30.04.2020

Cathryn Ings Cyswllt Contact Ffôn Phone 03305 880450

Erthygl i’r Wasg Press Release Adrian Chiles yn dawnsio, canu a dysgu’r iaith

Adrian Chiles yn diffodd cannwyll gyda’i draed tra’n dawnsio gwerin? Yn canu o flaen castell yn gwisgo het draddodiadol menyw Gymreig? Beth am y noson ‘na yn y soser hedfan? A beth ar y ddaear ddigwyddodd i’w bants?

Ie wir, gallwch weld y cwbl ar Iaith ar Daith ar ddydd Sul, 10 Mai wrth i’r cyflwynydd teledu a radio adnabyddus o fynd ati i ddysgu Cymraeg.

Adrian yw’r unig un o’r pump seleb yn y gyfres Iaith ar Daith - sef Carol Vorderman, Ruth Jones, Colin Jackson a Scott Quinnell - sydd ddim wedi cael ei eni yng Nghymru.

Felly aeth ei ffrind a mentor Steffan Powell, sy’n gweithio fel newyddiadurwr i BBC Radio One, ag Adrian ar daith nid unig i ddysgu’r iaith Gymraeg ond i ddarganfod mwy am ein hanes a thraddodiadau.

Dyw Cymru dim yn lle dieithr i Adrian - mae e’n treulio pob munud sbâr yn y Gŵyr - ardal mae e’n caru ar ôl treulio gwyliau haf yna yn ystod ei blentyndod.

“Galla i ddim gor-ddweud faint dw i’n hoffi bod yng Nghymru - y Gŵyr yn enwedig,” meddai Adrian. “Dw i eisiau gwasgaru fy llwch ar un o’r traethau yna!

“Mae’n teimlo’n hollol chwith i mi i dreulio cymaint o amser yng Nghymru a heb unrhyw ddealltwriaeth o’r iaith. Chi’n troi mewn i un o’r expats ‘na sy’n byw yn Sbaen ond byth yn dysgu gair o’r iaith, sydd i’w weld yn hollol wrong i fi.”

Yn ôl Steffan, sy’n wreiddiol o Rydaman, mae dysgu Cymraeg yn wirioneddol bwysig i Adrian: “Mae e am lwyddo - mae e moyn i hyn gweithio. Dw i’n siŵr os mae e’n dal ati bydd e’n llwyddo. Dw i’n browd iawn ohono fe.”

Felly yn ystod ei daith, mae Adrian yn dod i wybod mwy am rai o brif draddodiadau Cymru ai’ phobl - fel yr Eisteddfod er enghraifft. Mae’n cwrdd â’r prifardd Mererid Hopwood a hyd yn oed yn cael enw barddonol sef ‘Adrian y Bagiwr’ - ar ôl y ‘Baggies’ - llysenw ei hoff dîm pêl-droed, Albion.

Mae Adrian yn camu mewn i wisg dawnsio i brofi’r traddodiad dawnsio gwerin ac yn dangos ei sgiliau trwy ddiffodd cannwyll gyda chlic o’i sodlau!

Mae Cymru yn enwog am gestyll a chanu - ac mae Adrian yn cyfuno’r ddau drwy ddysgu’r geiriau i’r gân draddodiadol ‘Hen Fenyw Fach Cydweli’ ac yn ei chanu tu allan i gastell enwog y dre – tra’n gwisgo het menyw Gymreig!

A beth am y noson yn y soser hedfan a hanes pants Adrian? Wel, bydd rhaid gwylio Adrian a Steffan ar Iaith ar Daith ar nos Sul, 10 Mai i ddarganfod mwy! Mae’r gyfres yn gorffen ar ddydd Sul, 17 Mai gyda thaith Scott Quinnell a’i fentor Sarra Elgan.

Os fethoch chi daith Carol Vorderman ac Owain Wyn Evans; Colin Jackson ac Eleri Siôn a Ruth Jones a Gillian Elisa, mae’r rhaglenni ar gael i wylio ar Clic.

