
CRYNODEB CYFARFOD Cyngor Cymuned Llandderfel Nos Fawrth, Gorffennaf 6ed 2021 am 7.30 o’r gloch trwy gyfrwng “Zoom” Presennol: Rita Jones (cadeiryddes), Alwyn Jones, Iolo V. Evans, Eilir Rowlands, Eifion Davies, Bethan Thomas, Cyng. Elwyn Edwards a’r clerc. Ymddiheuriadau: Gwenda Evans, Gary Thomas. i) Darllen a chadarnhau’r Cofnodion (Mehefin 1af 2021) CYTUNWYD ii) Datgan Buddiant - DIM iii) Materion yn codi o’r Cofnodion. a) Ymateb i’r cwynion o’r cyfarfod diwethaf - NODWYD b) Mynwentydd - YN ANFFODUS NID OEDD Y CLERC WEDI DERBYN Y PRISIAU YCHWANEGOL ER MWYN GWNEUD PENDERFYNIAD AM DRWSIO GIATIAU MYNWENT LLANDDERFEL. CYTUNWYD I’W ADAEL TAN FIS MEDI. c) Les newydd i Barc Chwarae Frongoch - CYTUNWYD I ARWYDDO’R CYTUNDEB NEWYDD A DERBYN EU CYNNIG I DALU’R RHENT MEWN UN SWM (10 X £1) YN HYTRACH NA £1 UNIGOL Y FLWYDDYN. iv) Gohebiaeth a) Cyngor Gwynedd. i) Gwaharddiad Trafnidiaeth, 23/06/21. Llanfor - NODWYD ii) Gwaharddiad Trafnidiaeth, 23/06/21. Bethel - NODWYD b) Llywodraeth Cymru. i) Ymgynghoriad ar Reoliadau Cymwysterau Clercod yng Nghymru – CYTUNWYD I YMATEB I’R YMGYNGHORIAD. ii) Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer tymor y Senedd hon ynghyd â’r Datganiad Llesiant cysylltiedig - NODWYD c) Amrywiol. i) Cadwch Gymru’n Daclus – Pecyn gardd am ddim - NODWYD ii) Cyngor Tref Nefyn - Creu memorandum o ddealltwriaeth ynglŷn â Polisi Iaith – DATGAN DIDDORDEB. iii) Cyngor Cymuned Pistyll – problem parcio ‘campervans’ - DATGAN DIDDORDEB. iv) Mabon Ap Gwynfor – diogelwch ar yr A494, Glanrafon i Ddwyryd – CYTUNWYD I’W AWGRYM FOD Y CYNGOR YN NODI EU PRYDERON AR WEFAN GAN BWYLL. v) Ceisiadau Cynllunio C21/0427/04/DT - Gwaith dymchwel ac ymestyn gydag addasiadau i dy annedd ac adeiladau cwrtil. Cae Wlff, Llandderfel - CEFNOGWYD C21/0552/04/LL – Creu gardd newydd a thirlunio, codi porth i 3 car, codi ty haf, gosod tanc LPG ac ail godi ac ail doi ty bach allanol. Garth Lwyd, Llandderfel - CEFNOGWYD C21/0531/04/LL - Newid defnydd a throsi adeiladau allanol domestig i ffurfio unedau gwyliau i'w gosod (3 uned) Bodwenni Hall, Llandderfel - CYTUNWYD I NODI PRYDER Y CYNGOR AM DDIOGELWCH Y FYNEDFA GYDA’R CYNNYDD MEWN TRAFNIDIAETH OHERWYDD Y DATBLYGIADAU NEWYDD. vi) Materion Ariannol a) Adroddiad Ariannol (monitro derbyniadau a thaliadau) CYMERADWYO. b) Taliadau – Cyflog a Costau’r Clerc (Ebr-Meh) - £554.56, TWE - £101.80, ad-daliad i’r clerc cofrestr mynwent £224.40 – CYTUNWYD I’W TALU. c) Cais ariannol – Hosbis Dewi Sant – CYTUNWYD I’W GADW A’I DRAFOD YM MIS MAWRTH. vii) Materion lleol. a) Neuadd Sarnau – CYTUNWYD I DREFNU CYFARFOD GYDA PHWYLLGOR Y NEUADD I DRAFOD TREFNIADAU LES. b) CYTUNWYD I ANFON Y CWYNION I’R ADRANNAU PERTHNASOL. Cadarnhau dyddiad a lleoliad y cyfarfod nesaf: lleoliad / cyfrwng ac amser yn ddibynnol ar amgylchiadau Covid 19 Bethan Jones, Clerc .
Details
-
File Typepdf
-
Upload Time-
-
Content LanguagesEnglish
-
Upload UserAnonymous/Not logged-in
-
File Pages2 Page
-
File Size-