arfaethedig) 711. Mae ward arfaethedig Cyncoed wedi’i ffurfio o’r ardal y cynigir ei throsglwyddo o ward bresennol Llandenni, fel y disgrifiwyd ym mharagraff 709 uchod. 712. Mae map yn dangos ward arfaethedig Cyncoed, yng Nghymuned Rhaglen, i’w weld ar dudalen 113. 713. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 111 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – (overview) Llandenni ward

Tudalen 112 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Tudalen 113 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

NEWIDIADAU ÔL-DDILYNOL

Trefniadau etholiadol Cynghorau Cymuned

714. Mae’r trefniadau etholiadol cymunedol a argymhellir yn dilyn y newidiadau i’r gymuned a’r wardiau cymunedol yn Rhaglan yn cynnwys pedair ward: Llandenni, Gwehelog, Cyncoed a Rhaglan. Cynigir bod gan y gymuned gyfanswm o 1,659 o etholwyr a’i bod yn cael ei chynrychioli gan naw o gynghorwyr cymuned.

715. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i’r trefniadau etholiadol cymunedol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Gellir gweld trefniadau etholiadol argymelledig y Cyngor ar gyfer y cyngor cymuned isod:

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned Rhaglan Presennol Gynigiwyd gan Cyngor Sir Fynwy Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Wardiau Cymuned Cymuned Cynghorydd Cynghorydd Llandenni 366 2 183 27% 220 2 110 -40% Pen-y-clawdd 99 1 99 -31% - - - - Rhaglan 1120 8 140 -3% 1070 4 268 45% Gwehelog - - - - 223 2 112 -40% Cyncoed - - - - 146 1 146 -21% 1585 11 144 1659 9 184

716. Ystyriodd y Comisiwn y trefniadau etholiadol cyngor cymuned a gynigiwyd gan y Cyngor a chynigiodd y diwygiadau canlynol i gynnig y Cyngor:

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned Rhaglan Presennol Gynigiwyd gan CFFDL Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Wardiau Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Cymuned Cymuned Cynghorydd Cynghorydd Llandenni 366 2 183 27% 220 1 220 19% Pen-y-clawdd 99 1 99 -31% - - - - Rhaglan 1120 8 140 -3% 1070 6 178 -3% Gwehelog - - - - 223 1 223 21% Cyncoed - - - - 146 1 146 -21% 1585 11 144 1659 9 184

717. Mae’r cynnig hwn yn lleihau’r amrediad mewn cynrychiolaeth etholiadol o fewn y gymuned ac yn cadw trefniant cyngor cymuned â naw aelod, fel y cynigiwyd gan y Cyngor. Mae’r cynnig hwn yn darparu mwy o gydraddoldeb cynrychiolaeth o fewn y gymuned.

718. Mae’r Comisiwn yn fodlon fod newidiadau arfaethedig y Comisiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 114 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Trefniadau wardiau etholiadol

719. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Nid yw’r Cyngor wedi ystyried newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol yn ei gynigion terfynol.

720. O ganlyniad i’r newidiadau argymelledig i’r ffiniau cymunedol, Comisiwn yn argymell hefyd fod yr un newidiadau’n cael eu cymhwyso i’r wardiau etholiadol presennol a restrir isod (gweler Atodiad 4 ac Atodiad 5 i gael mwy o fanylion): • Llanbadog • Llanofer (cynigir ei henwi yn Gobion Fawr) • Llanfihangel Troddi • Rhaglan

721. Nid yw’r newidiadau arfaethedig i’r trefniadau wardio mewnol yng Nghymuned Rhaglan yn cael unrhyw effaith ôl-ddilynol ar drefniadau wardiau etholiadol.

Tudalen 115 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

ROGIET

722. Nid yw Cymuned bresennol Rogiet wedi’i wardio. Mae gan y gymuned gyfanswm o 1,349 o etholwyr ac fe’i cynrychiolir gan 11 o gynghorwyr cymuned.

723. O ganlyniad i’r cynigion hyn, bydd nifer yr etholwyr yng Nghymuned Rogiet yn cynyddu i 1,370.

Cynrychiolaethau 724. Ni dderbyniodd y Cyngor unrhyw gynrychiolaethau mewn perthynas â Chymuned Rogiet.

Cynigion ar gyfer ffiniau cymunedol 725. Argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso wyth o newidiadau i’r ffin gymunedol bresennol, sy’n cynnwys cynigion i drosglwyddo ardaloedd rhwng Cymuned Rogiet a’r cymunedau canlynol: • Caer-went • Caldicot • Magwyr gyda Gwndy

726. Gweler paragraff 75 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo tair ardal o Gymuned Caer-went (ward Saint-y-brid) i Gymuned Rogiet. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 42 Cyfrol 1.

727. Gweler paragraff 112 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Dref Caldicot (ward West End) i Gymuned Rogiet. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 65 Cyfrol 1.

728. Gweler paragraff 112 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Rogiet i Dref Caldicot (ward West End). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 64 Cyfrol 1.

729. Gweler paragraff 558 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Magwyr gyda Gwndy (ward Salisbury) i Gymuned Rogiet. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 51.

730. Gweler paragraffiau 559 a 560 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo dwy ardal o Gymuned Magwyr gyda Gwndy (wardiau Mill a The Elms) i Gymuned Rogiet. Dangosir y cynnigion hwn ar y mapiau ar dudalenau 52 a 53.

731. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 116 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Tudalen 117 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

NEWIDIADAU ÔL-DDILYNOL

Trefniadau etholiadol Cynghorau Cymuned

732. Nid yw cymuned arfaethedig Rogiet wedi’i wardio. Cynigir bod gan y gymuned gyfanswm o 1,370 o etholwyr a’i bod yn cael ei chynrychioli gan saith o gynghorwyr cymuned.

733. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i’r trefniadau etholiadol cymunedol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Gellir gweld trefniadau etholiadol argymelledig y Cyngor ar gyfer y cyngor cymuned isod:

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned Rogiet Presennol Arfaethedig Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Wardiau Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Cymuned Cymuned Cynghorydd Cynghorydd Rogiet 1349 11 123 0% 1370 7 196 0% 1349 11 123 1370 7 196

734. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Trefniadau wardiau etholiadol

721. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Nid yw’r Cyngor wedi ystyried newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol yn ei gynigion terfynol.

735. O ganlyniad i’r newidiadau argymelledig i’r ffin gymunedol, Mae’r Comisiwn yn argymell hefyd fod yr un newidiadau’n cael eu cymhwyso i’r wardiau etholiadol presennol a restrir isod (gweler Atodiad 4 ac Atodiad 5 i gael mwy o fanylion): • • Mill (cynigir ei henwi yn Gorllewin Magwyr) • Rogiet • The Elms (cynigir ei henwi yn Dwyrain Magwyr) • West End

Tudalen 118 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

TUDALEN WAG

Tudalen 119 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

DRENEWYDD GELLI-FARCH

737. Mae’r trefniadau cymunedol presennol yn Drenewydd Gelli-farch yn cynnwys pedair ward: Earlswood, Mynyddbach, Yr Eglwys Newydd a Drenewydd Gelli-farch. Mae gan y gymuned gyfanswm o 915 o etholwyr ac fe’i cynrychiolir gan 10 o gynghorwyr cymuned. Mae nifer yr etholwyr fesul ward a nifer y cynghorwyr fel a ganlyn:

Ward Gymunedol Nifer Etholwyr Nifer Cynghorwyr Earlswood 143 2 Mynyddbach 217 2 Yr Eglwys Newydd 91 1 Drenewydd Gelli-farch 464 5

738. O ganlyniad i’r cynigion hyn, bydd nifer yr etholwyr yng Nghymuned Drenewydd Gelli-farch yn gostwng i 899.

Cynrychiolaethau 739. Derbyniodd y Cyngor nifer o gynrychiolaeth mewn perthynas â Chymuned Drenewydd Gelli- farch ac mae wedi’u crynhoi a’u cynnwys yn ei adroddiad cynigion terfynol. Mae’r crynodeb hwn wedi’i gynnwys isod.

Cynrychiolaethau Cychwynnol 740. Cyflwynodd Cyngor Cymuned Drenewydd Gelli-farch gynrychiolaeth yn dweud bod y gymuned yn ardal nodedig gyda chymuned adnabyddadwy. Dywedant fod nifer o gysylltiadau cadarnhaol rhwng y wardiau cymunedol, gan gynnwys bod y gymuned yn gyfrifol am y cae tir gwael a’r ardal goedwigaeth yn Earlswood, yn gyfrifol am Neuadd Bentref Earlswood a thir hamdden yn Drenewydd Gelli-farch, yn ogystal â chynnig cymorth ariannol i eglwysi, capeli a sefydliadau yn y gymuned.

741. Mae Cyngor Cymuned Drenewydd Gelli-farch yn argymell lleihau nifer y wardiau yn y gymuned i ddwy, sef ward Earlswood a Gorllewin yr Eglwys Newydd a ward Drenewydd Gelli- farch a Mynydd-bach. Mae’r gymuned yn awgrymu rhaniad rhwng y ddwy ward yn Cock-A- Roosting ac mae’n awyddus i sicrhau bod enwau’r holl bentrefi yn cael eu cadw mewn enwau wardiau newydd. Maent hefyd yn awgrymu cymhareb aelodau o pum ar gyfer ward Drenewydd Gelli-farch a Mynydd-bach a dri ar gyfer ward Earlswood a Gorllewin yr Eglwys Newydd ar sail y meini prawf a gynhwysir yn y cylch gorchwyl.

742. Cyflwynodd y Cynghorydd Graham Down gynrychiolaeth mewn perthynas â’r trefniadau cymunedol ar gyfer Drenewydd Gelli-farch yn cefnogi’r gynrychiolaeth a roddwyd gerbron gan Gyngor Cymuned Drenewydd Gelli-farch. Hefyd, cyfeiriodd y Cynghorydd Sir Down at nifer o anheddau i’r gorllewin o Crug Road sy’n fwy addas i Drenewydd Gelli-farch na’u cymuned bresennol, sef Caer-went.

Tudalen 120 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Cynrychiolaethau Drafft 743. Derbyniwyd cynrychiolaethau gan Gyngor Cymuned Drenewydd Gelli-farch a nododd y canlynol: Fod enwau wardiau yn cadw enwau wardiau presennol Drenewydd Gelli-farch a Mynydd-bach ac Coed-yr-Iarll a'r Eglwys Newydd ar y Cefn yn hytrach na Wentwood, bod Coed-yr-Iarll a'r Eglwys Newydd ar y Cefn yn cynyddu o ddau gynghorydd i dri, a nododd nifer o eiddo i’w lleoli yn ward Drenewydd Gelli-farch.

744. Derbyniwyd cynrychiolaeth hefyd gan y Cynghorydd Sir ar gyfer Drenewydd Gelli-farch yn cefnogi’r gynrychiolaeth gan y Cyngor Cymuned, ond nododd hefyd y dylai ychydig o eiddo ar ochr orllewinol Crug Road gael eu lleoli yn Drenewydd Gelli-farch yn hytrach na Chaer-went. Cynigiodd y Cynghorydd hefyd bod y ffin rhwng Earlswood a Drenewydd Gelli-farch yn cael ei ffurfio rhwng Cock-A-Roosting gyda phopeth i’r gogledd o’r llinell yn Earlswood.

Cynigion ar gyfer ffiniau cymunedol 745. Argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso dau newid i’r ffin gymunedol bresennol, sy’n cynnwys cynigion i drosglwyddo ardaloedd rhwng Cymuned Drenewydd Gelli-farch a’r cymunedau canlynol: • Devauden • St Arvans

746. Gweler paragraff 240 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Drenewydd Gelli-farch (wardiau Mynyddbach a Drenewydd Gelli-farch) i Gymuned Devauden (ward Llanddinol). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 141 Cyfrol 1.

747. Mae’r Cyngor yn cynnig trosglwyddo ardal Beech Wood, Coppice Mawr ac Yewtree Wood o Gymuned St Arvans i Gymuned Drenewydd Gelli-farch (ward arfaethedig Drenewydd Gelli- farch a Mynydd-bach). Mae’r cynnig hwn yn trosglwyddo’r eiddo Middle Lodge a Wellhead Lodge, yn ychwanegol at yr ardaloedd coetir ar hyn Long Orchard. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 123.

748. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 121 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – (overview)

Tudalen 122 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Insert proposal map – 32.5 Beech Wood

Tudalen 123 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Cynigion ar gyfer ffiniau wardiau cymunedol 749. Ochr yn ochr â’r newidiadau sy’n cael eu cynnig i’r ffin gymunedol a amlinellwyd yn yr adran flaenorol, argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso pedwar newid i ffiniau wardiau mewnol presennol Cymuned Drenewydd Gelli-farch. Mae’r cynnig hwn yn cynnwys newid i ffiniau’r wardiau canlynol: • Earlswood • Mynyddbach • Yr Eglwys Newydd • Drenewydd Gelli-farch

Earlswood 750. Cynigiodd y Cyngor gyfuno wardiau Earlswood a'r Eglwys Newydd i ffurfio ward arfaethedig Coed-yr-Iarll a'r Eglwys Newydd ar y Cefn yng Nghymuned Drenewydd Gelli-farch. Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar 289 o etholwyr. 751. Mae’r Cyngor yn cynnig trosglwyddo’r eiddo Grove View, Little Mill, The Ostrey a , ynghyd â’r tir sy’n gysylltiedig â’r eiddo hyn, i’r de o Mounton Brook, o ward Earlswood i ward arfaethedig Drenewydd Gelli-farch a Mynydd-bach. Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar bedar eiddo.

