1 CYFLWYNIAD PENNOD 1 CYFLWYNIAD

Beth ydy'r Cynllun?

1.1 Hwn ydy'r cynllun newydd sy'n cael ei baratoi i geisio cael y math iawn o ddatblygiadau yn Ynys Môn. Ymwna â'r cyfan o'r ynys a disodla'r cynllun sydd gennym i ardal Glannau Menai.

1.2 Ym mis Mai 1992 cyhoeddodd y Cyngor fersiwn ddrafft o'r cynllun i ymgynghori gyda'r cyhoedd yn ei gylch. Fersiwn diwygiedig o'r fersiwn honno yw'r Cynllun hwn. Gwnaed newidiadau ar ôl derbyn sylwadau ar y fersiwn ddrafft.

1.3 Yn y Cynllun hwn mae :- * datganiad ysgrifenedig yn cyflwyno'r polisïau a'r cynigion. * map mawr a mapiau llai yn dangos sut y bydd y polisïau hyn a'r cynigion yn cael effaith ar drefi ac ar rai pentrefi.

Yn ogystal, mae atodiadau sy'n cynnwys gwybodaeth ystadegol elfennol am yr Ynys a'i phobl (Atodiad 1), ynghyd â gwybodaeth ychwanegol am faterion eraill a gyfyd yn y cynllun.

Pam fod rhaid paratoi Cynllun?

1.4 Bellach mae'r Llywodraeth yn mynnu bod pob Cyngor yn paratoi cynllun yn ymgorffori'r wybodaeth ddiweddaraf i'r dosbarth.

1.5 Paratowyd Cynllun Fframwaith Môn yn gynnar yn y 1970au a chymeradwywyd ef yn ffurfiol yn 1977. Mae ei bolisïau i gael twf yn dibynnu ar gyflogaeth wedi methu. Tyfu fu hanes y boblogaeth yn y 1970au ond ni thyfodd y swyddi. Un cynllun lleol yn unig sydd yn Ynys Môn, ac mae hwnnw'n ymwneud â chornel fechan o'r Bwrdeistref (Cynllun Lleol Glannau Menai) ond mae hwnnw, hyd yn oed, bellach yn hen ffasiwn ac yn anymarferol. Bu mwy o godi tai na'r disgwyl yn ardal Afon Menai.

1.6 Gyda chymorth y cynllun hwylusir y broses o wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio a bydd y penderfyniadau hynny'n dangos mwy o gysondeb na'r hen rai. Bydd adeiladwyr, perchenogion eiddo a'r cyhoedd yn gwybod yn well beth y mae modd cael caniatâd iddo neu beth fydd yn cael ei wrthod. Gan fod cyfle i bawb gyfrannu yn y broses o baratoi'r Cynllun fe ddylai fod yn ddull teg a chyfiawn o wneud penderfyniadau.

1.7 Yn ogystal mae'r Cynllun Lleol yn dehongli'n fanylach y polisïau hynny sydd yng Nghynllun Fframwaith y Sir.

1.8 Yn Adran 54A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 dywedir yn gryno beth yw pwysigrwydd Cynllun Lleol:- "Pan fo raid ystyried y cynllun datblygu wrth wneud unrhyw benderfyniad dan y deddfau cynllunio bydd y penderfyniad hwnnw yn cael ei wneud yn gytûn gyda'r cynllun onid oes ystyriaethau sylweddol yn awgrymu na ddylid gwneud hynny."

Beth yw perthynas y Cynllun hwn gyda chynlluniau eraill?

1.9 Y Cynllun Lleol hwn, o'i gyplysu gyda Chynllun Fframwaith y Sir, fydd y "Cynllun Datblygu" i Ynys Môn. Yn y Cynllun Fframwaith ceir polisïau cyffredinol ac allweddol a ddefnyddir fel fframwaith i bolisïau manylach yn y Cynllun Lleol.

1.10 Cafodd Cynllun Fframwaith newydd a baratowyd gan Gyngor Sir ei gymeradwyo gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 29 Hydref 1993. Yn Atodiad 2, mae crynodeb o'r rhannau pwysicaf sy'n cael effaith ar Ynys Môn.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 1 CYFLWYNIAD PENNOD 1 1.11 Y syniad yw bod y Cynllun Fframwaith yn dilyn arweiniad y Cyfarwyddyd Cynllunio Strategol i Gymru.

1.12 Yn ogystal â hyn mae'r Llywodraeth yn cyhoeddi cyfarwyddiadau cenedlaethol y mae'n rhaid eu hystyried wrth baratoi cynlluniau datblygu ac wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio unigol. Ar hyn o bryd mae'n ymddangos yn bennaf ar ffurf nodiadau Cyfarwyddyd Cynllunio Cymru.

CYNLLUN DATBLYGU Deddfwriaeth Cynllun Fframwaith Sirol Arweiniad Cenedlaethol Cynllun Lleol Ynys Môn Cyfarwyddyd Cynllunio Strategol i Gymru

Yn ymarferol, mae hyn yn cyfyngu ar y polisïau y mae modd eu cyflwyno mewn cynllun lleol .

1.13 Wrth baratoi'r Cynllun rhoddwyd sylw i bolisïau eraill y Cyngor - yn enwedig y rheini yn y Strategaeth Datblygu Economaidd ac yn y Cynllun Strategaeth i Dai.

Am ba hyd y bydd y Cynllun yn Parhau?

1.14 Cynllun yw hwn am y cyfnod o 1991 hyd ar 2001. Efallai'n wir y bydd rhai polisïau yn parhau am gyfnod dipyn hwy tra y bydd rhai eraill angen eu hadolygu cyn diwedd y cyfnod. Yn sicr bydd raid cadw golwg ar y cynllun i weld tybed a fydd yna bolisiau a chynigion ynddo yn berthnasol i beth sy'n digwydd mewn gwirionedd ac i weld hefyd a ydynt yn cael eu gweithredu'n iawn.

Beth sydd yn y Cynllun?

1.15 Wrth baratoi'r Cynllun hwn, yr unig bolisïau a'r unig gynigion y mae'r Cyngor wedi eu cynnwys yw'r rheini ar gyfer datblygu i bwrpas gwneud defnyddiau eraill o dir. Mae angen edrych arno fel rhan yn unig o becyn polisïau'r Cyngor. Fel enghraifft, â'r Cyngor ati'n flynyddol i baratoi strategaeth economaidd ac un arall i dai.

1.16 Yn wir gwnaed penderfyniad ffurfiol i geisio cadw'r Cynllun mor gryno ag yr oedd yn bosib gan ganolbwyntio ar y prif gyfleon ac ar y prif broblemau cynllunio. Y gobaith yw y bydd y dull hwn yn ei gwneud hi'n haws deall y cynllun a chyflymu'r broses o'i fabwysiadu hefyd.

1.17 Mae ynddo 58 o bolisïau a 122 o gynigion. Y Polisïau yw'r cymalau sydd wedi eu gosod yn y blychau sydd wedi eu lliwio. Rhestrir y cynigion ar ddiwedd y bennod berthnasol.

Trefn y Ddogfen hon.

1.18 Mae 4 pennod arall yn y Datganiad Ysgrifenedig.

Pennod 2 - Strategaeth Gyffredinol Man cychwyn y Cynllun yw strategaeth gyffredinol y Cyngor i swyddi, i'r fframwaith ffisegol ac i'r amgylchedd. Pennod 3 - Swyddi Polisïau a chynigion i greu swyddi. Pennod 4 - Y Fframwaith Ffisegol a'r Amgylchedd Darparu fframwaith o wasanaethau (megis carthffosydd, ffyrdd, cyfleusterau i gael gwared â gwastraff) a diogelu nodweddion y tir. Pennod 5 - Tai Nifer y tai newydd a'u lleoliad.

1.19 Dilynir y bennod hon gan Atodiadau ac ynddynt wybodaeth fanwl.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 2 CYFLWYNIAD PENNOD 1 1.20 Mae pob pennod yn cael ei chyflwyno trwy gyfrwng cyfiawnhad cyffredinol i ddull y Cyngor o ddelio â'r polisi. Yn ogystal, cyfiawnheir polisïau unigol ym mhob pennod ac mae'r cynllun hefyd yn nodi ym mha fodd y caiff y polisïau eu gweithredu a'u goruchwylio.

1.21 Mae Atodiad 3 yn cynnwys crynodeb o asesiad a wnaed o effaith economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol y polisïau hyn.

Sut fydd y cynllun yn cael ei oruchwylio?

1.22 Mae'r Cynllun Lleol hwn yn nodi polisïau a chynigion am y cyfnod hyd at 2001. Mae dyletswydd statudol ar y Cyngor i sicrhau fod ffactorau sy'n cael effaith ar yr ardal "yn cael eu hadolygu" a bod yn y cynllun y manylion "diweddaraf a pherthnasol" . I wneud hyn, bydd y Cyngor :-

| yn asesu pa mor effeithiol neu aneffeithiol ydy polisïau'r cynllun lleol o safbwynt annog neu gyfyngu ar y gwahanol ddefnydd a wneir o dir; a | darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i adolygu neu ailgyfeirio'r polisïau hynny y mae angen eu newid.

Blaenoriaethau.

1.23 Rhoddir blaenoriaeth i oruchwylio'n rheolaidd y polisïau hynny sy'n ymwneud â :-

Y Strategaeth Gyffredinol Siopio Swyddi a Chyflogaeth Y Cyflenwad a'r Galw am Dai

1.24 Yn ogystal, caiff canlyniadau ac effeithiau polisïau eraill sy'n cael effaith ar waith cynllunio priodol mewn ardal eu hasesu o bryd i'w gilydd. Fodd bynnag, bydd dyfnder ac ehangder y dadansoddi yn dibynnu ar yr adnoddau sydd ar gael. Bydd meysydd polisi yn cynnwys :-

Datblygu Twristiaeth/Adloniant Cadwraeth (Yr Amgylchedd Adeiledig a Naturiol) Trafnidiaeth Ynni Tai (Addasiadau a Chartrefi Symudol) Gwasanaethau Cyhoeddus Datblygiadau Cymydog Gwael Safonau Dylunio Adeiladau Gweigion

Systemau Goruchwylio.

1.25 Rhoddir blaenoriaeth i fabwysiadu systemau sy'n goruchwylio ac yn asesu :-

{ Y tir cyflogaeth sydd ar gael; y safleoedd a glustnodwyd ac sy'n cael eu defnyddio a'r galw am safleoedd eraill; { Ffigyrau cyflogaeth/diweithdra a chreu swyddi; { Tir sydd ar gael i godi tai arno; nifer a maint y caniatâd sydd heb ei ddefnyddio, caniatâd newydd a'r datblygiadau sydd wedi eu cwblhau; { Y farchnad dai leol o safbwynt nifer a math yr unedau sydd ar werth, eu pris a'u lleoliad; { Y pwysau am siopau mewn canolfannau sefydlog ac "y tu allan i'r trefi"; { Y defnydd a wneir o ganol y trefi (yn arbennig felly ffryntiadau siopau a newid defnydd ynddynt); { Canlyniadau apeliadau cynllunio sy'n berthnasol i'r uchod.

1.26 Trwy fas data rheoli datblygu bydd modd cadw golwg ar geisiadau ac unrhyw ganiatâd neu wrthod mewn perthynas â'r polisïau a nodir yn 1.24. Bydd hyn yn caniatáu i ni asesu, o dro i dro, a ydyw nodau ac amcanion y polisi yn cael eu hadlewyrchu yn y penderfyniadau a wneir a'r datblygiadau a godir.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 3 CYFLWYNIAD PENNOD 1 1.27 Defnyddir y systemau uchod mewn cysylltiad â gwybodaeth sydd ar gael o ffynonellau eraill ar newidiadau e.e. yn strwythur y boblogaeth, tueddiadau ieithyddol, ffurf aelwydydd ac ati er mwyn asesu ymhellach effeithiolrwydd a phriodoleb polisïau'r cynllun ac er mwyn penderfynu a oes angen mynd ar ôl nodau ac amcanion newydd.

Adroddiadau.

1.28 Bydd adroddiadau goruchwylio a baratoir o bryd i'w gilydd yn nodi ac yn tanlinellu'r prif newidiadau ac yn dangos lle mae angen eu hadolygu.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 4 2 STRATEGAETH GYFFREDINOL PENNOD 2 STRATEGAETH GYFFREDINOL

MATERION CYNLLUNIO ALLWEDDOL

2.1 Y rhai pwysicaf yw :-

Adnoddau naturiol. Amgylchedd Ynys Môn; ei thirwedd, ei harfordir, ei bywyd gwyllt, ei hawyr lân, y cyfle sydd ynddi i gerdded llwybrau cyhoeddus a mwynhau hamdden; a hefyd y diwylliant a'r iaith arbennig ynddi - maent i gyd yn asedion pwysig dros ben. Bydd 'ansawdd yr adnoddau' hyn yn ffactorau hanfodol yn y broses o adfywio'r economi yn lleol a denu buddsoddiad newydd. Rhaid cymryd camau i ddiogelu'r cyfan o'r ynys rhag llygredd a rhag datblygiadau newydd a hyll.

Prinder swyddi. Mae perfformiad Ynys Môn yn is na'r cyfartaledd pan dynnwn gymhariaeth gyda rhannau eraill o Gymru. Mae diweithdra yn uchel iawn ar yr ynys ac mae yma gyflogau isel a dibyniaeth ar waith tymhorol ac ar waith nad oes angen sgiliau i'w wneud.

Lleoliad Anghysbell . Fel sawl lle arall ar gyrion Gorllewin Ewrop mae Ynys Môn, oherwydd lleoliad a ffyrdd a rheilffyrdd annigonol, wedi dioddef.

Cyswllt gydag Iwerddon. Gyda chwblhau Gwibffordd Gogledd Cymru A5/A55, creu y farchnad Ewropeaidd sengl a hefyd gydag agor Twnnel y Sianel yn gynnar yn y degawd hwn, mae cyfle i fanteisio ar leoliad strategol Ynys Môn ar y llwybr pwysicaf rhwng Iwerddon a gweddill Ewrop. Mae Coridor Canolog y Môr a'r Euroroute yn gyfle pwysig i ddatblygu'r economi.

Dyfodol y rheilffordd Intercity. Mae'r gwasanaethau sy'n rhedeg trwodd o Gaergybi i Lundain dan fygythiad. Buasai trydaneiddio'r lein rhwng Caergybi a Crewe, fel rhan o'r llwybr Ewropeiadd a phwysig o Iwerddon, yn cyflymu'r daith ac yn denu mwy o fusnes ac ymwelwyr. Mae twf yn y drafnidiaeth hefyd yn dibynnu ar welliannau i'r rhwydwaith yn Llundain ac o gwmpas y ddinas honno ar gyfer Twnnel y Sianel ac yn dibynnu hefyd ar yr amser a gymer i deithio ar draws Môr Iwerddon o Gaergybi.

Effaith Gwibffordd yr A5/A55 . Mae dwy ochr i'r cyswllt newydd hwn. Efallai y bydd rhwyddineb teithio yn gymorth i gwmnïau lleol ac i dwristiaeth. Ar y llaw arall gallai'r effaith fod yn negyddol gan y bydd cwmnïau wedyn yn medru gwasanaethu'r ardal hon o ganolfannau y tu allan iddi ac yn ychwanegu at y gystadleuaeth i ganolfannau siopio lleol. Wedyn bydd Môn yn fwy deniadol i gymudwyr a hynny yn ei dro yn arwain at godi prisiau mewn termau cymharol.

Gwella'r rhwydwaith a'r amgylchedd . Mae cyflwr drwg rhai sustemau carthffosiaeth a rhai ffyrdd yn rhwystr i ddatblygu'r lle yn economaidd. Nid oes yn yr ardal ganolfan siopio o safon. Ni fu digon o fuddsoddi yn yr amgylchedd ffisegol mewn rhai pentrefi a threfi.

Ystyriaethau Amgylcheddol Ehangach . Mae dibynnu gormod ar danwydd ffosiliau yn niweidio'r amgylchedd. Mae'r penderfyniadau ar leoliad datblygiadau newydd, ar osodiad ac ar ddyluniad adeiladau a pholisïau trafnidiaeth i gyd yn cael effaith ar ba mor effeithiol y defnyddir ynni.

Patrymau teithio. Gall cynllunio yn ôl egwyddor defnyddio tir chwarae rhan bwysig yn y broses o dorri i lawr ar yr angen i deithio a gall hefyd fod yn anogaeth i ddefnyddio dulliau eraill, ac eithrio'r car, o deithio. O edrych tua'r dyfodol agos mae'n debyg mai'r car a'r lori fydd y dull cyffredin o deithio yn Ynys Môn. Oherwydd patrwm gwasgarog ei phentrefi nid yw'n hawdd darparu cludiant cyhoeddus. Nid yw'r gelltydd, y gwyntoedd a'r ffyrdd culion a phrysur yn addas i feicio. Mae'n bwysig rheoli'r galw am drafnidiaeth trwy bolisïau defnydd tir yn ymwneud â lle y bydd pobl yn byw, yn gweithio, yn siopio ac yn cael pleser wrth hamddena.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 5 STRATEGAETH GYFFREDINOL PENNOD 2

Dim tai y gall pobl eu fforddio . Mae llawr o bobl leol yn ei chael hi'n anodd fforddio i brynu tþ yn Ynys Môn. Bu gostyngiad yn nifer y tai sydd ar rent yma. Ychydig, mewn gwirionedd, y gellir ei wneud, trwy'r sustem gynllunio, i ddatrys y broblem hon ond fe ddylid defnyddio'r pwerau sydd ar gael y tu mewn i'r sustem i'r eithaf.

Dyfodol yr Iaith Gymraeg . Mae natur nifer o'r cymunedau yn newid wrth i bobl leol adael i chwilio am waith ac wrth i bobl eraill symud i mewn - pobl sydd yn weddol gefnog. Un o'r sgil effeithiau yw bod prisiau tai yn codi ond hefyd mae hyn yn tanseilio sefydlogrwydd y boblogaeth ac yn tanseiio cyfle'r iaith Gymraeg i ffynnu fel y prif gyfrwng cyfathrebu. Dibynna dyfodol yr iaith yn fawr ar ddatblygu'r economi yn llwyddiannus.

Newidiadau Amaethyddol . Mae amaethyddiaeth yn gwbl hanfodol i gynnal cymunedau gwledig Ynys Môn ac yn hanfodol hefyd i ddiogelu'r iaith Gymraeg. Fodd bynnag mae'r diwydiant yn mynd trwy gyfnod o newid wrth i'r Llywodraeth symud ei chefnogaeth a throi oddi wrth gefnogaeth uniongyrchol i gynhyrchu tuag at gefnogi arallgyfeirio yn yr economi wledig, diogelu'r amgylchedd ac annog dulliau ffermio sy'n fwy cydnaws â'r amgylchedd (yn y cyswllt hwn mae Ynys Môn wedi ei gwneud yn Ardal Amgylchedd Sensitif). Bydd raid i'r cynllun fedru ymateb i'r anghenion newydd hyn.

Atomfa'r Wylfa. Efallai y bydd dyfodol y cyflogwr pwysig hwn yn cael ei benderfynu yn ystod cyfnod y cynllun ac os digwydd unrhyw newidiadau mawr mae'n bosib y bydd yn rhaid adolygu'r Cynllun hwn. Rhai o'r materion y bydd angen rhoddi sylw iddynt yw dadgomisiynu Atomfa'r Wylfa, cael cynlluniau eraill i greu gwaith a darparu gwasanaethau sylfaenol newydd i gefnogi twf economaidd.

Pobl yn mynd i oed a fframwaith lleol y boblogaeth. Bydd rhagor o bobl yn dymuno symud i'r ardal i ymddeol.

Twristiaeth . Mae i dwristiaeth ran hanfodol yn economi'r Ynys. Mae angen cael cydbwysedd rhwng gwneud y mwyaf o'r manteision sy'n gysylltiedig â thwristiaeth a gweithgareddau adloniadol a gostwng, i'r lefel isaf bosib, yr effeithiau annymunol posibl. Mae hyrwyddo twristiaeth o safon uchel ac ymestyn y tymor twristiaeth yn bwnc allweddol.

Ynni Adnewyddol . Oherwydd bod y Llywodraeth yn rhoi pwyslais ar greu ynni trwy ddefnyddio dulliau diogel eraill, mae'n debyg y bydd mwy a mwy o bwysau o blaid datblygiadau sy'n defnyddio ffynonellau adnewyddol, naturiol (e.e. ynni gwynt).

Gallu'r Cynllun Lleol i Ddylanwadu . Mae gallu'r Cynllun hwn i ddatrys problemau ac i fanteisio ar gyfleon wedi ei gyfyngu gan :-

* ddatblygiadau cenedlaethol a rhai rhyngwladol sydd yn cael effaith drom iawn ar yr economi leol ac; * cynigion a pholisïau defnyddio tir yw'r unig rai y mae'n bosib i'r Cynllun ymwneud â nhw.

