Rhaglenni talent ar y teledu Dechreuodd y gyfres Britain’s Got Talent ym Mehefin 2007. Caiff y gyfres ei darlledu ar ITV1 ac mae cystadleuwyr yn brwydro yn erbyn ei gilydd er mwyn ennill cefnogaeth y gynulleidfa. Maen nhw hefyd yn perfformio o flaen panel o feirniaid. Ymysg y beirniaid mae Simon Cowell ac Amanda Holden. Caiff enillwyr y gyfres y cyfle i berfformio yn y “Royal Variety Performance” a derbyn gwobr ariannol sylweddol. Mae 56 gwlad wedi creu rhaglenni tebyg i Britain’s Got Talent erbyn hyn, gan gynnwys Albania, China, India, Peru a Rwsia. Ci o’r enw Pudsey enillodd un flwyddyn ac ers ennill, cafodd deithio ar awyren breifat Simon Cowell a dawnsio’r conga gyda Kim Kardashian. Ers i Pudsey ennill, mae llawer o anifeiliaid eraill, gan gynnwys asyn, wedi cystadlu. Yn wir, ci o’r enw Matisse enillodd eleni. Y cystadleuydd hynaf i fod ar y rhaglen oedd Ted Hall yn 92 oed ac fe berfformiodd gyda’i wyres, Grace. Y cystadleuydd ieuengaf oedd plentyn pedair oed a geisiodd ddynwared Michael Jackson ar y rhaglen yn 2010. Un a fu’n llwyddiannus iawn ers bod ar y rhaglen yw Susan Boyle. Ers ei hymddangosiad ar y rhaglen, mae wedi gwerthu 18 miliwn albwm ar draws y byd ac wedi cyrraedd rhif un yn y siartiau mewn dros 30 gwlad. Yn 2009, daeth bachgen o Abertawe i’r rownd derfynol. Ei enw oedd Shaheen Jafargholi. Roedd yn 12 oed pan gyrhaeddodd y rownd derfynol yn 2009 a chafodd ei wahodd i ganu yng nghyngherddau Michael Jackson yn Llundain. Bu farw Jackson wythnosau cyn y cyngherddau ac felly canodd Shaheen yn ei wasanaeth coffa a ddangoswyd ar y teledu i gynulleidfa o 2.5 biliwn o bobl ledled y byd. Does dim rheolau ar gyfer ymddangos ar Britain’s Got Talent. Mae’r rhaglen yn agored i bobl o unrhyw oedran, i bobl amatur neu broffesiynol. Ymysg y bobl eraill o Gymru sydd wedi ymddangos ar y rhaglen, mae Côr Glanaethwy, côr o 160 o leisiau a gyrhaeddodd y rownd derfynol eleni a dod yn drydydd. Dywedodd arweinydd y côr, Cefin Roberts, Britain’s Got Talent yw’r ail gyfres teledu talent fwyaf ar ôl yr X Factor. Cystadleuaeth gerddorol ar gyfer y teledu yw’r X Factor. Dechreuodd y rhaglen yn 2004, gyda Simon Cowell yn ymddangos ynddi, ac mae’n cael ei darlledu o fis Awst/Medi hyd at fis Rhagfyr. Yr X Factor yw’r rhaglen dalent fwyaf yn Ewrop ac mae’n hynod o boblogaidd ym Mhrydain. Caiff y rhaglen ei dangos ar ITV1. Mae’r enillwyr yn derbyn cytundeb recordio gwerth miliwn o bunnoedd. Ymysg y beirniaid a fu ar y rhaglen mae Louis Walsh, Sharon Osbourne, Cheryl Cole, Dannii Minogue, a Mel B. Fel arfer, mae enw’r buddugol yn cael ei gyhoeddi mewn pryd iddynt gystadlu am rif un yn y siartiau adeg y Nadolig. Mae’r clyweliadau eleni yn digwydd mewn dros 50 o ddinasoedd neu drefi ar draws Prydain ac Iwerddon. Mae dwy rownd o glyweliadau cyn i’r perfformwyr gael eu hyfforddi dan adain un o’r beirniaid. Mae modd i unrhyw un dros 14 i gystadlu a cheir 4 categori o berfformwyr, sef bechgyn, merched, grwpiau, ac unigolion dros 25 oed. Y gynulleidfa sy’n cael dewis y buddugwyr. Un grŵp sy’n enwog yn dilyn yr X Factor yw ‘One Direction’ a ddaeth yn drydydd yn 2010. Rhaglen Brydeinig yw Strictly Come Dancing yn dangos enwogion yn dawnsio gyda phartneriaid sy’n dawnsio’n broffesiynol. Mae fformat y rhaglen wedi ei hallforio i dros 40 gwlad arall. Yn Unol Daleithiau America, caiff ei hadnabod fel Dancing with stars, yn Sweden Lets dance. Richard Hopkins a Fenia Vardanis gynlluniodd y rhaglen ym Mhrydain. Mae’r cyn- gyflwynydd Syr Bruce Forsyth yn parhau i gyflwyno ambell raglen arbennig. Tess Daly yw enw cyflwynydd arall ar y rhaglen a Claudia Winkleman. Mae canlyniadau’r gwylwyr gartref a barn y beirniaid yn cyfri wrth ddewis pwy sy’n cyrraedd y rownd nesaf. Ar gyfartaledd, mae’r dawnsfeydd yn para tua 90 eiliad. Dechreuodd y rhaglen ar BBC1 ym mis Mai 2004 ar nos Sadwrn yn bennaf, gyda sioe ar y nos Sul ganlynol yn cyflwyno’r canlyniadau. Mae rhifyn arbennig y Nadolig wedi cael ei ddarlledu’n flynyddol hefyd. Rhaglen deledu arall yn ymwneud â chanu yw The Voice. Cafodd ei seilio ar raglen debyg o’r Iseldiroedd ac ymddangosodd am y tro cyntaf ar ein sgriniau teledu ni yn 2012 ar BBC1. Cystadleuaeth i unigolion yw hi, ac ymysg y beirniaid presennol mae