Cynllun Datblygu Lleol Ar Y Cyd Gwynedd a Môn 2011

Cynllun Datblygu Lleol Ar Y Cyd Gwynedd a Môn 2011

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011 - 2026 2ail Adroddiad Monitro Blynyddol (DRAFFT) 1 Ebrill 2019 ­ 31 Mawrth 2020 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn 2011-2026 ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL (DRAFFT) 1 EBRILL 2019 – 31 MAWRTH 2020 2ail Adroddiad Monitro Blynyddol Cynnwys CRYNODEB GWEITHREDOL ..................................................................................................................... 3 Casgliadau Allweddol yr AMB ............................................................................................................. 6 Monitro’r Asesiad Cynaliadwyedd ...................................................................................................... 7 PENNOD 1: CYFLWYNIAD ............................................................................................................... 8 Beth yw’r AMB? .................................................................................................................................. 9 Dangosyddion ..................................................................................................................................... 9 Trothwyon ......................................................................................................................................... 10 Camau gweithredu ............................................................................................................................ 10 Adolygu’r Cynllun .............................................................................................................................. 11 Strwythur a chynnwys ....................................................................................................................... 12 PENNOD 2: DADANSODDI NEWID CYD-DESTUNOL ARWYDDOCAOL ............................................. 13 Y CYD- DESTUN CENEDLAETHOL ....................................................................................................... 13 Y CYD- DESTUN RHANBARTHOL ........................................................................................................ 15 Y CYD- DESTUN LLEOL ....................................................................................................................... 16 CASGLIAD .......................................................................................................................................... 17 PENNOD 3: DADANSODDIAD O DDANGOSYDDION .............................................................................. 18 6.1 Cymunedau Diogel, Iach, Nodedig a Bywiog ........................................................................ 20 6.2 Byw’n Gynaliadwy ................................................................................................................. 34 6.3 ECONOMI AC ADFYWIO ........................................................................................................ 48 6.4 Cyflenwad ac Ansawdd Tai.................................................................................................... 66 6.5 Amgylchedd Naturiol ac Adeiledig ........................................................................................ 27 PENNOD 4: CASGLIADAU AG ARGYMHELLION ..................................................................................... 35 Atodiad 1: Monitro’r Arfarniad Cynaliadwyedd ................................................................................... 39 Atodiad 2 – Dosbarthiad Caniatadau Preswyl ...................................................................................... 54 CRYNODEB GWEITHREDOL i. Mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl ar y Cyd) ar 31 Gorffennaf 2017. Mae ardal y CDLl ar y Cyd yn cynnwys Ynys Môn ac ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd. Nid yw’n cynnwys y rhannau o Wynedd sydd oddi mewn i Barc Cenedlaethol Eryri. ii. Mae monitro yn rhan barhaus o’r broses o lunio cynllun. Monitro yw’r cysylltiad rhwng casglu tystiolaeth, strategaeth y cynllun a’r gwaith llunio polisïau, gweithredu polisïau, gwerthuso ac adolygu’r cynllun. Mae’r Fframwaith Monitro wedi’i nodi ym Mhennod 7 o’r CDLl ar y Cyd. Mae’n cynnwys cyfanswm o 70 o ddangosyddion sy'n cael eu defnyddio i fonitro effeithiolrwydd y Cynllun a'i bolisïau. Mae’n cynnwys cyfres o dargedau ac yn diffinio trothwyon sy’n sbardun i arwain at weithredu pellach, pan fydd angen hynny. Cafodd y Fframwaith Monitro ei ddatblygu yn unol â Rheoliadau Llywodraeth Cymru a gafodd ei ystyried yn yr Archwiliad Cyhoeddus o’r CDLl ar y Cyd. iii. Fel rhan o broses statudol y cynllun datblygu, mae’n rhaid i'r Cynghorau baratoi Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB). Y Fframwaith Monitro yw sylfaen yr AMB. Bydd yr AMB yn cofnodi’r gwaith o asesu’r dangosyddion ac unrhyw newidiadau cyd-destunol pwysig a allai ddylanwadu ar weithredu’r CDLl ar y Cyd. Dros gyfnod amser mae'n gyfle i'r Cynghorau asesu effaith y CDLl ar y Cyd ar lesiant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ardal y Cynllun. iv. Hwn yw'r ail AMB i gael ei baratoi ers i'r CDLl ar y Cyd gael ei fabwysiadu. Mae'r AMB hwn yn edrych y cyfnod rhwng 1af o Ebrill 2019 hyd at 31 Mawrth 2020. Fel arfer mae’n