Fodd bynnag, gellir defnyddio'r rhain i ganiatáu datblygiadau yn y lleoedd iawn ac i ddiogelu adnoddau amgylcheddol.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 6 STRATEGAETH GYFFREDINOL PENNOD 2

2.2 Gwnaed dadansoddiad syml o gryfderau, gwendidau, y cyfleon a'r bygythiadau i Ynys Môn (dadansoddiad CGCB).

Ynys Môn - Cryfderau a Gwendidau

Cryfderau Gwendidau

* Diwylliant ac iaith hynod * Lleoliad anghysbell * Adnoddau ac amgylchedd naturiol * Diweithdra uchel, cyflogau isel, gwaith nad * Euroroute yr A5/A55 a choridor Canolog oes angen sgiliau i'w wneud y Môr * Cyfyngiadau ar y gwasanaethau yn * Cysylltiad Rheilffordd Intercity arbennig carthffosydd a lonydd mewn * Porthladd Caergybi ardaloedd twf * Statws Ardal Ddatblygu i'r rhan fwyaf o'r * Ychydig o fuddsoddi mewnol Ynys * Diffyg pencadlys cenedlaethol * Cymorth grant arbennig gan y G.E. * Trafnidiaeth gyhoeddus wael * Costau llafur, tir a thai yn weddol isel * Cyfleusterau siopio gwael * Tir ar gael at ddibenion cyflogaeth * Diffyg tai y gall pobl eu fforddio * Diwydiant twristiaeth llwyddiannus * Agos at Goleg Prifysgol Gogledd Cymru

Ynys Môn - Cyfleon a Bygythiadau

Cyfleon Bygythiadau

* Galw cynyddol am amgylchedd o safon uchel * Cau Atomfa'r Wylfa yn y tymor hir * Deuoli'r A5 ar draws yr Ynys * Newidiadau i'r system grantiau amaethyddol * Buddsoddiad ar hyn o bryd yng Nghaergybi * Pobl ifanc yn symud i ffwrdd i gael gwaith * Ehangu traffig Môr Iwerddon/Y Gymuned* Gwanhau diwylliant yr iaith Gymraeg Ewropeaidd oherwydd llif y boblogaeth i Ynys Môn ac ohoni * Datblygu Maes Awyr Mona * Gostyngiadau yn y gwasanaethau Intercity * Chwilio am olew a nwy ym Môr Iwerddon* Gwelliannau i'r A5/A55 yn annog pobl i * Datblygiadau twristiaeth sy'n gydnaws â'r deithio'n bellach at eu gwaith amgylchedd * Datblygiadau siopio ym Mangor * Dynodi'r Ynys yn Ardal Amgylchedd * Datblygiadau amhriodol yn y cefn gwlad Sensitif

NODAU'R CYNLLUN

DIOGELU A CHRYFHAU'R CYMUNEDAU TRWY HYBU POLISÏAU FYDD YN GYMORTH I WELLA'R ECONOMI LLEOL.

2.3 Cyrhaeddir y nod hwn trwy ddatblygu pecyn o bolisïau i :-

* Nodi pob cyfle i fuddsoddi ac i greu swyddi a gwneir hyn yn bennaf trwy neilltuo digon o dir yn y lle iawn. * Diogelu'r amgylchedd a hybu gwaith gwella ar y fframwaith ffisegol. * Darparu tai newydd i gwrdd ag anghenion y boblogaeth sydd yma.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 7 STRATEGAETH GYFFREDINOL PENNOD 2

2.4 Nid yw'r Cyngor yn gweld unrhyw wrthdaro rhwng y blaenoriaethau hyn. O gael y math iawn o ddatblygiadau economaidd yn y lle iawn bydd modd rhyddhau adnoddau i wella'r amgylchedd. Bydd tai gwell yn rhwym o arwain at ansawdd bywyd o safon uwch. Yn olaf anogir pobl leol i aros yma a chyfrannu tuag at adfywiad ieithyddol a hefyd tuag at yr economi yn lleol.

Ansawdd bywyd ac adfywiad yr iaith

Gwella a Datblygiad Tai lleol diogelu'r economaidd amgylchedd

"DATBLYGIADAU CYNALADWY"

2.5 Twf economaidd fydd yn cael y flaenoriaeth. Eir ar drywydd y nod hwn gyda phenderfyniadau sy'n cydnabod fod angen i ddatblygiadau fod yn "gynaladwy". Beth yw ystyr "datblygiadau cynaladwy"?

2.6 Mae'r diffiniad i'r math hwn o ddatblygiad yn un sy'n cael ei ddyfynnu'n aml yn Adroddiad Brundtland (1987) :- "Datblygiad cynaladwy yn un sy'n cwrdd ag anghenion yr amser hwn heb fygwth gallu cenedlaethau'r dyfodol i gwrdd â'u hanghenion eu hunain".

Yn Nodyn Cyfarwyddyd 12 ceir awgrym ar gyfer dull sy'n cydnabod yr egwyddor :-

"Ni ddylai penderfyniadau yn y maes cynllunio nac ychwaith mewn meysydd eraill, o ddod â'r cyfan at ei gilydd, rwystro cenedlaethau'r dyfodol rhag mwynhau nodweddion gorau'r amgylchedd sydd yma heddiw".

Mae'n anodd gweithredu'n ymarferol ar y syniadau hyn a'u goruchwylio.

2.7 Cytunodd arweinwyr o bob rhan o'r byd ar Raglen 21 yng Nghynhadledd Rio 1992. Trwy Raglen Leol 21 bydd hyn yn datblygu i fod yn bwnc pwysig i awdurdodau lleol a bydd yn gymorth i ddehongli'r syniadau cynaladwy a'u troi'n dargedau perthnasol ar y lefel leol.

2.8 Fel y mae pethau ar hyn o bryd mae'r Cynllun Lleol yn derbyn y buasai'n afresymol disgwyl i bob datblygiad fod yn gynaladwy ar ei ben ei hun. Mae'n fwy realistig disgwyl i benderfyniadau sefyll prawf yn erbyn yr amcanion datblygiadau cynaladwy a chael eu goruchwylio'n erbyn yr amcanion hynny :-

* Cyfyngu ar yr angen i deithio * Diogelu adnoddau naturiol * Defnyddio'r gwasanaethau sydd yma pan fo hynny'n bosib * Gofalu bod yr aer, y dðr a'r tir yn lân * Arbed ynni wrth baratoi dyluniadau i adeiladau

2.9 Yn y Cynllun hwn cyflawnir hyn trwy : -

* Crynhoi'r datblygiadau yn y prif drefi a'r prif bentrefi - lleihau'r angen i deithio a gwneud y defnydd gorau bosib o'r gwasanaethau sydd yma ar hyn o bryd.

* Sicrhau fod datblygiadau yn y cefn gwlad ac ar yr arfordir yn cael eu rheoli'n llym.

* Lleoli datblygiadau gyda golwg ar wneud y defnydd gorau bosib o drafnidiaeth gyhoeddus. * Cyflwyno'r syniad hwn, sef a ydyw ardaloedd â'r potensial i dderbyn rhagor o ddatblygiadau? Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 8 STRATEGAETH GYFFREDINOL PENNOD 2

* Diogelu nodweddion tirwedd, ecolegol, hanesyddol a phensaerniol.

* Rhoddi anogaeth i ddatblygu'r caniatâd cynllunio sydd eisoes wedi ei roddi, pan fo'r rheini'n cytuno gyda pholisïau'r cynllun hwn, yn hytrach na rhoddi caniatâd newydd.

* Rhoddi anogaeth i ddefnyddio'r adeiladau sydd yma'n barod.

* Rheoli agweddau dylunio i sicrhau fod datblygiadau'n asio'n foddhaol gyda'r amgylchedd, gwneud gwaith tirlunio, diogelu coed a bod yn ddarbodus gydag ynni.

STRATEGAETH Y CYNGOR 2.10 BLAENORIAETHAU CREU SWYDDI.

1. Hyrwyddo Caergybi, ac fel y prif ganolfannau i swyddi. Yn y lleoedd hyn bydd y Cyngor yn annog unigolion a chyrff i fuddsoddi mewn busnesau diwydiannol, mewn siopau, mewn hamdden, yn y rhwydwaith ac mewn prosiectau tai. Bydd hyn yn lleihau'r angen i deithio.

2. Cefnogi prosiectau o'r maint iawn, creu swyddi mewn trefi a phentrefi eraill ac mewn mannau eraill gan gofio pwysigrwydd datblygiadau cynaladwy . Yn ogystal â gwneud y mwyaf o'r potensial a gynigir gan y cynllun i adeiladu ffordd ddeuol newydd yr A5/A55 ar draws Ynys Môn, mae'r Cyngor eisiau helpu'r diwydiant amaethyddol ac mae'n cefnogi "arallgyfeirio" lle bydd hyn o gymorth i ffermydd ffynu yn y tymor hir.

GWELLA'R FFRAMWAITH FFISEGOL A CHADWRAETH.

3. Rhoi blaenoriaeth i wella'r amgylchedd ac i gynlluniau darparu fframwaith gyda golwg ar wneud yr ardal yn fwy deniadol i greu swyddi ynddi ac i ddenu buddsoddiadau. Yn yr ardaloedd hynny lle mae cyfyngiadau fframweithiol bydd blaenoriaeth uwch yn cael ei rhoddi i brosiectau economaidd nag i gynlluniau tai.

4. Yr angen i ddiogelu amgylchedd ffisegol yr ardal a'i hadnoddau. Ymdrecha'r Cyngor i gyrraedd y safonau uchaf bosib yng nghyswllt ansawdd yr aer a'r dðr, rheoli llygredd a thrin gwastraff.

5. Rheolaeth lem ar ddatblygiadau yn y cefn gwlad ac ar yr arfordir. Mae polisïau cynllunio Cenedlaethol a Sirol yn gryf iawn yn erbyn datblygiadau newydd y tu allan i'r trefi a'r pentrefi.

6. Cydnabod bod pob rhan o Ynys Môn o safon harddwch uchel ac arbennig. Mae angen diogelu nodweddion arbennig y cyfan o'r Sir yn hytrach na'r ardaloedd tirwedd arbennig bondigrybwyll. Yr unig gynigion y rhoddir caniatâd iddynt yw'r rhai hynny fydd yn ategu'r nodweddion hyn.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 9 STRATEGAETH GYFFREDINOL PENNOD 2

TAI I BOBL LEOL.

7. Rhoddir blaenoriaeth i ddarparu tai sy'n cwrdd ag anghenion lleol.

Mae'r Iaith Gymraeg yn bwysig. Un ffordd o'i chynorthwyo yw rhoi pob cyfle i bobl aros yn yr ardal y cawsant eu geni a'u magu ynddi.

Yn y cyswllt hwn mae pwyslais y Cynllun ar swyddi yn hanfodol. Ond gellir hyrwyddo hyn trwy ddarparu digon o dir i godi tai arno fel bod pobl leol yn gallu aros yn eu cynefin.

Mae'r hawliau cynllunio presennol yn ddigon ar gyfer tai cyffredinol. Efallai na fydd yr hawliau bob amser yn y lle iawn. Bydd hawliau cynllunio newydd wedi eu hanelu at anghenion twf yn y boblogaeth bresennol.

Mae'r Cyngor yn bwriadu hyrwyddo'r broses o ddarparu tai yngly^n ag anghenion lleol trwy: -

(i) Ddefnyddio ei dir ei hun - mae un rhan o dair o'r hawliau cynllunio presennol ar dir y Cyngor.

(ii) Ceisio sicrhau fod cynlluniau mawr i godi tai yn ymgorffori cyfran o dai fforddiadwy.

(iii) Rhoddi caniatâd i godi tai y gall pobl leol eu fforddio, dan amgylchiadau eithriadol pan fo angen lleol wedi ei brofi, ac ar dir un ai yn y pentrefi neu union gerllaw'r pentrefi ac mewn achosion lle na roddid caniatâd fel arfer.

CYFLEON I DDATBLYGU.

2.11 Gan gadw llygad ar y strategaeth mae'r Cyngor wedi ystyried potensial datblygu tir yn Ynys Môn. Credir bod y potensial i ddatblygu tir yn syrthio o dan bedwar prif gategori.

NEILLTUO TIR - Neilltuir tir ar y Map Cynigion lle dymuna'r Cyngor weld datblygiad yn digwydd.

TIR Y TU MEWN I FFINIAU DATBLYGU - ar y Map Cynigion mae ffiniau wedi eu creu o gwmpas y trefi a'r pentrefi lle bydd cyfle arall, o bosib, i ddatblygu. Y tu mewn i'r ardaloedd hyn bydd y Cyngor o blaid datblygu gyda'r amod:-

{ bod perthynas dda rhyngddo, mewn maint a lleoliad, â'r adeiladau sydd yno'n barod ac â'r defnyddiau tir o gwmpas, { ei fod yn dod â lles economaidd a chymdeithasol i'r gymuned.

TIR SYDD UN AI Y TU MEWN NEU GER PENTREFI ERAILL - bydd y cyfle i adeiladu yn gyfyngedig a rhaid iddo gwrdd â gofynion meini prawf penodol yn ymwneud â diogelu'r amgylchedd ac â gallu'r pentref i dderbyn datblygiadau newydd.

Y CEFN GWLAD - Sef ardaloedd lle na fydd caniatâd yn cael ei roddi os oes lle addas arall ar gael ac onid yw'r cynllun yn creu swyddi.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 10 STRATEGAETH GYFFREDINOL PENNOD 2

DELIO GYDA CHEISIADAU CYNLLUNIO.

2.12 Er mwyn osgoi ailadrodd ym mholisïau'r Cynllun, cyflwynir y polisi cyffredinol isod fel canllaw i'w siecio wrth ystyried cais cynllunio neu wrth ystyried unrhyw gyflwyniad arall (e.e. hysbyseb, caniatâd adeilad rhestredig, datblygiad gan awdurdod lleol neu gan y llywodraeth ganolog). Wrth ddarllen y polisïau a'r cynigion yn y Cynllun dylid eu siecio yn erbyn y rhestr hon. Mae'r cyfiawnhad i'r ffactorau hyn yng nghyfarwyddiadau'r Llywodraeth a'i deddfwriaeth.

Polisi Cyffredinol.

1. Polisi Cyffredinol. 1. Bydd y Cyngor yn penderfynu ar geisiadau cynllunio yn unol â pholisïau a chynigion yn y Cynllun hwn. Wrth ystyried ceisiadau cynllunio bydd y Cyngor yn rhoddi sylw i : -

Anghenion a buddiannau'r Iaith Gymraeg.

Hwylustod y methedig.

Arbed ynni.

Yr effaith ar batrymau teithio cerddwyr a cherbydau gan gynnwys y defnydd a wneir o gludiant cyhoeddus, llwybrau cyhoeddus a beics.

Bydd raid sicrhau fod carthffosydd dðr budr a chyfleusterau trin carthion yn ddigon mawr ac o'r dyluniad priodol ac un ai ar gael neu ar gael yn y dyfodol i wasanaethu'r datblygiad.

Llygredd a phroblemau niwsans.

Yr angen i ddiogelu safon y dðr wyneb, y dðr dan y ddaear a dðr yr arfordir.

Yr angen i sicrhau fod digon o adnoddau dðr ar gael neu y bydd modd sicrhau fod digon ar gael heb andwyo gwasanaeth y defnyddwyr presennol.

Mwy o beryg llifogydd.

Ei effaith ar safle neu ar ardal o ddiddordeb ecolegol, tirweddol, gwyddonol, archaeolegol neu bensaerniol neu ei effaith ar rywogaeth bywyd gwyllt o bwys.

I ba raddau y mae lleoliad, graddfa, dwysedd, gosodiad ac edrychiad, gan gynnwys defnyddiau allanol yr adeilad, yn gweddu i gymeriad yr ardal.

Tirlunio digonol a phriodol.

Ei effaith ar bleserau preswylwyr tai.

Pwysigrwydd sicrhau fod mynedfa'r cerbydau, y ffyrdd at y safle a'r cyfleusterau parcio yn ddiogel ac yn ddigonol.

Diogelu mwynau fel adnoddau .

Diogelu'r tir amaethyddol gorau a'r math o dir y gellir gwneud sawl defnydd ohono.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 11 STRATEGAETH GYFFREDINOL PENNOD 2

Asesiad Amgylcheddol

2.13 Mae Asesiad Amgylcheddol yn broses o gasglu, o asesu ac o ystyried gwybodaeth am yr effaith amgylcheddol y mae rhai datblygiadau mawrion penodol yn debyg o'i chael a gwneir hyn pan fo penderfyniad yn cael ei wneud ar roddi neu wrthod caniatâd cynllunio. Dan Reolau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 1988 (fel y cawsant eu diwygio) mae'n rhaid i ymgeiswyr am fathau penodol o ddatblygiadau gyflwyno datganiad ar Asesiad Amgylcheddol. Dan y Rheolau mae'r datblygiadau hyn yn ymrannu'n ddwy ran:-

(i) Rhestr 1: pan fo angen asesiad amgylcheddol yn ddieithriad; a (ii) Rhestr 2: pan fo angen asesiad amgylcheddol oherwydd fod datblygiad yn debyg o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd oherwydd ffactorau megis natur y datblygiad, ei faint neu ei leoliad. Bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn gofyn am ddatganiad amgylcheddol ym mhob achos perthnasol. Bydd yr achos yn un perthnasol pan fo datblygiad arfaethedig yn debyg o gael effaith ar safle o bwysigrwydd cadwraeth natur cenedlaethol neu ryngwladol, sef safle sydd wedi ei ddynodi neu un y bwriedir ei ddynodi. Bydd achosion o'r fath yn cynnwys y rheini pan fo datblygiad arfaethedig yn debyg o gael effaith fawr ar Ardaloedd o Brydferthwch Naturiol Eithriadol a/neu ar safle o bwysigrwydd cadwraeth natur cenedlaethol neu ryngwladol, sef safle sydd wedi ei ddynodi neu un y bwriedir ei ddynodi.

2.14 Yng ngweddill y Cynllun eglurir sut y gweithredir ar y strategaeth trwy bolisïau a thrwy gynigion defnydd tir. Er mwyn dangos sut y mae'n gweithio drwy'r Sir i gyd dangosir prif ddarpariaethau'r Cynllun ar y Diagram Strategaeth ar y dudalen gyferbyn. Llun i ddarparu canllaw yn unig yw hwn. I gael y manylion rhaid darllen y rhan berthnasol o'r Cynllun ei hun.

2.15 Yn y rhestr isod ceisir dwyn y prif bolisïau a'r prif gynigion ynghyd.

SWYDDI.

* Y cyfleon pennaf wedi eu clystyrru un ai yn y prif drefi a'r pentrefi neu ar gyrion y rhain.

* Tir i ddatblygiadau diwydiannol newydd sylweddol yn:- Caergybi (Fferm Tþ Mawr) Stad Ddiwydiannol Amlwch Rhos-goch Mona Stad Ddiwydiannol Llangefni

* Safleoedd ar gyfer datblygiadau masnachol mawr ar dir naill ai yn neu gerllaw canol trefi Caergybi, Llangefni ac Amlwch.

* Cefnogaeth i ddatblygu'r economi wledig.

* Cefnogaeth i dwristiaeth a chynigion o safbwynt adloniant sy'n rhoddi sylw i allu/anallu ardal i dderbyn rhagor o ddatblygiadau.

* Rhagor o waith datblygu ym Mharc Gwledig Chwarel y Morglawdd.

* Diogelu llewyrch y canolfannau siopio sydd yma'n barod.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 12 STRATEGAETH GYFFREDINOL PENNOD 2

FFRAMWAITH AMGYLCHEDDOL A FFISEGOL.

* Parhau i fuddsoddi yng Nghaergybi ac yn y cynlluniau a awgrymir i Amlwch a Llangefni.

* Gwella cyfleusterau carthffosiaeth yn: - Caergybi Porthaethwy Brynsiencyn

* Cefnogaeth i gludiant cyhoeddus.

* Manteisio ar y cyfleusterau porthladd yng Nghaergybi.

* Ail agor Rheilffordd Amlwch i deithwyr.

* Gwella'r A5 hyd nes cyrraedd safon lôn ddeuol ar draws yr Ynys.

* Diogelu nodweddion tirwedd yr Ynys a'i nodweddion ecolegol, hanesyddol a phensaernïol.

TAI.

* Safleoedd i godi tai y gall pobl eu fforddio ar dir y Cyngor yn:-

Caergybi Llangefni Amlwch Y Dyffryn Niwbwrch Llanfairpwll Benllech Brynsiencyn Rhos-y-bol Star Moelfre Porthaethwy

2.16 Gellir crynhoi fel hyn y "rhesymeg" sydd y tu ôl i'r cynllun:-

Cryfhau Cymunedau trwy gynorthwyo i wella'r economi

Gwella'r Blaenoriaeth i greu swyddi Tai i Bobl Leol fframwaith ffisegol

Pennod ar y Pennod ar Swyddi Pennod ar Dai Fframwaith Ffisegol a'r Amgylchedd

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 13 SWYDDI PENNOD 3 3 SWYDDI.

