RHIFRHIF 376 317 GORFFENNAF 2014 GORFFENNAF 2020 80c GOLYGYDD Y MIS Carol Byrne Jones Y GAMBO MIS MEDI Mary Jones Hoddnant, Parc y Plas, Aber-porth SA43 2BZ Ffôn: 01239 810409 [email protected]

Deunydd i mewn erbyn 1 Medi Dosbarthu dydd Iau 17 Medi (i’w drefnu)

Cadeirydd: Bryngwyn: Linda Morgan : Melanie Davies Eleri Evans (01239 810871) (01239 711249) (01239) 621329 [email protected] Marlene Evans (01239 melanie.translation@ Ysgrifennydd a Clwb 500: 710708) btinternet.com John Davies, Y Graig, : Llinos Davies Plwmp a Phentre-Gat: Aber-porth (01239 810555) (01239 654135) Celia Richardson a Nigel e-bost: [email protected] [email protected] Blake 01239 851300 Trysoryddion: Des ac Esta Gohebwyr Newydd [email protected] Davies, Min-y-Maes, Penparc, : Aled a Heledd Pontgarreg: Lynda Evans Aberteifi SA43 IRE Dafis (01545 561355) 01239 654277 (01239 613447) [email protected] [email protected] e-bost: [email protected] Ceinewydd: Wendy Davies Rhydlewis: Vera Davies Hysbysebion: Mair Heulyn Rees (01545 560344) (01239 851489) Cefn yr Ydlan, Synod Inn, Croeslan: Marlene E. Sarnau a : SA44 6JE (01239 851216) Alison Vaughan-Jones (01239 Rhif ffôn: 01545 580462 : Emyr a Gwen 654610) e-bost: [email protected] Davies (01239 851343) [email protected] : Dewi Jones, Synod: Mair Heulyn Rees GOHEBWYR LLEOL Pantseirifach 01239 814609 / (01545 580462) : Ann Harwood 07970 042101 : Heledd Gwyndaf 01239 811217 Horeb/Penrhiwllan: Beth (07794065826) [email protected] Davies (07901 716957) [email protected] Beulah: Gerwyn Morgan bethan@cd 1340.f9.co.uk Tanygroes: (01239 810752) Llannarth: Isabel Jones Elspeth Evans (01239 811026) [email protected] (01545 580608) ac Eleri Evans (01239 810871) Blaenannerch/Tre-main: Llanllwchaearn: Gwyneth Tre-saith: Sally Jones Mary Postance (01239 810054) Thomas (01239 810274) Blaencelyn: Jon Meirion : Ceindeg Haf : Auriol Williams (01239 654309) : Peter Hazzelby (01239 612507) Blaen-porth: Nesta Griffiths Maen-y-groes: Edna Thomas 01239 810780 (01545 560060) YN EISIAU Ennis Howells 07854938114 Coedybryn,

ATGOFFA’R GOHEBWYR Mae’n hollol bwysig ein bod yn cadw at y dyddiad cau i bob rhifyn o’r Gambo. Fe nodir y dyddiad ar dudalen 2 o bob rhifyn, a bydd unrhyw ddeunydd hwyr yn cael ei gario ymlaen i’r rhifyn nesaf. Gofynnir i bob gohebydd lleol sy’n defnyddio e-bost i sicrhau eu bod wedi derbyn cadarnhad bod y deunydd wedi cyrraedd yn ddiogel gan olygydd y mis. Diolch am eich cydweithrediad.

2 GOLYGYDDOL

Croeso i rifyn Gorffennaf o’r Gambo – rhifyn a fydd yn cadw chi i ddarllen dros yr Haf, gobeithio. Fel arfer, ’does dim cyhoeddiad mis Awst na Medi; ond eleni mae’r pwyllgor wedi penderfynu cynhyrchu’r Gambo ar bapur yn ogystal ag ar-lein ym mis Medi. Fel y gwelwch, mae digon o ddefnydd gennym i greu “bumper edition!” Mae’r gohebyddion wedi bod yn hynod o ddyfeisgar wrth ddarganfod newyddion neu hanesion eu bröydd ac mae rhai wedi darganfod eu doniau fel ffotograffwyr hefyd. Ond yw e’n rhyfedd beth i chi’n gallu gwneud pan fod digon o amser ’da chi? Dwi’n siŵr bod pawb yn ysu am weld diwedd ar y rheolau sy’n cyfyngu ein rhyddid i ymweld â pherthnasau a ffrindiau, ond, yn anffodus, gofal pia hi o hyd. Diddorol shwt mae bywyd gwyllt wedi elwa o’r sefyllfa – o lygod Aber-porth i bryfed Plwmp! Ond cyn gadael i chi fyseddi’r tudalennau electronig, hoffwn ddiolch i ohebydd sydd wedi gwasanaethu’r Gambo ac ardal Caerwedros yn dda am 6 mlynedd, sef Annie Taylor, awdur sawl erthygl ddifyr iawn. Hoffwn groesawu Aled a Heledd Dafis, sydd yn cymryd ei lle, fel gohebyddion Caerwedros – gweler tudalen 2 am eu manylion cyswllt. Dymunwn yn dda iddyn nhw. Yn anffodus, mae Louise Jones o Ffostrasol wedi penderfynu, ar ôl sawl blwyddyn o ymroddiad i’r Gambo, i roi’r gorau i’r gwaith. ’R’ym ni’n arbennig o ddiolchgar iddi am ei theipio a chysodi diflino ac yn hynod ddiolchgar o gael ei help parod wrth fentro i gynhyrchu fersiwn ar-lein. Gobeithio bydd ei ‘hymddeoliad’ yn gadael iddi ymlacio rhywfaint. Diolch o galon Louise – mae pawb yn gwerthfawrogi eich cyfraniad dros y blynyddoedd. Ac i chi ddarllenwyr, hen a newydd – mwynhewch yr amrywiaeth i ni’n gynnig – a hefyd, gadewch i ni wybod beth i chi’n feddwl o’r cynnwys!

Carol Byrne Jones (Golygydd y mis)

DALIER SYLW DEDDF DIOGELU DATA Mae rheolau’r gyfraith ar gyhoeddi lluniau o Ar Fai 25, 2018 daeth Deddf Diogelu Data i rym. blant, boed ar bapur neu ar y We, wedi eu Oni nodwch yn wahanol byddwn yn cyhoeddi’ch tynhau. Felly mae’n bwysig iawn bod pob enw a’ch cyfeiriad o dan y canlynol: cyfrannydd neu ohebydd sy’n anfon llun ag • Cornel y Plant • Clwb 500 enw plentyn i’w cynnwys yn Y Gambo yn sicrhau ei fod wedi cael caniatâd rhieni neu ofalwyr y plentyn i wneud hynny. Ni fydd Y Gambo yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw fethiant i wneud hyn.

3 ABERPORTH Archifau pentref yn dechrau mynd yn ddigidol

Pwyllgor gwreiddiol y Neuadd, 1928

Mae prosiect a ariannwyd gan y Loteri i drawsgrifio archifau Neuadd y Pentref yn Aber-porth bellach ar waith. Mae wyth gwirfoddolwr yn gweithio’n galed i drawsgrifio cofnodion pwyllgor Neuadd y Pentref sy’n dyddio’n ôl i 1928. Mae’r cyfrolau cyntaf newydd fynd yn fyw ar wefan y neuadd (www.aberporthvillagehall.co.uk) gyda rhagor i’w hychwanegu dros y misoedd nesaf. Mae’r prosiect – a fydd hefyd yn cynnwys diwrnodau sganio gyda’r gymuned ar ôl y cyfyngiadau symud – wedi cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Y bwriad yw gosod cofnodion y Neuadd am yr 80 mlynedd diwethaf a mwy ar wefan y Neuadd a bod ar gael i bawb. “Mae hwn yn brosiect hynod o ddiddorol – mae’r cofnodion i gyd mewn llawysgrifen ac yn gipolwg dadlennol ar fywyd y pentref yr holl flynyddoedd hynny’n ôl,” meddai swyddog Prosiect y Neuadd, Sue Lewis. Mae’r prosiect yn ymdrech ar y cyd rhwng pwyllgor y neuadd a grŵp Hanes Aberporth History. Y gobaith yw cynnal diwrnodau sganio cymunedol o fis Medi ymlaen, pan fydd pobl yn gallu dod â’u hatgofion am y Neuadd i’w cofnodi ar gyfer y cenedlaethau i ddod. Mae rhagor o gyfrolau i’w trawsgrifio o hyd – gall unrhyw un a hoffai helpu gysylltu â Sue ar [email protected].

4 Adnewyddu Neuadd y Pentre’ Gellir gweld llun o ganllawiau adnewyddu’r Neuadd yn ffenest gefn y neuadd, yn ogystal â mynediad Canolfan Dyffryn. Os am edrych ar y cynlluniau manwl, ewch i Anfonwch unrhyw sylwadau at Sue Lewis [email protected] neu cysylltwch â’r Cadeirydd, Richard Jennings.

Cydymdeimlo Tristwch mawr yw cofnodi marwolaeth sydyn Olwen Allen, Maesymeillion yn ddiweddar, a hithau newydd gladdu ei gŵr Fenton ychydig wythnosau’n ôl. Anfonwn ein cofion cynnes at ei merch, Judith, yn ei galar. Cydymdeimlwn hefyd â theulu a chydnabod Andy Alban, Parc y Plas a fu farw’n ddiweddar. Tristwch mawr yw cofnodi marwolaeth sydyn Olwen Allen, Maesymeillion yn ddiweddar, a hithau newydd gladdu ei gŵr Fenton ychydig wythnosau’n ôl. Anfonwn ein cofion cynnes at ei merch, Judith, yn ei galar.

MRS JULIE JONES [Gwernfa gynt]

Julie gan ei hŵyr, Ifan Gwynedd

Dymuna Meirion, Meinir a’r teulu gydnabod yn ddiffuant iawn pob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd iddynt ei eu profedigaeth. Roedd Julie yn fam, fam yng nghyfraith, mam-gu a chwaer annwyl iawn. Diolch i berthnasau, cymdogion a ffrindiau am bopeth, ac yn enwedig i’r Parchedig Llunos Mai Gordon am y gwasanaeth teimladwy ac urddasol, ac i’r ymgymerwr Mr Maldwyn Lewis am drefnu’r angladd gyda pharch ac urddas.

Cydnabyddir yn ddiolchgar y rhoddion o £1,175 a dderbyniwyd tuag at ‘Ambiwlans Awyr Cymru’. Diolch i Mr David Peregrine am fod yng ngofal yr arian.

5 Ysgol Aber-porth ac OM Edwards Agorodd Ysgol Gynradd Aber-porth ar y safle presennol ym 1915. Roedd hynny’n benderfyniad ! dadleuol ar y pryd. Roedd Cyngor Plwyf Aber-porth wedi protestio yn erbyn y gorchymyn prynu gorfodol a wnaed i gael un o’r caeau rhwng y Plas a’r môr. Roedd perchennog y tir, Miss Jenkins Frondeg, yn wrthwynebus gan y byddai sŵn plant yn amharu ar yr ymwelwyr yn y tŷ roedd hi’n ei osod yn yr haf. Roedd nifer o bentrefwyr eisiau adeiladu’r ysgol ar safle Pencartws (ger y troad i Dre-saith), gan y byddai’n agosach i’r rhan fwyaf o’r plant, yn enwedig i blant y capeli. Yn y pen draw, aeth gorchymyn gan Gyngor Sir Aberteifi i brynu cae Penffynnon gerbron Tŷ’r Cyffredin a’i basio gan Dŷ’r Arglwyddi. Ac felly y bu, ac ar safle Penffynnon y saif yr ysgol hyd heddiw. Pam sôn am hyn felly? Wel, mae llythyr wedi dod i glawr a anfonwyd at Mr Dalis Davies Beulah (a oedd ar y Cyngor Plwyf) ym 1913, gan neb llai nag OM Edwards, yr awdur, yr hanesydd a’r addysgwr, a thad Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd yr Urdd. Fe oedd Prif Arolygydd Ysgolion Cymru. Sylwedd y llythyr yw bod OM Edwards yn ymddiheuro na all wneud dim am benderfyniad y Cyngor Sir. Dyma drawsgrifiad o’r llythyr, a ysgrifennwyd yn ei lawysgrifen fain, daclus:

Neuadd Wen Llanuwchllyn North

Mawrth 1913

Annwyl Mr Dalis Davies, Newydd gyrraedd adref yr wyf, ac ni chefais hamdden i odid dim er pan y gwelais chwi. Y mae arnaf ofn fod pobl dda Aber Porth yn meddwl fod fy siwrne yn bwysicach nag oedd. Nid oedd gennyf fi un hawl i benderfynu safle yr ysgol newydd o gwbl. Y mae’r Cyngor Sir wedi dweyd wrth Fwrdd Addysg eu bod am brynu y site ar Frynffynnon trwy orfod, a gofynnant, os codir ysgol yno, a dâl Bwrdd Addysg y grants arferol. Anfonwyd fi i lawr i edrych a oedd y site yn foddhaol. Anfonais innau ddisgrifiad o’r site ac o’r sites eraill ddangoswyd i mi, ac adroddiad am y gwrthwynebiad i bob un am fanteision pob un.

6 Y Cyngor Sir yw’r gallu. Os hoffai Miss Jenkins ddweyd ychwaneg, wrth y Cyngor y dylai ddweyd. Hwyrach, fel yr awgrymwch y gallech gael Mr D.C. Roberts i’r golwg. Ond drwg gennyf nas gallaf fi ymyrryd yn y mater o gwbl. Y mae hanes pobl Aber Porth yn ddyddorol; ond nid oedd gennyf fi ond adrodd i Fwrdd Addysg pa fath sail i ysgol – parth haul a goleuni, iechyd, dwfr, lle – yw pob un. Dangosodd Mr Morgan Richardson sail yr un ochr a Bryn Ffynnon; ond yr wyf yn sicr na fynn y Cyngor le ysgol mor bell oddi wrth y pentrefydd. Bûm yn meddwl lawer gwaith fod yr adeg i godi cofadail i Michael D. Jones wedi dod; deffrodd eich geiriau caredig y meddwl hwnnw’n rymus yn fy meddwl. A wnewch chi esbonio i Capt. Jenkins sut y mae pethau?

Gyda chofion caredig, Owen Edwards

Felly ofer fu ymgais y Cyngor Plwyf i gael y Cyngor Sir i newid eu meddyliau, a chael rhywun mor bwysig ag OM Edwards i siarad ar eu rhan. Mae’n ddiddorol am sawl rheswm, ac yn werth tynnu sylw ato eleni, gan mai 2020 yw canmlwyddiant marw OM Edwards, dim ond saith mlynedd ar ôl iddo ymweld ag Aber-porth i gael gweld a oedd y safle’n addas. Diolch yn fawr i Mari Dalis, Pontgarreg, am y llythyr. Agorodd yr ysgol newydd ar safle Penffynnon ym mis Tachwedd 1915, a T Bryn Jones yn brifathro am gyfnod byr – cyn i hwnnw gael ei alw i’r fyddin. Daeth yr athrawes gynorthwyol Miss Annie Owen yn brifathrawes. Ni fu hynny heb ei gynnen ’chwaith: cyhoeddwyd llythyr yn y Teifi Seid yn gwrthwynebu penodi merch yn bennaeth ysgol! Ar ôl y Rhyfel Mawr, penodwyd David Evans o Lanfihangel-ar-Arth yn brifathro ym 1920 ac arhosodd Annie Owen yn athrawes gynorthwyol. Priododd y ddau ym 1927 a symud i fyw yn Ivy Cottage, sef bellach, Y Graig. Annie Evans oedd fy hen fodryb.

