20.05.2021

Cathryn Ings Cyswllt Contact Ffôn Phone 03305 880450

Erthygl i’r Wasg Press Release Yr Amgueddfa yn agor y drws ar fyd tywyll a pheryglus

Bydd drama newydd wreiddiol Yr Amgueddfa yn cychwyn ar ar nos Sul, 30 Mai, ac yn cynnig genre newydd sbon i wylwyr S4C wrth iddynt gael y cyfle i fwynhau thriller trosedd celf am y tro cyntaf ar y sianel.

Mae Yr Amgueddfa wedi ei leoli yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd - ac mae’r ddrama hon yn mynd â ni i mewn i fyd tywyll a pheryglus trosedd celf.

Mae Dela Howells (Nia Roberts) yn ddynes lwyddiannus, gwraig ffyddlon i Alun (Steffan Rhodri) a mam i ddau o blant Daniel (Samuel Morgan-Davies) a Mags (Mared Jarman). Mae hi newydd dderbyn swydd fel cyfarwyddwr cyffredinol yr amgueddfa ac mae bywyd yn dda.

Ar y noson mae’n dathlu ei swydd newydd mewn parti yn yr amgueddfa, mae hi’n cwrdd â dyn ifanc, Caleb (Steffan Cennydd), sydd wedi dod fel dêt i’w mab Daniel. Mae Dela'n cael ei swyno'n llwyr gan Caleb ac yn syrthio mewn i berthynas nwydus gydag e. Ond mae Dela'n darganfod fod gan Caleb fwriadau ychydig yn fwy sinistr wrth ddechrau perthynas â hi.

Mae sawl wyneb cyfarwydd arall yn y ddrama gan gynnwys Sharon Morgan, Delyth Wyn, Geraint Todd a Simon Watts. Mae hefyd sawl wyneb newydd ymysg y cast, gyda Steffan Cennydd, yn y brif ran fel Caleb, a Samuel Morgan-Davies a Mared Jarman yn chwarae plant Dela, Dan a Marged.

Roedd Nia Roberts wrth ei bodd i gael cynnig rôl Dela: “Pan ti’n cyrraedd dy 40au fel actores mae’n rili anarferol i rywun anfon sgript lle mae menyw yn ei chanol oed yn chwarae’r brif ran. Fel arfer mae’n sefyllfa ble mae hi’n chwarae’r fam, neu’r wraig, neu’r chwaer.

“Dwi jysd yn meddwl bod bywydau pobl canol oed yn rili diddorol! Mae mor braf i weld menyw yn ei 40au hwyr - menyw gref a chymhleth a hefyd menyw sydd dal yn teimlo bod rhyw yn rhan bwysig o’i bywyd hi.”

Mae Steffan Cennydd yn anfodlon dweud gormod am ei gymeriad Caleb gan mai ei benderfyniadau ef a’i orffennol dirgel sy’n gyrru’r ddrama i rannau helaeth.

Meddai Steffan: “Pan ni’n cwrdd â Caleb yn y golygfeydd cynta’ mae o i’w weld yn eitha’ normal ond dwi’n meddwl bod y dirgelwch sydd rownd y crwt ‘ma a beth ry’n ni’n darganfod yn ystod y gyfres am ei hanes e - hwnna yw drama go iawn y gyfres.”

Mae trydedd rhan o bob un o’r chwe phennod awr o hyd yn ymwneud â stori Caleb. Mae Steffan yn esbonio: “Pan ddarllenais i’r sgript, beth oni’n rili mwynhau oedd y peth od yma oedd yn

digwydd yn rhan tri ble ti’n gweld beth sydd wedi digwydd i Caleb rhwng y golygfeydd yn y ddwy bennod gyntaf. A dyna beth wnaeth dynnu fi at y sgript.”

Yr awdur Fflur Dafydd, enillydd sawl gwobr Bafta Cymru am ei dramâu, sydd wedi creu a sgriptio Yr Amgueddfa ac mae Fflur yn cyfaddef bod ganddi obsesiwn gyda sefydliadau Cymru. Hi ysgrifennodd Y Llyfrgell a’i droi yn ffilm o’r un enw wedi ei seilio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Meddai Fflur: “Mae’n braf gallu dod â sefydliadau Cymru i sylw mewn ffordd mwy creadigol. Mae’n rhyw fath o genhadaeth yn fy ngwaith i - mynd ar ôl y pethau sydd yn teimlo tipyn bach yn anweledig er eu bod nhw’n enfawr ac yn bwysig. Trwy greu genre fel thriller trosedd celf, mae’n teimlo fel ‘mod i’n creu rhywbeth sy’n reit unigryw i Gymru, a gan fod y thrillers confensiynol ychydig yn dreuliedig erbyn hyn, mae’n eitha’ neis i fynd ar ôl trosedd yn y byd celf, lle mae ‘na gyffro a chyfrinachau o fath gwahanol.”

