Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd Arfarniad Cynaladwyedd (AC) yn cynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) Adroddiad Cwmpasu Arfarniad Cynaladwyedd Gorffennaf 2011 CYNNWYS Tudalen 1. CYFLWYNIAD 1 Cefndir Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd Arfarniad Cynaladwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd Arfarniad ac Asesiadau Eraill Yr Adroddiad Hwn 2. METHODOLEG 6 Cyflwyniad Camau yny Broses AC/AAS Y Cam Cwmpasu Cyfyngiadau Data Ymgynghoriad 3. BIOAMRYWIAETH 12 Crynodeb o’r sefyllfa bresennol a thueddiadau Materion allweddol o ddadansoddiad o’r waelodlin Materion cynaladwyedd a chyfleon Negeseuon allweddol o adolygiad o gynlluniau a rhaglenni 4. CYMUNEDAU 15 Crynodeb o’r sefyllfa bresennol a thueddiadau Materion allweddol o ddadansoddiad o’r waelodlin Materion cynaladwyedd a chyfleon Negeseuon allweddol o adolygiad o gynlluniau a rhaglenni 5. FFACTORAU HINSODDOL 19 Crynodeb o’r sefyllfa bresennol a thueddiadau Materion allweddol o ddadansoddiad o’r waelodlin Materion cynaladwyedd a chyfleon Negeseuon allweddol o adolygiad o gynlluniau a rhaglenni 6. TREFTADAETH DIWYLLIANNOL 21 Crynodeb o’r sefyllfa bresennol a thueddiadau Materion allweddol o ddadansoddiad o’r waelodlin Materion cynaladwyedd a chyfleon Negeseuon allweddol o adolygiad o gynlluniau a rhaglenni 7. ECONOMI 23 Crynodeb o’r sefyllfa bresennol a thueddiadau Materion allweddol o ddadansoddiad o’r waelodlin Materion cynaladwyedd a chyfleon Negeseuon allweddol o adolygiad o gynlluniau a rhaglenni 8. TAI 27 Crynodeb o’r sefyllfa bresennol a thueddiadau Materion allweddol o ddadansoddiad o’r waelodlin Materion cynaladwyedd a chyfleon Negeseuon allweddol o adolygiad o gynlluniau a rhaglenni 9. TIRWEDD 30 Crynodeb o’r sefyllfa bresennol a thueddiadau Materion allweddol o ddadansoddiad o’r waelodlin Materion cynaladwyedd a chyfleon Negeseuon allweddol o adolygiad o gynlluniau a rhaglenni 10. PRIDD, MWYNAU, GWASTRAFF 32 Crynodeb o’r sefyllfa bresennol a thueddiadau Materion allweddol o ddadansoddiad o’r waelodlin Materion cynaladwyedd a chyfleon Negeseuon allweddol o adolygiad o gynlluniau a rhaglenni 11. TRAFNIDIAETH 35 Crynodeb o’r sefyllfa bresennol a thueddiadau Materion allweddol o ddadansoddiad o’r waelodlin Materion cynaladwyedd a chyfleon Negeseuon allweddol o adolygiad o gynlluniau a rhaglenni 12. DWR 37 Crynodeb o’r sefyllfa bresennol a thueddiadau Materion allweddol o ddadansoddiad o’r waelodlin Materion cynaladwyedd a chyfleon Negeseuon allweddol o adolygiad o gynlluniau a rhaglenni 13. Y FFRAMWAITH AC/AAS 37 Cefndir Methodoleg Cydweddoldeb mewnol o’r amcanion AC/AAS 14. YMGYNGHORIAD A’R CAMAU NESAF 44 Ymgynghoriad Camau Nesaf Rhestr Ffigyrau Ffigwr 2.1: Y berthynas rhwng AC/AAS a’r broses CDLl Ffigwr 2.2: Perthynas tasgau allweddol yn y Cam Cwmpasu Ffigwr 13.1: Allwedd i Asesiad Cyweddoldeb Rhestr Tablau Tabl 2.1: Camau allweddol a’r tasgau yn y broses AC Tabl 2.2: Tasgau Allweddol yng Ngham A o’r broses AC Tabl 13.1: Fframwaith Amcanion yr AC Drafft Tabl 13.2: Cydweddoldeb Amcanion AC Tabl 14.1: Amlinelliad o’r camau nesaf yn y broses AC/AAS Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd Adroddiad Cwmpasu AC 1. CYFLWYNIAD Cefndir 1.1 Y mae’r Adroddiad Cwmpasu hwn yn cynrychioli yr elfen gyntaf o’r Arfarniad Cynaladwyedd (AC) o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd (CDLl ar y Cyd). Yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, mae’r AC hefyd yn ymgorffori y gofynion ar gyfer Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) o dan Gyfarwyddeb y UE 2001/42/EC. Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd 1.2 Y mae’r gofyniad i bob Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) gynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn cael ei nodi yn Rhan 6 Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol, 2004. Cynllun defnydd tir yw CDLl, sydd yn amodol ar archwiliad annibynnol, a fydd yn creu’r cynllun datblygu statudol ar gyfer ardal mewn awdurdod lleol at ddibenion y Ddeddf. Y mae’n cynnwys gweledigaeth, strategaeth, polisïau ardal-eang ar gyfer mathau datblygu, dyraniad tir, ble bo angen polisïau a chynigion ar gyfer prif ardaloedd allweddol o newid a gwarchodaeth. Caiff polisïau a dyraniadau eu nodi yn ddaearyddol ar y Map Cynigion sydd yn ffurfio rhan o’r cynllun. 1.3 Yn unol â Deddf Cynllunio (2004) mae’n ofynnol i’r holl CDLlau fod yn ddibynnol ar Arfarniad Cynaladwyedd (AC). Mae hefyd angen Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) o dan Gyfarwyddeb Ewropeaidd 2001/42/EC yn seiliedig ar yr asesiad o gynlluniau a rhaglenni penodol ar yr amgylchedd. Y mae’r Adroddiad Cwmpasu yn ymdrin â gofynion statudol ar gyfer AC ac AAS. Arfarniad Cynaladwyedd (AC) ac Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) 1.4 Mae Arfarnu Cynaladwyedd i’r CDLl yn ofynnol o dan y Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol, 2004. Mae AC yn ymdrin ag effeithiau cymdeithasol ac economaidd y CDLl ynghyd â rhai amgylcheddol. Mae Arfarnu Cynaladwyedd yn ceisio sicrhau fod polisïau a chynigion y CDLlau yn cyd- fynd ag egwyddorion datblygu cynaliadwy. 1.5 Pum egwyddor allweddol strategaeth datblygu cynaliadwy presennol Llywodraeth y DU ‘Diogelu’r Dyfodol’ (Mawrth 2005) yw: byw o fewn cyfyngiadau amgylcheddol sicrhau cymdeithas gref, iach a chyfiawn cyflawni economi cynaliadwy hyrwyddo llywodraethu da defnyddio gwyddoniaeth gadarn yn gyfrifol 1.6 I Gymru mae’r amcanion hyn yn cael eu hadlewyrchu yng nghynllun datblygu cynaliadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) ‘Cymru’n Un: Cenedl Un 1 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd Adroddiad Cwmpasu AC Blaned;’ (Mai 2009) sy’n diffinio datblygiad cynaliadwy yn y termau a ganlyn: “Datblygiad sydd yn bodloni anghenion heddiw heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i fodloni eu hanghenion eu hunain.” Datblygiad Cynaliadwy yng Nghymru Yng Nghymru, mae datblygiad cynaliadwy yn golygu gwella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl a chymdeithasau gan ennyn gwell ansawdd bywyd ar gyfer eich cenhedlaeth chi a’r dyfodol. Mewn ffordd sydd yn hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal; ac Mewn ffyrdd sydd yn mwyhau yr amgylchedd naturiol a diwylliannol ac yn parchu ei derfynau – gan ddefnyddio dim ond swm teg o adnoddau’r ddaear a chynnal ein hetifeddiaeth diwylliannol. Datblygiad cynaliadwy yw’r broses a fydd yn arwain at gyrraedd y nod o gynaladwyedd. 1.7 Yn ogystal â’r gofyniad i gwblhau AC o’r CDLl, dan Gyfarwyddeb Ewropeaidd 2001/42/EC, sy’n cael ei gweithredu yn y DU drwy Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni 2004, dylai Cynlluniau Datblygu Lleol hefyd fod yn destun Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS). Mae AAS yn broses i sicrhau bod yr effeithiau amgylcheddol arwyddocaol sy’n deillio o gynlluniau a rhaglenni yn cael eu hadnabod, eu hasesu, eu lliniaru, a’u cyfathrebu i’r sawl sy’n gwneud y penderfyniadau ac yna’u monitro. 