Asesiad Canlyniadau Llifogydd Strategol (Aclls) � Cam 1

Asesiad Canlyniadau Llifogydd Strategol (Aclls) � Cam 1

Papur Testun 8: Asesiad Strategol Canlyniad Llifogydd (Lefel 1) 8 Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd & Môn Chwefror 2015 Asesiad Strategol Canlyniad Llifogydd (Lefel 1) Cefndir Mae hwn yn un o gyfres o bapurau testun sydd wedi eu paratoi er mwyn darparu gwybodaeth fanylach ac i egluro’r modd y mae’r cynllun yn ymdrin â gwahanol bynciau a materion sy'n effeithio ar Ardal y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Bydd y papur hwn yn rhoi sylw penodol i ‘ganlyniadau strategol llifogydd’. Bydd yn egluro'r wybodaeth gefndirol sydd o gymorth wrth adnabod materion, amcanion ac opsiynau y ddogfen Cynllun Adnau. Y Cynllun Adnau yw’r ail gam statudol paratoi y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl ar y Cyd). Mae'r CDLl ar y Cyd yn siapio twf cymunedau o fewn Ardal y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd i’r dyfodol, a bydd yn nodi'r polisïau a'r dynodiadau tir fydd yn sail i asesu ceisiadau cynllunio. Bydd y Cynllun Adnau'n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, a fydd yn penodi arolygydd annibynnol i asesu cadernid y Cynllun yn yr Archwiliad Cyhoeddus. Os bydd yr arolygydd yn ystyried bod y Cynllun yn un cadarn bydd yn argymell ei fabwysiadu. Pan gaiff ei fabwysiadu, bydd y CDLl ar y Cyd yn disodli Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd (2009) ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd a Chynllun Fframwaith Gwynedd (1993) a Chynllun Lleol Ynys Môn (1996) ar gyfer Awdurdod Cynllunio Lleol Ynys Môn. Gellir darllen y papur testun hwn ar wahân neu ar y cyd â'r Papurau Testun a'r Papurau Cefndir eraill a baratowyd er mwyn rhoi darlun cyflawn o Ardal y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Fe ellir cyfeirio tuag at y Papur Testun fel sail i unrhyw sylwadau ar y Cynllun Adnau. Fodd bynnag fe ddylid sylweddoli mae dim ond sylwadau ar y Cynllun Adnau fydd yn cael ei ystyried gan yr Arolygydd yn ystod Archwiliad Cyhoeddus y Cynllun yn hytrach na sylwadau penodol ar y Papur Testun. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu angen trafod unrhyw rhan o’r Papurau Testun neu Papurau Cefndir efo aelod o’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd fe ellwch gysylltu efo ni ar e-bost i neu'n ysgrifenedig at: Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd (UPCC) / Joint Planning Policy Unit Llawr 1af Swyddfa Cyngor Dinas Bangor / 1st Floor Bangor City Council Offices Bangor LL57 1DT 01286 685003 neu 01766 771000 [email protected] Cyhoeddiad: Fersiwn 2 Chwefror 2015 Cynllun Datblygu Lleol ar y C yd Gwynedd a Môn Chwe f 2015 Asesiad Strategol Canlyniad Llifogydd (Lefel 1) Cynnwys 1. CEFNDIR ............................................................................................................ 1 2. ARDAL ASTUDIAETH ........................................................................................ 3 3. FFRAMWAITH POLISI CYNLLUNIO .................................................................. 6 4. DOGFENNAU PERTHNASOL ERAILL ............................................................ 10 5. MATHAU A PHRIF FFYNONELLAU LLIFOGYDD, LLIFOGYDD YN Y GORFFENNOL, A’U CANLYNIADAU ............................................................... 21 6. DATA AR ‘RISG LLIFOGYDD’ YN ARDAL ASTUDIAETH Y ................................ CDLlC .............................................................................................................. 25 7. LLIFOGYDD - MATERION I’W HYSTYRIED WRTH BARATOI’R CDLlC ........ 27 8. DADANSODDIAD O ANEDDLEOEDD – MATERION LLIFOGYDD ................. 28 9. CASGLIADAU A’R FFORDD YMLAEN ............................................................ 