3 Radio a chynnwys sain 3 3.1 Argaeledd gwasanaeth radio

Mae gwrandawyr radio digidol sy’n byw yng nghytrefi mawr Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd yn derbyn hyd at 32 o orsafoedd DAB. Mae’r rhain yn cynnwys y 23 o orsafoedd BBC a masnachol i’r DU gyfan, ynghyd â BBC Radio Wales / BBC Radio Cymru a gwasanaethau lleol ychwanegol sy’n gwasanaethu De Cymru ar ddau amlblecs masnachol lleol. Ar hyn o bryd nid oes dim gwasanaethau DAB lleol ar yr awyr yng Ngogledd na Chanolbarth Cymru, ond mae trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda gweithredwyr amlblecsau trwyddedig, ond sydd heb eu lansio, ynghylch dyddiadau lansio. I gael rhagor o wybodaeth am sut gall darpariaeth DAB wella yn y dyfodol, edrychwch ar ymgynghoriad cynllunio DAB Ofcom, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 20111.

Mae amlblecs Caerdydd/Casnewydd, a weithredir gan Now Digital, yn darparu gwasanaethau i oddeutu 49.39% o gartrefi yn ei ardal olygyddol2 (Ffigur 3.1). Mae hyn yn darlledu ystod o orsafoedd gan gynnwys saith gwasanaeth DAB masnachol, megis Capital FM a .

1http://stakeholders.ofcom.org.uk/consultations/dab-coverage-planning/ 2http://stakeholders.ofcom.org.uk/binaries/consultations/dab-coverage- planning/858230/DSO_11C_Cardiff_The_Valleys1.pdf

23 Ffigur 3.1 Map darpariaeth amlblecs DAB masnachol ar gyfer Caerdydd a Chasnewydd

Caiff amlblecs Abertawe ei weithredu gan UTV-Bauer Digital ac mae’n cludo gorsafoedd lleol gan gynnwys The Wave a Swansea Sound. Mae’n darparu gwasanaethau i oddeutu 73.79% o gartrefi yn yr ardal olygyddol.

24 Ffigur 3.2 Map darpariaeth amlblecs DAB masnachol ar gyfer Abertawe

3.2 Perchnogaeth set radio digidol

Dywed ychydig dros chwarter (27%) yr oedolion yng Nghymru sy’n gwrando ar y radio fod ganddynt set radio DAB gartref. Mae cyfran y perchnogion setiau DAB yng Nghymru yn ddeg pwynt canran yn is na chyfartaledd y DU, sydd efallai’n gysylltiedig ag argaeledd DAB yng Nghymru wrth gymharu â gweddill y DU3.

Ymysg y rheini sy’n gwrando ar y radio yng Nghymru ac nad oes ganddynt set radio DAB, dywed un o bob pump (22%) eu bod yn debygol o brynu set DAB yn ystod y flwyddyn nesaf, sy’n debyg i gyfartaledd y DU (21%)4.

3Dylid trin y data hyn yn ofalus gan fod rhai ymatebwyr i’n harolwg efallai wedi drysu’r disgrifiad o set radio DAB â set analog sy’n dangos gwybodaeth yn ddigidol. 4Dylid trin y canfyddiad hwn yn ofalus, gan fod ymatebwyr yn aml yn gor-ddweud eu bwriad i brynu mewn ymchwil arolygon.

25 Ffigur 3.3 Perchnogaeth setiau radio DAB

Ffynhonnell: Ymchwil Ofcom, Chwarter 1 2011 Sail: Oedolion dros 16 oed sy’n gwrando ar y radio ac sydd ag unrhyw setiau radio gweithredol yn y cartref y mae rhywun yn gwrando arnynt y rhan fwyaf o wythnosau (n = 2811 y DU, 397 Cymru, 1629 Lloegr, 357 yr Alban, 428 Gogledd Iwerddon, 191 Cymru drefol, 206 Cymru wledig, 638 Cymru 2008, 848 Cymru 2009, 854 Cymru 2010, 397 Cymru 2011). C4. Rydych newydd ddweud bod gennych chi (NIFER) set radio yn eich cartref y mae rhywun yn y cartref yn gwrando arni’r rhan fwyaf o wythnosau. Faint o’r setiau radio hyn sy’n setiau radio digidol?

3.3 Patrymau gwrando ar gynnwys sain a ddarlledir

Ar gyfartaledd, oedolion yng Nghymru sy’n gwrando ar y fwyaf o radio fesul wythnos

Ymysg oedolion yng Nghymru, roedd cyfartaledd wythnosol gwrando ar y radio yn y flwyddyn a ddaeth i ben yn ystod Chwarter cyntaf 2011 yn 23.3 awr ac roedd y cyrhaeddiad wythnosol cyfartalog yn 92.9% - roedd y naill ffigur a’r llall yn uwch na gwledydd eraill y DU. Ffigur 3.4 Cyfartaledd oriau gwrando a chyrhaeddiad wythnosol – y flwyddyn hyd at Ch1 2011

Ffynhonnell: RAJAR, Pob oedolyn (dros 15 oed), y flwyddyn a ddaeth i ben yn Chwarter cyntaf 2011. Caiff cyrhaeddiad ei ddiffinio fel cyfanswm cyfran y boblogaeth oedolion berthnasol sy’n gwrando am o leiaf bum munud yn olynol mewn wythnos arferol.