Dywedodd Neil Wicks, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: "Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu parhau â'r cynyrchiadau teledu a ffilmio yn ein safleoedd eleni i gefnogi'r diwydiannau creadigol yng Nghymru.

"Daw Yr Amgueddfa ar adeg pan mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd newydd ailagor i'r cyhoedd yn dilyn misoedd o gau. Mae ein hamgueddfeydd a'n casgliadau yn ffynhonnell ddiddiwedd o ysbrydoliaeth ac yn dda i'n lles a’n hiechyd. Gobeithiwn y bydd y gyfres yn annog gwylwyr i ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a'n chwe amgueddfa arall ledled Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at weld Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ymddangos yn y gyfres ddrama gyffrous hon ar S4C dros yr wythnosau nesaf.”

Dilynodd Boom Cymru'r holl ganllawiau, deddfwriaeth a phrotocolau mae Llywodraeth Cymru wedi’u gosod wrth ffilmio Yr Amgueddfa er mwyn sicrhau fod y gwaith wedi cael ei gyflawni mewn ffordd ddiogel.

Yr Amgueddfa Nos Sul 30 Mai 9.00, S4C Isdeitlau Saesneg Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill Cynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer S4C

20.05.2021

Cathryn Ings Cyswllt Contact Ffôn Phone 03305 880450

Erthygl i’r Wasg Press Release New drama opens the door on a dark and dangerous world

Original new drama Yr Amgueddfa (The Museum) begins on S4C on Sunday, May 30. The drama, based in the National Museum Cardiff, will offer viewers a brand-new genre – the art crime thriller - for the first time on the channel.

Dela Howells (Nia Roberts) is a successful woman – a faithful wife to her husband Alun (Steffan Rhodri) and a loving mother to two children Daniel (Samuel Morgan-Davies) and Mags (Mared Jarman). She has just accepted the post of director general of the museum and life is good.

On the same night that she is celebrating her new job in a party at the museum, she meets a young man Caleb (Steffan Cennydd), who has come along as the date of her son Daniel. Dela is totally entranced by Caleb and falls into a passionate relationship with him.

But Dela soon discovers that Caleb has some more sinister reasons for beginning a relationship with her as she becomes embroiled in the dark and dangerous world of art crime.

There are several other familiar faces in the drama including Sharon Morgan, Delyth Wyn, Geraint Todd and Simon Watts. There are also some new faces in the cast along with Steffan Cennydd, including Samuel Morgan-Davies and Mared Jarman playing Dela’s children, Dan and Marged.

Nia Roberts said that she was delighted to be offered the role of Dela: “As an actor, when you reach your 40s, it’s really unusual for someone to send you a script where you play the main part. You tend to play the mother, wife or sister.

“I just think the lives of middle-aged people are really interesting! And it’s so great to play a woman in her late 40s who is strong and complex but also a woman who feels that sex is still a big part of her life.”

Steffan Cennydd is reluctant to say too much about his character Caleb as much of the drama centres on his actions and his mysterious past. He said: “When we first meet Caleb in the early scenes he seems perfectly ordinary but, I think discovering Caleb’s history and what makes him take the decisions he does is the real drama of the series.”

The third part of each of the six hour-long episodes is devoted entirely to Caleb’s story. Steffan explains: “When I read the script, one thing I really enjoyed was this odd thing that happened in part three where you see what Caleb has been doing between the scenes that you see in the first two parts. It’s really different and what really attracted me to the script.”

Bafta Award-winning author Fflur Dafydd has created and scripted Yr Amgueddfa and she admits that she is obsessed with Welsh institutions – it was she who wrote Y Llyfrgell (The Library) and turned it into a film of the same name based at the National Library of in Aberystwyth.

Fflur said: “It’s nice to be able to draw attention to Wales’s institutions in a more creative way. It is some sort of mission in my work – going after things which feel a little bit invisible even though they are huge and important. Through the art crime genre it feels that I am creating something which is totally unique to Wales, and because conventional thrillers are becoming a little bit old-hat, it’s quite nice to go after crime in the art world, where there are excitement and secrets of a different sort.”

Neil Wicks, Deputy Director General of Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, said: “We’re very pleased we’ve been able to continue the television and filming productions at our sites this year to support the creative industries in Wales.

“Yr Amgueddfa comes at a time when National Museum Cardiff has just reopened to the public following months of closure. Our museums and collections are an endless source of inspiration and are good for our wellbeing. We hope that the series will encourage viewers to visit National Museum Cardiff and our six other museums across Wales. I am looking forward to seeing National Museum Cardiff feature in this exciting drama series on S4C over the coming weeks.”

Yr Amgueddfa Sunday 30 May 9.00, S4C English subtitles available On demand: S4C Clic, iPlayer and other platforms A Boom Cymru production for S4C

Boom Cymru followed all guidelines, legislation and protocols put in place by Welsh Government in order to ensure that filming was carried out safely.