Rhan 1, Pennod 7.4 (Pdf)

Rhan 1, Pennod 7.4 (Pdf)

Cofrestr Newidiadau Materion sy’n Codi (NMC): Pennod 7.4 Rheoli Twf a Datblygu - Cyflenwad ac Ansawdd Tai Polisi / Rhif NMC Para. / Newid Materion sy’n Codi Map NMC 174 Cyffredinol Ail-drefnu’r polisïau a'r testun esboniadol yn y bennod hon er mwyn gwella eglurder, dealltwriaeth ac effeithiolrwydd y Cynllun. Gwneir hyn drwy symud y rhan Lleoliad Tai i ddilyn y rhan Graddfa Tai. Mae’r rhannau Math o Dai, Tai Fforddiadwy a Llety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn awr yn dilyn y rhan Lleoliad Tai. Bydd rhifau polisi a pharagraffau yn cael eu diwygio yn y fersiwn terfynol a gaiff ei fabwysiadu a’i gyhoeddi. NMC 175 7.4.3 Dileu ail hanner y paragraff. Mae gwybodaeth ar gyfer y tafluniad tai a ragwelir yn cael ei ddarparu ym mharagraff diwygiedig 7.4.114 ac mewn Atodiad newydd i’r Cynllun: Gall awdurdodau lleol adnabod nifer y tai sydd eu hangen, ond bydd y nifer gaiff eu hadeiladu mewn gwirionedd yn cael eu dylanwadu’n gryf gan ffactorau sydd y tu hwnt i’w rheolaeth. Mae cyfnod y Cynllun (2011 – 2026) yn un lle mae ansicrwydd economaidd ac ariannol yn parhau. Mae cyflwr y farchnad yn dal i fod yn wan ac o'r herwydd mae'n debygol y bydd y gyfradd adeiladu tai yn y tymor byr yn parhau'n isel. Er mwyn cynorthwyo i wella’r sefyllfa dai yn y tymor byr, mae pob Cyngor a’i bartneriaid yn archwilio ac/neu’n gweithredu mentrau lleol. Gan ddefnyddio’r wybodaeth orau sydd ar gael mae Papur Testun 20 yn anelu i ddarparu tafluniad tai sy’n cynnwys datblygu gam wrth gam/ datblygiad cynlluniau tai a dangos y sefyllfa o ran cyflenwad tir ar gyfer tai trwy gydol cyfnod y Cynllun. Wrth wneud y gwaith dangosir hyd y gellir y bydd y galw i gynnal cyflenwad 5 mlynedd o dir ar gyfer tai yn cael ei gyrraedd trwy gydol cyfnod y Cynllun. Defnyddir mecanwaith cynllunio fel caniatâd tymor byr i drio sicrhau y bydd safleoedd sydd gan ganiatâd cynllunio yn rhoi’r cartrefi angenrheidiol. 119 NMC 176 PS 13 Diwygio er mwyn egluro’n well y ffactorau a ystyriwyd a dileu’r cyfeiriad at rannu datblygiad gan ei fod wedi ei ddisodli gan wybodaeth ar gyfer y taflwybr tai a ragwelir: POLISI STRATEGOL PS 13: DARPARIAETH TAI Yn seiliedig ar lefel y tai y disgwylir y bydd ei angen, a gan roi ystyriaeth i’r gallu i’w darparu, cyfyngiadau amgylcheddol a , a capasiti’r thirwedd, a chymunedau rhagolygon economaidd a demograffig, a phroffil demograffig posib, bydd y Cynghorau yn darparu ar gyfer y galw am 7,184 o unedau tai rhwng 2011 a 2026. Caiff y galw yma ei gwrdd trwy adnabod cyfleodd ar gyfer 7,902 o unedau tai i hwyluso lwfans llithriad o 10%. Cynhelir isafswm cyson o werth 5 mlynedd o dir i gyflenwi tai trwy ddynodi tir a hyrwyddo datblygiad ar safleoedd ar hap a thrwy ddefnyddio adeiladau presennol. yn unol â’r targedi tai canlynol: 1. gofyniad sylfaenol, sydd gyfystyr a 2,604 unedau tai rhwng 2011 a 2018 2. darpariaeth ar gyfer twf, sydd gyfystyr a 5,298 o unedau tai rhwng 2018 a 2026 Bydd y Mae’r lefel twf hwn yn cael ei ddosbarthu yn unol â Pholisi Strategol PS 15 a pholisïau TAI 5, TAI 14 i TAI 18 ac fe gaiff ei fonitro’n flynyddol trwy’r Astudiaethau Tir ar gyfer Tai blynyddol a’r Adroddiadau Monitro Blynyddol. 