COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL ADRODDIAD A CHYNIGION

SIR

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL AR GYFER SIR CEREDIGION

ADRODDIAD A CHYNIGION

1. CYFLWYNIAD

2. CRYNODEB O’R CYNIGION

3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

4. CYNIGION DRAFFT

5. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

6. ASESIAD

7. CYNIGION

8. CYDNABYDDIAETHAU

9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

ATODIAD 1 RHESTR TERMAU ATODIAD 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR ATODIAD 3 AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR ATODIAD 4 CYFARWYDDIADAU’R GWEINIDOG A LLYTHYR YCHWANEGOL ATODIAD 5 CRYNODEB O GYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru Tŷ Caradog 1-6 Plas Sant Andreas CAERDYDD CF10 3BE Rhif Ffôn: (029) 2039 5031 Rhif Ffacs: (029) 2039 5250 E-bost: [email protected] www.cflll-cymru.gov.uk

RHAGAIR

Dyma’n hadroddiad sy’n cynnwys ein Cynigion Terfynol ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion.

Ym mis Ionawr 2009, gofynnodd y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Dr Brian Gibbons, i’r Comisiwn adolygu’r trefniadau etholiadol ym mhob prif awdurdod lleol yng Nghymru. Dywedodd Dr Gibbons:

“Mae cynnal arolygon rheolaidd o’r trefniadau etholiadol ym mhob un o Gynghorau Cymru yn rhan o gylch gwaith y Comisiwn. Y nod yw ceisio sicrhau cysondeb o ran nifer y cynghorwyr o’i gymharu â maint y boblogaeth. Nid yw’n ymwneud â llywodraeth leol yn cael ei had-drefnu.

Ers cynnal yr arolygon diwethaf, mae cymunedau newydd wedi cael eu creu mewn rhai ardaloedd ac mae’r boblogaeth wedi symud mewn mannau eraill. O ganlyniad mae anghydbwysedd erbyn hyn mewn rhai ardaloedd o ran nifer yr etholwyr y mae cynghorwyr yn eu cynrychioli.

Bydd y Comisiwn yn adolygu cyfanswm y cynghorwyr ym mhob cyngor; nifer y cynghorwyr sy’n cynrychioli pob adran etholiadol ac enw a ffin pob adran.

Hyd y gellir, rwyf am wneud y drefn yn decach, er mwyn i gynghorwyr, at ei gilydd, gynrychioli’r un faint o bobl.” [13 Ionawr 2009].

Nodir y mater o degwch yn glir yn y ddeddfwriaeth ac mae wedi bod yn brif egwyddor ar gyfer ein gwaith. Nid yw’r sefyllfa sy’n bodoli ar hyn o bryd, lle mae cynghorydd o un rhan o’r Sir yn cynrychioli nifer fechan o etholwyr, tra y gall cynghorydd arall gynrychioli llawer, llawer mwy, yn deg i etholwyr. Yn ymarferol, mae’n golygu bod gan rai ardaloedd fantais annheg dros eraill o ran penderfyniadau a wneir yn siambr y cyngor.

Nid hawdd yw unioni hyn o ystyried y cyfyngiadau y mae’n rhaid i'r Comisiwn gadw atynt wrth weithredu. Ni allwn symud llinellau ar y map; mae’n rhaid i ni gadw at y “sylfeini” presennol, sef Ardaloedd Cymunedol a Wardiau Cymunedol sy’n cwmpasu Cymru gyfan. Ambell waith, nid yw’r rhain yn adlewyrchu patrymau cyfredol bywyd cymunedol yng Nghymru ond, pan ddigwydd hyn, ni allwn dderbyn awgrymiadau sy’n torri ar draws y ffiniau hyn. Mae hyn yn rhwystredig i’r ymatebwyr a’r Comisiwn fel ei gilydd.

Mae'n ofynnol i ni edrych at y dyfodol hefyd ac rydym wedi gofyn i’r cyngor roi amcangyfrif i ni o nifer yr etholwyr ymhen 5 mlynedd. Ar y gorau, byddai hyn yn heriol ond, yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae’n arbennig o anodd.

Pan gyhoeddwyd rhai o’n hadroddiadau cynigion drafft cyntaf, bu rhywfaint o bryder ein bod yn symud i ffwrdd o’r egwyddor o gael un cynghorydd ar gyfer un adran etholiadol i awgrymu gwneud mwy o ddefnydd o adrannau aml-aelod. Mae’r Rheolau rydym yn gweithredu ynddynt yn rhagweld y bydd pob adran etholiadol yn cael ei chynrychioli gan un cynghorydd; gellir galw hwn y “safle rhagosodedig”. Fodd bynnag, gallwn symud o’r safle hwn am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys ein bod wedi gweld mai dyma’r ffordd orau i sicrhau bod etholwyr yn cael eu cynrychioli’n i’r un graddau.

- 1 -

Wrth baratoi’n cynigion, rydym wedi ceisio ystyried cysylltiadau lleol a’r rhai sydd am gadw’r ffiniau presennol. Rydym wedi ystyried yn ofalus pob cynrychiolaeth a dderbyniwyd gennym. Fodd bynnag, bu’n rhaid pwyso a mesur y materion a’r cynrychiolaethau hyn yn erbyn yr holl ffactorau eraill y mae’n rhaid i ni eu hystyried a’r cyfyngiadau a nodir uchod. Yn benodol, y gofyniad am gydraddoldeb etholiadol, hynny yw tegwch democrataidd i bob etholwr, yw’r prif ffactor cyfreithiol a dyma’r hyn rydym wedi ceisio ei wneud. Credwn y bydd mwy o degwch, ynghyd â chynigion eraill yn ein hadroddiad, yn arwain at lywodraeth leol sy’n effeithiol a chyfleus.

Mae’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, wedi cyhoeddi datganiad lle dywed i bob diben na fydd yn gwneud unrhyw newidiadau i’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru nes wedi etholiadau llywodraeth leol 2012. Mae rhai pobl wedi dehongli hyn fel ninnau’n atal yr holl waith parhaus ynghylch arolygon etholiadol. Gallaf gadarnhau nad yw hynny’n wir a’n bod yn parhau â’n rhaglen o arolygon etholiadol yn unol â’r ddeddfwriaeth. Rydym yn parhau i groesawu cyfranogiad gweithredol yn yr arolygon gan yr unigolion a’r sefydliadau hynny sydd â buddiant.

Wrth gloi, hoffwn ddiolch i aelodau a swyddogion y prif awdurdod am eu cymorth gyda’n gwaith, y cynghorau cymuned a thref am eu cyfraniad, ac yn olaf ond yn bwysicaf oll, y dinasyddion a gymerodd yr amser ac a aeth i’r drafferth i wneud sylwadau ac awgrymiadau.

Paul Wood Cadeirydd

- 2 -

Mr Carl Sargeant Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Llywodraeth Cynulliad Cymru

AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL AR GYFER SIR CEREDIGION

ADRODDIAD A CHYNIGION

1. CYFLWYNIAD

1.1 Yn unol â chyfarwyddiadau’r Gweinidog a gyhoeddwyd ar 13 Ionawr 2009, yr ydym ni, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau'r arolwg o drefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ceredigion ac yn cyflwyno’n Cynigion Terfynol ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol. Ceir rhestr termau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn yn Atodiad 1. Yn 2009, roedd gan Sir Ceredigion etholaeth o 59,494. Ar hyn o bryd, mae wedi’i rhannu’n 40 adran sy’n ethol 42 o gynghorwyr, ac mae gan 38 o’r adrannau etholiadol (90%) aelodau unigol ac mae 2 o’r adrannau etholiadol (10%) yn rhai aml-aelod. Cymhareb gyfartalog yr etholwyr i bob aelod yn y Sir ar hyn o bryd yw 1,417. Yn ôl y trefniadau etholiadol presennol, mae nifer yr etholwyr a gynrychiolir gan bob cynghorydd yn amrywio o fod 44% yn is i 67% yn uwch na chyfartaledd y sir. Nodir y trefniadau etholiadol presennol yn fanwl yn Atodiad 2.

2. CRYNODEB O’R CYNIGION

2.1 Rydym yn cynnig gostwng maint y cyngor o 42 i 37 o aelodau etholedig a newid trefniant yr adrannau etholiadol o 40 i 34, gyda 31 o adrannau etholiadol (91%) ag aelodau unigol a 3 adran etholiadol (9%) aml-aelod, a fydd yn gwella lefel y cydraddoldeb etholiadol ar draws Sir Ceredigion yn sylweddol. Cynigir cyfartaledd o 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae’r trefniadau etholiadol arfaethedig yn golygu y bydd lefel y gynrychiolaeth yn amrywio o fod 29% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol i 24% yn uwch na’r cyfartaledd hwnnw. Nodir y trefniadau etholiadol arfaethedig yn fanwl yn Atodiad 3.

3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

3.1 Yn unol ag Adran 57 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (Deddf 1972) mae’n ddyletswydd ar y Comisiwn, ar gyfnodau nad ydynt yn llai na deng mlynedd a dim yn fwy na phymtheg mlynedd, i adolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer yr holl brif ardaloedd yng Nghymru at ddibenion ystyried a ddylid gwneud argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn newid y trefniadau etholiadol hynny ai peidio.

3.2 Derbyniodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno adroddiad ar yr arolwg o drefniadau etholiadol Sir Ceredigion erbyn 30 Mehefin 2011.

- 3 -

Trefniadau etholiadol

3.3 Diffinnir “trefniadau etholiadol” prif ardal yn adran 78 o’r Ddeddf fel:

i) cyfanswm y cynghorwyr i’w hethol i’r cyngor;

ii) nifer yr adrannau etholiadol a’u ffiniau;

iii) nifer y cynghorwyr i’w hethol ar gyfer pob adran etholiadol; ac

iv) enw unrhyw adran etholiadol.

Rheolau i gydymffurfio â hwy wrth ystyried trefniadau etholiadol

3.4 Yn unol ag Adran 78, cyn belled ag y bo’n ymarferol resymol gwneud hynny, mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â’r rheolau a nodir yn Atodlen 11 i’r Ddeddf. Mae’n ofynnol, yn unol â’r rhain, i’r Comisiwn drefnu bod un aelod ar gyfer pob adran etholiadol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gall y Gweinidog roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn ystyried dymunoldeb darparu ar gyfer adrannau etholiadol aml-aelod ar gyfer y cyfan o’r brif ardal neu rannau ohoni.

3.5 Yn ôl y rheolau, mae’n ofynnol hefyd:

Ystyried unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn ystod y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl ystyried y trefniadau etholiadol:

i) yn amodol ar baragraff (ii), bydd nifer yr etholwyr llywodraeth leol yr un fath neu mor agos â phosibl, ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal;

ii) lle bo un neu fwy o adrannau aml-aelod, bydd y gymhareb o ran nifer yr etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr yr un fath neu mor agos â phosibl ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal (gan gynnwys unrhyw adran nad yw’n un aml-aelod);

iii) bydd pob ward gymunedol sydd â chyngor cymuned (naill ai ar wahân neu’n gyffredin) yn gorwedd yn gyfan gwbl y tu mewn i un adran etholiadol unigol; a

iv) bydd unrhyw gymuned na rennir yn wardiau cymunedol yn gorwedd yn gyfan gwbl y tu mewn i adran etholiadol unigol.

Wrth ystyried y trefniadau etholiadol, rhaid i ni ystyried (a) dymunoldeb pennu ffiniau sydd ac a fydd yn hawdd eu hadnabod; a (b) unrhyw gysylltiadau lleol a dorrir wrth lunio unrhyw ffin benodol.

- 4 -

Cyfarwyddiadau’r Gweinidog

3.6 Derbyniodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan y Gweinidog y dylai ystyried dymunoldeb adrannau etholiadol aml-aelod ym mhob cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

3.7 Derbyniodd y Comisiwn y cyfarwyddiadau canlynol gan y Gweinidog hefyd o ran cynnal yr arolwg:

(a) ystyrir bod angen lleiafswm o 30 cynghorydd er mwyn rheoli materion cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn briodol;

(b) er mwyn lleihau’r risg o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn mynd yn afrosgo ac yn anodd ei reoli, fel arfer mae angen uchafswm o 75 cynghorydd i reoli materion cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn briodol;

(c) ystyrir mai cael adrannau etholiadol lle nad yw’r gymhareb rhwng cynghorydd ac etholwyr yn is nag 1:1,750 y dylai’r nod fod;

(ch) ystyrir na ddylid gwneud penderfyniadau i newid y drefn bresennol o adrannau etholiadol un aelod ac aml-aelod ac eithrio lle bo cynigion o’r fath ar gyfer newid yn cael eu cefnogi’n gyffredinol gan yr etholaeth cyn belled ag y gellir cael eu barn o ran cyflawni’r gofynion ymgynghori a nodir yn Adran 60 o’r Ddeddf; ac

(d) ystyrir bod y Comisiwn, wrth gynnal arolygon yn unol â Rhan 4 o’r Ddeddf, yn cydymffurfio â pharagraff 1A o Atodiad 11 o’r Ddeddf, hynny yw, y Rheolau.

Ceir holl destun y Cyfarwyddiadau yn Atodiad 4. Cadarnhawyd y Cyfarwyddiadau ymhellach mewn llythyr gan y Gweinidog ar 12 Mai 2009. Mae copi o’r llythyr hwn yn dilyn y Cyfarwyddiadau yn Atodiad 4.

Newidiadau i Lywodraeth Leol

3.8 Ers yr arolwg diwethaf o drefniadau etholiadol, bu 1 newid i’r ffiniau llywodraeth leol yng Ngheredigion:

• 2001 Rhif 3272 (W.310) Gorchymyn Ceredigion a Sir Benfro (Llandudoch) 2002

Fe ddiddymodd hyn ran o brif ardal cyngor Ceredigion yn ardal Pentref Llandudoch a’i gynnwys yn Sir Benfro.

Gweithdrefn

3.9 Mae Adran 60 o Ddeddf 1972 yn nodi canllawiau gweithdrefnol i’w dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol ag Adran 60 o Ddeddf 1972, ar 21.12.09 ysgrifenasom at Gyngor Sir Ceredigion, yr holl gynghorau cymuned yn yr ardal, Aelod Seneddol yr etholaeth leol, aelodau cynulliad yn yr ardal a phartïon eraill â diddordeb i roi gwybod iddynt am ein bwriad i gynnal yr arolwg ac i ofyn am eu barn gychwynnol. Gwahoddasom

- 5 -

y Cyngor Sir i gyflwyno cynllun neu gynlluniau awgrymedig ar gyfer y trefniadau etholiadol newydd. Rhoesom gyhoeddusrwydd hefyd i’n bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau newydd â chylchrediad yn y Sir a gofynasom i Gyngor Sir Ceredigion arddangos nifer o hysbysiadau cyhoeddus yn eu hardal. Trefnom hefyd fod copïau o’n llyfryn arweiniad ar arolygon etholiadol ar gael. Yn ogystal, gwnaethom gyflwyniad i gynghorwyr Dinas a chynghorwyr Cymuned gan esbonio’r broses adolygu.

4. CYNIGION DRAFFT

4.1 Cyn llunio ein Cynigion Drafft, cawsom gynrychiolaethau gan Gyngor Sir Ceredigion; tri chyngor cymuned; AC; tri chynghorydd; a dau gorff a thrigolion eraill â diddordeb. Ystyriwyd y cynrychiolaethau hyn a chrynhowyd hwy yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 6 Medi 2010. Mae’r canlynol yn grynodeb o’n Cynigion Drafft.

4.2 Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom ystyried trefniadau etholiadol adrannau etholiadol presennol , Bronglais, Canol Aberystwyth, Gogledd Aberystwyth, Aberystwyth , Aberystwyth Rheidol, Beulah, , Ceulan-y-maes-mawr, Llanbadarn Fawr – Sulien, Llandyfrïog, , , , , , , ac Ystwyth a’r gymhareb o etholwyr llywodraeth leol i’r nifer o gynghorwyr i’w hethol, gan gynnig y dylai’r trefniadau presennol barhau.

Aberaeron a Llansanffraid

4.3 Mae adran etholiadol bresennol yn cynnwys Cymuned Aberaeron yn unig, gyda 1,171 o etholwyr (rhagamcenir 1,204) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 17% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, a 33% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Llansanffraid yn cynnwys Cymunedau Llansanffraid gyda 1,020 o etholwyr (rhagamcenir 1,049) a Dyffryn Arth, sy’n cynnwys wardiau Llanbadarn Trefeglwys gyda 593 o etholwyr (rhagamcenir 610) a Llanddewi gyda 367 o etholwyr (rhagamcenir 377). Mae gan yr adran etholiadol gyfanswm o 1,980 o etholwyr (rhagamcenir 2,036) ac fe’i cynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth sydd 40% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, ac 13% yn fwy na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

4.4 Nodasom y gynrychiolaeth gan Gyngor Sir Ceredigion, ond nid oeddem o’r farn bod y lefel gynrychiolaeth bresennol, sydd 17% yn is na’r cyfartaledd sirol, yn briodol o’i chymharu â chyfartaledd presennol y sir. Gwnaethom ystyried cynnig arall y Cyngor Sir, sef cyfuno adran gyfan Aberaeron, neu ran ohoni, ag ardaloedd eraill i ffurfio adran etholiadol â lefelau cynrychiolaeth yn nes at y cyfartaledd sirol presennol ac yn gwella cydraddoldeb etholiadol.