Emyr Davies (Y Graig)

7 BEULAH Trefaesfawr ar y teledu

Yn ddiweddar ar S4C cafwyd cipolwg o waith bob dydd un o ffermydd mwyaf Beulah sef Trefaesfawr. Mewn eitem ar y rhaglen boblogaidd Ffermio cawsom ein tywys o gwmpas y fferm gan Elen merch Huw a Carys Davies. Ers rhai misoedd bellach mae Elen yn gweithio ar y rhaglen Ffermio ond dyma y tro cyntaf iddi fod o flaen y camera yn ffilmio, recordio a golygu eitem gyfan ar gyfer y rhaglen. Nid oedd gwell lle iddi gychwyn na gartre’ yn Nhrefaesfawr ac roedd y golygfeydd o’r fferm yn edrych yn ardderchog ar y teledu. Yn ystod yr eitem cafwyd cyfweliad gyda Carys a’i gweld yn bwydo oen bach diwrnod oed a gwelwyd Huw yn trin gwartheg. Gall rhai ohonom gredu i Elen gael tipyn o drwbwl i’w gael i wneud yn union beth oedd angen ar gyfer y ffilm! Roedd yn eitem dda ac ni fydd Elen yn hir iawn cyn bod a flaen y camera yn rheolaidd. Da iawn hi.

8 Makeover Festri Beulah Mae pwyllgor Festri Beulah wedi manteisio ar y ‘lockdown’ dros yr wythnosau diwethaf i beintio cegin, ystafell bwyllgor a neuadd y festri.

Fel arfer mae’n anodd cael amser i wneud gwaith cynnal a chadw ar yr adeilad oherwydd y defnydd cyson sydd o’r adeilad. Roedd cyfnod y ‘lockdown’ felly yn gyfle i weddnewid golwg y tu mewn gan fod 12 mlynedd bellach ers pan gwariwyd £55,000 yn ail neud yr adeilad. Mae’r pwyllgor ‘nawr yn edrych ymlaen i’r amser pan fyddant yn medru ail – gychwyn y boreuon coffi misol a chroesawu’r aelodau a chymdeithasau lleol ‘nol i’r festri.

Cymanfa Glynarthen Bu helynt y coronafeirws yn fwy na digon i ganslo gweithgareddau ar draws y wlad yn ystod y misoedd diwethaf ac un gweithgaredd a gollwyd oedd Cymanfa Ganu Glynarthen. Mae’r gymanfa yn dyddio ’nol i 1882 a’r arweinydd gwadd yn honno oedd y Parch Edward Stephens, yn fwy adnabyddus efallai trwy ei enw barddol Tanymarian. Mae Capel Beulah wedi chwarae rhan llawn iawn yn hanes y gymanfa o’r cychwyn ac fe gynhaliwyd y gymanfa ym Meulah fwy nac unwaith yn y dyddiau cynnar. Ym 1885 a 1893 roedd y gymanfa ym Meulah a’r arweinydd ar y ddwy achlysur oedd neb llai na’r cerddor nodedig Dr Joseph Parry. Yn ddiweddar gwelais adroddiad o bapur y ‘Cardigan & Tivyside Advertiser o Gymanfa 1911. Mae’r adroddiad yn nodi mai cerddor enwog arall oedd wrth y llyw sef Caradog Roberts o Rhosllanerchrugog. Roedd yn gerddor mawr yn ei ddydd ac mae

9 ganddo tua dwsin o emyn donau yn Caneuon Ffydd gan gynnwys un o’r rhai mwyaf adnabyddus ‘Rachie’. Mae y papur yn mynd ymlaen i ddweud fod yr arweinydd wedi swyno’r gynulleida luosog drwy chwarau’r gytgan enwog ‘Yr Haleliwia’ allan o’r Meseia ar offeryn canu newydd y capel yn ystod oedfa’r hwyr. Anthem y plant ym 1911 oedd ‘Milwyr Iesu’ ac anthem yr oedolion oedd ‘Efe a Ddaw’. Yr organyddion oedd Miss Nellie Davies, Penalltybie a Miss Annie J Jones, Pangraigwnda.

Ivor Hicks – Arlunydd Anghyffredin Bu Ivor Hicks, Maesyronnen, Bryngwyn farw yn ystod mis Mawrth eleni yn 89 mlwydd oed. Roedd yr ardal yn ei adnabod yn dda fel peintiwr, papurwr ac addurnwr arbennig ond ychydig oedd yn gwybod ei fod hefyd yn arlunydd anghyffredin ac ei fod wedi addurno y muriau tu mewn i’w gartref ym Maesyronnen. Mae ei waith lliwgar i’w weld ar dalcen y tŷ ac ar bron pob mur yn y tŷ. Yn ôl ei ferch Hazel Davies, cyn brifathrawes Beulah, roedd ei thad wedi dechrau peintio wedi iddo golli ei wraig Daphne ym 2006. Yn fuan wedyn dechreuodd beintio y murluniau sydd yn gorchuddio bron pob ystafell yn y tŷ. Roedd yn cynllunio pob patrwm yn ofalus iawn ar bapur cyn ei drosglwyddo i’r mur.

Roedd yn hoff o ddyfeiso patrymau cymhleth Y diweddar Ivor Hicks. ac astrus rhai yn llifo, eraill yn geomedric ei cynllun ac un thema gyson oedd pyramidiau’r Aifft. Fel Michelangelo gynt yn Nghapel y Sistene yn Rhufain roedd Ivor wedi peintio nenfwd un o’r ystafelloedd ac mae llawr yr ystafell ymolchi yn atgoffa dyn o Balas Versailles.

10 Yn enedigol o swydd Buckingham symudodd Ivor a Daphne i Ddyffryn Teifi 60 mlynedd yn ôl ac roedd y ddau yn meddwl y byd o’r ardal.

Lluniau gan Gerwyn Morgan

BLAENCELYN

COFIO AURES

Bu farw Aures, gwraig Jon Meirion, mam Gareth Wyn a’r ddiweddar Anwen Tydu a mam yng nghyfraith Afan ab Alun, yn dawel ar ei haelwyd ar y 4ydd o Ebrill. Oherwydd COFID19, ni fu’n bosibl cynnal gwasanaeth angladdol traddodiadol na chladdedigaeth arferol ym mynwent Macpelah, Capel-y-Wig. Ni fedrai chwaer Aures, sef Margaret a’i gŵr Ceredig fynychu’r angladd, na Wynne (brawd Jon) a’i deulu o Northwich, Anwylyd (chwaer Jon) a chysylltiadau eraill. Ni ŵyr ar ba bryd y codir gwaharddiadau y COFID19. Felly mae Jon Meirion a Gareth Wyn wedi penderfynu cyhoeddi llyfryn (o deyrnged) am fywyd Aures. Fe’i hargreffir gan E.L. Jones, Aberteifi. Bydd ar gael i’r cyhoedd a throsglwyddir pob ceiniog o’r elw er lles Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch ymlaen llaw am bob cefnogaeth.

11 BLAENPORTH Ysgol Gynradd Blaen-porth Llyfryn y Dathlu Pan drefnwyd nifer o ddigwyddiadau i ddathlu pen-blwydd Ysgol Gynradd Blaen-porth yn 150 oed yn 2010, cyhoeddwyd llyfryn lliwgar dan y teitl ‘Calon a Chwlwm Cymuned’. Roedd ynddo doreth o ffeithiau a gwybodaeth bwysig o ddogfennau am y fro a’i thrigolion o tua 1860. Roedd hefyd yn llawn lluniau difyr. Dim ond hyn a hyn o gopïau gafodd eu hargraffu, a gwerthwyd y rheiny i gyd yn gyflym iawn ar y pryd. Ond mae pobol yn dal i holi am gopïau, felly, os oes gennych chi gopi neu gopïau dros ben, neu os oes rhai yn eich teulu nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio bellach, byddwn yn falch iawn cael gwybod. Gallwch gysylltu ar 01239 810409 a gellir trafod pris. Diolch.

Gwellhad buan i Alan Davies, Cwmporthman, a fu yn yr ysbyty, ar ôl damwain ar y fferm yn ddiwedar.

Llongyfarchiadau – i Anita Williams, Ty-Mawr ar ddod yn hen famgu i fachgen bach ei wyr Jason a’i bartner Claire. – i Gemma a Mathew, Dryslwyn ar enedigaeth eu merch fach. – i Mick Williams, Willowdene, ar ddod yn ddatcu unwaith eto. Ganwyd mab i Julian ac Amy, a chwaer fach i Caroline. – i Glyn Howells, Murmur Erin, Blaenporth ar ei benblwydd yn 60 oed ym mis Gorffennaf.

Penblwydd hapus i Tom Fleet-Chapman, Maesir, Lon-y-Ladi as ddathlu ei benblwydd yn 18 mlwydd oed.

Dymuniadau gorau i Alan a Anya Davies, Cwmporthman, wrth iddynt symud i’w cartref newydd yn y pentref, Berth Aur. Mae’n amser nawri ymlacio a rhoi’r awenau i Dylan a Louise sydd yn aros yn Cwmporthan.

BRYNHOFFNANT Y Prifardd Idris Reynolds Llongyfarchiadau i’r Prifardd Idris Reynolds. Mae ‘Ar Ben y Lôn’, cyfrol Idris, ar restr fer Llyfr y Flwyddyn. Dyma’r rhestr:

Hwn ydy’r llais, tybad? – Caryl Bryn Ar Ben y Lôn – Idris Reynolds Pentre Du, Pentre Gwyn – Myrddin ap Dafydd

12

Ysgol T Llew Jones

Mrs Lloyd, Pennaeth yr Ysgol

Croeso nôl i holl athrawon a disgyblion Ysgol T Llew Jones ar ôl 99 diwrnod yn y Cyfnod Clo.

Mae’n braf gweld a chlywed bwrlwm y plant yn ôl yn y pentref. Rydyn ni wedi gweld eich eisiau i gyd. Diolch o galon i Mrs Lloyd a’r staff am eu gwaith yn ystod y cyfnod heriol yma. A phob lwc i holl gymuned yr ysgol wrth iddynt gamu ymlaen i’r cyfnod nesaf.

Siop Hoffnant Diolch o galon i Marc, Sarah a’r tîm i gyd yn Siop Hoffnant am eu gwaith diflino yn ystod y misoedd diwethaf. Mae’r siop a’r staff wedi darparu gwasanaeth amrhisiadwy i drigolion y pentref a’r ardal ehangach. Mae’r staff i gyd wedi croesawu’r cwsmeriaid â gwen a gair caredig mewn cyfnod heriol iawn.

Gwellhad Braf yw clywed bod Mrs Eirwen Jones Glyngir ar wellhad wedi ei chodwm yn ddiweddar. Dymunwn wellhad buan i Hywel Tŷ Capel wedi llawdriniaeth ar ei lygad yn Ysbyty Glangwili.

Penblwydd Arbennig

Dymuniadau gorau i Gerwyn Waunlle ar ddathlu ei benblwydd yn 70 oed ym mis Mehefin.

13 CAERWEDROS Ail-leoliad! Mae’r arwyddion wedi dod i lawr oddi ar y siop-ffrynt, ond dyw Pot Siân ddim yn cau, diolch byth – jyst symud ymlaen i’r cyfnod nesaf. Sefydlwyd Siân Abott ei busnes paentio yn Derw Stores, Caerwedros dechrau blwyddyn 2018, a wedi mwynhau’n fawr iawn. Ond ar ôl cloi-lawr a chyfyngiadau parhaol, mae’n amser symud rhywle newydd, sef, pum munud i ffwrdd, i Cross Inn. Bydd Siân dal yn darparu gwasanaethau ar lein am eitemau’r siop; a bydd hi’n bosib i archebu ‘pottery painting kits’ i wneud gartref. Hefyd, ar ôl y cyfyngiadau, bydd gwasanaeth symudol yn mynd mas i’r grwpiau a phartiau. Am wybodaeth bellach, ffôniwch Siân ar 07470 039635, neu e-bostio [email protected] Bydd y Wefan, pot-sian.co.uk yn fyw yn fuan iawn! Ac wrth gwrs, mae pawb yn edrych ymlaen i weld mwy o luniau lliwgar ar Facebook.

Helo Gambo! Mae ’na ddwy chwaer, Elin a Lia, merched Vaughan a Nansi Jones o Gaerwedros – merched o’r ardal – aethon nhw i Ysgol Pontgarreg a Dyffryn Teifi. Wedyn, aeth Lia i Brifysgol Manceinion i wneud gradd Arlunio ac aeth Elin i Brifysgol Lerpwl i wneud gradd Busnes. Nawr, mae dwy chwaer yng ngwahanol begynau’r byd – Elin yn Zeland Newydd a Lia yn Canada. ’Dyn nhw ddim wedi anghofio eu teulu, ffrindiau a chymdogion a maen nhw wedi hela dau lythr i ni.

Elin Mount Maunganui Zeland Newydd

Gadewais gartref gyda Luke fy mhartner ar y 4ydd o Dachwedd y llynedd gyda’r bwriad o deithio i Seland Newydd, ac ymweld a gwledydd eraill ar y ffordd. Stop cynta oedd Budapest ac roeddwn wedi gwirioni a’r lle. Lle diddorol iawn, digon i’w weld a gwneud. Yr uchafbwynt oedd mynd i’r baddonau. Teithio ymlaen wedyn a chael pit stops yn Dubai, Colombo ac yna aros yn Bali am ddeg diwrnod. Yn Bali wnes i lawer o ioga, syrffio a thorheulo. Yna ymlaen i Awstralia i aros gyda ffrind o’r brifysgol sy’n byw ym Melbourne, cyn cyrraedd Seland Newydd dechrau mis Rhagfyr. Brynnon ni gamper-fan yn Auckland a theithio tua tair awr i’r de i Katikati. Buom yn gweithio ar fferm yma am ddau fis yn casglu ffrwythau, mefus a kiwi, ac yna aethom i deithio yn y fan o gwmpas ynys y gogledd. Mae teithio o gwmpas Seland Newydd mor bleserus gan fod llawer llai o draffig ac mae eu harwyddion ffordd mor glir a chyfeillgar. Cyrhaeddom lle o’r enw Mount Maunganui a ges i swydd yma mewn

14 caffi a fflat neis i aros ynddo yng nghanol y dre. Roedd y caffi’n brysur iawn gyda llawer o dwristiaid a llongau mordeithio yn galw’n ddyddiol. Yna daeth y ‘lockdown’ a chollais i a’m partner ein swyddi, ond buom yn lwcus iawn a chael swyddi’n nol ar fferm tua awr i ffwrdd. Roedd y gwaith yn galed, casglu ffrwythau kiwi mewn bagiau mawr ar ein cefnau. Roedd y bagiau’n mynd yn drymach fel roedd y dydd yn mynd yn ei flaen. Roedd y tywydd yn dal yn braf, felly gweithio trwy’r wythnos ac ar y penwythnosau mwynhau’r haul, rhedeg a chadw’n heini a chael barbaciws ar y balconi. Ar ôl tua chwe wythnos o ‘lockdown’ gwellodd pethau yn gyflym yma ac ar hyn o bryd ’da ni nôl i normal. Mae pawb yn brolio’r prif weinidog Jacinda Ardern o wneud gwaith da i gadw pobl Seland Newydd yn saff. Dwi’n nôl yn gweithio yn y caffi ers mis a dwi newydd brynu car ac yn chwilio am swydd gwahanol. Mae Mount Maunganui yn dref glan y môr pert iawn gyda thraethau hir a llawer o syrffio yma, ond mae angen ‘wetsuit’ arna i nawr gan fod y gaeaf ar y ffordd. Hwyl am y tro, Elin, x

