Cyngor Cefn Gwlad Cymru Countryside Council for Wales Dyffryn Ceiriog a’r Berwyn: Priodoldeb ei Dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Adroddiad Terfynol Asesu’r Tir ar gyfer Dynodi Mawrth 2012 Julie Martin Associates The Round House Swale Cottage, Station Road Richmond North Yorkshire DL10 4LU 01748 826984 [email protected] mewn cydweithrediad ag Alison Farmer Associates Countryscape Crynodeb Gweithredol Dyffryn Ceiriog a’r Berwyn: Priodoldeb ei Dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol – Adroddiad Terfynol Asesu’r Tir ar gyfer Dynodi Cefndir a Throsolwg Mae ardal Y Berwyn yng ngogledd Cymru (sy’n cynnwys dyffryn Ceiriog ac a ddefnyddir yn yr ystyr hwnnw gydol yr adroddiad hwn) wedi’i nodi ers blynyddoedd lawer fel ardal bosibl i’w dynodi’n dirwedd genedlaethol. Ar 14 Chwefror 2011 cytunodd Cyngor Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCW) i gynnal “gwaith manwl i ystyried pa mor briodol yw dynodi a rheoli rhannau o Ddyffryn Ceiriog a’r Berwyn fel ardal o harddwch naturiol eithriadol” yng nghyd-destun datblygol Llywodraeth Cymru Cynnal Cymru Fyw. Mae Adran 82(2) Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn diffinio Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yng Nghymru fel ardal nad yw o fewn Parc Cenedlaethol ond sy’n ymddangos i CCW yn ardal o’r fath harddwch naturiol eithriadol fel ei bod yn briodol i ddarpariaethau gwarchodol Rhan IV Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 fod yn berthnasol iddi i ddibenion gwarchod a gwella harddwch naturiol yr ardal. Mewn amgylchiadau o’r fath gall CCW, drwy orchymyn, ddynodi’r ardal yn AHNE. Roedd Cam 1 yr astudiaeth yn cynnwys gwaith ardal chwilio gychwynnol i bennu’r ardal o dir i’w ystyried. Cwblhawyd hyn a chyflwynwyd y canfyddiadau i CCW fel Adroddiad Terfynol ar yr Ardal Chwilio ym mis Chwefror 2012. Mae’r adroddiad presennol, Adroddiad Terfynol Asesu’r Tir a gyfer Dynodi , yn cyflwyno allbynnau Cam 2 yr astudiaeth a dylid ei ddarllen ar y cyd ag adroddiad Cam 1 . Cynhaliwyd yr astudiaeth yn unol â Methodoleg ar gyfer Canfod a Dynodi Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru (drafft mewnol) CCW sy’n cynnwys: • Astudiaeth ardal chwilio; • Diffiniad o ardaloedd gwerthuso; • Gwerthusiad o harddwch naturiol; • Diffiniad o ardaloedd cais; • Barn ar briodoldeb dynodi. Mae’r ddau gam cyntaf o’r rhain eisoes wedi’u cwblhau fel rhan o Gam 1 . Mae Cam 2 yn canolbwyntio ar y camau sy’n weddill yn cynnwys: • Ar gyfer pob un o naw ardal werthuso, gwerthusiad o harddwch naturiol wedi’i resymu ac argymhelliad o ran y tir y dylid ei ystyried fel ardal cais (gweler Adran 2 yr adroddiad hwn); • Tystiolaeth o ran priodoldeb dynodi , i oleuo barn CCW ynghylch a yw’n briodol i’r tir gael ei ddynodi’n AHNE (gweler Adran 3 yr adroddiad hwn). Bydd angen i ddyfarniad terfynol CCW ar briodoldeb dynodi gynnwys ystyriaeth o ddulliau gweithredu gwahanol i ddynodi a rheolaeth tirweddau’r ardal. Gwerthusiad o Harddwch Naturiol Gwerthuswyd harddwch naturiol pob un o’r ardaloedd gwerthuso yn erbyn set benodol o ffactorau harddwch naturiol, is-ffactorau a dangosyddion. Cadarnhaodd y gwerthusiad, yn gyffredinol, bod Y Berwyn yn ardal o harddwch naturiol eithriadol am resymau yn cynnwys ei golygfeydd panoramig ysblennydd; tirweddau dramatig