4.5 Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom ystyried cyfuno ward Llanddewi Aberarth yng Nghymuned Dyffryn ag adran etholiadol bresennol Aberaeron, i greu adran etholiadol newydd â chyfanswm o 1,538 o etholwyr (rhagamcenir 1,581) a

- 6 -

gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 4% yn is na’r cyfartaledd sirol a gynigir yn y cynigion drafft, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd, a 12% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Rhoesom yr enw gwaith Aberaeron i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Aberteifi

4.6 Mae Cymuned bresennol Aberteifi wedi’i rhannu’n 3 ward, gyda phob un yn ffurfio adran etholiadol unigol a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae adran etholiadol Aberteifi - Mwldan yn cynnwys ward Mwldan, sydd â 1,402 o etholwyr (rhagamcenir 1,542). Mae hyn 1% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, ac 20% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol Aberteifi - Rhyd y Fuwch yn cynnwys ward Rhyd y Fuwch sydd â 928 o etholwyr (rhagamcenir 1,021) Mae hyn 34% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, a 47% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol Aberteifi - Teifi yn cynnwys ward Teifi, sydd ag 827 o etholwyr (rhagamcenir 910). Mae hyn 42% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, a 53% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

4.7 Nodasom y gynrychiolaeth gan y Cynghorydd Mark Cole fod Cyngor Tref Aberteifi o’r farn y dylid cadw’r trefniant presennol oherwydd datblygiadau arfaethedig ac amddifadedd cymdeithasol. Gwnaethom ystyried y gynrychiolaeth hon, ond daethom i’r casgliad nad oedd lefel bresennol y gynrychiolaeth yn yr ardal, lle mae gan 3 adran etholiadol gyfagos gymarebau etholwyr i gynghorwyr sydd 1%, 34% a 42% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, yn briodol ac nad oedd er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus i gael amrywiad mor eang yn lefel y gynrychiolaeth rhwng adrannau etholiadol. Felly, ystyriwyd cynnig y Cyngor Sir i gyfuno’r adrannau etholiadol hyn er mwyn ffurfio adran etholiadol â lefelau cynrychiolaeth sy’n nes at y cyfartaledd sirol.

4.8 Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom ystyried cyfuno wardiau cyffiniol Mwldan, Rhyd y Fuwch a Theifi yng Nghymuned Aberteifi i greu adran etholiadol newydd â chyfanswm o 3,157 o etholwyr (rhagamcenir 3,473) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd. Mae hyn 2% yn is na’r cyfartaledd sirol a gynigir yn y cynigion drafft, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd, a 10% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Byddai’r cyfuniad hwn yn newid yr adran etholiadol o fod yn dair adran etholiadol ag aelodau unigol i un adran â dau aelod. Roeddem o’r farn y byddai unrhyw anfanteision o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus yn cael eu gorbwyso gan gydraddoldeb gwell yn yr adran arfaethedig hon. Gwnaethom awgrymu y dylai’r adran etholiadol arfaethedig gadw’r enw Aberteifi.

Ciliau Aeron a

4.9 Mae gan adran etholiadol bresennol 1,607 o etholwyr (rhagamcenir 1,713) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 13% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, ac 8% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Llanfihangel Ystrad, sydd â 1,668 o etholwyr (rhagamcenir 1,715), yn cynnwys Cymuned Llanfihangel Ystrad, sydd â 1,151 o etholwyr (rhagamcenir 1,183) a wardiau , sydd â

- 7 -

314 o etholwyr (rhagamcenir 323), a Threfilan, sydd â 203 o etholwyr (rhagamcenir 209), yng Nghymuned Nantcwnlle. Mae ganddi gyfanswm o 1,668 o etholwyr (rhagamcenir 1,715) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 18% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417, a 5% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

4.10 Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, ystyriwyd newidiadau o ganlyniad i’r newid arfaethedig i’r Ceinewydd (gweler 4.34 i 4.36 isod). Gwnaethom ystyried cyfuno adran etholiadol bresennol Ciliau Aeron â ward Trefilan yng Nghymuned Nantcwnlle i greu adran etholiadol newydd â chyfanswm o 1,810 o etholwyr (rhagamcenir 1,922) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 13% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a gynigir yn y cynigion drafft, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd, a 3% yn uwch na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Gwnaethom awgrymu y dylai’r adran etholiadol arfaethedig gadw’r enw Ciliau Aeron.

Llanbedr Pont Steffan a

4.11 Mae gan adran etholiadol bresennol Llanbedr Pont Steffan gyfanswm o 1,993 o etholwyr (rhagamcenir 2,192) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd, sy’n rhoi lefel gynrychiolaeth o 997 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae hyn 30% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, a 43% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae gan adran etholiadol bresennol Llanwenog gyfanswm o 1,433 o etholwyr (rhagamcenir 1,473) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 1% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, ac 18% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

4.12 Nodasom y gynrychiolaeth gan Gyngor Sir Ceredigion, mai’r dewis a ffafrir ganddynt fyddai cadw’r trefniadau etholiadol presennol yn Llanbedr Pont Steffan, gan deimlo nad yw’r gofrestr etholiadol yn rhoi ystyriaeth lawn i nifer y myfyrwyr yn Llanbedr Pont Steffan. Fodd bynnag, cynigiodd y Cyngor Sir nifer o ddewisiadau eraill pe byddai’r Comisiynwyr o’r farn bod eu hangen. Roeddem o’r farn nad yw’r lefel gynrychiolaeth bresennol, sydd 30% yn is na chyfartaledd presennol y sir, yn briodol o’i chymharu â chyfartaledd presennol y sir. Felly, ystyriwyd y cynnig arall gan y Cyngor Sir, i gyfuno’r adran etholiadol gyfan, neu rannau ohoni, ag ardaloedd eraill er mwyn ffurfio adran etholiadol briodol â lefelau cynrychiolaeth sy’n nes at gyfartaledd y sir.

4.13 Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom ystyried cyfuno adrannau etholiadol presennol Llanbedr Pont Steffan a Llanwenog (cynnig Cyngor Sir Ceredigion, Opsiwn 3 Llanbedr Pont Steffan) i greu adran etholiadol newydd â chyfanswm o 3,426 o etholwyr (rhagamcenir 3,665) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd. Byddai hyn yn arwain at lefel gynrychiolaeth o 1,713 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 7% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a gynigir yn y cynigion drafft, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd, a 2% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Gwnaethom awgrymu y dylai’r adran etholiadol arfaethedig gadw’r enw Llanbedr Pont Steffan.

- 8 -

Llanarth a Llanfihangel Ystrad

4.14 Mae adran etholiadol bresennol Llanarth yn cynnwys wardiau Llanarth gyda 953 o etholwyr (rhagamcenir 980) a Mydroilyn gyda 310 o etholwyr (rhagamcenir 319) yng Nghymuned Llanarth, sydd â chyfanswm o 1,263 o etholwyr (rhagamcenir 1,299) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 11% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, a 28% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Llanfihangel Ystrad yn cynnwys Cymuned Llanfihangel Ystrad, sydd â 1,151 o etholwyr (rhagamcenir 1,183), a wardiau Nantcwnlle gyda 314 o etholwyr (rhagamcenir 323) a Threfilan gyda 203 o etholwyr (rhagamcenir 209) yng Nghymuned Nantcwnlle, sydd â chyfanswm cyfunol o 1,668 o etholwyr (rhagamcenir 1,715) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 18% yn uwch na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417, a 5% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

4.15 Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom ystyried y cynllun a awgrymwyd gan Gyngor Sir Ceredigion i gyfuno ward Mydroilyn yng Nghymuned Llanarth â Chymuned Llanfihangel Ystrad a ward Nantcwnlle yng Nghymuned Nantcwnlle i greu adran etholiadol newydd â chyfanswm o 1,775 o etholwyr (rhagamcenir 1,825) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai hyn 10% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a gynigir yn y cynigion drafft, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd, ac 1% yn uwch na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Byddai hyn yn arwain at adael ward Llanarth yng Nghymuned Llanarth a ward Trefilan yng Nghymuned Nantcwnlle y tu allan i unrhyw adran etholiadol. Datrysir hyn ar gyfer ward Llanarth yn 4.21 i 4.23 isod ac ar gyfer ward Trefilan yn 4.9 i 4.10 uchod. Rhoesom yr enw gwaith Llanfihangel Ystrad, Mydroilyn a Nantcwnlle i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Llanbadarn Fawr – Padarn a Faenor

4.16 Mae gan adran etholiadol bresennol Llanbadarn Fawr Padarn gyfanswm o 792 o etholwyr (rhagamcenir 871) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 44% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417, a 55% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae gan adran etholiadol bresennol Faenor gyfanswm o 2,366 o etholwyr (rhagamcenir 2,567) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 67% yn uwch na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, a 35% yn uwch na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

4.17 Gwnaethom ystyried yr awgrym a gefnogwyd gan Gyngor Sir Ceredigion, sef cyfuno adran etholiadol bresennol Faenor ag adran etholiadol bresennol Padarn. Roedd y Comisiwn yn ddiolchgar i’r Cyngor am yr ymagwedd hyblyg hon, ac o’r farn nad oedd yr amrywiad mawr iawn yn lefel y gynrychiolaeth rhwng adrannau etholiadol cyfagos Faenor, â 2,366 o etholwyr (rhagamcenir 2,567), sydd 67% yn uwch na chyfartaledd presennol y sir, a Llanbadarn Fawr Padarn, â 792 o etholwyr (rhagamcenir 871), sydd 44% yn is na chyfartaledd presennol y sir, yn briodol. Ysgrifennodd y Cynghorydd Gareth Davies i gefnogi cyfuno Padarn a Faenor, tra ysgrifennodd y Cynghorydd John E Roberts i wrthwynebu unrhyw gynnig tebyg. Felly, ystyriwyd cynnig Cyngor Sir Ceredigion i gyfuno’r adrannau etholiadol hyn i greu adran etholiadol â lefelau cynrychiolaeth yn nes at y cyfartaledd sirol.

- 9 -

4.18 Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom ystyried cyfuno adran etholiadol bresennol Faenor ag adran etholiadol bresennol Llanbadarn Fawr Padarn, i greu adran etholiadol newydd â chyfanswm o 3,158 o etholwyr (rhagamcenir 3,438), a gynrychiolir gan 2 gynghorydd. Byddai hyn yn arwain at lefel gynrychiolaeth o 1,579 o etholwyr i bob cynghorydd (rhagamcenir 1,719) sydd 2% yn is na’r cyfartaledd sirol a gynigir yn y Cynigion Drafft, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd, a 10% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Byddai’r cynnig hwn yn gwella cydraddoldeb etholiadol yn sylweddol. Rhoesom yr enw gwaith Faenor a Phadarn i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Llanfarian a

4.19 Mae gan adran etholiadol bresennol gyfanswm o 1,190 o etholwyr (rhagamcenir 1,223) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 16% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, a 32% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Melindwr yn cynnwys wardiau gyda 284 o etholwyr (rhagamcenir 292), Llanbadarn y Creuddyn Uchaf gyda 179 o etholwyr (rhagamcenir 285) a Phenllwyn gyda 418 o etholwyr (rhagamcenir 430) yng Nghymuned Melindwr, Cymuned gyda 362 o etholwyr (rhagamcenir 372) a Chymuned Pontarfynach gyda 395 o etholwyr (rhagamcenir 406). Mae gan adran etholiadol Melindwr gyfanswm o 1,638 o etholwyr (rhagamcenir 1,684) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd â lefel gynrychiolaeth sydd 16% yn uwch na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, a 6% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Roeddem o’r farn nad yw lefel gynrychiolaeth bresennol yr ardal, sy’n amrywio o 16% yn is i 16% yn uwch na chyfartaledd presennol y sir, yn briodol o’i chymharu â chyfartaledd presennol y sir, ynghyd ag amrywiad mor eang yn lefel y gynrychiolaeth rhwng adrannau etholiadol cyffiniol. Felly, ystyriwyd cynnig Cyngor Sir Ceredigion i gyfuno rhannau o’r adrannau etholiadol hyn i greu adran etholiadol â lefelau cynrychiolaeth yn nes at y cyfartaledd sirol.

4.20 Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom ystyried yr opsiwn a gefnogwyd gan y Cyngor, sef cyfuno adran etholiadol bresennol Llanfarian â ward Llanbadarn y Creuddyn Uchaf yng Nghymuned Melindwr i greu adran etholiadol newydd â chyfanswm o 1,369 o etholwyr (rhagamcenir 1,407) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai hyn 15% yn is na’r cyfartaledd sirol a gynigir yn y cynigion drafft, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd, a 22% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Rhoesom yr enw gwaith Llanfarian i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Llandysiliogogo a Llanarth

4.21 Mae adran etholiadol bresennol yn cynnwys Cymunedau Llandysiliogogo gyda 923 o etholwyr (rhagamcenir 949) a gyda 654 o etholwyr (rhagamcenir 672) sydd â chyfanswm o 1,577 o etholwyr (rhagamcenir 1,621) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 11% yn uwch na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, a 10% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Llanarth yn cynnwys Cymuned Llanarth sy’n cynnwys wardiau Llanarth gyda 953 o etholwyr (rhagamcenir 980) a Mydroilyn gyda 310 o etholwyr (rhagamcenir 319), sydd â

- 10 -

chyfanswm o 1,263 o etholwyr (rhagamcenir 1,299). Cynrychiolir yr adran etholiadol hon gan 1 cynghorydd ac mae 11% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, a 28% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

4.22 Yn 4.14 i 4.15 uchod, cynigiwyd cyfuno ward Mydroilyn yng Nghymuned Llanarth â 3 ward yn adran etholiadol bresennol Llanfihangel Ystrad i greu adran etholiadol Llanfihangel Ystrad, Mydroilyn a Nantcwnlle, gan adael ward Llanarth yng Nghymuned Llanarth y tu allan i unrhyw adran etholiadol. Yn 4.34 i 4.36 isod, cynigir cyfuno Cymuned Llanllwchaiarn ag adran etholiadol arfaethedig Y Ceinewydd, gan adael Cymuned Llandysiliogogo y tu allan i unrhyw adran etholiadol.

4.23 Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom ystyried yr opsiwn a gefnogwyd gan Gyngor Sir Ceredigion i gyfuno Cymuned Llandysiliogogo â ward Llanarth yng Nghymuned Llanarth, gan ystyried effaith ôl-ddilynol y cynnig ar gyfer ardal Y Ceinewydd yn 4.34 i 4.36 isod, a fyddai’n gadael Cymuned Llandysiliogogo y tu allan i unrhyw adran etholiadol (Opsiwn Y Ceinewydd 2 yng nghynigion Cyngor Sir Ceredigion). Roedd hyn yn creu adran etholiadol newydd â chyfanswm o 1,876 o etholwyr (rhagamcenir 1,929) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd, sydd 17% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a gynigir yn y cynigion drafft, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd, a 7% yn uwch na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Rhoesom yr enw gwaith Llandysiliogogo a Llanarth i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Tref a Chapel Dewi

4.24 Mae adran etholiadol bresennol Tref Llandysul yn cynnwys ward Trefol yng Nghymuned Llandysul, gyda 1,149 o etholwyr (rhagamcenir 1,264) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 19% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, a 34% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Capel Dewi yn cynnwys wardiau Capel Dewi gyda 420 o etholwyr (rhagamcenir 432), Pontsiân gyda 380 o etholwyr (rhagamcenir 391) a Thregroes gyda 336 o etholwyr (rhagamcenir 345) yng Nghymuned Llandysul, a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn yn rhoi 1,136 o etholwyr i bob cynghorydd (rhagamcenir 1,168) sydd 20% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, a 35% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

4.25 Nodasom y gynrychiolaeth gan Gyngor Sir Ceredigion mai’r dewis a ffafriwyd ganddynt fyddai cadw’r trefniadau etholiadol presennol yn Nhref Llandysul, er iddynt gynnig cynllun pe byddem yn teimlo bod ei angen. Roeddem o’r farn nad yw’r lefel gynrychiolaeth bresennol, sef 19% yn is na chyfartaledd presennol y sir, yn briodol o’i chymharu â chyfartaledd presennol y sir. Felly, ystyried y cynnig amgen gan Gyngor Sir Ceredigion, sef cyfuno adran etholiadol Tref Llandysul â ward Capel Dewi yng Nghymuned Llandysul i greu adran etholiadol â lefelau cynrychiolaeth yn nes at y cyfartaledd sirol.

4.26 Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom ystyried cyfuno ward Capel Dewi yng Nghymuned Llandysul ag adran etholiadol bresennol Tref Llandysul i greu adran etholiadol newydd â chyfanswm o 1,569 o etholwyr (rhagamcenir 1,696) a

- 11 -

gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai hyn 2% yn is na’r cyfartaledd sirol a gynigir yn y cynigion drafft, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd, a 10% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Byddai hyn yn arwain at adael wardiau Pontsiân a Thregroes yng Nghymuned Llandysul y tu allan i unrhyw adran etholiadol. Datrysir y sefyllfa hon ar gyfer wardiau Pontsiân a Thregroes yn 4.40 o 4.42 isod. Rhoesom yr enw gwaith Llandysul i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Llangybi a

4.27 Mae gan adran etholiadol bresennol Llangybi 1,192 o etholwyr (rhagamcenir 1,225) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 16% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, a 32% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol yn cynnwys Cymuned Llangeitho, sy’n cynnwys wardiau cymunedol Gwynfil, Llanbadarn Odwyn a Phenuwch a Chymuned Llanddewi Brefi, gyda chyfanswm o 1,200 o etholwyr (rhagamcenir 1,234) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 15% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417, a 31% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

4.28 Nodasom y gynrychiolaeth gan Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Cymuned Llanddewi Brefi na ddylai ffiniau adran etholiadol Llangeitho newid oherwydd ei natur wledig, tebygrwydd economaidd a chymdeithasol a’r ffaith y byddai Llanddewi Brefi yn cael ei wasanaethu orau gyda ffocws i’r gorllewin a’r gogledd, yn hytrach na thua de’r sir pe byddai adran etholiadol yn newid o gwbl. Roeddem o’r farn bod hyn yn cael ei orbwyso gan y rhesymau a amlygwyd yn 5.8 yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, ynghyd â’r potensial i wala lefel gyfartalog y gynrychiolaeth a chydraddoldeb etholiadol ymhellach.