Syr Tom Jones, Ricky Wilson, Rita Ora a Mel B. Y gynulleidfa sy’n dewis yr enillydd yn y pen draw. Yn y rowndiau cyntaf, nid oes hawl gan y beirniaid i edrych ar y cystadleuwyr. Maen nhw’n troi eu cefnau at y llwyfan ac mae hynny’n sicrhau bod y gystadleuaeth wedi ei seilio ar dalent leisiol yn hytrach nag ar ymddangosiad. Caiff y beirniaid ganu cloch os ydyn nhw’n hoffi’r perfformiad. Os taw un beirniad sy’n canu’r gloch, yna mae’r perfformiwr yn dod dan adain y beirniad hwnnw. Os oes mwy nag un yn canu cloch, caiff y cystadleuydd ddewis pa feirniad y mae ef/hi am dderbyn cymorth wrtho. Darllen 1. Cysylltwch y canlynol. (Adalw gwybodaeth) Seiliwyd y rhaglen hon ar raglen debyg o’r Iseldiroedd. Britain’s Got Talent Bu Cheryl Cole yn feirniad ar y gyfres hon. Strictly Come Dancing Mae Tess Daly yn gyflwynydd ar y rhaglen. The Voice Ymddangosodd Shaheen Jafargholi ar y gyfres hon. The X Factor 2. Cylchwch yr ateb cywir bob tro. (Adalw gwybodaeth) Crëwyd rhaglenni tebyg i Britain’s Got Talent mewn ______ gwlad. 4 40 56 Dechreuodd y gyfres The X Factor yn ______ . 2004 2007 2012 2009 Rhaid i chi fod dros ______ oed i gystadlu ar The X Factor. 4 14 25 Mae Susan Boyle wedi cyrraedd rhif un yn y siartiau mewn dros ______ gwlad ar draws y byd. 18 30 56 3. Cywir neu anghywir? Ticiwch y blwch priodol. (Adalw gwybodaeth) Cywir Anghywir Beirniad The X Factor yw Tom Jones. Caiff Stictly Come Dancing ei hadnabod fel Lets Dance yn Sweden. Roedd wyres Ted Hall yn 92 oed. Enillodd ‘One Direction’ The X Factor un flwyddyn. Mae’r rhaglen The Voice ar BBC1. 4. Nodwch 2 beth sy’n debyg rhwng Britain’s Got Talent a The X Factor a 2 beth sy’n wahanol rhyngddynt. (Cymharu) ____________________________________________________________________________ ____________________________________________________________________________ ____________________________________________________________________________ ____________________________________________________________________________ ____________________________________________________________________________ ____________________________________________________________________________ ____________________________________________________________________________ ____________________________________________________________________________ 5. Pam mae Strictly Come Dancing yn wahanol i’r rhaglenni eraill? (Cymharu) ____________________________________________________________________________ ____________________________________________________________________________ ____________________________________________________________________________ ____________________________________________________________________________ 6. Esboniwch yma ffyrdd y bu’r cyfresi hyn yn llwyddiant. Defnyddiwch wybodaeth o’r darnau darllen i gefnogi’ch sylwadau. (Dadansoddi) ____________________________________________________________________________ ____________________________________________________________________________ ____________________________________________________________________________ ____________________________________________________________________________ ____________________________________________________________________________ ____________________________________________________________________________ ____________________________________________________________________________ ____________________________________________________________________________ ____________________________________________________________________________ ____________________________________________________________________________ ____________________________________________________________________________ ____________________________________________________________________________ Llafaredd 7. Trafodwch mewn grwpiau o 3 y gosodiad canlynol: “Mae rhaglenni talent yn wych!” Ystyriwch: • Beth yw’r pethau cadarnhaol amdanynt? • Beth yw’r pethau negyddol amdanynt? • A fyddech chi’n hoffi ymddangos ar un o’r rhaglenni? Ysgrifennu 8. Lluniwch ffeithlun am un o’r cyfresi, gan ddod o hyd i fwy o wybodaeth os oes angen..
Details
-
File Typepdf
-
Upload Time-
-
Content LanguagesEnglish
-
Upload UserAnonymous/Not logged-in
-
File Pages5 Page
-
File Size-