Archif Plaid Cymru, (GB 0210 PLAMRU)

Archif Plaid Cymru, (GB 0210 PLAMRU)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Cymorth chwilio | Finding Aid - Archif Plaid Cymru, (GB 0210 PLAMRU) Cynhyrchir gan Access to Memory (AtoM) 2.3.0 Generated by Access to Memory (AtoM) 2.3.0 Argraffwyd: Mai 03, 2017 Printed: May 03, 2017 Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau ANW a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G)Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH https://archifau.llyfrgell.cymru/index.php/archif-plaid-cymru-2 archives.library .wales/index.php/archif-plaid-cymru-2 Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Allt Penglais Aberystwyth Ceredigion United Kingdom SY23 3BU 01970 632 800 01970 615 709 [email protected] www.llgc.org.uk Archif Plaid Cymru, Tabl cynnwys | Table of contents Gwybodaeth grynodeb | Summary information .............................................................................................. 3 Hanes gweinyddol / Braslun bywgraffyddol | Administrative history | Biographical sketch ......................... 3 Natur a chynnwys | Scope and content .......................................................................................................... 4 Trefniant | Arrangement .................................................................................................................................. 5 Nodiadau | Notes ............................................................................................................................................. 5 Pwyntiau mynediad | Access points ............................................................................................................... 6 Disgrifiad cyfres | Series descriptions ............................................................................................................ 6 - Tudalen | Page 2 - GB 0210 PLAMRU Archif Plaid Cymru, Gwybodaeth grynodeb | Summary information Lleoliad | Repository: Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Teitl | Title: Archif Plaid Cymru, ID: GB 0210 PLAMRU Virtua system control vtls003844369 number [alternative]: Project identifier ANW [alternative]: Dyddiad | Date: 1915-1999 / (dyddiad creu | date of creation) Disgrifiad ffisegol | 16.822 metrau ciwbig (1738 bocs, 27 cyfrol, 6 ffolder, 1 amlen). Physical description: Iaith | Language: Welsh Iaith | Language: English Dyddiadau creu, golygu a dileu | Dates of creation, revision and deletion: Nodyn | Note Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. [generalNote]: Hanes gweinyddol / Braslun bywgraffyddol | Administrative history | Biographical sketch Nodyn | Note Ffurfiwyd Plaid Cymru ar 5 Awst 1925 mewn cyfarfod ym Mhwllheli. Ei nod ar y cychwyn oedd hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Erbyn y 1930au yr oedd y blaid yn mabwysiadu agenda gwleidyddol ehangach gyda pholisïau economaidd a chyda'r bwriad o sicrhau newid cyfansoddiadol, a ddisgrifiwyd i gychwyn fel 'statws dominiwn'. Ymladdodd y blaid ei hetholiad gyntaf yn 1929, pan enillodd Lewis Valentine 609 o bleidleisiau yn sir Gaernarfon. Wrth i gefnogaeth i'r Blaid gynyddu, cyflwynwyd mwy o ymgeiswyr a dechreuodd ennill seddi ar gynghorau lleol. Gwynfor Evans oedd AS cyntaf Plaid Cymru, trwy ennill isetholiad Caerfyrddin yn 1966. Yn 1970 ymladdodd y blaid pob sedd yng Nghymru yn yr Etholiad Cyffredinol, gan ennill dros 175,000 o bleidleisiau. Yn 1974, enillodd y