4.29 Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom ystyried cyfuno Cymuned Llanddewi Brefi ag adran etholiadol bresennol Llangybi i greu adran etholiadol newydd â chyfanswm o 1,716 o etholwyr (rhagamcenir 1,764) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai hyn 7% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a gynigir yn y cynigion drafft, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd, a 2% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae’r ardaloedd hyn yn debyg o ran eu natur wledig ac mae’r cynnig yn cynnal y cymunedau fel y maent ar hyn o bryd. Hefyd, mae cyfathrebu rhwng y ddwy ardal cystal â’r cysylltiadau cyfathrebu i’r gorllewin a’r gogledd o Landdewi Brefi, ac mae ffyrdd y B4343 a’r A485 yn brif lwybrau cyfathrebu â rhannau eraill o’r sir. Rhoesom yr enw gwaith Llangybi a Llanddewi Brefi i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Llansanffraid

4.30 Mae adran etholiadol bresennol Llansanffraid, sydd â 1,980 o etholwyr (rhagamcenir 2,036) yn cynnwys Cymuned Llansanffraid gyda 1,020 o etholwyr (rhagamcenir 1,049) a wardiau Llanbadarn Trefeglwys gyda 593 o etholwyr (rhagamcenir 610) a Llanddewi Aberarth gyda 367 o etholwyr (rhagamcenir 377) sy’n ffurfio Cymuned Dyffryn Arth. Cynrychiolir yr adran etholiadol hon gan 1 cynghorydd, sydd 40% yn uwch na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417, ac 13% yn uwch na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

- 12 -

4.31 Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom ystyried yr opsiwn a gefnogwyd gan y Cyngor, sef cadw adran etholiadol bresennol Llansanffraid ac eithrio ward Llanddewi Aberarth yng Nghymuned Dyffryn Arth. Ceir manylion y cynnig ar gyfer ward Llanddewi Aberarth yn 4.3 i 4.5 uchod. Cynigiwyd y dylai’r adran etholiadol gynnwys Cymuned Llansanffraid a ward Llanbadarn Trefeglwys yng Nghymuned Dyffryn Arth i greu adran etholiadol newydd â chyfanswm o 1,613 o etholwyr (rhagamcenir 1,659) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai hyn bron yn gyfartal (llai na 0.5% yn uwch) â’r cyfartaledd sirol a gynigir yn y cynigion drafft, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd, ac 8% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Rhoesom yr enw gwaith Llansanffraid i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Melindwr

4.32 Mae adran etholiadol bresennol Melindwr yn cynnwys wardiau Goginan gyda 284 o etholwyr (rhagamcenir 292), Llanbadarn y Creuddyn Uchaf gyda 179 o etholwyr (rhagamcenir 285) a Phenllwyn gyda 418 o etholwyr (rhagamcenir 430) yng Nghymuned Melindwr, Cymuned Blaenrheidol gyda 362 o etholwyr (rhagamcenir 372) a Chymuned Pontarfynach gyda 395 o etholwyr (rhagamcenir 406), gyda chyfanswm o 1,638 o etholwyr (rhagamcenir 1,684) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 16% yn uwch na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, a 6% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

4.33 Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiwyd (yn 4.19 i 4.20 uchod) y dylid cyfuno ward Llanbadarn y Creuddyn Uchaf yng Nghymuned Melindwr ag adran etholiadol Llanfarian. Cynigiwyd y dylid cadw’r wardiau sy’n weddill ym Melindwr, sef Goginan a Phenllwyn, gyda Chymunedau Blaenrheidol a Phontarfynach i greu adran etholiadol newydd â 1,459 o etholwyr (rhagamcenir 1,500) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai hyn 9% yn is na’r cyfartaledd sirol a gynigir yn y cynigion drafft, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd, ac 17% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Awgrymwyd y dylai adran etholiadol arfaethedig gadw’r enw Melindwr.

Y Ceinewydd a Llandysiliogogo

4.34 Mae adran etholiadol bresennol Y Ceinewydd, sydd â 974 o etholwyr (rhagamcenir 1,001) yn cynnwys Cymuned Y Ceinewydd yn unig. Cynrychiolir yr adran etholiadol hon gan 1 cynghorydd ac mae 31% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417, a 44% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Llandysiliogogo yn cynnwys Cymunedau Llandysiliogogo, sydd â 923 o etholwyr, a Llanllwchaiarn, sydd â 654 o etholwyr, gyda chyfanswm o 1,577 o etholwyr (rhagamcenir 1,621). Cynrychiolir yr adran etholiadol hon gan 1 cynghorydd ac mae 11% yn uwch na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, a 10% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

4.35 Nodasom y gynrychiolaeth gan Gyngor Sir Ceredigion, sef y dymunant gadw’r trefniadau etholiadol presennol yn Y Ceinewydd, o ystyried natur y dref a’r boblogaeth fawr o dwristiaid, gan gynnwys nifer o berchnogion ail gartrefi sy’n lled breswylwyr. Cynigiodd Cyngor Sir Ceredigion gynllun arall, pe byddem o’r farn bod angen gwella cydraddoldeb etholiadol. Roeddem o’r farn nad oedd y lefel gynrychiolaeth bresennol, sydd 31% yn is na chyfartaledd presennol y sir, yn

- 13 -

briodol o’i chymharu â chyfartaledd presennol y sir. Felly, ystyriwyd yr opsiwn amgen a gynigiwyd gan y Cyngor.

4.36 Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom ystyried cyfuno Cymuned Llanllwchaiarn â Chymuned y Ceinewydd i greu adran etholiadol newydd â chyfanswm o 1,628 o etholwyr (rhagamcenir 1,673) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai hyn 1% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a gynigir yn y cynigion drafft, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd, a 7% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Gwnaethom awgrymu y dylai’r adran etholiadol arfaethedig hon gadw’r enw Y Ceinewydd.

Tregaron a Llangeitho

4.37 Mae adran etholiadol bresennol yn cynnwys Cymuned Tregaron â chyfanswm o 995 o etholwyr (rhagamcenir 1,095) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 30% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, a 43% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Llangeitho yn cynnwys Cymuned Llangeitho (676 o etholwyr, rhagamcenir 695) a Chymuned Llanddewi Brefi (524 o etholwyr, rhagamcenir 539), gan roi cyfanswm o 1,200 o etholwyr (rhagamcenir 1,234) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 15% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, a 31% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn eu cynrychiolaeth, ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi na ddylai ffiniau adran etholiadol Llangeitho newydd oherwydd ei natur wledig a’i thebygrwydd economaidd a chymdeithasol.

4.38 Nodasom y gynrychiolaeth gan Gyngor Sir Ceredigion mai’r dewis a ffafrir ganddynt fyddai cadw trefniadau etholiadol presennol Tregaron, ond nid oeddem yn fodlon bod cymaint o amrywiad oddi wrth gyfartaledd presennol y sir yn yr adrannau cyffiniol hyn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac felly fe ystyriom y cynllun amgen a gynigiwyd gan Gyngor Sir Ceredigion, sef cyfuno adran etholiadol bresennol Tregaron â Chymuned Llangeitho yn adran etholiadol bresennol Llangeitho.

4.39 Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom ystyried cyfuno Cymuned Llangeitho â Chymuned Tregaron i greu adran etholiadol newydd â chyfanswm o 1,671 o etholwyr (rhagamcenir 1,790) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai hyn 4% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a gynigir yn y cynigion drafft, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd, a 5% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Rhoesom yr enw gwaith Tregaron a Llangeitho i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Troedyraur a Chapel Dewi

4.40 Mae adran etholiadol bresennol yn cynnwys Cymuned Troedyraur sydd â 1,101 o etholwyr (rhagamcenir 1,132) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 22% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, a 37% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Capel Dewi yn cynnwys wardiau Capel Dewi, Pontsiân a Thregroes yng Nghymuned Llandysul, a gynrychiolir gan 1 cynghorydd, gyda chyfanswm o 1,136 o etholwyr (rhagamcenir 1,168) i bob cynghorydd. Mae hyn 20% yn is na

- 14 -

chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, a 35% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

4.41 Nodasom y gynrychiolaeth gan Gyngor Sir Ceredigion mai’r dewis a ffafrir ganddynt fyddai cadw trefniadau etholiadol presennol Troedyraur. Fodd bynnag, gwnaethant gynnig cynllun amgen pe byddem o’r farn bod ei angen. Roeddem o’r farn nad oedd y lefel gynrychiolaeth bresennol, sef 22% yn is na chyfartaledd presennol y sir, yn briodol o’i chymharu â chyfartaledd presennol y sir. Ystyriwyd y cynnig amgen gan Gyngor Sir Ceredigion, sef cyfuno adran etholiadol gyfan Troedyraur, neu ran ohoni, ag ardaloedd eraill i greu adran etholiadol â lefelau cynrychiolaeth yn nes at y cyfartaledd sirol.

4.42 Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiwyd (yn 4.24 i 4.26 uchod) cyfuno ward Capel Dewi yng Nghymuned Llandysul ag adrannau etholiadol Tref Llandysul, gan adael wardiau Pontsiân a Thregroes yng Nghymuned Llandysul y tu allan i unrhyw adran etholiadol. Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom gynnig cynnwys wardiau Pontsiân a Thregroes yn adran etholiadol bresennol Troedyraur i greu adran etholiadol newydd â chyfanswm o 1,817 o etholwyr (rhagamcenir 1,868) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai hyn 13% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a gynigir yn y cynigion drafft, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd, a 4% yn uwch na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Awgrymir y dylai’r adran etholiadol arfaethedig gadw’r enw Troedyraur.

4.43 Roedd ein Cynigion Drafft yn cynnig lleihau maint y cyngor o 42 i 37 o aelodau etholedig. Roeddem o’r farn bod y trefniadau hyn yn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ac yn bodloni’r cyfarwyddiadau a ddarparwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mewn egwyddor.

4.44 Anfonwyd copïau o’r Cynigion Drafft i’r holl gynghorau, sefydliadau ac unigolion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 3.9 i ofyn am eu barn. Anfonwyd copi hefyd at unrhyw un a oedd wedi cyflwyno sylwadau cychwynnol. Hefyd, gwahoddwyd unrhyw sefydliad neu unigolyn arall â buddiant yn yr arolwg i gyflwyno’u barn, trwy gyfrwng hysbysiad cyhoeddus. Trefnwyd bod copïau o’r Cynigion Drafft ar gael i’w harchwilio yn swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion a’r Comisiwn.

5. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

5.1 Mewn ymateb i’n Hadroddiad Cynigion Drafft, cawsom gynrychiolaethau gan Gyngor Sir Ceredigion, un ar ddeg o Gynghorau Tref a Chymuned ac un gan un o drigolion Ceredigion. Ceir crynodeb o’r cynrychiolaethau hyn yn Atodiad 5.

6. ASESIAD

Cais am Newid Ffiniau Cymunedol

6.1 Cyn ystyried y trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ceredigion, hoffem ymateb i’r cynrychiolaethau a oedd yn gofyn i ni newid ffiniau adrannau etholiadol sy’n ffiniau

- 15 -

cymunedol neu wardiau cymunedol. I wneud y newidiadau hyn, byddai angen cynnal arolwg o’r ffiniau cymunedol neu ffiniau wardiau cymunedol yn gyntaf. Mae’n amlwg o’r ceisiadau hyn bod rhywfaint o ansicrwydd ynghylch y dulliau o gynnal yr arolygon hyn. Felly, hoffem amlinellu’r safbwynt statudol.

6.2 Mae Adran 55(2) y Ddeddf yn gofyn i bob prif gyngor yng Nghymru gadw eu hardal gyfan dan arolwg at ddibenion ystyried gwneud argymhellion i ni i gyfansoddi cymunedau newydd, diddymu cymunedau neu newid cymunedau yn eu hardal. Yna, rydym yn ystyried cynigion y prif gyngor ac yn adrodd yn ôl i Lywodraeth Cynulliad Cymru sy’n gallu rhoi unrhyw rai o’r cynigion hyn ar waith trwy orchymyn, fel y gwêl orau.

6.3 Dan Adran 57(4) y Ddeddf, mae gan brif gynghorau ddyletswydd i gadw’r trefniadau etholiadol ar gyfer y cymunedau yn eu hardaloedd dan arolwg hefyd, at ddibenion ystyried a oes angen gwneud newidiadau sylweddol ai peidio. Rhaid i brif gynghorau ystyried ceisiadau am newidiadau gan gyngor cymuned neu ddim llai na 30 o etholwyr llywodraeth leol mewn cymuned hefyd, a gwneud gorchymyn i roi’r newidiadau hynny ar waith, fel y gwelant orau.

6.4 Felly, mae newidiadau i ffiniau cymunedol a wardiau cymunedol yn fater i’r prif gyngor ei ystyried, yn y lle cyntaf, ac ni allwn ei ystyried fel rhan o’r arolwg hwn. Rydym wedi defnyddio’r cymunedau a’r wardiau cymunedol fel yr oeddent ar ddechrau’r arolwg hwn fel sylfaen ar gyfer yr adrannau etholiadol arfaethedig.

Maint y Cyngor

6.5 Ar hyn o bryd, mae maint y cyngor, sef 42 o aelodau, o fewn y cyfyngiadau yng nghyfarwyddiadau’r Gweinidog. Y gymhareb bresennol rhwng cynghorwyr ac etholwyr yw 1:1,417, sydd 19% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd (gweler cymhareb y Cynghorwyr i etholwyr isod). Ar hyn o bryd, mae 2 adran aml-aelod o gyfanswm o 40 o adrannau etholiadol.

6.6 Gwnaethom arolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ceredigion yn sgil cyfarwyddiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru i’n harwain, a gwnaethom ystyried y cynrychiolaethau a gyflwynwyd i ni. Yn ein trafodaethau, gwnaethom ystyried cymhareb yr etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr i’w hethol, gyda’r nod o sicrhau bod nifer yr etholwyr llywodraeth leol yr un fath, neu mor agos ag y bo modd, ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal. Gwnaethom edrych ar yr adrannau aml-aelod presennol i ystyried a ddylem argymell creu adrannau ag aelodau unigol. Gwnaethom ystyried maint a chymeriad ardal y prif gyngor ynghyd ag ystod eang o ffactorau eraill, gan gynnwys dwysedd y boblogaeth, y dopograffeg leol, cysylltiadau ffyrdd a chysylltiadau lleol.

6.7 Am y rhesymau a nodir isod, credwn o safbwynt budd i lywodraeth leol effeithiol a chyfleus y byddai cael cyngor o 37 o aelodau i gynrychioli Sir Ceredigion yn briodol. Golyga’r cynnig hwn ynghylch maint y cyngor y cynrychiolir 1,608 o etholwyr ar gyfartaledd gan bob cynghorydd. O’r 34 o adrannau etholiadol arfaethedig, byddai gan 31 (91%) ohonynt aelod unigol, a byddai 3 (9%) ohonynt yn adrannau aml-aelod.

- 16 -

Cymhareb cynghorwyr i etholwyr

6.8 Mae cyfarwyddiadau’r Gweinidog yn cynnwys y canlynol yn 3.7 (a): "Ystyrir mai cyflawni adrannau etholiadol lle mae’r gymhareb rhwng cynghorwyr ac etholwyr ddim is nag 1:1,750 y dylai’r nod fod." Mae’r Gweinidog wedi dynodi i ni fod hyn yn golygu na ddylai’r nifer o etholwyr fesul cynghorydd ddisgyn yn is na 1,750 fel arfer, a dyma sut rydym wedi dehongli a defnyddio’r Cyfarwyddyd. Rydym yn cydnabod y darperir y cyfarwyddiadau fel arweiniad ac ni ddylid eu defnyddio heb ystyried amgylchiadau arbennig yr ardal benodol: mae’n bosibl y bydd amgylchiadau yn ymwneud â thopograffeg neu boblogaeth yr ardal ac ati, lle ystyrir bod adran etholiadol â llai na 1,750 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan un cynghorydd yn briodol. Esboniwyd hyn yn y llythyr gan y Gweinidog (Atodiad 4) a ddywedodd: “Golyga hyn fod y gymhareb yn parhau fel y nod i geisio ei chyflawni ac nid fel y nod i’w chyflawni ym mhob achos. Wrth wneud hynny, dylid talu sylw i gymunedau lleol gael eu cynrychiolaeth adnabyddadwy hyd yn oed pan na ellir cyflawni’r ffigur dangosol o 1,750 etholwyr/cynghorydd bob tro”. Yn niffyg amgylchiadau arbennig, byddwn yn ceisio cynnig trefniadau etholiadol lle na fydd y lefel gynrychiolaeth yn disgyn yn is na 1,750 o etholwyr fesul cynghorydd. Ni chawn ein cyfyngu yn yr un modd gan y cyfarwyddyd hwn rhag cynnig trefn etholiadol lle mae nifer yr etholwyr sydd i’w cynrychioli gan bob cynghorydd, mewn achosion priodol, yn uwch nag 1,750. Trwy gydol yr arolwg hwn, rydym wedi cadw’r gymhareb 1:1,750 mewn cof, ond nid ydym wedi cyfeirio ati’n benodol ym mhob achos.

Nifer yr Etholwyr

6.9 Cyngor Sir Ceredigion a roddodd i ni’r ffigurau a welir yn Atodiad 2, sy’n nodi’r etholwyr yn 2009 a’r amcangyfrif ar gyfer yr etholaeth yn 2014.

Adrannau Etholiadol

6.10 Rydym wedi ystyried ffiniau adrannau etholiadol presennol Aberporth, Aberystwyth Bronglais, Canol Aberystwyth, Gogledd Aberystwyth, Aberystwyth Penparcau, Aberystwyth Rheidol, Beulah, Borth, Ceulan-y-maes-mawr, Llanbadarn Fawr – Sulien, Llandyfrïog, Llanrhystud, Llanwenog, Lledrod, Penbryn, Penparc, Tirymynach, Trefeurig, ac Ystwyth a’r gymhareb o etholwyr llywodraeth leol i’r nifer o gynghorwyr i’w hethol, gan gynnig y dylai’r trefniadau presennol barhau. Gwnaethom ystyried newidiadau i’r adrannau etholiadol sy’n weddill. Ceir manylion y trefniadau etholiadol presennol ar gyfer yr ardal yn Atodiad 2.