752. Mae’r Cyngor yn cynnig trosglwyddo’r eiddo a’r tir âr y gellir mynd iddo oddi ar Earlswood Road (y tu hwnt (i’r gogledd) o droad Batwell Lane), o ward Drenewydd Gelli-farch i ward arfaethedig Coed-yr-Iarll a'r Eglwys Newydd ar y Cefn. Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar ryw 50 eiddo.

753. Mae map yn dangos ward arfaethedig Coed-yr-Iarll a'r Eglwys Newydd ar y Cefn yng Nghymuned Drenewydd Gelli-farch i’w weld ar dudalen 126. Mynyddbach 754. Yn ychwanegol at y newid i’r ffin gymunedol allanol a amlinellwyd ym mharagraff 240 (gweler Cyfrol 1) uchod, cynigiodd y Cyngor gyfuno wardiau Mynyddbach a Drenewydd Gelli-farch i ffurfio ward arfaethedig Drenewydd Gelli-farch a Mynydd-bach yng Nghymuned Drenewydd Gelli-farch. Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar 610 o etholwyr. 755. Mae map yn dangos ward arfaethedig Drenewydd Gelli-farch a Mynydd-bach yng Nghymuned Drenewydd Gelli-farch i’w weld ar dudalen 129. Yr Eglwys Newydd 756. Gweler paragraff 750 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i gyfuno wardiau Earlswood a’r Eglwys Newydd i ffurfio ward arfaethedig Coed-yr-Iarll a'r Eglwys Newydd ar y Cefn yng Nghymuned Drenewydd Gelli-farch. 757. Mae map yn dangos ward arfaethedig Coed-yr-Iarll a'r Eglwys Newydd ar y Cefn yng Nghymuned Drenewydd Gelli-farch i’w weld ar dudalen 126. Y Drenewydd Gelli-farch 758. Yn ychwanegol at y newidiadau i ffiniau cymunedol allanol a amlinellwyd ym mharagraffau 240 (gweler Cyfrol 1) a 747, gweler paragraff 754 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i

Tudalen 124 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

gyfuno wardiau Mynyddbach a Drenewydd Gelli-farch i ffurfio ward arfaethedig Drenewydd Gelli-farch a Mynydd-bach yng Nghymuned Drenewydd Gelli-farch.

759. Gweler paragraff 751 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o ward Earlswood i ward arfaethedig Drenewydd Gelli-farch a Mynydd-bach.

760. Gweler paragraff 752 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o ward Drenewydd Gelli-farch i ward arfaethedig Coed-yr-Iarll a'r Eglwys Newydd ar y Cefn. 761. Mae map yn dangos ward arfaethedig Drenewydd Gelli-farch a Mynydd-bach yng Nghymuned Drenewydd Gelli-farch i’w weld ar dudalen 129.

762. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 125 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – (overview) proposed Earlswood and Newchurch ward

Tudalen 126 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Insert proposal map – 32.10 south of Mounton Brook

Tudalen 127 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – 32.11 Earlswood Road

Tudalen 128 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Tudalen 129 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

NEWIDIADAU ÔL-DDILYNOL

Trefniadau etholiadol Cynghorau Cymuned

763. Mae’r trefniadau etholiadol cymunedol a argymhellir yn dilyn y newidiadau i’r cymunedau a’r wardiau cymunedol yn Drenewydd Gelli-farch yn cynnwys dwy ward: Earlswood a’r Eglwys Newydd, a Drenewydd Gelli-farch a Mynydd-bach. Cynigir bod gan y gymuned gyfanswm o 899 o etholwyr a’i bod yn cael ei chynrychioli gan saith o gynghorwyr cymuned.

764. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i’r trefniadau etholiadol cymunedol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Gellir gweld trefniadau etholiadol argymelledig y Cyngor ar gyfer y cyngor cymuned isod:

765. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i’r trefniadau etholiadol cymunedol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Gellir gweld trefniadau etholiadol argymelledig y Cyngor ar gyfer y cyngor cymuned isod:

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned Drenewydd Gelli-farch Presennol Arfaethedig Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Wardiau Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Cymuned Cymuned Cynghorydd Cynghorydd Earlswood 143 2 72 -22% - - - - Mynyddbach 217 2 109 19% - - - - Yr Eglwys 91 1 91 -1% - - - - Newydd Drenewydd 464 5 93 1% - - - - Gelli-farch Coed-yr-Iarll a'r Eglwys Newydd - - - - 289 2 145 13% ar y Cefn Drenewydd Gelli-farch a - - - - 610 5 122 -5% Mynydd-bach 915 10 92 899 7 128

765. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Trefniadau wardiau etholiadol

766. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Nid yw’r Cyngor wedi ystyried newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol yn ei gynigion terfynol.

Tudalen 130 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

767. O ganlyniad i’r newidiadau argymelledig i’r ffiniau cymunedol, mae’r Comisiwn yn argymell hefyd fod yr un newidiadau’n cael eu cymhwyso i’r wardiau etholiadol presennol a restrir isod (gweler Atodiad 4 ac Atodiad 5 i gael mwy o fanylion): • Devauden • Drenewydd Gelli-farch • St Arvans

768. Nid yw’r newidiadau arfaethedig i’r trefniadau wardio mewnol yng Nghymuned Drenewydd Gelli-farch yn cael unrhyw effaith ôl-ddilynol ar drefniadau wardiau etholiadol.

Tudalen 131 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

ST ARVANS

769. Nid yw Cymuned bresennol St Arvans wedi’i wardio. Mae gan y gymuned gyfanswm o 626 o etholwyr a gynrychiolir gan wyth cynghorydd cymuned.

770. O ganlyniad i’r cynigion hyn, bydd nifer yr etholwyr yng Nghymuned St Arvans yn gostwng i 596.

Cynrychiolaethau 771. Derbyniodd y Cyngor nifer o gynrychiolaethau mewn perthynas â Chymuned St Arvans ac mae wedi’u crynhoi a’u cynnwys yn ei adroddiad cynigion terfynol. Mae’r crynodeb hwn wedi’i gynnwys isod. Cynrychiolaethau Cychwynnol 772. Derbyniwyd cynrychiolaeth gan Gyngor Tref Casm-gewnwent perthynas â Chae Ras Cas- gwent. Cred y cyngor y dylai’r cae ras ddod o fewn ei gylch gwaith ef ac nid St Arvans, gan resymu y rhagdybir yn naturiol fod y cae ras o fewn ei ardal, ac mae’n derbyn nifer o ymholiadau ynglŷn â’r cae ras, ac yn ogystal mae’n tynnu sylw at y ffaith fod rhaid i lawer o’r ymwelwyr â’r cae ras deithio trwy gymuned Cas-gwent i fynd i’r cae ras. Cynrychiolaethau Drafft 773. Derbyniwyd cynrychiolaethau gan Gyngor Cymuned St Arvans yn dweud fod cysylltiad hanesyddol gan Ty Piercefield â St Arvans, ac mae’r eglwys a’r cae ras yn galluogi trigolion St Arvans i ddefnyddio rhan o’i dir at ddibenion hamdden. Mae’r Cyngor yn tynnu sylw at y berthynas sydd wedi’i meithrin gyda’r cae ras a’r cyngor cymuned i ddelio â materion sy’n codi mewn digwyddiadau ar y cae ras a gwaith cynnal a chadw ar y ffin sydd yn erbyn priffyrdd. Nid ydynt am golli’r ardal o dir i’r de o’r gymuned, a chredant y dylai cymuned Tyndyrn benderfynu a ddylai Penterry symud i mewn i St Arvans. Mae’r cyngor yn dymuno cadw 8 o gynghorwyr yn unol â’r trefniadau presennol.

774. Derbyniwyd nifer sylweddol o gynrychiolaethau gan drigolion a chynghorwyr Cyngor Cymuned St Arvans yn cefnogi’r cynrychiolaethau gan Cyngor Cymuned St Arvans.

775. Hefyd, cynhaliodd aelod o weithgor y Cyngor ymweliad safle gyda’r Cyngor Cymuned i sicrhau dealltwriaeth lwyr o bryderon y cyngor cymuned.

776. Derbyniwyd cynrychiolaeth gan drigolion hefyd yn cefnogi’r cynigion, ond argymhellont newidiadau pellach hefyd yn cynnwys St Arvans fel ward Cyngor Tref Cas-gwent a diddymu’r cyngor cymuned yn llwyr. Darparwyd nifer o farnau hefyd yn gwrthwynebu’r gynrychiolaeth a gyflwynwyd gan Gyngor Cymuned St Arvans.

777. Derbyniwyd cynrychiolaeth mewn perthynas â’r eiddo The Tout sydd wedi’i leoli yn ward Llanddinol yn Devauden ar hyn o bryd, ond ceir mynediad iddo drwy Piccadilly Lane a gweddill ward Penterry, ac argymhellont y dylai’r eiddo hwn gael ei symud i ward Penterry.

Tudalen 132 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Cynigion ar gyfer ffiniau cymunedol 778. Argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso pump o newidiadau i’r ffin gymunedol bresennol, sy’n cynnwys trosglwyddo ardaloedd rhwng Cymuned St Arvans a’r cymunedau canlynol: • Cas-gwent • Devauden • Drenewydd Gelli-farch • Tyndyrn (cynigir ei henwi yn Dyffryn Gwy)

779. Gweler paragraff 161 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned St Arvans i Dref Cas-gwent (ward St Kingsmark). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 97 Cyfrol 1.

780. Gweler paragraff 239 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned St Arvans i Gymuned Devauden (ward Llanddinol). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 140 Cyfrol 1.

781. Gweler paragraff 241 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Devauden (ward Llanddinol) i Gymuned St Arvans. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 142 Cyfrol 1.

782. Gweler paragraff 747 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned St Arvans i Gymuned Drenewydd Gelli-farch (ward arfaethedig Drenewydd Gelli- farch a Mynydd-bach). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 123.

783. Mae’r Cyngor yn cynnig trosglwyddo’r eiddo i’r dwyrain o Ravensnest Wood a Fedw Wood o Gymuned Tyndyrn (ward Penterry) i Gymuned St Arvans. Mae’r cynnig hwn yn cynnwys ardal Sychbant Wood a Fairoak Pond, ac mae’n effeithio ar ryw saith eiddo. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 135.

784. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 133 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – St Arvans (overview)

Tudalen 134 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Insert proposal map – 33.8 East of Ravensnest Wood

Tudalen 135 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

NEWIDIADAU ÔL-DDILYNOL

Trefniadau etholiadol Cynghorau Cymuned

785. Nid yw cymuned arfaethedig St Arvans wedi’i wardio. Cynigir bod gan y gymuned gyfanswm o 596 o etholwyr a’i bod yn cael ei chynrychioli gan saith o gynghorwyr cymuned.

786. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i’r trefniadau etholiadol cymunedol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Gellir gweld trefniadau etholiadol argymelledig y Cyngor ar gyfer y cyngor cymuned isod:

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned St Arvans Presennol Arfaethedig Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Wardiau Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Cymuned Cymuned Cynghorydd Cynghorydd St Arvans 626 8 78 0% 596 7 85 0% 626 8 78 596 7 85

787. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Trefniadau wardiau etholiadol

788. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Nid yw’r Cyngor wedi ystyried newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol yn ei gynigion terfynol.

789. O ganlyniad i’r newidiadau argymelledig i’r ffin gymunedol, mae’r Comisiwn yn argymell hefyd fod yr un newidiadau’n cael eu cymhwyso i’r wardiau etholiadol presennol a restrir isod (gweler Atodiad 4 ac Atodiad 5 i gael mwy o fanylion): • Devauden • Drenewydd Gelli-farch • St Arvans • St Kingsmark (cynigir ei henwi yn Larkfield a St Kingsmark)

Tudalen 136 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

TUDALEN WAG

Tudalen 137 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

TYNDYRN

790. Mae’r trefniadau cymunedol presennol yn Nhyndyrn yn cynnwys pedair ward: Allt y Capel, Penterry, Tyndyrn Parva a Phlasdy Tryleg. Mae gan y gymuned gyfanswm o 687 o etholwyr ac fe’i cynrychiolir gan wyth o gynghorwyr cymuned. Mae nifer yr etholwyr fesul ward a nifer y cynghorwyr fel a ganlyn:

Ward Gymunedol Nifer Etholwyr Nifer Cynghorwyr Allt y Capel 200 3 Penterry 55 1 Tyndyrn Parva 360 3 Plasdy Tryleg 72 1

791. O ganlyniad i’r cynigion hyn, bydd nifer yr etholwyr yng Nghymuned Tyndyrn yn cynyddu i 1,001.

Cynrychiolaethau 792. Derbyniodd y Cyngor nifer o gynrychiolaethau mewn perthynas â Chymuned Tyndyrn ac mae wedi’u crynhoi a’u cynnwys yn ei adroddiad cynigion terfynol. Mae’r crynodeb hwn wedi’i gynnwys isod.

