Welsh Homes) by Owen M

Welsh Homes) by Owen M

Cartrefi Cymru (Welsh Homes) by Owen M. Edwards Cartrefi Cymru (Welsh Homes) by Owen M. Edwards this text differ from those in modern usage. Later editions of Cartrefi Cymru did modify some of the spellings. However, the transcription comes from the first edition and the text has been reproduced as it appears in that edition.] CARTREFI CYMRU GAN OWEN M. EDWARDS. CYNHWYSIAD. I.--DOLWAR FECHAN,--CARTREF EMYNYDDES. Ymysg bryniau Maldwyn y mae Dolwar Fechan, yn un o'r hafannau bychain gwyrddion sydd rhwng Llanfihangel yng Ngwynfa a dyffryn y Fyrnwy. Gorsaf Llanfyllin yw'r agosaf. page 1 / 129 Ganwyd Ann Griffiths Ebrill 1776, bu farw yn Awst 1805. II.--TY COCH,--CARTREF PREGETHWR. Saif yng nghysgod y graig aruthrol goronir gan adfeilion castell Carn Dochan ym Mhenanlliw ramantus, yng nghanol Meirion. Ganwyd Robert Thomas (Ap Vychan) yma, mewn tlodi mawr; a chyn marw, Ebrill 23, 1880, yr oedd wedi dod yn bregethwr enwog ac yn athraw duwinyddol. III.--GERDDI BLUOG,--CARTREF BARDD. Yng nghanol mynyddoedd Meirionnydd, uwchben dyffryn cul a rhamantus, y mae'r Gerddi Bluog. O Harlech neu Lanbedr yr eir yno. Dyma gartref Edmund Prys, swynwr yn ol cred gwlad, archddiacon Meirionnydd wrth ei swydd, a chyfieithydd melodaidd y Salmau. Ganwyd ef tua 1541, bu farw tua 1621. Nid edwyn neb le ei fedd ym Maentwrog. IV.--PANT Y CELYN,--CARTREF PER GANIEDYDD. Amaethdy ymysg bryniau Caerfyrddin, yn nyffryn Towi, yw Pant y page 2 / 129 Celyn. O Lanymddyfri yr eir yno. Ganwyd "per ganiedydd Cymru," gerllaw iddo yn 1717; bu farw yno Ionawr 11, 1791. V.--BRYN TYNORIAD,--CARTREF GWLADGARWR. Y mae Bryn Tynoriad yn nyffryn yr Wnion, ar ochr y Garneddwen, yn agos i orsaf Drws Nant. Y mae'r Ty Croes ar gyfer yr orsaf agosaf yng nhyfeiriad Dolgellau, sef y Bont Newydd. Ganwyd Ieuan Gwynedd: Medi 5, 1820, bu farw Chwefrol 23, 1852. VI.--TREFECA,--CARTREF DIWYGIWR. Yn rhan brydferthaf Sir Frycheiniog, uwchlaw Talgarth, rhwng ffrydiau Wysg ac Wy, y saif coleg a phentref bychan Trefeca,--lle wnawd gan Howel Harris yn "gartref" cymundeb o dduwiolion diwyd. Ganwyd Howel Harris Ionawr 29, 1714; bu farw Gorffennaf 21, 1773. VII.--CAER GAI.--CARTREF UCHELWYR. page 3 / 129 Hen balas Rhufeinig yw Caer Gai, ar fryncyn heulog uwch ben Llyn Tegid, yn nyffryn uchaf y Ddyfrdwy. Yr oedd y Fychaniaid, hen deulu Caer Gai, yn enwog am eu hathrylith. Y ddau fwyaf adnabyddus ohonynt ydyw Gwerfyl Fychan a Rowland Fychan. Yn amser y Rhyfel Mawr yr oedd Rowland Fychan yn byw, a Gwerfyl dipyn yn gynt. VIII. --CEFN BRITH,--CARTREF MERTHYR. Ffermdy ar lethr mynydd Epynt, wedi gweld dyddiau gwell, yw Cefn Brith. O Langamarch yr eir yno hawddaf. Ganwyd John Penri yn y lle tawel hwn yn 1559; rhoddwyd ef i farwolaeth fel bradwr, Mai 29, 1593. IX. --GLAS YNYS,--CARTREF BARDD CWSG. Y mae Glas Ynys ar fryn bychan yn codi o'r tipyn gwastadedd sy'n gorwedd rhwng mynyddoedd Meirionnydd a'r mor. O Harlech yr eir yno gyntaf. Mab Glas Ynys oedd Elis Wyn, awdwr Gweledigaethau Bardd Cwsg. Treuliodd ei fywyd yma, o'i eni yn 1671, hyd ei gladdu yn 1734, yn page 4 / 129 Llanfair gerllaw. Y mae ysgriflyfrau o'i waith yn perthyn i eglwys Llanfair. X. --TY'R FICER,--CARTREF