6.11 Yn yr adran ganlynol, fe gyflwynir y cynigion ar gyfer pob un o’r adrannau etholiadol yn yr un modd. Mae rhan gyntaf y paragraff agoriadol ar gyfer pob adran etholiadol newydd i’w hystyried yn rhoi cyd-destun hanesyddol trwy restru’r adrannau etholiadol neu eu rhannau cyfansoddol a ddefnyddiwyd i greu pob adran etholiadol arfaethedig. Disgrifir y cydrannau hyn - y cymunedau a’r wardiau cymunedol – fel cymuned gyflawn ynghyd â’i hetholwyr presennol a rhagamcanol, os y’i defnyddiwyd felly. Os mai dim ond rhan o gymuned a ddefnyddir – h.y. ward gymunedol – yna fe ddangosir enw’r ward gymunedol honno, ei ffigurau etholaethol, ac enw ei chymuned. Yn olaf, ym mhob adran etholiadol newydd, mae rhannau cydrannol y cynnig hwnnw wedi’u rhestru yn yr un modd – naill ai fel

- 17 -

cymunedau cyfan gyda nifer yr etholwyr presennol a’r nifer a ragamcenir, neu fel ward gymunedol a enwir, nifer ei hetholwyr ac enw’r gymuned – fel o’r blaen. Defnyddir y dull hwn o ddisgrifio cyfansoddiad adrannau etholiadol yn y tablau yn Atodiad 2 a 3 hefyd. Rydym wedi dilyn Cyfarwyddiadau’r Gweinidog trwy gydol yr arolwg hwn a chadw’r gymhareb 1:1,750 mewn cof, er i ni roi pwyslais ar wella cydraddoldeb etholiadol. Mae hyn wedi arwain at lefelau cynrychiolaeth is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd mewn 25 (74%) o’r adrannau etholiadol arfaethedig.

Aberaeron a Llansanffraid

6.12 Mae adran etholiadol bresennol Aberaeron yn cynnwys Cymuned Aberaeron yn unig, gyda 1,171 o etholwyr (rhagamcenir 1,204) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 17% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Llansanffraid yn cynnwys Cymunedau Llansanffraid gyda 1,020 o etholwyr (rhagamcenir 1,049) a Dyffryn Arth, sy’n cynnwys wardiau Llanbadarn Trefeglwys gyda 593 o etholwyr (rhagamcenir 610) a Llanddewi Aberarth gyda 367 o etholwyr (rhagamcenir 377). Mae gan yr adran etholiadol gyfanswm o 1,980 o etholwyr (rhagamcenir 2,036) ac fe’i cynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth sydd 40% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom gynnig cyfuno ward Llanddewi Aberarth yng Nghymuned Dyffryn ag adran etholiadol bresennol Aberaeron, i greu adran etholiadol â 1,538 o etholwyr (rhagamcenir 1,581) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 4% yn is na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd.

6.13 Ni chawsom unrhyw wrthwynebiadau i’r cynnig hwn ac ysgrifennodd Cyngor Sir Ceredigion i dderbyn ein cynnig.

6.14 Er mwyn llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, cynigiwn gyfuno ward Llanddewi Aberarth yng Nghymuned Dyffryn ag adran etholiadol bresennol Aberaeron, i greu un adran etholiadol â 1,538 o etholwyr (rhagamcenir 1,581). Pe byddai 1 cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai hyn 4% yn is na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd. Cynigiwn yr enw Aberaeron i’r adran etholiadol hon.

Aberteifi

6.15 Mae Cymuned Aberteifi wedi’i rhannu’n 3 ward, gyda phob un yn ffurfio adran etholiadol unigol a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae adran etholiadol Aberteifi – Mwldan yn cynnwys ward Mwldan, sydd â 1,402 o etholwyr (rhagamcenir 1,542). Mae hyn 1% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol Aberteifi – Rhyd y Fuwch yn cynnwys ward Rhyd y Fuwch, sydd â 928 o etholwyr (rhagamcenir 1,021). Mae hyn 34% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol Aberteifi – Teifi yn cynnwys ward Teifi, sydd ag 827 o etholwyr (rhagamcenir 910). Mae hyn 42% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom gynnig cyfuno wardiau Mwldan, Rhyd y Fuwch a Theifi yng Nghymuned Aberteifi i greu un adran etholiadol â 3,157 o etholwyr (rhagamcenir 3,473). Pe byddai 2 gynghorydd

- 18 -

yn eu cynrychioli, byddai pob cynghorydd yn cynrychioli 1,579 o etholwyr (rhagamcenir 1,737), sydd 2% yn is na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd.

6.16 Cawsom wrthwynebiadau gan Gyngor Tref Aberteifi ac un o drigolion Aberteifi. Gwnaed y gwrthwynebiadau ar sail datblygiadau arfaethedig yn y dyfodol ac amddifadedd cymdeithasol, gyda’r tri chynghorydd sir presennol yn cael eu boddi dan ofynion a cheisiadau gan yr etholaeth yn gyson. Teimlwyd hefyd y byddai unrhyw newid yn arwain at lai o wasanaeth a chynrychiolaeth. Ysgrifennodd Cyngor Sir Ceredigion i fynegi eu bod wedi penderfynu derbyn ein cynnig. Nodasom y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd, ynghyd â’r gynrychiolaeth gan Gyngor Sir Ceredigion. Rydym o’r farn bod angen mynd i’r afael â’r amrywiad mawr yn y lefelau cynrychiolaeth rhwng wardiau yn yr un gymuned, ac nad yw bod â chymaint o orgynrychiolaeth, pan fo’n bosibl datrys hynny trwy gyfuno wardiau cyffiniol yn yr un gymuned, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Hefyd, caiff unrhyw anfanteision eu gorbwyso gan y gwelliant sylweddol i gydraddoldeb. Mae’r cynllun a gynigiwn yn arwain at greu adran aml-aelod a gynrychiolir gan 2 gynghorydd yn lle 3, dan y trefniadau presennol. Pe byddem wedi cynnig bod yr adran etholiadol newydd yn cael eu cynrychioli gan 3 chynghorydd, fel dan y trefniadau presennol, byddai hyn wedi arwain at lefel gynrychiolaeth o 1,052 o etholwyr i bob cynghorydd, neu 35% yn is na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608, a fyddai wedi arwain at orgynrychiolaeth eithafol unwaith eto. Felly, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, cynigiwn gyfuno wardiau Mwldan, Rhyd y Fuwch a Theifi yng Nghymuned Aberteifi i greu un adran etholiadol â 3,157 o etholwyr (rhagamcenir 3,473). Pe byddai 2 gynghorydd yn eu cynrychioli, byddai pob cynghorydd yn cynrychioli 1,579 o etholwyr (rhagamcenir 1,737), sydd 2% yn is na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd. Cynigiwn yr enw Aberteifi i’r adran etholiadol hon.

Ciliau Aeron a Llanfihangel Ystrad

6.17 Mae adran etholiadol bresennol Ciliau Aeron yn cynnwys wardiau Ciliau Aeron gyda 409 o etholwyr (rhagamcenir 420) a Chilcennin gyda 339 o etholwyr (rhagamcenir 348) yng Nghymuned Ciliau Aeron a Chymuned gyda 859 o etholwyr (rhagamcenir 945), gyda chyfanswm o 1,607 o etholwyr (rhagamcenir 1,713) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 13% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Llanfihangel Ystrad yn cynnwys Cymuned Llanfihangel Ystrad sydd â 1,151 o etholwyr (rhagamcenir 1,183) a wardiau Nantcwnlle sydd â 314 o etholwyr (rhagamcenir 323) a Threfilan sydd â 203 o etholwyr (rhagamcenir 209) yng Nghymuned Nantcwnlle, gyda chyfanswm o 1,668 o etholwyr (rhagamcenir 1,715) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 18% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom gynnig cyfuno adran etholiadol bresennol Ciliau Aeron â ward Trefilan yng Nghymuned Nantcwnlle i greu un adran etholiadol â 1,810 o etholwyr (rhagamcenir 1,922). Pe byddai 1 cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai hyn 13% yn uwch na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd.

6.18 Cawsom wrthwynebiad gan Gyngor Cymuned Nantcwnlle ar y sail y byddai’r newidiadau arfaethedig yn golygu y byddai tri chynghorydd sir a fyddai’n gorfod

- 19 -

mynychu cyfarfodydd cynghorau cymuned eraill, yn ogystal â’r rheiny y maent yn eu mynychu ar hyn o bryd. Nodwyd hefyd y byddai wardiau Gartheli, Nantcwnlle a Threfilan yng Nghymuned Nantcwnlle yn cael eu rhannu rhwng tair adran etholiadol arfaethedig Ciliau Aeron, Llanfihangel Ystrad, Mydroilyn a Nantcwnlle a Llangybi a Llanddewi Brefi. Roeddem o’r farn bod y dystiolaeth hon yn gymhellol a, dan yr amgylchiadau, daethom i’r casgliad na ddylid rhannu’r tair ward yn Nantcwnlle rhwng tair adran etholiadol. Daethom i’r casgliad y dylai adran etholiadol bresennol Ciliau Aeron aros fel y mae gydag un cynghorydd yn cynrychioli 1,607 o etholwyr (rhagamcenir 1,713), sydd 1% yn is na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd. Cynigiwn y dylai’r adran etholiadol hon gadw’r enw Ciliau Aeron. Datrysir y trefniant ar gyfer ward Trefilan yng Nghymuned Nantcwnlle ym mharagraffau 6.22 i 6.25 isod.

Llanbedr Pont Steffan a Llanwenog

6.19 Mae adran etholiadol bresennol Llanbedr Pont Steffan yn cynnwys Cymuned Llanbedr Pont Steffan yn unig, ac mae ganddi gyfanswm o 1,993 o etholwyr (rhagamcenir 2,192) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd, sy’n rhoi lefel gynrychiolaeth o 997 o etholwyr (rhagamcenir 1,096) i bob cynghorydd. Mae hyn 30% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Llanwenog yn cynnwys Cymuned Llanwenog gyda 1,037 o etholwyr (rhagamcenir 1,066) a Chymuned Llanwnnen gyda 396 o etholwyr (rhagamcenir 407), gyda chyfanswm o 1,433 o etholwyr (rhagamcenir 1,473) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 1% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom gynnig cyfuno adrannau etholiadol Llanbedr Pont Steffan a Llanwenog (cynnig Cyngor Sir Ceredigion, Opsiwn 3 Llanbedr Pont Steffan) i greu adran etholiadol â 3,426 o etholwyr (rhagamcenir 3,665). Pe byddai 2 gynghorydd yn eu cynrychioli, byddai pob cynghorydd yn cynrychioli 1,713 o etholwyr (rhagamcenir 1,833), a fyddai 17% yn uwch na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd.

6.20 Cawsom wrthwynebiadau gan Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan a Chyngor Cymuned Llanwenog. Ysgrifennodd Cyngor Sir Ceredigion mai’r cynnig a ffafrir ganddynt fyddai adran etholiadol ag aelod unigol ar gyfer Llanbedr Pont Steffan a chadw adran etholiadol bresennol Llanwenog ag aelod unigol. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y gwrthwynebiad wedi’i seilio ar wybodaeth, hanes, traddodiad a ffiniau lleol ac nad oedd unrhyw beth yn gyffredin rhwng adran etholiadol drefol Llanbedr Pont Steffan ac adran etholiadol wledig Llanwenog. Byddai disgwyl i adran etholiadol â dau aelod gynrychioli cymunedau annhebyg â gwahanol ofynion a disgwyliadau mewn modd y mae’r etholaeth yn ei haeddu yn anymarferol ac ni fyddai o fudd i ddemocratiaeth. Nid oedd Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan o’r farn mai’r cynnig hwn oedd y ffordd gywir ymlaen, gan fod gan Lanbedr Pont Steffan gyfran fawr o fyfyrwyr (nid oedd llawer ohonynt wedi cofrestru i bleidleisio) o gymharu â nifer y trigolion parhaol, nad oeddent wedi’u hystyried. Teimlwyd hefyd y byddai’r adran etholiadol arfaethedig yn lluniad artiffisial heb ganolfan naturiol nac unrhyw gydlyniad ac y byddai’n anodd ei chynrychioli. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llanwenog i fynegi bod cynghorwyr y gymuned yn rhannu’r farn na fyddai’n ddoeth cyfuno’r adrannau etholiadol gan fod nodweddion

- 20 -

ac anghenion y ddwy ardal yn hollol wahanol, gydag un ohonynt yn ardal wledig a’r llall yn ardal drefol.

6.21 Nodasom y gwrthwynebiadau i’r cynigion drafft a gwnaethom ystyried y dystiolaeth a ddarparwyd ynghylch diffyg cysylltiadau cymunedol a’r cymysgedd trefol/gwledig rhwng Llanbedr Pont Steffan a Llanwenog, ynghyd â’r gynrychiolaeth gan Gyngor Sir Ceredigion. Roeddem o’r farn bod y dystiolaeth hon yn gymhellol a, dan yr amgylchiadau, daethom i’r casgliad y dylai adran etholiadol bresennol Llanwenog aros fel y mae, gydag un cynghorydd yn cynrychioli 1,433 o etholwyr (rhagamcenir 1,473), sydd 11% yn is na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd. Cynigiwn y dylai’r adran etholiadol hon gadw’r enw Llanwenog. Rydym wedi nodi’r pryder a fynegwyd gan Gyngor Tref Llanbedr Pont Steffan ynghylch nifer y myfyrwyr sy’n byw yn y dref a faint ohonynt sydd wedi’u cofrestru. Fe’n hysbyswyd gan Gyngor Sir Ceredigion bod 523 o fyfyrwyr wedi’u cynnwys ar y gofrestr etholiadol yn ardal Llanbedr Pont Steffan ar hyn o bryd, ac rydym wedi ystyried y ffigurau etholiadol a ddarparwyd gan Gyngor Sir Ceredigion wrth ddod i gasgliad. Nodasom hefyd, pe byddai un cynghorydd yn cynrychioli Llanbedr Pont Steffan, fel yr awgrymwyd gan Gyngor Sir Ceredigion, byddai’r cynghorydd yn cynrychioli 1,993 o etholwyr (rhagamcenir 2,192), sydd 24% yn uwch na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd. Rydym o’r farn bod y trefniant hwn yn darparu amrywiad gwell oddi wrth y cyfartaledd sirol o’i gymharu â’r trefniadau presennol. Felly, rydym o’r farn bod y cynnig hwn yn dderbyniol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Cynigiwn y dylai’r adran etholiadol hon gadw’r enw Llanbedr Pont Steffan.

Llanarth a Llanfihangel Ystrad

6.22 Mae adran etholiadol bresennol Llanarth yn cynnwys wardiau Llanarth gyda 953 o etholwyr (rhagamcenir 980) a Mydroilyn gyda 310 o etholwyr (rhagamcenir 319) yng Nghymuned Llanarth, sydd â chyfanswm o 1,263 o etholwyr (rhagamcenir 1,299) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 11% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Llanfihangel Ystrad yn cynnwys Cymuned Llanfihangel Ystrad, sydd â 1,151 o etholwyr (rhagamcenir 1,183), a wardiau Nantcwnlle gyda 314 o etholwyr (rhagamcenir 323) a Threfilan gyda 203 o etholwyr (rhagamcenir 209) yng Nghymuned Nantcwnlle, sydd â chyfanswm cyfunol o 1,668 o etholwyr (rhagamcenir 1,715) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 18% yn uwch na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417. Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom gynnig cyfuno ward Mydroilyn yng Nghymuned Llanarth â Chymuned Llanfihangel Ystrad a ward Nantcwnlle yng Nghymuned Nantcwnlle i greu adran etholiadol â 1,775 o etholwyr (rhagamcenir 1,825) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai hyn 10% yn uwch na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd.

6.23 Cawsom wrthwynebiad amodol gan Gyngor Cymuned Llanarth, ynghyd â gwrthwynebiad gan Gyngor Cymuned Nantcwnlle. Cawsom gynrychiolaeth gan Gyngor Sir Ceredigion i fynegi eu bod wedi penderfynu derbyn y cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon. Roedd y gwrthwynebiad amodol gan Gyngor Cymuned Llanarth wedi’i seilio ar y modd y byddai’r cynigion drafft yn effeithio ar gynrychiolaeth ar lefel gymunedol. Gwnaed gwrthwynebiad Cyngor Cymuned Nantcwnlle ar y sail y

- 21 -

byddai’r newidiadau arfaethedig yn golygu y byddai tri chynghorydd cymuned a fyddai’n gorfod mynychu cyfarfodydd cynghorau cymuned eraill yn ogystal â’r rheiny y maent yn eu mynychu eisoes. Nodwyd hefyd y byddai wardiau Gartheli, Nantcwnlle a Threfilan yng Nghymuned Nantcwnlle wedi’u rhannu rhwng tair adran etholiadol arfaethedig.

6.24 Nodasom y gwrthwynebiadau a’r pryderon a fynegwyd gan Gyngor Cymuned Llanarth, ac nid oeddem o’r farn y byddai unrhyw gynnig yn effeithio ar gynrychiolaeth ar lefel gymunedol gan nad oedd unrhyw newidiadau yn cael eu cynnig i ffiniau cymunedau na wardiau cymunedol. Archwilir y gwrthwynebiad a fynegwyd gan Gyngor Cymuned Nantcwnlle ym mharagraff 6.18 uchod, a chynigir newid i’r cynigion drafft ar gyfer adran etholiadol Ciliau Aeron.

6.25 Cynigiwn gyfuno ward Mydroilyn yng Nghymuned Llanarth â Chymuned Llanfihangel Ystrad a wardiau Nantcwnlle a Threfilan yng Nghymuned Nantcwnlle i greu un adran etholiadol â 1,978 o etholwyr (rhagamcenir 2,034). Pe byddai 1 cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai hyn 23% yn uwch na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd. Cynigiwn yr enw Llanfihangel Ystrad, Mydroilyn a Nantcwnlle i’r adran etholiadol hon. Mae’r trefniant arfaethedig hwn yn gadael ward Llanarth yng Nghymuned Llanarth y tu allan i unrhyw adran etholiadol, a datrysir hyn ym mharagraffau 6.32 i 6.34 isod.

