Llandysul Newcastle Emlyn 01559 363401 01239 710481

TIR/LAND - , Llanfyrnach

69 ERW/ ACRES

Tir Oedd Yn Flaenorol/land Reference £300,000 Formerly Part Of Glogue Farm, N20149 UNDER OFFER Glogue, Llanfyrnach, , SA36 0ED

Bloc mawr 69 erw o dir /A 69 acre block of improvable land. Tir Oedd Yn Flaenorol/land Formerly Part Of Glogue Farm

69 Acre block of land Private water supply Divided into 2 sections Bloc mawr 69 erw o dir Dwr preifat Mae'r tir wedi ei rhannu yn dau

Details

LLEOLIAD: Cyfeirnod Grid: SN215-330

Ceir mynediad i’r tir oddi ar ffordd wledig, yn esgyn o bentref Y Glôg ( 0.25 milltir ) tuag at bentref ( 1 milltir ) lle ceir ysgol gynradd, canolfan gymunedol a thafarn. Mae pentref marchnad ryw 2 ¾ milltir i ffwrdd, ac mae yno ysgol uwchradd, canolfan hamdden, amryfal siopau, meddygfa, tafarn, a marchnad ddefaid reolaidd. Mae trefi marchnad Castell Newydd Emlyn ac Aberteifi fel ei gilydd ryw 11 milltir i ffwrdd, a cheir ynddynt amrediad o gyfleustodau.

DALIADAETH: Rydym wedi cael ar ddeall fod yr eiddo yn Rhydd-ddaliad.

GWASANAETHAU: Cyflenwad d?r preifat ar y tir a thrydylldwll (borehole) yn ddiweddarach. Darpar brynwyr i wneud eu ymholiadau eu hunain er mwyn darganfod pa gysylltiadau prif gyflenwadau d?r a thrydan sydd ar gael yn y cyffiniau, os ydynt yn dymuno.

TREFN GWELD Y TIR: Ar unrhyw adeg gyfleus, gyda chopi o’r manylion yma. PEIDIWCH os gwelwch yn dda â mynd â cherbydau ar y tir.

CYFARWYDDIADAU: O ffordd yr A478 yng Nghrymych, trowch am Hermon / Llanfyrnach ger Ysgol y Preseli. Ewch ymlaen i Hermon, ac ar y gyffordd, trowch i’r chwith. Fel y byddwch yn gadael y pentref ger y Capel, cadwch i’r chwith am y Glôg, ac yn fuan wedyn, trowch lawr i’r chwith unwaith eto. Ewch lawr i’r pentref, dros y bont, a dechrau dringo i fyny’r rhiw. Mae’r ddwy fynedfa i’r tir ar y chwith – un cyn mynedfa Cware’r Glôg, a’r llall ymhellach i fyny wrth y fynedfa i feidr garreg, sydd hefyd yn darparu mynediad i dir cyffiniol. Fe fydd ein harwyddion “Ar Werth” wedi eu gosod gerllaw’r ddwy fynedfa.

DISGRIFIAD: Mae’r tir wedi ei osod allan mewn patrwm siap “ L ”, ac yn cynnwys nifer o gaeau sylweddol eu maint, ar oleddf ysgafn, ac mae’r pedwar cae gwaelod wedi eu rhannu oddi wrth y pedwar arall gan glawdd terfyn wedi ei ffensio ar gyfer cadw defaid.

Mae pedwar cae’r bloc gwaelod ar oleddf ysgafn, a rhan ogleddol y caeau yn fwy serth. Mae’r caeau yn cael eu trafod fel un bloc, a ffens sylfaenol ar gyfer gwartheg yn unig yw rhan helaethaf y ffin. Ceir ardal fechan goediog ar hyd y ffin ogleddol.

Mae’r bloc uchaf wedi ei ffensio ar gyfer defaid yn bennaf, a’r rhannau coediog wedi eu ffensio ar hyd yr ochrau gorllewinol. Mae’r parsel mwy gwastad hwn wedi ei rannu yn bedwar cae, ac eto yn cael eu trafod fel un bloc, ac yn goleddfu’n raddol i lawr tua’r ffin orllewinol. Mae’r ddau gyflenwad d?r preifat wedi eu lleoli yn y bloc yma, ac yn rhedeg drwy ddisgyrchiant mewn pibell i’r bloc gwaelod.

IACS: Cofrestrwyd y tir yn flaenorol i’r diben hwn. Darpar brynwyr i fodloni eu hunain o ran cofrestru’r tir yn y dyfodol. Nid oes Unedau Cynllun Taliad Sylfaenol ar gael gyda’r eiddo.

HAWLIAU TRAMWYO

Mae’r eiddo yn cael ei werthu ynghyd â budd pob hawl, gan gynnwys hawliau tramwyo, naill ai’n gyhoeddus neu’n breifat, cynhorthwy golau, draenio a d?r a chyflenwadau trydan, ac unrhyw hawliau eraill, hawddfreinitau, lled-hawddfreintiau a chyfamodau caethiwus, pob hawliau gosod presennol a dyfodol o ran mastiau, polion, ceblau, draenio a d?r, nwy a phibellau eraill, pa un ai a gyfeirir atynt yn y manylion hyn ai peidio.