BARDD MOES. Y mae Ty'r Ficer yn hen dref Llanymddyfri. Y mae'n awr yn adfeiliedig iawn. Ynddo y goleuwyd Canwyll y Cymry gan Rhys Prichard, "yr Hen Ficer," a anwyd yn 1579, ac a fu farw yn 1644. XI. --Y GARREG WEN,--CARTREF CANWR. Yn Sir Gaernarfon, rhwng Cricieth a Phorth Madog, y mae amaethdy'r Garreg Wen, ar lethr hyfryd, lle tyf blodau lawer mewn cysgod rhag gwynt y mor. Dafydd, mab y Garreg Wen, meddir, yw awdwr yr alawon Codiad yr Ehedydd a Dafydd y Garreg Wen. XII. --TY DDEWI,--CARTREF SANT. Saif Tyddewi ar lan mor gorllewinol Dyfed, yn eithaf sir Benfro. Ar draed neu mewn cerbyd yr eir yno, dros un bryn ar bymtheg o orsaf page 5 / 129 Hwlffordd. Cartref Dewi, nawdd sant Cymru, ydyw. Yn ol pob tebyg, cenhadwr dros Grist at baganiaid rhannau gorllewinol Cymru oedd Dewi Sant. Yr oedd yn byw rywbryd rhwng 450 a 600. DOLWAR FECHAN. Yr wyf yn eistedd mewn ystafell hirgul, gyda nenfwd isel, a ffenestri yn edrych allan i dri chyfeiriad, yn unig westy Llanfihangel yng Ngwynfa. Dyma brif ystafell y pentre,--yn hon yr ymgyferfydd pob pwyllgor gwledig, yn hon y bydd cinio rhent Syr Watcyn, yn hon yr ymgyferfydd y clwb, yn hon y traethwyd doethineb cenhedlaethau o ffermwyr ar adeg priodas a chynhebrwng. Ond heddyw y mae'n ddigon gwag, nid oes ynddi ond y ddwy res hir o gadeiriau, y ddau hen fwrdd derw, a minne deithiwr blin yn ceisio dadluddedu ac ymlonni trwy yfed trwyth rhinweddol dail yr Ind. Trwy'r drws agored gwelaf goesau meinion yr hen glochydd sy'n hepian wrth bentan y gegin, a thrwy'r tair ffenestr gwelaf y gwlaw yn ymdywallt i lawr trwy'r coedydd tewfrig deiliog, trwy'r onnen a'r fasarnen, ac hyd gadwyni aur banadlen Ffrainc. Y mae cerbyd gwlad yn fy nisgwyl, ond ni wiw cychwyn trwy wlaw taranau mor drwm,--er byfryted ydyw ar ol poethder llethol un o ddyddiau olaf Mehefin. A thra bo'r gwlaw taranau'n peidio, a'r coed yn gorffen dyferu, mi ysgrifennaf hanes digyffro taith y dydd. page 6 / 129 Yn weddol fore cychwynnais o Lanfyllin i weled gwlad Ann Griffiths,- -ei bedd, a'i chartref, os medrwn. Nid oedd y ffordd yn rhwydd i'w cherdded ar ol y gwlaw, a phan ofynnais i hen fforddolyn tal ai honno oedd ffordd Llanwddyn, atebodd yn awgrymiadol mai dyna ei dechre hi. Ond yr oedd perarogl y gwrychoedd a'r caeau, a'r lliwiau tyner, yn gwneyd iawn am drymder y ffordd. Wedi cerdded tua thair milldir dywedodd bachgennyn arafaidd wrthyf fy mod yn Llawr y Cwm, lle gwelwn gapel Methodist bychan yn ymnythu rhwng torlan ac afonig. Cyn i mi fyned nepell ymlaen, cyfarwyddodd torrwr cerrig fi i ffordd gul oedd yn gadael y ffordd fawr, ac yn dirwyn i fyny hyd ochr y bryn. Toc cyrhaeddais ben y tir, a gwelwn droliau gwaith dwr Llanwddyn yn ymlusgo i fyny'r dyffryn hyd ffordd y gwaelod. Wedi gadael cysgod coed, dois i gaeau agored, ar ben y gefnen, a gwelwn hen wr rhyngof a'r goleu, yn sefyll, ac fel pe'n disgwyl. Yr oedd yn disgwyl ei fab adre o Loegr, ond buan y trechwyd ei siomedigaeth gan gywreinrwydd. Nid rhyw lawer o son sydd am Ann Griffiths ar orarau Maldwyn yn awr, ebe'r hen ffarmwr, ac nid rhyw lawer o ganu sydd ar ei hemynnau, dim hanner cymaint a chynt. Wrth i ni ymgomio yr oedd llwyni o goed ar fryncyn o'n blaenau, a gwelwn oddiwrth eu duwch