a thrawiadol; cyfosodiad arbennig mynyddoedd yr ucheldir a’r dyffrynnoedd dwfn; cymeriad cyfan heb ei ddifetha; gwylltineb a thawelwch eithriadol; cysylltiadau artistig a diwylliannol cryf; cynefinoedd prin o bwysigrwydd rhyngwladol; a thirluniau hanesyddol aml-gyfnod o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae’r tabl isod yn nodi pa ardaloedd penodol y barnwyd eu bod yn cwrdd/ddim yn cwrdd â’r maen prawf harddwch, gyda’r ardaloedd hynny y canfuwyd eu bod yn cwrdd â’r maen prawf yn dod yn ardaloedd cais. Ardal Werthuso Gwerthusiad o Harddwch Naturiol 2 Rhannau Uchaf Dyffryn Cwrddir â’r maen prawf harddwch naturiol yn ucheldir Dyfrdwy dwyreiniol yr ardal hon, ond nid ymhellach i’r gorllewin ar lawr y dyffryn. 3 Dyffryn Pennant Cwrddir â’r maen prawf harddwch naturiol. 4 Mynyddoedd y Berwyn Cwrddir â’r maen prawf harddwch naturiol. 5 Godrefryniau a Dyffryn Cwrddir â’r maen prawf harddwch naturiol. Ceiriog 6 Godrefryniau y Berwyn Cwrddir â’r maen prawf harddwch naturiol dros y rhan a Llanrhaeadr fwyaf o’r ardal, ond nid ar y cyrion dwyreiniol, is. 7 Tiroedd fferm Dyffryn Cwrddir â’r maen prawf harddwch naturiol. Tanat 8 Coedwig Dyfnant Cwrddir â’r maen prawf harddwch naturiol yn rhan ogleddol yr ardal ond nid yn rhan ddeheuol yr ardal. 9 Llyn Efyrnwy Mae’r ardal hon yn cwrdd â’r maen prawf harddwch naturiol. 10 Tiroedd fferm Dyffryn Ymddengys y cwrddir â’r maen prawf harddwch naturiol Banwy ac Efyrnwy yn rhan ogleddol yr ardal hon, ond nid yn y de. Tystiolaeth o ran Priodoldeb Casglwyd tystiolaeth ar briodoldeb (dan benawdau arwyddocâd y tirlun, materion yn effeithio ar rinweddau arbennig, a phriodoldeb dynodi) ar gyfer tri gr ŵp eang o ardaloedd cais: Y Berwyn Uchel, Y Berwyn Isel, a Dyfnant ac Efyrnwy. Bwriad y dystiolaeth yw goleuo barn CCW ynghylch a yw, oherwydd harddwch naturiol yr ardal, yn ddymunol dynodi Y Berwyn (neu ran sylweddol ohono) yn AHNE. Dylid ystyried y dystiolaeth yn yr adroddiad hwn yn fan cychwyn ar gyfer gwaith pellach gan CCW (a allai ddymuno ystyried opsiynau eraill o ran rheolaeth). Yn y pen draw, mae angen i CCW sefyll yn ôl a gofyn ynghylch yr ardal i gyd a yw’n cwrdd â’r profion a nodir yn y statud. Casgliad yr ymgynghorwyr yw, ar sail y gwaith a wnaed, bod tystiolaeth gref ei bod yn ddymunol dynodi Y Berwyn yn AHNE i ddibenion statudol gwarchod a gwella harddwch naturiol yr ardal. Y mae yn un system unedig o grib uchel a dyffryn sydd yn amlwg iawn angen rheolaeth a chynllunio cyson a chydlynol. Mae rhinweddau arbennig tirlun Y Berwyn yn bwysig a gwerthfawr ar lefel genedlaethol. Maent yn werthfawr i ystod eang o faterion, neu yn cael eu heffeithio ganddynt, gan gynnwys datblygu seilwaith, plannu a rheoli coedwigoedd, rheoli cynefinoedd tir uchel, mynediad i hamddena a ffermio tir uchel ymylol. Gallai dynodiad AHNE o bosibl greu cydlyniad ar draws ffiniau awdurdodau unedol, arweinyddiaeth gryfach, mwy o sylw i fuddiannau gweledol, canfyddol a hanesyddol, cynllun rheoli rhagweithiol, mynediad at sgiliau a chyngor arbenigol, ac arian ychwanegol. Bydd angen i CCW wneud gwaith pellach ar yr ystod o ddulliau gweithredu gwahanol i ddynodi a rheolaeth tirluniau’r ardal cyn dod i gasgliad cadarn ar y dystiolaeth o ran priodoldeb. Cyngor Cefn Gwlad Cymru Countryside Council for Wales Ceiriog Valley and Y Berwyn: Appropriateness of Designation as an Area of Outstanding Natural Beauty Final Report on Assessment of Land for Designation March 2012 Julie Martin Associates The Round House Swale Cottage, Station Road Richmond North Yorkshire DL10 4LU 01748 826984 [email protected] in association with Alison Farmer Associates Countryscape Executive Summary Ceiriog Valley and Y Berwyn: Appropriateness of Designation as an Area of Outstanding Natural Beauty – Final Report on Assessment of Land for Designation Background and Overview The Y Berwyn area of north Wales (which includes the Ceiriog valley and is used in that sense throughout this report) has been identified for potential national landscape designation for many years. On 14 February 2011 the Council of the Countryside Council for Wales (CCW) agreed to undertake “detailed work to consider the appropriateness of designating and managing parts of the Ceiriog Valley and Y Berwyn as an area of outstanding natural beauty” within the developing context of the Welsh Government’s Sustaining a Living Wales . Section 82(2) of the Countryside and Rights of Way Act 2000 defines an Area of Outstanding Natural Beauty (AONB) in Wales as an area that is not in a National Park but which appears to CCW to be of such outstanding natural beauty that it is desirable that the protective provisions of Part IV of the Countryside and Rights of Way Act 2000 should apply to it for the purpose of conserving and enhancing the area‘s natural beauty. In such circumstances CCW may, by order, designate the area as an AONB. Phase 1 of the study comprised initial area of search work to determine the area of land for consideration. This was completed and the findings issued to CCW as the Final Area of Search Report in February 2012. The present report, the Final Report on the Assessment of Land for Designation , presents the outputs of Phase 2 of the study and should be read in conjunction with the Phase 1 report. The study has been undertaken in accordance with CCW’s Methodology for Identifying and Designating Areas of Outstanding Natural Beauty in Wales (internal draft) which comprises: • Area of search study; • Definition of evaluation areas; • Evaluation of natural beauty; • Definition of candidate areas; • Judgement on desirability to designate. The first two of these steps have already been completed as part of Phase 1 . Phase 2 focuses on the remaining steps, providing: • For each of nine evaluation areas, a reasoned evaluation of natural beauty and a recommendation as to land that should be considered as a candidate area (see Section 2 of this report); • Evidence in relation to the desirability of designation , to inform CCW’s judgement as to whether it is desirable that land should be designated as an AONB (see Section 3 of this report). CCW’s final judgement on the desirability of designation will need to include consideration of alternative approaches to designation and management of the area’s landscapes. Natural Beauty Evaluation The natural beauty of each of the evaluation areas was systematically evaluated against an explicit set of natural beauty factors, sub-factors and indicators.
Details
-
File Typepdf
-
Upload Time-
-
Content LanguagesEnglish
-
Upload UserAnonymous/Not logged-in
-
File Pages58 Page
-
File Size-