Iaith ar Daith Nos Sul, 10 Mai 8.00, S4C Isdeitlau Saesneg? Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill Cynhyrchiad Boom ar gyfer S4C

Noddir Iaith ar Daith gan dysgucymraeg.cymru. Am fwy o wybodaeth am gyrsiau Cymraeg ar- lein, cyfleoedd i ymarfer eich Cymraeg a defnyddio dros 1,500 o adnoddau dysgu digidol, ewch i dysgucymraeg.cymru. Diolch i Aran Jones o Say Something in Welsh am ei gymorth yn ystod y gyfres.

30.04.2020

Cathryn Ings Cyswllt Contact Ffôn Phone 03305 880450

Erthygl i’r Wasg Press Release

Adrian Chiles makes a song and dance of learning Welsh

Adrian Chiles extinguishing a candle with his feet while folk dancing? Singing in front of a castle sporting a traditional Welsh lady hat? And what about that night in the flying saucer? And what on earth happened to all his pants?

Yes indeed, you can see it all on Iaith ar Daith (Welsh Roadtrip), Sunday, 10 May on S4C as the well-known TV and radio presenter from Birmingham goes on a special journey to learn Welsh.

Adrian is the only one of the five celebrities on Iaith ar Daith – including Carol Vorderman, Ruth Jones, Colin Jackson a Scott Quinnell – who wasn’t born in Wales.

So, his friend and mentor the BBC Radio One journalist Steffan Powell, takes Adrian on a road trip not only to learn the Welsh language but also to learn more about our history and traditions.

Adrian is by no means a stranger to Wales – he spends every spare moment on the Gower – an area he loves after spending many happy childhood holidays there.

“I just can’t overstate how much I love being in Wales, being on Gower, in particular. I want my ashes spread on one of the beaches there!”, said Adrian.

“It just feels plain wrong to spend so much time in Wales and not have some knowledge of Welsh. You end up like one of those ex-pats, living in Spain and never learning a word of Spanish which just seems wrong to me.”

According to Steffan, originally from Ammanford, learning Welsh is really important to Adrian. “He wants to succeed – he wants this to work. I’m sure if he keeps at it he will succeed,” said Steffan. “I am very proud of him.”

So, during the roadtrip, Adrian learns about some of the best-known Welsh traditions – like the Eisteddfod, for example. He meets the poet Mererid Hopwood – winner of both the Eisteddfod Crown and Chair. She gives him his very own bardic name – Adrian y Bagiwr – or Adrian the Baggy – after the ‘Baggies’, the nickname of his favourite football team West Bromwich Albion.

Adrian dons a traditional flannel waistcoat and breeches as he tries out some Welsh folk dancing - and shows off his skills by extinguishing a candle flame with a well-timed jump and a click of his heels.

Wales is famous for castles and singing – and Adrian gets to do both when he learns the words to the old folk song ‘Hen Fenyw Fach Cydweli’ (The Old Lady of Kidwelly) and sings them outside the town’s famous Castle – wearing a Welsh lady hat.

And what about the night in the flying saucer and the mystery of Adrian’s missing pants? Well, all will be revealed in Iaith ar Daith on Sunday, 10 May. The series comes to an end on Sunday, May 17 with Scott Quinnell and mentor Sarra Elgan’s trip.

If you missed the previous trips in this series - Carol Vorderman and Owain Wyn Evans; Colin Jackson and Eleri Siôn and Ruth Jones and Gillian Elisa, all programmes are available to watch on S4C Clic.

Iaith ar Daith Sunday, 10 May 8.00, S4C English subtitles available On demand: S4C Clic, iPlayer and other platforms A Boom production for S4C

Iaith ar Daith is sponsored by learnwelsh.cymru. For more information about online Welsh courses, opportunities to practise your Welsh or to access over 1,500 digital learning resources, go to learnwelsh.cymru.

Thanks to Aran Jones of Say Something in Welsh for his help during the series.