3.1 Pennaf blaenoriaeth y Cyngor fydd creu'r amgylchiadau iawn i swyddi. Yn hyn o beth cyfraniad mwyaf y Cynllun Lleol fydd neilltuo digon o dir yn y lle iawn i bob math o brosiectau creu swyddi.

3.2 Rhaid rhoddi blaenoriaeth i fentrau lleol. Yn y Cynllun ceisir cwrdd â gofynion tir y rhai isod :-

{ Busnesau newydd. { Y busnesau sydd eisoes yma ac yn dymuno cryfhau neu dyfu. { Busnesau sy'n symud i'r Ynys.

3.3 Wrth iddo lunio'r cynigion hyn mae'r Cyngor wedi ceisio osgoi bod yn ddogmatig ynghylch defnyddiau priodol i safleoedd penodol. Yn aml iawn mae dewis o ddatblygiadau priodol yn cael eu hawgrymu.

CYFLE I DDATBLYGU.

3.4 Dros y 10 mlynedd nesaf bydd dau gyfle mawr i ddatblygu :-

* Gwelliannau i Wibffordd Gogledd Cymru A5/A55.

* Lleoliad Caergybi a gweddill Ynys Môn i fanteisio i'r eithaf trwy'r cyswllt ar draws y môr i Iwerddon ac mewn Marchnad Ewropeaidd Sengl.

Gwibffordd yr A5/A55.

3.5 Mae'r Cynllun :-

* Yn cynnig safleoedd diwydiannol strategol yng Nghaergybi a Mona.

* Yn neilltuo tir i ehangu safleoedd strategol sydd wedi eu sefydlu yn barod yn Llangefni a'r Gaerwen.

* Yn cynnig datblygu safleoedd llai yn y Dyffryn a Gwalchmai.

3.6 Efallai y bydd yr A5/A55 newydd yn agor posibiliadau eraill i gael datblygiadau masnachol ar ei hyd - yn enwedig o gwmpas y cyffyrdd.

3.7 I gyd mae tua 50 o fusnesau ar yr A5 ar hyn o bryd. Bydd raid wrth agwedd gadarnhaol i greu datblygiadau masnachol newydd yn y pentrefi er mwyn creu swyddi yn lle'r swyddi hynny a gollir oherwydd bod masnach gyrwyr yn diflannu ar ôl agor y ffordd newydd.

Caergybi.

3.8 Mae'r Cynllun :-

* Yn cefnogi buddsoddi yng nghyfleusterau porthladd Caergybi ac ehangu'r cyfleusterau hynny.

* Yn cynnig nifer o safleoedd diwydiannol ac yn eu plith safle Fferm Tþ Mawr i un defnyddiwr mawr.

* Yn cefnogi twristiaeth a rhagor o wario yn y siopau ac ar y gwasanaethau.

* Yn cefnogi gwell ffyrdd, o'r A5/A55 newydd, at y dref ac at y safleoedd diwydiannol allweddol.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 14 SWYDDI PENNOD 3

Cyfleon Eraill.

3.9 Mae tir wedi eu neilltuo yn Llangefni i ategu rôl y dref fel canolfan weinyddol Ynys Môn a'i chanolfan amaethyddol. Mae'r Cyngor yn gweithredu Strategaeth Weithredu i'r dref.

3.10 Mae Rhaglen Ffyniant Gwledig Awdurdod Datblygu Cymru yn rhoddi cyfle i wella amgylchedd ffisegol a masnachol Amlwch. Gerllaw, ar safle 200 acer Rhos-goch, mae cyfle a photensial i ddefnyddiwr arbennig.

3.11 Mae Rhaglen Ffyniant Gwledig Bro Alaw yn cyffwrdd â rhan helaeth o ogledd ac o orllewin gwledig yr Ynys.

ATOMFA'R WYLFA.

3.12 Ar hyn o bryd mae 565 o bobl yn gweithio yn Atomfa'r Wylfa gyda rhan helaeth ohonynt yn byw yn rhan ogleddol yr ynys. Bellach efallai bod yr atomfa yn cyrraedd diwedd ei hoes. Yn ystod cyfnod y cynllun hwn mae'n debyg y bydd cwestiwn dadgomisiynu yn tyfu mewn pwysigrwydd ac mae angen goruchwylio'r sefyllfa yn ofalus ac yn fanwl.

3.13 Bydd unrhyw newid sylweddol yn nifer y gweithwyr yn cael effaith fawr ar yr economi. Felly, clustnodwyd tir ar gyfer cyflogaeth yng ngogledd Môn ac eisoes buddsoddwyd arian i wella ffabrig masnachol a ffisegol Amlwch (Gweler 3.10 uchod).

POLISÏAU.

Swyddi Newydd.

2. Bydd y Cyngor yn cefnogi prosiectau creu gwaith ar y safleoedd hynny sydd wedi eu 2. Swyddi clustnodi ar y Map Cynigion ac y manylir arnynt yng Nghynigion S1 hyd at S35 os ydyw'r Newydd. prosiectau hynny'n cydymffurfio gyda meini prawf Polisi 1.

Rhoddir caniatâd i ddatblygiadau creu gwaith ar safleoedd eraill un ai yn y trefi/pentrefi cydnabyddedig neu ar eu cyrion os ydyw'r datblygiadau o'r maint ac o'r teip sy'n gweddu i'r ardal o gwmpas ac os ydynt yn cydymffurfio gyda pholisïau eraill y cynllun hwn.

Dim ond dan amgylchiadau arbennig ac eithriadol y bydd y Cyngor yn caniatáu datblygiadau creu gwaith ar safleoedd sydd y tu allan i'r trefi/pentrefi, sef amgylchiadau pan fo ymgeisydd wedi dangos fod anghenion lleoliad penodol a manteision economaidd yn cyfiawnhau caniatáu'r bwriad.

Gellir cael hyd i gynigion S1 i S35 ar ddiwedd y bennod.

3.14 Mae'r Polisi hwn yn adlewyrchu'r ffordd o edrych ar ddatblygiadau creu gwaith yng Nghynllun Fframwaith y Sir. Bydd y cyfan o'r cynigion hyn yn cael sylw dan bolisïau eraill y Cynllun Fframwaith a'r Cynllun Lleol gan gynnwys polisïau'n ymwneud â mynedfa, parcio a thrafnidiaeth, diogelu pleserau eiddo gerllaw a dyluniad, tirlunio a llygredd. Yn y Cynigion S1 hyd at S35 rhestrir y defnyddiau hynny sy'n briodol i'r safleoedd hyn. Bydd cynigion eraill i greu swyddi ar y safleoedd a glustnodwyd yn cael eu hystyried fesul un.

3.15 Mae 35 o safleoedd o faint ac o deip gwahanol wedi eu clustnodi ar y Map Cynigion. Mae'r mwyafrif yng Nghaergybi (13), Amlwch (5) a Llangefni (7).

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 15 SWYDDI PENNOD 3

Dyma ddadansoddiad o'r safleoedd yn ôl eu maint

Disgrifiad o'r Safle Nifer Cyfanswm yr Arwynebedd

Safleoedd Mawrion 2 400 (dros 50 acer) Safleoedd Canolig 7 236 (20-50 acer) Safleoedd Bychan i. 8-20 acer 8 100 ii. llai nag 8 18 40

CYFANSWM 35 776

3.16 Rhwng 1986 ac 1992, datblygwyd 65.7 acer o dir cyflogaeth yn Ynys Môn. Yn amlwg mae neilltuo 776 acer yn uchel iawn pan ystyrir ar ba raddfa y mae'r tir yn cael ei gymryd ac o ystyried y galw hefyd. Yn naturiol bydd gofynion safleoedd yn amrywio fel y bydd y safleoedd sydd ar gael a pha mor addas ydynt yn amrywio. Cred y Cyngor na ddylai prinder safleoedd addas fod yn rhwystr i ddatblygiad economaidd.

3.17 Yn unol â'r nod o hyrwyddo datblygiadau cynaladwy a diogelu'r tirwedd bydd y Cyngor yn ceisio dwyn ynghyd y gofynion am dir cyflogaeth ar safleoedd sydd wedi eu clustnodi yn y Cynllun i'r pwrpas hwnnw. Mae'r polisi yn caniatáu datblygu prosiectau cyflogaeth ar safleoedd eraill sydd un ai yn y trefi/pentrefi neu ar y cyrion, e.e. i ganiatáu codi gweithdai bychain a darparu safleoedd ac arnynt wasanaethau. Fodd bynnag, os bydd safle addas dynodedig ar gael bydd yn ystyriaeth o bwys wrth benderfynu ar gynigion i gael prosiect cyflogaeth ar unrhyw safle arall. Yn gyffredinol rhoddir cefnogaeth i ehangu'r busnesau sydd yma'n barod - ond gan gofio am y maen prawf rheoli datblygu ym Mholisi 1.

3.18 Dim ond dan amgylchiadau eithriadol y bydd y Cyngor yn caniatáu safleoedd datblygu cyflogaeth newydd draw o'r trefi/pentrefi ac fel arfer yng nghyswllt cynigion hamdden a thwristiaeth. Rhoddir sylw ar wahân dan Bolisi 7 y Cynllun i droi adeiladau yn y cefn gwlad at bwrpas cyflogaeth.

Fferm Tþ Mawr, Caergybi.

3. Fferm 3. Mae tir wedi ei neilltuo ar gyfer datblygiadau masnachol yn Nhþ Mawr, Caergybi ac Tþ Mawr, mae'r Cyngor yn bwriadu i'r defnyddiau isod gael eu cynnwys yn y datblygiadau:- Caergybi . i. Safle wrth gefni i un defnyddiwr mawr masnachol/diwydiannol y bydd arno angen o leiaf 200 acer. ii. Llecyn gwasanaethau yn mesur hyd at tua 5 acer ac arno motel, gorsaf betrol, bwyty a siop. iii. Gwaith tirlunio sylweddol.

Gydag unrhyw ddatblygiad newydd rhaid cyflwyno dyluniad manwl y bydd sylw wedi ei roddi ynddo i drin yr heneb sydd ar y safle yn ofalus iawn, i barchu nodweddion tirweddol sydd yno a hefyd i wneud gwaith tirlunio sylweddol. Bydd y dyluniad terfynol yn dibynnu ar union lwybr ac ar leoliad cyffordd ffordd dwy lôn newydd arfaethedig yr A5/A55 a'r ffyrdd mynediad ati.

3.19 Mae'r Cyngor wedi comisiynu astudiaeth ar ddatblygiadau masnachol yn yr ardal o gwmpas Aliwminiwm Môn. Mae wedi paratoi nifer o gynigion ac yn eu plith ceir un i ddatblygu'r tir y rhoddir

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 16 SWYDDI PENNOD 3

sylw iddo yn y Polisi hwn a chynlluniau cadarnhaol ar gyfer gweithgareddau hamdden egnïol a rhai mwy llonydd. Mae'r Cyngor yn dymuno diwygio ffiniau'r Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol fel bod y tir y bwriedir ei ddatblygu'n fasnachol a thir Aliwminiwm Môn y tu allan i'r ardal. Y tir hwn yw'r unig safle glas ac agored sy'n addas i ddatblygiad masnachol mawr yng nghyffiniau Caergybi a hwn yw'r cyd-destun y bydd yn rhaid ystyried y datblygiad y tu mewn iddo.

3.20 Ni fydd y Cyngor yn edrych ar ddatblygu'r safle hwn yn haearnaidd ond, er gwaethaf hyn cred y dylid neilltuo rhan o'r safle i un defnyddiwr mawr. Mae tir wedi ei neilltuo mewn mannau eraill yng Nghaergybi ac mewn rhannau eraill o'r Sir i bwrpas defnyddiau diwydiannol cyffredinol a bychan. Yn ychwanegol cred y Cyngor y dylid, wrth ddatblygu'r safle, gynnwys gwasanaethau cludiant a swyddfeydd i ategu swyddogaeth Caergybi fel porthladd a chynyddu'r arian a warir yn lleol gan y teithwyr sy'n symud drwy'r porthladd. Mae natur y safle a'r cynigion ar ei gyfer yn cyfiawnhau mynnu ar waith tirlunio sylweddol. Bydd raid paratoi adroddiad datblygu mewn ymgynghoriad gyda'r cyrff perthnasol er mwyn lliwio twf a datblygiad y safle. Bydd cynigion eraill i'r safle neu gynigion cysylltiedig i ardaloedd cyffiniol (e.e. i bwrpas hamdden) yn cael eu hystyried fesul un a than bolisïau'r Cynllun hwn.

Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni.

4. Bydd caniatâd yn cael ei roddi i Swyddfeydd Cyngor newydd ar safle addas yn Llangefni. 4. Bydd holl gwestiwn ailddatblygu a chael defnyddiau addas i Swyddfeydd presennol y Cyngor a'r tir o gwmpas yn cael ei ystyried yn erbyn y meini prawf sydd ym Mholisi 1. Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. 3.21 Mae Ynys Môn wedi dod yn awdurdod unedol. Sicrhawyd cyllid ar gyfer adeiladu swyddfeydd newydd, a Llangefni yw canolfan weinyddol yr Ynys. Rhaid i unrhyw ddefnyddiau eraill ar gyfer yr hen safle, unwaith y bydd yn wag, fod yn gefnogol i ddyfodol canol y dref yn gyffredinol.

Dylunio.

5. Bydd y Cyngor yn mynnu fod safonau uchel i rwydwaith gwasanaethau, i osodiad, i ddyluniad ac i waith tirlunio pob cynnig i greu swyddi. 5. Dylunio.

Defnyddiau 'Cymydog Drwg' .

6. Bydd y defnyddiau 'Cymydog Drwg' sy'n anaddas i'r ardaloedd cyflogaeth presennol yn 6. cael caniatâd ar diroedd sydd wedi eu neilltuo i'r pwrpas hwn ar y Map Cynigion ac y Defnyddiau manylir arnynt yng nghynigion S29 a S32. 'Cymydog Drwg'. 3.22 Yn aml iawn mae ardaloedd diwydiannol yn cael eu difetha gan safonau dylunio isel a hefyd gan waith sydd, oherwydd ei natur, yn hyll. Gwnaed darpariaeth benodol ar gyfer y defnyddiau 'cymydog drwg' bondigrybwyll, megis iardiau adeiladwyr, prosesu gwastraff, storio ar dir agored. Gyda phob cynnig bydd raid, yn naturiol, ystyried pa effaith y bydd hwnnw'n ei gael ar y cyffiniau - yn arbennig felly o safbwynt sðn, arogleuon a llwch.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 17 SWYDDI PENNOD 3

Yr Economi Wledig.

3.23 Un o'r dulliau gorau bosib o ddiogelu diwylliant ac iaith arbennig Ynys Môn yw trwy gynnal a chadw economi wledig iach. Hefyd efallai y buasai economi o'r fath yn gymorth i dorri ar y cymudo o'r cefn gwlad. Gwyddom fod y swyddi mewn amaethyddiaeth a hefyd mewn diwydiannau gwledig eraill ar drai a bydd y Cyngor yn gefnogol, trwy gyfrwng Polisi 2, i arallgyfeirio yn y maes amaethyddol.

3.24 Mae'r Cynllun Fframwaith o blaid cadw'r tir amaethyddol sydd wedi ei gategoreiddio yn 1, 2 a 3A. Rhydd y Cyngor ei gefnogaeth i hyn am fod tir o safon uchel, wrth godi adeiladau arno, yn cael ei golli am byth. Yn Ynys Môn ystyrir fod y cyfan o'r cefn gwlad yn adnodd ac ni fydd datblygiad ar dir amaethyddol gwael yn cael ei ystyried yn gyfiawnhad i'r datblygiad.

Adeiladau Gwledig.

7. Adeiladau 7. Fel arfer bydd adeiladau yn y cefn gwlad yn dderbyniol fel lleoliadau i fusnesau bychain. Gwledig.

3.25 Yn gyffredinol bydd adeiladau gwledig, rhai nad oes defnydd yn cael ei wneud ohonynt yn aml, yn addas i'w hailwampio i bwrpas cyflogaeth newydd ond gyda'r amod fod yr effaith ar yr amgylchedd lleol, ar y tirwedd ac ar y mwynderau yn dderbyniol yn unol â gofynion Polisi 1. Yn ychwanegol bydd ystyriaethau pwysig eraill, sef sicrhau fod strwythur yr adeilad yn addas i'w droi i'r defnydd newydd a bod modd darparu mynedfa foddhaol, lle parcio/llwytho boddhaol a draeniau/carthffos foddhaol. Bydd raid i bob cynnig i ailddefnyddio adeilad traddodiadol barchu cymeriad yr adeilad a'i osodiad a diogelu unrhyw nodweddion o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol. Hefyd, dan y polisi hwn, rhoddir sylw i'r cynigion hynny i droi adeiladau nad ydynt yn rhai traddodiadol i bwrpas cyflogaeth ac efallai bod yma gyfle i wella dyluniad neu amgylchiadau adeiladau o'r fath. Bydd y polisi hwn yn arbennig o ddefnyddiol fel cymorth i amaethwyr ategu'r incwm a wnânt trwy dwristiaeth neu trwy brosiectau cyflogaeth eraill. Pan fo'r busnes yn cefnogi arallgyfeirio rhaid i'r busnes hwnnw fod yn rhan o'r uned amaethyddol.

TWRISTIAETH A HAMDDEN.

3.26 Nid yw twristiaeth yn un categori sengl a phenodol o ddefnydd tir. Yn gyffredinol mae prosiectau sy'n creu swyddi yn cael eu cefnogi yng nghyd-destun Polisi 2, yn enwedig y rheini sy'n creu swyddi mwy parhaol. Yn achlysurol, fodd bynnag, mae gan dwristiaeth ei ofynion arbennig ei hun :-

* Llecyn sy'n bell o ardaloedd y mae ynddynt nifer o adeiladau;

* Rhaid cael lle aros i ymwelwyr.

3.27 Mae amgylchedd a threftadaeth Ynys Môn yn ffactorau allweddol sy'n denu ymwelwyr i'r ardal. O'r herwydd mae cyfiawnhad i'r pwyslais ar dwristiaeth o safon uchel sy'n gydnaws â'r amgylchedd a'r dreftadaeth hon. Mae'n bosib cael manteision pendant o dwristiaeth trwy wneud gwaith cynllunio manwl a thrwy reoli pwysau ymwelwyr er mwyn gostwng pwysau ar nodweddion ac ardaloedd sensitif.

3.28 Mae perthynas agos rhwng twristiaeth a pholisïau eraill yn y cynllun hwn - yn enwedig y polisïau hynny sydd yn ymwneud â'r amgylchedd ac â chludiant. Yn Ynys Môn mae'n dibynnu ar amgylchedd o safon uchel ac yn cyfiawnhau'r pwyslais ar ddatblygiadau cynaladwy ac ar bolisïau :-

* I gefnogi cyfleusterau hamdden a chymuned (Polsïau 14, 15, 16 a 17) * I gefnogi cludiant cynaladwy cyhoeddus (Polisi 23) * Datblygu Lein Amlwch i Deithwyr (Polisi 24) * Trin carthion - yn enwedig yng nghyswllt safon y dðr drochi (Polisi 27) * Cael Gwared o Wastraff (Polisi 29) * Diogelu'r tirwedd a'i wella (Polisïau 30, 31 a 32) * Diogelu natur (Polisïau 33, 34 a 35)

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 18 SWYDDI PENNOD 3

* Diogelu'r tiroedd arfordirol (Polisi 36) * Darparu'r cyfle i'r cyhoedd fynd ar diroedd (Polisi 37) * Diogelu nodweddion archaeolegol (Polisi 39) * Diogelu safonau pensaerniol (Polisi 40, 41 a 42)

Lle Aros i Ymwelwyr.

8. Bydd ceisiadau am le aros o safon uchel i ymwelwyr yn cael eu caniatáu onid ydynt yn 8. Lle Aros tynnu'n groes i bolisïau eraill y cynllun hwn. Yn benodol bydd y Cyngor yn rhoddi sylw ffafriol i'r cynigion hynny sy'n rhan annatod o gynllun mwy sy'n ychwanegu at gyfleusterau i Ymwelwyr. i ymwelwyr ac i bwrpas hamdden yn yr ardal.

3.29 Mae twristiaeth a darpariaethau hamdden sy'n gysylltiedig â thwristiaeth yn bwysig yn Ynys Môn - maent yn cyflogi tua 3000 o bobl. Mae nifer o swyddi eraill, yn enwedig y rheini mewn siopau, y sector gwasanaeth a darparu trafnidiaeth, yn dibynnu'n rhannol ar y busnes y mae ymwelwyr yn ei greu yn Ynys Môn. O'r herwydd mae'r polisi hwn wedi ei lunio i hybu sefydlu lle aros o safon uchel i ymwelwyr yn y lleoedd iawn. Wrth ystyried cynigion i ddarparu lle aros i ymwelwyr bydd yr effaith ar yr economi leol, ar y tirwedd, ar yr amgylchedd ac ar gymeriad diwylliannol yr ardal yn ystyriaethau o bwys. Ni fydd y Cyngor yn cefnogi cynigion i ddatblygu ar safleoedd cwbl anaddas na chynigion i ymestyn nac ailddatblygu cyfleusterau a fuasai'n cael effaith annerbyniol.