Llanbadarn Fawr – Padarn a Faenor

6.26 Mae adran etholiadol bresennol Llanbadarn Fawr, Padarn yn cynnwys ward Padarn yng Nghymuned Llanbadarn Fawr yn unig, ac mae ganddi gyfanswm o 792 o etholwyr (rhagamcenir 871) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 44% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417. Mae adran etholiadol bresennol Faenor yn cynnwys wardiau Faenor gyda 493 o etholwyr (rhagamcenir 507) a Waunfawr gyda 1,873 o etholwyr (rhagamcenir 2,060) yng Nghymuned Faenor, gyda chyfanswm o 2,366 o etholwyr (rhagamcenir 2,567) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 67% yn uwch na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom gynnig cyfuno adran etholiadol Faenor ag adran etholiadol Llanbadarn Fawr Padarn i greu adran etholiadol â 3,158 o etholwyr (rhagamcenir 3,438). Pe byddai 2 gynghorydd yn eu cynrychioli, byddai pob cynghorydd yn cynrychioli 1,579 o etholwyr (rhagamcenir 1,719), sydd 2% yn is na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd.

6.27 Cawsom gynrychiolaeth gan Gyngor Sir Ceredigion i fynegi eu bod wedi penderfynu derbyn y cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon. Ni chawsom unrhyw wrthwynebiadau i’r cynnig hwn.

6.28 Er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, cynigiwn gadw’r adran etholiadol fel y nodir yn yr Adroddiad Cynigion Drafft, gyda 3,158 o etholwyr (rhagamcenir 3,438) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd. Mae hyn 2% yn is na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd. Cynigiwn yr enw Faenor a Phadarn i’r adran etholiadol hon.

- 22 -

Llanfarian a Melindwr

6.29 Mae adran etholiadol bresennol Llanfarian yn cynnwys wardiau Llanbadarn y Creuddyn gyda 790 o etholwyr (rhagamcenir 812) a Llanychaiarn gyda 400 o etholwyr (rhagamcenir 411) yng Nghymuned Llanfarian, ac mae ganddi gyfanswm o 1,190 o etholwyr (rhagamcenir 1,223) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 16% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Melindwr yn cynnwys wardiau Goginan gyda 284 o etholwyr (rhagamcenir 292), Llanbadarn y Creuddyn Uchaf gyda 179 o etholwyr (rhagamcenir 285) a Phenllwyn gyda 418 o etholwyr (rhagamcenir 430) yng Nghymuned Melindwr, Cymuned Blaenrheidol gyda 362 o etholwyr (rhagamcenir 372) a Chymuned Pontarfynach gyda 395 o etholwyr (rhagamcenir 406). Mae gan adran etholiadol Melindwr gyfanswm o 1,638 o etholwyr (rhagamcenir 1,684) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd, gyda lefel gynrychiolaeth sydd 16% yn uwch na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom gynnig cyfuno adran etholiadol bresennol Llanfarian â ward Llanbadarn y Creuddyn Uchaf yng Nghymuned Melindwr i greu adran etholiadol â 1,369 o etholwyr (rhagamcenir 1,407) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai hyn 15% yn is na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd.

6.30 Cawsom gynrychiolaeth gan Gyngor Sir Ceredigion i fynegi eu bod wedi penderfynu derbyn y cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon. Ni chawsom unrhyw wrthwynebiadau i’r cynnig hwn.

6.31 Er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, cynigiwn gadw’r adran etholiadol fel y nodir yn yr Adroddiad Cynigion Drafft, gyda 1,360 o etholwyr (rhagamcenir 1,407) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 15% yn is na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd. Cynigiwn yr enw Llanfarian i’r adran etholiadol hon.

Llandysiliogogo a Llanarth

6.32 Mae adran etholiadol bresennol Llandysiliogogo yn cynnwys Cymunedau Llandysiliogogo gyda 923 o etholwyr (rhagamcenir 949) a Llanllwchaiarn gyda 654 o etholwyr (rhagamcenir 672) sydd â chyfanswm o 1,577 o etholwyr (rhagamcenir 1,621) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 11% yn uwch na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Llanarth yn cynnwys Cymuned Llanarth sy’n cynnwys wardiau Llanarth gyda 953 o etholwyr (rhagamcenir 980) a Mydroilyn gyda 310 o etholwyr (rhagamcenir 319), sydd â chyfanswm o 1,263 o etholwyr (rhagamcenir 1,299). Cynrychiolir yr adran etholiadol hon gan 1 cynghorydd ac mae 11% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn 6.22 i 6.25 uchod, cynigiwyd cyfuno ward Mydroilyn yng Nghymuned Llanarth â 3 ward yn adran etholiadol bresennol Llanfihangel Ystrad i greu adran etholiadol Llanfihangel Ystrad, Mydroilyn a Nantcwnlle. Mae hyn yn gadael ward Llanarth yng Nghymuned Llanarth y tu allan i unrhyw adran etholiadol. Yn 6.47 i 6.49 isod, cynigir cyfuno Cymuned Llanllwchaiarn ag adran etholiadol arfaethedig Y Ceinewydd, sy’n gadael Cymuned Llandysiliogogo y tu allan i unrhyw adran etholiadol. Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom gynnig cyfuno

- 23 -

Cymuned Llandysiliogogo â ward Llanarth yng Nghymuned Llanarth i greu adran etholiadol â 1,876 o etholwyr (rhagamcenir 1,929) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai hyn 17% yn uwch na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd.

6.33 Cawsom wrthwynebiadau gan Gyngor Cymuned Llanarth, Cyngor Cymuned Llandysiliogogo a Chyngor Cymuned Llanllwchaiarn. Cawsom gynrychiolaeth gan Gyngor Sir Ceredigion i fynegi eu bod wedi penderfynu derbyn y cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon. Gwnaed y gwrthwynebiad amodol gan Gyngor Cymuned Llanarth ar y sail y byddai’r cynigion drafft yn effeithio ar gynrychiolaeth ar lefel gymunedol, ac rydym wedi ateb hynny ym mharagraff 6.24 uchod. Y gwrthwynebiad gan Gyngor Cymuned Llandysiliogogo oedd bod Cymunedau Llanllwchaiarn a Llandysiliogogo yn cymysgu â’i gilydd yn naturiol a bod Y Ceinewydd yn dref â natur hollol wahanol i adran etholiadol Llandysiliogogo, sy’n ardal wledig. Roedd gwrthwynebiad Cyngor Cymuned Llanllwchaiarn wedi’i seilio ar nifer o bwyntiau. Credwyd bod anwybyddu patrymau cymdeithasol ar sail egwyddor fathemategol ddiystyr yn hollol annoeth ac yn mynd yn erbyn democratiaeth leol. Nodwyd bod Cymunedau Llanllwchaiarn a Llandysiliogogo yn endidau cymdeithasol cryf sydd wedi bodoli trwy’r oesoedd. Yn ddaearyddol, saif y cymunedau bob ochr i’r afon Soden ac mae undod cymdeithasol, ieithyddol a diwylliannol rhwng y ddwy gymuned. Awgrymwyd hefyd bod y cynigion yn mynd yn erbyn datblygiad allweddol ac ysbryd yr ardal.

6.34 Nodasom y gwrthwynebiadau ac roeddem o’r farn nad oedd y gynrychiolaeth gan Gyngor Cymuned Llandysiliogogo yn arbennig o gymhellol. O ran y gynrychiolaeth gan Gyngor Cymuned Llanllwchaiarn, mae’n wir, wrth gwrs, ein bod yn gorfod ystyried nifer o ffactorau wrth ystyried cynigion, fel cynnal cysylltiadau lleol, ond nid yw’n gywir disgrifio ein nod hysbys o gyflawni mwy o gydraddoldeb etholiadol fel dilyn egwyddor fathemategol ddiystyr. Gosodir yr egwyddor honno gan statud ac mae’n cael effaith uniongyrchol ac ymarferol ar hawliau democrataidd yr etholaeth: nod yr egwyddor yw sicrhau bod gan bleidlais etholwr mewn un adran etholiadol yr un pwysau â phleidlais etholwr mewn adran arall yn y brif ardal, lle bynnag y bo modd. Nod damcaniaethol ac effaith ymarferol yr egwyddor yw gwella democratiaeth leol, yn hytrach na’i bychanu. Mae’r Ceinewydd yn dref fechan sy’n dibynnu ar dwristiaeth yn bennaf, ac mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ei dosbarthu fel Trefi a Chyrion Trefi - Prin eu poblogaeth. Hefyd, nid oes unrhyw reswm i gredu na fyddai’r ddwy gymuned yn gallu cymysgu a chydweithio â’i gilydd o hyd tuag at nodau rhanedig. Gwnaed y gwrthwynebiad hwn gan Gyngor Cymuned Llanllwchaiarn hefyd, ynghyd â’r cysylltiadau hanesyddol rhwng y ddwy gymuned. Fodd bynnag, mae ymchwil wedi dangos bod yr ardal a elwir Y Ceinewydd erbyn hyn yn rhan o blwyf Llanllwchaiarn yn hanesyddol, gan ddangos bod cysylltiadau hanesyddol rhwng y ddwy ardal. Amcan y cynigion drafft oedd mynd i’r afael â’r orgynrychiolaeth yn adran etholiadol Y Ceinewydd, lle y cynrychiolir 974 o etholwyr gan 1 cynghorydd, sydd 31% yn is na chyfartaledd presennol y sir. Mae’r Ceinewydd wedi’i hamgylchynu’n llwyr gan Gymuned Llanllwchaiarn tua’r tir, felly rhaid i unrhyw gynnig i ddatrys yr orgynrychiolaeth hon gynnwys Cymuned Llanllwchaiarn. Felly, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, cynigiwn gadw’r adran etholiadol fel y nodir yn yr Adroddiad Cynigion Drafft, gyda 1,876 o etholwyr (rhagamcenir 1,929). Pe byddai 1 cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai hyn 17% yn uwch na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o

- 24 -

etholwyr i bob cynghorydd. Cynigiwn yr enw Llandysiliogogo a Llanarth i’r adran etholiadol hon. Mae’r cynnig ar gyfer Llandysiliogogo a Llanarth yn ystyried effaith ôl-ddilynol y cynnig ar gyfer ardal Y Ceinewydd yn 6.47 i 6.49 isod hefyd, a oedd yn gadael Cymuned Llandysiliogogo y tu allan i unrhyw adran etholiadol.

Tref Llandysul a Chapel Dewi

6.35 Mae adran etholiadol bresennol Tref Llandysul yn cynnwys ward Trefol yng Nghymuned Llandysul, gyda 1,149 o etholwyr (rhagamcenir 1,264) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 19% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Capel Dewi yn cynnwys wardiau Capel Dewi gyda 420 o etholwyr (rhagamcenir 432), Pontsiân gyda 380 o etholwyr (rhagamcenir 391) a Thregroes gyda 336 o etholwyr (rhagamcenir 345) yng Nghymuned Llandysul, a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn yn rhoi 1,136 o etholwyr i bob cynghorydd (rhagamcenir 1,168) sydd 20% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom gynnig cyfuno ward Capel Dewi yng Nghymuned Llandysul ag adran etholiadol bresennol Tref Llandysul i greu adran etholiadol â 1,560 o etholwyr (rhagamcenir 1,696) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai hyn 2% yn is na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd.

6.36 Cawsom wrthwynebiadau gan Gyngor Cymuned Llandysul, a oedd yn dymuno i adrannau etholiadol presennol Capel Dewi a Thref Llandysul aros fel y maent, gan nodi bod wardiau Pontsiân a Thregroes yn agos at dref Llandysul, sy’n gwasanaethu’r ardal. Cawsom gynrychiolaeth gan Gyngor Sir Ceredigion i fynegi eu bod wedi penderfynu derbyn y cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon. Ni ategwyd y gwrthwynebiad gan Gyngor Cymuned Llandysul gan unrhyw ddadleuon argyhoeddiadol. Ar hyn o bryd, mae’r gymuned wedi’u rhannu rhwng adran etholiadol Tref Llandysul (ward Trefol yng Nghymuned Llandysul) ac adran etholiadol Capel Dewi (wardiau Capel Dewi, Pontsiân a Thregroes yng Nghymuned Llandysul). Ar hyn o bryd, gorgynrychiolir adran etholiadol Tref Llandysul, sydd 19% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Gorgynrychiolir adran etholiadol Capel Dewi hefyd, sydd 20% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd.

6.37 Nodasom y gwrthwynebiad i’r cynnig hwn ac nid oeddem o’r farn ei fod wedi’i ategu gan ddadl ddarbwyllol. Felly, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, cynigiwn gadw’r adran etholiadol fel y nodir yn yr Adroddiad Cynigion Drafft, gyda 1,569 o etholwyr (rhagamcenir 1,696) a gynrychiolir gan 1. Mae hyn 2% yn is na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd. Cynigiwn yr enw Llandysul i’r adran etholiadol hon. Golyga hyn fod wardiau Pontsiân a Thregroes yng Nghymuned Llandysul y tu allan i unrhyw adran etholiadol. Datrysir y sefyllfa hon ar gyfer wardiau Pontsiân a Thregroes yn 6.54 i 6.57 isod.

Llangybi a Llanddewi Brefi

6.38 Mae adran etholiadol bresennol Llangybi yn cynnwys wardiau Cellan gyda 301 o etholwyr (rhagamcenir 309) a gyda 207 o etholwyr (rhagamcenir 213) yng Nghymuned Llanfair Clydogau, wardiau Llangybi gyda 357 o etholwyr

- 25 -

(rhagamcenir 367) a Silian gyda 179 o etholwyr (rhagamcenir 184) yng Nghymuned Llangybi a ward Gartheli gyda 148 o etholwyr (rhagamcenir 152) yng Nghymuned Nantcwnlle, ac mae ganddi gyfanswm o 1,192 o etholwyr (rhagamcenir 1,225) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 16% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Llangeitho yn cynnwys Cymuned Llangeitho, sy’n cynnwys wardiau cymunedol Gwynfil, Llanbadarn Odwyn a Phenuwch a Chymuned Llanddewi Brefi, gyda chyfanswm o 1,200 o etholwyr (rhagamcenir 1,234) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 15% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417. Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom gynnig cyfuno Cymuned Llanddewi Brefi ag adran etholiadol bresennol Llangybi, i greu adran etholiadol â 1,716 o etholwyr (rhagamcenir 1,764) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai hyn 7% yn uwch na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1, 608 o etholwyr i bob cynghorydd.

6.39 Cawsom wrthwynebiad gan Gyngor Cymuned Nantcwnlle a Chyngor Cymuned Llangeitho. Gwrthwynebiad Cyngor Cymuned Nantcwnlle oedd y byddai’r newidiadau’n golygu y byddai tri chynghorydd sir a fyddai’n gorfod mynychu cyfarfodydd cynghorau cymuned eraill yn ogystal â’r rheiny y maent yn eu mynychu eisoes. Nodwyd hefyd y byddai’r tair ward yn Nantcwnlle, sef Gartheli, Nantcwnlle a Threfilan, wedi’u rhannu rhwng tair adran etholiadol arfaethedig. Archwilir y gwrthwynebiad a fynegwyd gan Gyngor Cymuned Nantcwnlle ym mharagraff 6,18 uchod, ynghyd â newid i’r cynigion drafft ar gyfer adran etholiadol arfaethedig Ciliau Aeron. Gwrthwynebiad Cyngor Cymuned Llangeitho oedd eu bod yn berffaith fodlon â’r trefniadau presennol a bod y cynghorydd lleol yn byw yn yr ardal ac yn deall sut mae ardal wledig yn gweithredu o ddydd i ddydd. Archwiliwn y gwrthwynebiad a fynegwyd gan Gyngor Cymuned Llangeitho yn fanylach ym mharagraffau 6.50 i 6.53 isod, gan ein bod o’r farn ei fod yn ymwneud yn fwy uniongyrchol â’r cynnig ar gyfer Tregaron a Llangeitho. Hefyd, cawsom gynrychiolaeth gan Gyngor Sir Ceredigion i fynegi eu bod wedi penderfynu derbyn y cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon.

6.40 Er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, cynigiwn y dylid cadw’r cynllun a gynigiwyd yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, sef cyfuno Cymuned Llanddewi Brefi ag adran etholiadol bresennol Llangybi, gyda 1,716 o etholwyr (rhagamcenir 1,764) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 7% yn uwch na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd. Cynigiwn yr enw Llangybi a Llanddewi Brefi i’r adran etholiadol hon.

Llansanffraid

6.41 Mae adran etholiadol bresennol Llansanffraid, sydd â 1,980 o etholwyr (rhagamcenir 2,036) yn cynnwys Cymuned Llansanffraid gyda 1,020 o etholwyr (rhagamcenir 1,049) a wardiau Llanbadarn Trefeglwys gyda 593 o etholwyr (rhagamcenir 610) a Llanddewi Aberarth gyda 367 o etholwyr (rhagamcenir 377) sy’n ffurfio Cymuned Dyffryn Arth. Cynrychiolir yr adran etholiadol hon gan 1 cynghorydd, ac mae 40% yn uwch na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417. Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom gynnig cadw Cymuned Llansanffraid gyda ward Llanbadarn Trefeglwys yng Nghymuned Dyffryn Arth i greu adran etholiadol â 1, 613 o etholwyr (rhagamcenir 1,659) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd.

- 26 -

Byddai hyn bron yn gyfartal (llai na 0.5% yn uwch) â chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd

6.42 Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau i’r cynigion hyn. Cawsom gynrychiolaeth gan Gyngor Sir Ceredigion i fynegi eu bod wedi penderfynu derbyn y cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon.