blaid dwy sedd, Caernarfon a Meirionnydd. Yn dilyn Etholiad Cyffredinol 2001 yr oedd ganddi bedair sedd. Dioddefodd ymgyrch datganoli y blaid ergyd dirfawr yn dilyn ei threchu yn Refferendwm 1979. Er hynny, agorodd Refferendwm 1997 y ffordd i Gynulliad Cymru. Enillodd Plaid Cymru 17 o'r 60 sedd yn etholiadau'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Tudalen | Page 3 GB 0210 PLAMRU Archif Plaid Cymru, Cynulliad yn 1999, i'w gwneud yr ail gr#p fwyaf yn y Cynulliad. Hefyd yn 1999, enillodd Plaid Cymru dwy o'r pum sedd yn yr Etholiadau Ewropeaidd. Trefnir y blaid yn lleol yn ganghennau a phwyllgorau a elwir yn rhanbarthau, sydd yn cyfateb i etholaethau San Steffan neu ffiniau llywodraeth leol, a ffurfir o gynrychiolwyr o'r canghennau. Mae'r strwythur cenedlaethol yn cynnwys y Gynhadledd Flynyddol, y Cyngor Cenedlaethol, a ffurfir o gynrychiolwyr y canghennau a'r rhanbarthau, a Phwyllgor Gwaith Cenedlaethol, sydd yn rheoli cyllid a gweinyddiaeth y blaid. Cyflogir chwe aelod o staff, yn cynnwys ei phrif weithredwr, yn swyddfa genedlaethol Plaid Cymru yng Nghaerdydd,. Mae wyth swyddfa gyflogedig arall ar hyd a lled Cymru ynghyd â swyddfeydd etholaethol. Llywydd cyntaf Plaid Cymru oedd Lewis Valentine, a olynwyd gan Saunders Lewis, 1926-1939, J.E. Daniel, 1939-1945,Gwynfor Evans,1945-1981, Dafydd Wigley, 1981-1984 a 1991-2000, Dafydd Elis Thomas, 1984-1991, Ieuan Wyn Jones, 2000-2003 a Dafydd Iwan ers 2003. J. E. Jones (1905-1970) oedd yr ysgrifennydd cyffredinol a threfnydd, 1930-1962, ac ymunodd Elwyn Roberts ag ef ar ôl Yr Ail Ryfel Byd. Teitl swyddogol y blaid (ers 1999) yw is Plaid Cymru - The Party of Wales. Natur a chynnwys | Scope and content Cofnodion Plaid Cymru, 1915-1999, yn cynnwys cofnodion, agenda and gohebiaeth y pwyllgor gwaith a phwyllgorau eraill, 1925-1997; gohebiaeth gyffredinol, 1925-1998, gyda nifer o aelodau a swyddogion blaenllaw y blaid; cofnodion, gohebiaeth a phapurau eraill y gwahanol bwyllgorau rhanbarthol, 1925-1997, a changhennau,1930-1992; cofnodion a dogfennaeth y Cyngor Cenedlaethol, 1967-1997; cofnodion ariannol, yn cynnwys rhai papur newydd misol y blaid Y Ddraig Goch a Welsh Nation a Chronfa G#yl Ddewi, 1927-1996; rhaglenni a threfniadau ar gyfer cynadleddau ac Ysgolion Haf, 1933-1998; cofnodion aelodaeth, 1930-1996; papurau y Gr#p Ymchwil, [c.1960]-1995; papurau, yn cynnwys areithiau ac effemera, yn ymwneud ag etholiadau, 1929-1999; papurau yn ymwneud ag Adran y Menywod, 1924-1996, a'r Mudiad Ieuenctid, 1964-1998; papurau yn ymwneud â refferendwm datganoli 1979,1969-1983, a refferendwm 1997, a Chynulliad Cymru,1992-1998; papurau yn ymwneud â Y Ddraig Goch, Welsh Nation a chyhoeddiadau eraill, 1932-1996; deunydd printiedig gan Blaid Cymru ac eraill yn cynnwys llyfrau, cyfnodolion a phamffledi,1913-1996; torion o'r wasg, 1924-1996; cylchlythyron, 1938-1992; papurau yn ymwneud â'r Blaid Seneddol,1980-1996; papurau unigolion ac rhai ar wahanol bynciau amrywiol, 1926-1998 = Records of Plaid Cymru, 1915-1999, including minutes, agendas and correspondence of the executive and other committees, 1925-1997; general correspondence, 1925-1998, with many prominent party members and officials; minutes, correspondence and other papers of the various regional committees, 1925-1997, and branches, 1930-1992; minutes and records of the National Council, 1967-1997; financial records, including those of the party's monthly newspaper Y Ddraig Goch and Welsh Nation and Cronfa