38 ATODIAD 1: Detholiadau o bolisïau cynllun datblygu perthnasol ......................... 39 ATODIAD 2: Crynodeb o ‘Ddewisiadau Polisi’ CFMP ar gyfer pob is-ardal yn y CDLlC. .................................................................................................................. 43 ATODIAD 3: DATA GIS AR ‘RISG LLIFOGYDD’ O FEWN ARDAL ASTUDIAETH Y CDLlC ................................................................................................................ 46 Cynllun Datblygu Lleol ar y C yd Gwynedd a Môn Chwe f 2015 Asesiad Strategol Canlyniad Llifogydd (Lefel 1) 1. CEFNDIR 1.1 Mae Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd a Ynys Môn (UPCC) yn y Broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC) ar gyfer y ddwy ardal Awdurdod Unedol (ac eithrio Parc Cenedlaethol Eryri). Fel rhan o’r broses hon mae Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd a Ynys Môn wedi penderfynu paratoi Asesiad Canlyniadau Llifogydd Strategol (ACLlS) - Cam 1. Bydd yr ‘asesiad’ hwn yn cael ei gyhoeddi fel rhan o gyfres o Bapurau Testun sy’n cael eu paratoi gan Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd a Ynys Môn ac fe’i cynhelir yn unol â Nodyn Cyngor Technegol 15 (NCT15): Datblygu a Pherygl o Lifogydd’. Gall Cam 1 o’r ACLlS ffurfio rhan allweddol o’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, trwy helpu i: bennu polisïau datblygu addas a dyrannu tir mewn ffordd sy’n osgoi neu’n lleihau’r perygl o lifogydd o bob ffynhonnell; asesu unrhyw gynigion datblygu yn y dyfodol yn unol â’r fframwaith o ragofalon ym Mholisi Cynllunio Cymru a NCT15. 1.2 Er nad oes unrhyw gyngor penodol gan Lywodraeth Cymru (LlC) ynglŷn â chynnal Asesiad Canlyniadau Llifogydd Strategol (ACLlS), mae'n cael ei dderbyn yn gyffredinol y dylid cynnal ACLlS mewn tri cham: • Cam 1 - Astudiaeth wrth ddesg ddylai hon fod yn bennaf sy’n casglu’r holl wybodaeth bresennol am lifogydd o ffynonellau fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Awdurdod Lleol. Dylai asesiad Cam Un ddarparu asesiad cychwynnol o faint o dwf cynlluniedig sydd mewn ardaloedd lle mae perygl o lifogydd o fewn ardal y Cynllun a’i oblygiadau i’r Cynllun Datblygu Lleol. Dylai hefyd fod yn ddigon manwl i’r Awdurdod Cynllunio Lleol medru weithredu dull dilyniannol wrth ddewis safleoedd datblygu posibl, fel y nodir yn NCT15 (Paragraff 6.2) hynny yw, cyfeirio datblygiad yn gyntaf i barth A, yna i barth B ac i barth C yn unig os nad oes safleoedd addas eraill ar gael. • Cam 2 - Dylai’r cam hwn ymchwilio’n fanylach i unrhyw safleoedd sydd wedi eu nodi yng Ngham 1 fel rhai sydd mewn perygl o orlifo. Argymhellir (gan Cyfoeth Naturiol Cymru) y dylid edrych yn fanwl ar ddyraniadau posibl sydd y tu allan ond yn union wrth ymyl parth sydd mewn perygl mawr o orlifo. • Cam 3 – Yn y cam hwn caiff safleoedd sydd wedi eu dyrannu eu profi i weld a ydyn nhw’n addas trwy gadarnhau y gellir rheoli’r perygl o lifogydd i unrhyw safle(oedd) arfaethedig i lefel dderbyniol ac na fydd y safle ei hun yn gwaethygu’r llifogydd mewn man arall yn ystod oes y datblygiad. 1.3 Mae’r ddogfen hon yn cwmpasu Cam Un o’r ACLlS a bydd yn ystyried: problemau llifogydd afon (afonol), llanwol (arfordirol) a dŵr daear/wyneb/carthffos o fewn ardal y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd asesu’r perygl o lifogydd i ddyraniadau presennol Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn Chwef 2015 1 Asesiad Strategol Canlyniad Llifogydd (Lefel 1) tynnu sylw at y perygl o lifogydd mewn ardaloedd nad ydynt wedi eu dyrannu ar hyn o bryd i’w datblygu ond a allai gael eu hystyried fel safleoedd datblygu posibl o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. 