Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Cymorth chwilio | Finding Aid - Papurau Thomas Gwynn Jones, (GB 0210 TGWYNNJON) Cynhyrchir gan Access to Memory (AtoM) 2.3.0 Generated by Access to Memory (AtoM) 2.3.0 Argraffwyd: Mai 04, 2017 Printed: May 04, 2017 Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau ANW a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH https://archifau.llyfrgell.cymru/index.php/papurau-thomas-gwynn-jones-2 archives.library .wales/index.php/papurau-thomas-gwynn-jones-2 Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Allt Penglais Aberystwyth Ceredigion United Kingdom SY23 3BU 01970 632 800 01970 615 709 [email protected] www.llgc.org.uk Papurau Thomas Gwynn Jones, Tabl cynnwys | Table of contents Gwybodaeth grynodeb | Summary information .............................................................................................. 3 Hanes gweinyddol / Braslun bywgraffyddol | Administrative history | Biographical sketch ......................... 3 Natur a chynnwys | Scope and content .......................................................................................................... 4 Trefniant | Arrangement .................................................................................................................................. 5 Nodiadau | Notes ............................................................................................................................................. 5 Pwyntiau mynediad | Access points ............................................................................................................... 6 Llyfryddiaeth | Bibliography ........................................................................................................................... 6 Disgrifiad cyfres | Series descriptions ............................................................................................................ 6 - Tudalen | Page 2 - GB 0210 TGWYNNJON Papurau Thomas Gwynn Jones, Gwybodaeth grynodeb | Summary information Lleoliad | Repository: Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Teitl | Title: Papurau Thomas Gwynn Jones, ID: GB 0210 TGWYNNJON Virtua system control vtls003844234 number [alternative]: Project identifier ANW [alternative]: Dyddiad | Date: 1621-1985 (crynhowyd 1871-1985) / (dyddiad creu | date of creation) Disgrifiad ffisegol | 0.857 metrau ciwbig (89 bocs, 4 cyfrol, 1 ffolder, 1 rholyn) Physical description: Dyddiadau creu, golygu a dileu | Dates of creation, revision and deletion: Nodyn | Note Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. [generalNote]: Hanes gweinyddol / Braslun bywgraffyddol | Administrative history | Biographical sketch Nodyn | Note Ganwyd Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd, newyddiadurwr, cyfieithydd, nofelydd, dramodydd, beirniad ac ysgolhaig, yn y Gwyndy Uchaf, Betws yn Rhos, sir Ddinbych. Yn 1899 priododd Margaret Davies, a chawsant ferch a dau fab. Heblaw am addysg elfennol, yr oedd Jones yn hynanddysgedig, er iddo dderbyn gwersi mewn mathemateg, Lladin a Groeg gan gymydog. Rhwystrwyd ei uchelgais o astudio yn Rhydychen gan afiechyd, a gweithiodd fel newyddiadurwr gyda Baner ac Amserau Cymru, Y Cymro (y daeth yn olygydd arno faes o law), Yr Herald Gymraeg a phapurau newydd eraill rhwng 1891 a 1909, pan gymerodd swydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1913, a'i ddyrchafu i Gadair Gregynog mewn Llenyddiaeth Gymraeg yn 1919; ymddeolodd yn 1937. Derbyniodd y CBE yr un flwyddyn. Dylanwadwyd Jones yn gryf gan y llenor Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan,1851-1906) ac yn arbennig gan y newyddiadurwr a'r cyfieithydd Daniel Rees (1855-1931), gyda'r hwn y magodd berthynas glos. Yn ogystal ag ymhyfrydu mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg cyfoes ac o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, datblygodd ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg yr oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar, a hefyd llên gwerin ac ieithoedd tramor, yn enwedig Gwyddeleg ac ieithoedd Celtaidd Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Tudalen | Page 3 GB 0210 TGWYNNJON Papurau Thomas Gwynn Jones, eraill; bu ar ymweliad ag Iwerddon deirgwaith rhwng 1892 a 1913, daeth i gysylltiad ag ysgolheigion Gwyddelig, a defnyddiodd lysenwau fel Fionn mhac Eóghain yn ei ohebiaeth atynt. Ei brif lwyddiant oedd fel bardd pwysicaf ei genhedlaeth, yn cyfansoddi'n bennaf yn y mesurau caeth. Cyfansoddodd a chyhoeddodd farddoniaeth yn y 1880au, ac enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1902 a 1909 (am 'Ymadawiad Arthur a 'Gwlad y bryniau'); ymhlith gweithiau eraill o'i eiddo mae 'Tir na nOg', 'Madog' ac 'Y Dwymyn'. Cyfieithodd Jones waith Goethe, Ibsen, Shakespeare ac