3.30 Y math o ddatblygiad a gaiff sylw dan y polisi hwn yw lle gwyliau gyda gwasanaethau neu heb wasanaeth, pa un a ydyw wedi ei adeilau'n bwrpasol neu wedi ei addasu gan gynnwys gwestyau, motels, tai lletya, unedau gwyliau neu fflatiau. Oni fuasai caniatâd yn cael ei roddi i fyw'n yr adeilad yn barhaol yna mae'n bosib y bydd raid sicrhau mai i bwrpas ymwelwyr/gwyliau yn unig y defnyddir yr adeilad a gwneud hynny un unol â'r cyngor yn NCT 23: Twristiaeth. Rhoddir sylw dan Bolisi 55 hefyd i gynigion ar gyfer troi adeiladau yn y cefn gwlad yn unedau gwyliau hunangynhaliol.

Carafanau Sefydlog.

9. Bydd rhagdybiaeth yn erbyn datblygu rhagor o safleoedd i garafanau sefydlog yn Ynys Môn. 9. Carafanau Sefydlog. 3.31 Yng Nghynllun Fframwaith y Sir mae rhagdybiaeth yn erbyn datblygu safleoedd newydd i garafanau sefydlog. Mae rhyw 4,000 o garafanau sefydlog ar bron i 200 o safleoedd carafanau yn Ynys Môn ac mae hyn yn cynnwys dewis eang o safleoedd i'r sawl sydd am dreulio gwyliau mewn carafan sefydlog.

10. Fel arfer gwrthodir cynigion i godi nifer yr unedau ar safle carafanau. 10. Carafanau Dan amgylchiadau eithriadol, pan fo cynigion yn rhan o gynllun cynhwysfawr i wella Sefydlog. gwedd y cyfan o'r safle a lleihau effaith y safle ar y tirwedd o gwmpas, bydd y Cyngor, o bosib, yn caniatáu ychydig o unedau ychwanegol os bydd y cynnig :-

i. Yn rhan o gynllun cyffredinol ac yn dod â gwelliannau sylweddol a pharhaol i'r ardal. ii. Yn sicrhau nad oes cynnydd yn y pwysau ar adnoddau naturiol ac ar amgylchedd ardal iii. Yn sicrhau nad oes cynnydd yn y peryglon nac yn y tagiant ar y ffyrdd. iv. Gyda digon o ddðr a chyfleusterau draenio ar gael. v. Dim yn niweidio safle o ddiddordeb ecolegol, gwyddonol neu archaeolegol. vi. Ei hun ddim yn niweidio pleserau preswylwyr nac yn gwneud hynny oherwydd y traffig a gynhyrchir.

3.32 Mae llawer o'r safleoedd i garafanau sefydlog yn ymwthiol yn y tirwedd. Fel arfer bydd unrhyw gynnydd yn nifer yr unedau ar safleoedd carafanau sefydlog yn annerbyniol. Mae'r Cyngor, fodd Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 19 SWYDDI PENNOD 3

bynnag, yn dymuno hybu gwaith gwella ar safleoedd - gwaith gwella megis symud carafanau er mwyn gwella gosodiad y safle neu er mwyn lleddfu dipyn ar yr effaith ar yr olygfa, cael unedau newydd yn lle hen rai, gwella lliwiau'r carafanau, tirlunio'r tu mewn ac ar y terfynau, cuddio'r carafanau a darparu cyfleusterau newydd neu rai gwell. Gwelir felly fod yn y Cynllun Lleol ddarpariaeth i gynigion sy'n dod â manteision cynllunio, yn y pen draw, trwy ganiatau, fel eithriad, gynnydd yn nifer yr unedau y tu mewn i'r safle pan fo angen y cynnydd hwn fel rhan o gynllun cyffredinol i wella'r safle a lleddfu ei effaith.

3.33 At ddiben Polisi 10 ac er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth yn y dyfodol :-

mae "safle cyfan" (fel y cafodd ei ystyried yn yr Ymchwiliad i'r Cynllun Lleol) yn cyfeirio at yr uned gynllunio bresennol y rhoddwyd caniatâd iddi eisioes i bwrpas lleoli carafanau statig a sefydlu gweithgareddau eraill sy'n gysylltiedig gyda rhedeg y safle. [Felly, 'does dim rhaid cyfyngu unedau ychwanegol i lecyn lle mae yno garafanau ar hyn o bryd ar yr amod y gellir eu cynnwys yn dderbyniol o fewn ffiniau'r safle fel y cafodd y rheini eu diffinio gan ganiatadau cynllunio presennol].

Yn unol ag argymhelliad yr Arolygwr a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i edrych ar y Cynllun Lleol nid bwriad Polisi 10 ydy caniatáu estyniad i safle presennol er mwyn cynnwys arno unedau ychwanegol (para. 3.48 Adroddiad ar yr Ymchwiliad i Gynllun Lleol Ynys Môn).

Safleoedd newydd i Garafanau Teithiol. 11. Carafanau 11. Fel arfer bydd cynigion i ymestyn cyfnodau preswylio mewn unedau gwyliau newydd neu rai sydd yno'n barod yn cael eu caniatáu gydag amodau : - Sefydlog. i. Sydd yn rhwystro byw ynddynt yn barhaol. ii. Yn cyfyngu'r cyfnod preswylio i bwrpas gwyliau i'r cyfnod rhwng 1 Mawrth mewn un flwyddyn ac 4 Ionawr yn y flwyddyn ddilynol.

3.34Yn y polisi hwn rhoddir sylw i amryw fathau o unedau teithio a'r rheini'n cynnwys carafanau cyffredin a rhai gyda modur a phebyll. Yn unol â Chynllun Fframwaith y Sir mae'r Cynllun Lleol yn caniatáu

12. Safleoedd 12. Yr unig safleoedd newydd i garafanau teithiol neu bebyll, yr unig estyniadau i newydd i safleoedd, yr unig lecynnau ychwanegol i garafanau teithiol neu bebyll ar safleoedd Garafanau presennol a ganiateir yw'r rheini :- Teithiol. i. Sydd ddim yn niweidio gwedd yr ardal. ii. Sydd ddim yn ychwanegu at y pwysau ar adnoddau naturiol ardal a'r amgylchedd. iii. Sydd ddim yn ychwanegu at y peryglon ar y ffordd nac yn creu tagiant arni. iv. Pan fo dðr a draeniau digonol ar gael. v. Sydd ddim yn niweidio safle nac ardal o ddiddordeb ecolegol, gwyddonol neu bensaerniol. vi. Sydd ddim, ynddynt eu hunain neu oherwydd y traffig a greir, yn niweidio pleserau preswylwyr.

Wrth roddi caniatâd i gynigion o'r fath bydd y Cyngor, fel arfer, yn mynnu ar amodau i sicrhau fod gwaith tirlunio digonol yn cael ei wneud ac i gyfyngu ar ddefnydd yr unedau i bwrpas gwyliau/ ymwelwyr. Efallai y bydd raid i Ddatblygwyr lofnodi cytundeb i sicrhau fod cynllun derbyniol i wella'r safle yn cael ei weithredu.

datblygu safleoedd newydd i garafanau teithiol neu ehangu neu gynyddu niferoedd yr unedau ar safleoedd mewn achosion addas ac yn amodol ar gymryd camau arbennig i ddiogelu'r sefyllfa. Bydd y Cyngor yn ystyried goblygiadau defnydd tir y gwahanol fathau o unedau, e.e. yng nghyswllt trafnidiaeth ac ystyriaethau mynedfa. Er cydnabod mai am ran o'r flwyddyn yn unig y defnyddir nifer o'r safleoedd maent yn gallu bod yn nodwedd ymwthgar yn y cefn gwlad agored ac yn enwedig pan fônt yn agos i'r arfordir. O'r herwydd bydd rhediad y tirlun, gosodiad y safle a'r darpariaethau cuddio yn ystyriaethau o bwys wrth asesu'r cynigion. Ar yr arfordir neu gerllaw mae sawl ardal sy'n dioddef Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 20 SWYDDI PENNOD 3

pwysau mawr ac mae hyn yn cynnwys rhannau o'r Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol. Bydd ar y Cyngor angen tystiolaeth gref gydag unrhyw gynnig am ragor o unedau yn yr ardaloedd hyn, tystiolaeth fydd yn dangos nad ychwanegir dim at y problemau gwasanaethu ac yn dangos na fydd unrhyw niwed i gymeriad nac i adnoddau naturiol yr ardaloedd dan sylw.

Cyfleusterau Hamdden a Chymuned.

3.35 Mae Cyngor Bwrdeistref Ynys Môn wedi chwarae rhan flaenllaw yn y broses o ddarparu cyfleusterau

13. Safleoedd i 13. Ni fydd cynigion i droi safleoedd neu lecynnau pebyll yn safleoedd neu lecynnau i garafannau teithiol yn cael eu caniatáu onid oes :- Garafanau Teithiol. i. Mynedfa ddiogel ar gael. ii. Digon o ddðr a chyfleusterau draenio ar gael. iii. Fod modd eu cymathu yn y tirwedd heb amharu arno. iv. Modd sicrhau nad yw ardaloedd o ddiddordeb archaeolegol, gwyddonol neu ecolegol yn cael eu bygwth. bygwth. chwaraeon ers 1974. Mae hyn yn creu swyddi ac yn denu ymwelwyr i'r ardal gan hybu'r economi leol. Yn ogystal mae'n gwella safon byw preswylwyr.

3.36 Cyflwynir asesiad o'r ddarpariaeth ar gyfer hamdden yn Atodiad 4 y Cynllun. Yr unig ddiffyg difrifol yw prinder neuaddau hamdden. Mae'n bolisi gan y Cyngor i hyrwyddo defnydd cymunedol o'r cyfleusterau addysgol presennol a'r rhai newydd. Ers diwedd y 1970au mae deuddeg ysgol gymuned wedi eu creu wrth ychwanegu canolfannau cymunedol at ysgolion.

3.37 Cynigion ar gyfer darpariaethau sector cyhoeddus yw'r rhain. Yn y Cynllun cydnabyddir nad yw 'n ymarferol i'r Cyngor gynnal lefel y cyfleusterau hamdden ar un gyffelyb i waith y 1970au a'r 1980au 14. Cyfleusterau 14. Bydd y Cyngor yn caniatáu cyfleusterau hamdden ac adloniant fel y dangosir hynny ar y map cynigion ac fel y manylir arnynt yng Nghynigion FF9, FF11, FF15, FF16, FF18, FF21, Hamdden a FF22, FF23, FF31, FF32, FF38. Rhoddir caniatâd hefyd i gynlluniau eraill pan fo'r rheini :- Chymuned. i. Yn ychwanegu at safon ac at nifer y cyfleusterau i breswylwyr lleol ac i ymwelwyr. ii. Yn lleihau'r pwysau ar ardaloedd gydag amgylchedd mwy sensitif. iii. Yn ychwanegu at y cyfle i'r cyhoedd gael mynediad i ardaloedd y maent o werth adloniadol. cynnar. Fel awdurdod sy'n galluogi bydd y Cyngor yn rhoddi anogaeth i ddarparu cyfleusterau hamdden newydd, yn enwedig rai fydd yn gwneud iawn am y diffygion a nodir yn Atodiad 4 ac mewn mannau priodol.

3.38 Yn yr atodiad dangosir fod tua 4.75 acer o dir ar gael i'r cyhoedd am bob mil o'r boblogaeth ar gyfer gweithgareddau hamdden sydd wedi eu trefnu - pethau megis pêl-droed, rygbi a chriced. Mae hyn yn uwch nag argymhellion sydd gan Gymdeithas Genedlaethol y Caeau Chwarae, sef rhwng 4 a 4.5 acer ac mae'r Cyngor yn bwriadu cydymffurfio gyda'r safon hon.

3.39 Mae Cynllun Fframwaith y Sir o blaid datblygu cyfleusterau mawr i gychod ar yr arfordir yng Ngwynedd ac mewn sawl lle gan gynnwys Caergybi (Polisi CH13). Mae'r Cyngor Bwrdeistref wedi rhoddi caniatâd cynllunio i Farina yn Harbwr allanol Caergybi.

3.40 Nid oes yn Ynys Môn drac rhedeg pob tywydd na chyfleusterau i chwaraeon maes. Mae'r stadiwm athletau agosaf yn Nhreborth, Bangor. Mae gogledd a chanol yr Ynys y tu allan i'r dalgylch hwn.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 21 SWYDDI PENNOD 3

15. Cyfleusterau 15. Bydd y Cyngor yn caniatáu stadiwm athletau ar safle addas yng Nghaergybi. Hamdden a Chymuned. 3.41 Mae gan y Cyngor raglen dreigl ar gyfer darparu lawntiau bowlio yn y pentrefi mwyaf. Y clybiau lleol sy'n rheoli'r rhain a gwelir nhw fel rhan bwysig o ddatblygu cymunedol.

3.42 Bydd y mannau agored pwysicaf yn cael eu dangos ar y Map Cynigion.

16. 16. Gwrthodir pob bwriad i ddatblygu os ydyw hwnnw'n golygu colli mannau agored, rhai Cyfleusterau cyhoeddus a phreifat, un ai yn yr ardaloedd adeiledig neu gerllaw ardaloedd adeiledig pan Hamdden a fo pwysigrwydd yn perthyn i'r mannau agored hynny o safbwynt hamdden, mwynderau a bywyd gwyllt. Chymuned. 3.43 Amcan pennaf y Cynllun yw diogelu a chryfhau'r cymunedau trwy greu swyddi. Hefyd mae modd cryfhau cymunedau trwy greu swyddi. Hefyd mae modd cryfhau cymunedau trwy ddarparu cyfleusterau megis neuaddau cymuned, llyfrgelloedd, meithrinfeydd a lleoedd addoli. Rhoddir caniatâd 17. 17. Bydd y Cyngor yn caniatáu datblygu cyfleusterau cymunedol fel y dangosir hynny ar y Cyfleusterau map cynigion ac fel y manylir arnynt yn y cynigion FF13, FF16 a FF26. Bydd caniatâd yn Hamdden a cael ei roddi i gynlluniau eraill ar safleoedd addas y tu mewn i'r ffiniau datblygu fel y Chymuned. dangosir y rheini ar y map cynigion neu y tu fewn i bentrefi eraill ac ar eu cyrion.

i geisiadau fydd un ai yn y pentrefi, yn y trefi neu yn y treflannau neu ar eu cyrion gyda'r amod eu bod yn cydymffurfio gyda pholisïau eraill y Cynllun.

Siopio.

18. Bydd y Cyngor yn rhoddi caniatâd i siopau newydd yn y canolfannau siopio sydd yma'n barod.

18. Siopio. 19. Bydd caniatâd yn cael ei roddi i geisiadau am siopau y tu allan i'r canolfannau siopio sydd yma'n barod :-

i. Onid oes modd, oherwydd maint neu oherwydd natur eu gweithgareddau, eu codi ar dir y tu mewn i'r canolfannau presennol. 19. Siopio. ii. Onid ydynt yn gyffredinol yn niweidio llewyrch a dyfodol y canolfannau sydd yma'n barod. iii. Os ydynt mewn lleoedd sy'n gyfleus ar gyfer cludiant cyhoeddus, cerbydau cyflenwi nwyddau a cheir preifat. iv. Os ydynt oddi fewn neu gerllaw i drefi/pentrefi presennol.

3.44 Gyda golwg ar ddiogelu buddsoddiad a diogelu swyddi yn y canolfannau siopio sydd eisoes yma bydd y Cyngor, fel arfer, yn gwrthod ceisiadau i godi siopau y tu allan i'r trefi. Efallai y bydd eithriadau i'r rheol gyffredinol hon, fel enghraifft yr unedau mawr nad oes modd eu codi y tu mewn i'r canolfannau siopio a'r rheini'n gwella'r ddarpariaeth yn y Sir yn gyffredinol, neu, mewn ardaloedd gwledig, lle buasai siopau ar ffermydd yn cyfrannu tuag at yr economi wledig ac yn gymorth i ffermydd arallgyfeirio. Yn achos unedau mawr bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoddi i safleoedd ar gyrion canol trefi Caergybi, Llangefni ac Amlwch. Yn ogystal bydd y Cyngor yn ystyried posibiliadau gostwng y defnydd a wneir o gerbydau preifat a rhoddi anogaeth i bobl ddefnyddio cludiant cyhoeddus.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 22 SWYDDI PENNOD 3

Prif Ffryntiadau Siopio.

20. Yn yr ardaloedd hynny sydd wedi eu nodi fel prif ffryntiadau siopio ar y Map Cynigion bydd y Cyngor yn caniatáu newid defnydd o siopio i bwrpas arall pan fo cynnig ddim yn niweidio cymeriad siopio unrhyw ganolfan.

3.45 Yng nghanolfannau Caergybi, Llangefni ac Amlwch mae nifer y defnyddiau sydd ddim yn ddefnyddiau 20. Prif siopio wedi tyfu cymaint fel bod unrhyw newidiadau ychwanegol yn mynd i danseilio'u cymeriad fel Ffryntiadau ardaloedd siopio. Mae'r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd diogelu cyfran uchel o'r defnyddiau siopio Siopio. er mwyn diogelu llewyrch a dyfodol canolfannau'r trefi hyn. Fel arfer bydd y defnyddiau gwasanaeth yn cael eu hannog i symud i ardaloedd sydd wedi eu dangos fel ffryntiadau siopio eilradd ar y Map Cynigion. Fodd bynnag, efallai y bydd defnyddiau eraill heblaw siopau yn dderbyniol yn y prif ffryntiadau megis eithriadau pan fydd y defnydd arfaethedig yn hwb i hyder masnachol canol y dref. Gall y defnyddiau hyn, sydd yn rhai ychwanegol at siopio, gynnwys, fel enghraifft, gyfleusterau bancio yn y stryd fawr neu siopau gwerthu prydau cyflym o safon uchel - siopau yn perthyn i'r "cadwynau cenedlaethol" sy'n cael eu cydnabod fel arwyddion o iechyd a llewyrch yng nghanol y trefi.

Siopau Gwerthu Prydau Poeth Parod.

3.46 Bydd angen rhoi sylw i faterion eraill lle mae cynigion yn ymwneud â defnyddio adeilad at ddiben gwerthu prydau poeth parod. Mae'r rhain yn ymwneud ag oriau agor anarferol o'u cymharu â siopau confensiynol ac hefyd ar yr effaith a gânt ar draffig ac ar fwynderau os ydynt yn agos at dai. Ceir gwybodaeth bellach ar gynigion o'r fath yn yr "Arweiniad Cynllunio Atodol ar Siopau Gwerthu Prydau Poeth Parod". Lle mae datblygiadau yn cael effaith ar ffryntiadau'r siopau, rhoddir sylw yn ogystal i gynigion yng nghyd-destun Polisi 20 uchod.

21. Bydd y Cyngor yn caniatáu cynigion i ddarparu siopau prydau poeth parod os ydyw'n 21. Siopau fodlon na fydd y datblygiad yn niweidio cymeriad a phleserau'r ardal. Wrth asesu cynigion Gwerthu ar gyfer siopau prydau poeth parod bydd y Cyngor yn rhoddi sylw arbennig i:- Prydau Poeth Parod. i. Pa mor agos ydy'r datblygiad at dai. ii. Lefelau tebygol y sðn, yr aflonyddwch, yr arogleuon a'r sbwriel y bydd y datblygiad yn ei greu. iii. Oriau agor arfaethedig. iv. Goblygiadau'r datblygiad o safbwynt traffig, parcio a phriffyrdd. v. Amharu ar yr olygfa a materion dylunio.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 23 SWYDDI PENNOD 3

Hysbysebion.

22. Hysbysebion 22. Fel arfer rhoddir caniatâd i'r hysbysebion hynny y bydd raid wrth ganiatâd cynllunio iddynt onid ydynt yn difetha gwedd ardal nac yn creu peryglon i ddefnyddwyr y ffordd.

3.47 Gall hysbysebion fod yn bwysig iawn i ddyfodol llewyrchus busnesau ond gallant hefyd fod yn niweidiol pan fônt yn rhy fawr neu ddim yn gweddu i gymeriad yr amgylchiadau. Mae hyn yn cael effaith andwyol ar brydferthwch y cefn gwlad a hefyd ar gymeriad trefi a phentrefi ac yn y pen draw cânt effaith andwyol ar ddatblygiadau economaidd oni chânt eu rheoli'n ofalus.

GWEITHREDU.

3.48 Yn ychwanegol at y pwerau rheoli datblygu sydd gan y Cyngor bydd y dulliau isod hefyd yn cael eu defnyddio :-

{ Pwerau datblygu economaidd y Cyngor i ddarparu rhwydwaith gwasanaethau a gwerthu tir diwydiannol ac adeiladau diwydiannol.

{ Y Cyngor yn gweithio ar y cyd gyda chyrff eraill i ddatblygu tir -yn arbennig felly gydag Awdurdod Datblygu Cymru.