Gwyl Dewi, 1927-1996; arrangements for and programmes of conferences and Summer Schools, 1933-1998; membership records, 1930-1996; papers of the Gr#p Ymchwil (research group), [c.1960]-1995; papers, including speeches and ephemera, relating to elections, 1929-1999; papers relating to the Adran Menywod (Women's Section), 1934-1996, and the Mudiad Ieuenctid (Youth Movement), 1964-1998; papers relating to the 1979 devolution referendum, 1969-1983, and the 1997 referendum and Welsh Assembly, 1992-1998; papers relating to Y Ddraig Goch, Welsh Nation and other publications, 1932-1996; printed matter by Plaid Cymru and others including books, periodicals and pamphlets, 1913-1996; press cuttings, 1924-1996; circulars, 1938-1992; papers relating to the Parliamentary Party, 1980-1996; papers of individuals and to various miscellaneous topics, 1926-1998. Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Tudalen | Page 4 GB 0210 PLAMRU Archif Plaid Cymru, Nodiadau | Notes Nodiadau teitl | Title notes Ffynhonnell | Immediate source of acquisition Adneuwyd gan Blaid Cymru, Caerdydd, Aberystwyth a Llundain, 1967-1998, a thrwy law J. E. Jones, Caerdydd, 1953-1960, Elwyn Roberts, 1966-1988, Dafydd Williams, 1974-1997, Nans Jones, Caerdydd, 1983, Gwyneth Roberts, Abergynolwyn, 1988, Gwynfor Evans, 1988, Cynog Dafis, 1997, Karl Davies, 1997, Siôn Jobbins, Aberystwyth, 1998, a Ioan Bellin, 1998. Adneuwyd grwpiau eraill gan Olwen Jones, Caernarfon, trwy law Elwyn Roberts, 1982 Trefniant | Arrangement Trefnwyd fel a ganlyn: y pwyllgor gwaith; gohebiaeth gyffredinol; siroedd/rhanbarthau; canghennau; y Cyngor Cenedlaethol; cyllid; cynadleddau ac ysgolion haf; aelodaeth; ymchwil; etholiadau; adran y menywod; refferendwm 1979; pynciau cyffredinol; cyhoeddiadau; deunydd printiedig; torion o'r wasg; mudiad ieuenctid; cylchlythyron; refferendwm 1997; y blaid seneddol; papurau unigolion; papurau amrywiol. Cyfyngiadau ar fynediad | Restrictions on access Mae cynnwys yr archif dan embargo am ddeng mlynedd. Rhaid cael caniatâd yr ysgrifennydd cyffredinol yn swyddfa Plaid Cymru, Caerdydd, cyn cael gweld deunydd sydd o fewn y cyfnod hwn. Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'. Amodau rheoli defnydd | Conditions governing use Amodau hawlfraint arferol. Rhestrau cymorth | Finding aids Ceir copïau caled o'r catalogau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalogau ar gael ar lein. Disgrifiadau deunydd | Related material Ceir dwy gaset yn LlGC, Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru CM 8088-9. Mae deunydd pellach Plaid Cymru i'w cael yn LlGC: Cynog Dafis, Dafydd Elis Thomas, Dafydd Wigley

View Full Text

Details

  • File Type
    pdf
  • Upload Time
    -
  • Content Languages
    English
  • Upload User
    Anonymous/Not logged-in
  • File Pages
    330 Page
  • File Size
    -

Download

Channel Download Status
Express Download Enable

Copyright

We respect the copyrights and intellectual property rights of all users. All uploaded documents are either original works of the uploader or authorized works of the rightful owners.

  • Not to be reproduced or distributed without explicit permission.
  • Not used for commercial purposes outside of approved use cases.
  • Not used to infringe on the rights of the original creators.
  • If you believe any content infringes your copyright, please contact us immediately.

Support

For help with questions, suggestions, or problems, please contact us