ofynnol cyflwyno’r Adroddiad i Lywodraeth Cymru a’i gyhoeddi ar wefannau’r Cynghorau erbyn 31 Hydref 2020. Eleni, yn sigl pandemig Covid-19, mae Julie James AS wedi datgan na fydd angen i Awdurdodau Cynllunio Lleol gyflwyno’r Adroddiad Monitro Blynyddol yn ystod mis Hydref. Oherwydd cyfyngiadau Covid-19 nid ydi wedi bod yn bosib casglu gwybodaeth lawn ar gyfer rhai o’r dangosyddion, gan fod y wybodaeth ddim yn hollol gyflawn mae’r adroddiad yn un drafft. Mi fydd gwybodaeth ar gyfer dwy flynedd yn cael ei gyflwyno i’r Llywodraeth yn Hydref 2021. v. Gan mai dim ond yr ail Adroddiad Monitro Blynyddol yw hwn, mae unrhyw gasgliadau o ddadansoddiad y dangosyddion a gynhwysir yn y Fframwaith Fonitro yn rhai rhagarweiniol. Mae'r AMB hwn yn darparu sylfaen dystiolaeth bwysig ac er y gellir gwneud cymhariaeth gyda thystiolaeth a chasgliadau’r AMB cyntaf, nid yw’n bosib adnabod unrhyw dueddiadau oherwydd mae'r rhain yn datblygu dros amser. Bydd y wybodaeth a nodir yn AMBau y blynyddoedd nesaf yn helpu i sefydlu tueddiadau, y bydd dros dair blynedd wedi bod ers mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Mae'n werth nodi y bydd cynnwys AMB3 yn cynnwys gwybodaeth am benderfyniadau ar geisiadau cynllunio a datblygiadau a fydd wedi digwydd yn ystod pandemig Covid-19. vi. Fel cymorth gweledol wrth fonitro effeithiolrwydd polisïau ac i roi trosolwg o berfformiad, mae dangosyddion allweddol a chanlyniadau'n cael eu dangos fel a ganlyn: Nifer o Symbol Disgrifiad Ddangosyddion Mae polisi lleol yn cyfrannu tuag at gyflawni amcanion y Cynllun ac yn perfformio'n unol 32 neu’n well na’r disgwyliadau. Nid yw’r targed polisi ar hyn o bryd yn cael ei gyflawni fel y rhagwelwyd ond nid yw hynny’n 31 arwain at bryderon ynghylch gweithredu'r polisi. Nid yw polisi lleol yn darparu canlyniad disgwyliedig ac mae pryderon canlyniadol 1 ynglŷn â gweithrediad y Polisi. Nid oes casgliad – mae’r data sydd ar gael yn 1 brin. vii. Ceir crynodeb byr o'r canlyniad o asesu’r dangosyddion yn y tabl canlynol: Tabl A: Crynodeb o gasgliadau’r asesiad o ddangosyddion y Fframwaith Fonitro Nifer o Asesiad Gweithred ddangosyddion yn y categori Ble mae dangosyddion yn Dim gweithred bellach ei awgrymu fod polisïau CDLl yn angen heblaw am barhau 61 cael eu gweithredu’n effeithiol gyda monitro Asesiad o’r penderfyniadau ar geisiadau cynllunio yn Efallai bod angen hyfforddi awgrymu nad yw polisïau yn 0 Swyddog a / neu Aelod cael eu gweithredu yn y modd y’i bwriedir Asesiad yn awgrymu bod 0 Cyhoeddi Canllaw Cynllunio angen canllaw pellach yn Atodol ychwanegol, a all ychwanegol i’r rhai sydd wedi gynnwys briffiau datblygu eu hadnabod yn y Cynllun er safleoedd penodol, mwyn i) egluro sut ddylai gweithio’n agos gyda’r sector gweithredu polisi yn gywir, neu breifat a darparwyr ii) i hwyluso datblygiad isadeiledd, ble’n berthnasol. safleoedd penodol. Ymchwil pellach ac 0 ymchwiliad ei angen, gan Asesiad yn awgrymu nad yw gynnwys edrych ar polisi mor effeithiol a wybodaeth gyd-destunol am disgwyliwyd iddo fod. ar ardal y Cynllun neu faes testun. Asesiad yn awgrymu nad yw Adolygu’r polisi yn unol â 0 polisi yn cael ei weithredu hynny Asesiad yn awgrymu nad yw’r 0 strategaeth yn cael ei Adolygu’r Cynllun weithredu Dim angen gweithrediad 4 Targed wedi ei gyflawni. pellach. viii. Fel y gwelir uchod, nid yw mwyafrif y dangosyddion angen unrhyw weithred bellach ar wahân i barhau i fonitro. Mae rhai dangosyddion wedi eu lliwio mewn llwyd gan eu bod wedi eu cyflawni ac felly nid oes angen unrhyw weithredu pellach ac o’r herwydd nid ydynt wedi eu nodi uchod. ix. Mae nifer bach o ddangosyddion yn ymwneud â pharatoi’r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA), a gweler nad yw’r gyfres o CCA wedi eu paratoi erbyn y dyddiad targed. Ym mhob achos, fodd bynnag, cofnodir rhesymau i gyfiawnhau’r oedi wrth baratoi'r CCA a dangosir byddant yn cael eu hystyried ar gyfer eu mabwysiadu cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl. Ble fo dangosydd yn ymwneud â CCA sydd wedi ei fabwysiadu mae’r weithred wedi ei liwio’n llwyd gan nad yw unrhyw weithredu pellach yn angenrheidiol mewn perthynas â’r dangosydd. x. Wrth asesu perfformiad y CDLl ar y Cyd, yn ogystal ag ystyried y dangosyddion, mae rhaid i’r AMB ystyried unrhyw newidiadau cyd-destunol cenedlaethol, rhanbarthol a lleol sydd wedi digwydd yn y flwyddyn flaenorol. Rhaid hefyd ystyried effaith ganlyniadol y newidiadau hyn ar y CDLl ar y Cyd. Casgliadau Allweddol yr AMB Rhoddwyd caniatâd ar gyfer 507 o unedau preswyl newydd

View Full Text

Details

  • File Type
    pdf
  • Upload Time
    -
  • Content Languages
    English
  • Upload User
    Anonymous/Not logged-in
  • File Pages
    137 Page
  • File Size
    -

Download

Channel Download Status
Express Download Enable

Copyright

We respect the copyrights and intellectual property rights of all users. All uploaded documents are either original works of the uploader or authorized works of the rightful owners.

  • Not to be reproduced or distributed without explicit permission.
  • Not used for commercial purposes outside of approved use cases.
  • Not used to infringe on the rights of the original creators.
  • If you believe any content infringes your copyright, please contact us immediately.

Support

For help with questions, suggestions, or problems, please contact us