Lia Vancouver Canada

Fel anrheg penblwydd i fi fy hun yn ddeg ar hugain oed ym mis Awst 2019 fe wnaeth fy nghariad, Joey a minnau benderfynu teithio i Ganada am ddwy flynedd. Cychwyn da i’r thirties de? Tra bo ni yma yn Vancouver, mae Joey yn chwarae rygbi i’r clwb lleol Burnaby lake. Chwarae teg i bawb sydd yn rhan o’r clwb, maen nhw wedi ein croesawu ni a gwneud i ni deimlo’n gartrefol. Mae pawb yn gyfeillgar iawn a ’da ni’n cael ein gwahodd i swper bob wythnos bron i rywle gwahanol. Yn ystod ein pythefnos gyntaf ym mis Medi fe wnaethom logi camperfan anferth a chrwydro British Columbia, Alberta a’r Rockies. Taith anhygoel! Fe wnaethom fwynhau pob eiliad o’r daith yn cerdded mynyddoedd, ymweld â phob llyn wrth basio, barbeciw a gwin rownd tân gyda’r nos… bendigedig. Gwelsom ni arth fawr yn Whistler! Ers hynny ’da ni’n dau wedi bod yn byw mewn tŷ reit neis ym Mhort Moody, dref tua 20 munud allan o Vancouver. Mae digonedd o bethau i wneud o gwmpas yr ardal yma. Rydym wrthi yn sgïo’r mynyddoedd lleol neu gerdded milltiroedd pob penwythnos gyda ffrindiau. Ni’n lwcus iawn i gael y mynyddoedd i sgïo mor agos ’mond hanner awr i ffwrdd yn y car. Mae’r môr pum munud lawr y ffordd. Diwrnod blwyddyn newydd buom yn sgïo ben bore yna nofio yn y môr erbyn amser cinio gyda chwe mil o bobl eraill yn rhedeg mewn ’run pryd. Rhywbeth sydd wedi bod ar fy ‘bucket list’ fi ers amser maith. Yn anffodus ’da ni ddim wedi bod yn lwcus iawn gyda’r tywydd yn ystod y ‘lockdown’ fel chi yn Cosa Del Caerwedros! Mae’n bwrw’n reolaidd yma. Dwi ddim yn meddwl fod Vancouver ’di gweld cymaint o law ers blynyddoedd maith. Typical! Felly rydym yn gweld ishe Cymru bach ar hyn o bryd. Mae gyda ni dros flwyddyn arall i fynd ar ein visas. Rydym yn meddwl am ardaloedd arall o Ganada hoffwn weld cyn dod adre diwedd 2021. Felly rydym yn gobeithio symud mlaen i Banff yn ystod y gaeaf i fwynhau’r sgïo tra ein bod ni yma. Dyna’r plan bras ar hyn o bryd, gawn ni weld sut fyth pethau ’rôl lockdown! Hwyl am y tro, Lia x

15 CROESLAN Llongyfarchiadau i Dafydd a Myfanwy Evans, Fferm Tower Hill ar enedigaeth ei mab, ŵyr i Garyl a Iona Evans, Penrhiwllan.

Gwellhad buan i Mrs Audery Collins sydd wedi bod yn Ysbyty Bronglais ond wedi dychwelyd adre. Braf yw dweud ei bod yn gwella a gobeithio ei gweld nôl yn siopa yn siop y pentre yn fuan.

Croeso i’r pentre i’r teuluoedd newydd sydd wedi symud i Rhif 6 a 19 Bro Gwynfaen.

Y FERWIG Digon tawel mae pethe wedi bod yn ardal Y Ferwig yn ystod y mis diwethaf. Er hynny, mae dau o fechgyn y pentre wedi bod yn dathlu penblwyddi arbennig, Mike James, Y Bwthyn yn drigain, ac Ian Marshal, Angorfa yn hanner cant a Dilys Davies, Tyrlan gynt yn nawdeg. Mae ein Cynghorydd Sir, Clive Davies wedi dathlu ei benblwydd yn hanner cant ar ddechrau’r mis a bydd Mair Phillips, Y Dderwen yn dathlu ei phenblwydd yn bedwar ugain ar y cyntaf o Awst. Pob dymuniad da iddi ar gyfer y diwrnod mawr. Bydd rhaid cael parti mawr ar ddiwedd y cyfnod clo! Mae Ken Griffiths, Lleifior a John Williams, Troedyrhiw wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty. Diolch i holl weithwyr y Gwasanaeth Iechyd am eu ymroddiad a gwellad buan i’r ddau. Llongyfarchiadau i Brenda (Heolas gynt) a’i gŵr Dai ar ddathlu eu priodas Aur. Mae’r gwaith adnewyddu yn yr Hen Ysgol yn carlamu yn ei flaen, ac erbyn fydd y rhifyn hwn mewn print bydd yr adeilad wedi ei beintio yn fewnol a’r gwaith ar y tu fas bron a dod i ben. Mae wedi bod yn gyfnod prysur i’r gweithwyr a chyffrous i’r ardal, ond oherwydd y cyfyngiadau sydd wedi bod mewn lle, nid yw wedi bod yn bosib i nifer o ardalwyr i weld y cynnydd. Nid yw yn edrych yn debyg chwaith fydd yr adeilad yn cael defnydd yn y dyfodol agos. Felly rhaid arall gyfeirio! Fel arfer, tua canol mis Awst cynhelir Sioe gynnyrch, carnifal a barbeciw yn yr Hen Ysgol. Ni fydd hyn yn bosib eleni, felly i godi ychydig o hwyl yn yr ardal bwriedir cynnal ychydig o gystadleuthau gweledol a fydd yn gallu cael eu beirniadu o bellter tu allan i’ch cartrefi a chystadleuthau i’w danfon dros y we i’w beirniadu. Mae’r cystadlu yn agored i bob oedran ac i bawb yn yr ardal. Bydd y cynnyrch yn cael eu ddosbarthu yn ôl oedran. 1. Gwneud Bwgan Brain a’i ososd tu allan i’ch tŷ 2. Whilber wedi addurno. “Bywyd yn ystod Cyfnod Clo” gosod tu allan i’ch tŷ 3. Cynllunio miwral i’w beintio ar wal piniwn cegin yr Hen Ysgol yn adlewyrchu yr ardal. Bydd enillydd yn cael ei ddewis, ond ar gyfer y miwral gorffenedig ar wal yr ysgol byddwn yn cyfuno syniadau o’r cynlluniau sydd wedi eu cyflwyno. 4. Llun (photo) wedi ei dynnu yn ystod y cyfnod clo. 5. Carreg wedi peintio. Bwriedir defnyddio pob carreg addurniedig i greu ‘neidr covid’ lliwgar o fewn iard yr ysgol. Atgof fod y gymuned wedi dod at ei gilydd mewn cyfnod o ymbellau. Bydd y Bwgan Brain a’r Whilber yn cael eu beirniadu ar y penwythnos Awst 22/23. Os am gystadlu, neu am fanylion pellach cysylltwch a Auriol ar 01239 612507 neu 07817689038.Neu e bostiwch [email protected] erbyn dydd Llun Awst 17. Nid yw pellter o’r pentre yn broblem. Bydd y beirniaid yn gallu teithio.

16 Cystadleuthau 3, 4, 5. E bostiwch luniau i [email protected] erbyn dydd Llun Awst 17. Nodwch eich enw, eich cyfeiriad a’ch oedran Cadwch lygad allan am bosteri a’r cyfryngau cymdeithasol. Pob hwyl gyda’r cystadlu!

FFOSTRASOL Penblwydd hapus i’r ddwy chwaer, Lil Thomas, Erwlon a Ceri Lloyd, 2 Llysgwyn a fu’n dathlu yn ystod y mis. Hefyd i Lizzie May Lloyd, Bwlchyrelmen a fydd yn 90 y mis hwn.

Gwellhad buan i Alwen Jones, Brynderwen yn dilyn damwain. Hefyd Huw Jones, Tresi Aur sydd yn Ysbyty Glangwili.

Croeso i Mathew, 5 Llysgwyn sydd wedi symud i fyw i’r pentref.

Dyma lun gan Emyr a Gwen, Penrhiw, Ffostrasol.

Blodyn hardd o Sbaen sy’n blodeuo’n flynyddol ym Mhenrhiw ers wyth mlynedd. Mae tua naw troedfedd o uchder erbyn hyn – yn dalach na'r drws!

17 Bydd Nôl ar werth ar 6 Gorffennaf ar y we drwy wefan y wasg, www.carreg.gwalch.cymru, gwefan y Cyngor Llyfrau, www.gwales.com a drwy’r post gan siopau llyfrau ledled Cymru.

18 GLYNARTHEN a Cydymdeimlir â Catrin Mai Jones a’r teulu, Deinol, Glynarthen yn dilyn marwolaeth perthynas agos sef Huw Davies, Rhosfarced Fawr, Brynberian ym mis Mai.

Llongyfarchiadau i Barry a Debbie Adams, Brynmeillion, Betws Ifan ar ddathlu eu Priodas Arian yn ystod mis Mehefin.

Gwellhad buan – i Debbie Adams, Brynmeillion yn dilyn llawdriniaeth yn Ysbyty Treforus. – i Bethan Evans, Tir Blaen-nant yn dilyn ei arhosiad byr yn yr ysbyty ac yn awr yn cryfhau adre.

LLANARTH Llongyfarchiadau i Dylan ac Eleri, Gwarcwmfach, Pencae ar enedigaeth eu mab Macs Hari ar yr 20fed o Fawrth. Brawd bach newydd i Elis. Mae’n siŵr bod Eilir ac Enfys wrth eu boddau gyda’r ychwanegiad i’r teulu. Croeso mawr hefyd i Edward, mab bach newydd Llion a Gabby, Tŷ Capel a brawd bach i Wil. Llongyfarchiadau iddyn nhw fel teulu ac i Mam-gu a Dad-cu Plas y Wennol ar enedigaeth ŵyr bach arall.

Ysgol Sul Pencae Rhaid diolch i blant a phobl ifanc yr Ysgol Sul am y cardiau anfonon nhw at y to hŷn yn y gymdeithas gyda phennill i godi calon: Mae drws y Capel wedi cau A phawb yn swatio yn eu tai. Ond rydym ni am i chi gofio Daw haul ar fryn, Fe aiff hwn heibio.

LLANLLWCHAEARN Llongyfarchiadau Mae Gareth a Wendy Jones, Pentre’r Bryn wedi dod yn fam-gu a thad-cu unwaith eto gan fod Elis wedi cael brawd bach, sef Macs Hari. Cyfarchion hwyr i Rhydian Rees, Pensarnau a ddathlodd ei ben-blwydd yn 40 oed mis diwetha’.

Darlledu drama Braf oedd cael gweld drama Mared Roberts, Pentre’r Bryn, yn cael ei darlledu yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd. Dyma’r disgrifiad o’r cynnwys a welir ar wefan Theatr Genedlaethol Cymru. ‘Mae Sgidie, Sgidie, Sgidie gan Mared Roberts – drama fuddugol y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019 – yn stori garu anghyffredin sy’n gosod digartrefedd, tlodi ac anghyfartaledd cymdeithasol ar ganol llwyfan rithiol. Daw’r cyfan yn fyw mewn cyflwyniad ar-lein sy’n ymateb i’r her o greu theatr yn y cyfnod hwn o fod dan glo.’ Mae modd gweld y ddrama trwy fynd ar wefan Theatr Genedlaethol Cymru.

19 LLANGRANNOG Eglwys Carannog Sant Diolch i’r Parchedig Matthew Baynham am baratoi gwasanaethau Sul wythnosol ar lein ers i’r Eglwys orfod cau oherwydd y pandemig. Diolch hefyd i’w fab, Sam Baynham am y gerddoriaeth ac am ei waith o lanlwytho’r gwasanaethau i wefan “cardigan-bay-churches.org” Dosberthir crynoddisgau i’r aelodau sy’n methu cysylltu a’r wefan.

PEN-Y-PARC Cydymdeimlad Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â Mary Griffiths, 19 Heol-y-Felin ar golli ei gŵr, Martin yn ddiweddar. Estynnwn ein cydymdeimlad hefyd â thrigolion 23 Heol y Felin am golli eu mab, Ben Partis mewn damwain yn ddiweddar.

Llongyfarchiadau i Val a Wyn Williams, Dolwerdd a ddathlodd eu Priodas Ruddem ar 31 Mai.

Penblwydd hapus i Margaret Davies a fydd yn 80 oed mis hwn. Penblwydd hapus hefyd i Aled Rees, Trefere a fydd yn hanner cant ar ddiwedd y mis.

PONTGARREG Llongyfarchiadau i Marged Elen Evans, Golygfa, Llangrannog sydd wedi graddio gydag anrhydedd 2:1 mewn Gwyddorau Cymdeithasol o Brifysgol Bangor, Gwynedd. Pob lwc iddi i’r dyfodol.

Gwellhad buan Brawychwyd ardal gyfan pan glywyd am ddamwain erchyll Mr Ross Fairbourne, Mill View yn ddiweddar. Cafodd anafiadau difrifol i’w goes. Mae wedu treulio amser yn yr ysbyty ond mae adre yng nghofal ei deulu erbyn hyn.

20 PLWMP Bywyd gwyllt yn y cyfnod cloi ym Mhlwmp Rydw i wedi bod yn sylwi ar bethau bach dros y pedwar mis diwethaf. Peillwyr o bob maint, lliw a siâp sy wedi bod yn mynd yn ôl a blaen i wahanol flodau. O’r dechrau roedd cachgi bwm a gwenyn yn chwilio am neithdar cynnar mewn pethau fel dant y llew, briallu a llysiau'r ysgyfaint. Wedyn daeth blodau fel gorthyfail sy’n denu clêr a chlêr hofran. Cafodd llawer o bryfed gwahanol eu denu gan lygaid y dydd o’r pryfed gleision Red Admiral (aphis) i’r pili-pala. Wrth gwrs dydyn ni ddim yn gweld y peillwyr mwyaf sy’n hedfan yn y nos, y gwyfynod, ond mae rhai’n hedfan trwy’r dydd fel cymdeithion y bwrned (burnet moths) chwe smotyn. Cawson ni arolwg gwyfynod llynedd ac roedd 100 o rywogaethau ar ein tir. Nawr, mae’r ddôl yn llawn o suon pryfed gwahanol a cheiliogod y rhedyn.

Celia Richardson

Pwy a ŵyr? Burnet moth chwe smotyn

21 R HYDLEWIS Llongyfarchiadau i Mansel Jones, Garreg Lwyd ar enedigaeth ei ŵyr cyntaf, Caleb Elias. Ganwyd mab bach i Huw a Vicky a brawd bach i Mared. Dymuniadau gorau i'r teulu yn Abertawe.

Cydymdeimlwn â theulu a chydnabod Meuris Evans, Glynarwel. Bu farw yng Nghartref Hafod Aberteifi a chynhaliwyd angladd breifat ym mynwent Capel Hawen

SYNOD 18 oed Llongyfarchiadau i Sara Louise ar ei phen-blwydd arbennig yn ddiweddar.