1. O edrych ar y cynllun arolwg ordnans lleol, nodwn fod yna lwybr cyhoeddus yn croesi rhan ogleddol y bloc gwaelod, o’r dwyrain i’r gorllewin, ond ni wyddom a yw’r llwybr hwn yn cael ei ddefnyddio ai peidio. 2. Mae yna hawl gofnodedig i berchnogion y bloc tir cyffiniol dynnu d?r o’r siambr dd?r breifat ym mharsel rhif 7242, i’w parsel nhw, rhif 7615. Rydym hefyd yn deall fod pibell gyflenwad o’r siambr yn disgyn drwy glos Fferm y Glôg i danc yn y bloc gwaelod.

3. Mae hawl tramwyo ar hyd y feidr garreg sy’n ffinio â pharsel 7242 gan berchnogion y tir er mwyn cynnal a chadw clawdd y cae sy’n ffinio â’r feidr, ac i gael mynediad o’r cae drwy’r iet, ar hyd y feidr ac allan i’r ffordd wledig.

RHESTR ERWAU

Rhif OS Erwau Sylwadau

6274 8.88

5082 9.65

5000 0.33 Coed/Prysgwydd

5197 0.10 Coed/Prysgwydd

4800 0.10 Coed/Prysgwydd

4604 rhan 0.10 est. Coed/Prysgwydd

4200 8.42

2700 10.45

4110 4.14

3515 1.01 Coed/Prysgwydd

5315 5.40

6026 7.31

5334 0.42 Coed/Prysgwydd

6048 3.06 Coed/Prysgwydd

7242 9.71

69.08

Crynodeb

63.96 Porfa

5.12 Coed/Prysgwydd

69.08

Viewing: At any convenient time with a set of these particulars. Please DO NOT take vehicles onto the land.

Description: The land is laid out in a ‘L’ shaped pattern and consists of sizable, mainly gently sloping enclosures, with the bottom 4 fields divided away from the top block by a sheep proof, fenced hedgerow.

The bottom block is gently sloping as a whole, with the northern aspects of the four fields being more sloping. The fields are run as one block and the vast majority of the boundary is only a basic fence for cattle. A small wooded area lies on the northern boundary.

The top block is mainly fenced for sheep, with the wooded areas fenced away on the western aspects. This more level parcel is divided into 4 fields and again is run as one block, and gently slopes down towards the Western boundary. The two private water supply sources are located on this block and are gravity fed down to the bottom block.

IACS: The land has previously been registered for this purpose. Prospective purchasers to satisfy themselves for future registration purposes. No BPS units available.

Rights of Way:

The property is sold with the benefit of all rights including rights of way, whether public or private, light support, drainage and water and electricity supplies and other rights, easements, quasieasements and restrictive covenants, all existing and proposed way leaves for masts, pylons, stays, cables, drain and water, gas and other pipes, whether referred to in these particulars or not.

1. From the local ordnance survey plan, we note that a public footpath crosses the northern aspect of the bottom block from east to west, but we cannot comment on whether it is used. 2. There is a documented right for the owners of a bounding block of land to draw water from the private supply chamber in parcel no 7242 and into parcel no 7615. We also understand that the supply pipe from the chamber runs down through the Glogue Farm Homestead to the bottom block. 3. A right of way along the track bounding with parcel no 7242 to maintain the length of hedgerow bounding with the track and to access the gateway from the field along the track out to the district road.

Schedule of Acreage

OS No. Acreage Remarks

6274 8.88

5082 9.65

5000 0.33 Wood/scrub

5197 0.10 Wood/scrub

4800 0.10 Wood/scrub

4604 part 0.10 est. Wood/scrub

4200 8.42

2700 10.45

4110 4.14

3515 1.01 Wood/scrub

5315 5.40

6026 7.31

5334 0.42 Wood/scrub

6048 3.06 Wood/scrub

7242 9.71

69.08

Summary Grazable

63.96 Wood/scrub

5.12

69.08

Services

Private water supply via original well and later borehole. Prospective purchasers to make their own enquiries about availability of mains water and electric connections in the vicinity.

Situation

From the A478 in Crymych, take the turning for Hermon/Llanfyrnach by Ysgol y Preseli. Carry on into Hermon to the ‘give way’ and turn left. As you leave Hermon bear left for Glogue by the Chapel and then turn left for Glogue a short distance onwards. Go down into the village, cross the bridge and start climbing up the hill. The two gateways where the land is accessed are located on the left hand side, one just before the entrance to the quarry and the other further up the hill on the entrance of a hardcore track, also giving access to neighbouring land. Our “For Sale” boards will be erected on site.

Contact Us

NEWCASTLE EMLYN BRANCH College Street, Newcastle Emlyn, Carmarthenshire, SA38 9AJ01239 710481

www.dai-lewis.co.uk