COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

AROLWG O’R FFIN RHWNG CYMUNEDAU ABERHONDDU A YN SIR

ADRODDIAD A CHYNIGION

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

AROLWG O’R FFIN RHWNG CYMUNEDAU ABERHONDDU A LLANFRYNACH YN SIR POWYS

ADRODDIAD A CHYNIGION

1. CYFLWYNIAD

2. CYNIGION CYNGOR SIR POWYS

3. YSTYRIAETH Y COMISIWN

4. GWEITHDREFN

5. DIFFINIO’R FFIN

6. CYNIGION

7. TREFNIADAU DILYNOL

8. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru Tŷ Caradog 1-6 Plas Sant Andreas CAERDYDD CF10 3BE Rhif Ffôn: (029) 20395031 Rhif Ffacs: (029) 20395250 E-bost: cflll.cymru@.gsi.gov.uk www.cflll-cymru.gov.uk Sue Essex AC Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru

AROLWG O’R FFIN RHWNG CYMUNEDAU ABERHONDDU A LLANFRYNACH YN SIR POWYS

ADRODDIAD A CHYNIGION

1. CYFLWYNIAD

1.1 Cynhaliodd Cyngor Sir Powys arolwg o’r ffin rhwng Cymunedau Aberhonddu a Llanfrynach o dan Adran 55(2) Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (y Ddeddf).

1.2 Ystyriom adroddiad Cyngor Sir Powys yn unol ag Adran 55(3) o’r Ddeddf a chyflwynwn yr adroddiad canlynol ar argymhellion y Cyngor Sir.

2. CYNIGION CYNGOR SIR POWYS

2.1 Hysbyswyd Cyngor Sir Powys o anomaledd yn y ffin rhwng Cymunedau Aberhonddu a Llanfrynach lle mae’r eiddo White House ym mhentref wedi’i leoli o fewn ffin Cymuned Aberhonddu tra bod gweddill pentref Groesffordd o fewn ward yng Nghymuned Llanfrynach. Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig y dylid addasu’r ffin rhwng Cymunedau Aberhonddu (Ward y Santes Fair) a Llanfrynach (Ward Llanhamlach) yn unol â hynny.

2.2 Cyflwynwyd cynigion Cyngor Sir Powys i’r Comisiwn ar 7 Chwefror 2003. Nid yw’r Comisiwn wedi derbyn unrhyw sylwadau am y cynigion.

3. YSTYRIAETH Y COMISIWN

3.1 Yn gyntaf ystyriwyd a oedd y Cyngor Sir wedi cynnal eu harolwg yn unol â’r weithdrefn a nodir yn y Ddeddf. Wedyn ystyriwyd a oedd y cynigion a argymhellwyd yn addas o ran sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

4. GWEITHDREFN

4.1 Rydym yn fodlon i Gyngor Sir Powys gynnal yr arolwg yn unol â’r weithdrefn a nodir yn Adran 60 y Ddeddf.

4.2 I ddechrau ymgynghorodd Cyngor Sir Powys â Chyngor Tref Aberhonddu, Cyngor Cymuned Llanfrynach, aelodau lleol Cyngor Sir Powys a thrigolion White House. Roedd pawb yr ymgynghorwyd â hwy o’r farn y byddai’n briodol addasu’r ffin rhwng y ddwy gymuned.

4.3 Yng Nghyfarfod Bwrdd Cyngor Sir Powys ar 25 Mehefin 2002 nodwyd bod:

“Cyngor Sir Powys wedi cynnal arolwg bach o’r ffin yng Ngroesffordd lle ymddangosodd anomaledd mewn perthynas â’r union ffin rhwng Cymunedau Tref Aberhonddu a Llanfrynach. Mae’r Cyngor wedi cwblhau cam cyntaf yr arolwg hwn drwy gyflwyno ei Gynigion Drafft ar gyfer diwygio’r ffin dan sylw. Cyhoeddwyd

1

hysbysiad o’r Cynigion Drafft hyn, ac er y derbyniwyd sylwadau gan bartïon â diddordeb yn gynharach, ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau pellach ar y cam hwn.”

4.4 Gan na dderbyniodd Cyngor Sir Powys unrhyw sylwadau pellach yn ystod yr ymgynghoriadau ar ei Gynigion Drafft, lluniwyd Cynigion Terfynol, heb ddiwygiadau, ac fe’u cyflwynwyd i’r Comisiwn ar 7 Chwefror 2003.

