CYNGOR CYMUNED Y FERWIG COMMUNITY COUNCIL Cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol a gynhaliwyd 5 Tachwedd 2012 am 7.30yh yn Ystafell Berkley, Penyparc Presennol Cyng. Dilwyn Jenkins (Cadeirydd) Cyng. Auriol Williams (Is‐Gadeirydd) Cyng. Islwyn Iago Cyng. Llinos Price Cyng. Huw Jones Cyng. Eurig Lloyd Cyng. Haydn Lewis (Aelod lleol o’r Cyngor Sir) Mrs Hildreth Owen (Clerc) (cyrraedd 8.45) 1. Croeso’r Cadeirydd: Croesawodd y Cadeirydd, y Cyng. Dilwyn Jenkins, bawb i gyfarfod mis Tachwedd a chyn symud ymlaen i drafod yr agenda, estynnodd yr Is‐Gadeirydd, Y Cyng. Auriol Williams, gydymdeimlad holl aelodau’r Cyngor â’r Cadeirydd a’i deulu yn eu profedigaeth. 2. Ymddiheuriadau am absenoldeb: Y Cynghorwyr Lyn Jones, Morris Davies, Ann Stokoe a Des Davies. 3. Cofnodion y cyfarfod cyffredinol blaenorol. Cynigiwyd gan y Cyng. Auriol Williams ac eiliwyd gan y Cyng. Huw Jones bod cofnodion mis Hydref yn gywir. 4. Datgelu buddiannau personol: Dim 5. Materion yn codi: Prydles rhwng y Cyngor Sir a Sianel Glir Afon Teifi Cyf: Ateb oddi wrth y Cyngor Sir yn dweud y byddant yn ymateb ynglŷn â chais y Cyngor am gopi o’r brydles tan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth o fewn tair wythnos o’r dyddiad o dderbyn ein llythyr (19 Medi 2012). Ateb oddi wrth y Cyngor Sir yn datgan ni allant ddanfon copi o’r brydles rhwng y Cyngor Sir a Sianel Glir Afon Teifi Cyf. am fod y ddogfen hon yn gyfrinachol rhwng y ddau barti (gweler eitem 9[105]). Systemau Awyrennau Di‐griw: Ymateb i lythyr y Cyngor at gwmni Qinetiq ynglŷn â phryder bobl leol am y peryg a’r aflonyddwch a ddaw o’r awyrennau di‐griw sydd yn hedfan dros yr ardal yn ystod oriau’r nos (gweler eitem 9[119]) 6. Ceisiadau am Gymorth Ariannol I’w penderfynu ym mis Ebrill a mis Hydref, yn unol ag adrannau 137 a 142 (CAB) o’r Ddeddf Ariannol 1996. Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Penyparc £100.00 Ysgol Feithrin Penyparc £100.00 (Enwau wedi eu hitaleiddio = cyfrifon wedi eu danfon i mewn gyda’r cais 7. Cynllunio (Danfonwyd 17 Hydref 2012) Rhif y Cais Cyfeiriad a Bwriad Sylwadau A120685 Gwbert Hotel, Min y Don, Gwbert on Sea, Cardigan. Mewn egwyddor mae'r Cyngor yn hapus “Change of use from residential to Hotel & i gefnogi'r busnes da yma sydd o fewn y extension & alterations to the car park. gymuned er fod cyfleusterau parcio digonol yn pery peth pryder". Cyfarfod Adran Cynllunio’r Cyngor Sir: Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 14 Tachwedd 2012 Ceisiadau wedi eu caniatáu / gwrthod: Rhif y Cais Cyfeiriad a Bwriad Penderfyniad y Cyngor Sir A120629 A. L. & G. D. Davies Trefwtial, Tremain. Calf rearing Wedi ei ganiatáu. shed 692 CYNGOR CYMUNED Y FERWIG COMMUNITY COUNCIL A120649 Mr & Mrs R. R. Hopkins, Dolwylan, Gwbert. Wedi ei ganiatáu “Extension and renovation to roof to form additional rooms in loft space. A120615 Penffordd, Tremain. “Erection of a garage and Wedi ei ganiatáu gydag amodau. alteration to an existing dutch barn. Cyfarfod Safle. Ni chynhelir cyfarfod safle yn ystod y mis. 8. Materion Ariannol. Biliau wedi eu talu: Clwb Ffermwyr Ifainc Penparc (Deunydd glanhau’r Ystafelloedd Newid) 101248 £13.79 Swallow Office Supplies (Deunydd i’r argraffydd) 101249 £31.20 John Morris (Torri porfa cyffredinol am 6 mis) 101250 £427.20 Cynigiwyd gan y Cyng. Huw Jones ac eiliwyd gan y Cyng. Llinos Price bod y biliau uchod yn cael eu talu. Derbyniadau: Dim Materion ariannol eraill: Dim 9. Gohebiaeth: 97 Y Cyng. Islwyn Iago Llythyr o ymddiheuriad Derbyniwyd ymddiheuriad y Cyng. Islwyn Iago. 98 Clwb Ffermwyr Ifainc Copi o Anfoneb ‘GFA Premier’ am Nodwyd Penyparc archwilio diffoddwyr tân Ystafell Berkley. 