
Cynllun Llifogydd Dinas Powys Dinas Powys Flood Scheme Cofnod Cyfyngiadau a Chyfleoedd Amgylcheddol (CCCA) Environmental Constraints and Opportunities Record (ECOR) Medi 2020 / September 2020 Version history: Document version Date published Project stage Draft ECOR for Consultation 1.0 11/2017 – November 2017 Draft ECOR for Consultation 2.0 02/2020 – February 2020 ECOR with Consultee Comments Documented – 3.0 09/2020 September 2020 (new text included within this version is presented in red text). Date 2 Contents Crynodeb annhechnegol ...................................................................................................... 4 Non-technical summary ....................................................................................................... 7 1.0 Introduction .............................................................................................................. 10 1. 1 Background ............................................................................................................. 10 1.2 Sustainable Management of Natural Resources ...................................................... 11 1.3 Catchment Description ............................................................................................. 12 1. 4 Project Objectives ................................................................................................... 16 2.0 Environmental Baseline ............................................................................................... 18 2.1 Introduction .............................................................................................................. 18 2.2 Environmental baseline of study area ...................................................................... 18 3.0 Summary of Options .................................................................................................... 28 3.1 Introduction .............................................................................................................. 28 3.2 Short-list Options ...................................................................................................... 28 3.3 Short-list Options Appraisal ...................................................................................... 35 4.0 Closing Note ................................................................................................................ 48 4.1 Short-list Appraisal- Conclusion ............................................................................... 48 4.2 Next Step ................................................................................................................. 50 Appendices ........................................................................................................................ 51 Appendix A: Long List of Options ................................................................................... 52 Appendix B Consultation Record ................................................................................... 61 3 Crynodeb annhechnegol Cefndir Mae gan afon Tregatwg ac East Brook hanes o lifogydd yn Ninas Powys. Mae gan 94 o gartrefi siawns o 3.33% (1 mewn 30) o ddioddef llifogydd bob blwyddyn, ac mae gan 197 o gartrefi siawns o 1% (1 mewn 100) o ddioddef llifogydd bob blwyddyn. O ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd, rhagwelir y bydd y risg hon yn cynyddu i 368 o gartrefi erbyn 2117. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn archwilio'r achosion a'r datrysiadau posibl i'r perygl llifogydd hwn. Asesu Amgylcheddol Mae asesu amgylcheddol yn broses ailadroddol sy'n dechrau pan sefydlir prosiect ac sy’n parhau drwy’r broses o arfarnu opsiynau, dylunio manwl, adeiladu a gweithredu. Mae'r Cofnod Cyfyngiadau a Chyfleoedd Amgylcheddol (CCCA) hwn yn nodi’r waelodlin amgylcheddol a’r arfarniad amgylcheddol o’r opsiynau a ystyrir er mwyn rheoli perygl llifogydd yn Ninas Powys. Gwaelodlin Amgylcheddol Yn Ninas Powys, mae sianeli afon Tregatwg ac East Brook wedi eu hadeiladu i raddau helaeth. Ar gyfer rhannau mawr, mae'r sianeli naill ai wedi eu hystlysu â gerddi preswyl, parseli llinol bach o goetir llydanddail neu laswellt amwynder, gan greu coridor cul ar gyfer bywyd gwyllt drwy'r pentref. I’r gogledd o Ddinas Powys, mae afon Tregatwg ac East Brook yn llifo trwy ardal wledig o borfeydd pori a choetir llydanddail yn bennaf. Mae yna sawl coetir hynafol sy'n ffurfio rhan o Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur Coed Clwyd-gwyn a Choed Casehill. Nid oes modd disodli coetiroedd hynafol (tir â choed parhaol ers o leiaf ad 1600), ac maent yn cynnig cynefin cyfoethog sy'n cynnal helaethrwydd o rywogaethau. Mae'r ardal, y mae cyfran ohoni’n cael ei rheoli gan Goed Cadw, yn ardal amwynder a ddefnyddir yn aml, ac mae'n cynnwys nifer o lwybrau cerdded a llwybr ceffylau caniataol. O ystyried y cynefinoedd ledled ardal yr astudiaeth, mae’n bosibl y ceir rhywogaethau a warchodir, fel