Ysgol Bro Siôn Cwilt Estynnwn gariad at holl deulu Bro Siôn Cwilt mewn cyfnod mor ansicr ac anodd. Mae hi bellach wedi bod yn gyfnod hir i ffwrdd o’r ysgol, ond efallai bod peth golau yn dechrau ymddangos i ni nawr. Er hyn, mae’r plant wedi bod yn brysur yn cwblhau gwaith a thasgau di-ri adref yn ogystal â datblygu sgiliau pwysig trwy arddio, coginio ac yn bennaf, a chael cyfle i fondio gyda’u teuluoedd. Hoffwn ddiolch i chi blant a’r rhieni a’r gwarchodwyr am eich amynedd a’ch cefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn. Er mwyn gweld fideo o waith hyfryd ein plant, ewch i edrych ar ein cyfryngau cymdeithasol. Wrth i’n cyfyngiadau ddechrau llacio, edrychwn ymlaen at groesawu ein disgyblion yn ôl i’r ysgol mewn modd diogel. Mae lles ein disgyblion wedi bod yn flaenoriaeth gennym erioed ac felly rydym fel staff yn barod !i sicrhau profiad mor hapus a dymunol a gall fod iddynt. !!!!!! Stori Maisie Mae Maisie, sy’n ddisgybl yn Ysgol Bro Siôn Cwilt, wedi bod wrthi’n brysur yn ystod y ‘cyfnod clo’ gyda’i modryb yn creu darn o waith fel ‘sypreis’ i’r ysgol. Aeth ati gyda’i hen fodryb i gynllunio a chreu brodwaith arbennig. Mae yna stori a rheswm tu ôl i bob llun. Gofynnodd i aelodau o’r gymuned i fod yn rhan o’r cynllun drwy ofyn iddynt greu pennill er mwyn ei osod ar y gwaith. Pwrpas y darn yw ei osod ar wal o fewn yr ysgol fel dathliad o ddewrder staff y GIG/NHS a’r Gweithwyr Allweddol ac i ddiolch i’r disgyblion a’r staff am aros adref yn ystod y cyfnod yma o bandemig. Mae enw pob un Maisie a’r peiriant gwnïo disgybl ag aelod o staff wedi eu gosod ar y gwaith. Yn wir, mae’r ddwy yn ddyledus i’r NHS, bu hen fodryb Maisie yn nyrs yn Ysbyty’r Waun ers dros ugain mlynedd a bellach wedi gwella o gancr y fron. Gwaith ysbrydoledig dros ben.

22

E

W

E

W (GWELER ISOD)

D

Dyma hefyd ychydig o waith gan ddisgyblion eraill o’r ysgol sydd wedi bod yn dathlu ! gwaith y GIG.

!

!

!

Sgwâr Synod a fflag BLM Braf cael gweld neges bwysig ar sgwâr Synod; dyma

esboniad o’r hanes gan Marged Ioan.

Mae bywydau du o bwys.

Slogan yw hon. Slogan sydd wedi dod i’r amlwg dros yr wythnosau diwethaf yma i godi ymwybyddiaeth am nôl canrifoedd i gyfnod y fasnach gaethweision. anghydraddoldeb a chamdriniaeth pobl du.B Daeth ymgyrch Black Lives Matter i sylw blaengar yn y cyfryngau yn dilyn i ben yn y 19eg ganrif, ond nid hynny marwolaeth anghyfiawn George Floyd yno Minneapolis ar y 25ain o Fai eleni. Mae’n siŵr bod stori Floyd yn gyfarwydd ym mhob tŷ ar draws y byd erbyn hyn ac er trasiedi'r digwyddiad, mae’n sicr wedi sbarduno trafodaethauN a phrotestiadau sydd o fudd ac sy’n cynnig gobaith ar gyfer dyfodol mwy cyfiawn. Digon yw digon. Slogan arall sy’n cael ei weld ar faneri

mewn protestiadau led led y byd. Mae hanes camdriniaeth bobl du yn mynd nôl canrifoedd i gyfnod y fasnach

gaethweision. Bryd hynny roedd pobl du yn cael eu prynu

23 nôl canrifoedd i gyfnod y fasnach gaethweision. B ! i ben yn y 19eg ganrif, ond nid hynny o

N

gan deuluoedd gwyn, yn cael eu gorfodi i weithio ac yn cael eu trin yn waeth nag anifeiliaid. Daeth hyn i ben yn y 19eg ganrif, ond nid hynny oedd diwedd y gormesu. Ers hynny mae pobl du wedi gorfod brwydro yn galed am flynyddoedd i gael hawliau. Nawr, dylem fod yn gallu dweud bod bywydau bobl du'r un mor werthfawr â bywydau pawb arall, ond dyma ni heddiw yn gweld pobl du yn cael eu cam-drin ac yn colli bywydau o dan rym heddlu gwyn, breintiedig. Yn 2019 lladdwyd 1,004 o bobl gan heddlu America. Roedd 37% o’r rhain ! yn bobl wyn a 23% yn ddu. Nid yw hyn yn cynrychioli cymdeithas gyffredinol America o gwbl, lle mae tua 72% yn bobl wyn a 12% yn bobl du. Mae’r anghysondeb yma’n pwysleisio’r gwahaniaethu yn erbyn pobl du sy’n gryf o fewn awdurdodau’r wlad. Felly digon yw digon. Ni ddylem dderbyn byd anghyfiawn. Mae’n rhaid condemnio hiliaeth. Mae angen cofio hefyd nad dim ond yn yr Unol Daleithiau mae hiliaeth yn bodoli heddiw. Yn dilyn cynnwrf ymgyrch Black Lives Matter, rydym wedi gweld tipyn o wrthwynebiad gan bobl ar draws y byd. Ac rydyn ni yng nghefn gwlad Cymru yn bell o fod yn ddi-fai. Mae hiliaeth achlysurol (casual racism) yn bodoli yn ein cymunedau ni hefyd. Mae hiwmor yn ffordd gyffredin o fasgio hiliaeth; dweud sylw hiliol yn ysgafn ac yna chwerthin. Hawdd yw chwerthin wrth elwa’r o’r fraint o fod yn wyn. Os ydyn ni’n dod o hyd i’n hunain mewn sefyllfa lle mae rhywun, naill yn ffrind neu’n ddieithryn, yn bod yn hiliol, yna mae’n rhaid i ni godi’n llais. Mae cadw’n dawel yn yr achos hwn yr un mor ddinistriol â’r sylw hiliol. Nid yw’n ddigon i ni fod yn ddi-hiliol, mae angen i ni fod yn wrth-hiliol. Addysgu ein hunain am gamdriniaeth bobl du. Adnabod ein braint fel pobol wyn. A sefyll ochr yn ochr gyda’r frwydr dros gydraddoldeb. Achos mae bywydau du o bwys.

Marged Ioan

24 TALGARREG Pob cydymdeimlad â theulu ac â chyfeillion niferus Marina Hughes, Tymawr, Cilcennin, a fu farw fis diwethaf.

Llongyfarchiadau – i Gylch Meithrin Talgarreg ar ddod yn y tri uchaf yng nghategori Cylch Meithrin – Talaith y De Orllewin yn Seremoni Gwobrau Mudiad Meithrin 2020. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi fis Hydref. – i Donald Evans, Y Plas ac i Audrey Griffiths, Dolydd ar ddathlu penblwyddi arbennig fis diwethaf.

Gwellhâd buan i Gwern Morgan, Rhuthun, ŵyr Arwel a Mary, Bryndelyn, ar ôl llawdriniaeth frys yn ysbyty Alder Hay, Lerpwl.

Enillwyr Clwb 100 Neuadd Talgarreg Fis Mawrth Barbara Davies, Dolgarreg, Llandysul Cware Crug yr Eryr Wendy Griffiths, Gwêl y Cwm Teulu Sisto

Fis Ebrill Gethin a Rhian, Awelfor, Plwmp Donald Evans, Y Plas Robyn, Sycharth Rhys, Maes y Coed

Fis Mai Teulu Bodwenog Hywel Dafis, Blaenglowon Fach Pugh a Rhiannon Jones, Gorlan, Llanybydder Morgan Hedd, Garreg Wen

Llongyfarchiadau arbennig i William John Griffiths a Margaret Griffiths, YGlyn, Talgarreg Bydd y ddau yn dathlu ei penblwydd yn 80 oed ym mis Gorffennaf – John ar y 12fed. a Margaret ar y 25ain.

25 TANYGROES

Penblwydd hapus a dymuniadau gorau i Margaret Davies Castell Nadolig ar ddathlu ei phen-blwydd yn 60 oed ac i Gareth Evans Glasfryn ar gyrraedd 70 oed yn ystod yr haf.

Cydymdeimlwn a Lyn Davies Pennant a'r teulu ar golli mam a mam-gu annwyl

Dymunwn wellhad buan i Nick ,Hesperia, sydd wedi bod yn yr ysbyty yn ddiweddar.

BRYNGWYN Penblwydd hapus a dymuniadau gorau i Marged Evans, Albar, ar ddathlu ei phen-blwydd yn 18 oed. Colofn Ben Lake

Wn i ddim amdanoch chi, ond rwyf wedi hen golli trac ar ba ddiwrnod, pa wythnos a pha fis yw hi – mae’r diwrnodau i gyd yn teimlo’r un fath – yn llawn cyfarfodydd gwaith (dros Zoom), sgyrsiau gyda theulu (dros Zoom) a chwisiau gyda ffrindiau (ie, dros Zoom!). Mae’n anodd coelio nad oeddwn i erioed wedi clywed am Zoom ddechrau fis Mawrth, a nawr mae’n anodd dychmygu bywyd hebddo. Yn sicr mae’r Coronafeirws wedi cyflwyno heriau anferthol i’n ffordd o fyw. Mae bywyd fel yr oeddem i gyd yn gyfarwydd ag ef wedi trawsnewid yn llwyr, ac rwy’n falch iawn o’r ffordd y mae cymunedau wedi ymdopi ac wedi addasu yn sgil yr argyfwng. Diolch i chi gyd am eich amynedd, eich cydweithrediad a’ch dyfalbarhad – gyda’n gilydd rydym wedi cadw ein cymunedau’n ddiogel, ac rwy’n siwr y dewn ni drwyddi’n gryfach fel cymdeithas. Un peth mae’r cyfnod hwn wedi’i brofi yw pwysigrwydd cadw mewn cysylltiad, ac mae technoleg newydd nid yn unig wedi caniatáu i ni gadw mewn cysylltiad gyda theulu a chyfoedion, ond mae hefyd wedi caniatáu i nifer o fusnesau, cwmnïau a sefydliadau fedru parhau i fod yn gynhyrchiol. Yn hynny o beth, ry’n ni wedi profi bod modd i rai sectorau a gweithwyr weithio o bell, a chredaf fod y darganfyddiad hwn yn cynnig cyfleoedd arbennig i gefn gwlad. O weld mwy o swyddi amrywiol yn caniatáu i weithwyr weithio o adre, boed hynny’n llawn amser neu’n rhan amser, dwi’n ffyddiog y gallai hynny alluogi ein pobl ifanc i aros yn eu cynefin. Ond wrth gwrs, er mwyn symud yn llwyddiannus i’r cyfeiriad hwn, mae’n hanfodol bwysig bod ein hisadeiledd band eang a’n cysylltedd digidol ni yn ymestyn i bob cornel o’r sir a bod pob cartref yn medru cael mynediad at gysylltedd cyflym a dibynadwy. Bum mewn cyfarfod â phrif swyddogion BT ychydig wythnosau yn ôl i drafod y diffygion parhaus o safbwynt band eang yng Ngheredigion ac ro’n i’n falch o glywed bod trafodaethau ar waith, ochr yn ochr â Phrifysgol , i drio datrys y sefyllfa bresennol yn ein hardaloedd gwledig. Wrth gwrs, mae’n bwysig cael cydbwysedd rhwng ffyrdd traddodiadol a thechnolegol o gymdeithasu ac ymwneud â’n gilydd. Rwy’n croesawu’r datblygiadau technolegol sydd wedi bod yn amhrisiadwy i ni dros yr wythnosau diwethaf, ond ochr yn ochr â thechnoleg, mae angen cynnal cymdeithas a chadw cysylltiad mewn ffyrdd corfforol, wyneb-i-wyneb hefyd, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at allu gwneud hynny unwaith eto – yn y “normal newydd”.

26 % %%

%

% Cynulliad y Bobl yn trafod cynhyrchu bwyd %yng Ngheredigion – Lleisiau amrywiol ond %undod pwrpas – dyfodol cynaliadwy

Cynulliad y Bobl ar-lein; llun Elin Jones, AS %

Mae XR Aberteifi wrth eu bodd â’r ymateb i Gynulliad y Bobl a gynhaliwyd ar-lein tua diwedd mis Mehefin lle roedd dros 150 o bobl yn bresennol. Mae wedi arwain at lwyth o adborth cadarnhaol gan bobl na fyddai yn aml yn yr un cyfarfod; ffermwyr (rhai wedi ymddeol a rhai prysur), ecolegwyr, tyddynwyr, gwleidyddion, masnach-arddwyr, cynghorwyr bwyd, a gwerthwyr bwyd. Roedd y pynciau’n amrywiol, ond roedd pob un yn canolbwyntio ar bwysigrwydd amaethyddiaeth a defnydd tir yn yr ystyr ehangaf a sut y gallai’r system bresennol gael ei gwneud yn fwy cynaliadwy yng Ngheredigion. Gwrandawodd y mynychwyr ar gyflwyniadau gan Elin Jones AS a chan XR Aberteifi a oedd yn cyd-gynnal y digwyddiad, ac yna ar sgyrsiau byr gan yr NFU, FUW, ecolegydd, garddwriaethwyr organig, yr RSPB, cynrychiolwyr bwyd Cymru, dŵr a llifogydd, a Ben Lake AS. I lawer, Cynulliad y Bobl hwn oedd eu profiad cyntaf o Ddemocratiaeth Fwriadol. Roeddent yn croesawu’r cyfle i wrando ar arbenigwyr ac yna cael eu rhoi mewn grwpiau bach i drafod fel bod modd gwrando ar farn pob unigolyn. Trafododd yr 17 grŵp: ‘Beth allai fod yn system ffermio gynaliadwy ar gyfer Ceredigion? Sut gallem ni ei chyrraedd?’ Gwnaethon nhw nodiadau am eu hatebion manwl a dewis eu prif bwyntiau i’w hadrodd yn ôl i'r prif gyfarfod. Roedd yna lawer o argymhellion yn ymwneud â maes amrywiol iawn, o addysg drwodd i fynediad haws i ffermio. Mae’r canlyniadau'n dal i gael eu crynhoi ond byddant ar gael yn fuan. Y bwriad yw anfon y canlyniadau at yr holl gyfranogwyr, Cynghorwyr, Aelodau o’r Senedd ac unrhyw un arall sy’n

27 dymuno eu gweld. “Dyma hanfod democratiaeth agored. Nawr mae angen i ni adeiladu arno i wneud newid go iawn a pharhaol ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Gall cynulliadau tebyg ein helpu i adeiladu consensws yn ein hangen brys i ddod o hyd i ffordd ymlaen i atal newid peryglus yn yr hinsawdd,” meddai Sarah Wright, a oedd yn cyd-gynnal y digwyddiad ar ran Gwrthryfel Difodiant. Mynegodd llawer o’r mynychwyr eu teimlad mai dim ond dechrau’r daith oedd hyn a bod angen cadw’r drysau ar agor i drafodaeth gadarnhaol. Yn amlwg mae llawer mwy i'w ddweud a dewisodd llawer o fynychwyr aros ymlaen a pharhau i siarad ar ôl i’r Cynulliad swyddogol ddod i ben. Meddai Elin Jones AS ar Twitter: ‘Pe tasen ni wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus i drafod amaeth cynaliadwy mewn neuadd bentref rywle rhwng a Llanarth, yna fydden ni ddim wedi cael 150+ i gyd mewn un lle, gyda siaradwyr gwych, ymneilltuo i grwpiau bach a phopeth drosodd mewn 2 awr. Ond digwyddodd heno ar Zoom yng Ngheredigion. Cyfarfod adeiladol gyda lleisiau amrywiol ond undod pwrpas – dyfodol cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu bwyd yng Ngheredigion. Dechrau trafodaeth ddefnyddiol iawn. Dechrau sgwrs wych. A gweithredu. Diolch i’r trefnwyr, XR Aberteifi, i’r NFU, FUW, CFfI, Ben Lake, cynghorwyr, ffermwyr, cynhyrchwyr, gwerthwyr, a phawb. Cychwyn trafodaeth fuddiol iawn.’