Cynrychiolaethau Cychwynnol 793. Derbyniwyd cynrychiolaeth gan y Cynghorydd Sir Ann Webb a oedd yn gwrthwynebu’n gryf symud ward Plasdy Tryleg yng Nghymuned Tyndyrn i gymuned Tryleg Unedig.

794. Cyflwynodd Cyngor Cymuned Tryleg gynrychiolaethau yn cynnig y diwygiad uchod ar gyfer ardal Far Hill. Yn ogystal, cynigiodd y cyngor bod ward Plasdy Tryleg yng Nghyngor Cymuned Tyndyrn yn cael ei symud o dan gyfrifoldeb dros Tryleg Unedig a’i huno gyda ward Llanisien. Dywed y Cyngor fod cysylltiadau sefydledig rhwng Llanisien a Phlasdy Tryleg, y dalgylch ysgol ar gyfer Plasdy Tryleg yw Ysgol Gynradd Tryleg yn Nhryleg Unedig, a thafarn y Fountain Inn yw’r ‘dafarn leol’ i drigolion yn ward yn Nhryleg Unedig.

795. Cyflwynodd George Weston, y Cynghorydd Cymuned ar gyfer ward Llanisien yng Nghymuned Tryleg Unedig gynnig manwl ar gyfer trefniadau cymunedol newydd yng Nghymuned Tryleg Unedig. Yn gryno, cynigiodd uno ward Plasdy Tryleg yng Nghyngor Cymuned Tyndyrn â ward Llanisien yn Nhryleg Unedig.

Cynrychiolaethau Drafft 796. Derbyniwyd cynrychiolaeth gan Gyngor Cymuned Tyndyrn yn nodi bod y trefniadau presennol yn gweithio’n dda ond ei fod yn hapus gyda throsglwyddo Penterry i St Arvans a chynnwys yn ei ardal. Nododd hefyd nad oedd eisiau colli Plasdy Tryleg i gymuned Tryleg o gofio ei gysylltiadau hanesyddol ag Abaty Tyndyrn.

797. Derbyniwyd nifer o gynrychiolaethau gan drigolion hefyd yn gwrthwynebu’r cynnig i symud ward Plasdy Tryleg i Gymuned Tryleg ar sail ei gysylltiadau hanesyddol ag Abaty Tyndyrn. Tudalen 138 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Cynigion ar gyfer ffiniau cymunedol 798. Argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso pedwar newid i’r ffin gymunedol bresennol, a newid i enw’r gymuned a chynigion sy’n cynnwys trosglwyddo ardaloedd rhwng Cymuned Tyndyrn a’r cymunedau canlynol: • Devauden • St Arvans • Tryleg Unedig

799. Gweler paragraff 238 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Tyndyrn (ward Penterry) i Gymuned Devauden (ward Devauden). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 139 Cyfrol 1.

800. Gweler paragraff 783 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Tyndyrn (ward Penterry) i Gymuned St Arvans. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 135.

801. Mae’r Cyngor yn cynnig trosglwyddo ward Llandogo o Gymuned Tryleg Unedig, i Gymuned arfaethedig Dyffryn Gwy. Roedd y Cyngor o’r farn mai’r prif lwybr mynediad allan o ward Llandogo oedd ar hyd yr A466 (i’r de) i Gymuned Tyndyrn, yn hytrach nag ar draws lonydd trac sengl i weddill Cymuned Tryleg Unedig. Mae’r trosglwyddiad hwn yn effeithio ar 441 o etholwyr. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 141.

802. Mae’r Cyngor yn cynnig trosglwyddo ward Plasdy Tryleg o Gymuned Tyndyrn, i Gymuned Tryleg Unedig. Derbyniodd y Cyngor gynrychiolaeth yn ystyried y cynnig hwn ac roedd yn cefnogi’r barnau a dderbyniwyd ganddynt. Mae’r trosglwyddiad hwn yn effeithio ar 72 o etholwyr. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 142.

803. Cynigiodd y Cyngor newid enw Cymuned bresennol Tyndyrn. Mae’r Cyngor yn cynnig yr enw Dyffryn Gwy ar gyfer y Gymuned hon.

804. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 139 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – Wye Valley (overview)

Tudalen 140 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Tudalen 141 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – 34.7 Grange

Tudalen 142 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Cynigion ar gyfer ffiniau wardiau cymunedol 805. Ochr yn ochr â’r newidiadau sy’n cael eu cynnig i’r ffin gymunedol a amlinellwyd yn yr adran flaenorol, argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso dau newid i ffiniau wardiau mewnol presennol Cymuned Tyndyrn. Mae’r cynnig hwn yn cynnwys newidiadau i ffiniau’r wardiau canlynol: • Allt y Capel • Penterry • Tyndyrn Parva

Allt y Capel 806. Cynigiodd y Cyngor gyfuno wardiau Allt y Capel a Thyndyrn Parva i ffurfio ward arfaethedig Tyndyrn yng Nghymuned Tyndyrn. Hefyd, mae hyn yn cynnwys ardal fach Cross Farm, i’r gogledd o Ravensnest Wood, sydd yn ward Penterry yng Nghymuned Tyndyrn ar hyn o bryd. Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar 560 o etholwyr. 807. Mae map yn dangos ward arfaethedig Tyndyrn yng Nghymuned arfaethedig Dyffryn Gwy i’w weld ar dudalen 144.

Penterry 808. Yn ychwanegol at y newidiadau i ffiniau cymunedol allanol a amlinellwyd ym mharagraffau 238 (gweler Cyfrol 1) a 783, a’r cynnig ar gyfer ffiniau wardiau mewnol a amlinellwyd ym mharagraff 806 uchod, mae ward bresennol Penterry yn cael ei diddymu trwy hynny.

Tyndyrn Parva 809. Gweler paragraff 806 uchod, i gael manylion y Cyngor i gyfuno wardiau Allt y Capel a Thyndyrn Parva i ffurfio ward arfaethedig Tydyrn yng Nghymuned Tyndyrn. 810. Mae map yn dangos ward arfaethedig Tyndyrn yng Nghymuned arfaethedig Dyffryn Gwy i’w weld ar dudalen 144.

811. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 143 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – (overview) proposed ward

Tudalen 144 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Tudalen 145 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

NEWIDIADAU ÔL-DDILYNOL

Trefniadau etholiadol Cynghorau Cymuned

812. Mae’r trefniadau etholiadol cymunedol a argymhellir yn dilyn y newidiadau i’r gymuned a’r wardiau cymunedol yn Nhyndyrn yn cynnwys dwy ward: Llandogo a Thyndyrn. Cynigir bod gan y gymuned gyfanswm o 1,001 o etholwyr a’i bod yn cael ei chynrychioli gan saith o gynghorwyr cymuned.

813. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i’r trefniadau etholiadol cymunedol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Gellir gweld trefniadau etholiadol argymelledig y Cyngor ar gyfer y cyngor cymuned isod:

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned Tyndyrn Presennol Arfaethedig Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Wardiau Cymuned Cymuned Cynghorydd Cynghorydd Allt y Capel 200 3 67 -22% - - - - Penterry 55 1 55 -36% - - - - Tyndyrn 360 3 120 40% - - - - Parva Plasdy Tryleg 72 1 72 -16% - - - - Llandogo - - - - 441 3 147 3% Tyndyrn - - - - 560 4 140 -2% 687 8 86 1001 7 143

814. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Trefniadau wardiau etholiadol

815. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Nid yw’r Cyngor wedi ystyried newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol yn ei gynigion terfynol.

816. O ganlyniad i’r newidiadau argymelledig i’r ffiniau cymunedol, mae’r Comisiwn yn argymell hefyd fod yr un newidiadau’n cael eu cymhwyso i’r wardiau etholiadol presennol a restrir isod (gweler Atodiad 4 ac Atodiad 5 i gael mwy o fanylion): • Devauden • St Arvans • Tryleg Unedig

817. Nid yw’r newidiadau arfaethedig i’r trefniadau wardio mewnol yng Nghymuned Tyndyrn yn cael unrhyw effaith ôl-ddilynol ar drefniadau wardiau etholiadol.

Tudalen 146 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

TUDALEN WAG

Tudalen 147 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

TRYLEG UNEDIG

818. Mae’r trefniadau cymunedol presennol yn Nhryleg Unedig yn cynnwys saith ward: Catbrook, Llandogo, Llanisien, Pen-allt, Narth, Tref Tryleg ac Abergwenffrwd. Mae gan y gymuned gyfanswm o 2,199 o etholwyr ac fe’i cynrychiolir gan 13 o gynghorwyr cymuned. Mae nifer yr etholwyr fesul ward a nifer y cynghorwyr fel a ganlyn:

Ward Gymunedol Nifer Etholwyr Nifer Cynghorwyr Catbrook 319 2 Llandogo 441 2 Llanisien 274 2 Pen-allt 414 2 Narth 342 2 Tref Tryleg 327 2 Abergwenffrwd 82 1

819. O ganlyniad i’r cynigion hyn, bydd nifer yr etholwyr yng Nghymuned Tryleg Unedig yn gostwng i 1,830.

Cynrychiolaethau 820. Derbyniodd y Cyngor nifer o gynrychiolaethau mewn perthynas â Chymuned Tryleg Unedig ac maent wedi’u crynhoi a’u cynnwys yn ei adroddiad cynigion terfynol. Mae’r crynodeb hwn wedi’i gynnwys isod.

Cynrychiolaethau Cychwynnol 821. Derbyniwyd nifer o gynrychiolaethau mewn perthynas â’r trefniadau cymunedol yn Nhryleg Unedig.

822. Derbyniwyd nifer o gynrychiolaethau, gan gynnwys cynrychiolaethau a gyflwynwyd gan drigolion yn yr ardal, i gynnig bod ardal Farhill yn cael ei symud i ffurfio rhan o ward Tref Tryleg yn hytrach na ward Llanisien. Mae llawer o’r trigolion yn defnyddio’r cyfleusterau yn Nhref Tryleg yn hytrach na Llanisien, ac yn defnyddio Tref Tryleg ar gyfer eu prif sianelau cyfathrebu yn hytrach na Llanisien.

823. Cyflwynodd Cyngor Cymuned Tryleg gynrychiolaethau yn cynnig y diwygiad uchod ar gyfer ardal Far Hill. Yn ogystal, cynigiodd y cyngor bod ward Plasdy Tryleg yng Nghyngor Cymuned Tyndyrn yn cael ei symud o dan gyfrifoldeb dros Dryleg Unedig a’i huno gyda ward Llanisien. Dywed y Cyngor fod cysylltiadau sefydledig rhwng Llanisien a Phlasdy Tryleg, y dalgylch ysgol ar gyfer Plasdy Tryleg yw Ysgol Gynradd Tryleg yn Nhryleg Unedig, a thafarn y Fountain Inn yw’r ‘dafarn leol’ i drigolion yn ward Catbrook yn Nhryleg Unedig.

824. Cyflwynodd George Weston, y Cynghorydd Cymuned ar gyfer ward Llanisien yng Nghymuned Tryleg Unedig gynnig manwl ar gyfer trefniadau cymunedol newydd yng Nghymuned Tryleg Unedig. Yn gryno, cynigiodd uno ward Plasdy Tryleg yng Nghyngor Cymuned Tyndyrn â ward Llanisien yng Nghyngor Cymuned Tryleg Unedig, a rhoddodd nifer o resymau yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer cysylltiadau rhwng y ddwy ardal. Rhoddodd y Cynghorydd gynnig manwl

Tudalen 148 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

hefyd yn cefnogi barnau trigolion lleol i symud ardal Far Hil i ward Tref Tryleg, o Lanisien. Ymhellach at hyn, cyflwynwyd ail gynrychiolaeth mewn ymateb i’r cynrychiolaethau a gyflwynwyd gan Gynghorydd Sir.

825. Cyflwynwyd cynrychiolaethau gan y Cynghorydd Sir Ann Webb yn gwrthwynebu’n gryf y cynrychiolaethau a dderbyniwyd ynglŷn â symud ward Plasdy Tryleg yng Nghymuned Tyndyrn i gymuned Tryleg Unedig.

Cynrychiolaethau Drafft 826. Derbyniwyd cynrychiolaeth gan Gyngor Cymuned Tryleg Unedig mewn perthynas â’r cynigion ac roedd yn gwrthwynebu’r cynnig i symud Llandogo o Dryleg i Dyndyrn, a rhoddodd resymau dros ei chysylltiadau â gweddill Tryleg/Trefynwy. Roedd y Cyngor Cymuned yn derbyn hefyd fod rhai cysylltiadau rhwng Llandogo a Thyndyrn.