ystlumod, dyfrgwn, pathewod, moch daear, ymlusgiaid, amffibiaid, adar sy'n nythu, a gleision y dorlan Mae'r afon yn cynnal macroinfertebratau a rhywogaethau pysgod pwysig fel eog yr Iwerydd, crothell, llysywen a penlletwad. Mae'r ardal yn enwog am ei phwysigrwydd hanesyddol a'i thirwedd. Mae rhannau mawr o Ddinas Powys a Llanfihangel-y-pwll yn ardaloedd cadwraeth dynodedig. Ceir hefyd sawl heneb gofrestredig ac adeilad rhestredig ar draws ardal yr astudiaeth, gan gynnwys Castell Dinas Powys (heneb gofrestredig ac adeilad rhestredig) a gwrthglawdd Ty’n-y-coed (heneb gofrestredig). Lleolir Ardal Tirwedd Arbennig Cwrt-yr-ala i’r gogledd o Ddinas Powys, sy'n cynnwys parc a gardd hanesyddol boblogaidd Cwrt-yr-ala, sy'n barc a gardd gofrestredig gradd II. Arfarniad Amgylcheddol o Opsiynau Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ystyried amrywiaeth o opsiynau a chyfuniadau ymarferol i reoli perygl llifogydd yn Ninas Powys. Arfarnwyd yr opsiynau gan ddefnyddio canllawiau sefydledig sy'n cynnwys ystyried perygl llifogydd, hyfywedd economaidd, ac effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol posibl. Mae adran 3 o’r Cofnod Cyfyngiadau a Chyfleoedd 4 Amgylcheddol (ECOR) hwn yn trafod yr holl opsiynau yn eu tro, gan nodi'r effeithiau amgylcheddol cadarnhaol a negyddol posib sy'n gysylltiedig â phob un. Ymysg yr opsiynau a ystyriwyd, dim ond un y bernir ei fod yn cynnig datrysiad ar draws y gymuned i’r broblem o reoli perygl llifogydd yn Ninas Powys. Mae'r opsiwn yn cynnwys cyflwyno’r elfennau canlynol ar y cyd: • Sianeli Storio East Brook: Y defnydd o sianeli naturiol sy’n fwy na’r arfer yn East Brook i storio dŵr llifogydd drwy gyflwyno rhwystrau sy'n gollwng. • Storio Dŵr Llifogydd Tregatwg Uchaf: Storio hyd at 180,000m3 o ddŵr llifogydd o fewn Cwm George / Cwm Tregatwg Uchaf yn ystod glawiad trwm. Bydd hyn yn cynnwys adeiladu arglawdd â gwair ar draws y cwm (120m o hyd, 60m o led, 3.5m o uchder). Er ei fod yn darparu datrysiad ar draws y gymuned, mae'r opsiwn hwn yn cyflwyno nifer o risgiau amgylcheddol a chymdeithasol, yn fwyaf nodedig: • Posibilrwydd o golli a difrodi coetir hynafol ac ardaloedd ehangach o goetir llydanddail, y mae’r mwyafrif ohono â dynodiad Safle o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur • Effaith negyddol bosib ar rywogaethau a warchodir (ystlumod, pathewod, gleision y dorlan, dyfrgwn, moch daear, ymlusgiaid, amffibiaid) • Dirywiad posib yng ngwerth yr amwynder y safle, a gydnabyddir ar hyn o bryd am ei ddefnydd hamdden ac am fod yn Ardal Tirwedd Arbennig • Effaith bosib (e.e. geomorffoleg) ar y corff dŵr, gan effeithio ar ei statws o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr O ystyried y risg amgylcheddol a chymdeithasol uchod, y diffyg cefnogaeth canfyddedig ar hyn o bryd gan y gymuned a thirfeddianwyr, a’r fantais ymylol yn unig o ran cost, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn pryderu nad yw "Cyfuniad Sianeli Storio East Brook a Storio Dŵr Llifogydd Tregatwg Uchaf" yn opsiwn addas ar gyfer rheoli perygl llifogydd ar draws cymuned Dinas Powys. Ymgynghoriad ar ECOR Drafft ac Achos Busnes Amlinellol Drafft Ym mis Chwefror 2020, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru ddrafft o’r Achos Busnes Amlinellol a’r ECOR ar gyfer ymgynghoriad gyda’r bwriad o gael rhagor o farn gan y gymuned a rhanddeiliaid. Cafwyd bron i 400 o ymatebion i’r ymgynghoriad, gyda’r mwyafrif helaeth o ymatebwyr yn gwrthwynebu’r opsiwn storio llifogydd i fyny’r afon ar Afon Tregatwg. Roedd y mwyafrif hefyd yn cefnogi safbwynt y grŵp ymgyrchu, Save Dinas Powys Woods And Protect Homes From Flooding, sydd am wella’r gwaith o fonitro llifoedd Afon Tregatwg, gweithredu mesurau rheoli llifogydd naturiol a gwella llifoedd o dan bont Heol Caerdydd er mwyn lleihau perygl llifogydd. Prin oedd y gefnogaeth i opsiynau eraill megis waliau llifogydd trwy’r pentref. Cofnodwyd ymatebion a gafwyd mewn perthynas ag ECOR yn benodol yn Atodiad B – Cofnod Ymgynghori. Ar ôl ystyried yr achos ymylol dros yr opsiwn storio llifogydd i fyny’r afon, ochr yn ochr â’r ymatebion i’r ymgynghoriad a gafwyd, mae’n amlwg y byddai dilyn yr opsiwn hwn yn 5 heriol. Yn anffodus nid oes unrhyw ffordd arall ymlaen a fyddai’n rheoli’r perygl llifogydd ar gyfer y rhan fwyaf o dai a busnesau Dinas Powys, wrth ddilyn canllawiau arfarnu prosiectau’r Llywodraeth, yn enwedig darparu gwerth am arian. O gymryd hyn i ystyriaeth, ni all Cyfoeth Naturiol Cymru gyfiawnhau cynllun cyfalaf llifogydd yn y dalgylch hwn, ond bydd yn parhau gyda’r dull presennol (yr opsiwn busnes yn ôl yr arfer), i reoli perygl llifogydd yn y pentref, yn cynnwys cynnal a chlirio sianel yr afon. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydnabod y bydd hyn yn peri pryder i rai sydd mewn perygl o lifogydd. Fodd bynnag, mae ymatebion i’r ymgynghoriad wedi dangos parodrwydd
Details
-
File Typepdf
-
Upload Time-
-
Content LanguagesEnglish
-
Upload UserAnonymous/Not logged-in
-
File Pages121 Page
-
File Size-