fod ywen ymysg y coed. "Dacw Lanfihangel," ebe'r hen wr, "a dacw fur y fynwent lle mae'r hen Ann wedi ei chladdu." Cerddais o amgylch y fynwent i ganol y pentref. Y mae ar fryn gweddol serth, a'r eglwys a'r fynwent yn uchaf man. O ddrws y fynwent rhed y ffordd i lawr rhwng ychydig o dai, siop pob peth, ty tafarn, ysgol waddolwyd gan un o Fychaniaid Llwydiarth, a choed ddigon. Eis i mewn i'r fynwent, sychodd pladurwr oedd yn torri gwair y beddau ei chwys, a dywedodd,--"Ie, dacw gof-golofn yr hen Ann. Peth digon page 7 / 129 rhyfedd fod y bobl yn ei galw'n hen Ann, a hithe wedi marw'n saith ar hugain oed." Cyn i mi gael hamdden i sylwi ar y fynwent, gwelwn lu o blant yr ysgol, plant iach a llawn bywyd, yn prysuro i edrych ar y dyn dieithr. Byddaf yn hoff iawn o blant gwlad,--nid ydynt yn hyfion ac yn dafotrwg fel plant tref,--a bum yn holi plant Llanfihangel yng Ngwynfa am hoff ddaearyddiaeth Cymru. Yr oeddynt yn ddeallus, a gwelwn yn eglur fod eu hathraw yn medru Cymraeg ac yn meithrin eu meddyliau. Pan oedd arnaf eisieu cael y fynwent drachefn heb neb ynddi ond myfi a'r meirw, gofynnais faint oedd pris plant yn y pentref,--plant tewion graenus fel hwy,--a chyda fod y cwestiwn dros fy ngwefusau, yr oedd eu cefnau oll tuag ataf, a llu o draed bychain yn cyflymu i lawr y llwybr hir sydd rhwng porth yr eglwys a drws y fynwent. A gadawyd fi'n unig ymysg y beddau. Safle caer yw safle mynwent Llanfihangel yng Ngwynfa,--saif ar fryncyn, nid yr uchaf yn y gymydogaeth, ond un o'r rhai uchaf. O'r porth sy'n wynebu ar y pentref rhed llwybr hir rhwng mangoed at ddrws yr eglwys,--adeilad newydd. Wedi cyrraedd hanner y llwybr, os edrych y teithiwr ar ei aswy, gwel gofgolofn o wenithfaen,--nid un fwy na cholofnau ar filoedd o feddau dinod ym mynwentydd Cymru, ac arni'r geiriau, - ER COF AM ANN GRIFFITHS, DOLWAR FECHAN, GANWYD 1776. page 8 / 129 BU FARW 1806. Nid oes Gymro fedr sefyll ger bedd Ann Griffiths heb deimlo ei fod ar ddaear sancteiddiaf ei fynyddoedd. Ac mor dawel ydyw'r fynwent! Ni chlywir swn ond su'r bladur wrth nofio trwy'r glaswellt draw,--y mae pob aderyn yn ddistaw ar y bore hafaidd heulog, ni chlywir swn y plant sydd yn yr ysgol lwyd gerllaw, prin y medrir clustfeinio digon i glywed dwndwr yr aber sydd yn isel odditanodd yn y dyffryn. Gorwedd y wlad fel breuddwyd angel oddiamgylch,--yn dawel, dan ei blodau, ac yng ngoleuni disglaer haul.

View Full Text

Details

  • File Type
    pdf
  • Upload Time
    -
  • Content Languages
    English
  • Upload User
    Anonymous/Not logged-in
  • File Pages
    129 Page
  • File Size
    -

Download

Channel Download Status
Express Download Enable

Copyright

We respect the copyrights and intellectual property rights of all users. All uploaded documents are either original works of the uploader or authorized works of the rightful owners.

  • Not to be reproduced or distributed without explicit permission.
  • Not used for commercial purposes outside of approved use cases.
  • Not used to infringe on the rights of the original creators.
  • If you believe any content infringes your copyright, please contact us immediately.

Support

For help with questions, suggestions, or problems, please contact us