827. Cyflwynwyd cynrychiolaeth hefyd gan y cynghorwyr cymuned ar gyfer ward Llandogo yn gwrthwynebu symud Llandogo o Dryleg i Dyndyrn am resymau tebyg a gyflwynwyd gan y Cyngor Cymuned.

828. Gwnaed cyflwyniadau hefyd gan drigolion yn gwrthwynebu’r cynnig mewn perthynas â Llandogo.

829. Derbyniwyd cynrychiolaeth gan Gyngor Cymuned Tyndyrn yn nodi bod y trefniadau presennol yn gweithio’n dda ond eu bod yn hapus gyda throsglwyddo Penterry i St Arvans a chynnwys Llandogo yn ei ardal. Nododd hefyd nad oedd eisiau colli Plasdy Tryleg i gymuned Tryleg o gofio ei gysylltiadau hanesyddol ag Abaty Tyndyrn.

830. Derbyniwyd nifer o gynrychiolaethau gan drigolion hefyd yn gwrthwynebu’r cynnig i symud ward Plasdy Tryleg i Gymuned Tryleg ar sail ei gysylltiadau hanesyddol ag Abaty Tyndyrn.

Cynigion ar gyfer ffiniau cymunedol 831. Argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso dau newid i’r ffin gymunedol bresennol, yn cynnwys cynigion i drosglwyddo’r ardaloedd rhwng Cymuned Tryleg Unedig a’r gymuned ganlynol: • Tyndyrn (cynigir ei henwi yn Dyffryn Gwy)

832. Gweler paragraff 801 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ward o Gymuned Tryleg Unedig (ward Llandogo) i Gymuned arfaethedig Dyffryn Gwy. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 141.

833. Gweler paragraff 802 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ward o Gymuned Tyndyrn (ward Plasdy Tryleg) i Gymuned Tryleg Unedig. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 142.

834. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 149 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – Trellech United (overview)

Tudalen 150 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Cynigion ar gyfer ffiniau wardiau cymunedol 835. Ochr yn ochr â’r newidiadau sy’n cael eu cynnig i’r ffin gymunedol a amlinellwyd yn yr adran flaenorol, argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw cymhwyso un newid i ffiniau wardiau mewnol presennol Cymuned Tryleg Unedig. Mae’r cynnig hwn yn cynnwys newidiadau i ffiniau’r wardiau canlynol: • Llanisien • Tref Tryleg

Llanisien 836. Cynigiodd y Cyngor drosglwyddo’r ardal i’r gogledd o Pen-allt Brook o ward Llanisien i ward Tref Tryleg. Mae hyn yn canolbwyntio ar ardal Farhill, ac mae’n effeithio ar 62 o etholwyr. 837. Mae map yn dangos ward arfaethedig Llanisien yng Nghymuned Tryleg Unedig i’w weld ar dudalen 152.

Tref Tryleg 838. Gweler paragraff 836 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o ward Llanisien i ward Tref Tryleg. 839. Mae map yn dangos ward arfaethedig Tref Tryleg yng Nghymuned Tryleg Unedig i’w weld ar dudalen 154.

840. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 151 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – (overview) Llanisien ward

Tudalen 152 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Insert proposal map – 35.11 Pen-allt Brook

Tudalen 153 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – (overview) Trellech Town ward

Tudalen 154 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

NEWIDIADAU ÔL-DDILYNOL

Trefniadau etholiadol Cynghorau Cymuned

841. Mae’r trefniadau etholiadol cymunedol a argymhellir yn dilyn y newidiadau i’r gymuned a’r wardiau cymunedol yn Nhryleg Unedig yn cynnwys saith ward: Catbrook, Llanisien, Pen-allt, Narth, Plasdy Tryleg, Tref Tryleg ac Abergwenffrwd. Cynigir bod gan y gymuned gyfanswm o 1,830 o etholwyr a’i bod yn cael ei chynrychioli gan 13 o gynghorwyr cymuned.

842. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i’r trefniadau etholiadol cymunedol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Gellir gweld trefniadau etholiadol argymelledig y Cyngor ar gyfer y cyngor cymuned isod:

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned Tryleg Unedig Presennol Gynigiwyd gan Cyngor Sir Fynwy Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Wardiau Cymuned Cymuned Cynghorydd Cynghorydd Catbrook 319 2 160 -6% 319 2 160 13% Llandogo 441 2 221 30% - - - - Llanisien 274 2 137 -19% 212 1 212 51% Pen-allt 414 2 207 22% 414 3 138 -2% Narth 342 2 171 1% 342 2 171 21% Tref Tryleg 327 2 164 -3% 389 3 130 -8% Abergwenffrwd 82 1 82 -52% 82 1 82 -42% Plasdy Tryleg - - - - 72 1 72 -49% 2199 13 169 1830 13 141

843. Ystyriodd y Comisiwn y trefniadau etholiadol cyngor cymuned a gynigiwyd gan y Cyngor a chynigiodd y diwygiadau canlynol i gynnig y Cyngor:

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned Tryleg Unedig Presennol Gynigiwyd gan CFFDL Etholwyr Etholwyr Cynghorwyr Cynghorwyr Wardiau Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr fesul Amrywiant Cymuned Cymuned Cynghorydd Cynghorydd Catbrook 319 2 160 -6% 319 2 160 22% Llandogo 441 2 221 30% - - - - Llanisien 274 2 137 -19% 212 2 106 -19% Pen-allt 414 2 207 22% 414 3 138 6% Narth 342 2 171 1% 342 2 171 31% Tref Tryleg 327 2 164 -3% 389 3 130 -1% Abergwenffrwd 82 1 82 -52% 82 1 82 -37% Plasdy Tryleg - - - - 72 1 72 -45% 2199 13 169 1830 14 131

844. Mae’r cynnig hwn yn lleihau’r amrediad mewn cynrychiolaeth etholiadol o fewn y dref ac, er ei fod yn dargyfeirio mwy o nod y cyngor i gael cymhareb ddelfrydol o 150 o etholwyr fesul

Tudalen 155 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

cynghorydd yn yr ardal hon, mae’n darparu mwy o gydraddoldeb cynrychiolaeth ar gyfer wardiau arfaethedig.

845. Mae’r Comisiwn yn fodlon fod newidiadau arfaethedig y Comisiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Trefniadau wardiau etholiadol

846. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Nid yw’r Cyngor wedi ystyried newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol yn ei gynigion terfynol.

847. O ganlyniad i’r newidiadau argymelledig i’r ffiniau cymunedol, mae’r Comisiwn yn argymell hefyd fod yr un newidiadau’n cael eu cymhwyso i’r wardiau etholiadol presennol a restrir isod (gweler Atodiad 4 ac Atodiad 5 i gael mwy o fanylion): • St Arvans • Tryleg Unedig

848. Nid yw’r newidiadau arfaethedig i’r trefniadau wardio mewnol yng Nghymuned Tryleg Unedig yn cael unrhyw effaith ôl-ddilynol ar drefniadau wardiau etholiadol.

Tudalen 156 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

TUDALEN WAG

Tudalen 157 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

YNYSGYNWRAIDD (ARFAETHEDIG)

849. Mae’r Cyngor wedi cynnig creu Cymuned newydd o’r enw Ynysgynwraidd. 850. Argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw ailstrwythuro ffiniau cymunedol a threfniadau wardio mewnol Cymunedau presennol Llangatwg Feibion Afel a Llandeilo Gresynni i greu dwy gymuned newydd yn yr ardal.

851. O ganlyniad i’r cynigion hyn, nifer yr etholwyr yng Nghymuned arfaethedig Ynysgynwraidd fydd 520.

Cynrychiolaethau 852. Derbyniodd y Cyngor nifer o gynrychiolaethau mewn perthynas â Chymunedau Llangatwg Feibion Afel a Llandeilo Gresynni ac maent wedi’u crynhoi a’u cynnwys yn ei adroddiad cynigion terfynol. Mae’r crynodeb hwn wedi’i gynnwys isod.

Cynrychiolaethau Cychwynnol 853. Cyflwynodd Cyngor Cymuned Llandeilo Gresynni gynrychiolaeth yn gofyn am gadw’r status quo gan nad oes unrhyw faterion na phroblemau i adrodd amdanynt o fewn y gymuned. Mae’r Cyngor o’r farn fod y ffiniau traddodiadol a’r sefyllfa hanesyddol yn yr ardal yn gweithio’n dda ac y byddai unrhyw newidiadau yn annhebygol o ddod ag unrhyw fuddion go iawn i’r gymuned.

854. Cyflwynodd Cyngor Cymuned Llangatwg Feibion Afel gynrychiolaeth fanwl ar gyfer ardal y gymuned y mae’n ei chwmpasu. Nododd y Cyngor Cymuned mai cymuned Llangatwg Feibion Afel yw’r ail ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac mae gofyn i drigolyn o deithio 18 milltir yn ôl ac ymlaen i gael torth o fara. Tynnodd y Cyngor sylw at y ffaith fod yr holl wybodaeth am gynghorwyr cymuned ar gael ar y chwe hysbysfwrdd lleol yn y gymuned, a bod rhaid i’r Cyngor Cymuned fod yn eithriadol o ofalus gyda chyllid a godir drwy’r praesept gan mai dim ond 400 o breswylfeydd sydd yn y gymuned. Cyflwynodd y Cyngor sylwadau i gyfiawnhau’r gofyniad i gael deg cynghorydd yn y gymuned.

Cynrychiolaethau Drafft 855. Nodwyd y canlynol gan Gyngor Cymuned Llandeilo Gresynni; dymuniad i’r trefniadau presennol aros; mae gan gymuned arfaethedig Ynysgynwraidd nifer lai o etholwyr na’r trefniadau presennol; maent yn dymuno cadw cysylltiadau ag eglwysi yn hytrach nag olion cestyll, ac, maent yn derbyn mân newidiadau i’r ffin allanol.

856. Nododd Cyngor Cymuned Llangatwg Feibion Afel y canlynol: Dymuniad i’r trefniadau presennol aros; pryderon ynglŷn â wardiau un aelod; cwestiynu diben yr arolwg a’r angen amdano; mae’n rhoi senarios a chamau gweithredu a gymerwyd gan y Cyngor Cymuned, yn ogystal â chyfiawnhad dros gadw niferoedd y Cynghorwyr.

857. Cyflwynwyd gwrthgynigion ar gyfer rhai o’r wardiau hefyd gan y Cynghorydd Desmond Pugh, mewn perthynas â wardiau Ynysgynwraidd, Rockfield, St Maughans a Llangatwg Feibion Afel.

Tudalen 158 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Cynigion ar gyfer ffiniau cymunedol 858. Mae Cyngor Sir Fynwy yn argymell bod Cymuned arfaethedig Ynysgynwraidd yn cael ei ffurfio o’r cymunedau canlynol:

• Crucornau • Grysmwnt • Llangatwg Feibion Afel • Llandeilo Gresynni

859. Gweler paragraff 294 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ward o Gymuned Grysmwnt (ward Llanwytherin) i Gymuned arfaethedig Ynysgynwraidd. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 165 Cyfrol 1.

860. Ochr yn ochr â’r newid i’r ffin gymunedol allanol a nodwyd ym mharagraff 294 (gweler Cyfrol 1), gweler paragraff 214 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Crucornau (ward Llanfihangel Crucornau) i Gymuned arfaethedig Ynysgynwraidd (ward arfaethedig Llanwytherin). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 128 Cyfrol 1.

861. Mae’r Cyngor yn cynnig trosglwyddo’r ardal a’r eiddo ar hyd, ac i’r gogledd o’r B4521 Old Ross Road, o Gymuned Llandeilo Gresynni (ward Llandeilo Gresynni) i Gymuned arfaethedig Ynysgynwraidd (ward arfaethedig Cross Ash). Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar 106 o etholwyr. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 161.

862. Mae’r Cyngor yn cynnig trosglwyddo ardal fawr, sy’n ffurfio’r mwyafrif o ward bresennol Ynysgynwraidd yng Nghymuned Llangatwg Feibion Afel, i Gymuned arfaethedig Ynysgynwraidd (wardiau arfaethedig Cross Ash ac Ynysgynwraidd). Mae hyn yn hepgor tri darn o dir ar hyd ymyl deheuol ward bresennol Ynysgynwraidd o’r trosglwyddiad. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 162.

863. Mae’r Cyngor yn cynnig bod ardal Lettrevane Farm yn cael ei throsglwyddo o Gymuned bresennol Llangatwg Feibion Afel (ward Llangatwg Feibion Afel) i Gymuned arfaethedig Ynysgynwraidd (ward arfaethedig Cross Ash). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 163.

864. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 159 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – proposed (overview)

Tudalen 160 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Insert proposal map – 17.8 Old Ross Road (cross ash)

Tudalen 161 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map –*new map* remainder of existing skenfrith ward

Tudalen 162 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Insert proposal map – 17.5b Lettrevane Farm

Tudalen 163 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Cynigion ar gyfer ffiniau wardiau cymunedol 865. Ar y cyd ag ardaloedd cymunedol yn cael eu cyfuno i ffurfio Cymuned arfaethedig Ynysgynwraidd, a amlinellwyd yn yr adran flaenorol, argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw ffurfio tair ward o fewn y Gymuned. Mae’r cynigion hyn yn cynnwys ffurfio’r wardiau canlynol: • Cross Ash (arfaethedig) • Llanwytherin (arfaethedig) • Ynysgynwraidd (arfaethedig)

Cross Ash (arfaethedig) 866. Ochr yn ochr â’r newidiadau i ffiniau cymunedol allanol a amlinellwyd ym mharagraffau 861, 862 ac 863 uchod, cynigiodd y Cyngor bod yr ardal i’r gorllewin o Blackbrook Wood a Cherry Tree Wood, gan gynnwys Cherry Tree Farm (yn y de) a Nant-Yr-Ych Farm (yn y gogledd) yn ffurfio rhan o ward arfaethedig Cross Ash. Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar 161 o etholwyr. 867. Mae map yn dangos ward arfaethedig Cross Ash yng Nghymuned arfaethedig Ynysgynwraidd i’w gweld ar dudalen 165.

Llanwytherin (arfaethedig) 868. Gweler paragraffau 214 a 294 (y ddau yng Nghyfrol 1) uchod, i gael manylion y newidiadau i’r ffin gymunedol allanol sy’n ffurfio ward arfaethedig Llanwytherin yn y Gymuned. 869. Mae map yn dangos ward arfaethedig Llanwytherin yng Nghymuned arfaethedig Ynysgynwraidd i’w weld ar dudalen 167.

Ynysgynwraidd (arfaethedig) 870. Ochr yn ochr â’r newid i’r ffin gymunedol allanol a amlinellwyd ym mharagraff 862 uchod, cynigiodd y Cyngor bod yr ardal i’r dwyrain o ward arfaethedig Cross Ash yn ffurfio ward arfaethedig Ynysgynwraidd. 871. Mae map yn dangos ward arfaethedig Ynysgynwraidd yng Nghymuned arfaethedig Ynysgynwraidd i’w weld ar dudalen 168.

872. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 164 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Insert proposal map – (overview) proposed Cross Ash ward

Tudalen 165 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – 17.16 Cross Ash

Tudalen 166 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Insert proposal map – (overview) proposed ward

Tudalen 167 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – (overview) proposed Skenfrith ward

Tudalen 168 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

NEWIDIADAU ÔL-DDILYNOL

Trefniadau etholiadol Cynghorau Cymuned

873. Mae’r trefniadau etholiadol cymunedol a argymhellir yn dilyn creu Cymuned arfaethedig Ynysgynwraidd yn cynnwys tair ward: Cross Ash, Llanwytherin ac Ynysgynwraidd. Cynigir bod gan y gymuned gyfanswm o 520 o etholwyr a’i bod yn cael ei chynrychioli gan saith o gynghorwyr cymuned.

874. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i’r trefniadau etholiadol cymunedol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Gellir gweld trefniadau etholiadol argymelledig y Cyngor ar gyfer y cyngor cymuned isod:

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned Arfaethedig Ynysgynwraidd Arfaethedig

Cynghorwyr Etholwyr fesul Wardiau Etholwyr Amrywiant Cymuned Cynghorydd

Cross Ash 267 3 89 20% Llanwytherin 121 2 61 -19% Ynysgynwraidd 132 2 66 -11% 520 7 74

875. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Trefniadau wardiau etholiadol

876. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Nid yw’r Cyngor wedi ystyried newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol yn ei gynigion terfynol.

877. Mae’r Comisiwn yn argymell bod Cymuned arfaethedig Ynysgynwraidd yn ffurfio rhan o ward etholiadol bresennol Llandeilo Gresynni.

878. O ganlyniad i’r newidiadau argymelledig i’r ffiniau cymunedol, mae’r Comisiwn yn argymell hefyd fod yr un newidiadau’n cael eu cymhwyso i’r wardiau etholiadol presennol a restrir isod (gweler Atodiad 4 ac Atodiad 5 i gael mwy o fanylion): • Crucornau • Llandeilo Gresynni

879. Nid yw’r newidiadau arfaethedig i’r trefniadau wardio mewnol yng Nghymuned arfaethedig Ynysgynwraidd yn cael unrhyw effaith ar drefniadau wardiau etholiadol.

Tudalen 169 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

CASTELL-GWYN (ARFAETHEDIG)

880. Mae’r Cyngor wedi cynnig creu Cymuned newydd o’r enw Castell-gwyn. 881. Argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw ailstrwythuro’r ffiniau cymunedol a threfniadau wardio mewnol Cymunedau presennol Llangatwg Feibion Afel a Llandeilo Gresynni i greu dwy gymuned newydd yn yr ardal.

882. O ganlyniad i’r cynigion hyn, nifer yr etholwyr yng Nghymuned arfaethedig Castell-gwyn fydd 1,051.

Cynrychiolaethau 883. Derbyniodd y Cyngor nifer o gynrychiolaethau mewn perthynas â Chymunedau Llangatwg Feibion Afel a Llandeilo Gresynni ac maent wedi’u crynhoi a’u cynnwys yn ei adroddiad cynigion terfynol. Mae’r crynodeb hwn wedi’i gynnwys isod.

Cynrychiolaethau Cychwynnol 884. Cyflwynodd Cyngor Cymuned Llandeilo Gresynni gynrychiolaeth yn gofyn am gadw’r status quo gan nad oes unrhyw faterion na phroblemau i adrodd amdanynt o fewn y gymuned. Mae’r Cyngor o’r farn fod y ffiniau traddodiadol a’r sefyllfa hanesyddol yn yr ardal yn gweithio’n dda ac y byddai unrhyw newidiadau yn annhebygol o ddod ag unrhyw fuddion go iawn i’r gymuned.

885. Cyflwynodd Cyngor Cymuned Llangatwg Feibion Afel gynrychiolaeth fanwl ar gyfer ardal y gymuned y mae’n ei chwmpasu. Nododd y Cyngor Cymuned mai cymuned Llangatwg Feibion Afel yw’r ail ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac mae gofyn i drigolyn o Cross Ash deithio 18 milltir yn ôl ac ymlaen i gael torth o fara. Tynnodd y Cyngor sylw at y ffaith fod yr holl wybodaeth am gynghorwyr cymuned ar gael ar y chwe hysbysfwrdd lleol yn y gymuned, a bod rhaid i’r Cyngor Cymuned fod yn eithriadol o ofalus gyda chyllid a godir drwy’r praesept gan mai dim ond 400 o breswylfeydd sydd yn y gymuned. Cyflwynodd y Cyngor sylwadau i gyfiawnhau’r gofyniad i gael deg cynghorydd yn y gymuned.

Cynrychiolaethau Drafft 886. Nodwyd y canlynol gan Gyngor Cymuned Llandeilo Gresynni; dymuniad i’r trefniadau presennol aros; mae gan gymuned arfaethedig Ynysgynwraidd nifer lai o etholwyr na’r trefniadau presennol; maent yn dymuno cadw cysylltiadau ag eglwysi yn hytrach nag olion cestyll, ac, maent yn derbyn mân newidiadau i’r ffin allanol.

887. Nododd Cyngor Cymuned Llangatwg Feibion Afel y canlynol: Dymuniad i’r trefniadau presennol aros; pryderon ynglŷn â wardiau un aelod; cwestiynu diben yr arolwg a’r angen amdano; mae’n rhoi senarios a chamau gweithredu a gymerwyd gan y cyngor cymuned, yn ogystal â chyfiawnhad dros gadw niferoedd y Cynghorwyr.

888. Cyflwynwyd gwrthgynigion ar gyfer rhai o’r wardiau hefyd gan y Cynghorydd Desmond Pugh, mewn perthynas â wardiau Ynysgynwraidd, Rockfield, St Maughans a Llangatwg Feibion Afel.

Tudalen 170 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Cynigion ar gyfer ffiniau cymunedol 889. Mae Cyngor Sir Fynwy yn argymell bod Cymuned arfaethedig Castell-gwyn yn cael ei ffurfio o’r cymunedau canlynol:

• Llan-arth • Llangatwg Feibion Afel • Llandeilo Gresynni • Llanfihangel Troddi • Trefynwy

890. Gweler paragraff 338 (Cyfrol 1) uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Llan-arth (ward Bryngwyn) i Gymuned arfaethedig Castell-gwyn (ward arfaethedig Pen-rhos). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 183 Cyfrol 1.

891. Gweler paragraff 621 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Gymuned Llanfihangel Troddi (ward Tre’r-gaer) i Gymuned arfaethedig Castell-gwyn (ward arfaethedig Llanfihangel Ystum Llewern). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 80.

892. Gweler paragraff 644 uchod, i gael manylion cynnig y Cyngor i drosglwyddo un ardal o Dref Trefynwy (ward Drybridge) i Gymuned arfaethedig Castell-gwyn (ward arfaethedig Rockfield a Llanfocha). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 85.

893. Yn dilyn y cynnig a amlinellwyd ym mharagraff 861 uchod, mae’r Cyngor yn cynnig bod gweddill Cymuned bresennol Llandeilo Gresynni yn cael ei throsglwyddo i Gymuned arfaethedig Castell-gwyn (wardiau arfaethedig Llanfihangel Ystum Llewern, Pen-rhos a Chastell Gwyn). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 174.

894. Mewn cysylltiad â’r cynnig a amlinellwyd ym mharagraff 862 uchod, mae’r Cyngor yn cynnig trosglwyddo tair llain o dir ar hyd ymyl ddeheuol ward bresennol Ynysgynwraidd) (Cymuned Llangatwg Feibion Afel) i Gymuned arfaethedig Castell-gwyn (ward arfaethedig Castellnewydd). Mae hyn yn cynnwys yr holl eiddo, a’r tir, sy’n gysylltiedig â’r ardaloedd ar hyd y B4347 rhwng pentrefi Crossway a Castellnewydd, ac mae’n cynnwys yr ardaloedd i’r de o Coed-anghred Hill. Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar ryw 20 eiddo. Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 175.

895. Yn dilyn y cynnig a amlinellwyd ym mharagraff 863 uchod, mae’r Cyngor yn cynnig bod gweddill ward bresennol Llangatwg Feibion Afel, yng Nghymuned Llangatwg Feibion Afel, yn cael ei throsglwyddo i Gymuned arfaethedig Castell-gwyn (wardiau arfaethedig Llangatwg Feibion Afel, Castellnewydd, a, Rockfield a Llanfocha). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 176.

896. Mae’r Cyngor yn cynnig bod ward bresennol Rockfield a Llanfocha yng Nghymuned Llangatwg Feibion Afel, yn cael ei throsglwyddo i Gymuned arfaethedig Castell-gwyn (wardiau arfaethedig Llangatwg Feibion Afel, Castellnewydd, a, Rockfield a Llanfocha). Dangosir y cynnig hwn ar y map ar dudalen 177.

Tudalen 171 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

897. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 172 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Insert proposal map – proposed Whitecastle community (overview)

Tudalen 173 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map –*new map* inverted 17.8

Tudalen 174 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Insert proposal map – 17.6 three areas of southern skenfrith

Tudalen 175 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – 17.5a remainder of Llangattock Vibon Avel ward

Tudalen 176 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Insert proposal map – 17.4 existing Rockfield and St Maughans ward

Tudalen 177 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Cynigion ar gyfer ffiniau wardiau cymunedol 898. Ar y cyd â’r ardaloedd cymunedol sy’n cael eu cyfuno i ffurfio Cymuned arfaethedig Castell- gwyn, a amlinellwyd yn yr adran flaenorol, argymhelliad Cyngor Sir Fynwy yw ffurfio chwe ward yn y Gymuned. Mae’r cynigion hyn yn golygu ffurfio’r wardiau canlynol: • Llangatwg Feibion Afel (arfaethedig) • Llanfihangel Ystum Llewern (arfaethedig) • Castellnewydd (arfaethedig) • Pen-rhos (arfaethedig) • Rockfield a Llanfocha (arfaethedig) • Castell-gwyn (arfaethedig)

Llangatwg Feibion Afel (arfaethedig) 899. Ochr yn ochr â’r newid i’r ffin gymunedol allanol a amlinellwyd ym mharagraff 895 uchod, cynigiodd y Cyngor fod ardal Llangatwg Feibion Afel, rhwng pentref Castellnewydd (gogledd) a’r Hendre (de), yn ffurfio rhan o ward arfaethedig Llangatwg Feibion Afel. 900. Yn ychwanegol at y cynnig a amlinellwyd ym mharagraff 899 uchod, mae’r Cyngor yn cynnig bod ardal fach o dir, i’r gorllewin o Llangattock Great Wood, sy’n cynnwys ardal Round Wood, yn ffurfio rhan o ward arfaethedig Llangatwg Feibion Afel hefyd.

