Adolygiad Cymunedau 2013/14 Adolygiad o Ffiniau a Threfniadau Etholiadol Cymunedau Bwrdeistref Sirol Castell‐nedd Port Talbot CYNIGION DRAFFT – ATODIAD C (CASTELL‐NEDD) CYMUNED BLAENGWRACH Cynigion Drafft Ni chafwyd yr un cyflwyniad ynglŷn â Chymuned Blaengwrach. Y Cynnig: Dim Newid Cyflwyniadau a Wrthodwyd 1) Ni wrthodwyd yr un ohonynt CYMUNED BLAENHONDDAN (WARDIAU ABERDULAIS, GOGLEDD BRYNCOCH, DE BRYNCOCH, LLANGATWG A CHILFFRIW) Cynigion Drafft Cafwyd un cyflwyniad i beidio â gwneud yr un newid. Fodd bynnag, hoffai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gynnig y newid canlynol: CR002 – Newid Trefn Etholiadol Cyngor Cymuned Blaenhonddan (Ward Gogledd Bryncoch) o Tynnu un Cynghorydd Cymuned o Ward Gogledd Bryncoch o Mae'r cynnig hwn yn gysylltiedig â CR003 CR003 ‐ Newid Trefn Etholiadol Cyngor Cymuned Blaenhonddan (Ward De Bryncoch) o Ychwanegu un Cynghorydd Cymuned at Ward De Bryncoch o Mae'r cynnig hwn yn gysylltiedig â CR002 1) Adolygiad o'r cyflwyniadau: CR002/CR003 – Newid Trefn Etholiadol Cyngor Cymuned Blaenhonddan Trefniadau etholiadol presennol Cyngor Cymuned Blaenhonddan yw bod 18 Cynghorydd Cymuned yn cynrychioli 9,609 o etholwyr a'r gymhareb aelodau/etholwyr yw 534. Cymhareb gynrychioli bresennol Gogledd Bryncoch yw 5 Cynghorydd Cymuned yn cynrychioli 1,857 o etholwyr a'r gymhareb aelodau/etholwyr yw 371, a chynrychiolaeth Ward De Bryncoch yw 6 Chynghorydd Cymuned yn cynrychioli 4,596 o etholwyr a'r gymhareb aelodau/etholwyr yw 766. Mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol wedi penderfynu nad yw'r trefniadau ethol presennol yn y ddwy ward hyn yn rhoi cynrychiolaeth gyfartal. Byddai tynnu un Cynghorydd Cymuned o Ward Gogledd Bryncoch yn lleihau cynrychiolaeth gyffredinol y ward i 4 Cynghorydd Cymuned a'r gymhareb aelodau/etholwyr fyddai 464. Wedyn, cynigir rhoi Cynghorydd Cymuned ychwanegol i Ward De Bryncoch i 1 Community.Review.2013/14_Draft.Proposals.AppxC ystyried ei maint poblogaeth uwch. Byddai hyn yn cynyddu cynrychiolaeth y ward gymuned i 7 Cynghorydd Cymuned a'r gymhareb aelodau/etholwyr fyddai 657. Cyflwyniadau a Wrthodwyd 1) Cafwyd un cyflwyniad ynglŷn â Chyngor Cymuned Blaenhonddan yn gyffredinol. Cynigiodd beidio â newid ffiniau etholiadol Cymuned Blaenhonddan ac i'r sefyllfa bresennol barhau. Er bod hyn wedi'i dderbyn yn rhannol gan nad awgrymwyd yr un newid arfaethedig i ffiniau Wardiau Cymuned Blaenhonddan, mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn teimlo nad yw'r trefniadau etholiadol presennol yn cynnig cynrychiolaeth gyfartal ar draws pedair ward cymuned Cyngor Cymuned Blaenhonddan. CYMUNED CILYBEBYLL (WARDIAU ALLTWEN, GELLINUDD A RHOS) Cynigion Drafft Cafwyd un cyflwyniad i beidio â newid y trefniadau cymuned presennol. Ar ôl cynnal adolygiad, mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cynnig y dylai'r trefniadau presennol aros yn eu lle ar gyfer Cymuned Cilybebyll. Y Cynnig: Dim Newid Cyflwyniadau a Wrthodwyd 1) Ni wrthodwyd yr un ohonynt CYMUNED Y CLUN A MELIN‐CWRT Cynigion Drafft Ni chafwyd yr un cyflwyniad ynglŷn â Chymuned y Clun a Melin‐cwrt. Ar ôl cynnal adolygiad, mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cynnig y dylai'r trefniadau presennol aros yn eu lle ar gyfer Cymuned y Clun a Melin‐cwrt. Y Cynnig: Dim Newid Cyflwyniadau a Wrthodwyd 1) Ni wrthodwyd yr un ohonynt CYMUNED Y CREUNANT Cynigion Drafft Ni chafwyd yr un cyflwyniad ynglŷn â Chymuned y Creunant. Ar ôl cynnal adolygiad, mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cynnig