Os hoffech gael copi trwy e-bost o’r syniadau niferus a godwyd yng Nghynulliad y Bobl, cysylltwch â Gwrthryfel Difodiant Aberteifi ar [email protected]

28 CWATO WRTH Y CORONA Prins y Gath Mae Prins, cath o Dremain, yn cymryd hunan-ynysu o ddifri! Neu ydyw e'n ofni llygod Aber-porth?

!!!!!! Hyder Dim ond y strydoedd llym, adeilad llwyd. Clindarddach lorri-ludw hyd y stryd, Teuluoedd caeth mewn fflat neu dŷ mewn rhwyd Dan bwysau dwys heb fwythau, cusan glyd. Mae'r dref yn ddistaw, iasol, gwag, yn wir, Ond clywir sŵn colomen ar y to. Mae haf afreal, dyddiau du a hir. Dolenna dyn heb ffrind o dro i dro. Ond amser nawr i sgubo llwybrau brwnt A darllen llyfrau gorau, torri ’ngwallt. Dwi'n mynd â’r cŵn am dro a dringo’r I weld y môr a rhedeg lawr yr allt A mwynhau'r bywyd araf, awyr bur A lliwiau’r wawr, y machlud hardd a'r fflur.

Gan Wendy Evans, a enillodd Gadair y Dysgwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol llynedd, ac a ddysgodd Gymraeg yn Aberteifi.

29 Pawb yn Elwa Wel dyn ni wedi bod dan glo rŵan am faint? Wyth wythnos? Dw i’n meddwl mod i wedi addasu â’r sefyllfa yn dda iawn. I ddweud y gwir, dim ond un peth sydd yn fy mhoeni i, efallai dim ond un peth ond mae’r poen yn cynyddu pob diwrnod – fy ngwallt! Fel rheol dw i’n teimlo’n ffodus mod gen i lond pen da o wallt ac os mae o’n cael ei dorri yn gyson dydw i ddim yn sylweddoli ei fod yn tyfu mor gyflym. Erbyn hyn efo bob siop trin gwallt ar gau dw i’n gwybod yn iawn pa mor gyflym, ac mae fy ngwallt allan o reolaeth yn llwyr. Yn yr ystafell ymolchi’r bore ’ma ces i sioc, roedd rhyw ddyn gwyllt yn syllu arnaf trwy’r drych, roedd ei ben wedi ei orchuddio gan gorongylch o wlân cotwm. Mae’n dechrau teimlo’n anghyfforddus, mae’n fy nghosi o gwmpas fy ngwar a dydy fy het ddim yn ffitio bellach. Maen nhw’n dweud y siopau trin gwallt fydd yr olaf i ail agor a chlywais rywun yn sôn am rywbryd ym mis Gorffennaf. Mi fydda i allan o’n ngof ymhell cyn hynny! Y bore ’ma roeddwn i’n eistedd allan yn yr ardd tua hanner awr wedi pump, yr haul heb ddechrau cynhesu’r diwrnod ond yn taflu olau hardd. Roedd yr adar yn brysur ganu a finnau wedi lapio’n gynnes. Mwynhau’r achlysur. Dw i’n eistedd tu allan peth cyntaf yn y bore yn aml iawn a’r adar yn gyfarwydd iawn â fi erbyn hyn. Y bore ’ma roedd dau aderyn, yn amlwg yn ddwfn mewn cariad ond yn ddigartref. Roedden nhw’n syllu ar fy mhen ac yn dangos tipyn o ddiddordeb. “Sbïa ar y pen yna,” dywedodd yr un “bydden ni ddim llawer o amser yn adeiladu nyth yn fanna!” “Ti’n iawn” meddai’r llall “mae digon o ddefnydd yna i greu nyth yn ddigon mawr i chwech o blant!” Aethon nhw ymlaen i gynllunio eu dyfodol a finnau yn trio fy ngorau i ddangos dim diddordeb o gwbl ond roeddwn i’n cydymdeimlo efo’u sefyllfa nhw. Na fyddaf yn hapus iddyn nhw nythu ar fy mhen ond mi oedd un ffordd byddaf yn gallu helpu, a helpu fi ar yr un pryd. Es i i’r ystafell ymolchi, cydio yn y siswrn a thorri’r cwbl lot i ffwrdd, rhoi’r holl wallt mewn hen focs ’sgidiau a’i thycio fo yng nghanol un o’r coed afalau. Ymhen awr roedden nhw wedi symud i mewn ac yn cael parti. A finnau? Wel dw i’n teimlo’n llawer mwy cyfforddus, bydd rhaid gwisgo het wrth gwrs ond erbyn mis Gorffennaf mi fyddaf yn barod i gael toriad go iawn. Peidiwch ag edrych ar y dyddiad, nid Ebrill y cyntaf yw hi – mae’n stori wir ac os nad ydych yn fy nghredu fi edrychwch ar Twitter achos ar ôl y parti mawr roedd y ddau aderyn lwcus a’r ffrindiau i gyd yn brysur ar Twitter ac yn twîtio’r stori i’r holl fyd. Cadwch yn saff!

Rob Evans

Helynt Ffliw 1918 ac ati Y tro diwethaf digwyddodd haint tebyg i Cofid 19 oedd y ‘Spanish Flu’ enwog a ledaenodd ar draws y byd yn 1918. Does neb yn gwybod yn iawn faint fu farw o’r ffliw hwnnw ond mae’r ffigwr byd eang rhwng 50 a 100 miliwn o bobl. Yr amcangyfrif o farwolaethau ym Mhrydain oedd 185,000. Nid oes ffigwr ar gyfer Cymru ond mae adroddiaday papurau newydd y cyfnod yn crybwyll fod 144 wedi marw yn y Rhondda ym mis Gorffennaf 1918 yn unig a bod milwyr wedi dod i gynorthwyo agor beddau. Er cymhariaeth mae marwolaethau Prydain o Cofid 19 ar hyn o bryd rhwng 42,000 a 62,000 a marwolaethau Cymru o gwmpas 1,450. Un o’r cwynion a glywir heddiw yw nad oedd y llywodraeth wedi rhagweld nac wedi paratoi ar gyfer haint tebyg i Cofid 19. Diddorol felly oedd darllen adroddiad o bapur wythnosol ‘Y Cambrian’ o Awst 25, 1805 sef 215 o flynyddoedd yn ôl am gynlluniau Llywodraeth Prydain yn y flwyddyn honno: “... to prevent the spreading of the Plague and other contagious diseses.” Roedd trefniadau 1805 yn debyg iawn i’r ‘lockdown’ presennol ac yn sôn am – lendid personol, cwarantin 20 diwrnod, a cadw draw wrth bobl sâl. Roedd y cynlluniau yn nodi fod profiad cannoedd o flynyddoedd yn dangos fod pla yn lledaeni trwy gysylltiad agos a phobl sydd a’r haint arnynt yn barod. Mae’n bwysig felly, medd y cyfarwyddiadau, cadw draw wrth bobl heintus.

30 Mae’r cyfarwyddiadau yn nodi fod camgymeriadau wedi eu gwneud yn yr oesoedd cynt megis yn oes y Frenhines Elisabeth yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Yn y cyfnod hwnnw camgymeriad oedd cadw y sâl a’r iach o’r un teulu gyda’u gilydd yn eu tŷ a rhoi croes ar ddrws y tŷ i nodi fod y pla yn y tŷ. Roedd hyn wedi arwain at bobl yn gwrthod cyfadde bod y plâ yn y ty a bod pobl sâl yn dal i fynd o gwmpas ac yn lledaenu yr haint ymhellach. Dyma rhai o’r prif ganllawiau a luniwyd gan y Llywodraeth yn 1805:

• Cadw unrhyw un sydd yn dioddef o’r haint yn ei dy neu yn ei thŷ ei hun a symud pob person iach allan o’r tŷ. • Darparu bwyd i’r claf drwy ddefnyddio planc o bren a’i drosglwyddo trwy ffenest y tŷ. • Dim rhannu llestri, cyllyll ac ati gyda’r claf. • Meddyg i alw ond cadw draw o’r claf a gwisgo menyg a gorchudd o ‘oiled silk’. Golchi rhain yn syth wedyn. • Claddu y meirw mewn ‘oiled’ neu ‘tarred cloth’. • Claddu liw nos a dim canu cloch y llan a gwneud yn siwr fod y bedd yn 6 troedfedd o ddyfnder. • Canslo pob cyfarfod cyhoeddus. • Cau neuaddau, theatrau, ysgolion ac eglwysi. • Symud marchnadoedd allan o’r trefi i’r wlad. • Trefnu ysbytai dros dro mewn tai, sguboriau, siediau neu bebyll.

Ddim yn wahanol iawn felly i gynlluniau Boris a Drakeford yn 2020!

Un ffoto ysbyty dros dro adeg ffliw 1918

Gerwyn Morgan

31 Gwybodaeth i’r Tyst Cefais gais gan Olygydd y Tyst am wybodaeth ar sut mae pethau arnom yn y rhan yma o Geredigion. Dyma’r hyn a anfonwyd ac a gyhoeddwyd ar Mehefin 4ydd, 2020:

Danfonaf air i ddweud sut mae pethau arnom yn y rhan yma o Gymru. Sef Gorllewin Ceredigion yng nghanol y newid eithriadol sydd wedi dwad ar fywydau pobl! Sylweddolaf mai rhywbeth go debyg yw hi ar bawb ohonom lle bynnag yr ydym yn byw. Mae saith Eglwys yn fy ngofalaeth sef Hawen, Rhydlewis; Bryngwenith, Henllan; Glynarthen; Capel y Wig, Blaencelyn; Pisgah, Talgarreg; Pantycrugiau, Plwmp; Brynmoriah, Brynhoffnant. Yma mae nifer yn cael trafferth i dderbyn fod y fath beth a Coronafeirws wedi cyrraedd pen yma o Gymru, mae yna drafferth i dderbyn bod rhaid cau ein Heglwysi, ein Haddoldai! aml un methu arfer a’r rhwystredigaeth, llawer o’r gair PAM yn cael ei ddefnyddio. Mae yna golli cwmni eu cyd Gristnogion. Mae plant yr Ysgolion Sul a’r bobl ifanc wedi bod yn brysur yn gwenud arwyddion a lluniau o’r Enfys a chael pleser mawr yn eu paratoi gan werthfawrogi y cyfle bob nos Iau i wneud eu diolchgarwch a’u gwerthfawrogiad yn glywadwy! PAM ar benwythnos Sul y Blodau fod ein Mynwentydd yn NO GO AREA… wel sôn am strach. Ers 90 mlynedd roedd un o’r aelodau wedi bod yn rhoddi blodau ar feddi ei theulu ‘a pwy yda ni – sef chi y Gweinidog, y Diaconiaid, y Swyddogion i ddweud wrtha i am gadw draw.’ Er bod yna lawer o geisio argyhoeddi a addysgu o’r perygl wedi bod, nid yw pawb o hyd yn derbyn ‘bod yna berygl’ a bod rhaid cau drws ein Heglwysi.a gwrando ar y rheolau. A’r gwyn yw “beth ydym yn mynd i wneud nawr ar ddydd Sul?” nid oes pawb hefo modd i gael oedfa yn ddigidol, y ffôn yw y peth hanfodol rwan. A postio oedfa allan o hyn ymlaen.” Yma yng nghefn gwlad Gorllewin Ceredigion mae yr amaethwyr yn cario mlaen fel ag o’r blaen, nid oes dewis arnynt, i raddau helaeth, ond yn gweld eisiau yr Oedfaon a’r Marchnadoedd wythnosol a cael cwmni a sgwrs. Mae canslo bob gwasanaeth priodas wedi gorfod digwydd. Roedd 8 cwpwl wedi edrych ymlaen ac wedi trefnu ers blynyddoedd maith am ddydd eu priodas. Dyna siom a dagrau, a diflastod. Bydd bedyddio yn mynd i orfod digwydd cyn y priodasau a bydd y babis yn troi yn blant bach ac yn cerdded ymhen dim. A gwaeth byth ANGLADDDAU. Y gair PAM unwaith eto, PAM na chawn wasanaethau angladdau mewn Capel? PAM na chawn fwyd te angladd yn beth mawr! PAM fod cyn lleied o rif o alarwyr sydd i fod ar lan bedd neu yn yr Amlosgfa. Bellach mae’r Amlosgfa yn recordio y gwasanaeth neu yn ei roddi yn fyw ar y we.

32 Gan fy ngwneud yn nhu hwnt o nerfus, gan nad wyf yn gyffyrddus pan fo rhaid dweud rhywbeth yn Saesneg! A beth am yr estyn llaw i gydymdeimlo a cadw pellter wel wel mae yna le... Peth cyntaf mae rhai yn ei wneud yw dod atoch a estyn llaw neu fy nghofleidio. Does dim gobaith arnaf fel Gweinidog i gadw y feirws ma i ffwrdd. Mae y Gweinidog fel yr Ymgymerwyr Angladdau yn y “Front Line”. Serch hynny ar ochr bositif, mae amser wedi bod i bawb i arafu. Mwy o amser i feddwl ac ystyried pethau. Amser i siarad a gwrando ar ein gilydd. Mwy o amser i Dduw, rwan rydym yn gwneud yr amser dylem fod wedi ei roddi o’r blaen i siarad â’n Tad nefol. Amser i weld beth sydd gennym yn y Tŷ nad oeddem yn cofio bod hwy i’w cael. Amser i helpu eraill, yn ymarferol ac yn ysbrydol. Llawer yn mynd i siopa i eraill, a llawer yn casglu ‘prescriptiwns’ gan wneud cymwynasau pwysig. Llawer wedi bod yn cyflwyno eu hunain i gymydog ac yn siarad am y tro cyntaf ag eraill. Mae llawer wedi gorfod arafu i lawr ac oherwydd hynny wedi sylweddoli llawer o bethau am nhw eu hunain. Rhai pethau da a rhai pethau dim cystal… Peidiwch a gadael i hyn i gyd fod yn ofer, gall wneud Cristnogion gwell ohonom os gadewn i’r Arglwydd weithio trwom. Credaf fod yna bwrpas i bob peth. Mae neges 75 mlynedd yn ôl ar ddydd y V E Day yn aros yn ein clyw ‘Never give up, never despair’ sef ‘Paid a rhoi fyny, paid a digaloni’ ‘cawn eto gwrdd’. Daw haul ar fryn. Yng Ngheredigion y bu nifer isaf o gleifion â Chovid 9 – llai na 50, o’i gymharu â bron i 750 yn Sir Gâr a 400 yng Ngwynedd.

Y Parchedig Carys Ann

33 Llygod y Llocdown Mae ’na ddwy lygoden fach yn dwgyd pisyn o gaws, reit uwch ben trwyn cath; eraill yn gwerthu “mice- cream”, ac eraill eto yn cael parti yn Neuadd y Pentre’! Pwy, neu beth y’n nhw? A phwy sy’n gyfrifol am eu hymddangosiad drwy bentre’ Aber-porth ers y Cyfyngiad? Neb llai na Peter Taylor, a gytunodd i roi rhywfaint o’i hanes – a hanes y llygod – i mi ar gyfer Y Gambo.