eraill i'r Gymraeg, a chyhoeddodd gyfieithiad Saesneg o Gweledigaethau y Bardd Cwsc Ellis Wynne (1670/1-1734). Mae ei brif gyhoeddiadau academaidd yn cynnwys astudiaeth ar waith y bardd Tudur Aled (bl. 1480-1526), ac roedd yn awdur nofelau, dramâu, cofiannau a llyfr taith hefyd. Yn ogystal, yr oedd yn beirniadu a darlithio mewn eisteddfodau yn rheolaidd, ac yn athro dylanwadol. Hanes Gwarchodol | Custodial history Ar ôl marwolaeth T. Gwynn Jones yn 1949 arhosodd yn rhan fwyaf o'i bapurau yng ngofal ei deulu hyd nes iddynt gael eu cyflwyno'n rhodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Daeth rhai papurau eraill i ddwylo David Jenkins yng nghwrs ei ymchwil bywgraffyddol, a chyflwynwyd y rhain a phapurau eraill yn rhodd gan Emrys Wyn Jones a'i wraig (nifer ohonynt yn ddim ond copïau a wnaethpwyd gan Francis Wynn Jones o weithiau T. Gwynn Jones). Mae'n ymddangos iddynt ddod i'w feddiant naill ai trwy'r cyswllt hwn neu drwy gysylltiadau teuluol. Natur a chynnwys | Scope and content Papurau T. Gwynn Jones, 1871-1949, yn cynnwys: gohebiaeth, gan gynnwys llythyrau oddi wrth amrywiaeth eang o ffigurau llenyddol ac academaidd; cerddi a phapurau llenyddol eraill, yn cynnwys adysgrifau ac arnodiadau gan T. Gwynn Jones o waith gan awduron canoloesol a modern, a deunydd, [17 gan.]-[20 gan.], a gasglwyd ganddo neu a roddwyd iddo; papurau academaidd, yn cynnwys nodiadau ar gyfer ei lyfrau ac erthyglau, cofiannau a mynegeion i'w waith ei hun a gwaith pobl eraill, a nodiadau bywgraffyddol ar lawer o ffigurau llenyddol; cyfieithiadau; darlithoedd ac anerchiadau, yn cynnwys nodiadau; sgriptiau radio; adolygiadau llyfrau; gwahanlithiau; torion o'r wasg; dramâu, beirniadaethau eisteddfodol, deunydd yn ymwneud â'i Dysteb yn 1944; llongyfarchiadau ar ei CBE yn 1937; a dyddiaduron, 1927-1947, a phersonalia arall; ceir hefyd papurau teuluol, 1621-1871, gan gynnwys gohebiaeth, dau Feibl teuluol, a llythyrau, 1949-1985, at deulu Jones, yn ymwneud yn enwedig â'i fywyd a'i waith, a chofiannau iddo. = Papers of T. Gwynn Jones, 1871-1949, comprising: correspondence, including letters from a wide variety of literary and academic figures; poems and other literary papers, including transcripts and annotations by T. Gwynn Jones of works by medieval and modern authors, and material, [17 cent.]-[20 cent.], collected by him or given to him; academic papers, including notes for his books and articles, bibliographies and indexes for his own and other works, and biographical notes on many literary figures; translations; lectures and addresses, including notes; radio scripts; book reviews; offprints; press cuttings; plays; eisteddfod adjudications; material relating to his Testimonial in 1944; congratulations on his CBE in 1937; and diaries, 1927-1947, and other personalia; also included are family papers, 1621-1871, including correspondence, two family bibles, and letters, 1949-1985, to Jones's family, especially concerning his life and work, and memorials to him. Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Tudalen | Page 4 GB 0210 TGWYNNJON Papurau Thomas Gwynn Jones, Nodiadau | Notes Nodiadau teitl | Title notes Ffynhonnell | Immediate source of acquisition Cyflwynwyd mewn sawl gr#p: gan T. Gwynn Jones yn 1943 D292; Mrs Eluned Morris; Rhodd; Rhagfyr 1981. D292a; Siop Lyfrau'r Hen Bost; Blaenau Ffestiniog; Pryniad (gydag NLW MS 24058A); Mai 2014; 006740780. E1-83; Mr Emrys Wynn Jones, #yr T. Gwynn Jones; Aberystwyth; Rhodd; Ionawr 2000; A2000/6. Trefniant | Arrangement Trefnwyd mewn sawl ffordd: fesul pwnc, ffurf ac amseryddiaeth yn ôl dyddiad y derbyniad. Cyfyngiadau ar fynediad | Restrictions on access Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'. Amodau rheoli defnydd | Conditions governing use Amodau hawlfraint arferol. Rhestrau cymorth | Finding aids Ceir copi caled o'r catalog, yn Gymraeg a Saesneg, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru; mae'r gyfrol gyntaf yn Saesneg, a'r chwe gweddill yn Gymraeg. Disgrifiadau deunydd | Related material Ceir papurau pellach yn ymwneud â T. Gwynn Jones yn LlGC, Papurau J. W. Jones; NLW MSS 24054A, 24058A. Cedwir llyfrau printiedig, cyfnodolion ac eitemau nad ydynt yn lawysgrifau hefyd yn LlGC. Ychwanegiadau | Accruals Mae ychwanegiadau yn bosibl. Nodiadau eraill | Other notes • Statws cyhoeddiad | Publication status: Published Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Tudalen | Page 5 GB 0210 TGWYNNJON Papurau Thomas Gwynn Jones, Pwyntiau mynediad | Access points • Jones, T. Gwynn (Thomas Gwynn), 1871-1949 -- Archives. (pwnc) | (subject) • Welsh poetry. (ffurfiau dogfennol) | (documentary form) • Poets, Welsh
Details
-
File Typepdf
-
Upload Time-
-
Content LanguagesEnglish
-
Upload UserAnonymous/Not logged-in
-
File Pages248 Page
-
File Size-