120 NMC 177 TAI 1 Dileu cyfeiriad at yr angen i ddatblygu’n raddol gan ei fod wedi ei ddisodli gan wybodaeth ar gyfer y taflwybr tai a ragwelir: POLISI TAI 1: CYMYSGEDD BRIODOL O DAI Bydd y Cynghorau’n gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo cymunedau cymysg cynaliadwy drwy sicrhau bod pob datblygiad preswyl newydd yn cyfrannu at wella cydbwysedd tai ac yn diwallu’r anghenion a nodir ar gyfer y gymuned gyfan. Dylai cynigion gyfrannu at greu cymunedau cymysg cynaliadwy drwy: 1. Ddarparu cymaint â phosib o dai fforddiadwy (gan gynnwys ar gyfer angen lleol) ar draws ardal Cynllun yn unol â Pholisi Strategol PS 14; 2. Cyfrannu at wneud iawn am ddiffyg cydbwysedd mewn marchnadoedd tai lleol; 3. Sicrhau y defnyddir tir ar gyfer tai mewn modd cynaliadwy, gan sicrhau dwysedd effeithlon o ddatblygu sy’n gweddu i fwynderau lleol yn unol â Pholisi PCYFF 2; 4. Sicrhau’r cyfuniad cywir o fathau o unedau tai a daliadaeth i ddiwallu anghenion cymunedau presennol ardal y Cynllun yn ogystal â chymunedau’r dyfodol; a lle’n briodol yn ddarostyngedig i ofynion datblygu graddol 5. Gwneud darpariaeth, fel sy’n briodol, ar gyfer anghenion tai penodol megis llety myfyrwyr, tai i'r henoed, sipsiwn a theithwyr, llety â chymorth, cartrefi nyrsio, preswyl a thai gofal ychwanegol, anghenion pobl sydd ag anableddau; 6. Gwella ansawdd ac addasrwydd y stoc tai presennol; 7. Sicrhau safonau dylunio uchel sy’n creu cymunedau cynaliadwy a chynhwysol yn unol â Pholisi PCYFF 2. 121 NMC 178 Polisi TAI X Dileu’r polisi gan nad oes angen polisi datblygu graddol i reoli cyflenwad tai: Polisi TAI X newydd Er mwyn sicrhau bod gwahanol gymunedau yn gallu ymdopi gyda datblygiadau preswyl, bydd y Cynghorau, lle bo'n briodol, yn gofyn am ryddhau tai fesul cam yn achos safleoedd a ddynodwyd neu mewn perthynas â safleoedd ar hap. Er mwyn gwella cyflenwi cartrefi fel y nodir ym Mholisi PS13 a Pholisïau TAI 14 i TAI 18: i. Bydd caniatâd cynllunio byr yn cael ei roi yn ôl disgresiwn y Cynghorau; neu ii. Gall datblygiadau tai fod ag amod dyddiadau cwblhau; neu iii. Ni fydd caniatâd amlinellol, materion wrth gefn a chaniatâd llawn yn cael eu hadnewyddu ac eithrio bod cyfiawnhad cryf. NMC 179 7.4.12a Newid ôl-ddilynol yn dilyn dileu’r polisi: Noda Polisi Cynllunio Cymru efallai y bydd angen datblygu fesul cam, lle y bo'n briodol, mewn ymgynghoriad â'r darparwyr cyfleustodau/ isadeiledd perthnasol, er mwyn caniatáu amser i sicrhau y gall darpariaeth y cyfleustodau/ isadeiledd gael ei rheoli mewn ffordd sy'n gyson â pholisïau cyffredinol ar gyfer datblygu cynaliadwy. Efallai y bydd angen hefyd i ddatblygiadau ystyried gallu gwahanol gymunedau i gynnwys y datblygiad heb erydu eu cymeriad, gan gynnwys eu cymeriad ieithyddol. NMC 180 7.4.12b Newid ôl-ddilynol yn dilyn dileu’r polisi: Mae rhan gyntaf y polisi yn nodi y gall safleoedd a ddynodwyd a safleoedd ar hap o bwys gael caniatâd fesul nifer o gamau. Bydd y dull gweithredu fesul cam hwn yn caniatáu rhywfaint o reolaeth dros sicrhau bod y seilwaith a’r cymunedau yn gallu cynnwys y datblygiad. Penderfynir ar y nifer o gamau priodol i bob safle dyranedig neu hap-safle yn ystod y cam cyn ymgeisio, mewn trafodaeth gyda'r ymgeisydd, gan gymryd i ystyriaeth yr ymrwymiadau a chyflenwad presennol yn yr 122 anheddiad ynghyd ag unrhyw ofynion penodol mewn perthynas â chyflenwi'r safle dyranedig dan sylw. Bydd y Cynghorau’n cydnabod y bydd rhai safleoedd lle na fydd