{ Paratoi Adroddiadau ac ynddynt gyfarwyddyd i arwain datblygiad. Bydd hyn yn arbennig o bwysig i weithredu'n llwyddiannus ar bolisïau 3 a 4.

{ Mae'r Cyngor yn gweithredu'n egnïol ar raglen o brosiectau hamdden sy'n derbyn grantiau y prif gyrff hynny sy'n rhoddi grantiau.

Mae'r meysydd isod wedi eu clustnodi yn y rhaglen :-

* adfer a diogelu nodweddion diwydiannol, archeolegol a hanesyddol sydd o ddiddordeb. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo cyfle'r cyhoedd i fynd ar diroedd a darparu gwybodaeth ar safleoedd.

* datblygu parc gwledig yn Chwarel y Morglawdd, Caergybi.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 24 SWYDDI PENNOD 3

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 25 FFRAMWAITH FFISEGOL A'R AMGYLCHEDD PENNOD 4 4 Y FFRAMWAITH FFISEGOL A'R AMGYLCHEDD.

4.1 Mae'r fframwaith ffisegol yn cynnwys gwasanaethau megis addysg, hamdden, gofal iechyd a gwasanaethau cael gwared â gwastraff yn ogystal â ffyrdd a charthffosydd.

4.2 Yn strategaeth y Cynllun rhoddir pwyslais ar y cyswllt rhwng swyddi a "safon byw" yn Ynys Môn. I gyrraedd y nod hwn o greu gwaith, mae'r Bennod hon yn nodi polisïau ar gyfer :-

Gwella'r Fframwaith Ffisegol.

Mae yma bolisïau ar gyfer :-

* Trafnidiaeth * Trin Carthion * Cael Gwared â Gwastraff

Diogelu a Gwella'r Amgylchedd.

Mae yma bolisïau ar gyfer :-

* Y tirwedd * Cadwraeth Natur * Yr Arfordir * Adennill Tir * Llecynnau Agored * Safleoedd Archeolegol * Diogelu Adeiladau * Dyluniad * Ffatrïoedd Peryglus * Ynni Adenwyddol

4.3 Dilyniant sydd yn y cynigion hyn i bolisi presennol y Cyngor o geisio targedu'r mannau duon lle mae diweithdra yn uchel a gwella canol y trefi. Eisoes mae gwaith wedi cychwyn ar raglen yng Nghaergybi. Mae llawer o ardaloedd yng ngogledd a gorllewin Ynys Môn, gan gynnwys Amlwch, wedi eu cynnwys mewn Rhaglen Ffyniant Gwledig gan Awdurdod Datblygu Cymru. Mae'r Cyngor wedi paratoi strategaeth i wella Llangefni. Hefyd paratowyd Strategaeth Gadwraeth i Beaumaris a Strategaeth Wella i Borthaethwy er mwyn cael trafodaeth gyhoeddus.

4.4 Parheir i roddi blaenoriaeth i'r fframwaith ac i gynlluniau i wella'r amgylchedd gan wneud yr ardal yn fwy deniadol i bobl leol fuddsoddi ynddi ac i ddenu buddsoddiadau o'r tu allan. Yn gyffredinol, mae'r cynigion hyn yn ymwneud â :-

* gwella'r prif ganolfannau masnachol (e.e. pedestrianeiddio, meysydd parcio, gwelliannau i'r amgylchedd);

* darparu cyfleusterau hamdden ac adloniant i bobl leol ac i ymwelwyr - bydd hyn yn tynnu'r pwysau oddi ar ardaloedd sydd ag amgylchedd sensitif.

4.5 Wrth lunio'r cynigion rhoddwyd sylw i bwysigrwydd diogelu adnoddau naturiol yr ardal ac i hybu datblygiadau 'cynaladwy'.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 25 FFRAMWAITH FFISEGOL A'R AMGYLCHEDD PENNOD 4 POLISÏAU.

TRAFNIDIAETH.

4.6 Cyngor Sir Ynys Môn a'r Swyddfa Gymreig sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r materion trafnidiaeth.

Cludiant Cyhoeddus.

23. Cludiant 23. Bydd datblygiadau y mae cysylltiad gwael rhyngddynt â chludiant cyhoeddus yn cael eu Cyhoeddus. gwrthod onid yw'r datblygwr yn dangos fod y lleoedd eraill y mae'n haws eu cyrraedd yn anaddas i bwrpas datblygu.

4.7 Bydd y datblygiadau hynny sydd ymhell oddi wrth y gwasanaethau bysus a rheilffordd yn symbylu pobl i ddefnyddio ceir. Yr hyn a ddaw yn sgil hyn yw rhagor o lygredd, cynnydd yn nifer y damweiniau ffordd, cynnydd yn y tagiant ar y ffyrdd ac amharu yn anffafriol ar fywydau pobl. Mae hyn yn cyfiawnhau'r strategaeth o geisio hybu datblygiadau yng Nghaergybi, Llangefni ac Amlwch - y lleoedd gyda'r cludiant cyhoeddus gorau.

4.8 Mae nifer o'r cynigion ar gyfer gwasanaethau sylfaenol yn cael eu cyllido, yn rhannol o leiaf, o'r sector cyhoeddus. Wrth eu hystyried dylid ystyried hefyd a oes cludiant cyhoeddus ar gael.

Gweithredu.

4.9 Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy ddefnyddio pwerau rheoli datblygu'r Cyngor.

Lein Amlwch.

24. Lein 24. Bydd y Cyngor yn caniatáu cynigion sy'n gefnogol i ddefnyddio'r lein nwyddau rhwng Amlwch. Amlwch a'r lein fawr yn y Gaerwen ar gyfer gwasanaethau i deithwyr. Bydd cynigion sy'n debyg o rwystro hyn yn cael eu gwrthod.

4.10 Mae'r Cyngor ac Awdurdod Datblygu Cymru yn ystyried pa mor ymarferol fydd ailagor y lein hon i deithwyr - yn bennaf fel atyniad i ymwelwyr ond hefyd fel dull teithio i bobl leol. Rhaid diogelu safleoedd yr hen orsafoedd rhag datblygiadau a rwystrai eu defnyddio eto'n y dyfodol.

Gweithredu.

4.11 Trwy (a) defnyddio pwerau rheoli datblygu'r Cyngor a (b) cefnogaeth ariannol y sector preifat.

Y Ffyrdd Newydd.

25. Mae llwybr yr A5/A55 newydd sydd wedi ei ddangos ar y Map Cynigion ac y manylir 25. Y Ffyrdd arno yn y Cynnig FF1 wedi ei ddiogelu rhag datblygiadau. Ni fydd caniatâd cynllunio yn cael ei roddi i'r un datblygiad sy'n rhwystro'r A5/A55 rhag cael ei hadeiladu. Newydd.

4.12 Dylid rhoddi blaenoriaeth i gwblhau'r ffordd ddwy lôn newydd, sef yr A5/A55, ar draws yr ynys fel rhan o'r Euroroute rhwng Iwerddon a gweddill y gymuned Ewropeaidd. Fe ddanghosir sut y bydd y gwaith yn cael ei wneud yn Atodiad 5.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 26 FFRAMWAITH FFISEGOL A'R AMGYLCHEDD PENNOD 4 4.13 Mae'r Polisi hwn yn hyrwyddo traffig ac yn tynnu'n groes i'r amcanion tymor hir sy'n gefnogol i ddatblygiadau cynaladwy. Fodd bynnag, credir fod y manteision i economi Ynys Môn, y gwelliannau yn amgylchedd y pentrefi hynny fydd yn cael eu hosgoi a diogelwch y ffyrdd yn ddigon o gyfiawnhad. Bydd y Cyngor yn pwyso ar y Swyddfa Gymreig i roddi sylw arbennig i wneud gwaith tirlunio ar hyd y ffordd. Gan mai yr A5 yw'r porth i Ynys Môn rhoddir blaenoriaeth i 'goridor' yr A5 yn y strategaeth dirlunio y cyfeirir ati ym mharagraff 4.28.

Gweithredu.

4.14 Y Swyddfa Gymreig sy'n gyfrifol am gefnffordd yr A5/A55 a rhaid trosglwyddo pob cais cynllunio i'r Swyddfa Gymreig os ydyw'r cais o fewn 67 metr i'r llwybr a ddangosir ar y Map Cynigion.

Parcio Ceir.

26. Parcio 26. Disgwylir y bydd pob cynnig i ddatblygu yn cynnwys digon o le addas i barcio ar y safle. Ceir.

4.15 Ymddengys fod y polisi hwn yn groes i'r amcan cyffredinol o gael datblygiadau cynaladwy trwy gyfyngu mwy ar yr arfer o ddefnyddio'r car ond rhaid cydnabod bod Ynys Môn, fel ardal wledig, gyda pherchenogaeth ceir uchel. Y tebyg yw y bydd hyn yn parhau am weddill cyfnod y cynllun ac o'r herwydd mae'n bwysig sicrhau fod digon o gyfleusterau parcio addas ynghlwm wrth y datblygiadau.

4.16 Yn ddiweddar mae'r Cyngor wedi cyhoeddi Canllaw Atodol yn manylu ar safonau parcio i wahanol fathau o ddatblygiadau. Trwy gytundeb gyda'r Cyngor Sir a chyda Chynghorau Dosbarth eraill mae'r canllaw hwn wedi ei fabwysiadu ac mae bellach yn Ganllaw Safonol i Barcio yng Ngwynedd. Gellir defnyddio'r ddogfen hon fel sylfaen i weithredu ar Bolisi 26.

Trin Carthion.

27. Bydd y Cyngor yn rhoddi caniatâd i gynigion y diwydiant dðr pan fo'r rheini'n gwella'r 27. Trin cyfleusterau trin carthion. Carthion.

4.17 Bydd y Cyngor yn gwneud popeth bosib i annog Dðr Cymru i wella sustemau ble bynnag y mae'r rhai presennol yn annigonol ac yn cyfyngu ar dwf a datblygiad economaidd a ble y bydd angen buddsoddiad i wella ansawdd y dðr drochi er mwyn cydymffurfio gyda safonau'r Gymuned Ewropeaidd. Mae sustemau digonol i drin carthion yn hanfodol i sicrhau llwyddiant y Cynllun. Heb y darpariaethau hyn bydd amcanion y cynllun ar gyfer datblygiadau economaidd yn cael eu gwanhau.

4.18 Ar hyn o bryd mae'r Awdurdod Afonydd Cenedlaethol yn gwrthwynebu rhagor o ddatblygiadau yn yr ardaloedd hynny ble mae'r sustemau carthffosiaeth yn annigonol, h.y :-

* Caergybi * * Rhosneigr * Moelfre.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 27 FFRAMWAITH FFISEGOL A'R AMGYLCHEDD PENNOD 4 4.19 Mae gan Dðr Cymru ganiatâd cynllunio i wneud gwaith gwella ar y sustemau trin carthion yn :-

* Caergybi * Beaumaris * Benllech * Brynsiencyn

ac mae'n chwilio am safleoedd i offer trin carthion neu'n ystyried gwella'r cyfleusterau yn yr ardaloedd isod :-

* Caergybi * Rhosneigr * Porthaethwy

Ar hyn o bryd nid oes modd clustnodi safleoedd penodol, ond bydd y Cyngor yn disgwyl i gynigion y dyfodol adlewyrchu, cyn belled ag y bo'n bosib, y meini prawf cynllunio sydd ym Mholisi 1.

4.20 Mae'r Cyngor yn pryderu'n fawr am nad oes cynigion yn cael eu cyflwyno ar gyfer Cemaes a Moelfre.

Llifogydd Môr ac Afonydd.

28. Bydd y Cyngor yn gwrthod ceisiadau i ddatblygu :- 28. Llifogydd Môn ac i. Mewn ardaloedd sydd dan fygythiad llifogydd y môr ac afonydd. Afonydd. ii. Pan fo tiroedd sy'n orlifdir naturiol yn cael eu colli. iii. Pan fo hynny'n ychwanegu at y risgiau llifogydd mewn ardaloedd eraill. iv. Pryd bynnag y bydd hynny'n amharu ar waith cynnal a chadw neu ar waith rheoli amddiffynfeydd afonydd a môr.

4.21 Rhaid wrth y polisi hwn i sicrhau na fydd datblygiadau newydd yn wynebu risgiau llifogydd a hefyd i sicrhau nad ydynt yn peri risgiau i ardaloedd eraill gan beryglu bywydau ac eiddo. Dim ond dan amgylchiadau eithriadol y caniateir datblygu gorlifdir naturiol a than amgylchiadau o'r fath rhaid cymryd camau arbennig i wneud lwfans am y golled. Efallai, fodd bynnag, y bydd rhai defnyddiau penodol o dir yn dderbyniol ar ochr y môr i'r amddiffynfeydd, yn ôl patrwm tymhorol, ar adegau o'r flwyddyn pan yw peryglon llifogydd yn ddigon annhebygol.

Cael gwared â gwastraff.

29. Bydd cynigion i ddatblygu cyfleusterau cael gwared o wastraff yn derbyn caniatâd pan fo 29. Cael Gwared i. Y safle neu'r datblygiad ddim yn nodwedd ymwythiol yn y tirwedd o gwmpas. â Gwastraff. ii. Y datblygiad yn defnyddio tir nad oes iddo werth o safbwynt diogelu natur na gwerth archeolegol. iii. Ni chaiff y datblygiad arwain at lygru unrhyw adnoddau dwr. iv. Lleoliad y safle yn cyfyngu i'r eithaf ar yr angen i gludo defnyddiau. v. Rhaid cael mynedfa foddhaol o'r safle i rwydwaith y priffyrdd. vi. Ni chaiff y datblygiad greu niwsans nac amharu'n sylweddol ar bleserau eiddo cyfagos oherwydd sðn, arogleuon, neu oherwydd argraff weledol. vii. Rhaid i'r datblygiad gynnwys cynllun adfer manwl a thrylwyr i warchod y safle am bum mlynedd ar ôl diweddu'r gwaith

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 28 FFRAMWAITH FFISEGOL A'R AMGYLCHEDD PENNOD 4 4.22 Ar safle sbwriel Penhesgyn mae digon o le i bara am yr 8-10 mlynedd nesaf, ac o'r herwydd efallai y bydd angen safle newydd erbyn diwedd cyfnod y Cynllun. Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoddi i safle yn cynnwys tir diffaith.

4.23 Rhoddir sylw i agweddau strategol trin gwastraff a chael gwared â fo yn y Cynllun sydd gan y Cyngor i gael Gwared o Wastraff ac a baratowyd yn unol â Deddf Rheoli Llygredd 1974. Yn y Cynllun :-

* Sefydlir faint o wastraff a pha fath o wastraff sy'n debyg o gael ei gynhyrchu. * Amlinellir faint o wastraff a pha fath o wastraff sy'n debyg o gael ei gludo i mewn i'r ardal. * Diffinnir safonau ar gyfer rhedeg tomenni sbwriel a diffinnir meini prawf ar gyfer rhyddhau trwyddedau. * Sefydlir blaenoriaethau ar gyfer dulliau o gael gwared o wastraff a'i drin.

Dan y Ddeddfwriaeth bresennol (Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990) mae'n rhaid i'r Cynghorau baratoi Cynllun newydd i Gael Gwared o Wastraff ynghyd â Chynllun Ailgylchu Gwastraff. Mae Cyngor Sir Ynys Môn gyda chynllun ailgylchu wedi ei fabwysiadu ac wedi ei baratoi yn unol â Deddf 1990. Fodd bynnag nid yw'r cynllun rheoli gwastraff diweddaraf wedi ei gwblhau.

4.24 Yn y Cynllun Lleol nodir pa feini prawf a ddefnyddir pan fo sylw'n cael ei roddi i geisiadau am safleoedd newydd neu am ymestyn safleoedd sydd eisoes yn bod. Defnyddir y meini prawf hyn i'r cyfan o'r cynlluniau cael gwared o wastraff y mae'n rhaid iddynt wrth ganiatâd cynllunio ac mae'r rheini'n amrywio o ganolfannau derbyn gwastraff ac ailgylchu gwastraff ar y naill law i safleoedd llenwi tyllau ac estyniadau i safleoedd sydd eisoes yn bod a chyda'r chynlluniau hyn bydd raid cyflwyno cynllun manwl ar gyfer rheoli, adfer a gofalu am y safle wedyn.

Gweithredu.

4.25 Gweithredir ar y Polisi hwn trwy :-

a. Bwerau rheoli datblygu y Cyngor b. Paratowyd y Cynllun Cael Gwared o Wastraff presennol yn 1985. Bydd angen, yn yr adolygiad ohono, roddi sylw i dir ychwanegol ar gyfer cael gwared o wastraff yn unol â'r meini prawf uchod ynghyd â ffyrdd o ostwng lefel y gwastraff a greir ac annog ail-droi/adfer deunyddiau.

Tirlunio.

30. Yn yr Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol (sy'n cynnwys Arfordir Treftadaeth 30. Tirlunio. diffiniedig) a ddangosir ar y Map Cynigion, bydd y Cyngor yn rhoddi blaenoriaeth i ddiogelu ac i wella'r tirwedd pan fo'n ystyried ceisiadau cynllunio.

4.26 Cred y Cyngor fod y cyfan o Ynys Môn o safon tirwedd arbennig. Yr amcan pwysicaf yn yr Ardaloedd o Brydferthwch Naturiol Eithriadol ac ar hyd yr arfordir treftadaeth fydd diogelu prydferthwch naturiol y lle.

31. Tirlunio. 31. Ac eithrio'r Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol a'r tir hwnnw sydd y tu mewn i ffiniau trefi a phentrefi y ddiffinnir hwy yn y Cynllun mae'r Ynys wedi ei dynodi yn Ardal Tirwedd Arbennig.

Yn y cynigion i ddatblygu yn yr Ardal Tirwedd Arbennig bydd raid rhoddi sylw arbennig i gymeriad neilltuol yr ardal y mae'r cynnig ynddi.

Wrth ystyried effaith unrhyw gynnig ar y tirwedd bydd raid i'r Cyngor, cyn rhoddi caniatâd, fodloni ei hun fod modd ffitio'r datblygiad i mewn i'r tir o gwmpas heb wneud niwed annerbyniol i gymeriad y tirwedd yn gyffredinol a gwna'r Cyngor hyn cyn rhoddi caniatâd cynllunio.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 29 FFRAMWAITH FFISEGOL A'R AMGYLCHEDD PENNOD 4 4.27 Wrth gydnabod fod Ynys Môn yn rhwydwaith o gymunedau byw bydd y Cynllun yn derbyn fod angen datblygiadau i gefnogi'r cymunedau hyn. Rhaid i'r datblygiadau adlewyrchu cymeriad tirwedd yr ardal o gwmpas. Bydd Polisi 31 yn sicrhau fod datblygiadau yn parchu safon ac ansawdd y mathau o dirluniau lleol sydd wedi eu nodi.

32. Tirlunio. 32. Bydd y Cyngor yn gwrthwynebu ceisiadau sy'n golygu cael gwared o goed, gwrychoedd, waliau cerrig, cloddiau a nodweddion traddodiadol eraill yn y tirwedd oni chyflwynir cynigion derbyniol i roddi nodweddion cyffelyb yn eu lle. Rhoddir cefnogaeth i reoli'r nodweddion hyn mewn ffordd briodol ac yn benodol trwy roddi amodau ynghlwm trwy ganiatâd cynllunio pan fo hynny'n briodol, defnyddio rhwymiadau cynllunio a thrwy wneud cytundebau rheoli gyda pherchenogion tiroedd a datblygwyr pan fo'n briodol.

Gweithredu.

4.28 Gweithredir ar y polisïau hyn fel a ganlyn :-

a. Bydd y Cyngor yn defnyddio'i bwerau rheoli datblygu i ddiogelu'r Ardaloedd o Brydferthwch Naturiol Eithriadol a'r Arfordir Treftadaeth rhag datblygiadau anaddas. b. Mewn ardaloedd eraill ar yr Ynys, bydd angen i ddatblygwyr barchu'r tirwedd lleol. c. Pan fo adnoddau yn caniatáu bydd y Cyngor, mewn ymgynghoriad gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru, yn ystyried paratoi strategaeth dirweddol fanwl i :- * roddi nodweddion tirwedd mewn categorïau penodol; * asesu pa effaith y mae newidiadau yn y defnydd a wneir o dir yn y dyfodol yn mynd i'w chael ar y tirwedd, a sut y bydd modd derbyn a chymathu'r newidiadau hyn; * datblygu canllawiau i benderfynu ar geisiadau er mwyn diogelu a hyrwyddo'r nodweddion hynny sy'n rhoddi cymeriad i'r tirwedd; * rhoddi pwyslais ar ardaloedd y bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoddi i'w tirwedd er mwyn gweithredu. ch. Bydd y Cyngor yn defnyddio Gorchmynion Diogelu Coed i rwystro pobl rhag torri coed pan fo'r rheini yn nodweddion deniadol yn y tirwedd a than fygythiad. d. Mae Ynys Môn wedi ei chlustnodi yn Ardal Amgylchedd Sensitif a bwriad dynodi ardaloedd yn rhai o'r fath yw diogelu y rhannau hynny o'r cefn gwlad ble mae'r tirwedd, y bywyd gwyllt neu hanes y lle o bwysigrwydd cenedlaethol. I hyrwyddo'r amcanion hyn mae grantiau ar gael i ffermwyr ofalu am y tir. dd. Fel rhan o'r cynigion i ad-ennill tir a gwella'r amgylchedd fel y gwelir y rheini ym Mholisi 38 isod.