6.43 Nodasom y gynrychiolaeth, a chan na chafwyd unrhyw wrthwynebiad a chan fod y cynnig yn gwella cydraddoldeb etholiadol ar gyfer yr ardal, cynigiwn dwyn y cynnig drafft hwn yn ei flaen, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Cynigiwn gadw Cymuned Llansanffraid gyda ward Llanbadarn Trefeglwys yng Nghymuned Dyffryn Arth, i greu adran etholiadol â 1,613 o etholwyr (rhagamcenir 1,659). Pe byddai 1 cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai hyn bron yn gyfartal (llai na 0.5% yn uwch) na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd. Cynigiwn yr enw Llansanffraid i’r adran etholiadol hon. Mae hyn yn gadael ward Llanddewi Aberarth yng Nghymuned Dyffryn Arth y tu allan i unrhyw adran etholiadol. Manylir ar y cynnig ar gyfer ward Llanddewi Aberarth yn 6.12 i 6.14 uchod.

Melindwr

6.44 Mae adran etholiadol bresennol Melindwr yn cynnwys wardiau Goginan gyda 284 o etholwyr (rhagamcenir 292), Llanbadarn y Creuddyn Uchaf gyda 179 o etholwyr (rhagamcenir 285) a Phenllwyn gyda 418 o etholwyr (rhagamcenir 430) yng Nghymuned Melindwr, Cymuned Blaenrheidol gyda 362 o etholwyr (rhagamcenir 372) a Chymuned Pontarfynach gyda 395 o etholwyr (rhagamcenir 406) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn yn arwain at lefel gynrychiolaeth o 1,638 o etholwyr i bob cynghorydd (rhagamcenir 1,684), sydd 16% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom gynnig cyfuno wardiau Goginan a Phenllwyn yng Nghymuned Melindwr â Chymunedau Blaenrheidol a Phontarfynach i greu adran etholiadol â 1,459 o etholwyr (rhagamcenir 1,500). Pe byddai 1 cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai hyn 9% yn is na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd.

6.45 Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau i’r cynigion hyn. Cawsom gynrychiolaeth gan Gyngor Sir Ceredigion i fynegi eu bod wedi penderfynu derbyn y cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon.

6.46 Nodasom y gynrychiolaeth ac roeddem o’r farn na chafwyd unrhyw wrthwynebiadau a bod y cynnig yn gwella cydraddoldeb etholiadol ar gyfer yr ardal honno. Felly, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, cynigiwn dwyn y cynnig drafft yn ei flaen. Cynigiwyd eisoes yn 6.29 i 6.31 uchod y dylid cyfuno ward Llanbadarn y Creuddyn Uchaf yng Nghymuned Melindwr ag adran etholiadol Llanfarian. Cynigiwn gyfuno wardiau Goginan a Phenllwyn yng Nghymuned Melindwr â Chymunedau Blaenrheidol a Phontarfynach i greu adran etholiadol â 1,459 o etholwyr (rhagamcenir 1,500). Pe byddai 1 cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai hyn 9% yn is na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd. Cynigiwn yr enw Melindwr i’r adran etholiadol hon.

- 27 -

Y Ceinewydd a Llandysiliogogo

6.47 Mae adran etholiadol bresennol Y Ceinewydd, sydd â 974 o etholwyr (rhagamcenir 1,001) yn cynnwys Cymuned Y Ceinewydd yn unig. Cynrychiolir yr adran etholiadol hon gan 1 cynghorydd ac mae 31% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Llandysiliogogo yn cynnwys Cymunedau Llandysiliogogo, sydd â 923 o etholwyr, a Llanllwchaiarn, sydd â 654 o etholwyr, gyda chyfanswm o 1,577 o etholwyr (rhagamcenir 1,621). Cynrychiolir yr adran etholiadol hon gan 1 cynghorydd ac mae 11% yn uwch na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom gynnig cyfuno Cymuned Llanllwchaiarn â Chymuned Y Ceinewydd i greu adran etholiadol â 1,628 o etholwyr (rhagamcenir 1,673). Pe byddai 1 cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai hyn 1% yn uwch na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd.

6.48 Cawsom wrthwynebiadau gan Gyngor Cymuned Llanarth, Cyngor Cymuned Llandysiliogogo a Chyngor Cymuned Llanllwchaiarn. Cawsom gynrychiolaeth gan Gyngor Sir Ceredigion i fynegi eu bod wedi penderfynu derbyn y cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon. Roedd y gwrthwynebiad amodol gan Gyngor Cymuned Llanarth wedi’i seilio ar y modd y byddai’r cynigion drafft yn effeithio ar gynrychiolaeth ar lefel gymunedol, ac rydym wedi ateb hynny ym mharagraff 6.24 uchod. Y gwrthwynebiad gan Gyngor Cymuned Llandysiliogogo oedd bod Cymunedau Llanllwchaiarn a Llandysiliogogo yn cymysgu â’i gilydd yn naturiol a bod Y Ceinewydd yn dref â natur hollol wahanol i adran etholiadol Llandysiliogogo, sy’n ardal wledig. Roedd gwrthwynebiad Cyngor Cymuned Llanllwchaiarn wedi’i seilio ar nifer o bwyntiau. Yn gyntaf, bod yr Adroddiad Cynigion Drafft wedi’i seilio ar fathemateg i fodloni’r cysyniad o gyfartaledd sirol. Nodwyd bod Cymunedau Llanllwchaiarn a Llandysiliogogo yn endidau cymdeithasol cryf sydd wedi bodoli trwy’r oesoedd. Yn ddaearyddol, saif y cymunedau bob ochr i’r afon Soden ac mae undod cymdeithasol, ieithyddol a diwylliannol rhwng y ddwy gymuned. Awgrymwyd hefyd bod y cynigion yn mynd yn erbyn datblygiad allweddol ac ysbryd yr ardal. Rydym wedi ateb y feirniadaeth hon, sy’n gamsyniad yn ein barn ni, ym mharagraff 6.34 uchod.

6.49 Fel y mynegwyd yn 6.34, nodasom y gwrthwynebiadau ac roeddem o’r farn nad oedd y gynrychiolaeth gan Gyngor Cymuned Llandysiliogogo yn arbennig o gymhellol. Mae’r Ceinewydd yn dref fechan sy’n dibynnu ar dwristiaeth yn bennaf, ac mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ei dosbarthu fel Trefi a Chyrion Trefi – Prin eu poblogaeth. Hefyd, nid oes unrhyw reswm i gredu na fyddai’r ddwy gymuned yn gallu cymysgu a chydweithio â’i gilydd o hyd tuag at nodau rhanedig. Gwnaed y gwrthwynebiad hwn gan Gyngor Cymuned Llanllwchaiarn hefyd, ynghyd â’r cysylltiadau hanesyddol rhwng y ddwy gymuned. Fodd bynnag, mae ymchwil wedi dangos bod yr ardal a elwir Y Ceinewydd erbyn hyn yn rhan o blwyf Llanllwchaiarn yn hanesyddol, gan ddangos bod cysylltiadau hanesyddol rhwng y ddwy ardal. Amcan y cynigion drafft oedd mynd i’r afael â’r orgynrychiolaeth yn adran etholiadol Y Ceinewydd, lle y cynrychiolir 974 o etholwyr gan 1 cynghorydd, sydd 31% yn is na chyfartaledd presennol y sir. Mae’r Ceinewydd wedi’i hamgylchynu’n llwyr gan Gymuned Llanllwchaiarn tua’r tir, felly rhaid i unrhyw gynnig i ddatrys yr orgynrychiolaeth hon gynnwys Cymuned Llanllwchaiarn.

- 28 -

Oherwydd yr orgynrychiolaeth sylweddol yn Y Ceinewydd, sydd 31% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, a’r ffaith ei bod wedi’i hamgylchynu’n llwyr gan Gymuned Llanllwchaiarn tua’r tir, deuwn i’r casgliad bod angen gwneud newidiadau i’r trefniadau presennol ar gyfer Y Ceinewydd sy’n cynnwys Llanllwchaiarn. Am y rhesymau hyn, rydym yn fodlon o hyd bod ein cynigion drafft yn cynnig yr opsiwn gorau, sef cyfuno Cymuned Llanllwchaiarn â Chymuned Y Ceinewydd i greu adran etholiadol â 1,628 o etholwyr (rhagamcenir 1,673). Pe byddai 1 cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai hyn 1% yn uwch na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd. Cynigiwn yr enw Y Ceinewydd i’r adran etholiadol hon. Manylir ar y cynigion ar gyfer Cymuned Llandysiliogogo, sef cyfuno Cymuned Llandysiliogogo â ward Llanarth yng Nghymuned Llanarth, ym mharagraff 6.34 uchod.

Tregaron a Llangeitho

6.50 Mae adran etholiadol bresennol Tregaron yn cynnwys Cymuned Tregaron â chyfanswm o 995 o etholwyr (rhagamcenir 1,095) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 30% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Llangeitho yn cynnwys Cymuned Llangeitho gyda 676 o etholwyr (rhagamcenir 695) a Chymuned Llanddewi Brefi gyda 524 o etholwyr (rhagamcenir 539), gan roi cyfanswm o 1,200 o etholwyr (rhagamcenir 1,234) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 15% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom gynnig cyfuno Cymuned Llangeitho â Chymuned Tregaron i greu adran etholiadol â 1,671 o etholwyr (rhagamcenir 1,790). Pe byddai 1 cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai hyn 4% yn uwch na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd.

6.51 Cawsom un gwrthwynebiad a dwy gynrychiolaeth o blaid ein cynigion; un gan Gyngor Cymuned Ceredigion, a oedd wedi penderfynu derbyn y cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon, a’r llall gan Gyngor Tref Tregaron, a oedd hefyd yn derbyn y cynigion drafft. Y gwrthwynebiad gan Gyngor Cymuned Llangeitho oedd eu bod yn berffaith fodlon â’r trefniadau presennol a bod y cynghorydd lleol yn byw yn yr ardal ac yn deall sut mae ardal wledig yn gweithredu o ddydd i ddydd. Teimlwyd hefyd y byddai gwahaniaeth barn rhwng Cyngor Tref Tregaron a Chyngor Cymuned Llangeitho, gan y byddai barn pobl y dref yn wahanol i farn y rheiny sy’n byw yng nghefn gwlad.

6.52 Nodasom y gwrthwynebiad gan Gyngor Cymuned Llangeitho ond nid oeddem o’r farn eu bod yn cyflwyno dadl gymhellol yn erbyn y cynnig. Er bod nifer yr etholwyr yng Nghymuned Llangeitho (676) 32% yn is nag yng Nghymuned Tregaron (995) ar yr wyneb, mae Cymuned Llangeitho yn llai o ran ei maint hefyd, sef 38.3 km2 o’i chymharu â Chymuned Tregaron, sy’n 86.4 km2. Mae’r ardal a gwmpesir gan Gymuned Tregaron yn hollol wledig hefyd, heblaw am y dref, a chaiff ei dosbarthu’n Pentref, Pentrefan neu Aneddiadau Ynysig – Prin eu Poblogaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, fel Cymuned Llangeitho. Felly, mae’n debygol bod Cyngor Tref Tregaron yn ymwybodol o anghenion y rheiny sy’n byw mewn amgylchedd gwledig ac yn cydymdeimlo â nhw, fel y byddai unrhyw ddarpar gynghorydd.

- 29 -

6.53 Nid oeddem yn fodlon y dylai’r adrannau cyffiniol hyn amrywio cymaint oddi wrth y cyfartaledd sirol presennol. Felly, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, cynigiwn gadw’r adran etholiadol fel y nodir yn yr Adroddiad Cynigion Drafft, gyda 1,671 o etholwyr (rhagamcenir 1,790) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd, sydd 4% yn uwch na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd. Cynigiwn yr enw Tregaron a Llangeitho i’r adran etholiadol hon. Manylir ar y cynnig ar gyfer Cymuned Llanddewi Brefi, sef ei chyfuno ag adran etholiadol bresennol Llangybi, ym mharagraff 6.40 uchod.

Troedyraur a Chapel Dewi

6.54 Mae adran etholiadol bresennol Troedyraur yn cynnwys Cymuned Troedyraur sydd â 1,101 o etholwyr (rhagamcenir 1,132) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 22% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Capel Dewi yn cynnwys wardiau Capel Dewi, Pontsiân a Thregroes yng Nghymuned Llandysul, a gynrychiolir gan 1 cynghorydd, gan roi cyfanswm o 1,136 o etholwyr (rhagamcenir 1,168) i bob cynghorydd. Mae hyn 20% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn ein Hadroddiad Cynigion Drafft, gwnaethom gynnig cyfuno wardiau Pontsiân a Thregroes yng Nghymuned Llandysul ag adran etholiadol bresennol Troedyraur i greu adran etholiadol â 1,817 o etholwyr (rhagamcenir 1,868). Pe byddai 1 cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai hyn 13% yn uwch na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd.

6.55 Cawsom un gynrychiolaeth o blaid ein cynnig, gan Gyngor Sir Ceredigion, ac un gwrthwynebiad gan Gyngor Cymuned Llandysul. Penderfynodd Cyngor Sir Ceredigion dderbyn y cynnig drafft ar gyfer yr ardal hon, ond ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llandysul i fynegi yr hoffent i adrannau etholiadol presennol Capel Dewi a Thref Llandysul aros fel y maent, gan nodi bod wardiau Pontsiân a Thregroes yn agos at dref Llandysul, sy’n gwasanaethu’r ardal.

6.56 Fel y mynegwyd yn 6.36 uchod, fe ystyriom y gwrthwynebiad gan Gyngor Cymuned Llandysul, ond nid oeddem o’r farn ei fod yn cael ei ategu gan unrhyw ddadleuon argyhoeddiadol. Ar hyn o bryd, mae’r gymuned wedi’i rhannu rhwng adran etholiadol Tref Llandysul (ward Trefol yng Nghymuned Llandysul) ac adran etholiadol Capel Dewi (wardiau Capel Dewi, Pontsiân a Thregroes yng Nghymuned Llandysul). Ar hyn o bryd, gorgynrychiolir adran etholiadol Tref Llandysul, sydd 19% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Gorgynrychiolir adran etholiadol Capel Dewi hefyd, sydd 20% yn is na chyfartaledd presennol y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Cynigiwyd eisoes ym mharagraffau 6.35 i 6.37 uchod y dylid cyfuno ward Capel Dewi yng Nghymuned Llandysul ag adran etholiadol Tref Llandysul, gan adael wardiau Pontsiân a Thregroes yng Nghymuned Llandysul y tu allan i unrhyw adran etholiadol. Trwy gynnwys wardiau Pontsiân a Thregroes yn adran etholiadol bresennol Troedyraur, caiff yr anghysondeb hwn ei ddatrys, wrth wella’r cydraddoldeb etholiadol ar gyfer yr ardal.

6.57 Nodasom y gwrthwynebiad i’r cynnig hwn, ond nid oeddem o’r farn ei bod yn wrthwynebiad arbennig o argyhoeddiadol. Felly, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, cynigiwn gadw’r adran etholiadol fel y nodir yn yr Adroddiad Cynigion

- 30 -

Drafft, sef cyfuno wardiau Pontsiân a Thregroes ag adran etholiadol bresennol Troedyraur i greu adran etholiadol newydd â 1,817 o etholwyr (rhagamcenir 1,868) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn 13% yn uwch na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd. Cynigiwn yr enw Troedyraur i’r adran etholiadol hon.

Crynodeb o’r Trefniadau Arfaethedig

6.58 Mae’r trefniadau etholiadol arfaethedig (fel y dangosir yn Atodiad 3) yn darparu lefel gynrychiolaeth sy’n amrywio o fod 29% yn is i 24% yn uwch na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd (yn seiliedig ar y ffigurau etholiadol cyfredol). Mae gan un (3%) o’r adrannau etholiadol lefel gynrychiolaeth sydd rhwng 25% a 50% yn uwch neu’n is na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd; mae gan 15 (44%) o’r adrannau etholiadol lefel gynrychiolaeth sydd rhwng 10% a 25% yn uwch neu’n is na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd; ac mae’r 18 (53%) sy’n weddill 10% yn uwch neu’n is na chyfartaledd arfaethedig y sir, sef 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae hyn o gymharu â’r trefniadau etholiadol presennol (fel y dangosir yn Atodiad 2), lle mae’r lefel gynrychiolaeth yn amrywio o 44% yn is i 67% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae gan un (3%) o’r adrannau etholiadol lefel gynrychiolaeth sydd fwy na 50% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd; mae gan 12 (30%) o’r adrannau etholiadol lefelau cynrychiolaeth sydd rhwng 25% a 50% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd; mae gan 19 (47%) o’r adrannau etholiadol lefelau cynrychiolaeth sydd rhwng 10% a 25% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd; ac mae gan yr 8 (20%) o adrannau etholiadol sy’n weddill lefelau cynrychiolaeth sydd llai na 10% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae’r trefniadau etholiadol arfaethedig yn arwain at 9 (26%) o adrannau etholiadol â lefelau cynrychiolaeth sy’n fwy na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd a 25 (74%) o adrannau etholiadol â lefelau cynrychiolaeth sy’n llai na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae hyn yn cymharu â’r trefniadau presennol lle mae gan 7 (17%) o’r adrannau etholiadol lefelau cynrychiolaeth sy’n fwy na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd, ac mae gan 33 (83%) o’r adrannau etholiadol lefelau cynrychiolaeth sy’n llai na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

6.59 Wrth baratoi cynllun o drefniadau etholiadol, mae angen ystyried sawl mater yn y ddeddfwriaeth, yn ogystal â Chyfarwyddyd y Gweinidog. Yn aml, nid oes modd datrys pob un o’r materion hyn sy’n gwrthdaro ambell waith, oherwydd y gofyniad i ddefnyddio’r cymunedau a’r wardiau cymunedol cyfredol fel sylfeini ar gyfer adrannau etholiadol, yn ogystal ag ystyried lefel amrywiol y gynrychiolaeth yn yr ardaloedd hyn ar hyn o bryd. Yn ein cynllun arfaethedig, rydym wedi rhoi pwyslais ar wella cydraddoldeb etholiadol, gan symud tuag at gael pob cynghorydd i gynrychioli 1,750 o etholwyr yn ogystal â chadw adrannau etholiadol ag un aelod, lle bo hynny’n bosibl. Rydym yn sylweddoli y byddai creu adrannau etholiadol sy’n wahanol i’r patrwm a geir ar hyn o bryd yn amharu’n anochel ar y cysylltiadau sefydledig rhwng cymunedau, ac y gall bontio ardaloedd cynghorau cymuned mewn modd anghyfarwydd. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr adrannau etholiadol newydd yn adlewyrchu cyfuniadau synhwyrol o gymunedau a

- 31 -

wardiau cymunedol cyfredol. Rydym wedi edrych ar bob un o’r ardaloedd hyn, ac rydym yn derbyn y byddai’n anodd cyflawni’r trefniadau etholiadol sy’n cadw at y cyfuniad cyfredol o gymunedau a wardiau cymunedol mewn adrannau etholiadol unigol, heb gael effaith niweidiol ar un neu fwy o’r materion eraill y mae’n rhaid i ni eu hystyried.