26

Mae gorsafoedd rhwydwaith y BBC yn gymharol boblogaidd ymysg pobl Cymru

Yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben yn Chwarter cyntaf 2011, roedd gorsafoedd rhwydwaith y BBC yn cyfrif am 50% o oriau gwrando ar y radio yng Nghymru, yr uchaf o blith unrhyw un o wledydd y DU (roedd cyfartaledd y DU yn 46%). Yn groes i hynny, roedd gorsafoedd masnachol lleol wedi denu 26% o’r farchnad, sef yr isaf o’r pedair gwlad (roedd cyfartaledd y DU yn 32%).

Ffigur 3.5 Cyfran o’r oriau gwrando, yn ôl gwlad: y flwyddyn hyd at Ch1 2011

Ffynhonnell: RAJAR, Pob oedolyn (dros 15 oed), y flwyddyn a ddaeth i ben yn Ch1 2011

Gwrandawai ychydig dros un rhan o bump o oedolion (21%) ar BBC Radio Wales/Radio Cymru mewn wythnos arferol yn Chwarter cyntaf 2011 (Ffigur 3.6). Cododd y ffigur 1.9 pwynt canran o un flwyddyn i’r llall. Cyrhaeddodd BBC Radio Cymru 6% o oedolion yn wythnosol (yr un lefel â 2009) tra cyrhaeddodd BBC Radio Wales 17% (a oedd 1.9 pwynt canran yn uwch). Roedd gwrando ar wasanaethau’r gwledydd yng Nghymru yn debyg i’r hyn a gafwyd yn yr Alban gyda BBC Radio Scotland yn cyrraedd 22% o oedolion yr wythnos.

27 Ffigur 3.6 Cyrhaeddiad wythnosol gwasanaethau cenedlaethol / lleol y BBC

Ffynhonnell: RAJAR, Pob oedolyn (dros 15 oed), y flwyddyn a ddaeth i ben yn Chwarter cyntaf 2011. Caiff cyrhaeddiad ei ddiffinio fel cyfanswm cyfran y boblogaeth oedolion ym mhob Cyfanswm Ardal Arolwg perthnasol a oedd wedi gwrando am o leiaf bum munud yn olynol mewn wythnos arferol. 3.4 Y diwydiant radio

Refeniw radio masnachol a chyllid BBC Radio yng Nghymru

Roedd y refeniw masnachol a gynhyrchwyd gan orsafoedd radio lleol yng Nghymru wedi cyrraedd £16.3m yn 2010. Gan addasu i ystyried maint poblogaeth, roedd gan Gymru’r refeniw y pen isaf o holl wledydd y DU, sef £5.41, er gwaethaf cynnydd o £0.20 (4%) er 2009.

Roedd gwariant radio BBC ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru yn £33.1m gyda’i gilydd yn 2010/11. Roedd gwariant y pen yr ail uchaf o blith gwledydd y DU sef £10.95, cynnydd o 2% ar y flwyddyn flaenorol. Mae hyn o ganlyniad i boblogaeth lai Cymru a gwariant ychwanegol rhedeg dau wasanaeth. Mae’n cymharu â gwariant cyfartalog y DU y pen sef £3.87.

Ffigur 3.7 Gwariant a refeniw radio lleol/y gwledydd y pen o’r boblogaeth 2010/11

Ffynhonnell: Darlledwyr

28 Nodyn: Mae cyfanswm y DU yn dangos y cyfartaledd ar gyfer radio masnachol lleol ar draws y pedair gwlad ac felly nid yw’n cynnwys refeniw ar gyfer y gorsafoedd masnachol sy’n darlledu ar draws y DU: Classic FM, , ac Absolute. Mae’r ffigurau hyn yn disodli’r gweddill i gyd ac nid oes modd eu cymharu’n uniongyrchol â data hanesyddol.

3.5 Datblygiadau diweddar

Real Radio yn orsaf fasnachol gyntaf Cymru gyfan

Roedd Real Radio wedi ymestyn ei wasanaeth i Ogledd a Chanolbarth Cymru ym mis Ionawr 2011, a thrwy hynny roedd yn darparu gwasanaeth radio masnachol ar gyfer Cymru gyfan am y tro cyntaf erioed. Datblygiad arall ym maes radio masnachol yn ystod y flwyddyn oedd bod Radio Maldwyn wedi cael ei werthu i grŵp newydd a’i ail-enwi yn Radio Hafren.

Radio cymunedol

Ym mis Ebrill, roedd Ofcom wedi cyhoeddi trydedd rownd o drwyddedu radio cymunedol. Fodd bynnag, ni fydd yn bosibl lansio gwasanaethau newydd mewn sawl ardal yng Nghymru, gan gynnwys Casnewydd ac Abertawe, oherwydd prinder amleddau sydd ar gael.

Roedd cronfa Radio Cymunedol Llywodraeth Cymru wedi cytuno y dylai’r saith ymgeisydd i gyd: BRFM, Tudno FM, Point FM, XS (Afan FM gynt), , GTFM a Calon FM, gael rhywfaint o gyllid (ni chafwyd ceisiadau gan na ).

Dyma oedd y grantiau a ddyfarnwyd:

• GTFM ym Mhontypridd, £15,899.

• BRFM ym Mlaenau Gwent, £16,500.

• XS yng Nghastell-nedd , £10,000.

• Tudno FM yn Llandudno, £15,222.

• Point FM yn y Rhyl, £10,000.

• Calon FM yn Wrecsam, £16,500.

• Bro Radio ym Mro Morgannwg, £15,899

29