y dylai'r trefniadau presennol aros yn eu lle ar gyfer Cymuned y Creunant. Y Cynnig: Dim Newid 2 Community.Review.2013/14_Draft.Proposals.AppxC Cyflwyniadau a Wrthodwyd 1) Ni wrthodwyd yr un ohonynt CYMUNED CWMLLYNFELL (WARDIAU CWMLLYNFELL A PHENRHIWFAWR) Cynigion Drafft Cafwyd un cyflwyniad i beidio â newid y trefniadau cymuned presennol. Ar ôl cynnal adolygiad, mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cynnig y dylai'r trefniadau presennol aros yn eu lle ar gyfer Cymuned Cwmllynfell. Y Cynnig: Dim Newid Cyflwyniadau a Wrthodwyd 1) Ni wrthodwyd yr un ohonynt CYMUNED DYFFRYN CLYDACH Cynigion Drafft Ni chafwyd yr un cyflwyniad ynglŷn â Chymuned Dyffryn Clydach. Ar ôl cynnal adolygiad, mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cynnig y dylai'r trefniadau presennol aros yn eu lle ar gyfer Cymuned Dyffryn Clydach. Y Cynnig: Dim Newid Cyflwyniadau a Wrthodwyd 1) Ni wrthodwyd yr un ohonynt CYMUNED GLYN‐NEDD (WARDIAU CANOL, DWYRAIN, GORLLEWIN A GORLLEWIN CANOL) Cynigion Drafft Cafwyd un cyflwyniad i beidio â newid y trefniadau cymuned presennol. Ar ôl cynnal adolygiad, mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cynnig y dylai'r trefniadau presennol aros yn eu lle ar gyfer Cymuned Glyn‐nedd. Y Cynnig: Dim Newid Cyflwyniadau a Wrthodwyd 1) Ni wrthodwyd yr un ohonynt CYMUNED GWAUNCAEGURWEN (WARDIAU CWMGORS, GWAUNCAEGURWEN, BRYNAMAN ISAF A THAI’R GWAITH) Cynigion Drafft 3 Community.Review.2013/14_Draft.Proposals.AppxC Cafwyd un cyflwyniad i beidio â newid y trefniadau cymuned presennol. Ar ôl cynnal adolygiad, mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cynnig y dylai'r trefniadau presennol aros yn eu lle ar gyfer Cymuned Gwauncaegurwen. Y Cynnig: Dim Newid Cyflwyniadau a Wrthodwyd 1) Ni wrthodwyd yr un ohonynt CYMUNED CASTELL‐NEDD (WARDIAU CEFN SAESON, CRYNALLT, MELIN CRYDDAN, PENRHIWTYN, CASTELL, LLANTWIT, Y GNOLL A MOUNT PLEASANT) Cynigion Drafft Cafwyd dau gyflwyniad i beidio â gwneud yr un newid. Fodd bynnag, hoffai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gynnig y newid canlynol: CR006 ‐ Newid Trefn Etholiadol Cyngor Tref Castell‐nedd (Ward Cefn Saeson) o Ychwanegu un Cynghorydd Tref at Ward Cefn Saeson 1) Adolygiad o'r cyflwyniadau: CR006 – Newid Trefn Etholiadol Cyngor Tref Castell‐ nedd Trefniadau etholiadol presennol Cyngor Tref Castell‐nedd yw bod 18 Cynghorydd Cymuned yn cynrychioli 14,847 o etholwyr a'r gymhareb aelodau/etholwyr yw 825. Yn seiliedig ar arweiniad 1976 gan hen Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru, tangynrychiolir Cyngor Tref Castell‐nedd o un aelod ar hyn o bryd. Felly, y cynnig cychwynnol yw cynyddu nifer y Cynghorwyr Cymuned yn gyffredinol ar gyfer Cyngor Tref Castell‐nedd i 19. Ar ôl cynnal adolygiad, nodwyd bod gan Gymuned Cefn Saeson 2 Gynghorydd Cymuned ar hyn o bryd yn cynrychioli 2,214 o etholwyr, ac mae gan Ward Cymuned Melin Cryddan 3 Chynghorydd Cymuned ar hyn o bryd yn cynrychioli 2,202 o etholwyr. Gan hynny, penderfynwyd nad oes gan Ward Cymuned Cefn Saeson gynrychiolaeth deg a digonol ar hyn o bryd o'i chymharu â wardiau cymuned eraill o faint tebyg. Felly, cynigir dyrannu Cynghorydd Cymuned ychwanegol i Ward Cymuned Cefn Saeson i ail‐gydbwyso’i chynrychiolaeth aelodau/etholwyr. Cynigion a Wrthodwyd 1) Adolygiad o'r cyflwyniadau – Tynnu Cynghorwyr Bwrdeistref Sirol o Gynghorau Tref/Cymuned Cafwyd un cyflwyniad i dynnu Cynghorwyr Bwrdeistref Sirol o gynghorau tref/cymuned oherwydd y