7. CYNIGION

7.1 Cynigiwn gyngor sy’n cynnwys 37 o aelodau a 34 o adrannau etholiadol, fel y nodir yn Atodiad 3. At ddibenion cymharu, mae trefniadau etholiadol presennol y sir i’w gweld yn Atodiad 2. Dangosir ffiniau’r adrannau etholiadol arfaethedig gan linellau melyn parhaus ar y map sy’n cyd-fynd â’r Adroddiad hwn ac y gellir ei weld yn swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion a swyddfa’r Comisiwn yng Nghaerdydd.

8. CYDNABYDDIAETHAU

8.1 Dymunwn ddiolch i’r prif gyngor a’r holl gynghorau cymuned am eu cymorth yn ystod yr arolwg hwn ac i bob sefydliad ac unigolyn a gyflwynodd gynrychiolaethau i ni.

9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

9.1 Ar ôl cwblhau ein harolwg o Sir Ceredigion a chyflwyno ein hargymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch trefniadau etholiadol y prif awdurdod ar gyfer y dyfodol, rydym wedi cyflawni’n rhwymedigaeth statudol yn unol â’r cyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

9.2 Gwaith Llywodraeth Cynulliad Cymru, os gwêl yn dda, yw eu derbyn naill ai fel y’u cyflwynwyd gan y Comisiwn neu eu newid ac, os bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn penderfynu gweithredu’r cynigion hyn â newidiadau, gall gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal arolwg pellach.

9.3 Dylid cyfeirio unrhyw gynrychiolaethau pellach ynghylch materion a gynhwysir yn yr adroddiad hwn at Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dylid cyflwyno unrhyw gynrychiolaethau cyn gynted ag y bo modd a heb fod yn hwyrach na chwe wythnos o’r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dylid cyfeirio cynrychiolaethau at:

Y Tîm Democratiaeth Is-adran Polisi Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ

- 32 -

MR P J WOOD (Cadeirydd)

Y PARCH. HYWEL MEREDYDD DAVIES BD (Dirprwy Gadeirydd)

Mr D J BADER (Aelod)

E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD Siartredig (Ysgrifennydd)

Mai 2011

- 33 - Atodiad 1

RHESTR O’R TERMAU A DDEFNYDDIR YN YR ADRODDIAD HWN

Comisiwn Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru

Maint y cyngor Nifer y cynghorwyr sy’n cael eu hethol i’r cyngor

Cyfarwyddiadau a gyflwynwyd i’r Comisiwn gan y Cyfarwyddiadau Llywodraeth o dan Adran 59 yn Neddf 1972

Faint o gynghorwyr ddylai fod ar gyngor ardal llywodraeth Trefniadau leol, sut y dylid rhannu’r ardal at ddibenion ethol etholiadol cynghorwyr, nifer y cynghorwyr ym mhob adran etholiadol, ac enw unrhyw ardal etholiadol

Mae’r prif ardaloedd yn cael eu rhannu’n adrannau Adrannau etholiadol etholiadol at ddibenion ethol cynghorwyr ac fe’u gwelir o bryd i’w gilydd yn wardiau ar lafar

Arolwg lle mae’r Comisiwn yn ystyried y trefniadau Arolwg etholiadol etholiadol mewn ardal llywodraeth leol

Nifer yr unigolion sydd â’r hawl i bleidleisio mewn ardal Etholaeth llywodraeth leol Yr egwyddor lle dylai pob pleidlais mewn prif ardal fod cyn Cydraddoldeb bwysiced â’i gilydd. Caiff hyn ei fesur drwy gymharu etholiadol adrannau etholiadol a nifer yr etholwyr a gynrychiolir gan bob cynghorydd yn y sir ar gyfartaledd. Llywodraeth Llywodraeth Cynulliad Cymru

Unigolyn neu gorff sydd â buddiant mewn canlyniad arolwg etholiadol e.e. y prif gyngor dan sylw, ASau ac Rhywun â buddiant ACau lleol, pleidiau gwleidyddol, cynghorau cymuned a thref

Adran etholiadol mewn prif ardal a gynrychiolir gan fwy Adran â sawl aelod nag un cynghorydd

Gorchymyn gan y Llywodraeth sy’n gweithredu cynigion y Gorchymyn Comisiwn, naill ai fel y cawsant eu cyflwyno neu wedi’u haddasu

Yr ardal a lywodraethir gan brif gyngor, h.y. cyngor neu Prif ardal fwrdeistref sirol yng Nghymru

- 1 - Atodiad 1

Yng Nghymru, un o’r awdurdodau unedol: cyngor neu Prif gyngor gyngor bwrdeistref sirol

Etholaeth a Y rhagolygon pum mlynedd a ddarperir gan y cyngor am ragamcanir nifer yr etholwyr yn yr ardal dan arolwg

Corff neu unigolyn sy’n ymateb i ymgynghoriad y Ymatebydd Comisiwn drwy gyflwyni cynrychiolaethau neu awgrymu cynigion amgen

Rheolau y mae’n rhaid i’r Comisiwn gadw atynt wrth Rheolau ystyried trefniadau etholiadol

Adran etholiadol Adran etholiadol mewn prif awdurdod a gynrychiolir gan un aelod un cynghorydd

Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Deddf 1972 Ddeddf 1994

Deddf 1994 Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994

Prif gyngor - yr un haen o lywodraeth leol sy’n gyfrifol am holl swyddogaethau llywodraeth leol, neu bron bob un Awdurdod unedol ohonynt, yn ei ardal. Yng Nghymru, cafodd ei hun ei sefydlu i ddisodli’r hen system ddwy haen sef cyngor sir a chyngor dosbarth: cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol Etholaethau cynghorau cymuned (nid oes wardiau ym Wardiau mhob ardal cyngor cymuned). Defnyddir y term hefyd i ddisgrifio prif adrannau etholiadol y cyngor

- 2 - CYNGOR SIR CEREDIGION Atodiad 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR Tudalen 1

% Amrywiaeth % Amrywiaeth NIFER ETHOLAETH CYMHAREB ETHOLAETH CYMHAREB Rhif ENW DISGRIFIAD o'r cyfartaledd o'r cyfartaledd CYNGHORWYR 2009 2009 2014 2014 Sirol Sirol

1 Aberaeron Cymuned Aberaeron 1 1,171 1,171 -17% 1,204 1,204 -19%

2 Aberporth Cymuned Aberporth 1 1,944 1,944 37% 1,998 1,998 34%

3 Aberystwyth Bronglais Ward Bronglais yng Nghymuned Aberystwyth 1 1,725 1,725 22% 1,898 1,898 27%

4 Aberystwyth Canol Ward y Canol yng Nghymuned Aberystwyth 1 1,495 1,495 6% 1,645 1,645 10%

5 Aberystwyth Gogledd Ward y Gogledd yng Nghymuned Aberystwyth 1 1,632 1,632 15% 1,795 1,795 20%

6 Aberystwyth Penparcau Ward Penparcau yng Nghymuned Aberystwyth 2 2,277 1,139 -20% 2,505 1,253 -16%

7 Aberystwyth Rheidol Ward Rheidol yng Nghymuned Aberystwyth 1 1,663 1,663 17% 1,829 1,829 23%

8 Beulah Cymuned Beulah 1 1,393 1,393 -2% 1,432 1,432 -4%

9 Borth Cymunedau Borth a Genau'r Glyn 1 1,687 1,687 19% 1,734 1,734 16%

10 Capel Dewi Wardiau Capel Dewi, Pontsiân a Thregroes yng Nghymuned Llandysul 1 1,136 1,136 -20% 1,168 1,168 -22%

11 Aberteifi - Mwldan Ward Mwldan yng Nghymuned Aberteifi 1 1,402 1,402 -1% 1,542 1,542 3%

12 Aberteifi - Rhyd y Fuwch Ward Rhyd y Fuwch yng Nghymuned Aberteifi 1 928 928 -34% 1,021 1,021 -32%

13 Aberteifi - Teifi Ward Teifi yng Nghymuned Aberteifi 1 827 827 -42% 910 910 -39%

14 Ceulan-y-maes-mawr Cymunedau Ceulan-y-maes-mawr, ac Ysgubor-y-coed 1 1,539 1,539 9% 1,582 1,582 6%

15 Ciliau Aeron Cymunedau Ciliau Aeron a Henfynyw 1 1,607 1,607 13% 1,713 1,713 15%

16 Faenor Cymuned Faenor 1 2,366 2,366 67% 2,567 2,567 72%

17 Llanbedr Pont Steffan Cymuned Llanbedr Pont Steffan 2 1,993 997 -30% 2,192 1,096 -27%

18 Llanarth Cymuned Llanarth 1 1,263 1,263 -11% 1,299 1,299 -13%

19 Llanbadarn Fawr - Padarn Ward Padarn yng Nghymuned Llanbadarn Fawr 1 792 792 -44% 871 871 -42%

20 Llanbadarn Fawr - Sulien Ward Sulien yng Nghymuned Llanbadarn Fawr 1 1,823 1,823 29% 2,005 2,005 34%

21 Llandyfrïog Cymuned Llandyfrïog 1 1,433 1,433 1% 1,473 1,473 -1% Atodiad2 22 Llandysiliogogo Cymunedau Landysiliogogo a Llanllwchaearn 1 1,577 1,577 11% 1,621 1,621 9% Tudalen 1

23 Tref Llandysul Ward Trefol yng Nghymuned Llandysul 1 1,149 1,149 -19% 1,264 1,264 -15%

24 Llanfarian Cymuned Llanfarian 1 1,190 1,190 -16% 1,223 1,223 -18%

25 Llanfihangel Ystrad Cymuned Llanfihangel Ystrad a wardiau Nantcwnlle a Threfilan yng Nghymuned Nantcwnlle 1 1,668 1,668 18% 1,715 1,715 15% CYNGOR SIR CEREDIGION Atodiad 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR Tudalen 2

% Amrywiaeth % Amrywiaeth NIFER ETHOLAETH CYMHAREB ETHOLAETH CYMHAREB Rhif ENW DISGRIFIAD o'r cyfartaledd o'r cyfartaledd CYNGHORWYR 2009 2009 2014 2014 Sirol Sirol

26 Llangeitho Cymunedau Llanddewi Brefi a Llangeitho 1 1,200 1,200 -15% 1,234 1,234 -17%

27 Llangybi Cymunedau Llanfair Clydogau a Llangybi a ward Gartheli yng Nghymuned Nantcwnlle 1 1,192 1,192 -16% 1,225 1,225 -18%

28 Llanrhystud Cymunedau a Llanrhystud 1 1,249 1,249 -12% 1,283 1,283 -14%

29 Llansanffraid Cymunedau Dyffryn Arth a Llansanffraid 1 1,980 1,980 40% 2,036 2,036 36%

30 Llanwenog Cymunedau Llanwenog a Llanwnnen 1 1,433 1,433 1% 1,473 1,473 -1%

31 Lledrod Cymunedau Lledrod, , ac 1 1,800 1,800 27% 1,850 1,850 24%

32 Melindwr Cymunedau Blaenrheidol, Melindwr a Phontarfynach 1 1,638 1,638 16% 1,684 1,684 13%

33 Cei Newydd Cymuned Cei Newydd 1 974 974 -31% 1,001 1,001 -33%

34 Penbryn Cymunedau a Phenbryn 1 1,808 1,808 28% 1,858 1,858 24%

35 Pen-parc Cymunedau a'r Ferwig 1 1,987 1,987 40% 2,043 2,043 37%

36 Tirymynach Cymuned Tirymynach 1 1,469 1,469 4% 1,510 1,510 1%

37 Trefeurig Cymuned Trefeurig 1 1,416 1,416 0% 1,456 1,456 -2%

38 Tregaron Cymuned Tregaron 1 995 995 -30% 1,095 1,095 -27%

39 Troedyraur Cymuned Troedyraur 1 1,101 1,101 -22% 1,132 1,132 -24%

40 Ystwyth Cymunedau a Thrawsgoed 1 1,572 1,572 11% 1,616 1,616 8%

CYFANSYMIAU 42 59,494 1,417 62,702 1,493

Cymhareb yw’r nifer o etholwyr i bob cynghorydd. Darparwyd yr ystadegau etholiadol gan Gyngor Sir Ceredigion

2009 2014

Mwy na ± 50% o gyfartaledd y Sir 1 3% 1 3%

Rhwng ± 25% a ± 50% o gyfartaledd y Sir 12 30% 12 30%

Rhwng ± 10% a ± 25% o gyfartaledd y Sir 19 47% 18 45% Atodiad2 Rhwng 0% a ± 10% o gyfartaledd y Sir 8 20% 9 22% Tudalen 2 CYNGOR SIR CEREDIGION Atodiad 3 AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR Tudalen 1

% yr % yr NIFER Y ETHOLAETH CYMHAREB amrywiant o'r ETHOLAETH CYMHAREB amrywiant o'r Rhif ENW DISGRIFIAD CYNGHORWYR 2009 2009 cyfartaledd 2014 2014 cyfartaledd sirol sirol

1 Aberaeron Cymuned Aberaeron 1,171 (1,204) a ward Llanddewi Aberarth 367 (377) yng Nghymuned Dyffryn Arth 1 1,538 1,538 -4% 1,581 1,581 -7%

2 Aberporth Cymuned Aberporth 1 1,944 1,944 21% 1,998 1,998 18% 3 Aberystwyth Bronglais Ward Bronglais yng Nghymuned Aberystwyth 1 1,725 1,725 7% 1,898 1,898 12% 4 Canol Aberystwyth Ward y Canol yng Nghymuned Aberystwyth 1 1,495 1,495 -7% 1,645 1,645 -3% 5 Gogledd Aberystwyth Ward y Gogledd yng Nghymuned Aberystwyth 1 1,632 1,632 1% 1,795 1,795 6% 6 Aberystwyth Penparcau Ward Penparcau yng Nghymuned Aberystwyth 2 2,277 1,139 -29% 2,505 1,253 -26% 7 Aberystwyth Rheidol Ward Rheidol yng Nghymuned Aberystwyth 1 1,663 1,663 3% 1,829 1,829 8% 8 Beulah Cymuned Beulah 1 1,393 1,393 -13% 1,432 1,432 -15% 9 Borth Cymunedau Borth 1,144 (1,176) a Geneu'r Glyn 543 (558) 1 1,687 1,687 5% 1,734 1,734 2% 10 Aberteifi Cymuned Aberteifi 2 3,157 1,579 -2% 3,473 1,737 2%

11 Ceulan-y-maes-mawr Cymunedau Ceulan-y-maes-mawr 798 (820), Llangynfelyn 487 (501) ac Ysgubor-y-coed 254 (261) 1 1,539 1,539 -4% 1,582 1,582 -7%

12 Ciliau Aeron Cymunedau Ciliau Aeron 748 (768) a Henfynyw 859 (945) 1 1,607 1,607 0% 1,713 1,713 1%

13 Faenor a Phadarn Cymuned Faenor 2,366 (2,567) a ward Padarn 792 (871) yng Nghymuned Llanbadarn Fawr 2 3,158 1,579 -2% 3,438 1,719 1%

14 Llanbedr Pont Steffan Cymuned Llanbedr Pont Steffan 1 1,993 1,993 24% 2,192 2,192 29% 15 Llanbadarn Fawr - Sulien Ward Sulien yng Nghymuned Llanbadarn Fawr 1 1,823 1,823 13% 2,005 2,005 18% 16 Cymuned Llandyfriog 1 1,433 1,433 -11% 1,473 1,473 -13% 17 Llandysiliogogo a Llanarth Cymuned Llandysiliogogo 923 (949) a ward Llanarth 953 (980) yng Nghymuned Llanarth 1 1,876 1,876 17% 1,929 1,929 14% 18 Llandysul Wardiau Capel Dewi 420 (432) a Threfol 1,149 (1,264) yng Nghymuned Llandysul 1 1,569 1,569 -2% 1,696 1,696 0% Cymuned Llanfarian 1,190 (1,223) a ward Llanbadarn y Creuddyn Uchaf 179 (184) yng Nghymuned 19 Llanfarian 1 1,369 1,369 -15% 1,407 1,407 -17% Melindwr

Llanfihangel Ystrad, Mydroilyn a Cymuned Llanfihangel Ystrad 1,151 (1,183), ward Mydroilyn 310 (319) yng Nghymuned Llanarth a 20 1 1,978 1,978 23% 2,034 2,034 20% Nantcwnlle wardiau Nantcwnlle 314 (323) a Threfilan 203 (209) yng Nghymuned Nantcwnlle Cymunedau Llangybi 536 (551), Llanfair Clydogau 508 (522) a Llanddewi Brefi 524 (539) a ward 21 Llangybi a Llanddewi Brefi 1 1,716 1,716 7% 1,764 1,764 4% Gartheli 148 (152) yng Nghymuned Nantcwnlle 22 Llanrhystud Cymunedau Llangwyryfon 479 (492) a Llanrhystyd 770 (791) 1 1,249 1,249 -22% 1,283 1,283 -24% Atodiad 3 Atodiad Cymuned Llansanffraid 1,020 (1,049) a ward Llanbadarn Trefeglwys 593 (610) yng Nghymuned Tudalen 1 23 Llansanffraid 1 1,613 1,613 0% 1,659 1,659 -2% Dyffryn Arth 24 Llanwenog Cymunedau Llanwenog 1,037 (1,066) a Llanwnnen 396 (407) 1 1,433 1,433 -11% 1,473 1,473 -13% Cymunedau Lledrod 569 (585), Ysbyty Ystwyth 352 (362), Ystrad Fflur 588 (605) ac Ystrad Meurig 291 25 Lledrod 1 1,800 1,800 12% 1,851 1,851 9% (299) CYNGOR SIR CEREDIGION Atodiad 3 AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR Tudalen 2