901. Mae map yn dangos ward arfaethedig Llangatwg Feibion Afel yng Nghymuned arfaethedig Castell-gwyn i’w weld ar dudalen 180. Llanfihangel Ystum Llewern (arfaethedig) 902. Ochr yn ochr â’r newidiadau i’r ffiniau cymunedol allanol a amlinellwyd ym mharagraffau 621 ac 893 uchod, cynigiodd y Cyngor fod ward bresennol Llanfihangel Ystum Llewern yng Nghymuned Llandeilo Gresynni, yn ffurfio ward arfaethedig Llanfihangel Ystum Llewern yng Nghymuned arfaethedig Castell-gwyn. 903. Mae map yn dangos ward arfaethedig Llanfihangel Ystum Llewern yng Nghymuned arfaethedig Castell-gwyn i’w weld ar dudalen 181. Castellnewydd (arfaethedig) 904. Ochr yn ochr â’r newidiadau i’r ffiniau cymunedol allanol a amlinellwyd ym mharagraffau 894, 895 ac 896 uchod, mae’r Cyngor yn cynnig ymgorffori ardal ward bresennol Llangatwg Feibion Afel (Cymuned bresennol Llangatwg Feibion Afel) i’r gogledd o Nant Wood, Pen-y-lan Farm a’r eiddo a elwir yn Kelda, yn ward arfaethedig Castellnewydd yn y Gymuned. Mae hyn yn cynnwys ardal y ward gymunedol gyfan i’r gogledd o’r ardaloedd hyn, ond nid yw’n cynnwys tir sy’n gysylltiedig â Carter’s Farm a Coxstone (i’r dwyrain o’r B4347). 905. Hefyd, cynigiodd y Cyngor gynnwys ardal ward bresennol Rockfield a Llanfocha (Cymuned bresennol Llangatwg Feibion Afel) i’r gogledd o’r nant sy’n rhedeg yn gyfochrog â de Clappers Wood a Colebrook Wood, yn ward arfaethedig Castellnewydd. Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar ryw ddau eiddo.

906. Mae map yn dangos ward arfaethedig Castellnewydd yng Nghymuned arfaethedig Castell- gwyn i’w weld ar dudalen 182.

Tudalen 178 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Pen-rhos (arfaethedig) 907. Ochr yn ochr â’r newidiadau i’r ffiniau cymunedol allanol a amlinellwyd ym mharagraffau 338 (gweler Cyfrol 1) ac 893 uchod, cynigiodd y Cyngor fod ward bresennol Pen-rhos yng nghymuned Llandeilo Gresynni, yn ffurfio ward arfaethedig Pen-rhos yng Nghymuned arfaethedig Castell-gwyn. 908. Mae map yn dangos ward arfaethedig Pen-rhos yng Nghymuned arfaethedig Castell-gwyn i’w weld ar dudalen 184. Rockfield a Llanfocha (arfaethedig) 909. Ochr yn ochr â’r newidiadau i’r ffiniau cymunedol allanol a amlinellwyd ym mharagraffau 644, 895 ac 896 uchod, cynigiodd y Cyngor drosglwyddo’r ardal i’r de o’r, ac yn cynnwys, yr eiddo ar hyd ffordd y B4233 a’r ffordd yn arwain i’r gogledd o Hendre, yn ward bresennol Llangatwg Feibion Afel (Cymuned Llangatwg Feibion Afel) i ward arfaethedig Rockfield a Llanfocha yng Nghymuned arfaethedig Castell-gwyn. Mae hyn yn cynnwys ardal y ward gymunedol gyfan i’r de o’r nodweddion hyn. 910. Mae’r Cyngor yn cynnig trosglwyddo’r ardal sy’n gysylltiedig â Carter’s Farm a Coxstone (i’r dwyrain o’r B4347) o ward bresennol Llangatwg Feibion Afel (Cymuned Llangatwg Feibion Afel) i ward arfaethedig Rockfield a Llanfocha yng Nghymuned arfaethedig Castell-gwyn. Mae hyn yn cael gwared ar yr anomaledd a oedd yn rhannu’u tir ar draws dwy ward gymunedol.

911. Yn dilyn y cynigion wardio mewnol a amlinellwyd ym mharagraffau 900 a 905, mae’r Cyngor yn cynnig bod gweddill ward bresennol Rockfield a Llanfocha yng Nghymuned Llangatwg Feibion Afel, yn ffurfio ward arfaethedig Rockfield a Llanfocha yng Nghymuned arfaethedig Castell-gwyn.

912. Mae map yn dangos ward arfaethedig Rockfield a Llanfocha yng Nghymuned arfaethedig Castell-gwyn i’w weld ar dudalen 185. Castell-gwyn (arfaethedig) 913. Ochr yn ochr â’r newid i’r ffin gymunedol allanol a amlinellwyd ym mharagraff 893 uchod, mae’r Cyngor yn cynnig bod gweddill ward bresennol Castell-gwyn yng Nghymuned Llandeilo Gresynni, yn ffurfio ward arfaethedig Castell-gwyn yng Nghymuned arfaethedig Castell-gwyn.

914. Mae map yn dangos ward arfaethedig Castell-gwyn yng Nghymuned arfaethedig Castell-gwyn i’w weld ar dudalen 188.

915. Ni dderbyniodd y Comisiwn unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion terfynol ac mae’n fodlon fod y newidiadau arfaethedig yn ddymunol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Tudalen 179 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – (overview) proposed Llangattock Vibon Avel ward

Tudalen 180 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Tudalen 181 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – (overview) proposed Castellnewydd ward

Tudalen 182 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Insert proposal map – 22.21 Clappers Wood and Colebrook Wood

Tudalen 183 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – (overview) proposed Pen-rhos ward

Tudalen 184 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Insert proposal map – (overview) proposed Rockfield and St Maughans ward

Tudalen 185 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – 22.19 *new map* The Hendre

Tudalen 186 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Tudalen 187 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Insert proposal map – (overview) proposed Whitecastle ward

Tudalen 188 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

NEWIDIADAU ÔL-DDILYNOL

Trefniadau etholiadol Cynghorau Cymuned

916. Mae’r trefniadau etholiadol cymunedol a argymhellir yn dilyn creu Cymuned arfaethedig Castell-gwyn yn cynnwys chwe ward: Llangatwg Feibion Afel, Llanfihangel Ystum Llewern, Castellnewydd, Pen-rhos, Rockfield a Llanfocha, a, Castell-gwyn. Cynigir bod gan y gymuned gyfanswm o 1,051 o etholwyr a’i bod yn cael ei chynrychioli gan ddeg o gynghorwyr cymuned.

917. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i’r trefniadau etholiadol cymunedol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Gellir gweld trefniadau etholiadol argymelledig y Cyngor ar gyfer y cyngor cymuned isod:

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned Arfaethedig Castell-gwyn Gynigiwyd gan Cyngor Sir Fynwy

Cynghorwyr Etholwyr fesul Wardiau Etholwyr Amrywiant Cymuned Cynghorydd

Llangatwg 79 1 79 -25% Feibion Afel Llanfihangel 77 1 77 -27% Ystum Llewern Castellnewydd 151 2 76 -28% Pen-rhos 145 2 73 -31% Rockfield a 343 2 172 63% Llanfocha Castell-gwyn 256 2 128 22%

1051 10 105

918. Ystyriodd y Comisiwn y trefniadau etholiadol cyngor cymuned a gynigiwyd gan y Cyngor a chynigiodd y diwygiadau canlynol i gynnig y Cyngor:

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned Arfaethedig Castell-gwyn Gynigiwyd gan CFFDL

Cynghorwyr Etholwyr fesul Wardiau Etholwyr Amrywiant Cymuned Cynghorydd

Llangatwg 79 1 79 -17% Feibion Afel Llanfihangel 77 1 77 -19% Ystum Llewern Castellnewydd 151 2 76 -21% Pen-rhos 145 2 73 -24% Rockfield a 343 3 114 20% Llanfocha Castell-gwyn 256 2 128 34%

1051 11 96

Tudalen 189 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

919. Mae’r cynnig hwn yn lleihau’r amrediad mewn cynrychiolaeth etholiadol o fewn y gymuned ac er ei fod yn dargyfeirio mwy o’r gymhareb ddelfrydol o 150 a gynigiwyd gan y Cyngor (150 o etholwyr fesul aelod mewn ardaloedd gwledig), mae’r cynnig hwn yn darparu mwy o gydraddoldeb a chynrychiolaeth o fewn y gymuned.

920. Mae’r Comisiwn yn fodlon fod newidiadau arfaethedig y Comisiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’u hargymhellir.

Trefniadau wardiau etholiadol

921. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol a fyddai’n digwydd ar ôl cytuno’r cynigion hyn. Nid yw’r Cyngor wedi ystyried newidiadau ôl-ddilynol i wardiau etholiadol yn ei gynigion terfynol.

922. Mae’r Comisiwn yn argymell bod Cymuned arfaethedig Castell-gwyn yn ffurfio rhan o ward etholiadol bresennol Llandeilo Gresynni.

923. O ganlyniad i’r newidiadau argymelledig i’r ffiniau cymunedol, mae’r Comisiwn yn argymell hefyd fod yr un newidiadau’n cael eu cymhwyso i’r wardiau etholiadol presennol a restrir isod (gweler Atodiad 4 ac Atodiad 5 i gael mwy o fanylion): • Drybridge • Llanofer (cynigir ei henwi yn Gobion Fawr) • Llandeilo Gresynni • Llanfihangel Troddi

924. Nid yw’r newidiadau arfaethedig i’r trefniadau wardio mewnol yng Nghymuned arfaethedig Castell-gwyn yn cael unrhyw effaith ôl-ddilynol ar drefniadau wardiau etholiadol.

Tudalen 190 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

TUDALEN WAG

Tudalen 191 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pennod 6. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN 925. Mae’r Comisiwn bellach wedi cwblhau’r Arolwg o Drefniadau Cymunedol yn Sir Fynwy, ac wedi cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mae’r Comisiwn wedi cwblhau ei rwymedigaethau a’i ddyletswyddau statudol o dan y Ddeddf. 926. Gwaith Gweinidogion Cymru yn awr, os gwelant yn dda, yw gweithredu argymhellion y Comisiwn gydag addasiadau neu heb addasiadau. 927. Dylid cyfeirio unrhyw gynrychiolaethau yn ymwneud â materion yn yr adroddiad hwn at Lywodraeth Cymru. Dylid cyflwyno’r rhain cyn gynted ag y bo modd, a beth bynnag ddim hwyrach na chwe wythnos o’r dyddiad y cyflwynir ein hargymhellion i Lywodraeth Cymru. Dylid anfon cynrychiolaethau at:

Tîm Democratiaeth Llywodraeth Cymru Yr Is-adran Democratiaeth, Amrywiaeth a Chydnabyddiaeth Ariannol Llywodraeth Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ

Neu e-bostiwch nhw i:

lgdtmailbox@gov.

Tudalen 192 ADRODDIAD A CHYNIGION TERFYNOL SIR FYNWY

Pennod 7. CYDNABYDDIAETHAU 928. Hoffai’r Comisiwn ddiolch i’r prif gyngor, yr holl gynghorau cymuned a’r cyrff a’r unigolion eraill â buddiant a wnaeth gynrychiolaethau am eu cymorth wrth i ni ddatblygu’r cynigion drafft hyn. Mae’r Comisiwn yn cymeradwyo’r cynigion drafft a gynhwysir yn yr adroddiad hwn.

OWEN WATKIN OBE DL (Cadeirydd)

CERI STRADLING (Dirprwy Gadeirydd)

DAVID POWELL (Aelod)

JULIE MAY (Aelod)

THEODORE JOLOZA (Aelod)

SHEREEN WILLIAMS (Prif Weithredwr)

Ionawr 2019

Tudalen 193 ATODIAD 1

ATODIAD 1 – RHESTR TERMAU

Amrywiant I ba raddau mae nifer yr etholwyr fe sul cynghorydd mewn ward yn amrywio o’r cyfartaledd sirol; wedi’i fynegi ar ffurf canran. etholiadol Arolwg cymunedol Arolwg lle mae’r Comisiwn yn ystyried y trefniadau cymunedol a wardiau cymunedol ar gyfer Prif Gyngor.

Arolwg etholiadol Arolwg lle mae’r Comisiwn yn ystyried y trefniadau etholiadol ar gyfer Prif Gyngor.

Comisiwn Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

Cymuned (ardal) Yr uned llywodraeth leol sydd islaw lefel y Prif Gyngor.

Cymuned Ranedig Cymuned sydd wedi’i rhannu rhwng dwy neu fwy o wardiau etholiadol.

Cyngor Cymuned Cyngor etholedig sy’n darparu gwasanaethau i’w ardal gymunedol benodol. At ddibenion etholiadol cymunedol, gellir rhannu Cyngor Cymuned yn wardiau cymunedol.

Cyngor Tref Mae Cyngor Cymuned sydd â statws tref yn cael ei adnabod fel Cyngor Tref. At ddibenion etholiadol cymunedol, gellir rhannu Cyngor Tref yn wardiau.

Etholaeth Nifer y bobl sydd wedi’u cofrestru i bleidleisio mewn ardal llywodraeth leol.

Gorchymyn Gorchymyn a wneir gan gorff gweithredu sy’n rhoi cynigion a wneir gan y Prif Gyngor neu’r Comisiwn ar waith.