Diogelu Natur. 33. Diogelu Natur. 33. Bydd y Cyngor yn gwrthod caniatâd i unrhyw ddatblygiad fydd yn cael effaith annerbyniol, boed honno'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, ar hen safleoedd neu ar safleoedd arfaethedig gyda statws o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDdGA), Gwarchodfa Natur Leol (GNL) neu Warchodfa Natur Arforol (GNAr).

4.29 Gall nodweddion yn y tirwedd, megis nentydd, coridorau dðr, gwrychoedd, coedydd bychain, waliau cerrig/cloddiau a thyllau fod o bwysigrwydd mawr i flodau ac i anifeiliaid bychain gwylltion oherwydd fod y nodweddion hyn yn hir ac mae iddynt swyddogaeth fel cerrig llamu i symud o'r naill le i'r llall ac ar gyfer cyfnewid genetaidd. Dan y Rheoliadau Cadwraeth (Cynefin Naturiol ac yn y blaen) 1994 mae'n rhaid rheoli'r nodweddion hynny yn y tirwedd sydd o bwysigrwydd mawr i flodau ac anifeiliaid gwylltion. Ym Mholisi 33, 34 a 35 mae rhagor o gamau i gyrraedd y nodau hyn. Bydd y Cyngor yn cydweithredu gyda Chyngor Cefn Gwald Cymru i ddatblygu canllawiau gyda golwg ar reoli a diogelu'r nodweddion hyn.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 30 FFRAMWAITH FFISEGOL A'R AMGYLCHEDD PENNOD 4

4.30 Hefyd mae'r cyfan o'r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, Ardaloedd Diogelu Arbennig, Ardaloedd Gwarchod Arbennig, Safleoedd o Ddiddordeb Cymunedol a'r Safleoedd Ramsar gyda statws SDdGA. Yn Ynys Môn, ar hyn o bryd, mae 60 o safleoedd gyda statws Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a 3 Gwarchodfa Natur Genedlaethol (mae'r manylion llawn yn Atodiad 6). Mae o'r pwys mwyaf ein bod yn rhoi blaenoriaeth i ddiogelu'r safleoedd hyn. Gwrthwynebir bwriadau i ddatblygu tir ger safle gyda dynodiad statudol pan fo hynny'n peryglu dyfodol y safle (e.e. trwy newid lefel tabl y dðr neu ei ansawdd). 34. Diogelu Natur. 34. Bydd y Cyngor yn sicrhau y bydd y safleoedd hynny sydd heb ddynodiad statudol, ond er hynny'n hysbys fel safleoedd pwysig i ddiogelu natur, gan gynnwys safleoedd o bwysigrwydd daearegol a physgodfeydd, yn cael eu diogelu rhag datblygiadau sy'n peri difrod neu rhag datblygiadau annerbyniol.

4.31 Yn ychwanegol at y safleoedd hynny sydd gyda dynodiad statudol mae adroddiadau manwl wedi eu paratoi ar ardaloedd eraill y mae'n bwysig diogelu natur ynddynt - gwaith yw hwn a wnaed gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a chan grwpiau gwirfoddol megis Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. Un math o safle ymhlith y safleoedd hyn yw'r Safle o Bwysigrwydd Daearegol Rhanbarthol.

4.32 Mae'n hanfodol fod safleoedd sydd heb ddynodiad statudol yn cael eu diogelu'n ddigonol er mwyn cadw cymunedau bywyd gwyllt, diogelu nodweddion daearegol pwysig ac er mwyn diogelu pysgodfeydd.

4.33 Hefyd mae'r Cyngor yn cydnabod nad yw diogelu natur ar safleoedd statudol ac anghysbell yn ffordd iawn o ddiogelu'r adnoddau hyn a bod ardaloedd eraill, a choridorau (dyffrynnoedd a gwrychoedd) sy'n eu cysylltu, yn bwysig iawn o safbwynt diogelu natur.

35. Diogelu 35. Rhoddir caniatâd i ddatblygiadau sydd y tu allan i safleoedd y cydnabyddir eu bod yn Natur. bwysig o safbwynt diogelu natur ond gyda'r amod nad yw'n cael effaith andwyol ar rywogaethau sy'n cael eu diogelu trwy statud a chyda'r amod hefyd fod y datblygiad yn cydymffurfio gyda pholisïau eraill y cynllun hwn.

4.34 Weithiau ni fydd safle o ddim neu fawr ddim diddordeb o safbwynt diogelu natur ond efallai y bydd effaith cynnig neu fwriad yn niweidiol i rywogaeth sy'n cael ei diogelu yn y cyffiniau (e.e. ar fywyd arforol neu ar adar sy'n mudo). Bydd effaith o'r fath yn ystyriaeth gynllunio berthnasol.

Gweithredu.

4.35 Dyma sut y bwriedir gweithredu ar y polisïau uchod yng nghyswllt diogelu natur :-

a. Bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru pan fo'n delio gyda cheisiadau cynllunio ac wrth lunio ei raglen gyfalaf. Hefyd mae'n rhaid ymgynghori gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru yng nghyswllt tiroedd Cyffiniol ac Ymgynghorol o gwmpas Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig fel y diffinnir hyn dan Orchymyn Datblygu Cyffredinol 1988.

b. Bydd y Cyngor yn ymgynghori gydag Asiantaeth yr Amgylchedd ar yr holl faterion cynllunio fydd yn cael effaith ar amgylchedd y dyfroedd. Wrth ymateb mae'n rhaid i'r Awdurdod Afonydd hybu gwaith diogelu blodau, anifeiliaid a harddwch naturiol.

c. Gall y Cyngor ei hun sefydlu Gwarchodfeydd Natur Lleol. Trwy wneud hynny gall y Cyngor ddiogelu'r amgylchedd naturiol y credir ei fod o bwys yn lleol. Hefyd mae'n ffordd briodol iawn o hyrwyddo cadwraeth ac addysg yn y gymuned ac, yr un pryd, ddiogelu hawl y cyhoedd i fynd ar y tir a hybu cyfleon hamdden.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 31 FFRAMWAITH FFISEGOL A'R AMGYLCHEDD PENNOD 4 Rhoddir sylw i'r lleoedd isod :-

* Y Dingl, Llangefni * Llyn Maelog, Rhosneigr * Y Môr Mewnol * Traeth Dulas

Datblygiad ar yr Arfordir.

36. 36. Ni fydd datblygiadau'n cael eu caniatáu yn yr ardaloedd hynny sydd heb eu datblygu nac yn y rheini sydd un ai ar neu ger yr arfordir pan fo natur neu faint y datblygiad yn mynd i Datblygiad ar niweidio cymeriad yr arfordir. yr Arfordir. Rhoddir sylw i gynigion mewn lleoedd o'r fath gan gadw golwg ar y ffactorau isod :-

i. Yr angen am leoliad arfordirol. ii. Yr effaith a gaiff ar :- (a) y tirwedd; (b) cadwraeth natur neu werth hanesyddol; (c) twristiaeth, hamdden neu fwynderau'n gyffredinol. iii. Yr effaith a gaiff, o bosib, ar yr amgylchedd arforol. iv. Y peryglon yn cynnwys llifogydd, erydiad ac ansefydlogrwydd y tir.

4.36 O holl adnoddau naturiol Ynys Môn yr un pwysicaf yw'r arfordir ac mae'r rhan fwyaf ohono wedi ei glustnodi un ai yn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol neu'n Arfordir Treftadaeth. Yn y lleoedd hyn mae o'r pwysigrwydd mwyaf fod datblygiadau yn cael eu rheoli'n llym a rhaid sicrhau bod cynigion yn cydweddu, o safbwynt ffisegol ac amgylcheddol, gyda chymeriad yr ardal.

Mynediad i'r Arfordir a'r Cefn Gwlad.

37. Fel arfer bydd y cynigion hynny sy'n hybu cyfle'r cyhoedd i gerdded at yr arfordir a'r cefn gwlad yn cael eu caniatáu os oes modd dangos nad yw cadwraeth natur yn cael ei 37. Mynediad danseilio. Bydd y Cyngor yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu'r rhwydwaith llwybrau arfordirol i'r Arfordir a'r cysylltiadau ohono i gyfleusterau hamdden a chanolfannau poblogaeth mewndirol. a'r Cefn Gwlad.

4.37 Mae'r Cyngor, ar y cyd gyda nifer o bartneriaid a chyrff yr ymgynghorir â nhw, yn datblygu Strategaeth Cefn Gwlad a fydd, ymhlith pethau eraill, yn manylu ar leoliadau manwl i'r Rhwydwaith Llwybrau. Yn bennaf, defnyddir hen hawliau tramwy a phan fo'n briodol bydd y Cyngor yn ceisio gwneud cytundebau lleol gyda thirfeddianwyr. Yn ogystal bydd y Cyngor yn datblygu rhaglen i wella, gofalu am a rheoli'r llwybrau sydd yn y Rhwydwaith ac yn paratoi llawlyfr o deithiau cylchog yn cynnwys darnau mewndirol a rhai ar yr arfordir. Pan fo rhwydwaith y llwybrau yn croesi ardaloedd o bwysigrwydd cadwraeth natur rhoddir sylw i'r effaith ar y diddordebau hynny. Os gwneir gormod o ddifrod i gadwraeth natur rhoddir sylw i hyrwyddo lleoliadau eraill i'r llwybrau.

4.38 Hefyd mae gan y Cyngor gynigion i ddarparu meysydd parcio bychan, safleoedd picnic a phwyntiau dehongli ger y llwybrau. Bydd y cynlluniau yma yn rhoi sylw i gyfleustra cludiant cyhoeddus.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 32 FFRAMWAITH FFISEGOL A'R AMGYLCHEDD PENNOD 4 Gweithredu.

4.39 Gweithredir ar y Polisi hwn fel a ganlyn :-

a. Gyda chymorth Cyngor Cefn Gwlad Cymru mae'r Cyngor yn rheoli Prosiect Treftadaeth yr Arfordir. Y gwaith a wneir dan hwnnw yw :- * gwarchod, diogelu a hyrwyddo prydferthwch ac adnoddau naturiol yr arfordir. * rhoi cymorth i'r cyhoedd fwynhau a deall yr arfordir. * ychwanegu at y cyfleon i fanteisio ar weithgareddau hamdden, rhai addysgol, rhai yn ymwneud â chwaraeon a thwristiaeth pan fo'r rheini yn parchu nodweddion megis prydferthwch a threftadaeth. * adlewyrchu anghenion economaidd a rhai cymdeithasol y bobl hynny sy'n ennill bywoliaeth o'r arfordir gyda'r amod fod y rhain yn parchu prydferthwch yr ardal a'i nodweddion treftadaeth. (Paratowyd Cynllun Rheoli i'r Arfordir yn 1984 ac mae angen diweddaru hwnnw) b. Gyda cheisiadau cynllunio mawr bydd yn rhaid cyflwyno tystiolaeth yn dangos eu bod yn annhebygol o niweidio adnoddau naturiol yr arfordir.

Cynlluniau adennill tir a gwella'r amgylchedd.

38. 38. Bydd y Cyngor yn rhoddi caniatâd i gynlluniau adennill tir a gwella'r amgylchedd, fel Cynlluniau y dangosir y rheini ar y Map Cynigion ac y manylir arnynt yn y cynigion FF1 i FF38, a Adennill tir bydd yn caniatáu cynlluniau eraill sy'n hybu'r blaenoriaethau isod :- a Gwella'r i. Cael gwared o nodweddion sy'n ddolur llygad. Amgylchedd. ii. Cyfraniad y cynlluniau i dwf a datblygiad economaidd. iii. Dod ag adnoddau ynghyd i leoedd penodol. iv. Yr angen i gwblhau prosiectau cyfredol.

Wrth ystyried cynigion o'r fath bydd y Cyngor yn rhoddi sylw arbennig i nodi, diogelu a chofnodi nodweddion y mae iddynt, ar safle penodol, arwyddocâd cadwraeth, archeolegol neu ddiwydiannol.

Gweithredu.

4.40 Trwy raglen gyfalaf y Cyngor sy'n dibynnu ar gymorth ariannol cyrff eraill.

Safleoedd Archeolegol.

39. Bydd y Cyngor yn defnyddio'i bwerau cynllunio i sicrhau nad amherir ar Henebion Rhestredig nac ar safleoedd archeolegol na chawsant eu rhestru ond sydd, er hynny, yn 39. Safleoedd haeddu cael eu diogelu. Pan fo cynigion yn cael effaith ar olion archeolegol eraill, rhai heb Archeolegol. eu rhestru nac yn haeddu cael eu diogelu, gwneir darpariaeth i gael ymateb archeolegol priodol. Rhoddir caniatâd i gynlluniau ar gyfer datblygu cyfleusterau i ymwelwyr a rhai addysgol ar safleoedd addas ond gyda'r amod na fydd bygythiad i'r safle archeolegol.

4.41 Mae tua 120 o safleoedd henebion wedi eu rhestru yn Ynys Môn (cedwir rhestr ac arni'r manylion diweddaraf yn yr Adran Gynllunio at ddibenion cyfeirio) ac mae ar yr ynys dros 1,000 o safleoedd eraill sydd o ddiddordeb pensaernïol. Bydd raid i ymgeiswyr am waith datblygu 'pan fo'r gwaith yn cael effaith ar y safleoedd hyn ac ar ardaloedd gyda photensial archeolegol, ddarparu digon o wybodaeth fel bod modd asesu effaith y datblygiad ar y gweddillion a'r amgylchiadau lleol. Mae Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd yn cadw cofnod, un sy'n cael ei ddiweddaru'n gyson, o'r safleoedd a'r henebion yn dangos lle mae'r safleoedd a'r mannau a fydd y Cyngor yn cysylltu'n glos

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 33 FFRAMWAITH FFISEGOL A'R AMGYLCHEDD PENNOD 4 gyda'r Ymddiriedolaeth wrth ddelio gyda chynigion yn eu cylch. Ymgynghorir gyda'r Asiantaeth yr Amgylchedd pryd bynnag y ceir cynnig sy'n cael effaith ar amgylchedd dyfroedd. Hefyd bydd sylw'n cael ei roddi i olion Archeoleg Ddiwydiannol dan y pwnc uchod.

4.42 Pan fo gweddillion archeolegol sylweddol yn bod ond nad oes modd cyfiawnhau gwrthod cais cynllunio neu yn yr achosion hynny lle mae ymyrraeth yn anorfod, bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau bod y cynigion yn cael eu llunio mewn modd a fydd yn gwneud y difrod lleiaf bosibl a/neu bod y datblygwr yn gwneud gwaith archeolegol priodol (a allai olygu tyllu a dadansoddi ar ôl tyllu) i gofnodi'r gweddillion cyn y bydd caniatâd yn cael ei roddi.

Diogelu Adeiladau.

40. Bydd cymeriad a gwedd yr holl ardaloedd cadwraeth dynodedig yn cael ei ddiogelu rhag datblygiadau digydymdeimlad. Anelir at wella cymeriad y lleoedd hyn trwy roddi cefnogaeth 40. Diogelu i wella adeiladau a thrwy ganiatáu datblygiadau newydd o safon uchel a thrwy weithredu ar Adeiladau. welliannau. Bydd y Cyngor yn diffinio ac yn dynodi Ardaloedd Cadwraeth ychwanegol o fewn ardaloedd eraill o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig pan fo angen diogelu a gwella cymeriad ac ymddangosiad y mannau hynny.

41. Diogelir adeiladau o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol 41. Diogelu arbennig a'u hamgylchiadau rhag datblygiadau Adeiladau. digydymdeimlad neu rhag gwaith addasu digydymdeimlad neu rhag gwaith dymchwel. Rhoddir caniatâd fel arfer i gael defnyddiau priodol fydd yn gymorth i ddiogelu eu cymeriad

4.43 Ceir manylion am yr ardaloedd cadwraeth yn Atodiad 7. Bydd Rhestr, wedi ei diweddaru, o'r Adeiladau Rhestredig yn cael ei chadw gan yr Adran Gynllunio i bwrpas cyfeirio ati. Mewn achosion priodol bydd y Cyngor yn argymell i Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod adeiladau penodol yn cael eu rhestru fel rhai o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

Gweithredu.

4.44 Gwneir hyn trwy :- a. ddefnyddio'r pwerau rheoli datblygu sydd gan y Cyngor; b. pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol wrth iddo wneud penderfyniadau ar geisiadau am Ganiatâd Adeiladau Rhestredig; c. paratoi cynlluniau i wella Ardaloedd Cadwraeth unigol; ch. rhoi sylw i ardaloedd eraill sy'n addas i'w dynodi'n Ardaloedd Cadwraeth.

Dylunio.

42. Bydd y Cyngor yn bleidiol i'r cynigion hynny sy'n hyrwyddo gwaith dylunio o safon 42. Dylunio. uchel. Wrth ystyried cynigion bydd y Cyngor yn rhoddi sylw i :- i. Pa mor dda y bydd y datblygiad yn gweddu i'r ardal union o'i gwmpas. ii. Safon ei osodiad, y dyluniad a'r gorffenwaith allanol. iii. Y ddarpariaeth ar gyfer tirlunio a diogelu coed sydd ar y safle'n barod. iv. Y ddarpariaeth ar gyfer pobl yn cerdded ac ar gyfer mynedfa. v. I ba raddau y bydd cynnig, oherwydd natur ei leoliad a'i ddyluniad, yn hyrwyddo'r amcan o fod yn ddarbodus gydag ynni ac yn cyfyngu ar y posibilrwydd o droseddau. vi. I ba raddau y mae'r cynnig yn torri i lawr i'r eithaf ar lygredd goleuni artiffisial sy'n cael ei daflu i'r awyr a thros ffiniau'r safle.

4.45 Un o amcanion y Cynllun hwn yw codi'r safonau dylunio. Efallai na fydd y datblygiadau hynny a fu yn dderbyniol yn y 1970au a'r 1980au yn dderbyniol yn y 1990au. Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 34 FFRAMWAITH FFISEGOL A'R AMGYLCHEDD PENNOD 4

Gweithredu.

4.46 Er mwyn ategu'r polisi cyffredinol hwn, mae'r Cyngor wedi paratoi cyfarwyddyd cynllunio fel cymorth i ddylunio datblygiadau newydd. Ar ôl ymgynghori gyda'r cyhoedd mae'r Cyngor wedi cymeradwyo'r cyfarwyddiadau isod a byddant yn ystyriaethau o bwys wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio :-

* Cyfarwyddyd Dylunio Tai

* Cyfarwyddyd Ymestyn ac Altro Tai

Bydd rhagor o gyfarwyddiadau dylunio yn cael eu paratoi i gwrdd ag anghenion penodol. Dyma'r meysydd y rhoddir sylw iddynt yn y dyfodol :-

Addasu Adeiladau yn y Cefn Gwlad; Nodweddion Dylunio Adeiladau; Stadau o Dai;Tirlunio; Arwyddion.

Ffatrïoedd Peryglus.

43. Ni fydd y Cyngor yn rhoddi caniatâd i ffatrïoedd peryglus newydd, nac i estyniadau i ffatrïoedd o'r fath nac i ddwysáu'r prosesau cynhyrchu mewn ffatrïoedd sydd eisoes yma onid yw'r cynnig, ynddo'i hun neu oherwydd cludo defnyddiau peryglus i'r safle, yn osgoi amharu 43. ar ddiogelwch y cyhoedd. Ffatrïoedd Peryglus. 4.47 Rhaid i'r Cyngor ymgynghori gyda'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch ar geisiadau sy'n ymwneud â datblygiadau peryglus.

44. Ni fydd y Cyngor yn caniatáu datblygiadau yng nghyffiniau ffatri beryglus petai hynny'n amharu ar ddiogelwch y rheini fydd yn yr adeilad newydd neu ar ddiogelwch defnyddwyr y datblygiad newydd. 44. Ffatrïoedd Peryglus. 4.48 Mae yma nifer o ffatrïoedd yn trin sylweddau peryglus ym Môn. Er bod y rhain yn cael eu rheoli'n gaeth dan y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch mae'n angenrheidiol cael rheolaeth lem dros y mathau o ddatblygiadau a ganiateir yng nghyffiniau'r ffatrïoedd hyn. Oherwydd hyn mae'r Cyngor wedi cael ei gynghori gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yng nghyswllt pellterau ymgynghori a'r math o ddatblygiadau y dylid ymgynghori â'r Gweithgor yn eu cylch. Cyflwynir y manylion yn Atodiad 8.

Ynni Adnewyddol.