99 Maes Awyr Gorllewin Gwahoddiad i’r Cadeirydd ac un aelod Copi wedi ei e‐bostio i’r Cymru arall o’r Cyngor i sesiwn briffio prefat i Cadeirydd. Methodd y ddathlu deng mlynedd ers sefydlu’r maes Cadeirydd fynychu’r cyfarfod ar awyr dydd Iau, y funud ola oherwydd 18 Hydref am 10.30 yn Uned 7, profedigaeth deuluol. Parc Aberporth 100 Cyngor Sir Ceredigion Cadarnhad o dderbyn llythyr ynglŷn â Nodwyd (Adran y Priffyrdd) cheubyllau yn y gymuned. 101 Cymorth Canser Cais am gymorth ariannol. Penderfynwyd cefnogi Macmillan elusennau lleol yn unig. 102 Un Llais Cymru Cofnodion Cyfarfod 27 Mehefin ac Agenda Nodwyd cyfarfod 24 Hydref 2012 103 Sianel Glir Afon Teifi Cyf Ymateb ynglŷn â sbwriel ar draeth Patch. Y Clerc i ysgrifennu atynt am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r pris o £400 am ddwy sgip y flwyddyn. a hefyd yn awgrymu’r posibilrwydd bod y Cyngor yn lleoli sgip ei hun yno. 104 Cyngor Sir Ceredigion Ateb ynglŷn â thoiledau y Clwb Cychod. Nodwyd (Adran y Priffyrdd) Nid yw’r Clwb Cychod yn rhan o Gynllun Toiledau Cymunedol a reolir gan y Cyngor Sir. 105 Cyngor Sir Ceredigion Ymateb ynglŷn â’r brydles rhwng y Cyngor Gweler eitem 5 (Adran y Priffyrdd) Sir a Sianel Glir Afon Teifi. 106 Cyngor Cymuned Beulah Llythyr yn gofyn i’r Cyngor anfon ei Y Clerc i anfon llythyr yn cefnogi sylwadau at Fwrdd Iechyd Hywel Dda cais Cyngor Cymuned Beulah am 693 CYNGOR CYMUNED Y FERWIG COMMUNITY COUNCIL ynglŷn â nifer awgrymedig o welyau yn 24 o welyau yn ogystal â ysbyty newydd Aberteifi. gwelyau ychwanegol yn y gymuned. 107 Menter Aberteifi Cyf Hysbys o ddiwrnod agored “Gweledigaeth Nodwyd ar Gyfer 2020”. 108 Cymdeithas Rhieni ac Derbynneb am gyfraniad y Cyngor Nodwyd Athrawon Ysgol Penyparc 109 Pwyllgor Lles Pentref Gwybodaeth ynglŷn â phrydles tîr Cae Nodwyd Penyparc Chwarae Cae Gwyrdd Penyparc 110 Clwb Pêl‐droed Llythyr ynglŷn â chyflwr y Cae Pêl‐droed. Cytunodd y Cyngor gysylltu gyda Penyparc Chris Cooper i waredu’r gwahaddod wedi derbyn pris am y gwaith. 111 Cyngor Sir Ceredigion Hysbysiadau Cyhoeddus yng nghyswllt â Y Clerc wedi eu harddangos yn (Prif Weithredwr) phenodi Comisiynydd Troseddau Heddlu yr hysbysfyrddau. Dyfed Powys. 112 Cyngor Sir Ceredigion Llythyr ynglŷn â phrydles tîr Cae Gwyrdd, Y Clerc i gysylltu gyda’r Cyngor (Adran y Priffyrdd) Penyparc. Sir yn datgan na fydd Cyngor y Ferwig yn cymryd cyfrifoldeb am y brydles. 113 Age Cymru Ceredigion Gwahoddiad i Gyfarfod Cyffredinol Nodwyd Blynyddol Age Cymru a gynhelir yn Neuadd Goffa, Aberaeron ddydd Iau 22 Tachwedd 2012 am 2yp. 114 Ysgol Feithrin Penyparc Llythyr o ddiolch am gyfraniad y Cyngor. Nodwyd 115 CAB Ceredigion Gwybodaeth ynglŷn â Chyfarfod Nodwyd Cyffredinol Blynyddol 2012 i’w gynnal 14 Rhagfyr yn y Mudiad Meithrin, Boulevard de Saint‐Brieuc, Aberystwyth. 116 Mr Dewi Roberts Gwybodaeth ynglŷn ac arwyddion baw Y Clerc i gysylltu gyda’r warden cŵn. cŵn i drefnu cyfarfod safle yng nghae pêl‐droed, Penyparc 117 Comisiwn Ffiniau i Gwybodaeth ynglŷn ag Arolwg 2013 o Nodwyd Gymru Etholaethau Seneddol yng Nghymru Cynigion Diwygiedig. 