Gorgynrychiolaeth Lle mae llai o etholwyr fesul cynghorydd mewn ward o gymharu â’r cyfartaledd sirol.

Parti â buddiant Unigolyn neu gorff sydd â buddiant yng nghanlyniad arolwg, fel cyngor cymuned, AS neu AC lleol neu blaid wleidyddol.

Prif ardal Yr ardal a lywodraethir gan Brif Gyngor: sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru.

Prif Gyngor Corff llywodraeth leol un haen sy’n gyfrifol am bob un, neu bron bob un, o’r swyddogaethau llywodraeth leol yn ei ardal. Cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol. ATODIAD 1

Tangynrychiolaeth Lle mae mwy o etholwyr fesul cynghorydd mewn ward o gymharu â’r cyfartaledd sirol.

Ward Cymuned / Ardal mewn Cyngor Cymunedol a grëwyd at ddibenion etholiadol Tref cymunedol.

Wardiau etholiadol Yr ardaloedd y caiff Prif Gynghorau eu rhannu iddynt at ddiben ethol cynghorwyr sir, y cyfeiriwyd atynt gynt fel adrannau etholiadol.

Y Ddeddf Deddf Llywodraeth Leol 1972 Cyngor Sir Fynwy TREFNIADAU CYMUNEDOL PRESENNOL ATODIAD 2

Nifer y Etholwyr fesul Cyfartaledd Etholwyr fesul Etholwyr o fewn Rhif Cymuned Ward Cynghorwyr ar Cynghorydd Amrywiant cymunedol cymuned ward gyfer ward (EfC) EfC Cantref 1695 3 565 6% Castell 1607 3 536 1% 1 Y Fenni 7990 Grofield 1413 3 471 -12% 533 Lansdown 1721 3 574 8% Y Priordy 1554 3 518 -3% Caer-went 599 4 150 -1% Crug 166 1 166 10% 2 Caer-went 1510 Dinham 262 1 262 74% 151 Llanfair Disgoed 252 2 126 -17% Saint-y-brid 231 2 116 -24% Castell Caldicot 1676 3 559 23% Llanddewi 1517 4 379 -16% 3 Caldicot 7704 Green Lane 1539 4 385 -15% 453 Hafren 1385 3 462 2% West End 1587 3 529 17% Larkfield 1581 3 527 -16% St Christophers 1892 3 631 0% 4 Cas-gwent 9430 St Kingsmark 2336 3 779 24% 629 St Mary's 1522 3 507 -19% Thornwell 2099 3 700 11% Bwlch Trewyn ac Oldcastle 51 1 51 -46% Fforest a Ffwddog 119 2 60 -38% 5 Crucornau 1048 Llanfihangel Crucornau 731 6 122 28% 95 Lower Cwm-iou 86 1 86 -10% Upper Cwm-iou 61 1 61 -36% Devauden 409 3 136 28% Llanddinol 196 2 98 -8% 6 Devauden 852 107 Cilgwrrwg 104 2 52 -51% Llanfihangel 143 1 143 34% Goetre 1309 9 145 -8% 7 Goetre Fawr 1889 157 Mamhilad 580 3 193 23% Grysmwnt 420 5 84 12% Llangatwg Lingoed 89 1 89 19% 8 Grysmwnt 673 75 43 1 43 -42% Llanwytherin 121 2 61 -19% Gwehelog a 265 4 66 21% 9 Gwehelog Fawr 384 Cemais comawndwr 34 1 34 -38% 55 Trostre 85 2 43 -23% Bryngwyn 209 3 70 2% Cleidda 220 3 73 7% 10 Llan-arth 684 68 Llan-arth 145 2 73 6% Llanfable 110 2 55 -20% Glasgoed 221 3 74 10% 11 Llanbadog 671 Llanbadog 205 4 51 -24% 67 Monkswood 245 3 82 22% Clydach 549 2 275 18% 12 Llanelli 3261 Darrenfelen 502 2 251 8% 233 Gilwern 2210 10 221 -5% Llanelen 411 2 206 -9% Llan-ffwyst 1026 3 342 51% 13 Llan-ffwyst Fawr 2716 226 Llanwenarth Citra 139 1 139 -39% Llanwenarth Tu Draw 1140 6 190 -16% Llangatwg Feibion Afel 296 3 99 16% Llangatwg 14 850 Llanoronwy a Llanfocha 240 3 80 -6% 85 Feibion Afel Ynysgynwaidd 314 4 79 -8% Llan-gwm 224 5 45 -12% 15 Llan-gwm 355 51 Llan-soe 131 2 66 29% Coed-Y-Paen 116 2 58 -29% 16 Llangybi 740 Llandegfedd 153 2 77 -7% 82 Llangybi 471 5 94 15% Llangattock Nigh Caerleon 96 2 48 -7% 17 Llanhenwg 413 Llanhenwg 162 3 54 5% 52 Tredynog 155 3 52 0% Llanddewi Rhydderch 321 3 107 14% Llanfair Cilgydyn 179 2 90 -5% 18 Llanofer 1128 94 Llangattock Dyffryn Wysg 387 4 97 3% Llanofer 241 3 80 -15% Llandeilo Gresynni 362 6 60 -6% Llandeilo 19 580 Llanfihangel Ystum Llewern 71 1 71 10% 64 Gresynni Pen-rhos 147 2 74 14% Cyngor Sir Fynwy TREFNIADAU CYMUNEDOL PRESENNOL ATODIAD 2

Nifer y Etholwyr fesul Cyfartaledd Etholwyr fesul Etholwyr o fewn Rhif Cymuned Ward Cynghorwyr ar Cynghorydd Amrywiant cymunedol cymuned ward gyfer ward (EfC) EfC

Dwyrain Croesonnen 556 2 278 17% Gorllewin Croesonnen 1131 5 226 -5% Llandeilo Maerdy 874 3 291 22% 20 3098 238 Bertholau Pantygelli 85 1 85 -64% Dwyrain Ysgyryd 180 1 180 -24% Gorllewin Ysgyryd 272 1 272 14% Llantrisaint Gwernesni 116 3 39 -18% 21 329 47 Fawr Llantrisant 213 4 53 13% Denny 143 1 143 -60% Magwyr gyda Mill 1331 4 333 -7% 22 4676 360 Gwyndy Salisbury 734 2 367 2% The Elms 2468 6 411 14% Matharn 471 5 94 -3% 23 Matharn 874 Mounton 77 1 77 -21% 97 Pwllmeurig 326 3 109 12% Cwmcarfan 162 2 81 -18% Llanddingad 234 2 117 18% Llanfihangel 24 993 Llanfihangel Troddi 341 3 114 14% 99 Troddi Tre'r-gaer 179 2 90 -10% Llanwarw 77 1 77 -22% Dixton gydag Osbaston 1902 4 476 -5% Drybridge 2051 3 684 37% 25 Trefynwy 7994 Overmonnow 1774 4 444 -11% 500 Y Dref 588 1 588 18% Wyesham 1679 4 420 -16% Leechpool 168 1 168 -5% 26 Porth Sgiwed 1765 Pentref Porth Sgiwed 1308 7 187 6% 176.5 Sudbrook 289 2 145 -18% 366 2 183 27% 27 Rhalgan 1585 Pen-y-clawdd 99 1 99 -31% 144 Rhaglan 1120 8 140 -3% 28 Rogiet 1349 n/a 1349 11 123 0% 90 Earlswood 143 2 72 -22% Drenewydd Mynydd-bach 217 2 109 19% 29 915 92 Gelli-farch Yr Eglwys Newydd 91 1 91 -1% Drenewydd Gelli-farch 464 5 93 1% 30 St Arvans 626 n/a 626 8 78 0% 78 Allt y Capel 200 3 67 -22% Penterry 55 1 55 -36% 31 Tyndyrn 687 86 Tyndyrn Parva 360 3 120 40% Plasdy Tryleg 72 1 72 -16% Catbrook 319 2 160 -6% Llandogo 441 2 221 30% Llanisien 274 2 137 -19% 32 Tryleg Unedig 2199 Pen-allt 414 2 207 22% 169 Narth 342 2 171 1% Tref Tryleg 327 2 164 -3% Abergwenffrwd 82 1 82 -52% 33 Brynbuga 1957 n/a 1957 12 163 0% 163 71925 71925 356 202

Derbyniwyd y ffigyrau etholiadol gan Gyngor Sir Fynwy Cyngor Sir Fynwy TREFNIADAU CYMUNEDOL ARFAETHEDIG ATODIAD 3

Nifer y Etholwyr fesul Cyfartaledd Etholwyr fesul Etholwyr o fewn Rhif Cymuned Ward Cynghorwyr ar Cynghorydd Amrywiant cymunedol cymuned ward gyfer ward (EfC) EfC Cantref 1578 3 526 7% Grofield 1861 4 465 -6% Lansdown 1747 3 582 18% 1 Y Fenni 8385 493 Llanwenarth Citra 139 1 139 -72% Y Parc 1528 3 509 3% Pen-y-fâl 1532 3 511 4% Caer-went 617 3 206 -8% Crug 192 1 192 -14% 2 Caer-went 1569 Dinham 270 1 270 20% 224 Llanfair Disgoed 211 1 211 -6% Saint-y-brid 279 1 279 24% Castell Caldicot 1236 3 412 -14% Caldicot Cross 1639 3 546 13% Llanddewi 1545 3 515 7% 3 Caldicot 7704 482 Hafren 742 2 371 -23% The Village 1082 2 541 12% West End 1460 3 487 1% Bulwark 1902 4 476 -4% Castell Cas-gwent 1306 3 435 -13% Larkfield 1095 2 548 10% 4 Cas-gwent 9460 Maple Avenue 609 1 609 22% 498 Mount Pleasant 1571 3 524 5% St Kingsmark 1541 3 514 3% Thornwell 1436 3 479 -4% Bwlch Trewyn ac Oldcastle 51 1 51 -66% Cwm-iou 147 1 147 -1% 5 Crucornau 1042 Fforest a Ffwddog 119 1 119 -20% 149 Llanfihangel Crucornau 363 2 182 22% Pandy 362 2 181 22% Devauden 445 3 148 16% Cilgwrrwg 104 1 104 -19% 6 Devauden 896 128 Llanddinol 240 2 120 -6% Llanfihangel Tor-y-Mynydd 107 1 107 -16% Llanddewi Rhydderch 331 2 166 16% Llanfair Cilgedin 176 1 176 24% 7 Gobion Fawr 997 142 Llangatwg Dyffryn Wysg 380 3 127 -11% Llanfable 110 1 110 -23% Goetre Wharf 331 2 166 -23% 994 4 249 16% 8 Goetre Fawr 1713 214 Llanofer 241 1 241 13% Nant-y-Deri 147 1 147 -31% Grysmwnt 463 6 77 -2% 9 Grysmwnt 552 79 Llangatwg Lingoed 89 1 89 13% Bryngwyn 206 2 103 14% Cleidda 123 1 123 36% 10 Llan-arth 722 90 Cemais Comawndwr a Llancaeo 161 2 81 -11% Llan-arth 232 3 77 -14% Glasgoed 221 2 111 -8% Little Mill 414 3 138 14% 11 Llanbadog 1085 121 Llanbadog 205 2 103 -15% Monkswood 245 2 123 2% Clydach 452 2 226 -10% 12 Llanelli 3261 Darrenfelen 502 2 251 0% 251 Gilwern 2307 9 256 2% Gofilon 1140 6 190 -4% 13 Llan-ffwyst Fawr 2584 Llanelen 418 2 209 5% 199 Llan-ffwyst 1026 5 205 3% Coed-Y-Paen 116 1 116 -20% Llandegfedd 153 1 153 6% Llangattock Nigh Caerleon 96 1 96 -33% 14 Llangybi 1153 144 Llangybi 471 3 157 9% Llanhenwg 162 1 162 12% Tredynog 155 1 155 8% Croesonnen 1614 6 269 15% Llandeilo Maerdy 779 3 260 11% 15 2806 234 Bertholau Pantygelli 85 1 85 -64% Ysgyryd 328 2 164 -30% Gwernesni 116 1 116 36% Llantrisaint Llan-gwm 224 3 75 -13% 16 684 86 Fawr Llan-soe 131 1 131 53% Llantrisant 213 3 71 -17% Cyngor Sir Fynwy TREFNIADAU CYMUNEDOL ARFAETHEDIG ATODIAD 3

Nifer y Etholwyr fesul Cyfartaledd Etholwyr fesul Etholwyr o fewn Rhif Cymuned Ward Cynghorwyr ar Cynghorydd Amrywiant cymunedol cymuned ward gyfer ward (EfC) EfC