45. Bydd caniatâd yn cael ei roddi i brosiectau ynni adnewyddol pan fo modd dangos yn glir na chânt effaith annerbyniol ar :-

i. Gymeriad y tirwedd. 45. Ynni ii. Safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol, cenedlaethol neu leol o safbwynt diogelu natur. Adnewyddol. iii. Rhywogaethau pwysig o safbwynt diogelu natur. iv. Safleoedd a henebion hanesyddol o bwys. v. Safon y pleserau y mae preswylwyr ac ymwelwyr yn eu mwynhau. vi. Sustemau cysylltu hanfodol a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

4.49 Gallai prosiectau o'r fath fod yn gaffaeliad i ddarparu ynni yn y dyfodol a hefyd gallent fod yn gyfle i gyflwyno amrywiaeth i sylfaen economaidd yr ardaloedd gwledig. Ym mholisi ynni cyffredinol y Llywodraeth mae rôl i'r datblygiadau ynni adnewyddol trwy :-

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 35 FFRAMWAITH FFISEGOL A'R AMGYLCHEDD PENNOD 4

* Hybu'r broses o gael amryfal ffynonellau i'r cyflenwad trydan; * Disodli'r mwg a'r nwyon a geir wrth losgi ffosiliau, gostwng yn gyffredinol y nwyon Carbon Diocsid a Swlffwr Diocsid a ryddheir i'r awyr, a bod yn gymorth i'r Llywodraeth gydymffurfio gyda gofynion amgylcheddol rhyngwladol ac Ewropeaidd. * Torri i lawr ar y colledion trawsgludo yn y grid cenedlaethol.

Y prosiectau hyn yw rhai megis gwynt, trydan dðr bychan, pðer y llanw neu'r tonnau, llosgi coed neu fethan, cynlluniau ynni'r haul.

Gweithredu.

4.50 Gweithredir ar y Polisi fel a ganlyn :-

a. Fel y gall asesu'n iawn y risgiau a gyfyd oherwydd unrhyw effeithiau andwyol bydd y Cyngor yn mynnu fod ymgeiswyr yn cyflwyno gwybodaeth am yr effaith bosib ar yr amgylchedd yn sgil yr holl gynlluniau a'r unig eithriad i hyn fydd prosiectau bychan iawn ar raddfa ddomestig.

b. Ym mis Chwefror 1992 cyhoeddodd y Cyngor "Canllaw Cynllunio Atodol ar Ddatblygu Ynni Gwynt". Cyhoeddwyd y canllaw hwn i ymgynghori gyda'r cyhoedd yn ei gylch a gwnaeth y Cyngor benderfyniad arno ac mae'n ategu Polisi 45 uchod. Pan fo'r Cyngor yn penderfynu ar geisiadau cynllunio rhoddir sylw i hwn fel ystyriaeth o bwys.

Telathrebiaeth.

46. Bydd caniatâd yn cael ei roddi i ddatblygiadau telathrebiaeth gyda'r amod na fyddant yn cael effaith annerbyniol ar :-

i. Ardaloedd diogelu natur neu o bwysigrwydd tirluniol. 46. ii. Safleoedd neu adeiladau o bwysigrwydd hanesyddol, pensaernïol neu drefluniol. iii. Pleserau cyhoeddus, gweledol neu bleserau preswylwyr. Telathrebiaeth iv. Perfformiad offer trydanol oherwydd ymyrraeth. v. Rhedeg meysydd awyr.

Wrth ystyried cynigion o'r fath bydd y Cyngor yn ymwybodol o bwysigrwydd cael rhwydwaith telathrebu effeithiol ac yn ymwybodol o'r cyfyngiadau y bydd ffactorau gweithredu a thechnegol yn eu gorfodi.

4.51 Mae dulliau cyfathrebu modern yn bwysig i hyrwyddo'r economi. Yn sgil y galw cynyddol am well cyfathrebu mewn busnes, yn y gwasanaethau cyhoeddus ac yn y cartref mae'n rhaid darparu cyfleusterau megis mastiau radio, erials a phowlenni lloeren. Mewn ambell i le gall cyfleusterau o'r fath gael effaith andwyol. Gyda hyn mewn golwg bydd y Cyngor yn ceisio rhwystro datblygiadau annerbyniol trwy reoli, pan fo raid, y lleoliad, y raddfa, y dyluniad a lliwiau cyfleusterau o'r fath. Pan fo'n asesu cynigion bydd hi'n berthnasol ystyried a fydd modd rhannu'r cyfleusterau presennol neu ystyried a oes trefniadau neu safleoedd eraill a gwell ar gael. Hefyd bydd raid ystyried effaith strwythurau uchel ar feysydd awyr yr ardal.

4.52 Mae rhai datblygiadau telathrebiaeth bychan wedi eu gosod dan y categori "datblygiad a ganiateir" ond gyda rhai amodau (oni fydd cyfarwyddyd wedi ei wneud yn tynnu'r hawliau hyn yn ôl). Gall yr amodau gynnwys gosod yr offer mewn lle priodol ar ddrychiadau amlwg neu bwysig adeilad a hefyd bydd raid, o bosib, cael caniatâd ymlaen llaw i weld yr offer a'i leoliad mewn rhai achosion.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 36 5 TAI PENNOD 5 TAI

5.1 Rhoddir sylw i bolisïau tai yn y Cynllun dan 3 pennawd:-

TAI CYFFREDINOL.

TAI FFORDDIADWY I BOBL LEOL.

POLISÏAU TAI YCHWANEGOL.

TAI CYFFREDINOL

Anghenion Tai.

47. Sicrheir fod digon o dir ar gael (yn cynnwys tir gyda chaniatâd cynllunio) i ddarparu 2150 o anheddau newydd yn ystod y cyfnod 1991 - 2001. 47. Anghenion Tai. Y nifer y mae ei angen dros 10 mlynedd.

5.2 Dywed y Cynllun Fframwaith y bydd digon o dir ar gael yn Ynys Môn am y 15 mlynedd o 1991 i 2006. Clandrwyd y nifer o dai i adlewyrchu'r nifer o dai a adeiladwyd yn y gorffennol ac i gymryd i ystyriaeth y dosbarthiad tebygol o weithgaredd economaidd.

5.3 Golyga hyn y bydd raid trefnu bod digon o dir ar gael, dros y cyfnod o ddeng mlynedd, ar gyfer 2150 o anheddau (oddeutu 215 y flwyddyn). Mae'r ffigwr hwn yn cynnwys anheddau a grëir wrth addasu adeiladu i fod yn fflatiau neu yn dai.

5.4 Adeiladwyd y nifer isod o anheddau yn ystod y pum mlynedd diwethaf:-

1991/92 - 210 1992/93 - 156 1993/94 - 198 1994/95 - 129 1995/96 - 201

Sut y cyflawnir hyn?

5.5 Datblygwyd 636 o anheddau newydd rhwng dyddiad cychwynnol y cynllun a dyddiad yr arolwg o dir ar gyfer codi tai arno a gynhelir bob dwy flynedd ac a gafwyd cyn yr Ymchwiliad i'r Cynllun Lleol. (Hydref 1994). O'r herwydd 'roedd raid i'r Cynllun ddarparu tir ar gyfer 1541 o anheddau eraill erbyn Ebrill 2001 i gwrdd ag anghenion y Cynllun Fframwaith. Mae'r tabl nesaf yn diweddaru fersiynau blaenorol y Cynllun trwy roddi crynodeb o gasgliadau'r Cynllun Lleol mewn perthynas â datblygiadau tai. Dywed fod digon o dir ar gael i gwrdd ag anghenion y Cynllun Fframwaith hyd at Ebrill 2001. Ymhellach, pan ystyrir y ffigyrau wrth ochr newidiadau eraill, dywed fod cyflenwad ychwanegol, oddeutu 14% yn rhagor na gofynion y Cynllun, ar gael i wneud darpariaeth ar gyfer hyblygrwydd a dewis.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 37 TAI PENNOD 5

Anheddau y mae gwaith adeiladu yn cael ei wneud arnynt a thir gyda chaniatâd cynllunio a hwnnw'n debygol o gael ei 1120 ddatblygu. Caniatâd y mae'r Cyngor wedi ei roddi yn amodol ar 215 gwblhau cytundebau o dan Adran 106. Troi adeiladau allanol yn anheddau. 136 Rhyddhau tir sy'n weddill ac a neilltuwyd yn y Cynllun Lleol yn Amlwch, a . 33 Datblygiadau ar safleoedd heb eu henwi (mewn 90 o drefi/.pentrefi yr Ynys) ac yn cydymffurfio gyda Pholisïau 215 42 a 43. CYFANSWM 1719

5.6 Yn unol â gofynion Canllaw Polisi Cynllunio'r Swyddfa'r Gymreig mae tir ar gyfer tai fforddiadwy sy'n cwrdd ag anghenion lleol, sef tir y mae modd ei ddarparu ar dir heb ei neilltuo a hwnnw un ai yn y pentrefi/trefi neu union gerllaw (Polisi 52) ac yn ychwanegol at y ffigwr hwn.

Sut y bydd y Tai Newydd yn cael eu dosbarthu ?

5.7 Yn unol â strategaeth y Cyngor ar gyfer datblygiadau cynaladwy bydd y tai newydd y tu mewn i ffiniau'r trefi a'r pentrefi.

5.8 Mae'r Cynllun yn nodi canolfannau penodol (trefi, pentrefi a threflannau), yn amrywio o ran maint o Gaergybi sydd gyda thua 5,000 o dai i Capel Mawr gyda 10. Mae'r canolfannau yn ymrannu'n ddwy ran :-

(i) Trefi/Pentrefi Diffiniedig - (Polisi 49) - y trefi a'r pentrefi mwyaf lle bydd datblygiadau tai mawr yn dderbyniol ar safleoedd priodol.

(ii) Trefi/Pentrefi Rhestredig - (Polisi 50) - lle bydd nifer cyfyngedig o dai yn cael eu caniatáu os byddant yn cydymffurfio gyda meini prawf manwl.

5.9 Bydd nifer y tai a ganiateir ym mhob pentref yn dibynnu ar :-

1. Maint y pentref.

2. Hwylustod teithio at waith.

3. Cymeriad ffisegol y pentref a gosodiad tirweddol.

4. A oes cyfleusterau cymdeithasol a chymunedol yno ai peidio.

5. A oes ynddo gyfyngiadau o safbwynt gwasanaethau sylfaenol.

6. Anghenion a buddiannau'r Iaith Gymraeg .

Mae'r wybodaeth am rai o'r ffactorau uchod i bob pentref yn Atodiad 9 .

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 38 TAI PENNOD 5

Yn gryno dyma sut y bydd y tai newydd yn cael eu dosbarthu :-

* Cyfanswm y Tai Newydd Tai newydd fydd yn cael caniatâd yn unol â'r Cynllun hwn.

Trefi/Pentrefi Diffiniedig 1500 250 Pentrefi Rhestredig 650 200 2150 450

* Yn cynnwys caniatâd cynllunio sydd eisoes wedi ei roi, ac yn cynnwys addasu hen adeiladau a chaniatâd newydd.

Meini Prawf Codi Tai.

48. Rhoddir caniatâd Cynllunio i godi tai newydd pan fo'r cynigion yn gwneud lwfans 48. Meini priodol ar gyfer :- Prawf Codi Tai. i. Anghenion a budd yr iaith Gymraeg. ii. Maint, cymeriad ffisegol a gosodiad tirweddol y pentref/tref. iii. Safon ei ddyluniad a'i osodiad a pha mor dda y bydd yn gweddu gyda'r datblygiad sydd yno eisoes. iv. Ystyriaethau mynedfa, parcio a thrafnidiaeth. v. Yr angen i ddiogelu safleoedd o bwysigrwydd naturiol, tirweddol , archeolegol, gwyddonol neu bensaernïol. vi. Bod gwasanaethau megis carthffosiaeth ddigonol ac addas ar gael, neu bod modd darparu'r rhain am gost sy'n dderbyniol. vii. Bod cyfleusterau cymdeithasol a chymunedol ar gael. viii. Yr angen i ddiogelu'r tir amaethyddol gorau a'r math o dir y gellir gwneud sawl defnydd ohono. ix. Yr angen i ddiogelu adnoddau megis mwynau.

5.10 Bydd y meini prawf uchod yn berthnasol i bob cais datblygu tai. Rhoddir arweiniad manwl ar safon y gwaith dylunio yn "Canllawiau Dylunio'r Cyngor".

5.11 Pan fo'r iaith Gymraeg yn rhan bwysig o fywyd y gymuned ni chaniateir i ddatblygiad beri newid sy'n gwneud drwg i'r iaith Gymraeg.

5.12 Bydd y Cyngor, wrth ddefnyddio maen prawf rhif 2, yn medru ystyried, o safbwynt ffisegol, faint o ddatblygu i'w ganiatáu mewn pentrefi ac mewn treflannau unigol. Hefyd rhaid cysylltu unrhyw ddatblygiad gyda'r gwasanaethau a'r fframweithiau sydd yn y lle hwnnw'n barod (Meini Prawf 6 a 7).

5.13 Yn achos y meini prawf eraill maent hwy yn ymwneud ag ystyriaethau rheoli datblygu cyffredin. Un o'r pethau y bydd y Cyngor yn rhoddi sylw arbennig iddo yw sut y bydd y cais yn gweddu i'r datblygiadau sydd o'i gwmpas. Mae nifer fawr o'n pentrefi yn agored eu natur a rhaid peidio â'u difethau gan ragor o adeiladau.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 39 TAI PENNOD 5

Trefi/Pentrefi Diffiniedig. 49. 49. Rhoddir caniatâd cynllunio i dai newydd ar safleoedd sydd wedi eu neilltuo ar gyfer tai a Trefi/Pentref hefyd ar safleoedd eraill y tu mewn i'r Ffiniau Datblygu a ddangosir ar y Map Cynigion ac y manylir arnynt yng Nghynigion T1 i T52 cyhyd â bod y cynigion yn cydymffurfio gyda i pholisïau eraill y cynllun hwn. Mae'r trefi a'r pentrefi isod wedi eu hamgylchynu gyda Diffiniedig. therfynau datblygu :-

Aberffraw Caergybi Llanfihangel-yn-Nhowyn Pentraeth Amlwch Cemaes Llangefni Porthaethwy Beaumaris Gaerwen Llangoed Porth Llechog Benllech Gwalchmai Llannerch-y-medd Rhosneigr Llandegfan Moelfre Brynsiencyn Llanfairpwll Niwbwrch Y Dyffryn Mae Cynigion T1 i T52 ar ddiwedd y bennod.

Pentrefi/Treflannau Rhestredig. 50. Caniatâd cynllunio i dai unigol yn unig, fel arfer, a roddir yn y pentrefi neu'r treflannau isod neu ar eu cyrion :- 50. Pentrefi/ Treflannau Bethel Glanyrafon Pen y Marian Rhestredig. Gorsaf Gaerwen Pen-sarn Hebron/Maenaddwyn Pont-Rhyd-Y-Bont Hermon Llansadwrn Rhoscefnhir Brynminceg Rhos-goch Llanddaniel Rhos-meirch Brynteg Llanddeusant Rhostrehwfa Marian-glas Rhos-y-bol Llanfachraeth Nebo Rhyd-wyn Capel Mawr Star Capel Parc Talwrn Carmel Pengraigwen Traeth Coch Llanfair yng Nghornwy Trefor Llanfechell Elim Llangadwaladr Ty'n Lôn Ffordd Ravenspoint Llangaffo Pen-y-groes Tyn y gongl

gyda'r amod na fyddai'r bwriad yn niweidiol i gymeriad ffisegol neu gymdeithasol yr ardal, a chan ystyried y meini prawf canlynol :-

1. Fod y bwriad yn amlwg o fewn, neu'n ffurfio estyniad bychan rhesymol i'r rhan honno o'r pentref neu'r dreflan sydd wedi ei datblygu eisoes, ac na fyddai'n golygu ymwthiad anaddas i'r tirlun neu'n achosi niwed i gymeriad a mwynderau y cyffiniau. 2. Na fyddai'r bwriad yn mynd dros ben anghenion y pentref neu'r dreflan am anheddau newydd, a fydd yn seiliedig ar :- * ffurfio aelwydydd newydd yn y cyffiniau ; * y cyflenwad presennol o safleoedd gyda chaniatâd cynllunio dilys i greu unedau preswyl newydd; * y nifer a'r math o dai ar werth; * y cyfleon i ddefnyddio adeiladau presennol ar gyfer defnydd preswyl ; * y nifer o unedau preswyl a adeiladwyd yn y cyffiniau yn ystod cyfnod y cynllun.

Rhaid i ddyluniad unrhyw annedd a ganiateir dan y polisi yma adlewyrchu neu gyd-fynd â

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 40 TAI PENNOD 5

5.14 Mae'r Polisi hwn wedi ei lunio fel bod modd i'r cymunedau ddatblygu'n raddol - y tu mewn iw gallu cymdeithasol a ffisegol i dderbyn newidiadau. Tra bo'n anodd asesu rhai o'r meini prawf uchod, defnyddir maint y dref neu'r pentref i ragweld faint o aelwydydd newydd y bydd eu hangen. Cedwir golwg cyson ar y caniatâd cynllunio sy'n bodoli'n barod a goruchwylir, yn flynyddol, nifer a math y tai sydd ar werth.

5.15 Mae'r treflannau hyn wedi eu rhestru am fod ynddynt o leiaf 10 o dai sydd yn agos iawn at ei gilydd ac yn y rhan fwyaf o'r pentrefi a'r treflannau ni roddir caniatâd i ragor nag un neu ddau o geisiadau dros gyfnod y cynllun. Petai gormod o geisiadau yn cael eu cyflwyno yna cyflwynir y ddadl, mewn apêl, fod rhagor o ddatblygu yn annerbyniol.

5.16 Wrth ddelio gyda cheisiadau bydd y Cyngor yn ystyried tystiolaeth i'r perwyl nad oes modd dod o hyd i dþ addas ymhlith y tai sydd yno neu o'r caniatâd cynllunio sydd eisoes wedi ei roddi.

5.17 Pan fo caniatâd cynllunio'n cael ei roddi dan y Polisi hwn disgwylir i'r adeiladau gael eu codi'n sydyn oherwydd eu bod yn ymwneud ag anghenion cyfoes y cymunedau, ac oherwydd y gallai peidio â gweithredu ar ganiatâd amharu ar geisiadau eraill.

TAI FFORDDIADWY I BOBL LEOL.

5.18 Mae'r Cyngor yn disgwyl y bydd y rhan helaethaf o'r tai fforddiadwy y bydd ar Ynys Môn eu hangen yn cael eu darparu trwy :-

* ddefnyddio tai yn perthyn i'r Cyngor neu Gymdeithas Tai; * ddefnyddio tir y Cyngor i ddatblygu tai i'w rhentu neu eu prynu (mae 450 o'r 1550 o hawliau cynllunio sydd wedi eu rhoi ar gyfer adeiladu dros gyfnod 10 mlynedd y cynllun ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor); * annog landlordiaid preifat i ddefnyddio'r tai presennol i'w rhentio i bobl leol.

5.19 Yn wir mae'r polisïau tai fforddiadwy sydd yn y Cynllun Lleol yn elfen bwysig yn Strategaeth Dai a Chynllun Gweithredol y Cyngor. Y man cychwyn i sicrhau llwyddiant y rhain yw sefydlu partneriaeth rhwng y datblygwyr, y cymdeithasau tai a'r Cyngor. Yn y cyswllt hwn bydd y cymunedau lleol yn chwarae rôl bwysig dan Bolisi 52, sef dod o hyd i safleoedd a chyflwyno'r dystiolaeth yng nghyswllt yr angen lleol.

Safleoedd Mawr. 51. Ar y safleoedd hynny sy'n ddigon mawr (gan ystyried cymeriad a dwysedd y tai o 51. gwmpas) i godi rhagor na deg o dai arnynt ac sydd y tu mewn i'r ffiniau datblygu a ddiffinnir Safleoedd yn y Cynllun Lleol bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau, trwy gynnal trafodaethau, y bydd cyfran Mawr. o'r tai ar gael fel 'tai fforddiadwy' (un ai trwy werthu neu trwy rentu) i 'bobl leol'.

Fesul achos ac yn ôl yr amgylchiadau y penderfynir ar union gyfran y tai newydd ond rhoddir sylw i anghenion pobl leol am dai y gallant eu fforddio pan fo'r rheini'n anghenion y mae tystiolaeth iddynt a ddim yn cael eu diwallu ar y pryd nac yn debygol o gael eu diwallu dros gyfnod y Cynllun.

Gwneir trefniadau pendant i sicrhau fod y tai hyn yn cael eu cadw, am byth, i'r bobl hynny sydd eu hangen.

Y diffiniad o BERSON LLEOL yw un sydd wedi bod â'i brif neu ei unig gartref yn Ynys Môn neu wedi bod yn gweithio ar yr ynys am o leiaf 5 mlynedd (Gall y cyfnod o 5 mlynedd gynnwys cyfnod byw a chyfnod gweithio ar yr ynys a'r ddau wedi eu hychwanegu at ei gilydd).