Pryd caffoch chi’r syniad o greu’r murluniau? Sylwais ar gymaint o blant yn mynd heibio fy nhŷ ac yn edrych am Dedi Bêr neu enfys wrth gerdded ar ei ymarfer dyddiol. Cofiais am waith artist o’r enw David Zinn yn Efrog Newydd. Roedd e’n defnyddio sialc i ddarlunio creaduriaid ar bafin neu rhewl. Yna, penderfynais wneud yr un peth ar ochor y pafin tu allan'''' i’r tŷ a dewis llygod fel fy nghreaduriaid bach i. '

'

'

Wnaeth rhywun dynnu llun o’r gwaith a’i bostio ar Facebook. Ces fy synnu pan ddaeth mwy a mwy o blant i weld y llun a’r ymateb yn gyffredinol. Yn amlwg roedd y llygod yn apelio at y plant yn arbennig. Feddyliais wedyn bod ’na gyfle i greu cymeriadau gwahanol – ac fel ’na ddatblygodd y peth.

'

A’i hynny wnaeth eich sbarduno i greu lluniau eraill yng ngwahanol lefydd? Roedd ymateb y plant a’i rhieni i’r llun cyntaf yn sicr wedi hela fi i feddwl, “Be nesaf? Ble arall byddai’r llygod yn debyg o fod – a beth fydden nhw’n i wneud?” Oherwydd y lockdown, bydden nhw’n gallu mentro allan yn fwy, gan fod llai o bobol a cheir o gwmpas. Ac fel y llygod wnes i fwynhau’r rhyddid – a’r sbri – o gael nhw i ymddangos yn annisgwyl, o gwmpas y pentre’. Ces fy synnu eto pan ddaeth hi’n amlwg bod ’na garfan o “ffans” mas ’na a nawr dwi’n cael fy ngwahodd i addurno welydd sawl tŷ yn y pentre’.

34 Ond beth oedd eich hanes fel arlunydd cyn hyn? Y peth cyntaf sydd rhaid i mi ddweud yw, fy mod i wedi dysgu fy hunan i ddarlunio; dwi byth wedi bod i Goleg Celf o gwbl. Dwi’n dod o Gaerdydd yn wreiddiol, ac wedi bod yn ffotograffydd masnachol am 15 mlynedd cyn mynd yn fframwr lluniau am 25 mlynedd. Ond, ar ôl cael trawiad ar fy nghalon yn 2017, penderfynais ail-afael yn beth oedd yn hobi, Map Lleoliadau’r Llygod sef arlunio, ac ar ôl tipyn, ! penderfynu gwneud hynny yn + + waith llawn-amser. Fel arfer, dwi’n arbenigo mewn gwaith + still life a thirluniau. +

35 A sut wnaethoch chi ddod i Aber-porth? Cwrddais â’m mhartner, Ann Smith, yng Nghaerdydd, ond oedd hi wedi byw yn Aber-porth ers pan oedd hi’n 5 oed! Mae Neuadd y Pentre yn chwarae rhan yn y stori, hefyd! Pan oedd Colin, tad Ann, yn y Llynges Brydeinig, roedd ei long wedi docio yn Abergwaun, ac fe aeth i Neuadd y Pentre ar gyfer rhyw ddigwyddiad. Yna fe gwrddodd ef a Meg, mam Ann, a wnaethon nhw briodi yn Aberteifi. Ar ôl cyfnod gyda’r Llynges, wnaethon nhw ymgartrefu yn Aber-porth, lle cafodd Ann, a’i brawd Steven, eu magu. Ar un adeg, roedd Meg yn gweithio fel “nanny” ac yn edrych ar ôl pedair merch o deulu’r Aspinals, a oedd yn byw yn y Ship Inn ar y pryd. Yn ystod yr adeg o’n i’n byw a gweithio yng Nghaerdydd, o’n i’n arfer dod lawr yn weddol aml i weld y teulu Pry’nny ddes i nabod yr ardal a’r gymuned – a nawr i ni’n rhan ohoni.

Beth nesaf, felly, i chi a’r llygod? Shwt i chi’n teimlo pan fydd pobol yn eich galw yn “Banksy” Aber-porth? Ie – Banksy Aber-porth! Rhaid cyfaddef mae’n hela fi i chwerthin, ond allai ddim cymharu fy hunan iddo fe mewn unrhyw ffordd; mae ei waith e’n wleidyddol, mae’r llygod jyst yn damaid o sbri. Beth nesaf i’r llygod? Wel, pwy a ŵyr? Dwi wedi cael sawl un yn awgrymu gwahanol bethau, ond ar hyn o bryd, gai weld beth ma’ nhw’n gweud wrtha’i beth yw’r camau nesaf! A dal i gadw mlaen a fy ngwaith arall, wrth gwrs.

36 Tipyn o hanes Gwenith Owen – neu Eddie Ladd – yn ei geiriau ei hun

Dawns yr Ysbrydion

Daeth teulu fy nhad i fyw i Faesglas ym Mlaenannerch ym 1958, felly Gwenith Maesglas ydw i, a fy nhad-cu newidiodd enw’r fferm o Bluefields. Rwy’n meddwl bod Levi Bowen, y cyn-berchennog, hefyd wedi newid yr enw blaenorol, Parc Glas. Daeth fy mrawd o hyd i fap OS o 1885 a dyna oedd enw’r lle bryd hynny. Mae’n debyg fod Levi a’i deulu wedi symud yma yn ystod 30au’r ganrif o’r blaen gan fod yr enw Levi Bowen a’r adyddiad 1934 wedi’u paentio ar un o drawstiau’r storws. Mae nhad a mam wedi olrhain y lle 1854. Roedd yna dafarn ochor draw’r clos, ac mae’r wal galch a’r lle tân yno o hyd y tu ôl i wal denau yn y tanc rŵm. Yn sgil hyn, galwyd y lle Y Bliw gan lawer o bobol gan fod bliw yn siwg (las!) i ddal mesur o gwrw. Es i ysgol fach Aberporth, ddwy filltir o Weirniaeth Y Bliw, ac ymlaen wedyn i’r ysgol fowr yn Aberteifi. Mae yna ddiwrnodau tyngedfennol yn digwydd yn ein bywydau i gyd, a dyma Menna Elfyn, ein hathrawes dosbarth, wrth ein clywed yn clebran rhyw fore, yn gofyn yn drist a oedd neb ohonon ni’n siarad â’n gilydd yn Gymraeg. Roedd hi ond newydd ddod allan o’r carchar yn sgil ymgyrchu dros yr iaith. Wedyn es i Aberystwyth i astudio Saesneg, Cerdd a Drama. Yno daeth diwrnod tyngedfennol arall. Meddai’r darlithydd oedd yn didoli glasfyfyrwyr y cwrs Drama, “Right, who’s Welsh medium and who’s English?”. Rown i’n eistedd ar y ffin rhwng y ddwy garfan, ac fe allwn fynd i’r dde, at yr ochor Gymraeg, neu i’r chwith at yr ochor Saesneg. Llithro’r fymryn lleiaf draw at yr ochor ar y dde wnes i, yn cywilyddio gan na fyddwn wedi croesi’r llawr pe bawn ymhellach draw ymysg y myfyrwyr cyfrwng Saesneg, a phe na bawn i wedi astudio Drama drwy’r Gymraeg rwy’n credu y byddwn wedi dechre colli’r iaith hyd yn oed yn Aberystwyth. Daeth tro ar fyd ers hynny. Ryn ni wedi hen arfer clywed y stori am Sais yn agor drws tafarn a’r dorf y tu

37 mewn yn sydyn yn troi i siarad Cymraeg. Mae’r un peth yn digwydd i fi - mae Cymry Cymraeg yn sydyn reit yn troi o siarad Saesneg â’i gilydd i’r Gymraeg wrth i fi nesáu, cymaint rwy’n cael fy ystyried yn un o selogion yr iaith nawr! Ddiwedd y flwyddyn honno, dyma eiliad dyngedfennol arall. Dilynais gyngor yr Athro Ioan Williams i astudio Drama fel gradd yn lle Saesneg. Wrth i ni drafod un diwrnod dywedais ei bod yn cymryd tair wythnos i fi ddarllen nofel (rwy’n darllen yn araf bach rhaid dweud ac mae astudio’n gofyn am beido â bod mor ling-di-long) ac fe atebodd y byddai’n well arna’i i astudio ei bwnc ef gan mai ond tair awr y byddwn yn ei threulio yn darllen drama. Fe wnaeth e’ fy atal rhag mynd i ffwdan ofnadwy a pheri i fi ganolbwyntio ar Ddrama yn hytrach na’i ystyried yn ddim ond pwnc atodol i’r Saesneg yn y flwyddyn gyntaf. Wedi dod yn actor a gweithio am ryw dair blynedd fe ddechreuais greu darnau, mân bethau, heb arian na chymhelliad cyfnod ymarfer. Gwahodd cynulleidfa at y gwaith yn y pen draw, a cheisio am arian wedi hynny. Erbyn hyn rwy’ wedi creu tuag ugain o ddarnau ac wedi bod yn ddigon ffodus i deithio ledled Cymru a gwledydd pell ac agos i’w perfformio. Mae fy sioeau’n cyfuno gwaith corfforol, sgript a thechnoleg o bob math ac rwyf, er enghraifft, wedi creu darnau am Caitlin, gwraig y bardd Dylan Thomas; am Bobby Sands, y carcharor IRA fu farw ar streic newyn ym 1981; am ddŵr a thir (yn enwedig Tryweryn); am gof corfforol ein cenedl; a hyd yn oed ddisgo distaw am Owain Glyndŵr. Daeth y Clo Mawr â phopeth i ben i bawb. Ond mae perfformwyr llawrydd yn hynod o chwimwth, ac mae fy nghymdeithion wedi penderfynu peidio ag aros nes i’r theatrau ailagor cyn mynd ‘n ôl at eu gwaith. Mae’r cwmnïau mawrion, megis Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales, wedi gwneud gwaith arbennig i gadw’r diwydiant rhag mynd i’w wal drwy gomisiynu gwaith ar-lein yn ystod y cyfnod hwn, a roedd fy sioe ddiweddaraf, Fy Ynys Las, yn rhan o’u cynllun Creu Ar-lein. Rwy wedi bod ym Maesglas ers cyn y cyfnod dan glo, a map o’r ffarm a’r filltir sgwâr oedd y sioe. Cafodd ei pherfformio ar 20 Mai, ac ynddi roeddwn yn sôn am ddiwylliant cefn gwlad ac arferion amaethu, gan atgynhyrchu rhai o’m hen sioeau hefyd gan fod offer bron pob un o’r ugain wedi’i storio yn y tai ma’s. Cafodd y perfformiad ei lwyfannu ar blatfform Zoom, a roeddwn yn dangos lluniau o’r clos, er enghraifft, a sôn am weithwyr, cymdogion a pherthnasau a ddaeth ato ar hyd y blynyddoedd a sut fu newid arferion ffermio yn ei droi o fod yn glos o bridd a cherrig i un concrid. Soniwn hefyd am sut mae maes awyr Blaenannerch, a’r diwydiant arfau sydd ynghlwm ag ef, yn ffinio â Chapel Blaenannerch, lle ffrwydrodd y Diwygiad ym 1904 gydag ymweliad Evan Roberts yn un o’r oedfaon cynnar. Mewn golygfa arall dangoswn luniau o gyfnod ymarfer sioe am Dryweryn yn y garej ym Maesglas. Perfformiwyd y sioe unwaith ar-lein a’r recordiad ar gael am fis wedi hynny. Tynnwyd fideo olaf y sioe o awyren fach ddibeilot (drone) gan Scott Waby o Aberystwyth, a roedd yr olygfa fry uwchben y ffarm, gyda thractor yn troi silwair yng nghaeau Eurig ar draws y ffordd, a’r môr y tu hwnt i bentre Parcllyn, i gyd yn wyneb haul, yn ddigon i dynnu dagrau. Fel nifer o ’nghyfeillion, rwy nawr y cynllunio sut i greu gwaith byw ar gyfer cynulleidfaoedd sy’n methu dod at ei gilydd ac sy’n gwneud y gorau o ffonau symudol, gliniaduron a phodlediadau. Mae broliant fy nghyfrif Twitter yn dweud fy mod yn ddawnswraig ac yn ffermwr lla’th. Er nad wy’n ffermwr, mae’n dweud rhywbeth ’mod i am ei gydnabod. Ar hyn o bryd rwy’n dyfalu sut mae arddel y ddau – hwn yw, neu oedd, y traddodiad yma, sef codi gyda’r wawr at y gwaith, a barddoni neu gyfansoddi neu berfformio cyn gorwedd efo’r hwyr.

38 STACAN YR AWEN

[Anfonwch eich cyfraniadau at [email protected]]

Englynion gan rai o feirdd ardal y Gambo Siawns bod neb yn fwy siomedig na beirdd ardal y Gambo na fydd y Steddfod Genedlaethol yn dod i Geredigion eleni fel y bwriadwyd. Roedd nifer fawr ohonyn nhw wedi bod yn hogi eu harfau ers misoedd, debyg iawn, ac wedi cyflwyno campweithiau erbyn y dyddiad cau. Fel tamaid i aros pryd, felly, beth am edrych yn fras ar rai o fuddugwyr steddfodau’r gorffennol o’r ardal hon. Drwy gymwynas aelod o ddosbarth cerddi mae gen i rester o’r enillwyr mwyaf cyson yng nghystadlaethau barddoniaeth y Genedlaethol dros y blynyddoedd diwetha, ac mae Cardis yn amlwg iawn yn eu plith. Ar frig y rhester mae Emrys Edwards, ond allwn ni mo’i hawlio fe, debyg iawn. Ond yn dynn ar ei ôl mae Vernon Jones, Bow Street gyda 23 o lwyddiannau, ac mae Dai Rees Davies, Pen-dre yn agos i’r brig. Ers 1990 roedd Dai wedi ennill ar yr englyn digri / ysgafn 5 gwaith, y delyneg 3 gwaith, cerdd ddychan ddwywaith a chyfres o limrigau. Dyma englyn ysgafn Dai Rees yn 2009 i Barddas:

Eu baban yw Hunllef Bobi – a’u camp Yw’r coeth flodeugerddi. Cenhadon pob barddoni, A Maffia’n llenydda ni.

Cydradd gyntaf oedd Dai ar hwn, gyda neb llai na Dafydd Wyn Jones, Aberteifi:

Ffiaidd, asynnaidd Synod – a hidlodd Fy awdlau – a’u gwrthod! Swm eu byd, rheswm eu bod Ydyw difa cerdd dafod.

Fel mae’n digwydd, yn 2009 yng Nghwm Rhymni hefyd enillwyd y dilyniant o dair telyneg gan Vernon Jones, a dyma fe a Dai Rees eto’n rhannu’r wobr am gyfres o dribannau. I fynd nôl ychydig yn hanes y Genedlaethol, roedd Dewi Emrys,Talgarreg, yn enillydd cyson, ac ym 1938 enillodd ar yr englyn i’r Ywen – y flwyddyn gyntaf i’r Cyfansoddiadau a’r Beirniadaethau gael eu cyhoeddi erbyn diwrnod y Cadeirio. Enillodd ar yr englyn lawer gwaith wedyn, a hwyrach mai ei englyn enwocaf yw i’r Gorwel yn 1947. Mae ei gerdd dafodiaith Pwllderi hefyd lawn mor adnabyddus. Ym 1951 yn Llanrwst enillwyd yr englyn gan Brifardd arall o ardal Y Gambo, sef Gwilym Ceri Jones, yn enedigol o Rydlewis. Goleuni’r Gogledd oedd y testun:

Dunos y Pôl yn olau – rhudd a gwyrdd Yw gwawr gerddi’r nennau. Onid Duw gwyn sy’n teg wau I’r nef iasoer enfysau?