5. DIFFINIO’R FFIN

5.1 Nodwyd er i gynigion Cyngor Sir Powys nodi yr eiddo I’w dyosglwyddo, na ddiffiniwyd llinell y ffin newydd. Cadarnhaodd y Cyngor ei fod yn fodlon i’r Comisiwn ddiffinio’r ffiniau.

5.2 Cytunwyd er mwyn nodi addasiadau i’r ffiniau y byddai angen ymweld â’r ardal. Yn unol â hynny, ymwelodd swyddogion y Comisiwn â’r ardal ym mis Mai 2003. O ganlyniad i’r ymweliad hwn gwnaed cynigion ar gyfer newidiadau i’r ffiniau rhwng y cymunedau (Atodiad 1). Anfonwyd y cynigion hyn at Gyngor Sir Powys, Cyngor Tref Aberhonddu, Cyngor Cymuned Llanfrynach a’r trigolion dan sylw i gael eu sylwadau.

5.3 Mewn ymateb i’r cynigion, hysbyswyd y Comisiwn gan bawb yr ymgynghorwyd â hwy eu bod yn fodlon â’r ffin arfaethedig.

6. CYNIGION

6.1 Nodwyd y gefnogaeth o blaid y newid arfaethedig i’r ffin rhwng y ddwy ardal gymunedol.

6.2 Ymwelodd aelodau o Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn â’r ardal ac ystyriwyd bod y ffin arfaethedig wedi’i diffinio’n glir a’i bod yn nodi’r ffin rhwng cymunedau Aberhonddu a Llanfrynach yn effeithiol.

6.3 Ystyriwyd cynigion Cyngor Sir Powys a phenderfynwyd eu bod yn addas o ran sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus yn yr ardal. Diwygiwyd y cynigion i ddiffinio’r ffin a addaswyd. Yn unol â hyn, cyflwynwn y cynigion diwygiedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ceir map sy’n dangos yr ardal y cynhaliwyd arolwg ohoni yn Atodiad 1.

7. TREFNIADAU DILYNOL

7.1 O dan Adran 54 (1) (e) y Ddeddf, gall y Comisiwn wneud cynigion ar gyfer newid trefniadau etholiadol unrhyw ardal llywodraeth leol sy’n deillio o unrhyw newid arfaethedig o ardaloedd llywodraeth leol.

7.2 Mae Ward y Santes Fair yng Nghymuned Aberhonddu yn ffurfio rhanbarth etholiadol y Santes Fair ac mae Cymuned Llanfrynach gyda Chymunedau a Thalybont-ar- Wysg yn ffurfio rhanbarth etholiadol Talybont-ar-Wysg. Ni chaiff y cynnig i drosglwyddo un eiddo a dau o etholwyr o Gymuned Aberhonddu i Gymuned Llanfrynach effaith sylweddol ar gymhareb cynghorydd:etholwyr y naill ranbarth etholiadol na’r llall ac felly ni fydd angen newid dilynol i’r trefniadau etholiadol ar gyfer Cyngor Sir Powys ac eithrio newid i’r ffin rhwng rhanbarthau etholiadol y Santes Fair a Thalybont-ar-Wysg.

7.3 Wrth ystyried yr effeithiau dilynol ar y trefniadau etholiadol ar gyfer Cymunedau Aberhonddu a Llanfrynach nodwyd eto y nifer fach o etholwyr dan sylw ac felly cynigiwn na ddylid newid y trefniadau etholiadol ar gyfer y Cynghorau Cymuned ac eithrio’r newid

2

i’r ffiniau ar gyfer Ward y Santes Fair yng Nghymuned Aberhonddu a Ward Llanhamlach yng Nghymuned Llanfrynach.

8. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

8.1 Ar ôl cwblhau ein hystyriaeth o’r arolwg o’r ffin rhwng Cymunedau Aberhonddu a Llanfrynach a chyflwyno ein hargymhellion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym wedi cyflawni ein rhwymedigaeth statudol o dan y Ddeddf.

8.2 Cyfrifoldeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach, os cred fod hynny’n briodol, yw eu derbyn neu roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn gynnal arolwg pellach.

8.3 Dylid cyfeirio unrhyw sylwadau pellach yn ymwneud â’r materion yn yr adroddiad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid eu cyflwyno cyn gynted â phosibl, ac yn sicr heb fod yn hwyrach na chwe wythnos o’r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid cyfeirio sylwadau i:

Is-Adran Moderneiddio Llywodraeth Leol 2 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ

MRS S G SMITH LLB (Cadeirydd)

J E DAVIES ICSA IPFA (Dirprwy Gadeirydd)

D H ROBERTS BSc DMS MBCS MCMI (Aelod)

E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)

Rhagfyr 2003

3