gwrthdrawiadau buddiannau amlwg a mynych. Gwrthodwyd y cynnig hwn gan nad oedd yn gysylltiedig â'r adolygiad o ardaloedd cymunedau a gynhelir ar hyn o bryd. 2) Adolygiad o'r Cyflwyniadau ‐ Anfodlonrwydd ar reolaeth y cyngor cymuned/tref 4 Community.Review.2013/14_Draft.Proposals.AppxC Cafwyd un cyflwyniad nad oedd yn rhoi cynigion penodol, ond yn amlinellu anfodlonrwydd ar rai o'r penderfyniadau a datblygiadau diweddar. Gwrthodwyd y sylw hwn gan nad oedd yn gysylltiedig â'r adolygiad o ardaloedd cymunedau a gynhelir ar hyn o bryd. CYMUNED ONLLWYN Cynigion Drafft Cafwyd dau gyflwyniad i beidio â newid y trefniadau cymuned presennol. Ar ôl cynnal adolygiad, mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cynnig y dylai'r trefniadau presennol aros yn eu lle ar gyfer Cymuned Onllwyn. Y Cynnig: Dim Newid Cyflwyniadau a Wrthodwyd 1) Ni wrthodwyd yr un ohonynt CYMUNED PELENNA Cynigion Drafft Cafwyd dau gyflwyniad i addasu ffin presennol Cymuned Pelenna. Ar ôl cynnal adolygiad, mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cynnig y dylai'r trefniadau presennol aros yn eu lle ar gyfer Cymuned Pelenna. Y Cynnig: Dim Newid Cyflwyniadau a Wrthodwyd 1) Roedd y ddau gyflwyniad a gafwyd yn awgrymu addasu ffin Cymuned Pelenna a fyddai wedyn yn effeithio ar drefniadau ffin dwy adran etholiadol gyfagos yn ogystal â dwy etholaeth seneddol wahanol. Gan hynny, er bod rhywfaint o werth i'r cynigion mân, oherwydd y goblygiadau y byddai'r addasiad hwn yn eu cael o ran trefniadau ffin i'r prif awdurdod lleol yn ogystal â ffiniau etholaeth seneddol Castell‐nedd ac Aberafan, cynigir peidio â bwrw ymlaen â'r awgrym hwn ar yr adeg hon. Fodd bynnag, caiff hyn ei gadw dan adolygiad. CYMUNED PONTARDAWE (WARDIAU PONTARDAWE, RHYD‐Y‐FRO A THREBANNWS) Cynigion Drafft Ni chafwyd yr un cyflwyniad ynglŷn â Chymuned Pontardawe. Fodd bynnag, hoffai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gynnig y newid canlynol: CR008 – Newid Trefn Etholiadol Cyngor Tref Pontardawe (Ward Pontardawe) o Ychwanegu tri Chynghorydd Cymuned at Ward Pontardawe 5 Community.Review.2013/14_Draft.Proposals.AppxC o Mae'r cynnig hwn yn gysylltiedig â CR009 a CR010 CR009 – Newid Trefn Etholiadol Cyngor Tref Pontardawe (Ward Rhyd‐y‐Fro) o Tynnu un Cynghorydd Cymuned o Ward Rhyd‐y‐Fro o Mae'r cynnig hwn yn gysylltiedig â CR008 a CR010 CR010 – Newid Trefn Etholiadol Cyngor Tref Pontardawe (Ward Trebannws) o Tynnu dau Gynghorydd Cymuned o Ward Trebannws o Mae'r cynnig hwn yn gysylltiedig â CR008 a CR009 1) Adolygiad o'r cyflwyniadau: CR008/CR009/CR010 – Newid Trefn Etholiadol Cyngor Tref Pontardawe Trefniadau etholiadol presennol Cyngor Tref Pontardawe yw bod 16 Cynghorydd Cymuned yn cynrychioli 5,267 o etholwyr a'r gymhareb aelodau/etholwyr yw 329. Cynrychiolaeth Ward Cymuned Pontardawe ar hyn o bryd yw 7 Cynghorydd Cymuned yn cynrychioli 3,594 o etholwyr a'r gymhareb aelodau/etholwyr yw 513. Cynrychiolaeth Ward Cymuned Rhyd‐y‐Fro ar hyn o bryd yw 3 Chynghorydd Cymuned yn cynrychioli 550 o etholwyr a'r gymhareb aelodau/etholwyr yw 183. Cynrychiolaeth Ward Cymuned Trebannws ar hyn o bryd yw 6 Chynghorydd Cymuned yn cynrychioli 1,123 o etholwyr a'r gymhareb aelodau/etholwyr yw 187. Mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol wedi penderfynu nad yw'r trefniadau ethol presennol yn y tair ward hyn yn rhoi cynrychiolaeth gyfartal.
Details
-
File Typepdf
-
Upload Time-
-
Content LanguagesEnglish
-
Upload UserAnonymous/Not logged-in
-
File Pages8 Page
-
File Size-