Yr hyn sy’n ein synnu ni heddiw efallai yw cynifer o weithiau mae’r wobr wedi’i hatal am yr englyn yn y Genedlaethol, ond yn amlach tua dechrau’r ganrif ddiwethaf –1900, 1907, 1909, 1913 a 1937 er enghraifft. Ond mae gweithiau fel Yr Hirlwm gan Alun Cilie yn 1949 yn gwneud yn iawn am unrhyw siom yn y blynyddoedd cynt:

39 Adeg dysgub ysgubor – hir gyni A’r gwanwyn heb esgor. Y trist wynt yn bwyta’r stôr Hyd y dim rhwng dau dymor.

Ond dyw’r ardal hon ddim yn brin o enillwyr ar yr englyn digri chwaith. Ym 1972 yn Sir Hwlfordd y gofynnwyd am y tro cyntaf am Englyn Ysgafn, ac erbyn 1997 roedd Dai Rees Davies wedi dod i’r brig eto gyda’i englyn i Gerdyn Post gan Rywun ar Wyliau:

Gair ar hast. Tywydd yn grêt. Fi a Wil Ers nos Fawrth ger Barnet Yn aros mewn rhyw garet, Ond rwy’n fodlon. Cofion. Kate.

Mae’r englyn wedi ei alw’n Englyn Crafog hefyd yn y gorffennol, ac ym 1991 enillodd Idris Reynolds ar y testun Opera Sebon:

Yn Gymro Ifanc stranciais – dros heniaith Dros sianel ymgyrchais. Ond er y sŵn gyda’r Sais Yn y Rovers yr yfais.

Dyfarnwyd £40 o’r wobr i Idris, ond gorfod iddo ildio £20 i Dafydd Wyn Jones:

Ni fedd un o rinweddau’i rieni Er rhannu eu henwau. Onid nad yw ei nodau A lol noeth sôn am lanhau?

Bydd rhaid mynd ati rywbryd eto i gynnwys rhai o’r englynion digri, ysgafn, crafog sydd wedi’u cyfansoddi ar gyfer Englyn y Dydd yn y Babell Lên yn y Genedlaethol dros y blynyddoedd.

40 ’Sgubor ’Sgwennu’r Ifanc

Hoff le Ela Harries Mae gan Dadcu gae wrth ymyl traeth Cwmtydu. Nid yn unig mae’r cae yma yn edrych allan ar yr ymyl allwrdd o fryniau, yn y pellter, yng Ngogledd Cymru, mae’r cae yn gartref i rai o’r ceffylau mwyaf prydferth dwi erioed wedi gweld. Yr adeg yma o’r flwyddyn yw fy hoff adeg i ymweld â’r cae oherwydd bod gan bob caseg ebol, sydd wedi cael eu geni wrth ymyl y môr. Mae’r cae wedi rhannu i wahanol gaeau bach gan fanciau a llwyn gors, ond nid oes ffens na giat mewn golwg. Ar ymyl y cae agosa at y môr mae yna linell o goed, sydd yn plygu drosto fel petai cefen tost gennyn nhw. Wrth fynd yna mae yna synwyr o ddistawrwydd a llonyddwch – y gallu i ddianc o’r byd swnllyd. Gallaf fod yng nghwmni Dadcu a’r ceffylau, heb weld neb. Dim ond gwyrddni a’r môr sydd o’m blaen. Ynys Lochdyn sydd yn y pellter, fel marblen wedi rholio oddi wrth weddill y tir. Wrth i mi a Dadcu ymweld â’r cae trwy’r flwyddyn mae yna wahaniaeth enfawr yn y tywydd a’r tirwedd. Yn y gaeaf mae’n rhewllyd o oer, gyda’r tir a’r môr yn llwyd ac yn dywyll. Ond yn yr haf bydd angen gorchuddio fy nghorff cyfan mewn haenau trwchus o eli haul wrth i’r haul aur llosgi, a’r porfa yn chware gyda’r tonnau. Fel arfer wrth flasu ac arogli halen rydych yn eistedd ar y traeth, mae’r profiad o eistedd mewn cae o borfa a blasu ac arogli halen yn brofiad gwahanol ac arbennig iawn. Mae’r caeau yma wedi bod yn fy nheulu am dros 100 o flynyddoedd. Rhywle arbennig i fi a Dadcu, ac yn sicr fy hoff le i fod yw Cwmtydu. !

Fy hoff le – Talgarreg (gan Jano Evans) Pentref bychan ym mhlwyf yw Talgarreg, pentref bychan ond gyda chymuned glos. Ardal wledig sydd yma gyda llawer o dirwedd o’n cwmpas. Ers yn fychan dwi wedi byw yn y pentref ond yn ddiweddar, ers ein bod ni gyd wedi bod gartref, dwi wedi sylwi, wrth fynd am dro ar yr holl bethau anhygoel yn ein milltir sgwâr. Yng nghanol y pentref mae’r ysgol gynradd leol, y dafarn a’r neuadd. Dyma brif atyniadau’r pentref lle mae pawb yn cwrdd yn ystod cyngerdd, digwyddiad neu am sgwrs. Mae’r tri yma yn tynnu y gymuned at ei gilydd ac rydym yn ddiolchgar bod yr ysgol fach dal yn rhedeg mor gryf ag erioed. Mae plant yr ardal mor lwcus eu bod nhw yn cael pob cyfle gan staff yr ysgol. Dros y blynyddoedd rydym wedi cael sawl bardd yn ein plith yn cynnwys Dewi Emrys, Sarnicol a Donald Evans (sydd dal yn byw ym mhlas y pentref). Yn eu tro mae’r tri wedi bod yn llwyddiannus iawn yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Dwi’n hoff o gerdded o gwmpas y pentref a chwrdd â holl gymeriadau’r pentref, o’r diflas i’r digri! Mae gan bawb yn y pentref gymeriad ei hun a dwi’n dwli cael clonc gyda phob un. Mae’n

41 anhygoel faint o swyddi sydd mewn pentref mor fach, ein trefnydd angladdau, siop deithiol, ein ffermwyr, athrawon, tafarnwr, ficer, adeiladwr, saer coed… mae’r rhestr yn hirfaith. Y bywyd gwyllt ymhobman: y cwningod a’r adar yn bennaf. Mae mor brydferth i weld yr anifeiliaid yma yn cael rhyddid yn yr awyr iach. Clywed y lloi yn brefu a gwylio’r ŵyn bach yn prancio. Aroglu y silwair ffres yn cael ei dorri a blasu hwyl a chwerthin plant y pentref. Edrychaf ymlaen at weld beth sydd i ddod yn y dyfodol i Dalgarreg ac yng ngeiriau Sarnicol, “dof yn ôl i’r dawel fan o bedwar ban y byd.”

!

42 ! ! Ysgol Trewen a Phentre Cwmcou – fel y bu ! ! ! ! ! ! ! ! ! ! !

Ysgol!!!!!!!!! Trewen 1955 – Prifathro Mr D. J. Evans !!!!!!!!!!!Llun o’r staff a’r disgyblion yn cynnwys aelodau staff y gegin Staff!!!!!!!! (3) Disgyblion (57) Staff y Gegin (2). Llun trwy garedigrwydd Dewi Jones (rhes gefn – trydedd ar y dde) !! !!!!!!!!!! ! Wrth deithio tuag at bentref Cwmcou o gyfeiriad Ponthirwaun! mae ton o dristwch yn fy meddiannu wrth sylwi bod yr ysgol wedi cau a’r porfa yn tyfu’n! afreolaidd o amgylch yr adeilad ar iard ar cae chwarae. Fues i ddim yn ddisgybl yn yr adeilad yma ond mae gen i atgofion byw a chlir o’r diwrnod ym mis Gorffennaf 1957 pan roeddwn yn aelod o !dîm o fechgyn a merched yn cynorthwyo i ! drosglwyddo’r desgiau a’r cadeiriau o’r hen ysgol ger Capel Trewen lle bues yn ddisgybl am chwe ! mlynedd. Doedd dim sôn am reolau Iechyd a Diogelwch yn y dyddiau hynny. Hon oedd fy mlwyddyn ola yn yr ysgol gynradd, wedi pasio fy 11+ ac yn edrych ymlaen i fynd i Ysgol Ramadeg ! Aberteifi ym Mis Medi. ! Mae’r atgofion yn llifo’n ôl i’r tair ystafell a thri athro – Mrs Blodwen Richards yng ngofal y ! plant lleia mewn ystafell arwahan ac yn y “rwm mowr” Miss Beryl Evans yn yr hanner isaf (erbyn ! hyn Mrs Kiff ac yn byw yn Llandysul) yng ngofal y plant rhwng 7 a 9 ac yn y rhan ucha Mishtir (Mr D J Evans) yn paratoi y plant hyn ar gyfer yr 11+. Trwy ei reolaeth llym, roedd bob blwyddyn ! yn sicrhau canran uchel iawn o lwyddiant yn yr 11+. ! Mab y prifathro yw yr Athro Roy Evans a fu yn Is-Ganghellor Coleg Bangor ac yn gyn ddisgybl, ! ychydig yn hyn na mi. Mae’r hen ddywediad “O fesen y tyf y goeden dderwen” yn wir am Ysgol Trewen oherwydd gwnaeth eraill ddisgleirio mewn! nifer o feysydd. Roeddwn i yn dipyn o gamster ar ffigyrau a mathemateg, yn enwedig “Mental arithmetic” ac mi gefais fy mhymtheg munud o enwogrwydd ym Mis Mai 1966 ar raglen Hughie !Green “Double your Money” ar y pwnc yma, yn 19 oed ac ar gychwyn fy ngyrfa yn y Banc. ! Roedd cinio’r ysgol yn cael ei ddosbarthu yn Festri’r! Capel drws nesa gan Miss Lisi Ann Rees yn cael ei chynorthwyo gan Mrs Ruth Davies Milestone. Yn blentyn 7 oed roeddwn i a’m chwaer yn cwrdd a Mrs Davies bob bore yn ymyl sticil Ffynnonddwrgi! Fach ac yn cyd gerdded a hi i’r ysgol, pellter o tua milltir. Rhaid cyfadde ei bod yn! gerddwraig hynod o gyflym ac i blentyn coesau byr, roedd fel “power walking” i mi. Wrth agosau! at yr ysgol cwrdd a Mr Oliver Davies, Arosfa ! 43 ! ! ! ! ! !!!!!!!! !!!!!!!!!!!!!!! !!!!!!!!!!!!!!! (tad Mrs Richards yr athrawes) a phawb yn ei gyfarch “Bore da Mr Davies”. Rhwng y cae chwarae a thir a gardd Felin Trewen roedd wal tua 4 troedfedd o uchder a chwymp yr ochr draw o rhyw 4 troedfedd arall lawr i ardd Mr Tom Davies y Felin, a oedd yn arddwr penigamp. Gwae i unrhyw un i gicio’r bêl dros y wal lawr i’r ardd oherwydd roedd rhaid i rhywun ei nôl. Siars wedyn i fachgen dewr i wneud hynny ond roedd na berygl bod Mr Davies yn gwylio fel barcud o bell, ac yn aml roedd y bêl yn cael bod yn y man ar lle hyd nes y gwelwyd ef yn mynd yn ei gambo fach a phoni heibo’r ysgol am y pentref. Rwyf yn dal i alw’r ysgol a gauwyd y llynedd yn ysgol Newydd ond erbyn hyn mae’r adeilad yn 63 mlwydd oed. Mae’n adeilad cadarn a deniadol a fy nymuniad yw y caiff ei defnyddio er lles y gymuned i’r dyfodol. Gwnaed pob ymdrech i’w chadw ar agor ond yn dilyn gostyngiad nifer y plant lawr i 9 doedd ddim gobaith mewn gwirionedd. Troi wedyn at y pentref – roedd rhes o dai ar y rhiw ar y chwith y ffordd am Bryngwyn sydd wedi ei dymchwel i ledaenu’r ffordd fawr. Roedd Siop a Swyddfa Bost yno ar y pryd yng ngofal Mr Sidney Jones a’i briod Mrs Marion Jones gyda’r drefen “Open all hours”. Roedd Sidney yn frawd i W R Jones, fy athro daearyddiaeth yn Ysgol Ramadeg Aberteifi cyn mynd yn brifathro cyntaf Ysgol y Preseli – Marion yn ferch i’r Parchedig David Evans a fu yn Weinidog ar Drewen, Bryngwyn a Bethesda am dros hanner canrif hyd tua 1944 pan daeth y Parch Ben Owen yn ei le. Roeddwn yn hoff o alw yn y siop i brynu Gobstopper neu efalle Wagon Wheel cyn dychwelyd am adre o’r ysgol. Ychydig y tu allan i’r pentref oedd Felin Geri a oedd yn fwrlwm o weithgaredd lle roedd Mr Defi John Jones yn malu i ffermwyr lleol a’r llif fawr goed yn gweithredu’n gyson. Brawd i’r Parchedig Ieuan S Jones oedd Defi John (Abertawe ac Undeb yr Annibynwyr) ac roeddwn yn synnu at ei nerth wrth drin a thrafod y boncyffion mawrion a oedd yn cyrraedd ei “sawmill” er mwyn creu postion neu styllod neu drawstiau ar gyfer adnewyddu neu ychwanegu at adeiladau ffermydd cyafgos. Roeddwn ar y safle ar ddiwrnod yr arwerthiant yn dilyn marwolaeth Defi John Jones. Deallaf bod sawl defnydd wedi ei wneud o’r safle ers hynny yn cynnwys bwyty Siapaniaidd. Roedd yr holl ddarpariaeth/peiriannau yn cael ei redeg gan egni dwr am fod dwr o’r afon Ceri wedi ei ail gyfeirio i greu camlas yn arwain at y rhôd ddwr. Un cymeriad na fedraf byth ei anghofio yw Mrs E.A. Williams, Pontceri, yn enwog dros nifer o ddegawdau yn dysgu plant o bell ac agos i feistroli’r piano ond mae rhaid cyfadde mae un o’i “methiannau” oeddwn i ac roedd yn fy atgoffa bob tro roeddwn yn ei chyfarfod. Erbyn hyn mae “bypass” wedi ei chreu i ynysu hamlet fach Pontceri. Ie, dyddiau da i mi oedd y pumdegau a’r chwedegau. Wrth edrych yn ôl i lyfrau hanes yr oes a fu rwy’n siwr bod pobol wedi aberthu llawer i ddod ag addysg i gymuned Cwmcou, sefydlu ysgol a’i chynnal. Mae fy hen dadcu a mamgu wedi ei claddu ym mynwent Trewen, ger y bont a’i cyfnod hwy oedd 1830–1900. Rwy’n meddwl yn aml – tybed faint o addysg a gawsont hwy er iddynt fagu wyth o blant, ond colli tri o rheiny yn ifanc iawn (9, 25 a 26 oed) oherwydd afiechydon y cyfnod.