% yr % yr NIFER Y ETHOLAETH CYMHAREB amrywiant o'r ETHOLAETH CYMHAREB amrywiant o'r Rhif ENW DISGRIFIAD CYNGHORWYR 2009 2009 cyfartaledd 2014 2014 cyfartaledd sirol sirol Cymunedau Blaenrheidol 362 (372) a Phontarfynach 395 (406) a wardiau Goginan 284 (292) a 26 Melindwr 1 1,459 1,459 -9% 1,500 1,500 -11% Phenllwyn 418 (430) yng Nghymuned Melindwr 27 Y Ceinewydd Cymunedau'r Ceinewydd 974 (1,001) a Llanllwchaiarn 654 (672) 1 1,628 1,628 1% 1,673 1,673 -1% 28 Penbryn Cymunedau Llangrannog 691 (710) a Phenbryn 1,117 (1,148) 1 1,808 1,808 12% 1,858 1,858 10% 29 Pen-parc Cymunedau Llangoedmor 971 (998) a'r Ferwig 1,016 (1,044) 1 1,987 1,987 24% 2,042 2,042 20% 30 Tirymynach Cymuned Tirymynach 1 1,469 1,469 -9% 1,510 1,510 -11% 31 Trefeurig Cymuned Trefeurig 1 1,416 1,416 -12% 1,456 1,456 -14% 32 Tregaron a Llangeitho Cymunedau Tregaron 995 (1,095) a Llangeitho 676 (695) 1 1,671 1,671 4% 1,790 1,790 6% Cymuned Troedyraur 1,101 (1,132) a wardiau Pontsiân 380 (391) a Thregroes 336 (345) yng 33 Troedyraur 1 1,817 1,817 13% 1,868 1,868 10% Nghymuned Llandysul 34 Ystwyth Cymunedau Llanilar 815 (838) a Thrawsgoed 757 (778) 1 1,572 1,572 -2% 1,616 1,616 -5% CYFANSWM 37 59,494 1,608 62,702 1,695

Cymhareb yw nifer yr etholwyr i bob cynghorydd Cynhwysir nifer yr etholwyr ar gyfer 2009 a 2014 (mewn cromfachau) yn nisgrifiad yr adrannau etholiadol hynny sy'n cynnwys mwy nag un gymuned / ward gymunedol Darparwyd y ffigurau etholiadol gan Gyngor Sir Ceredigion

2009 2014 Mwy na ± 50% o'r cyfartaledd sirol 0 0% 0 0% Rhwng ± 25% a ± 50% o'r cyfartaledd sirol 1 3% 2 6% Rhwng ± 10% a ± 25% o'r cyfartaledd sirol 15 44% 16 47% Rhwng 0% a ± 10% o'r cyfartaledd sirol 18 53% 16 47% Atodiad 3 Atodiad Tudalen 2

Atodiad

12 Mai 2009

Cyfarwyddiadau ynglŷn ag Arolygon o Drefniadau Etholiadol

Rwy’n ymwybodol eich bod chi wedi cychwyn gwaith rhagarweiniol yn y cylch o arolygon o drefniadau etholiadol ym mhob un o’r prif gynghorau. Mae cyflwyniadau a dderbyniais gan lywodraeth leol yn awgrymu i mi eich bod chi efallai wedi dehongli fy nghyfarwyddiadau i fod yn fwy cyfarwyddol na’r rhai a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym 1995 cyn y cylch adolygu diwethaf. Rwyf eisiau ei gwneud hi’n eglur mai nid felly y mae.

Cyhoeddwyd y cyfarwyddiadau er arweiniad i chi ac ni ddylid eu hystyried yn orchmynion. Ar lawer cyfrif - yn neilltuol, mewn perthynas â’r ardaloedd sy’n addas ar gyfer adrannau ag aelodau lluosog a’r amserlen - roedd y cyfarwyddiadau diwethaf yn fwy cyfarwyddol ond mewn perthynas â mater canolog y gymhareb rhwng cynghorwyr ac etholwyr, mae’r geiriad yn union debyg. Mae hyn yn golygu bod y gymhareb yn parhau fel nod i weithio tuag ato ac nid fel nod i’w gyflawni ym mhob achos. Wrth wneud hyn, dylid rhoi sylw i gymunedau lleol yn cael eu cynrychiolwyr canfyddadwy eu hun, hyd yn oed ble nad yw’r ffigwr dangosol o 1,750 o etholwyr/cynghorydd bob amser yn gyraeddadwy.

Wrth gwrs, rwy’n cydnabod er 1995 rydym wedi gweld cyflwyno trefniadau gweithredol neu amgen ymhlith prif gynghorau, ac efallai byddant yn arwyddocaol o ran nifer y cynghorwyr sydd eu hangen i wneud cyngor yn hollol ymarferol. Hefyd cafodd cyfarwyddiadau 1995 eu cyflwyno ar adeg pan oedd ad-drefnu’n digwydd, mewn awyrgylch gwleidyddol gwahanol i’r hyn sy’n bodoli nawr.

Yn olaf, hoffwn dynnu sylw at yr amodiad yn Atodlen 11 Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid ystyried yr angen i sefydlogi ffiniau sy’n hawdd eu hadnabod ac sy’n cydnabod cysylltiadau’r gymuned leol.

Rwy’n dymuno’n dda i chi yn y broses adolygu.

Yn gywir

______

Cyfieithiad Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yw hwn o lythyr gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. Atodiad 5

CRYNODEB O’R CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

1 Ysgrifennodd Cyngor Sir Ceredigion i ddweud bod y Cyngor wedi penderfynu derbyn Cynigion Drafft y Comisiynydd ac eithrio’r cynnig ar gyfer adrannau etholiadol presennol Llanbedr Pont Steffan a Llanwenog. Yn hynny o beth, penderfynodd y Cyngor mai’r cynnig a ffafrir ganddynt fyddai adran etholiadol ag aelod unigol ar gyfer Llanbedr Pont Steffan a chadw adran etholiadol bresennol Llanwenog ag un aelod. Roedd yr ymresymiad yn seiliedig ar wybodaeth leol, hanes a ffiniau traddodiadol a’r ffaith nad oes unrhyw beth yn gyffredin rhwng adran etholiadol drefol Llanbedr Pont Steffan ac adran etholiadol wledig Llanwenog, gan roi ystyriaeth briodol i wybodaeth leol a rôl arweinwyr y gymuned yn yr adrannau etholiadol hyn. Byddai disgwyl i adran etholiadol â dau aelod gynrychioli cymunedau annhebyg â gwahanol ofynion a disgwyliadau mewn modd y mae’r etholaeth yn ei haeddu yn anymarferol ac ni fyddai o fudd i ddemocratiaeth

2 Ysgrifennodd Cyngor Tref Aberteifi i ddweud eu bod yn teimlo’n gryf y dylid cadw’r trefniadau presennol oherwydd datblygiadau arfaethedig ac amddifadedd cymdeithasol, yn enwedig yn wardiau Mwldan a Theifi. Nodwyd hefyd bod y tri chynghorydd sir presennol yn cael eu boddi dan ofynion a cheisiadau gan yr etholaeth yn gyson wrth iddynt geisio dod o hyd i atebion i leddfu’r bygythiad posibl i sefydlogrwydd economaidd yn yr ardal.

3 Ysgrifennodd Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan i fynegi y dylid cadw lefel gynrychiolaeth bresennol y dref ar Gyngor Sir Ceredigion.

Ni theimlwyd mai’r cynnig hwn oedd y ffordd gywir ymlaen, gan fod y cynnig yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 7% yn uwch na’r cyfartaledd sirol. Mae gan Lanbedr Pont Steffan gyfran fawr o fyfyrwyr (nid oedd llawer ohonynt wedi cofrestru i bleidleisio) o gymharu â nifer y trigolion parhaol, nad oeddent wedi’u hystyried. Teimlwyd hefyd y byddai’r adran etholiadol arfaethedig yn lluniad artiffisial oddeutu 11 milltir o hyd heb ganolfan naturiol nac unrhyw gydlyniad, ac y byddai’n anodd ei chynrychioli.

Mynegodd Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan eu bod yn gryf o blaid Opsiwn 2 Llanbedr Pont Steffan, a gyflwynwyd yn y gynrychiolaeth gan Gyngor Sir Ceredigion. Roeddent o’r farn y byddai cyfuno adran etholiadol Llanbedr Pont Steffan ag adran etholiadol Llangybi (ac eithrio ward Gartheli) yn creu adran etholiadol fwy naturiol, yn cynnwys pentrefi Silian, Betws, Bledrws, Llangybi a Chellan, ynghyd â chanolfan naturiol. Hefyd, nododd Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan mai’r cynnig hwn fyddai’r mwyaf addas ar gyfer y cymunedau yn ardal Llanbedr Pont Steffan, o ystyried nifer y myfyrwyr heb eu cofrestru yn yr ardal honno a chydlyniad naturiol y cynnig.

Fe werthfawrogwyd er y byddai Opsiwn 2 yn cael effaith ôl-ddilynol ar adrannau etholiadol eraill, ni ddylid rhoi Llanbedr Pont Steffan a Llanwenog mewn adran etholiadol amhriodol ac artiffisial er mwyn hwylustod gweinyddol yn unig.

4 Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llanarth i ddweud bod y Cyngor Cymuned yn cydnabod yr angen i newid ar lefel sirol a’u bod yn cytuno i dderbyn yr holl gynigion perthnasol a gyflwynwyd, mewn egwyddor.

- 1 - Atodiad 5

Nododd y Cyngor nad oedd y ddogfen yn ei gwneud yn hollol glir sut y byddai’r trefniadau newydd ar gyfer adran etholiadol arfaethedig Llanfihangel Ystrad, Mydroilyn a Nantcwnlle; ac adran etholiadol Llandysiliogogo a Llanarth yn effeithio ar gynrychiolaeth ar lefel gymunedol. Oherwydd hynny, penderfynwyd y byddai angen mwy o wybodaeth ynghylch unrhyw gynigion newydd ar lefel gymunedol, ac y byddai’r Cyngor yn mynegi gwrthwynebiad amodol nes y darperir y wybodaeth honno.

5 Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llandysiliogogo i ddweud yn unfrydol yn erbyn rhannu’r adran etholiadol bresennol, gan eu bod o’r farn bod Cymunedau Llanllwchaiarn a Llandysiliogogo yn cymysgu’n naturiol. Nodwyd hefyd bod adran etholiadol Y Ceinewydd yn dref ac yn hollol wahanol o ran ei natur i adran etholiadol Llandysiliogogo, sy’n adran wledig. Awgrymwyd hefyd y dylid newid y ffin gymunedol i gynnwys Synod Inn.

6 Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llandysul i fynegi yr hoffai aros fel y mae, gan gynnwys wardiau Tref Llandysul, Capel Dewi, Pontsiân a Thregroes. Nodwyd hefyd bod wardiau Pontsiân a Thregroes yn agos at ward Llandysul a Llandysul yw’r dref leol sy’n eu gwasanaethu.

7 Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llangeitho fod cynghorwyr Llangeitho yn berffaith fodlon â’r trefniadau presennol. Nodwyd bod y cynghorydd sir lleol yn byw yn yr ardal ac yn deall sut mae ardal wledig yn gweithredu o ddydd i ddydd. Teimlwyd y byddai gwahaniaeth barn rhwng Cyngor Tref Tregaron a Chyngor Cymuned Llangeitho am nifer o bwyntiau, gan y byddai barn bobl y drefn yn wahanol i’r rheiny sy’n byw yng nghefn gwlad. Yn niffyg unrhyw opsiwn arall, mynegodd Cyngor Cymuned Llangeitho y byddai’n fodlon cael y rhan arall o bentref yn ôl, fel dan y trefniadau blaenorol, gan ei wneud yn un uned dan Gyngor Cymuned Llangeitho.

8 Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llanllwchaiarn: 1. Bod y Cynnig Drafft cyfan wedi’i seilio ar fathemateg i fodloni’r cysyniad o gyfartaledd sirol o 1,417 o etholwyr. Credwyd bod anwybyddu patrymau cymdeithasol ar sail egwyddor fathemategol ddiystyr yn hollol annoeth ac yn mynd yn erbyn democratiaeth leol. Nid yw craidd democratiaeth leol yn ymwneud â chynrychiolaeth ystadegol gymharol bob tro. Pwrpas democratiaeth leol yw sicrhau bod cynrychiolaeth yn adlewyrchu patrymau cymdeithasol a hunaniaeth pobl a’u cymdogaethau; heb hynny, byddai unrhyw gynrychiolaeth ddemocrataidd yn ddiystyr ac yn ddigyswllt. 2. Nodwyd bod cymunedau Llanllwchaiarn a Llandysiliogogo yn endidau cymdeithasol cryf sydd wedi bodoli trwy’r oesoedd. Yn ddaearyddol, saif cymunedau Llanllwchaiarn a Llandysiliogogo bob ochr i’r afon Soden ac mae undod cymdeithasol, ieithyddol a diwylliannol rhwng y ddwy gymuned, yn ogystal ag undod daearyddol. Hefyd, mae’r patrwm teithio, sy’n dilyn y ddaearyddiaeth, yn uno’r cymunedau hyn, gyda’r A486, B4338 a’r C1048 yn cysylltu’r adran etholiadol â’i gilydd. Roedd Cyngor Cymuned Llanllwchaiarn hefyd o’r farn bod gwahaniaeth sylfaenol rhwng natur ddinesig, forwrol a thwristaidd Y Ceinewydd ac ardaloedd amaethyddol a gwledig Llanllwchaiarn a Llandysiliogogo. 3. Nodwyd hefyd nad yw pentref Llanllwchaiarn yn un o faestrefi’r Ceinewydd, ond yn gymuned yn ei rhinwedd ei hun.

- 2 - Atodiad 5 4. Caewyd tair ysgol yn adran etholiadol Llandysiliogogo yn ddiweddar a’u cyfuno i greu ysgol newydd sy’n gwasanaethu’r rhan fwyaf o Landysiliogogo a Llanllwchaiarn, ac mae’n symbol o falchder i’r rhieni a’r trigolion hynny a frwydrodd dros fodolaeth yr ysgol honno. Mae’r cynigion hyn yn mynd yn erbyn datblygiad allweddol ac ysbryd yr ardal.

Mynegwyd bod ffiniau presennol Cymuned Llanllwchaiarn yn cynnwys hen blwyf Llanina, a oedd wedi’i gysylltu’n hanesyddol â Llanarth ac a ychwanegwyd at Gymuned Llanllwchaiarn yn dilyn ad-drefniad blaenorol. Awgrymodd Cyngor Cymuned Llanllwchaiarn newid a fyddai’n mynd i’r afael â’r ystyriaethau a fynegir uchod, yn eu tyb nhw.

Cadw adran etholiadol bresennol Llandysiliogogo a hepgor plwyf Llanina, a fyddai’n creu adran etholiadol newydd yn cynnwys Y Ceinewydd, plwyf Llanina a rhan ogleddol Llanarth. Roedd Cyngor Cymuned Llanllwchaiarn o’r farn y byddai’r trefniant awgrymedig yn cydnabod cyfanrwydd cymdeithasol adran etholiadol bresennol Llandysiliogogo ac yn gwneud synnwyr o ran daearyddiaeth a phatrymau cymdeithasol lleol.

9 Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llanwenog fod y cynghorwyr cymuned o’r farn unfrydol y byddai’n annoeth cyfuno adrannau etholiadol Llanwenog a Llanbedr Pont Steffan. Nodwyd bod nodweddion ac anghenion y ddwy ardal yn hollol wahanol ac nad oedd y cynghorwyr o’r farn y byddai’n ddoeth cyfuno ardal wledig ag ardal drefol, gan fod angen sgiliau hollol wahanol i ddeall ardaloedd sydd â gofynion mor wahanol.

10 Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Nantcwnlle fod ganddynt ddau gynghorydd sir yn mynychu eu cyfarfodydd ar hyn o bryd. Pe byddai’r newidiadau arfaethedig yn dod i rym, byddai’n rhaid i dri chynghorydd sir fynychu cyfarfodydd cynghorau cymuned eraill, yn ogystal â’r rheiny a fynychir ganddynt ar hyn o bryd.

11 Ysgrifennodd Cyngor Tref Tregaron fod y Cyngor Tref yn derbyn y cynigion drafft.

12 Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Troedyraur fod y Cyngor o blaid yr egwyddor o wella democratiaeth leol ac yn cytuno bod angen i lywodraeth leol weithredu mewn modd effeithlon ac ymarferol. Serch hynny, hoffai’r cyngor fynegi eu bod yn erbyn cyfuno wardiau a Phontsiân yng Nghymuned Llandysul â Chymuned Troedyraur.

13 Ysgrifennodd un o drigolion Aberteifi ei fod wedi byw yno ers 30 o flynyddoedd a’i fod yn teimlo’n gryf y byddai lleihau nifer y cynghorwyr sir sy’n cynrychioli Tref Aberteifi yn arwain at lai o wasanaeth a chynrychiolaeth, nid yn unig i Aberteifi, ond i dde’r sir hefyd. Nodwyd bod mwyafrif y cynghorwyr ar Gyngor Sir Ceredigion yn cynrychioli adrannau etholiadol yng ngogledd y sir, a bod angen llwytho Aberteifi’n artiffisial er mwyn unioni’r fantol, gan mai Aberteifi yw’r dref fwyaf ond un yn y sir.

- 3 -

Blank Page / Tudalen Wag