TAI FFORDDIADWY yn ôl diffiniad yw tai sy'n cwrdd ag anghenion y bobl hynny sydd ar gyflogau rhy isel i fedru prynu tai addas ar y farchnad agored.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 41 TAI PENNOD 5

5.20 Dangosodd arolwg sampl o brif gyflogwyr yr Ynys yn Ebrill 1992 fod 40% o'r gweithwyr yn ennill llai na £10,000 y flwyddyn. Yn fis Hydref 1996, roedd 3,115 o bobl yn ddi-waith ar Ynys Môn. Mae cyfradd diweithdra ardal teithio i'r gwaith Caergybi 'sail cul' yn awr yn 16.1%.

5.21 Yn ôl yr arolwg mwyaf diweddar o brisiau tai ar yr Ynys, un a gafwyd ym mis Mehefin 1995, y pris gofyn ar gyfartaledd am dþ oedd £70,315. Tra bo gwahaniaethau eang rhwng gwahanol ardaloedd a mathau o dai, mae'n amlwg fod cyfran uchel o'r boblogaeth yn methu fforddio prisiau tai marchnad agored.

5.22 Cred y Cyngor y buasai'n beth dymunol i unrhyw ddatblygiad tai newydd a sylweddol ar yr Ynys gynnwys, o fewn rheswm, fathau gwahanol o dai, o wahanol faint, gyda phrisiau gofyn gwahanol er mwyn cwrdd â'r amryw anghenion sydd yn codi am dai - gan gynnwys yr angen lleol am dai fforddiadwy.

5.23 Yn naturiol ychydig iawn o ddylanwad sydd gan y Cyngor dros y tiroedd hynny y mae caniatâd cynllunio arnynt yn barod - oni fydd perchenogion yn gorfod adnewyddu hen ganiatâd neu gyflwyno cais cynllunio newydd. Ond hyd yn oed yn achos y caniatâd cynllunio sydd eisoes wedi ei roddi bydd y Cyngor yn mynd ati i hybu'r arfer o godi tai fforddiadwy.

Diffiniadau

Mae "lleol" yn cael ei ddiffinio yn y Polisi.

"angen" - mae sawl rheswm yn peri fod angen lleol am dþ fforddiadwy a dibynna'r galw'n bennaf ar y farchnad leol ac ar y tai sydd ar werth ac ar gael. Fodd bynnag, y tu mewn i'r nod cyffredin o geisio sicrhau balans yn y gymuned, disgwylir y bydd y categorïau penodol isod ar eu hennill gyda'r polisi hwn :-

{ preswylwyr angen tþ ar wahân yn yr ardal (cyplau newydd briodi, pobl wrth ymddeol yn gadael tai sydd ynghlwm wrth swydd); { pobl sydd, trwy eu gwaith, yn darparu gwasanaethau pwysig ac yn gorfod byw yn agos i'r gymuned. { pobl nad ydynt, o angenrheidrwydd, yn byw yn lleol ond sydd gyda chyswllt dros flynyddoedd maith gyda'r gymuned leol (e.e. pobl mewn oed sy'n gorfod symud yn ôl i bentref i fyw ger perthnasau); { pobl sydd wedi cael cynnig swydd yn y fro ond sydd yn methu derbyn y swydd honno am nad oes tai fforddiadwy ar gael; { pobl sengl leol sydd angen lle ar wahân i fyw ynddo er mwyn cael annibyniaeth.

Mae modd cwrdd â'r anghenion hyn mewn sawl ffordd - trwy gymdeithasau tai ac wrth i awdurdodau lleol gyfrannu tuag at ddarparu cynlluniau addas. Y rhain yw'r posibiliadau lleol sy'n gwneud lwfans am anghenion lleol ac am amgylchiadau'r farchnad :-

- tai fforddiadwy ar werth; - tai ar rent; - cynlluniau perchenogaeth trwy gymorth neu ar y cyd; - darpariaeth ar gyfer anghenion arbennig.

Wrth ystyried lefelau'r cyflogau'n lleol ar hyn o bryd bydd tai fforddiadwy, i'w prynu, yn costio rhwng £30,000 a £45,000. Yn naturiol bydd raid addasu'r ffigyrau hyn i wneud lwfans am chwyddiant. Yn y sector tai rhent bydd y rhenti, yn fras, yn cydymffurfio gyda'r rhenti y mae awdurdodau lleol yn eu codi a'r rhenti y mae'r cymdeithasau tai a ymsefydlodd yn y Sir yn eu codi.

Fel arfer bydd raid wrth ryw fath o gymhorthdal :-

- Corff cymdeithasol fydd yn rhoddi cymhorthdal cyhoeddus (e.e. Cyngor neu Gymdeithas Tai)

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 42 TAI PENNOD 5

- Rhoddir cymhorthdal ar draws pan fo datblygwr preifat yn gostwng pris fel bod hwnnw'n fforddiadwy ac yn ei ostwng trwy ddefnyddio'r elw a geir o werthu tai gweddill y safle ar y farchnad agored.

5.24 Y Cyngor fydd yn darparu tystiolaeth i'r angen lleol.

5.25 Cyn rhoddi caniatâd bydd y Cyngor yn sicrhau bod trefniadau digonol i ddarparu tai fforddiadwy a sicrhau bod y rheini yn parhau i fod yn rhad wrth newid deiliaid yn y dyfodol. Fel rhan o'r trefniadau hyn gwneir cytundeb gydag Chymdeithas Tai, Ymddiriedolaeth neu gorff addas arall a defnyddio cyfamodau i gyfyngu a/neu gytundeb Adran 106.

Safleoedd Eithriad.

52. 52. Yn ychwanegol at y tir hwnnw sydd ar gael i gwrdd â'r galw cyffredinol am dai bydd Safleoedd y Cyngor yn ystyried rhoddi caniatâd cynllunio i dai fforddiadwy ar gyfer pobl leol sy'n Eithriad. methu cystadlu ar y farchnad agored a rhoddir y caniatâd hwn ar safleoedd priodol un ai yn y pentrefi neu'n union ar eu cyrion.

Cyn rhyddhau tir ychwanegol bydd raid bodloni'r Cyngor :-

i. bod angen lleol am dai fforddiadwy nad oes modd ei fodloni trwy :- * dai ar werth neu rent * addasu neu wella adeiladau presennol * ganiatadau cynllunio presennol * cynigion y cynllun hwn ii. bod trefniadau digonol wedi eu gwneud i neilltuo'r tai fel rhai fforddiadwy i gwrdd â'r angen lleol ar y cychwyn a hefyd pan fo deiliaid newydd yn symud i mewn; iii. bod y datblygiad o'r maint, o'r math ac o'r dyluniad sy'n addas i gwrdd â'r angen lleol am dai fforddiadwy.

Diffinnir 'PERSON LLEOL' fel rhywun sydd wedi bod â'i brif gartref neu ei le gweithio yn ardal y Cyngor Cymuned neu'r Cyngor Cymuned cyffiniol dros gyfnod o 5 mlynedd neu ragor. (Gellir gwneud y cyfnod 5 mlynedd yn rhannol trwy breswylio ac yn rhannol trwy weithio yn yr ardal ddiffiniedig). Er mwyn osgoi gadael tai yn weigion bydd y Cyngor yn ystyried caniatáu i bobl leol sydd angen tþ fforddiadwy, rhai o'r Ynys yn gyffredinol, symud i'r tai wedyn. Bydd hyn gyda'r amod y bydd raid dangos nad oes galw yn ardal y Cyngor Cymuned y mae'r tþ ynddi nac yn yr ardal gyffiniol pan aeth y tþ yn wag.

'TAI FFORDDIADWY' yn ôl y diffiniad yw tai sy'n cwrdd ag anghenion y bobl hynny sydd ar gyflogau rhy isel i fedru prynu tai addas ar y farchnad agored.

5.26 Diffinnir "Angen" a "Tai Fforddiadwy" yn y cyfiawnhad i Bolisi 51.

5.27 Mae'r math hwn o bolisi yn cael ei gefnogi gan y Llywodraeth fel ffordd o gwrdd â rhywfaint o'r anghenion lleol am dai fforddiadwy. Yn aml cyfeirir ato fel y polisi "eithriadau gwledig". Trwyddo gall y Cyngor roddi caniatâd cynllunio dan amgylchiadau arbennig a gwneud hynny fel eithriad i'r polisi cynllunio yn y Cynllun hwn.

5.28 Yn y ceisiadau rhaid cynnwys tystiolaeth fod y tai yn cwrdd ag angen tymor hir am dai fforddiadwy i bobl leol. Rhaid i ddyluniad y tai adlewyrchu mai tai fforddiadwy ydynt i gwrdd ag anghenion y teip a ddisgrifir ym mharagraff 5.23 uchod, sef anghenion nad oes modd eu diwallu trwy ganiatadau cynllunio sydd eisoes wedi eu rhoddi nac ar y tiroedd sydd wedi eu clustnodi yn y cynllun (yn arbennig y rheini sy'n darparu cynlluniau tai fforddiadwy), trwy dai ar werth neu ar rent, na thrwy addasu adeiladau neu dai sydd eisoes yma.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 43 TAI PENNOD 5

5.29 Gyda'r ceisiadau cynllunio bydd raid cyflwyno manylion a thystiolaeth ynghylch :-

* Yr angen mewn treflan neu gymuned benodol am y math o dþ a ddisgrifir ym mharagraff 5.23 uchod.

* Cost darparu tþ i ddiwallu'r angen hwn a'r pris gwerthu a ddisgwylir neu'r rhent a ddisgwylir.

5.30 Cyn rhoddi caniatâd bydd y Cyngor yn sicrhau bod trefniadau digonol i ddarparu tai rhad a sicrhau fod y rheini yn parhau i fod yn rhad wrth newid deiliaid yn y dyfodol. Fel rhan o'r trefniadau hyn gwneir cytundeb gyda Chymdeithas Tai, Ymddiriedolaeth neu gorff addas arall a defnyddio cyfamodau i gyfyngu a/neu gytundeb Adran 106.

5.31 Rhaid i ddyluniad y tai adlewyrchu'r ffaith mai tai ydynt a godir i ddarparu cartrefi rhad. Nid yw hyn yn golygu tai gwael na rhai annigonol. Yn y ceisiadau amlinellol rhaid nodi beth yw'r dyluniad arfaethedig fel bod modd i'r Cyngor asesu'r ystyriaeth hon.

5.32 Mae'r Polisïau hyn ar gyfer Safleoedd Eithriad a Safleoedd Mawr yn anelu at ddarparu tai rhad i gwrdd ag angen lleol. Fodd bynnag, bydd y polisïau a'r cynigion ar gyfer Tai Cyffredinol yn gwneud cyfraniad. Mae hyn yn cael ei ddangos yn y tabl isod. Dros y ddalen gwelir diagram yn crynhoi safiad y Cyngor ynghylch gofynion y cynllun hwn yng nghyswllt lleoliad tai newydd.

Cyfraniad tai cyffredinol o safbwynt darparu tai fforddiadwy i gwrdd ag angen lleol.

Tai Newydd Yn debygol o gyfrannu at dai fforddiadwy i bobl leol.

1550 o ganiatadau sy'n 450 o'r rhain ar dir y Cyngor bodoli'n barod

150 o addasiadau Cynlluniau grant i'r sawl a enwebir gan y Cyngor

450 caniatâd newydd Trafodaethau i gael cyfran ohonynt yn dai fforddiadwy.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 44 TAI PENNOD 5

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 45 TAI PENNOD 5

POLISÏAU TAI YCHWANEGOL

Tai yn y Cefn Gwlad.

53. Ar dir yn y cefn gwlad bydd y Cyngor yn gwrthod caniatâd am dai newydd oni bai :- 53. Tai yn y Cefn Gwlad. i. Fod prawf wedi ei gyflwyno a'i dderbyn gan yr awdurdod cynllunio lleol fod angen tymor hir ac angenrheidiol yn bodoli ar gyfer tþ i gartrefu gweithiwr llawn-amser, fel gweithiwr fferm neu goedwigaeth, sy'n gorfod byw yn y fan honno yn hytrach na mewn treflan gerllaw. ii. Nad oes adeilad presennol di-ddefnydd addas ar gael ar y safle i'w addasu ar gyfer defnydd preswyl. iii. Nad oes safle arall neu lety addas ar gael mewn lle addas, fel tai ar werth neu blotiau gyda chaniatâd cynllunio. iv. Fod y bwriad wedi ei leoli mor agos â phosib i grðp o adeiladau, ac na fyddai'n golygu creu nodwedd amlwg ac unig yn y tirlun. v. Fod dyluniad y tþ yn cyd-fynd gyda chymeriad gwledig y cyffiniau o safbwynt maint, graddfa, cynllun, defnyddiau a lliw, gan gynnwys tirlunio a thrin y ffiniau'n ofalus.

5.33 Cyfyngir yn llym ar bob bwriad i godi tai newydd y tu allan i ffiniau rhesymol y trefi/pentrefi presennol. Mae hyn yn unol â pholisïau cenedlaethol i warchod edrychiad cefn gwlad a chyflenwadau ynni (mae datblygiad gwasgaredig yn cynyddu teithio gyda char). Wrth ystyried ceisiadau cynllunio mae'n rhaid i'r Cyngor benderfynu a ydyw'r busnes angen rhywun i fyw ar y safle. Fel arfer gweithwyr ar fferm yn unig, rhai'n rhedeg daliadau amaethyddol ymarferol, sy'n gorfod byw ar y tir. Eithriadau prin fydd yr achosion eraill.

5.34 Os rhoddir caniatâd dan y polisi hwn yna mynnir ar amod cynllunio yn cyfyngu'r sawl a gaiff fyw yn y tþ i weithwyr o'r fath.

5.35 Dan amgylchiadau priodol, bydd y Cyngor yn mynnu fod amodau addas yn cael eu rhoddi ar dai presennol/adeiladau/tir perthnasol cyn rhoi caniatâd cynllunio i dþ newydd, ble gellir cyfiawnhau hynny o safbwynt gwarchod y tirlun rhag ychwaneg o ddatblygiad.

5.36 SYLWER - bydd cynnig i godi tþ newydd ar safle hen dþ, ar safle adfail neu gynnig i ail-fyw mewn eiddo nad oes modd byw ynddo bellach a hwnnw wedi colli hawliau defnyddiau preswyl yn cael ei drin fel cynnig i godi annedd newydd.

Codi Tai Newydd yn Lle Hen Rai.

54. Codi Tai 54. Bydd y Cyngor yn rhoddi sylw ffafriol i godi tþ newydd yn lle hen un os dangosir fod y tþ Newydd yn newydd yn gwella gwedd yr ardal. Lle Hen Rai.

5.37 Dan amgylchiadau penodol efallai y bydd hi'n rhesymol caniatáu codi tai newydd yn lle hen dai parhaol ond gyda'r amod fod yr effaith a gaiff y bwriad ar y cyffiniau yn dderbyniol. Gwneid hyn dan amgylchiadau pan fo'r hen dþ mewn cyflwr rhy ddrwg i'w adnewyddu heb wneud gwaith adeiladu newydd a mawr, sef gwaith yn cyfateb i godi tþ newydd. Rhaid i'r hen dþ fod â hawl defnydd wedi ei sefydlu fel tþ parhaol ac nid yw hyn yn cynnwys adeiladau na fwriadwyd iddynt fod yn gartrefi parhaol. Yn aml mae hen dai yn cyfrannu'n sylweddol i'r tirlun neu i wedd y dref a dylid diogelu tai sydd o werth hanesyddol, pensaernïol neu esthetig. Rhaid dylunio'r tai newydd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda nodweddion y cyffiniau ac fel arfer mae hyn yn golygu y bydd y tþ newydd yn cael ei godi ar safle'r hen dþ ac yn adlewyrchu maint, graddfa ac argraff yr hen dþ hwnnw.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 46 TAI PENNOD 5

Addasu.

55. Addasu. 55. Bydd caniatâd yn cael ei roddi i droi adeilad sydd eisoes yn bod, a hwnnw heb fod mewn pentref nac ar gyrion pentref, yn dþ annedd neu lety gwyliau, os yw'r :-

i. Adeilad yn ddigon sad a chadarn ac yn un y mae modd ei addasu heb wneud gwaith adeiladu newydd a sylweddol neu heb godi estyniad sy'n cyfateb i godi tþ newydd. ii. Nodweddion dymunol yr adeilad yn cael eu diogelu ac lle mae'r nodweddion o bwysigrwydd hanesyddol neu bensaernïol yn cael eu cadw. iii. Gwaith addasu yn adlewyrchu cymeriad, graddfa a gosodiad yr hen adeilad ac yn golygu gwaith altro bychan yn unig yn allanol, onid oes modd dangos y bydd gwedd yr adeilad yn cael ei wella'n sylweddol. iv. Cynnig, gan gynnwys y libart ynghlwm wrtho a'r gwasanaethau, ddim yn ymwthio'n annymunol i'r tirlun nac yn amharu ar brydferthwch y cyffiniau. v. Darpariaeth ar gyfer mynedfa, cyfleusterau parcio, llecyn agored a threfniadau carthffosiaeth i gyd yn foddhaol.

5.38 Rhoddir sylw, gyda chydymdeimlad, i gynigion i addasu adeiladau y cefn gwlad yn dai neu'n lletyau gwyliau yn hytrach na'u gadael i fynd yn adfeilion a datblygu'n ddolur llygad yn y tirwedd. Pan fo defnydd yn cael ei wneud o adeilad o'r fath efallai y bydd raid ystyried a fuasai ei addasu yn peri pwysau o blaid codi adeilad arall ac annerbyniol yn ei le.

5.39 Trwy droi adeilad yn llety gwyliau mae'n bosib y daw cyfraniad wedyn i'r economi wledig ac efallai y bydd hyn yn dderbyniol er na fuasai troi'r adeilad i bobl fyw ynddo'n barhaol yn dderbyniol.

5.40 Eisoes mae gan y Cyngor Sir Ganllaw Cynllunio Atodol ar Rannu Adeiladau i Bwrpas Preswyl. Bydd hyn yn ystyriaeth o bwys wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio sy'n ymwneud ag addasu adeiladau a'u troi yn rhagor nag un uned breswylio.

Fflatiau.

56. Fflatiau. 56. Bydd y Cyngor yn caniatáu troi lleoedd uwchben siopau a swyddfeydd yn fflatiau ac yn cefnogi troi tai mawr yn fflatiau gyda'r amod:-

i. Bod y cynllun addasu yn cadw ac yn diogelu nodweddion da yr adeilad gwreiddiol; ii. Nad yw'r cynnig yn creu problemau mynedfa a phroblemau parcio; iii. Nad yw'r datblygiad yn andwyo, mewn modd sylweddol, bleserau eiddo gerllaw; iv. Bod modd darparu digon o dir agored.

Bydd y Cyngor, fel arfer, yn gwrthod ceisiadau i droi tai bychan annibynnol, neu dai pâr neu dai teras bychan yn fflatiau.

5.41 Mae hon yn ffordd dda o ddarparu tai i deuluoedd bychan onid oes gwrthwynebiadau cynllunio eraill. Carafanau Preswyl.

57. 57. Fel arfer bydd y Cyngor yn gwrthod ceisiadau am gartrefi symudol a phreswyl. Carafanau Preswyl.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 47 TAI PENNOD 5

5.42 'Dyw defnyddio carafanau i fyw ynddynt yn barhaol ddim yn dderbyniol oherwydd eu bod yn nodweddion ymwthiol yn y tirlun a chânt effaith andwyol ar bleserau ac ar brydferthwch eiddo preswyl cyfagos. Nid yw carafanau yn medru darparu lle parhaol i fyw ynddynt ac ni chyrhaeddant y safon ofynnol. Bydd ceisiadau i fyw mewn carafanau dros dro yn cael eu hystyried fesul un.

Safleoedd i Garafanau Sipsiwn.

5.43 Cyngor Gwynedd sy'n gyfrifol am y safle sipsiwn yn Llandegái. Nid oes yr un safle wedi ei fwriadu yn y Cynllun Fframwaith ar gyfer Ynys Môn. Mae'r ddarpariaeth sydd eisoes yma yn ddigonol i gwrdd ag anghenion dros gyfnod y Cynllun lleol. Pryd bynnag y daw cynnig i law yna bydd hwnnw'n cael ei ystyried yng nghyd-destun Polisi 1 y Cyngor a'r wybodaeth sydd yng nghylchlythyr y Swyddfa Gymreig 2/94, Safleoedd i Sipsiwn a Chynllunio.

Ehangu.

58. Ehangu. 58. Fel arfer bydd gwaith altro ac ehangu tai yn cael ei gymeradwyo gyda'r amod na fydd y gwaith yn cael effaith andwyol ar wedd tai cyfagos nac ar yr ardal gyfagos. Bydd toeau crib yn fwy derbyniol na thoeau fflat.

Cartrefi Preswyl.

5.44 Gwneir penderfyniadau mewn perthynas â chynigion ar gyfer cartrefi preswyl i'r henoed, cartrefi nyrsio a thai gwarchod yn unol â Chynllun Fframwaith y Sir.

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 48 TAI PENNOD 5

Rhagfyr 1996 CYNLLUN LLEOL YNYS MÔN 49