rhyddhau fesul cam yn angenrheidiol, yn briodol na'n berthnasol, ac y bydd trafodaeth gynnar gyda'r Cynghorau cyn cyflwyno unrhyw gais yn helpu i sefydlu p’un a oes angen defnyddio rhyddhau fesul cam. Nid yw'r dull fesul cam yn atal yr angen, lle y bo'n briodol, i’r ymgeisydd gyflwyno prif gynllun clir ymlaen llaw ynglŷn â gosodiad cyffredinol y safle cyfan. Bwriad Polisi TAI X yw gwella'r cyflenwad o dai a gwblhawyd, yn hytrach na chaniatâd cynllunio. Bu tuedd i sicrhau caniatâd cynllunio mewn aneddiadau yn y gorffennol heb fwriad clir i weithredu neu gyflenwi'r unedau yn y dyfodol agos. Yn aml arweiniodd hyn at bwysau i sicrhau caniatâd cynllunio cyn i 'gwota adeiladu' y pentref gael ei ddisbyddu. Cafodd peth caniatâd cynllunio hefyd ei gadw fel un sy’n bodoli eisoes drwy rinwedd ‘cychwyn technegol' sy'n cefnogi'r cymhellion, mewn rhai achosion, i gael caniatâd cynllunio yn hytrach na sicrhau bwriad masnachol i adeiladu. Mae'r holl ffactorau hyn yn tueddu i rwystro cyflenwi tai gwirioneddol ac ymatebolrwydd i anghenion uniongyrchol. NMC 181 7.4.12c Newid ôl-ddilynol yn dilyn dileu’r polisi: Bydd y polisi yn cynorthwyo'r Cynghorau i sicrhau cyflenwad tir pum mlynedd ddilys yn ôl gofynion yr Asesiadau Tir ar gyfer Tai ar y Cyd a gyhoeddwyd gan y Cynghorau mewn ymateb i bolisi cynllunio cenedlaethol. NMC 182 TAI 2 Diwygio er mwyn gwella eglurder: POLISI TAI 2: ISRANNU EIDDO PRESENNOL I FFLATIAU HUNANGYNHALIOL A THAI AMLFEDDIANNAETH Caniateir isrannu eiddo presennol i fflatiau hunangynhaliol a thai amlfeddiannaeth sydd angen caniatâd cynllunio os gellir cydymffurfio gyda’r meini prawf canlynol: A: Ar gyfer Eiddo o fewn ffin datblygu neu adeilad lliw mewn Clwstwr wedi ei adnabod 1. Nid yw’r cynnig yn ymwneud â thŷ teras dau lawr; 2. Mae’r eiddo yn addas i’w drosi i’r nifer a’r math o unedau sy’n cael eu cynnig heb yr angen am estyniadau ac 123 addasiadau allanol sylweddol; 3. Ni fydd yn arwain at grynodiad gormodol o ddefnyddiau o’r fath fydd yn niweidio ardal breswyl tai amlfeddiannaeth gyda trwydded yn uwch na 25% o’r holl eiddo preswyl yn wardiau etholiadol Menai (Bangor) a Deiniol, a 10% yng ngweddill wardiau Ardal y Cynllun; 4. Nid fydd yn cael effaith andwyol ar fwynderau preswyl. Yn y cyswllt hwn, rhaid i bob cynnig ddangos ei fod yn cynnwys digon o le parcio, lle storio sbwriel; 5. Os na ellir darparu llefydd parcio ceir pwrpasol, ni ddylai’r cynnig waethygu problemau parcio sy’n bodoli yn yr ardal leol B: Ar gyfer Eiddo yn y Cefn Gwlad Agored 6.

View Full Text

Details

  • File Type
    pdf
  • Upload Time
    -
  • Content Languages
    English
  • Upload User
    Anonymous/Not logged-in
  • File Pages
    221 Page
  • File Size
    -

Download

Channel Download Status
Express Download Enable

Copyright

We respect the copyrights and intellectual property rights of all users. All uploaded documents are either original works of the uploader or authorized works of the rightful owners.

  • Not to be reproduced or distributed without explicit permission.
  • Not used for commercial purposes outside of approved use cases.
  • Not used to infringe on the rights of the original creators.
  • If you believe any content infringes your copyright, please contact us immediately.

Support

For help with questions, suggestions, or problems, please contact us