118 Cadwgan Gwybodaeth ynglŷn â gwahanol Nodwyd ddigwyddiadau mae Castell Aberteifi yn eu cynnal i godi arian. 119 Qinetiq Ymateb i lythyr y Cyngor at gwmni Qinetiq Gweler eitem 5 ynglŷn ag awyrennau di‐griw sydd yn hedfan dros yr ardal yn ystod oriau’r nos 120 Tony Cole Pris am drasio llwybrau. Gweler eitem 10 121 John Morris Prisoedd am drasio llwybrau a thorri porfa Gweler eitem 10 122 Un Llais Cymru Rhifyn Hydref 2012 ‘Y Llais’ Nodwyd. 694 CYNGOR CYMUNED Y FERWIG COMMUNITY COUNCIL 10. Materion Eraill / Other Matters. Torri porfa gyffredinol a thrasio llwybrau 2013: Pris o £921.60 (yn cynnwys TAW) am dorri porfa gyffredinol a £844.80 (yn cynnwys TAW) am drasio llwybrau, wedi eu derbyn oddi wrth Mr John Morris. Derbyniwyd pris o £550 am drasio’r llwybrau oddi wrth Mr Tony Cole o Bontyclun. Teimlai’r Cynghorwyr bod yn well cael rhywun lleol i gyflawni’r gwaith yma er fod y pris yn uwch. Felly, cytunwyd yn unfrydol i dderbyn pris Mr John Morris. Dŵr ar y ffordd tu allan i Engar, Gwbert a mwd ar y ffordd gerllaw’r fynedfa i Fferm Heolgwyddil, Ferwig: Derbyniodd y Clerc alwad ffôn oddi wrth y Cadeirydd ynglŷn â’r ddau fater uchod. Cysylltodd hi gyda’r Cyngor Sir gan ofyn iddynt ddelio â’r materion cyn gynted â phosib. Mae’r gwaith yma wedi ei gyflawni erbyn hyn ond mae yna broblem bod y ffos yn beryg i yrwyr ac i gerddwyr oherwydd ei ddyfnder. Y Clerc i gynghori’r Cyngor Sir o’r sylwadau hyn. Y Cardi Bach: Gofynnwyd eto i’r Clerc gysylltu am yr eildro gyda Mr Ian Dutch am gwynion aelodau’r cyhoedd ynglŷn â’r cerbyd a ddefnyddir i’r gwasanaeth. Marchogaeth ceffylau ar hyd y palmentydd ym mhentref Penyparc: Derbyniwyd cwynion gan aelodau’r cyhoedd bod y broblem hon yn beryg i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadeiriau olwyn. Y Clerc i gysylltu â PC Alun Jones i ofyn iddo blismona’r sefyllfa. Cyfarfod blynyddol Ystafell Berkley: Derbyniwyd cais gan y Clerc oddi wrth Mrs Annette Morgan yn hysybysu aelodau’r Cyngor am gyfarfod blynyddol Ystafell Berkley ar 7 Ionawr, 2013 yn Ystafell Berkley, Penyparc am 7.00yh h.y. hanner awr cyn cyfarfod misol y Cyngor. Digwyddiad Nadolig i henoed y Gymuned: Dywedodd y Cadeirydd y byddai ef yn edrych i mewn i’r posibiliadau o drefnu’r digwyddiad. Cynigiwyd gan y Cyng. Llinos Price ac eiliwyd gan y Cyng. Auriol Williams bod y cofnodion “Mewn Pwyllgor” dyddiedig 1 Hydref yn gywir. Gweinyddiaeth: Cytunwyd i’r Clerc gymryd ei gwyliau yn Ionawr/Chwefror i ymweld â’i theulu yn Seland Newydd, ac i Mr Wynford Jones gynorthwyo gyda gwaith gweinyddol y Cyngor. 11. Dyddiad Cyfarfod nesaf y Cyngor: 3 Rhagfyr 2012 yn Hen Ysgol y Ferwig, am 7.30yh. Cyfarfodydd y Cyngor am 2013 7 Ionawr (YB) 4 Chwefror (F) 4 Mawrth (YB) 8 Ebrill (F) 13 Mai (YB) (CB) 3 Mehefin (F) 8 Gorffennaf (YB) 2 Medi (F) 7 Hydref (YB) 4 Tachwedd (F) 2 Rhagfyr (YB) Dynoda: F = Hen Ysgol y Ferwig.YU YB = Ystafell Berkley CB = Cyfarfod Blynyddol 695 CYNGOR CYMUNED Y FERWIG COMMUNITY COUNCIL Minutes of the Ordinary Meeting held on 5 November 2012 at 7.30pm at Ystafell Berkley, Penyparc Present: Cllr Dilwyn Jenkins (Chairman) Cllr Auriol Williams (Vice‐Chairman) Cllr Islwyn Iago Cllr Llinos Price Cllr Huw Jones Cllr Eurig Lloyd Mrs Hildreth Owen (Clerk) Cllr Haydn Lewis (Local County Council Member) (arrived at 8.45pm) 1.
Details
-
File Typepdf
-
Upload Time-
-
Content LanguagesEnglish
-
Upload UserAnonymous/Not logged-in
-
File Pages8 Page
-
File Size-