1.4 Dylid ystyried y ‘papur testun’ hwn fel dogfen fyw a dylid ei ddiweddaru’n rheolaidd wrth i wybodaeth newydd ddod i law. Bydd Cam 2 a Cham 3 o’r ACLlS yn cael eu cynnal yn ddiweddarach yn y broses o baratoi’r cynllun. Hefyd pwysleisir nad yw’r papur testun hwn yn dileu’r angen i ddatblygwyr gynnal Asesiadau o Ganlyniadau Llifogydd penodol wrth wneud cais cynllunio, fel sy’n ofynnol yn ôl Nodyn Cyngor Technegol 15 (NCT15): Datblygu a Pherygl o Lifogydd. Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn Chwef 2015 2 Asesiad Strategol Canlyniad Llifogydd (Lefel 1) 2. ARDAL ASTUDIAETH 2.1 Ardal yr ACLlS - Bydd ardal astudiaeth yr ACLlS (gweler Map 1) yn cwmpasu ardal y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Mae hyn yn cynnwys Cyngor Sir Ynys Môn i gyd a’r rhan o Wynedd sydd wedi ei lleoli y tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri. Mae gan ardal y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd nifer o systemau afonydd ac mae canran uchel o brif aneddiadau Ardal y Cynllun wedi eu lleoli ar hyd y Draethlin (gweler Map 1). Bydd Cam Un o’r ACLlS yn canolbwyntio ar yr aneddiadau canlynol sydd wedi eu nodi yng Nghynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd Ynys Môn 2011 – 2026 (fersiwn Adnau): Canolfan Is-ranbarthol: Bangor Canolfannau Gwasanaeth Trefol: Ynys Môn - Amlwch, Caergybi, Llangefni Gwynedd - Blaenau Ffestiniog, Caernarfon, Porthmadog, Pwllheli Canolfannau Gwasanaeth Lleol: Ynys Môn - Biwmares, Benllech, Bodedern, Cemaes, Gaerwen, Llanfairpwll, Pentraeth, Porthaethwy, Rhosneigr, Y Fali Gwynedd -, Abersoch, Y Bermo Bethesda, Cricieth, Llanberis, Llanrug, Nefyn, Penrhyndeudraeth, Pen-y- groes, Tywyn Ffigur 1: Aneddiadau sydd wedi eu nodi yn y Ddogfen Hoff Strategaeth Drafft Ymgynghorol (Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Ynys Môn 2011 – 2026) 2.2 Cynhaliwyd asesiad lefel cyffredinol o’r aneddiadau hyn yn adran 8 o’r astudiaeth hon ar sail yr wybodaeth sydd ar gael. Nid yw’r asesiad yn manylu i’r lefel a ddisgwylir ar gyfer cynigion ar gyfer safleoedd penodol, h.y. Asesiadau o Ganlyniadau Llifogydd, yn unol â NCT15. 2.3 Fel y nodwyd ym mharagraff 1.4 o’r adroddiad hwn mae Cam Un o’r ACLlS yn ‘ddogfen fyw’ ac felly bydd yn cael ei haddasu yn nhrefn yr holl aneddiadau hynny fydd yn ffurfio coeden aneddleoedd strategol y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. 2.4 Nid yw’r Astudiaeth hon yn cynnwys y perygl o lifogydd mewn aneddiadau llai, er y bydd y perygl o lifogydd yn cael ei ystyried wrth ddyrannu tir o fewn yr aneddiadau hynny fel rhan o’r broses asesu safleoedd. Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn Chwef 2015 3 Asesiad Strategol Canlyniad Llifogydd (Lefel 1) Map 1: Y prif afonydd o fewn Ardal Astudiaeth yr ACLlS (Ffynhonnell: Cyfoeth Naturiol Cymru ) 2.5 Topograffi (gweler Map 2) - Mae topograffi’r tir yn effeithio ar sut mae cyrsiau dŵr yn ymateb i lefelau glawiad.

View Full Text

Details

  • File Type
    pdf
  • Upload Time
    -
  • Content Languages
    English
  • Upload User
    Anonymous/Not logged-in
  • File Pages
    49 Page
  • File Size
    -

Download

Channel Download Status
Express Download Enable

Copyright

We respect the copyrights and intellectual property rights of all users. All uploaded documents are either original works of the uploader or authorized works of the rightful owners.

  • Not to be reproduced or distributed without explicit permission.
  • Not used for commercial purposes outside of approved use cases.
  • Not used to infringe on the rights of the original creators.
  • If you believe any content infringes your copyright, please contact us immediately.

Support

For help with questions, suggestions, or problems, please contact us