Dewi Jones

44 CORNEL Y PLANT Posau Mis Mehefin Pos 1 - Dyma’r coed oedd yn cuddio – onnen, collen, llwyfen, ffawydden, sbriwsen, ywen, derwen, pinwydden, olewydden, masarnen, bedwen, helygen. Pos 2 – Croesair y coed. Dyma’r atebion: Ar draws: 3. tresi aur; 5. concer; 6. Rhisgl; 7. Conau; 10. Gwreiddiau; 11. cloroffyl I lawr: 1. Mes; 2. Pigog; 3. T Llew Jones; 4. Brigau; 8. Olewydd; 9. Hadau Llongyfarchiadau i Abigail o Rhosmeirch, Ynys Môn ac Eli-May o Brengwyn am gyflwyno atebion cywir i’r ddau bos. Fe fydd tocyn rhodd yn y post i’r ddwy! Gweithgareddau a phosau mis Gorffennaf Erbyn hyn mae’r llyfrgelloedd yng Ngheredigion wedi agor – cyfle i ni gyd ddarllen mwy dros yr haf. Mae’r Cyngor Llyfrau wedi rhoi catalog o lyfrau ar lein – Blwyddlyfr Plant a Phobol Ifanc 2020 Dyma beth sydd ganddynt i’w ddweud amdano: ‘Mae ein blwyddlyfr yn ffenest siop ar gyfer yr ystod ragorol o lyfrau i blant a phobl ifanc a gafodd eu cyhoeddi yng Nghymru yn 2019 – yn Gymraeg, yn Saesneg ac yn ddwyieithog.’ Hefyd, maent yn tynnu sylw at sialens arbennig: ‘Sialens Ddarllen yr Haf Gall cynnal yr arfer o ddarllen yn ystod gwyliau hir yr haf fod yn heriol. Rydyn ni, felly, yn gweithio gyda’r Asiantaeth Ddarllen a llyfrgelloedd ar hyd a lled Cymru i ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddarllen chwe llyfr rhwng diwedd tymor yr haf a dechrau’r tymor newydd. Mae cymryd rhan yn rhad ac am ddim, ac mae ’na wobrau a thystysgrifau arbennig i’w hennill.’ Dyma gyfeiriad y wefan: http://www.llyfrau.cymru/ymgyrchoedd-campaigns/catalog?diablo.lang=cym

.Defnyddiwch y llyfryn i chwilio am atebion i’r cwis yma. Blwyddlyfr 2020 Tudalennau 32—40 1. Chwiliwch am deitl llyfr gan Gwyn Morgan 2. Pwy yw awdur y llyfr ‘Codi’r To’? 3. Sawl llyfr sydd yn y gyfres ‘Cnoi Cul? 4. Chwiliwch am deitl llyfr o gerddi gan Casia Wiliam. 5. Pwy yw awdur y llyfr ‘Y Ddraig yn y Castell’? 6. Pa wasg sy’n cyhoeddi’r llyfr ‘Brwydr y Bêl’? 7. Pwy yw awdur y llyfr ‘Na, Nel! Help!’? 8. Beth ydy enw un o’r gemau yn ‘Bocs2 Gemau’r Parot Piws’. 9. Beth yw pris y poster o fap Ceredigion? 10.Beth ydy teitl y llyfr o gyfres Miss Prydderch? 11.Pwy yw awdur y llyfr ‘Genod Gwych a Merched Medrus’? 12.Beth yw pris ‘Thesawrws Lluniau Mawr’? Fe sylwch fod gennych ddewis o ddau bos mis yma. Anfonwch yr atebion sydd gennych at Lynda Mula, Tyrddol, Blaenannerch, Aberteifi SA43 2AJ neu [email protected]

45 46 47 48 !

! ! ddefnyddio? Cliciwch yma am gyngor Gwylio’n ôl - Mae sesiynau’n cael eu llwytho ar ein gwefan a’n sianel You Tube ar ôl eu darlledu er mwyn i chi

! wylio eto CroesoCCroeso Platfform AM – Rydym yn gweithio CroesoCroeso i ggylchlythyrylchlythyr ccyntafyntaf AAmGenmGen – gyda phlatfform AM i sicrhau bod cyflecyfle i ddalddal i fynyfyny gyda’rgyda’r ccynnwysynnwys sydsyddd modd gwylio sesiynau AmGen yr eisoeseisoes wwedi’iedi’i dddarlledudarlledu ffelel rrhanhan oo‘n‘n wythnos ar AM o bob pnawn Gwener prosiectprosiect nnewyddewydd nni,i, aacc eedrychdrychh yymlaenmlaen ymlaen atat yryr wwythnosythnos nesaf.nesaf. BwBwriadriad AAmAmGenGen ywyw ccynnigyynnig yyrr uunn ccymysgeddymysgedd eeclectigclectig aagg ymweliadymweliad ââ’r’r MMaesaes i gefnogwyrgefnogwyr yyrr EisteddfodEisteddfod eleni,eleni, ffelel bbodod mmoddodd ccaelael blasblas o’ro’r BrifwylBrifwyl ttra’nra’n aarosros ggartref.artref.

! Cerddi AmGen ein Prifeirdd

! Byddwn yn rhoi sylw i ambell elfen o'r SutSut i wyliowylio rhaglen ym mhob cylchlythyr, gan GallwchGallwch wwylioylio ccynnwysynnwys AAmGenmGen mmewnewn gychwyn gyda Cherddi AmGen ein nifernifer o fffyrdd:fyrdd: Prifeirdd. Gwylio’nGwylio’n fywfyw – RydymRydym yynn darlledudarlledu Rydym yn cyhoeddi cerdd newydd sesiynausesiynau aarr ZZoom,oom, TTrydar,rydar, FacebookFacebook sbon gan un o’n Prifeirdd am 16:30 acac arar wwefanefan yyrr EisteddfodEisteddfod bob dydd Llun a dydd Gwener, ar Zoomm – MaeMae amrywamrywy oo’n’n sesesiynau’nsiynau’n facebook a Trydar. Tro enillwyr y caelcael eueu darlledu’ndarlledu’n ffywyw aarr ZZoom.oom. HeHebb eeii Goron yw hi ar ddydd Llun, ac ar

49 !

! ddydd Gwener, rydym yn cyhoeddi Bethan Phillips yn cyflwyno’r stori i cerdd gan un o enillwyr y Gadair. bawb. Deio Bach yw’r ail gân, gyda Rydym eisoes wedi cyhoeddi cerddi mam yn canu i’w mab sy’n bell i ffwrdd gan Guto Dafydd a Myrddin ap Dafydd, mewn gwlad arall, ac mae’i hiraeth a’r wythnos hon, tro dau o brif enillwyr amdano yn amlwg yn y gân. Ewch yr Urdd oedd hi, gydag Anni Ll!n ac draw i’n cyfrif facebook am 18:00 nos Iestyn Tyne yn cyhoeddi cerddi Fercher a nos Sadwrn i’w mwynhau newydd. Beirdd yr wythnos nesaf yw Christine James a T James Jones. Cliciwch yma i ddal i fyny

!

Gweithdai

! Gall y dyddiau fod yn hir yn ystod y cyfnod cloi, ond mae gennym ni ddau Dwy gân gan Gwilym! gwrs i lenwi'r oriau! Byddwn yn cyhoeddi dwy gân gan Mae’r cwrs cynganeddu, Haf o Gerdd Gwilym Bowen Rhys yn ystod yr Dafod, sy’n bartneriaeth rhwng yr wythnos dan faner T! Gwerin. Mae’r Eisteddfod a Barddas, eisoes wedi ddwy yn ganeuon traddodiadol ond cychwyn, ond mae’r ddwy sesiwn wedi’u recordio’n arbennig ar ein cyfer gyntaf ar gael i’w lawr lwytho yma. ni’n ddiweddar. Cawn hanes Bydd Eurig Salisbury'n arwain y llofruddiaeth Hannah Davies, ar fynydd sesiwn nesaf ar Zoom am 20:00 nos Pencarreg yn y gân gyntaf, a bydd Fercher. nifer fawr ohonom yn cofio’r rhaglen Nos Iau, mae'r cwrs Gosod Cerdd arbennig yn y gyfres Dihirod gan Dant yn cychwyn am ar Zoom am

50 !

! 20:00, gydag Alwena Roberts o'r Gymdeithas Cerdd Dant. Cwrs i ddechreuwyr yw hwn, ond mae angen peth gwybodaeth gerddorol er mwyn cymryd rhan. Bydd y sesiynau hefyd ar gael ar-lein i wylio eto

!

CefnogiCefnogi AmGenAmGen MaeMae hollholl ggynnwysynnwys AAmGenmGen aarr ggaelael yn

! rhadrhad aacc aamm dddim.dim. OOnd,nd, maemae croesoccroeso mawrmawr i chichi wwneudneud ccyfraniadyfraniad ttuaguag aatt waithwaith yryr Eisteddfod.Eisteddfod. ClicCliciwchiwch ymayma i gyfrannugyfrannnu arar-lein,-lein, neuneu cycysylltwchsylltwch â nnii drwydrwy eebostiobostio [email protected]@eisteddfod.org.uk amam ffanylionanylion aarr susutt i ggyfrannu’nyfrannu’n rheolaiddrheolaidd eerr mmwynwyn cecefnogifnogi ggwaithwaith yyrr ! EisteddfodEisteddfod yn llleolleol a chchenedlaethol.enedlaethol. Amserlen a Sesiynau Zoom DiolchDiolchh yynn ffawr.awr. Ry'n ni'n cyhoeddi ein hamserlen bob

! pnawn Gwener drwy'r cyfryngau ! cymdeithasol ac ar-lein. Cliciwch yma i weld amserlen yr wythnos nesaf. Mae angen cod Zoom i ymuno gyda nifer o'r sesiynau yn ystod yr wythnos. Cliciwch yma i gael y codau i gyd, ac am gyngor ar sut i ddefnyddio Zoom

51 Clwb 500 Mis Ebrill £30 Hywel Thomas, Delfan,

£20 E. J. Jones, Panteg Croeslan

£15 Bethan Rees, Dolwar, Pentre-gât Cecelia Jones, Cartref Clyd, Aberaeron

£10 Lili Davies d/o Montrose, Ceinewydd Wendy Jones, Bronwion, Beulah Esta Davies, Min-y-maes, Penparc

Mis Mai £30 Ieuan Morgan, Glas y Dorlan, Cross Inn

£20 Islwyn Iago, Henfro, Felinwynt

£15 Zena Williams, 12 Heol Enlli, Tan-y-groes Lara Jones, Caerglyn, Ffostrasol

£10 Alun Evans, Afallon, Caerwedros Gwyneth Jones, Glanhaul, Brynhoffnant Ann Leek, Stryd y Parc, Cei Newydd

Mis Mehefin £30 Carol ap Dewi, Glasfryn, Blaencelyn

£20 Lili Davies, d/o Montrose, Cei Newydd

£15 Eddie Davies, 2 London Terrace, Crymych Jeffrey Jones, Brynwion, Beulah

£10 June Morgan, Coed-y-Bryn, Synod Inn Myra Davies, Hafan Glyd, Ffordd y Bedol, Aberporth Annie a Greg Taylor, Cae Castell, Caerwedros

52 Apêl Yn gyntaf, diolchwn yn fawr iawn i Meinir Jones Parry am ei rhodd o £20.

Yn ail – apêl. Mae’r Gambo wedi ymddangos ar-lein am 3 mis ac mae’r ymateb i’r datblygiad wedi bod yn gadarnhaol a chalonogol tu hwnt. Ond, o’i gyhoeddi ar-lein, nid ydym wedi gallu ennill incwm drwy werthiant. Yn anf- fodus, mae ’na gostau ynghlwm a chynhyrchu, boed ar-lein neu ar bapur. Felly, os y’ch chi wedi mwynhau’r darllen, allwch chi ystyried cyfrannu rhy- wbeth tuag at y gost?

Os fedrwch chi wneud hyn, gallwch anfon unrhyw roddion at y Trysoryd- dion, Des ac Esta Davies, Min-y-Maes. Penparc, Aberteifi SA43 1RE. Rhif ffôn 01239 613447 e-bost: [email protected]

Deiseb i atal newid enwau Cymraeg ar Dai

Mae deiseb ar droed erbyn hyn i gymell y Senedd i ddeddfu yn erbyn newid enwau Cymraeg ar dai yng Nghymru. Pryder y sawl sy’n hyrwyddo’r ddeiseb yw bod arfer yn cynyddu’n gyflym lle mae enwau brodorol Cymraeg yn cael eu dileu ac enwau Saesneg yn cael eu gosod eu lle pan fydd perchnogion newydd yn symud i mewn. Bu’r Senedd yn trafod deiseb debyg yn 2018, ond trechwyd y cynnig bryd hynny. Y pryder nawr yw bod nifer yr achosion o newidiadau fel hyn yn debygol o gynyddu’n sylweddol yn y dyfodol. Mae mwy o wybodaeth ar gael os teipiwch Deisebau – Senedd Cymru yn google. Mae’n ofynnol ar y Senedd i drafod unrhyw ddeiseb sy’n denu mwy na 5,000 o enwau, ac mae dros 15,000 o bobl eisoes wedi llofnodi’r ddeiseb hon.

53 DIOLCH I’N HYSBYSEBWYR

Lewis-Rhydlewis

14/3 Rygbi: Cymru v Alban yng Nghaerdydd 26/5 Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Dinbych 20/6 Taith Cysylltwchar y Welsh Highland Railway oâ Gaernarfon ni am i Borthmadog ac ymweld wybodaethâ Melin Meirion bellach 8/7 Eisteddfod LLangollen 21/7 [email protected] Sioe Frenhinol LLanelwedd Awst Eisteddfod Genedlaethol Cymru Cysylltwch â ni01239 am wybodaeth bellach [email protected] 01239851386 851386

54 Perchennog: Mr G T Williams Rheolwraig: Camwy Griffiths Is Reolwraig: Faith Wooldridge

55 4 Cornel Pendre, Aberteifi SA43 1JL Ffon: 01239 615030 / 07971 763272

Ebost: [email protected] Gwefan: teifiembroidery.co.uk 19 Pendre Spring Gardens Printio Corfforaethol $EHUWHLÀ Arberth Gwniadwaith Gwisg waith 01239 612004 01834 861660 Gwisg Ysgol Anrhegion Clybiau Chwaraeon Priodasau

DĂůĚǁLJŶ>ĞǁŝƐYmgymerwr Angladdau Afallon, Penrhiw-pâl, Llandysul )IƀQ    QHX    zŶŐǁĂƐĂŶĂĞƚŚƵĂƌĚĂůz'ĂŵďŽ &ZPQLWHXOXRO\QF\QQLJJZDVDQDHWKDFK\QJRUSURIIHVL\QQRO PHZQSURIHGLJDHWKHUVGZ\JHQKHGODHWK

ZZZOHZLVIXQHUDOVFRXN

ACCA

CYFRIFYDD ARDYSTIEDIG SIARTREDIG

45 136 Maesglas, Aberteifi. SA43 1AS Ffôn: 01239 571005 Symudol: 07557 448234 E-bost: [email protected] O Cyfrifon Blynyddol ac Interim O Ffurflenni Treth Personol ac i Gwmnïau O Cadw Llyfrau gan gynnwys Ffurflenni TAW O Cyflogau a CIS O Cyngor Cyffredinol i Fusnesau ac Unigolion Gwasanaeth effeithlon prydlon gyda gwên gyfeillgar! Ffoniwch ni ar 07557 448234 neu ebost [email protected]

Ceredigion ~ Sir Benfro ~ Sir Gaerfyrddin Trydanwyr Disglair Lleol GAREJ WAUNLWYD BarriDavies Gwaith atgyweirio ceir a.y.y.b. trydanwr Cyf Gwaith o safon uchel bob amser a Rhosnewydd, Brynhoffnant, Llandysul, Ceredigion. SA44 6EA Sefydledig ers 1992 t 01239 654135 Waunlwyd, Llangrannog. SA44 6RT m 07812 346150 e [email protected] Ffôn: 01239 654931 w www.bdelectrical.co.uk

Efallai nad yw eich banc yn cynnig cyngor – ond rydw i! Ydy eich banc wedi atal cynnig cyngor ariannol i chi? Os ydych wedi colli’r gwasanaeth hwn ac angen arweiniad pro esiynol, gallaf eich cynorthwyo! Gyda thros 27 o  ynyddoedd o bro ad, gallaf gynnig cyngor ar: Cynilo a Buddsoddi :: Yswiriant a Diogelu :: Cynllunio ar gyfer ymddeol Taliadau treth :: Rheoli Ystad :: Morgeisi ac Yswiriant Cartref Cysylltwch â mi am gyngor ariannol uniongyrchol: Richard Owen Jarman Dip CII, Cert CII(MP) Wealth Management Partner, True Potential Wealth Management LLP M: 07816 923618 E: [email protected] www.richardjarman.tpllp.com

56