Dwyrain Magwyr 1802 4 451 -2% Magwyr gyda 17 4598 Gorllewin Magwyr 1526 3 509 11% 460 Gwndy Gwndy 1270 3 423 -8% Matharn 456 3 152 24% 18 Matharn 859 Mounton 77 1 77 -37% 123 Pwllmeurig 326 3 109 -11% Cwmcarfan 162 1 162 29% Llanddingad 234 2 117 -7% Llanfihangel Llanfinahgel Troddi 336 2 168 34% 19 1131 126 Troddi Pen-y-clawdd 99 1 99 -21% Tre'r-gaer 223 2 112 -11% Llanwarw 77 1 77 -39% Drybridge 1721 4 430 5% Osbaston 1684 4 421 2% 20 Trefynwy 7822 Overmonnow 1062 3 354 -14% 412 Y Dref 1676 4 419 2% Wyesham 1679 4 420 2% Leechpool 163 1 163 -7% 21 Porth Sgiwed 1760 Pentref Porth Sgiwed 1308 7 187 6% 176 Sudbrook 289 2 145 -18% Gwehelog 223 1 223 21% Cyncoed 146 1 146 -21% 22 Rhaglan 1659 184 Llandenny 220 1 220 19% Rhaglan 1070 6 178 -3% 23 Rogiet 1370 1370 7 196 0% 196 Coed-yr-Iarll a'r Eglwys Newydd 289 2 145 13% Drenewydd ar y Cefn 24 899 128 Gelli-farch Drenewydd Gelli-farch a Mynydd- 610 5 122 -5% bach Cross Ash 267 3 89 20% 25 Ynysgynwraidd 520 Llanfethrin 121 2 61 -19% 74 Ynysgynwaidd 132 2 66 -11% 26 St Arvans 596 596 7 85 0% 85 Catbrook 319 2 160 22% Llanisien 212 2 106 -19% Pen-allt 414 3 138 6% 27 Tryleg Unedig 1830 Narth 342 2 171 31% 131 Plasdy Tryleg 72 1 72 -45% Tref Tryleg 389 3 130 -1% Abergwenffrwd 82 1 82 -37% 28 Brynbuga 1957 1957 7 280 0% 280 Llangatwg Feibion Afel 79 1 79 -17% Llanfvihangel Ystum Llewern 77 1 77 -19% Castellnewydd 151 2 76 -21% 29 Castell-gwyn 1051 96 Pen-rhos 145 2 73 -24% Rockfield a Llanfocha 343 3 114 20% Castell-gwyn 256 2 128 34% Llandogo 441 3 147 3% 30 Dyffryn Gwy 1001 143 Tyndyrn 560 4 140 -2% 71666 71666 279 257

Derbyniwyd y ffigyrau etholiadol gan Gyngor Sir Fynwy Cyngor Sir Fynwy TREFNIADAU CYMUNEDOL PRESENNOL ATODIAD 4

% amrywiant NIFER o'r Rhif ENW DISGRIFFIAD ETHOLWYR CYMH CYNGHORWYR cyfartaledd AREB Sirol

1 Caer-went Cymuned Caer-went 1 1,510 1,510 -10%

2 Castell Caldicot Ward Castell Caldicot yn Nhref Caldicot 1 1,676 1,676 0%

3 Cantref Ward Cantref yyn Nhref y Fenni 1 1,695 1,695 1%

4 Y Castell Ward Castell yyn Nhref y Fenni 1 1,607 1,607 -4%

5 Croesonnen Wardiau Dwyrain Croesonnen a Gorllewin Croesonnen yng Nghymuned Llandeilo Bertholau 1 1,687 1,687 1%

6 Crucornau Fawr Cymunedau Crucornau a'r Grysmwnt 1 1,721 1,721 3%

7 Devauden Cymunedau Devauden a Llan-gwm 1 1,207 1,207 -28%

8 Llanddewi Ward Llanddewi yn Nhref Caldicot 1 1,517 1,517 -9%

9 Dixton gydag Osbaston Ward Dixton gydag Osbaston yn Nhref Trefynwy 1 1,902 1,902 14%

10 Drybridge Wardiau Drybridge a Dref yn Nhref Trefynwy 1 2,639 2,639 58%

11 Goetre Fawr Cymuned Goetre Fawr 1 1,889 1,889 13%

12 Green Lane Ward Green Lane yn Nhref Caldicot 1 1,539 1,539 -8%

13 Grofield Ward Grofield yn Nhref y Fenni 1 1,413 1,413 -16%

14 Lansdown Ward Lansdown yn Nhref y Fenni 1 1,721 1,721 3%

15 Larkfield Ward Larkfield yn Nhref Cas-gwent 1 1,581 1,581 -5%

16 Llanbadog Cymunedau Gwehelog Fawr a Llanbadog 1 1,055 1,055 -37%

17 Bryn Llanelli Cymuned Llanelli 2 3,261 1,631 -3%

18 Llan-ffwyst Fawr Wardiau Llanelen, Llan-ffwyst a Llanwenarth Citra yng Nghymuned Llan-ffwyst Fawr 1 1,576 1,576 -6%

19 Llangybi Fawr Cymunedau Llangybi, Llanhenwg a Llantrisaint Fawr 1 1,482 1,482 -11%

20 Llanofer Cymunedau Llan-arth a Llanofer 1 1,812 1,812 8%

21 Llandeilo Gresynni Cymunedau Llangatwg Feibion Afel a Llandeilo Gresynni 1 1,430 1,430 -15%

22 Llanwenarth Tu Draw Ward Llanwenarth Tu Draw yng Nghymuned Llan-ffwyst Fawr 1 1,140 1,140 -32%

Wardiau'r Maerdy, Pantygelli, Dwyrain Ysgyryd a Gorllewin Ysgyryd yng Nghymuned Llandeilo 23 Y Maerdy 1 1,411 1,411 -16% Bertholau

24 Mill Wardiau The Denny, Mill and Salisbury yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy 1 2,208 2,208 32%

25 Llanfihangel Troddi Cymuned Llanfihangel Troddi 1 993 993 -41%

26 Overmonnow Ward Overmonnow yn Nhref Trefynwy 1 1,774 1,774 6%

27 Porth Sgiwed Cymuned Porth Sgiwed 1 1,765 1,765 6%

28 Y Priordy Ward y Priordy yn Nhref y Fenni 1 1,554 1,554 -7%

29 Rhaglan Cymuned Rhaglan 1 1,585 1,585 -5%

30 Rogiet Cymuned Rogiet 1 1,349 1,349 -19%

31 Hafren Ward Hafren yn Nhref Caldicot 1 1,385 1,385 -17%

32 Drenewydd Gelli-farch Cymunedau Matharn a Drenewydd Gelli-farch 1 1,789 1,789 7%

33 St Arvans Cymunedau St Arvans a Thyndyrn 1 1,313 1,313 -22%

34 St Christopher's Ward St Christopher's yn Nhref Cas-gwent 1 1,892 1,892 13%

35 St Kingsmark Ward St Kingsmark yn Nhref Cas-gwent 1 2,336 2,336 40%

36 St Mary's Ward St Mary's yn Nhref Cas-gwent 1 1,522 1,522 -9%

37 The Elms Ward The Elms yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy 1 2,468 2,468 48%

38 Thornwell Ward Thornwell yn Nhref Cas-gwent 1 2,099 2,099 25%

39 Tryleg Unedig Cymuned Tryleg Unedig 1 2,199 2,199 31%

40 Brynbuga Cymuned Brynbuga 1 1,957 1,957 17%

41 West End Ward West End yn Nhref Caldicot 1 1,587 1,587 -5%

42 Wyesham Ward Wyesham yn Nhref Trefynwy 1 1,679 1,679 0%

CYFANSYMIAU: 43 71,925 1,673 Cymhareb yw nifer yr etholwyr i bob cynghorydd Derbyniwyd y ffigyrau etholiadol gan Gyngor Sir Fynwy Cyngor Sir Fynwy TREFNIADAU CYMUNEDOL ARFAETHEDIG ATODIAD 5

% amrywiant NIFER o'r Rhif ENW DISGRIFFIAD ETHOLWYR CYMHA CYNGHORWYR cyfartaledd REB Sirol

1 Bulwark a Thornwell Wardiau arfaethedig Bulwark, Maple Avenue a Thornwell yn Nhref Cas-Gwent 2 3,947 1,974 24%

2 Caer-went Cymuned arfaethedig Caer-went 1 1,569 1,569 -1%

3 Castell Caldicot Ward arfaethedig Castell Caldicot yn Nhref Caldicot 1 1,236 1,236 -22%

4 Caldicot Cross Ward arfaethedig Caldicot Cross yn Nhref Caldicot 1 1,639 1,639 3%

5 Cantref Wardiau arfaethedig Cantref and Llanwenarth Citra yn Nhref y Fenni 1 1,717 1,717 8%

6 Castell Cas-gwent Ward arfaethedig Castell Cas-gwent yn Nhref Cas-gwent 1 1,306 1,306 -18%

7 Croesonnen Ward arfaethedig Croesonnen yng Nghymuned Llandeilo Bertholau 1 1,614 1,614 1%

8 Crucornau Fawr Cymunedau arfaethedig Crucornau a Grysmwnt 1 1,594 1,594 0%

Cymuned arfaethedig Devauden a Wardiau Llan-gwm a Llan-soe yng Nghymuned 9 Devauden 1 1,251 1,251 -21% Llantrisaint Fawr

10 Llanddewi Ward arfaethedig Llanddewi yn Nhref Caldicot 1 1,545 1,545 -3%

11 Drybridge Wardiau arfaethedig Drybridge a y Dref yn Nhref Trefynwy 2 3,397 1,699 7%

12 Gobion Fawr Cymunedau arfaethedig Gobion Fawr a Llan-arth 1 1,719 1,719 8%

13 Goetre Fawr Cymuned arfaethedig Goetre Fawr 1 1,713 1,713 8%

14 Gofilon Ward arfaethedig Gofilon yng Nghymuned Llan-ffwyst Fawr 1 1,140 1,140 -28%

15 Grofield Ward arfaethedig Grofield yn Nhref y Fenni 1 1,861 1,861 17%

16 Lansdown Ward arfaethedig Lansdown yn Nhref y Fenni 1 1,747 1,747 10%

17 Larkfield a St Kingsmark Wardiau arfaethedig Larkfield, Mount Pleasant a St Kingsmark yn Nhref Cas-gwent 2 4,207 2,104 32%

18 Llanbadog Cymuned arfaethedig Llanbadog 1 1,085 1,085 -32%

19 Llanelli Cymuned arfaethedig Llanelli 2 3,261 1,631 2%

20 Llan-ffwyst Fawr Ward arfaethedig Llanelen a Llan-ffwyst yng Nghymuned Llan-ffwyst Fawr 1 1,444 1,444 -9%

Cymuned arfaethedig Llangybi a Wardiau Gwenesni a Llantrisant yng Nghymuned 21 Llangybi 1 1,482 1,482 -7% arfaethedig Llantrisaint Fawr

22 Llandeilo Gresynni Cymunedau arfaethedig Ynysgynwraidd a Castell-gwyn 1 1,571 1,571 -1%

23 Dwyrain Magwyr Wardiau arfaethedig Dwyrain Magwyr a Gwndy yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy 2 3,072 1,536 -4%

24 Gorllewin Magwyr Ward arfaethedig Gorllewin Magwyr yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy 1 1,526 1,526 -4%

25 Y Maerdy Wardiau arfaethedig Maerdy a Sgyrrid, a ward Panygelli yng Nghymuned Llandeilo Bertholau 1 1,192 1,192 -25%

26 Llanfihangel Troddi Cymuned arfaethedig Llanfihangel Troddi 1 1,131 1,131 -29%

27 Osbaston Ward arfaethedig Osbaston yn Nhref Trefynwy 1 1,684 1,684 6%

28 Overmonnow Ward arfaethedig Overmonnow yn Nhref Trefynwy 1 1,062 1,062 -33%

29 Y Parc Ward arfaethedig y Parc yn Nhref y Fenni 1 1,528 1,528 -4%

30 Pen-y-fâl Ward arfaethedig Pen-y-fâl yn Nhref y Fenni 1 1,532 1,532 -4%

31 Porth Sgiwed Cymuned arfaethedig Porth Sgiwed 1 1,760 1,760 11%

32 Rhaglan Cymuned arfaethedig Rhaglan 1 1,659 1,659 4%

33 Rogiet Cymuned arfaethedig Rogiet 1 1,370 1,370 -14%

34 Hafren Wardiau arfaethedig Hafren a The Village yn Nhref Caldicot 1 1,824 1,824 15%

35 Drenewydd Gelli-farch Cymunedau arfaethedig Matharn a Drenewydd Gelli-farch 1 1,758 1,758 10%

36 St Arvans Cymunedau arfaethedig St Arvans a Dyffryn Gwy 1 1,597 1,597 0%

37 Tryleg Unedig Cymuned arfaethedig Tryleg Unedig 1 1,830 1,830 15%

38 Brynbuga Cymuned arfaethedig Brynbuga 1 1,957 1,957 23%

39 West End Ward arfaethedig West End yn Nhref Caldicot 1 1,460 1,460 -8%

40 Wyesham Ward arfaethedig Wyesham yn Nhref Trefynwy 1 1,679 1,679 5%

CYFANSYMIAU: 45 71,666 1,593 Cymhareb yw nifer yr etholwyr i bob cynghorydd Derbyniwyd y ffigyrau etholiadol gan Gyngor Sir Fynwy

© Hawlfraint CFfDLC 2019