1.8 Daeth y Gyfarwyddeb AAS i rym ar 21 Gorffennaf 2004. Y mae’r Gyfarwyddeb yn ei gwneud yn angenrheidiol i bob corff cyhoeddus ddal AAS o’u cynlluniau a’u rhaglenni pan fo tebygolrwydd o effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd ac/neu pan fo fframwaith wedi ei sefydlu ar gyfer datblygiad yn y dyfodol. Golyga hyn ei bod yn angenrheidiol i'r CDLl fod yn destun Asesiad. 1.9 Mae’n ceisio: “...darparu amddiffyniad uchel dros yr amgylchedd a chyfrannu tuag at integreiddio ystyriaethau amgylcheddol i mewn i baratoi a mabwysiadu cynlluniau a rhaglenni gyda golwg i hyrwyddo datblygiad cynaliadwy, drwy sicrhau bod, yn unol â’r Gyfarwyddeb hon, asesiad amgylcheddol yn cael ei gynnal o gynlluniau a rhaglenni penodol sydd yn debygol o gael effeithiau arwyddocaol ar yr amgylchedd.” (Erthygl 1). 1.10 Mae Rheoliadau AAS yn gofyn i faterion amgylcheddol diffiniedig gael eu cynnwys yn y broses asesu, sef: • Bioamrywiaeth • Poblogaeth • Iechyd Pobl • Ffawna • Fflora • Pridd 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd Adroddiad Cwmpasu AC • Dŵr • Aer • Ffactorau Hinsawdd • Asedau materol • Treftadaeth Ddiwylliannol • Tirwedd • Y gydberthynas rhwng yr uchod. 1.11 Cynghora Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) fod yn well ymgorffori anghenion y Gyfarwyddeb AAS yn yr Arfarniad Cynaladwyedd yng nghyswllt cynlluniau datblygu. Gellir diwallu gofynion statudol y ddau asesiad mewn un broses integredig Arfarniad Cynaladwyedd. Er mwyn bodloni gofynion yr Arfarniad Cynaladwyedd y mae gan yr adroddiad hwn ffocws ehangach nag agweddau amgylcheddol, a chynhwysir yn ychwanegol, data cymdeithasol ac economaidd. Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd 1.12 O dan Erthygl 6(3) o’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd (92/43/EEC), mae asesiad priodol angen ei gwblhau mewn cysylltiad ag unrhyw gynllun neu brosiect sydd: • Un ai yn unigol neu mewn cyfuniad gyda chynlluniau neu phrosiectau eraill a fyddai’n debygol o gael effaith sylweddol ar safle sydd wedi ei ddynodi oddi mewn i rwydwaith Natura 200 • Dim mewn cysylltiad uniongyrchol gyda rheolaeth y safle ar gyfer cadwraeth natur. 1.13 Y mae’r gofyniad hwn yn cael ei drosglwyddo i ddeddfwriaeth genedlaethol yn Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau, 2010. 1.14 Y nod trawsfwaol yw i bennu, gan edrych ar amcanion cadwraeth a nodweddion cymwys safle, os y cai’r cynllun, unai yn unigol/ neu mewn cyfuniad gyda chynlluniau eraill effaith andwyol ar hygrededd y safle ddynodedig. 1.15 O fewn Ardal Cynllun Gwynedd ac Ynys Môn, mae 16 o safleoedd sydd wedi eu dynodi ar lefel Ewropeaidd am eu pwysigrwydd i gadwraeth natur o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Yn ychwanegol bydd y Cyngor yn canfod a oes Safleoedd Ewropeaidd o fewn awdurdodau cyfagos y gallai’r CDLl effeithio'n andwyol ar eu cyfanrwydd. 1.16 Y mae’r Atodiad drafft ymgynghori i NCT 5 (Hydref 2006), sydd yn amlinellu sut y dylai’r Rheoliadau Cynefinoedd gael eu gweithredu mewn cysylltiad â CDLl ar y Cyd, yn nodi: "Ni ddylai [Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd] gael eu hymgorffori i mewn i AC neu AAS. Dylent gael eu rhedeg law yn llaw gyda’r prosesau hyn...” 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd Adroddiad Cwmpasu AC 1.17 Fodd bynnag, nid yw’r arweiniad yn nodi y gellir gwneud yr adrodd ochr yn ochr gyda'r AC os yw wedi ei arwyddo'n glir.
Details
-
File Typepdf
-
Upload Time-
-
Content LanguagesEnglish
-
Upload UserAnonymous/Not logged-in
-
File Pages430 Page
-
File Size-